9. Dadl Fer: Grym tai cydweithredol fel modd o helpu i ddiwallu anghenion tai mewn cymunedau ledled Cymru

– Senedd Cymru am 6:51 pm ar 23 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:51, 23 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Trown yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Dawn Bowden i siarad ar y pwnc y mae wedi'i ddewis—Dawn.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ymddangos mai heddiw yw'r diwrnod ar gyfer dadleuon ar dai. Mae'n ddrwg gennyf nad oeddwn o gwmpas i gymryd rhan yn llawer o ddadl y Ceidwadwyr yn gynharach, oherwydd rwy'n cefnogi llawer o'r hyn a gyflwynwyd yn y ddadl honno, a chredaf ein bod yn y broses o ddod i ryw fath o gonsensws ynghylch rhai o'r materion y mae angen inni roi sylw iddynt ym maes tai. Felly, fy mhwnc ar gyfer y ddadl fer hon yw pŵer atebion tai cydweithredol i helpu i ddiwallu anghenion tai mewn cymunedau ledled Cymru, a hoffwn roi munud o fy amser i Mike Hedges.  

Felly, fe ddechreuaf fy nadl gyda dadansoddiad cyd-destunol byr o'r angen am dai, a byddaf yn edrych wedyn ar enghreifftiau o atebion tai cydweithredol yn fy etholaeth i a thu hwnt, ac yn olaf byddaf yn egluro pam y credaf fod cydweithredu'n offeryn pwerus i helpu i ddatrys problemau tai yn ogystal â helpu i adeiladu cymunedau mwy cydlynus.

Rwyf bob amser yn credu bod tai'n dal i fod yn ddewis gwleidyddol iawn, yn ddewis ynghylch blaenoriaethau ac yn adlewyrchiad o werthoedd gwleidyddol, ond rwy'n cydnabod hefyd y tir cyffredin a welwn yn y lle hwn, fel y nodwyd yn y ddadl gynharach, rwy'n credu—tir cyffredin y credaf ei fod yn seiliedig ar raddfa ac ystod y problemau tai a welwn yn ein gwaith achos ac mewn tystiolaeth arbenigol a gawn ym mhwyllgorau'r Cynulliad. Yn wir, yr wythnos diwethaf, clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau dystiolaeth gymhellol ynghylch problemau cysgu ar y stryd a'r heriau sy'n wynebu'r bobl sy'n cael profiad o hynny a sefydliadau sy'n ceisio helpu i fynd i'r afael â'r broblem.

Felly, yn gyntaf, ychydig o gyd-destun ar anghenion tai. Gwn o fy mhrofiad fy hun ym Merthyr Tudful a Rhymni, lle gwelaf angen sylweddol am gartrefi i bobl ifanc a phobl sengl, fod angen mwy o dai o faint a all helpu pobl i osgoi dyled bersonol yn sgil gorfod talu treth ystafell wely, a'r angen am gartrefi rhent preifat i fod ar gael ar lefelau rhent y gall pobl eu fforddio, yn ogystal â'r angen i adeiladu mwy o dai preifat newydd ar gyfer y bobl a all ddefnyddio'r farchnad i brynu cartref, naill ai gyda chymorth Llywodraeth Cymru neu hebddo, fel Cymorth i Brynu. A hynny i gyd cyn inni hyd yn oed gyrraedd problem digartrefedd a sut i gael to dros ben pobl yn y lle cyntaf—sef y mwyaf sylfaenol o anghenion dynol.

Felly, gellir dangos tystiolaeth o'r achos dros atebion radical i dai gydag ychydig ffeithiau—a chyfeiriodd y Gweinidog at hyn yn ei hymateb i'r ddadl gynharach—lwfans tai lleol o lai na £280 y mis ar gyfer unedau un gwely, tra bo rhenti'r sector preifat yn amrywio rhwng tua £370 a £500 y mis ar gyfer uned o'r maint hwnnw; lefelau cyflog isel a chontractau dim oriau yn arwain at broblem tlodi mewn gwaith, sy'n arwydd o'r her sylweddol o ran fforddiadwyedd mewn llawer o'n cymunedau; ac adeiladu tai newydd nad yw'n cymryd lle ein stoc dai hŷn ar gyfradd ddigon cyflym. Felly, mae cynlluniau fel Cymorth i Brynu, mewn gwirionedd, er eu bod i'w croesawu, yn llai buddiol yn fy etholaeth i nag mewn rhai ardaloedd eraill.

Gadewch i mi fod yn glir: rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i lawer o'r heriau hyn ym maes tai. Rhoddwyd camau ar waith, hyd yn oed yn wyneb degawd o gyni, er enghraifft rhoi diwedd ar yr hawl i brynu er mwyn diogelu ein tai cyhoeddus gwerthfawr ar gyfer pobl sydd eu hangen; ariannu mwy o gartrefi fforddiadwy; dychwelyd at raglen adeiladu tai cyngor; mwy o ddiogelwch i denantiaid a rheoleiddio landlordiaid yn gadarnach; cynyddu gweithredu yn erbyn digartrefedd; a chroesawu dull system gyfan o ymdrin â'r problemau hyn. Mae mwy i'w wneud wrth gwrs, ac mae'r cyfan yn dynodi cyflawniad cadarn gan ein Llywodraeth yma yng Nghymru.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 6:55, 23 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Ond yn y ddadl hon, ac o blith y llu o atebion, rwyf am dynnu sylw at y cyfleoedd ar gyfer atebion cydweithredol er mwyn helpu i ddiwallu'r anghenion tai yn ein cymunedau. A byddaf yn canolbwyntio ar hynny yn awr yn ail ran fy nadl. Oherwydd rwy'n ffodus o gael sefydliad o'r enw Cartrefi Cymoedd Merthyr yn fy etholaeth. A deilliodd y Gymdeithas hon o'r ddadl ynghylch trosglwyddo stoc mewn tymhorau Cynulliad cynharach, ac mae wedi dod yn gwmni cydfuddiannol mwyaf y wlad i denantiaid a chyflogeion.

Sefydlwyd Cartrefi Cymoedd Merthyr ym 2009 wedi i denantiaid bleidleisio o blaid trosglwyddo eu cartrefi i sefydliad newydd dielw. Maent yn berchen ar, ac yn rheoli dros 4,200 o gartrefi ar draws bwrdeistref sirol Merthyr Tudful. Yn y pum mlynedd cyntaf, ymrwymodd Cartrefi Cymoedd Merthyr i gyflawni'r addewidion a wnaed i denantiaid ar adeg y trosglwyddiad, a chyflawni ein targedau safon ansawdd tai Cymru hefyd. Ond erbyn 2014, roeddent wedi dechrau edrych ar ddyfodol y sefydliad a sut roeddent am i'r sefydliad ddatblygu yn y blynyddoedd i ddod. Roedd y bwrdd am gymryd cam arall, a dewisodd ddatblygu model llywodraethu a fyddai'n grymuso tenantiaid a chyflogeion drwy ganiatáu iddynt ddod yn aelodau. Yn ei dro, byddai hyn yn rhoi gwir lais iddynt, a gallent chwarae rhan bwysig yn y broses o wneud penderfyniadau a gosod eu cyfeiriad eu hunain ar gyfer Cartrefi Cymoedd Merthyr. O ganlyniad, ar 1 Mai 2016, trawsnewidiwyd Cartrefi Cymoedd Merthyr yn gymdeithas dai gydfuddiannol, a dyma'r gyntaf yng Nghymru i roi cyfle i denantiaid a chyflogeion fod yn aelodau a bod yn berchen ar gyfran yn y sefydliad. Felly, mae Cartrefi Cymoedd Merthyr bellach yn gymdeithas gofrestredig, o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014. Eu diben yw parhau busnes er budd y gymuned, a gwnânt hynny drwy eu gweledigaeth, sef 'Yfory', ac rwy'n credu y byddwn yn gweld fersiwn wedi'i diweddaru yn fuan, sef 'Yfory 2'. [Chwerthin.]

Mae eu gwerthoedd craidd fel sefydliad cydfuddiannol bob amser wedi creu argraff arnaf yn ogystal â'u strwythur fel corff democrataidd, bwrdd ac aelodau. Maent yn chwilio'n barhaus am gyfleoedd i adeiladu economi leol gylchol—er enghraifft, buddsoddi mewn busnesau a chrefftau lleol, gan ddarparu sgiliau a chyfleoedd ar gyfer prentisiaethau. Mae hyn yn rhoi gwerthoedd ar waith. Felly, yn y gwaith hwn i gyd, a gaf fi gydnabod cyn brif weithredwr Cartrefi Cymoedd Merthyr, Mike Owen—mae'n sicr ei fod bellach yn mwynhau ei hun yn gwylio cwpan rygbi'r byd, neu'n eistedd mewn tafarn yng Nghernyw—ei olynydd, Michelle Reid a'i thîm, ac yn enwedig Katie Howells, sydd wedi bod yn allweddol yn cefnogi'r cynnydd a wnaed gan fy enghraifft nesaf, sef Tai Cydweithredol Taf Fechan yn yr etholaeth?

O ystyried yr hanes a ddisgrifiais, efallai nad yw'n syndod fod Cartrefi Cymoedd Merthyr hefyd wedi helpu i feithrin a helpu i ddatblygu Tai Cydweithredol Taf Fechan. I'r rhai nad ydynt yn adnabod yr ardal, roedd fflatiau Taf Fechan wedi mynd yn unedau annymunol, anodd eu gosod, ymhell o fod ar eu gorau ac wedi'u fandaleiddio, ac yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol. Diolch byth, drwy weledigaeth Cartrefi Cymoedd Merthyr, a chymorth cyllid rhad gan yr awdurdod lleol, nodwyd yr opsiwn o gael cwmni cydweithredol yn rhan o ddyfodol mwy disglair ar gyfer y 12 fflat sydd bellach yn y cwmni cydweithredol ar ystâd Gellideg.

Felly, wrth i ystâd Gellideg gael ei hailddatblygu, cafodd y fflatiau hyn eu cadw, eu hailwampio, ac mae'r trigolion wedi ffurfio cwmni cydweithredol i redeg y bloc o fflatiau. Rhaid i'r bobl sydd bellach yn breswylwyr yn y fflatiau fod yn aelodau o'r cwmni cydweithredol, ac felly maent yn rhannu cyfrifoldeb am redeg eu cartrefi. Caiff y fflatiau eu gosod ar brydles i Taf Fechan gan Cartrefi Cymoedd Merthyr, ac mae aelodau'r cwmni cydweithredol yn rhedeg eu cartrefi. Yn allweddol, golyga hyn fod y preswylwyr yn cymryd perchnogaeth ar eu dyfodol, gan wneud penderfyniadau cymunedol am lefelau rhent, cynnal a chadw eu heiddo, a rheoli pwy sy'n symud i mewn i'r fflatiau. Ymwelais â'r fflatiau yn ddiweddar, a gwelais drosof fy hun y balchder sydd ganddynt yn eu heiddo a'r ffordd y maent yn gweithredu ar y cyd i'w cynnal. Yn wir, roeddent yn cwblhau gwelliannau i'w gardd gymunedol, ac roeddent wedi cytuno, o fewn y cwmni cydweithredol, ar y cydbwysedd rhwng y gofod hamdden a'r aelodau oedd am gael cyfle i dyfu eu llysiau a'u planhigion eu hunain. Ond mae'r dull cydweithredol hwn hefyd wedi golygu eu bod yn datblygu mwy o glymau cymdeithasol. Felly, mae cartrefi gwell, cymuned fwy cydlynus, a chlymau cymdeithasol cryfach yn sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill mewn unrhyw broses adfywio—pobl yn cael mwy o reolaeth dros eu bywydau a'u cymunedau, ac yn yr achos hwn, yn cael budd o'r profiad o Cartrefi Cymoedd Merthyr ei hun.

Mae'r enghreifftiau lleol hyn, wrth gwrs, yn digwydd mewn cyd-destun ehangach o weithredu cydweithredol. Fel Aelod Cynulliad Llafur a Chydweithredol, rwy'n falch bod ein Llywodraeth yn cefnogi atebion cydfuddiannol a chydweithredol i rai o'r problemau sy'n ein hwynebu. Yn wir, roedd gweithredu o'r fath yn rhan o'r addewidion a wnaethom yn etholiadau'r Cynulliad yn 2016, a gobeithio y byddwn yn adeiladu ar hyn yn y dyfodol. Rwy'n gweld cysylltiadau cryf rhwng polisïau cydweithredol a chydfuddiannol, a'n polisïau i yrru'r economi sylfaenol yn ei blaen yng Nghymru. Sylwaf fod y Cydffederasiwn Tai Cydweithredol, er enghraifft, wedi cyhoeddi eu canfyddiadau yn ddiweddar am '1,001 o gartrefi cydweithredol a chartrefi dan arweiniad y gymuned' yn y DU, ac maent yn cyfeirio at y dystiolaeth fod pobl a chymunedau, ledled y wlad, yn creu eu hatebion tai a chymdogaeth eu hunain, yn gwneud cartrefi cynaliadwy a pharhaol, yn adeiladu cymunedau lleol gwydn a hyderus, yn datblygu sgiliau nad oeddent erioed yn gwybod eu bod ganddynt. Wel, dyna fy mhrofiad lleol innau hefyd.  

Felly, rhan olaf fy nadl yw gofyn y cwestiwn: ai dyma'r ateb i bob dim o ran anghenion tai yn ein cymunedau? Wel, yr ateb i'r cwestiwn hwnnw, wrth gwrs, yw 'na'. Ond rwy'n dadlau y gall cefnogi a datblygu ymagwedd gydfuddiannol a chydweithredol fod yn rhan o'r ateb—rhan bwysig oherwydd rhai o'r ffactorau a nodais yn y ddadl. Fodd bynnag, mae iddo le yn y gyfres o gamau gweithredu sy'n helpu i ddiwallu'r angen am dai yn ein cymunedau. Mae'n golygu bod pobl yn cymryd rheolaeth dros reoli eu cartrefi, heb y bwgan na'r baich o fodloni angen cyfranddalwyr am elw. Yn fy mhrofiad i, mae wedi arwain at gryfhau'r gymuned, gyda gwerthoedd cynaliadwy a gofalgar yn symud i'r canol mewn atebion tai. A dyna pam y byddaf yn cymeradwyo modelau o'r fath i Lywodraeth Cymru, i'r Cynulliad hwn, ac rwy'n gobeithio gweld atebion tai cydfuddiannol a chydweithredol yn cael eu cefnogi yn y degawd i ddod.  

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 7:01, 23 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Dawn Bowden am roi munud i mi yn y ddadl hon, ac yn bwysicach, am ddod â'r ddadl hon gerbron y Siambr heddiw. Bydd pobl yn gwybod fy mod wedi bod yn hyrwyddo tai cydweithredol dros gyfnod hir ac yn cefnogi ei dwf yn fawr. Ceir tri math o dai cydweithredol: y cwmnïau adeiladu cydweithredol—Twrci, Ffrainc, Toronto yng Nghanada; perchnogion cydweithredol—yr Eidal, de a dwyrain Ewrop, yr Almaen, Sweden, Norwy, Awstria, UDA, yn enwedig yn Efrog Newydd, ac Israel—ac yn Efrog Newydd mewn gwirionedd, ceir cwmni cydweithredol lle gallwch fyw mewn peth o'r eiddo y mae mwyaf o alw amdano yn Efrog Newydd; a chwmnïau cydweithredol ar gyfer rhentwyr yn Nenmarc, yr Almaen, Gwlad Belg, yr Eidal, y Swistir, Iwerddon, Awstralia, Awstria, UDA a Chanada.

Pa fath o niferoedd rydym yn sôn amdanynt? Twrci: 25 y cant o gyfanswm y stoc dai, bron 1.5 miliwn o unedau; Sweden: 18 y cant o'r stoc, bron i 0.75 miliwn o unedau. Ac yna gallwn edrych ar wledydd eraill. Norwy: 15 y cant, 320,000 o unedau; Yr Almaen: 10 y cant o'r stoc rhentu, dros 2 filiwn o unedau; Awstria: 8 y cant o gyfanswm y stoc, bron i 0.33 miliwn. Rydym yn sôn am niferoedd mawr iawn yma ac mae modd gwneud hyn yng ngweddill y byd. Nid safbwynt asgell chwith neu asgell dde ydyw. Yn Efrog Newydd, pe baech yn dweud wrthynt eu bod yn byw mewn tai asgell chwith yn y cwmnïau cydweithredol drud iawn hynny, byddent yn benwan. Byddent wedi'u cythruddo'n fawr, oni fyddent? Ond mae'n rhaid i chi ddeall ei fod yn ddull o ddarparu nifer fawr o dai, nad ydym yn ei ddefnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd, ac er fy mod, fel y dywedais yn gynharach, yn cefnogi tai cyngor yn fawr iawn, mae angen mwy o dai arnom, ac mae cwmnïau cydweithredol yn fath arall o system dai. Pam na allwn wneud yr un peth yng Nghymru ag y maent yn ei wneud ym mhob rhan o weddill y byd?

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 7:03, 23 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n bleser gwirioneddol cael y cyfle i siarad am y rôl y gall tai cydweithredol a thai dan arweiniad y gymuned ei chael yn diwallu anghenion tai ein cymunedau yma yng Nghymru. Gall pob math o dai dan arweiniad y gymuned, gan gynnwys tai cydweithredol, rymuso dinasyddion Cymru a darparu atebion tai a yrrir yn lleol ar gyfer cymunedau lleol. Cefais y pleser gwirioneddol o ymweld â Cartrefi Cymoedd Merthyr. Mae ganddynt bethau hynod o arloesol yn digwydd, a chefais gyfle i siarad ag unrhyw breswylydd y dymunwn sgwrsio â hwy dros y cacennau a'r te mwyaf blasus, ac roeddent i gyd yn unfryd eu bod wrth eu bodd â'r drefn. Felly, ni allwch gael canmoliaeth sy'n llawer gwell na hynny mewn gwirionedd.

Ein prif flaenoriaeth yw tai cymdeithasol, ac rwyf wedi dweud yn glir iawn yma yn y Siambr am fy ymrwymiad i adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru. Rwy'n gwybod ei fod yn ddyhead a rannwn ar draws y Siambr, ac fe wyddom ei fod yn darparu nid yn unig cartrefi o safon, ond y cymorth sydd ei angen i sicrhau y gall pobl gynnal eu tenantiaethau a ffynnu. Mae'n effeithio'n gadarnhaol ar iechyd, iechyd meddwl ac addysg. Ond gwyddom o'r ystadegau diweddaraf am yr angen am dai nad ydym yn adeiladu digon o gartrefi cymdeithasol. Gall tai dan arweiniad y gymuned fod yn rhan o'r ateb felly. Rydym yn gwybod nad yw'r diddordeb yn y sector yn tyfu gymaint ag y byddem yn hoffi yma yng Nghymru, ac rwy'n wirioneddol agored i glywed syniadau gan yr Aelodau ynglŷn â sut y gallwn gynhyrchu twf yn well yn y sector.

Photo of Julie James Julie James Labour 7:05, 23 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Ac rwy'n credu bod Mike Hedges wedi taro'r hoelen ar ei phen, mewn gwirionedd: mae yna ryw fath o gamsyniad ynglŷn â'r hyn y mae'n ei olygu. Ond rwyf wedi ymweld â fflat yn ardal orllewinol Efrog Newydd sy'n rhan o gwmni cydweithredol, ac roedd yn edrych fel pentws i mi, dyna'r cyfan y gallaf ei ddweud. Felly, rwy'n credu bod camsyniad—mae'n llygad ei le ynglŷn â hynny. Yr hyn y mae'n ei wneud hefyd yw caniatáu inni hyrwyddo gwahanol fodelau a mathau o ddeiliadaeth yn ein sector tai ledled Cymru, ac mae'r math hwnnw o ddeiliadaeth gymysg yn bwysig iawn. Felly, nid wyf yn credu bod unrhyw set o dai un math o ddeiliadaeth yn arbennig o ddefnyddiol mewn gwirionedd. Felly, mae'n ffordd dda o ysgogi gwahanol fodelau o berchnogaeth i wahanol rannau o Gymru a gall fod yn fuddiol iawn.

Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn modelau sy'n caniatáu i bobl gael perchnogaeth rhannu ecwiti—rhan o gwmni cydweithredol—mewn mannau a ddisgrifiwyd fel 'cymunedau difreintiedig', mewn dyfynodau. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen mor flin wyf fi fod y fan lle cefais fy magu'n cael ei ddisgrifio fel 'cymuned ddifreintiedig', sy'n newyddion i mi a fy rhieni, ond dyna ni. Ond gall hyrwyddo gwahanol fodelau o berchnogaeth mewn lleoedd lle nad oes ond deiliadaeth tai cymdeithasol, er enghraifft, fod yn fodel defnyddiol iawn hefyd, gan ei fod yn caniatáu i wahanol fathau o bobl fyw'n gytûn gyda'i gilydd mewn cymuned, sef yr hyn y chwiliwn amdano.

Felly, rydym wedi bod yn buddsoddi mewn tai dan arweiniad y gymuned ers 2012. Rydym wedi rhoi cynnig ar sawl gwahanol ddull, gan gynnwys darparu gwerth £1.9 miliwn o arian cyfalaf i gefnogi tri chynllun arloesi o'r brig i lawr a arweinir gan Weinidogion. Mae'r dull hwnnw wedi cael rhywfaint o lwyddiant. Er enghraifft, mae'r cwmni cydweithredol yng Ngardd Loftus yng Nghasnewydd gan Pobl wedi bod yn wych; mae wedi helpu'r rheini yn y cwmni cydweithredol i ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am eu cartrefi a'u cymuned ac wedi arwain at feithrin mwy o ysbryd cymunedol yn y datblygiad ehangach. Yn anffodus, nid yw hynny wedi digwydd gyda'r holl gynlluniau, a dyna pam ein bod wedi pwyso a mesur ein dull o weithredu ar gyfer y dyfodol.

Rwy'n credu bod cynllun Taf Fechan y soniodd Dawn Bowden amdano yn enghraifft dda iawn o sut y gall weithio, lle rydych yn cymryd rhywle nad oedd neb eisiau byw ynddo mewn gwirionedd, gadewch i ni fod yn onest, a'i droi'n lle dymunol iawn i fyw ynddo, oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae rhestr hir o bobl a fyddai wrth eu bodd yn byw yno pe baent yn cael. Felly, yn allweddol, gall arwain at drawsnewid y mathau hynny o ddatblygiadau hefyd. Rwy'n wirioneddol ymrwymedig i hynny, rwy'n wirioneddol ymrwymedig i sicrhau bod yr enghreifftiau da sydd gennym yng Nghymru—ac maent yn bodoli—yn cael eu lledaenu ar draws Cymru, ond mae angen i ni gael cymorth gan awdurdodau lleol i fod yn rhan o hynny hefyd.

Soniodd Dawn Bowden am y cymorth a roddodd y cyngor lleol yno i gefnogi'r cwmni cydweithredol, a gwn fod Cyngor Dinas Abertawe wedi pleidleisio i fabwysiadu polisi tai cydweithredol yn ddiweddar hefyd. Felly, rwy'n credu y gall pob awdurdod lleol ddysgu o hynny, a buaswn yn awyddus iawn i gael hynny'n rhan o ledaeniad arferion rhagorol ledled Cymru. Felly, rwy'n awyddus iawn i wneud hynny. Fodd bynnag, rhywbeth arall rwy'n awyddus i'w wneud yw peidio â'i gael o'r brig i lawr. Rydym am iddo alluogi cymunedau i ddod ynghyd a ffurfio cwmni cydweithredol er mwyn cymryd rheolaeth ar eu bywydau. Felly, rwy'n credu ei fod yn gweithio'n dda iawn, fel gwnaethoch ddisgrifio, Dawn, pan fydd pobl yn cymryd rhan go iawn a gallant gael rhan yn gwneud penderfyniadau yn hynny. Felly, rwy'n awyddus iawn i allu galluogi hynny yn hytrach na cheisio ei wthio ar gymunedau, gan nad yw hynny wedi bod mor llwyddiannus ag yr hoffem bob amser, hyd yn oed gyda'r bwriadau gorau.

Felly, un o'r ffyrdd gorau o gynyddu'r ddarpariaeth yw darparu cymorth o'r math hwnnw. Mae ein cyllid drwy Ganolfan Cydweithredol Cymru wedi'i gynllunio i ddarparu'r cymorth hwnnw ac rwy'n falch ein bod wedi ehangu ein cefnogaeth i raglen ar raddfa fwy ar gyfer tai dan arweiniad y gymuned ar y cyd â'r Nationwide Foundation yn ogystal, i ddarparu'r lefel sylfaenol honno o gymorth.

Defnyddir yr arbenigedd sydd ar gael drwy'r rhaglen Cymunedau'n Creu Cartrefi i gefnogi grwpiau tai newydd a rhai sy'n bodoli eisoes dan arweiniad y gymuned ledled Cymru. Pecyn cymorth ydyw ar gyfer datblygu cynlluniau tai cydweithredol ac mae'n amlinellu'r camau y gall cymdeithasau tai eu cymryd i gefnogi tai dan arweiniad y gymuned, ac rwy'n falch o weld bod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cydnabod y rôl bwysig y gall y pecyn cymorth ei chael yn ei adroddiad diweddar ar eiddo gwag. Y peth arall rwy'n awyddus i fod yn glir iawn yn ei gylch wrth ehangu'r gefnogaeth i sicrhau ffocws ar wreiddio'r egwyddorion cydweithredol craidd, yw ein bod am sicrhau bod y saith egwyddor graidd yn hanfodol ac wedi'u gwreiddio i gyd ar unwaith. Felly, ni allwch ddewis a dethol, rydych am gynnwys yr holl egwyddorion, fel rydych wedi disgrifio, er mwyn cael y rhaglen lwyddiannus yn weithredol. Felly, mae mwyfwy o ddiddordeb yn hyn, ac mae'r ddadl hon yn ffordd ragorol o gyfleu'r neges hefyd. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i Dawn am roi sylw iddi.

Nid wyf yn ystyried cyflwyno ymddiriedolaethau tir cymunedol ar hyn o bryd. Un o'r rhesymau am hynny yw nad wyf wedi fy narbwyllo y byddai hynny'n gweithio, ond hoffwn ddweud yn y Siambr, pe bai prosiect yn cael ei gyflwyno sy'n dibynnu ar gyllideb o'r fath, byddem yn fodlon ei ystyried. Yn fras, rwy'n dweud y byddem yn barod i edrych ar unrhyw brosiect dan arweiniad y gymuned a allai ddatblygu cartrefi i bobl ar hyd y llinellau cydweithredol hynny yn ein barn ni. Felly, rwy'n hapus iawn i edrych ar hynny, er nad wyf yn bwriadu cyflwyno'r gronfa fel y cyfryw ar hyn o bryd.

Cafodd adroddiad yr adolygiad o'r cyflenwad tai fforddiadwy ei gyflwyno yn ôl ym mis Mai. Yn seiliedig ar eu hargymhellion, rydym yn ceisio cydgrynhoi'r nifer o gynlluniau pwrpasol a photiau ariannu sydd ar gael gennym.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 7:10, 23 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gennyf, Mark; nid oeddwn yn eich gweld.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gennyf, ni siaradais yn uchel iawn. Roeddwn yn arfer gweithio i gymdeithas adeiladu sydd bellach yn rhan o'r Nationwide y sonioch chi amdano, ac fel aelod gwirfoddol o fwrdd cymdeithas dai. Rwyf wrth fy modd eich bod wedi cyflwyno hyn gan bwysleisio mai cwmnïau cydfuddiannol cydweithredol yw'r rhain, ac mae aelodau'n talu £1 ac yn cael pleidlais yn eu trefniadaeth.

At ei gilydd, mae'r cymdeithasau trosglwyddo y sonioch chi amdanynt wedi mabwysiadu model safon ansawdd tai Cymru a mwy, sy'n ymwneud â sicrhau bod pobl yn datgloi'r cryfderau ac yn datblygu cynaliadwyedd mewn cymunedau, a chafodd hynny ei gyflwyno gan y Sefydliad Tai Siartredig ymhell yn ôl mewn Cynulliad blaenorol. Yng ngogledd Cymru, mae Cartrefi Conwy a Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi ei fabwysiadu. Ond Weinidog, sut y gallwn sicrhau bod llais y tenant, llais y preswylydd yn cael ei glywed hefyd, a bod model safon ansawdd tai Cymru yn cael ei ddefnyddio fel un cadarnhaol yn yr 11 o gynghorau a gadwodd eu stoc, ond lle mae'r un materion yn berthnasol?

Photo of Julie James Julie James Labour 7:11, 23 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r ymyriad. Rwyf am orffen y pwynt oedd yn fy meddwl, sef fy mod yn awyddus yn y bôn i sicrhau bod grwpiau tai dan arweiniad y gymuned yn gallu cael gafael ar gyllid cyfalaf o ba fath bynnag. Felly, os ydych chi'n ymwybodol o grwpiau sydd eisiau cyllid cyfalaf o'r math hwnnw, hyd yn oed os nad oes gennym gronfa bwrpasol, mae'n werth cysylltu, oherwydd rwy'n awyddus iawn i'w cefnogi mewn partneriaeth â landlord cymdeithasol cofrestredig neu beidio, neu'r awdurdod lleol neu beth bynnag.

Ar y pwynt penodol hwnnw, rwy'n edrych ar reoliadau parth. Felly, rwyf wedi dweud yn ddiweddar yn y Siambr hon fy mod yn edrych ar adolygu'r drefn reoleiddio ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac un o'r pethau rwyf hefyd yn bwriadu eu gwneud yn y fan honno yw cael yr hyn a elwir yn 'reoliadau parth', sef rheoleiddio cyfranogiad a llais tenantiaid ar draws y sector tai cymdeithasol. Nid y drefn lywodraethu a'r rheolaethau ariannol, oherwydd mae'n amlwg eu bod hwy'n wahanol iawn mewn awdurdod lleol, ond llais y tenant, i bob pwrpas. Felly, rwy'n ailadrodd ein bod yn edrych ar hynny.

Hefyd, rydym wedi cael y rhaglen Cymunedau'n Creu Cartrefi yn gwneud ymchwil annibynnol i fanteision ehangach byw mewn tai cydweithredol neu dai dan arweiniad y gymuned, ac rwyf i fod i lansio canfyddiadau'r adroddiad hwnnw ar 7 Tachwedd. Edrychaf ymlaen at glywed am y manteision ehangach y mae unigolion yn teimlo y byddant yn eu hennill o fyw mewn cymdeithasau tai dan arweiniad y gymuned. Rwyf wedi eu clywed fy hun hefyd, mewn gwirionedd, yn un o'r enghreifftiau y siaradodd Dawn amdanynt. Felly, nid oes gennyf amheuaeth fod rhaid i dai dan arweiniad y gymuned fod yn rhan o'r ateb i'r argyfwng tai sy'n ein hwynebu yng Nghymru.

Rwy'n credu mewn cymunedau gwirioneddol gynaliadwy sy'n cynnwys deiliadaeth gymysg, lle defnyddir safleoedd tir sy'n eiddo cyhoeddus a phreifat i adeiladu'r cartrefi iawn i ateb yr angen sy'n bodoli. Golyga hynny y dylai safleoedd gael cyfran fwy o dai fforddiadwy nag sy'n digwydd yn aml ar hyn o bryd, ac mae hefyd yn golygu na ddylai fod yn amlwg ar unwaith pa gartrefi sydd mewn perchnogaeth breifat a pha rai sy'n dai fforddiadwy ar un datblygiad tai. Ni allaf ddweud yn ddigon aml nad wyf am weld y math o raniad rhwng cymunedau sy'n ddiangen a di-fudd fel sy'n digwydd pan fyddwch yn corlannu tai cymdeithasol mewn un rhan o ddatblygiad.

Gall pob math o dai dan arweiniad y gymuned ein helpu i sicrhau cymunedau cynaliadwy. Gallwn archwilio atebion amgen ar gyfer blaenoriaethau ehangach y Llywodraeth. Er enghraifft, pan gyfarfûm â Chanolfan Cydweithredol Cymru yn ôl ym mis Mawrth, fe'u heriais i archwilio sut y gall tai dan arweiniad y gymuned fod yn rhan o ddull cymunedol arloesol o ymdrin â ffioedd rheoli lesddeiliaid. Rydych wedi sôn am ran fach o hynny yn yr enghraifft a nodoch—mae wedi mynd o fy mhen. Taf Fechan, onid e? Ac rwy'n credu y gall tai dan arweiniad y gymuned fod yn rhan o ddull adfywio canol trefi hefyd i gynnwys eiddo defnydd cymysg. Felly, gellir gwneud y mater hwn ynglŷn â sut i reoli pwy sydd â pha ran o'r brydles ar sail gydweithredol. Ac rwy'n credu mai dyna un o'r atebion yr hoffem edrych arnynt.

Felly rwyf am orffen drwy ailadrodd fy ngalwad i'r Aelodau fod llawer ohonom yn rhannu'r un dyheadau ar gyfer tai yn gyffredinol, a cheir cefnogaeth eang i'r mudiad tai cydweithredol a dan arweiniad y gymuned yng Nghymru, ac rwy'n agored iawn i weithio gyda phob Aelod ar yr agenda hon i gefnogi'r atebion hynny'n well. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 7:14, 23 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:14.