4. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cefnogi Awdurdodau Tai Lleol i sicrhau opsiynau tai tymor hir yn y Sector Rhentu Preifat

– Senedd Cymru am 3:57 pm ar 5 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:57, 5 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Eitem 4 ar yr agenda yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ar gefnogi awdurdodau tai lleol i sicrhau opsiynau tai tymor hir yn y sector rhentu preifat, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r datganiad hwn yn rhoi manylion am gynllun arbrofol newydd sydd â'r nod o gynyddu'r stoc tai sydd ar gael i awdurdodau lleol o ran cyflawni eu dyletswyddau tai, ac, yn fwy arbennig, eu dyletswyddau ynghlwm wrth Ran 2 Deddf Tai (Cymru) 2014. Mae'r broses o gyflawni'r dyletswyddau hyn gan awdurdodau lleol wedi gwneud llawer i atal unigolion a theuluoedd rhag bod yn ddigartref. Fodd bynnag, mae llawer gormod o bobl na lwyddir i'w cadw rhag digartrefedd. Mae'r arbrawf hwn yn cynnig defnyddio'r sector rhentu preifat i gynyddu'r stoc sydd ar gael i awdurdodau lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau Rhan 2 drwy gynnig tai o ansawdd da am renti fforddiadwy i denantiaid, gyda chymorth priodol. Rydym yn rhoi'r cynllun ar brawf mewn nifer fach o awdurdodau lleol er mwyn profi'r cysyniad a darparu'r sylfaen dystiolaeth angenrheidiol er mwyn datblygu model i'w gyflwyno ledled Cymru.  

Mae 'Ffyniant i Bawb' yn pwysleisio swyddogaeth cartrefi o ansawdd da ym mhob agwedd ar fywyd unigolyn a phwysigrwydd tai diogel, fforddiadwy fel sail ar gyfer byw bywyd gwell ac iachach. Gall ansicrwydd deiliadaeth neu dai o ansawdd gwael, wrth gwrs, achosi neu waethygu pryder ac afiechyd, a chyfyngu ar allu rhentwyr i ymwneud â'u cymuned neu ar allu eu plant i ymgynefino mewn addysg.

Mae atal a datrys digartrefedd o bob math yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Mae'r sefyllfa o ran nifer yr aelwydydd sydd mewn perygl, neu deuluoedd eisoes yn ddigartref, yng Nghymru wedi gwaethygu oherwydd cynni a thoriadau i fudd-daliadau. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i adeiladu cartrefi cymdeithasol ar raddfa fawr ac yn gyflym, ond rydym ni hefyd yn derbyn nad yw cartrefi'n cael eu hadeiladu mewn diwrnod. Rydym ni'n edrych ar ddulliau ychwanegol, arloesol o gynyddu'r stoc tai, a gallai model fel hyn wneud gwahaniaeth sylweddol a phwysig i Gymru.

Yn gynyddol, mae awdurdodau lleol yn disgwyl i'r sector rhentu preifat ddod o hyd i gartrefi ar gyfer y teuluoedd a'r unigolion maen nhw'n eu cefnogi. Fodd bynnag, yn gynyddol, mae ystod lawer ehangach o bobl nag oedd yn y gorffennol yn dewis rhentu yn y sector preifat yn gynyddol. Mae'r dyddiau pan oedd rhentu yn rhywbeth i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol ifanc cyn iddyn nhw 'fwrw gwreiddiau' wedi hen ddiflannu. Heddiw, mewn rhai ardaloedd, mae'r farchnad ar gyfer eiddo rhent yn gystadleuol iawn. Gall landlordiaid ddewis i bwy y maen nhw'n rhentu ac, o ganlyniad, maen nhw wedi gwthio rhai o'n haelwydydd mwyaf agored i niwed allan o'r farchnad honno.

Mae llawer o awdurdodau lleol yn gweithio'n galed i ddarganfod landlordiaid sy'n fodlon derbyn teuluoedd ar fudd-daliadau ac i dderbyn y rhenti isel a gynigir gan fudd-daliadau. Mae'r gwaith caled hwn yn glodwiw, ond yn aml nid yw ond yn arwain at ateb tymor byr. Gyda dim ond chwe mis o sicrwydd a phrin ddim cymorth, gwyddom fod y tenantiaethau hyn yn aml yn chwalu a bod y teulu yn mynd yn ôl i'r cylch dieflig.

I'r rheini sy'n cael trafferth ariannol, mae'r gwahaniaeth rhwng cyfraddau'r lwfans tai lleol a rhenti'r farchnad yn cyfyngu ar eu gallu i rentu yn y sector preifat. Caiff y broblem hon ei dwysáu gan rywfaint o'r dystiolaeth anecdotaidd sy'n awgrymu bod landlordiaid preifat yn llai tebygol o rentu i'r rhai sy'n cael budd-daliadau. Mae gwerthuso a buddsoddi mewn cynllun arbrofol sy'n canolbwyntio ar ei gwneud hi'n haws i grwpiau o'r fath gael cartref sicr o ansawdd yn fenter deilwng ac yn werth ei gwneud.

Gan weithio ar y cyd â rhanddeiliaid presennol, rydym ni wedi datblygu model a fydd, yn ein barn ni, yn rhoi adnodd ychwanegol sylweddol i awdurdodau lleol i helpu atal a lliniaru digartrefedd. Mae dod o hyd i gynnig sydd hefyd yn gweithio i landlordiaid wedi bod yn rhan bwysig o ddatblygu'r model hwn. Mae hwn yn gynllun lle bydd pawb yn elwa, gan gynnig bargen dda i'r rhai sy'n chwilio am gartref sefydlog o ansawdd da, a bargen dda i landlordiaid sydd eisiau sefydlogrwydd incwm rhent hirdymor heb y cyfrifoldeb beunyddiol o fod yn landlord.

Yn gyfnewid am ymrwymiad gan landlordiaid sector preifat i brydlesu eu heiddo i awdurdod lleol am gyfnod o hyd at bum mlynedd, bydd y perchnogion eiddo hynny yn cael gwarant o rent, bob mis, am gyfnod y brydles, a dealltwriaeth, gan dderbyn y bydd rhywfaint o draul resymol ar ddiwedd y pum mlynedd, y cânt eu heiddo yn ôl yn yr un cyflwr ag yr oedd pan gafodd ei brydlesu. Hefyd, bydd perchnogion eiddo yn gymwys i gael grant a benthyciad di-log i ddod â'u heiddo i safon ofynnol, os nad yw eu heiddo yn bodloni'r gofynion sylfaenol ar gyfer y cynllun arbrofol. Bydd landlordiaid sector preifat sydd â diddordeb yn cael rhent ar y cyfraddau lwfans tai lleol perthnasol—mae hynny'n eithaf anodd ei ddweud—gyda swm wedi ei dynnu sy'n cyfateb i ffi rheoli gystadleuol.

Bydd safon ofynnol eiddo a dderbynnir ar y cynllun arbrofol yn gysylltiedig â safonau Safon Ansawdd Tai Cymru ac, fel y dywedais, bydd elfen o grant a benthyciad i sicrhau bod unrhyw eiddo sy'n rhan o'r arbrawf hwn o safon uchel. Mae'r teuluoedd yr ydym yn ceisio eu cartrefu yma yn haeddu cartrefi a dewis o ansawdd uchel gymaint ag unrhyw deulu arall, ond bydd y cymhellion y byddwn yn eu darparu hefyd yn helpu i wella safonau'r sector rhentu preifat yn fwy cyffredinol yng Nghymru.

Bydd tenantiaid sy'n byw yn yr eiddo, ar yr amod eu bod yn anrhydeddu telerau eu contract, yn cael sicrwydd o hyd at bum mlynedd o lety yn y sector rhentu preifat ar gyfraddau'r lwfans tai lleol. Yn bwysig, i'r tenant a'r landlord, bydd y teuluoedd sy'n ymgartrefu yn yr eiddo yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i'w helpu i ffynnu yn eu cartrefi newydd.

Fel y dywedais, mae hwn yn gynllun lle mae pawb yn elwa; mae'n gweithio i landlordiaid ac awdurdodau lleol gymaint ag y mae'n gweithio i denantiaid. Bydd tenantiaid yn gallu rhentu tai sector preifat o ansawdd da a fforddiadwy, gyda'r math o gymorth na allent fel arfer ond ei gael mewn tai cymdeithasol. Gall landlordiaid fod yn ffyddiog y byddant yn cael rhent rheolaidd bob mis a bod rhywun yn gofalu am eu heiddo ac nad oes angen iddyn nhw boeni am lawer o'r cyfrifoldebau beunyddiol sy'n ymwneud â bod yn landlord gan y cânt eu cyflawni gan yr awdurdod lleol fel yr asiant rheoli. Bydd awdurdodau lleol yn elwa ar gael adnodd ychwanegol i'w helpu i gyflawni eu hamcanion ar gyfer atal a lleihau digartrefedd.

Rydym ni i gyd yn ymwybodol bod tenantiaid hirdymor sy'n cael cefnogaeth, sy'n hapus a sefydlog yn helpu i adeiladu cymunedau mwy integredig. Bydd cryn gefnogaeth ar gael i denantiaid a gartrefir drwy'r arbrawf hwn, os bydd ei angen arnynt, a rhan hanfodol o'r arbrawf fydd hyrwyddo annibyniaeth a'r sgiliau bywyd sydd eu hangen i leihau'r baich ar y cyflenwad o dai cymdeithasol.

Mae awdurdodau lleol mewn sefyllfa ddelfrydol i arwain y fenter hon. Mae gan eu timau yn y sector rhentu preifat eisoes gysylltiad â nifer o landlordiaid sector preifat a allai fod â diddordeb mewn prydlesu eu heiddo drwy fodel o'r fath ac maen nhw eisoes yn adnabod ac yn gweithio gyda'r teuluoedd sydd angen y cartrefi hyn.

Byddwn nawr yn gwahodd awdurdodau lleol i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb o ran cynnal yr arbrawf. Byddwn yn penodi tri awdurdod lleol i weithredu'r cynllun arbrofol, a dewisir y rhain ar sail cyfres o fesurau ansoddol a meintiol. Byddaf yn rhoi rhagor o fanylion am yr ardaloedd llwyddiannus maes o law.

Y nod yw i'r arbrawf hwn ddarparu model y gellid ei gyflwyno mewn mannau eraill fydd yn arwain at gynllun cenedlaethol a fydd yn darparu llawer mwy o dai fforddiadwy, o ansawdd gwell, gyda mwy o sicrwydd o ran llety ledled Cymru. Diolch.

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:03, 5 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o roi croeso cyffredinol i'r cynllun arbrofol hwn yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at gael yr adroddiadau parhaus ar ei dderbyniad gan y sector. Yn amlwg mae gennyf rai cwestiynau ynghylch sut y bydd yn gweithredu, ac rwyf wedi bod yn trafod gyda'r sector.

Sylwaf fod gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl rai amheuon, yn enwedig ynghylch yr hyblygrwydd a fydd ar gael i landlordiaid os bydd y cynllun yn parhau, dyweder, am bum mlynedd. Ydych chi'n meddwl am o leiaf dwy hyd at bum mlynedd, neu pa fath o ystod? A hefyd, a ddylid cael rhyw fath o derfyniad rhesymol yn y contract hwnnw o dan amgylchiadau eithriadol neu pe bai'r landlord yn gorfod gwerthu eiddo? Felly, rwy'n credu bod angen i ni fod yn eithaf clir ynglŷn â natur y rhwymedigaeth. Yn amlwg, mae clymu pobl wrth wariant ar lefel awdurdod lleol yn bwysig. Ac am y sefydlogrwydd hwnnw, maen nhw wedyn yn cael tair, pedair, pum mlynedd o rent gwarantedig. Felly, mae'n ffactor gwirioneddol. Ond hefyd, mae hyn yn ôl pob tebyg yn llai na chyfradd y farchnad mewn sawl achos. Felly, rwy'n credu bod angen i ni fod yn ymwybodol o gydbwysedd y contract, ond rwyf yn derbyn ei bod yn fargen briodol i'w tharo, ac y gall weithio, fel y dywedwch, i'r ddwy ochr a bod y ddwy ochr ar eu hennill.

Credaf yr arbrofwyd gyda chynlluniau tebyg mewn awdurdodau lleol yn Lloegr, felly tybiaf y gallech chi edrych ar rai arferion gorau yno, ond yn amlwg mae'r mathau hyn o gynlluniau wedi cael eu profi i ryw raddau beth bynnag, ac er fy mod yn derbyn bod arbrofi mewn tair ardal awdurdod lleol yn ffordd ymlaen, rwy'n gobeithio y bydd y cyfnod arbrofi yn un eithaf sionc, fel y gallwn brofi'r cysyniad ac yna dyfnhau'r bartneriaeth rhwng y sector preswyl preifat a llywodraeth leol. Credaf fod angen i'r gwaith cydweithredol hwnnw fod yn fwy trylwyr ac rydym ni wedi'ch annog ar sawl achlysur i gofio'r adnoddau sydd gennym ni yn y sector preifat. Mae'n sector llawer mwy ac, fel y gwnaethoch chi ddweud, mae bellach yn apelio at ystod eithaf eang o bobl. Felly, rwy'n credu, yn hytrach na'i weld fel cystadleuydd, mae angen i ni fanteisio ar yr adnoddau hynny a gweld ble mae modd eu defnyddio.

Credaf hefyd fod angen annog awdurdodau lleol i wneud hyn, a sicrhau eu bod yn cael y math o sgyrsiau polisi ynglŷn â phethau fel digartrefedd a thai gwag, er enghraifft, a'r swyddogaeth y gallai'r sector rhentu preifat ei chynnig, ac yna eu hatgoffa y gall grwpiau sy'n agored i niwed, fel cyn-droseddwyr, pobl sy'n gadael gofal, ac aelwydydd incwm isel, fod yn denantiaid sefydlog iawn, gyda—a chredaf fod yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud yn hanfodol —y systemau cymorth a fydd yn rhan o'r cynlluniau hyn. Yna, mae yna gynnig gwirioneddol yn y fan yna. Sylwais, er enghraifft, ym Mryste, fod ganddyn nhw gynllun bond i dawelu ofnau landlordiaid—a landlordesau, mae'n debyg—ac mae hynny'n gysylltiedig ag arolygu a bod eiddo mewn cyflwr priodol, ond mae hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd hefyd, rwy'n siŵr, i landlordiaid a landlordesau.

Ond yn gyffredinol, rwy'n gobeithio bod hyn yn fan cychwyn i bartneriaeth wirioneddol dda, weithgar, arloesol a mentrus rhwng Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl a Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, gan fod y problemau cymdeithasol hyn yn destun pryder i bob un ohonom ni, ac rwy'n meddwl bod gan y sector preifat ran i'w chwarae lle bo'n briodol, a lle mae wedi'i rwymo i amodau rhesymol a thrylwyredd dyladwy. Felly, yn fras, rwy'n croesawu hyn ac yn edrych ymlaen at yr adroddiadau ar y tri chynllun ac rwy'n gobeithio y byddant yn symud yn eu blaenau yn gyflym.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:08, 5 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Yn ôl yr arfer, David, rydym ni'n cytuno ynghylch llawer mwy na'r hyn yr ydym ni'n anghytuno yn ei  gylch. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod angen inni gael gwell berthynas â'r sector rhentu preifat. Bydd a wnelo rhan o hynny wrth gwrs â dod â'n Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 newydd i rym, sy'n rhoi mwy o sicrwydd deiliadaeth i bobl beth bynnag, dim ond yn y sector rhentu preifat arferol. Ond mae hwn yn gynllun cwbl wahanol sy'n caniatáu i'r awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswyddau tai o dan Ran 3 o'r Ddeddf Tai mewn ffordd fwy effeithiol gan ddefnyddio'r sector rhentu preifat, felly dyna'r peth cyntaf i'w wneud yn hollol glir.

Os yw landlord eisiau gadael y cynllun, yn amlwg bydd yn gallu gwneud hynny, mae'n eiddo iddo wedi'r cyfan, ond mae sawl dewis ar gael yn hynny o beth. Yn gyntaf oll, os oes unrhyw drefniant grant neu fenthyciad wedi bod er mwyn dod â'r eiddo i safon, caiff hynny ei ad-dalu ar yr adeg honno, yn gymesur â faint o amser y maen nhw wedi cael ei dŷ yn y cynllun. Hefyd wrth gwrs, mater i'r awdurdod lleol fydd prynu'r tŷ pe bai'r landlord yn ei werthu, ac rwy'n gobeithio drwy hynny y byddem mewn gwirionedd yn troi'r tai yn dai cymdeithasol, i bob diben. Felly, rydym ni eisiau cael y tair ardal brawf i weld pa fath o drosiant yn y system a allai fod.  

Mae gennyf ddiddordeb mewn cynlluniau arloesol eraill hefyd, nad wyf yn eu cyhoeddi heddiw, ond y mae gennym ni ddiddordeb mawr mewn: canfod, er enghraifft, buddsoddwyr a allai fod yn awyddus i adeiladu ar gyfer y sector hwn mewn gwirionedd—adeiladu ar gyfer y sector hwn yn benodol. Ac er na fyddent yn landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, byddent yn gallu trosglwyddo eu heiddo am gyfnod hir o amser i'r math hwn o drefniant rheoli tai. Felly, rwy'n awyddus iawn ein bod yn edrych ar hynny.

Gyda'm cydweithiwr Lee Waters rydym ni wedi bod yn edrych ar eiddo gwag ledled Cymru a'r hyn y gallwn ei wneud i gymell perchnogion i ddod â'r tai gwag hynny yn ôl i ddefnydd buddiol, a chynllun arall yw hwn i wneud yr union beth hwnnw. Felly, os oes gennych chi eiddo yng Nghymru ac nad oes gennych y modd i'w addasu fel y gellir byw ynddo, bydd hon yn ffordd o wneud hynny, ac yn gyfnewid rydych chi'n caniatáu i'r awdurdod lleol ei gael am bum mlynedd, byddent yn ei roi ar rent, a bydd yn cael ei ddychwelyd ichi mewn cyflwr llawer gwell nag y byddech, mae'n debyg—fel arfer—wedi'i etifeddu.

Mae yn golygu y gallwn ni roi gwarantau i'r landlord a fydd yn ei helpu i ddeall dibynadwyedd grwpiau mwy agored i niwed, oherwydd mae llawer o straeon ar gerdded am natur annibynadwy pobl ar fudd-daliadau, ac yn y blaen. A beth mae hyn yn ei wneud, mewn ffordd debyg, yn rhyfedd, i'r hyn a wnaeth y cynllun Twf Swyddi Cymru i bobl ifanc, yw y bydd yn dangos i bobl nad yw'r hyn a gredant yn wir a bod pobl, mewn gwirionedd, yn ddibynadwy iawn. Mae llawer o bobl yn cael budd-daliadau pan fyddant mewn gwaith llawn amser, ac ati. Felly, rwyf yn credu y bydd yn profi'r cysyniad hwnnw hefyd.

Ni fydd angen cynllun bond oherwydd, mewn gwirionedd, wrth gwrs, yr awdurdod lleol yw'r asiantau rheoli, ac felly diogelir y landlord drwy'r awdurdod lleol. Mae gennym gynlluniau bond, er mwyn caniatáu i bobl rhentu yn y sector preifat lle na fyddai'r arian ganddynt fel arall, ond nid yw hynny'n rhan o'r cynllun hwn, oherwydd yr awdurdod lleol fydd yn gyfrifol am y tŷ. Byddwn yn hapus iawn i roi'r newyddion diweddaraf ichi rheolaidd. Rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn wneud y cyfnod prawf hwn yn gyflym iawn. Caf ar ddeall y bydd landlordiaid ac awdurdodau lleol yn eiddgar iawn i gymryd rhan. 

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 4:11, 5 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Bu hi wastad yn wir fod y sector preifat yn ddrutach i'r trethdalwr na thai cymdeithasol, hyd yn oed ar ôl toriadau budd-dal, ac mae'n wir o hyd bod arnom ni angen mwy o dai cymdeithasol yn y tymor hir ac y bydd hyn yn rhatach. Fodd bynnag, mae eich datganiad yn cydnabod bod taliadau nawdd cymdeithasol eu hunain yn cyfyngu ar y dewis sydd gan bobl yn y sector rhentu preifat felly, i mi, nid yw'n glir a fydd y cynllun hwn yn cyflwyno mwy o gymhorthdal i bontio'r bwlch hwnnw, neu a ydych chi fel Gweinidog yn gobeithio y bydd landlordiaid yn derbyn rhent is yn gyfnewid am bum mlynedd o daliadau sicr. Felly a wnewch chi egluro a yw cymhorthdal ychwanegol yn cael ei gyflwyno yma i helpu galluogi pobl ar fudd-daliadau i gael tai rhent preifat drutach nag a fyddai'n digwydd fel arall?

Yr ail gwestiwn sydd gennyf yw: un o'r problemau eraill yn y sector rhentu preifat yw ansicrwydd deiliadaeth, ac mae'r cynllun hwn yn synhwyrol yn ceisio osgoi hyn drwy ddarparu prydlesau pum mlynedd. A wnewch chi gadarnhau na fydd landlordiaid yn gallu gadael y cynllun hwn er mwyn gallu gwerthu'n gyflym unwaith y byddant wedi prydlesu?

Ac yna, yn olaf, yn y pen draw, a wnewch chi hefyd ystyried caniatáu i awdurdodau lleol brynu'r tai y gallent eu caffael drwy'r cynllun hwn, oherwydd, yn y tymor hir, mae angen mwy o stoc dai? Rydym ni wedi colli llawer o stoc tai o ganlyniad i'r rhaglen hawl i brynu, ac mae angen i ni osgoi cynlluniau fel hyn yn dod yn ffordd arall eto i'r sector rhentu preifat gael cymhorthdal cyhoeddus. Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:12, 5 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Ydw, unwaith eto, rwy'n cytuno i raddau helaeth â hanfod eich cwestiynau. Felly, er mwyn bod yn gwbl glir, yr hyn yr ydym ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud yw derbyn y lwfans tai lleol fel rhent yn gyfnewid am warant o'r rhent hwnnw heb unrhyw gyfnodau gwag neu unrhyw anfantais arall am gyfnod o bum mlynedd. Gwyddom o sgyrsiau gyda'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl a landlordiaid eraill drwy Rhentu Doeth Cymru fod hynny'n gynnig y bydd llawer ohonynt eisiau ei dderbyn. Felly, dim ond i fod yn glir, nid ydym yn sybsideiddio rhent uwch; yr hyn yr ydym yn ei wneud yw ei warantu dros gyfnod o bum mlynedd. Fel y dywedais, rydym yn gobeithio y bydd yn cynyddu'r safon yn y sector rhentu preifat hefyd, oherwydd bydd yn rhaid i bobl sicrhau bod eu heiddo'n cyrraedd y safon angenrheidiol er mwyn gallu ei rentu yn y modd hwn ac, yn gyfnewid, unwaith eto, maent yn cael y warant pum mlynedd.

Mae sicrwydd deiliadaeth yn broblem. Felly, bydd tenantiaid yn cael sicrwydd deiliadaeth. Bydd yn rhaid i'r awdurdod lleol eu hail-gartrefu pe bai'n rhaid iddyn nhw, am ba reswm bynnag, adael yr eiddo. Felly byddai disgwyl iddyn nhw roi cynllun yn ei le i wneud hynny. Ond byddwn yn disgwyl, pe bai'n rhaid iddyn nhw adael oherwydd gwerthu, y byddai'r awdurdod lleol yn ystyried o ddifrif prynu'r eiddo a'i gyflwyno i'r sector rhentu cymdeithasol. Efallai fod rhesymau eraill, megis y landlord eisiau'r eiddo iddo'i hun, er enghraifft, ac os felly, byddai'r dyletswyddau digartrefedd yn dod i rym a byddai'r holl ddarpariaethau rhoi rhybudd yn dod i rym a byddai'n rhaid ailgartrefu'r teulu mewn eiddo deiliadaeth sicr.

Felly, rwy'n credu ei fod yn sefyllfa lle mae pawb yn elwa, mewn gwirionedd, i fod yn onest. Mae'n dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd buddiol; mae'n galluogi perchenogion na fyddai'r arian ganddynt fel arall i ddod â'r tai hynny i safon; mae'n rhoi i ni faes ychwanegol y mae mawr angen amdano lle gall awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswydd Rhan 3 i deuluoedd; mae'n rhoi sicrwydd deiliadaeth i'r teuluoedd; mae, fel y dywedais wrth David Melding, yn annog pobl i ddeall, nad yw'r ffaith bod rhywun yn cael budd-daliadau yn golygu ei fod yn denant gwael. Mae'n ticio llawer iawn o flychau, mae'n ymddangos i mi, ac rwy'n gobeithio, yn y ffordd y dangosodd twf swyddi Cymru i gyflogwyr fod pobl ifanc yn werth eu cyflogi, y bydd hyn yn dangos i landlordiaid fod pobl ar fudd-daliadau yn werth eu cael yn denantiaid.  

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 4:14, 5 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn fawr. Mae llawer gormod o blant yn newid cartref rhwng unwaith a dwywaith y flwyddyn. Mae'n amlwg yn amharu ar addysg wrth iddyn nhw symud o ysgol i ysgol. Bydd tai o ansawdd uchel, diogel a fforddiadwy, yn gwella iechyd a bywyd llawer iawn o'm hetholwyr. Mae dwy farchnad ar wahân ar gyfer rhentu preifat: mae yna farchnadoedd o ansawdd uchel a drud sy'n darparu cartrefi o ansawdd da iawn i lawer iawn o bobl, ac mae pob un ohonyn nhw yn hynod o hapus gyda'r tai a ddarperir; mae hefyd y sector rhentu cost is, ond nid cost isel. Rwy'n croesawu'r gofyniad i gyrraedd safon ansawdd tai Cymru i fod yn rhan o'r cynllun—rwy'n adnabod pobl sy'n byw mewn tai nad ydynt yn bodloni'r amodau gwrth-wynt a dal dŵr, heb sôn am unrhyw beth arall. A byddai cynnig tenantiaethau sicr pum mlynedd mewn gwirionedd yn golygu y byddai plentyn a oedd yn symud i mewn pan oedd yn 11 oed yn dal i fod yn yr un tŷ yn mynd i'r un ysgol i sefyll ei arholiadau TGAU bum mlynedd yn ddiweddarach. Mantais aruthrol i'r plant hynny, yn hytrach na mynd o bosibl i ddwy neu dair ysgol gyfun wahanol, yn gorfod gwneud ffrindiau newydd, gorfod ymgartrefu, ac yn darganfod bod yr ysgol wedi gwneud pethau mewn trefn wahanol, fel eu bod yn gwneud rhai pethau ddwywaith a ddim yn gwneud rhai pethau o gwbl. Rwy'n credu bod y rhain yn bwysig iawn. Fel y gwyddoch chi, credaf yn gryf iawn mewn tai cyngor, a gobeithiaf y byddwch yn ymuno â mi i gondemnio sylwadau a wnaethpwyd gan Jacob Rees-Mogg am drychineb Tŵr Grenfell.

Mae gennyf i dri chwestiwn i chi. Faint o ddiddordeb a ddisgwyliwch gan landlordiaid mewn ardaloedd fel Caerdydd ac Abertawe, lle mae galw sylweddol, nad yw'n cael ei ddiwallu'n aml, am dai? Gallaf weld, mewn meysydd eraill lle nad yw'r galw a'r cyflenwad rywbeth yn debyg, neu hyd yn oed rannau o rai ardaloedd lle mae'r cyflenwad a'r galw rywbeth yn debyg, lle mae'n ddigon posib y caech chi landlordiaid yn dweud, 'mae hyn yn gwarantu incwm'. Onid yr ateb tymor hir yw adeiladu neu brynu digon o dai cyngor, lle mae gennym ni reolaeth mewn gwirionedd dros ansawdd y tai y mae pobl yn symud iddyn nhw? Bydd hefyd yn rhyddhau llawer o'r eiddo ar gyfer prynwyr tro cyntaf. Y bobl sydd ar eu colled fwyaf, oherwydd bod landlordiaid preifat yn prynu tai, yw darpar brynwyr tro cyntaf nad ydyn nhw, yn y geiriau anfarwol hynny, yn cael troedle ar ris gyntaf yr ysgol gan eu bod eisoes wedi cael eu prynu ar gyfer rhentu'n breifat. Y trydydd cwestiwn yw: sut mae cynnig y cynllun newydd hwn i helpu i adnewyddu tai yn wahanol neu'n well na'r cynllun sy'n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer dod â thai sy'n wag ar hyn o bryd yn ôl i ddefnydd?

Photo of Julie James Julie James Labour 4:17, 5 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am y gyfres yna o gwestiynau, Mike, ac, unwaith eto, rwy'n cytuno'n gyffredinol â byrdwn eich cwestiynau. Felly, i ateb y cwestiwn olaf hwnnw yn gyntaf, mae'r cynllun y mae Lee Waters yn ei hyrwyddo i ddod â thai yn ôl i ddefnydd buddiol yn golygu bod yn rhaid i chi fyw yn y tŷ eich hun am bum mlynedd er mwyn peidio â cholli'r grant. Yr hyn a wnaiff hyn yw eich galluogi i'w rentu drwy'r cynllun hwn, felly mae'n ffordd arall o ddod â'r tŷ yn ôl i ddefnydd buddiol. Mae gennym ni nifer o gynlluniau eraill yr ydym ni'n edrych arnyn nhw ar hyn o bryd ar gyfer pobl sy'n byw mewn tŷ nad yw'n cyrraedd y safon. Euthum i ymweld ag un ym mhen uchaf Rhondda Cynon Taf y diwrnod o'r blaen, gydag Andrew Morgan, arweinydd y Cyngor, lle'r oedd menyw mewn gwirionedd yn byw yn ei thŷ er ei fod yn is na'r safon. Drwy gyfuniad o grantiau a oedd ar gael gan y cyngor hwnnw a gofal a thrwsio, llwyddasom i sicrhau ei fod yn cyrraedd y safon tra oedd hi—wel, bu'n rhaid iddi symud allan i fyw gyda'i merch am ychydig wythnosau, ond tra oedd hi'n byw yno, yn gyffredinol, ac roedd hynny'n dda hefyd. Felly, dim ond ffordd arall yw hon o ddod ag eiddo preswyl gwag yn ôl i ddefnydd.

O ran y farchnad dai yn Abertawe, Caerdydd neu farchnad dai gystadleuol, credwn fod galw am hyn, oherwydd er bod galw mawr am dai yn y sector rhentu preifat yn y ddau le hynny y gwnaethoch chi eu crybwyll, ac mewn nifer o leoedd eraill yng Nghymru, mae hyn yn golygu nad oes rhaid i'r landlord boeni am unedau gwag, trosiant, difrod—y pob math o bethau y mae'n rhaid iddyn nhw ymdrin â nhw. Ac, mewn gwirionedd, gwyddom o'n hymgynghoriad y byddai'n llawer gwell gan landlordiaid gael yr incwm cyson y gwyddant y cânt dros bum mlynedd na'r symiau amrywiol a gânt mewn marchnad gyfnewidiol. Felly, rwy'n credu y bydd galw am hyn ar hyd a lled Cymru.

Fe wnaethoch chi sôn am y sylwadau a wnaeth Jacob Rees-Mogg am Dŵr Grenfell, a hoffwn ddweud fy mod yn cytuno â chi bod y sylwadau hynny'n ansensitif iawn ac yn niweidiol iawn i oroeswyr Grenfell a theuluoedd y rhai a fu farw. Credaf ei fod wedi ymddiheuro wedyn, ond mae'n rhyfeddol y gallai rhywun wneud sylwadau o'r fath ar hyn o bryd ac yn wyneb yr adroddiadau sy'n cael eu rhyddhau ar Grenfell yr ydym ni wedi eu gweld. Er mwyn bod yn glir, diben y polisi 'aros lle'r ydych chi' yw sicrhau nad yw pobl sy'n ceisio gadael adeilad yn dod wyneb yn wyneb â diffoddwyr tân sy'n ceisio dod â'u hoffer i fyny'r un grisiau. Gwyddom na weithiodd hynny yn Grenfell, gyda chanlyniadau trasig, ond nid oedd hynny am nad oedd y bobl yn y tŵr yn synhwyrol, neu, mewn gwirionedd, yn dilyn cyfarwyddiadau'r gwasanaeth tân, fel y gwyddom o'r adroddiad. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n sylw syfrdanol iawn gan Jacob Rees-Mogg, ond, fel rwy'n dweud, rwy'n deall ei fod bellach wedi ymddiheuro.

Gan fynd yn ôl at y datganiad sydd ger ein bron, rydym yn awyddus iawn mai safon ansawdd tai Cymru ddylai fod y safon a ddefnyddir i ddod â'r tai hyn i fyny i safon er mwyn manteisio ar y cynllun hwn, ac, wrth gwrs, Mike, rydych chi yn llygad eich lle ynghylch sicrwydd deiliadaeth, a'r angen penodol i deuluoedd â phlant allu cadw eu plant yn yr un ysgol. Ac i roi iddyn nhw y gefnogaeth gymdeithasol y mae arnyn nhw ei hangen er mwyn gallu gwneud hynny yw un o'r prif resymau pam yr ydym ni eisiau cyflwyno'r cynllun hwn.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:20, 5 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? O ran cefndir, mae'r sector rhentu preifat ar hyn o bryd yn cyfateb i 11 y cant o stoc dai Cymru, gyda 71 y cant yn eiddo i berchen-feddianwyr a 18 y cant o'r tai yn cael eu rhentu oddi wrth gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol. Rydym ni i gyd yn cydnabod bod galw cynyddol am lety rhent, nid yn unig gan y grwpiau hanesyddol hynny, megis myfyrwyr, ond hefyd gan weithwyr mudol, tramor a brodorol, ac yn gynyddol o aelwydydd nad ydynt yn gallu fforddio perchen-feddiannaeth. Mae'r sefyllfa, wrth gwrs, yn cael ei gwaethygu gan y nifer cyfyng o dai cymdeithasol sydd ar gael, o gofio'r blynyddoedd o esgeulustod o ran adeiladu tai yn y sector hwn.

Mae'n rhaid i mi ddweud, Gweinidog, ei bod hi'n anodd beirniadu cynnwys y datganiad hwn, gan ei fod yn amlinellu dull arloesol iawn, ac, rydym yn credu, un effeithiol iawn o gynyddu'r stoc tai preifat sydd ar gael i'w rentu. Cytunwn hefyd â'r cysyniad mai cynghorau lleol yw'r cyfrwng gorau i weinyddu'r datblygiadau arloesol hyn. Dylai'r adenillion gwarantedig hirdymor i landlordiaid preifat fod yn gymhelliant go iawn iddynt, yn ogystal â chael eu rhyddhau o'r dyletswyddau cynnal o ddydd i ddydd. Ac mae'n rhaid bod cyfleuster benthyca i wella'r eiddo unwaith eto yn gymhelliant mawr i landlordiaid preifat.

Dim ond un gair o rybudd sef ei bod hi'n hanfodol bod y pris a bennir ar y rhenti'n gorfod adlewyrchu elw da ar fuddsoddiad cyfalaf y landlord preifat. Rwyf yn credu, fel y dywedodd eraill yn y Cynulliad hwn, y bydd y sefydlogrwydd y gall hyn ei roi i deuluoedd oherwydd eu bod yn gwybod y byddant mewn llety am ryw bum mlynedd yn cael effeithiau cymdeithasol enfawr, nid yn unig i'r teulu ei hun ond i gymdeithas yn gyffredinol, oherwydd gwyddom, os yw teuluoedd yn cael eu symud o un ardal i'r llall, fel y mae Mike Hedges wedi nodi, nid yw o fudd i'w haddysg na llawer o bethau eraill, nac, wrth gwrs, i iechyd y teuluoedd hynny hefyd. Felly, mae'n effeithio ar yr ochr honno o'r ddadl hefyd.

Felly, ar y dechrau, fe wnes i longyfarch y Llywodraeth a'r Gweinidog am gychwyn yr hyn sy'n addo bod yn gynnig cadarn i ddenu landlordiaid preifat i osod eiddo i'r teuluoedd hynny nad ydynt, o bosib, wedi'u hystyried o'r blaen.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:23, 5 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, Diolch am hynny, David Rowlands. Fe wnaethoch chi ddau bwynt y credaf fod angen eu hateb—un ohonynt a wnaed gan Mike Hedges ac yr anghofiais ei grybwyll, sef y mater sy'n ymwneud â'r cyflenwad o dai cymdeithasol ledled Cymru. Byddwch yn gwybod, ers dileu'r cap ar gyfrifon refeniw tai mewn llywodraeth leol, bron i flwyddyn yn ôl bellach, rydym ni wedi gweithio'n galed iawn gyda llywodraeth leol ledled Cymru i gael eu benthyca darbodus i sefyllfa lle gallant adeiladu tai mewn niferoedd priodol ac yn gyflym, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod y rhan fwyaf o awdurdodau ledled Cymru wedi mynd ati'n ddiymdroi i dorchi eu llewys yn sgil ein cais, felly rydym yn gweld mwy o gynnydd nawr, mewn gwirionedd, yn nifer y rhai sy'n dechrau ym maes tai cymdeithasol, a disgwyliaf weld hynny'n cynyddu'r flwyddyn nesaf hefyd.

Fe wnaethoch chi sôn hefyd am yr incwm rhent—ynglŷn â'i fod yn gyfradd gystadleuol. Wel, dim ond i fod yn glir, mae hyn ar y gyfradd lwfans tai lleol. Felly, Llywodraeth y DU sy'n pennu'r lwfans tai lleol hwnnw. Yn y gorffennol, mewn dadl yn y Senedd hon, dywedais y dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol bod hynny wedi'i rewi yn 2016 ac nad yw wedi cynyddu ers hynny. Deallwn fod y Llywodraeth, cyn iddi alw'r etholiad, yn dweud y byddai'n adolygu'r sefyllfa honno y flwyddyn nesaf, a gobeithiaf yn fawr y bydd unrhyw Lywodraeth a ddaw i rym ar ôl yr etholiad nesaf yn gwneud hynny, oherwydd, yn amlwg, mae ar lefel is ar hyn o bryd. Ond mae'r cynnig ar lefel y lwfans tai lleol. I fod yn glir, Dirprwy Lywydd, nid ydym yn bwriadu rhoi cymhorthdal ar gyfer rhenti yn y sector rhentu preifat ar hyn o bryd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:24, 5 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Gweinidog.