– Senedd Cymru am 4:42 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig—Julie Morgan.
Diolch. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r comisiynydd plant am ei gwaith diflino ar ran ein plant a'n pobl ifanc. Rwy'n gwybod y bydd Aelodau'r Cynulliad yn cytuno â mi fod y Comisiynydd yn chwarae rhan hollbwysig fel hyrwyddwr annibynnol sy'n dadlau dros hawliau a lles plant.
A minnau'n Ddirprwy Weinidog yn arwain gwaith Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd ar hawliau plant, rwy'n croesawu adroddiad blynyddol y Comisiynydd Plant, ei argymhellion pwysig, a'i gwaith craffu hi ar Lywodraeth Cymru. Ac mae'n arbennig o bwysig tynnu sylw at waith y Comisiynydd eleni, gan fod 2019 yn nodi deng mlynedd ar hugain ers sefydlu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yr ydym ni'r Llywodraeth wedi gwneud pob ymdrech i'w nodi. Yng Nghymru, rydym yn hynod falch o'n cynnydd o ran hawliau plant, gan mai ni yw'r genedl gyntaf yn y DU i benodi comisiynydd plant yn 2001. Mabwysiadwyd y Confensiwn gennym yn sail ar gyfer ein gwaith gyda phlant yn 2004, gan ymgorffori hawliau plant mewn cyfraith drwy'r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) yn 2011. Ac mae'r Mesur yn golygu ei bod hi'n ofynnol i bob Gweinidog, yn ôl y gyfraith, ystyried hawliau plant cyn gwneud neu adolygu ein polisïau neu ddeddfwriaeth. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn sicrhau bod plant a'u hawliau yn ganolog i bopeth a wnawn, a daeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i'r casgliad yn ddiweddar fod Mesur 2011 wedi arwain at effaith gadarnhaol sylweddol ar bolisi yng Nghymru. Dywedodd:
Nid oes gennym unrhyw amheuon wrth ddod i'r casgliad bod y Mesur wedi cyflawni ei amcan o ymgorffori'r Confensiwn i'r broses o lunio polisïau yng Nghymru.
Un arwydd ymarferol iawn o'n hymrwymiad i hawliau plant yw ein gwaith i gyflwyno deddfwriaeth i ddileu amddiffyniad cosb resymol. Mae hyn yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i hawl plentyn i gael ei fagu mewn amgylchedd diogel a meithringar. Credwn nad yw cosbi plant yn gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru o gwbl. Mae erthygl 12 o'r Confensiwn yn pwysleisio pwysigrwydd canolog clywed a chymryd i ystyriaeth safbwyntiau plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Dyna pam ein bod wedi cyflwyno deddfwriaeth i sicrhau y bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio yn etholiad y Cynulliad yn 2021, ac etholiadau llywodraeth leol yn 2022. Rwy'n gwybod bod y diwygiadau hyn yn cael eu hystyried yn radical gan rai, hyd yn oed yn ddadleuol i rai, ond rwy'n credu bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dangos ein hymrwymiad i hawliau plant drwy wneud cynnydd yn y meysydd hollbwysig hyn.
Gadewch imi droi yn awr yn benodol at adroddiad blynyddol y Comisiynydd ac ymateb y Llywodraeth iddo. Yn adroddiad blynyddol eleni, mae'r Comisiynydd wedi gwneud 14 argymhelliad i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau plant, iechyd, addysg a thrafnidiaeth. Cyhoeddom ein hymateb i'r adroddiad blynyddol ar 3 Rhagfyr, sy'n nodi ein hymateb cynhwysfawr i bob un o argymhellion y Comisiynydd yn ogystal â'r hyn rydym ni wedi ei wneud neu'n bwriadu ei wneud yn y meysydd hyn.
Mae ein hymrwymiad i hawliau plant, rwy'n credu, yn cael ei ddangos yn glir wrth i Lywodraeth Cymru dderbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, 12 o'r 14 argymhelliad yn adroddiad blynyddol eleni, ac rwy'n credu bod hyn yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn cymryd hawliau plant o ddifrif ac yn dangos ein hymrwymiad llwyr i weithio'n agos iawn gyda'r comisiynydd plant.
Rwy'n gwybod y bydd fy nghyd-Aelodau yn y Cynulliad yn awyddus i drafod yr adroddiad blynyddol a'n hymateb yn fanylach, ond hoffwn dynnu sylw'n fyr at un enghraifft bwysig o'r ffordd rydym ni'n ymateb yn gadarnhaol i'r argymhellion yn yr adroddiad blynyddol. Mae hyn yn y maes hollbwysig o fynd i'r afael â bwlio. Mae hwn yn faes y mae'r comisiynydd plant wedi gwneud llawer o waith gwerthfawr ynddo, ac rwy'n gwybod fod gan lawer o'm cyd-Aelodau yn y Cynulliad ddiddordeb brwd yn y maes hwn. Mae argymhelliad y comisiynydd plant yn y maes hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion yn cadw cofnod o bob digwyddiad a'r math o fwlio a gofnodir. Hoffai'r Comisiynydd weld pob ysgol yn defnyddio'r wybodaeth hon i gynllunio, monitro a gwerthuso eu gwaith gwrth-fwlio ataliol ac ymatebol.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Ar 6 Tachwedd eleni, 2019, cyhoeddwyd canllawiau statudol gwrth-fwlio newydd, 'Hawliau, parch, cydraddoldeb', i helpu ysgolion i ymdrin â bwlio. Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r disgwyliad y bydd ysgolion yn cofnodi'r holl achosion o fwlio, gan amlinellu'r mathau penodol o fwlio a'u bod yn monitro prosesau'n rheolaidd ac yn dadansoddi data yn rhan o'u hunanwerthusiad. Mae'r canllawiau'n nodi'n glir y dylai ysgolion ymateb i dueddiadau penodol a materion sy'n codi mewn ffordd gyflym ac effeithiol, mewn ymgynghoriad â disgyblion a'u rhieni/gofalwyr.
Rwy'n credu mai gyda diwygiadau ymarferol fel hyn a'r lleill yn ein hymateb y byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd tuag at iechyd, hapusrwydd a diogelwch ein plant i gyd, oherwydd dyna eu hawl nhw a'n cyfrifoldeb ni.
Lle mae gennym y grymoedd i gyflawni newid, byddwn yn gweithredu er budd hawliau plant. Rhaid inni gydnabod, fodd bynnag, fod penderfyniadau a wneir yn San Steffan yn effeithio'n ddifrifol ar fywydau plant yma yng Nghymru, a chredaf fod hynny wedi ei ddangos yn glir yn y ddadl a gawsom ni o'r blaen—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Yn sicr, gwnaf.
Diolch am ildio, Julie. Cytunaf yn llwyr â'r hyn yr ydych newydd ei ddweud am bwysigrwydd ysgolion yn cofnodi data o ran bwlio, ond a fyddech chi hefyd yn cytuno, er mwyn sicrhau tryloywder, ei bod hi'n bwysig nad cael ei gofnodi'n unig y bydd data ond y dylai fod ar gael i rieni petaent yn gofyn amdano fel ein bod yn cael darlun cywir o fwlio, ac, yn bwysicach, y mathau o fwlio sy'n digwydd mewn gwahanol ysgolion? Oherwydd gallai'r achosion hynny amrywio o ardal i ardal a bydd angen ymateb penodol, yn dibynnu ar y sefyllfa benodol.
Deallaf fod yr Aelod yn gofyn i'r ysgolion gyhoeddi'r data a gasglant—
Ni ddywedais—. Mae'n ddrwg gennyf
A ydych chi eisiau egluro?
Ni ddywedais 'cyhoeddi' fel y cyfryw, oherwydd gallwn ddeall y gallai hynny achosi rhai problemau—
Gallai hynny achosi rhai anawsterau, gallai.
—ond bod y data hwnnw ar gael os gofynnir amdano, yn hytrach na chael ei gadw o'r neilltu, oherwydd efallai na fyddai rhai ysgolion eisiau i'r math hwnnw o ddata fod ar gael i'r cyhoedd na bod ar gael i rieni, am resymau amlwg.
Ie. Credaf fod hynny'n rhywbeth y gallem yn sicr ei drafod gydag ysgolion o ran sicrhau ei fod ar gael. Diolch.
Lle mae gennym y dulliau i gyflawni newid, byddwn yn gweithredu er budd hawliau plant, ond, fel yr wyf newydd ddweud, mae'r penderfyniadau a wneir yn San Steffan yn effeithio'n ddifrifol ar fywydau plant yma yng Nghymru, ac rydym wedi trafod hynny'n frwd y prynhawn yma. Er enghraifft, siaradodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gynharach am y cyni a'r toriadau lles a sut maen nhw wedi effeithio ar dlodi plant a'i gynyddu, a chredaf fod hynny'n rhywbeth yr ydym yn gwneud ein gorau i'w liniaru, ond yn amlwg, nid yw'r dulliau pwerus iawn hynny gennym ni. Rwy'n gwybod fod llawer iawn o angerdd ac arbenigedd ar hawliau plant yma yn y Cynulliad, felly edrychaf ymlaen at glywed eich barn. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol bod materion hawliau plant wrth wraidd ein gwaith o lunio polisïau ym mhob agwedd ar y Llywodraeth, ac y gallwn ni barhau i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd, ond byddwn bob amser yn cydnabod bod gennym ni lawer i'w wneud o hyd.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am gyflwyno'r adroddiad ac ymateb y Llywodraeth. Nawr, mae cyflawniadau mawr y gallwn ni i gyd fod yn falch ohonyn nhw yma yng Nghymru, a hynny o ganlyniad i waith Comisiynydd Plant Cymru. Pan feddyliwch am rai o'r prosiectau y mae hi wedi gweithio arnyn nhw—. Bellach gwelsom ethol Senedd Ieuenctid, yr ydym wedi cydweithio â hi arni; y cynadleddau hawliau ysgolion uwchradd cyntaf i fyfyrwyr a staff; a'r gefnogaeth a roddir i gyrff cyhoeddus mawr i fabwysiadu ymagwedd hawliau plant.
Mae'r adroddiad blynyddol yn amlygu rhai ffeithiau gwych sy'n deillio o swyddfa'r comisiynydd: y ffaith ei bod wedi ymgysylltu â 9,857 o blant a phobl ifanc ledled Cymru; wedi hyfforddi'n uniongyrchol tua 700 o blant a phobl ifanc i fod yn llysgenhadon hawliau yn eu hysgolion a'u cymunedau; a chynnal yr arolwg hawliau addysg cyntaf erioed, gan sicrhau 6,392 o ymatebion.
Nawr, fel y dywedodd y comisiynydd, mae heriau sylweddol o hyd o ran hawliau plant ledled Cymru. Felly, roedd yn ddiddorol iawn darllen ei hadroddiad a'i hargymhellion i Lywodraeth Cymru. O ran gofal preswyl i blant sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth, dim ond mewn egwyddor y mae Llywodraeth Cymru, ysywaeth, wedi derbyn yr argymhelliad cyntaf. Yr hyn y gelwir amdano yw arian newydd wedi'i neilltuo'n benodol at ddibenion darpariaeth breswyl iechyd meddwl a gofal cymdeithasol wedi ei chomisiynu ar y cyd, i blant a phobl ifanc sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth yng Nghymru. Ond, nid oes ymrwymiad wedi'i wneud ynglŷn â'r cyllid hwnnw. Mae hyn er gwaethaf y ffaith fod yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith nad yw'r gronfa trawsnewid a'r gronfa gofal integredig yn cwmpasu Cymru gyfan.
Hefyd, mae'r adroddiad yn cynnwys enghraifft rymus iawn o'r effaith y mae'r diffyg darpariaeth bresennol wedi'i chael ar blentyn sydd ag anghenion ymddygiadol cymhleth. Er enghraifft, ni ddylai'r comisiynydd orfod ymyrryd er mwyn i blentyn gael ei symud o ward oedolion ar ôl sawl wythnos. Nid yw hynny'n ddigon da. Felly, anogaf y Dirprwy Weinidog i fwrw ymlaen ar frys â'i gwaith i ddatblygu trefniadau comisiynu ac, o leiaf, neilltuo cyllid ar gyfer y tymor byr.
Yn yr un modd, credaf y gellir gwneud mwy i wahardd yr arfer o wneud elw mewn gwasanaethau gofal plant. Mae natur frys hyn yn amlwg wrth ystyried bod traean o blant Cymru mewn gofal maeth yn cael eu lleoli gydag asiantaethau annibynnol, a chanfyddiadau'r comisiynydd y bu rhai pobl ifanc yn ymwybodol iawn o gostau ariannol eu lleoliadau eu hunain, ac mae'r rhieni'n anghyfforddus oherwydd bod elfen o wneud elw yn rhan o'u hangen am ofal a chymorth.
Er fy mod yn croesawu'r ffaith eich bod yn parhau i weithio gyda'r fframwaith maethu cenedlaethol i recriwtio mwy o ofalwyr maeth mewn awdurdodau lleol, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer comisiynu a rheoli'r sbectrwm llawn o leoliadau i blant mewn gofal? Yn yr un modd, Dirprwy Weinidog, hoffwn gael eglurhad o'r ffaith eich bod yn gwrthod rhoi dyletswydd ar bob corff perthnasol i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawlia'r Plentyn wrth gyflwyno'r cwricwlwm. Er gwaethaf bodolaeth Mesur Plant a Phobl ifanc (Cymru) 2011, credaf fod hyn yn gamgymeriad. Mae'r comisiynydd yn iawn wrth ddweud mai'r ffordd orau o sicrhau bod plant yn dysgu am eu hawliau yw mewn amgylcheddau sy'n parchu'r hawliau hynny, a gellir gwneud hynny drwy osod dyletswydd ar wyneb y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
Ategir hyn gan y ffaith mai dim ond 34 y cant o'r plant a'r bobl ifanc a gymerodd ran yn Y Ffordd Gywir: Arolwg Addysg oedd hyd yn oed wedi clywed am y CCUHP; bod pobl ifanc wedi dweud wrth y comisiynydd bod angen help arnynt i ddeall eu hawliau; a'r dystiolaeth yr ydym ni wedi bod yn ei chlywed yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, drwy ein hymchwiliad presennol i hawliau plant yng Nghymru. Felly, byddai o ddiddordeb i mi, Dirprwy Weinidog, gael gwybod sut rydych chi'n gweithio gyda'r Gweinidog Addysg i fynd i'r afael â'r pryderon hynny.
Mae angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i hyrwyddo hawliau plant mewn addysg ac ysgolion, felly, a hithau'n ddeng mlynedd ar hugain ers sefydlu'r CCUHP, rwy'n eich annog i ailystyried gwrthod argymhelliad y comisiynydd yn hyn o beth.
Croesawaf yr adroddiad, rwy'n credu bod mwy y gallwn ei wneud, fel y gwnaethoch chi ddweud, o ran hawliau plant yng Nghymru, ond hoffwn ganmol a diolch i'r comisiynydd plant am bopeth mae hi'n ei wneud, gan weithio gyda ni a gweithio gyda'r Llywodraeth, i gefnogi hawliau ac anghenion ein plant yng Nghymru.
Rwy'n falch iawn o allu cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Cyfeiriwyd eisoes at ben-blwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn ddeg ar hugain oed. Rwy'n credu, wrth gwrs, bod yn rhaid inni hefyd gofio pen-blwydd pwysig arall y byddwn yn ei goffáu yfory, sef ugeinfed pen-blwydd adroddiad Waterhouse. Ymateb y Cynulliad hwn i'r adroddiad hwnnw a barodd mai ni oedd y weinyddiaeth Llywodraeth gyntaf yng Nghymru i sefydlu comisiynydd plant—yn greadigol, gan nad oedd gennym y pwerau deddfwriaethol i wneud hynny ar y pryd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol dweud ein bod wedi dod yn bell iawn tuag at wireddu hawliau plant, yn enwedig hawliau plant ar gyfer rai o'n pobl fwyaf agored i niwed. Ond, fel mae'r Gweinidog wedi dweud, mae gennym ni ffordd bell iawn i fynd.
Mae cymaint yn adroddiad y comisiynydd, a byddwn yn ategu popeth y mae'r Gweinidog a Janet Finch-Saunders wedi'i ddweud ynghylch pa mor ddiolchgar yr ydym ni i'r comisiynydd, i'w thîm, am y modd y maen nhw'n gweithio mor effeithiol i ddileu'r rhwystrau rhag gwireddu i hawliau plant. Mae'n amhosib, yn yr amser sydd ar gael i mi heddiw, i wneud sylwadau ar bopeth yr hoffwn ei godi, ond hoffwn wneud sylwadau ar dri maes penodol o argymhellion y comisiynydd, ac efallai gofyn i'r Gweinidog am ychydig mwy o wybodaeth am ymateb y Llywodraeth.
O ran y gyfres gyntaf o argymhellion ynghylch gofal preswyl i blant sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth, rwy'n falch iawn bod y Llywodraeth yn derbyn argymhellion y comisiynydd, er fy mod yn rhannu pryder Janet Finch-Saunders ynglŷn â derbyn argymhellion mewn egwyddor, y gwyddom o brofiad yn aml ei bod hi'n fwy arferol eu torri na'u hanrhydeddu. Byddwn yn annog y Gweinidog a'r Llywodraeth i weithredu ar frys yn hyn o beth.
Rwyf wedi bod yn ymdrin yr wythnos hon ag achos dyn ifanc iawn sydd ag anghenion amrywiol iawn a chymhleth iawn, yn ymwneud â'r sbectrwm awtistiaeth ac iechyd meddwl. Mae ei deulu wedi darganfod yr wythnos hon ei fod yn debygol o gael ei roi mewn sefydliad anghysbell ymhell iawn i ffwrdd, yn Lloegr. Ac mae gwir angen inni weithredu ar hyn, oherwydd mae pob diwrnod y mae'r bobl ifanc hynny oddi cartref yn ddiwrnod yn ormod, a phob dydd y mae eu perthynas â'u teuluoedd wedi chwalu yn ddiwrnod yn ormod.
Hoffwn gyfeirio at ymateb y Llywodraeth i argymhelliad 5 y comisiynydd, sy'n ymwneud â sicrhau bod y cwricwlwm newydd—bod dyletswydd, a grybwyllwyd gan Janet Finch-Saunders, ar bob corff perthnasol i roi sylw dyledus i'r confensiwn. Nawr, rwyf wedi drysu braidd gan ymateb y Llywodraeth, oherwydd mae'r Llywodraeth yn dweud, o gofio bod yn rhaid i'r Gweinidogion roi sylw dyledus i'r confensiwn, nad oes angen gosod dyletswydd ar gyrff eraill i roi sylw dyledus i'r confensiwn. Ond, yn ôl yr hyn a ddeallaf, Dirprwy Lywydd—rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn fy nghywiro os wyf yn anghywir—mae'r Llywodraeth eisoes wedi gosod dyletswydd i roi sylw dyledus ar gyrff drwy'r ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol. Felly, byddai gennyf ddiddordeb clywed gan y Gweinidog pam, mewn egwyddor, y gallwch chi wneud hynny yn y ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol, ond nad yw hi'n briodol gwneud hyn yn y cwricwlwm.
Mae Janet Finch-Saunders yn gywir, wrth gwrs, i ddweud nad yw'n ddigon i'r cwricwlwm ei hun gael cynnwys sy'n parchu hawliau, rhaid ei gyflwyno drwy sefydliadau sy'n parchu hawliau. Ac er bod gennym ni rai o'r ysgolion mwyaf anhygoel yma yng Nghymru, ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn ymweld â nhw'n rheolaidd, yn enwedig mewn addysg uwchradd, mae ffordd bell i fynd cyn bydd y sefydliadau hynny yn parchu hawliau'n llwyr. Rwyf felly wedi drysu ynghylch amharodrwydd y Llywodraeth i roi dyletswydd o sylw dyledus yn y ddeddfwriaeth. Byddai gennyf ddiddordeb clywed mwy gan y Gweinidog am ei rhesymau dros hynny.
Wrth gwrs, mae rhai ohonom yn dadlau dros ymgorffori'r confensiwn yn llawnach. Rydym yn ei ymgorffori'n rhannol yn ein fframwaith deddfwriaethol, ac mae'n bryd symud hynny ymlaen. Pe bai hynny wedi digwydd, efallai bod y Gweinidog yn iawn, efallai na fyddai angen gosod dyletswydd i roi sylw dyledus ar sefydliadau eraill. Ond, fel y mae pethau, ni allaf ddeall pam na wnawn nhw hynny.
Yna, hoffwn gyfeirio'n fyr at argymhelliad Rhif 7, nad yw Llywodraeth Cymru wedi cytuno i'w dderbyn chwaith. Rwy'n methu'n lân a deall hyn, oherwydd mae'r comisiynydd yn gofyn am adolygiad ac mae'r Llywodraeth yn gwrthod yr argymhelliad ac yna'n dweud eu bod yn mynd i gynnal adolygiad. Nawr, efallai fy mod yn methu rhywbeth yn hyn o beth, ond rwy'n credu bod angen—ac mae'n dda gweld y Llywodraeth yn dweud eu bod yn edrych ar hyn mewn gwahanol bortffolios, oherwydd wrth gwrs mae hyn yn effeithio ar sawl portffolio—ac os yw'r Llywodraeth yn derbyn yr angen am adolygiad, pam maen nhw'n dweud eu bod yn gwrthod argymhelliad y comisiynydd? A yw'n golygu nad ydynt eisiau yr un math o adolygiad ag y mae'r comisiynydd yn ei argymell? Felly, byddai'n ddefnyddiol, gan dderbyn yn llawn fwriadau da'r Gweinidog, ac yn yr achos hwn fwriadau da'r Llywodraeth, deall pam mae'r adolygiad y byddant yn ei gynnal yn wahanol i'r adolygiad y mae'r comisiynydd wedi'i argymell.
Ac, fel sylw olaf o ran y materion hyn ynglŷn â chludiant, mae ymateb y Llywodraeth yn dweud bod y trefniadau ar gyfer cludiant a diogelwch yn yr ysgol yn gweithio'n dda ar y cyfan. Wel, rwy'n siŵr o'm llwyth achosion yn fy etholaeth nad yw hynny bob amser yn wir, yn enwedig o ran myfyrwyr ôl-16. Byddwn i'n dadlau, fel y mae'r Comisiynydd yn ei wneud, fod y fframwaith deddfwriaethol sydd gennym ni gyda Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn hen ffasiwn gan fod gennym ni fwy a mwy o bobl ifanc yn aros mewn addysg yn llawn amser o 16 i 18 oed a thu hwnt. Ac mae hi wrth gwrs yn arbennig o bwysig bod gan y plant hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gludiant priodol.
Deuaf â'm sylwadau i ben, Dirprwy Lywydd. Mae cymaint mwy, rwy'n siŵr, y byddem i gyd yn hoffi ei ddweud. Rwy'n gwybod y caiff y materion hyn eu harchwilio'n drwyadl yn y pwyllgor priodol, ond rwy'n credu bod llawer i ymfalchïo ynddo gydag ymrwymiad y sefydliad hwn i hawliau plant dros yr 20 mlynedd o'n bodolaeth.
Mae llawer o eiriau poblogaidd yn yr adroddiad—'grymuso', 'hawliau', 'ymgynghori', 'ymgysylltu'—ond rwy'n siomedig iawn â'r adroddiad mewn gwirionedd. A'r hyn sy'n peri'r siom fwyaf i mi, yn wir yr hyn sy'n annerbyniol, i fod yn onest, yw nad oes un cyfeiriad at ddieithrio plentyn oddi wrth riant, dim sôn o gwbl yn yr adroddiad cyfan. Nawr, dieithrio plentyn oddi wrth riant yw hynny'n union. Gall ddigwydd i dadau, gall ddigwydd i famau. Rwy'n gwybod hyn oherwydd fy mod yn gweld cynifer ohonynt yn fy swyddfa, wythnos ar ôl wythnos, bron. Mae'n fath o gam-drin plant yn emosiynol, mae'n fath o gam-drin plant sy'n cael ei dderbyn ac, yn fwy at ddiben yr adroddiad hwn, mae hyn yn dystiolaeth ei fod yn fath o gam-drin plant sydd, mewn gwirionedd, yn cael ei anwybyddu gan yr union bobl a ddylai fod yn gwneud rhywbeth ynghylch y peth.
Os ydych yn blentyn sydd wedi'i dieithrio oddi wrth riant da a chariadus, rydych yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi, rydych yn llai tebygol o wneud yn dda mewn addysg, rydych yn fwy tebygol o ddioddef salwch meddwl, rydych yn fwy tebygol o hunan-niweidio, rydych yn fwy tebygol o gamddefnyddio sylweddau, rydych yn fwy tebygol o gael anawsterau eich hun wrth ffurfio perthynas yn oedolyn. Rwy'n credu mai dyma'r broblem enfawr sy'n cael ei hanwybyddu yng Nghymru ac, yn wir, yn y DU. Rwy'n credu mai esgeuluso dyletswydd yn syfrdanol yw hyn ac mae'n anghyfrifol peidio â siarad am hyn.
Mae llawer o sôn am y confensiwn—confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn. A bod yn berffaith onest, nid yw'n werth y papur y mae wedi'i ysgrifennu arno yng Nghymru, oherwydd bod gennych chi sefydliadau yng Nghymru, sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus, sy'n hwyluso ac yn gweithio gyda phobl sy'n ymroi i ddieithrio plant oddi wrth rieni neu sy'n gweithredu'r math hwnnw o gam-drin. Ac mae yna sefydliadau na ddylent mewn gwirionedd gael arian cyhoeddus nes bod ganddyn nhw bolisïau yn y maes hwn, ond nid oes ganddyn nhw unrhyw bolisïau am ei fod yn cael ei anwybyddu ac, yn wir, yn cael ei dderbyn.
Mae llawer yn cael ei ddweud y dyddiau hyn am lais plant, ac rwyf eisiau tynnu sylw at leisiau plant mewn gofal, ac rwyf wedi sôn am hyn sawl gwaith yn y Siambr hon. Soniais amdano y tro diwethaf roeddwn yn siarad am y materion hyn. Mae cymaint o blant yng Nghymru nad ydynt eisiau bod mewn gofal. Maen nhw eisiau bod gyda'u rhieni ac nid oes neb yn gwrando arnyn nhw. Nid eir i'r afael â'r maes hwn a dylai hyn gael sylw eto yn yr adroddiad hwn, ond nid yw'n cael y sylw hwnnw.
Rwy'n pryderu'n fawr hefyd oherwydd pan fydd plant mewn gofal yn honni eu bod yn cael eu cam-drin, nid oes neb yn gwrando arnynt. Dywedais hyn y tro diwethaf; fe ddywedaf hyn eto nawr oherwydd bod rhai wythnosau wedi heibio ers hynny: mae yna achos sy'n fy mhoeni'n fawr na all y comisiynydd plant ymdrin ag ef oherwydd ei fod yn achos unigol. Rwy'n pryderu'n ddirfawr am y modd y mae'r heddlu wedi ymdrin â'r mater hwn. Rydym ni nawr ym mis Rhagfyr. Rwyf wedi bod yn ceisio cael cyfarfod gyda'r swyddog uchaf ym maes diogelu'r cyhoedd yn Heddlu De Cymru ers mis Gorffennaf, ac nid wyf wedi gallu trefnu na chael y cyfarfod hwn. Mae hynny'n dweud wrthyf mewn gwirionedd nad yw Heddlu De Cymru'n cymryd cam-drin plant neu gam-drin honedig o ddifrif. Mae hwnnw'n bwynt yr hoffwn ei gofnodi, ac mae'n bwynt y dylem i gyd fod yn sôn amdano wrth inni nesáu at etholiadau'r comisiynydd heddlu a throseddu ym mis Mai y flwyddyn nesaf.
Fel y dywedais, rwy'n credu ei fod yn ddiffyg anferthol, anferthol, yn yr adroddiad hwn, sef nad yw mater sy'n effeithio ar gymaint o blant, ar gymaint o famau, ar gymaint o dadau, ar gymaint o neiniau, ar gymaint o wyrion, ar gymaint o deidiau, ar gymaint o deuluoedd, yn cael ei grybwyll hyd yn oed yn yr adroddiad. I wirio hynny—fe wnaf orffen nawr—bûm drwy'r ddogfen gyda'r adnodd 'chwilio' hyd yn oed i weld a oedd y gair 'parental' yno; nid oedd yn y ddogfen. 'Alienation'—teipiais hynny; nid oedd yn y ddogfen, dim ond rhag ofn fy mod wedi ei fethu drwy ddarllen drwy'r ddogfen, ac rwyf wedi ei darllen sawl gwaith, ac rwy'n siomedig iawn. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf i alw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl hon? Julie Morgan.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl, a diolch i'r rhai a ddiolchodd i'r comisiynydd plant am ei gwaith. Rwyf eisiau tynnu sylw ar y dechrau at rywbeth na soniais amdano yn fy araith, sef creu'r Senedd Ieuenctid, ac rwy'n falch iawn bod Janet Finch-Saunders wedi sôn am hynny oherwydd, yn amlwg, mae hynny'n gam mawr ymlaen o ran rhoi llais i blant ac roedd yn amlwg bod hyn yn rhywbeth a gefnogwyd yn gryf gan y comisiynydd plant. Felly, diolch yn fawr, Janet, am grybwyll hynny.
Nawr, i droi at rai o'r materion a godwyd, o ran mater gofal preswyl a'r angen am ofal preswyl i blant sydd ag anghenion cymhleth, mae'r Llywodraeth yn llwyr gydnabod yr angen i gomisiynu llety arbenigol i blant sydd ag anghenion cymhleth, yn enwedig i'r rhai sydd mewn perygl o fynd i leoliadau lles neu iechyd meddwl diogel, neu sy'n gadael darpariaeth ddiogel. Ac rydym yn gwybod bod gennym ni brinder mawr o'r math hwnnw o gyfleuster. Nid mater o gynyddu capasiti yn unig yw hyn; mae'n ymwneud â hyrwyddo modelau gofal sydd â phwyslais ar drawma. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni sicrhau bod trefniadau comisiynu ar y cyd priodol ar waith rhwng iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg fel bod anghenion y plant hyn yn cael eu diwallu ac nad ydynt yn syrthio rhwng gwahanol fathau o ddarpariaeth. Gwyddom fod problem yn aml o ran cael lleoedd ar gyfer plant cymhleth sydd ag anghenion anodd, ac mae'n digwydd eu bod weithiau yn y pendraw yn mynd allan o Gymru, gan fynd ymhell o'u cartrefi eu hunain weithiau, ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn gweithio'n galed iawn i'w atal.
Yr hyn y mae hwn mewn gwirionedd yn cysylltu ag ef yw pwynt Neil McEvoy yn ei araith lle mae'n dweud nad yw llawer iawn o blant eisiau bod mewn gofal. Yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yn y Llywodraeth yw lleihau nifer y plant y mae angen iddynt fod mewn gofal, ac rwy'n gwybod ei fod yn cefnogi'r polisi hwnnw. Ond rwy'n meddwl bod a wnelo hyn â chael darpariaeth ddigonol ar gyfer y plant hynny sy'n gorfod cael gofal. Felly, rydym yn ymchwilio i hyn drwy waith y grŵp gorchwyl a gorffen ar ofal preswyl i blant, ac rydym ni yn hyrwyddo dulliau gweithredu rhanbarthol drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol a'r gronfa gofal integredig, er bod yn rhaid imi ddweud bod y cynnydd yn anghyson. Mae gennym ni lawer mwy i'w wneud yn y maes hwn.
Felly, rydym ni wedi comisiynu darn o waith i'w ddatblygu a'i weithredu, er mwyn ceisio dod o hyd i atebion ar gyfer y grŵp bach iawn hwn o blant, ond yn bwysig iawn ein bod yn cael darpariaeth foddhaol ar eu cyfer. Gobeithio y byddwn yn gallu adrodd yn ôl o fewn chwe mis ar y cynigion hyn a gobeithiaf y byddwn yn gallu cael cynllun i Gymru gyfan ar gyfer ein hanghenion ar gyfer y grŵp cymhleth iawn hwn o blant, ac na fyddwn ni yn y pendraw mewn sefyllfa lle bydd yn rhaid inni eu hanfon allan o'r wlad, allan o'r sir, ac yn bell o'u cartrefi, oherwydd mae hi'n gwbl briodol fod plant—rydym i gyd yn gwybod—eisiau bod yn agos at eu teuluoedd, yn enwedig eisiau bod yn agos at eu brodyr a'u chwiorydd, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd. Felly, rydym yn gwneud y darn hwn o waith ac rwy'n gobeithio y byddwn yn cael gwybodaeth o hynny a fydd yn ein galluogi i symud ymlaen.
Roedd pwynt arall a wnaed yn ymwneud â gwneud elw wrth faethu. Unwaith eto, credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn oherwydd rwy'n gwybod, weithiau, bod plant yn ymwybodol bod pobl yn gwneud elw o ofalu amdanynt a bod yn rhaid inni ail-gydbwyso’r ddarpariaeth hon mewn gwirionedd, a dyna un o flaenoriaethau'r Prif Weinidog—sef ail-gydbwyso’r ddarpariaeth gofal cymdeithasol. Felly, rydym ni eisiau annog awdurdodau lleol i wneud llawer mwy i sicrhau bod gennym ni leoliadau maethu sy'n lleoliadau maethu awdurdodau lleol. Felly, rydym ni yn ymateb i'r argymhelliad hwnnw mewn ffordd gadarnhaol iawn.
Roedd a wnelo mater arall â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a sut rydym ni'n gwneud yn siŵr ei fod yn digwydd, sef y mater allweddol, mi gredaf. Nawr, nid wyf yn gwrthod yn llwyr unrhyw ymgais i gael unrhyw ddeddfwriaeth bellach ar hyn, ond rwy'n ymwybodol iawn bod y Dirprwy Weinidog Cydraddoldeb a'r Prif Chwip yn gwneud ychydig o ymchwil sy'n edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd, ac mae'n edrych i weld a allai fod yn bosib. Efallai y bydd angen deddf hawliau dynol arnom ni yn y Senedd nesaf. Felly, mewn gwirionedd, mae angen inni edrych ar hyn yn ofalus iawn ac yn ei gyfanrwydd. Felly, nid yw'r mater hwn yn cael ei wrthod. Yr hyn sy'n digwydd yw bod gwaith eisoes yn mynd rhagddo ac rydym ni eisiau sicrhau bod cyfle i fynd i'r afael â hyn mewn ffordd gyfannol a chynhwysfawr.
Ac yna'r broblem cludiant ar gyfer plant ag anghenion arbennig. Mae'r broblem cludiant yn ymwneud yn benodol â'r oedran ôl-16 oherwydd dyna lle mae'r mater o ddifrif yn berthnasol, rwy'n credu, a dyna lle rwy'n gweld y bydd yn berthnasol, a byddwn yn cynnal yr adolygiad, gan edrych ar y rhai ôl-16 yn enwedig. Mae'r sylw, gan y Llywodraeth, yn dweud ei bod hi'n ymddangos ei fod yn gweithio'n weddol dda, mae hynny mewn gwirionedd yn ymwneud â phlant dan 16 oed lle mae'n ymddangos ei fod yn gweithio'n dda iawn. Felly, byddwn yn edrych ar yr adolygiad ar gyfer y cyfnod ôl-16, ond, yn amlwg, rydym ni eisiau i unrhyw blentyn sydd angen cludiant ei gael—
A wnewch chi dderbyn ymyriad byr iawn?
Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n dal i fod ychydig yn ddryslyd, fodd bynnag, oherwydd eich bod yn cynnal adolygiad, ac mae'r comisiynydd wedi gofyn i chi gynnal adolygiad, ond dyma'r argymhelliad y mae eich ymateb ysgrifenedig yn dweud eich bod yn ei wrthod. Efallai y gallwch chi egluro—. Rwy'n credu bod a wnelo fy mhryder ynghylch a oedd yn fath gwahanol o adolygiad neu a oedd hi'n gofyn am rywbeth gwahanol i'r hyn yr ydych chi'n ei wneud. A doeddwn i ddim yn gallu gweld hynny yn ei hadroddiad nac yn eich ymateb chi, felly dim ond tybio oeddwn i. Rydym ni'n edrych am ychydig o eglurder ynghylch hynny oherwydd ymddengys i mi, mewn gwirionedd, eich bod yn derbyn yr argymhelliad, yn rhannol o leiaf.
Wel, mae'r comisiynydd yn galw am drefn lle mae pob plentyn sydd ag anghenion arbennig yn cael cludiant, ac nid ydym ni'n credu ei fod, o reidrwydd, yn angenrheidiol i bob plentyn gan y bydd rhai plant yn gallu cerdded. Felly, os ydych yn ei gymryd yn y ffordd dechnegol yna i raddau, rydym yn ei wrthod am y rhesymau hynny, ond rydym yn cydnabod bod yna broblemau, yn enwedig gyda'r oedran ôl-16, a dyna fyddwn ni'n edrych arno.
Ac yna, yn olaf, rwy'n credu, i ddod at bwynt Neil McEvoy am ddieithrio plentyn oddi wrth riant, rwyf eisiau ei sicrhau bod hwn yn faes sy'n cael ei ystyried yn ofalus iawn gan y Llywodraeth. Mae'n cael ei ystyried yn—. Yn sicr, rwyf wedi cael nifer o drafodaethau amdano gyda CAFCASS, ac yn sicr nid yw'n rhywbeth sy'n cael ei anwybyddu. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod mai'r hyn y mae'r adroddiad hwn yn sôn amdano yw rhestr benodol o bethau. Nid yw'n ymwneud â phopeth y mae gan y comisiynydd plant ddiddordeb ynddo, oherwydd mae'r adroddiadau gwahanol bob blwyddyn yn ymdrin â gwahanol faterion. Ac felly, rwy'n gwybod fod y comisiynydd plant yn bryderus iawn—
A wnewch chi dderbyn ymyriad cyflym?
—gwnaf, mewn eiliad—yn bryderus iawn ynghylch plant mewn gofal ac yn sicr yn gefnogol iawn i'n hagenda i ostwng nifer y plant mewn gofal.
Diolch am dderbyn yr ymyriad cyflym, Dirprwy Weinidog. Y broblem sydd gennyf ynghylch y comisiynydd plant yw, os darllenwch yr hyn a ddywedodd hi am ddieithrio, mae hi'n gwadu i bob pwrpas ei fod yn digwydd, ac mae CAFCASS yn dod i ddeall hyn yn hwyr iawn, sy'n gynnydd. Mae Lloegr ymhellach ar y blaen i Gymru. Ond mae'n ymddangos bod gennym ni gomisiynydd plant sy'n methu â chydnabod y broblem enfawr hon a dyna sydd wir yn fy mhoeni.
Gallaf eich sicrhau bod y Llywodraeth yn sicr wedi ystyried y mater o ddieithrio plentyn oddi wrth riant ac, mewn gwirionedd, mae gan Loegr yr un dull â Chymru fwy neu lai nawr. Rydym ni yn sicr wedi dechrau gweithio yn yr un ffordd yn hyn o beth ac rydym yn ymateb mewn ffordd gytbwys iawn, anemosiynol, i ddieithrio plentyn oddi wrth riant ac yn edrych ar hynny mewn ffordd gytbwys iawn. Felly, gallaf ei sicrhau ei fod ar ein hagenda. Diolch.
Iawn. Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nid ydym ni wedi gohirio unrhyw eitemau tan y cyfnod pleidleisio, felly dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw. Diolch.