1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Ionawr 2020.
2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i'r adolygiad diweddar o farwolaethau plant a phobl ifanc drwy hunanladdiad neu achos honedig o hunanladdiad? OAQ54862
Diolchaf i Lynne Neagle am y cwestiwn yna, Llywydd. Nodwyd rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i'r adolygiad yn ein cyllideb ddrafft, a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr, gyda buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau atal hunanladdiad, dyblu ein buddsoddiad yn y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, ac estyniad i raglen arbrofol Mewngymorth i Ysgolion y gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed.
Prif Weinidog, mae colli pob un o'r 33 o bobl ifanc sydd wedi eu cynnwys yn yr adolygiad hwnnw yn drychineb enfawr, a fydd wedi achosi trallod mawr i deuluoedd, ysgolion, ffrindiau, a chymunedau cyfan. Rwy'n credu mai'r adolygiad hwnnw yw'r peth agosaf sydd gennym ni i glywed lleisiau pobl ifanc sydd wedi marw drwy hunanladdiad; y peth agosaf sydd gennym ni i argymhellion ôl-weithredol gan y bobl ifanc hynny ynghylch yr hyn a allai fod wedi eu helpu, a sut y gallem ni atal marwolaethau yn y dyfodol. Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ystyried yr adolygiad hwn yn ofalus iawn, ac, ar ran eich Llywodraeth gyfan, sicrhau bod yr holl argymhellion sydd ynddo yn cael eu gweithredu yn ddiymdroi ac yn egnïol?
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rwyf i wedi cael cyfle yn barod i ddarllen yr adolygiad, i ddarllen ei rhagair ei hun iddo, a'r rhagair gan Gomisiynydd Plant Cymru, ac i edrych ar ei argymhellion. Ac wrth gwrs mae Lynne Neagle yn iawn, Llywydd, fod marwolaeth drwy hunanladdiad yn gadael tonnau o effeithiau sydd yn ymestyn allan i fywydau'r bobl sydd ar ôl, nid yn unig yn y teulu agos, ond ymhlith ffrindiau a sefydliadau eraill a fyddai wedi adnabod y plentyn hwnnw neu'r person ifanc hwnnw.
Ymhlith argymhellion yr adroddiad, rwy'n credu mai un pwysig iawn yw o'r 33 o bobl ifanc y mae eu hachosion yn cael eu hadolygu yn yr adroddiad, bod un o bob tri ohonyn nhw yn hysbys i'r gwasanaethau iechyd meddwl. Ac eto, roedd llawer mwy ohonyn nhw yn hysbys i wasanaethau cyhoeddus eraill, efallai nad oedd hunanladdiad neu atal hunanladdiad yn flaenllaw yn eu meddyliau pan oedden nhw'n gweithio gyda'r person ifanc hwnnw—boed hynny yn nalfa'r ifainc, lle'r ydym ni'n gwybod y bu cynnydd dychrynllyd i achosion o hunanladdiad mewn lleoliadau gwarchodol; boed hynny'n gysylltiad â'r heddlu; boed yn bobl ifanc sy'n hysbys i'r gwasanaethau cymdeithasol mewn gwahanol ffyrdd. Felly, wrth gwrs y bydd y Llywodraeth yn ymrwymo i ymgorffori argymhellion yr adroddiad, ar draws y Llywodraeth gyfan. Oherwydd nid mater i'r Gweinidog iechyd yw hwn, er bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhan o'r broses o lunio'r adroddiad; mae'n adroddiad ar gyfer y Llywodraeth gyfan, gan edrych i weld, pryd bynnag y bydd pobl ifanc agored i niwed mewn cysylltiad â gwasanaethau cyhoeddus—datganoledig ac annatganoledig—bod yr arwyddion a allai fod yno, yr achosion y gellir eu hadnabod, yn cael eu cydnabod ac y cymerir camau ar eu sail, yn unol ag argymhellion yr adroddiad.
Wel, wrth gwrs, mae'r adroddiad hwn yn rhan o ddarlun ehangach o adolygiadau sydd wedi bod yn cael eu cynnal dros flynyddoedd lawer. I'r teuluoedd a chyfeillion hynny o'r bobl ifanc a laddodd eu hunain ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 2007 a 2008 a thu hwnt, yn amlwg, iddyn nhw, nid yw'r digwyddiadau hynny'n teimlo mor bell yn ôl. Ac wrth gwrs, y defnydd o'r rhyngrwyd a oedd yn ymhlyg yn y clwstwr hunanladdiad hwnnw, sydd bellach wedi'i wreiddio mor ddwfn ym mywydau ein plant ifanc a'n pobl—wel, pobl ifanc yn gyffredinol—i mi, mae'n teimlo bron yn amhosibl ceisio amddiffyn yn erbyn y drygioni hynny, pan fo gennym ni gyn lleied o reolaeth dros ei ddefnydd cadarnhaol.
Yn 2015, argymhellodd Canolfan Ymchwil Hunanladdiad Prifysgol Rhydychen fesurau i'r gwasanaethau lleol hynny, i ymdrin â heintiau hunanladdiad—ymadrodd annymunol iawn, ond rwy'n credu eich bod chi'n gwybod yr hyn yr wyf i'n ei olygu. Dogfen ar gyfer Lloegr oedd hi, ond rwy'n siŵr y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ei gweld hefyd. A allwn ni briodoli'r gostyngiad i nifer y clystyrau hunanladdiad hyn i wasanaethau lleol yn gweithredu ar waith ymchwil o'r math hwnnw? Oherwydd os gallwn ni, mae hynny'n rhoi mwy o ffydd i ni y bydd gwasanaethau lleol yn gweithredu'r argymhellion yr ydym ni newydd fod yn eu trafod heddiw, a gweld eu bod nhw'n gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd.
Diolchaf i Suzy Davies am hynna. Dysgwyd gwersi yn uniongyrchol yng Nghymru, ac yn rhannol gan awduron yr adroddiad y cyfeiriodd Lynne Neagle ato o ganlyniad i glwstwr Pen-y-bont ar Ogwr, ac roedd un ohonyn nhw yn ymwneud â'r cyfryngau yn gohebu'n gyfrifol ar ddigwyddiadau o'r fath. Ac rwy'n credu ein bod ni wedi bod yn ffodus yma yng Nghymru y bu gennym ni gyfryngau lleol sydd wedi bod yn barod i ddysgu gwersi'r clwstwr hunanladdiad hwnnw ac nad ydyn nhw wedi gohebu ar ddigwyddiadau ers hynny mewn ffordd sy'n tynnu sylw brawychol atyn nhw sy'n arwain at bobl ifanc agored i niwed weithredu yn y pen draw mewn ffordd na fydden nhw, efallai, wedi eu hystyried fel arall.
Ac mae Suzy Davies yn sicr yn iawn, Llywydd, ei bod hi'n anodd iawn ymgorffori gwarchodaeth lwyr mewn unrhyw system sy'n ymdrin â bodau dynol. Ond rydym ni'n gwybod bod ffactorau sy'n helpu ac rydym ni'n gwybod bod ffactorau sy'n llesteirio pobl sy'n agored i niwed ac sy'n ystyried camau eithafol yn eu bywydau eu hunain. Rwy'n credu ein bod ni wedi dysgu rhai o'r gwersi yma yng Nghymru ac mae rhan o'r rheswm nad yw'r adroddiad hwn yn cyfeirio at ffenomen glwstwr ymhlith y 33 o bobl ifanc yr oedd eu hachosion yn cael eu hadolygu, yn rhannol o ganlyniad i ddysgu rhai o'r gwersi hynny.
Fel rhan o ymchwiliad y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr diweddar, pan ofynnodd yr Organisation for Economic Co-operation and Development i ddisgyblion am eu teimladau am eu profiadau bywyd, fe ddarganfuwyd fod 54 y cant o ddisgyblion yng Nghymru weithiau neu o hyd yn teimlo'n ddiflas—39 y cant ydy'r cyfartaledd rhyngwladol. Mae 63 y cant o ddisgyblion weithiau neu o hyd yn teimlo yn bryderus. Mae'r rhain yn ganlyniadau sydd yn codi braw ar rywun, dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno hefo fi. Rydych chi wedi ymrwymo i wneud llesiant ac iechyd meddwl yn flaenoriaeth genedlaethol, ond lle mae'r arwydd o symud i'r cyfeiriad hwnnw—symud arwyddocaol i'r cyfeiriad hwnnw—yn eich cyllideb ddrafft chi?
Wel, mae lot o enghreifftiau yn y gyllideb ddrafft, Llywydd, sy'n dangos beth rŷm ni'n ei wneud i ymateb i beth oedd yn yr adroddiad PISA a beth rŷm ni'n ei wneud yn ein hysgolion ni yn enwedig yw i gryfhau'r gwasanaethau sydd yna bob dydd i ymateb i'r plant sydd yn teimlo'n ddiflas, ddim yn teimlo fel bod eu dyfodol nhw yn y lle ble roedden nhw eisiau ei weld e. Dyna pam, yn y gyllideb ddrafft, mae mwy o arian—dwi'n mynd i droi i'r Saesneg.
Mae mwy o arian yn y gyllideb ddrafft ar gyfer gwasanaethau hunanladdiad a hunan-niweidio, er mwyn cryfhau ymhellach y gwasanaethau sydd gennym ni mewn ysgolion trwy gwnsela mewn ysgolion. Ac mae'r gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion yn enghraifft dda o sut y gall ymyrraeth o'r fath helpu pobl ifanc heb fod angen eu hatgyfeirio wedyn at wasanaethau pellach a dwysach. Nid oedd 87 y cant o'r 11,365 o bobl ifanc a dderbyniodd wasanaethau cwnsela yn ein hysgolion y llynedd angen ymyrraeth bellach; roedd 3 y cant ohonyn nhw angen atgyfeiriad at wasanaeth iechyd meddwl arbenigol yn unig, a dyna pam mae'r gyllideb ddrafft yn buddsoddi mwy o arian yn y dull ysgol gyfan hwnnw, yn union am y rhesymau y mae Siân Gwenllian yn cyfeirio atyn nhw yn gwbl briodol.