– Senedd Cymru am 3:22 pm ar 22 Ionawr 2020.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r Ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cefnogaeth mewn Profedigaeth ar ôl Hunanladdiad, a galwaf ar Lynne Neagle i gyflwyno'r cynnig. Lynne.
Cynnig NDM7211 Lynne Neagle, Dai Lloyd, David Melding
Cefnogwyd gan Angela Burns, David Rees, Jack Sargeant, Jayne Bryant, Joyce Watson, Mark Isherwood
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod colli rhywun i hunanladdiad yn golled unigryw o ddinistriol i deuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan.
2. Yn nodi'r cymorth cyfyngedig sydd ar gael yng Nghymru i gefnogi'r rhai sy'n dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad.
3. Yn nodi bod colli rhywun i hunanladdiad yn ffactor risg mawr ar gyfer marw drwy hunanladdiad a bod cymorth i'r rhai sydd wedi cael profedigaeth yn rhan hanfodol o atal hunanladdiad.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ar frys bod cymorth ar gael i'r rhai sydd mewn galar ar ôl hunanladdiad ledled Cymru fel rhan o lwybr ôl-gyflawni cynhwysfawr i Gymru. Wrth wneud hynny, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwelliannau i wasanaethau a'r llwybr newydd yn cael eu llunio ar y cyd gan y rhai sydd wedi byw drwy brofedigaeth hunanladdiad.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar brofedigaeth ar ôl hunanladdiad. Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd AC a David Melding AC am gyd-gyflwyno'r cynnig gyda mi heddiw, ac i Dai Lloyd am gloi'r ddadl. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl Aelodau sydd wedi cefnogi'r cynnig.
Heddiw, rwyf am ddechrau drwy gydnabod bod colli rhywun i hunanladdiad yn golled unigryw o ddinistriol. Mae'n gadael pobl mewn lle tywyll iawn. Nawr, gwn fod galar yn beth personol iawn, a bod pawb yn ei brofi yn eu ffordd eu hunain ac yn ymdopi'n wahanol. Nid wyf yn bwriadu bychanu effaith profedigaethau eraill mewn unrhyw ffordd, ond er mwyn sicrhau y rhoddir y gefnogaeth gywir i'r rheini sydd wedi cael profedigaeth drwy hunanladdiad, mae'n rhaid i ni gydnabod y ffyrdd y mae'n wahanol i fathau eraill o brofedigaeth a pha mor unigryw o ddinistriol ydyw. Yn wir, mae'n anodd ei roi mewn geiriau, hyd yn oed. Yn ogystal â'r brofedigaeth dorcalonnus o golli rhywun rydych yn eu caru, yn aml ceir stigma ac arwahanrwydd, teimladau dinistriol o euogrwydd, ac oes o ofyn, 'Beth os?', 'O na bai', ac yn anad dim, 'Pam?'—cwestiwn na fydd rhai pobl byth yn gallu dod o hyd i'r ateb iddo.
Gall colli rhywun i hunanladdiad gael effaith fawr hefyd ar bobl ymhell y tu hwnt i deulu a ffrindiau agos yr ymadawedig. Rwyf wedi disgrifio hunanladdiad o'r blaen fel craig fawr yn cwympo i mewn i bwll. Mae'r tonnau'n crychdonni tuag allan ac maent yn eang ac yn bellgyrhaeddol.
Bob blwyddyn yng Nghymru, collir oddeutu 300 i 350 o fywydau drwy hunanladdiad. Arferid dweud bod pob hunanladdiad yn effeithio ar chwech o bobl, ond mae ymchwil fwy diweddar wedi canfod bod 135 o bobl yn cael eu heffeithio mewn gwirionedd. Mae colli rhywun i hunanladdiad yn dinistrio teuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan. Gwyddom hefyd fod colli rhywun i hunanladdiad yn ffactor risg sylweddol ar gyfer marw drwy hunanladdiad, yn enwedig i bobl ifanc sydd mewn grŵp risg uchel. Felly, cefnogaeth i'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad yw un o'r pethau mwyaf effeithiol y gallwn eu gwneud i atal pobl rhag marw drwy hunanladdiad.
Bydd yr Aelodau'n cofio i’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, o dan gadeiryddiaeth fedrus Dai Lloyd, gynnal ymchwiliad pwysig i atal hunanladdiad yng Nghymru yn 2018, gan gynhyrchu adroddiad o'r enw 'Busnes Pawb'. Fel rhan o'r ymchwiliad hwnnw, fe wnaethom edrych yn ofalus ar y gefnogaeth sydd ar gael i bobl sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad, gan gynnwys cyfarfod â phobl sy'n byw gyda cholli rhywun i hunanladdiad.
Rwyf wedi siarad o’r blaen yn y Siambr hon am ymweliad y pwyllgor â Sefydliad Jacob Abraham yng Nghaerdydd lle cyfarfuom â grŵp o berthnasau, pob un ohonynt wedi colli meibion, gwŷr, tadau, a brodyr i hunanladdiad. Roedd un ddynes wedi colli nid un ond dau fab i hunanladdiad—sy'n atgoffa rhywun, yn gwbl dorcalonnus, o'r risg y mae profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad yn ei chreu. Mae'n arswydus meddwl nad oedd unrhyw un o’r teuluoedd hynny wedi cael unrhyw gymorth arbenigol, heblaw am y gefnogaeth a gynigiai'r sefydliad. Nid oeddent wedi cael 'Cymorth wrth Law Cymru' hyd yn oed, llyfryn rhagorol Llywodraeth Cymru ar brofedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad. Nawr, nid yw Sefydliad Jacob Abraham yn cael unrhyw arian statudol ac mae wedi bod yn gweithredu o'r llaw i'r genau ers ei sefydlu gan Nicola Abraham ar ôl iddi golli ei mab Jacob i hunanladdiad yn 2015. Yn ‘Busnes Pawb', dywedodd y pwyllgor yn glir iawn, a dyfynnaf:
'Cawsom ein syfrdanu i glywed am y diffyg cymorth sydd ar gael i’r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad.’
Dyna pam fod y pwyllgor wedi gwneud tri argymhelliad ar gymorth profedigaeth. Fe wnaethom alw am ddatblygu llwybr ôl-ymyrraeth ledled Cymru ar gyfer hunanladdiad fel blaenoriaeth ar unwaith. Fe wnaethom alw am hyrwyddo 'Cymorth wrth Law Cymru' yn fwy gweithredol, ac fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth weithredol i ddarparu cyllid ar gyfer grwpiau cymorth i'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad. Fe wnaethom yr argymhellion hynny yn ôl ym mis Tachwedd 2018, a bellach, fwy na blwyddyn yn ddiweddarach, nid oes digon wedi newid o bell ffordd.
Croesawais y cyllid ychwanegol o £500,000 a ddarparwyd mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor iechyd i ariannu swydd arweinydd atal hunanladdiad cenedlaethol newydd yng Nghymru a chydgysylltwyr rhanbarthol. Rwy'n cydnabod y bu oedi wrth benodi'r unigolyn hwnnw, a bod hynny wedi arafu cynnydd, ond gan fod penodiad wedi'i wneud bellach, mae gwir angen i ni symud yn gyflym. Croesawaf hefyd y 1,500 copi o 'Cymorth wrth Law Cymru' a argraffwyd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ein hadroddiad, ond rwy'n dal i gyfarfod pobl sydd wedi cael profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad nad ydynt wedi cael copi o’r adnodd hanfodol hwn, nac wedi cael gwybod amdano. Ac ni wnaed unrhyw fuddsoddiad mewn grwpiau cymorth, ac yn wir, mae’r grŵp olaf ar gyfer goroeswyr profedigaeth ar ôl hunanladdiad yng Nghymru wedi dod i ben.
Bob tro y mynegais fy mhryderon ynghylch profedigaeth ar ôl hunanladdiad dros y flwyddyn ddiwethaf, tynnwyd fy sylw at adolygiad Llywodraeth Cymru o wasanaethau profedigaeth, er fy mod wedi dweud dro ar ôl tro nad wyf yn credu bod angen adolygiad arnom i ddweud wrthym fod gwasanaethau profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn druenus o annigonol yng Nghymru. Mae'r adolygiad hwnnw bellach wedi cyflwyno ei adroddiad, ac mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n wirioneddol siomedig ag ef. Nid wyf yn cydnabod y darlun y mae'n ei baentio o'r gefnogaeth y mae'n honni ei bod ar gael ar gyfer profedigaeth ar ôl hunanladdiad. Yn ôl pob tebyg, mae chwe gwasanaeth yn cynnig cymorth profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn Nhorfaen. Mae Caerffili, Caerdydd, Sir y Fflint, Sir Benfro, a Rhondda Cynon Taf yn gwneud yn well byth, gydag wyth yr un. Pwy fyddai'n meddwl? Yn sicr, nid y bobl y cyfarfûm â hwy sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad. A bod yn deg â'r adroddiad, mae'n amlwg fod y mwyafrif—81 y cant o ddarparwyr—yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth ac yn cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill, ac mae hynny, i mi, yn codi llawer o gwestiynau ynglŷn â sut beth yw'r gefnogaeth hon. A yw'n daflen, e-bost, galwad ffôn? Ac oni ddylai'r adroddiad fod wedi nodi’n glir pa fath o gefnogaeth sy'n cael ei chynnig a chan bwy? Gwyddom o'r adroddiad fod cefnogaeth arbenigol yn brin ar lawr gwlad, ond nid yw'n dweud unrhyw beth wrthym am bwy sy'n darparu'r gefnogaeth honno, pa mor hir y mae'n rhaid i bobl aros amdani nac unrhyw beth am ansawdd y gwasanaethau, nac unrhyw beth arall yn ei gylch.
Gŵyr y Gweinidog yn iawn fod hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yn achos sy'n agos iawn at fy nghalon. Mae elusen 2 Wish Upon a Star yn darparu cefnogaeth mewn profedigaeth i deuluoedd sy'n colli plentyn neu oedolyn ifanc mewn ffordd sydyn a thrawmatig, gan gynnwys drwy hunanladdiad. Fe’i sefydlwyd gan Rhian Mannings, yn dilyn marwolaeth ei babi bach, George, a hunanladdiad trasig ei gŵr, Paul, bum niwrnod yn unig yn ddiweddarach. Yn union fel Nicola Abraham, mae Rhian wedi defnyddio'i phrofiad byw o brofedigaeth ar ôl hunanladdiad i geisio atal teuluoedd eraill rhag dioddef yr hyn y mae hi wedi'i ddioddef. Maent yn gwneud gwaith gwych ledled Cymru. Mae'r blychau cofio y maent yn eu darparu ar gyfer teuluoedd sydd wedi colli plentyn yn yr ysbyty yn rhoi ychydig gysur ar yr adeg dywyllaf, heb os, ym mywyd unrhyw riant. Mae eu gallu i gynnig cefnogaeth yn fuan ar ôl y brofedigaeth, neu pan fo angen y gefnogaeth honno, yn achub bywydau, yn llythrennol, i rai teuluoedd. Maent hefyd yn darparu cefnogaeth fawr ei hangen ar gyfer brodyr a chwiorydd sydd mewn profedigaeth. Ac eto, er eu bod yn derbyn atgyfeiriadau gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru, ac yn darparu gwasanaeth ym mhob adran ddamweiniau ac achosion brys a'r rhan fwyaf o adrannau gofal critigol, nid yw 2 Wish Upon a Star yn cael ceiniog o arian cyhoeddus gan unrhyw un o'r byrddau iechyd. Mae hynny'n gwbl anghywir.
Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu’r argymhellion yn 'Busnes Pawb' ar frys i ddatblygu strategaeth ôl-ymyrraeth ar gyfer hunanladdiad. Dylai'r strategaeth honno gael ei chydgynhyrchu gyda phobl sydd â phrofiad o brofedigaeth ar ôl hunanladdiad, a sicrhau bod cefnogaeth hyblyg ar gael i bobl pan fydd ei hangen arnynt, boed hynny’n syth ar ôl hunanladdiad, mewn chwe wythnos, neu ddwy, dair neu 10 mlynedd yn ddiweddarach. Mae’n rhaid i hynny hefyd gynnwys mynediad amserol at driniaeth arbenigol ar gyfer anhwylder straen wedi trawma, a ddioddefir yn aml gan rai sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad, yn enwedig y rhai a ddaeth o hyd i'w hanwylyd.
Rydym ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r DU ar hyn. Mae gan Loegr lwybr ôl-ymyrraeth eisoes a allai helpu i lywio ein llwybr ni, ac mae enghreifftiau gwych o gefnogaeth mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn Lloegr, a llawer ohonynt wedi'u cydgynhyrchu gyda theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth. Ond mae'n ymwneud â mwy na chefnogi unigolion yn unig; mae'n ymwneud hefyd ag ôl-ymyrraeth mewn sefydliadau lle bu marwolaeth drwy hunanladdiad, boed hynny mewn ysgol, gwasanaeth tân, ysbyty, practis meddyg teulu neu orsaf drenau. Dylem ni yn y Cynulliad hwn fod yn fwy ymwybodol na llawer am bwysigrwydd hanfodol ymateb ôl-ymyrraeth i golli ffrind a chydweithiwr i hunanladdiad. Mae'r angen am ôl-ymyrraeth hunanladdiad ym mhob ysgol yng Nghymru yn arbennig o agos at fy nghalon. Yn Lloegr, cyhoeddwyd canllawiau newydd sy'n nodi y dylid trin un achos o hunanladdiad mewn ysgol fel clwstwr posibl am fod pobl ifanc mor agored fel grŵp risg uchel ar gyfer hunanladdiad.
Rwy’n canmol y canllawiau newydd a gomisiynodd Llywodraeth Cymru gan yr Athro Ann John ar siarad am hunanladdiad gyda phobl ifanc sy'n hunanladdol ac yn hunan-niweidio, ond nid ydynt yn ddigon. Mae angen inni sicrhau bod iechyd meddwl ac atal hunanladdiad wedi'i ymgorffori yn y cwricwlwm yng Nghymru, er mwyn cyrraedd y bobl ifanc nad oes unrhyw un yn gwybod eu bod yn hunanladdol tan eu bod, yn drasig, yn cyflawni hunanladdiad. Mae’n rhaid inni sicrhau hefyd fod pob ysgol yn ymgymryd ag ôl-ymyrraeth yn dilyn hunanladdiad. Gwn fod rhai ysgolion wedi bod yn barod iawn i ddefnyddio rhaglen ôl-ymyrraeth Cam wrth Gam y Samariaid, ond mae eraill y gwn amdanynt heb wneud unrhyw beth o gwbl, heblaw am ambell sesiwn gwnsela. Rwy'n falch iawn fod gan Papyrus ganolfan yng Nghymru bellach, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod ysgolion yn defnyddio gwasanaethau’r sefydliad hwnnw a'r Samariaid. Ni all fod yn ychwanegiad dewisol; mae'n rhy hwyr pan fydd unigolyn ifanc arall wedi marw.
A bydd, fe fydd angen adnoddau ychwanegol i wneud hyn, ond wrth unrhyw sy'n dweud na allwn fforddio gwneud hyn, rwy'n dweud na allwn fforddio peidio. Amcangyfrifwyd bod pob achos o hunanladdiad yn costio £1.6 miliwn i bwrs y wlad. Faint yn well fyddai gwneud yr hyn y mae'r Llywodraeth yn siarad cymaint amdano a buddsoddi mewn cymorth ac ymyrraeth gynnar i'r rheini sydd mewn profedigaeth? Mae gennym bobl a sefydliadau gwych yn gweithio yn y maes hwn yng Nghymru. Hoffwn dalu teyrnged i'r Athro Ann John, sy'n cadeirio grŵp cynghori cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar atal hunanladdiad. Mae Ann yn gweithio'n ddiflino, a diolch iddi am hynny. Ond mae'n rhaid inni sicrhau bod gan bobl fel Ann adnoddau ac ymrwymiad llawn Llywodraeth Cymru i wneud y gwaith y maent yn dymuno’i wneud.
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn aml yn cael sylw gwael, ac rwy'n siŵr y gall pob un ohonom ddeall hyn yma. Fodd bynnag, rwyf wedi gweld bod Twitter yn gyfle gwych i rwydweithio â phobl o'r un anian. Drwy Twitter, rwyf wedi dod i adnabod grŵp o famau sydd wedi colli plant drwy hunanladdiad. Daw rhai ohonynt o Gymru; daw eraill o fannau eraill yn y DU. Maent wedi llysenwi eu hunain yn 'The Warrior Mums', ac maent yn rhyfelwyr go iawn, a hynny bob dydd.
Felly, hoffwn gloi heddiw drwy dalu teyrnged twymgalon i'r holl famau dewr, y tadau dewr, ac i ddewrder pawb sy'n byw bob dydd gyda cholli rhywun i hunanladdiad. Ein dyletswydd ni, Weinidog, yw anrhydeddu eu dewrder, drwy weithio gyda hwy i ddarparu'r cymorth profedigaeth ar ôl hunanladdiad y mae ei ddirfawr angen yng Nghymru, ac achub bywydau wrth wneud hynny.
David Melding.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, am fy ngalw yn y ddadl hollbwysig hon. A gaf fi ddechrau drwy dalu teyrnged i Lynne Neagle, sy'n llais ac yn arweinydd rhagorol yn y maes hwn, fel Cadeirydd y pwyllgor, ac yn gyffredinol yn ein dadleuon yma, ac sydd wedi gwneud cymaint i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, i ganmol y Llywodraeth pan fo'n gwneud yn dda, ond hefyd i'w hatgoffa pan fo bwlch enfawr sy'n dal i fod angen ei lenwi?
Credaf y bydd pob un ohonom sydd wedi gwasanaethu fel Aelodau Cynulliad am unrhyw gyfnod o amser wedi cael gwaith achos yn y maes hwn sy'n anodd ac yn boenus tu hwnt. Mae’n rhaid i mi ddweud bod o leiaf ddau achos yn dod i’r meddwl yn fy mhrofiad fy hun, ac roedd cymhlethdod yr achosion, yr amser oedd ei angen yn ein hymdrechion i gefnogi’r rheini yr effeithiwyd arnynt, yn aruthrol, ac o ryw werth o ran gwella gwasanaethau cyhoeddus, ond wrth gwrs, fel therapi uniongyrchol nid oedd o unrhyw ddefnydd i'r bobl roeddem yn eu cefnogi. A dyna pryd y gwelais mai'r tro cyntaf y byddai rhai o fy etholwyr yn siarad â rhywun y tu allan i'w teulu neu grŵp o ffrindiau agos ynglŷn â hyn oedd pan ddeuent i siarad am yr anawsterau a gaent i gael mynediad at gefnogaeth ddigonol.
Mae’n rhaid i mi ddweud, rwyf wedi cyfarfod â phobl sydd wedi siarad amdano hefyd—a soniodd Lynne am hyn—ac wedi rhoi tystiolaeth anhygoel. Am weithred hael yw dod i gyfarfod yma, yn yr Oriel neu'r Neuadd efallai, neu'n wir i sesiwn pwyllgor ffurfiol hyd yn oed, ac i’r grŵp hollbleidiol y mae Lynne wedi'i sefydlu hefyd, ac i sôn am eu profiadau, i roi'r dystiolaeth honno, fel y gellir lleddfu’r boen ofnadwy hon i eraill. Ac roeddech yn llygad eich lle, Lynne, yn talu teyrnged i bawb sydd wedi gwneud hynny.
Mae'n eithriadol o boenus pan fydd hunanladdiad yn digwydd ymhlith plant a phobl ifanc. Ac rwy'n talu teyrnged yma i waith Prifysgol Abertawe ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am eu hastudiaeth thematig a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n gymorth mawr yn fy marn i i roi dealltwriaeth lawnach i ni. Ac roedd hon yn astudiaeth o bawb rhwng 10 a 17 oed a oedd, yn ôl pob tebyg, wedi cyflawni hunanladdiad. Anaml y digwyddai eu marwolaethau o ganlyniad i un rheswm yn unig, a deillient o gyfuniad cymhleth o ffactorau risg, amgylchiadau a phrofiadau niweidiol. Ond yn aml, bydd teuluoedd yn beio'u hunain ac yn dioddef euogrwydd echrydus, ac mae hynny ynddo’i hun yn cynyddu'r risg o hunanladdiad. Ac ar y pwynt hwnnw, gan y credaf ei bod yn duedd naturiol i lawer ofyn y cwestiwn, ‘Beth y gallwn fod wedi'i wneud?', neu hyd yn oed, 'Beth na wnes i?' Nid yw'r rhain yn gwestiynau y gellir eu cyfiawnhau. Mae'r amgylchiadau hyn yn llethol, ond dyna’r pethau sy'n dod i'r meddwl, ac maent yn feddyliau tywyll ac annymunol, ac yn feddyliau sy'n tanseilio penderfyniad pobl yn aml iawn, oni bai eu bod yn gallu siarad amdanynt, a chael eu cefnogi gan bobl sy'n sylweddoli mai dyma'r ymateb anochel, yn aml, y bydd pobl sydd wedi dioddef trawma o'r fath yn ei brofi.
Yn amlwg, gall gwasanaethau profedigaeth chwarae rhan hanfodol yn cefnogi'r rhai yr effeithir arnynt gan hunanladdiad. Mae'r sector gwirfoddol yn chwarae rhan fawr yma, ac maent yn arloesol iawn, ac fel y dywedodd Lynne, mae 2 Wish Upon a Star yn enghraifft ardderchog o hyn yn fy marn i. Ond ceir pethau fel Gofal mewn Galar Cruse hefyd. Maent yn darparu cefnogaeth i oddeutu 360 o bobl sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad, ac yn rhoi cymorth un i un a chymorth grŵp, a hefyd yn cynnig gwybodaeth anhygoel ynghylch y mathau o wasanaethau sydd eu hangen. Ac mae Cruse yn nodi ei bod yn hanfodol fod y gefnogaeth iawn ar gael ar yr amser iawn, a bydd hynny'n wahanol i wahanol bobl. Efallai na fydd dulliau strwythuredig iawn a dulliau therapiwtig yn bosibl ar unwaith nac yn ddymunol ar unwaith i’r rhai yr effeithir arnynt, ond bydd eu hangen yn fawr yn nes ymlaen. Felly, mae angen i chi edrych ar yr achos cyfan a'r llwybr cyfan. Ond mae Cruse wedi tynnu sylw at y ffaith mai prin iawn yw'r gwasanaethau cymorth cwnsela sydd ar gael i rai sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ganolbwyntio arno y prynhawn yma yn ein dadl.
Credaf ei bod yn briodol cydbwyso ein sylwadau drwy ganmol y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddechrau. A sylwais o’r adolygiad canol tymor, a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe a Hybu Iechyd Cymru, fod strategaeth bum mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer atal hunanladdiad wedi gweld cynnydd rhagorol ac wedi gwireddu’r gwaith o ddatblygu cynlluniau gweithredu lleol ar atal hunanladdiad, a’u bod yn dod yn weithredol. Ond mae angen i bob un ohonynt edrych ar ba wasanaethau profedigaeth sydd ar gael. Mae hwnnw’n faes allweddol o ran atal hunanladdiad. Fel rydym newydd glywed, mae'r rheini sydd wedi colli ffrind agos neu berthynas i hunanladdiad mewn perygl eu hunain, ond maent hefyd wedi rhoi'r mewnwelediad sydd eu hangen arnom i gynllunio gwasanaethau effeithiol. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Lynne Neagle ac eraill am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. Fodd bynnag, mae'n hynod drist fod yn rhaid i ni wneud hyn a thrafod y pwnc hwn heddiw, nid yn unig am fod cymorth profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn gyfyngedig, a heb fod yn ddigon da a dweud y gwir, ond am fod hunanladdiad yn dal i ddigwydd ar raddfa enfawr ac yn argyfwng iechyd cyhoeddus.
Y llynedd, siaradais yn ystod y ddadl ar atal hunanladdiad a gosodais her i bob un ohonom. Yr her oedd i bob un ohonom wneud yn well a deall a derbyn bod hunanladdiad yn fusnes i bawb. Gofynnais i'r Aelodau ac aelodau o'r cyhoedd wneud mwy i gefnogi ei gilydd ac i wneud mwy i atal hunanladdiad. Nawr, gwneuthum hyn, Ddirprwy Lywydd, am nad wyf eisiau i deulu arall brofi’r hyn y bu’n rhaid i fy nheulu i fynd drwyddo a'r hyn rydym yn parhau i fynd drwyddo. Felly, gadewch inni gofio, Ddirprwy Lywydd, na ddylem byth roi'r gorau i geisio helpu eraill, yn enwedig pan all hynny achub bywydau.
Ar ddechrau’r ddadl, soniodd Lynne Neagle fod pobl sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad mewn perygl o gyflawni hunanladdiad ac mewn mwy o berygl o gyflawni hunanladdiad, ac nid yw hynny’n syndod i mi. Yn dilyn fy mhrofiad, rwy'n dioddef o iselder ac anhwylder straen wedi trawma. Felly, rwyf am i aelodau'r cyhoedd ac Aelodau'r Siambr ddeall sut beth yw bywyd i bobl mewn profedigaeth a pham ei bod mor bwysig ein bod yn gwneud mwy, a bod Llywodraeth Cymru a Llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig yn gwneud yn well—yn gwneud yn well i gefnogi'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad ac i gefnogi'r rheini sy'n dioddef cyn ei bod yn rhy hwyr.
Felly, beth yw profedigaeth ar ôl hunanladdiad? Mae'n cynnwys nosweithiau di-gwsg; hunllefau pan fyddwch yn cysgu; methu codi o'r gwely i wynebu'r byd; ôl-fflachiadau a phryderon pan fyddwch yn codi; gwybod bod bywyd rhywun wedi dod i ben yn rhy fuan; y teimlad na fyddwch byth yn mynd i weld pêl-droed gyda'ch ffrind gorau eto; ac er y bydd eraill yn gallu symud ymlaen, y sylweddoliad na fydd eich bywyd byth yr un fath eto.
Ddirprwy Lywydd, mae’n rhaid gwella ymwybyddiaeth o sut y gall ymddygiad effeithio ar y rheini sydd wedi colli rhywun. Mae adroddiadau ar hunanladdiad yn enghraifft benodol a dylai'r rhai sy'n ceisio llywio'r mathau hyn o adroddiadau ateb y cwestiwn syml hwn: pa effaith fydd fy ngweithredoedd yn ei chael ar y rheini sydd mewn profedigaeth?
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn sôn am wasanaethau iechyd meddwl yn gyffredinol a'r rôl y gallant ei chwarae yn atal hunanladdiad. Nawr, rydym yn llawer mwy agored wrth siarad am y mater erbyn hyn, ond fel y dywedais ar y dechrau, mae hunanladdiad a salwch meddwl yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Rydym bob amser yn dweud y dylid trin iechyd meddwl gyda'r un brys a pharch ag iechyd corfforol, wel, mae'n bryd gweld prawf o hynny.
Ac i gloi, os caf ddweud, yn niffyg cefnogaeth ddigonol i'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad a'r rheini sy'n dioddef o salwch meddwl, ceir byddin o wirfoddolwyr ac aelodau'r cyhoedd sy'n camu i'r adwy bob dydd i ddarparu cefnogaeth. A hoffwn gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy ddiolch iddynt, bob un ohonynt, am newid bywydau, am achub bywydau. Diolch.
Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar angladdau a phrofedigaeth, rwy'n croesawu'r ddadl hon. Deallwn fod rhwng 300 a 350 o bobl yn marw drwy hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru, yn ôl Samariaid Cymru, gyda’r gyfradd hunanladdiad ymysg dynion bron dair gwaith yn uwch na’r gyfradd ar gyfer menywod.
Mae Samariaid Cymru yn nodi’r ffigur y cyfeiriodd Lynne Neagle ato, fod pob achos o hunanladdiad yn effeithio'n ddifrifol ar o leiaf chwech o bobl. Nododd Lynne, mewn gwirionedd, fod y lluosydd yn llawer iawn uwch na hynny, a bod unigolyn sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn llawer mwy tebygol o geisio cyflawni hunanladdiad eu hunain. Ac maent yn ychwanegu bod llawer o bobl sydd mewn profedigaeth o'r fath yn ei chael hi'n anodd cael y cymorth sydd ei angen arnynt a bod yn rhaid inni ddarparu gwell gwybodaeth a chefnogaeth i'r rheini sydd mewn profedigaeth neu yr effeithiwyd arnynt gan hunanladdiad, a bod yn rhaid cydnabod bod cymorth i'r grŵp hwn yn elfen allweddol yn y gwaith o atal hunanladdiad.
Cyfeiriwyd at Rhian Mannings, sylfaenydd yr elusen Cymru gyfan 2 Wish Upon a Star, ac mae'r elusen a Rhian yn rhan o’r grŵp trawsbleidiol. Mae'r elusen hon, fel y clywsom, yn darparu cymorth profedigaeth hanfodol i deuluoedd sydd wedi colli plentyn neu oedolyn ifanc o dan 25 oed yn sydyn ac yn drawmatig o ganlyniad i hunanladdiad neu drwy ddamwain neu salwch. Dywedodd wrthyf mai marwolaeth sydyn yw'r farwolaeth sy’n cael ei hanghofio yng Nghymru. Ac er bod yr elusen wedi dod yn wasanaeth statudol i bob pwrpas yng Nghymru, gan weithio, fel y clywsom, gyda phob bwrdd iechyd a phob heddlu, nid ydynt yn cael unrhyw gymorth statudol o gwbl, ac mae’n rhaid iddynt godi pob ceiniog eu hunain, er eu bod yn lleihau'r pwysau ar dimau iechyd meddwl, gan helpu i fynd i'r afael â thrawma annisgwyl marwolaeth a cholled na ellid bod wedi'u rhagweld.
Dywed Rhian Mannings iddi ddechrau ei brwydr ar ôl iddi golli ei gŵr a’i mab yn sydyn—dim paratoi, dim rhybudd ac yna dim byd, meddai—a bod y diffyg cymorth a gawsant wedi arwain yn uniongyrchol at hunanladdiad ei gŵr.
Lansiodd Gofal mewn Galar Cruse eu maniffesto ar gyfer pobl mewn profedigaeth ddeufis yn ôl. Credant y gall mynediad at y gefnogaeth gywir, wedi'i theilwra i anghenion pob unigolyn mewn profedigaeth, eu helpu i oresgyn heriau galar ac adeiladu bywyd ystyrlon, gan gofio a dathlu bywydau'r rheini y maent wedi'u colli. Dywedant y gall hyn, yn ei dro, helpu i wella iechyd meddwl a lleihau'r effaith ar wasanaethau'r GIG.
Ymhlith pethau eraill, mae Cruse yn galw am Weinidog penodol gyda chyfrifoldeb am brofedigaeth a strategaeth drawsadrannol, ac am gyllid lleol ar gyfer cymorth profedigaeth o ansawdd uchel, lle dywedant fod gormod o bobl yn dal i fethu cael cymorth ar ôl profedigaeth, lle nad oes cyllid statudol mewn gormod o ardaloedd ar gyfer yr asiantaethau a'r elusennau sy'n helpu pobl sydd mewn profedigaeth. Ac maent yn galw am gymunedau mwy tosturiol lle mae pawb yn gwybod digon am alar i chwarae eu rhan yn cefnogi pobl pan fo rhywun yn marw.
Dywed Marie Curie fod sicrhau cefnogaeth ddigonol i deuluoedd sydd wedi cael profedigaeth yn rhan bwysig o broses marwolaeth a marw. Ac mae 2 Wish Upon a Star yn nodi'r gydberthynas rhwng y sefydliadau hynny a ariennir gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol neu fyrddau iechyd sy'n cyfeirio neu'n atgyfeirio’n bennaf at sefydliadau a'r rheini sy'n darparu gwasanaethau profedigaeth ond nad ydynt yn cael fawr o gyllid, os o gwbl. A dywedant fod angen i wasanaethau fod yn dra hysbys, ac y dylid defnyddio dull amlasiantaethol i sicrhau y gellir darparu cymorth ledled Cymru ac y gellir lleihau canlyniadau hirdymor difrifol.
Mae'r grŵp trawsbleidiol ar ofal lliniarol a hosbisau, a gadeirir gennyf hefyd, yn cynnig pedwar argymhelliad i wella gofal a chefnogaeth i bobl sydd mewn profedigaeth yng Nghymru, er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i bobl ar ôl iddynt golli rhywun annwyl. Yn gyntaf, gwella data ar yr angen am gefnogaeth mewn profedigaeth lle mae'n anodd iawn ar hyn o bryd, oherwydd diffyg asesiad cadarn o anghenion, i wasanaethau gynllunio i ddiwallu anghenion neu ddeall pa adnoddau y gallai fod eu hangen arnynt i wneud hynny. Yn ail, sicrhau bod profedigaeth yn nodwedd allweddol o'r holl bolisi perthnasol sydd i'w ystyried a'i ymgorffori yn strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys lles ac iechyd meddwl oedolion a lles ac iechyd meddwl plant. Yn drydydd, ymgorffori cymorth profedigaeth mewn ysgolion. Ac yn bedwerydd, sicrhau bod darpariaeth gofal profedigaeth yn gynaliadwy lle ceir tystiolaeth o ddiffyg blaenoriaethu strategol a pholisi ar gyfer cymorth profedigaeth yn y lefelau isel iawn o gyllid statudol ar gyfer gofal i bobl mewn profedigaeth.
Cyfeiriodd Lynne Neagle at gyhoeddi 'Arolwg cwmpasu o wasanaethau profedigaeth yng Nghymru: Adroddiad Diwedd Astudiaeth' y mis diwethaf a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Nodai fod mwy o wasanaethau profedigaeth ar gael yn ne-ddwyrain Cymru, gyda'r nifer leiaf yng ngogledd a gorllewin Cymru. Roedd yn nodi hyn:
Disgrifiodd yr ymatebwyr nifer o fylchau a heriau yn y ddarpariaeth o wasanaeth profedigaeth... Ymddengys bod llawer yn ymwneud â diffyg fframwaith clir ar gyfer comisiynu a darparu gwasanaethau profedigaeth gan gynnwys diffyg blaenoriaeth i ofal profedigaeth mewn sefydliadau, diffyg mynediad at gyllid a mynediad cyfyngedig i hyfforddiant a chyfleusterau priodol.
Un ystyriaeth allweddol—
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Dowch i ben, os gwelwch yn dda.
Iawn. Un ystyriaeth allweddol o'r canlyniadau, felly, yw datblygu fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer gofal profedigaeth. Mae hyn yn fater o frys ac mae'n rhaid iddo gynnwys cymorth i'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad, a chael ei gydgynhyrchu gan bobl sydd â phrofiad o hynny. Diolch.
Credaf fod hon yn ddadl bwysig ond anodd iawn, ond yr hyn yr hoffwn ei wneud yw defnyddio fy mhum munud i ganolbwyntio ar yr agenda ataliol, oherwydd yn amlwg, o ran yr adolygiad seneddol a gynhaliwyd o bobl rhwng 13 a 17 oed—yn ffodus, 33 o bobl yn unig yr effeithiwyd arnynt. Ond yn amlwg, mae mwy o lawer o bobl y gallent fod wedi cyflawni hunanladdiad, ac mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud i geisio atal hunanladdiad lle bo modd.
Rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd, yn hanesyddol, ers y stigma a oedd yn gysylltiedig â hunanladdiad pan laddodd fy nhaid ei hun ym 1928, oherwydd bryd hynny, byddai eglwysi’n gwrthod caniatáu i'r teulu gladdu eu hanwylyd ym mynwent yr eglwys hyd yn oed. Roedd y rhan fwyaf o bobl yn ceisio cuddio’r hyn a oedd wedi digwydd ac yn esgus bod rhyw achos arall dros eu marwolaeth. Felly, mae’r ffaith ein bod bellach yn gallu siarad yn agored am hunanladdiad, ac mae Jack, yn amlwg, yn enghraifft ragorol o hynny—.
Mae'n rhaid inni geisio sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus, a rhanddeiliaid eraill yn wir, yn rhan o’r gwaith o atal hunanladdiad. Felly, er bod llawer o bobl ifanc yn cael teimladau hunanladdol, nifer fach yn unig sy'n marw yn y ffordd honno, ac mae hynny wedi'i nodi yn yr adolygiad seneddol. Felly, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y rheini a all wynebu'r fath anobaith fel eu bod yn cyflawni hunanladdiad, a gwyddom am rai o'r arwyddion ac mae angen inni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â hwy. Maent yno yn y cyfleoedd a argymhellir ar gyfer atal.
Gwyddom fod hunan-niweidio yn arwydd posibl, ac mae angen inni ddod yn llawer gwell am sicrhau bod pawb yn gwybod pwy sy'n hunan-niweidio a pha wasanaethau rydym yn darparu ar eu cyfer, gan fod hunan-niweidio yn alwad am help tan ei fod yn troi'n hunanladdiad.
Atal camddefnyddio alcohol a sylweddau: camau parhaus i gyfyngu ar fynediad plant a phobl ifanc at alcohol. Euthum i weld drama ragorol o'r enw Smashed a oedd wedi'i hanelu at ddisgyblion blwyddyn 8 yn Ysgol Bro Edern yn fy etholaeth. Mae'n bwysig iawn dangos i ddisgyblion sy'n credu bod arbrofi gydag alcohol yn beth cŵl i'w wneud eu bod, mewn gwirionedd, yn gwneud eu hunain yn agored i gael eu hecsbloetio gan bobl os ydynt allan o reolaeth, ddim yn gwybod beth sy'n digwydd, yn methu cyrraedd adref yn ddiogel. Dyma rai o'r ffactorau risg y mae angen i bobl ifanc eu deall, ac nid oes unrhyw ddiben mewn dweud wrth bobl am beidio ag yfed gan ei fod i'w gael ym mhob man. Ond mae angen iddynt wneud hynny mewn ffordd synhwyrol a diogel.
Lliniaru profiadau niweidiol yn ystod plentyndod: gwyddom fod pethau fel mabwysiadu, pethau fel rhiant yn y carchar, cam-drin rhywiol—mae pob un o’r rhain yn ffactorau risg. Mynychodd Lynne Neagle a minnau lansiad Papyrus yng Nghanol Caerdydd ddydd Gwener diwethaf, ac roedd y Prif Weinidog yno hefyd, sy'n dangos y pwyslais y mae'n ei roi ar y mater hwn. Roedd yn sobreiddiol iawn clywed profiad cadeirydd Papyrus, a esboniodd y bu’n rhaid iddo roi'r gorau i ddod yn bennaeth pan laddodd ei fab mabwysiedig ei hun. Ond ni wnaeth hynny am nad oedd ei deulu’n un cwbl gariadus. Y cefndir, y rhesymau pam y cafodd y plentyn hwn, a oedd yn oedolyn ifanc ar y pryd, ei fabwysiadu—dyna oedd yn ei boeni. Pan fydd pobl yn mynd drwy'r glasoed, gwyddom y gall hyn fod yn fater o bwys mawr. Dywedodd yr adroddiad a wnaethom gyda'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn y pedwerydd Cynulliad wrthym pa mor gymhleth yw hynny.
Ond mae angen inni sicrhau bod pob ysgol o ddifrif ynghylch yr agenda hon. Mae rhai ysgolion yn gwneud yn hollol wych, ac mae ysgolion eraill o'r farn mai problem rhywun arall yw hi. Credaf yr hoffwn dynnu sylw at yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y Samariaid dros yr haf, a oedd yn ymwneud â gwahardd disgyblion o'r ysgol yng Nghymru, a'r gost gudd. Gwyddom y bydd rhai ysgolion yn defnyddio pob cyfle i ddadlwytho plant ar rywun arall a chael gwared arnynt am nad ydynt eisiau iddynt ymddangos yn eu hystadegau arholiadau. Nid yw hyn yn ddigon da o gwbl. Mae angen inni sicrhau bod pob ysgol yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau lles tuag at bobl ifanc, ac mae'n rhaid inni fod yn wyliadwrus nad yw pobl yn defnyddio ffyrdd cudd o gael gwared ar bobl a’u gwneud yn gyfrifoldeb i rywun arall—. Oherwydd gwyddom fod y bobl sy'n byw mewn tlodi yn siŵr o wynebu mwy o broblemau’n ymwneud â statws, â hunan-werth, ac mae'r rhain yn bobl y mae'n rhaid inni sicrhau bod yr ysgol yn gofalu amdanynt fel eu hail deulu os na all eu teulu cyntaf ddarparu'r cartref cariadus y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ddigon lwcus i’w gael.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw ar fater sy’n hynod o emosiynol a phwysig. Mae effaith colli rhywun i hunanladdiad yn ddinistriol, a heb os yn cael effeithiau pellgyrhaeddol ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau, fel y nododd Lynne Neagle wrth agor y ddadl, ac fel yr ychwanegodd pob Aelod arall mewn ffordd wahanol yn ystod y ddadl.
Rwy’n cydnabod, fel y mae'r llefarwyr yn ei wneud, fod profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn fath unigryw o golled, a bod pobl yn profi ystod eang o emosiynau. Ni all unrhyw un ragweld sut yn union y bydd pobl yn ymateb i ddigwyddiad o'r fath, ond mae'n bwysig fod cefnogaeth ar gael yn y mannau iawn ac ar yr adegau iawn i'r rhai sydd ei hangen. Rwy'n cydnabod y gall pobl sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad fod mewn perygl eu hunain, felly mae sicrhau bod y gefnogaeth ôl-ymyrraeth briodol honno ar gael yn hanfodol bwysig. Rwyf wedi ymrwymo i wella cefnogaeth ôl-ymyrraeth fel rhan o'n rhaglen waith ehangach i atal hunanladdiad a hunan-niweidio.
Mae deall cymhlethdod yr amgylchiadau a’r ffactorau risg sy'n cyfrannu at hunanladdiad yn allweddol os ydym am atal marwolaethau drwy hunanladdiad yn y dyfodol. Mae'r adolygiad diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, y cyfeiriwyd ato yn gynharach a'r wythnos diwethaf, i farwolaethau plant a phobl ifanc drwy hunanladdiad tebygol yn rhan o’r hyn a fydd yn ein helpu i ddeall hyn. Amlygodd yr adolygiad y nifer sylweddol o blant a phobl ifanc roedd gwasanaethau cyhoeddus yn gwybod amdanynt, er enghraifft gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau cyfiawnder troseddol, gan herio'r holl wasanaethau cyhoeddus i ystyried cyfleoedd yn y dyfodol i ymyrryd yn gynnar i atal marwolaeth drwy hunanladdiad. Mae'n amlwg na all unrhyw un unigolyn neu asiantaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Felly, mae gweithio mewn partneriaeth ac ar draws y sectorau yn hanfodol er mwyn sicrhau y ceir cymaint o gyfleoedd â phosibl i atal. Mae creu diwylliant—fel rydym wedi cymryd rhai camau tuag at ei wneud—sy’n annog pobl i siarad, a mabwysiadu dull iechyd y cyhoedd o gefnogi lles emosiynol hefyd yn rhan hanfodol o sicrhau gwelliant.
Yn sail i'n strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ceir partneriaethau a chydweithredu ystyrlon gan ystod o sefydliadau, o'r sector cyhoeddus i'r trydydd sector, a chânt eu goruchwylio gan fwrdd partneriaeth cenedlaethol amlasiantaethol. Mae cyhoeddiad diweddar yn y gyllideb ddrafft yn ymrwymo £20 miliwn ychwanegol i wasanaethau iechyd meddwl, gan godi'r arian sydd wedi'i glustnodi i £712 miliwn, sy'n dangos ein hymrwymiad parhaus i wella'r gwasanaethau. Mae hynny'n adeiladu ar y £0.5 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd eleni yn benodol ar gyfer atal hunanladdiad a chymorth. Rwyf hefyd wedi ymrwymo, gyda'r Gweinidog addysg, i ddyblu'r cyllid ar gyfer gwaith y dull ysgol gyfan, ac wrth gwrs, daw’r cyllid hwnnw o’r portffolios addysg ac iechyd.
Mae'r cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' newydd, a gyhoeddir ddydd Gwener yr wythnos hon, yn nodi bod atal hunanladdiad a hunan-niweidio yn gam gweithredu allweddol, gan wneud hynny'n flaenoriaeth ar gyfer y tair blynedd nesaf. Ymhlith y camau gweithredu, mae datblygu a gweithredu llwybr cymorth profedigaeth ar gyfer hunanladdiad, yn ogystal ag ymrwymiad i wella mynediad at adnoddau gwerthfawr, megis yr adnodd 'Help wrth Law' y cyfeiriwyd ato sawl gwaith heddiw.
Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith rydym eisoes wedi'i wneud i wella lles emosiynol ein plant a'n pobl ifanc. Roedd ein gwaith diweddar yn cynnwys ymestyn y cynllun peilot mewngymorth i ysgolion er mwyn ehangu capasiti, galluogi staff arbenigol i weithio gyda mwy o ysgolion, a chyhoeddi canllawiau newydd ar hunanladdiad a hunan-niweidio. Nod y canllawiau yw cynorthwyo athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill i ymyrryd yn gynnar a hunanreoli hunan-niwed a meddyliau hunanladdol pan fyddant yn digwydd. Mae'r dull ysgol gyfan yn elfen allweddol o'n ffocws ar atal a sicrhau mynediad cynnar at gymorth. Fel y crybwyllwyd, yr wythnos diwethaf, mynychodd y Prif Weinidog lansiad Papyrus, sefydliad arbennig ar gyfer atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, gan gadarnhau cefnogaeth ar draws y Llywodraeth yn y maes hwn.
Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym hefyd wedi cefnogi amrywiaeth o raglenni rhanbarthol ar atal hunanladdiad, gan gynnwys dulliau arloesol fel gweithio gyda thimau rygbi i annog dynion i siarad am iechyd meddwl, a darparu sesiynau cwnsela profedigaeth ychwanegol. Ddiwedd y mis, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am ein camau gweithredu i gyflawni ein hymateb i'w hadroddiad ar atal hunanladdiad, 'Busnes Pawb', a bydd hynny'n cynnwys ein gwaith ar wella gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru. Gwyddom fod mynediad at ofal profedigaeth o ansawdd da o'r pwys mwyaf. Mae'n helpu rhai sydd mewn galar i fynd drwy broses alaru iach a dylai gynnwys mynd ati'n weithredol i gadw mewn cysylltiad â phawb sydd wedi cael profedigaeth, hyd yn oed os gwrthodir cymorth ar y cychwyn.
Cyhoeddwyd yr adolygiad cwmpasu ar wasanaethau profedigaeth a gyflwynwyd gan fwrdd gofal diwedd oes Marie Curie ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Rhagfyr, ac fel y crybwyllwyd yn y ddadl, mae'n mapio'r cymorth presennol, yn amrywio o gyfeirio, i gwnsela arbenigol, a nodi meysydd lle mae angen rhagor o adnoddau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr ystod eang o gymorth profedigaeth, gan gynnwys hunanladdiad. Mae'n tynnu sylw at fylchau a heriau o ran darparu gwasanaethau profedigaeth, ac yn crybwyll nifer o ystyriaethau ar gyfer datblygu a gwella. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar yr angen i ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal profedigaeth yng Nghymru. Byddai hyn wedyn yn hwyluso'r gwaith o flaenoriaethu cymorth profedigaeth ar lefel sefydliadol a rhanbarthol, ac yn helpu i sicrhau tegwch a mynediad at fathau a lefelau priodol o gymorth sy'n ymatebol i anghenion lleol.
Byddai fframwaith cyflawni cenedlaethol hefyd yn cefnogi'r broses o sefydlu llwybrau cyfeirio clir, dulliau o asesu risg ac angen, hyfforddiant ar gyfer staff a gwirfoddolwyr, a datblygu cyfeirlyfr o'r ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer profedigaeth. Yn olaf, bydd fframwaith profedigaeth cenedlaethol yn cefnogi gwelliannau yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu gwerthuso a'u hasesu, a gellid datblygu safonau ymhellach wedyn i'w defnyddio i archwilio a gwella ansawdd. Er mwyn bwrw ymlaen â'r broses o ddatblygu'r fframwaith, rydym wrthi'n recriwtio rheolwr prosiect penodedig. Rydym wedi gofyn i'r arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal diwedd oes, Dr Idris Baker, sefydlu grŵp llywio cenedlaethol ar brofedigaeth i gefnogi'r gwaith hwn. Fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod, mae gan Dr Baker gryn wybodaeth a phrofiad mewn gofal profedigaeth.
Fel mesur dros dro, yn ddiweddar cytunais i roi cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn i gryfhau'r cymorth a roddir ar hyn o bryd gan y trydydd sector i rai sydd wedi colli rhywun i hunanladdiad. Cafodd pum sefydliad eu cefnogi. Yn ogystal, mae cyllid rhanbarthol Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i greu gwasanaeth cymorth profedigaeth newydd ar gyfer gogledd Cymru. Byddaf yn gwneud datganiad ysgrifenedig cyn y toriad hanner tymor i amlinellu ein cynlluniau mwy hirdymor.
Gallaf gadarnhau hefyd ein bod bellach wedi penodi cydlynydd atal hunanladdiad cenedlaethol ar gyfer Cymru a fydd yn allweddol er mwyn uno dulliau ac arwain y broses o ddatblygu a gweithredu camau newydd i atal hunanladdiad a hunan-niwed mewn ffordd lawer mwy cydgysylltiedig ac effeithiol. Caiff swydd y cydgysylltydd ei chefnogi gan dair swydd ranbarthol i gyflawni cynlluniau gweithredu ledled Cymru. Bydd cynnwys pobl sydd wedi byw drwy brofedigaeth hunanladdiad yn allweddol i ddatblygiad y llwybr ymyrraeth ar ôl hunanladdiad. Bydd y cydgysylltydd cenedlaethol yn canolbwyntio ar ddatblygu'r llwybr ymyrraeth ar ôl hunanladdiad fel rhan o'n gwaith ehangach i wella cymorth profedigaeth. Mae'r grŵp cynghori cenedlaethol ar hunanladdiad a hunan-niweidio bellach yn cynllunio tri gweithdy rhanbarthol i randdeiliaid i lywio'r gwaith hwnnw.
Rwy'n gobeithio bod hyn yn helpu i ddangos y pwyslais rydym yn parhau i'w osod ar yr agenda hon, ac yn amlinellu'r camau rydym yn eu cymryd i atal hunanladdiad a hunan-niwed, a hefyd i wella cymorth profedigaeth. Rwy'n cydnabod uchelgais yr Aelodau ar draws y Siambr i gyflawni'r gwelliant hwnnw'n gyflymach. Byddaf yn cynnwys mwy o fanylion am amserlenni ar gyfer y llwybr profedigaeth yn y datganiad ysgrifenedig y bwriadaf ei gyhoeddi cyn y toriad hanner tymor.
Diolch. Galwaf ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud, yn gyntaf oll, pa mor falch wyf fi o allu cymryd rhan yn y ddadl hon? Oherwydd cawsom ddatganiadau pwerus ac emosiynol o deimladau dwfn a didwyll gan bawb sydd wedi cyfrannu. Mae hi wedi bod yn ddadl wirioneddol wych, a dweud y gwir. Rwy'n gwybod na fydd yn cael fawr o sylw y tu allan, ond mae wedi bod yn fraint cael bod yma i dystio i'r hyn y mae pawb wedi'i ddweud. Oherwydd, fel y dywedodd Lynne Neagle wrth agor, mae profedigaeth trwy hunanladdiad yn gwbl ddinistriol, ac fe amlinellodd, mewn rhai achosion, brinder y gefnogaeth sydd ar gael yn benodol i'r rhai sydd wedi colli rhywun i hunanladdiad.
Gwelwyd 360 o farwolaethau trwy hunanladdiad flwyddyn neu ddwy yn ôl yng Nghymru; dyna un y dydd. Pe bai unrhyw beth arall yn achosi un farwolaeth y dydd yng Nghymru, byddai pobl allan yn protestio a phethau, byddai gennym gwestiynau brys yma bob yn ail wythnos yn dweud, 'Beth sy'n digwydd?' Nawr, rwy’n clywed y Gweinidog yn dweud bod llawer o bethau’n digwydd, ac rwy’n cymeradwyo dull y Llywodraeth, ond mae angen cymaint mwy arnom, oherwydd mae yma gyfle.
Ceir dwy agwedd ataliol wahanol. Y gyntaf yw atal hunanladdiad yn y lle cyntaf, ac mae hynny'n ymwneud â sut rydym yn ymdrin â phobl sy'n hunan-niweidio—nid yw pob un ohonynt yn mynd ymlaen i wneud unrhyw beth arall heblaw rhoi gwaedd am help. Ond yr her i ni ym maes gofal sylfaenol yw nodi pwy sy'n debygol o fynd ymlaen i wneud rhywbeth llawer mwy dinistriol. A phan fyddwn yn penderfynu fel meddygon teulu fod angen gweld yr unigolyn dan sylw yn y fan a'r lle, mae angen eu gweld yn y fan a'r lle.
Rydym yn parhau i siarad ynglŷn â sut y dylid rhoi parch cydradd i iechyd corfforol ac iechyd meddwl, ond os yw rhywun yn ddifrifol wael yn feddyliol, nid yw'r cydraddoldeb hwnnw'n amlwg i mi fel meddyg teulu. Ugain mlynedd yn ôl, pe bai rhywun yn dweud eu bod yn hunanladdol, buaswn yn ffonio'r ysbyty seiciatryddol agosaf a byddai meddyg yn eu gweld yn y fan a'r lle; fel a fyddai'n digwydd pe baech chi'n dod i fy ngweld pe bai gennych boen yn y frest, a minnau yn eich cyfeirio at yr adran iechyd corfforol agosaf yn y fan a'r lle. Nid yw hynny'n digwydd mwyach gyda salwch meddwl acíwt. Mae angen inni edrych ar sut yr ymdrinnir ag argyfyngau iechyd meddwl acíwt.
Y sefyllfa bresennol yw y bydd timau argyfwng yn ffonio'r meddyg teulu yn ôl yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, y diwrnod canlynol, neu'n cynnig apwyntiad ar gyfer yr wythnos ganlynol. Nid yw'n ddigon da. Oherwydd mae meddygon teulu yn gwybod cryn dipyn am salwch seiciatryddol a hunanladdiad, rhywbeth nad yw bob amser yn cael ei gydnabod yn y sector gofal eilaidd. Fel arall, mae pobl yn cael eu gadael mewn gofid a chawn ein gadael yn y sefyllfaoedd dinistriol hyn a ddisgrifiwyd mor huawdl gan Lynne, David, Jack Sargeant—rwy'n talu teyrnged eto, Jack, at eich dirnadaeth unigryw yn hyn o beth—a Mark Isherwood, yn ogystal â Jenny.
Ceir atal hunanladdiad yn y lle cyntaf, ond yn y cyd-destun rydym yn siarad amdano heddiw, mae atal hunanladdiad yn y rhai sydd eisoes wedi colli rhywun i hunanladdiad yn bwysig. Rydym bob amser yn dweud, ac roedd yn amlwg yn adroddiad y pwyllgor iechyd 'Busnes Pawb', fod hunanladdiad yn fusnes i bawb. A gaf fi ddweud, byddwch yn fwy caredig wrth eich gilydd, bobl, iawn? Fel y mae Jack bob amser yn dweud, 'Byddwch yn garedig wrth eich gilydd.' Os yw rhywun yn edrych yn ofidus, gofynnwch iddynt sut maent. Dyna ran dda o atal hunanladdiad. Efallai mai chi yw'r unig berson sydd wedi siarad â hwy y diwrnod hwnnw.
Nawr, nid yw siarad am hunanladdiad, yn y lle cyntaf, yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y bydd hunanladdiad yn digwydd—mae'n bwysig cofio hynny. Ond pan fydd hunanladdiad wedi digwydd mewn teulu, mae aelod o'r teulu’n fwy tebygol o farw trwy hunanladdiad o ganlyniad i ddinistr yr hunanladdiad yn y teulu hwnnw. A dyna lle gallwn gael cyfle unigryw, trwy i'r gwasanaethau cymorth profedigaeth yn sgil hunanladdiad ddod i mewn ar y pwynt hwnnw, i atal hunanladdiad pellach yn y teulu hwnnw. Felly, dyna sydd o'n blaenau.
Mae angen newid perfformiad yn sylweddol. Rwy’n croesawu’r holl waith caled sy’n digwydd, ac rydym wedi clywed am y gwaith rhagorol yn y trydydd sector: Papyrus, 2 Wish Upon A Star, Cruse, y Samariaid, a Survivors of Bereavement by Suicide—am sefydliad aruthrol—a dyna bobl sydd wedi byw drwy brofedigaeth hunanladdiad. Mae angen i ni fanteisio ar hynny. Mae angen i'r newid sylweddol mewn ymddygiad ddal ati i gamu ymlaen a newid.
I orffen, soniodd Lynne fod llwyth o famau rhyfelgar a thadau rhyfelgar allan yna yn y sefyllfaoedd teuluol anodd hyn. Rwy'n edrych ar un neu ddau o ACau rhyfelgar, mae'n rhaid i mi ddweud, yn Lynne, Jack ac eraill. Mae angen i bawb ohonom fod yn ACau rhyfelgar gyda Llywodraeth ryfelgar yn y sefyllfa hon. Diolch yn fawr .
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, gohiriwn y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.