– Senedd Cymru ar 22 Ionawr 2020.
Yr eitem nesaf yw dadl y Blaid Geidwadol ar sgiliau'r gweithlu ar ôl Brexit, a dwi'n galw ar Mohammad Asghar i wneud y cynnig. Mohammad Asghar.
Cynnig NDM7234 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd darpariaeth addysg bellach o ran datblygu sgiliau gweithlu Cymru i fodloni gofynion economi Cymru ar ôl Brexit.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ym mhobl Cymru drwy:
a) gynyddu'r cyllid i addysg bellach;
b) ehangu nifer y prentisiaethau gradd yng Nghymru;
c) creu lwfans dysgu oedolion i helpu pobl i wella a meithrin eu sgiliau; a
d) datblygu Sefydliad Technoleg yng ngogledd Cymru.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n rhoi pleser mawr i mi agor y ddadl hon heddiw ar gydnabod pwysigrwydd addysg bellach yn y broses o ddatblygu sgiliau'r gweithlu yng Nghymru. Mae economi Cymru'n methu cyflawni ei photensial llawn. Mae'n wynebu nifer o heriau sylfaenol. Mae'r rhain yn cynnwys bwlch sgiliau mewn uwch-dechnoleg, a'r gofyniad am weithlu sydd â'r hyblygrwydd i addasu i economi fyd-eang sy'n newid yn barhaus.
Mae pwysigrwydd sicrhau bod gan Gymru weithlu digon medrus a hyblyg i helpu i greu economi wydn ac ateb gofynion cyflogwyr yn glir. Dywed Llywodraeth Cymru ei hun:
'Dylai pob unigolyn feddu ar y sgiliau y mae eu hangen arno i ddod o hyd i swydd, a dylai gael y cyfle i feithrin sgiliau newydd drwy gydol ei fywyd gwaith.'
Cau'r dyfyniad. Fodd bynnag, mae bwlch sgiliau wedi datblygu yng Nghymru sy'n costio tua £155 miliwn i fusnesau.
Yn 2019, canfu 'Baromedr Busnes y Brifysgol Agored' fod 67 y cant o uwch arweinwyr busnes yn dweud bod eu sefydliad yn profi prinder sgiliau ar hyn o bryd; dywedodd 54 y cant o gyflogwyr na allent recriwtio digon o staff â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt, yn enwedig ym maes peirianneg. Canfu adroddiad diweddar gan Barclays LifeSkills fod mwy na hanner y rhai dros 16 oed yng Nghymru yn methu arddangos yr holl sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen yn y gweithle yn y dyfodol. Mae'r ffigurau ar gyfer sgiliau digidol hefyd yn destun pryder. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cymru sydd â'r gyfran isaf o ddefnyddwyr y rhyngrwyd sy'n meddu ar y pum sgìl digidol sylfaenol. Dim ond 66 y cant o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yng Nghymru sydd â'r pum sgìl sylfaenol, o'i gymharu â chyfartaledd y DU o 79 y cant.
Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd addysg bellach i fynd i'r afael â'r problemau hyn. Fodd bynnag, nododd ColegauCymru fod angen rhoi trefniadau ariannu mwy hirdymor ar waith. Mae'r cylch ariannu un flwyddyn cyfredol yn llesteirio meddwl a chynllunio hirdymor. Mae cyfanswm y cyllid grant ar gyfer y sector addysg bellach wedi gostwng 13 y cant mewn termau real rhwng 2011-12 a 2016-17. Gostyngodd cyllid ar gyfer darpariaeth ran-amser a rhaglenni penodol dros 70 y cant mewn termau real. Cred y Ceidwadwyr Cymreig fod yn rhaid i'r ansicrwydd ariannol hwn ddod i ben er mwyn galluogi colegau addysg bellach i barhau i ddarparu hyfforddiant sgiliau blaenllaw ac annog mwy o bobl i mewn i addysg bellach a dysgu gydol oes.
Nid yw pawb yn gallu cymryd amser o'r gwaith i gael addysg amser llawn. Dywed y Brifysgol Agored yng Nghymru na ddylai addysg fod yn gynnig untro i bobl ifanc; dylai fod yn gynnig gydol oes, drwy gydol gyrfa rhywun. Mae arnom angen cynllun cyllido addysg, sgiliau a chyflogaeth cynhwysfawr ar gyfer oedolion i dyfu ein gweithlu ein hunain. Er bod Llywodraeth Cymru yn darparu grant i'r rhai 19 oed a throsodd sy'n astudio mewn addysg bellach, mae nifer y ceisiadau a nifer yr ymgeiswyr llwyddiannus wedi gostwng. Byddem yn cyflwyno lwfans dysgu i oedolion i'w ddefnyddio ar gyfer cwrs gradd, hyfforddiant technegol neu gyrsiau penodol. Byddai hyn yn gwneud y sgiliau, y cyrsiau a'r hyfforddiant yn fwy hygyrch i bobl, waeth beth fo'u sefyllfa ariannol.
Mae Cymru ar ei hôl hi o ran cyflwyno prentisiaethau gradd. [Torri ar draws.] Mae Cymru ar ei hôl hi o ran cyflwyno prentisiaethau gradd. Mewn ymateb i alwadau cynyddol gan gyflogwyr am sgiliau lefel uwch a llwybrau dysgu seiliedig ar waith ar lefel gradd, mae prentisiaethau gradd wedi dod yn ddull mwyfwy deniadol o gyflwyno addysg. Yng Nghymru, mae nifer y llwybrau prentisiaeth gradd yn gyfyngedig. Yn Lloegr, ar hyn o bryd mae 70 o safonau prentisiaeth gradd wedi'u cymeradwyo i'w cyflwyno. Mae angen inni ehangu nifer y prentisiaethau gradd sydd ar gael yn sylweddol, yn enwedig yn y sectorau newydd. Mae angen inni gael mwy o gyfleoedd ledled Cymru hefyd, drwy sicrhau bod pawb yn gallu cyflawni eu potensial, waeth ble maent yn byw neu o ble y deuant.
Mae gan Gymru tua 14 o golegau addysg bellach, ond dim ond dau sydd wedi'u lleoli yng ngogledd Cymru. Credwn y dylai potensial gogledd Cymru gael ei wella a'i feithrin i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a fydd yn cael eu creu gan fargen twf gogledd Cymru. Byddem yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn yn y ddarpariaeth drwy ddatblygu sefydliad technoleg yng ngogledd Cymru, sy'n canolbwyntio ar bynciau STEM—gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.
Lywydd, er mwyn cyrraedd y nod o gryfhau economi Cymru, rhaid inni ganolbwyntio ar rai o'r materion allweddol sy'n ein hwynebu. Mae'r rhain yn cynnwys y bwlch sgiliau sy'n bygwth gadael gweithwyr Cymru yn llusgo ar ôl gweddill y Deyrnas Unedig. Tan hynny, ni allwn fanteisio ar y cyfleoedd a grëir gan gynnydd technolegol. Mae'n rhaid inni gymryd y camau sy'n ofynnol i helpu pobl i ddiwallu anghenion economi Cymru, y Deyrnas Unedig a'r byd sy'n newid yn barhaus. Gallwn chwarae rhan fawr yn y broses o wella ein bywydau. Diolch.
Diolch. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig a galwaf ar Bethan Sayed i gynnig gwelliannau 1, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Bethan.
Gwelliant 3—Siân Gwenllian
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd Erasmus+ o ran denu pobl i Gymru i ddiwallu anghenion economi Cymru drwy’r sectorau addysg bellach ac addysg uwch, ac ymrwymo i wrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i adael y rhaglen yn 2021.
Diolch. Rwy'n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl hon. Nid wyf am fynd drwy'r cynnig cyfan, oherwydd credaf ein bod wedi mynegi llawer o hynny mewn dadl flaenorol, felly fe af drwy'r gwelliannau.
Credaf ei bod braidd yn eironig fod y Torïaid yn dweud eu bod am i bobl gyflawni eu potensial, gan fod ein gwelliant cyntaf yn rhywbeth a allai gael ei fygwth gan hynny, oherwydd yr ansicrwydd posibl ynghylch dyfodol Erasmus+, a fu'n rhan hanfodol o'r cymysgedd addysg mewn addysg uwch ac addysg bellach ers nifer o flynyddoedd, a gall sefydliadau ieuenctid ac ysgolion ymgeisio am Erasmus yn ogystal ag oedolion sy'n dysgu. Mae'r potensial ar gyfer gwella sgiliau yn glir a gall Erasmus gynnig profiad gwerthfawr o ffyrdd newydd o weithio ac astudio, gan roi cipolwg ar arferion gwahanol o bob rhan o Ewrop a gwella cyflogadwyedd a rhagolygon y rhai sy'n cymryd rhan. Y llynedd, sicrhaodd ColegauCymru £1.57 miliwn o gyllid Erasmus+ ar gyfer colegau addysg bellach ac mae'r colegau'n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi symudedd Ewropeaidd ar gyfer eu dysgwyr a'u staff, er gwaethaf ansicrwydd Brexit. A bydd y cyllid hwn yn galluogi dros 640 o ddysgwyr galwedigaethol, prentisiaid a staff o golegau ledled Cymru i gymryd rhan yn y rhaglen hyfforddi gyffrous honno.
I rai myfyrwyr sy'n dod o gefndiroedd cymdeithasol difreintiedig iawn yng Nghymru, mae hwn yn brofiad sy'n newid bywyd. Nid oedd gan un myfyriwr gofal plant a aeth i wneud lleoliad gwaith am bythefnos yn yr Eidal basbort hyd yn oed ac nid oedd erioed wedi teithio ar ei phen ei hun cyn hynny. Felly, mewn gwirionedd, pe na bai wedi cael y cyfle hwnnw, efallai na fyddai erioed wedi cael cyfle i astudio mewn gwlad arall ac ehangu ei gorwelion, a chredaf fod angen i rai ohonom yn yr ystafell hon wneud mwy o hynny.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i barhau'r berthynas academaidd rhwng y DU a'r UE, gan gynnwys drwy'r rhaglen Erasmus+ nesaf os yw o fudd i ni wneud hynny.
Sut nad yw er budd Cymru i fod yn rhan o'r rhaglen hon? Nid wyf yn gwybod pam roeddent hyd yn oed yn trafferthu defnyddio'r gair hwnnw. Gallant weld, oni allant, pa mor bwysig yw Erasmus i bobl Cymru? Byddent yn ffôl i roi'r gorau i'w hymwneud â'r rhaglen.
O ran ein gwelliant 1, dylid ystyried prentisiaeth nid yn unig yn bwynt mynediad i un math o gyflogaeth fedrus, ond yn brofiad addysgol hefyd. Ac mae llawer o brentisiaid yn dweud wrthym, ac maent wedi dweud wrth fy swyddfa, y byddent yn hoffi cael opsiwn a mynediad at gyfleoedd i gymryd rhan mewn addysg a sgiliau eraill. Ac yn fwyaf arbennig, mae prentisiaid ifanc a'r rheini ar brentisiaethau lefel sylfaen yn dweud wrthym y gallant deimlo, ar adegau, eu bod wedi'u hymddieithrio a heb fod yn rhan o'r gymuned addysg bellach ehangach. Mae cynnal ansawdd yn hanfodol hefyd, ac er bod y mwyafrif helaeth o ddarparwyr yn cynnig prentisiaethau o safon uchel, gan ganolbwyntio ar y sgiliau a'r gwaith a fwriadwyd, nid yw rhai ohonynt yn gwneud hynny ac mae rhai'n well na'i gilydd.
Rwyf wedi dweud o'r blaen yn y Siambr hon, ac fe'i dywedaf eto: dywedwyd wrthym am un enghraifft lle roedd menyw ifanc ar brentisiaeth mewn cwmni pensaernïaeth yng Nghymru pan ddaeth yn amlwg fod derbynnydd, ar ryw bwynt yn ystod y brentisiaeth, yn absennol oherwydd salwch, a chafodd ei thynnu i mewn yn lle'r derbynnydd ac ni ddychwelodd i wneud y cwrs prentisiaeth roedd hi yno i'w wneud. Felly, rwy'n credu bod hynny'n dramgwydd mawr, mewn gwirionedd, fod dynes wedi cael ei hamddifadu o'r profiad hwnnw.
Dengys hyn fod angen proses well, fwy ffurfiol ac unffurf, o sicrhau ymgysylltiad parhaus â phrentisiaethau, a gallai gynnwys partneru pob prentis dan 21 oed yn ffurfiol â choleg addysg bellach er mwyn sicrhau cymorth priodol, gan gynnwys mynediad i ddiwrnodau coleg neu hyfforddiant/addysg oddi ar y safle mewn sgiliau allweddol neu ddewisiadau addysg eraill y gallai'r prentis fod eu heisiau, ac mewn partneriaeth â cholegau addysg bellach i sicrhau mynediad at leisiau myfyrwyr yn y sefyllfa addysg bellach honno.
Mae amser yn brin, felly ein gwelliant 4: costau byw a chyflogau yw un o'r rhwystrau mwyaf arwyddocaol i brentisiaethau a hyfforddiant sgiliau yn y gwaith. Er y byddem ni ym Mhlaid Cymru eisiau i'r Cynulliad gael pwerau dros lefelau cyflog statudol, nid yw'r pwerau hynny gennym. Ond mewn egwyddor, dylem gydnabod bod tâl yn rhwystr sylweddol.
Cydnabu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wyf yn aelod ohono y broblem hon mewn adroddiad a gyflwynwyd yn 2018, lle dywedasom fod angen grant cynhaliaeth ar gyfer prentisiaethau, sy'n debyg i gynhaliaeth a roddir i'r rhai sy'n aros mewn addysg amser llawn. Ar hyn o bryd, yr isafswm cyflog cenedlaethol ar gyfer pob prentis blwyddyn gyntaf, boed yn 16, 26 neu 46 oed, yw £3.90 am bob awr o waith, hyfforddiant neu astudio. Dyna £7,605 y flwyddyn. Sut y mae hyn yn caniatáu i rywun a allai fod ag ymrwymiadau ariannol ac sydd am gael prentisiaeth allu ailhyfforddi? Ni chredwn fod hynny'n digwydd yn dda iawn ar hyn o bryd a chredwn y dylid unioni hyn i gynyddu tâl y flwyddyn gyntaf i'r isafswm cyflog cyfatebol sy'n berthnasol i oedran rhywun.
Mae llawer o bwyntiau eraill y byddem wedi hoffi eu hychwanegu at y cynnig hwn, ond ni allwn drafod hynny heddiw. Dylem edrych ar adolygiad Augar ar gyfer Lloegr fel ein bod yn annog mwy o astudio rhan-amser. Gwn fod y Gweinidog wedi gweithio'n galed iawn yn y maes ac wedi gwella'r ystadegau hynny. Hoffem weld prentisiaethau gradd yn ehangu ymhellach, a deall yr angen i weld y niferoedd sy'n cymhwyso yn cyfateb i'r sgiliau sydd eu hangen, ond ni all hyn fod yn unig ffocws gan na fydd yn gynaliadwy.
Y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw'r un a wneuthum mewn cwestiynau i'r Gweinidog yr wythnos hon. Mae'n ymwneud ag edrych yn fanwl ar sut y gallwn fynd i'r afael â'r draen dawn yma yng Nghymru a sut y gallwn gefnogi ac annog pobl i aros yn sefydliadau Cymru fel y gallwn annog y sefydliadau hynny i lwyddo ac i ffynnu yn y dyfodol.
Rwy'n mynd i alw ar y Gweinidog Addysg i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Cynnig yn ffurfiol.
Diolch. Paul Davies.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae'r siaradwyr blaenorol wedi hyrwyddo pwysigrwydd y sector addysg bellach yma yng Nghymru, ac wedi tynnu sylw at enghreifftiau rhagorol o'r sgiliau a'r cyrsiau y mae ein darparwyr addysg bellach yn eu cyflwyno. Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n hanfodol fod ein darparwyr yn gallu parhau i gyflwyno'r sgiliau hanfodol hyn.
Yn fy etholaeth fy hun, fel y gŵyr y Gweinidog, mae Coleg Sir Benfro yn cynnig cyfoeth o wahanol raglenni, o'r Safon Uwch draddodiadol i brentisiaethau a chyrsiau dysgu sy'n seiliedig ar waith, a'r amrywiaeth hon o ddewis sy'n gwneud addysg bellach mor atyniadol i lawer o bobl ar draws Cymru.
Nawr, nid yw pawb yn gallu astudio rhwng 9 y bore a 5 yr hwyr, nid yw mynd ar drywydd gradd academaidd strwythuredig yn addas i bawb, ac felly mae'r cyfleoedd dysgu hyblyg sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr addysg bellach yn hanfodol i rieni, pobl hŷn a'r rhai mewn gwaith amser llawn. Mae darparwyr addysg bellach fel Coleg Sir Benfro yn agor eu drysau i fyfyrwyr o bob oed, nid yn unig i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed, ac felly maent yn ganolog iawn i'r gwaith o wella sgiliau'r genedl a darparu cyfleoedd dysgu gydol oes.
Wrth gwrs, mae'n arbennig o bwysig cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg bellach a sgiliau galwedigaethol yn ei wneud i ddysgwyr, ond maent hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig iawn i economi Cymru. Dangosodd astudiaeth ddiweddar a gyflawnwyd gan y cwmni modelu economaidd, Emsi, ein bod yn derbyn £7.90 am bob £1 a fuddsoddir mewn colegau addysg bellach yng Nghymru, gyda'r gyfradd enillion flynyddol gyfartalog ar eu buddsoddiad yn 24 y cant. Rwy'n credu y dylem ystyried am eiliad pa mor werthfawr yw'r buddsoddiad hwnnw.
Mae colegau'n dod â chyfoeth i mewn i'w rhanbarth trwy gyflogi staff sy'n gwario ar nwyddau a gwasanaethau, a sgiliau'r gweithlu a ychwanegir at y rhanbarth gan fyfyrwyr sy'n dod o hyd i waith yn yr ardal ar ôl gadael. Yn hynny o beth, mae colegau a darparwyr addysg bellach yn fentrau cymdeithasol, sy'n gweithio gyda dysgwyr o bob oed trwy wella eu cyflogadwyedd a gwella eu potensial fel unigolion. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn galw am fwy o'r math hwn o weithgarwch yn ein system ysgolion fel ffordd o hyrwyddo sgiliau bywyd a mentergarwch, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar annog ysgolion uwchradd i sefydlu mentrau cymdeithasol i'w rheoli a'u rhedeg gan y disgyblion.
Wrth gwrs, un o'r ffyrdd pwysicaf o ddarparu sector addysg bellach cryf yng Nghymru yw drwy sicrhau bod y sector yn cael ei ariannu ar sail fwy hirdymor, fel y crybwyllodd Mohammad Asghar yn gynharach. Yn y gorffennol, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi galw am ddull mwy integredig a mwy hirdymor o ddarparu cyllid addysg bellach, gan y byddai dull mwy hirdymor yn sicr yn helpu colegau i gynllunio'n fwy effeithiol yn y tymor canolig ac yn mynd i'r afael â materion cynaliadwyedd yn y sector.
Nawr, nid wyf wedi fy argyhoeddi bod y newid i gyflwyno dyraniadau cyllid un flwyddyn wedi arwain at gymorth gwell i sefydliadau addysg bellach allu cynllunio ar gyfer y tymor canolig, ac mewn gwirionedd, mae'n fwy tebygol o fod yn wir ei fod wedi cael effaith negyddol ar ddenu myfyrwyr. Mae'r trefniadau ariannu anghyson yn y sector wedi effeithio ar niferoedd staff hefyd. Gwyddom fod cyfanswm y staff sydd gan ddarparwyr addysg bellach ychydig dros 9,300 yn 2012-13. Gostyngodd i oddeutu 7,800 yn 2015-16, cyn cynyddu i oddeutu 8,500 yn 2017-18. Felly, mae'n eithaf clir fod angen buddsoddi yn y gweithlu addysg bellach er mwyn sicrhau bod ei sgiliau a'i arbenigedd yn parhau i fod yn gyfredol ac y gall gynnal cysylltiadau â diwydiannau eraill.
Mae Cymru'n wlad uchelgeisiol, ond yn awr mae angen inni gynnal yr uchelgais hwnnw â'r rhwydweithiau cywir i sicrhau bod cyfleoedd lleol ar gael. Hefyd, mae angen inni sicrhau bod unrhyw strategaeth yn cael ei chydlynu ag adrannau eraill y Llywodraeth er mwyn gallu gweld y darlun llawn. Er enghraifft, mae'n hanfodol fod gan ardaloedd lleol rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n annog dysgwyr i ddilyn cyrsiau, yn enwedig dysgwyr mewn ardaloedd gwledig. Mae angen inni sicrhau hefyd fod dysgwyr yn cael cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, a sicrhau bod dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol hefyd yn gallu manteisio ar gyfleoedd addysg bellach. Felly, pan fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd orau o gefnogi'r sector addysg bellach yng Nghymru, mae'n hanfodol ei bod yn mabwysiadu dull o weithredu sy'n cwmpasu pob adran, fel bod Gweinidogion yn ystyried y darlun ehangach pan ddaw'n fater o gefnogi'r sector.
Ddirprwy Lywydd, er mwyn i Gymru ffynnu yn y dyfodol, rhaid inni sicrhau bod y sector addysg bellach yn cael digon o gefnogaeth a bod dysgwyr yn gallu dilyn y cyrsiau a'r rhaglenni y maent yn eu cynnig. Mae darparwyr addysg bellach yn ymateb i anghenion sgiliau eu hardal leol ac yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr lleol. Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Sir Benfro ei bumed digwyddiad cinio i gyflogwyr, a noddwyd gan Dragon LNG ac a gefnogwyd gan gyflogwyr lleol fel porthladd Aberdaugleddau, Cyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Dyma'r math o gydweithredu y mae'n rhaid i ni adeiladu arno a'i ddatblygu er mwyn helpu i sicrhau bod dysgwyr yn gadael addysg yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y gweithle. Felly, rwy'n annog y Gweinidog i weithio gyda rhanddeiliaid i ystyried ffurf y sector addysg bellach yn y dyfodol yn ofalus a sicrhau ei fod yn cael y buddsoddiad hollbwysig sydd ei angen arno, ac felly rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.
Teimlaf fod yn rhaid i mi ddechrau fy nghyfraniad drwy gydnabod y nifer enfawr o fentrau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno dros y blynyddoedd diwethaf i wella'r ddarpariaeth o weithlu medrus yng Nghymru, yn enwedig lle maent wedi newid y ffocws i hyfforddiant galwedigaethol. Dylem hefyd gydnabod yr effaith gadarnhaol y mae gweithwyr ymfudol medrus wedi'i chyfrannu at economi Cymru, ond erys y ffaith ein bod wedi dod yn llawer rhy ddibynnol ar lafur mewnfudwyr, yn aml iawn ar draul ein poblogaeth frodorol. Rwy'n defnyddio'r gair 'brodorol', ond hoffwn nodi bod y Llywodraeth Lafur, yn eu dogfen 'Ffyniant i Bawb', wedi defnyddio'r gair 'brodorol' droeon. [Torri ar draws.] Fel y crybwyllais yn y ddadl gynharach, mae'r gwasanaeth iechyd yn y DU yn gwrthod—[Torri ar draws.] Mae'r gwasanaeth iechyd yn y DU yn gwrthod 80,000 o ymgeiswyr nyrsio cymwys o Brydain bob blwyddyn am ei bod yn rhatach i ysbeilio gwledydd y trydydd byd am eu staff hyfforddedig.
Nid oes unrhyw amheuaeth fod Llywodraeth Cymru, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diweddar, wedi ehangu ei chyfleusterau gwella sgiliau yn fawr, yn y sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch. Mae'r cyfleusterau ariannu hyblyg sydd bellach ar waith wedi gwella gallu myfyrwyr i gynyddu eu sgiliau ar sail ran-amser, ac mae nifer yn manteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan y Brifysgol Agored i ennill cymwysterau uwch. Gwelwyd newid sylweddol yn yr agwedd tuag at gymwysterau galwedigaethol, a chredaf fod hyn yn dechrau dwyn ffrwyth yn awr yn y nifer o brentisiaethau galwedigaethol newydd a geir. Er ein bod i gyd yn cydnabod y bydd yn cymryd peth amser i'n gwneud yn llai dibynnol ar lafur Ewropeaidd—yn wir, fe fyddwn bob amser yn dibynnu i ryw raddau ar weithwyr o bob cwr o'r byd i lenwi swyddi na allant, am amryw o resymau, gael eu llenwi gan y boblogaeth frodorol. Ond mae hon, mewn sawl ffordd, yn sefyllfa ddymunol; cymysgedd o bobl o wahanol wledydd yn helpu i bwysleisio pa mor debyg ydym i'n gilydd a pham y dylai ein gwlad gydweithredu er lles pob un ohonom.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf, wrth gwrs.
Mae'n ymddangos bod rhywfaint o wrthwynebiad gan Aelodau Llafur i'w ddefnydd o'r gair 'brodorol'. Pan ddaw pobl i wneud eu bywydau yng Nghymru, tybed a yw hi'n iawn inni eu croesawu fel y dymunwn neu a ddylem ddifrïo'r unigolion hynny drwy eu galw'n 'ymwelwyr'.
Yn hollol. Os deuant i fyw yng Nghymru, credaf eu bod yn dod yn rhan o economi Cymru.
Felly, gadewch i ni beidio ag edrych ar Brexit fel rhywbeth negyddol, ond yn hytrach fel cyfle i adeiladu cenedl fywiog, allblyg, sy'n cofleidio ein diaspora gyda'r byd yn gyffredinol, nid Ewrop yn unig. Drwy adeiladu economi gref, fywiog yn y ffordd honno, byddwn yn ddiofyn yn creu gweithlu medrus sy'n hyblyg, gan newid y sgiliau i addasu i newidiadau sy'n digwydd naill ai yn eu hamgylchedd gwaith eu hunain neu wrth chwilio am gyfleoedd gwaith newydd.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu yn y ddadl heddiw. Mae'n werth ystyried nad yw dwy ran o dair o bobl ifanc yn mynd i'r brifysgol, ac mewn gwirionedd, y sector addysg bellach, boed yn rhan-amser neu'n amser llawn, yw'r prif lwyfan dysgu ar eu cyfer er mwyn iddynt wella eu rhagolygon gyrfa. Rwy'n credu bod honno'n ystyriaeth bwysig. Crybwyllodd arweinydd yr wrthblaid y nifer enfawr o staff sy'n gysylltiedig ag addysgu yn ein colegau addysg bellach ar hyd a lled Cymru, sef 9,330 yn 2013, a gostyngodd hynny, gwaetha'r modd, i 7,815 yn 2015-16, cyn y gwelwyd gynnydd i'w groesawu i tua 8,500 , ond mae hynny'n dal i fod oddeutu 800 o swyddi addysgu yn llai na'r hyn a oedd gennym tua chwech neu saith mlynedd yn ôl, ac mae honno'n rhan hanfodol o'r elfen addysgu y mae angen ei hunioni os ydym am gynyddu cynhyrchiant a gwella sgiliau ein gweithlu yma yng Nghymru.
Mae'n werth ystyried hefyd er enghraifft fod bron i 170,000 o fyfyrwyr yn ein colegau addysg bellach yn cymryd rhan mewn profiad addysgol ar ryw ffurff neu'i gilydd mewn colegau addysg bellach ar hyd a lled Cymru, ond hoffwn ganolbwyntio ar y sector amaethyddol ac yn enwedig, yn anffodus, y nifer fach iawn o brentisiaethau amaethyddol a gynigir yma yng Nghymru. Ymddengys mai 1 y cant o brentisiaethau a gynigiwyd ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf, ac mae hynny'n sicr yn bryder mawr. Oherwydd, yn amlwg, yn fy mhrofiad personol i, os caf gyffwrdd ar hynny am eiliad, y ffordd y mae'r diwydiant amaethyddol wedi datblygu dros y 30 mlynedd diwethaf, mae hi bron yn amhosibl dirnad heddiw ble roeddem yn y 1990au. A chaiff hynny ei yrru gan ddewis y defnyddiwr, oherwydd yn amlwg mae gan ddefnyddwyr allu i ddewis y cynnyrch y dymunant ei brynu ac mae'r defnyddiwr eisiau bod yn fwy gwybodus am y modd y datblygwyd y cynnyrch hwnnw a sut y cynhyrchwyd y cynnyrch hwnnw, ac yn benodol, sut y caiff y cynnyrch hwnnw ei gyflwyno ar silffoedd ein harchfarchnadoedd.
Felly, mae angen gweithlu amaethyddol sy'n fedrus ac sydd mewn cysylltiad â'i sylfaen ddefnyddwyr, ond 30 i 40 mlynedd yn ôl o bosibl, yn draddodiadol, byddai llawer o ffermwyr, cyn gynted ag y byddent wedi gadael gât y fferm, yn cymryd dim sylw o gwbl i'r ffordd y câi'r cynnyrch ei gyflenwi a pha werth ychwanegol y gellid ei roi i'r cynnyrch hwnnw. A hoffwn awgrymu mai dyna lle mae gan golegau addysg bellach rôl hanfodol i'w chwarae. Ac felly mae taer angen inni gynyddu'r ganran honno o fyfyrwyr amaethyddol sy'n gweld eu hamgylchedd dysgu yn y sector addysg bellach. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog, yn ei hymateb heddiw, roi rhyw syniad inni sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cynyddu'r niferoedd o brentisiaethau amaethyddol sydd ar gael drwy'r sector addysg bellach, gan nad yw aros ar 1 y cant yn mynd i fod yn dderbyniol yn y dyfodol, yn enwedig gan fod bron i 4 y cant o'r gweithlu'n gweithio yn y diwydiant amaethyddol.
Ac mae'n werth nodi hefyd, wrth i economi Cymru wynebu ei heriau unigryw, demograffeg yw un o'r heriau mwyaf a wynebwn, oherwydd rhwng 2016 a 2041 rhagwelir y bydd nifer y bobl 16 i 64 oed yn gostwng bron 5 y cant. Felly, os ydym yn mynd i gynyddu cynhyrchiant ein gweithlu, ac yn arbennig ein heconomi gyffredinol, mae angen inni wneud yn siŵr fod lefelau sgiliau'n codi fel y gellir sicrhau mwy o waith a gwaith cynhyrchiol sy'n ychwanegu gwerth i'n heconomi gyffredinol gan bob gweithiwr yn y pen draw. A bydd hynny wedyn yn codi lefelau cyflog, sy'n brawf o economi fwy ffyniannus. A sut y mae codi lefelau cyflog? Wel, drwy wella sgiliau'r union weithlu rydym yn treulio cymaint o amser, wythnos ar ôl wythnos, yn siarad amdano yma.
Ac felly, unwaith eto, buaswn yn hapus iawn i allu deall sut y bydd y Gweinidog, ynghyd â'n colegau addysg bellach a'r rhai o fewn y sector, yn ceisio hybu'r cynhyrchiant hwnnw sydd, ysywaeth, wedi llusgo ar ôl gweddill y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu fy mod yn gywir i ddweud, o ran gwerth ychwanegol gros yr awr a weithiwyd, mai'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd oddi tanom yw Gogledd Iwerddon. Yn sicr, gyda'r 14 coleg sydd gennym yma yng Nghymru a rhai o'r cyfleusterau rhagorol y mae'r colegau hynny wedi buddsoddi ynddynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf—. Mae Coleg Caerdydd a'r Fro sy'n agos at y fan hon ar Heol Dumballs yn batrwm o gynnydd da, ac yn fy rhanbarth i, mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn mynd i Goleg Pen-y-bont a champws Pencoed. Felly, mae gennym y campysau, ond yr hyn a welwn yw diffyg cynhyrchiant yn bwydo i'r economi yn gyffredinol. Yn fwyaf arbennig, os yw'r Gweinidog yn edrych ar ei hardal ei hun ym Mhowys, er enghraifft, lle mae cynhyrchiant 35 y cant yn is na chyfartaledd y DU, rwy'n siŵr fod hynny'n rhywbeth y bydd y Gweinidog yn canolbwyntio arno, ac yn ceisio mynd i'r afael â'r gostyngiad o 35 y cant yn y cynhyrchiant sy'n golygu bod Powys, er enghraifft—y sir fwyaf yng Nghymru, a sir amaethyddol fawr—yn llusgo mor bell ar ei hôl hi. Oherwydd nid yw hynny'n dda i wasanaethau lleol ac nid yw'n dda i'r economi leol yn arbennig, oherwydd mae'n cadw lefelau cyflog yn isel yn yr ardal honno.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd trafodaeth gadarnhaol am y rôl bwysig sydd gan addysg bellach i'w chwarae yn ein hystâd addysg yma yng Nghymru—cydnabod maint y sector addysg bellach, ond pwysigrwydd dysgu rhan-amser a dysgu amser llawn yn y maes penodol hwnnw o addysg yma yng Nghymru. A gadewch inni beidio ag anghofio bod yna newyddion da i'w adrodd am addysg bellach, ond ni ddylem dynnu ein sylw oddi ar y bêl o ran lle mae rhai o'r problemau ystyfnig hyn yn bodoli o ran cynhyrchiant, o ran cywiro'r problemau demograffig a wynebwn gyda gweithlu rhwng 16 a 64 oed sy'n crebachu. Ac yn anad dim, sicrhau ein bod yn gallu hybu'r profiad sy'n annog mwy o bobl i fanteisio ar addysg bellach, drwy fuddsoddi'n ariannol a buddsoddi yn y cyrsiau sydd ar gael, ac mae hynny'n golygu rhoi mwy o ddarlithwyr a mwy o athrawon yn y colegau hynny er mwyn inni fynd i'r afael â'r prinder. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig sydd gerbron y prynhawn yma.
Mae sgiliau wedi dod yn ddraenen yn ystlys y ddraig Gymreig. Mae 67 y cant o uwch arweinwyr busnes wedi dweud bod eu sefydliad yn profi prinder sgiliau ar hyn o bryd; dywedodd 54 y cant o gyflogwyr na allent recriwtio digon o staff gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Ac mae'r prinder sgiliau yn costio tua £155.2 miliwn i fusnes yng Nghymru.
Er mwyn i fusnesau Cymru allu gwneud yn fawr o'r manteision a ddisgwylir yn sgil Brexit, mae'n rhaid datblygu sgiliau ein gweithlu er mwyn ateb galwadau economi Cymru. Os nad ydych yn fy nghredu, canfu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru fod tystiolaeth dda fod sgiliau... yn ffactorau pwysig ar gyfer hybu twf mewn rhanbarthau sydd ar ei hôl hi.
Yn ganolog i gryfhau sgiliau, wrth gwrs, mae cyllid teg ar gyfer addysg bellach. Mae ColegauCymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod y cylch ariannu cyfredol o flwyddyn yn llesteirio cynllunio mwy hirdymor, ac argymhellodd adolygiad Graystone y dylech symud tuag at gylch cynllunio tair i bum mlynedd. Hefyd, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi galw am ddull hirdymor o gyllido addysg bellach. Felly, mewn gwirionedd, nid oes esgus yn awr dros beidio â gweithredu'r argymhellion hyn.
Yn yr un modd, rwy'n cefnogi galwadau i greu lwfans dysgu oedolion. Fel y dadleuodd y Brifysgol Agored yng Nghymru, ni ddylai addysg fod yn gynnig untro ar gyfer pobl ifanc. Mae nifer yr ymgeiswyr llwyddiannus am y grant dysgu i'r rheini sy'n 19 oed neu'n hŷn wedi lleihau. Mae llai nag 1 y cant o'r rheini sy'n cymryd rhan mewn prentisiaethau a chynlluniau dysgu yn y gweithle yn bobl hŷn. Mae'r ffeithiau hyn yn gwrthddweud eich nod eich hun o roi cyfleoedd cyfartal i bobl gael sgiliau am oes. Mae'r newyddion yn waeth byth wrth ystyried canfyddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fod yr economi bellach yn mynd yn fwyfwy dibynnol ar ein gweithwyr hŷn. Yn amlwg, buaswn yn gobeithio eich clywed yn mynd i'r afael â hyn heddiw ac yn ystyried yn ofalus ein cynllun i roi hwb i ddysgu gydol oes drwy gyflwyno lwfans dysgu oedolion.
Nawr, yr un mor ddiddorol i Aberconwy, sut y gellir gwella sgiliau ar draws gogledd Cymru yn fwy cyffredinol. Bûm yn gweithio gydag eraill i roi hyn ar waith y tymor diwethaf, gyda chwestiwn ysgrifenedig yn y Cynulliad yn gofyn am ddylanwad y sector preifat ar y sgiliau a addysgir mewn addysg bellach. Mae cyflogwyr i fod i allu dylanwadu drwy'r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol. Fodd bynnag, canfu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau fod rôl y partneriaethau yn datblygu sylfaen sgiliau Cymru yn parhau i fod yn aneglur.
Mae gennym ddau goleg addysg bellach rhagorol yng ngogledd Cymru, a hoffwn dalu teyrnged arbennig i waith rhagorol Mr Lawrence Wood, Prifathro Coleg Llandrillo. Yn ddiweddar, mae wedi gweld gwaith adnewyddu helaeth ar y sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n galluogi myfyrwyr i archwilio pob agwedd ar ofal ystafell wely a dysgu mewn ystafelloedd ar ffurf ward rithwir mewn ysbyty, gan ddefnyddio offer rhithwir i archwilio organau a gwaed—yn union fel bod y tu mewn i gorff dynol. Hefyd, mae ei goleg yn gweithio gyda bargen twf gogledd Cymru, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gyflawni prosiect gwerth £14 miliwn.
Mae nodau canolfan ragoriaeth gogledd Cymru ar gyfer twristiaeth a lletygarwch hefyd yn cynnwys darpariaeth ddatblygu sgiliau wedi'i thargedu yn y rhanbarth er mwyn cyflymu twf y sector twristiaeth a lletygarwch. Mae hyn yn newydd sbon, mae'n ysbrydoliaeth, ond mae angen inni wneud mwy i gysylltu addysgu o ansawdd â busnesau. Un ateb fyddai creu sefydliad technoleg sy'n canolbwyntio ar wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yng ngogledd Cymru. Yn sicr, byddai'n helpu i sicrhau y gall fy nhrigolion a busnesau ddylanwadu a sicrhau'r sgiliau sydd eu hangen yn y rhanbarth hwn. A dweud y gwir, gallai fod yn un o'r triniaethau sydd eu hangen i dynnu'r ddraenen o ystlys y Ddraig economaidd Gymreig—sef sgiliau. Diolch.
A gaf fi alw ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae wedi bod yn ddiddorol, ac weithiau'n ddadlennol, clywed y cyfraniadau y prynhawn yma, ond rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno bod datblygu sgiliau'r gweithlu yn hanfodol os yw Cymru am lwyddo a ffynnu ar ôl Brexit.
Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi addysg bellach, addysg uwch a phrentisiaethau er mwyn sicrhau bod gan ein pobl y sgiliau sydd eu hangen i ateb heriau'r economi ar ôl Brexit ac wedi'r cyfan, yn unigryw o fewn y DU, ymatebodd Cymru i'r her o adael yr UE drwy greu cronfa bontio benodol, ac mae hon eisoes wedi arwain at £10 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn benodol ar gyfer addysg a sgiliau. O'r gronfa hon, bydd dros £6 miliwn yn cefnogi cyflogwyr yn y sectorau modurol ac awyrofod, gan eu galluogi i gyflwyno prosiectau i fynd i'r afael â phrinder sgiliau posibl a waethygir drwy adael yr UE. Ochr yn ochr â hyn, dyrannwyd £3.5 miliwn i wella ein cysylltiadau addysg rhyngwladol, gan gynnal ein henw da fel lle croesawgar i fyfyrwyr er gwaethaf y penderfyniad i adael yr UE, yn ogystal â'n cynllun pwrpasol i gynnig mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru allu teithio oddi yma.
Nawr, mae'r cynnig gan y Ceidwadwyr a drafodir gennym heddiw yn galw'n bennaf am fuddsoddi mewn prentisiaethau gradd, mewn lwfansau dysgu oedolion ac yn y sector addysg bellach yn fwy cyffredinol, ac mae pob un o'r rhain, Ddirprwy Lywydd, yn cael sylw yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Yn ei chyfraniad, dywedodd Janet Finch-Saunders nad oedd yn deall beth oedd yn ein hatal rhag symud i gylch cyllido tair blynedd. Wel, gadewch i mi roi rheswm da iawn i chi—un rheswm da iawn—Janet: nid oes gennyf gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ni allaf—[Torri ar draws.] Nid oes unrhyw fodd y gallaf roi cyllideb tair blynedd i golegau addysg bellach gan mai cyllideb un flwyddyn yn unig rwy'n ei chael.
Nawr, gyda'i gilydd—[Torri ar draws.] Gyda'i gilydd, yn y flwyddyn newydd—[Torri ar draws.] Gyda'i gilydd, disgwylir cynnydd o dros £25 miliwn yn y gyllideb addysg bellach ar ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd hon, gan gynnwys cyllid ychwanegol i gefnogi iechyd meddwl, cyllid ar gyfer dysgu proffesiynol i'r rhai sy'n gweithio ym maes addysg bellach, a chyllid i gynnali pwysau pensiynau a chyflogau. [Torri ar draws.] Ie.
Roeddwn eisiau gwybod, o'r £24 miliwn—. Gan fy mod yn cadeirio'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu; fe ofynasom i'r Gweinidog a ddaeth yno faint o'r arian hwnnw a fyddai'n mynd tuag at brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Oherwydd ni chawsom wybodaeth lawn ynglŷn â faint fyddai hynny, ac os gallech egluro, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.
Wel, bydd yn rhaid i fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr economi, egluro hynny, oherwydd mewn gwirionedd mae prentisiaethau'n dod o dan ei adran ef, nid o fewn yr adran addysg. Ond byddaf yn sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael i chi.
Mae'r cynnig yn trafod—[Torri ar draws.] Mae'r cynnig yn trafod prentisiaethau gradd, sydd unwaith eto i'w gweld eisoes yn y gyllideb ddrafft. Mae Gweinidog yr economi a minnau'n parhau'n ymrwymedig i ehangu prentisiaethau gradd lle maent yn gweithio er budd cyflogwyr a dysgwyr. Nawr, roedd fel pe bai wedi'i fethu gan rai o'r siaradwyr, ond mae gennym gynllun peilot sy'n gweithredu eisoes ar gyfer creu rhaglen integredig sy'n meddu ar hygrededd a bri gradd academaidd a'r sgiliau diwydiant cymhwysol y byddech yn disgwyl eu cael mewn prentisiaeth. Mae'r cynlluniau peilot hynny eisoes ar waith, gyda myfyrwyr yn cael eu recriwtio ac ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer prentisiaethau gradd mewn technoleg ddigidol, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch. Nawr, mae hyn yn rhywbeth rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno sy'n rhaid inni ei gael yn iawn, a gadewch inni beidio ag anghofio, y mis hwn, honnodd melin drafod a weithredir gan gyn-ymgynghorydd i Lywodraeth San Steffan y gellid ystyried hanner y cyrsiau prentisiaeth yn Lloegr yn rhai ffug, a chanfu enghreifftiau lle roedd rhaglenni israddedig presennol, i bob pwrpas, yn cael eu hail-labelu fel prentisiaeth, yn hytrach na'r dull rydym yn ei weithredu yma yng Nghymru. Felly, gadewch i mi fod yn glir y bydd datblygiad y rhaglen prentisiaethau gradd yng Nghymru yn y dyfodol yn dibynnu ar ganlyniad gwerthusiad annibynnol ac ystyriaethau gwerth am arian, a chredaf fod hynny'n gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r hyn a welwn yn digwydd dros y ffin.
Mae'r cynnig hefyd yn galw am greu lwfans dysgu oedolion, ac yn amlwg mae rhai o'r siaradwyr Ceidwadol wedi methu'r ffaith ein bod yn arwain y ffordd yn y maes hwn yng Nghymru gyda sefydlu cyfrifon dysgu personol. Nawr, mae'r fenter hon, sy'n cael ei threialu ar hyn o bryd gan Goleg Gwent a Llandrillo Menai, ar gael i bobl sydd mewn gwaith ar hyn o bryd ond sy'n ennill llai na £26,000 y flwyddyn. Mae'n sicrhau bod pobl yn cael cyfle i gael y sgiliau, y wybodaeth a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt naill ai i newid gyrfa i swydd sy'n talu'n well neu i allu dod o hyd i gyfleoedd yn eu gwaith presennol ar gyfer camu ymlaen. Rwy'n chwilio am gyfle cynnar i ehangu'r cynllun peilot hwnnw i leoliad arall yng Nghymru.
Treuliodd Mohammad Asghar lawer o amser yn dyfynnu'r Brifysgol Agored a'r angen i gefnogi addysg ran-amser. Mae'r wlad hon yn unigryw yn yr ystyr nad ydym yn gwahaniaethu rhwng cymorth sydd ar gael naill ai i israddedigion neu raddedigion, yn rhan amser neu'n amser llawn, ac rwy'n falch iawn, ers cyflwyno ein pecyn diwygio cyllid myfyrwyr, fod y Brifysgol Agored yma yng Nghymru yn nodi cynnydd o 46 y cant yn nifer y bobl sy'n dechrau astudio am radd gyda hwy—cynnydd o 46 y cant—a dim ond yn ail flwyddyn academaidd y diwygiadau hynny rydym ni.
A gaf fi ddweud hefyd—a gaf fi ddweud hefyd—fod angen inni edrych ar sgiliau ar lefel ehangach? Er bod angen i ni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â sgiliau ar lefel is, rydym hefyd am weld mwy o bobl yn astudio ar lefel uwch, gan gynnwys graddau Meistr, ac rwyf wedi gosod targedau ymestynnol iawn i mi fy hun ar gyfer y nifer o fyfyrwyr o Gymru rwyf am eu gweld yn astudio am radd Meistr. Ond ers dechrau'r sesiwn hon o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i mi ddweud ein bod wedi gweld cynnydd o 33 y cant yn nifer y rhai sy'n dechrau rhaglenni gradd Meistr—cynnydd o 33 y cant.
Mae gennym gynllun arloesol hefyd i gefnogi rhaglenni graddau Meistr ar gyfer rhai dros 60 oed. Oherwydd rheolau'r Trysorlys yn Llundain, ni allwn ganiatáu i bobl dros 60 oed gael mynediad at y llyfr benthyciadau i fyfyrwyr, ond llwyddasom i oresgyn hynny, ac felly, os ydych dros 60 oed yng Nghymru a'ch bod am astudio ar gyfer gradd Meistr, fe gewch gymorth gan Lywodraeth Cymru trwy ein prifysgolion yng Nghymru.
Yn gwbl briodol, holodd Bethan am yr hyn a wnawn i ddenu mwy o bobl i ddychwelyd i Gymru. Nawr, mae gennym gymorth cyffredinol i fyfyrwyr graddau Meistr ni waeth pa ran o'r DU y maent yn astudio ynddi, ond os dychwelwch i Gymru neu ddod i Gymru i astudio ar gyfer gradd Meistr mewn rhai meysydd allweddol fe gewch chi fwrsariaeth ar ben yr hyn y gallwch ei hawlio a'r hyn y gallwch wneud cais amdano gan y system gymorth arferol i fyfyrwyr.
Crybwyllodd Paul Davies y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Rwyf wedi ymrwymo i ehangu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg bellach. Dyna pam, ers inni ddod i rym, ein bod wedi cynyddu rôl y coleg cenedlaethol, nid yn unig mewn addysg uwch, ond i gynnwys addysg bellach hefyd. Rwyf wrth fy modd gyda'r gwaith y maent wedi'i wneud, ochr yn ochr â ColegauCymru, ar sefydlu cynllun clir iawn ar gyfer sut y gallwn gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg bellach.
Andrew R.T. Davies, rydych yn llygad eich lle—mae angen dadeni mewn hyfforddiant amaethyddol ar gyfer ein pobl ifanc os ydym am gael sector amaethyddol bywiog yn y dyfodol, a chefais nifer o sgyrsiau eisoes gyda'r darparwyr sydd gennym yn barod ar lefel addysg bellach ynglŷn â sut y gall cwricwlwm diwygiedig edrych, gan wneud yn siŵr fod plant sy'n dod o'r—'plant', maent oll yn blant i mi; pobl ifanc, mae'n ddrwg gennyf—pobl ifanc sy'n dod o'r colegau hynny yn meddu ar y cymwysterau, y sgiliau a'r cymwyseddau parod ar gyfer gwaith ac i fod yn wirioneddol lwyddiannus yn y diwydiant hwnnw. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
[Anghlywadwy.] Ar y pwynt penodol hwn, oherwydd mae wedi bod yn ystyfnig o isel ar ddim ond 1 y cant—nifer y prentisiaethau amaethyddol—allan o ffigur o fwy na 30,000 o brentisiaethau. Gyda'r trafodaethau hyn, ble y credwch y gallai'r ffigur hwnnw fod ymhen dwy neu dair blynedd? A ydym yn mynd i weld cynnydd yn nifer y prentisiaethau amaethyddol yn gyffredinol? Rwy'n siŵr nad oes neb am ei gadw ar y lefel honno, ond mae angen inni weld cynlluniau ar gyfer cynyddu'r niferoedd hyn.
Fel y dywedais, nid wyf yn gyfrifol am brentisiaethau, ond rwy'n gyfrifol am ein darpariaeth addysg bellach, ac rwyf am allu gweithio gyda'n colegau i wneud yn siŵr fod y ddarpariaeth honno a chymwysterau amaethyddol cystal ac mor berthnasol ag y mae angen iddynt fod ar gyfer y sector yn y dyfodol.
Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n gwybod fy mod yn profi amynedd y Dirprwy Lywydd, ond rwyf am droi at welliant Plaid Cymru, yn enwedig ar fater Erasmus+, oherwydd rwy'n credu bod hwnnw o bwys gwirioneddol i'r Siambr hon. Dros y pum mlynedd diwethaf, amcangyfrifir bod 10,000 o fyfyrwyr a staff yng Nghymru wedi cael budd o gymryd rhan yn rhaglen Erasmus+, ac mae'n hynod siomedig gweld safbwynt Llundain ar y mater ar hyn o bryd.
I gloi, mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn un sy'n sicrhau buddsoddiad sylweddol i'n sefydliadau addysg bellach, er mwyn codi safonau a chefnogi myfyrwyr. Rwy'n falch ein bod ni, yn wahanol i Loegr, yn darparu buddsoddiad i sicrhau bod darlithwyr addysg bellach yng Nghymru yn cael yr un faint â'u cyd-addysgwyr yn yr ysgolion. Rwy'n falch ein bod yn parhau i ddarparu buddsoddiad i gefnogi colegau sydd dan bwysau yn ariannol o ganlyniad i bensiynau. Fel y dywedais: £2 filiwn ar gyfer iechyd meddwl; £5 miliwn ar gyfer dysgu proffesiynol; a £10 miliwn ar gyfer y gronfa datblygu sgiliau. Rydym yn cefnogi ein sefydliadau addysg bellach, yn cefnogi ein myfyrwyr a'n dysgwyr, ac rydym yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar Gymru i ateb gofynion ein heconomi.
Diolch. A gaf fi alw ar David Melding i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu ein bod wedi cael dadl ddiddorol iawn, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Dechreuodd Mohammad Asghar yn gadarn iawn a fframiodd ei ddadl yn gadarnhaol iawn yn fy marn i. Mae angen inni gyrraedd ein potensial llawn fel pobl ac fel economi, a chredaf ein bod i gyd yn cytuno â hynny. Mae gweithlu medrus yn ganolog i economi wydn; unwaith eto, mae hwnnw'n wirionedd mawr. Ond ar brydiau, mae prinder sgiliau yn ein dal yn ôl, ac wrth geisio unioni'r diffyg hwn, mae addysg bellach yn gwbl hanfodol. Nid wyf yn credu bod neb yn anghytuno â hynny fel cnewyllyn gwirioneddol bwysig y ddadl hon. Yn wir, Oscar, clywais lawer o fwmian o'r fainc flaen yn cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedoch chi, ac yn cymeradwyo eich ymagwedd.
Soniodd Bethan Jenkins am Erasmus+ a materion eraill, a hoffwn—[Torri ar draws.] Mae'n flin gennyf, mae'n ddrwg gennyf. Soniodd am Erasmus+, ac rwyf am dreulio ychydig o amser ar hyn oherwydd rwy'n credu ei fod yn fater pwysig iawn. Rwy'n credu bod Erasmus+ wedi bod o fudd enfawr i fyfyrwyr Cymru, gan gyfoethogi eu profiad a gadael iddynt ffynnu, ac mae iddo fanteision economaidd mawr. Byddaf yn annog Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn negodi'n dda fel y gallwn gymryd rhan yn y rhaglen hon mewn ffordd a fydd yn sicrhau manteision yn y dyfodol. Ond rwy'n meddwl y byddai ei roi ym Mil ymadael yr UE wedi cyfyngu'n fawr ar ein polisi negodi, ac nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd orau o fynd ati. Ond—ac mae fy nghyd-Aelodau'n cytuno â mi—byddwn yn pwysleisio pa mor bwysig yw hyn wrth Lywodraeth y DU, fel y gwnaeth y Gweinidog. Felly, rydym yn cytuno ar hynny.
Soniodd Paul Davies am Goleg Sir Benfro. Cafwyd llawer o gyfeiriadau penodol at golegau addysg bellach lleol a'r modd y maent yn ganolog i gymaint o fywyd yn ein heconomïau lleol rhanbarthol. Mae drysau ar agor yno i bobl o bob oed, ac rwy'n credu o ddifrif mai dyna'r peth clasurol y mae addysg bellach wedi'i ddarparu. Mae gennym hanes da iawn yn draddodiadol yng Nghymru. Cymru oedd un o'r ychydig leoedd ar ôl yr ail ryfel byd lle gwelwyd colegau technegol yn llwyddo o ddifrif. Un o fethiannau'r diwygiadau yn y cyfnod hwnnw oedd na lwyddodd addysg dechnegol i ennill y math o amlygrwydd ag a roddwyd i lwybrau mwy academaidd. Ond yng Nghymru, fe wnaethom yn dda yn y sector hwnnw mewn gwirionedd, ac rydym wedi gweld ein colegau addysg bellach yn bwrw ymlaen â'r traddodiad. Ond pwysleisiodd Paul yr angen am fodel ariannu mwy hirdymor, ac roedd honno'n dipyn o ddadl yn ystod ein trafodaeth hefyd. Fe ddychwelaf at hynny mewn munud o bosibl.
Wedyn, gwnaeth nifer o'r Aelodau y cysylltiad rhwng colegau addysg bellach a chyflogwyr, unwaith eto. Dechreuodd David Rowlands, yn deg iawn yn fy marn i, drwy dalu teyrnged i raglenni galwedigaethol Llywodraeth Cymru, fel y dywedodd, a chanmolodd yr hyn a oedd wedi bod yn llawer o weithgarwch cadarnhaol yn ei farn ef. Yna, dychwelodd at ei araith flaenorol yn y ddadl a gawsom yn gynharach, a chafwyd llawer o anghydfod geiriol ynglŷn ag un gair penodol, nad wyf yn mynd i'w grybwyll. Ond rwy'n credu bod angen inni fod ychydig yn fwy caredig wrth ein gilydd weithiau. Rwy'n meddwl mai cywair, cyd-destun a bwriad yw'r hyn sy'n gyrru'r defnydd o eiriau, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r rhwystredigaeth a deimlai yn gynharach.
Yna siaradodd Andrew R.T. Davies am golegau addysg bellach fel y prif lwybr i lawer o bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau. Rydym yn sôn llawer am brifysgolion, a hynny'n ddigon priodol, ond i lawer o fyfyrwyr, mae colegau addysg bellach yn llawer mwy perthnasol, ac roeddwn yn meddwl bod hynny wedi adfer cydbwysedd y ddadl. Soniodd, wrth gwrs, am y sector amaethyddol—byddem yn disgwyl hynny—ond gyda'r fath rym, ac ef oedd yr unig un i fynd i'r afael â hyn yn y ddadl y prynhawn yma. Yn anffodus, oddeutu 1 y cant yn unig o brentisiaethau sydd yn y sector amaethyddol ar hyn o bryd, ac mae honno'n ystyriaeth ddigon digalon. Soniodd am y buddsoddiad cyfalaf mawr a welwyd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, a deallaf fod yna enghreifftiau eraill. I unrhyw un sy'n mynd i safle Heol Dumballs—mae'n bleser pur gweld y myfyrwyr yno wedi'u hamgylchynu gan y cyfleusterau rhagorol hyn. Rwy'n argymell y bwyty yno, ymysg llawer o bethau eraill sydd ganddynt.
Janet Finch-Saunders, roeddwn yn meddwl mai chi oedd â'r ddelwedd orau heddiw: sgiliau yw'r ddraenen yn ystlys y ddraig Gymreig. Gwnaeth y ddelwedd honno argraff ar bobl a gwneud iddynt feddwl pa mor bwysig yw hi ein bod yn unioni'r llyffethair a welwn ar hyn o bryd mewn gormod o feysydd am nad ydym yn cryfhau sgiliau cymaint ag y dylem. Oherwydd maent yn ysgogi gwelliant mewn perfformiad economaidd yn ogystal â dod â budd mawr i unigolion. Fe sonioch chi hefyd fod dylanwad y sector preifat yn bwysig, a'r partneriaethau sydd yno fel y gall cyflogwyr yrru llawer o'r dulliau strategol o ddatblygu sgiliau. Rwy'n credu bod y rhain yn bwyntiau pwysig iawn. O ran sgiliau, buaswn yn ychwanegu mai dyna'r ysgogiad gorau sydd gennym yn ôl pob tebyg. Mae gennym lawer o bŵer yno, a dylid dweud ein bod yn gwario llawer o arian hefyd. Mae angen inni wneud hynny'n effeithlon ac yn effeithiol. Mae hyn yn rhywbeth y credaf ei fod yn cael ei anghofio weithiau—pa mor bwerus yw'r ysgogiad hwnnw i sefydliad datganoledig.
Atebodd Kirsty wedyn, a chytuno â llawer o'r hyn a gyflwynwyd gennym, rwy'n credu. Wrth gwrs, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i wella sgiliau, fel y dywedodd y Gweinidog, er mwyn i Gymru allu ffynnu. Nid wyf yn credu bod neb yn amau nad yw'r ymrwymiad hwnnw'n un diffuant iawn a bod hyn hyd yn oed yn bwysicach ar gyfer economi ôl-Brexit. Ac unwaith eto, rwy'n credu y byddai pawb yn y Siambr yn cytuno.
Gyda'ch caniatâd, Ddirprwy Lywydd, ar y pwynt hwn, awgrym o feirniadaeth. Fe feddyliais fod rhywfaint o naws ddidactig yn eich anerchiad ar y pwynt hwnnw wrth i chi ddweud y drefn wrthym am fod â chynnig a oedd yn cyfeirio at yr hyn a oedd eisoes wedi'i wreiddio yn null Llywodraeth Cymru o weithredu. 'Wel, mae hon yn rhyw fath o ganmoliaeth mewn ffordd', meddyliais, ond wedyn fe wnaethoch chi ryw lun o'i difetha drwy ddweud ei bod yn amhosibl cael cyllidebau tair blynedd. Mae'r amgylchedd ariannol wedi bod yn heriol iawn—mae hynny'n sicr yn wir. Rydym wedi cael newidiadau mawr o ran gweinyddiaethau, ac etholiad cyffredinol wedyn, ac mae llawer o hyn wedi arwain at heriau pellach. Rwy'n eich atgoffa'n gwrtais mai eich plaid chi a'r Blaid Lafur a'n rhwystrodd rhag cael etholiad cyffredinol cynharach. Pe bai hynny wedi digwydd yn gynharach yn yr hydref—[Torri ar draws.]—efallai y byddai'r pethau hyn wedi bod ychydig yn haws i'w rheoli.
Rwy'n derbyn y pwynt nad yw ein dulliau cyllidebu yn y DU wedi gweddu'n dda iawn i gyllidebau tair blynedd. Mae angen i ni wella yma, fel ein bod yn datblygu cyllidebau dangosol a dulliau gweithredu lle ceir rhyw fath o sicrwydd ynglŷn â'r lefel a fydd yn cael ei rhoi. Nid wyf yn meddwl—o leiaf, rwy'n gobeithio'n fawr na fyddwn yn gweld y math o aflonyddwch ariannol sydyn a gawsom yn ystod yr argyfwng ariannol. Felly, nid wyf yn credu y cawn newid sydyn yn null Llywodraeth y DU o weithredu, ac maent wedi dweud ein bod bellach yn symud tu hwnt i'r cyfnod o gyni ariannol.
A gaf fi ddweud yn olaf fy mod yn credu bod y pwynt a wnaethoch am yr angen i edrych ar sgiliau uwch wedi'i wneud yn dda iawn ac wedi ychwanegu llawer at y ddadl? Rhaglenni gradd Meistr: mae llawer o dystiolaeth eto eu bod hyd yn oed yn bwysicach i economi na'r nifer sy'n cwblhau PhD, oherwydd mae llawer o bobl sy'n gwneud rhaglenni Meistr yn awyddus i'w defnyddio wedyn mewn modd entrepreneuraidd. Felly, roeddwn yn meddwl bod y pwynt a wnaethoch yn ffordd gadarnhaol iawn o orffen.
Diolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma, ac rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, gohiriwn y pleidleisio ar hyn tan y cyfnod pleidleisio.
Symudwn ymlaen yn awr at y cyfnod pleidleisio, oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Na. O'r gorau.