– Senedd Cymru am 6:33 pm ar 28 Ionawr 2020.
Symudwn ni nawr at eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma, sef dadl ar Gyfnod 4 Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig hwnnw, Julie Morgan.
Diolch, ac mae agor dadl Cyfnod 4 yn fraint enfawr. Credaf y dylem ni ymfalchïo yn y ffaith bod ein cenedl wedi bwrw ymlaen â'r diwygiad pwysig hwn i sicrhau bod plant yn cael yr un amddiffyniad rhag cosb gorfforol ag oedolion.
Fel minnau, mae llawer yn y Siambr hon, yn y gorffennol a'r presennol, o wahanol bleidiau, a llawer o randdeiliaid ar draws llawer o wahanol sectorau, gan gynnwys y rhai y gwn i eu bod yma yn yr oriel heno, wedi ymgyrchu'n hir ac yn galed dros y ddeddfwriaeth hon ers blynyddoedd lawer—degawdau mewn gwirionedd. Rwy'n credu fy mod i wedi bod yn ymgyrchu ers 20 mlynedd o'i phlaid gyda llawer o rai eraill.
Felly, mae eich dyfalbarhad wedi helpu i ddod â Chymru un cam yn nes at roi'r hawl i blant gael eu diogelu rhag pob math o gosb gorfforol. Ac rwyf eisiau diolch i'r holl sefydliadau hynny a'r holl unigolion hynny yma yn y Siambr, a chyn-Aelodau'r Cynulliad hwn, am yr hyn y maen nhw wedi'i wneud. A hoffwn i hefyd ddiolch i Gomisiynydd Plant Cymru am ei harweiniad ar y mater hwn, gan gynnwys ar y llwyfan rhyngwladol. Ac felly, mae hyn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd, gan roi lle blaenllaw i hawliau plant.
Bydd llawer o bobl o genhedlaeth hŷn yn cofio cael eu cosbi'n gorfforol gan rieni yn y cartref a gan athrawon yn yr ysgol. Ond mae pethau wedi newid, ac nid yw'r Bil hwn yn ymwneud â barnu gweithredoedd neu benderfyniadau rhieni yn y gorffennol, roedd eu penderfyniadau rhianta yn seiliedig ar y wybodaeth a'r normau cymdeithasol a oedd yn gyffredin bryd hynny. Yn sicr, mae mwy o ymchwil, cyngor proffesiynol a mewnwelediad seicolegol ar gael i rieni heddiw, sy'n eu helpu i fagu plant heb orfod troi at gosb gorfforol.
Felly, nod cyffredinol y Bil hwn yw helpu i ddiogelu hawliau plant. Mae cael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol yn sicrhau bod Cymru yn cydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n ganolog i'n dull gweithredu o roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant, ac i'w helpu i gyflawni eu potensial. Bydd yn rhoi'r eglurder y mae ei angen yn ddirfawr i rieni a'r bobl broffesiynol sy'n gweithio gyda theuluoedd. Bydd yn dileu'r perygl presennol o ddryswch ac amwysedd o ran sut yr ydym ni'n disgwyl i blant gael eu trin. Ac mae gweithwyr proffesiynol rheng flaen wedi dweud dro ar ôl tro y bydd yr eglurder hwn yn gwella eu gallu i amddiffyn plant sy'n byw yng Nghymru.
Ond, yn amlwg, bydd dau beth yn dyngedfennol bwysig i sicrhau bod y Bil o fudd i blant a'u teuluoedd: yn gyntaf, sicrhau bod pawb yn ymwybodol bod y gyfraith wedi newid; ac, yn ail, cymorth i rieni fabwysiadu arddulliau rhianta cadarnhaol. Ac fel y gwyddoch chi, rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i'r gweithgareddau pwysig hyn. Yn amodol ar basio'r Bil drwy'r cyfnod terfynol hwn a chael Cydsyniad Brenhinol, bydd y broses o godi ymwybyddiaeth yn dechrau yn y gwanwyn ac yn parhau am nifer o flynyddoedd ar ôl i'r gyfraith newid. A fel gyda'n darpariaeth o gymorth rhianta, byddwn i'n darparu gwybodaeth i rieni mewn nifer o wahanol fformatau i ddiwallu amrywiaeth o anghenion.
Yn ystod hynt y Bil hwn, casglwyd tystiolaeth werthfawr a fu'n gymorth i lywio ein meddylfryd, nid yn unig wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth, ond hefyd wrth ystyried ei heffaith a'i gweithrediad. Mae llawer iawn o bobl wedi cyfrannu eu hamser, eu hegni a'u gwybodaeth, a diolchaf yn ddiffuant iddyn nhw. Hoffwn i gydnabod y cymorth a'r gefnogaeth gan yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y gwasanaethau cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol addysg ac iechyd, ac eraill sydd wedi gweithio'n ddiflino gyda ni yn ystod y tymor Cynulliad hwn. A hoffwn i ddiolch iddyn nhw ymlaen llaw am eu cymorth parhaus, gan gynnwys drwy ein grwpiau gweithredu, i sicrhau y caiff y gyfraith hon ei gweithredu yn y ffordd fwyaf ymarferol a phragmatig. Ac rwyf eisiau diolch yn arbennig i holl swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithio'n ddiflino ar y Bil—ni allen nhw fod wedi gwneud mwy.
Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y gwaith o graffu ar y Bil hwn, ac i Huw Irranca-Davies am ei gysylltiad cynnar â'r Bil, ac i Carl Sargeant, am y rhan a chwaraeodd y ddau ohonyn nhw yn natblygiad y Bil. A gadewch i mi dalu teyrnged i'r tri phwyllgor am eu cefnogaeth a'u her. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: o dan y Cadeirydd, Lynne Neagle, roedd eu gwaith craffu manwl a thrylwyr ar y Bil wedi rhoi llais i lawer o wahanol safbwyntiau, gan gynnwys rhai gan blant a phobl ifanc. Arweiniodd argymhellion adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor at welliannau gan y Llywodraeth a nododd feysydd y byddai modd eu hatgyfnerthu yng Nghyfnodau 2 a 3. Un maes o'r fath oedd rhoi sicrwydd ynghylch y dyddiad y bydd y gyfraith yn newid, ac i ddarparu ar gyfer cyfnod o ddwy flynedd rhwng y Cydsyniad Brenhinol a'r dyddiad dod i rym. Mae fy ngwelliant yng Nghyfnod 2 yn sicrhau digon o amser i sefydliadau partner fod yn barod ar gyfer y newid yn y gyfraith ac ar gyfer yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth. Hoffwn i ddiolch i Janet Finch-Saunders a Suzy Davies am drafodaeth adeiladol yn dilyn Cyfnod 2. O ganlyniad, mae'r Bil bellach yn cynnwys darpariaeth sy'n cryfhau'r adolygiad ôl-weithredu.
Mae arnaf i eisiau sicrhau Aelodau sy'n pryderu am effaith y Bil hwn ein bod eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth baratoi ar gyfer gweithredu. Rydym ni wedi bod yn cydweithio â'r holl bartneriaid allweddol, a byddwn ni'n parhau i wneud hynny, drwy ein grŵp gweithredu strategol, sydd ar waith gyda chyfranogwyr brwdfrydig a grwpiau gorchwyl a gorffen cysylltiedig. A byddaf i'n parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y gwaith hwn.
Dyma foment hanesyddol yn hanes Cymru. Mae ein hesiampl eisoes yn annog pobl ledled y byd sydd eisiau roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol. Rwy'n cymeradwyo'r Bil hwn i'r Senedd.
Diolch. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar bod gennyf y cyfle i siarad yng ngham terfynol Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).
Mae'r Bil hwn yn bleidlais rydd ymhlith grŵp Ceidwadwyr Cymru, ac yn sicr hoffwn i sicrhau Aelodau fy mod i, fel llefarydd, wedi gwrando ar bob ochr o'r ddadl, yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd gerbron y Pwyllgor, a holl ddatganiadau'r Dirprwy Weinidog ei hun ar y mater hwn. Roeddwn i'n falch o weld ymgysylltu drwy gydol hynt y Bil, yn ogystal â rhywfaint o gyfaddawdu gan y Dirprwy Weinidog yng Nghyfnod 3, a arweiniodd at dderbyn ein gwelliannau ar safonau adrodd yn rhan o'r Bil hwn.
Fodd bynnag, o fy safbwynt i fy hun, nid wyf eto wedi fy argyhoeddi bod dileu amddiffyniad cosb resymol yn iawn nac yn deg i Gymru. Fel yr wyf wedi'i ddweud drwy gydol hynt y Bil, mae gennym ni gyfreithiau a systemau eisoes ar waith i amddiffyn hawliau'r plentyn, a gallem ni fod wedi ystyried dewisiadau eraill i newid ymddygiad rhieni, megis atebolrwydd sifil.
Drwy'r Bil hwn, mae'r wladwriaeth bellach yn camu i mewn i fywydau preifat teuluoedd, a drwy gynnwys yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol i orfodi'r gwaharddiad ar smacio, mae'n bosibl y bydd gan hyn effeithiau pellgyrhaeddol ar bob un ohonom ni. Dylai gwneud rhieni yn agored i atebolrwydd troseddol am smacio eu plant fod yn ddewis olaf i unrhyw Lywodraeth, nid y dewis cyntaf.
Meddylfryd tymor byr y Llywodraeth hon y tu ôl i fater hirdymor sy'n peri'r pryder mwyaf i mi. Heddiw, mae'r Senedd Cymru hon yn gorfod dewis pasio Bil nad oedd wedi'i gostio'n fanwl ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus o'r cychwyn cyntaf, ac rydym yn cael gwybod yn awr, drwy lythyr yr wyf wedi cael gafael arno, gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd, am eu pryderon bod y Bil, ers y memorandwm esboniadol, wedi cynyddu o ystod o rhwng £2.3 miliwn a £3.7 miliwn, i rhwng £6.2 miliwn a £7.9 miliwn. Mae'r asesiad o effaith rheoleiddiol diwygiedig yn rhoi cyfanswm cost gweithgareddau codi ymwybyddiaeth o £2.8 miliwn, a oedd gynt o fewn ystod o £1.3 miliwn; Amcangyfrifir y bydd gwybodaeth am gynlluniau gwarediadau y tu allan i'r llys, nad oedd wedi eu costio yn wreiddiol, yn costio rhwng £810,000 a £2.5 miliwn erbyn hyn; mae costau i staff sy'n gweithio mewn swydd ddiogelu, y bydd angen iddyn nhw ymgyfarwyddo â chanllawiau newydd, wedi'u cynnwys—£882,000; costau'r grŵp gweithredu gorchwyl a gorffen, £620,000; a chostau'r adolygiad ôl-weithredu, £100,000. Ac mae'n mynd ymlaen. Dyma lythyr sydd wedi ei lofnodi gan bwyllgor yn y Cynulliad hwn—
A wnewch chi dderbyn ymyriad—
Gwnaf, wrth gwrs.
—o ystyried eich bod wedi cyfeirio at lythyr gyda fy enw i arno? A bod yn deg ag aelodau'r pwyllgor, mae'r ffigurau hynny yn ffigurau y gofynnwyd amdanyn nhw gan y Pwyllgor, ac fe wnaeth y Llywodraeth, yn ddidwyll, ddarparu'r ffigurau hynny. Mae gwahaniaeth rhwng yr hyn a gafodd ei gyflwyno yn wreiddiol, a'r hyn a oedd yn ein hwynebu yn ddiweddarach, ond, wrth gwrs, dyna holl bwynt cael proses graffu. Mae'n dangos ei bod yn gweithio, ac, wrth gwrs, gall Aelodau heddiw bleidleisio o blaid neu yn erbyn yn seiliedig ar y dystiolaeth y mae'r Llywodraeth, a bod yn deg, wedi ei chyflwyno.
Diolch.
Felly, yr hyn sydd gennym yn y fan yma yw pasio Bil nad oedd wedi ei gostio'n fanwl ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus o'r cychwyn cyntaf, ac nid yw hynny'n rhoi llawn ffydd i ni o ran sut y bydd canlyniadau'r Bil yn cael eu cyfleu i rieni a phlant, ac mae'n un nad yw'n rhoi i ni, fel Senedd ddatganoledig, unrhyw reolaeth dros sut y caiff yr orfodaeth ohono ei weithredu gan ddau sefydliad a gadwyd yn ôl— Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu.
Dywedaf eto fod yn rhaid i'r Llywodraeth ymrwymo i roi hyn ar y tu blaen i feddyliau rhieni a'r cyhoedd yn barhaol. Er gwaethaf ymrwymiad clir y Dirprwy Weinidog i gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth hir, os ydym ni'n mynd i ddefnyddio enghraifft Seland Newydd fel rheswm dros gyflwyno'r Bil, dylem ni hefyd wrando ar yr arwyddion rhybudd sy'n dod o'r wlad honno.
Fel y soniais yr wythnos diwethaf, 13 mlynedd ar ôl iddyn nhw wahardd smacio, canfu arolwg y byddai bron i 40 y cant o famau yn dal i smacio eu plentyn, ac ni fyddai 70 y cant yn achwyn ar riant pe bydden nhw'n gweld rhiant yn smacio eu plentyn ar y pen-ôl neu'r llaw. Felly, efallai na fydd hyn hyd yn oed yn cael cymaint o effaith ag yr oeddech chi wedi ei fwriadu. Hefyd, bu dirywiad mewn disgyblaeth yn Seland Newydd, gyda 15 y cant o rieni â phlant ifanc yn dweud eu bod yn ymwybodol o deulu yr oedd y gyfraith wedi effeithio'n negyddol arnyn nhw, a dywedodd 17 y cant ei fod wedi eu gwneud yn llai hyderus fel rhieni. Ni allwn ganiatáu i hyn gael ei ailadrodd yng Nghymru.
Dirprwy Lywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â phryderon y Pwyllgor Cyllid. Ac fel y dywedais yn ystod hynt Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) y llynedd, ni ddylai Llywodraeth Cymru ddiystyru pryderon y Senedd hon yn barhaus, ac ni fyddem ni'n cymryd mwy.
Dirprwy Weinidog, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, eich dyletswydd chi yw mynd â chyhoedd Cymru gyda chi, yn hytrach na chreu awyrgylch o elyniaeth a gwrthwynebiad. Nid wyf i'n credu bod hyn wedi'i gyflawni eto, ond rwyf hefyd yn gwybod bod gennych chi ddigon o bleidleisiau i'r Bil basio. Fel y dywedais wrth y cyn Ddirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol y llynedd, mater i chi hefyd yw argyhoeddi eich etholwyr eich hun mai dyma'r cam cywir i'w gymryd a'ch bod wedi gwrando ar y broses graffu. Nid wyf i'n credu bod hynny'n wir.
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Gwnaf. Yn y pen draw, eich etholwyr chi, ein teuluoedd ni a'r pleidleiswyr fydd yn barnu hynny.
Rhoddaf addewid i gyhoedd Cymru heddiw: Byddaf i a fy nghyd-Aelodau yn monitro'r sefyllfa hon yn fanwl yn ystod y blynyddoedd i ddod, ac os na fydd y Bil hwn yn gweithio, os bydd hyn yn rhoi rhieni sy'n parchu'r gyfraith o dan anfantais, os bydd hyn yn rhoi pwysau di-ben-draw ar wasanaethau cymdeithasol, ac os yw hyn yn golygu y bydd mwy o blant mewn gofal, byddwn ni'n gwrando ar bobl Cymru, a byddaf i'n bersonol—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—yn ceisio gwrthdroi goblygiadau'r ddeddfwriaeth echrydus hon. Diolch yn fawr.
Codaf i i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon heddiw gyda chalon hapus, ac rwy'n credu bod gwaith yr ymgyrchwyr, y mae rhai ohonyn nhw, fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog, yma, wedi talu ar ei ganfed o'r diwedd. Rwy'n credu i'r rhai ohonon ni sydd wedi bod yn brwydro'r frwydr hon am amser hir iawn, bydd hwn yn ddiwrnod hapus i ni, yn ddiwrnod hapus i deuluoedd Cymru, ac yn bwysicach fyth yn ddiwrnod hapus i blant Cymru.
Nid wyf i'n dymuno cadw'r Siambr hon am gyfnod hir, Dirprwy Lywydd, ond rwy'n teimlo bod angen i mi ymateb i rai o'r pwyntiau y mae Janet Finch-Saunders wedi eu gwneud. Yn fy marn i, mae'r Dirprwy Weinidog a Llywodraeth Cymru wedi bod yn hyblyg iawn er mwyn ateb pryderon pobl. Mae rhai ohonom ni yma—[Torri ar draws.] Rwy'n ddigon bodlon derbyn ymyriad gan Janet Finch-Saunders, ond rwyf yn ei chael hi'n anodd iawn ymdrin â sylwadau sydd wedi'u gwneud oddi ar eich eistedd. Os ydych chi'n dymuno ymyrryd—
Rwy'n gwerthfawrogi hynny. Os caf i ddim ond gwneud y pwynt yn glir: fe wnaethom ni gyflwyno 11 o welliannau; dim ond dau a gafodd eu hystyried mewn gwirionedd.
Un peth, yn fy marn i, yw cael proses graffu—mae hawl, wrth gwrs, gan y Llywodraeth i beidio â derbyn gwelliannau'r wrthblaid. Rwy'n synnu ei bod yn ymddangos bod Janet Finch-Saunders yn synnu at hynny.
Yn fy marn i, mae'r Dirprwy Weinidog wedi bod yn hyblyg iawn. Felly, i ryw raddau, rwy'n anghytuno â hi. Rwy'n siomedig na fydd plant Cymru yn cael eu hamddiffyn o heno ymlaen—y byddwn ni'n aros am ddwy flynedd—ond rwyf i'n deall pam mae hi wedi gwneud y penderfyniad hwnnw: mae hi wedi gwneud y penderfyniad hwnnw i ymdrin â'r pryderon gwirioneddol ynghylch gweithredu.
Dywedodd Janet Finch-Saunders mai dewis cyntaf yw hyn. Nid dewis cyntaf yw hwn—rydym ni wedi bod yn trafod hyn yn y lle hwn am bron i 20 mlynedd. Byddem ni wedi pasio'r ddeddfwriaeth hon—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, mae'n ddrwg gennyf i, Darren, nid oes amser gennyf i. Efallai y gwnaf i mewn munud.
Cafodd hwn ei basio gennym, mewn egwyddor, 18 mlynedd yn ôl, felly mae unrhyw awgrym bod Llywodraeth Cymru yn rhuthro hyn —. Unwaith eto, rwy'n teimlo—rwyf braidd yn siomedig ei fod wedi cymryd cyn hired. Mae Janet Finch-Saunders eto'n sôn am arolwg Seland Newydd, y nodais yr wythnos diwethaf nad yw'n ddim mwy nag arolwg, a chafodd ei brynu a'i dalu amdano gan yr union ymgyrch a oedd wedi ymgyrchu yn erbyn hynny yn y lle cyntaf. Felly, nid ymchwil yw hyn, nid deddfwriaeth wyddonol yw hyn.
Nawr, rwyf i am roi sylw i'r ddau grŵp hynny o bobl sydd, yn fy marn i, yn pryderu am y ddeddfwriaeth hon, a'r bobl gyntaf yr wyf i eisiau siarad â hwy yw'r rhai sydd mewn gwirionedd â rhai pryderon dilys yn ymwneud â'r gweithredu. Ac wrthyn nhw, rwy'n dweud: bydd popeth yn iawn. Mae 58 o wledydd eisoes wedi gwneud hyn. Dyma'r normalrwydd newydd.
Dechreuodd yn 1979 gyda Sweden. Nid oes yr un o'r gwledydd hynny wedi gweld y pethau hynny y mae pobl yn pryderu yn eu cylch. Nid oes yr un ohonyn nhw wedi gweld rhieni caredig a gofalgar yn cael eu demoneiddio. Ni welodd yr un ohonyn nhw systemau cyfiawnder troseddol wedi eu llethu. Nid yw wedi digwydd. Pum deg wyth gwlad, yr Alban yn fwyaf diweddar, ac mae'n fater o dristwch i mi nad oedd Cymru yno o'u blaen.
Heddiw, ni fydd rhif pum deg naw, ond i'r rhai sydd â phryderon dilys, rwy'n dweud, 'Edrychwch ar y profiad; edrychwch ar yr hyn sydd wedi digwydd.' Yn y bôn, yr hyn sydd wedi digwydd yw bod rhianta da wedi ei hyrwyddo yn y gwledydd hynny. Yn y gwledydd hynny lle mae hyn wedi bod ar waith ers amser hir iawn—Sweden yw'r enghraifft—mae wedi arwain at leihau trais mewn teuluoedd, trais difrifol mewn teuluoedd.
Felly, heddiw rydym ni'n symud i roi eu hawliau erthygl 19 i'n plant, eu hawl i gael eu hamddiffyn rhag trais. Wrth i ni wneud hyn, rwyf i am ganolbwyntio ar y rheini sy'n gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth hon o safbwynt ymyrryd ym mywyd y teulu. Wel, wyddoch chi, rydym ni’n ymyrryd â bywyd teuluol yn rheolaidd. Ar un adeg yr oedd yn gyfreithlon yn y wlad hon i ddyn guro ei wraig gyda ffon cyn belled nad oedd y ffon yn fwy trwchus na'i fawd. Nid wyf i'n credu bod plant yn eiddo i'w rhieni. Mae gennym ni wahaniaeth sylfaenol, athronyddol yn y fan yma. Nid yw plant yn eiddo i'w rhieni. Maen nhw'n ddinasyddion yn eu rhinwedd eu hunain.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn rhoi dyletswydd ar bob un ohonom ni i'w cefnogi yn eu twf ac yn eu datblygiad. Heddiw, byddwn ni fel gwlad yn arfer yr hawl hwnnw. Byddwn ni yn rhoi iddyn nhw o'r diwedd—o'r diwedd—amddiffyniad cyfartal rhag trais o dan y gyfraith. Rwy'n edrych ymlaen at hyn a chymeradwyaf y ddeddfwriaeth hon i'r Siambr hon, ond yn bwysicach i'r wlad hon.
Lynne Neagle.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i gael gwneud cyfraniad byr i'r ddadl hon. Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i blant yng Nghymru ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cyrraedd y fan yma ar ôl cymaint o amser. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod y rhan y mae'r Dirprwy Weinidog wedi ei chwarae yn y mater hwn ers 20 mlynedd mewn dwy Senedd wahanol. Felly, diolch i chi, Dirprwy Weinidog, am eich dyfalbarhad a'ch penderfynoldeb gwych, sydd wedi chwarae rhan mor bwysig i ddod â ni i'r fan yma heddiw.
Roeddwn i hefyd eisiau diolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: i'r holl rieni o'r ddwy ochr i'r ddadl, a rannodd eu barn yn ddewr, yn feddylgar ac yn agored gyda'r pwyllgor; yr amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol o addysg, amrywiaeth o weithwyr iechyd proffesiynol, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, gwasanaethau cymdeithasol, a dywedodd pob un ohonyn nhw wrthym ni, heb eithriad, y byddai'r Bil hwn yn ei gwneud yn haws iddyn nhw amddiffyn plant yng Nghymru; y Senedd Ieuenctid a wnaeth eu hunain, mewn gweithred hanesyddol, bleidleisio a chefnogi'r ddeddfwriaeth hon—diolch iddyn nhw am hynny; a hoffwn ddiolch i weddill y pwyllgor ac, yn bwysig iawn, i Llinos Madeley, ein clerc, a Sian Thomas, ein pennaeth ymchwil, y bu'n rhaid iddyn nhw roi llwyth enfawr o dystiolaeth i mewn i'r gyfrol anferth a ddaeth yn adroddiad Cyfnod 1. Rwy'n credu ein bod wedi ein bendithio fel Pwyllgor o gael cymorth mor wych.
Ond, yn anad dim i'r pwyllgor, yr oedd hwn yn fater o hawliau sylfaenol plant, ac rwyf wirioneddol wrth fy modd y byddwn ni, heddiw, yn sicrhau bod hawliau'r plant hynny yn dod yn realiti yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Dylai'r ddadl hon fod ynghylch mwy na pha un a yw hi'n foesol gywir i smacio plentyn neu a yw byth yn rhianta da i ddefnyddio cosb gorfforol. Pe byddai'n ymwneud â hynny'n unig, yna fy marn i yw nad ydyw ac, o ran fy mhlant fy hun, nid wyf wedi eu smacio ac rwyf yn gobeithio eu magu nhw heb eu ceryddu'n gorfforol byth. Ond nid yw hynny'n ddigon, y farn honno, i bleidleisio dros y ddeddfwriaeth hon gan fod cam pellach: a yw'n iawn i symud o'ch safbwynt moesol personol eich hun ynghylch hyn i ddweud, 'Mae honno'n farn y byddwn ni'n defnyddio ein pwerau yma i'w gorfodi ar weddill y gymdeithas'? Nid wyf i'n argyhoeddedig ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw. Siaradodd y Dirprwy Weinidog yn ddigon teg am norm cymdeithasol, ac ni fyddwn i eisiau rhoi unrhyw bwyslais ar unrhyw bleidlais benodol nac unrhyw arolwg penodol, ond rwyf yn pryderu nad yw'r newidiadau hynny mewn cymdeithas—smacio a chosbi corfforol, yn norm cymdeithasol fel yr oedden nhw o'r blaen. Ond rwy'n ofni bod gormod o bobl o hyd, grŵp rhy fawr o rieni sydd â barn wahanol ar hyn i fy marn bersonol i. Ac am y rheswm hwnnw, rwy'n credu y dylai hyn aros, ar hyn o bryd o leiaf, yn fater sy'n cael ei benderfynu gan rieni, o fewn priodasau, o fewn perthnasoedd, o fewn teuluoedd. Rwy'n dweud hynny o safbwynt pragmatig yn hytrach nag egwyddorol. Efallai y daw amser pan fydd y newidiadau mewn norm cymdeithasol yn golygu y gallai fod yn briodol i ddeddfu, bod rhywbeth yn tramgwyddo ar norm cymdeithasol i'r fath raddau fel bod deddfu a throseddoli, ond nid wyf yn credu bod yr amser hwnnw wedi cyrraedd eto, yn syml oherwydd bod gormod o deuluoedd cariadus sy'n dal i ddefnyddio cosb gorfforol oherwydd bod eu barn ar y mater yn wahanol i fy un i. Ac rwyf—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, fe dderbyniaf ymyriad.
Diolch. Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Clywaf yr hyn a ddywedwch, ond mae'n amlwg nad wyf i'n cytuno ag ef. Oherwydd pe byddem ni'n dilyn y trywydd yr ydych chi'n ei ddilyn, mae'n ymddangos i mi mai'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud yw nad yw'r personol yn wleidyddol, ac y byddai hynny, yn ei dro, yn golygu'n amlwg na fyddai'r holl ddeddfwriaeth yr ydym ni wedi'i chael i ddiogelu pobl o fewn eu teuluoedd rhag pa bynnag fath o gam-drin a allai fod—cam-drin domestig, llosgach ac ati—erioed wedi digwydd, oherwydd os wyf yn eich deall yn gwbl glir, nid oedd cymdeithas eto'n barod ar gyfer y newidiadau.
Nid wyf yn credu eich bod yn fy neall yn iawn, oherwydd rwy'n derbyn y gall y personol fod yn wleidyddol ac rwy'n credu bod rhai mathau o ymddygiad mor amhriodol o ran normau cymdeithasol fel bod cyfiawnhad dros ddeddfwriaeth ac, mewn rhai achosion, troseddoli. Y cyfan yr wyf i'n ei ddweud yw nad wyf yn argyhoeddedig bod ein cymdeithas yn y sefyllfa iawn eto o ran y mater hwn, oherwydd credaf fod cymaint o rieni a theuluoedd sydd yn gariadus, yn rhieni da mewn ffyrdd eraill, sydd â barn wahanol i chi a minnau ar y mater hwn, a dyna'r pwynt creiddiol yn wir pam nad wyf yn credu y dylem ni ddeddfu i wneud yr hyn sy'n digwydd bod yn fwyafrif—mwyafrif sylweddol—yn y Siambr hon, o ran moesoldeb neu farn bersonol ar y mater hwn, yn gyfraith gwlad, gyda chosbau troseddol, pan fydd cyfran uwch o'r boblogaeth, o'i chymharu â ni, â barn i'r gwrthwyneb.
Rwyf wedi meddwl am hyn yn ofalus ac rwyf wedi gwrando ar areithiau grymus a wnaed gan Helen Mary ac eraill ac rwy'n llongyfarch y Dirprwy Weinidog ar sut y mae wedi mynd â'r ddeddfwriaeth drwodd ac yn cydnabod yr hyn y mae wedi'i wneud dros gyfnod hir o ran ei hymgyrchu. Rwyf ond yn poeni am y rhai y gallem eu troseddoli drwy hyn. Rwy'n poeni y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio pan fydd pobl yn siarad am gaethiwed ac achosion ysgaru. Rwy'n poeni—nid wyf eisiau codi bwganod, ac nid wyf yn meddwl, neu o leiaf rwy'n gobeithio nad yw pobl yn mynd i weld plant yn gorfod derbyn gofal dim ond oherwydd bod rhiant wedi cael ei weld yn eu smacio'n gyhoeddus, ond mae arnaf ofn, mewn rhai achosion, y bydd yn rhan o'r fantol a bydd yn golygu y bydd rhai plant yn mynd i orfod derbyn gofal na fydden nhw fel arall efallai, ac o ystyried hanes truenus y wladwriaeth, fel rhiant, rwy'n poeni nad yw hynny efallai er lles pennaf y plant hynny. I mi, mae'n fater o gydbwysedd. Nid wyf i'n argyhoeddedig eto bod y cydbwysedd yn golygu y dylem ni basio'r ddeddfwriaeth hon.
Diolch. A gaf i alw nawr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Julie Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu hymatebion meddylgar ac ystyriol. Hoffwn godi rhai o'r pwyntiau yn y cyfnod byr iawn sydd gennyf.
Diolch i Llyr am ei ymyriad, oherwydd, fel y mae'r Pwyllgor Cyllid yn cydnabod yn eu llythyr, mae llawer o'r costau ychwanegol yn y memorandwm esboniadol diweddaraf yn deillio o argymhellion gan ei bwyllgor ef, felly roeddem yn gwrando ar ei bwyllgor. A, Janet, hyd y gwn i, nid oes yr un gwlad arall wedi gwneud cymaint i nodi'r effaith neu'r costau posibl cyn deddfu i wahardd cosbi plant yn gorfforol. Mae llawer o'n cymdogion agos wedi bod yn rhan o'r gwaith o hyrwyddo'r ddeddfwriaeth hon.
Fe'i cyflwynwyd gan Iwerddon ar welliant heb unrhyw baratoi o gwbl. Rydym ni wedi treulio llawer iawn o amser yn paratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth hon. Mae'r Bil yn darparu eglurder i rieni, gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd, ac o'r dyddiad cychwyn, ni fydd cosb gorfforol plentyn yng Nghymru yn dderbyniol mwyach o dan unrhyw amgylchiadau. Rwy'n credu ei fod yn bwynt diddorol bod 58 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru eisoes yn meddwl mai dyma'r gyfraith, a chan sylwi ar yr hyn y mae Mark Reckless wedi'i ddweud, mae 81 y cant o rieni ifanc sydd â phlant ifanc yn credu nad oes angen cosbi plentyn yn gorfforol. Credaf fod teimladau'r cyhoedd yn newid. Mae'r holl ymchwil y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud wedi dangos newid nodedig yn nheimladau pobl. Soniodd Lynne Neagle am sut y pleidleisiodd y Senedd Ieuenctid. Rydym yn symud i'r cyfeiriad hwnnw ac rydym yn mynd gyda'r oes, ond mae'n rhaid i ni fod yn sensitif, fel y mae Mark Reckless wedi ei ddweud, o ran y lleiafrif sy'n dal i ddefnyddio cosb gorfforol.
Ond, fel y dywedais, rydym ni'n mynd i roi cymorth i rieni, rydym ni'n mynd i roi cyngor, rydym ni'n mynd i roi gwybodaeth. Nid wyf i'n credu y gallem ni fod yn gwneud mwy i baratoi'n ofalus, ac mae'r holl asiantaethau'n gweithio gyda ni. Mae gennym ni grŵp gweithredu mawr, mae gennym ni is-grwpiau—mae gennym ni is-grŵp dargyfeirio, mae gennym ni un ar gymorth rhianta—ac maen nhw'n gweithio gyda hwn yn frwdfrydig iawn, oherwydd ei fod yn rhywbeth y mae llawer o bobl wedi bod eisiau ei weld ers blynyddoedd lawer. Oherwydd maen nhw yn ei weld yn rhwystr rhag gallu cynghori rhieni, gweithio gyda rhieni. Mae'r gweithwyr proffesiynol rheng flaen hynny, yr ymwelwyr iechyd, y bydwragedd, pobl sy'n gweithio gyda rhieni o'r cychwyn cyntaf, maen nhw eisiau bod yn glir ynghylch yr hyn y cânt ei ddweud ac, os gwnawn hyn, bydd yn ei wneud yn glir. A chofiwch, fe wnaethom ni siarad am gam-drin domestig yn y modd hwn yn ddiweddar iawn.
Felly, gadewch i ni lofnodi'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth i gyfraith Cymru, a fydd yn helpu i ddiogelu hawliau ein plant yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. Beth am barhau i fod yn ddewr a gwneud y peth iawn ar gyfer plant y wlad hon? Felly, rwy'n annog pob Aelod i gefnogi Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) a chymryd cam pwysig arall ymlaen o ran amddiffyn hawliau plant yng Nghymru.
Diolch. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C mae'n rhaid cymryd pleidlais wedi'i chofnodi ar gynnig Cyfnod 4, ac felly gohiriaf y pleidleisio ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwyf yn bwriadu symud ymlaen yn awr at y bleidlais electronig. Na. Popeth yn iawn, iawn.