– Senedd Cymru am 3:21 pm ar 10 Mawrth 2020.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 8, sef dadl ar setliad yr heddlu ar gyfer 2020-21, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.
Cynnig NDM7291 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2020-21 (Setliad Terfynol—Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd ar gyfer ei chymeradwyaeth fanylion cyfraniad Llywodraeth Cymru at y cyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru ar gyfer 2020-21.
Cyn i mi wneud hynny, Llywydd, yn enwedig o ystyried y digwyddiadau diweddar, hoffwn ddiolch ar goedd i holl wasanaethau brys Cymru am eu dycnwch a'u dewrder, ac rwy'n siŵr bod y Siambr hon a holl drigolion Cymru yn ategu'r sylwadau hyn. Mae'r rhai sy'n gwasanaethu yn ein heddluoedd ledled Cymru nid yn unig yn cadw ein cymunedau'n ddiogel, maen nhw'n cynnal y safonau uchaf o ran dyletswydd, ymroddiad ac, ar brydiau, dewrder. Dangoswyd hyn yn fwyaf diweddar pan oeddent yn gweithio gydag eraill i ddiogelu ac achub rhai o'n cymunedau o'r stormydd diweddar. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd heddluoedd Cymru a'u swyddogaeth hanfodol yn gwarchod a gwasanaethu ein cymunedau yma. Mae gwasanaeth yr heddlu yng Nghymru yn enghraifft gadarnhaol o'r modd y gall gwasanaethau sydd wedi'u datganoli a heb eu datganoli gydweithio'n effeithiol â'i gilydd.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol y caiff yr arian craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor. Gan nad yw polisïau plismona a materion gweithredol wedi eu datganoli, y Swyddfa Gartref sy'n pennu ac yn llywio'r darlun ariannu cyffredinol. Bu'r dull sefydledig o bennu a dosbarthu cydran Llywodraeth Cymru, felly, yn seiliedig ar egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr.
Hoffwn ddiolch hefyd i'r comisiynwyr am eu hamynedd eleni. Oherwydd yr anhrefn a'r ansicrwydd o du San Steffan sydd, yn anffodus, yn beth rheolaidd erbyn hyn, ni chafodd y comisiynwyr setliad dros dro ar gyfer yr heddlu eleni. Gydag oedi ar ôl oedi o ran cyllideb y DU, oherwydd yr etholiad cyffredinol, ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, a Changhellor newydd nawr i ychwanegu at yr ansicrwydd parhaus, bu'n rhaid i'r comisiynwyr roi gwybod i'w panelau heddlu a throseddu am y newid arfaethedig mewn praesept llai na phythefnos ar ôl cael gwybod am eu dyraniadau cyllid. Hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chyllideb ar gyfer 2020-21, gan arwain at ansicrwydd parhaus i'n gwasanaethau cyhoeddus, ein busnesau ac unigolion.
Fel yr amlinellwyd yng nghyhoeddiad terfynol setliad yr heddlu ar 22 Ionawr, mae cyfanswm y cymorth refeniw heb ei neilltuo ar gyfer y gwasanaeth heddlu yng Nghymru ar gyfer 2020-21 yn cyfateb i £384 miliwn. Mae cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r swm hwn, drwy grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig wedi'u hailddosbarthu, yn £143.4 miliwn—a'r arian hwn y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu cael system waelodol ar gyfer y fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn golygu, ar gyfer 2020-21, y caiff comisiynwyr heddlu a throseddu ledled Cymru a Lloegr i gyd gynnydd o 7.5 y cant mewn cyllid o'i gymharu â 2019-20. Bydd y Swyddfa Gartref yn darparu grant ychwanegol gwerth £14.4 miliwn i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Gogledd Cymru yn cyrraedd y lefel gwaelodol.
Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud bod y setliad hwn yn cynnwys yr arian i recriwtio 6,000 o heddweision ychwanegol i'w rannu ymysg y 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o gryfhau'r economi a chreu cyfleoedd cyflogaeth ledled y wlad. Rwy'n croesawu'r cyfle i bobl ledled Cymru ystyried gyrfa yn yr heddluoedd. Mae Prif Weinidog y DU wedi ymrwymo i darged o 20,000 o swyddogion newydd dros y tair blynedd nesaf. Fodd bynnag, er mwyn i hyn ddigwydd, pwysaf ar Lywodraeth y DU i addo darparu'r cyllid cysylltiedig i'n comisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer y dyfodol.
Fel yn 2019-20, bydd y Swyddfa Gartref yn parhau i ddarparu grant penodol i gomisiynwyr yr heddlu a throseddu yn 2020-21 i ariannu'r pwysau ychwanegol o ganlyniad i newidiadau gan Lywodraeth y DU i'r cyfraddau cyfraniadau pensiwn. Mae'r Swyddfa Gartref wedi cadw gwerth y grant ar £143 miliwn yn 2020-21, gyda £7.3 miliwn o'r arian hwn yn cael ei ddyrannu i gomisiynwyr yng Nghymru. Mae gan gomisiynwyr yr heddlu a throseddu y gallu hefyd i godi arian ychwanegol drwy eu praesept treth gyngor. Mae Llywodraeth y DU wedi gosod y terfyn praesept uchaf ar gyfer comisiynwyr yn Lloegr i £10 yn 2020-21, gan amcangyfrif y bydd hyn yn codi £250 miliwn yn ychwanegol. Yn wahanol i'r terfynau sy'n berthnasol yn Lloegr, mae gan gomisiynwyr heddlu a throseddu Cymru y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch cynnydd yn y dreth gyngor. Mae pennu'r praesept yn rhan allweddol o swyddogaeth y comisiynydd heddlu a throseddu, sy'n dangos atebolrwydd i'r etholwyr lleol.
Rydym yn sylweddoli bod angen gwneud penderfyniadau anodd wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd i ddod gyda chyllideb un flwyddyn yn unig. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'r comisiynwyr a'r prif gwnstabliaid i sicrhau y caiff heriau ariannu eu rheoli mewn ffyrdd sy'n lleihau'r effaith ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Yn rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ei chyllideb ar gyfer 2020-21 wedi parhau i ariannu'r 500 o swyddogion cymorth cymunedol a recriwtiwyd o dan raglen flaenorol ymrwymiad y llywodraeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo'r un maint o gyllid ar gyfer cyflawni'r ymrwymiad hwn ag a wnaeth yn 2019-20, gydag £16.8 miliwn wedi ei gytuno yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Un o'r prif gymhellion sy'n sail i'r prosiect hwn oedd gwneud yr heddlu'n fwy gweladwy ar ein strydoedd ar adeg pan fo Llywodraeth y DU yn cwtogi ar gyllid yr heddlu. Bu'r cyflenwad llawn o swyddogion ar waith ers mis Hydref 2013, ac maen nhw'n gwneud cyfraniad cadarnhaol i ddiogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Byddant yn parhau i weithio gyda chymunedau lleol a phartneriaid i wella canlyniadau i'r rheini y mae troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnynt.
I ddychwelyd at ddiben dadl heddiw, y cynnig yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu sydd wedi'i gyflwyno gerbron y Cynulliad. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Gofynnaf felly i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch.
Yn 2010 roedd datganiad cyllideb y DU, a luniwyd gan y Blaid Lafur, yn lleihau'r rhagolwg twf, yn lleihau benthyca, ac yn dweud fod graddfa'r diffyg yn golygu nad oedd gan y DU ddigon o arian. O ganlyniad, cyhoeddodd hefyd £545 miliwn o doriadau i'r heddlu i'w gwneud erbyn 2014. Ers 2015, mae Llywodraeth y DU wedi cynyddu ei chyfraniad at gyllid cyffredinol yr heddlu yn unol â chwyddiant, gan gynnwys meysydd penodol fel seiber-droseddu, gwrthderfysgaeth, a mynd i'r afael â chamfanteisio'n rhywiol ar blant. Mae Llywodraeth y DU bellach wedi cyhoeddi cynnydd o £1.12 biliwn yn 2020-21, gan fynd â chyfanswm y setliad ar gyfer plismona i £15.2 biliwn. Mae hyn yn cynnwys £700 miliwn ar gyfer 6,000 o swyddogion ychwanegol erbyn diwedd mis Mawrth 2021. Fel y dywedodd y Gweinidog, nod Llywodraeth y DU yw recriwtio 20,000 o swyddogion newydd ledled y DU.
Mae'r rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer comisiynwyr yr heddlu a throseddu yn dod yn uniongyrchol o grantiau'r Llywodraeth ganolog, fel y clywsom ni—o Lundain a Chaerdydd—ac mae tua thraean yn dod o braesept treth gyngor yr heddlu, sy'n cynyddu 6.82 y cant eleni, £273 y flwyddyn, yng Ngwent; 5.9 y cant, £273 y flwyddyn, yn ne Cymru; 4.83 y cant, £261 y flwyddyn, yn Nyfed-Powys; a 4.5 y cant, £291 y flwyddyn, yng ngogledd Cymru. Er i Ffederasiwn Heddlu De Cymru ddatgan yn 2016 fod y bwlch praesept treth gyngor gyda'r heddluoedd eraill yng Nghymru wedi'i gau erbyn hyn, mae'n amlwg, er mai yn y gogledd y mae'r cynnydd canrannol isaf, fod talwyr y dreth gyngor yno yn dal i dalu mwy na rhanbarthau Cymru sy'n wynebu'r cynnydd canrannol mwyaf.
Yn dilyn gostyngiad hirdymor, mae lefelau troseddu wedi aros yn gymharol sefydlog yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er na fu unrhyw newid yn lefelau cyffredinol troseddu yn y flwyddyn ddiweddaraf, mae hyn yn cuddio'r amrywiadau a welir mewn mathau unigol o droseddau. Ac eithrio twyll, mae'r ffigurau diweddaraf o arolwg troseddu Cymru a Lloegr yn dangos nad oedd unrhyw newid yn y prif fathau o droseddau. Fel y dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol:
Er bod nifer y troseddau sy'n ymwneud â chyllell wedi parhau i gynyddu, ceir darlun cymysg rhwng y gwahanol heddluoedd ac mae lefelau trais cyffredinol yn parhau'n gyson.
Bydd y cynnydd yn y gyllideb yn y gogledd yn ariannu 10 yn rhagor o swyddogion ar gyfer yr uned troseddau mawr, 20 o heddweision cynorthwyol newydd, 16 o swyddogion ymateb ychwanegol, a phump yn rhagor o swyddogion cymorth cymunedol, gan gynnwys tri ar gyfer y tîm troseddau gwledig. Y penwythnos hwn, ymunodd yr Ysgrifennydd Cartref ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru â Heddlu Gogledd Cymru i weld sut maen nhw'n mynd i'r afael â phroblem llinellau cyffuriau yn y rhanbarth. Yn ogystal â chyhoeddi eu cynlluniau i recriwtio swyddogion heddlu newydd, cadarnhaodd y Swyddfa Gartref hefyd y byddant yn darparu bron i £150,000 i Heddlu Gogledd Cymru ei fuddsoddi mewn 167 o ddyfeisiau taser newydd, rhan o £576,000 ar draws pedwar heddlu Cymru. Daw hyn yn rhan o gynnydd ledled y DU a fydd yn gweld £6.5 miliwn wedi'i rannu rhwng 41 o heddluoedd. Wrth siarad yn y gogledd, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref:
Rwyf wedi ymrwymo i roi i heddluoedd ledled Cymru y grymoedd, yr adnoddau a'r offer sydd eu hangen arnynt i'w cadw eu hunain a'r cyhoedd yn ddiogel.
Dywedodd hefyd ei bod yn ymgynghori ar gyfamod heddlu Llywodraeth y DU, y galwyd amdano gan ffederasiwn yr heddlu, gan gydnabod gwasanaeth ac aberth swyddogion yr heddlu, ac a fyddai'n ymgorffori eu hawliau yn y gyfraith. Tynnwyd sylw at bethau eraill a wnaeth y Swyddfa Gartref yn ddiweddar, gan gynnwys ehangu pwerau stopio a chwilio, a chynlluniau i gynyddu'r ddedfryd uchaf ar gyfer ymosod ar weithwyr gwasanaethau brys.
Ym mis Ionawr, ymwelais â Titan, Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol y Gogledd-orllewin, i gael cyflwyniad defnyddiol ar eu swyddogaeth a'u gallu i atal a diogelu, gan ymdrin â materion fel troseddu difrifol a threfnedig, rheoli cyffuriau, llinellau cyffuriau, troseddau economaidd a seiber-droseddu. Sefydlwyd Titan yn 2009 fel cydweithrediad rhwng y chwe heddlu yng Ngogledd Cymru, Swydd Gaer, Glannau Mersi, Manceinion fwyaf, Swydd Gaerhirfryn a Cumbria, i fynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol difrifol sy'n croesi ffiniau siroedd yn y rhanbarth. Dywedwyd wrthyf fod tua 95 y cant neu fwy o droseddu yng ngogledd Cymru yn gweithredu ar sail drawsffiniol, o'r dwyrain i'r gorllewin, a bron dim ar sail Cymru gyfan, a chadarnhaodd cynrychiolydd Heddlu Gogledd Cymru a oedd yn bresennol hefyd fod eu holl waith cynllunio ar gyfer argyfwng yng ngogledd Cymru yn cael ei wneud gyda'u partneriaid yng ngogledd-orllewin Lloegr, ac nad ydyn nhw'n cydweithio'n sylweddol gyda heddluoedd eraill yng Nghymru.
Mae Llafur a Phlaid Cymru, wrth gwrs, yn cynnig datganoli cyfiawnder a phlismona a'u rheoli o Gaerdydd, tra byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu gwasanaethau plismona a rheoli troseddwyr yng Nghymru sy'n adlewyrchu ein cyfrifoldebau datganoledig. Byddem yn cefnogi'r mwyafrif distaw, diwyd sy'n ufudd i'r gyfraith; peidio â rhoi pleidlais i garcharorion a garcharwyd am droseddau rhywiol a hiliol, fel y mae Llafur a Phlaid Cymru yn ei gynnig. Diolch yn fawr.
Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Prydain wedi cydnabod y niwed y maent wedi'i wneud gyda 10 mlynedd o doriadau i blismona. Fodd bynnag, ni fydd un flwyddyn, neu hyd yn oed ddau gynnydd yn y gyllideb, yn ddigon o bell ffordd i wrthdroi'r niwed a wnaed. Felly, mae'n rhaid mai'r cynnydd hwn mewn cyllid yw'r cam cyntaf i fynd i'r afael â'r diffyg cyllid dybryd sy'n dal i fodoli. I fynd i'r afael â'r problemau cronig y mae heddluoedd Cymru'n eu hwynebu, mae'n rhaid diwygio'r fformiwla ariannu, yn ein barn ni.
Mae'r fformiwla bresennol yn gwahaniaethu yn erbyn talwyr y dreth gyngor yng Nghymru. Nid yw'r fformiwla'n addasu i anghenion trefol a gwledig, ac nid yw'r potensial ar gyfer recriwtio o'r ardoll prentisiaethau yn cael ei ddefnyddio. Nid yw'r cynlluniau i ariannu 20,000 o heddweision yn talu am yr hyn a gollwyd ers 2010. Felly, mae Plaid Cymru eisiau gweld fformiwla ariannu ar gyfer heddluoedd Cymru sy'n seiliedig ar boblogaeth ac angen, yn hytrach na fformiwla wallus Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae hefyd i sicrhau yr ymdrinnir â'r cyllid i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu. Mae gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru wedi cael gostyngiad o 38 y cant yn eu cyllid, sy'n golygu colled o £19 miliwn ers 2010, sy'n anochel yn gwneud gwaith swyddogion yr heddlu yn llawer anoddach. Byddai cyllid priodol a digonol ar gyfer gwasanaethau eraill, megis, er enghraifft, cymorth iechyd meddwl, hefyd yn ddefnyddiol iawn i'r heddlu.
Er gwaethaf yr amrywiol gyfyngiadau, mae comisiynwyr heddlu a throseddu Plaid Cymru wedi lansio cronfa ymyrraeth gynnar tair blynedd gwerth £800,000 i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, fel rhan o ymgais i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi defnyddio Gogledd Cymru fel astudiaeth achos ar gyfer mynd i'r afael â throseddau gwledig. Mae Heddlu Dyfed Powys wedi creu cynlluniau fel Gwarchod Ffermydd i ddarparu cyngor ar atal troseddau, ac maent wedi lansio Checkpoint Cymru, sy'n dargyfeirio'r rhai a gyflawnodd droseddau bychain o'r system cyfiawnder troseddol. Gellir defnyddio'r egwyddorion hyn mewn mannau eraill. Dychmygwch yr hyn y gallai'r comisiynwyr heddlu a throseddu hynny ei wneud gyda chyllid sicr nad yw'n gysylltiedig ag agenda San Steffan. Diolch
Diolch, Dirprwy Lywydd. Pan oedd Mark Isherwood yn gwneud ei araith, roedd yn fy atgoffa ychydig o rai o'r adroddiadau economaidd Sofietaidd y caech chi ar un adeg—roedd y cynllun pum mlynedd diwethaf yn wirioneddol wych, ond nid cystal â'r cynllun pum mlynedd nesaf. Mae arnaf ofn bod perygl gwirioneddol pan ydych chi'n dechrau bod mor ddetholus o ran y ffigurau a ddefnyddiwch chi mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu bod angen inni edrych ar y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Pan drafodasom hyn y tro diwethaf, y sefyllfa oedd cynnydd o 18 y cant mewn troseddu treisgar, cynnydd o 14 y cant mewn troseddau cyllyll yn y de, cynnydd o 25 y cant yng Nghymru, 84,000 o droseddau heb eu datrys, ac, ers 2010, mae gennym ni bellach—wel, wedyn roedd gennym ni 682 yn llai o heddweision. Nawr, mae'r ffigurau hynny'n mynd law yn llaw. Beth yw'r sefyllfa nawr? Y sefyllfa nawr yw bod gennym ni tua 762 yn llai o heddweision nag a oedd gennym ni yn 2010. Mae troseddau a throseddau treisgar difrifol yn cynyddu. Rydym ni wedi dod yn ddibynnol iawn ar y 500 o swyddogion heddlu a chymorth cymunedol ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu o'n cronfeydd ni ein hunain—nid arian a ddylai gael ei ddyrannu gan Lywodraeth y DU ar gyfer hynny. Ac yn wir, pan edrychwn ni ar y ffigurau o ran swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ledled y DU, rydym ni wedi colli tua 6,680 o heddweision a swyddogion cymorth cymunedol ledled y DU, gydag, yn amlwg, yr effaith ganlyniadol yng Nghymru, a dyna pam mae'r cyllid o Gymru yn hyn o beth mor gwbl bwysig.
Ac mae Leanne yn hollol iawn i godi mater y meysydd ariannu hynny ar gyfer y gwaith y mae'r heddlu yn ei wneud nad yw'n ymwneud â dal troseddwyr yn unig, ond yn ymwneud â chymdeithas, boed yn iechyd meddwl, yn gyllid yn ymwneud â maes cyffuriau ac alcohol, yn adsefydlu, ac ati—y pethau hynny sy'n bartneriaeth, sy'n effeithio ar blismona ac sy'n cael effaith ar sefydlogrwydd cymdeithasol ein cymdeithas a lles ein cymunedau. A'r gwir amdani yw, gyda'r ffaith ein bod yn cael cynnydd cymedrol mewn termau real eleni, ni allwn osgoi'r ffaith, mewn gwirionedd, dros y pum mlynedd nesaf, mewn gwirionedd mae angen—os ydym yn mynd i ddad-wneud toriadau'r Torïaid ers 2010—i recriwtio 53,000 o heddweision, pan ydych yn ystyried yr ymddeoliadau. Nawr, mae hyn yr un fath—. Mae Mark yn euog o'r un cam-ystumio ffigurau a wnaed pan oeddem yn trafod niferoedd nyrsys, ac ati blaen—pan ydych chi'n ystyried recriwtio, a'r angen am recriwtio parhaus, mae'r darlun a gyflwynir yn wahanol iawn.
Nawr, i unrhyw un sy'n siarad â Ffederasiwn yr Heddlu, â swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ac â chomisiynwyr yr heddlu a throseddu, daw sawl pwynt pwysig iawn i'r amlwg, ac un ohonyn nhw yw, hyd yn oed gyda recriwtio'r niferoedd hynny ar gyfer yr heddlu—pe baem yn gallu cyflawni hynny—yr hyn yr ydym ni wedi'i golli, a fydd yn cymryd degawd i'w hadfer, yw'r sgiliau a'r ansawdd plismona a gyflawnwyd. Oherwydd y buom yn colli rhai o'r swyddogion heddlu mwyaf cymwys a phrofiadol. A'r pwynt arall a wnânt yw nid yn unig y bydd hi'n cymryd amser hir i unioni'r niwed a wnaeth y Torïaid i blismona, ond ar hyn o bryd, nad oes llawer wedi newid. A dyna'r gorau y gallwch chi ei ddweud am record y Torïaid ar blismona—nad oes llawer wedi newid, mae'r difrod a wnaethant ers 2010 yn dal i fodoli, a bydd yn cymryd degawdau i wella. Mae'r setliad cymedrol sydd gennym yn ddim ond dechrau bach iawn, iawn, sy'n crafu'r wyneb.
Hoffwn ddechrau drwy adleisio diolch y Gweinidog i swyddogion heddlu ledled y wlad am y gwaith y maent yn ei wneud i'n cadw'n ddiogel yn ein cymunedau. Maen nhw wedi bod o dan bwysau enfawr dros yr ychydig wythnosau a misoedd diwethaf, ac rwy'n credu yr hoffai pob un ohonom ni ymuno â'n gilydd a chydnabod sut maen nhw wedi ymateb i'r pwysau hynny. Ac maen nhw wedi gwneud hynny ar ôl dioddef toriadau o flwyddyn i flwyddyn dros y ddegawd ddiwethaf. Nid yw cyni wedi bod yn garedig i'n heddluoedd. A dweud y gwir, mae Llywodraeth y DU—y Swyddfa Gartref—yn gwario llai mewn termau arian parod eleni nag yr oeddent yn ei wario ddegawd yn ôl. Ac er ein bod yn clywed gan y Torïaid eu bod eisiau rhoi mwy o adnoddau i'r heddlu, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrthyn nhw yw, 'Pam nad ydych chi'n dechrau lle dechreuoch chi nôl yn 2010, pan ddechreuoch chi ymosod ar yr heddlu?' Ac mae angen i ni sicrhau bod gennym ni yr adnoddau i sicrhau bod ein heddlu yn gallu ein cadw ni'n ddiogel.
Ond nid yn unig y mae'r Torïaid wedi torri'n ôl ar gyfanswm y gwariant sydd ar gael i'r heddlu, maen nhw hefyd wedi trosglwyddo cyllid oddi wrth yr heddlu. Dywedodd Mark Isherwood fod traean y cyllid yn dod o'r dreth gyngor. Yn wir, yn 2010-11, doi 33 y cant—roedd yn gywir, doi 33 y cant—o'r arian o'r dreth gyngor. Heddiw, mae'r ffigur hwnnw'n 47 y cant—mae bron yn cael hanner ei arian drwy'r dreth gyngor. Ac mae cyllid y Swyddfa Gartref, a oedd yn 40 y cant yn 2010-11, yn 32 y cant heddiw. Felly, mae'r cyfrifoldeb am ariannu'r heddlu wedi cael ei drosglwyddo mewn gwirionedd o'r Swyddfa Gartref, o Lywodraeth y Deyrnas Unedig i Gymru, i Lywodraeth Cymru ac i dalwyr y dreth gyngor. Caiff y mwyafrif helaeth o gyllid yr heddlu heddiw ei godi yma yng Nghymru. Mae bron i 70 y cant o holl gyllid yr heddlu yng Nghymru heddiw yn dod o ffynonellau yng Nghymru, ac mae hynny'n golygu bod arnom ni angen y strwythurau sydd ar gael inni, nid dim ond y cyllidebau, ond y strwythurau hefyd.
Mae pobl Blaenau Gwent yn poeni am yr hyn y maen nhw'n ei weld yn rhy aml: ymddygiad gwrthgymdeithasol, p'un a yw'n daflu cerrig at fysiau neu ddefnyddio cyffuriau ar y strydoedd. Maen nhw eisiau teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi ac yn ddiogel ar ein strydoedd. Ond maen nhw hefyd yn cydnabod ac yn deall nad yw'r ymateb plismona i'r heriau hyn yn ddim ond rhan o'r cwestiwn, yn ddim ond rhan o'r ateb, gan fod yn rhaid i'r heddlu weithio law yn llaw â llywodraeth leol, y gwasanaethau addysg, iechyd, yn enwedig o ran ymdrin â rhai o'r materion enfawr yn ymwneud ag iechyd meddwl a chyffuriau sy'n ein hwynebu heddiw. Rhaid iddyn nhw weithio gyda'r gwasanaethau cymdeithasol; rhaid iddyn nhw weithio ar draws yr ystod gyfan o wasanaethau er mwyn darparu ymateb cynhwysfawr i'r heriau yr ydym yn eu hwynebu yn ein cymunedau. Mae pobl yn deall hynny. Nid wyf yn deall pam nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn deall hynny.
Gobeithiaf, Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, y gallwch chi gadarnhau y byddwch yn bwrw ymlaen â gwaith comisiwn Thomas ar ddatganoli'r heddlu, fel bod gennym ni, yn y dyfodol, nid yn unig heddlu wedi'i ariannu'n briodol, lle mae gan swyddogion yr heddlu yr adnoddau sydd ar gael iddynt i amddiffyn ein cymunedau, i amddiffyn ein pobl, i'n cadw ni'n ddiogel, fel na fyddant yn cael eu gorymestyn yn barhaus, o dan lawer gormod o bwysau fel swyddogion unigol, ond eu bod hefyd wedi'u lleoli ac yn rhan o deulu gwasanaethau cyhoeddus Cymru, yn gweithio gyda'i gilydd yn ein cymunedau er lles ein cymunedau i gyd. Rwy'n ildio i'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr.
Rwy'n ddiolchgar i'm cyd-Aelod, Alun Davies. A yw'n rhannu fy anghrediniaeth ynghylch y ddadl, gan fod troseddu'n drawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr, fel pe bai hynny'n sefyllfa unigryw, ei bod yn golygu bod yn rhaid i'r wlad fwy, felly, reoli plismona'r wlad lai hefyd? Onid yw hynny'n golygu y dylai Gweriniaeth Iwerddon, yn synhwyrol, fod yn rheoli plismona ar draws holl ynys Iwerddon? Dyna resymeg y ddadl honno. Ac a yw hefyd yn cytuno â mi, er bod troseddu'n drawsffiniol, ei bod yn gwbl bosib i'r heddlu barhau i gydweithio, fel sy'n digwydd rhwng y Weriniaeth a'r Gogledd, rhwng Lloegr a'r Alban, ac nid oes unrhyw reswm pam na all pobl Cymru gael rheolaeth dros eu heddluoedd eu hunain?
Rwyf yn cytuno'n fawr iawn â'r hyn y mae'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr wedi ei ddweud. Ac, wrth gwrs, yr hyn y mae'r Ceidwadwyr yn drysu yn eu cylch yw canfod trosedd a datrys y problemau sy'n deillio o droseddu a dod o hyd i atebion i droseddau. Ac rwy'n gwrando ar Weinidogion Ceidwadol sy'n hapus iawn i ddatganoli cyfrifoldebau i rannau o Loegr, i Fanceinion ac i Lundain, wrth gwrs, ond nid yw Cymru'n ddigon da i'r Torïaid. Nid yw'r Torïaid byth yn credu bod gennym ni'r gallu i reoli'r materion hyn ein hunain.
Ac mae'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac wrth edrych ar faterion ehangach cyfiawnder troseddol, ni allaf gredu y byddai unrhyw Lywodraeth Cymru o unrhyw liw, o gwbl, wedi caniatáu i sefyllfa godi lle nad oes cyfleusterau i fenywod yn ein system cyfiawnder troseddol yn ein gwlad. Mae hynny'n destun cywilydd ac yn warth ac yn rhywbeth y mae'n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dderbyn cyfrifoldeb amdano.
Diolch. A gaf i alw nawr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Julie James.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu diddordeb a'u cyfraniadau heddiw a diolch unwaith yn rhagor i'r gwasanaeth heddlu ledled Cymru, yn enwedig yng ngoleuni eu hymdrechion yn ystod y llifogydd diweddar.
Nid wyf yn rhy siŵr beth oedd trywydd dadl y cyfrannwr cyntaf, Mark Isherwood, pan ddechreuodd, ond roedd hi'n gwbl amlwg ei fod yn ceisio rhoi'r bai ar eraill am ddewis gwael ei Lywodraeth wrth dorri cyllid i'r heddlu, dewis gwael sy'n dal i atseinio hyd heddiw, fel y cydnabu'r holl gyfranwyr eraill.
Mae diogelwch cymunedol yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth hon, ac er bod y setliad hwn yn well nag y mae rhai wedi'i ddisgwyl, nid ydym yn twyllo ein hunain fod un setliad gwell yn gwneud iawn am y 10 mlynedd flaenorol o dan agenda cyni Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn wir, mae rhai comisiynwyr heddlu a throseddau wedi mynegi pryder, er bod arian ychwanegol wedi'i ddarparu i rai swyddogion newydd, nad oes digon o arian ar gyfer y cyflenwad presennol. Mae hyn, wrth gwrs, yn fater i'r Swyddfa Gartref ac rydym yn eu hannog i fynd i'r afael ag ef fel blaenoriaeth frys.
Rydym ni wedi ymrwymo i weithio gyda'r comisiynwyr a'r prif gwnstabliaid i sicrhau y caiff yr heriau hyn eu rheoli mewn ffyrdd sy'n cyfyngu ar yr effaith ar ddiogelwch cymunedol a phlismona rheng flaen yng Nghymru. Mae parhau i weithio mewn partneriaeth i ganfod a datblygu cyfleoedd yn bwysig, fel y dangosir gan y defnydd llwyddiannus o'r 500 swyddog cymorth cymunedol.
Rydym ni hefyd, wrth gwrs, yn parhau i bwyso am ddatganoli cyfiawnder troseddol a phlismona yn unol ag argymhelliad comisiwn Thomas. Ni allwn gytuno mwy â sylwadau gwahanol gyfranwyr o amgylch y Siambr: nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl nad yw plismona wedi'i ddatganoli pan fo'r holl wasanaethau golau glas eraill wedi eu datganoli, ac mae'n eithaf amlwg y byddai'n well pe baem yn cydlynu'r peth yn gyfan gwbl o safbwynt datganoledig. Rwy'n cymeradwyo'n llawn yr holl gyfraniadau ynglŷn â hyn, ac yn enwedig crynodeb ardderchog Carwyn Jones o ba mor chwerthinllyd yw'r wrth-ddadl mewn gwirionedd.
A minnau wedi cymeradwyo hynny'n drwyadl, Dirprwy Lywydd, cymeradwyaf y setliad hwn i'r Senedd.
Diolch. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.