– Senedd Cymru am 2:53 pm ar 6 Mai 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar yr ymateb i coronafeirws, a dwi'n gofyn i'r Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Ken Skates.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch yn gyntaf i Aelodau ar draws y Siambr, yn ogystal â'n partneriaid cymdeithasol a'n cydweithwyr ym mhob maes gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, am y gwaith aruthrol sydd wedi'i wneud wrth gefnogi a chyfrannu at yr ymateb economaidd i'r coronafeirws.
Nawr, fel y byddaf yn amlinellu, rydym wedi gwneud llawer iawn o gynnydd yn darparu cymorth cyflym drwy ein cronfa cadernid economaidd drwy Fanc Datblygu Cymru, a thrwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweinyddu rhyddhad ardrethi busnes, a hoffwn dalu teyrnged i bawb sydd wedi helpu mewn perthynas â hynny.
Nawr, rwy'n dweud hyn oherwydd na allai'r angen am y cymorth hwn fod yn fwy. Mae economïau o amgylch y byd yn dangos arwyddion o grebachu gwaeth nag erioed a diweithdra sylweddol. Mae economi ardal yr ewro wedi crebachu'n gyflymach nag erioed yn y chwarter cyntaf, ac mae hyd yn oed yr economi gryfaf, yr Almaen, wedi cofnodi bod diweithdra wedi cynyddu 373,000 ym mis Ebrill.
Mae llawer o fusnesau yng Nghymru eisoes wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd. O'r busnesau a'r lleoliadau sy'n gorfod aros ar gau ar hyn o bryd, mae dros 200,000 yn gweithio yn y diwydiannau hynny yng Nghymru. Mae dros draean o'r rheini'n gweithio o fewn y diwydiannau bwyd a diod, ac mae dros chwarter yn gweithio yn y sector manwerthu. Mae hyn cyn i ni ystyried yr effaith ar y gadwyn gyflenwi wrth gwrs. Ond ein blaenoriaeth ni yw iechyd y cyhoedd a rheoli'r pandemig. Heb hyder y cyhoedd yn hynny, ni fydd defnyddwyr yn mynd i siopau, ni fydd pobl yn teithio ac ni fydd gweithwyr yn dychwelyd i'w swyddfeydd.
Yn y cyfamser, wrth i filoedd o unigolion a busnesau roi eu bywoliaeth ar stop i achub bywydau, mae Llywodraeth Cymru'n cymryd camau pendant i helpu'r holl fusnesau a'r unigolion hynny yr effeithiyd arnynt.
Fel y mae ar hyn o bryd, rydym wedi buddsoddi £1.7 biliwn mewn pecynnau cymorth, sy'n cyfateb i 2.7 y cant o'r cynnyrch domestig gros yng Nghymru. Mae hwn yn ymrwymiad cwbl ddigynsail ac yn arwydd clir ein bod yn sefyll dros fusnesau ym mhob rhan o Gymru. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a minnau fod gwerth dros £0.5 biliwn o grantiau rhyddhad wedi mynd oddi wrth y Llywodraeth i fusnesau, gan gyrraedd 41,000 o fusnesau bach yng Nghymru o fewn ychydig wythnosau'n unig. Mae pob busnes cymwys yn y sector twristiaeth, manwerthu a lletygarwch bellach yn elwa o flwyddyn o seibiant rhag talu ardrethi. Yn ystod fy natganiad diwethaf, dywedais wrthych ein bod wedi ychwanegu £100 miliwn ychwanegol at y swm o arian ar gyfer cam cyntaf y gronfa cadernid economaidd i Gymru'n unig, sy'n cynnwys cyfanswm o £0.5 biliwn. Cafodd y gronfa honno ei rhewi am hanner dydd ddydd Llun 27 Ebrill, yn dilyn y nifer fawr iawn o geisiadau, gwerth dros £255 miliwn i gyd.
Rwy'n falch o ddweud fod cyllid bellach yn llifo i fusnesau, gyda dros 700 o geisiadau'n cael eu harfarnu a'u cymeradwyo bob dydd. Mae cyfradd y ceisiadau wedi bod yn ddigynsail, a hoffwn ddiolch i'r tîm o swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithio'n gyflym i brosesu ceisiadau ac i drosglwyddo arian i gyfrifon y busnesau a'r sefydliadau sydd angen y cymorth hwnnw'n gyflym.
Rydym yn adolygu sut y gallwn ddefnyddio'r cyllid sy'n weddill yn awr i gefnogi'r cwmnïau sydd fwyaf o'i angen ac i ddiogelu ein heconomi. Hoffwn ailadrodd nad yw hwn yn gymorth sy'n cael ei ddarparu i fusnesau bach a chanolig yn Lloegr; cyllid o'n cyllidebau ein hunain yma yng Nghymru ydyw. Gwn fod llawer o gwmnïau yma yng Nghymru wedi goroesi oherwydd ein cymorth ac y byddent wedi cau pe baent wedi'u lleoli yn Lloegr.
Rwyf wedi cael trafodaethau ardderchog gyda chyd-Aelodau ar draws y Siambr am y camau nesaf gyda'n cronfa cadernid economaidd, a sut y gellid defnyddio cyllid ychwanegol drwy Fanc Datblygu Cymru. Roedd cynllun benthyciadau COVID-19 y banc datblygu wedi'i ddihysbyddu mewn ychydig dros saith diwrnod, ar ôl i 1,600 o geisiadau gael eu cyflwyno. Mewn blwyddyn arferol, mae Banc Datblygu Cymru yn prosesu tua 400 o geisiadau. Felly, rhagwelir y bydd Banc Datblygu Cymru wedi prosesu'r holl geisiadau cyn bo hir, ac mae 567 o'r benthyciadau hyn wedi mynd i fusnesau bach a microfusnesau, gan ddiogelu 4,571 o swyddi.
Roedd y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am gynllun benthyciadau adfer Llywodraeth y DU, sydd ar gael yma yng Nghymru, i'w groesawu'n fawr, ac rydym yn dal i weithio gyda Llywodraeth y DU i nodi'r bylchau yn y ddarpariaeth i fusnesau yng Nghymru. Ac fel rwyf wedi'i ddweud droeon yn awr, rydym eisiau cefnogi busnesau da yn 2019 i fod yn fusnesau da yn 2021. Rydym eisiau cynorthwyo pobl a oedd mewn swydd dda yn 2019 i fod mewn swydd dda yn 2021. Ond mae gwir angen i'r Canghellor ddysgu gwersi'n gyflym o'r cynlluniau a weithredwyd hyd yn hyn, yn enwedig ar gael cyllid i fusnesau'n gyflymach, ac rwy'n credu bod llawer y gallwn ei ddysgu gan ein banc datblygu ein hunain yn hyn o beth.
Mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn mynd ymhellach yn awr drwy ddarparu'r cymorth ariannol sydd ei angen ar fusnesau o bob maint i oroesi ac adfer i'r lefelau twf a ffyniant a welwyd cyn y pandemig hwn. Mae'n rhaid iddo hefyd edrych ar sut y mae'r cynllun ffyrlo yn gweithio gyda busnesau a gwrando ar eu galwad i beidio â'i ddiddymu cyn i'r argyfwng ddod i ben.
Bydd y gronfa cadernid economaidd yn cefnogi nifer sylweddol o fusnesau a mentrau sy'n wynebu pwysau llif arian. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir bob amser na fydd yn cyrraedd pob un ohonynt. Mae hyn yn cynnwys cymorth i borthladd Caergybi. Ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi, ar 24 Ebrill, nad oedd ei chefnogaeth i lwybrau a gwasanaethau fferi yn cynnwys y llwybr hanfodol rhwng Dulyn a Chaergybi, pwysais ar Lywodraeth y DU i edrych eto, ac rwy'n falch eu bod yn gwneud hynny. Edrychwn ymlaen at weithio'n adeiladol i gefnogi'r porthladd, sef yr ail borthladd prysuraf yn y DU, ac mae'n gwbl hanfodol i economi gogledd Cymru. Mae hefyd yn gyswllt hanfodol ar gyfer cludo nwyddau hanfodol fel cyflenwadau bwyd ac ocsigen ar gyfer y GIG i dir mawr y DU, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.
Fel y dywedais yn gynharach, am nawr, y flaenoriaeth o hyd yw iechyd y cyhoedd a rheoli'r pandemig. Nid yw hynny'n golygu nad ydym yn meddwl am ddyfodol yr economi a'r llwybr tuag at adfer. Mae'n hanfodol ein bod yn edrych ar bob maes Llywodraeth, nid ar yr ysgogiadau economaidd yn unig. Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â Llywodraeth y DU a chymheiriaid yn y gweinyddiaethau datganoledig ar y mater hwn wrth inni weithio i wneud ein gwledydd yn lleoedd mwy diogel i fyw a gweithio ynddynt. Rydym yn ystyried yn ofalus sut y byddwn yn codi'r cyfyngiadau symud, ac rydym yn parhau'n ymrwymedig i weithio ar draws y pedair gweinyddiaeth i ddatblygu'r polisi cywir ar hyn.
Ddoe ddiwethaf, ymunais â fy nghymheiriaid datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon i nodi'r pryderon cyffredin a rannem mewn perthynas â chanllawiau Llywodraeth y DU ar weithleoedd mwy diogel. Nawr, fel y mae'r Prif Weinidog wedi dweud, rydym yn awyddus i osgoi ymwahanu lle bynnag y bo modd, a chyhoeddwyd ein fframwaith adfer ar gyfer sut y byddwn yn arwain Cymru allan o'r argyfwng hwn mewn ffordd sy'n cadw pawb yn ddiogel ac yn adfywio ein heconomi cyn gynted ag sy'n bosibl. Rydym angen economi ffyniannus sy'n rhoi swyddi i bobl, sy'n rhoi incwm iddynt ac sy'n cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus; un lle mae gennym Gymru fwy ffyniannus, mwy cyfartal a mwy gwyrdd. Y ffordd orau o wneud hynny yw sicrhau rheolaeth dros y feirws yn awr. Rwy'n hapus i gymryd cwestiynau.
Diolch am eich datganiad, Weinidog, a diolch i chi am eich sesiynau briffio rheolaidd i'r llefarwyr hefyd. Weinidog, fe sonioch chi fod y gronfa cadernid economaidd wedi'i rhewi ddydd Llun diwethaf. Tybed a allech chi roi mwy o fanylion am gam nesaf y cynllun, oherwydd bydd busnesau'n awyddus iawn i wybod pryd y caiff hynny ei gyhoeddi a beth fydd ei gynnwys.
Gwn o'n trafodaethau fod rhai bylchau sylweddol rydych yn ymwybodol ohonynt, ond efallai y gallech egluro a fydd rhai o'r materion hyn yn cael eu nodi yn y cam nesaf. Rwy'n meddwl yn arbennig am grwpiau o bobl sydd newydd ddod yn hunangyflogedig; busnesau nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer treth ar werth, sydd wedi'u heithrio o'r cynllun ar hyn o bryd; ac yna, wrth gwrs, mae'r busnesau sy'n talu ardrethi busnes, i bob pwrpas, o fewn eu rhent i'w landlordiaid; a hefyd perchnogion-gyfarwyddwyr microfusnesau; a hefyd cymorth i elusennau neu sefydliadau dielw nad ydynt yn gymwys i gael cymorth ar hyn o bryd.
Ac wrth gwrs, un o'r sectorau mwyaf yr effeithiwyd arnynt ar hyn o bryd, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, yw'r sector twristiaeth, ac mae'n ymddangos y byddant yn colli'r tymor cyfan eleni, yn anffodus. Felly, yn hynny o beth, tybed a allech chi amlinellu pa ystyriaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i gyflwyno mesurau penodol ar gyfer y sector twristiaeth a lletygarwch. A pham fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol osod meini prawf newydd, sydd wedi eithrio busnesau gwyliau hunanddarpar rhag cael mynediad at gymorth ariannol drwy'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, yn hytrach na darparu canllawiau cenedlaethol y gall pob awdurdod lleol eu dilyn er mwyn sicrhau tegwch? Rwy'n credu mai'r broblem arall yw bod awdurdodau lleol yn poeni ychydig am weithredu disgresiwn, oherwydd nid ydynt yn siŵr a fyddant yn gallu adennill peth o'r arian yn ôl wedyn.
A gaf fi ddiolch i Russell George am ei sylwadau ac am yr awgrymiadau adeiladol y mae wedi'u gwneud dros yr wythnosau diwethaf, sydd wedi cyfrannu at ein gwaith o lunio cymorth uniongyrchol i fusnesau?
Rwyf am sôn yn fyr am raglen y gronfa cadernid economaidd a'r gwaith pellach sy'n mynd rhagddo wrth inni ystyried cam nesaf y gronfa benodol honno. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Llywodraeth y DU wedi ychwanegu oddeutu £617 miliwn at y cynllun grant ardrethi annomestig yn ddiweddar. Bydd hwnnw'n sicrhau swm canlyniadol i Gymru, a byddwn yn defnyddio hwnnw ar gyfer cymorth i fusnesau. Rwy'n ymwybodol fod yna fylchau. Rydym yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gau'r bylchau hynny yn dilyn cam 1, nid yn unig drwy'r gronfa cadernid economaidd, ond hefyd wrth inni edrych ar y cam nesaf o gymorth Banc Datblygu Cymru. Nawr, mae Russell George wedi amlinellu nifer o feysydd lle ceir bylchau ar hyn o bryd ac sy'n cael sylw gennym wrth gwrs. Mae hynny'n cynnwys busnesau nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer TAW; mae'n cynnwys busnesau mewn safleoedd a rennir—masnachwyr marchnadoedd rheolaidd, er enghraifft—yn ogystal â sefydliadau gwely a brecwast sy'n talu'r dreth gyngor yn hytrach nag ardrethi busnes. Byddwn yn ceisio llenwi cynifer o fylchau ag y gallwn, ond mae ein hadnoddau ariannol yn gyfyngedig ac yn sicr nid yw ein pocedi mor ddwfn â rhai Trysorlys Llywodraeth y DU.
Nawr, mewn perthynas â'r gwaith sy'n ymwneud â sectorau penodol, o ran twristiaeth, rwy'n credu y byddai pawb yn cydnabod y bydd yn anhygoel o anodd i fusnesau yn y sector twristiaeth gynhyrchu llawer o refeniw o gwbl yn ystod blwyddyn dwristiaeth 2020. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn diogelu iechyd y cyhoedd, ac felly iechyd yr economi, ar gyfer 2021, oherwydd mae'n debyg na fydd refeniw'n cael ei gynhyrchu gan fusnesau twristiaeth yn llawer cynt na gwanwyn y flwyddyn nesaf. Mae hynny'n golygu y bydd angen cyfnod estynedig o gymorth ar gyfer y sector twristiaeth, a sectorau eraill fel y sector digwyddiadau a lletygarwch. Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn awyddus i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn ystyried cyfnod hwy o gefnogaeth i'r sector twristiaeth. Mae'n ymgysylltu'n rheolaidd iawn â Gweinidogion yn Llywodraeth y DU a'i gyd-Aelodau ar draws y gweinyddiaethau datganoledig ynghylch y mater hwn.
Mewn perthynas â'r disgresiwn a roddwn i awdurdodau lleol, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn cydnabod mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau'n aml i wybod beth yw anghenion economaidd lleol eu hetholwyr, eu pentrefi, eu trefi a'u hardaloedd. Yn wir, yn ddiweddar, fe wnaeth Llywodraeth y DU, drwy ychwanegu at y cynllun grant ardrethi annomestig, roi disgresiwn i awdurdodau lleol ddewis gwneud taliadau i fusnesau ar sail angen economaidd lleol. Rwy'n credu ei bod yn iawn ein bod yn rhoi arweiniad, ond rwy'n credu hefyd ei bod yn iawn ein bod yn rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol, oherwydd yn gwbl onest, o ran cael gwybodaeth fanwl am fusnesau lleol, hwy sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau gwybodus a phriodol.
Rwy'n derbyn y pwynt olaf hwnnw, Weinidog, ond credaf fod problem o hyd gyda'r ffaith bod awdurdodau lleol yn nerfus ynghylch dangos rhywfaint o ddisgresiwn, ac efallai y gellid rhoi rhywfaint o ystyriaeth ychwanegol i hynny.
Mae fy set olaf o gwestiynau, yn fyr iawn, yn ymwneud â'r cyfnod adfer, ac rwy'n credu wrth gwrs ein bod i gyd yn gobeithio y gallwn symud ymlaen ato cyn gynted â phosibl. Tybed pa gefnogaeth rydych wedi'i rhoi i waith adeiladu a all ddigwydd, sydd efallai wedi'i ohirio ar hyn o bryd, a chael gwaith adeiladu i ailddechrau, ac a ydych chi a'ch cyd-Aelodau wedi ystyried llacio rhai cyfyngiadau cynllunio i ganiatáu i rywfaint o waith adeiladu ddechrau yn gynt o bosibl.
Y mater arall, wrth gwrs, yw bod llawer o bobl yn fy etholaeth yn methu gweithio gartref am nad oes ganddynt fand eang na chysylltedd digonol. Felly, Weinidog, tybed a allech chi amlinellu sut y mae'r argyfwng presennol wedi effeithio ar raglen Llywodraeth Cymru i wella cysylltedd band eang, megis prosiect cam 2 Cyflymu Cymru. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod band eang gweddus yn arbennig o bwysig ar gyfer gweithio gartref ar hyn o bryd.
Yna, yn olaf, o ran cael pobl yn ôl i'r gwaith, tybed beth yw'r capasiti y gallech ei amlinellu ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a'r gallu i gadw pellter cymdeithasol. A oes canllawiau ar waith? A oes gwaith wedi'i wneud ar hyn? Fis diwethaf, fe sonioch chi yn eich datganiad am fecanweithiau ariannu i gefnogi'r sector. Sut y mae'r arian yn cael ei ddefnyddio? Efallai y gallech adrodd yn ôl ar hynny. A beth yw eich strategaeth hirdymor ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus?
A gaf fi ddiolch i Russell George am y cwestiynau pellach hynny? Byddaf yn siarad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am yr amrywio yn y modd y mae cynghorau'n cefnogi busnesau ar sail ddewisol, i sicrhau bod yr holl gymorth y gellir ei roi i fusnesau yn cael ei ddarparu ac nad yw awdurdodau lleol yn gweithredu mewn ffordd rhy nerfus, fel yr amlinellodd Russell.
O ran adfer, ein pryder pennaf yw iechyd gweithwyr ac iechyd y cyhoedd yn gyffredinol, a dyna pam y byddwn yn mynd ati'n frwd i sicrhau bod cadw pellter cymdeithasol a mesurau gweithio diogel yn flaenoriaeth i bob busnes wrth iddynt ailddechrau, ac mae hynny'n cynnwys y sector adeiladu. Bydd gan y sector adeiladu rôl hynod bwysig i'w chwarae yn ysgogi adferiad economaidd yn syth ar ôl i ni gefnu ar yr argyfwng hwn, ac rydym yn gweithio gyda'r sector i archwilio sut y gallwn sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus mewn seilwaith yn cael ei ddefnyddio i adfer yr economi'n gyflym. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod llawer o safleoedd adeiladu wedi aros ar agor er mwyn cyfrannu at yr ymdrech genedlaethol i oresgyn coronafeirws a darparu cynlluniau seilwaith pwysig ar gyfer y wlad. Byddaf yn cysylltu â'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio mewn perthynas â rheoliadau a rheolau, ond fel y dywedaf, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn rhoi blaenoriaeth i iechyd a lles gweithwyr.
O ran band eang, byddaf yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog ysgrifennu at yr Aelodau gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gam diweddaraf yr ymyrraeth band eang cyflym iawn.FootnoteLink
Ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw fod gwaith wedi'i gomisiynu gan yr Adran Drafnidiaeth yn ymwneud â phatrymau ymddygiad yn y dyfodol mewn perthynas â'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd hwnnw'n helpu i lywio'r gwaith o gynllunio capasiti a rheoli galw ar draws y boblogaeth. Yr hyn sy'n ein pryderu'n awr yw bod angen inni sicrhau bod iechyd a diogelwch y cyhoedd sy'n teithio a'r bobl sy'n gweithio ym maes trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu diogelu. Bydd hynny, yn ei dro, yn arwain at lai o gapasiti ac felly, mae angen inni reoli disgwyliadau o ran faint o seddi fydd ar gael ar drenau ac ar fysiau, a sut yr awn ati i sicrhau y gallwn gael cynifer o bobl yn ôl i'r gwaith mewn ffordd ddiogel, mewn ffordd nad yw'n peryglu iechyd pobl sy'n gweithio ar systemau trafnidiaeth gyhoeddus neu'n wir, y cyhoedd sy'n teithio. Byddaf yn adrodd yn ôl ar y ffordd y mae'r cyllid wedi cael ei ddefnyddio hyd yma, y cyllid sefydlogi ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau, wrth inni ystyried yr ymyriadau mwy hirdymor y gallai fod angen eu gwneud er mwyn sicrhau bod gennym y system drafnidiaeth gyhoeddus orau bosibl wrth inni gefnu ar yr argyfwng hwn.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac am y cydweithrediad parhaus rhyngddo ef a'i staff ac eraill ohonom ar draws y Siambr. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr.
Os caf gyfeirio'n gyntaf at y gronfa cadernid economaidd, roeddwn yn falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud mewn ymateb i Russell George y bydd yn ceisio sicrhau bod cynifer â phosibl o'r busnesau nad ydynt yn gallu cael gafael ar gymorth ar hyn o bryd yn cael mynediad at y gronfa honno. Codais bryderon gydag ef, er enghraifft, ynghylch busnesau gwely a brecwast sy'n talu'r dreth gyngor yn hytrach nag ardrethi busnes, yn ogystal â masnachwyr unigol sy'n gweithio gartref. Tybed a yw'n bosibl i'r Gweinidog roi rhyw fath o amserlen i ni mewn perthynas â phryd y mae'n gobeithio gwneud y penderfyniad hwn. Mae'n amlwg yn bwysig iawn ei fod yn osgoi dyblygu cynlluniau'r DU ac yn mynd ati go iawn i ddefnyddio ei adnoddau i lenwi'r bylchau, ond rwy'n siŵr y bydd hefyd yn deall bod yna lawer o fusnesau bach iawn nad ydynt wedi cael cymorth eto yn aros yn bryderus i glywed beth sydd ganddo i'w ddweud.
O ran y gwaith adfer, mae'r Gweinidog yn sôn yn briodol am gadw pawb yn ddiogel, ac yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, mae canllawiau newydd yn cael eu llunio ar draws y pedair gwlad i edrych ar sut y gall nifer o aelodau o staff mewn llawer o wahanol ddiwydiannau ddychwelyd i'r gwaith yn ddiogel. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno y bydd angen sicrwydd ar rai aelodau o staff, pan fydd y canllawiau a'r rheolau newydd hyn ar waith, y bydd ffyrdd y gellir gorfodi hynny'n effeithiol. Gwn ei fod yn ymwybodol o fy mhryder ynglŷn â'r capasiti o fewn llywodraeth leol i wneud hynny'n effeithiol. Felly, a all ddweud rhagor ynglŷn â sut y gall sicrhau, pan fydd y rheoliad newydd hwn ar waith, y gall gweithwyr gael y gefnogaeth y byddant ei hangen os bydd rhaid iddynt ofyn am i reolau gael eu gorfodi?
Lywydd, a gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau, ac unwaith eto, am gynnig syniadau yn rheolaidd a thynnu sylw at bryderon y gobeithiwn ein bod wedi gallu mynd i'r afael â hwy yn ystod y pandemig?
Mae Helen Mary wedi tynnu sylw at nifer o feysydd sy'n peri pryder yn ymwneud â'r bylchau sydd wedi ymddangos mewn perthynas â'r cymorth a gynigir, ac un o'r pryderon hynny yw busnesau gwely a brecwast sy'n talu'r dreth gyngor yn hytrach nag ardrethi busnes. Mae hwn yn un maes penodol rydym yn ei ystyried fel rhan o'r cam nesaf o gymorth drwy'r gronfa cadernid economaidd.
Ac o ran yr amserlen ar gyfer cyhoeddi'r ail gam hwnnw, fel y nodais, mae'r gwaith yn parhau. Rwy'n disgwyl cael cyngor ac opsiynau o fewn yr wythnos sydd i ddod. Yna, gwneir cyhoeddiad yn fuan ar ôl hynny. Mae wedi bod yn ddefnyddiol gallu cynnwys y swm canlyniadol ychwanegol a ddaw yn sgil ychwanegiad Llywodraeth y DU at y cynllun grant ardrethi annomestig yn ein hystyriaethau.
Dylwn ddweud wrth yr Aelodau mai'r hyn sy'n gwbl hanfodol, serch hynny, yw ein bod yn cadw rhywfaint o allu wrth gefn ar gyfer y cam adfer ei hun wrth inni geisio gwneud buddsoddiadau strategol yn ein heconomi. Ni allwn ddefnyddio ein holl adnoddau yn yr ymateb; mae'n rhaid inni gadw rhywfaint o fuddsoddiad ar gyfer y cyfnod adfer.
Ac mewn perthynas â'r cyfnod adfer, mae Helen Mary yn llygad ei lle: mae angen inni roi hyder i bobl, boed yn weithwyr neu'n gwsmeriaid busnesau; mae angen inni roi hyder iddynt y gallant gael gafael ar nwyddau a gwasanaethau mewn ffordd ddiogel. Ac fel rhan o'r gwaith ar weithio'n fwy diogel, rydym yn ystyried defnyddio rhyw fath o ardystiad—nod barcut, os mynnwch, yma yng Nghymru a allai gynnig cyfle i gwsmeriaid a gweithwyr eu hunain orfodi'r canllawiau hynny.
Rydym yn gweithio gyda Chyngres Undebau Llafur Cymru a byddwn hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod digon o gapasiti a systemau ar waith i warantu y glynir wrth y canllawiau hynny. Mae Cyngres Undebau Llafur Cymru yn enwedig wedi bod o gymorth mawr yn cyfrannu at bwysigrwydd y rheoliadau cadw pellter cymdeithasol o fewn y gweithlu, ac mae wedi rhoi enghreifftiau i ni o bryderon a godwyd gyda'u haelodau, ac rydym wedi mynd ar drywydd pob un o'r adroddiadau hynny. Felly, gobeithio y gellir cynnal ein rhaglen orfodi sydd wedi bod ar waith ers cyflwyno'r rheoliadau hynny ar ôl inni ddechrau'r cyfnod adfer.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei atebion. Mae wedi dweud, yn gywir, ac mae hefyd yn rhywbeth y soniodd y Prif Weinidog amdano wrth ymateb i gwestiynau heddiw, na fydd llawer o'r hyn y bydd angen ei wneud i ddiogelu a chryfhau economi Cymru yn gallu cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru yn unig, oherwydd nid yw'r adnoddau yno. Ac rwy'n meddwl tybed a all y Gweinidog ddweud ychydig mwy heddiw am y trafodaethau y mae wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y cymorth sydd ei angen ar rai o'n busnesau allweddol. Cawsom y newyddion anffodus fod General Electric yn cynnal ymgynghoriad ynghylch nifer fawr o ddiswyddiadau posibl. Mae'r sector dur, wrth gwrs, yn parhau i fod yn broblem enfawr i ni yma yng Nghymru ym Mhort Talbot, ond hefyd, wrth gwrs, yn Nhrostre yn fy rhanbarth i. Ac rwy'n meddwl tybed a all y Gweinidog ddweud ychydig mwy ynglŷn â sut y mae'r trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU yn mynd rhagddynt ac a yw'n teimlo eu bod yn deall yn iawn.
Yn y datganiad, soniodd y Gweinidog fod angen i'r Canghellor ddysgu rhai gwersi, a soniodd hefyd am y cynllun ffyrlo. A all y Gweinidog gadarnhau y prynhawn yma ei fod yn parhau i gael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r awydd i gynnal y cynllun ffyrlo, fel y dywedodd, yn ystod y misoedd nesaf, ond i chwilio am rywfaint o hyblygrwydd hefyd? Rwy'n meddwl yn arbennig am weithwyr tymhorol—pobl a fyddai fel arfer yn gweithio mewn gwesty neu barc carafanau neu'n wir, fel achubwyr bywydau, ac a yw'n teimlo bod y Canghellor yn gwrando pan fydd yn codi'r pryderon hynny.
Mae'r rhain yn bwyntiau pwysig iawn, a chredaf y dylwn egluro i'r Aelodau hefyd fod Helen Mary Jones a minnau wedi trafod rhai pryderon penodol ynghylch y sectorau hyn, ac er eu bod yn sectorau bach o bosibl, maent yn sectorau pwysig sy'n cynnwys, er enghraifft, achubwyr bywydau a gyflogir o 1 Ebrill ymlaen gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, ac sydd felly'n methu manteisio ar y trefniadau presennol yn y cynllun cadw swyddi.
Rwy'n falch o ddweud fy mod wedi codi'r achos penodol hwnnw heddiw gyda Gweinidogion yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, gyda Nadhim Zahawi, a dadleuais hefyd y dylai Gweinidogion ddysgu gwersi o'r cynlluniau ffyrlo, fel y maent wedi'i wneud gyda'r cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws—y cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes. Dywedwyd wrthyf, rwy'n falch o ddweud, fod Llywodraeth y DU yn awyddus i sicrhau nad yw cynlluniau ffyrlo yn cyrraedd ymyl clogwyn, y bydd busnesau, os oes angen cyfnod hwy o gymorth arnynt, yn cael y cyfnod hwy hwnnw, a thynnais sylw at sectorau o'r economi, gan gynnwys twristiaeth, a'r diwydiant awyrofod, lle mae'n dra phosibl y bydd angen cyfnod hwy o gymorth. Felly, mae Gweinidogion Llywodraeth y DU yn talu sylw i'r pryderon hynny yn awr.
Rydym yn rhannu gwybodaeth ar sail y pedair gwlad—y gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU. Rwy'n falch o ddweud bod y sgoriau coch-ambr-gwyrdd sy'n cael eu defnyddio gan Lywodraeth y DU, gan Lywodraeth Cymru, yn wir gan Lywodraethau yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, yn eithaf tebyg. Mae ein rhai ni yn sicr yn debyg i rai Llywodraeth y DU; mae'n amlwg fod graddfa coch-ambr-gwyrdd yr Alban yn cynnwys sectorau fel olew a nwy, fel y gallech ddychmygu, ac mae gennym hefyd rai sectorau sy'n arbennig o amlwg ar hyn o bryd. Mae dur yn un o'r rheini; mae awyrofod yn un arall, ac rwyf wedi sôn wrth Weinidogion Llywodraeth y DU am yr angen am ymyrraeth uniongyrchol a sylweddol i gefnogi Tata, i gefnogi Airbus, i sicrhau bod y cyflogwyr allweddol hyn sydd â chadwyni cyflenwi dwfn a helaeth iawn ledled Cymru yn cael y cymorth i oroesi'r feirws hwn. Nid yw'n syndod, rwy'n siŵr, fod y gefnogaeth i gyflogwyr o'r fath yn un o nodweddion allweddol y trafodaethau wythnosol rwy'n eu cael gyda'r gweinyddiaethau datganoledig a Gweinidogion Llywodraeth y DU.
Diolch i'r Gweinidog am eich datganiad y prynhawn yma, a hoffwn groesawu'r cyfle i'ch holi chi fel 'Aelod o'r Senedd' am y tro cyntaf.
A gaf fi ddweud ein bod ni i gyd yn gwerthfawrogi'r gwaith sy'n cael ei wneud drwy eich ymyriadau gyda'r economi yng Nghymru? Ond, Weinidog, ar 14 Ebrill, cynhyrchodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol senario'n cyfeirio at yr economi sy'n crebachu. Roedd hwn yn edrych ar effaith bosibl coronafeirws ar yr economi—economi'r DU hynny yw—ac felly, yr arian cyhoeddus. Roedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn ofalus i beidio â'i alw'n rhagolwg; yn lle hynny, roedd yn llinell sylfaen ar gyfer gwaith arall. Bydd cryn amser cyn i'r ystadegau swyddogol ddechrau adlewyrchu effaith y pandemig coronafeirws ar y farchnad lafur. Bydd yr arolwg o'r llafurlu, a ddefnyddiwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mwletin misol y farchnad lafur, yn annhebygol o adlewyrchu effaith y pandemig tan fis Mehefin ar y cynharaf. Fodd bynnag, mae'n bosibl mai un dangosydd fydd yr ystadegyn a gyhoeddwyd gan gyfarwyddwr cyffredinol y credyd cynhwysol ar 15 Ebrill, sy'n dangos bod 1.4 miliwn o bobl wedi gwneud cais am gredyd cynhwysol dros y pedair wythnos flaenorol. Mae senario'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dangos economi'r DU yn crebachu tua 35 y cant yn ystod ail chwarter y flwyddyn hon. Nid oes amheuaeth, Weinidog, y bydd hyn yn effeithio ar sefyllfa ariannol Cymru, ac o gofio bod Cymru'n fwy dibynnol ar y sector gwasanaethau, sydd ar hyn o bryd yn 66 y cant o werth ychwanegol gros Cymru, gallai effeithio ar Gymru yn fwy na'r DU yn gyffredinol.
A all y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau ar gyfer ymdrin â'r senario a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac yn benodol, pan fydd busnesau'n ailddechrau gweithio, ac yn dychwelyd i ryw fath o normalrwydd efallai, yr ymyriadau a all fod gennych i roi hwb i economi Cymru o dan yr amgylchiadau hynny?
A gaf fi ddiolch i David Rowlands am ei gwestiynau? Nid oes amheuaeth fod enciliad yn anochel bellach, ond yr hyn sy'n rhaid inni ei osgoi ar bob cyfrif yw dirwasgiad. Ac rydym wedi bod yn chwarae rhan sylweddol iawn yn sicrhau nad yw hynny'n digwydd yng Nghymru. Hyd yn hyn, rydym wedi cefnogi un o bob pum busnes yng Nghymru yn uniongyrchol gyda grantiau. Rydym hefyd wedi cefnogi busnesau drwy wyliau ardrethi, ac yn ychwanegol at hynny, mae cynllun cadw swyddi Llywodraeth y DU, ac yn wir, y cynllun cymorth incwm i’r hunangyflogedig sy'n helpu i gadw busnesau a'r hunangyflogedig yn fyw i bob pwrpas drwy gyfnod eithriadol o anodd, hyd yn oed os yw'n golygu gohirio unrhyw weithgarwch yn y tymor byr.
Yn y tymor hwy, mae gwaith eisoes ar y gweill ar draws Llywodraeth Cymru ar ailosod yr economi, a llunio economi decach a mwy gwyrdd ar ôl inni gefnu ar y coronafeirws, a fydd yn cymryd rhywfaint o amser—ni fydd yn bosibl ailffurfio'r economi dros nos, ond mae gwir angen inni wneud hynny. Ac wrth gwrs, y gwaith y mae Jeremy Miles yn ei arwain, y paneli arbenigol, y trafodaethau a gafwyd gyda chynghorwyr allanol, bydd hwnnw'n helpu i lywio ein hymyriadau wrth inni gefnu ar y cyfnod anodd hwn. Bydd ysgogiadau cyfalaf yn chwarae rhan bwysig yn sicrhau bod yr economi'n tyfu mor gyflym â phosibl.
Ond mae David Rowlands yn llygad ei le yn nodi'r ffaith y gallai coronafeirws gael effaith fwy andwyol ar Gymru na rhannau eraill o'r DU. Mae is-ranbarthau tebyg yn y DU a allai gael eu taro yr un mor galed â Chymru—yr ardaloedd lle ceir nifer uchel o bobl a fu'n dibynnu ar ddiwydiannau trwm yn y degawdau diwethaf a'r ardaloedd sydd wedi cael trafferth i oresgyn yr heriau ôl-ddiwydiannol a welsom. A dyna pam ein bod yn awyddus i weithio gyda'r rhannau o'r DU sy'n rhannu demograffeg debyg, sy'n rhannu heriau economaidd tebyg.
Yn nes ymlaen heddiw, byddaf yn siarad â nifer o feiri metro ar draws y ffin sy'n cynrychioli is-ranbarthau o'r fath. Rwy'n awyddus i sicrhau ein bod yn rhannu syniadau, a'n bod yn rhannu dulliau cyffredin o fynd ati, ac yn wir, ein bod yn rhannu, lle bo'n bosibl, galwad debyg am fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU mewn ffordd a fyddai'n ail-lunio economi'r DU, ac yn ail-gydbwyso ein heconomi ar draws y Deyrnas Unedig.
Weinidog, efallai ei bod yn anochel y bydd swyddi'n cael eu colli ymysg y 6 miliwn o weithwyr sydd ar ffyrlo yn y DU. Mae twristiaeth wedi dymchwel i bob pwrpas, ac mae'r diwydiant hedfan, fel rydych eisoes wedi dweud, wedi crebachu'n sylweddol. Nawr, rydym wedi clywed cyhoeddiadau'n ddiweddar am y diswyddiadau gwirfoddol yn fy etholaeth, yn General Electric, yn Nantgarw. Mae General Electric yn gwmni hynod bwysig sy'n rhagori ym maes peirianneg, ac mae'n hyfforddi gweithlu o'r radd flaenaf. A allwch chi gadarnhau eich bod mewn cysylltiad â General Electric, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i roi pob cefnogaeth y gall ei rhoi i'r cwmni, ac i'w weithlu, dros y misoedd nesaf wrth inni ddechrau codi'r cyfyngiadau symud?
Hoffwn ddiolch i Mick am ei gwestiwn. Rydym wedi bod yn gyfaill ffyddlon iawn i GE dros flynyddoedd lawer. Rydym wedi cefnogi'r cwmni'n ariannol, rydym wedi cefnogi'r cwmni o ran y cyngor rydym wedi gallu ei roi iddo, ac rydym yn benderfynol o gefnogi'r cwmni yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Nawr, bydd yr ymgynghoriad ar ddiswyddiadau gwirfoddol yn para 45 diwrnod; ni fyddai'n briodol i mi roi sylwadau manwl arno ar hyn o bryd tra bo'n parhau. Ond gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd iawn â GE dros yr wythnosau diwethaf, ac rwyf hefyd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn gofyn i Lywodraeth y DU edrych ar yr hyn y gall ei wneud i ddarparu cymorth i'r diwydiant awyrofod.
Rydym wedi gweld cwymp yn y sector ar draws y byd. Mae hynny'n golygu y bydd wedi'i niweidio am flynyddoedd lawer, os nad degawdau, i ddod. Ond rwy'n benderfynol o sicrhau, er y bydd yr economi fyd-eang yn gyffredinol, y sector hedfan a'r sector awyrofod, yn crebachu, y bydd sector awyrennau Cymru yn dod allan ohoni o leiaf cyn gryfed ag yr aeth i mewn. Wrth gwrs, mae'n ddigon posibl y bydd swyddi'n cael eu colli, ond mae angen inni sicrhau bod y busnesau sy'n cyflogi pobl ar gyfraddau cyflog anhygoel o uchel o gymharu â llawer o sectorau eraill, a'r bobl fedrus iawn hynny, yn cael y cymorth angenrheidiol er mwyn sicrhau cynifer o swyddi ag sy'n bosibl pan ddown allan o'r cyfnod hwn.
Cysylltodd nifer o fusnesau llety gwyliau yng ngogledd Cymru â mi pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru feini prawf diwygiedig ar gyfer grantiau cymorth busnes, a hynny ar eu cyfer hwy yn unig. Dywedodd un eu bod yn rhan hanfodol o incwm llawer o ffermwyr; mae'r broses yn araf ofnadwy ac mae hynny'n achosi gofid mawr i fy etholwyr. Gofynnodd un arall, 'Sawl busnes hunanddarpar sy'n mynd i orfod mynd i'r wal cyn y byddwn yn cael y cymorth a addawyd inni?' Dywedodd un arall, 'Maent yn cosbi busnesau go iawn. Dywedodd Ken Skates y byddai eich busnes yn llwyddiannus yn 2020 os oedd yn llwyddiannus yn 2019. Roeddwn yn ei gredu ac yn gobeithio y byddai'n cadw at ei air.' Felly, sut y bwriadwch gadw at eich gair?
Sut rydych chi'n ymateb i'r alwad am gymorth gan un o weithwyr parhaol Guidant Global, sy'n contractio i Airbus yn eu safle ym Mrychdyn, lle cafodd eu gweithlu o 500 eu rhoi ar ffyrlo a'u hysbysu ar 28 Ebrill o'r perygl y gallent gael eu diswyddo?
Wel, mae dau bwynt yr hoffwn eu gwneud mewn ymateb i Mark Isherwood: yn gyntaf oll, mewn perthynas â busnesau sy'n gosod llety gwyliau ar raddfa fach, hoffwn atgoffa Mark fod y gronfa cadernid economaidd yng Nghymru yn gronfa nad yw ar gael yn Lloegr, ac y gall ffermwyr sydd wedi arallgyfeirio wneud cais i'r gronfa cadernid economaidd, fel y dywedais eisoes mewn ymateb i Aelodau eraill. Rydym yn edrych i weld sut y gall cam nesaf y gronfa cadernid economaidd barhau i lenwi bylchau ac mae'n gwbl hanfodol, rwy'n meddwl, fel y dywedais wrth Russell George, fod awdurdodau lleol yn cael rhywfaint o ddisgresiwn ynglŷn â'r modd y gallant gefnogi busnesau.
O ran y sector awyrennau, mae'r sector awyrennau a nifer o fusnesau yng ngogledd-ddwyrain Cymru, fel Airbus, yn dioddef yn sgil gostyngiad sylweddol yn y galw ac felly mae rhai busnesau—rhai—wedi cyhoeddi hysbysiadau swyddi mewn perygl. Ond nid y diwydiant awyrennau yn unig sydd wedi gwneud hyn—mae busnesau yn y sector bwyd a diod, fel KK Fine Foods, wedi gwneud yr un peth, ac maent wedi gwneud hynny, yn rhannol, oherwydd yr ansicrwydd cyffredinol o fewn yr economi, ond hefyd oherwydd diffyg sicrwydd ynghylch dyfodol y cynllun ffyrlo. A dyna pam ei bod yn gwbl hanfodol fod Llywodraeth y DU yn dysgu'r gwersi ac yn diwygio a lle bo angen, yn ymestyn y cyfnodau o gymorth y mae cynlluniau o'r fath yn weithredol. Mae ffyrlo wedi bod yn bwysig iawn i osgoi colli swyddi hyd yma. Ond er mwyn osgoi'r colli swyddi a allai ddigwydd, fel y nododd Mark Isherwood, mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth y DU yn ymestyn y cynllun ffyrlo ymhellach, y tu hwnt i ddiwedd mis Mehefin.
Mae ardaloedd gwella busnes, fel y Bangor business improvement district yn fy etholaeth i, yn allweddol i'r gwaith o adfer canolfannau siopau nifer o drefi a dinasoedd ar draws Cymru, ac fe fydd eu gwaith nhw, wrth gwrs, yn hynod werthfawr i ddelio efo'r problemau enfawr sy'n wynebu'n stryd fawr yn sgil yr argyfwng presennol. Mae £6 miliwn yn cael ei ddyrannu i BIDs yn Lloegr, fel cymorth tuag at dri mis o daliadau levy. Hoffwn i wybod a fydd arian cyfatebol yn dod i Gymru, ac os bydd, pryd? Ac oes gan eich Llywodraeth chi unrhyw fwriad i helpu busnesau yn yr 16 o gynlluniau BID sydd, hyd yma, yn parhau i dalu levy i mewn i'r cynllun? Mae Llywodraeth yr Alban wedi dyrannu £1 miliwn i helpu'r 18 ardal busnes sydd yn y wlad honno.
A gaf fi ddiolch i Siân am ei chwestiwn? Mae hyn yn rhywbeth y gwn fod y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi bod yn ei ystyried yn ddiweddar iawn. Rwy'n falch o ddweud i benderfyniad cadarnhaol gael ei wneud ac fe wnaf sicrhau bod y manylion yn cael eu rhoi i'r holl Aelodau.
Weinidog, hoffwn eich holi ynglŷn â beth fydd yn digwydd wrth inni symud ymlaen, yn enwedig mewn perthynas â'r agenda sgiliau. Nawr, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod rhannau o Gymoedd de Cymru nid yn unig â chyfraddau uchel o'r coronafeirws, ond hefyd wedi'u nodi fel mannau â mwy o risg economaidd o ran canlyniadau yn sgil yr argyfwng. Felly, hoffwn ofyn i chi pa gynlluniau sydd gan dasglu'r Cymoedd i roi sylw i'r baich ychwanegol hwn yn eu gwaith wrth symud ymlaen.
Hoffwn ddiolch i Vikki am y cwestiwn. Mae'r maes sgiliau yn rhywbeth rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed arno ar hyn o bryd. Nid oes amheuaeth nad yw sgiliau bob amser wedi chwarae rhan bwysig yn y broses o dyfu'r economi mewn ffordd gynaliadwy a theg, ac wrth inni gefnu ar y coronafeirws, bydd buddsoddi mewn sgiliau yn dod yn bwysicach fyth i sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd i'r gwaith a chadw swyddi o ansawdd da.
Holl bwynt tasglu'r Cymoedd oedd sicrhau bod cyfoeth yn cael ei greu mewn ffordd decach mewn rhan o Gymru sydd wedi teimlo ei bod wedi'i gadael ar ôl ac sydd wedi brwydro i oresgyn dad-ddiwydiannu. Nawr, y ffordd o oresgyn dad-ddiwydiannu, fel y gwyddom o wersi amrywiol mewn mannau eraill o amgylch y byd, yw buddsoddi mewn pobl, buddsoddi mewn datblygu sgiliau, er mwyn gwneud yr ardaloedd hynny’n fwy deniadol i fuddsoddwyr ac i rymuso pobl i allu dechrau eu busnesau eu hunain i gefnogi'r economi sylfaenol. Ac felly, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd sut y gellir cefnogi sgiliau’n well yn chwarae rhan fawr wrth ystyried llwyth gwaith tasglu'r Cymoedd yn y dyfodol.
Fe ofynnaf i fy nirprwy, Lee Waters, ysgrifennu at yr Aelodau ynglŷn â dyfodol tasglu’r Cymoedd.FootnoteLink Rwy'n credu y bydd ffocws mawr iawn yn cael ei roi ar waith y tasglu hwnnw’n fuan iawn yn ôl pob tebyg wrth inni edrych tuag at y cyfnod adfer.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. A gaf fi ofyn iddo am y math o gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i darparu i bobl sy'n hunangyflogedig neu'n dibynnu ar ficrofusnesau am eu hincwm? Rwy'n meddwl yn arbennig am yrwyr tacsi; rwy'n meddwl am bobl sydd wedi dechrau fel peintwyr ac addurnwyr hunangyflogedig, sy'n gweithio ar hyn o bryd heb unrhyw incwm o gwbl ac sy'n gweld bywyd yn anodd tu hwnt. Ond hefyd mentrau cymdeithasol, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â gofal plant ac sydd angen cymorth, ond hefyd y mathau o fentrau cymdeithasol sy'n asgwrn cefn i gymunedau'r Cymoedd, lle bydd y mentrau cymdeithasol yn darparu cefnogaeth gymunedol y mae pobl yn dibynnu arni yn eu bywydau bob dydd. Felly, rwy’n pryderu bod yna nifer o fusnesau a allai fod wedi cwympo trwy rai o'r bylchau sy'n bodoli yn y cymorth cyffredinol i fusnesau.
Mae Alun Davies yn llygad ei le: mae mentrau cymdeithasol yn chwarae rhan hynod bwysig ledled Cymru, ond yn enwedig mewn ardaloedd lle mae pobl yn ei chael hi'n anodd goresgyn effeithiau dirywiad diwydiannau trwm. Ac rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelodau heddiw, ar sail y ffigurau diweddaraf, fod cyfran y ceisiadau i’r gronfa cadernid economaidd sydd wedi dod gan fentrau cymdeithasol yn uwch na chyfran y mentrau cymdeithasol ymhlith y 267,000 o fentrau yng Nghymru. Felly, nid oes amheuaeth y bydd mentrau cymdeithasol yn chwarae rhan allweddol yn denu cyllid y gronfa cadernid economaidd. Ac wrth inni edrych ymlaen, unwaith eto yn ardal y Cymoedd, bydd rôl mentrau cymdeithasol yn dod yn fwyfwy pwysig. Ledled Cymru, wrth i ni lunio economi decach, rwy’n credu y bydd mentrau cymdeithasol yn chwarae rhan bwysicach a mwy amlwg.
Mohmmad Asghar. Mohammad Asghar, a allwch chi agor eich meicroffon os gwelwch yn dda? A gawn ni agor meicroffon Mohammad Asghar? Rhowch gynnig arni yn awr, Mohammad.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy'n deall eich pryder am dwristiaeth. Mae Croeso Cymru wedi rhyddhau canlyniadau arolwg o fusnesau twristiaeth a wnaed ar ôl gosod y cyfyngiadau, ac maent yn ddifrifol iawn. Mae 96 y cant o fusnesau’n disgwyl y bydd effaith y feirws yn negyddol iawn ar y sector yn y dyfodol. Mae gweithredwyr wedi galw ar y ddwy Lywodraeth i helpu eu busnesau trwy fynd ati ar frys i ddatgelu strategaeth ymadael, gan nodi, hyd yn oed os byddant yn ailagor ym mis Mehefin, y byddant wedi colli rhan allweddol o'r prif dymor twristiaeth yng Nghymru.
O ystyried pwysigrwydd hanfodol twristiaeth i economi Cymru, pa drafodaethau a gawsoch chi, Weinidog, gyda gweinidogion eraill a phobl eraill ynglŷn â sicrhau bod Cymru'n cadw diwydiant twristiaeth hyfyw wedi cyfnod y coronafeirws, a hynny drwy'r awyr, ar y môr a dros y tir? Ac rwy’n deall eich pryder ynglŷn â hyn. Ardal wledig yw hon yn bennaf, felly rhaid gofalu am economi wledig a'i gwella â thwristiaeth. Diolch.
Diolch, Mohammad. Rwyf fi a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn ymgysylltu'n rheolaidd iawn â'n cymheiriaid yn y DU, ac yn wir gyda chymheiriaid o'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar fater cefnogaeth i'r economi ymwelwyr. Mae Cymru’n dibynnu'n fawr iawn ar y sector twristiaeth, ac yn enwedig rhannau gwledig Cymru, felly mae'n hanfodol fod cefnogaeth yn dod gan Lywodraeth y DU—pecyn cynhwysfawr a fydd yn para y tu hwnt i'r tymor cyfredol i sicrhau na chollir tymor twristiaeth 2021, ac i sicrhau bod cymaint o fusnesau yn 2020 yn goroesi hyd 2021 i fanteisio ar y cyfnod adfer.
Gwn fod nifer enfawr o fusnesau yn y sector twristiaeth yng Nghymru yn fusnesau enghreifftiol ledled y DU ac Ewrop. Maent wedi ein galluogi i fod yn falch o groesawu pobl i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf gyda chynnig o'r ansawdd uchaf, a phobl o safon uchel iawn yn cael eu cyflogi yn y sector ar gyflogau gweddus, ac rydym am sicrhau bod cymaint o'r sector â phosibl yn ffynnu yn 2021. Ond yr hyn na allwn ei wneud, yn yr un modd, yw peryglu'r sector yn 2021 trwy godi’r cyfyngiadau coronafeirws yn gynamserol a chreu risg o ail a thrydedd don.
Weinidog, cyhoeddwyd yn dawel mewn datganiad i’r wasg yr wythnos hon fod Llywodraeth Cymru wedi ymuno â rhwydwaith Llywodraethau Economi Llesiant ochr yn ochr â Seland Newydd, Gwlad yr Iâ a’r Alban. Nawr, mae Plaid Cymru wedi bod yn galw ers misoedd ar Lywodraeth Cymru i ymuno â'r rhwydwaith hwn, felly rydym wrth ein bodd eich bod wedi gwrando arnom ni ar hyn.
Rwy'n siŵr y cytunwch fod gwneud llesiant yn brif ysgogiad datblygu economaidd yn cynnig potensial i wella profiadau bywyd pobl ac yn arwain at gynnydd cymdeithasol ac adferiad amgylcheddol, ac mae'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn berffaith. Felly, a allwch chi ddweud wrthym, Weinidog, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda'i phartneriaid economi llesiant newydd hyd yn hyn ac a ydych chi'n rhannu syniadau ac arfer da fel rhan o'r gwaith a allai helpu gyda'r broses o adfer wedi COVID- 19?
Wel, rwy'n falch iawn fod nifer o drafodaethau eisoes wedi digwydd o fewn y rhwydwaith. Mae'r trafodaethau hynny wedi bod yn hynod gynhyrchiol, yn yr ystyr ein bod wedi gallu rhannu llawer o syniadau. Yng Nghymru, rydym wedi gallu cynnig mentrau fel gweithredu’r contract economaidd i ysgogi twf teg. Yn amlwg, rydym wedi gallu rhannu manylion am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac mae'n werth dweud ein bod wedi cydweithio gyda llawer o'r gwledydd sy'n ffurfio'r rhwydwaith ers misoedd a blynyddoedd lawer—yn wir, gyda'r Alban, er enghraifft, ar ddatblygiad y contract economaidd a gwersi y gellid eu dysgu ar sbarduno'r twf cynhwysol. Felly, rwy'n falch ein bod yn rhan o'r rhwydwaith. Rwy'n falch ein bod wedi cydweithio gyda gwledydd sy'n rhan o'r rhwydwaith ers peth amser, a gobeithio, wrth inni gefnu ar y coronafeirws, y bydd y syniadau a rannwn yn arwain at economi decach, nid yn unig yng Nghymru, ond yn fyd-eang.
[Anghlywadwy.]—yn dilyn yn fyr o gwestiynau gan Vikki Howells ac Alun Davies, ar thema debyg, oherwydd po hiraf y bydd yr argyfwng hwn yn para, mae tystiolaeth gynyddol am rai o'r effeithiau gwahaniaethol y mae'r pandemig yn eu cael ar ein cymunedau mwyaf difreintiedig, ac mae hynny'n sicr i’w weld yn wir gyda data marwolaethau.
Felly, a gaf fi ofyn i chi a oes gennych unrhyw ddadansoddiad neu a yw hyn hefyd yn wir am effeithiau economaidd y pandemig? Gan dderbyn y bydd angen cefnogaeth amlwg gan Lywodraeth y DU, a allwch dawelu fy meddwl fod anghenion parhaus yr ardaloedd difreintiedig hynny, fel ein cymunedau yn y Cymoedd, yn cael ystyriaeth arbennig yn eich cynlluniau adfer, ac i ba raddau y mae effeithiau gofodol y tarfu economaidd presennol dan ystyriaeth?
Maent yn ganolog i'r ystyriaeth gyfredol a byddant yn parhau i fod. Rydym yn diweddaru'r dadansoddiad sectoraidd yn ddyddiol, ond hefyd y dadansoddiad rhanbarthol a gofodol sy'n rhan o'r gwasanaeth ymyrraeth rydym wedi bod yn ei gyhoeddi ac a fydd yn rhan o'r ymyriadau a ddaw yn ystod y cyfnod adfer.
A rheswm arall pam fy mod i'n awyddus i ddysgu gan rannau eraill o'r DU, boed hynny trwy'r rhwydwaith economi llesiant neu drwy drafodaethau uniongyrchol a gaf gyda meiri metro ac arweinwyr isranbarthau eraill a'r gweinyddiaethau datganoledig, yw ein bod i gyd yn rhannu'r her gyffredin fod gennym rai cymunedau sy'n fwy difreintiedig, a bod rhaid inni sicrhau eu bod yn cael twf cyflymach yn ystod y cyfnod adfer ac anghydraddoldebau cul yn hytrach na'u bod yn gwaethygu ac yn ehangu ymhellach. Yn fy marn i—ac mae'n farn a rennir ar draws y Llywodraeth—dylem fanteisio ar y cyfnod adfer i leihau anghydraddoldebau ac osgoi ar bob cyfrif unrhyw gamau a fyddai'n arwain at ehangu anghydraddoldebau ar draws cymunedau Cymru.
Rydym yn gwybod yn awr pa fathau o fusnesau y mae’r cynllun cymorth wedi methu eu cynnwys. Rydym wedi siarad llawer amdanynt y prynhawn yma. Nid yw grwpio gyffredinol yn gweithio fodd bynnag. Er enghraifft, mewn manwerthu, gydag archfarchnadoedd a manwerthwyr ar-lein yn cael yr hyn sy’n cyfateb i'r Nadolig bob wythnos a'r rhai sy’n siopau dillad a gemwaith yn bennaf, er enghraifft, ar gau. Mae gennym yr un peth yn union gyda chludo nwyddau ar y ffyrdd. Mae'r rhai sy'n cyflenwi siopau bwyd wedi bod mewn sefyllfa hollol wahanol i eraill sy’n cludo nwyddau ar y ffyrdd sydd fel arfer yn dosbarthu i leoedd sydd ar gau, ac wrth gwrs, nid oes gwaith ganddynt. A fydd Llywodraeth Cymru yn nodi'r bylchau ac yn cysylltu â Llywodraeth San Steffan ynglŷn â'r rhai y mae’n gyfrifol amdanynt a chynhyrchu cynllun i gefnogi'r meysydd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt? Mae gennym y bylchau hyn; mae'n rhaid i ni eu llenwi.
Rwy’n cytuno’n llwyr, Mike, a dyna'n union pam ein bod wedi gallu clustnodi £500 miliwn ar gyfer y gronfa cadernid economaidd, sydd wedi'i chynllunio'n benodol i lenwi'r bylchau hynny, ond mae'n rhaid i mi ddweud eto fod pen draw ar ein hadnoddau ac mae angen inni gadw rhywfaint ar gyfer y gwaith adfer. Mae pocedi Llywodraeth y DU yn llawer dyfnach, yn amlwg, ond mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ymyrryd mewn ffordd sy'n ategu ac yn ychwanegu gwerth at yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Ond hoffwn i chi gydnabod bod ein cyllidebau wedi'u cyfyngu ac y byddant wedi’u cyfyngu'n ddifrifol am fisoedd lawer, os nad blynyddoedd i ddod, ac felly mae angen inni wneud buddsoddiadau strategol.
Mae angen inni sicrhau ein bod yn ymestyn ein buddsoddiadau cymaint â phosibl a'n bod yn cael y gwerth mwyaf o’n buddsoddiadau. Ac nid gwerth economaidd yn unig; sut y gallwn ddefnyddio ein buddsoddiadau i ysgogi datgarboneiddio hefyd; sut y gallwn ddefnyddio ein buddsoddiadau i wella amodau gwaith. A dyna pam rwy'n falch o ddweud ein bod ni, wrth lenwi'r bylchau hynny, wedi gallu cyflwyno'r contract economaidd i filoedd ar filoedd yn fwy o fusnesau a fydd yn ein galluogi yn awr i gael sgwrs hirdymor gyda busnesau Cymru ynglŷn â sut y gallwn wella amodau gwaith, sut y gallwn wella iechyd, iechyd meddwl a sgiliau gweithlu Cymru, a sut y gallwn sicrhau ein bod yn parhau i ddatgarboneiddio economi Cymru.
Hoffwn nodi achos stiwdio ddawns Rubylicious. Mae'n gwmni gwych sydd wedi'i leoli yn Nhreganna yng Ngorllewin Caerdydd. Fy mhryder yw y dylent fod—neu dylent fod wedi bod—â hawl i gael y grant o £10,000 o ad-daliad ardrethi busnes, ond yn anffodus iddynt hwy a hefyd i fusnesau eraill yn yr un sefyllfa, mae'r £10,000 wedi'i drosglwyddo i'r landlord nad oes ganddo fusnes mewn gwirionedd heblaw gosod y safle ar rent, ac mae’n ymddangos nad yw'r landlord yma, fel landlordiaid eraill, yn mynd i ddioddef unrhyw golled ariannol ac eto maent yn gwrthod trosglwyddo’r £10,000. Felly, roeddwn i'n meddwl efallai y byddwn yn gofyn i chi fynd i'r afael â hynny a chael gair gyda'r Prif Weinidog efallai a gofyn iddo a allai ofyn i'w aelod o staff, y Cynghorydd Patel, drosglwyddo'r £10,000 i Rubylicious yng Ngorllewin Caerdydd yn lle ei bocedu ei hun. Rwy'n credu y byddai hynny'n beth da iawn i'w wneud. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn os gallwch wneud hynny.
Yn sicr, fe wnaf ymchwilio ac ymholi ynghylch yr achos penodol hwn. Ni allaf wneud sylwadau ar achosion penodol heb gael yr holl fanylion wrth law, ond byddaf yn sicr yn ymchwilio i'r mater. Mae'n hanfodol bwysig ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i oresgyn y coronafeirws, nid yn unig y canlyniadau i iechyd y cyhoedd ond y canlyniadau economaidd hefyd. Felly, byddaf yn gofyn i swyddogion ymchwilio i'r achos penodol hwn ond hefyd yn gyffredinol i edrych ar sut y mae'r trefniadau grant yn cael eu gweinyddu ar draws llywodraeth leol.
Weinidog, pa gynlluniau sydd gennych i weithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi cyflogwyr allweddol yn Alun a Glannau Dyfrdwy? Mae Airbus, dur Tata a KK Fine Foods ymhlith llawer sy'n wynebu heriau ansicr, heriau busnes, heriau economaidd ac ansicrwydd eithafol. Weinidog, mae arnom angen y ddwy Lywodraeth o amgylch y bwrdd i gefnogi'r cyflogwyr hyn ymhellach ac i roi cymorth pellach i’r gweithwyr a gyflogir yn uniongyrchol ac unrhyw staff asiantaeth.
A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn? Rwy'n falch o ddweud bod y cwmnïau y mae wedi'u nodi wedi elwa o gefnogaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru yn ddiweddar. Mae'n gwbl hanfodol fod y gefnogaeth sydd bellach yn cael ei chynnig gan Lywodraeth y DU ar ffurf y cynllun cadw swyddi yn cael ei hymestyn. Rwyf eisoes wedi crybwyll yn fy atebion i Aelodau eraill sut y mae'r sector awyrennau ac yn wir, sut y mae KK Fine Foods yn wynebu ansicrwydd dwfn ar hyn o bryd oherwydd prinder manylion ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd i'r cynllun ffyrlo ar ôl diwedd mis Mehefin, a chefais fy sicrhau heddiw gan sylwadau fy aelod cyfatebol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol pan ddywedodd fod Llywodraeth y DU yn awyddus i osgoi ymyl clogwyn yn y cynllun ffyrlo. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i gwmnïau fel KK Fine Foods a busnesau eraill a gyhoeddodd yr hysbysiadau swyddi mewn perygl hynny. Ac fel y dywedais wrth Aelodau eraill, nid oes amheuaeth y gall Llywodraeth y DU gynnal ymarfer dysgu cyflym yn y cynllun cadw swyddi a gwneud newidiadau iddo sy'n angenrheidiol i ddiogelu cymaint o swyddi â phosibl yn y dyfodol. Fel y dywedais wrth Jack Sargeant ar ddechrau fy ateb, mae Llywodraeth Cymru wedi sefyll ochr yn ochr â rhai fel Airbus, KK Fine Foods, a dur Tata dros nifer fawr o flynyddoedd, ac felly, mae'n hollol iawn fod Llywodraeth y DU yn awr yn dod ac yn ymuno â ni i gefnogi’r cyflogwyr hanfodol bwysig hyn fel y gallant oroesi'r coronafeirws gan gadw cymaint o swyddi â phosibl.
Mae llawer o bobl wedi siarad heddiw am yr effaith negyddol ar dwristiaeth ledled Cymru ac wrth gwrs, mae twristiaeth yn cael effaith sylweddol ar fy ardal i, yn anghymesur efallai o gymharu ag ardaloedd eraill. Rydym yn gwybod bod twristiaeth yn werth £3 biliwn i economi Cymru, ond daw gwerth £2 biliwn o gronfeydd Llywodraeth Cymru. Felly, mae'n ymddangos yn debygol iawn pan geisiwn droi cefn ar y cyfyngiadau symud a chael rhywfaint o lacio y bydd y rheolau cadw pellter cymdeithasol yn ei gwneud hi'n amhosibl bron i'r mwyafrif o ddiwydiannau twristiaeth oroesi, ac rwy'n falch iawn o glywed yr hyn rydych chi'n ei ddweud.
Felly, gan symud ymlaen o hynny, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen inni edrych arno, ac rydych chi wedi cyffwrdd ar hyn, yw adeiladu'r arloesedd cymunedol bach rydym yn ei weld, a digwyddodd un enghraifft o'r fath o arloesedd yn Rhydaman. Cyfarfûm â hwy ddwy flynedd yn ôl, gyda Rob Venus, ac fe gyflwynodd gais bryd hynny i gael rhywfaint o arian. Mae'n sefydliad cymunedol sy'n symud ymlaen yn awr i edrych ar y posibilrwydd o greu peiriannau anadlu. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn yw hwn: wrth symud ymlaen, mae'n rhaid i ni fod yn fwy cynaliadwy—mae hynny'n glir ac yn amlwg o bopeth sydd wedi digwydd—ac mae'n debyg mai buddsoddi mewn arloesedd lle mae'n bodoli ar hyn o bryd a lle gellir ei ehangu yw un o'r ffyrdd ymlaen, yn ogystal â gofalu am y diwydiannau presennol sy'n dod â chyfoeth enfawr i'r wlad hon.
Wel, mae Joyce Watson yn llygad ei lle—rydym wedi gweld arloesedd anhygoel ar draws busnesau Cymru yn ystod yr argyfwng. Rydym wedi gweld distyllfeydd yn troi at wneud hylif diheintio dwylo; rydym wedi gweld busnesau yn y sector awyrennau’n cynhyrchu peiriannau anadlu; rydym wedi gweld nifer enfawr o fusnesau’n cynhyrchu cyfarpar diogelu personol hanfodol, ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd yr ymdrechion hynny'n parhau am rai wythnosau i ddod.
Bydd cyfleoedd yn codi yn ystod y cyfnod adfer a bydd arloesi’n hanfodol ar gyfer sicrhau ein bod yn manteisio'n llawn arnynt, a dyna pam rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn dwysáu ein galwad ar fusnesau i ddefnyddio'r cyllid meysydd gweithredu, cronfa dyfodol yr economi a sefydlwyd i ddiogelu busnesau ar gyfer y dyfodol, i ysgogi ymchwil a datblygu ac arloesedd. Un o'r pum galwad, wrth gwrs, yw arloesedd, ac rwy'n hyderus ein bod wedi gwneud y penderfyniad cywir pan wnaethom gyhoeddi'r cynllun gweithredu economaidd i gynnwys arloesedd fel un o'r pum galwad, ac rwy'n gwbl benderfynol o'i gadw fel un o nodweddion allweddol ein hamod cyllido yn y blynyddoedd i ddod.
Weinidog, yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i chi am yr help rydych chi wedi'i roi i fy etholaeth a'r busnesau yno, yn enwedig y rhai yr ysgrifennais atoch yn eu cylch? Ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael ymateb i rai o'r meysydd eraill, ond mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn y meysydd hynny. Y cyflogwr mwyaf yn fy etholaeth yw Tata, fel sydd eisoes wedi'i grybwyll gan Aelodau, ac mae Tata’n cyflogi nid yn unig yn uniongyrchol ond hefyd yr isgontractwyr sy'n mynd i mewn i Tata. Felly, mae'n elfen enfawr o'r economi, ac mae fy nghyfaill yn Senedd y DU yn aml yn dweud mai dyna yw calon ein heconomi. Ond pan siaradwch â'r Gweinidogion yn Llundain, a wnewch chi dynnu sylw at y ffaith bod y cap ar y cynllun benthyciad tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws ar hyn o bryd yn £50 miliwn. I’n cymheiriaid yn Ewrop, yn yr Iseldiroedd, mae'n €150 miliwn, ac yn yr Almaen a Ffrainc mae'n 25 y cant o'r trosiant blynyddol. Felly, rydym ymhell y tu ôl i'n cystadleuwyr o ran ein gallu i gefnogi'r busnesau mawr hynny, ac mae sôn hefyd yn Ewrop am wladwriaethau'n gofyn i'r UE lacio rheolau cymorth gwladwriaethol, sy'n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU bob amser wedi cuddio tu ôl iddo i ddweud na allant helpu. A allwch chi, felly, wasgu ar Lywodraeth y DU i edrych yn ofalus iawn ar sut y gallant helpu Tata a busnesau penodol fel hynny, oherwydd heb y math hwnnw o gymorth, efallai ein bod yn wynebu heriau difrifol iawn yn y blynyddoedd i ddod?
Wrth gwrs y gwnawn hynny. Gallaf sicrhau David Rees y byddwn yn gwneud hynny ac yn amlwg, mae'n bleser helpu'r busnesau y mae wedi'u cynrychioli yn ystod yr wythnosau diwethaf sydd wedi wynebu anawsterau anhygoel. Rwy'n gobeithio ein bod ni'n helpu cymaint o fusnesau ag y gallwn yn ei etholaeth ac ar draws Cymru i oresgyn heriau coronafeirws. Ond o ran y gefnogaeth sydd ei hangen ar Tata, rwy’n credu bod angen pecyn cymorth pwrpasol gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi camu i'r adwy i gefnogi rhai cyflogwyr mawr mewn mannau eraill. Rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU yn rheolaidd iawn, gan gynnwys heddiw ddiwethaf, i gefnogi Tata, ac rwy’n obeithiol y gwnânt hynny.
Diolch, Weinidog. Fe gawn seibiant o 10 munud yn awr, ac a gaf fi ofyn i'r Aelodau sy'n cymryd rhan yn y datganiad nesaf ddychwelyd yn brydlon? Diolch.