5. Datganiad gan Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Coronafeirws (COVID-19)

– Senedd Cymru am 4:11 pm ar 6 Mai 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:11, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r Cyfarfod Llawn yn ailymgynnull a symudwn at eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma, sef datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ar y coronafeirws, a galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol—Eluned Morgan. 

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:12, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau fel Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol trwy nodi y byddwn yn nodi Diwrnod VE yr wythnos hon yn y wlad hon, sef diwedd y rhyfel yn Ewrop, rhyfel y credaf y dylai atgoffa pawb ohonom o'r hyn sy'n digwydd pan fo cyd-ddealltwriaeth ryngwladol yn methu, ac os bu mater erioed sy'n ein hatgoffa o ba mor gydgysylltiedig yw ein byd, does bosibl nad y pandemig coronafeirws yw hwnnw. 

Mae argyfwng COVID-19 wedi cael effaith ddifrifol ar bob agwedd ar fy mhortffolio, yn ddomestig ac yn rhyngwladol. Roedd ymhell dros 1 filiwn o deithwyr o Brydain dramor pan darodd y pandemig, ac ers i’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad gyhoeddi cyngor iddynt ddychwelyd adref, mae pob un o'n swyddfeydd Llywodraeth Cymru dramor wedi bod yn rhan o'r ymdrech honno i ddod â phobl adref, gyda swyddogion yn y dwyrain canol ac India yn arbennig o brysur. Mae rhannu gwybodaeth yn y modd hwn wedi arwain at ddod â llawer o ddinasyddion Cymru adre’n llwyddiannus, gan gynnwys pobl fel Dr Sundaram—gwn fod y dirprwy lywydd yn weithgar iawn yn pwyso i ddod ag ef yn ôl i Gymru. Mae'n ymgynghorydd gofal dwys yn yr uned yn Ysbyty Glan Clwyd, a gwnaethom helpu i ddod ag ef yn ôl o India. Nawr, rydym yn ymwybodol fod yna Gymry wedi cael eu dal dramor sydd angen ein cymorth o hyd, a byddwn yn eu hannog i gysylltu â mi fel y gallwn dynnu sylw’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad at achosion unigol. 

Nawr, mae gwledydd ym mhob rhan o’r byd yn sgrialu i gael cynhyrchion hanfodol yn y frwydr yn erbyn COVID-19, ac fel Gweinidog masnach ryngwladol, yn ein hymdrechion i sicrhau cyfarpar diogelu personol yn rhyngwladol, rwy’n sicrhau bod yna ddealltwriaeth fod gan 80 o wledydd gyfyngiadau allforio ar waith. Mae'r anhawster i gael gafael ar, a phrynu parasetamol yn ein siopau yn deillio i raddau helaeth o’r cyfyngiadau sydd wedi’u gosod gan Lywodraeth India. 

Ond wrth gwrs, un o'r heriau allweddol sydd gennym fel Llywodraeth yn awr yw datrys sut rydym yn mynd i allu rhoi'r gorau i'r cyfyngiadau symud. Mae'r wybodaeth sy'n cael ei darparu gan ein swyddfeydd rhyngwladol yn amhrisiadwy i roi syniadau i ni sut y caiff ei wneud mewn mannau eraill, a chefais drafodaethau uniongyrchol gyda fy nghymheiriaid yn Llydaw a Gwlad y Basg i ddysgu o'u profiadau.  

Nawr, mae grwpiau Cymru ac Affrica ledled Cymru yn mynegi pryder enfawr am eu partneriaid yn Affrica. Mae'r cyfyngiadau symud yno’n effeithio’n ddinistriol ar fywoliaeth miliynau lawer o Affricanwyr, ac mae prisiau bwyd wedi codi'n ddramatig mewn sawl gwlad. Nawr, rydym yn ymgynghori â grwpiau yng Nghymru i weld sut y gallant ddefnyddio'r cynllun grantiau bach i gefnogi eu partneriaid yn Affrica ar yr adeg anodd hon.

Ac ar fasnach ryngwladol, gallaf gadarnhau bod yr ail fforwm gweinidogol ar fasnach wedi'i gynnal yn ddiweddar, ac rwy'n dal i fod mewn cysylltiad agos â'r Gweinidogion perthnasol ledled y Deyrnas Unedig. Nawr, mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn benderfynol o gytuno ar gytundeb gyda'r UE erbyn diwedd y flwyddyn er gwaethaf yr amgylchiadau newydd hyn, felly mae negodiadau gyda'r Unol Daleithiau ar gytundeb masnach wedi dechrau bellach, ac mae gwaith ar baratoi ar gyfer negodiadau gyda Japan a gwledydd eraill sydd â blaenoriaeth yn mynd rhagddo'n gyflym. Mae'r Bil Masnach wedi'i osod yn Nhŷ'r Cyffredin ac rydym wedi gosod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol perthnasol yma yn y Senedd.

Rwy'n mynd i newid i'r Gymraeg yn awr.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:15, 6 Mai 2020

Dwi i'n mynd i newid i'r Gymraeg. Mae Dafydd Elis-Thomas wedi gorfod ailflaenoriaethu ei bortffolio cyfan ef o ganlyniad i'r creisis presennol a darparu cyllid brys i gefnogi'r diwydiannau creadigol, chwaraeon a diwylliant, yn ogystal ag ailbennu gwasanaeth asiantaethau cyfan fel Cadw, sydd wedi gorfod cau pob un o'u safleoedd nhw. 

Nawr, yn benodol, hoffwn i eich diweddaru chi ar dwristiaeth, sy'n sector sylfaenol, ac yn gwbl allweddol i economi Cymru. Roedd y sector yn un o'r rhai cyntaf i gael eu taro gan yr argyfwng ac mae ymysg y rhai sydd wedi eu heffeithio waethaf. Mae'r cymorth sydd wedi ei roi i'r sector gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei werthfawrogi, ond rŷn ni'n cydnabod bod yna sialens hirdymor sy'n wynebu'r diwydiant yma. Ac mae rhai o fewn y sector yn galw'r sialens yma yn sialens 'tri gaeaf'.

Rŷn ni mewn trafodaethau parhaus gyda chynrychiolwyr y sector twristiaeth trwy dasglu twristiaeth COVID-19. Bydd sicrhau hyder cleientiaid, yn ogystal â sicrhau cefnogaeth y gymuned i ailagor, yn allweddol. Mae'n ymgyrch ni 'Hwyl Fawr. Am y Tro' neu 'Visit Wales. Later' wedi bod yn allweddol wrth inni geisio taro'r cydbwysedd sensitif yma ar lwybr sy'n eithaf anodd.

Mae digwyddiadau mawr—major events—hefyd yn chwarae rôl allweddol o fewn twristiaeth, a dwi eisiau rheoli disgwyliadau o ran aillddechrau digwyddiadau mawr yng Nghymru. Dwi ddim yn rhagweld y bydd unrhyw bosibilrwydd y bydd digwyddiadau torfol yn dychwelyd yn y dyfodol agos.

O ran y Gymraeg, mae COVID-19 wedi ein atgoffa ni o bwysigrwydd perthynas technoleg â'r iaith, ac mae'n amlwg bellach pa mor ddibynnol ydyn ni ar dechnoleg er mwyn gallu parhau i weithio, dysgu a chyfathrebu gyda ffrindiau a theulu. 

Mae Cymraeg 2050 yn rhoi lle canolog i dechnoleg, ac felly dwi'n falch o allu cyhoeddi heddiw y bydd Cysgliad ar gael yn rhad ac am ddim i unigolion a busnesau sydd â llai na 10 o weithwyr cyn diwedd mis Mai. Cysgliad—mae e'n becyn sy'n cynnwys geiriadur yn ogystal â gwirydd sillafu a gramadeg Cymraeg, fydd yn help i bob un ohonom dwi'n siŵr.

Ond weithiau gall dechnoleg fod yn rhwystr. Er enghraifft, does dim modd cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn Microsoft Teams ar hyn o bryd, a dwi wedi ysgrifennu at Microsoft i ofyn iddyn nhw ddatblygu hwn ar frys.

Er bod y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol wedi gorfod canslo pob gwers Cymraeg wyneb yn wyneb, mae'r diddordeb mewn cyrsiau ar lein wedi cynyddu yn syfrdanol. Mewn un wythnos, cofrestrodd dros 3,000 o ddysgwyr newydd eu diddordeb nhw, ac mi fydd 1,300 o'r rheini yn dechrau ar y cwrs yn ystod y mis yma. 

Byddwch chi hefyd wedi gweld ein bod ni wedi rhoi cefnogaeth ariannol i'r Eisteddfod Genedlaethol, ac roedd hi'n bwysig, wrth i'r Eisteddfod wynebu heriau ariannol difrifol, fod Llywodraeth Cymru yna i gefnogi'r ŵyl unigryw yma. Bydd yr Urdd yn cynnal yr Eisteddfod ddigidol gyntaf, Eisteddfod T, yn ystod gwyliau'r Sulgwyn, ac mae'n parhau i weithio gydag elusen Llamau i gefnogi pobl ifanc a theuluoedd bregus.

Ym mis Chwefror, gwnes i lansio ymgynghoriad ar y polisi trosglwyddo iaith yn y cartref, a dwi am gyhoeddi nawr fy mod i eisiau ymestyn y cyfnod ar gyfer yr ymgynghoriad yma tan yr hydref.

Dwi'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y Gymraeg yn arbennig ym maes iechyd a gofal, a dwi wedi gofyn felly i'r Gweinidog iechyd gadw hyn mewn cof yn arbennig mewn sefyllfaoedd sensitif diwedd oes, yn ystod y cyfnod anodd yma.

So, hoffwn i jest orffen trwy ddweud fy mod i'n hynod o ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei gydweithrediad ac i bob aelod staff yn fy mhortffolio i, a phob partner sydd wedi bod yn cydweithredu gyda ni, am ymateb mewn ffordd mor bositif yn wyneb yr heriau anferthol rŷn ni'n eu hwynebu. Dwi'n siŵr y down ni drwy'r cyfnod tywyll yma yn bobl wahanol, yn fudiadau gwahanol, ac yn wlad wahanol, ond mae yna obaith, mae yna oleuni ar y gorwel, ac mae'n bwysig ein bod ni'n sefyll yn gadarn gyda'n gilydd i ymateb i'r heriau sydd yn dal yn ein hwynebu ni.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:20, 6 Mai 2020

Diolch yn fawr iawn i chi, Weinidog, a diolch am y gwaith o gael unigolion yn ôl i Gymru, ac am eich help efo rhai o'm hetholwyr i yn Arfon hefyd efo hynny. Dwi'n mynd i ganolbwyntio ar agwedd bwysig o'ch portffolio chi, sef yr iaith Gymraeg. Mae gwaith ymchwil gan brifysgol St Andrews yn dod i'r casgliad y gall y pandemig presennol gael effaith pellgyrhaeddol ar y cymunedau sydd yn gadarnleoedd i ieithoedd lleiafrifol, gan gynnwys y Gymraeg. Pa asesiad, felly, mae'ch Llywodraeth chi wedi'i wneud, neu yn bwriadu ei wneud, o effaith y pandemig ar gadarnleoedd yr iaith Gymraeg yn y gorllewin, a pha fesurau penodol ydych chi'n ystyried eu cyflwyno ar gyfer atal dirywiad yn hyfywedd y Gymraeg fel iaith bob dydd yn y cymunedau yna?

Gwersylloedd yr Urdd—rydych chi wedi sôn am yr Urdd, ond mae'r gwersylloedd yn benodol angen cymorth ychwanegol arnyn nhw yn y dyfodol. Beth ydy'ch cynlluniau chi efo hynny? Ac ychydig o gwestiynau am effaith y pandemig ar y wasg Gymraeg. Mae grant o £50,000 wedi cael ei ddyrannu i'r cyngor llyfrau ar gyfer cyhoeddwyr yn y ddwy iaith. Fedrwch chi ddweud wrthym ni faint o hwnna sydd wedi mynd i gyhoeddwyr yr iaith Gymraeg, ac ydy hynny'n ddigon? Oes gan y Llywodraeth unrhyw gynlluniau penodol ar gyfer y cyhoeddiadau Cymraeg hynny sydd yn parhau i gael eu cyhoeddi, ac felly sydd ddim yn gallu manteisio ar y cynllun ffyrlo ar gyfer eu staff? Mae'r cwmnïau yma yn gwneud colledion oherwydd bod incwm wedi gostwng.

Yn olaf, fedrwch chi ddweud wrthym ni faint mae Llywodraeth Cymru wedi'i wario ar hysbysebion gwybodaeth COVID yn y wasg Gymraeg, ac oes yna arian cyfatebol wedi dod o Lywodraeth San Steffan ar gyfer hyn?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:22, 6 Mai 2020

Wel, diolch yn fawr, Siân. Rŷn ni'n ymwybodol dros ben fod y feirws yma—. Wel, mae wedi taro pob rhan o Gymru, ond mae'r effaith, wrth gwrs, yn wahanol mewn gwahanol fannau o Gymru. O ran faint o bobl sy'n dioddef, dwi'n meddwl bod hi'n ddeg i ddweud dyw rhai o'r canolfannau Cymraeg yna ddim wedi cael yr ergyd mae rhai o'r ardaloedd yn y dwyrain wedi'i gael, ond, wrth gwrs, mae'r ergyd i'r economi wedi bod yn drawiadol dros ben, ac yn ergyd sydd yn debygol o barhau, yn arbennig o ran twristiaeth, ac, wrth gwrs, amaeth hefyd. Mae colledion, yn arbennig o ran llaeth, yn mynd i gael ergyd trwm ar y sector yna o'r economi. Felly, rŷn ni yn ymwybodol dros ben o hyn. Rŷn ni wedi cael trafodaeth gyda'r cyngor partneriaeth, ac wedi bod yn trafod rhai o'r pethau sylfaenol yna, fel y capeli. Does dim pobl yn mynd i'r capeli lle maen nhw'n siarad Cymraeg, felly beth allwn ni ei wneud i roi rhyw fath o help iddyn nhw? So, rŷn ni yn cael y trafodaethau hynny eisoes.

O ran yr Urdd, dwi wedi bod mewn trafodaeth eithaf cyson gyda'r Urdd reit o'r cychwyn cyntaf. Wrth gwrs, roedd yr Urdd, a gwersylloedd yr Urdd, yn rhai o'r canolfannau cyntaf a wnaeth gau, ac, wrth gwrs, chwarae teg i'r Urdd, maen nhw'n codi lot mawr o'u harian nhw eu hunain—mae tua 75 y cant o'u harian nhw yn dod o'r gwersylloedd yna. Wrth gwrs, maen nhw wedi cael eu cau, a'r trafferth yw i dreial dychmygu pryd fyddan nhw yn debygol o ailagor, ac mae hwnna yn anodd dros ben inni ei ragweld ar hyn o bryd. Rŷn ni yn cael trafodaethau yn aml iawn gyda'r Urdd, ac rŷn ni wedi bod yn trafod hyn y prynhawn yma hefyd gyda'r Gweinidog Addysg i weld os oes yna unrhyw help a allwn ni ei roi, ond dwi yn meddwl beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n tanlinellu'r cyfraniad aruthrol mae'r Urdd wedi'i wneud i'n gwlad ni. Ond mae yna drafferthion aruthrol, dwi'n meddwl, o ran yr ergyd sy'n cael ei roi fel canlyniad o gau'r gwersylloedd yna.

Wrth gwrs, rydym ni'n dal i roi arian i'r papurau bro o ran sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei gweithio yna. Dwi ddim yn gwybod yn union beth yw'r breakdown rhwng faint sy'n mynd i'r wasg Gymraeg a'r wasg Saesneg. Efallai y gallaf i ddod nôl atoch chi ar hynny. O ran hysbysebion, wrth gwrs, byddwch chi'n ymwybodol bod safonau'r Gymraeg yn dal i fod yn wir am Lywodraeth Cymru, felly mae'r hysbysebion yna yn mynd i fod yn ddwyieithog a, na, does dim arian ychwanegol wedi dod o Lywodraeth Prydain am hynny.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:25, 6 Mai 2020

Diolch yn fawr iawn ichi am hynny. Dwi'n troi at ddau fater arall sydd ddim yn gysylltiedig efo'r argyfwng COVID, byddwch chi'n falch o glywed, efallai. Beth ydy'ch barn chi am yr offeryn statudol ar y cyfrifiad o'r boblogaeth sydd yn mynd drwy San Steffan ar hyn o bryd, o safbwynt casglu data am y nifer o siaradwyr Cymraeg? Y tebygrwydd ydy mai dull samplo fydd ar gael ar gyfer y rhai hynny fydd yn methu cwblhau'r cyfrifiad ar-lein. Wrth gwrs, fe all hynny olygu y bydd data ar nifer y siaradwyr Cymraeg yn anghyflawn. Fydd eich Llywodraeth chi'n gwrthwynebu'r defnydd o samplu yng Nghymru fel rhan o gyfrifiad 2021?

Ac yn olaf, mae'n ymddangos y bydd eich Llywodraeth chi yn cyflwyno Bil y cwricwlwm addysg yn yr wythnosau nesaf. A fedrwch chi gadarnhau y byddwch chi, fel Gweinidog y Gymraeg, yn gwneud asesiad trwyadl o effaith y Bil ar y Gymraeg ac ar addysg cyfrwng Cymraeg? Mae yna un mater penodol yn peri pryder, a hynny ydy bwriad y ddeddfwriaeth newydd i roi grym i gyrff llywodraethwyr yn hytrach nag i awdurdodau lleol o ran polisi iaith ysgolion. Byddai'r penderfyniad i ddilyn polisïau trochi ai peidio yn y cyfnod sylfaen yn ddewis i bob corff llywodraethol ar wahân ac fe fedrwch chi ddychmygu y byddai hyn yn tanseilio polisïau iaith cadarn nifer o awdurdodau lleol ac yn ergyd ddifrifol i ddatblygiad addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru. A wnewch chi gynnal trafodaeth fuan efo'r Gweinidog Addysg er mwyn sicrhau mai cryfhau ac nid gwanio sefyllfa'r Gymraeg fydd Bil y cwricwlwm newydd?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:27, 6 Mai 2020

Diolch. Wrth gwrs, o ran y cyfrifiad, rŷn ni'n cadw golwg manwl ar sut mae'r cwestiynau'n cael eu gofyn, achos mae pobl yn ateb mewn ffyrdd gwahanol os ydych chi'n gofyn y cwestiwn mewn ffordd wahanol. Felly, rydym ni'n cadw golwg craff ar hwnna. Bydd yn rhaid inni edrych ar y samplo a gweld beth maen nhw'n debygol o ofyn yn y maes yna a sut y byddai hynny efallai'n effeithio ar y cyfrifiad. Y peth pwysicaf ar gyfer cyfrifiad yw eich bod chi'n gallu cymharu un flwyddyn gyda'r ddegawd flaenorol. Felly, dwi yn meddwl bod samplo wedyn yn debygol o roi newidiadau ac efallai ddim yn rhoi'r asesiad y byddem ni'n disgwyl ei gael. Ond rydym ni mewn sefyllfa wahanol nawr, efallai, a byddwn yn parhau gyda'r trafodaethau o ran y cyfrifiad. 

O ran y cwricwlwm Cymraeg, rwyf newydd ddod off galwad gyda'r Gweinidog Addysg. Roeddem ni'n trafod yr union fater yma, felly gallwch chi fod yn ffyddiog fy mod i yn cadw golwg craff ar beth sy'n digwydd. Mae'r Gweinidog Addysg yn ymwybodol o'r sefyllfa ac wedi ymrwymo i sicrhau y bydd hi'n cadw golwg craff ar beth sy'n digwydd. Wrth gwrs, dydyn ni ddim eisiau newid y polisi sydd gyda ni na gweld bod unrhyw beth y tu fewn i Fil y cwricwlwm yna yn cael effaith andwyol ar yr hyn rydym ni eisoes wedi ei ddatblygu.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:29, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i chi, Weinidog, am eich datganiad ac rwy'n ategu'n gryf yr hyn a ddywedoch wrth gyfeirio at Ddiwrnod VE, ynghylch pwysigrwydd cydweithredu rhyngwladol? Mae hynny'n amserol iawn, rwy'n meddwl, gan ei bod hi'n 75 mlynedd ers Diwrnod VE yr wythnos hon. A gaf fi ddiolch hefyd i chi am y cymorth rydych wedi'i roi fel Llywodraeth Cymru i bobl yn fy etholaeth a oedd wedi cael eu dal dramor yn ystod yr wythnosau diwethaf? Yn amlwg, mae wedi bod yn gyfnod gofidus iawn iddynt hwy a'u teuluoedd, ac roeddwn yn arbennig o falch o weld fy etholwr, Dr Sundaram, yn dychwelyd, fel roedd y cleifion y mae wedi bod yn gofalu amdanynt yn Ysbyty Glan Clwyd yn ystod yr argyfwng hwn.

Maddeuwch i mi os wyf yn anghywir yma, ond roedd eich datganiad yn awgrymu eich bod yn beirniadu Lywodraeth y DU rhywfaint am ei phenderfyniad i sicrhau cytundeb masnach rydd gyda'r UE erbyn diwedd y flwyddyn. Os nad yw hynny'n wir, rwy'n ymddiheuro am ei awgrymu, ond roedd yn ymddangos fel pe bai'n awgrymu eich bod yn beirniadu Llywodraeth y DU am fwrw ymlaen yn frwd â hynny. Yn amlwg, rydym ynghanol argyfwng, yn bendant, ond mae'n bwysicach fyth felly fod gennym sylfaen i'n heconomi allu codi o'r argyfwng hwnnw, ac mae cytundebau masnach rydd gyda'r UE, gydag UDA, gyda Japan, ac yn wir gyda gwledydd eraill, yn un ffordd y gallwn helpu'r economi fyd-eang i godi'n ôl ar ei thraed ar ôl y coronafeirws. Felly, a ydych chi'n derbyn ei fod yn beth eithaf da mewn gwirionedd fod Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen i geisio sicrhau'r cytundebau masnach hynny, ac a allwch gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu cymryd rhan a chyfrannu at y trafodaethau hynny? Oherwydd yn amlwg rydym am i'r rhain fod yn gytundebau da ar gyfer pob rhan o'r DU, gan gynnwys Cymru, a sicrhau bod ein blaenoriaethau'n cael eu clywed drwy Lywodraeth Cymru, ie, a hefyd, wrth gwrs, drwy Lywodraeth y DU yn ogystal tra'u bod wrthi'n trafod.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:31, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Do, roedd hi'n dda iawn gallu cefnogi'r Cymry a gafodd eu dal dramor, ac yn arbennig o dda gallu croesawu rhywun adref sy'n gallu gwneud cymaint o gyfraniad i'r GIG. Roeddem yn falch iawn ein bod yn gallu ei gefnogi ef a chynifer o bobl eraill o Gymru sydd wedi llwyddo i ddod adref. Mae rhai pobl dramor o hyd. Gwn fod Llywodraeth y DU wedi rhoi tua £75 miliwn yn awr tuag at drefnu awyrennau i ddod â phobl adref, gan fod llawer o wledydd wedi cau eu gofod awyr. Felly, er eu bod yn annog pobl i ddod adref drwy ddefnyddio cwmnïau hedfan masnachol, mewn rhai gwledydd nid yw hynny'n bosibl o gwbl, a dyna pam y bu'n rhaid trefnu awyrennau. Mae rhai pobl dramor o hyd ac wrth gwrs, hwy yw'r achosion anoddaf i'w cludo adref. Mae'n debyg ei bod hi'n werth pwysleisio hefyd fod benthyciadau ar gael i'r bobl a allai fod yn cael trafferthion ariannol tra'u bod dramor ar yr adeg hon.  

O ran y cytundebau masnach, rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cydnabod bod gennym gryn dipyn o waith ar ein dwylo ar hyn o bryd, nid yn unig Llywodraeth Cymru, ond Llywodraeth y DU hefyd. Mae'n eithaf clir i ni fod Llywodraeth y DU, ar hyn o bryd, yn dal yn awyddus iawn i wneud yn siŵr eu bod yn ceisio cael cytundeb erbyn diwedd y flwyddyn mewn perthynas â Brexit. Rwy'n credu y byddem yn rhybuddio os na allwch gael cytundeb erbyn diwedd y flwyddyn, gallai'r effaith economaidd i ni—ac roedd hyn yn wir cyn COVID—fod yn eithaf pellgyrhaeddol. A hyd yn oed pe baech yn gallu negodi'r cytundeb masnach gorau yn y byd â'r Unol Daleithiau, mae hyd yn oed yn yr achos y mae Llywodraeth y DU wedi'i gyflwyno'n nodi mai'r canlyniad gorau y gallem ei ddisgwyl yw cynnydd o tua 0.16 y cant o gyfraniad at ein cynnyrch domestig gros dros gyfnod o 15 mlynedd. Nawr, cymharwch hynny â'r hyn sy'n digwydd os byddwn yn gadael yr UE heb gytundeb masnach, byddem oddeutu 9.3 y cant i lawr dros 15 mlynedd. Felly, mewn gwirionedd, rwy'n meddwl bod yn rhaid inni feddwl yn ofalus iawn am hyn, ond rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Weinidog Jeremy Miles yn dymuno archwilio ychydig mwy ar hynny yn nes ymlaen. Ond os ydynt yn ofnadwy o awyddus i ddyfalbarhau â hynny, byddwn yn cynghori'n bendant y dylent ystyried bod yn ofalus ar yr adeg hon. Rydym yn derbyn yn awr wrth gwrs fod Brexit wedi digwydd.  

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:34, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi droi fy sylw yn awr at y rhan arall o'ch datganiad a oedd yn ymdrin â thwristiaeth, os yw hynny'n iawn? Felly, roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn cyfeirio at dwristiaeth, oherwydd, wrth gwrs, mae'n siomedig braidd, mae'n rhaid i mi ddweud, nad ydym wedi cael datganiadau ar y thema benodol hon yn ein sesiynau Cyfarfod Llawn rhithwir ers dechrau'r pandemig hwn.

Mae twristiaeth, wrth gwrs, yn rhan hanfodol o'n heconomi, fel rydych wedi cydnabod eisoes, ac fe fyddwch wedi gweld bod adroddiad wedi'i lunio'n ddiweddar gan Brifysgol Southampton a'r Centre for Towns a gyfeiriai at y ffaith ei bod yn edrych fel pe bai cymunedau arfordirol yn mynd i gael eu taro'n arbennig o galed o ganlyniad i'r pandemig presennol, ac yn ei chael hi'n anos efallai i allu ymadfer na chymunedau eraill. Ac mae hynny, wrth gwrs, oherwydd bod y rhan fwyaf o drefi arfordirol, yn sicr ar arfordir gogledd Cymru, yn ddibynnol iawn ar dwristiaeth am eu llesiant economaidd.

Fe gyfeirioch chi at y tasglu a sefydlwyd ar dwristiaeth. Rwy'n falch fod rhywfaint o ffocws o fewn y Llywodraeth ar y mater hwn. A allwch ddweud wrthym pwy sy'n aelodau o'r tasglu hwnnw? A allwch ddweud wrthym hefyd pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, o ystyried cyfraniad mwy sylweddol twristiaeth i'n heconomi, er mwyn edrych ar sut y gall addasu rhywfaint o'i chyllid cadernid economaidd i allu cefnogi'r diwydiant twristiaeth yn well? Rydym yn gwybod bod gennym lawer o weithwyr tymhorol, er enghraifft, nad oeddent yn gymwys ar gyfer y cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws, ond byddai cyfran dda o'u hincwm wedi cael ei wario'n lleol, ac nid ydynt yn gallu gwneud hynny am nad oes ganddynt ddigon o bŵer gwario.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi sefydlu cronfa gymorth ar gyfer sŵau yn ddiweddar, i gefnogi atyniadau anifeiliaid ledled Lloegr. A oes gennych gynlluniau i sefydlu rhywbeth tebyg yma yng Nghymru? Mae gennym Sw Mynydd Cymru yn fy etholaeth i, Sw Môr Môn, a llu o atyniadau eraill ledled Cymru a allai elwa o hynny. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bryd inni geisio llenwi rhai o'r bylchau sydd gennym yn y diwydiant ar hyn o bryd. Oherwydd yr hyn nad ydym am ei wneud yw colli rhai o'r atyniadau gwych hyn, a oedd yn fusnesau ffyniannus cyn y pandemig, ac a allai barhau i fod cyhyd â'u bod yn cael y cymorth cywir i allu goroesi.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:36, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n meddwl eich bod yn llygad eich lle ein bod yn anhygoel o ymwybodol o'r effaith y gallai ac y mae'r coronafeirws yn ei chael ar ein sector twristiaeth. A'r broblem yw ei bod yn edrych fel pe bai'n mynd i fod yn broblem hirdymor, os meddyliwch am gadw pellter cymdeithasol a'r problemau ymarferol o gael pobl i mewn i westai, o weini bwyd—nid yw'n mynd i fod yn ateb hawdd o bell ffordd. A dyna pam y buom yn trafod yn y cyfarfodydd COVID-19 gyda'r cynrychiolwyr hynny—ceir cynrychiolwyr, cynrychiolwyr rhanbarthol, yn y cyrff hynny, a chynrychiolydd hefyd ar ran Cymru yng nghynrychiolaeth y DU ar dwristiaeth, lle maent yn trafod yr un mathau o bethau, felly ceir cysylltiad uniongyrchol â'r hyn sy'n digwydd yn y DU hefyd.

Ac un o'r pethau y maent yn dechrau sôn amdanynt yw pa brotocolau sydd angen eu rhoi ar waith er mwyn ailagor y cyfleusterau hynny, gan fod hynny'n mynd i fod yn hanfodol i feithrin hyder pobl i ddod yn ôl. Ac mae hynny'n rhan o'r broblem, y gallem fod mewn sefyllfa pan fyddwn yn dechrau agor cyfleusterau ac na fydd pobl yn dod, oni bai eu bod yn gwbl hyderus fod mesurau ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Rydym wedi bod mewn cysylltiad cyson hefyd â phobl mewn lleoedd fel Llandudno, er enghraifft. Rwyf wedi siarad â rhai o'r cynrychiolwyr gwely a brecwast yno, a oedd yn ofnadwy o bryderus cyn cyflwyno'r cynllun ffyrlo, a thawelwyd eu hofnau gryn dipyn ar ôl hynny, ond wrth gwrs mae nifer ohonynt yn bryderus iawn ynglŷn â'r hyn fydd yn digwydd os a phan ddaw'r ffyrlo i ben. Felly mae hwnnw'n fater anodd iawn i ni.

Gwn fod sŵau'n colli arian mawr ar hyn o bryd, ac rwy'n arbennig o ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn Folly Farm yn Sir Benfro, er enghraifft. Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i edrych ar hynny, ond credaf ein bod yn cydnabod bod y sefyllfa honno'n arbennig o unigryw, felly efallai y gallwn edrych ar hynny. Gadewch i mi gael cyfle i ystyried hynny.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:38, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Eluned. Rwy'n arbennig o bryderus o glywed bod cymaint o ddioddefaint yn digwydd yn Affrica oherwydd y cynnydd sydyn mewn prisiau bwyd, ond gobeithio y gallwn helpu i wneud ein rhan i liniaru hynny.

Tri pheth. Un yw fy mod wedi cael cyfarfod ag is-gangellorion y prifysgolion ychydig cyn y Cyfarfod Llawn, gyda David Rees ac eraill. Ac roedd yn ddiddorol clywed bod cryn dipyn o ddiddordeb o hyd ymhlith myfyrwyr rhyngwladol sydd eisiau dod i astudio yng Nghymru—yn arbennig, pwysleisiodd Prifysgol Caerdydd fod yna gryn dipyn o ddiddordeb. Felly wrth inni symud ymlaen i drechu'r pandemig hwn, rwy'n credu ei fod yn ymwneud mwy â sut y gallwn roi hyder i fyfyrwyr rhyngwladol fod Cymru'n lle da i ddod i astudio, o gofio, lle bynnag y mae pobl yn byw, fod yn rhaid inni fyw gyda'r coronafeirws am y tro. Felly, yn amlwg byddant am fod yn sicr fod y safonau iechyd cyhoeddus y maent wedi dod i'w cael yn eu gwledydd eu hunain yn cael eu gweithredu yn y wlad hon. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU ar ddechrau camau i fesur tymheredd mewn meysydd awyr, cynnal profion, ac ynysu gorfodol am bythefnos i unrhyw un sy'n dod o dramor, ni waeth o ba wlad. Mae'n ymddangos i mi y byddai hynny'n tawelu meddyliau myfyrwyr rhyngwladol a'r cymunedau fel fy un i sy’n mynd i fod yn croesawu myfyrwyr rhyngwladol i'n plith yn y dyfodol, os byddant yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Efallai y bydd cyfle hyd yn oed— 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:40, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi ddod i ben, os gwelwch yn dda? 

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Iawn. Ar wahân i hynny, roeddwn eisiau gofyn i chi am y trafodaethau rhyngwladol—y trafodaethau masnach rydd sy'n digwydd gyda'r Unol Daleithiau, oherwydd mae’n fy mhryderu’n fawr y gallem fod yn rhuthro i gytundeb gyda'r Unol Daleithiau a allai greu goblygiadau erchyll i ffermio a bwyd yng Nghymru. Yn sicr, nid yw'r ffordd y mae diwydiant bwyd yr Unol Daleithiau wedi methu rheoli coronafeirws, sydd wedi arwain at farwolaeth llawer o weithwyr prosesu bwyd yn yr Unol Daleithiau, yn hysbyseb da ar gyfer pam ein bod yn bendant yn erbyn gweld safonau bwyd is o’r fath yn dod i'n gwlad. Felly, tybed a ydych wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar hyn i dawelu ein meddyliau na fyddwn yn cael safonau bwyd llawer is wedi'u gorfodi arnom? 

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:41, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, mae wedi bod yn eithaf diddorol, mae'r British Council wedi gwneud cryn dipyn o arolygon mewn perthynas â diddordeb myfyrwyr Tsieineaidd—p'un a ydynt yn dal i fod eisiau dod i astudio yn y Deyrnas Unedig. Ac mae'n eithaf diddorol, fel y dywedwch, ei bod hi'n ymddangos bod gan y mwyafrif ohonynt ddiddordeb mawr o hyd. Mae'n ymddangos bod tua 39 y cant ohonynt sy’n dod o Tsieina heb benderfynu, ac felly mae hynny'n awgrymu bod angen inni roi camau ar waith i sicrhau bod ganddynt yr hyder rydych chi'n siarad amdano. A dyna pam y mae’r protocolau hyn yn mynd i fod yn wirioneddol bwysig yn fy marn i wrth symud ymlaen, er mwyn rhoi'r hyder hwnnw iddynt. Mae myfyrwyr o India a Phacistan yn yr un arolwg gan y British Council yn awgrymu nad yw 50 y cant ohonynt yn debygol o ganslo eu cynlluniau ac mae'n ymddangos bod ganddynt fwy o ddiddordeb mewn sicrhau eu bod yn parhau â’r rheini. Cafwyd trafodaethau gyda Cymru Fyd-eang a Llywodraeth y DU ynglŷn â sut y gallwn feithrin hyder y bobl hynny.

Wrth gwrs, ers tua 29 Ionawr, mae angen wedi bod i hunanynysu, os ydych chi'n dangos symptomau, wrth ddod i'r wlad hon o rywle arall. Ond rwy'n credu bod yna gwestiwn y mae'n rhaid inni ei ofyn o hyd mae’n debyg, ac mae'n un a ofynnais i Frank Atherton y bore yma, sef: a ddylem fynd ychydig ymhellach efallai ac awgrymu y dylai pawb sy'n dod i mewn hunanynysu am bythefnos? Mae'n eithaf diddorol nodi ei bod yn ymddangos ein bod ychydig yn wahanol i lawer o wledydd eraill yn y byd ar hynny. Ond mae'n rhywbeth rydym yn ei drafod yn ein cyfarfodydd wythnosol gyda'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Fel y dywedaf, cefais gyfarfod gyda’r Gweinidog addysg lle buom yn trafod rhai o’r materion hynny. 

Ar fasnach rydd, cefais drafodaeth ddoe gyda Greg Hands, sef y Gweinidog sy'n gyfrifol am y negodiadau gyda'r Unol Daleithiau ar greu cytundeb masnach rydd newydd. Pwysleisiais bwysigrwydd sicrhau y cedwir at y safonau sy’n bwysig i ni, ond bod yr iaith yn y mandad negodi yn eithaf amwys a'n bod yn credu y dylid ei thynhau mewn gwirionedd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig eu bod yn deall, ac mae'n rhywbeth rwy'n ei bwysleisio'n glir iawn, ein bod am sicrhau ein bod yn cadw at y safonau amgylcheddol uchel hyn, y safonau lles anifeiliaid, y safonau llafur a'r safonau defnyddwyr. Mae'r rheini i gyd yn bethau y byddwn yn edrych amdanynt yn y cytundebau. Roedd yn deall hynny a gwnaethom bwysleisio pwysigrwydd trin pawb yn yr un modd wrth ystyried mewnforion i'r wlad hon, a bod angen cadw at y safonau rydym yn eu disgwyl, o ran lles anifeiliaid, er enghraifft, neu fel arall gallai fod perygl y gallent danseilio'r hyn y gallwn ei gynhyrchu yn y wlad hon.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:44, 6 Mai 2020

A allaf ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad a hefyd diolch am bob cefnogaeth i bob un o'm hetholwyr i sydd wedi ffeindio ei hunain mewn gwahanol wledydd yn ddiweddar ac wedi llwyddo i ffeindio'u ffordd adref? Felly, diolch yn fawr iawn ichi am hynny.

Mae yna nifer o faterion eisoes wedi'u crybwyll, felly gwnaf i jest ganolbwyntio ar ofal cymdeithasol. Gwnaethoch chi grybwyll yn eich datganiad bwysigrwydd gofal, yn enwedig gofal diwedd oes a darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, wrth gwrs, dŷn ni gyd yn deall y llacio a'r delays sydd wedi gorfod digwydd ar rai rheoliadau yn y maes gofal o achos yr argyfwng COVID-19 yma, ond allaf ofyn beth dŷch chi'n ei wneud yn bersonol, felly, i sicrhau, mor belled ag sy'n bosib, y gofal drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg i'n pobl hŷn ni yn y sector gofal sydd yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf? 

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:45, 6 Mai 2020

Diolch, Dai. Dwi yn hollol ymwybodol bod hwn yn fater rili pwysig i bobl, yn arbennig mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, a dyna pam dwi wedi ysgrifennu at y Gweinidog iechyd i sicrhau ei fod e'n ymwybodol o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg, yn arbennig pan mae'n dod i faterion diwedd oes, a sicrhau bod yna ymwybyddiaeth a bod yna staff ar gael sydd yn gallu trafod yn eu hiaith gyntaf nhw. Mae'r comisiynydd wedi dweud yn ystod y cyfnod yma na fydd e'n rhedeg ar ôl ysbytai ac ardaloedd sydd yn yr adran iechyd sydd yn gorfod cydfynd â'r safonau ar hyn o bryd, ond dwi yn meddwl ei fod yn bwysig i danlinellu pa mor bwysig yw hwn i rai o'r cleifion yna sydd yn wynebu amser a chyfnod echrydus ar hyn o bryd. Felly, mae hwnna wedi cael ei bwysleisio i'r Gweinidog iechyd. 

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:47, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Gan gyfeirio at eich cyfrifoldeb dros dwristiaeth yng Nghymru ac i Gymru, mae parciau gwyliau a llawer o fusnesau twristiaeth eraill yn cael y rhan fwyaf o'u hincwm blynyddol rhwng y Pasg, sydd eisoes wedi'i golli, a hanner tymor mis Hydref. Hyd yn oed os ydynt yn llwyddo i gadw eu pennau uwchben y dŵr yr hydref hwn, maent yn ofni y byddant yn mynd i'r wal dros y gaeaf gan effeithio ar y swyddi y maent yn eu darparu a'r holl fusnesau yn y cymunedau y maent hwy a'u cwsmeriaid yn eu cynnal. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru, felly, i gefnogi busnesau twristiaeth yng Nghymru gan ystyried eu natur dymhorol a thrwy hynny, i ddiogelu ein cymunedau arfordirol a gwledig?

Ac o ran diwylliant a'r celfyddydau, yn Sir y Fflint, mae canolfannau dysgu cerddoriaeth gogledd Cymru wedi cael gwybod nad ydynt yn gymwys ar gyfer grant busnes £10,000 Llywodraeth Cymru am nad ydynt yn cael y rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. A wnewch chi gadarnhau felly p'un a yw sector y celfyddydau a'r rhai eraill sy'n derbyn y rhyddhad ardrethi busnes i elusennau a sefydliadau dielw â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai hefyd yn gymwys?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:48, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae'n bryder gwirioneddol, o ran y sector twristiaeth, ein bod yn sôn am y posibilrwydd o wynebu tri gaeaf. Nawr, rwy'n credu mai hyn a hyn y gallwn ei wneud fel Llywodraeth Cymru, ond mae hwn yn fater y mae Llywodraeth y DU hefyd yn ei ddeall, ac felly, byddwn yn sicrhau, cyn belled ag y bo modd, ein bod yn gofyn iddynt ein helpu yn y sector penodol iawn hwn sydd, mewn gwirionedd, yn fwy agored efallai na llawer o sectorau eraill oherwydd y natur dymhorol a bwysleisiwyd gennych. Mae cynllun ffyrlo'n wych tra mae'n para. Ond fel y sonioch chi, mae yna hefyd lawer o bobl, sydd efallai'n cael eu cyflogi ar sail dymhorol, nad ydynt yn gymwys o bosibl i wneud cais am ffyrlo am nad oedd y tymor wedi dechrau'n iawn. Felly, mae yna bobl sydd eisoes yn dioddef.

O ran diwylliant a'r celfyddydau, fe fyddwch wedi gweld bod rhywfaint o'n harian ar gyfer y celfyddydau a chwaraeon wedi'i addasu gennym at ddibenion gwahanol; mae tua £17 miliwn wedi'i addasu at ddibenion gwahanol. Ceir cronfa cadernid diwylliannol o £1 filiwn a cheir cronfa gadernid i'r celfyddydau o £7 miliwn y gallech awgrymu eu bod yn edrych arni fel dewis arall. Ond efallai eich bod wedi gweld heddiw hefyd y bu estyniad i'r cymorth grant ardrethi busnes a fydd yn addas ar gyfer clybiau chwaraeon ac i elusennau hefyd. Felly, efallai y gallent edrych ar hynny yn awr fel ffynhonnell arall.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:49, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rwyf am ganolbwyntio ar agweddau masnach ryngwladol eich cyfrifoldebau, ac yn eich datganiad rydych yn tynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth y DU yn parhau—neu newydd ddechrau—ei thrafodaethau ar gytundeb masnach rhwng y DU a'r UDA, ac mae'r trafodaethau’n dal i fynd rhagddynt ar y cytundeb masnach rhwng y DU a'r UE. Fy mhryder yw y gallent fod yn ceisio chwarae’n erbyn ei gilydd, ac mewn blwyddyn lle ceir uchelgeisiau gwleidyddol yn America gan Arlywydd sy'n ceisio cael ei ailethol, gallai hynny fod yn beryglus. Ond a gaf fi ofyn cwestiwn ynglŷn â faint o adborth rydych chi'n ei gael, Weinidog, ar gynnydd y trafodaethau hynny? A hefyd, pa ran sydd gan Lywodraeth Cymru yn y broses o osod y mandadau negodi ar gyfer Japan? Oherwydd fe nodoch chi y bydd y cytundeb gyda Japan yn bwysicach i Gymru na chytundeb yr UDA. Felly, a oes gennych unrhyw fewnbwn i osod y mandad ar gyfer trafodaethau Japan? 

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:50, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ddoe yn unig y cychwynnodd y trafodaethau gyda’r Unol Daleithiau ac yn amlwg, roeddent yn drafodaethau agoriadol bras iawn, felly, ni thrafodwyd llawer o’r manylion. Mae yna 100 o bobl yn rhan o’r negodiadau hynny ar ochr Llywodraeth y DU yn unig ac wrth gwrs, roedd hi’n ddefnyddiol gallu siarad â’r Gweinidog cyfrifol ddoe a thynnu sylw at y pethau rydym wedi bod yn tynnu sylw atynt ers misoedd lawer ynglŷn â'r blaenoriaethau i ni yng Nghymru. Wrth gwrs, ymhlith y rheini mae ymrwymiad i sicrhau bod y GIG yn cael ei ddiogelu. Fe wnaethom egluro iddo hefyd efallai na fydd cadw'r mandad fel y mae ar hyn o bryd, nad yw'n mynd yn ôl o lle rydym ni, yn ddigon, oherwydd ar ryw adeg yn y dyfodol efallai y byddwn am edrych ar integreiddio iechyd a gofal yn well, ac felly efallai na fydd yn ddigon i fynd o lle rydym a diogelu lle rydym. 

Y tu hwnt i hynny, rydym wedi egluro ein bod yn disgwyl i'r negodi barhau gyda'r gweinyddiaethau datganoledig. A bod yn deg, maent wedi parchu hynny'n eithaf da hyd yn hyn. Y broblem, wrth gwrs, yw nad oes gennym sefyllfa ffurfiol o hyd, ac roedd hynny'n rhywbeth y llwyddais i’w bwysleisio unwaith eto ddoe—hyd nes y cawn y concordat ffurfiol yn ei le, byddwn yn teimlo ychydig yn agored, er eu bod yn ein parchu ac yn ein cynnwys yn y cyfnod cyn-negodi. Ac mae hynny'n wir am Japan hefyd. Felly, mae ein swyddogion yn rhan bendant o’r broses o adeiladu'r trafodaethau hynny yn barod ar gyfer y negodiadau â Japan. 

Ond rydym yn hyderus ein bod yn gallu datgan ein barn yn glir iawn a'u bod yn ystyried rhai o'r pryderon sydd gennym. Un o'r rheini yw newid hinsawdd, er enghraifft, lle mae'n eithaf amlwg na fydd yr Unol Daleithiau'n barod i gydymffurfio â rhai o'r elfennau hynny. Ond pwy a ŵyr beth allai ddigwydd yn etholiadau’r Unol Daleithiau. Efallai y bydd lle inni ailagor rhai o'r materion hynny yn nes ymlaen. Un o'r pethau diddorol a ddysgais hefyd, serch hynny, tra'n bod yn arfer meddwl y gallai'r holl negodi gyda'r Unol Daleithiau ddod i stop yn ystod etholiadau arlywyddol yr UDA, mae'n ymddangos yn awr y bydd y negodiadau hynny’n parhau trwy gydol yr etholiadau arlywyddol. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:53, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ac yn olaf, Mohammad Asghar.

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd a diolch, Weinidog, am eich datganiad. Rwy'n deall eich pryder ynglŷn â thwristiaeth. Mae Croeso Cymru wedi rhyddhau canlyniadau arolwg o fusnesau twristiaeth a gyflawnwyd ar ôl gosod y cyfyngiadau symud, ac maent yn ddeunydd darllen pur anghysurus. Mae 96 y cant o fusnesau'n disgwyl i effaith y feirws yn y dyfodol fod yn negyddol iawn ar y sector.

Mae gweithredwyr wedi galw ar y ddwy Lywodraeth i helpu eu busnesau drwy ddatgelu strategaeth ymadael ar frys, gan nodi, hyd yn oed os byddant yn ailagor ym mis Mehefin, y byddant wedi colli rhan allweddol fawr o'r prif dymor twristiaeth yng Nghymru. O gofio pwysigrwydd allweddol twristiaeth i economi Cymru, pa drafodaeth a gawsoch chi, Weinidog, gyda'ch cyd-Weinidogion ac eraill ynglŷn â sicrhau bod Cymru'n cadw diwydiant twristiaeth hyfyw, yn enwedig—a dyma rwy'n poeni yn ei gylch—twristiaeth wledig, sydd, mewn gwirionedd, yn creu mwy na £8 biliwn i economi Cymru? Sut rydych chi'n mynd i ymdrin â hynny, a pha mor gyflym rydych chi'n mynd i ymdrin ag ef? Diolch.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:54, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Un o'r pethau sy'n glyfar iawn yn fy marn i o ran y strategaeth farchnata yw'r ffordd y gwnaed yn siŵr fod honno wedi'i newid ychydig yn ystod y cyfnod hwn. Felly, mae'r ymadrodd, 'Croeso i Gymru. Yn nes ymlaen' wedi bod yn rhywbeth y buom yn ceisio ei bwysleisio. Ond mae'n rhaid i ni gerdded ar hyd llinell denau yma, oherwydd am y tro, mae'n anodd annog pobl i ddod i'r ardaloedd hynny. Nid yw hynny'n rhywbeth rydym am ei weld ar hyn o bryd, ond daw pwynt pan fyddwn eisiau i hynny ddigwydd, felly mae'n bwysig ein bod yn cael y neges yn gywir. Fel y dywedwch, mae yna ofn gwirioneddol o fewn y sector ac nid wyf yn credu y byddai'n iawn i'r Llywodraeth daro allan a dweud, 'Dyma sut rydym am ddod allan o hyn'. Mae'n rhaid i ni wneud hyn gyda'r sector. Rhaid i'r sector fod yn rhan o'r peth, a dyna pam ein bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r sector ar hyn o bryd i ystyried pa brotocolau y dylid eu rhoi ar waith i'n helpu i ddod allan o hyn, i feithrin hyder pobl, i wybod pan fyddant yn mynd i rai o'r sectorau twristiaeth hyn, y bydd y lleoedd hynny wedi eu glanhau'n drylwyr neu y perchir y cyngor ar gadw pellter cymdeithasol, ac y bydd terfyn ar faint o bobl a all fynd i leoedd penodol. Ond mae'n rhaid cytuno ar yr holl bethau hynny gyda'r diwydiant ac ni allwn ei wneud ar ein pen ein hunain.

Rwy'n meddwl mai'r peth arall i'w bwysleisio—. Yn amlwg, rwy'n gweithio'n eithriadol o agos gyda fy nghyd-Aelod Dafydd Elis-Thomas, a gwn fod gan Ken Skates ddiddordeb gwirioneddol yn y portffolio hwn hefyd. Yr un peth y byddwn yn ei bwysleisio yw eich bod chi'n llygad eich lle: er bod mwy o bwyslais yn rhai o'n hardaloedd gwledig o bosibl, yr un peth y gwn fod fy nghyd-Aelod, Dafydd Elis-Thomas, bob amser yn awyddus i'w bwysleisio yw bod twristiaeth yn rhywbeth ar gyfer Cymru gyfan; nid yw'n perthyn yn benodol i unrhyw ran arbennig. Mae'n cyffwrdd â chymaint o rannau o Gymru a dyna pam eich bod chi'n llygad eich lle: mae angen inni fod yno ar gyfer y sector.  

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:56, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog.