– Senedd Cymru am 5:11 pm ar 13 Mai 2020.
Symudwn ymlaen yn awr at ein heitem nesaf ar yr agenda, sef Eitem 6, sef datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar y coronafeirws, COVID-19, a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ers fy natganiad diwethaf ar 8 Ebrill, mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar gefnogi ein cynhyrchwyr bwyd, diogelu ein hamgylchedd, a chynnal seilwaith hanfodol a rheoli heintiau. Ein prif flaenoriaeth fu mynd i'r afael â'r caledi uniongyrchol a achoswyd gan y pandemig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag awdurdodau lleol ym mhob rhan o Gymru i ddarparu dros 30,000 o barseli bwyd i aelwydydd sydd mewn mwyaf o berygl oherwydd COVID-19 ac sydd wedi eu cynghori gan y prif swyddog meddygol i beidio â gadael eu cartrefi. Mae'r bartneriaeth hon rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi bod yn llwyddiant ysgubol, a hoffwn ddiolch i bawb sy'n gysylltiedig.
Ers 23 Ebrill, mae busnesau pysgota wedi gallu gwneud cais am grant caledi pysgodfeydd Cymru. Hyd at yr wythnos diwethaf, roedd 124 o geisiadau wedi dod i law, a mwy na £250,000 o gymorth grant eisoes wedi ei dalu. Hyd yn hyn, mae'r holl geisiadau wedi eu prosesu o fewn 10 diwrnod gwaith.
Ddydd Sadwrn, cyhoeddais y bydd gan ffermwyr llaeth, sydd wedi colli mwy na 25 y cant o'u hincwm yn ystod mis Ebrill a mis Mai, yr hawl i hyd at £10,000, i dalu am 70 y cant o'r incwm y maen nhw wedi'i golli.
Mae Hybu Cig Cymru wedi lansio ymgyrch sy'n cynnwys cogyddion uchel eu proffil ac enwogion eraill i gynhyrchu fideos ryseitiau i annog pobl yng Nghymru i helpu ein ffermwyr trwy brynu cynnyrch o Gymru. Mae fy swyddogion hefyd wedi cydweithio'n agos â Llywodraethau ym mhob rhan o'r DU i gydweithio ar ymgyrchoedd hyrwyddo ar gyfer y sectorau llaeth, cig eidion a chig oen.
Rwyf i a'm swyddogion mewn cysylltiad cyson â chynrychiolwyr o bob sector o'r economi wledig i fonitro'r heriau sylweddol sydd o'n blaenau o hyd a'r angen am ragor o gymorth. Yn ogystal â chefnogi'r rhai sy'n wynebu caledi o ganlyniad i'r pandemig, rydym ni wedi sicrhau bod gwaith hanfodol i gefnogi economi wledig Cymru ac i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur yn parhau yn ddiogel.
Rwyf i wedi ysgrifennu at yr holl aelwydydd yr effeithiodd llifogydd mis Chwefror arnyn nhw i amlinellu'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw, gan gynnwys y cymorth y gallan nhw ei gael trwy eu hawdurdodau lleol, ac i roi gwybod iddyn nhw am yr estyniad i'r dyddiad cau i hawlio'r cymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.
Rwyf i wedi gwneud datganiadau cyhoeddus yn atgoffa pobl i barchu'r gweithwyr yn y sectorau dŵr ac ynni, sy'n parhau i gynnal ein seilwaith hanfodol wrth gadw at drefniadau cadw pellter cymdeithasol.
Mae fy swyddogion wedi bod yn cefnogi'r proffesiwn milfeddygol i weithio'n agos gyda'n ffermwyr i ddod o hyd i ffyrdd o reoli eu swyddogaeth i gefnogi trefniadau rheoli clefydau a bioddiogelwch ar ffermydd ac mewn marchnadoedd da byw. Ni allwn fforddio llacio prosesau brwydro yn erbyn clefydau anifeiliaid a hyrwyddo'r safonau uchaf o ran lles anifeiliaid.
Hoffwn dynnu sylw fy nghyd-Aelodau at waith Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd wedi bod yn ymdrin â heriau anferthol yn ystod y pandemig presennol. Ar yr un pryd â pharhau â'u gwaith rheoleiddio hanfodol a rheoli ein mawndiroedd a'n coedwigoedd, maen nhw wedi ymdrin â thanau dinistriol a digwyddiadau llygredd. Rwy'n arbennig o falch bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gallu ymweld â safleoedd sy'n eiddo i'r sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol hynny sydd wedi gorfod rhoi eu staff ar ffyrlo, er mwyn helpu i sicrhau y gellir cymryd unrhyw gamau angenrheidiol i ddiogelu'r safleoedd hynny.
Mae ymdrechion ein busnesau bwyd a diod yng Nghymru wedi gwneud argraff fawr iawn arnaf nid yn unig wrth ddod o hyd i ffyrdd o fasnachu'n ddiogel ond hefyd i gefnogi'n uniongyrchol yr ymdrechion i fynd i'r afael â COVID-19 a chefnogi ein gweithwyr allweddol. Mae ein menter clwstwr bwyd a diod wedi ceisio cefnogi'r busnesau hyn hefyd trwy greu cyfeirlyfr o'r cynhyrchwyr hynny o Gymru sy'n cynnig gwasanaeth danfon nwyddau ar-lein, sydd ar gael ar wefan Cywain. Rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn annog eu hetholwyr i brynu gan y busnesau bwyd a diod gwych hynny yn eu hardal.
Yn olaf, hoffwn ddychwelyd at adferiad. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais grynodeb o'r ymatebion i'n hymgynghoriad ar ffermio cynaliadwy. Mae cynigion Llywodraeth Cymru yn cynnig mai diben yr holl gymorth ariannol i ffermwyr yn y dyfodol fydd eu galluogi i reoli eu tir er mwn iddyn nhw allu cynhyrchu bwyd o'r ansawdd gorau a'r safonau lles uchaf wrth ehangu'r rhan maen nhw'n ei chwarae wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yng Nghymru. Rwy'n credu bod yr ymatebion yn dangos yn glir bod y sector yn fwy na pharod i ymateb i'r her hon.
Bydd y cam nesaf o gyd-gynllunio yn cael ei gymryd o bell erbyn hyn, gyda chymorth ychwanegol i'r rhai sy'n gweld y dulliau hyn yn fwy anodd cael gafael arnynt. Wrth i ddiwedd cyfnod pontio'r UE brysur agosáu ac yn sgil amodau hynod heriol y farchnad y mae ffermwyr yn eu hwynebu, rydym ni o'r farn nad oes amser i'w golli wrth weithio yn agosach fyth gyda'r sector ffermio i sefydlu cynllun newydd sy'n gallu caniatáu i'r sector fod yn fwy cydnerth ar gyfer y dyfodol.
Rwyf i'n credu, pan fydd hi'n ddiogel, a dim ond pan fydd hi'n ddiogel i wneud hynny, bod angen i ni roi blaenoriaeth i ailagor y sector bwyd a lletygarwch er mwyn ailfywiogi busnes ar hyd y gadwyn gyflenwi. Mae'n rhaid i ni alluogi ein milfeddygon i ailafael ag ehangder a chyflymder arferol eu gwaith ac mae'n rhaid i ni fod mewn sefyllfa pan allwn ni annog dinasyddion Cymru i fwynhau ein cefn gwlad prydferth unwaith eto.
Bydd y newidiadau i'r rheoliadau yr wythnos diwethaf, sy'n caniatáu i bobl wneud ymarfer corff yn lleol fwy nag unwaith y dydd, yn rhoi mwy o gyfleoedd i werthfawrogi natur ar garreg ein drws, a fydd yn llesol i'n lles corfforol a meddyliol. Fodd bynnag, fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud lawer gwaith, byddwn yn bwrw ymlaen yn ofalus ac yn bwyllog, wedi ein harwain gan y wyddoniaeth, a dim ond llacio'r mesurau pan fyddwn ni'n ffyddiog fod y dystiolaeth yn cefnogi hynny.
Byddwn yn goresgyn effaith y coronafeirws marwol dim ond os gallwn ni ddod o hyd i ffyrdd o gydweithio'n agosach fyth ar draws Llywodraeth, sectorau a chymunedau. Rwyf i a Gweinidogion eraill wedi cael llawer o drafodaethau eisoes gyda rhanddeiliaid ynghylch yr hyn y dylai adferiad gwyrdd o COVID-19 ei gynnwys yng Nghymru, a byddaf i'n parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r cynlluniau hyn ddatblygu. Rwy'n benderfynol y bydd yr adferiad o bandemig COVID-19 yn cyflymu ac na fydd yn ein hatal ni rhag newid i economi carbon isel a Chymru iachach a mwy cyfartal. Diolch.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Gweinidog, rwyf i wedi cael cwestiwn, felly, gan fod amser yn brin, a wnewch chi ddweud wrth y Cyfarfod Llawn sut y mae'r adran yn mynd ati i wneud ei gwaith, o gofio, wrth gwrs bod grantiau a ffenestr cynllun y taliad sylfaenol ar agor erbyn hyn? Ac rwy'n gwerthfawrogi bod adrannau'r Llywodraeth wedi gorfod cael eu had-drefnu. A allwch chi roi sicrwydd i ni nad oes unrhyw dagfeydd yn y system a allai arwain at oedi mewn ceisiadau grant neu geisiadau am y taliad sengl?
O ran y cyhoeddiad am laeth a wnaethoch ar y penwythnos, a yw'r adran yn gwybod faint o ffermydd a allai elwa ar y cyhoeddiad hwn, faint fydd y gost i'r adran, ac a yw'n dod o'ch cyllideb eich hun, y costau y byddwch yn eu hysgwyddo? A sut y bydd yr hawliadau a ddaw gan ffermwyr llaeth yn cael eu prosesu? Oherwydd, mae'n eithaf penodol eu bod yn ymwneud â mis Ebrill a mis Mai, y gwiriadau hynny, felly rwyf i'n rhagdybio y bydd yn rhaid darparu gwybodaeth i gefnogi'r hawliad a fydd yn dod i'r adran.
Yng nghyfarfod y pwyllgor yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi gymeradwyo'r sylwadau a wnes i ynghylch cyfraith Lucy, ac fe wnaethoch chi sôn eich bod yn cwrdd â'r prif filfeddyg yr wythnos hon. A ydych chi wedi cael cyfle i gyfarfod â'r prif filfeddyg a chadarnhau sut yr ydych chi am gyflwyno'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth er mwyn i ni allu rhoi sicrwydd i'n hetholwyr y bydd y ddeddfwriaeth hon ar waith erbyn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf?
Mae COVID-19 wedi effeithio'n wael ar y gymuned ffermio a gwledig. A allwch chi, Gweinidog, gadarnhau y bydd y gyllideb datblygu gwledig yn cael ei diogelu ac y bydd 100 y cant o'r gyllideb yn cael ei neilltuo a'i gwario o fewn yr amserlen?
Gweinidog, rwyf i ar ddeall bod yr NFU wedi ysgrifennu atoch chi yn gofyn i chi neilltuo'r trosglwyddiad colofn 15 y cant o oddeutu £45 miliwn ar gyfer ffermio. Rwyf i wedi codi hyn gyda chi o'r blaen, ac rwy'n sylweddoli eich bod, bryd hynny, wedi dweud eich bod yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Trysorlys yn hyn o beth. Ond a allwch chi ymrwymo heddiw, yn absenoldeb cymeradwyaeth y Trysorlys, eich bod yn barod i gefnogi trosglwyddiad o'r fath ac, ar yr amod bod y Trysorlys yn rhoi ei gymeradwyaeth, y byddwch yn cytuno i hynny ddigwydd?
Ac, yn olaf, o ran y rheoliadau parthau perygl nitradau—rydym ni wedi siarad yn faith am hyn; rydym ni wedi siarad amdano yn y pwyllgor ac rwyf i wedi siarad amdano gyda chi ar adeg eich datganiad ar 8 Ebrill—o ystyried yr effaith ddifrifol y mae COVID wedi ei chael ar y diwydiant amaethyddol, a allwch chi roi sicrwydd i mi y bydd yr asesiad o effaith rheoleiddiol sydd wedi ei gynnal, neu sy'n cael ei gynnal, yn ystyried yr effaith ddifrifol y mae'r achosion o COVID wedi ei chael ar y diwydiant amaethyddol ac, os bydd angen asesiad o effaith rheoleiddiol newydd, y byddwch chi'n sicrhau bod un yn cael ei gynnal? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Andrew Davies, am y rhestr yna o gwestiynau ac, yn amlwg, mae pandemig COVID-19 wedi effeithio'n enfawr ar y gwasanaeth sifil a'r swyddogion sy'n gweithio i ni, ond gallaf eich sicrhau, er bod staff yn gweithio o gartref, yn amlwg, fod pawb yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn parhau, yn enwedig gyda'r grantiau a'r taliadau sengl a'r ceisiadau, fel yr ydych yn ei awgrymu, a gallaf eich sicrhau y bydd y gwaith hwnnw yn parhau, ac, yn amlwg, pe byddai tagfa yn ymddangos, yna byddai'n rhaid i ni symud staff o gwmpas. Felly, cefais i gyfarfod heddiw â fy nghyfarwyddwyr, ac, yn sicr, rydym ni'n gwneud yn siŵr bod staff yn gallu gwneud y gwaith hwn mewn modd y byddem ni'n gobeithio ei weld. Felly, mae'r gwaith hwnnw, yn amlwg, yn parhau.
O ran y cymorth ar gyfer llaeth a gyhoeddais ddydd Sadwrn, yn amlwg, rydym ni'n dal i weithio trwy hynny. Mae'r cyllid yn dod o fy mhrif grŵp gwariant fy hun. Rwy'n credu y bydd yn costio hyd at £1 miliwn, ond rydym ni wedi dod o hyd i'r arian hwnnw o fy nghyllideb fy hun. Y dadansoddiad cychwynnol o faint o ffermydd y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw—rwy'n credu y bydd oddeutu 100 a fydd yn dod ymlaen ar gyfer y gefnogaeth honno, mae'n debyg.
O ran cyfraith Lucy, rwy'n cyfarfod â'r prif swyddog milfeddygol a swyddogion eraill yfory i drafod hynny. Fel y dywedais yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, mae'n dal yn flaenoriaeth i mi ac i Lywodraeth Cymru. Yn amlwg, bu effaith ar y rhaglen ddeddfwriaethol hefyd, felly mae'r rhain i gyd yn bethau y mae angen i ni weithio trwyddyn nhw. Rydych chi yn llygad eich lle ynghylch yr effaith ar y gymuned ffermio a gwledig, ac, unwaith eto, o ran y rhaglen datblygu gwledig, rydym ni yn y broses o gynnal dadansoddiad manwl o'r heriau sy'n ymwneud â'r rhaglen datblygu gwledig, felly nid oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud hyd yn hyn. Yr hyn yr wyf i wedi gofyn i swyddogion ymchwilio iddo yw pa weithgareddau a ariennir gan y rhaglen datblygu gwledig nad ydyn nhw'n gallu parhau yn awr—os oes unrhyw beth na ellir parhau ag ef neu na ellir ei gyflawni—sut y bydd y pwysau cyllidebol ar draws Llywodraeth Cymru yn effeithio ar y rhaglen datblygu gwledig, a sut y byddem ni yn ymateb i hynny. Felly, wrth symud ymlaen, mae'r dewisiadau yn cael eu hystyried yn fanwl.
O ran y trosglwyddiad colofn o 15 y cant y gwnaethoch chi gyfeirio ato, mae fy ateb yr un fath o hyd: rydym ni'n dal i aros am—. Er ein bod ni wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth y DU, nid ydym ni wedi cael y cyllid. Bydd yr arian hwnnw yn dod i Lywodraeth Cymru ac, yn amlwg, bydd y penderfyniadau'n cael eu gwneud bryd hynny.
O ran y rheoliadau drafft ar lygredd amaethyddol y gwnes i eu cyhoeddi ryw bum wythnos yn ôl, eich cwestiwn ynghylch yr asesiad o effaith rheoleiddiol ac effaith COVID-19—. Felly, ar hyn o bryd, rydym ni yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu'r asesiad o effaith rheoleiddiol, ac mae drafftiau o'r asesiad o effaith rheoleiddiol gan y rhanddeiliaid hynny bellach ac rydym ni wedi gwahodd, yn amlwg, sylwadau a chyngor ganddyn nhw. Rydym yn amlwg wedi dechrau ystyried yr wybodaeth honno, ac, yn amlwg, bydd yr asesiad o effaith rheoleiddiol terfynol yn cael ei gyhoeddi law yn llaw ag unrhyw reoliadau er mwyn i Aelodau'r Senedd allu craffu ar hynny. Felly, mae'r gwaith hwnnw, unwaith eto, yn dal i fynd rhagddo. Felly, yn amlwg, gydag effaith pandemig COVID-19, gellir cynnwys hynny yn yr asesiad o effaith rheoleiddiol.
Diolch, Gweinidog, am yr atebion yna. A wnewch chi gadarnhau pa un a fyddai ffermwyr geifr a defaid sy'n godro'r defaid neu'r geifr yn elwa ar y pecyn cymorth llaeth a fydd ar gael—nad pobl sy'n godro buchod godro yn unig sy'n elwa ar y cynllun? Ac a wnewch chi ymrwymo i roi diweddariad i'r Cyfarfod Llawn cyn gynted â phosibl ar eich cyfarfod â'r prif filfeddyg yfory, er mwyn i ni allu deall sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno cynigion cyfraith Lucy?
Hefyd, rwyf i braidd yn siomedig, oherwydd fe wnaethoch chi awgrymu yn eich ymateb fod yr arian wedi dod drwodd, neu eich bod wedi cael arwyddion yn sicr, gan y Trysorlys, y bydd yr arian dod drwodd oddi wrth y Trysorlys o ran y taliadau atodol a'r trosglwyddiad colofn o 15 y cant. Felly, a wnewch chi, fel y Gweinidog, roi eich ymrwymiad heddiw i gefnogi'r cynnig hwnnw? Nid wyf i'n gweld pam na allwch chi roi eich ymrwymiad i gefnogi'r cynnig hwnnw.
Ac, yn olaf, yn eich datganiad fe wnaethoch chi gyfeirio at agor cefn gwlad, ac rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn croesawu hynny. Ond, yng ngoleuni'r drasiedi a ddigwyddodd yn Sir Fynwy yr wythnos o'r blaen, pan gollodd rhywun ei fywyd, yn anffodus, wrth groesi cae amaethyddol â byfflos yn y cae, mae'n hanfodol bwysig bod y neges ddiogelwch yn cael ei hyrwyddo. A allwch chi roi sicrwydd i ni fod y neges honno yn cael ei hyrwyddo'n weithredol gan Lywodraeth Cymru, oherwydd, yn fy rhanbarth i fy hun, sef Canol De Cymru, dim ond rhai blynyddoedd yn ôl y collodd dau gerddwr eu bywydau ar gyrion Caerdydd pan oedden nhw mewn cae o fuchod a rhuthrodd y buchod a'u sathru? Felly, mae iechyd a diogelwch yn hollbwysig pan fyddwn yn ailagor cefn gwlad, a bod pobl yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau wrth gymysgu â da byw fel ein bod yn osgoi trychineb.
Diolch. O ran eich cwestiwn cyntaf ynghylch geifr a defaid yn y sector llaeth, codwyd hynny gyda mi ddydd Llun yn y cyfarfod bwrdd crwn Brexit ar gyfer cyfnod pontio yr UE, felly rwy'n gwybod bod swyddogion yn gweithio trwy hynny. Rwy'n credu mai'r ymateb gwreiddiol oedd na fydden nhw fwy na thebyg yn bodloni'r meini prawf, ond rwy'n gwybod ei fod yn ddarn o waith sy'n parhau.
O ran cyfraith Lucy, byddaf i'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn amlwg pan fyddaf i wedi cael y trafodaethau hynny, ac yna edrych ar sut y mae hynny yn cyd-fynd â gweddill y rhaglen ddeddfwriaethol. Mae'r Prif Weinidog yn arwain ar ddarn o waith i edrych ar ddeddfwriaeth ar hyn o bryd.
O ran y 15 y cant, fy ateb yw ein bod ni wedi cael rhybudd gan Lywodraeth y DU y dylem ni fod yn ei gael, y byddwn ni yn ei gael. Fy nealltwriaeth i yn awr yw y dylem ni gael mwy o wybodaeth pan gynhelir yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Yn sicr, pan fydd yr arian hwnnw yn cyrraedd, byddaf i'n ceisio cyflwyno achos dros hynny ond, yn amlwg, tan fydd yr arian hwnnw gennym ni, nid wyf i'n gallu dweud dim mwy na hynny.
Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn ynghylch mynediad, ac rwy'n gwybod bod Hannah Blythyn, sy'n arwain materion yn ymwneud â mynediad yng nghefn gwlad, wedi gwneud rhywfaint o waith i hyrwyddo'r neges honno. Fe wnes i gyfarfod â grŵp o gyrff anllywodraethol amgylcheddol dan ymbarél Cyswllt Amgylchedd Cymru, pryd y buom yn siarad am iechyd a diogelwch a sut y gallwn ni sicrhau bod y neges honno yn cyrraedd y cyhoedd, yn enwedig ar hyn o bryd a ninnau'n gwybod bod mwy o bobl yn mynd i gefn gwlad a'u hardaloedd lleol mewn modd nad ydyn nhw wedi ei wneud o'r blaen efallai. Felly, rydym ni'n sicr yn gwneud popeth o fewn ein gallu. Rwy'n gwybod bod llawer iawn yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn ceisio hyrwyddo'r neges honno wrth i fwy o bobl werthfawrogi natur.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, ac rwyf i'n croesawu yn fawr y ffaith fod gennym ni ryw fath o gynllun cymorth ar gyfer ffermwyr llaeth o'r diwedd, er fy mod yn dal yn gresynu'r ffaith ei bod wedi cymryd cyhyd i gyflwyno'r cynllun, oherwydd roedd y sector, fi fy hun a llawer o bobl eraill wedi galw am hyn chwech, saith, wyth wythnos yn ôl ac, wrth gwrs, bydd llawer o'r rhai hynny dan sylw wedi mynd i golledion sylweddol uwch na'r £10,000 sy'n cael ei gynnig. Ond, wrth gwrs, mae'n cael ei groesawu yn fawr iawn am yr hyn yr ydyw. Felly, a gaf i ofyn pryd yr ydych chi'n bwriadu rhyddhau'r arian hwnnw? Pryd y bydd ffermwyr yn gallu gwneud cais am hyn? Yn amlwg maen nhw'n cario dyledion enfawr, ac mae amser yn hanfodol yn hyn o beth, a hoffai pobl wybod yn union pryd y gallen nhw ddisgwyl derbyn rhywfaint o'r cymorth hwn. A allwch chi egluro i ni hefyd a fydd y ceisiadau ar agor am gyfnod penodol, oherwydd, wrth gwrs, fe wnaethoch chi sôn am ryw 100 o ffermydd yr ydych chi'n disgwyl bod hyn wedi effeithio arnyn nhw neu yr ydych chi'n disgwyl iddyn nhw wneud cais am yr arian hwn, ond nid oes unrhyw beth i ddweud na fydd busnesau eraill yn canfod eu hunain yn llithro i sefyllfa debyg yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, a byddai gwybod bod posibilrwydd y byddai'r math hwn o gynllun cymorth ar gael iddyn nhw, yn fy marn i, yn ddefnyddiol iawn iddyn nhw?
A gaf i awgrymu hefyd y byddai'n dda o beth yn y dyfodol pe byddai'r Gweinidog yn rhoi gwybod i Aelodau'r Senedd pryd y bydd y cyhoeddiadau hyn yn cael eu gwneud? Oherwydd, yn amlwg, fe wnaethom ni glywed gennych chi yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf y byddai cyhoeddiad yn fuan, ond bu'n rhaid i sefydliadau allanol a thrydydd parti o'r tu allan roi gwybod i mi fod y datganiad wedi ei wneud mewn gwirionedd fod y cynllun am ddod—a gwnaed y datganiad ddydd Sadwrn, dylwn i ddweud. Felly, mewn gwirionedd, digwyddodd yr un peth gyda'r gronfa caledi pysgodfeydd hefyd, pan ddywedodd aelodau o'r sector wrthyf fod y cynllun wedi ei gyhoeddi. Efallai, fel mater o gwrteisi, y gallech chi ein copïo ni i mewn i'ch datganiadau i'r wasg yn y dyfodol er mwyn i ni wybod amdanyn nhw cyn i ni ddarllen amdanyn nhw yn y cyfryngau.
Diolch i chi am eich cwestiynau. Mae'n rhaid i chi sylweddoli bod y cynlluniau hyn yn cymryd ychydig o amser i'w datblygu, ac, fel y dywedais wrth y pwyllgor yr wythnos diwethaf, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n sicrhau bod y cynllun hwnnw yn iawn—roedd yn gynllun pwrpasol—a'i fod yn iawn i'n sector llaeth yng Nghymru. Mae'r manylion terfynol yn cael eu paratoi, yn union yr un fath ag yn Lloegr. Dywedais wrthych yr wythnos diwethaf nad cystadleuaeth yw hon; y peth pwysicaf yw cael pethau'n iawn. Felly, mae'r manylion hynny'n cael eu paratoi, ond rwyf i yn gobeithio y byddwn ni mewn sefyllfa i—. Unwaith eto, fel y dywedais i yr wythnos diwethaf, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw sicrhau bod yr arian hwnnw allan yna. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu gwneud hynny yn y dyfodol agos iawn, yn sicr o fewn wythnos i 10 diwrnod.
Byddwn i'n dychmygu, bydd, fe fydd ar agor am gyfnod penodol. Os gwnewch chi edrych ar y cynllun caledi pysgodfeydd, mae hwnnw ar agor tan ddiwedd mis Mai. Dechreuodd hynny ar 23 Ebrill, felly mae'n debyg mai tua phump neu chwe wythnos yw hynny. Byddwn i'n dychmygu y bydd yn rhywbeth tebyg ar gyfer y cymorth llaeth hefyd.
Unwaith eto, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cael y rhain—. Nid wyf i'n arbennig o hoff o wneud cyhoeddiadau ar ddydd Sadwrn, ond, fel y dywedais wrthych chi yn y pwyllgor, roeddwn i'n gobeithio ei wneud erbyn y nos Wener, ond mae agweddau cyfreithiol, fel bob amser, i'w hystyried, a gallwch chi ddychmygu'r pwysau ar ein gallu cyfreithiol yma yn Llywodraeth Cymru. Felly, y peth pwysicaf, yn fy marn i, oedd sicrhau bod pobl yn gwybod cyn gynted â phosibl y byddai'r cymorth hwnnw ar gael.
Nid oes gennyf i unrhyw broblem gyda chi'n gwneud cyhoeddiadau ar ddydd Sadwrn; mae'n fater o anfon copi atom ni hefyd efallai pan fyddwch chi'n rhoi gwybod i bobl o fewn y sector bod cyhoeddiadau penodol yn cael eu gwneud. Oherwydd ein bod ni yma yn bennaf i graffu arnoch chi fel Gweinidog ac, a dweud y gwir, mae'n peri tipyn o gywilydd i ni gael gwybod gan sefydliadau allanol eich bod chi wedi gwneud cyhoeddiadau mor bwysig â hyn. Rwy'n credu, yn y dyfodol, y byddai'n gwrtais, a gaf i ddweud, i roi gwybod i ninnau hefyd.
Nawr, yn amlwg, mae'r sector cig eidion mewn sefyllfa fregus hefyd, gan wynebu colledion sylweddol, ac maen nhw'n gweld tebygrwydd amlwg rhyngddyn nhw eu hunain a llawer o'r rhai hynny yn y sector llaeth. Maen nhw hefyd yn meddwl tybed pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i'w cefnogi nhw. Yn amlwg, rydych chi wedi amlinellu mentrau yn ymwneud â Hybu Cig Cymru a hyrwyddo rhywfaint o'r cynnyrch a gobeithio cryfhau rhywfaint o'r galw yn y farchnad allan yna, ond fe wnes i ofyn i chi yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf am ymyraethau mwy uniongyrchol i gefnogi'r sector cig eidion hefyd, a gofynnais i chi am rai o'r meini prawf y byddech chi'n eu defnyddio. Ni chefais i eglurder pendant, mewn gwirionedd, o ran eich meddylfryd yn hynny o beth, felly a wnewch chi ymhelaethu rhywfaint, efallai, gan eich bod wedi cael amser i feddwl amdano, o ran pa fath o feini prawf a fyddai'n sbarduno ymyrraeth debyg o ran y sector cig eidion. Rwy'n credu y byddai llawer allan yna yn gwerthfawrogi dim ond cael deall eich meddylfryd ynghylch hynny.
Gofynnais i chi hefyd am y cynllun grant cynaliadwy, sydd â dyddiad cau o 19 Mai, yr wythnos nesaf, ond mae angen dyfynbrisiau ar y ceisiadau hynny ar gyfer gwaith cyfalaf, adroddiadau seilwaith, ac ati, sy'n amhosibl eu llunio heb fynd ar y ffermydd, ac ni ellir gwneud hynny, wrth gwrs, o dan yr amgylchiadau presennol. Felly, a allwch chi—ar ôl dweud y byddech chi'n ymchwilio i hyn gyda'ch swyddogion yn syth ar ôl y cyfarfod—ddweud wrthym ni a fydd estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer y cynllun grant cynaliadwy?
Ac mae Llywodraeth Cymru, trwy Taliadau Gwledig Cymru, yn ôl y sôn, wedi penderfynu atal yr holl gymorth ariannol i'r sector coedwigaeth preifat yn y dyfodol rhagweladwy. Y rheswm, yn ôl y sôn, am hynny yw bod angen arbedion i dalu costau ychwanegol ymdrin â'r pandemig. Felly, a allwch chi gadarnhau a yw hynny'n wir?
Hefyd, gan gyfeirio at y cwestiwn cynharach ynghylch ariannu rhai o'r ymyraethau ychwanegol y mae eu hangen arnoch yn awr o ganlyniad i'r pandemig, a wnewch chi egluro i ni sut yr ydych chi'n blaenoriaethu neu'n ailflaenoriaethu cyllidebau o fewn eich adran ac egluro o ble yn arbennig yr ydych chi'n tynnu'r arian i'w fuddsoddi mewn mannau eraill? Diolch.
Diolch, ac rwy'n falch eich bod chi wedi croesawu'r cymorth i'r sector llaeth ac wedi cydnabod ei fod yn sylweddol. Ac rydych chi yn llygad eich lle am y sector cig eidion—mae'n amlwg bod pryderon ynghylch hynny. Roedd y llynedd yn flwyddyn anodd i gynhyrchwyr cig eidion, ac rwy'n gwybod eu bod yn cael anawsterau i gynnal cynaliadwyedd y sector. Rydym yn ystyried pa feini prawf y byddem ni'n eu defnyddio i weld a oes angen i ni, yn amlwg, gyflwyno cynllun pwrpasol ar gyfer cig eidion, ac mae fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, â gweinyddiaethau eraill yn Llywodraeth y DU. Maen nhw'n monitro'r prisiau yn wythnosol. Rydym ni'n cael diweddariadau rheolaidd gan Hybu Cig Cymru, ac mae'n bwysig iawn bod gennym ni'r wybodaeth ddiweddaraf honno i'n helpu ni i wneud penderfyniadau.
O ran y grantiau ffermio cynaliadwy, rwy'n sicr yn edrych i weld a allwn ni ymestyn hynny, a byddaf yn gwneud penderfyniad ar hynny o fewn y ddau ddiwrnod nesaf.
O ran cyllidebau, mae'n amlwg ein bod ni'n gorfod ail-greu'r gyllideb yng ngoleuni pandemig COVID-19. Yn amlwg, byddwn yn cael ein cyllideb atodol gyntaf fel Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach y mis hwn ac, yn amlwg, bydd Aelodau yn gallu craffu arni bryd hynny.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Dyma'r tro cyntaf i mi ymddangos trwy Zoom, a hoffwn gofnodi fy niolch i staff y Senedd sydd wedi gwneud hyn yn bosibl—roedd hynny oherwydd fy amgylchiadau fy hun gartref. Ac fe fyddaf yn defnyddio'r cyfle hwn, hefyd, i ddiolch o galon i'r holl weithwyr allweddol sydd wedi cadw'r wlad hon i fynd, ac i'r rhai hynny sy'n dilyn y rheolau ac yn chwarae eu rhan.
Mae rhai, fel ninnau, nad yw'r pandemig wedi effeithio arnyn nhw yn ariannol i raddau helaeth; nid yw eraill mor ffodus. Ar y dechrau, cefais i fy synnu gan gyflymder a graddfa ymateb Llywodraeth y DU yng nghyswllt y cynllun ffyrlo a phecynnau cymorth eraill. Fodd bynnag, yn fy marn i, mae cymorth Llywodraethau Cymru a'r DU i ffermwyr wedi dangos diffyg paratoi sylweddol ac mae wedi bod yn hynod hirwyntog, yn enwedig ar gyfer y diwydiant llaeth. Dim ond yr wythnos diwethaf y cafodd cymorth ei gyhoeddi o'r diwedd, tra bod eraill wedi bod ar ffyrlo ar 80 y cant o'u cyflog am oddeutu wyth wythnos. Mae wedi bod yn araf iawn.
Yn y dyddiau cynnar, cyn ac ar ôl y cyfyngiad symud, fe wnaethom ni weld sut, yn sydyn, y daeth cyflenwadau bwyd yn arbennig a rhai nwyddau cartref yn hollbwysig. Mae banciau bwyd wedi bod yn crefu am gymorth, ac eto mae llaeth amrwd wedi ei daflu i lawr y draen. Dyna wastraff o fwyd hanfodol a ffynhonnell incwm i ffermwyr llaeth. Rwy'n croesawu'r ffaith fod cymorth ar gael erbyn hyn, ond rwy'n pryderu am yr holl fiwrocratiaeth y mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ffermwyr ei oresgyn i'w chael. Rwyf i mor falch eich bod chi'n rhoi'r pwyslais ar sicrhau bod y trefniadau yn iawn. Rydych chi newydd ddweud bod tua 100 o ffermwyr sydd wedi gwneud cais am y grant hwn. A allwch chi gadarnhau yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud, y bydd yr arian yn eu cyfrifon banc o fewn chwech i 10 diwrnod?
Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i holl Weinidogion Llywodraeth Cymru a'u staff am eu hymdrechion yn ystod y cyfnod hwn. Mae'n amlwg wedi bod yn dasg anferthol i bawb.
Ac yn olaf, wrth edrych i'r dyfodol, bydd gwersi i'w dysgu ac arloesedd i'w ddathlu. Rwyf i yn gwerthfawrogi ei bod hi'n ddyddiau cynnar, ond mae gen i ddiddordeb mewn clywed yr hyn y byddwch chi'n ei wneud i ymwreiddio'r polisïau hyn yn ymarferol, wrth symud ymlaen. Diolch.
Diolch, Mandy Jones. Nid wyf i'n credu ein bod ni wedi bod yn araf iawn o gwbl; rwyf i'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb mor gyflym â phosibl. Fel y dywedais i mewn atebion cynharach i Andrew ac i Llyr, mae prosesau cyfreithiol y mae'n rhaid i chi eu dilyn. Dyna sut y mae hi pan fyddwch chi'n ymdrin ag arian cyhoeddus, ac rwy'n credu mai chi fyddai un o'r bobl gyntaf i'n beirniadu ni pe na byddem ni'n ei wneud yn iawn. Felly, roedd hi'n bwysig iawn i wneud pethau'n iawn.
Os edrychwch chi ar y gronfa cadernid economaidd, er enghraifft, mae hynny'n unigryw i Gymru. Rwy'n credu y cafwyd 9,000 o geisiadau yn y dyddiau cyntaf un. Felly, gallwch chi weld, fel y gwnaethoch chi ddweud—a diolch i chi am ddiolch i Lywodraeth Cymru, ac mae hynny'n golygu pob un ohonom ni—mae pobl yn gweithio'n anhygoel o galed i gefnogi pobl Cymru. Ond mae pethau yn cymryd amser, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cael pethau'n iawn.
Wnes i ddim dweud bod 100 o ffermwyr wedi gwneud cais, yr hyn ddywedais i oedd mai'r dadansoddiad gwreiddiol oedd y byddai oddeutu 100 o ffermwyr llaeth, mae'n debyg, a fyddai wed eu heffeithio—a fyddai'n bodloni meini prawf y cynllun. Rydych chi'n gofyn a oes modd cael yr arian allan iddyn nhw mewn chwech i 10 diwrnod. Felly, yn sicr, gyda'r cynllun pysgodfeydd—ac rwy'n cymharu mewn ffordd oherwydd, yn amlwg, bod hynny ar waith eisoes—rwy'n credu, gyda'r holl geisiadau a ddaeth i law, fod pysgotwyr wedi cael eu harian o fewn 10 diwrnod, felly byddwn i'n sicr yn gobeithio gwneud hynny. Nid wyf i'n gefnogwr brwd o fiwrocratiaeth; rwy'n hoffi ffyrdd syml, anfiwrocrataidd o weithio, ac rwy'n credu, yn sicr, bod y pysgotwyr wedi croesawu'n fawr pa mor gyflym y maen nhw wedi cael eu harian.
Dylai pob gwers gael ei dysgu, boed yn dda neu'n ddrwg, ac, yn amlwg, mae pethau'n mynd i fod yn wahanol iawn. Rwy'n credu i mi glywed Rebecca Evans yn dweud ar y diwedd, na fydd bywyd yr un fath eto, ac nid wyf i'n credu y bydd yr un fath eto mewn sawl ffordd. Mewn rhai ffyrdd, yn fy marn ni, nid ydym ni eisiau i fywyd fod yr un fath eto. Rwy'n gobeithio y bydd yr holl bethau yr ydym ni wedi eu dysgu, ac, unwaith eto, y math o newid mewn ymddygiad yr ydym ni wedi ei weld—pobl yn gwerthfawrogi natur a chefn gwlad mewn modd nad ydyn nhw wedi ei wneud o'r blaen. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw'r newid ymddygiad hwnnw, ac, yn sicr, dywedais yn fy natganiad fod adferiad gwyrdd yn bwysig iawn. Felly, ydw, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n ymgorffori'r gwersi hynny wrth lunio ein polisïau.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am bwysleisio'r angen i gynhyrchu bwyd i'r safon uchaf a chwarae ein rhan wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Diolch hefyd am ailagor canolfannau garddio, sydd, yn amlwg, yn diogelu busnesau bach yn bennaf. Ond rwy'n dymuno ein hatgoffa ni, beth bynnag y mae garddwyr amatur yn gallu ei gynhyrchu o ran ffrwythau a llysiau, nad yw'n mynd i'r afael â'r diffyg sydd gennym ar hyn o bryd o ran y nifer enfawr o lysiau ac, yn enwedig, ffrwythau yr ydym yn dibynnu arnyn nhw o fewnforion. Felly, gwn fod Cynghrair Gweithwyr Tir Cymru wedi ysgrifennu atoch ynghylch sut y gallem ehangu'r broses o gynhyrchu ffrwythau a llysiau, ac roeddwn yn meddwl tybed sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen â chynhyrchu masnachol er mwyn gwella'r camau i ddiogelu'r cyflenwad bwyd.
Yn ail, rwyf eisiau eich holi am lygredd aer. Mae'n rhy gynnar o lawer i nodi'r gydberthynas rhwng llygredd aer a lledaeniad COVID, ond gwyddom fod 1,700 o fywydau wedi'u hachub ledled Prydain gan aer glanach yn ystod y cyfyngiadau symud hyn, a gwyddom hefyd fod clefydau sy'n cael eu hachosi gan lygredd aer, fel clefyd y galon, diabetes a chlefyd cronig rhwystrol yr ysgyfaint, i gyd yn gwaethygu siawns rywun o gael COVID a pheidio â'i oroesi. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni pa waith y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau, wrth adfer yn dilyn COVID, ein bod yn cynnal y gwelliannau o ran aer glanach ac yn sicrhau ei fod ar flaenau meddyliau pobl pan fyddwn yn ail-lunio ein systemau trafnidiaeth gyhoeddus a'r ffordd y gall pobl gyrraedd eu gwaith a'u hysgol yn ddiogel.
Diolch, Jenny. Nid wyf yn credu fy mod wedi cael gweld yr ohebiaeth y gwnaethoch chi gyfeirio ati, ond rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am dyfu ffrwythau a llysiau, ac yn amlwg yn adolygiad rheoleiddio Llywodraeth Cymru ddydd Iau diwethaf, ers dydd Llun, mae canolfannau garddio wedi gallu agor. Rwy'n credu ei fod wedi cael derbyniad da iawn gan y cyhoedd yng Nghymru.
Mae garddwriaeth yn ganran fach iawn o'r sector amaethyddol, mae tua 1 y cant, ond rwy'n credu ei fod yn sector twf allweddol, ac yn sicr os yw'r pandemig hwn wedi dysgu un peth i ni, mae'n ymwneud â chynaliadwyedd a diogelwch ein bwyd. Felly, rwy'n credu neithiwr, gwnaeth swyddogion fynychu yn Sir Benfro, o bell, cyfarfod o grŵp brwdfrydig iawn o bobl sydd eisiau ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud o ran rhwydweithiau cymunedol o ran tyfu ffrwythau a llysiau. Unwaith eto, rwy'n credu ei fod yn ymwneud â newid ymddygiad. Rydym yn gweld mwy o bobl yn tyfu ffrwythau a llysiau ar hyn o bryd ac yn plannu, a dyna un o'r rhesymau pam yr oeddem yn credu y dylai'r canolfannau garddio, ar yr amod eu bod yn arfer cadw pellter cymdeithasol—ac mae llawer ohonyn nhw yn yr awyr agored—fod ar agor.
O ran llygredd aer, mae hyn yn mynd yn ôl at yr hyn yr oeddwn i'n ei ddweud wrth Mandy Jones am newidiadau ymddygiad, ac yn sicr rwy'n credu bod gennym ar hyn o bryd—. Mae'n rhaid i ni bob amser chwilio am gyfleoedd pan fydd cymaint o heriau, ac un cyfle yw mesur y newid mewn llygryddion aer o ganlyniad i lai o weithgarwch teithio a masnachol. Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni eisiau ei ddeall yw lle y canfuwyd gwelliannau o ran ansawdd aer, sut y mae hynny wedyn yn effeithio ar iechyd y cyhoedd a sut y mae'n effeithio ar yr amgylchedd naturiol. Mae'n hanfodol ein bod yn deall yn llawn y newid yn y tirlun ansawdd aer a datblygu cynigion polisi yn y dyfodol i ymwreiddio'r newid ymddygiad hwnnw y cyfeiriais ato mewn unrhyw welliannau ar gyfer y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae swyddogion yn cydweithio â phartneriaid allanol i ddatblygu dealltwriaeth fwy soffistigedig o'r newidiadau mewn ansawdd aer ers cyflwyno cyfyngiadau symud, a dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf bydd hyn, unwaith eto, yn cefnogi unrhyw benderfyniadau ar reoli ansawdd aer trawslywodraethol, ein polisi yn y dyfodol a'n deddfwriaeth yn y dyfodol, sydd, fel y gwyddoch, yn eithaf swmpus yn y maes hwn. Felly, mae hynny'n cynnwys ein cynllun aer glân, ein Bil aer glân a strategaeth drafnidiaeth Cymru, ac mae hynny'n cynnwys cynigion ar gyfer teithio llesol.
Prynhawn da, Gweinidog. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno â llawer iawn o'r sylwebaeth a wnaed gan Mandy Jones. Yn fy etholaeth fy hun rwyf wedi bod â ffermwyr sydd wedi gorfod mynd allan a dod â'u gwartheg i mewn, godro eu gwartheg ac yna arllwys y llaeth hwnnw i ffwrdd, ac mae'r teimlad yn hollol wahanol i fod â siop, lle efallai y bydd yn rhaid i chi gau'r drysau, ond mae'r ffa pob ac ati yn dal i aros ar y silff. Mae hwn yn fusnes personol iawn ac maen nhw wedi bod yn brwydro am amser hir, ac rwy'n credu ei bod wedi cymryd amser hynod o hir i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i ateb.
Yn eich ymateb ar eich datganiad fe wnaethoch chi sôn am y clwstwr bwyd a diod. Mae gennyf un maes penodol yr wyf yn dymuno tynnu eich sylw ato sef hwnnw sy'n ymwneud â gwinllannoedd yng Nghymru. Mae gennym dros 57 hectar o winllannoedd yn tyfu ledled Cymru, dros 30 o winllannoedd, ac maen nhw'n cynhyrchu gwinwydd arobryn o safon uchel. Amcangyfrifir bod twristiaeth gwin yn cyfrannu dros £10 miliwn y flwyddyn at gynnyrch domestig gros, ond ni allan nhw gael gafael ar ryddhad ardrethi busnes, grantiau sy'n seiliedig ar werthoedd ardrethol, y gronfa cadernid economaidd, cynllun ffyrlo i gyflogeion neu gymhorthdal incwm hunangyflogaeth. Rwy'n gofyn gan fod gennyf gymaint o winllannoedd yn fy etholaeth i ac, o'm safbwynt i, rwy'n credu ei fod yn fwyd a diod hollbwysig i'w gadw: a fyddech chi'n ystyried edrych ar y sector arbennig hwn a'r hyn y gallwch chi ei wneud i gefnogi'r diwydiant hwn? Oherwydd mae'n dod â chymaint o fri i Gymru bod y cynnyrch bendigedig hwn yn cael ei dyfu yn ein caeau a'n dyffrynnoedd.
Diolch i chi, Angela, am eich cwestiwn ynghylch y cymorth i winllannoedd Cymru, y byddaf yn troi ato mewn eiliad. Pan ofynnodd Mandy Jones i mi am y llaeth a oedd wedi'i arllwys i ffwrdd, rydych yn llygad eich lle ynglŷn â banciau bwyd, ac mae Llywodraeth Cymru yn edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud i gefnogi banciau bwyd. Gwn fod Hannah Blythyn, sy'n arwain ar hynny, yn gwneud llawer iawn o waith gyda'r rhai annibynnol a gydag Ymddiriedolaeth Trussell a gyda FareShare. Gwn ein bod wedi arllwys llaeth i ffwrdd pan nad oedd un o'r proseswyr wedi casglu'r llaeth, a chytunaf yn llwyr â chi: pan gawsom y problemau hyn gyda Tomlinson yn y gogledd-ddwyrain, cofiaf i un ffermwr ddweud wrthyf i ei fod yn un o'r pethau gwaethaf a oedd erioed wedi digwydd iddo yn ei yrfa. Felly, rwy'n deall yn llwyr eich safbwynt o ran hynny.
O ran gwinllannoedd, rydych chi'n llygad eich lle; mae gennym ni enw da sy'n tyfu, rwy'n credu, am win o Gymru, ac rwy'n gwybod ychydig wythnosau yn ôl roedd hi'n noson gwin o Gymru, ac roedd hi'n wych gweld ar y cyfryngau cymdeithasol gymaint o bobl yn mwynhau gwin o Gymru. Rydym eisoes wedi dechrau edrych ar yr ystod o fesurau cymorth i fusnesau y gallen nhw ymgeisio amdanynt. Gwn y gallai rhai gwinllannoedd fod yn gymwys ar gyfer y cynllun rhyddhad ardrethi annomestig. Unwaith eto, mae'n dibynnu ar feini prawf penodol, ac mae gan awdurdodau lleol y pŵer i roi rhyddhad yn ôl eu disgresiwn iddyn nhw os ydyn nhw y tu allan i'r cynlluniau ardrethi annomestig sefydledig. Rydym hefyd wedi cyhoeddi rhai meini prawf ychwanegol o ran y gronfa cadernid economaidd, a gwn ei bod wedi'i rhewi ar hyn o bryd. Soniais mewn ateb cynharach am y nifer sylweddol o geisiadau yr ydym wedi'u cael, ond efallai y byddan nhw'n gymwys ar gyfer hynny hefyd. Ond yn amlwg, os oes angen i mi edrych ar unrhyw beth yn benodol, ac fel y gwnaethoch chi ei ddweud, yn eich ardal chi mae gennych chi—. Rwy'n credu bod tua 15 o winllannoedd yng Nghymru, ac mae gennych chi nifer sylweddol ohonyn nhw yn eich etholaeth chi. Ond os hoffech chi ysgrifennu ataf i, os oes unrhyw un sy'n dymuno gweld yn benodol a allan nhw gael gafael ar ryw gymorth, neu efallai gan Lywodraeth y DU hefyd, byddwn yn hapus iawn i edrych ar hynny.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad. Gweinidog, yn eich datganiad fe wnaethoch chi gyfeirio at y cynllun bocs bwyd, a chredaf y bydd llawer o'n hetholwyr ledled Cymru gyfan, rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed, wedi bod yn ddiolchgar iawn amdano, ond gwn eich bod yn ymwybodol y bu rhai problemau. Nid yw wedi bod yn bosibl cynnwys bwyd lleol a chynnyrch lleol, er enghraifft, ac yn sicr rwy'n gwybod bod rhywfaint o'r bwyd ffres, pan gyrhaeddodd, yn fy rhanbarth i yng Ngheredigion wedi bod heibio ei ddyddiad gwerthu neu, mewn rhai achosion, yn anffodus, wedi pydru, mewn gwirionedd. A wyf i'n iawn i ddeall, Gweinidog, ei fod bellach wedi cyrraedd y pwynt gyda'r contract hwnnw lle mae cymal terfynu ac y byddwch chi'n gallu ailystyried sut y gellid darparu'r bocsys bwyd? Gwn fod awdurdodau lleol yn fy rhanbarth i, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, a fyddai'n awyddus iawn i ymgymryd â'r gwaith hwnnw ar eich rhan, a byddai hynny'n eu galluogi i weithio gyda chwmnïau lleol a chyda chyflenwyr bwyd lleol fel y byddai pobl yn cael bwyd mwy ffres ac y bydden nhw hefyd yn cefnogi cadwyni bwyd lleol. Felly, tybed a wnewch chi ddweud rhagor wrthym am hynny heddiw. Nid yw hynny'n beirniadu'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud, nid dyna'r wyf yn ei feddwl, ond rwy'n credu nawr y dylai fod cyfle i ni ddefnyddio'r buddsoddiad hwnnw nid yn unig i gefnogi'r dinasyddion mwyaf agored i niwed, sef y peth pwysicaf, ond hefyd i gefnogi ein cynhyrchwyr bwyd lleol.
Diolch, Helen Mary, ac rwy'n credu bod y cynllun bocs bwyd wedi bod yn anhygoel o lwyddiannus a hoffwn dalu teyrnged i'r swyddogion wnaeth sefydlu'r cynllun yn gyflym iawn. Fel yr ydych chi'n dweud, rhain yw'r grŵp a warchodir, y grŵp o bobl mwyaf eithriadol o agored i niwed. Fe wnaethom ni'n siŵr o'r dechrau fod y bocsys yn cynnwys peth bwyd o Gymru. Felly, bara, bisgedi, roedd yna datws a llysiau eraill, ac yna rydym wedi ychwanegu at hynny. Felly, erbyn hyn, mae sudd ffrwythau, rwy'n credu, neu ddŵr â blas arno sydd wedi'i ychwanegu ato. Rydych yn llygad eich lle, rydym ni bellach yn wythnos 6 y cynllun. Yn amlwg, cafodd ei gyhoeddi ar y dechrau fel cynllun 12 wythnos ac fe wnaethom ni ddweud y byddem ni'n adolygu'r cynllun pan fyddem ni hanner ffordd, felly mae'r adolygiad hwnnw'n cael ei gynnal.
Rwy'n ymwybodol o Geredigion a chefais rywfaint o ohebiaeth am rai ffrwythau oedd wedi llwydo. Dydyn ni ddim wedi gallu olrhain ai ffrwyth yr oedd mewn gwirionedd ac o ble yr oedd wedi dod, ond yn amlwg rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y cynnyrch sy'n cyrraedd o'r safon uchaf, a bod swyddogion wedi gweithio ar hynny. Felly mae gennym ddanfoniad bocs cudd, os mynnwch chi, i wneud yn siŵr bod popeth yn cael ei wneud yn hollol gywir oherwydd, fel yr ydych yn ei ddweud, y rhain yw'r rhai mwyaf eithriadol agored i niwed, felly mae'n bwysig iawn bod y bocs bwyd hwnnw yn cyrraedd yn wythnosol, os mai dyna beth y mae person eisiau ei dderbyn.
Felly, ar hynny, ie, Ceredigion, rwyf wedi cael trafodaethau gydag arweinydd Ceredigion ynglyn â nhw yn gwneud eu cynllun eu hunain. Fy mhrif bryder yw bod ganddyn nhw gynllun cynaliadwy. Mae'n bwysig iawn, os byddan nhw'n dweud, 'Wel, fe wnawn ni ddarparu'r 500 bocs', neu faint bynnag o bobl eithriadol agored i niwed sydd eisiau'r bocsys hyn, eu bod nhw'n gallu cynnal y bocsys hynny. Rydym ni mewn gwirionedd yn gofyn i Geredigion gynnal cynllun treialu ar ein cyfer. Rwy'n credu bod hwnnw'n dechrau'r wythnos nesaf, ar ddechrau wythnos 7, ond rydym ni'n amlwg yn mynd i allu monitro hynny i weld a fydd awdurdodau lleol eraill sydd eisiau gwneud hynny yn medru gwneud hynny. Ond y peth pwysicaf yw—byddai'n wych defnyddio mwy o gynnyrch o Gymru, wrth gwrs—ond bod y bocsys hynny'n gynaliadwy, oherwydd ni allwn gael unigolyn a warchodir yn peidio â derbyn y bocs. Ond rwy'n hapus iawn i weithio gyda'r awdurdodau lleol ac, fel yr wyf yn ei ddweud, mae Ceredigion yn mynd i gynnal cynllun treialu ar ein cyfer.
Mike Hedges. Ni allaf weld Mike Hedges. Y gwahaniaeth sylweddol rhwng eistedd a chadeirio yn y Senedd yw fy mod i'n gwybod yn union ble yr ydych chi'n eistedd yn y Senedd; ar fy sgrin Zoom, rydych chi'n cadw symud o gwmpas, ac yn enwedig Mike Hedges, sydd newydd ailymddangos fel yr oeddwn yn siarad. Galwaf arnoch chi, Mike Hedges.
Diolch, Llywydd. Hoffwn siarad am les anifeiliaid. A gaf i ddweud bod Andrew Davies yn siarad ar ran llawer ohonom ni yn y Cynulliad pan soniodd am yr angen am gyfraith Lucy? Credaf fod cefnogaeth bron yn unfrydol i gyflwyno cyfraith Lucy, ac a gaf i ddweud y byddai'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn gwneud unrhyw beth yr ydych chi'n ei ofyn i ni er mwyn i gyfraith Lucy gael ei gweithredu yng Nghymru?
A gaf i ofyn i chi hefyd: a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch yr Ymddiriedolaeth Cŵn ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud o ran cefnogi'r bobl hynny sy'n ddigartref o ran gofalu am eu cŵn a cheisio gwneud yn siŵr nad ydyn nhw'n colli eu ci neu nad oes yn rhaid iddyn nhw aros yn ddigartref er mwyn cadw eu cŵn?
O ran dau faes arall o les anifeiliaid, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cod ymarfer newydd sydd wedi'i argymell ar gyfer cadw cwningod? A beth yw sefyllfa bresennol canllawiau'r Llywodraeth ar gyfer cadw primatiaid, a phryd y bydd hynny'n cael ei gynnig? Er, os mai fy mhenderfyniad i oedd hynny, byddwn yn gwahardd cadw primatiaid gan fy mod yn credu bod hynny'n anghywir yn ei hanfod, ond os bydd y Llywodraeth yn gweithredu, a wnewch chi ddweud wrthym ni pryd y mae'n debygol o ddigwydd?
Diolch, Mike, a diolch i chi am y cynnig hwnnw gan y pwyllgor yr ydych chi'n ei gadeirio i'm cefnogi gyda chyfraith Lucy. Rydych chi yn llygad eich lle, rwy'n credu bod ewyllys wleidyddol unfrydol i weld cyfraith Lucy yma yng Nghymru, ac mae hynny'n cynnwys fi fy hun hefyd. Dywedais mewn ateb cynharach, fel y clywsoch chi, i Andrew R.T. Davies y byddaf yn cwrdd â'r prif swyddog milfeddygol yfory a swyddogion, ac mai'r cyfan sydd angen ei wneud yw sicrhau bod gennym ni amser yn y rhaglen ddeddfwriaethol honno. Ond rwy'n siŵr y bydd pob aelod yn cydnabod y galw aruthrol ar y rhaglen ddeddfwriaethol ynglŷn ag, yn amlwg, yng ngoleuni pandemig COVID-19, ond hefyd wrth i ni fynd drwy gyfnod pontio'r UE.
Gwelais fy hun yn fy mewnflwch AS, e-bost oddi wrth yr Ymddiriedolaeth Cŵn y bore yma ac roeddwn yn credu ei fod yn ardderchog, y gwaith yr oedden nhw'n ei wneud ynglŷn â phobl ddigartref a'u cŵn. Felly, ydw, rwy'n falch iawn o gymeradwyo hynny hefyd.
O ran y ddau god ymarfer yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, yn amlwg y gwaith hwnnw, mae'n parhau, ond mae'n bosibl ei fod wedi'i oedi yng ngoleuni COVID-19. Felly, fe wnaf i ddiweddaru'r Aelodau cyn gynted ag y bydd gennyf fwy i'w ddweud am hynny.
Gweinidog, rydych chi wedi sôn yn gyson am les anifeiliaid heddiw ac, wrth gwrs, ers i chi gael eich penodi i'r swyddogaeth bwysig hon, ac rwy'n rhannu eich ymrwymiad i les anifeiliaid. Un peth y gallech chi ei wneud i gefnogi lles anifeiliaid yn yr argyfwng presennol yw sefydlu cronfa gymorth sŵau Cymru. Byddwch chi'n ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu cronfa gymorth gwerth £14 miliwn ar gyfer sŵau i gefnogi lles anifeiliaid mewn sŵau, acwaria ac atyniadau anifeiliaid eraill yn Lloegr i'w helpu yn ystod y pandemig. Mae'r gronfa honno'n darparu hyd at £100,000 ar ben y cymorth arall sydd eisoes ar gael gan y Trysorlys, i gydnabod bod gan sŵau anifeiliaid o hyd sydd angen gofal er gwaethaf y ffaith eu bod ar gau ac nad ydyn nhw yn derbyn unrhyw incwm o werthiant tocynnau.
Nawr, wrth gwrs, gallai'r math hwn o gronfa roi hwb enfawr i atyniadau anifeiliaid ledled Cymru, gan gynnwys Sŵ Mynydd Cymru yn fy etholaeth i, a lleoedd fel Sŵ Môr Môn, SeaQuarium y Rhyl a lleoedd eraill yn y gogledd ac, yn wir, ledled y genedl gyfan. A wnewch chi ymrwymo heddiw i sefydlu cronfa gymorth ar gyfer sŵau Cymru i gefnogi lles anifeiliaid yn ein sŵau ac atyniadau anifeiliaid ledled Cymru?
Diolch. Ar hyn o bryd, nid ydym wedi ymrwymo i gynllun sŵ gan fod sŵau yn gallu gwneud cais am arian o'r cynllun cadernid economaidd sydd, fel y byddwch yn ei werthfawrogi, yn unigryw i Gymru. Felly, roedd y cyllid hwnnw yno o'r cychwyn cyntaf, mewn gwirionedd, ar gyfer sŵau. Ond yr hyn a wnaethom ni tua thair neu bedair wythnos yn ôl erbyn hyn—rwy'n credu mai tua 24 Ebrill oedd hi—ysgrifennodd swyddogion at yr holl sŵau yng Nghymru gyda manylion y cynlluniau presennol y bydden nhw'n gymwys i gael eu hariannu ganddyn nhw. Ond fe wnaethom ni hefyd gyhoeddi holiadur ynghyd â'r ohebiaeth honno er mwyn i ni allu nodi pa bryderon lles anifeiliaid allweddol oedd gan y sŵau. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae yna rai sŵau mawr iawn; rwy'n ymwybodol iawn o Sŵ Mynydd Cymru yn eich etholaeth chi, ac mae rhai yn fach iawn, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cael syniad gan bob un ohonyn nhw ynglŷn â beth oedd y materion dan sylw.
Roeddwn i hefyd eisiau gweld a oedd unrhyw fylchau ariannu yr oedd angen i ni eu hystyried. Ar hyn o bryd, mae tua 17—. Yn sicr, y tro diwethaf i mi ofyn i Christianne, roedd tua 17 o ymatebion wedi'u derbyn. Roedd hynny'n cynnwys dwy arddangosfa anifeiliaid, felly nid ydyn nhw'n sŵau trwyddedig, felly roedd tua 15. Mae'r rhan fwyaf wedi nodi eu bod wedi gallu cael gafael ar y cyllid a oedd ar gael eisoes, a naill ai maen nhw wedi'i dderbyn neu maen nhw wedi gwneud cais am y cyllid o gynlluniau amrywiol y Llywodraeth. Yna, aethom ati i ysgrifennu atyn nhw i gyd yn rhoi diweddariad pellach iddyn nhw, rwy'n credu, ar ddechrau'r wythnos hon, mae'n debyg. Felly, byddwn i'n amlwg yn cadw llygad barcud arno ond, ar hyn o bryd, nid wyf yn cyflwyno cynllun penodol oherwydd nid wyf yn credu bod angen hynny ar hyn o bryd. Ond yn amlwg, mae iechyd a lles anifeiliaid yn bwysig iawn, felly byddwn ni'n ei adolygu'n rheolaidd.
Gweinidog, rwyf wedi bod yn siarad â gwahanol randdeiliaid yn y diwydiant bragu yn rhan o'm swyddogaeth fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gwrw a thafarndai, ac maen nhw'n iawn i bryderu am ddyfodol y diwydiant pwysig iawn hwn. Felly, tybed a wnewch chi wneud rhai sylwadau ynglŷn â pha fath o gymorth sydd ar gael iddyn nhw gan Lywodraeth Cymru, a yw'r bragwyr yng Nghymru yn cael y cymorth hwnnw ai peidio, ac a fydd cymorth tymor hir ar gael i sicrhau dyfodol y diwydiant pwysig iawn hwn yng Nghymru ar ôl y coronafeirws?
Diolch, Jack. Ar hyn o bryd, mae swyddogion yn gwneud ychydig o ymchwil ynghylch p'un a yw bragwyr yn defnyddio'r benthyciadau, y grantiau, a'r rhyddhad COVID-19 sydd ar gael. Fe fyddwch chi'n ymwybodol, cyn COVID-19, ein bod ni wedi cynnig llawer iawn o gymorth i'r sector diodydd. Mae gennym ni'r clwstwr diodydd, yr ydych chi'n ymwybodol ohono, ac rydym ni'n rhoi llawer iawn o gymorth i fragwyr ac i'r sector diodydd yn gyffredinol.
Rwy'n credu eich bod chi'n iawn am y dyfodol; rwy'n credu bod yna rywfaint o bryder ymysg bragwyr. Roeddwn yn siarad â—byddwch chi'n ymwybodol iawn ohonyn nhw—Wrexham Lager, y gwnaethoch chi ymweld â nhw, yn fy etholaeth i, ac maen nhw'n fusnes sydd wedi llwyddo i fynd ar-lein, ac maen nhw hefyd wedi bod yn danfon nwyddau. Ac maen nhw'n amlwg yn pryderu bod ymddygiad pobl wedi'i newid o ran—. Yn amlwg, mae'r tafarnau wedi'u cau, y sector lletygarwch, felly mae'n amlwg bod yna bryder bod ffordd pobl o—y ffordd y maen nhw'n yfed yn newid; maen nhw wedi bod yn yfed gartref erbyn hyn. Felly, rwy'n credu bod pryder.
Felly, fel rwy'n dweud, rydym yn gwneud ychydig o ymchwil i weld pa gyllid y gallan nhw ei gael, ond rwy'n credu bod angen i ni edrych yn y tymor hwy, ac, yn sicr, y bwrdd cynghori ar y diwydiant bwyd a diod, maen nhw wedi bod yn edrych ar faterion yn ymwneud â hyn hefyd, a bydd y bwrdd yn fy nghynghori i wrth i ni symud ymlaen.
Byddwch yn ymwybodol o Brosiect HELIX hefyd. Byddwch wedi fy nghlywed yn sôn am Brosiect HELIX o'r blaen. Mae llawer o wasanaethau technegol y maen nhw'n eu darparu i'r bragdai, ac rwy'n credu y bydd angen i ni fwrw ymlaen â'r rhain hefyd. Ond rwy'n gwybod bod rhai ohonyn nhw wedi gallu sicrhau, dim ond o'r ymchwil cychwynnol y mae swyddogion wedi bod yn ei wneud, eu bod wedi gallu sicrhau cymorth o nifer o gynlluniau'r Llywodraeth. Ond, hefyd, gallai fod rhai yn disgyn drwy'r bylchau, felly efallai y bydd angen i ni ailedrych ar hyn unwaith y bydd y darn hwnnw o ymchwil wedi'i gwblhau.
Mwy na chwe wythnos i mewn i'r cyfyngiadau symud, mae'r eiriolwr defnyddwyr Which? wedi cyhoeddi eu canfyddiadau bod miloedd o bobl risg uchel iawn neu eithriadol agored i niwed ledled y DU yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y bwyd a'r cyflenwadau sylfaenol y maen nhw eu hangen yn ddybryd yng nghanol y pandemig coronafeirws. Ar sail y nifer enfawr o adroddiadau y maen nhw'n eu gweld gan bobl agored i niwed sy'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar fwyd a chyflenwadau sylfaenol, mae'n nhw'n dweud, er bod Llywodraethau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban wedi rhoi rhestri wedi'u golygu i'r archfarchnadoedd o'r rhai sy'n disgyn i'r categori eithriadol agored i niwed, mae'n glir nad yw'r system bresennol yn gweithio i'r rheini sydd ei hangen fwyaf. Felly, sut ydych chi'n ymateb i'w casgliadau seiliedig ar dystiolaeth, sef bod yn rhaid i'r llywodraethau ledled y DU yn awr gydgysylltu eu dull o weithredu ar frys er mwyn sicrhau nad oes raid i unrhyw un sy'n agored i niwed lywio systemau dryslyd, hirwyntog a chymhleth er mwyn cael bwyd yn ystod y cyfnod pandemig?
Diolch. Wel, yn sicr, nid wyf i'n credu bod yn rhaid i bobl yng Nghymru fod â system gymhleth; mae gyda ni yng Nghymru system syml iawn. Does dim rhaid i chi gofrestru yn y ffordd y mae'n rhaid i chi ei wneud yn Lloegr, ac rwyf wedi cwrdd â'r archfarchnadoedd yn rheolaidd dros y chwech i saith wythnos diwethaf; y tro diwethaf i mi gyfarfod â nhw oedd wythnos yn ôl i heddiw, ac rwy'n credu bod ein slotiau ar-lein yn gweithio'n dda iawn nawr. Yn sicr, roedd rhai pryderon yn y dechrau, ond unwaith yr oedd y system ar waith, fe wnaethom ni lwyddo i ddatrys yr anawsterau hynny, rwy'n credu, a rwy'n talu teyrnged i'r archfarchnadoedd, ac i'r holl staff manwerthu, sydd wedi gwneud yn siŵr ein bod wedi gallu bwydo'r genedl.
Hyd yn oed yr wythnos diwethaf, pan gafodd 21,000 o bobl ychwanegol eu hychwanegu i'r rhestr warchod yma yng Nghymru, yr oedd gan yr archfarchnadoedd y wybodaeth am y bobl hynny ar unwaith, a chadarnhaodd yr archfarchnadoedd hynny wrthyf. A hyd yn oed mewn niferoedd bach, os yw meddyg teulu wedi penderfynu ychwanegu claf at y rhestr warchod—roedden nhw'n gallu gwneud hynny, wrth gwrs; nid dim ond y prif swyddog meddygol oedd yn gallu gwneud hynny—aeth y data ar yr unigolyn hwnnw i'r archfarchnadoedd ar unwaith. Felly, nid wyf yn credu, yng Nghymru, ein bod ni wedi bod â system gymhleth. Yn sicr roedd anawsterau ar y cychwyn, a chafodd rheini eu datrys yn gyflym iawn.
Felly, roedd cynllun cydgysylltiedig ar draws y DU yn rhywbeth y gwnaethom ni ei ystyried. Penderfynodd Llywodraeth y DU eu bod eisiau bod â chynllun ar gyfer Lloegr. Fel rwy'n dweud, mae'n wahanol iawn i ein un ni, ond rwy'n credu, erbyn hyn yng Nghymru, ein bod ni wedi llwyddo. Ac, ynghyd â slotiau'r archfarchnad, a'r bocsys cyflenwi bwyd, y cyfeiriais atyn nhw yn fy atebion i Helen Mary Jones, rwy'n credu ein bod wedi gwneud pob ymdrech. Ac unwaith eto, rwy'n rhoi clod i gynifer o bobl sydd wedi gwneud yn siŵr ein bod wedi bod â system gadarn, yn enwedig ein hawdurdodau lleol, sydd wedi gweithio'n agos iawn gyda ni ar y bocsys cyflenwi.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Llywydd. Un o'r cwestiynau yr oeddwn i eisiau ei godi, nad wyf yn credu ei fod wedi'i godi hyd yma, oedd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun paru swyddi y gwnaethoch chi ei lansio bron i fis yn ôl. Fe wnaethoch chi ddweud ar y pryd—ac roeddem ni i gyd yn cytuno ein bod yn bryderus iawn am yr effaith yr oedd COVID-19 yn ei chael ar sectorau amaethyddol a garddwriaethol Cymru—y gallai fod prinder llafur posibl o fewn y diwydiannau hynny a diwydiannau tir eraill, wrth gwrs. Felly, er fy mod yn eich canmol chi am gymryd y camau cyflym a wnaethoch chi i fynd i'r afael â'r broblem honno, a oes gennych chi ddiweddariad—naill ai'n awr neu i'w roi yn y dyfodol—ynghylch sut y mae hynny'n gweithio?
Diolch i chi, Joyce. Yn amlwg, yr oedd gweithlu'r sector amaethyddol yn rhywbeth a oedd yn peri pryder inni, yn enwedig gyda—rwy'n credu mai tua 30 y cant sy'n gallu bod yn bobl o Ewrop, ac yn amlwg roedd hynny'n mynd i gael ei effeithio'n ddifrifol. Felly rydych chi yn llygad eich lle, fe wnaethom ni lansio’r cynllun paru sgiliau. Nid oes gennyf unrhyw ffigurau hyd yn hyn—roeddwn yn disgwyl rhywfaint o gyngor ddiwedd yr wythnos hon. Mae Lantra yn gweithredu'r cynllun i ni, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwysig iawn.
Ac nid casglu ffrwythau neu gasglu llysiau yn unig yw hyn, rydym ni'n pryderu'n fawr am gneifio defaid, er enghraifft, oherwydd, yn aml, mae nifer o bobl yn dod draw o Seland Newydd ac Awstralia, ac fel y gwyddoch chi, mae pobl fel arfer yn mynd o Gymru i Awstralia a Seland Newydd i gneifio defaid hefyd. Felly, rydym ni'n edrych ar hynny, a hefyd ar gontractwyr sy'n cael gwared ar slyri, er enghraifft. Felly, rwy'n credu bod nifer enfawr o weithwyr yr ydym ni'n mynd i'w gweld. Felly byddwn yn hapus iawn i roi diweddariad pan fydd y dadansoddiad hwnnw gennyf.
Mae hefyd yn rhywbeth yr ydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU arno. Rwy'n aelod o'r grŵp rhynglywodraethol gweinidogol, sy'n cyfarfod bob dydd, ond yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi trafod y gweithlu yn fanwl iawn. Rwyf wedi sôn yn flaenorol mai dim ond 1 y cant o'r sector amaethyddol yma yng Nghymru yw'r sector garddwriaeth, felly dydw i ddim yn credu ein bod ni wedi cael ein heffeithio gymaint â gwledydd eraill, ond mae'n rhywbeth yr ydym ni'n cadw llygad barcud arno, a byddwn ni'n sicr yn hapus iawn i roi diweddariad maes o law.
Diolch i'r Gweinidog. A dyna ni yn cyrraedd diwedd ein trafodion am y dydd. Diolch i chi i gyd.