5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 1 Gorffennaf 2020.
4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd darlledu yng Nghymru yn ystod pandemig Covid-19? OQ55367
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Ac fe gaf i o hyd i'r ateb mewn dau funud. Dyma ni. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a gydag Ofcom yng Nghymru yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus ar faterion darlledu sy'n effeithio ar Gymru, er gwaethaf y ffaith nad yw darlledu, wrth gwrs, wedi'i ddatganoli.
Gweinidog, yn ystod y pandemig cyfredol hwn, mae cywirdeb darlledu yn gyson wedi ein siomi ni yma yng Nghymru. Mae pobl yn credu nad yw'r sefyllfa efo rheolau gwahanol Cymru yn cael digon o amlygrwydd gan ddarlledwyr gwasanaethau cyhoeddus Prydeinig, felly. Rydym ni yma yng Nghymru yn cael ein bwydo yn aml efo gwallau beunyddiol neu wybodaeth anghyflawn ynglŷn â'r gwahanol reolau COVID yng Nghymru o'u cymharu â Lloegr, er enghraifft. Nawr, fel rydych chi wedi ei ddweud, ar hyn o bryd mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn cynnal ymchwiliad i ddatganoli darlledu i'r Senedd yma. Ond, yn y tymor byr, Dirprwy Weinidog, gyda'r pandemig yma yn dal ar waith, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus Prydeinig, y cyfryngau ehangach, ac, yn wir, Llywodraeth San Steffan, i sicrhau bod y negeseuon i bobl Cymru yn glir ac yn gywir?
Mae hwn yn fater i Ofcom, yn bendant, fel y corff rheoleiddio. Ac eto, gaf i ofyn am enghreifftiau? Bob tro rydym ni'n dod ar draws enghreifftiau fel Gweinidogion, neu fel swyddogion o'r Llywodraeth, rydym ni'n eu codi nhw'n uniongyrchol. Ond nid yng Nghymru y mae'r broblem. Mae'r broblem yn yr annealltwriaeth, mae gen i ofn, o gyfansoddiad y Deyrnas Unedig, yr annealltwriaeth o ystyr ac effaith datganoli gan ddarlledwyr sydd yn darlledu i Gymru o Loegr.
Dirprwy Weinidog, yn ogystal â darlledwyr mawr y sector cyhoeddus, mae llu o orsafoedd radio cymunedol a lleol a rhanbarthol ledled Cymru, ac rydym ni wedi gweld yn ystod y pandemig y rhan hanfodol y maen nhw'n ei chwarae, o ran codi calon pobl yn lleol, a hefyd fel ffynhonnell newyddion. A ydych chi'n credu ei bod yn bryd i ni gydnabod eu cyfraniad, efallai drwy gaffael a hysbysebu a chyhoeddiadau gwasanaeth cyhoeddus hefyd, a gwybodaeth, fel ffordd allweddol o gefnogi'r eiriolwyr cymunedol gwirioneddol bwysig hyn?
Mae'r cwestiwn yna yn cynhesu fy nghalon, oherwydd yn y gorffennol pell, roeddwn yn gyfarwyddwr un o'r gorsafoedd cymunedol hyn, o'r enw Champion FM, yn y gogledd, ac roedd yn orsaf radio lwyddiannus iawn, sy'n dal i weithredu. Rwyf wedi dilyn, gyda pheth pryder, yr hyn sydd wedi digwydd o ran perchenogaeth a rheolaeth rhai o'n gorsafoedd llai. A gallaf weld bod dadl gref iawn o blaid sicrhau bod cefnogaeth wastad ar gael gennym ni, y gellir ei chyfeirio ar hyd braich at y diwydiant radio cymunedol. Ac rwy'n hapus iawn i edrych eto ar hyn i weld a oes cymorth mwy uniongyrchol y gallwn ei roi. Ond mae'n rhaid iddo fod ar hyd braich, yn fy marn i. Ni ddylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi mewn gorsafoedd radio, hyd yn oed pe bai gennym yr arian i wneud hynny.
Diolch, Dirprwy Weinidog, rwyf wedi gwrando gyda diddordeb ar y cwestiynau a'r atebion gan bobl eraill ar y pwnc hwn, a'r rheswm yr oeddwn i eisiau ymuno oedd i ddweud bod nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi a oedd yn ddig iawn eu bod wedi clywed y negeseuon anghywir ar y rhaglen This Morning ar deledu'r DU ac roeddent yn awyddus iawn i ffonio neu anfon neges destun i'w cywiro ynglŷn â beth oedd y sefyllfa yma yng Nghymru. Nid wyf yn credu bod gwell tystiolaeth bod neges Llywodraeth Cymru yn cael ei datgan yn glir yng Nghymru na chlywed am etholwyr yn ffonio This Morning i ddweud wrthyn nhw bod eu neges yn anghywir mewn gwirionedd. Felly, a fyddech yn cytuno â mi, Dirprwy Weinidog, fod hynny'n dangos bod neges Llywodraeth Cymru yn glir iawn yma yng Nghymru, hyd yn oed os oes anawsterau wrth gyfleu'r neges gywir i gyfryngau'r DU?
Diolch yn fawr iawn Vikki am roi'r enghraifft yna inni. Ni welais y rhaglen benodol honno, ond yn sicr, byddaf yn sicrhau bod y bobl yn y maes cyfathrebu sy'n gweithio'n galed iawn i sicrhau bod neges Llywodraeth Cymru yn cael ei throsglwyddo'n briodol i bobl Cymru yn gallu sicrhau y caiff y neges honno hefyd ei throsglwyddo'n briodol i orsafoedd a dderbynnir yng Nghymru o'r tu allan, lle nad oes gan y newyddiadurwyr na'r cyflwynwyr ddealltwriaeth yn aml o gymhlethdod diddorol cyfansoddiad y Deyrnas Unedig.