– Senedd Cymru am 4:24 pm ar 16 Medi 2020.
Symudwn at eitem 8, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well’, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar fudd-daliadau yng Nghymru. Cyhoeddwyd adroddiad gennym ym mis Hydref 2019, pan oedd y byd yn lle gwahanol iawn. Er bod y pandemig wedi chwarae rhan fawr yn gohirio'r ddadl hon, nid dyna'r unig reswm dros yr oedi hwnnw. Ar y cychwyn, ni wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i saith o'n hargymhellion, gan ei bod yn aros am ddadansoddiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Pan gwblhawyd y gwaith hwn ym mis Ionawr 2020, ymrwymodd y Llywodraeth i ymateb i'r argymhellion nad oedd wedi ymateb iddynt erbyn y Pasg. Yna, gohiriodd y pandemig yr ymateb terfynol, a daeth hwnnw i law ym mis Mai.
Ar ôl aros cyhyd am ymateb o sylwedd i’r argymhellion, roedd hi'n siomedig felly na ddarparodd Llywodraeth Cymru yr ymateb manwl roeddem yn ei ddisgwyl. Fe wnaethant nodi, yn erbyn cefndir COVID a'r ansicrwydd ynghylch y newidiadau brys i'r system fudd-daliadau, nad nawr yw'r amser i ystyried newidiadau hirdymor i nawdd cymdeithasol. Serch hynny, mae'r pandemig wedi amlygu natur ansicr sefyllfa ariannol gormod o lawer o bobl—ansicrwydd nad yw’n unrhyw fai arnynt hwy, ond sy'n deillio o'r ffaith nad ydynt yn ennill digon o arian i dalu am bethau sylfaenol. Mae'r llwybr traddodiadol allan o dlodi—gwaith—wedi’i rwystro. Cyn y pandemig, roedd dros hanner y bobl a oedd yn byw mewn tlodi mewn aelwydydd lle roedd o leiaf un unigolyn yn gweithio. Felly, gofynnaf i Lywodraeth Cymru: os nad heddiw, pa bryd y byddant yn edrych ar hyn mewn ffordd gynhwysfawr ac yn ystyried galw am y pwerau angenrheidiol fel bod gan Gymru reolaeth dros y budd-daliadau y gellir eu darparu a'u gosod orau yn y fan hon?
Gallwn eisoes ddysgu llawer o brofiad yr Alban. Yn amlwg, ni fyddai'n hawdd a byddai'n dod â risgiau yn ei sgil, ond fel y dywedodd rhai o'r rhanddeiliaid wrthym, ceir risg sylweddol wrth aros gyda'r sefyllfa sydd ohoni hefyd. Credwn y gallai manteision datganoli rhai budd-daliadau fod mor sylweddol, a gallent wneud cymaint i helpu i gynorthwyo pobl yng Nghymru i godi allan o dlodi, fel ei bod yn werth bod yn feiddgar a cheisio'r pwerau perthnasol. Mae'n werth nodi hefyd y bydd datganoli yn cymryd amser a dylem osgoi unrhyw oedi pellach cyn dechrau'r siwrnai hon.
Gan symud ymlaen at effaith y pandemig, bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yng Nghymru ers dechrau'r cyfyngiadau symud. Rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf, bu cynnydd o 71 y cant yn nifer y bobl yng Nghymru sy'n derbyn credyd cynhwysol, ac mae cronfa cymorth dewisol Llywodraeth Cymru wedi darparu dros 52,000 o daliadau brys coronafeirws ers mis Mawrth. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu ymagwedd fwy hyblyg tuag at geisiadau i’r gronfa cymorth dewisol, gan alluogi mwy o bobl i gael mynediad at y cronfeydd brys hynny.
Yn ystod ein gwaith yn edrych ar effaith y pandemig, clywsom am yr angen am newidiadau pellach sy'n gwneud mwy i gefnogi'r bobl yr effeithir arnynt fwyaf yng Nghymru. Mae'r argymhellion a wnaethom yn yr adroddiad hwn bron i flwyddyn yn ôl wedi dod yn bwysicach fyth bellach. Edrychodd ein hargymhellion ar y ddau newid y gellid eu gwneud o fewn y setliad presennol yn ogystal â lle gallai fod angen datganoli pellach. Fel y soniais, mae'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n llawn â'r argymhellion diweddarach hynny yn ein hadroddiad.
Ond symudaf ymlaen yn awr at newidiadau y gellid eu gwneud o fewn y setliad presennol. Mewn perthynas ag argymhellion 1 i 9, gwelwyd cynnydd mwy cadarnhaol. Fodd bynnag, mae yna rai meysydd yr hoffwn gael rhagor o eglurder yn eu cylch, ac rwyf am ganolbwyntio ar y rhain yn awr. Yn argymhelliad 1, rydym yn galw am sefydlu system fudd-daliadau gydlynol ac integredig i Gymru sy'n cwmpasu'r holl fudd-daliadau prawf modd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. Rwy'n falch fod yr argymhelliad hwn wedi'i dderbyn. Yn eu hymateb, tynnodd Llywodraeth Cymru sylw at eu hadolygiad trawslywodraethol o raglenni a gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi. Yn ymateb diweddaraf y Llywodraeth, dywedant fod yr adolygiad bron â bod wedi'i gwblhau. A all y Dirprwy Weinidog amlinellu pa bryd y mae’n disgwyl i'r adolygiad hwn gael ei gyhoeddi, ac a all roi blas inni hefyd o sut y bydd hyn yn helpu i wella cydlyniad a’r gwaith o integreiddio budd-daliadau Llywodraeth Cymru?
Argymhelliad 3—galwad am i'r gronfa cymorth dewisol fod ar gael yn ystod y cyfnod aros pum wythnos am daliad credyd cynhwysol, a galwad am i’r meini prawf a'r broses ymgeisio egluro hyn yn glir. Rwy’n falch fod yr argymhelliad hwn wedi’i roi ar waith, ond fel y nodwyd gennym yn ein hadroddiad ar COVID a chydraddoldebau, a gyhoeddwyd dros yr haf, rydym yn parhau i bryderu nad yw pawb a allai fod yn gymwys i gael yr arian hwn yn ymwybodol y gallant wneud cais amdano. Mae pryderon ynglŷn ag ymwybyddiaeth wedi cael eu lleisio ers 2015. Yn ein hadroddiad ar COVID, gwnaethom argymell y dylid ailfrandio'r gronfa cymorth dewisol, ac edrychaf ymlaen at ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwnnw yn yr wythnos i ddod.
Yn ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwn, mae'r Dirprwy Weinidog yn nodi ei bod hi, ynghyd â'r Prif Weinidog, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynglŷn â'r cyfnod o bum wythnos cyn cael credyd cynhwysol, gan alw am droi blaendaliadau sydd ar gael ar hyn o bryd fel benthyciadau ad-daladwy yn grantiau nad oes angen eu had-dalu. A all y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag a gafwyd unrhyw ymateb gan Lywodraeth y DU ar ba gamau pellach y gellir eu rhoi ar waith?
Un o'r themâu allweddol a glywsom, yn y gwaith hwn a'n gwaith dilynol ar COVID-19, oedd fod gormod o bobl nad ydynt yn hawlio cymorth y maent yn gymwys i'w gael. Felly, gwnaethom argymell camau gweithredu i wella'r nifer sy'n hawlio'r holl fudd-daliadau, boed yn rhai datganoledig neu rai heb eu datganoli. Rydym yn galw, fan lleiaf, am ymgyrch gyhoeddus eang a phellgyrhaeddol i godi ymwybyddiaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd y gronfa gynghori sengl sy'n darparu cyngor ar fudd-daliadau ac yn cynyddu'r nifer sy'n hawlio. Maent hefyd yn tynnu sylw at y gwaith y maent wedi bod yn ei wneud gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ar nifer y bobl hŷn nad ydynt yn hawlio budd-daliadau y maent yn gymwys i'w cael. Rydym yn croesawu hyn, ond rydym yn dal i gredu bod mwy o weithredu yn hanfodol. Mae'r angen am ymgyrch o'r fath wedi cynyddu ers i ni adrodd gyntaf. Gwnaethom ailadrodd yr argymhelliad hwn yn ein hadroddiad ar COVID. Galwodd Sefydliad Bevan hefyd am ymgyrch o’r fath yn eu hadroddiad diweddar ar COVID a thlodi. A yw'r Dirprwy Weinidog bellach yn derbyn y galwadau hyn, ac a wnaiff hi ymrwymo i ymgyrch o'r fath i godi ymwybyddiaeth?
Cyn i mi gloi, hoffwn ofyn hefyd am ddiweddariad gan y Dirprwy Weinidog ar y trafodaethau gyda Llywodraeth y DU i gryfhau llais Cymru mewn penderfyniadau ar fudd-daliadau heb eu datganoli. Ddirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen yn awr at glywed cyfraniadau o bob rhan o'r Senedd ac ymateb y Dirprwy Weinidog. Diolch yn fawr.
Wel, drwy gydol ein hymchwiliad, pwysleisiais fod yn rhaid i'n hystyriaeth o opsiynau ar gyfer cyflawni budd-daliadau yn well yng Nghymru ganolbwyntio ar p'un a fyddai hyn o fudd cynhenid i bobl yng Nghymru, yn hytrach nag ar safbwyntiau polisi byrhoedlog gwahanol Lywodraethau. Mae Llywodraethau yn Llundain a Chaerdydd yn mynd a dod, a bydd yr agenda bolisi rhwng y ddwy lywodraeth ac o'u mewn yn newid dros amser. Felly, rhaid inni ganolbwyntio ar p'un a fyddai cyflawni pethau ar lefel ddatganoledig am byth ynddo'i hun yn diwallu anghenion Cymru'n well ac yn mynd i'r afael â'r effaith ar feysydd polisi datganoledig, yn hytrach nag adlewyrchu'r wleidyddiaeth mewn perthynas â pholisïau presennol y DU a Llywodraeth Cymru.
Fel y dywed ein hadroddiad,
'[nid] yw datganoli yn gwella pethau’n awtomatig, pwynt a godwyd gan y mwyafrif o randdeiliaid gan gynnwys Oxfam Cymru, Sefydliad Bevan, academyddion o Brifysgol Bangor a’r Dirprwy Weinidog.'
Fel y nodwyd gennym hefyd, rhaid cydbwyso
'gwobr bosibl darparu gwasanaethau sy’n gweddu’n well i anghenion penodol Cymru'
â'r posibilrwydd o dorri'r undod cymdeithasol ledled y DU sy'n sail i'r egwyddor fod gan holl ddinasyddion y DU hawl cyfartal i'r wladwriaeth les a bod budd-daliadau a beichiau yn dibynnu ar angen ac nid ar ddaearyddiaeth.
Fel y dywedodd y Sefydliad Tai Siartredig wrthym, mae'r model cyfredol
'sy’n gwasgaru gwariant nawdd cymdeithasol dros sylfaen ddemograffig fwy yn un sydd ar hyn o bryd yn fanteisiol i Gymru', ble, ac rwy'n dyfynnu,
'[y]n sgîl lefel uwch o ddibyniaeth ar fudd-daliadau yng Nghymru, dywedodd fod peth incwm i bob pwrpas yn cael ei drosglwyddo o Loegr i Gymru.'
Fel y dywedasant hefyd, nid yw rhagybio'n unig y bydd yn well am eich bod yn nes ato—nid wyf yn credu bod hynny o reidrwydd yn dilyn.
Tynnodd Sefydliad Bevan sylw at yr angen i wahaniaethu rhwng y budd-daliadau y gellid dadlau eu bod yn rhan o'r contract cymdeithasol, e.e. budd-daliadau sy'n seiliedig ar gyfraniadau yswiriant gwladol, a'r rhai sy'n daliadau ychwanegol amrywiol a gynlluniwyd i gefnogi pobl mewn amgylchiadau penodol, e.e. i reoli costau tai uwch. Dywedant y gellid lleihau tlodi pe bai'r cynlluniau datganoledig presennol, gan gynnwys y gronfa cymorth dewisol a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, yn cael eu dwyn ynghyd mewn system fudd-daliadau gydlynol, effeithiol a theg i Gymru.
Yn yr Alban, pwysleisiwyd yr angen i gynnwys pobl â phrofiad byw wrth gynllunio'r system nawdd cymdeithasol newydd, yn ogystal â'r angen i wrthbwyso'r arbedion a gynhyrchir gan lai o apeliadau yn erbyn cost cynyddu'r nifer sy'n hawlio. O ran gweinyddu budd-daliadau'r DU, clywsom fod llai o sancsiynau credyd cynhwysol nag erioed o'r blaen. Er bod cyd-Geidwadwyr yn yr Alban wedi cefnogi datganoli rhai pwerau nawdd cymdeithasol, sef tua 16 y cant o wariant lles yn yr Alban, rhagwelir twll du ariannol o £1 biliwn er bod gan Lywodraeth yr Alban fwy o hyblygrwydd ariannol, ac mae'n dal i fod angen i'r penderfynwyr wneud penderfyniadau anodd ar lefel ddatganoledig. Dywedir wrthym hefyd fod maint yr Adran Gwaith a Phensiynau yn golygu na fydd datganoli yn yr Alban yn gweithio heb ei fewnbwn effeithiol.
Fel y dywed ein hadroddiad, rydym yn pryderu nad yw'r prosesau asesu presennol yn rhoi'r ystyriaeth orau bob amser i'r anghenion neu'r heriau penodol sy'n wynebu pobl â rhai cyflyrau, mater rwyf wedi bod yn ei godi dro ar ôl tro gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a Capita mewn perthynas ag achosion etholwyr. A dyna pam fod angen ymgorffori profiad byw pobl wrth gynllunio, gweithredu a gwerthuso'r system fudd-daliadau. Yn groes i ddatganiad yr adroddiad fod angen archwilio pellach ar ddull yr Alban, lle mae'r sector preifat wedi'i dynnu allan o'r broses asesu, dylai'r ffocws felly fod ar y broses asesu yn hytrach na phwy sy'n ei chyflawni. P'un a yw asesiadau'n cael eu cynnal gan y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector, byddant yn methu oni bai bod pobl sydd â phrofiad byw yn rhan o'r gwaith o'u cynllunio, eu cyflawni a'u monitro.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion y dylai sefydlu system fudd-daliadau Gymreig gydlynol ac integredig ar gyfer yr holl fudd-daliadau prawf modd y mae'n gyfrifol amdanynt, wedi'u cydgynhyrchu gyda phobl sy'n hawlio'r budd-daliadau hyn a'r cyhoedd yn ehangach yng Nghymru, a'i bod yn defnyddio pecyn cymorth dull bywoliaeth gynaliadwy Oxfam, gan gydnabod bod gan bawb alluoedd ac asedau y gellir eu datblygu i'w helpu i wella eu bywydau. Mae angen troi geiriau'n weithredu go iawn yn awr fel bod pethau'n cael eu gwneud gyda phobl o'r diwedd yn hytrach nag iddynt.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn cwblhau'r camau sydd i'w cymryd yn dilyn ei hadolygiad o'i rhaglenni a'i gwasanaethau presennol, ac yn adeiladu ar y camau a gymerwyd eisoes mewn ymateb i'r argyfwng presennol. Fodd bynnag, ni fydd datblygu cyfres o egwyddorion a gwerthoedd ar gyfer seilio system fudd-daliadau Gymreig arnynt a mynd i'r afael â thlodi'n ehangach yn llwyddo heb gynnwys dinasyddion yn y canol. Diolch.
Hoffwn ddechrau drwy ganmol yr adroddiad hwn i'r Senedd a llongyfarch y pwyllgor. Byddwn yn dadlau bod hon yn enghraifft o'n Senedd ar ei gorau: tystiolaeth fanwl wedi'i chasglu a'i hystyried yn ofalus, ac argymhellion manwl a chryf, gyda llawer o feddwl y tu ôl iddynt. Fel Senedd ac fel cenedl, dylem fod yn ddiolchgar i'r pwyllgor am ei waith.
Yn anffodus, mae ymateb y Llywodraeth yn llai ysbrydoledig—gormod o 'rydym yn ei wneud eisoes', gormod o 'dderbyn mewn egwyddor', y gwyddom i gyd mai'r hyn y mae'n ei olygu yn y bôn yw 'gwyddom eich bod yn iawn ond nid ydym yn mynd i'w wneud', ac ar gyfer argymhellion 10 i 17, dim ymateb o gwbl hyd nes y gwneir gwaith ymchwil, er gwaethaf y gwaith ymchwil roedd y pwyllgor eisoes wedi'i wneud. Fel y mae John Griffiths eisoes wedi'i ddweud, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi ymateb mwy cadarnhaol yn ei chyfraniad i'r ddadl hon, yn enwedig yng ngoleuni'r hyn rydym wedi'i ddysgu am dlodi drwy argyfwng COVID.
Rwyf am wneud sylwadau ar yr argymhellion hyn. Mae'r pwyllgor wedi edrych yn ofalus ar ddatganoli agweddau amrywiol ar y system fudd-daliadau ac wedi gwneud achos pwerus iawn dros wneud hynny, ac nid oes angen i mi ailadrodd y rheini; rwyf am siarad am yr egwyddor gyffredinol. Ddirprwy Lywydd, rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno bod tlodi yn bla yn ein gwlad. Yn bersonol, rwy'n drist iawn ac yn ddig fy mod yn byw mewn gwlad lle mae traean o'n plant yn dlawd. Mae'n warth cenedlaethol. A gobeithio y gallwn i gyd gytuno mai'r ateb hirdymor yw i ni adeiladu economi lle mae gwaith yn talu, lle mae cyflogaeth o ansawdd da ar gael i bawb, a lle caiff ffyniant ei rannu ledled Cymru. Ond yn y tymor byr, bydd llawer o unigolion a theuluoedd angen budd-daliadau i allu ymdopi, a gwaethygu fydd y sefyllfa hon yn sgil argyfwng COVID, fel y clywsom eisoes.
Mae'r system fudd-daliadau bresennol—ac rwy'n canolbwyntio yma ar y budd-daliadau nad ydynt wedi'u datganoli, ond gellid dadlau ei fod yn wir am system fudd-daliadau Cymru hefyd—yn gymhleth, mae'n stigmateiddio, ac nid yw'n rhoi digon o incwm i unigolion a theuluoedd allu byw bywyd gweddus. Os ydym o ddifrif ynglŷn â chodi pobl allan o dlodi, mae angen inni ddefnyddio'r system fudd-daliadau i'n helpu i wneud hynny. Ac nid wyf yn credu am funud, ac rwy'n amau nad yw'r Aelodau ar feinciau'r Llywodraeth yma ychwaith yn credu y gellir ymddiried yn y Llywodraeth Geidwadol bresennol yn San Steffan i wneud hynny, er eu bod yn mynd a dod. Yn sicr, nid yw fy etholwyr yn profi'r math o undod cymdeithasol ac ailddosbarthu y mae Mark Isherwood yn siarad amdano.
Felly, rwy'n dal i fethu deall pam nad yw'r Llywodraeth yn ceisio pwerau dros y budd-daliadau hyn ar fyrder. Gallaf ddeall rhai pryderon ariannol, mae honno'n agwedd gyfrifol, ond bydd Gweinidogion yn ymwybodol, er enghraifft, o'r ymchwil a wnaed gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru na chanfu unrhyw dystiolaeth y byddai datganoli rhywfaint o bŵer dros fudd-daliadau i Gymru, fel sydd eisoes wedi'i wneud i'r Alban, yn anghynaliadwy'n ariannol. Yn wir, yn dibynnu ar ba fodel a ddefnyddiwyd, dangosodd y gallai Trysorlys Cymru elwa'n sylweddol o ddatganoli pwerau lles.
Ddirprwy Lywydd, yn rhannol fel ymateb i COVID, mae syniadau newydd ac arloesol yn cylchredeg yng Nghymru ynglŷn â sut y gallem godi pobl allan o dlodi. Er enghraifft, byddai llawer yn y Siambr hon yn dadlau o blaid treialu incwm sylfaenol cyffredinol. Mae fy mhlaid yn argymell taliad plant i Gymru i roi diwedd ar dlodi absoliwt ymhlith plant yng Nghymru. Ond ni all y syniadau hyn weithio'n iawn, a mynd y tu hwnt i dreialon, oni bai bod y pŵer dros y system fudd-daliadau yma. Mae'r pwyllgor wedi cyflwyno achos pwerus, angerddol gyda thystiolaeth dda, ac rydym wedi clywed hyn eto yn araith John Griffiths heddiw. Rwy'n annog y Llywodraeth i weithredu ar hynny yn awr. Fel y dywedodd John Griffiths, bydd yn cymryd amser. Pe baem yn dechrau'r broses i geisio datganoli'r budd-daliadau hyn, byddai'n cymryd amser iddynt ddod. Fel y dywedodd John, mae ein cyd-ddinasyddion tlotaf angen i'n Llywodraeth fod yn feiddgar.
Mae'n bleser gennyf ddilyn y siaradwr diwethaf a hefyd fy Nghadeirydd ar y pwyllgor, John Griffiths. Rwy'n codi'n syml iawn i gefnogi'r holl bwyntiau sydd wedi'u gwneud mewn perthynas â'r adroddiad a gyflwynwyd gennym a'r argymhellion, oherwydd credaf fod yr adroddiad yn gytbwys iawn mewn gwirionedd. Nid yw'n rhyfygus nac yn ideolegol nac yn ffocysu'n ormodol ar bwynt terfyn penodol. Gwrandawodd yn ofalus iawn ar y dystiolaeth a ddaeth o'n blaenau. Mae'n adlewyrchu'n fawr natur drawsbleidiol y pwyllgor a safbwyntiau gwleidyddol a phersonol gwahanol y rhai a oedd yn aelodau o'r pwyllgor—rhaid imi ddweud, safbwyntiau personol a gwleidyddol gwahanol iawn y rhai a oedd yn aelodau o'r pwyllgor. Nid yw'n galw am ddatganoli pob un o'r budd-daliadau'n gyfan gwbl, ac yn sicr nid ar unwaith. Mae'n edrych am ffyrdd ymarferol o ddatganoli elfennau arwyddocaol ond wedi'u targedu o fudd-daliadau, yn ogystal â datganoli cryn dipyn yn fwy o'r gwaith o weinyddu budd-daliadau. A pham? Yn unswydd er mwyn gwella bywydau pobl yng Nghymru.
Wyddoch chi, o safbwynt personol, rwyf wedi dweud dro ar ôl tro yn y Siambr hon, ar sail fy mrand i o sosialaeth, rwyf am weld y system fudd-daliadau yn cefnogi pobl yn Abertawe a Southport a Stockport ac ym mhobman arall yn gyfartal, ac mae'n rhaid inni gydnabod—ac rwy'n gwyro oddi wrth y pwyllgor ar un ystyr; fy safbwynt i yw ein bod, dros y 10 mlynedd diwethaf, wedi cael cyfundrefn gosbol. Gwelais dystiolaeth ohoni yn fy etholaeth fy hun. I mi, mae hynny'n ddi-os. Ond ni allem ddweud yn yr un modd na fyddai gan ryw Lywodraeth yng Nghymru yn y dyfodol, duw a'n helpo, Mary, a John ar y monitor yn y fan acw, ymagwedd ddiniwed tuag at y system fudd-daliadau a nawdd cymdeithasol—efallai y bydd Llywodraeth yng Nghymru yn y dyfodol yn ei wneud, ond o leiaf byddai gennym y mecanweithiau yma ac yn nes at y bobl fel y gallem ddadlau, 'Pam eich bod yn gwneud yr hyn rydych yn ei wneud?' yn hytrach na Gweinidogion pell yn Whitehall a mandariniaid Whitehall sy'n dweud 'Dyma'r ffordd y mae'n mynd i fod, a gallwch dincran o amgylch yr ymylon ond dyna fyddwch chi'n ei gael.' Felly, byddwn yn dadlau wrth y Gweinidog mai dull ymarferol a geir yn hyn, gan gydnabod y dystiolaeth a glywsom yn gyson dro ar ôl tro. Daeth pobl ger ein bron fel pwyllgor ac nid oeddent yn dadlau, mewn gwirionedd, dros ddatganoli'n gyfan gwbl, nid oeddent yn dadlau ar sail ideolegol; roeddent yn bobl a oedd yn wynebu realiti caled y bobl y maent yn ceisio'u cefnogi, a oedd mewn gwaith yn ogystal ag yn ddi-waith ac yn derbyn budd-daliadau, a sut y gallem roi system ar waith yn well yng Nghymru a fyddai er eu lles mewn gwirionedd.
Ym mis Mai 2020, dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol o'n blaenau yma, Hannah, wrth y pwyllgor, 'Oherwydd cyfnod ansicr y pandemig, nid yw'n ymddangos mai nawr yw'r adeg orau, o ran yr adnoddau sydd ar gael ac argaeledd tystiolaeth, i ystyried newidiadau hirdymor llawn i nawdd cymdeithasol.' Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â hynny ar y pandemig o'n blaenau a'r adnoddau, yn sicr; nid oes gennyf gydymdeimlad â'r elfen sy'n sôn am y dystiolaeth, oherwydd fe wnaethom lawer o waith ar y pwyllgor y credaf y byddai'n helpu'r Llywodraeth i wneud beth bynnag sydd angen iddynt ei wneud i fireinio'r dystiolaeth, ac i fwrw ymlaen ag ef. Gyda llaw, nid wyf yn tanbrisio'r hyn a gawn yn ôl gan Lywodraeth y DU ar hyn, ond fe ddylem ofyn. Dylem gael safbwynt a'i roi yno, a dod yn ôl yn y Senedd nesaf a rhoi'r safbwynt hwnnw eto nes inni gael Llywodraeth yn Llundain a fydd yn gwrando.
Dywedodd y Gweinidog hefyd y byddai'n ailedrych ar y mater pwysig hwn eto pan fydd Llywodraeth Cymru wedi gallu ailystyried yn llawn unrhyw newidiadau a wnaed i system nawdd cymdeithasol y DU a sut y mae system nawdd cymdeithasol Llywodraeth y DU wedi gallu ymateb i heriau'r argyfwng byd-eang yng Nghymru, a chael cyfle i adolygu unrhyw dystiolaeth ar sut y mae'r gwahanol fodelau sy'n gweithredu ar gyfer trefniadau nawdd cymdeithasol datganoledig mewn gwledydd datganoledig eraill wedi mynd i'r afael â'r argyfwng. Rwy'n cydnabod bod y glaswellt yn tyfu'n uwch ac yn uwch wrth imi fynd drwy hynny, a dyna fyddwn i'n ei ofyn i'r Gweinidog i gefnogi'r Cadeirydd ac aelodau eraill o'r pwyllgor a luniodd argymhellion a chasgliadau clir iawn ar hyn. Ceir cyfyngiadau ar adnoddau ar hyn o bryd yn ddi-os, ac nid COVID yn unig, ond yr hyn y mae proses ymadael â'r UE wedi bod yn ei wneud i'n gwasanaeth sifil, ac yn y blaen; rwy'n deall hynny. Ond mae gwir angen inni symud ymlaen ar hyn yn awr, ac fel y dywedaf unwaith eto wrth gloi, nid am resymau ideolegol ond o ran y mesurau ymarferol a fydd yn gwella bywydau llawer o fy etholwyr a phobl ledled Cymru, dylem fod yn gwneud y penderfyniadau hyn yn nes at adref, yn nes at adref yng Nghymru.
Rwy'n falch ein bod yn cael y ddadl hon heddiw a hoffwn gynnig fy llongyfarchiadau fy hun i'r Cadeirydd, i'r pwyllgor a'r tîm clercio am y gwaith a wnaethant ar gynnal yr ymchwiliad hwn; roedd hynny cyn imi fod yn aelod o'r pwyllgor.
Dylid barnu cymdeithas wâr yn ôl y ffordd y mae'n trin ei dinasyddion mwyaf agored i niwed. Ni ddylai fod stigma ynghlwm wrth dderbyn budd-daliadau ac ni ddylid gwneud i neb deimlo'n israddol am fod angen help llaw arnynt. Dylid adeiladu tosturi yn rhan o'r system. Yn anffodus, mae hynny'n aml mor bell o'r gwir. Am nifer o flynyddoedd, bûm yn gweithio i Cyngor ar Bopeth Cymru ac rwy'n ddiolchgar iddynt am y nodiadau a anfonwyd at nifer ohonom cyn y ddadl heddiw, yn ogystal â Sefydliad Bevan.
Pan oeddwn yn gweithio i Cyngor ar Bopeth, gwelais yr angen am system fudd-daliadau i Gymru drosof fy hun. Mae credyd cynhwysol yn system sydd, wel, mae'n ymddangos ar adegau o leiaf fel pe bai'n gwthio pobl i ddyled bellach. Mae oedi cyn talu'r budd-dal yn golygu bod gormod o bobl yn gorfod cael benthyciadau drud ar frys i allu ymdopi ac yna'n treulio'u hoes yn ceisio'u had-dalu. Mae'r system sydd gennym yn rhy gymhleth, nid yw cymhwysedd i gael budd-daliadau yn gyson, a disgwylir i bobl ddarganfod drostynt eu hunain beth y maent yn gymwys i'w gael, yn hytrach na'u bod yn cael y budd-daliadau hynny'n awtomatig.
Mae bylchau yn y ddarpariaeth ac fel y mae Sefydliad Bevan wedi nodi, dibynnir yn aml ar gynlluniau dewisol y bwriadwyd iddynt fod yn ddewis olaf yn y tymor hwy i gadw teuluoedd i fynd. Pe baem yn sôn am fusnesau, ni fyddem yn credu bod hynny'n swnio'n gynaliadwy, felly pam y dylid disgwyl i deuluoedd neu unigolion fyw yn y sefyllfa beryglus honno?
Fan lleiaf, credaf fod angen datganoli'r gwaith o weinyddu nawdd i'r Senedd fel y gallwn greu system sy'n gweithio i Gymru, sy'n ateb heriau ein cymdeithas ac yn lliniaru effeithiau gwaethaf toriadau pan fyddant yn dod o San Steffan. Gallem sicrhau bod budd-daliadau'n cyrraedd y bobl sydd eu hangen, eu bod yn defnyddio meini prawf cymhwysedd cyson, eu bod yn hawdd i gael gafael arnynt a'u bod yn helpu i wella bywydau pobl. Ni ddylai budd-daliadau gaethiwo pobl mewn mwy o ddyled nac mewn tlodi. Dylent fod yn fwy na dim ond digon i allu goroesi. Rwy'n ei ddweud eto: ni ddylai fod unrhyw stigma ynghlwm wrth hawlio budd-daliadau. Dylai pob un ohonom gael ein harwain gan yr uchelgais i wella bywydau'r bobl a gynrychiolwn, pawb sy'n galw Cymru'n gartref iddynt.
Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn dadlau y byddai datganoli'r system fudd-daliadau yn ein galluogi i helpu i gau bylchau sydd ar hyn o bryd yn caniatáu i rai pobl ddisgyn rhwng dwy stôl, os caf gymysgu fy nhrosiadau. Dros gyfnod y cyfyngiadau symud, daeth etholwr ifanc i gysylltiad â mi am ei bod yn gorfod talu costau angladd aelod agos o'r teulu. Gan ei bod yn fyfyriwr, nid oedd yn gallu cael arian o'r cronfeydd caledi sydd i fod i helpu pobl gyda'r costau hyn. 'Na' meddai'r cyfrifiadur. Mae fy etholwr wedi cychwyn ymgyrch, mae wedi lansio deiseb, mae hi wedi cael sylw yn y papurau newydd cenedlaethol, ac rwy'n ei chanmol yn fawr am hynny, a'r cyfan i geisio sicrhau nad oes yn rhaid i neb arall wynebu caledi ariannol yn ogystal â galar arteithiol yn y sefyllfa hynod annheg hon. Ei phenderfyniad yw helpu pobl eraill a gobeithio y gallwn ddysgu gwers o'i phrofiad ac y gallwn ddefnyddio hyn fel rheswm pellach dros fynnu bod y system fudd-daliadau'n cael ei datganoli. Dim ond pan fydd gennym system sy'n cael ei rheoli gan ein Llywodraeth ein hunain, wedi'i chynllunio ar gyfer anghenion ein dinasyddion, y bydd gennym yr ysgogiadau i sicrhau nad oes yn rhaid i neb arall fynd drwy'r hyn yr aeth hi drwyddo.
Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad ac yn edrych ymlaen at yr adeg y gwireddir yr argymhellion.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau, y pwyllgor a'r Senedd ehangach, am eu cyfraniadau, ac rwy'n croesawu'r cyfle o'r diwedd i allu ymateb i'r ddadl hon ac i adroddiad ymchwiliad y pwyllgor heddiw.
Fel y clywsoch yma heddiw yn ystod y ddadl, mae pob un ohonom yma'n gwybod yn iawn sut y mae'r pandemig COVID-19 wedi arwain at gyfnod anodd i'n cymunedau ac i'n gwlad. Rydym wedi gweithio'n galed fel Llywodraeth i gamu i mewn a darparu cymorth lle gallwn, yn enwedig i'r unigolion a'r teuluoedd mwyaf agored i niwed.
Gwelsom yn gynnar yn y pandemig Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU yn gwneud rhai newidiadau i'r cymorth ariannol a gynigid a'r ffordd y câi ei ddarparu. Er bod y newidiadau hyn i'w croesawu, ymateb cyndyn a gafwyd i ymyriadau eraill a allai fod yn fwy allweddol. A hyn er gwaethaf sylwadau mynych, nid yn unig gan wleidyddion Llywodraeth Cymru a Phrif Weinidog Cymru, ond gan sefydliadau anllywodraethol, dinasyddion a rhanddeiliaid o bob rhan o'r wlad. Mae ailgyflwyno'r system sancsiynau a'r gwrthodiad llwyr i hepgor yr oedi o bum wythnos cyn taliad cyntaf y credyd cynhwysol yn enghreifftiau o benderfyniadau sydd wedi gwthio pobl agored i niwed ymhellach i galedi ariannol. Rhwng canol mis Mawrth a chanol mis Gorffennaf roedd 120,000 o bobl yn hawlio credyd cynhwysol o'r newydd yng Nghymru. Pobl y mae angen cymorth arnynt ar frys yw'r rhain ac angen i rwyd diogelwch nawdd cymdeithasol fod yno, ac nid biwrocratiaeth.
Yma yng Nghymru, fe wnaethom weithredu'n gyflym i sicrhau bod cymorth ar gael. O 1 Mai, gweithredwyd newidiadau sylweddol i'r gronfa cymorth dewisol, sy'n darparu taliadau brys i bobl sy'n wynebu'r caledi ariannol mwyaf eithafol. Ychwanegwyd £8.9 miliwn ychwanegol at y gronfa i gefnogi cynnydd yn nifer y ceisiadau gan bobl yr effeithiwyd arnynt, a chafodd y meini prawf cymhwysedd eu hailwampio i gynnwys y rhai yr effeithiwyd arnynt waethaf gan COVID-19. Roedd hyn yn cynnwys pobl a oedd yn aros am eu taliad credyd cynhwysol cyntaf a'r rhai a oedd yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd oherwydd y pwysau ariannol a achoswyd gan y pandemig. Mae nifer y taliadau a wneir bellach yn dair gwaith y lefel cyn y cyfyngiadau symud. Ers dechrau'r pandemig, mae'r gronfa hon wedi cefnogi dros 64,000 o ddyfarniadau ac wedi gweld £3.9 miliwn o daliadau cymorth brys yn cael eu gwneud i bobl y nodwyd eu bod yn y sefyllfaoedd mwyaf enbyd oherwydd COVID-19. Ar 4 Awst, cyhoeddais ein bod yn ymestyn cyfnod llacio rheol y gronfa cymorth dewisol hyd at 31 Mawrth 2021. Bydd hyn yn golygu y gall pobl sy'n wynebu caledi barhau i wneud pump yn hytrach na thri hawliad mewn cyfnod o 12 mis, a bydd dileu'r terfyn 28 diwrnod rhwng hawliadau yn parhau.
Drwy gydol y pandemig hwn, rydym wedi parhau i adeiladu ar y cymorth trawslywodraethol i unigolion a theuluoedd sy'n agored i niwed drwy ddarparu cyflog cymdeithasol mwy hael. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau sy'n cyfateb i arian parod i alluogi dinasyddion Cymru i gadw arian mawr ei angen yn eu pocedi. Darparwyd gwerth £40 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim i helpu teuluoedd i fwydo eu plant tra bod ysgolion ar gau, ac rydym wedi dyrannu £2.85 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol yng Nghymru i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y ceisiadau am gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor.
Rydym hefyd wedi cefnogi elusennau bwyd a sefydliadau bwyd cymunedol i ateb y galw digynsail am fwyd brys gan y bobl yr effeithiwyd arnynt gan yr argyfwng. Mae cyllid o fwy nag £1 filiwn wedi'i gymeradwyo o gynllun grant cronfa argyfwng y gwasanaethau gwirfoddol i gefnogi dosbarthu bwyd, ac ym mis Mai cytunais ar gyllid o fwy na £98,000 i'w ddyrannu i FareShare Cymru i ddatblygu mecanwaith addas ar gyfer mynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd yng ngogledd Cymru drwy ailddosbarthu bwyd dros ben. Mae mwy o bobl nag erioed wedi gorfod troi at fanciau bwyd ac rydym wedi gwneud llawer iawn i sicrhau nad yw'r banciau bwyd hynny eu hunain yn mynd yn brin.
Pan edrychwn ar effaith y pandemig ar lefelau tlodi, gan gynnwys tlodi plant, gwyddom ei fod yn debygol o fod yn sylweddol. Yn erbyn y cefndir hwn rydym wedi rhoi camau ar waith i alluogi pobl i wneud y mwyaf o'u hincwm a helpu i leihau costau byw hanfodol i aelwydydd incwm isel. Mae llawer o'r camau hyn wedi'u llywio gan ymchwiliad y pwyllgor, a hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith sylweddol ac ystyrlon yn y maes hwn.
Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar gynyddu'r nifer sy'n hawlio budd-daliadau ac rydym yn gweithio gydag Oxfam Cymru i ymgorffori eu dull bywoliaeth gynaliadwy yn rhaglen y gronfa cymorth dewisol i ddechrau cyn i ni geisio ei symud ymlaen i raglenni cymorth budd-daliadau eraill i Gymru. Roeddwn wedi gobeithio mynychu sesiwn gweithdy ymarferol, ond symudodd ar-lein ac roeddwn yn falch o gymryd rhan ynddo gydag Oxfam Cymru ar y dull bywoliaeth gynaliadwy a gweld yr ystod o arfau sydd ar gael yn uniongyrchol. Mae Oxfam Cymru bellach wedi cytuno'n garedig i gyflwyno mwy o'r sesiynau ymwybyddiaeth hyn i'n partneriaid a gymeradwywyd gan y gronfa cymorth dewisol yn ystod y mis hwn.
Mae'r holl waith hwn yn seiliedig ar y ddealltwriaeth glir ei bod yn hanfodol fod pawb sy'n gymwys i gael cymorth yn ymwybodol o'r ystod lawn o fudd-daliadau sydd ar gael iddynt a'u bod yn eu cael. Wrth agor, soniodd Cadeirydd y pwyllgor am yr angen i godi ymwybyddiaeth fel un o'r argymhellion ac i atgyfnerthu'r dull hwn rydym yn buddsoddi £800,000 i ddarparu mentrau i alluogi pobl i wneud y mwyaf o'u hincwm. Byddwn yn cynnal ymgyrch gyfathrebu i gyd-fynd â newidiadau i'r cynllun cadw swyddi ym mis Hydref, gan weithio gyda'r trydydd sector ac awdurdodau lleol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r budd-daliadau, y gwasanaethau a'r rhaglenni sy'n bodoli eisoes i liniaru neu leddfu tlodi incwm, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau o'r Senedd hon yn awyddus i helpu i hyrwyddo ymwybyddiaeth o hynny ochr yn ochr â ni.
Cynhelir hyfforddiant ar-lein rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Ebrill 2021 i weithwyr rheng flaen i'w galluogi i ddarparu cymorth i deuluoedd sy'n byw mewn tlodi wneud y mwyaf o'u hincwm. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn gweithio'n helaeth gydag amrywiaeth o bartneriaid i sicrhau bod gwasanaethau cynghori yn cyrraedd yn ddwfn i mewn i gymunedau ac yn cael eu darparu o fannau lle mae'r bobl fwyaf anghenus yn mynd iddynt.
Ddirprwy Lywydd, mae ein hardaloedd lleol wedi ymateb yn eithriadol yn ystod yr argyfwng hwn i sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu i deuluoedd incwm isel. Byddwn yn parhau i'w cynorthwyo i ddarparu atebion lleol, gan adolygu gyda'n gilydd sut y gallwn symleiddio'r ffordd y caiff budd-daliadau Cymru eu gweinyddu a'u gwneud yn fwy hygyrch.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn gyffwrdd â rhai o sylwadau'r Cadeirydd pan fynegodd ei siom ynglŷn â'r ymateb i argymhellion 10 i 17. Er y gallaf ddeall ei fod efallai'n teimlo—[Anghlywadwy.]—rwy'n awyddus iawn i ailadrodd y ffordd y mae llawer o fewn Llywodraeth Cymru, nid fi, nid Gweinidogion, wedi mynd allan o'u ffordd yn yr argyfwng hwn i sicrhau ein bod yn gallu ymateb yn effeithiol i bobl sydd angen help yn y fan a'r lle, a'u cefnogi. Hoffwn ddweud yn glir ein bod yn cydnabod yn llwyr fel Llywodraeth y gallai datganoli pwerau penodol sy'n ymwneud ag elfennau o nawdd cymdeithasol roi ystod ehangach o arfau inni fynd i'r afael â thlodi, a dyna pam y gofynasom i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ymgymryd â'r gwaith yn y maes hwn yn y lle cyntaf a byddwn yn parhau i edrych ar dystiolaeth a hefyd yn cynnwys tystiolaeth y pwyllgor hwn yn ein gwaith.
Gobeithio y bydd yr Aelodau'n deall, yn y tymor byr, fod yn rhaid inni ganolbwyntio ar ddefnyddio ein pwerau presennol hyd yr eithaf—ac ie, mewn rhai achosion, yn well—i sicrhau ein bod yn cefnogi'r bobl sydd â'r angen mwyaf yn y presennol. Dyna fyddwn ni'n parhau i'w wneud a dyna fyddwn ni'n parhau i'w fynnu gan eraill. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar John Griffiths i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau. Credaf fod llawer iawn o dir cyffredin yn yr hyn a glywsom yn y Siambr ac o bell heddiw. Soniodd Mark Isherwood am bwysigrwydd profiad byw ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw Aelod yn anghytuno â hynny. Mae'n gwbl hanfodol; mae'n dod yn fwyfwy cyffredin fel nodwedd o'r ffordd rydym yn datblygu ac yn llunio gwasanaethau, ac yn sicr dylid cymhwyso hynny fwy i'r system fudd-daliadau. Soniodd Mark hefyd am bwysigrwydd y broses asesu, pwy bynnag sy'n ei wneud, fel y dywedodd Mark rwy'n credu, ond does bosibl nad y pwynt, o ran gallu Llywodraeth Cymru a'r Senedd i lunio'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru, yw y byddai'n dda iawn inni allu llunio'r broses asesu honno a sicrhau ei bod yn adlewyrchu profiad byw pobl yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Os nad oes gennym lawer o reolaeth drosto, mae'n amlwg nad oes llawer y gallwn ei wneud ar wahân i ysgrifennu at Lywodraeth y DU a gwneud argymhellion fod Llywodraeth Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y DU o ran yr hyn nad yw wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr yr hoffai llawer ohonom wneud llawer mwy na hynny.
Rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a ddywedodd Helen Mary, yn enwedig mewn perthynas â'r safbwynt cryf ac egwyddorol o blaid datganoli budd-daliadau, a'r gallu y byddai'n ei roi i ni edrych ar ffyrdd arloesol ymlaen, megis yr incwm sylfaenol cyffredinol, y gwn ei fod yn ddiddorol iawn i lawer iawn o bobl, ac sy'n cynnig pob math o bosibiliadau.
Roedd Huw Irranca-Davies yn dweud yn gadarn iawn fod arnom angen y pŵer yma yng Nghymru i gael y system a fyddai'n cyflawni ar ran ein cymunedau, a pho agosaf ydyw—y system fudd-daliadau—i Gymru, yn amlwg, y mwyaf o allu sydd gennym i wneud hynny, ac yn amlwg, dyna'r ddadl yn ei hanfod, a chredaf fod Huw wedi'i roi'n rymus ac yn effeithiol iawn.
Soniodd Delyth Jewell am stigma, sy'n gymaint o broblem, onid yw? A gwyddom gan Cyngor ar Bopeth—a gwn fod Delyth wedi sôn am ei hymwneud blaenorol â hwy—gyda gwaith diweddar a wnaethant, mae'n dangos bod honno'n broblem barhaus, mae'n un o'r rhwystrau gwirioneddol o ran cael pobl i hawlio'r hyn y mae ganddynt hawl iddo, ac mae diffyg ymwybyddiaeth hefyd o ran yr hyn y gallai pobl fod yn gymwys i'w gael. Felly, mae gwir angen yr ymgyrch honno i godi ymwybyddiaeth ac i gynyddu'r nifer sy'n hawlio, ac mae honno wedi bod yn alwad gref gan gynifer o bobl ers cyhyd. Rydym wedi gweld datblygiadau sydd wedi helpu i godi ymwybyddiaeth a chynyddu'r nifer sy'n hawlio, ond yn amlwg, mae llawer i'w wneud o hyd, ac mae'r sefydliadau sy'n gweithio ar lawr gwlad yn dal i dynnu sylw at hynny.
O ran yr hyn a oedd gan y Gweinidog i'w ddweud, credaf ein bod i gyd yn cydnabod, wrth gwrs, fod llawer iawn o waith caled wedi'i wneud drwy gydol y pandemig, ac mae hynny wedi bod mor hanfodol ac i'w groesawu, a byddai pawb ohonom am gydnabod hynny'n llawn. Credaf mai un peth y mae'n ei ddangos—a chredaf fod Sefydliad Bevan wedi bod yn awyddus eto i dynnu sylw at hyn—yw bod llawer y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eisoes yn ei wneud o ran yr hyn y byddem yn ei alw'n fras yn fudd-daliadau—rhai ohonynt yn arian parod, a rhai ohonynt yn lle arian parod—yng Nghymru. Rydym wedi dangos y gall Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol gyflawni'n effeithiol drwy'r pandemig, a chredaf y dylai hynny roi mwy o hyder i ni y gallem wneud yr un peth gyda mwy o ddatganoli a mwy o bŵer dros fudd-daliadau yma yng Nghymru.
Ceir rhai problemau, a gwn fod Sefydliad Bevan, er enghraifft, yn teimlo y gellid gwneud mwy yng Nghymru i gael dull cydlynol a chynhwysfawr, fel bod gofynion cymhwysedd cyffredin ar gael ar gyfer gwahanol fudd-daliadau. Gallech gael un ffurflen ar gyfer nifer, yn hytrach na ffurflenni ar wahân, ac maent yn teimlo y gellid gwneud rhywfaint o'r gwaith hwn rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn awr i helpu yn ystod gaeaf sy'n debygol o fod yn anodd iawn, a byddai hwnnw'n waith pwysig iawn, i baratoi'r ffordd ar gyfer system fudd-daliadau fwy datganoledig yn y tymor hwy.
Ond rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a oedd gan y Gweinidog i'w ddweud am barhau i edrych ar y datganoli pellach hwn a chydnabod yr achos, oherwydd rwy'n meddwl, yn y bôn, y byddai llawer ohonom fel Aelodau o'r Senedd yn gwybod o'n cymorthfeydd etholaethol o wythnos i wythnos yn union pa mor niweidiol yw llawer o effeithiau system fudd-daliadau'r DU a faint o welliant sydd ei angen ac y gellid ei gyflawni'n eithaf hawdd mewn rhai achosion drwy weinyddu gwell a gweinyddu mwy unedig, heb fynd i sôn am fwy o gyllid.
Felly, rwy'n meddwl, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, fod llawer o waith i'w wneud eto ar hyn, ond mae llawer iawn o dir cyffredin o ran y safbwyntiau ar draws y Siambr, a chredaf y dylai hynny fod yn galonogol iawn i Lywodraeth Cymru, ynghyd â'r gwaith a wnaethant yn effeithiol gydag awdurdodau lleol drwy gydol yr haf yn darparu budd-daliadau pwysig. Gallwn wneud mwy a dylem wneud mwy, a gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen ar y sail honno. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, nodir adroddiad y pwyllgor.