5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynnig Gofal Plant a Chymorth i'r Sector Gofal Plant

– Senedd Cymru am 4:16 pm ar 22 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:16, 22 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma: y cynnig gofal plant a'r gefnogaeth i'r sector gofal plant. Galwaf ar Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am sefyllfa sector gofal plant a chwarae Cymru a'n cynnig gofal plant i Gymru. Hoffwn ddechrau'r datganiad hwn drwy ddweud 'diolch' mawr a chydnabod y ffordd eithriadol y mae darparwyr gofal plant a chwarae ledled Cymru wedi ymateb i ddigwyddiadau'r misoedd diwethaf. Rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau'n cytuno eu bod yn haeddu ein diolch diffuant am y cyfraniad amhrisiadwy y maen nhw wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud.

Mae'r cyfnod ers mis Mawrth wedi bod yn heriol i'r sector. Hyd yn oed adeg y cyfyngiadau symud cenedlaethol yn gynharach eleni, nid oedd angen cau lleoliadau gofal plant. Fodd bynnag, roedd angen cyfyngu ar nifer y plant ar y safle. Roedd y lleoliadau hynny a oedd yn parhau'n agored yn cyflawni swyddogaeth hanfodol, gan alluogi ein gweithwyr allweddol i ymgymryd â'u swyddogaethau hanfodol. Fe'm trawyd gan benderfyniad a hyblygrwydd cynifer o'n darparwyr, gan wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau eu bod yn aros ar agor. Fodd bynnag, nid oedd aros ar agor yn ddewis i bob lleoliad, a, phan oedd pethau ar eu gwaethaf, caeodd tua 1,940 o ddarparwyr eu drysau. Mae hyn yn cynrychioli dros hanner yr holl ddarpariaeth gofal plant gofrestredig yng Nghymru. Fodd bynnag, heddiw, mae pethau'n edrych yn fwy addawol, gyda dim ond tua 428 o leoliadau ar gau. A'r hyn y mae'n rhaid i ni ei gofio yw, hyd yn oed heb bandemig, y byddem fel arfer yn gweld rhai lleoliadau'n cau am amrywiaeth o resymau.

Yn ffodus, roeddem yn gallu rhyddhau'r cyfyngiadau ar ofal plant o 22 Mehefin ymlaen. Fel y mae hi'r wythnos hon, mae tua 1,527 o'r lleoliadau hynny a gaeodd wedi ailagor, sy'n golygu bod 88 y cant o ddarparwyr cofrestredig ar y cyfan bellach ar agor ledled Cymru. Fodd bynnag, ym mis Awst fe wnaethom ni gynnal arolwg byr o leoliadau a oedd ar agor, ac roedd hynny'n dangos bod y rhan fwyaf o leoliadau'n disgwyl gostyngiad o 30 y cant mewn presenoldeb. Ar gyfer lleoliadau bach yn benodol, mae hynny'n ostyngiad sylweddol yn y galw. Mae angen i ni ganolbwyntio bellach ar gefnogi ac adeiladu sector cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn mynd ati dros y misoedd nesaf mewn ffyrdd amrywiol, gan gynnwys rhoi cymorth i leoliadau, cymorth i'r gweithlu a chymorth i rieni, gan roi'r sicrwydd sydd ei angen arnynt i ailddechrau defnyddio lleoliadau gofal plant a'r manteision niferus y mae hynny'n ei gynnig i'w plant.

Ym mis Ebrill, gwnes y penderfyniad anodd i atal y cynnig gofal plant i geisiadau newydd. Bryd hynny, dyna oedd y peth iawn i'w wneud a chaniataodd inni ailgyfeirio rhywfaint o'r cyllid ar gyfer y cynnig i helpu i gefnogi'r frwydr yn erbyn y feirws mewn ffordd fwy uniongyrchol ac ystyrlon. A thrwy ein cynllun cymorth gofal plant coronafeirws, fe wnaethom ni gefnogi dros 9,600 o blant gweithwyr allweddol, gan ganiatáu i'w rhieni barhau â'u gwaith hanfodol, a gofalu am dros 900 o blant sy'n agored i niwed. Er bod y cynllun cymorth gofal plant coronafeirws yn ymyriad angenrheidiol a hanfodol a helpodd i ymateb i'r argyfwng uniongyrchol, roedd bob amser yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth adfer y cynnig gofal plant cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl. Rwy'n hynod falch ein bod ni, ers mis Awst, wedi gallu ailagor y cynnig.

Buom yn gweithio'n agos iawn ag awdurdodau lleol i sicrhau bod ceisiadau gan rieni'n cael eu rheoli'n raddol. Mae hyn wedi golygu bod ceisiadau rhieni a gollodd y cynnig yn nhymor yr haf wedi cael eu hasesu'n gyntaf, gydag awdurdodau lleol yn symud ymlaen yn gyflym i ymdrin â cheisiadau gan rieni newydd. Ac fe hoffwn i ddiolch i awdurdodau lleol am y ffordd y buont yn gweithio'n ddiflino i gefnogi'r cynllun cymorth gofal plant coronafeirws, ac am weithio gyda ni i ddod â'r cynnig yn ei ôl. Ni allem fod wedi gwneud dim o hyn hebddynt.

Mae adfer y cynnig yn rhan allweddol o'n cynllun adfer. Nid yn unig y mae'r cynnig yn darparu sicrwydd cyllid y mae mawr ei angen i ddarparwyr, ond mae'n helpu miloedd o rieni, yn enwedig mamau, yr ymddengys bod y misoedd diwethaf wedi cael effaith arbennig o negyddol arnyn nhw. Elwodd oddeutu 14,600 o blant ar y cynnig ym mis Ionawr a rhagwelir y bydd tua 8,000 i 9,000 o blant yn manteisio ar y cynnig yn nhymor yr hydref, sydd tua 75 y cant i 85 y cant o'r nifer arferol sy'n manteisio arno yn ystod yr hydref. Mae ein gwasanaethau Dechrau'n Deg hefyd wedi ailgychwyn ledled Cymru, ac rwyf wedi ymrwymo i gwblhau'r adolygiad o ymestyn y cynnig i rieni mewn addysg a hyfforddiant.

Ochr yn ochr â hyn, rydym ni wedi cyflwyno'r grant darparwyr gofal plant. Er y byddai'r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal plant wedi gallu cael rhyw fath o gymorth gan y Llywodraeth yn ystod y pandemig, sefydlwyd y grant darparwyr gennym ni, sy'n caniatáu i leoliadau hawlio hyd at £5,000 tuag at eu costau, i helpu unrhyw rai nad oeddent yn gallu manteisio ar y cynlluniau cymorth busnes ehangach. Mae wythnosau cychwynnol y grant darparwyr bellach wedi dechrau ac mae'r nifer sy'n manteisio arno wedi bod yn llai nag yr oeddem wedi gobeithio, ond mae cryn amser i fynd o hyd ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, Cwlwm a Chwarae Cymru i hyrwyddo'r grant ymhellach a chynnig cymorth i gwblhau'r cais, lle bo angen. Mae pob darparwr gofal dydd llawn cofrestredig hefyd yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes o 100 y cant tan fis Mawrth 2022.

Mae cynllun y gweithlu a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017 yn amlinellu ein gweledigaeth i ddatblygu gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar medrus iawn yma yng Nghymru, gan ei wneud yn broffesiwn ac yn ddewis gyrfa. Mae hyn yn bwysicach nag erioed, o ystyried digwyddiadau diweddar, a byddwn yn parhau i weithio i weld ei nodau'n cael eu gweithredu a'u cryfhau, gyda rhaglenni hyfforddi ac uwchsgilio yn ailgychwyn. Mae'r sector gofal plant yng Nghymru yn glytwaith toreithiog o wahanol fathau o sefydliadau, pob un â modelau gweithredu penodol a heriau penodol. Rhaid inni gefnogi'r holl sector os ydym ni eisiau sicrhau bod dewis i deuluoedd a chymorth priodol i'n holl blant, ac, i'r perwyl hwnnw, rwyf hefyd yn bwriadu cwblhau ein hadolygiad gweinidogol o chwarae i gefnogi ein syniadau wrth i ni symud ymlaen.

Dirprwy Lywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith, i helpu rhieni i gael gwaith drwy gael gwared ar ofal plant fel rhwystr i waith, ac i sicrhau bod gwaith gofal plant a chwarae yn dod yn broffesiwn a werthfawrogir yma yng Nghymru am y cyfraniad enfawr y mae'n ei wneud tuag at feithrin a datblygu dinasyddion Cymru fydd. Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 4:23, 22 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am y datganiad, Gweinidog. Bu pryder dealladwy gan rieni, felly croesawaf hyn heddiw. Hoffwn innau ddiolch ar ran yr wrthblaid swyddogol i'n holl ofalwyr meithrin a phlant, sy'n gwneud gwaith gwych nid yn unig yn gofalu am ein plant, ond yn helpu i'w meithrin a'u helpu i dyfu fel unigolion. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y system bellach yn cael ei hadfer, ar ôl cael ei hatal yn ystod y cyfyngiadau symud, ar gyfer rhieni sy'n gweithio ac y mae ganddynt blant tair a phedair oed, oherwydd mae'n achubiaeth hanfodol i deuluoedd, gan alluogi'r rhieni i ennill bywoliaeth mewn gwirionedd.

Ond mae llawer o feithrinfeydd wedi bod yn gweithredu ar golled oherwydd y gostyngiad yn y nifer sy'n mynychu yr ydych chi newydd gyfeirio ato, yn ôl pob tebyg oherwydd yr ansicrwydd parhaus a rhai gweithwyr yn dal i fod ar ffyrlo. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i feithrinfeydd sy'n wynebu caledi ariannol difrifol oherwydd eu bod wedi'u gorfodi i gau, llai o blant yn mynychu a chostau uwch i ymdrin â rheoliadau COVID? A pha ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i sefydlu cronfa drawsnewid i allu cefnogi'r sector nes bod niferoedd yn codi ymhellach nag yr ydych chi wedi dweud, ac i adolygu'r gyfradd fesul awr mewn gwirionedd i adlewyrchu'r costau ychwanegol y bu'n rhaid iddyn nhw eu hysgwyddo, fel y galwyd amdano gan Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd? 

Mae'r sefydliad Cwlwm, yr ydych chi wedi cyfeirio ato, wedi dweud nad oedd y rhan fwyaf o ddarparwyr gofal plant yn gymwys i gael cymorth gan Lywodraeth Cymru, ac yr anwybyddwyd y sector yn ystod y pandemig. Mae Cwlwm, corff ymbarél sy'n cynrychioli 4,000 o ddarparwyr gofal plant, yn amcangyfrif bod 90 y cant o feithrinfeydd, canolfannau gofal dydd, clybiau a gwasanaethau gwarchod plant wedi cau yn ystod y mis diwethaf, ond yn dal i orfod talu biliau a rhent. Nid yw cynllun gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig grantiau hyd at £10,000 i fusnesau ar gael o hyd i'r rhan fwyaf o feithrinfeydd, dywedant, oherwydd bod angen iddyn nhw gofrestru ar gyfer treth ar werth, ac mae'r rhan fwyaf o fusnesau gofal plant wedi'u heithrio. Dywedodd cadeirydd Cwlwm, Dr Gwenllian Lansdown Davies, fod angen eglurder fel y gallai darparwyr dalu eu staff, ac roedd angen codi'r eithriad TAW neu ni fyddai busnesau gofal plant yn goroesi'r pandemig. Byddwn wrth fy modd yn clywed yr hyn y gallech ei ddweud am hynny, Gweinidog, os gwelwch yn dda.

Rwy'n deall yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am beidio â mynnu bod darparwyr gofal plant yn cau yn ystod y pandemig, ond y gwir amdani yw bod llawer wedi cau am nad oedd y niferoedd yn hyfyw. Ac o ran ein hadferiad economaidd, mae angen i ni weld lleoliadau gofal plant yn goroesi a ffynnu. Yn wir, ar ôl cyflwyno'r cynnig gofal plant, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio i gynyddu nifer y lleoedd gofal plant drwy weithio gydag awdurdodau lleol i greu capasiti ychwanegol. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynghylch pa un a oes angen diwygio'r cynlluniau hyn oherwydd y pandemig, os gwelwch yn dda? Diolch.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:26, 22 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am y cwestiynau perthnasol iawn yna. Yn sicr, nid oes gennyf—. Nid wyf yn ceisio dweud, mewn unrhyw ffordd, nad oedd y sector wedi dioddef yn ystod y cyfnod hwn, a chredaf, yn ôl y ffigurau a roddais yn fy natganiad, fy mod wedi egluro'r niferoedd a oedd wedi cau. Ond hefyd mae'n galonogol iawn, y niferoedd sydd wedi ailagor mewn gwirionedd. Ac er bod ganddyn nhw niferoedd llai yn mynychu ar hyn o bryd, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i annog rhieni i gael yr hyder i anfon eu plant yn ôl, oherwydd mae rhywfaint o nerfusrwydd, a hefyd i bwysleisio sut y bydd yn galluogi'r rhieni i barhau i fynd yn ôl i'r gwaith, os nad ydyn nhw yn gallu gweithio. A hefyd, rwy'n credu, fel y sonioch chi, efallai y bydd llawer o rieni'n dal i fod ar ffyrlo, felly mae hynny'n golygu nad ydyn nhw eisiau i'w plant ddychwelyd. Felly, rwy'n credu bod llawer o resymau pam nad ydyn nhw'n mynychu ar hyn o bryd.

Yn sicr, mae llawer o grantiau ar gael nad oedd y sector gofal plant yn cyd-daro â nhw'n hawdd iawn. Roeddent yn sicr yn gallu manteisio ar y cynllun ffyrlo, ac fe wnaeth llawer ohonyn nhw—cynllun Llywodraeth y DU—ac maen nhw wedi gallu manteisio ar rai cynlluniau eraill. Ond roeddem yn ymwybodol bod yna fwlch, a dyna pam yr ydym ni wedi cyflwyno'r grant i ddarparwyr. Nawr, mae hynny'n newydd iawn—dim ond ers rhai wythnosau y mae mewn bodolaeth—ond mae hynny wedi'i fwriadu'n arbennig ar gyfer y gwahanol leoliadau sydd wedi syrthio rhwng dwy stôl, fel petai. 

Felly, rwyf yn ffyddiog y bydd y cynllun gofal plant yn adfywio; mae'n adfywio'n barod. Credaf ein bod i gyd yn gwybod pa mor gwbl hanfodol ydyw. Mae'n hanfodol i rieni sy'n gweithio, mae'n hanfodol i'r economi, ac mae'n hanfodol i'r plant. A gwn ichi gyfeirio at Cwlwm heddiw, ac roeddwn yn falch iawn bod neges yma heddiw i ddweud mai'r sefyllfa heddiw yw bod 99 y cant o gylchoedd meithrin ar agor mewn gwirionedd, ac rydym ni wedi bod yn poeni'n fawr yn benodol am y ddarpariaeth Gymraeg, gan fod y ddarpariaeth Gymraeg wedi dioddef yn anghymesur. Felly, credaf fod gobaith pendant, ac rydym ni'n cynnig cymaint o gymorth ag y gallwn ni.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:29, 22 Medi 2020

Hoffwn innau hefyd ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y sector pwysig yma am eu cyfraniad dros y misoedd diwethaf yn gofalu am blant, gan gynnwys, wrth gwrs, plant o deuluoedd rhai o'n gweithwyr allweddol, er mwyn iddyn nhw fedru parhau i gynnal gwasanaethau rheng flaen.

Yn anffodus, bu'n rhaid i hanner y darparwyr gau eu drysau, ond, erbyn heddiw, mae llawer wedi ailagor, fel y sonioch chi. Ond mae 12 y cant o leoliadau yn parhau ar gau. Mi fuaswn i'n licio ymchwilio'r ffaith yma rhyw ychydig, a gofyn i chi ydych chi'n credu y bydd y lleoliadau yma yn ailagor, yntau a ydy rhai o'r rhain wedi cau eu drysau am byth. Rydych chi'n mynd ymlaen i ddweud yn eich datganiad chi fod y rhan fwyaf o leoliadau yn disgwyl gostyngiad o 30 y cant yn y nifer o blant fydd yn mynychu i'r dyfodol agos. Mae hyn yn ostyngiad sylweddol ac yn mynd i wneud rhai lleoliadau yn anghynaladwy yn ariannol, ac yn anffodus, wrth i'r cyfyngiadau ddwysáu eto, does dim arwydd bod y sefyllfa am wella. Yn ogystal â'r effaith andwyol ar y busnesau eu hunain, a ydych chi'n credu bod goblygiadau eraill i'r gostyngiad yma? Dwi'n meddwl yn benodol am yr effaith ar blant, ar ddatblygiad cymdeithasol plant ac yn enwedig datblygiad plant o gefndiroedd difreintiedig. Rydym ni’n gwybod—ac mae yna ddigon o dystiolaeth i ddangos—pa mor bwysig ydy gofal ac addysg blynyddoedd cynnar i ddatblygiad plentyn yn emosiynol, yn gymdeithasol ac yn addysgiadol. Felly pa mor bryderus ydych chi am y gostyngiad yma yn y tymor byr a’r tymor hir, a hynny o safbwynt y plentyn?

Mae gostyngiad hefyd, fel roeddech chi’n sôn, yn y rhai sydd wedi gwneud cais am y cynnig gofal plant. Mae dipyn llai na’r arfer ar gyfer yr adeg yma o’r flwyddyn, ac un canlyniad o hynny, wrth gwrs, ydy fod yna fwy o arian yn y gyllideb benodol honno. Felly, gaf i ofyn i chi a ydych chi wedi ystyried ymestyn y cynnig i blant o deuluoedd lle nad ydy’r rhieni neu riant yn gweithio, fel eu bod nhw’n gallu elwa o ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar, sef rhywbeth mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano fo o’r cychwyn cyntaf, fel y gwyddoch chi? Rydw i’n eich clywed chi’n sôn am adolygiad. Pryd fydd hwnnw’n cael ei gwblhau ac onid ydy’n briodol i symud peth o’r arian yn y gyllideb tuag at deuluoedd lle nad ydy rhieni’n gweithio er mwyn i’r plant yna gael elwa?

Ac yn olaf, sôn am y grantiau sydd ar gael. Rydych chi wedi cyhoeddi’r gronfa grantiau bach ar gyfer y sector yn ddiweddar. Mae fel roeddech chi’n ddweud, sef cronfa gwerth £4 miliwn, ond dwi'n deall ar hyn o bryd fod nifer y ceisiadau i’r gronfa yma’n fychan. Fedrwch chi ymhelaethu ar hyn? Yn ôl rhai o’r darparwyr rydw i wedi bod yn siarad â nhw, mae yna lot o waith ynghlwm â gwneud cais am grant o’r gronfa benodol yma am beth sydd yn arian gymharol fach a bod angen casglu llawer iawn o dystiolaeth. Felly, buaswn i’n gofyn yn garedig i chi edrych eto ar feini prawf y gronfa yma er mwyn denu mwy o geisiadau. Mi fyddai’n drueni pe na bai'r cyfan o’r £4 miliwn yn cael ei wario. Rydw i’n siŵr eich bod chi’n cytuno â hynny. Diolch.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:33, 22 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau yna. Rwy'n falch ei bod yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae'r sector gofal plant yn ei wneud a'i bod wedi diolch i'r sector am roi'r cyfle i weithwyr gofal allu parhau i weithio yn y pandemig hwn. Chwaraeodd y sector gofal plant ran gwbl hanfodol.

Yr adeg hon o'r flwyddyn, mae ceisiadau am y cynnig gofal plant bob amser yn is nag yn ystod gweddill y flwyddyn, ac yn fy natganiad dywedais ei fod rhwng 75 ac 85 y cant o'r hyn y byddem yn ei ddisgwyl fel arfer yr adeg hon o'r flwyddyn. O gofio, am y rhesymau a ddefnyddiais yn fy atebion blaenorol, y gallai llawer o rieni fod yn amharod o hyd i'w plant fynd i ofal plant, efallai y bydd llawer yn dal i weithio gartref ac yn ceisio gofalu am y plant ar yr un pryd, ac efallai fod llawer ar ffyrlo o hyd, credaf fod rhesymau pam mae'r nifer hwnnw'n isel a rhagwelwn y bydd yn codi'n raddol wrth i ffydd gynyddu o ran anfon plant yn ôl i'r sector gofal plant.

Gwnaethom yr arolwg hwn ym mis Awst i weld pa gymorth a oedd ar gael i'r sector ac, mewn gwirionedd, dywedodd 90 y cant o'r bobl a atebodd y cawson nhw ryw fath o grant gan y Llywodraeth o ryw le neu'i gilydd. Felly, credaf fod 90 y cant wedi cael grantiau, ond serch hynny derbyniaf yn llwyr yr hyn y mae Siân Gwenllian yn ei ddweud oherwydd ei fod yn sector bregus cyn i hyn i gyd ddigwydd ac mae'n amlwg ein bod ni eisiau rhoi cymaint o gymorth ag y gallwn ni, a dyna pam y gwnaethom ni greu grant y gronfa ddarparwyr. Dim ond ers ychydig wythnosau y bu ar gael, ond fel y dywedwch chi, mae'r ceisiadau'n araf ar hyn o bryd, felly rwyf wedi gofyn i swyddogion gysylltu â'r darparwyr—gyda Cwlwm yn benodol—i weld pa gymorth y gellir ei roi ac i annog y grwpiau i wneud cais, oherwydd mae'n amlwg bod llawer o'r grwpiau hyn yn cael eu rhedeg gan bwyllgorau rheoli gwirfoddol sy'n gwneud hynny yn eu hamser eu hunain, ac rydym ni eisiau rhoi cymaint o gymorth â phosib iddyn nhw, oherwydd yn sicr nid ydym ni eisiau i'r £4.5 miliwn hwnnw fynd i wastraff, oherwydd ei amcan yn benodol oedd ceisio llenwi'r bylchau yn y sector gofal plant.

O ran yr adolygiad, rydym ni wedi bod yn ystyried a allwn ni ymestyn y cynnig i bobl mewn addysg a hyfforddiant, a phobl sydd ar fin gweithio. Mae'r adolygiad hwnnw ar y gweill. Byddaf yn cael yr adroddiad yn yr hydref, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu dweud rhywbeth pendant wrth y Siambr tua diwedd y tymor hwn neu ddechrau'r tymor nesaf.

O ran yr effaith ar blant, credaf fod Siân Gwenllian yn llygad ei lle: mae cynifer o blant wedi dioddef cymaint yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig plant difreintiedig. Rwy'n falch ein bod wedi gallu darparu rhywfaint o gymorth i blant difreintiedig a hefyd drwy wyliau'r haf, pan oeddem yn gallu rhoi rhywfaint o arian i awdurdodau lleol i geisio darparu rhywfaint o ddarpariaeth yn ystod gwyliau'r haf. Ond oherwydd y gwyddom ni fod hyn mor gwbl hanfodol i'r blynyddoedd cynnar, i blant gael cymaint o gymorth a chefnogaeth ag y gallan nhw, rwy'n cytuno'n llwyr â hi bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r plant i ddal i fyny a helpu i gefnogi'r ysgolion a'r lleoliadau gofal plant i wneud popeth o fewn eu gallu i'r plant difreintiedig yn arbennig.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 4:36, 22 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, fe wnaethoch chi ddiolch i ddarparwyr gofal plant a'u staff am bopeth y buon nhw yn ei wneud. A gaf i hefyd ddiolch i chi a Llywodraeth Cymru am yr hyn y buoch chi yn ei wneud yn y maes hwn? Mae'r cynnig gofal plant wedi creu argraff arnaf yn y ffordd y cafodd ei ddarparu. Mae'n elfen yn eich maniffesto, ond rydych chi wedi bwrw iddi a'i weithredu, gwnaed hynny cyn yr amserlen, ac rwy'n arbennig o falch eich bod o leiaf mor gefnogol o'r sector preifat gyda'r cynnig ag yr ydych chi o'r sector cyhoeddus.

Fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad fod y cynnig gofal plant yn rhan allweddol o'r cynllun adfer, ac rwy'n sicr yn cytuno â hynny. Fe ddywedoch chi, serch hynny, mai dim ond 75 i 85 y cant o blant y gallech eu disgwyl mewn tymor arferol a oedd wedi dychwelyd, a tybed ai rheswm arall dros hynny efallai yw'r rhyngweithio â gofal cyn ac ar ôl ysgol. Er bod dychwelyd i'r ysgol wedi gweithio'n dda ar y cyfan, mae nifer o etholwyr wedi codi pryderon ynghylch pa mor aml y mae gofal cyn ac ar ôl ysgol, a oedd ar gael o'r blaen, ar gael nawr, a phryder y gallai'r ffaith nad yw ar gael eu hatal rhag dychwelyd i'r gwaith. Ai rhyngweithio rhwng hynny a brodyr a chwiorydd iau sy'n cadw nifer sylweddol rhag manteisio ar y cynnig gofal plant eto?

A dim ond er mwyn egluro'r grant darparwyr gofal plant ychydig hefyd, credaf ichi ddweud mai dim ond pan nad oedd cynlluniau eraill ar gael yr oedd hwn ar gael, ond yna fe wnaethoch chi sôn, rwy'n credu, yn ddiweddarach, eu bod hefyd yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes. A gaf i sicrwydd mai'r naill beth neu'r llall yw hi, neu a yw rhai darparwyr yn gymwys i gael y ddau? Ac a oeddech hefyd yn arbennig o bryderus ynghylch roi cymorth i warchodwyr plant a allai fod yn cynnig hyn gartref, nid o safleoedd sy'n cael eu trin fel busnesau, neu a yw hynny'n amherthnasol yn y fan yma? Diolch.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:38, 22 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i Mark Reckless am y cwestiwn yna. A do, fe wnaethom ni ddarparu'r cynnig gofal plant flwyddyn ynghynt na'r bwriad ac rwy'n gwybod y bu croeso cynnes iawn i hynny.

Credaf ei fod yn gwneud sylw pwysig iawn am y rhyngweithio rhwng gofal cyn ac ar ôl ysgol yn yr ysgolion oherwydd, yn sicr, nid yw llawer o'r ysgolion wedi cyflwyno'r clybiau brecwast a'r clybiau ar ôl ysgol eto. Mae'n ddyletswydd lwyr, fel y mae'r Gweinidog addysg wedi'i gwneud yn glir, fod y clybiau brecwast, sy'n rhad ac am ddim ac a ddarperir gan arian Llywodraeth Cymru yn y pen draw, yn ailgychwyn. Ond gyda'r clybiau ar ôl ysgol, gwn fod rhywfaint o bryder gan y penaethiaid ynghylch cael grŵp arall, o bosib, yn yr ysgol nad yw'n cael ei reoli gan yr ysgol ar hyn o bryd. Ac rwy'n deall hynny'n llwyr, oherwydd rwy'n credu y bu penaethiaid yn bryderus a'u bod wedi paratoi'n ofalus iawn i'r plant ddod yn ôl i'r ysgol, ac, fel y dywedwch chi, mae wedi bod yn llwyddiannus iawn. Ond, yn sicr, rwy'n gwybod am benaethiaid sydd wedi dweud eu bod yn amharod i gael y clybiau ar ôl ysgol yn ôl eto, ond gobeithiwn y cânt eu cyflwyno'n fuan. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid inni edrych arno'n ofalus iawn. Rydym ni mewn cysylltiad â'r awdurdodau lleol, yn gofyn iddyn nhw annog penaethiaid i ailgyflwyno clybiau ar ôl ysgol, ond mae'n amlwg bod hynny'n ymwneud â brodyr a chwiorydd iau a phresenoldeb. Felly, unwaith eto, mae'n rhywbeth rwy'n credu ei fod yn gywir yn ei gylch, y gallai hynny gyfrannu at yr achos.

O ran y grant i ddarparwyr, credaf ein bod yn ceisio llenwi bylchau lle nad oedd grwpiau mewn gwirionedd yn gymwys i gael rhai o'r grantiau a oedd ar gael, gan nad oedd eu hadeiladau'n gymwys ac nad oedden nhw yn gymwys. Yn sicr, mae'n bosib iddyn nhw gael dau grant ar wahân gan y Llywodraeth ar yr amod nad yw ar gyfer yr un peth. Felly, ni allwch chi wneud cais o ddwy gronfa wahanol o arian ar gyfer, er enghraifft, cyflog un person, ond mae'n bosib cwmpasu gwahanol feysydd. Felly, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i chwilio am ffyrdd o gefnogi'r sector gofal plant, oherwydd, fel y dywedwch chi, mae'n gwbl hanfodol i'r adferiad.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:41, 22 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ac yn olaf, Jenny Rathbone.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Mae'n sicr yn wir fod COVID-19 wedi cael effaith ofnadwy ar sefyllfa menywod yn y gweithle, oherwydd maen nhw wedi cael eu targedu gan gyflogwyr fel y cyntaf drwy'r drws os oes angen iddyn nhw ddileu swyddi. Felly, mae gennym ni rywfaint o waith dod i drefn o ran sicrhau bod gennym ni weithlu cynhwysol, ond hefyd o ran sicrhau y caiff pob plentyn y cyfle i gael darpariaeth addysg a chwarae blynyddoedd cynnar o safon. Felly, mae'n bosib bod eich ffigurau o ostyngiad o 30 y cant yn cyfeirio at bobl sydd wedi colli eu swyddi ac felly'n methu fforddio gofal plant mwyach, ond hefyd, yn amlwg, y pryder y gallai rhai rhieni ei deimlo ynghylch rhoi eu plant mewn addysg blynyddoedd cynnar.

Rwy'n cydnabod yn llwyr y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan ddarparwyr gofal plant, yn sicr ar draws fy etholaeth—yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol—ond mae'r sector yn fregus, fel y dywedwch chi, a gwyddom o astudiaeth ar ôl astudiaeth mai'r strategaeth fwyaf effeithiol ar gyfer cau'r bwlch cyrhaeddiad yw'r ddarpariaeth addysg a chwarae cynhwysfawr o ansawdd uchel iawn y gallwch eu cael. Rydym ni ymhell ar ôl gwledydd fel Ffrainc a'r Almaen. Mae Dechrau'n Deg i blant dwy flwydd oed wedi bod yn fenter ragorol, ond sut y cawn ni fwy o feithrinfeydd mewn ardaloedd difreintiedig lle mae'r sector preifat yn annhebygol iawn o ymsefydlu ynddynt? Maen nhw yn llawer mwy tebygol o ddewis a dethol ardaloedd yn ein cymunedau lle mae llawer mwy o bobl yn gallu talu. Rwy'n gwerthfawrogi'r holl waith yr ydych chi'n ei wneud, ond mae'n ymddangos i mi fod gennym ni her sylweddol iawn o hyd i gyrraedd y fan lle yr hoffem ni fod. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni sut yr ydych chi'n mynd i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i sicrhau gofal plant ac addysg o safon i'w plentyn, nid dim ond y rhai sydd â'r modd i dalu am hynny. 

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:43, 22 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn yna ac am ei chyfraniad. Ac, wrth gwrs, mae hi'n hollol gywir, mae'n hanfodol, i fenywod yn arbennig, ein bod yn cynnig y cyfleoedd fel eu bod yn gallu gweithio a chyflawni eu potensial, yn ogystal â photensial y plant.

Credaf y bu Dechrau'n Deg yn un o'n prif raglenni, ac mae wedi bod, o'r dystiolaeth a welsom ni hyd yma, yn hynod lwyddiannus. Gwn ein bod i gyd wedi clywed penaethiaid yn dweud, 'O fe wyddoch chi os yw plant wedi dod o gefndir Dechrau'n Deg.' Mae'r ddarpariaeth lleferydd ac iaith yn Dechrau'n Deg wedi bod yn gwbl eithriadol. Felly, credaf ein bod yn gwybod beth y gallwn ni ei wneud, a'r hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw ceisio ymestyn yr hyn a ddarperir yn Dechrau'n Deg yn llawer ehangach. Mae'n amlwg ar sail ddaearyddol ac rydym yn fwy hyblyg nawr o ran ceisio cael allgymorth fel ei fod ar gael i bobl y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg, ond dyna, fel y gwelaf i, yw allwedd darpariaeth o safon.

Felly, credaf ein bod yn ystyried ffyrdd o ymestyn Dechrau'n Deg, a chredaf mai hynny yw—. Cytunaf yn llwyr â Jenny Rathbone ein bod ymhell y tu ôl i wledydd Llychlyn, ond rydym yn gwneud cynnydd, a chredaf fod darpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel yn gwbl hanfodol, fel y gall plant o gymunedau difreintiedig ddechrau yn yr ysgol yn gyfartal, a'r dystiolaeth gan Dechrau'n Deg yw eu bod yn gwneud hynny. Felly, mae gennym ni yr allwedd i hynny, a dyna y mae angen inni ei ddilyn.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:45, 22 Medi 2020

Diolch i'r Dirprwy Weinidog.

Yr eitem nesaf, felly, yw'r rheoliadau coronafeirws. Mae eitem 8 wedi'i gohirio, ac eitem 10 wedi'i thynnu yn ôl. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y tri chynnig o dan eitemau 6, 7 a 9 yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Dwi'n cymryd nad oes neb yn gwrthwynebu y grwpio hynny.