2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 23 Medi 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch, Lywydd. Weinidog, caffael yw un o'r ffyrdd allweddol y mae angen i gyrff cyhoeddus allu dangos eu bod yn sicrhau gwerth am arian, rhywbeth y clywsom dystiolaeth gennych arno'n ddiweddar yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Daeth dau o adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru yn hydref 2017 i'r casgliad y gellid cryfhau trefniadau llywodraethu cenedlaethol ar gyfer caffael ac y dylid eu cryfhau. Sut y bwriadwch wneud hyn?
Diolch yn fawr am godi'r mater hwnnw, a chredaf mai un peth allweddol yn ein harfogaeth o ran caffael yw datganiad polisi caffael Cymru. Nawr, y tro diwethaf y'i diweddarwyd yn llawn oedd yn 2015, ac mae'n darparu'r strategaeth a'r fframwaith i'r sector cyhoeddus yng Nghymru ymgymryd â chaffael cyhoeddus. Ac mae ei gymhwyso'n effeithiol wedi sicrhau effeithiau cadarnhaol, ond gwn y gallwn wneud mwy, gallwn fynd ymhellach, felly mae datganiad polisi caffael diwygiedig yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i edrych ac adeiladu ar y berthynas waith agosach a ddatblygwyd gyda Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru yn ein hymateb i bandemig COVID. Rwy'n credu bod ein perthynas waith yn yr ystyr honno yn well nag erioed, felly mae'n gyfle inni sicrhau bod ein gwaith caffael yn elwa o'n ffyrdd newydd o weithio.
Diolch, Weinidog, ac rwy'n falch o glywed bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, oherwydd mae angen edrych ar fframweithiau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a'u hailwampio. Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi bod yn gwario tua £6 biliwn yn caffael nwyddau a gwasanaethau, felly ni ddylai fod gennym unrhyw amheuaeth ynghylch pwysigrwydd caffael i sicrhau bod economi Cymru'n symud eto. Yn anffodus, fel y gwyddoch, daeth adroddiadau'r archwilydd cyffredinol i'r casgliad nad yw cyrff cyhoeddus yn defnyddio fframweithiau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gymaint ag y rhagwelwyd yn wreiddiol, tra bo'r broses gaffael a ganslwyd ar gyfer Cymorth Swyddi Cymru yn fethiant proffil uchel o ran caffael a oedd yn bwrw amheuaeth ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn batrwm o arferion caffael gorau. Felly, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, yn gyntaf, pryd y caiff eich adolygiad o hyn ei gyhoeddi a'i gwblhau, a sut rydych chi'n datrys y problemau fel y gellir sicrhau cwmnïau ledled Cymru fod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r problemau hyn ac yn newid holl ddiwylliant caffael yng Nghymru?
Rwy'n hapus i ddarparu'r diweddariad hwnnw. Felly, mae fy nghyd-Aelod Lee Waters wedi bod yn arwain ar waith gwirioneddol bwysig ar yr economi sylfaenol, ac fel rhan o'r gwaith hwnnw, comisiynwyd y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol gennym i weithio gyda ni i sicrhau y gallwn nodi clystyrau o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a gweithio gyda hwy i ystyried ffyrdd newydd o weithio a sut y gallant fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd caffael mewn economïau lleol. Nawr, mae COVID wedi effeithio ar y gwaith hwnnw, ond bydd cynlluniau gweithredu'n cael eu cytuno erbyn diwedd y mis hwn. A'r amcan sylfaenol ar gyfer hynny yw nodi meysydd caffael sy'n llifo allan o'r rhanbarth ar hyn o bryd neu allan o Gymru yn wir, a sicrhau bod hynny'n cael ei ddefnyddio fel y llinell sylfaen i ddatblygu'r dulliau newydd, er mwyn cynyddu cyfranogiad cyflenwyr lleol mewn gwariant. Felly, gwaith gwirioneddol bwysig a ffordd newydd o weithio ac fel y dywedais, dylem allu dweud mwy ynglŷn â chytuno ar gynlluniau ar gyfer datblygu hynny yn ddiweddarach y mis hwn.
Diolch, ac edrychaf ymlaen at glywed y wybodaeth honno yn ddiweddarach y mis hwn. Rwy'n sylweddoli bod amser swyddogion a'ch amser eich hun ac amser y Llywodraeth dros y cyfnod diweddar wedi'i neilltuo'n bennaf ar gyfer y pandemig ac ymdrin â hynny, ond yn fy nghwestiwn olaf i chi, os caf ofyn sut y gellir gweld holl fater caffael yn nhermau adeiladu'n ôl yn well, ac adnewyddu'r diwylliant sydd gennym yng Nghymru. Mae'n sicr fod gan gaffael ran enfawr i'w chwarae yn y broses o adeiladu'n ôl well, o gofio'r symiau enfawr o arian rydym yn sôn amdanynt yma—y £6 biliwn y soniais amdano yn flaenorol, ond ceir arian ychwanegol hefyd. Rwy'n siŵr y cytunwch ei bod hefyd yn bwysig fod polisi caffael yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r comisiynydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y Ddeddf ar ddechrau'r broses gaffael, neu hyd yn oed, yn bwysig, ar gam cyn caffael. Mae hyn, fel y dywedais o'r blaen, Weinidog, yn ymwneud â newid holl ddiwylliant y ffordd rydym yn ymdrin â chaffael yng Nghymru. Mae'n faes enfawr, ond a ydych yn cytuno, ynghyd â pholisi treth—newid mawr arall yn ddiweddar i'r ffordd y mae'r lle hwn yn gweithredu—y gall fod yn un o'r prif ysgogiadau at eich defnydd o ran darparu gwerth am arian i'r trethdalwr, cefnogi economi Cymru a helpu yn y broses o adeiladu'n ôl yn well?
Ydw. Mawredd, dyma fi'n cytuno â llefarydd y Ceidwadwyr ar y mater hwnnw. Yn sicr, gall caffael chwarae rhan enfawr yn y broses o adeiladu'n ôl yn well drwy sicrhau bod gwariant yn cael ei gadw yn ein cymunedau lleol.
Fe fyddwch yn gyfarwydd â chronfa her yr economi sylfaenol. Mae wedi bod yn bwysig iawn wrth nodi meysydd lleol lle gellir gwella. Felly, un enghraifft fyddai canolfan cenedl y goedwig, sy'n profi'r cysyniad o ddefnyddio dulliau gweithgynhyrchu medrus i ychwanegu gwerth er mwyn cynyddu'r defnydd o bren o Gymru mewn tai, ac mae hynny o ddiddordeb i sawl portffolio yn y Llywodraeth. A hefyd y cynllun peilot amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig, sy'n archwilio datblygiad hen gyfleusterau amaethyddol cymunedol. Felly, llawer o wahanol ffyrdd y gallwn sicrhau bod gwariant yn cael ei gadw'n fwy lleol er budd pobl leol, ac rwy'n credu bod y gronfa her honno wedi bod yn allweddol wrth gyflwyno ffyrdd newydd arloesol o weithio y byddwn yn anochel yn awyddus i adeiladu arnynt wrth inni ddod allan o'r argyfwng.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Efo chwarter poblogaeth Cymru erbyn hyn dan gyfyngiadau uwch yn sgil y pandemig ar hyn o bryd, mi roeddwn i'n falch o weld mesurau newydd yn cael eu cyhoeddi neithiwr i gefnogi pobl yn ariannol. Dwi'n cyfeirio'n bennaf at y taliad o £500 i bobl ar incwm isel a chefnogaeth hefyd i gyflogwyr allu parhau i gyflogi pobl sydd yn sâl. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cael manylion y cynllun yma cyn gynted â phosib. Oes posib cael y manylion hynny rŵan? Ac, a ydyn ni'n debyg o gael rhagor o gyhoeddiadau am gefnogaeth yn benodol i ardaloedd sydd yn cael eu hadnabod fel y rhai sydd angen bod mewn mesurau mwy cyfyng?
Diolch. Fel y dywedwch, neithiwr, cyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd taliad o £500 yn cael ei roi i bobl ar incwm isel a fydd yn gorfod hunanynysu. Fel y dywedodd yn gynharach yn natganiad y Prif Weinidog, rydym yn dal i weithio ar fanylion hynny, gan edrych ar y mecanweithiau darparu. Soniodd y Prif Weinidog am y potensial i ddefnyddio'r gronfa cymorth dewisol fel mecanwaith ar gyfer gwneud hynny. Mae opsiynau eraill ar gael ac yn cael eu hystyried hefyd. Ac rydym hefyd yn edrych yn fanwl ar beth fydd y meini prawf cymhwysedd. Felly, mae arnaf ofn na allaf roi'r holl fanylion hynny i chi heddiw gan fod gwaith modelu ar y gweill gan Drysorlys Cymru ar hynny, ond cyn gynted ag y bydd gennym fwy o fanylion am y cynllun, yn amlwg, byddaf yn awyddus iawn i rannu hynny.
Dwi'n gwerthfawrogi bod yna waith gweithio ar y manylion, ond dwi'n cofio taliad arall o £500 a gafodd ei gyhoeddi rai misoedd yn ôl i weithwyr yn y sector gofal, ac mi gymerwyd amser hirfaith i weithio allan sut i wneud y taliad hwnnw, a dyw'r broses ddim drosodd eto.
Mae awdurdodau lleol, os caf i symud ymlaen, wedi gwneud gwaith arwrol yn ystod y pandemig yma. Dwi yn bryderus o glywed am gryn ansicrwydd ymhlith arweinwyr llywodraeth leol ynglŷn â chyllid i gynghorau wrth inni wynebu'r gaeaf, sy'n mynd i fod yn straen, wrth gwrs. Yn ôl un cyngor yn benodol, mi lwyddwyd i hawlio colledion chwarter 1 yn ôl yn ddigon rhwydd, ond mae'r stori'n wahanol iawn efo chwarter 2. Felly, gaf i gadarnhad o'r gefnogaeth ychwanegol sy'n barod i fynd i goffrau cynghorau i'w digolledu nhw, a chadarnhad bod prosesau'n cael eu prysuro i sicrhau bod colledion sydd wedi cael eu gweld yn barod yn cael eu talu nôl ar fyrder, neu fe fydd cynghorau'n wynebu'r straen yn fuan iawn, iawn?
Wel, gweithiodd Llywodraeth Cymru yn agos iawn ochr yn ochr â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Trysoryddion Cymru drwy ddechrau'r haf i ddeall yn well y perygl o golli incwm ar draws gweddill y flwyddyn ariannol. Gallai incwm a gollwyd ddeillio o bethau fel diffyg gwasanaethau y byddai'r cyngor yn eu darparu fel arfer—er enghraifft, parcio ceir, theatrau, ac yn y blaen. Felly, aeth llawer iawn o waith manwl rhagddo ar hynny a dyna pam y bu modd i mi gyhoeddi'n ddiweddar iawn fod cyllid ychwanegol i'w roi i awdurdodau lleol mewn perthynas ag eitemau, gan gynnwys enillion a gollwyd, gan olygu bod cyllid ychwanegol i lywodraeth leol bellach bron yn £500 miliwn. Felly, credaf ein bod wedi gweithio gyda hwy y tu hwnt i'r gyfran gyntaf honno o gyllid y cofiaf ei fod oddeutu £70 miliwn. Ond nawr rydym wedi darparu cyllid a ddylai bara tan ddiwedd y flwyddyn ariannol. Felly, mae'n destun pryder fod awdurdod lleol wedi awgrymu bod hon yn broblem barhaus, ond os ysgrifennwch ataf, efallai y gallwn gael ychydig mwy o fanylion ynglŷn â hynny.
Y pryder ydy, wrth gwrs, ei fod o'n mynd i fod yn fater sydd yn parhau am amser maith, ac mae yna bryderon, yn sicr, dros beth ddigwyddiff dros y gaeaf.
Yn olaf, dwi eisiau cael rhywbeth ar y cofnod, mewn difrif. Wrth inni wynebu dod allan o'r twll economaidd rydym ni ynddo fo ar hyn o bryd, mae wedi dod yn glir yn ystod y pandemig yma bod trefniadau ffisgal Cymru yn gwbl, gwbl annigonol. Gaf i sicrwydd gennych chi bod trafod efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig y rheolau a'r amgylchiadau ffisgal newydd yr hoffech chi eu gweld yn mynd i fod yn flaenoriaeth i chi? A wnewch chi gytuno â fi dyw hyn yn sicr ddim yn rhywbeth sy'n gallu cael ei roi o'r neilltu oherwydd COVID, mae o'n rhywbeth sydd angen ei wneud yn gyflymach a'i brysuro oherwydd COVID a'r problemau economaidd sydd wedi dod yn sgil hynny?
Yn bendant, rwy'n rhoi sicrwydd i chi y bydd mecanweithiau rhynglywodraethol mewn perthynas â chyllid, yn ogystal â hyblygrwydd cyllidol yn arbennig, yn parhau i fod yn ganolog i'r sgyrsiau a gaf gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Felly, fe fyddwch yn cofio'n gynharach yn yr haf fod un o'n pryderon mawr yn ymwneud â gallu newid cyfalaf yn refeniw—roedd hynny'n rhywbeth roeddem yn awyddus i'w wneud. Ond mewn gwirionedd, o ganlyniad i'r cyllid ychwanegol ymlaen llaw y llwyddais i'w negodi gyda'r Trysorlys, mae mwy o ddiddordeb gennyf erbyn hyn mewn gwahanol fathau o hyblygrwydd. Felly, un math o hyblygrwydd, er enghraifft, fyddai’r gallu i dynnu mwy i lawr o gronfa wrth gefn Cymru pe bai ei angen arnom, neu i gario mwy ymlaen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, pe baem yn teimlo ei bod yn ddoeth inni wneud hynny hefyd. Oherwydd yn amlwg, nid yw'r argyfwng yn parchu blynyddoedd ariannol, a gall pethau ddigwydd ar ddiwedd blwyddyn ariannol, neu ar y dechrau, ac mae'n gwneud y gwaith o reoli’r gyllideb yn anodd iawn.
Nawr, mae'r holl bethau hyn yn bethau y gallai Llywodraeth y DU gytuno iddynt yn hawdd iawn. Nid ydynt yn cynnwys cyllid ychwanegol; maent yn golygu caniatáu inni ddefnyddio'r cyllid sydd gennym yn y ffordd orau. Felly, byddaf yn parhau i gael trafodaethau o'r fath. Gwn fod gwahanol rannau o'r Senedd—a thu hwnt—yn gefnogol i hynny, felly os gallwn weithio ar y cyd arnynt, byddwn yn croesawu'r cyfleoedd hynny.
Llefarydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Gofynnwyd i'r Prif Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl rwy'n credu, ynglŷn â'r posibilrwydd o godi treth incwm y flwyddyn nesaf, a chredaf iddo ymateb drwy ddweud bod yr economi mor wan yn sgil COVID fel y byddai'n anghywir inni ystyried unrhyw godiadau treth incwm. A yw hynny'n golygu mai dim ond pan fydd yr economi'n gryf y dylid ystyried codiadau treth incwm?
Fel y dywedwch, cynhaliwyd cyfweliad gyda'r Prif Weinidog ar yr union fater hwn, a dywedodd na fyddai’n ystyried codi trethi incwm i bobl pan fo'r economi mewn sefyllfa anodd iawn, ac o bosibl, mewn dirwasgiad. Wrth gwrs, rydym wedi edrych ar y data rydym wedi'i gael gan Fanc Lloegr, a chan eraill, o ran sut olwg fyddai ar yr economi. Yn amlwg, ceir anawsterau mawr mewn perthynas â’r argyfwng beth bynnag, ond wrth inni agosáu at ddiwedd y flwyddyn a wynebu'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, yn amlwg bydd hynny'n gwaethygu'r problemau sy'n ein hwynebu. Felly, dywedodd y Prif Weinidog yn eithaf clir nad oes unrhyw fwriad i gynyddu trethi incwm pan fo'r economi mewn sefyllfa arbennig o anodd. Ac wrth gwrs, gwn fod pob un ohonom yn ystyried hyn wrth inni feddwl beth y byddwn yn ei gynnig i bobl Cymru yn yr etholiad sydd ar y gorwel, ac rwy'n edrych ymlaen at ddadl ar dreth incwm yn y Siambr yn nes ymlaen y prynhawn yma hefyd.
O ystyried effaith sylweddol iawn yr argyfwng COVID ar gyllid Llywodraeth Cymru, ac yn benodol, y gostyngiad tebygol mewn arenillion treth oherwydd y mesurau llymach yng Nghymru o gymharu â’r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud yn Lloegr, sut y mae’r Gweinidog yn y pen draw yn disgwyl rhoi cyllid cyhoeddus yn ôl ar sylfaen gynaliadwy unwaith eto? A fydd yn torri gwariant? A fydd yn cynyddu cyfraddau treth incwm Cymreig? Neu a fydd yn disgwyl i Lywodraeth y DU ei hachub?
Ni chredaf y bydd y gwahaniaeth o ran pa mor gyflym yr aeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ati i godi’r cyfyngiadau symud yn cael effaith fawr ar arenillion treth. Treth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi yw ein dwy dreth yng Nghymru, ac mae'r ddwy ohonynt yn gyfran gymharol fach o gyllideb Llywodraeth Cymru, ac wrth gwrs, er i’r cyfyngiadau symud gael eu codi mewn ffyrdd gwahanol ar ddwy ochr y ffin, amharwyd yn sylweddol ar y rhain yn y ddwy wlad am nifer fawr o fisoedd eleni. Felly, ni chredaf y bydd yr effaith ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn fawr.