– Senedd Cymru ar 20 Hydref 2020.
Sy'n dod â ni nawr at y ddadl olaf y prynhawn yma, y ddadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru. A dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig. Julie Morgan.
Mae angen dad-dawelu Julie Morgan. Ie, dyna ni.
Diolch, Llywydd. Fel Llywodraeth, rydym ni eisiau i bob plentyn yng Nghymru gael y dechrau gorau mewn bywyd, cyflawni eu potensial a gwireddu eu hawliau. Ac mae mor bwysig yn y cyd-destun presennol, yn y sefyllfa yr ydym ni newydd ei thrafod, ein bod yn cadw at yr uchelgais hwnnw. Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn cynnal y ddadl ystyrlon hon bob blwyddyn i ganolbwyntio ar ein cyflawniadau hyd yma yng Nghymru o ran hawliau plant, ac i ystyried galwad y comisiynydd plant arnom ni i wneud mwy.
Felly, heddiw, rydym ni'n trafod adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2019-20, a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach y mis hwn. Cafodd yr adroddiad hwn ei ysgrifennu gan edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, ond yng nghyd-destun y pandemig. Rwyf i'n gwerthfawrogi cael llais annibynnol a diduedd dros blant a phobl ifanc yng Nghymru—un sy'n herio gwaith y Llywodraeth ac eraill o safbwynt hawliau plant, un sy'n ceisio hyrwyddo a diogelu eu buddiannau.
Yn ei hadroddiad blynyddol, mae'r comisiynydd wedi tynnu sylw at lawer o'i chyflawniadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r rhain yn cynnwys ymgysylltu â dros 15,500 o blant a phobl ifanc ledled Cymru drwy ddigwyddiadau amrywiol, darparu hyfforddiant i 200 o weithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar, a rheoli 627 o achosion drwy ei hymchwiliadau a'i gwasanaeth cynghori.
Er bod gweddill y sesiwn hon yn debygol o ganolbwyntio ar ei 18 argymhelliad ar gyfer y Llywodraeth, hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod pwysigrwydd gwaith swyddfa'r comisiynydd, ac i ddiolch iddi hi a'i thîm am y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu i blant a phobl ifanc y mae angen cymorth a chyngor arnyn nhw. A hoffwn i hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r comisiynydd a'i swyddfa am weithio gyda Llywodraeth Cymru, Plant yng Nghymru, a'r Senedd Ieuenctid ar yr arolwg 'Coronafeirws a Fi'. Roedd hwn yn gyfle i blant a phobl ifanc ledled Cymru ddweud wrthym ni ynghylch eu profiad nhw o'r coronafeirws, y cyfyngiadau symud a oedd ar waith ar y pryd, a'r effaith yr oedd yn ei chael ar eu bywydau. Ni yw'r unig Lywodraeth yn y DU sydd wedi holi yn uniongyrchol ac ymgynghori â phlant a phobl ifanc fel hyn. Ymatebodd dros 23,700 o blant a phobl ifanc rhwng tair a 18 oed; yr oedd yn ymateb rhyfeddol. Mae eu hymatebion yn cael eu clywed gan wleidyddion a llunwyr polisi fel ei gilydd, ac rwy'n diolch i bawb a gymerodd ran.
Cyn i mi droi at yr argymhellion, mae'n bwysig atgoffa ein hunain bod gan y comisiynydd statws corfforaeth undyn, a'i fod yn sefydliad hawliau dynol annibynnol, sy'n dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy nifer o lwybrau. Mae ganddi bwerau i adolygu effaith arfer ar blant—neu arfer arfaethedig—unrhyw swyddogaeth Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, neu Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth y maen nhw'n ei gwneud neu'n bwriadu ei gwneud. A byddwch chi'n ymwybodol bod y comisiynydd wedi penderfynu defnyddio ei phwerau ffurfiol o ran addysg ddewisol yn y cartref a diogelu mewn ysgolion annibynnol. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r adolygiad hwnnw pan fydd angen, trwy'r broses ffurfiol, ac ni fyddaf yn trafod yr adolygiad wrth iddo barhau.
Yn yr adroddiad blynyddol eleni, mae'r comisiynydd wedi nodi 18 o argymhellion: mae pump yn ymwneud â phlant sydd wedi bod mewn gofal, gan gynnwys diwygio rhianta corfforaethol, troseddoli plant mewn gofal, llety diogel i blant ag anghenion cymhleth, cyfle i ddefnyddio cynghorwyr personol, a byw yn lled-annibynnol gyda chymorth i'r rhai sy'n gadael gofal. Mae argymhellion eraill yn canolbwyntio ar wasanaethau cyfiawnder ieuenctid, eiriolaeth iechyd a phontio iechyd ac iechyd meddwl, yn ogystal â chanllawiau statudol ar gamfanteisio'n rhywiol ar blant i blant a phobl ifanc sy'n agored i niwed, a chyhoeddi canfyddiadau'r adolygiad tlodi plant.
Mae'r comisiynydd wedi gwneud tri argymhelliad yn ymwneud ag ysgolion, gan gynnwys ymchwiliadau i honiadau o gam-drin plant yn erbyn staff addysgu, canllawiau i gyrff llywodraethu ar weithdrefnau disgyblu a diswyddo, ac ysgolion annibynnol sy'n cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ogystal ag argymhelliad yn ymwneud â gosod y cod ymarfer anghenion dysgu ychwanegol.
Mae'n bwysig nodi, ac rwy'n gwybod bod y comisiynydd plant yn deall, fod nifer o'r argymhellion y mae wedi eu cyflwyno yn gysylltiedig â gwaith sydd wedi ei oedi neu ei ailflaenoriaethu o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws. Mae adleoli swyddogion Llywodraeth Cymru, neu ailflaenoriaethu rhai meysydd gwaith, wedi bod yn ganlyniadau angenrheidiol i'r pandemig, ac yn anffodus ond yn anochel mae hynny wedi golygu nad yw rhywfaint o'r gweithgarwch wedi mynd yn ei flaen yn unol â'r amserlenni gwreiddiol.
Rydym ni yn rhannu llawer o dir cyffredin â'r comisiynydd. Rydym ni wedi gweithio a byddwn yn parhau i weithio gyda hi ac eraill i alluogi plant a phobl ifanc i wireddu eu hawliau. A hoffwn i ddiolch i David Melding am gadeirio'r grŵp gorchwyl a gorffen rhianta corfforaethol, sy'n datblygu siarter wirfoddol y gall sefydliadau ymrwymo iddi, gan nodi eu cynnig unigryw ar gyfer plant sydd wedi bod mewn gofal. A hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r gwaith y mae David wedi ei wneud dros blant, ac yn enwedig dros blant sy'n derbyn gofal.
Ac wrth gwrs, mae iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Gan ategu gwaith adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cadernid Meddwl', rydym ni wedi bod yn benderfynol o fwrw ymlaen ag ymagwedd ysgol gyfan at y fframwaith llesiant. Mae'r coronafeirws wedi gohirio'r ymgynghoriad am ychydig o fisoedd. Fodd bynnag, mae'r canfyddiadau cychwynnol yn cael eu hystyried gan y grŵp gorchwyl a gorffen, cyn eu cyhoeddi'n derfynol.
Cyhoeddodd y comisiynydd ei hadroddiad 'Dim Drws Anghywir' ym mis Mawrth eleni, a oedd yn canolbwyntio ar ddod â gwasanaethau at ei gilydd i ddiwallu anghenion plant ac atal sefyllfaoedd lle na all gwahanol weithwyr proffesiynol gytuno ar bwy sy'n gyfrifol am ofal plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth. Mae'r comisiynydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i'r argymhellion sydd wedi eu hamlinellu yn ei hadroddiad, ac rydym ni'n awyddus i wneud cynnydd ar y mater hwn.
Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad blynyddol y comisiynydd erbyn 30 Tachwedd, gan ystyried yr hyn y mae'r Aelodau yn ei ddweud yn y ddadl hon. Dull gweithredu'r comisiynydd erioed, fel sydd wedi ei nodi ei hadroddiad, yw ymateb i Lywodraeth Cymru fel cyfaill beirniadol, herio'n gadarn pan fo angen, ond croesawu a chydnabod datblygiadau cadarnhaol. A hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r comisiynydd plant am ei swyddogaeth o fod yn ffrind beirniadol i Lywodraeth Cymru. Ac mae hyn wedi bod o werth arbennig yn ystod yr wyth mis diwethaf wrth i ni ymateb i'r pandemig yng Nghymru a lle yr ydym ni wedi ymdrechu i gydnabod a lliniaru effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc. Mae'r comisiynydd wedi bod yn gefnogol iawn yn herio a chynghori Llywodraeth Cymru ar ein hymatebion i'r pandemig a sut yr ydym ni wedi gorfod cydbwyso cadw plant yn ddiogel â pharchu a diogelu eu hawliau. Er nad yw rhai o'r penderfyniadau hynny wedi bod yn hawdd, rwy'n falch o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi dod at ei gilydd i gadw plant a phobl ifanc a'u hawliau yn flaenoriaeth wrth wneud penderfyniadau, ac yn enwedig y pwyslais sydd wedi ei roi ar blant sy'n agored i niwed yn ystod y cyfnod hwn.
Gyda'r cyfan sydd wedi digwydd yn ystod 2020, dylem ni gofio mai dim ond blwyddyn yn ôl yr oeddem ni'n dathlu pen-blwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn drideg—carreg filltir bwysig ar gyfer hawliau plant. Ac yn olaf, hoffwn i ailddatgan bod CCUHP yn parhau i fod yn sail i'n holl bolisïau ar gyfer plant: mae'n ganolog i'n gwaith i wella canlyniadau plant drwy eu helpu a'u cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydym ni'n awyddus i adeiladu ar ein cyflawniadau hyd yma er mwyn sicrhau bod Cymru yn rhywle lle mae hawliau plant yn cael eu parchu, eu hamddiffyn a'u cyflawni. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, a diolch am eich geiriau caredig amdanaf i, a oedd yn braf eu clywed gan y cadeirydd, er na allaf i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, fel arall byddwn i yn sicr wedi dymuno'n dda iddi hi hefyd.
A gaf i ddweud mai dim ond dau siaradwr sydd gen i ar gyfer y ddadl, felly os bydd unrhyw un yn ceisio dal fy sylw, efallai y byddwch chi'n lwcus? Laura Anne Jones.
Diolch, Llywydd dros dro, a hoffwn innau hefyd ddechrau trwy ddiolch i chi am yr holl waith yr ydych chi a'ch grŵp gorchwyl wedi ei wneud i helpu plant. Bydd y math hwnnw o bwyslais arnyn nhw a'u materion yn gwneud byd o les iddyn nhw ac rwy'n siŵr eu bod yn ddiolchgar iawn am yr holl waith yr ydych chi wedi ei wneud.
Fe wnes innau hefyd groesawu cyhoeddiad yr adroddiad hwn a hoffwn i ddiolch i Sally Holland a'i thîm am yr holl waith maen nhw wedi ei wneud i newid bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael gyda hi hyd yma, ers cyrraedd y Senedd ychydig fisoedd yn ôl, wedi bod yn agored, yn onest ac yn galonogol. Mae'r adroddiad hwn yn cydnabod yr effeithiau y mae'r pandemig presennol yn eu cael ar waith y comisiynydd plant a'r angen i ymateb i faterion hollbwysig sy'n effeithio ar fywydau ein plant dan gyfyngiadau symud. Ni fu eu gwaith erioed mor hanfodol a bydd yn hollbwysig wrth symud ymlaen yn awr, oherwydd effaith yr argyfwng hwn.
Mae'r adroddiad yn cydnabod y bydd yn rhaid cyflawni darnau newydd allweddol o waith yn y rhaglen nesaf o ganlyniad i'r newidiadau i fywydau y plant a'r effeithiau a fydd yn cael eu teimlo am flynyddoedd i ddod. Rhai o'r materion hyn yr hoffwn i ymdrin â nhw yn fy sylwadau y prynhawn yma.
Mae'r adroddiad yn datgan bod ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i beidio â diwallu anghenion ein plant a'n pobl ifanc yn effeithiol. Mae'n rhaid i blant a'u teuluoedd lywio systemau cymhleth ac nid ydyn nhw'n cael cymorth yn aml oherwydd nad ydyn nhw'n perthyn i gategorïau taclus neu nid ydyn nhw'n cael cymorth o gwbl er eu bod mewn argyfwng. Mae hon yn broblem benodol yn ein gwasanaethau iechyd meddwl a'n gwasanaethau plant anabl. Roedd hyn cyn i'r pwyllgor plant ddweud bod iechyd meddwl plant wedi dioddef yn sgil COVID-19.
Dros ddwy flynedd yn ôl, galwodd ymchwiliad am roi blaenoriaeth genedlaethol i ymdrin â materion iechyd emosiynol a meddwl plant. Mae gwelliannau wedi eu gweld mewn gwasanaethau ers hynny, ond maen nhw'n digwydd yn rhy araf ac mae rhai pobl ifanc yn dal yn ei chael hi'n anodd cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Daeth y pwyllgor plant i'r casgliad bod sicrwydd Llywodraeth Cymru ynghylch gofal y tu allan i oriau a gofal argyfwng yn siomedig o denau. Mae gormod o adroddiadau am brinder opsiynau i blant y mae angen cymorth arnyn nhw, ond nad ydyn nhw'n cyrraedd y trothwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol. Er bod cynnydd i'w weld ym maes addysg, roedd llawer llai o hyder bod cyflymder y newid ym maes iechyd a llywodraeth leol, gan gynnwys y gwasanaethau cymdeithasol, yn ddigonol.
Gwn mai iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yw blaenoriaeth allweddol ein comisiynydd ac rwyf i wedi cael llawer o sgyrsiau gyda hi ynghylch hynny. Mae'r pandemig wedi dangos hyn yn glir i bawb. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hyn trwy benodi Gweinidog sydd â chyfrifoldeb penodol dros iechyd meddwl ac rydym ni'n croesawu hynny. Rwy'n edrych ymlaen at weld canlyniadau cadarnhaol o ran datblygu system sy'n ymateb i anghenion y plentyn yn hytrach na cheisio eu cynnwys yn y gwasanaethau presennol.
Hyd yn oed cyn achosion y coronafeirws, yr oedd gofalwyr ifanc yn rhy aml o lawer yn treulio cryn dipyn o amser yn gofalu am berthynas—a hyn, yn ogystal â'r amser y mae angen iddyn nhw ei dreulio ar waith, addysg ac ymlacio—ond mae'r coronafeirws wedi cynyddu'r pwysau hynny yn sylweddol. Cynhaliodd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr arolwg yn ddiweddar a ganfu fod 58 y cant o ofalwyr ifanc sy'n gofalu am fwy o amser ers y coronafeirws, yn treulio 10 awr yr wythnos yn fwy ar gyfartaledd ar eu cyfrifoldebau gofalu. Mae'r arolwg yn dangos sut y mae pryderon sy'n ymwneud â'r coronafeirws a mwy o unigedd yn sgil y cyfyngiadau symud wedi effeithio ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Mae gofalwyr ifanc yn rhoi llawer iawn o gymorth i bobl sy'n agored i niwed yng Nghymru. Mae'r comisiynydd plant yn galw am roi mwy o flaenoriaeth i gymorth iechyd meddwl i ofalwyr ifanc a mwy o gymorth gan ddarparwyr addysg a chyflogwyr i helpu gofalwyr i ymdopi â'u swyddogaethau gofalu ochr yn ochr â'r ysgol, coleg, prifysgol neu waith. Rwy'n edrych ymlaen at weld y cynnydd sy'n cael ei wneud i leihau'r pwysau annerbyniol sydd ar ofalwyr ifanc ac i wella eu lles a'u cyfleoedd mewn bywyd. Mae angen i ni weithio gyda'n gofalwyr ifanc, gan weithio gyda nhw a'u cynnwys wrth lunio polisi. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno hefyd y dylai gofalwyr ifanc gael anogaeth a chymorth i fynd i addysg uwch neu ddod o hyd i brentisiaethau, os mai dyma y maen nhw'n dymuno ei wneud.
A hoffwn i'r comisiynydd a'r Llywodraeth nodi bod Cyngor Sir Fynwy yn mynd ati i annog prentisiaethau i ofalwyr ifanc sy'n gadael yr ysgol o fewn ei sefydliad ei hun a bod y gofalwyr hynny yn cael eu cynnwys mewn unrhyw wybodaeth sy'n mynd allan am swyddi gwag, pan fo hynny'n briodol. Maen nhw hefyd yn eu cynnwys ar eu panel rhianta corfforaethol. Mae Cyngor Sir Fynwy bob amser yn gosod safon uchel o ran arferion awdurdodau lleol a chyflogwr, ac mae angen cyflwyno'r math hwn o arfer da ledled Cymru ym mhob awdurdod.
Mae'r pandemig hwn wedi tynnu sylw at ba mor bwysig y mae cefnogi ac amddiffyn ein pobl ifanc rhag yr heriau aruthrol y maen nhw wedi eu hwynebu ac yn parhau i'w hwynebu. Fel y mae'r adroddiad hwn yn ei ddweud, rydym ni'n gwybod beth yw'r heriau; mae'n amser cymryd camau pendant a dewr.
Cyn i mi alw ar Siân Gwenllian, rwyf i yn ymddiheuro, dylwn i fod wedi hysbysu'r Aelodau nad oedd y gwelliant wedi ei ddewis yn unol â Rheol Sefydlog 12.23. Siân Gwenllian.
Diolch, Cadeirydd, a diolch yn fawr iawn am y cyfle i drafod yr adroddiad yma ac am y gwaith mae'r comisiynydd plant yn ei wneud i geisio gwella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Does dim dwywaith fod argyfwng COVID-19 wedi newid bywydau plant Cymru mewn ffordd hollol ddramatig, gydag ysgolion a lleoliadau gofal plant ar gau am gyfnodau hir, darlithoedd a gwersi yn cael eu haddysgu ar-lein, meysydd chwarae ar gau a chyfyngiadau mawr ar gyfleon i gymdeithasu. A dydy o ddim syndod y bu mwy o alw nag erioed o'r blaen am y gwasanaeth Childline, ac mae pryderon mawr ynghylch sut mae'r pandemig yn effeithio ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn y presennol ac yn y tymor hir.
Er efallai bod COVID-19 wedi newid bywydau plant Cymru am byth, fe ellir dadlau bod llawer o'r materion yn yr adroddiad yma—yr adroddiad diweddaraf—yn dweud yr un hen straeon wrthym ni, yn anffodus. Mae'r adroddiad yn cynnwys ystod eang o bryderon hir sefydlog ynghylch ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl i blant, plant yn parhau i fyw mewn tlodi a phlant mewn gofal nad ydyn nhw'n cael y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnyn nhw. Dyma rai o'r problemau cymhleth sy'n effeithio'n fawr ar fywydau plant a phobl ifanc ac sy'n debygol o gael eu gwaethygu gan COVID-19.
Ac fe ellir dadlau bod yr angen i sicrhau bod dulliau polisi Llywodraeth Cymru yn llwyddo yn bwysicach nag erioed o'r blaen. Mae angen felly bwrw ati i weithredu y 18 o argymhellion manwl a synhwyrol mae'r comisiynydd wedi'u cyflwyno ar draws sawl maes penodol: o ran gofal preswyl plant gydag anghenion cymhleth, o ran cynghorwyr personol ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal, diwygio rhianta corfforaethol, cefnogaeth i droseddwyr ifanc a chryfhau mesurau diogelu plant. Dim ond rhai enghreifftiau ydy'r rheini. Mae yna lawer o argymhellion cwbl ymarferol allai wneud gwahaniaeth mawr i grwpiau penodol o blant a phobl ifanc.
Mae yna un maes yn codi pryder penodol, sef addysg ddewisol yn y cartref, mater y mae'r comisiynydd wedi gwneud argymhellion yn ei gylch yn ei phedwar adroddiad blynyddol diwethaf—pedwar adroddiad. Mae hi wedi galw am newidiadau cyfreithiol ynghylch hyn. Cyn COVID-19, mi oedd Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar ganllawiau statudol drafft, a rheoliadau i fynd i'r afael â phryderon y comisiynydd, ond ym mis Mehefin fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg nad oedd modd cwblhau'r gwaith a oedd wedi'i gynllunio o fewn tymor y Senedd yma. Ym mis Medi mi wnaeth y comisiynydd ddweud ei bod hi'n bwriadu defnyddio ei phwerau statudol am y tro cyntaf i adolygu camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes yma. Dwi'n cefnogi hyn ac yn credu bod y comisiynydd wedi bod yn amyneddgar iawn, iawn efo hyn oll—yn rhy amyneddgar, efallai—ac y byddai gweithredu cynt ac adolygiad cynt gan y comisiynydd wedi arwain at y gwelliant sydd ei angen.
Yn anffodus, maes arall y mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â gweithredu yn ei gylch ydy'r angen i athrawon mewn ysgolion annibynnol gofrestru efo Cyngor y Gweithlu Addysg. Mi fyddwn ni i gyd yn cofio am y pennaeth mewn ysgol yn Rhuthun a gafodd ei ddiarddel o'i swydd ar ôl i adroddiad ganfod bod y disgyblion yno mewn peryg o niwed oherwydd methiannau mewn diogelu plant. Mae ymestyn y gyfraith sydd yn rhoi dyletswydd ar ysgolion preifat yn ogystal ag ysgolion y wladwriaeth i gofrestru eu hathrawon yn un ffordd o geisio osgoi methiannau difrifol fel hyn i'r dyfodol, ond mae'r gweithredu ar hyn hefyd wedi'i wthio ymlaen i'r Senedd nesaf, ac unwaith eto, mae'r comisiynydd wedi cyhoeddi y bydd hi'n defnyddio ei hawliau statudol er mwyn adolygu gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.
Dwi'n gwybod bod yr argyfwng iechyd yn golygu bod yn rhaid rhoi heibio rhai materion deddfwriaethol, ond materion syml fyddai'r rhain, ac mae'n rhaid cwestiynu doethineb gadael y ddau fater yma ar y bwrdd pan fod lles plant Cymru yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth a'r Senedd hon. Mae'r comisiynydd yn mynd i ddefnyddio ei phwerau statudol efo dau fater, sy'n ddau fater o bryder i bawb yn y Senedd, ac mae'n fater o bryder ei bod hi'n gorfod mynd i'r pen draw i ddefnyddio ei phwerau statudol.
Cyn cloi, hoffwn i jest dynnu sylw at adroddiad y comisiynydd o'r enw 'Dim Drws Anghywir', a'r angen i fyrddau partneriaethol rhanbarthol sicrhau na fydd unrhyw blentyn neu deulu yn cwympo rhwng dwy stôl wrth chwilio am gymorth ar gyfer iechyd meddwl a materion ymddygiad. Mae hwn yn adroddiad pwysig, ac mae angen cadw'r ffocws ar y gwaith yma. Mae'r maniffesto, 'Hapus, iach a diogel', o ddiddordeb hefyd, efo rhai o'r syniadau'n sicr yn cyd-fynd efo blaenoriaethau Plaid Cymru. Bydd yna gyfle i drafod rhai o'r materion sydd ym maniffesto'r comisiynydd plant yn ystod ein dadl ar addysg yn y Senedd yfory, felly wna i ddim ymhelaethu ar hynny.
Mae'r adroddiad sydd ger ein bron ni heddiw yn cwmpasu cyfnod oedd cyn yr argyfwng COVID i bob pwrpas, sef o 1 Ebrill 2019 tan ddiwedd Mawrth 2020. Mi fydd yr adroddiad nesaf yn cwmpasu cyfnod anodd iawn y COVID, ac mae'n debyg y bydd o o naws gwahanol ac yn canolbwyntio ar faterion fydd wedi dod i'n sylw o'r newydd yn ystod yr argyfwng COVID, neu yn cael eu tanlinellu o'r newydd fel materion o bwys. Ond mae'n bwysig cadw sylw a chadw pwyslais ar y materion sydd yn yr adroddiad yma hefyd. Hoffwn i ddiolch i'r comisiynydd a'i thîm am y cydweithio sydd wedi bod rhyngom ni, a dwi'n edrych ymlaen am gyfnod o gydweithio pellach yn ystod gweddill tymor y Senedd yma.
A'r Gweinidog i ymateb i'r ddadl. Allwn ni ddad-dawelu'r Gweinidog, os gwelwch yn dda? Dyna ni. Gweinidog.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro a diolch yn fawr am y cyfraniadau i'r ddadl heddiw a'r gefnogaeth sydd wedi ei dangos i hawliau plant. Fel y gwyddom ni, mae gan blant hawliau—hawliau y dylai pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru wybod amdanyn nhw a chael cefnogaeth i'w gwireddu.
Diolch i Laura Anne Jones ac i Siân Gwenllian am siarad mewn ffordd mor bwerus a sensitif ynghylch anghenion plant a phobl ifanc yng Nghymru. Tynnodd Laura Anne Jones sylw yn arbennig at ofalwyr ifanc, ac rwyf i wir yn credu bod hwn yn faes sy'n peri pryder mawr i bob un ohonom ni. Roeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cyhoeddi £1 miliwn ychwanegol heddiw i helpu gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc, gyda rhai o'r eitemau bach y gallai fod eu hangen arnyn nhw i'w helpu i ymdopi, oherwydd fel y dywedodd Laura Anne Jones, rydym ni'n gwybod bod y pandemig hwn, y cyfnod hwn, wedi bod yn gyfnod anodd iawn i ofalwyr ac yn arbennig i ofalwyr ifanc, ac rwy'n gwybod ei bod hi wedi cyfeirio at yr arolwg a oedd wedi ei gyflawni yn ddiweddar. Roeddwn i hefyd yn falch o allu rhoi £55,000 ar gyfer cymorth seicolegol i ofalwyr yn gynharach yn y pandemig gan fy mod i'n gwybod bod y straen ar eu hiechyd meddwl wedi bod yn eithafol iawn yn ystod y cyfnod hwn.
Rwyf i hefyd yn falch ein bod ni'n mynd ar drywydd cardiau adnabod i ofalwyr ifanc. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a fydd yn helpu'n aruthrol ac mae gennym ni nifer o awdurdodau lleol erbyn hyn sy'n defnyddio cardiau adnabod er mwyn gwneud bywyd yn haws i ofalwyr ifanc. Oherwydd un o'r pethau y mae gofalwyr ifanc wedi ei ddweud wrthym ni yw eu bod yn teimlo'n gryf iawn nad ydyn nhw eisiau dweud wrth bob person newydd holl hanes yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw bob tro y byddan nhw'n cwrdd â rhywun, ac yn yr ysgol mae angen iddyn nhw allu bod â cherdyn a fydd yn eu helpu. Bydd yn eu helpu pan fyddan nhw'n mynd at y fferyllydd, pan fyddan nhw'n mynd i gael meddyginiaeth ar gyfer y bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, ac, mewn gwirionedd, mae cymaint o ffyrdd y gall cerdyn helpu, fy mod i o'r farn bod hynny yn ffordd arall y byddwn ni'n gallu helpu gofalwyr ifanc.
Rwyf i wedi cyfarfod â llawer o grwpiau o ofalwyr ifanc, wrth i mi wneud y gwaith hwn ac yn flaenorol, ac roedd yn rhaid i chi dalu teyrnged enfawr iddyn nhw o ran yr hyn maen nhw'n ei wneud er mwyn cadw teuluoedd i fynd, yn aml. Felly, diolch yn fawr iawn, Laura Anne Jones, am dynnu sylw at hynny yn eich cyfraniad a hefyd am dynnu sylw at y ffaith bod hwn yn faes y mae'r comisiynydd plant yn teimlo'n gryf iawn yn ei gylch hefyd. Mae'n drawiadol iawn bod Sir Fynwy yn annog gofalwyr ifanc penodol i wneud cais am brentisiaethau.
Yn ogystal â gofalwyr ifanc, rwy'n gwybod bod Laura Anne Jones wedi sôn am iechyd meddwl ac iechyd meddwl plant yn ystod y cyfnod hwn, ac mae hynny wedi ei grybwyll dipyn yn y ddadl y prynhawn yma. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn ymwybodol o'r ffordd y mae iechyd meddwl yn un o'r meysydd gwirioneddol y mae gennym ni bryder enfawr yn ei gylch, ac yn sicr, rydym ni i gyd yn croesawu penodiad Gweinidog sy'n gyfrifol am iechyd meddwl bellach, sy'n dangos y flaenoriaeth y mae'r Llywodraeth yn ei rhoi i'r maes hwnnw.
Disgrifiodd Siân Gwenllian yn glir iawn sut y mae'r coronafeirws wedi newid bywydau plant yn ddramatig. Disgrifiodd hi bopeth sydd wedi ei golli, ac rydym ni'n gwybod, i lawer o blant sy'n agored i niwed y mae eu bywydau yn cael eu cynnal gan yr ysgol, gan weithgareddau allanol, gan y cymorth maen nhw'n ei gael gan glybiau ieuenctid, gan weithwyr ieuenctid a gan lawer o wasanaethau eraill—fod yr holl strwythur hynny wedi mynd a bod hyn, yn fy marn i, wedi bod yn brofiad anodd iawn. Felly, diolch, Siân, am ddisgrifio hynny mor glir o ran profiad y plant ac am ein hatgoffa ni ynghylch yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud a'r hyn y mae'n rhaid i ni ganolbwyntio arno i geisio lliniaru hyn gymaint ag y gallwn ni. Yn sicr, mae hawliau plant wedi bod yn uchel ar frig agenda'r Llywodraeth, ac rwy'n credu y byddwch chi wedi gweld yn y camau yr ydym ni wedi eu cymryd ac y mae'r Prif Weinidog wedi eu rhoi ger eich bron heddiw—rydych chi wedi gweld bod plant wedi bod yn flaenoriaeth lwyr o ran cadw cynifer o blant yn yr ysgol ag y gallwn ni, cadw gofal plant ar agor, cadw meysydd chwarae ar agor, cydnabod pwysigrwydd chwarae. Mae'r holl bethau hynny yno i blant ac maen nhw wedi bod ar frig ein hagenda.
Cyfeiriodd Siân Gwenllian at y 18 argymhelliad y mae'r comisiynydd plant wedi eu cyflwyno, a bydd y Prif Weinidog yn ymateb iddyn nhw erbyn 30 Tachwedd, ond fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, roeddem ni'n awyddus i glywed yr hyn yr oedd gan yr Aelodau i'w ddweud yn y ddadl hon, er mwyn i ni allu ymateb wedyn yn llawn, gan ystyried yr hyn y mae'r Aelodau wedi ei ddweud. Cyfeiriodd Siân Gwenllian at addysg ddewisol yn y cartref a diogelu mewn ysgolion annibynnol, ac fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, oherwydd bod y Comisiynydd yn defnyddio ei phwerau statudol i adolygu'r meysydd hyn, ni fyddaf i'n gwneud sylwadau arnyn nhw nes y bydd y Llywodraeth yn ymateb i'w hadolygiad. Ond mae Siân Gwenllian wedi tynnu sylw at y materion yn bwerus iawn, yn fy marn i, yn ei hymateb. Felly, diolch yn fawr am y cyfraniadau hynny.
I gloi, er fy mod i'n falch o'r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ac yn ei wneud i hawliau plant, rwyf i yn gwybod y gallwn ni, a bod yn rhaid i ni, wneud mwy i sicrhau bod pob plentyn yn ymwybodol o'i hawliau, sut i weithredu ar yr hawliau hynny, a sut i herio pan nad ydyn nhw'n cael yr hawliau hynny. Felly, mae gennym ni waith mawr i godi ymwybyddiaeth ac i estyn allan i blant. Mae'r comisiynydd plant yn bartner cwbl hanfodol yn yr ymdrech hon, ac mae ganddi swyddogaeth bwysig iawn o ran dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Fel yr ydym ni wedi ei ddweud, mae eleni wedi bod yn her i gynifer o blant a phobl ifanc, ac wrth gwrs, gall hyn barhau am gryn amser. Dyna pam mae'n rhaid i ni gadw hawliau plant yn flaenoriaeth ym mhob dim yr ydym ni'n ei wneud. Mae hawliau plant a gwella profiadau i'n plant a'n pobl ifanc wedi bod yn ganolog i'n hymatebion i'r pandemig, a hoffwn i atgoffa'r Aelodau am y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yr ydym ni'n ei darparu dros gyfnod y gwyliau, y gwelliannau i'r gwasanaethau iechyd meddwl yr ydym ni wedi eu cyflawni, a gweithio gyda'r comisiynydd i wrando ar leisiau plant yn uniongyrchol. Felly, diolch yn fawr iawn i chi unwaith eto am eich cyfraniadau i'r ddadl hon. Mae'n ddadl bwysig iawn. Daeth ar ôl dadl bwysig iawn arall, ond rwyf i'n credu bod cysylltiad agos iawn rhwng y ddwy ddadl, oherwydd bod yn rhaid i hawliau plant fod yn ganolog i'r ffordd yr ydym ni'n ymateb i'r pandemig hwn. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Gweinidog. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwyf i yn gweld Aelod yn gwrthwynebu, felly gohiriaf y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd toriad o bum munud neu fwy cyn i'r cyfnod pleidleisio ddechrau. Bydd cymorth TG wrth law i helpu gydag unrhyw broblemau yn ystod y cyfnod hwn.