9. Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020

– Senedd Cymru am 4:42 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:42, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Eitem 9 yw Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020, a galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig. Mark Drakeford.

Cynnig NDM7436 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Medi 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:42, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd dros dro. Bydd Aelodau wedi clywed Gweinidogion y Llywodraeth yn dweud yn y Senedd y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gellir cynnal etholiadau'r Senedd ym mis Mai y flwyddyn nesaf er gwaethaf yr heriau a allai godi o'r pandemig. Heddiw, o flaen y Senedd, mae deddfwriaeth alluogi i ganiatáu i'r etholiadau gael eu cynnal. Diben Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 yw rhestru swyddi a fyddai, pe bai unigolyn yn eu dal, yn anghymhwyso'r unigolyn hwnnw rhag dod yn Aelod o'r Senedd.

Daw'r cynigion o flaen yr Aelodau o ganlyniad i ymgynghori, a gynhaliwyd am 10 wythnos ac a ddaeth i ben ar 1 Medi. Roedd yr ymgynghoriad hwnnw wedi'i wreiddio yn y gwaith ar y mater hwn gan y pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y pryd, a gynhaliodd ymchwiliad i'r maes anghymhwyso hwn yn 2014, ac mae'r pwyllgor presennol yn tynnu sylw at y gwaith hwnnw, a hynny'n gwbl briodol. Mae'r Gorchymyn anghymhwyso yn parhau i adeiladu ar yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad hwnnw yn 2014 ac mae'r meini prawf a ddefnyddir ar gyfer penderfynu ar swyddi ac aelodaeth cyrff i'w cynnwys yn y Gorchymyn yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodir yn argymhelliad cyntaf yr adroddiad hwnnw. O ganlyniad i'r ymgynghoriad, mae nifer o swyddi wedi'u hychwanegu at y rhestr Gorchmynion anghymhwyso. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau ar ran y cyrff hynny i'w cynnwys. Mae un corff, nad yw'n bodoli bellach, wedi'i dynnu oddi ar y Gorchymyn.

Felly, mae sail y cynnig o flaen y Senedd y prynhawn yma yn caniatáu cynnal etholiadau mis Mai yn y maes hwn. Mae'r meini prawf yn cadarnhau egwyddorion cyfranogiad democrataidd a'r hawl i sefyll fel Aelod o'r Senedd. Dim ond swyddi o'r fath natur y mae angen iddynt fod yn wleidyddol ddiduedd neu a fyddai'n arwain at wrthdaro buddiannau sylweddol sydd wedi'u rhestru yn y Gorchymyn anghymhwyso gerbron Aelodau y prynhawn yma. Gwahoddaf y Senedd i gymeradwyo'r cynigion.

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:45, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd dros dro. Gwnaethom ystyried y Gorchymyn drafft yn ein cyfarfod yr wythnos diwethaf. Fel bob amser, mae ein hadroddiad ar gael i Aelodau drwy'r agenda heddiw, a bydd aelodau'n gweld bod ein hadroddiad yn cynnwys dau bwynt rhagoriaeth. Mae'r pwynt rhagoriaeth cyntaf yn tynnu sylw at waith y pwyllgor blaenorol, fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi sôn—ffaith a gydnabyddir hefyd yn y memorandwm esboniadol sy'n gysylltiedig â'r Gorchymyn drafft. Mae'r memorandwm yn tynnu sylw at y ffaith bod Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y pedwerydd Cynulliad wedi cynnal ymchwiliad yn 2014 i'r rheolau ynghylch anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Senedd. Gwnaeth yr adroddiad hwnnw 21 o argymhellion i Lywodraeth Cymru a chynnig ailwampio'r fframwaith deddfwriaethol sy'n ymwneud ag anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Senedd. Mewn ymateb i'r adroddiad hwnnw, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015, a thrwy ymgynghori ar y Gorchymyn drafft hwn, 2020, nodwyd ei bod yn parhau i anrhydeddu'r ymrwymiad hwnnw. Roedd y meini prawf ar gyfer penderfynu pa swyddi a oedd i'w cynnwys yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015 yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodwyd yn adroddiad Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y pedwerydd Cynulliad, gyda rhai ystyriaethau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Rydym wedi nodi bod yr un meini prawf wedi parhau i gael eu defnyddio ar gyfer y Gorchymyn drafft. Mae ein hail bwynt rhagoriaeth yn nodi ymgynghoriad Llywodraeth Cymru a gynhaliwyd ar y Gorchymyn drafft yn ystod yr haf ac mae'r swyddi newydd dilynol sydd wedi'u hychwanegu at y Gorchymyn drafft fel swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso. Mae'r swyddi newydd hyn sydd wedi'u hanghymhwyso yn cynnwys ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru, y Comisiynydd Gwybodaeth, comisiynwyr ac aelodau bwrdd anweithredol Comisiwn y Gyfraith, comisiynwyr y Comisiwn Penodiadau Barnwrol, a'r Ombwdsmon Penodiadau ac Ymddygiad Barnwrol. Diolch, Llywydd dros dro.

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:47, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau'n nodi eu bod yn dymuno siarad. Prif Weinidog, wn i ddim a oes gennych unrhyw beth arall i'w ychwanegu, o ystyried yr hyn y mae Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi adrodd arno.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Yn syml hoffwn ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor a phawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad, ac i hysbysu'r Senedd, os derbynnir y cynnig heddiw, y gellir cyflwyno'r Gorchymyn i'w wneud yn ddwyieithog yng nghyfarfod y Cyfrin Gyngor ym mis Tachwedd, gyda'r bwriad iddo ddod i rym ar 12 Tachwedd.

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:48, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.