2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru ar 4 Tachwedd 2020.
1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith pandemig COVID-19 ar dwristiaeth i Gymru? OQ55783
Dyw'r meicroffon ddim yn gweithio, Dirpwy Weinidog.
Ydy hwn yn well?
Ydy, mae'n gweithio nawr. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr. Mae'n ddrwg gen i am hynna.
Diolch am eich cwestiwn, Gareth. Rydym yn gwneud gwaith ymchwil helaeth a rheolaidd i dwristiaeth ac mae hynny, yn amlwg, yng nghyfnod y pandemig, wedi cynnwys rhaglenni ymchwil ar effaith y pandemig ar ddiwydiannau twristiaeth. Rhan ganolog o fy ngweithgarwch yw cyfarfod wythnosol rheolaidd gyda chynrychiolwyr y diwydiant twristiaeth ledled Cymru a llywodraeth leol a busnesau Cymru fel y gallwn sicrhau bod gennym y dadansoddiad diweddaraf o'r sefyllfa. Byddwn yn cynnal yr un nesaf o'r rheini ddydd Gwener nesaf.
Diolch, Weinidog. Mae twristiaeth wedi cael ergyd fawr yn yr ychydig fisoedd diwethaf, am resymau amlwg. Er ei bod yn anochel y byddai’r pandemig yn tarfu'n ddrwg ar y sector, rwy'n poeni am yr effeithiau hirdymor. Yn draddodiadol, mae twristiaeth wedi bod yn rhan fawr o economi Cymru, ac rydym am iddi wella ar ôl y sioc a gafodd eleni, ond bydd yn anodd denu twristiaid i Gymru, yn enwedig o Loegr, os yw pobl o dan yr argraff nad oes croeso iddynt yma, ac os yw pobl o dan yr argraff fod ffin galed wedi ymddangos rhwng Cymru a Lloegr. Ac yn sicr, ffurfiwyd canfyddiad o'r fath, i raddau, yn 2020. Felly, sut gallwn ddileu'r canfyddiad hwn pan fydd y pandemig wedi llacio'i afael a phan fyddwn eisiau gweld y bunt dwristaidd o Loegr unwaith eto?
Rydych yn llygad eich lle, wrth gwrs, yn pwysleisio pwysigrwydd ymwelwyr i'r sector twristiaeth, boed yn ymwelwyr dydd neu’n ymwelwyr sy'n dod i aros am dair noson neu fwy, gan wneud cyfraniad sylweddol mewn cyfnod o weithgarwch economaidd. Rydych yn gwbl iawn i bwysleisio'r berthynas agos rhwng prif ganolfannau poblogaeth y gogledd-orllewin a'r de-orllewin, ac yn wir, canolbarth a de-ddwyrain Lloegr ar y diwydiant twristiaeth.
Rydym bellach yn agosáu at sefyllfa lle ceir gwell dealltwriaeth, gobeithio, rhwng y gweinyddiaethau datganoledig a'u Llywodraethau a Llywodraeth y DU, fel Llywodraeth ddatganoledig Lloegr yn y cyd-destun hwn, ynghylch y mesurau sydd angen eu rhoi ar waith. Ac wrth inni wneud cynlluniau, o fewn cyfyngiadau'r pandemig echrydus hwn, ar gyfer adfer yr economi ymwelwyr i rywbeth tebyg i'w chyflwr blaenorol, mae'n amlwg fod angen inni wneud hyn ar sail y DU yn ogystal ag ar sail Cymru. Ac i'r perwyl hwnnw, rwy'n rhannu cyfarfodydd a thrafodaethau rheolaidd â fy nghymheiriaid twristiaeth yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, ac wrth gwrs, yn yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Lloegr.
Yn gyntaf oll, Ddirprwy Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am eich parodrwydd i fynychu’r grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth yn rheolaidd, lle byddwch wedi clywed bod twristiaeth a lletygarwch, yn fwy nag unrhyw sector arall efallai, wedi'u nodi fel mater o bryder gan Aelodau?
Rwy'n poeni braidd y gallai sefyllfa atyniadau gael ei cholli yn y ffocws ehangach hwn ar dafarndai, bwytai a llety. Ac er eu bod yn amlwg yn rhesymau pam fod pobl yn ymweld ag ardal, maent hefyd yn cyfrannu at les pobl sy'n byw gerllaw a fyddai, yn fwy nag erioed ar hyn o bryd efallai, yn gwerthfawrogi ychydig o lawenydd yn eu bywydau. Gallai neges y Prif Weinidog ynglŷn â gofyn beth y dylech ei wneud, yn hytrach na'r hyn y gallwch ei wneud, danseilio’r neges arall y gallai ymweld ag atyniadau lleol, gan gadw at yr holl reolau, fod yn dda i'ch iechyd, yn enwedig os yw hynny'n golygu treulio amser yn yr awyr agored. Tybed a allech ddweud wrthym sut rydych yn gweithio gyda chyd-Aelodau o’r Cabinet ar y negeseuon mewn perthynas â hyn, gan fy mod yn siŵr y byddai'n well gan atyniadau aros ar agor a masnachu'n ddiogel ac yn broffidiol yn hytrach na gofyn am gymorth incwm.
Mae atyniadau a digwyddiadau’n elfennau unigol pwysig o’r economi twristiaeth, a dylid eu hystyried felly. Fel mae'n digwydd, bûm yn sgwrsio, fel y gwnaf y rhan fwyaf o wythnosau, â chymydog i mi nad wyf yn ei weld wyneb yn wyneb mwyach, oherwydd yn amlwg nid wyf yn gallu teithio—Sean Taylor, o Zip World a datblygiadau eraill—a buom yn trafod yr union fater hwn. Yn ein trafodaethau gyda'r gweithredwyr twristiaeth, cyn gynted ag y bo modd i atyniadau aros ar agor neu ailagor o fewn fframwaith iechyd y cyhoedd, rydym yn awyddus iawn i sicrhau y gellir marchnata potensial yr atyniadau hyn yn uniongyrchol yng Nghymru, i’r graddau y byddai modd gwneud hynny bellach, o fewn ein cymunedau. Yn sicr, mae'n bwysig ein bod yn gwneud hynny yn gyntaf oll yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd, ond y tu hwnt i hynny, o'r holl arolygon rwyf wedi’u gweld a'r trafodaethau preifat rwyf wedi’u cael, nid yw apêl Cymru wedi lleihau yn ystod yr argyfwng. Fel y dywedoch chi yn gwbl gywir, mewn gwirionedd mae dealltwriaeth pobl o ba mor bwysig yw’r economi twristiaeth i Gymru ac apêl tirwedd Cymru a'n hatyniadau penodol i ymwelwyr wedi cynyddu yn sgil anallu pobl i fanteisio arnynt.
Weinidog, ychydig i'r gogledd o'r M4, ychydig i'r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr, mae yna drysor sy'n cael ei anghofio yn aml, sef cymoedd Ogwr, sy'n gyrchfan go iawn i ymwelwyr dydd a thwristiaid ar gyfer twristiaeth antur, gyda pharc Afan Argoed ac yn y blaen, a'r bryniau ar hyd llwybr y porthmyn, wrth gerdded at fynydd Bwlch, ond mae gennym hefyd gymunedau bach o iwrtau, mae gennym safleoedd carafanau a gwersylla, mae gennym gynigion gwely a brecwast ac yn y blaen. Rwy'n meddwl tybed, wrth i'r cyfnod atal byr ddod i ben, ac wrth i'r cyfyngiadau teithio gael eu codi yng Nghymru, sut rydym yn rhoi neges glir i bobl am yr hyn y dylent fod yn ei wneud—nid yn unig beth y gallant ei wneud, ond beth y dylent fod yn ei wneud? A pha neges y dylem fod yn ei rhoi, nid yn unig i ymwelwyr dydd a thwristiaid yng Nghymru, o Gymru, ond hefyd i ddarparwyr twristiaeth hefyd? Oherwydd mae angen inni ymdrin â hyn yn gyfrifol oherwydd ein sefyllfa gyda'r feirws, ond credaf eu bod yn edrych ymlaen at y diwrnod pan allwn weld rhywfaint o oleuni ym mhen draw'r twnnel, fel y dywedoch chi Weinidog.
Wel, rwy'n falch o ddweud fy mod wedi gallu cerdded yn yr ardal y mae Huw yn ei disgrifio, ac mae'n ddeniadol dros ben yn wir. Mae cwm Garw yn hudolus i mi, oherwydd ei fod mor wahanol, ac eto mae ganddo dirwedd rwy'n gyfarwydd â hi yng nghanolbarth a gogledd Cymru.
Credaf mai'r peth allweddol yma yw'r cydweithrediad rhwng cymunedau, rhwng awdurdodau lleol a'u swyddogion twristiaeth a'r gymuned leol. Ar ddechrau'r pandemig hwn, trafodasom gyda llawer o gymunedau bwysigrwydd sicrhau, pan oedd hi'n bosibl dychwelyd at botensial mwy cytbwys i'r economi ymwelwyr, fod yn rhaid cael cydsyniad cymunedol, a bod pobl eisiau i bobl eraill ymweld â'u cymunedau. Oherwydd yn y ffordd draddodiadol o ddisgrifio twristiaeth, mae yna gymuned sy'n cynnig llety, mae yna gymuned ymwelwyr, ac ni allwch gael un heb y llall. Felly rwy'n awyddus iawn, gobeithio, i'n gweld yn gallu dychwelyd at y ffordd honno o feddwl am y diwydiant, oherwydd mae mor hanfodol yn economaidd i'n cymunedau, ond mae hefyd mor bwysig er mwyn pwysleisio partneriaeth y gwledydd o fewn y Deyrnas Unedig ac ar dir mawr Ewrop.
Weinidog, gwyddom fod y cyfyngiadau symud yn cael effaith ddinistriol ar ddiwydiant twristiaeth Cymru—ni fydd miloedd lawer o fusnesau'n goroesi'r cyfnod hwn o gyfyngiadau symud hyn. Ac i adleisio sylwadau Gareth Bennett, mae'r sefyllfa'n cael ei gwaethygu gan y ffaith ein bod yn mynd ati'n weithredol i annog Saeson, yn arbennig, rhag dod i Gymru. Onid yw'r Gweinidog yn derbyn y bydd hyn yn cael effaith andwyol enfawr ar ein gallu i ddenu'r twristiaid hyn a estroneiddiwyd yn ôl i Gymru yn y blynyddoedd i ddod?
Wel rwy'n gresynu eich bod yn dewis ceisio troi'r drafodaeth resymol hon am dwristiaeth yn drafodaeth ar y berthynas rhwng y Saeson a'r Cymry oherwydd nid dyna'r mater dan sylw. Nid yw'n ymwneud â'r cenhedloedd o fewn y Deyrnas Unedig; mae'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd, ac mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar hynny. Rwyf wedi treulio llawer o amser ac egni yn ystod y pandemig hwn yn ceisio sicrhau nad yw pobl yn troi hwn yn safbwynt gwrth-Seisnig, nac yn wir yn safbwynt gwrth-Gymreig. Ac ar un ystyr, gyda'r mesurau newydd yn Lloegr yn ogystal â'r mesurau newydd yng Nghymru, gobeithio y gallwn ddeall nawr ein bod i gyd yn yr un cwch, fel petai—neu o leiaf mewn dau gwch sy'n symud i'r un cyfeiriad.