– Senedd Cymru am 3:41 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Eitem 8 yw cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2019-20. A galwaf ar y comisiynydd sy'n gyfrifol am ieithoedd swyddogol i wneud y cynnig—Rhun ap Iorwerth. Rhun.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i gyflwyno'r adroddiad yma ar ein cynllun ieithoedd swyddogol ni ar gyfer y flwyddyn Ebrill 2019 i Mawrth 2020. Yn unol â’r drefn arferol, mae’r adroddiad wedi’i gwblhau ers mis Mehefin eleni, ond, wrth gwrs, mae amgylchiadau wedi ein hatal rhag cynnal y ddadl tan rŵan. Mae’r adroddiad yn edrych yn ôl ar ein gwaith ni fel Comisiwn dros y flwyddyn, yn dathlu llwyddiannau, ond hefyd, yn bwysig iawn, iawn, wrth gwrs, yn nodi’r adegau hynny lle nad ydym ni wedi llwyddo i gyrraedd y safonau uchel sydd wedi’u pennu yn y cynllun.
Mi wnaethom ni gyflawni llawer yn ystod y flwyddyn. Efallai mai un o’r prif uchafbwyntiau oedd cynnal arolwg o sgiliau iaith Gymraeg staff Comisiwn y Senedd. Mi allwch weld y manylion yn yr adroddiad ei hun, ond mi oedd hi'n galonogol iawn gweld dros 80 y cant o’r rheini wnaeth ymateb i’r arolwg yn nodi bod rhywfaint o sgiliau iaith Gymraeg ganddyn nhw—y sgiliau hynny yn amrywio o lefel Cymraeg cwrteisi i siaradwyr Cymraeg rhugl, ac mae o'n brawf, dwi'n meddwl, bod ein system recriwtio, sydd yn seiliedig ar y matrics sgiliau iaith, yn gweithio. Heb os, mae hyn, dwi'n meddwl, yn adlewyrchiad llawer mwy cywir o’r continwwm ieithyddol sy’n bodoli yng Nghymru rŵan na’r hen ddull deuaidd o ddisgrifio unigolion un ai fel siaradwyr Cymraeg neu yn ddi-Gymraeg. Ac mae’n brawf hefyd, dwi'n meddwl, o lwyddiant ein darpariaeth hyfforddiant sgiliau iaith Gymraeg, efo’r niferoedd sy’n derbyn cymorth i ddysgu, neu i wella eu sgiliau, yn cynyddu yn flynyddol. Mi fydd yr wybodaeth sydd wedi dod i law drwy'r arolwg yn cryfhau ein gwaith parhaus ni ar gynllunio capasiti a sicrhau bod y sgiliau cywir yn y mannau cywir ar draws y sefydliad.
Datblygiad nodedig arall yn ystod y flwyddyn oedd llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Comisiwn y Senedd a Chomisiynydd y Gymraeg. Wrth gwrs, mae’r ffaith bod gennym ni ein Deddf ein hunain yn golygu nad ydym ni'n atebol i Gomisiynydd y Gymraeg, ond yn hytrach yn atebol i’r 60 Aelod etholedig o’r Senedd hon trwy gynnal dadl flynyddol yn y Cyfarfod Llawn, a thrwy adborth barhaus gennych chi am ein gwasanaethau. Ond, dwi'n meddwl, mae sefydlu’r memorandwm wedi golygu ein bod ni yn gallu cynnal perthynas efo'r comisiynydd, ac, yn bwysicach, yn golygu ein bod ni’n cryfhau ein gallu i ddysgu am y datblygiadau diweddaraf ym maes cynllunio ieithyddol a darparu gwasanaethau dwyieithog yng Nghymru, ac yn rhannu'n harferion da ninnau efo eraill hefyd.
Mi fyddai'n od iawn taswn i ddim yn cyfeirio at y sefyllfa o ran pandemig y coronafeirws yn yr ychydig eiriau yma hefyd. Mi gafodd y cyfnod clo gwreiddiol ei gyflwyno tua diwedd y cyfnod adrodd. Mae'r ffaith ein bod ni yma yn cymryd rhan mewn dadl arall drwy gyfrwng rhithiol yn dystiolaeth o'r arloesedd gafodd ei gyflwyno yn y Senedd o ganlyniad i'r cyfyngiadau, ac yn rhan ganolog o'r arloesedd hwnnw, wrth gwrs, oedd yr angen i sicrhau ein bod ni'n gallu cario ymlaen i weithredu yn ddwyieithog yn y byd rhithiol, neu'n ddiweddarach y byd hybrid newydd yma.
Wrth i’r adroddiad gael ei ddrafftio, roeddem ni eisoes ymysg y deddfwrfeydd cyntaf i gynnal Cyfarfodydd Llawn yn rhithwir a hynny yn gwbl ddwyieithog. Rydym hefyd wedi cynghori nifer helaeth o sefydliadau ar draws Cymru ar ddefnyddio technoleg i ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Mae wedi bod yn braf cael siarad efo balchder am ein profiadau mewn digwyddiadau rhyngwladol hefyd, fel cadeirydd cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, a dwi'n gwybod bod staff y Comisiwn wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau rhyngwladol hefyd. Mi fyddwn ni'n sicr yn dysgu o’r profiadau rydym ni wedi byw drwyddyn nhw ac yn chwilio am gyfleoedd newydd hefyd i ddefnyddio technoleg i wella ein gwasanaethau dwyieithog. Ac mi gawn ni sôn mwy am hynny, dwi'n siŵr, yn ein hadroddiad blynyddol nesaf.
Un o'r pethau dwi yn eiddgar i'w wneud wrth symud ymlaen ydy dysgu mwy am beth sy'n ysgogi dewis o iaith gan Aelodau a'u staff yng ngwaith y Senedd. Mae'r adroddiad yn nodi rhywfaint o leihad yn nefnydd y Gymraeg. Dwi'n falch bob amser yn gweld Aelodau yn rhoi tro ar ddefnyddio'r Gymraeg yng ngwaith y Senedd, ond dwi'n meddwl bod angen gweithio ar bob lefel i sicrhau bod unrhyw rwystrau i ddefnydd y Gymraeg, p'un ai'n fater o hyder, yn fater o ddefnydd technoleg, yn fater o ddefnydd o gyfraniadau'r Senedd, ar y cyfryngau ac yn y blaen, yn cael eu goresgyn. Mae yna le pwysig, ac mae eisiau inni gydnabod hynny, i'r Senedd yma fel model rôl ieithyddol i Gymru, yn parchu dewis iaith pobl, ond yn annog pobl wrth gwrs i wneud yn fawr o'r ffaith ein bod ni'n sefydliad sydd yn gweithredu yn ddwyieithog.
I edrych tua’r dyfodol, felly, i gloi, rydym ni'n tynnu at ddiwedd y pumed Senedd ac mi fydd yr amser sy'n weddill yn gyfle i ganolbwyntio ar sicrhau ein bod ni wedi cyflawni ein holl amcanion ac ar gynllunio ar gyfer y chweched Senedd, wrth gwrs. Rydym ni eisoes wedi dechrau adolygu’r cynllun presennol i ddeall beth sy’n gweithio’n dda ac ym mha feysydd mae angen gwella. Mi hoffwn i annog Aelodau i gyfrannu at y gwaith hwnnw pan fydd y Comisiwn yn ymgynghori.
Diolch, Rhun, ac i'r holl swyddogion, wrth gwrs, sydd wedi bod yn gweithio ar y cynllun yma ers rhai blynyddoedd bellach, erbyn hyn. Rwy'n gwybod bydd rhywfaint o siom o ddarganfod nad yw rhai ohonom ni wedi bod yn defnyddio cymaint o Gymraeg yn y Siambr ag yr oeddem yn y gorffennol, ac rydw i'n un ohonyn nhw—rwy'n cyfaddef. Ac efallai y byddai'n sylw teg na chawsom ni flwyddyn eithaf normal chwaith a hefyd rwy'n teimlo ein bod ni wedi cael llai o ddadleuon, cwestiynau neu ddatganiadau gan y Llywodraeth ar y Gymraeg yn ystod y cyfnod yma hefyd. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, does dim byd yn ein hatal rhag gofyn a chyfrannu yn Gymraeg ar unrhyw eitem o fusnes, ac felly mae'r adroddiad hwn yn ein hatgoffa—yn sicr i mi—y dylem fod yn edrych ymlaen at dwf yn y Gymraeg, nid gostyngiad.
Mae'n debyg bod y sefyllfa'n edrych yn well ymhlith staff y Comisiwn a staff Aelodau, ac rwy'n credu ei bod yn bwynt pwysig ein bod yn arsylwi ysbryd safonau'r iaith Gymraeg heb fod yn ddarostyngedig iddynt. Mae'r gostyngiad yn nifer y dogfennau Saesneg yn unig yn rhywbeth i'w groesawu ac mae'r ffaith mai dim ond llond llaw o doriadau eraill a gafwyd yn gyflawniad sylweddol hefyd.
Ond, i mi, llwyddiant eleni yw'r dealltwriaeth o brofiad y dysgwr. Dywedwyd bod mwy o staff y Comisiwn yn rhugl yn y ddwy iaith o gymharu â lefelau eraill ar wahan. Mae'n beth da, ond a ydy'n ysgogi cwestiwn, efallai, o ran a ydym ni'n wirioneddol yn estyn i bob rhan o Gymru ar gyfer ein recriwtio? Ond, mae cydnabyddiaeth o werth sgiliau lefel is a sgiliau sy'n datblygu wedi bod mor bwysig. Gall bod yn ddysgwr, wedi ei amgylchynu gan siaradwyr rhugl, fod yn frawychus weithiau, pa bynnag mor garedig yw'r bobl hynny. Os na allwn ni gael Cymraeg yn y gweithle mewn modd llwyddiannus i'n dysgwyr, wel, mae'n rhaid i ni ofyn pa mor realistig yw'r targed o 1 miliwn o siaradwyr. Os na allwn ni ddangos bod amgylchedd gwaith dwyieithog cynhwysol yn bosibl, sut y bydd ein poblogaeth gyffredinol yn dechrau meddwl amdano fe fel rhywbeth normal? Os na all ein staff gydag ychydig neu ddim gair o Gymraeg adael bob nos gan ddweud, 'Does dim angen bod yn ofnus', a bod neb yn cael ei eithrio neu ei farnu, sut allwn ni berswadio cyflogwyr eraill fod hyn yn bosibl ac yn werth chweil?
Jyst un pwynt i ddod i ben yma, Rhun: gallaf weld bod swyddogion wedi bod yn rhannu eu meddyliau a'u profiadau â sefydliadau eraill ynglŷn â sut mae meithrin gallu dwyieithog yn llwyddo. A fyddai'n bosibl cynnwys arweinwyr ysgolion a cholegau ar ryw adeg? Bydd yna lawer yn pendroni sut i gyflawni disgwyliadau'r cwricwlwm er mwyn gwneud dwyieithrwydd yn real i'n disgyblion. Rhan o hynny yw creu'r amgylchedd a'r diwylliant cywir. Mae'n swnio fel pe bai gennym ni newyddion defnyddiol i'w rhannu â nhw. Diolch.
Diolch yn fawr am yr adroddiad. Hoffwn innau, hefyd, ddiolch i staff y Comisiwn am ymateb yn hollol gadarnhaol i'r her o barhau efo gwasanaethau dwyieithog o'r ansawdd flaenaf yn ystod yr argyfwng yma. Mae'r Comisiwn wedi manteisio i'r eithaf ar dechnoleg er mwyn bod ar flaen y gad yn ein gwaith, a dwi'n credu y dylwn ni gyd, yn y Senedd yma, fod yn falch iawn o hynny.
Fel rydych chi'n nodi, mae angen defnyddio'r profiadau rŵan er mwyn dysgu sut i ymgorffori technoleg ymhellach i'n darpariaeth ni o wasanaethau dwyieithog. Mae cyfieithu ar y pryd drwy Zoom yn y Cyfarfodydd Llawn a'r pwyllgorau wedi gweithio yn effeithiol iawn, dwi'n credu—yn fwy effeithiol, bron, na'r gwasanaeth mewn pwyllgor neu Gyfarfod Llawn arferol, yn sicr o safbwynt y rhai ohonom ni sydd yn defnyddio'r Gymraeg.
Dydy'r profiadau efo cyfarfodydd ar blatfformau eraill ddim mor gadarnhaol, ac mae'n dal angen pwyso ynglŷn â hyn. Mae yna bryder mai Teams sy'n cael ei ffafrio a'i hyrwyddo ar gyfer gweithio rhithiol yn fewnol, yn hytrach na Zoom, er nad ydy Teams ddim yn cefnogi cyfleuster cyfieithu ar y pryd eto. Mae'n rhaid i grwpiau gwleidyddol ariannu cost Zoom o'u costau swyddfa eu hunain er mwyn cynnal cyfarfodydd efo chyfieithu ar y pryd. Felly, dwi yn credu, a dwi'n gwybod eich bod chi'n cytuno â hyn, fod angen parhau i ganfod datrysiad, o safbwynt Teams, ond, yn y cyfamser, i barhau i hyrwyddo Zoom er mwyn ei gwneud hi mor hawdd i Aelodau a staff y Comisiwn, a staff Aelodau, yn wir, ei ddefnyddio fo er mwyn parhau i gynnal cyfarfodydd mewnol yn y Gymraeg efo cyfieithu lle bo angen.
Mi rydych chi wedi sôn prynhawn yma, ac mae Suzy Davies wedi sôn prynhawn yma, ynglŷn â'r defnydd o'r Gymraeg gan Aelodau o'r Senedd—y rhai ohonom ni sydd yn gallu'r Cymraeg—yn ein Cyfarfodydd Llawn ac ati, ac mae hyn wedi cael sylw yn y wasg hefyd, onid ydy? Un rhwystr, dwi'n credu, ydy agwedd y darlledwyr tuag at hyn. Maen nhw'n gyndyn iawn i ddefnyddio clip sydd yn y Gymraeg mewn rhaglen Saesneg. Mae hyn yn rhoi Aelodau fel fi, sydd yn defnyddio llawer ar y Gymraeg—mae hyn yn ein rhoi ni dan anfantais, mewn gwirionedd.
Dwi yn gobeithio y bydd hwn yn bwnc y medrwch chi barhau i'w drafod yn fanwl efo'r darlledwyr dros y flwyddyn nesaf. Mae'n bwnc sydd wedi cael ei godi droeon. Mae'n bwysig cofio bod gan y Comisiwn reolaeth dros ein ffrydiau sain a darlledu sy'n cael eu rhannu efo'n darlledwyr ni. Mae hynny, efallai, yn cynnig ffordd i ni osod mwy o bwysau arnyn nhw i osod a defnyddio mwy o egwyddorion a gosod mwy o ddisgwyliadau yn gyfnewid am gael mynediad at y ffrydiau rheini.
Mi oeddwn i'n falch o weld bod y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi wedi dechrau cyflwyno sgiliau is-deitlo i'r staff ac yn gallu gwneud clipiau fideo byr o ansawdd uchel a hynny yn sydyn iawn. Efallai y gall y BBC ac eraill ddilyn yr esiampl dda mae'r Comisiwn yn ei chynnig, ac mi fyddai gweld y darlledwyr yn gwneud hyn, yn defnyddio clipiau efo is-deitlau, yn normaleiddio'r Gymraeg fel rhan bwysig o fywyd pob person yng Nghymru.
Gaf i jest droi, wrth gloi, at ychydig sylwadau ynglŷn â'r Senedd nesaf? Wrth i ni baratoi at y Senedd honno a nesáu at ddegawd ers cyflwyno deddfwriaeth ieithoedd swyddogol yn y lle yma, mae angen ystyried, dwi'n credu, a ydy'r gyfundrefn ieithoedd swyddogol yn ffit i bwrpas yng ngholeuni'r strategaeth 1 miliwn o siaradwyr a'r gefnogaeth drawsbleidiol sydd yna i'r nod o hyrwyddo'r Gymraeg. Dwi am fod y cyntaf i roi'r cwestiwn allan yna: a ddylid dod â'r Comisiwn o dan safonau'r Gymraeg, gan hefyd gryfhau annibyniaeth Comisiynydd y Gymraeg oddi wrth y Llywodraeth er mwyn i'r gwiriadau ddigwydd mewn sefyllfa felly? I fi, mi fyddai fo'n gwneud synnwyr ac yn arwydd o'r gefnogaeth drawsbleidiol i'r strategaeth 1 miliwn o siaradwyr.
Jest un neu ddau o bethau bach sydyn arall, os caf i, Ddirprwy Lywydd, cyn i mi gloi. Dwi'n meddwl bod angen adeiladu ar y gwaith sgiliau iaith a wnaed yn ystod dechrau'r Senedd yma. Mae yna fwy o waith yn fanna. A wedyn, cronfa cyfieithu i Aelodau; dwi'n credu ei bod hi'n bryd i adolygu'r trefniadau sydd ar waith i gyfieithu rhai defnyddiau ar gyfer gwaith etholaeth. Pam cyfyngu'r gefnogaeth i Aelodau i wneud mwy yn ddwyieithog i un agwedd o'n gwaith ni yn unig, sef ein gwaith ni yn y Senedd? Felly, rhai sylwadau adeiladol, a dwi'n gobeithio y gwnewch chi eu cymryd nhw yn yr ysbryd yna. Diolch yn fawr.
Mae eich amser ar ben.
Wedi gorffen, wedi gorffen. Diolch.
Diolch. Gareth Bennett.
Diolch, Dirpwy Lywydd, a diolch i'r Comisiwn am yr adroddiad.
Nid siarad ychydig o Gymraeg er mwyn yr effaith yn unig oeddwn i'n ei wneud.
Dwi'n ddysgwr Cymraeg.
Felly rwy'n gwneud ychydig o ymdrech gyda'r iaith, a hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod gennyf gymhwyster lefel O yn y Gymraeg o fy nyddiau ysgol. Byddai'n well gennyf ddweud mai TGAU ydoedd, oherwydd mae lefel O yn dangos fy oed braidd, ond mae arnaf ofn mai lefel O ydoedd. Felly, a gaf fi ddweud bod ymdrechion i hybu'r defnydd o'r Gymraeg i'w croesawu at ei gilydd, er mai fel iaith fyw y gwneir y defnydd gorau o'r Gymraeg, ac yn gyffredinol mae'n debyg ei bod hi'n well cyfeirio adnoddau tuag at gadw'r Gymraeg fel iaith fyw lle caiff ei defnyddio felly, yn hytrach na cheisio cyrraedd targedau a allai fod yn rhai ffug neu'n dargedau nad ydynt yn ddim mwy nag ymarfer ticio blychau yn y pen draw?
Nawr, rwy'n derbyn yr hyn y mae Rhun wedi'i ddweud heddiw am siarad Cymraeg fel continwwm yn hytrach na mater 'ie' neu 'na' pegynol, ac mae'r adroddiad y mae Rhun, fel y Comisiynydd, yn ei gyflwyno heddiw yn ymwneud â defnyddio'r Gymraeg o fewn y Senedd, nid yng Nghymru yn ei chyfanrwydd. I ryw raddau, credaf fod achos dros weld y Senedd yn ceisio efelychu Cymru gyfan, a'r hyn a olygaf yw demograffeg gyffredinol Cymru. Mae perygl y bydd rhai grwpiau heb eu cynrychioli'n ddigonol o ran eu cyflogaeth yn y Senedd, ond mae perygl hefyd y bydd rhai grwpiau'n cael eu cynrychioli'n ormodol. Y broblem gyda chreu polisi dwyieithrwydd ar draws ystâd y Senedd yw bod rhywun mewn perygl o roi gormod o gynrychiolaeth i siaradwyr Cymraeg ar y staff yma, a'r hyn sy'n dilyn hynny'n rhesymegol, os yw rhywun yn gor-gynrychioli siaradwyr Cymraeg, yw bod rhywun yn gwahaniaethu yn erbyn pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg, sef tua 70 y cant o boblogaeth Cymru mewn gwirionedd. Nawr, mae'r darlun yn gymhleth wrth gwrs, oherwydd mae rhai pobl wedi manteisio ar y cyrsiau Cymraeg sydd ar gael yma yn y Senedd i geisio cynyddu eu gallu yn y Gymraeg, fel y gwneuthum innau, ac mae hynny i'w argymell. Byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb mewn gwella eu Cymraeg i fanteisio ar yr hyfforddiant Cymraeg da iawn sydd gennym yma yn y Senedd.
Ond a gaf fi gynnig ychydig eiriau o rybudd am beryglon dilyn polisi recriwtio sy'n ceisio rhoi cynrychiolaeth ormodol i bob pwrpas i siaradwyr Cymraeg ar y staff? Oherwydd gallaf weld o'r adroddiad fod angen o leiaf ryw lefel o Gymraeg ar 100 y cant o'r holl swyddi a hysbysebwyd yma y llynedd, yn amrywio o Gymraeg rhugl i'r hyn a elwir bellach yn Gymraeg 'lefel cwrteisi'. A phan fydd gennych boblogaeth yng Nghymru lle nad yw tua 70 y cant o'r bobl, yn ôl y ffigurau diwethaf sydd ar gael, yn siarad unrhyw Gymraeg o gwbl, mae'n amlwg eich bod i bob pwrpas yn gwahaniaethu yn erbyn mwyafrif helaeth pobl Cymru o ran cael swyddi yma yn y Senedd. Does bosibl na fyddai rhywun am i'r Senedd gynrychioli holl bobl Cymru, a pheidio â throi'r staff yn swigen fach Gymraeg ei hiaith. Nid yw'n cynrychioli poblogaeth Cymru o gwbl. Mae arnaf ofn mai dyma'r perygl o ddilyn polisi sydd â gormod o obsesiwn â dwyieithrwydd, a bydd canfyddiad ymhlith llawer o'r cyhoedd nad yw'r Senedd yno i'w cynrychioli mewn gwirionedd; mae yno er budd grŵp bach, elitaidd o siaradwyr Cymraeg. Felly, roeddwn am ychwanegu'r nodyn hwnnw o rybudd.
Diolch yn fawr iawn a diolch eto am yr adroddiad.
Diolch. Nid oes neb wedi manteisio ar y cyfle i ymyrryd yn y ddadl hon, felly galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb. Rhun.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r tri a wnaeth gyfrannu at y drafodaeth yma. Mi wnaf i gadw fy sylwadau i gloi yn eithaf byr.
Suzy Davies yn gyntaf. Diolch am y sylwadau hynny. Mi ddywedodd Suzy ei bod hi'n siomedig o weld y nifer sy'n defnyddio'r Gymraeg yn mynd lawr a phwyntio'r bys ati hi ei hun. Does dim eisiau i unrhyw unigolyn bwyntio'r bys atyn nhw ei hunain o gwbl, wrth gwrs; annogaeth sydd ei angen ar bobl i ystyried opsiynau ar y pryd i ddefnyddio'r Gymraeg. Ond, mae e'n rhywbeth i ni fod yn ymwybodol ohono fo, ac yn hynny o beth, dwi'n cyd-fynd yn llwyr efo'r hyn a ddywedodd Suzy. A hefyd i gofio bod angen yr arweiniad gan y Llywodraeth hefyd, yn ogystal â gan Aelodau meinciau cefn.
Mae yna heriau, wrth gwrs—rydyn ni'n trio'u goresgyn nhw o hyd. Ac o ystyried y pwynt a wnaeth Suzy Davies ynglŷn ag ymestyn allan at ysgolion a cholegau, mae'r heriau ieithyddol yna'n digwydd ar draws Cymru, a dwi'n cyd-fynd y gallwn ni fod yn chwilio am ffyrdd i rannu arfer da efo'r sectorau hynny hefyd. Mi chwiliwn ni am ffordd o wneud hynny, achos mae o'n fater o'r Senedd yn cymryd ei rôl genedlaethol o ddifrif, onid ydy, ac yn ymestyn at bobl ac yn dysgu o'n profiadau ni orau y gallwn ni.
O ran y defnydd o'r Gymraeg—eto, yn ôl at hynny—fedrwch chi ddweud ei bod hi wedi bod yn flwyddyn anarferol, a tybed oedd hynny i gyfrif am y ffaith bod yna lai o ddefnydd o'r Gymraeg. Yn rhyfedd iawn, dwi wedi'i ffeindio hi'n haws troi i'r Gymraeg mewn cyfarfodydd pwyllgor, er enghraifft, ac yma yn y Cyfarfod Llawn; does yna ddim oedi, bellach, i bobl orfod ymestyn am bâr o glustffonau, ac ati, mae'r peth yn digwydd yn fwy llyfn. Felly, mae yna fanteision sy'n gallu deillio o weithredu'n rhithwir yn y ffordd yna. Diolch am y sylwadau hynny.
Siân Gwenllian—nifer o bwyntiau yn fy mhrocio i fel Comisiynydd. Dwi ddim yn anghytuno efo'r angen i edrych eto ar beth ydy'n statws ni ac a ddylai'r Senedd ddod o dan safonau'r iaith Gymraeg ac ati. Beth fyddwn i'n dweud ydy mai'r hyn sy'n bwysig ydy beth ydyn ni'n ei wneud fel sefydliad, nid cymaint beth ydy'r cymhelliad sydd arnom ni, neu'r disgwyliadau cyfreithiol sydd arnom ni. Mae'n hollol gymwys i'r ddadl honno barhau i fod yn un byw.
Technoleg—mi wnaeth Siân bwyntiau da iawn ynglŷn â thechnoleg. Mi oedd Zoom, onid oedd, yn rhywbeth gwyrthiol a oedd wedi digwydd yn y cyfnod cyn y pandemig yma. Des i ar draws Zoom am y tro cyntaf, dwi'n meddwl, ym mis Rhagfyr y llynedd; yn sydyn reit, mae gennym ni'r platfform yma rydyn ni'n gallu gweithredu'n gwbl ddwyieithog arno fo. Ac oes, mae yna waith dal i'w wneud ar blatfformau eraill, yn cynnwys Teams. Mae Teams ei hunan, wrth gwrs, yn rhyngwladol wedi gorfod datblygu o fod yn blatfform ar gyfer, dwi'n meddwl, pedwar o bobl yn unig, nôl ym mis Mawrth; erbyn hyn, mae o'n blatfform llawer mwy. Ond mae angen defnyddio’r berthynas, wrth gwrs, sydd gan y Senedd efo cwmni fel Microsoft er mwyn gwneud yn siŵr bod y gallu yna i weithredu yn ddwyieithog ar bob platfform yn cael ei wneud yn realiti.
O ran darlledwyr, dwi’n cyd-fynd yn gryf iawn â'r sylwadau a glywsom ni gan Siân Gwenllian yn y fan honno. Mi fues i’n cynnal trafodaethau efo un o brif ddarlledwyr Cymru yn ddiweddar yn gwneud yr union bwyntiau clywsom ni’n cael eu gwneud gan Siân Gwenllian yn y fan yna. Mae yna rwystrau technegol weithiau, mae eisiau cydnabod y rheini, ond hefyd, os mai rhwystrau o ran polisïau neu agwedd neu ddiwylliant mewn darlledu sydd ar waith, wel, mae’n bwysig iawn ein bod ni drwy’r amser yn trio gwthio am newidiadau yn yr agweddau yna gan ddarlledwyr. Achos dwi’n cyd-fynd; mae yn rhoi Aelod sydd yn dewis siarad Cymraeg dan anfantais os mai’r norm ydy peidio â defnyddio’r deunydd yna yn Gymraeg ar raglenni Saesneg. Mae yna gymaint wedi newid mewn blynyddoedd diweddar. Hynny ydy, fyddwn ni ddim wedi cael rhaglenni fel Hinterland, lle mae’r ddwy iaith yn cael eu clywed ochr yn ochr â’i gilydd, rai blynyddoedd yn ôl. Mae o’n dod yn norm ac mae eisiau i hynny ddigwydd hefyd mewn perthynas â sut mae’r Senedd yma’n cael ei darlledu.
At Gareth Bennet i gloi. Nid obsesiwn efo dwyieithrwydd sydd gen i, dwi’n addo i chi. Dwi yn ddwyieithog, rydyn ni i gyd yn berchen ar ddwy iaith, pa un ai ydym ni'n eu siarad nhw bob dydd ai peidio. A hefyd, mae’n bwysig cofio mai’r hyn mae’r polisïau sydd gan y Senedd yn eu gwneud ydy rhoi cyfle i bawb sydd yn dod i weithio yn y sefydliad yma i allu datblygu eu hunain ar hyd y continwwm ieithyddol yna. Mae Cymraeg cwrteisi yn Gymraeg sylfaenol iawn, iawn, iawn, ond beth sy’n amlwg ydy bod y gallu i feddu ar y sgiliau sylfaenol yna hyd yn oed nid yn unig yn bwysig i’r sefydliad fel corff cenedlaethol ond yn rhywbeth sy’n dod yn bwysig i’r unigolion. Ond, wrth gwrs, mae wastad yn bwysig gwneud yn siŵr ein bod ni’n ymestyn i bob cymuned yng Nghymru i roi yr un cyfleoedd iddyn nhw.
Mi wnaf i gloi yn y fan yna. Diolch eto am y cyfraniadau. Dwi am gloi efo ychydig o ddiolchiadau: i Siân Gwenllian am y gwaith a wnaeth hi fel Comisiynydd o fy mlaen i, yn gwneud gwaith rhagorol yn arwain, mewn difrif, at greu yr adroddiad yma; a diolch hefyd, wrth gwrs, i’r staff sydd yn gweithio mor ddygn i nid yn unig weithredu ein polisi iaith ni, ein cynllun iaith ni, ond sydd, wrth gwrs, wedi bod mor allweddol mewn paratoi’r adroddiad sydd o’n blaenau ni heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r adroddiad? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad. Ac felly, fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.