– Senedd Cymru am 5:17 pm ar 11 Tachwedd 2020.
Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith yr achosion o COVID-19 ar y diwydiannau creadigol. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o godi heddiw i argymell yr adroddiad hwn i'r Senedd. Mae'n sicr yn wir fod COVID-19 wedi cael effaith ofnadwy a dinistriol ar draws ein bywyd cenedlaethol, ac mae'r effaith honno ar ei gwaethaf yn y diwydiannau creadigol, sy'n dibynnu cymaint ar gyfathrebu wyneb yn wyneb, boed i recordio rhaglen deledu neu i gyflawni rhyw elfen o newyddiaduraeth ymchwiliol neu fod yn gyfrifol am y gwallt a'r colur mewn stiwdio deledu. Ymatebodd y pwyllgor yn gyflym i'r sefyllfa, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl dystion. Rwy'n ddiolchgar iawn hefyd i'r Dirprwy Weinidog, sydd wedi cynnal deialog gadarnhaol gyda'r pwyllgor drwy gydol yr argyfwng hwn.
Rwy'n ymwybodol iawn o'r amser, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf am glywed gan eraill yn y ddadl hon, felly hoffwn sôn am ychydig o brif bethau, o gofio, wrth gwrs, fod yr adroddiad ar gael i'r Aelodau, a dechrau drwy ganolbwyntio ar y pwysau y mae'r argyfwng wedi'u rhoi ar weithlu bregus iawn, y perfformwyr, wrth gwrs, ond hefyd y technegwyr, yr artistiaid gwallt a colur, yr holl bobl sy'n gweithio yn y diwydiant pwysig hwn. Mae llawer ohonynt, wrth gwrs, yn weithwyr llawrydd, ac un o'r pethau a ystyriodd y pwyllgor oedd y risg wirioneddol o'u colli. Mae hwn yn weithlu symudol iawn; mae'r rhain yn bobl sy'n gallu gweithio, lawer ohonynt, yn unrhyw le yn y byd, a byddai'r effaith ar ein gallu i adeiladu ein bywyd diwylliannol yn ôl, ac yn wir ein heconomi, pe bai hynny wedi digwydd wedi bod yn ddinistriol.
Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyllid sydd eisoes wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru i weithwyr llawrydd ac roeddem yn falch iawn o weld adnoddau ychwanegol yn cael eu cyhoeddi heddiw ar gyfer y sector diwylliannol yn rhannol at y diben hwnnw. Rwy'n gobeithio y gall y Dirprwy Weinidog gadarnhau yn ei gyfraniad i'r ddadl hon fod y rheini'n adnoddau newydd ychwanegol i'w linell gyllideb. Ond rwy'n gobeithio hefyd y bydd yn cydnabod y bu rhai problemau gyda dosbarthu'r gronfa i weithwyr llawrydd, a gobeithio y gall ein sicrhau bod gwersi wedi'u dysgu ar gyfer y cam nesaf.
Yn ystod ein gwaith hefyd, nodwyd problemau gwirioneddol gydag amrywiaeth yn y sector diwylliannol cyfan, gan gynnwys yn y gweithlu, a chydnabuwyd hyn yn fras ar draws y sector a thynnodd llawer o dystion ein sylw at hyn, a dyna'r rheswm dros ein hargymhelliad 18—argymhelliad 8, mae'n ddrwg gennyf. Rhaid i gyllid Cymru Greadigol gefnogi newid y diffyg amrywiaeth hwnnw, ac mae angen i sefydliadau allu dangos beth y maent yn ei wneud i fynd i'r afael â'r her fawr hon.
Edrychasom yn ystod ein hymchwiliad ar rôl darlledwyr y sector cyhoeddus ac wrth gwrs, daeth hynny'n amlwg yn sydyn iawn, pwysigrwydd adrodd yn gywir am wahanol sefyllfaoedd wrth i'r argyfwng fynd rhagddo, safbwyntiau gwahanol gan wahanol Lywodraethau yn y DU. Mae wedi dangos o ddifrif pa mor bwysig yw darlledu cyhoeddus effeithiol. Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno, fel gwnaethom argymell, i ymateb i ymgynghoriad Ofcom ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Rwy'n gobeithio y gall y Dirprwy Weinidog ddweud ychydig mwy wrthym y prynhawn yma am yr hyn y mae'r ymateb i'r ymgynghoriad yn debygol o'i ddweud, ond os na all wneud hynny heddiw, byddwn yn cael trafodaethau pellach gydag ef ar y mater hwnnw wrth gwrs.
Mae'r pwyllgor wedi cymryd rhagor o dystiolaeth ers yr adroddiad hwn ar effaith yr argyfwng ar leoliadau celfyddydau byw a cherddoriaeth fyw. Mae'r gefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth wedi cael ei chroesawu'n fawr, ac rydym ni fel pwyllgor yn gwerthfawrogi hynny'n fawr. Ond bu rhai problemau gyda thalu'r grantiau hynny mewn modd amserol ac rwy'n gobeithio, unwaith eto, y gall y Dirprwy Weinidog adrodd yn ôl wrthym ar y cynnydd yno. Mae'r sector hwnnw hefyd yn gofyn am fframwaith ar sut y gall ailagor ddigwydd—map llwybr, cynllun—tebyg i'r hyn sydd wedi'i ddarparu ar gyfer y sector teledu a ffilm wrth gwrs. Byddwn yn paratoi adroddiad pellach ar y mater hwn, ac rwy'n gobeithio, pan wnawn hynny, y bydd y Dirprwy Weinidog yn gallu ymateb i'r cais hwnnw fel y gall pobl weld y ffordd allan o'r argyfwng.
Rwyf am rannu gyda'r Siambr, Ddirprwy Lywydd, rai negeseuon cadarnhaol iawn a gawsom yn ein tystiolaeth am Cymru Greadigol a sut y mae wedi ymateb i'r argyfwng. Roedd hwn, wrth gwrs, yn gorff newydd iawn nad oedd ond newydd ddod i fodolaeth pan ddaeth yr argyfwng, ac mae tystion wedi dweud ei fod wedi ymateb yn arloesol iawn, yn hyblyg iawn ac yn ymatebol iawn. Rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i holi sut y mae'n gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cydgynhyrchu, gan weithio gyda'r sector, yn cael ei ymgorffori. Nid yw hyn yn ymwneud ag ymgynghori; mae angen iddo ymwneud â gweithio gyda'r sefydliadau yr effeithir arnynt fwyaf, ac fel pwyllgor, gobeithiwn yn fawr y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod lleisiau sefydliadau diwylliannol llai yn cael eu clywed yn y broses. Sylweddolwn ei bod yn fwy o her, ond teimlwn ei bod yn hanfodol.
Felly, gyda'r ychydig sylwadau byr hynny, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Senedd. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau pobl eraill a gobeithio y bydd gennyf ychydig o amser i ymateb i'r ddadl. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n credu bod hwn yn adroddiad pwysig iawn. Mae ein diwydiannau creadigol yn faes twf i ni ac yn faes lle mae gennym hanes o ragoriaeth yn mynd yn ôl o leiaf i'r 1980au, pan sefydlwyd S4C. Ac mae'n rhywbeth roeddem ar fin ei godi i lefel arall hefyd, a'i ffocysu oedd un o'n meysydd twf allweddol i ddod â mwy o ffyniant i'n heconomi. Felly, nid oes amheuaeth nad yw COVID wedi bod yn gam yn ôl gwirioneddol i'r potensial. Soniodd Helen Mary fod perygl y gellid colli rhywfaint o'r capasiti strwythurol, ac i economi fel Cymru, ar ôl datblygu'r sector hwn mor ofalus dros y blynyddoedd, a gwneud cymaint i ddenu llawer o gynhyrchwyr yma, credaf y byddai'n drueni mawr os gwelwn, pan fyddwn yn ymadfer ar ôl COVID, nad ydym yn y sefyllfa orau i fanteisio ar y dychweliad i ryw lefel o normalrwydd.
Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod y pwyllgor a'r Llywodraeth a'r sector cyfan, fel y dywedodd Helen Mary, yn cydweithio i sicrhau bod gennym gynllun rhagorol i ddychwelyd a manteisio ar y cyfleoedd a ddaw cyn gynted ag y byddwn yn symud ymlaen o COVID. Rwy'n credu mai elfen allweddol yw'r angen i weithio. Mae cynlluniau hael ar waith—y cynllun ffyrlo, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi llawer o arian, ac wedi defnyddio arian yn ogystal gan Lywodraeth y DU sydd wedi dod yn ychwanegol—a cheir rhai cynlluniau sy'n ymddangos yn effeithiol iawn, wedi'u darparu gydag isafswm o fiwrocratiaeth, ac mae hynny i'w groesawu, ond mae angen i bobl weithio. A phan fydd cynyrchiadau ar waith, er enghraifft, mae'r gadwyn gyfan yn gweithio wedyn, i lawr i'r artistiaid colur llawrydd a phawb yn y canol—yr actorion sydd hefyd yn gwneud swyddi eraill, ond os ydynt yn perfformio, mae angen y cyfleoedd hyn arnynt. Felly, mae'r holl bethau hynny'n wirioneddol bwysig.
Un o'r problemau yw'r diffyg yswiriant, neu o leiaf yswiriant am gost resymol, a chlywsom fod hyn yn broblem i gynyrchiadau—cynyrchiadau teledu a chynyrchiadau ffilm—a hefyd i leoliadau cerddoriaeth a theatrau. Mae hwn yn faes arall lle credaf fod angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ar y raddfa honno, edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i sicrhau efallai fod rhai o'r adnoddau rydym yn eu darparu yn cael eu gwneud i alluogi gwaith, yn hytrach na gallu diogelu pobl a'u cadw gartref, ac o leiaf beidio â'u gorfodi i faes gwaith arall lle byddant o bosibl yn gadael y diwydiannau creadigol yn barhaol wedyn. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.
Hoffwn wneud un pwynt olaf, ac mae hyn yn mynd ar draws ein gwaith yn casglu tystiolaeth ar y diwydiannau creadigol, ein sefydliadau diwylliannol gwych a'r gwahanol gwmnïau theatr sydd ar gael. Y rhai sydd wedi arallgyfeirio eu sylfaen incwm fwyaf yn y pum neu chwe blynedd diwethaf, yn aml mewn ymateb i anogaeth y Llywodraeth, sydd yn y sefyllfa fwyaf agored i niwed yn aml, tra bod y rhai sy'n dibynnu fwyaf ar grantiau cyhoeddus wedi tueddu i weld y grantiau hynny'n cael eu cadw, ac rydym yn ddiolchgar am hynny. Ond wrth gwrs, y bobl a symudodd fwy tuag at incwm masnachol ac amrywiaeth o ffynonellau incwm a gafodd eu taro oherwydd y diffyg gweithgarwch. Mae hyn yn wir hefyd mewn meysydd cyhoeddi lle mae'r refeniw hysbysebu wedi'i golli. Felly, rwyf am gloi fy sylwadau a dweud fy mod yn falch iawn o'r ffordd y mae'r pwyllgor yn gweithio'n drawsbleidiol iawn, ac yn ymgysylltu'n dda iawn â'r sector, a dyna pam y mae gennym sylfaen dystiolaeth mor ardderchog ar gyfer yr adroddiad hwn a'n hadroddiadau eraill.
Hoffwn eich llongyfarch ar adroddiad gwirioneddol ragorol, a byr hefyd drwy drugaredd, gyda dim ond 19 tudalen—gwych—ond yn wirioneddol lawn o wybodaeth. Mae hwn yn waith rhagorol iawn.
Hoffwn dalu teyrnged i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus am ddal i fynd drwy'r pandemig, a darparu'r wybodaeth hollbwysig sydd ei hangen arnom i gyd i ddarganfod beth yn union sy'n digwydd. Os cymharwn yr hyn sydd wedi digwydd yn y wlad hon â'r hyn a ddigwyddodd yn yr Unol Daleithiau, lle caniatawyd i bob math o sïon gwallgof a newyddion ffug ledaenu am nad oes gwasanaeth darlledu cyhoeddus craidd y gall pawb droi ato, ac mae hynny o bosibl yn beryglus iawn. Rhaid inni gydnabod bod colli refeniw hysbysebu wedi effeithio'n ddifrifol ar ITV a Channel 4. Rydym mewn perygl o'u colli, yn syml oherwydd y gallent gael eu llethu gan y brodyr mawr hyn, Amazon a Netflix, sy'n amlwg wedi elwa ar y ffaith bod pawb wedi'u gorfodi i aros gartref. Felly, mae honno'n broblem wirioneddol ddifrifol i'n diwylliant yn y dyfodol.
Ond rwyf hefyd yn talu teyrnged i Cymru Greadigol, oherwydd mae honno'n llinell gyson drwyddo, eu bod wedi ymateb yn dda iawn yn y ffordd yr aethant ati i ddefnyddio'r swm bach o arian grant a roddwyd iddynt i roi'r arian lle byddai'n cael ei ddefnyddio'n effeithiol iawn. Felly, rwy'n credu bod hynny'n wych iawn.
Rwy'n credu bod y diwydiant ffilm, a chynhyrchu dramâu teledu yn wir, yn dechrau dod yn ôl, ac mae hynny'n newyddion da iawn i bawb sy'n ymwneud â ffilm a theledu, ac mae llawer o arwyddion o hynny. Ac mae hynny'n dda iawn, oherwydd gallant weithredu'n well o fewn y rheoliadau. Ond mae yna lawer iawn o anobaith allan yno.
Mae'r £7 miliwn a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i lenwi'r bylchau enfawr y methodd Llywodraeth y DU ei gynnig i weithwyr llawrydd na allent brofi eu bod wedi bod yn llawrydd am ddwy neu dair blynedd yn ddifrifol iawn. Fel y dywedodd Mick Antoniw yn gynharach mewn cwestiwn i'r Gweinidog, os ydym yn sôn am 250,000 o bobl, mae rhywun wedi cyfrifo pe baem yn rhoi £2,500 iddynt y byddai'n dod yn gyfanswm o £40 miliwn, ac mae'n amlwg nad oes gennym y mathau hynny o adnoddau. Mae yna bobl sydd bob amser yn llithro allan o'r diwydiant pan nad oes ganddynt waith, actorion sy'n gorffwys, fel y'u gelwir, sy'n fricis neu'n yrwyr tacsi, ond nid yw'r gwaith hwnnw'n bodoli ychwaith, felly rwy'n credu ei bod yn sefyllfa wirioneddol ddiobaith i'r rhai nad oes ganddynt waith ac na allant droi at ffynonellau gwaith amgen. I bobl fel cerddorion, nid oes golau o gwbl ym mhen draw'r twnnel ar hyn o bryd, ac mae honno'n broblem ddifrifol iawn, yn enwedig o gofio cymaint rydym yn cymeradwyo ein cerddoriaeth a'n diwylliant cerddorol—mae'n ddifrifol iawn.
Credaf fod enghreifftiau da iawn, y siaradais amdanynt mewn dadl flaenorol, o sefydliadau'n newid y ffordd y maent yn gwneud pethau, fel Sherman a Rubicon Dance, ond pa mor bosibl yw hynny? Mae'n ymddangos yn gwbl amhosibl i gerddorion weithredu o gwbl ar hyn o bryd, oni allwn eu cael i ddarparu adloniant mewn cartrefi gofal a lleoedd eraill fel hynny, lle mae pobl yn ddigalon am wahanol resymau. Efallai fod honno'n ffordd y gallem roi gwaith i bobl yn hytrach na dim ond grantiau na fyddant yn mynd yn bell iawn. Diolch yn fawr iawn.
Rydyn ni'n croesawu casgliadau ac argymhellion yr adroddiad yma, ac yn ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhellion, er bod yna lawer iawn o waith i'w wneud o hyd, wrth gwrs. Does dim amheuaeth bod y diwydiannau creadigol wedi cael eu taro'n galed iawn gan COVID-19 a bod yn rhaid i'r Llywodraeth helpu'r sector i ailadeiladu. Dwi, felly, yn croesawu'r datganiad gawson ni yn gynharach heddiw yn amlinellu rhagor o gymorth i'r sector. Dyma ni ddiwydiant cyflog uchel sydd wedi'i wreiddio yn ein cymunedau ni. Mae'r diwydiannau creadigol yn un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, efo throsiant blynyddol o £1.9 biliwn, ac mae'n bwysig cofio'r cyfraniad aruthrol mae'r sector yn ei wneud i fywyd ac economi ein gwlad ni.
A gaf i jest droi at dair agwedd benodol y prynhawn yma? I ddechrau, yr agwedd o ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Yn sicr, mae'r argyfwng wedi dangos eu gwerth nhw, fel y mae eraill wedi sôn yn barod. Er hyn, maen nhw'n wynebu heriau digynsail wrth iddyn nhw weld lleihad incwm a refeniw, ac mae angen ymdrech enfawr i sicrhau bod y sefydliadau yma ar gyfer y dyfodol. Dwi yn croesawu'r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i ymgynghoriad Ofcom ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus, ac rwy'n edrych ymlaen at weld beth yn union fydd yn yr ymateb yna. Mae'r pandemig wedi amlygu'r angen i ddatganoli darlledu. Mae yna lawer o ddadleuon dros hynny, ac mae lles iechyd cyhoeddus wedi dod i'r amlwg fel un o'r dadleuon—dadl na chafodd lawer o sylw tan yr argyfwng presennol.
I droi at y cyfryngau digidol, hoffwn i sôn am Golwg360. Dyma chi wefan sy'n cael ei hariannu drwy'r cyngor llyfrau, gyda swm o £200,000 y flwyddyn dros gyfnod o bedair blynedd. Mae'r swm yma wedi aros yn gyson, ar yr un lefel, ers cychwyn y gwasanaeth yn ôl yn 2009—dim cynnydd yn y grant, er, yn amlwg, bod costau wedi cynyddu ac mae yna ddisgwyliad iddyn nhw wneud mwy wrth i dechnoleg a'r tirlun newyddiadurol newid a datblygu. Dwi yn credu bod angen sicrhau bod digon o gefnogaeth ar gael iddyn nhw wrth symud ymlaen a chofio am eu cyfraniad annibynnol amhrisiadwy at newyddiaduraeth yng Nghymru.
Rwy'n troi, yn olaf, at un agwedd arall sydd yn peri pryder ar hyn o bryd. Mae'n siomedig iawn clywed unwaith eto, tra bod sinemâu, neuaddau bingo, amgueddfeydd ac orielau yn gallu agor, dydy'n theatrau ni ddim yn gallu gwneud—maen nhw'n parhau i fod ar gau. Mae angen cynllun clir arnom ni ar frys gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ailagor ein theatrau yng Nghymru, a hynny mewn ffordd ddiogel, wrth gwrs. Mi gawson ni ddigwyddiadau awyr agored, arbrofol llwyddiannus iawn, fel yr un gan Theatr Clwyd dros yr haf, ac mae'r sector yn teimlo ei bod hi'n bwysig cadw'r momentwm yma i fynd dros y misoedd nesaf a chwblhau'r fframwaith llawn ar gyfer ailagor. Dydy hi ddim yn bosibl aros tan y gwanwyn i ailgychwyn digwyddiadau arbrofol.
Rydyn ni'n gwybod bod hawl i 15 unigolyn gwrdd tu fewn, a 30 tu allan, am ddigwyddiad sydd wedi ei gynllunio, ac mae staff proffesiynol theatrau'n ymwybodol iawn o'r canllawiau. Gellid dadlau bod theatrau mewn safle da i allu rheoli'n effeithiol ddigwyddiad tu fewn neu tu allan, ac mae yna chwant yna ar gyfer hyn. Mae yna arolwg yn dangos y buasai 67 y cant o bobl sy'n arfer mynd i'r theatr yn ystyried mynychu digwyddiadau pe bai lleoliadau'n ailagor efo ymbellhau cymdeithasol, a 94 y cant wedi dangos diddordeb mewn digwyddiadau'n cael eu cynnal y tu allan, hyd yn oed yn y gaeaf. Felly, mae'n amlwg bod yna alw i ailagor ein theatrau, a hoffwn i gael eich sylwadau chi ar hynny y prynhawn yma os ydy hynny'n bosib.
Does yna ddim dwywaith bod yna waith ardderchog yn digwydd. Mae yna waith positif yn digwydd. Mae Dawns i Bawb yn un enghraifft o hwnnw sydd wedi'i leoli yn fy etholaeth i. Mae yna gymaint o gwmnïau ac unigolion yn cyfrannu'n egnïol i gynnal ein bywyd diwylliannol ni er gwaethaf yr heriau di-ri, ac mae angen cofio hynny.
Rhianon Passmore.
Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd—a allwch chi fy nghlywed?
Gallaf.
Rwy'n cael anawsterau gyda'r rhyngrwyd. Rwy'n croesawu gwaith y pwyllgor wrth gwrs, y Cadeirydd, a hefyd, gobeithio, ymateb y Gweinidog, Dafydd Elis-Thomas. Fel y gŵyr yr Aelodau o'r Senedd, gwerth y diwydiant cerddoriaeth fyw ledled Cymru, yn ei holl ffurfiau, yw £5.2 biliwn ledled y DU, ac mae ei werth cyfatebol yng Nghymru yr un mor bwysig i greadigrwydd Cymru yn rhyngwladol, fel brand Cymru, a hefyd yr economi. Felly, rwy'n croesawu'n fawr yr adroddiad hwn gan yr Athro Paul Carr o Brifysgol De Cymru, ac awgrymaf fod yr Aelodau hefyd yn darllen ei adroddiad blaenorol, 'Gwlad y Gân'.
Rwy'n cytuno'n llwyr ag argymhellion 2 a 3—fod gennym ddull cydgysylltiedig ac fel ledled Ewrop a Seland Newydd, strategaeth benodol ar gyfer ailagor perfformio, ochr yn ochr â strategaeth datblygu cynaliadwy ar gyfer yr holl ddiwydiannau cerddoriaeth yn ein sector cerddoriaeth. Nid oes gennyf amheuaeth na fyddai Cymru, gwlad y gân, mewn sefyllfa dda wedyn. Fel y mae'r adroddiad hwn yn ei nodi, mae angen inni fynd ati ar y cyd gyda'n rhanddeiliaid hefyd i ddechrau llunio strategaeth gerddoriaeth genedlaethol newydd i Gymru gyda chynllun addysg cerddoriaeth yn sail iddi a rhwydwaith wedi'i ariannu o wasanaethau cymorth cerddoriaeth ledled Cymru, i ddiogelu perfformwyr cerddoriaeth y dyfodol. Ac felly ni fu erioed amser pwysicach, wrth i ni wynebu'r storm berffaith hon o effeithiau COVID-19 ar y sector a'r materion sy'n codi yn sgil gadael yr UE. Fel y dywedodd Siân Gwenllian, os gall sinemâu agor, rwy'n siŵr fod angen ystyried ailagor theatrau a neuaddau hefyd mewn modd cyfyngedig.
Gadewch inni beidio ag anghofio bod y sector wedi bod yn wynebu heriau gwirioneddol ers peth amser, ac ar ôl degawd o gyni Llywodraeth y DU, mae hyn hefyd wedi effeithio'n ddifrifol ar gefnwlad gerddorol a diwylliannol Cymru. Ac wrth gwrs, mae'r pandemig wedi rhoi mwy o ofid i ni gyda chanlyniadau economaidd atchwel pandemig COVID-19. Felly, rwyf hefyd yn croesawu'r £53 miliwn a'r £18 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi yn ei le o fewn y gronfa adferiad diwylliannol, ac rwyf hefyd yn croesawu'r cyhoeddiad o £3.5 miliwn heddiw ynglŷn â'r gefnogaeth sydd newydd ei chyhoeddi. Ond hoffwn ddatgan yn fyr hefyd, os caf, Ddirprwy Lywydd, fod hyn i gyd yn iawn, ond yr hyn y bydd yn rhaid inni ei gael hefyd yw'r gallu i ymarfer ar lawr gwlad. Mae wedi bod yn anodd iawn dilyn y gwahanol ganllawiau a'r dogfennau a ddaeth gan Lywodraeth Cymru, felly rwy'n croesawu'n fawr unrhyw welliant ac eglurhad o fewn y canllawiau hynny, a chredaf fod hynny'n mynd i ddigwydd nawr.
I gloi, mae'n gwbl hanfodol fod ein corau meibion, ein cymdeithasau corawl, ein bandiau pres hanesyddol, nad ydynt yn gallu perfformio ar hyn o bryd, tra bod pobl fel y rhai mewn addysg, yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac ar draws ein cerddorfeydd proffesiynol, yn gallu ymarfer—hoffwn erfyn ar Lywodraeth Cymru: edrychwch ar y dystiolaeth mewn perthynas â pherfformio o ran canu ac offerynnau chwyth. Rhaid inni wneud hyn, nid yn unig i Gymru, ond i'r holl sector sydd yno, sy'n taer obeithio y gwnawn ni arwain y ffordd nawr, ac rwy'n siŵr y gellir gwneud hynny. Diolch.
A gaf fi alw nawr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Beth gwnaf i'n gyntaf yw rhoi ymrwymiad i bawb ohonoch chi sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl ac wedi codi nifer fawr o bwyntiau y gwnawn ni ymateb yn ysgrifenedig i chi yn briodol, yn hytrach na fy mod i'n mynd dros fy amser—rhyw bum munud sydd gen i, rwy'n credu, i ymyrryd yn y ddadl yma—os yw hwnna'n dderbyniol gennych chi, ac yna, gallwn ni barhau'r drafodaeth. Gaf i ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, yn arbennig, am ei haraith agoriadol? Mi garwn i gadarnhau beth mae hi wedi'i ddweud—a dwi'n dweud hyn, wrth gwrs, gan fy mod i'n ymddangos ger bron y pwyllgor yma'n eithaf cyson—i ddiolch am y cwrteisi, bob amser, ac i ddiolch am y cydweithrediad.
Felly, fe wnaf i ymateb i un mater a gododd hi. Dwi wedi edrych eto dros y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd y bore yma gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r gair 'ychwanegol', mae'n dda gennyf i ddweud, yn digwydd bedair gwaith yn y datganiad yna. Felly, mae'r cyllid o £10.7 miliwn yn ychwanegol at yr hyn rydyn ni wedi'i ddarparu'n barod. Ac mae hynny'n bwysig iawn i mi, fel Gweinidog â chyfrifoldeb yn y maes, ac mae'n bwysig iawn i'r Llywodraeth, oherwydd fel y dywedodd y Prif Weinidog mor glir wrth drafod materion rhyngwladol mewn datganiad blaenorol heddiw, mae diwylliant yn rhan allweddol o frand Cymru, ac mae cynnal a datblygu'r brand yna'n ddyletswydd arnon ni i gyd.
Mae yna nifer o gyfeiriadau caredig wedi'u gwneud hefyd am Cymru Greadigol. Roeddwn i'n falch iawn pan ges i gynnig y swydd yma dair blynedd yn ôl bod yna gyfle i mi weithredu ar argymhelliad a oedd yn rhan o faniffesto Llafur Cymru ac yn cael ei gefnogi ar draws y pleidiau, sef i greu Cymru Greadigol ac i'w weithredu fo a'i greu o fel corff a oedd yn lled annibynnol, ond o fewn y Llywodraeth, gan ddefnyddio, fel dwi wedi esbonio o'r blaen wrth y Senedd, y model yr oeddem ni wedi'i ddatblygu ar gyfer Cadw—eto, tair blynedd yn ôl—sef, ei fod o'n gorff gweithredol, a'i fod o'n lled annibynnol, gyda bwrdd a chadeirydd. Ac mae'r cyfarfod cyntaf wedi bod—yn anffodus, methais i i fynd i'r cyfarfod, oherwydd roedd yna argyfwng mewn twristiaeth mewn cyfarfod arall, ond dwi'n gobeithio y gallaf i ymuno â nhw yn eu cyfarfod nesaf. Mae yna fwrdd o bobl o ddoniau amrywiol o bob rhan o Gymru ac o gydbwysedd o safbwynt cefndir cenedligol ac ethnig, ac yn y blaen, ar y bwrdd yna. Mae hynny'n bwysig iawn i sicrhau bod y creadigrwydd sydd yn ein cymunedau ni i gyd yn cael ei adlewyrchu.
Nawr, mae pawb sydd wedi siarad wedi cyfeirio at effaith andwyol arbennig y pandemig ar y sector diwylliannol, ac mae'r hyn sydd wedi digwydd ar lawr gwlad, fel y gwyddom ni, wedi bod yn boenus i unigolion ac yn boenus i gynulleidfaoedd. Ac mae rhywun yn gofidio sut y gallwn ni adfer cynulleidfaoedd pan fydd hynny'n bosib. Ond, beth sydd yn ddiddorol iawn ac yn bwysig iawn i mi ydy bod yna ddatblygiadau sydd wedi dangos pa mor gydnerth ydy sefydliadau Cymru, hyd yn oed yn yr argyfwng hwn. Mae cyfeiriad wedi'i wneud yn bositif iawn tuag at y cyfryngau Cymreig. Os buodd yna erioed ddadl dros bwysigrwydd sicrhau cyfryngau lle mae pobl Cymru a newyddiadurwyr a sylwebwyr Cymru yn gallu siarad â chynulleidfaoedd Cymreig, dyma'r cyfnod sydd wedi dangos pwysigrwydd hynny.
Dwi'n nodi'r sylwadau a wnaed ynglŷn â Golwg360, ond dwi hefyd, fel y gŵyr rhai ohonoch chi'n sicr, erbyn hyn, wedi bod yn ystyried sut y gallwn ni ddatblygu trefn gyfatebol yn Saesneg, fel bod yna fframwaith newyddiadurol lled annibynnol ar gael yn yr iaith Saesneg, yn ogystal â beth sydd gyda ni yn Gymraeg—nid yn cael ei ariannu'n uniongyrchol gan y Llywodraeth, dwi'n boenus am hynny, ond yn cael ei gynnal o led braich.
Ac felly, dau bwynt arall roeddwn i eisiau ei wneud: rydyn ni'n gweithredu drwy'r gronfa adferiad diwylliannol, ac mi fydd y gronfa yma yn parhau i gefnogi gweithwyr llawrydd yn arbennig. Roedden ni'n sylweddoli ein bod ni ddim wedi darparu'n ddigonol tuag at y llif o weithwyr llawrydd, a gweithwyr llawrydd yn arbennig yma yng Nghaerdydd, oherwydd mae yna gynifer o bobl yn y dinasoedd sydd wedi bod yn gweithio yn llawrydd dros y blynyddoedd ac yn gweithio i bob math o gwmnïau yn yr holl sectorau gwahanol sydd yn rhan o'n diwylliant ni. Ac felly, dyna pam mae'r £3.5 miliwn wedi cael ei ychwanegu at y gronfa yma, cronfa gweithwyr llawrydd, er mwyn inni fynd â'r cyfanswm sydd wedi'i dargedu i weithwyr llawrydd i £10.5 miliwn. Ac mae'r cyllid yma, rydyn ni'n gobeithio, yn mynd i barhau i drawsnewid y sefyllfa.
A gaf i bwysleisio hefyd beth arall rydyn ni wedi ei wneud, sef sefydlu'r contract diwylliannol? Y mae hwn yn rhywbeth a oedd wedi bod ar fy meddwl i ers blynyddoedd, oherwydd mae'n bwysig iawn, os ydyn ni'n rhoi arian cyhoeddus, ein bod ni hefyd yn gallu disgwyl ymateb sydd yn greadigol am yr arian yna, nid jest cynnal sefydliadau, nid jest cynnal adeiladau, er mor bwysig ydy hynny, ond sicrhau bod gyda ni gontract diwylliannol sy'n gweithio ochr yn ochr â'r addewid i weithwyr llawrydd fel ein bod ni yn gallu gweld materion sydd yn cael eu trin yn greadigol yn tyfu allan o'r sefyllfa argyfyngus yma.
Rydyn ni'n gweithio’n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig—
A gaf fi ofyn i'r Gweinidog ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Iawn, rwy'n dirwyn i ben nawr.
Diolch.
Rwyf am gadarnhau'r £500 miliwn hwn, dyna i gyd.
Mae £500 miliwn ar gyfer cynllun ailddechrau cynhyrchu ffilm a theledu, sydd yn amlwg yn allweddol. A chan fy mod i unwaith wedi bod yn y swydd y mae'r Dirprwy Lywydd ynddi ar hyn o bryd, mi gaeaf fy ngheg. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. [Chwerthin.] A gaf fi alw ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu bod nifer ac ehangder yr ymatebion i'r ddadl hon, y cyfraniadau, yn dangos bod consensws eang ar draws y Siambr ynglŷn â pha mor bwysig yw'r diwydiannau creadigol i'n bywyd cenedlaethol ac ynglŷn â pha mor bwysig yw hi ein bod yn parhau i'w cefnogi a'u cynnal drwy'r cyfnod anodd hwn.
Ni allaf ymateb i bopeth y mae pawb wedi'i ddweud. Rwy'n credu ei bod yn ddiddorol fod nifer o gyfranwyr wedi gwneud sylwadau ar yr angen am lwybr yn ôl at berfformiadau byw, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ei gymryd o'r ddadl hon heddiw. Nid oes neb yn meddwl y gallwn fynd yn ôl at berfformiadau byw ar hyn o bryd, ond mae angen i'r sector ddeall sut olwg fydd ar y llwybr hwnnw. A'r pwyntiau a wnaeth Rhianon Passmore, Jenny ac eraill am y posibilrwydd o gigs gan gadw pellter cymdeithasol—mae ffyrdd o wneud pethau'n ddiogel. Ac mae hyn yn cyd-fynd â'r pwyntiau a wnaeth David Melding am bobl yn y sector sydd am weithio. Mae angen iddynt weithio, mae angen iddynt ddefnyddio eu sgiliau. At ei gilydd, nid pobl yw'r rhain sy'n mynd i'w swyddi i wneud ffortiwn; maent yn ei wneud er mwyn gwneud yr hyn y maent yn ei garu ac er mwyn cyfrannu at ein bywyd diwylliannol. Ac er ei bod yn bwysig ein bod yn eu cefnogi'n ariannol, y neges glir sy'n dod i ni fel pwyllgor yw bod y bobl hyn am fod yn weithgar eto.
Roedd David Melding yn iawn wrth gwrs i dynnu sylw unwaith eto at y materion yswiriant. Ac rwy'n falch, yn ymateb y Llywodraeth i'n hadroddiad, fod y rheini'n cael eu hystyried o ddifrif, oherwydd dyna, o bosibl, fydd un o'r rhwystrau mwyaf i agor y sector eto. A gwn y bydd y Gweinidog eisiau ymateb i bwynt David am y sefydliadau sydd wedi arallgyfeirio, sydd wedi chwilio am ffynonellau incwm eraill ac sydd efallai'n fwy bregus nawr na'r rhai nad ydynt wedi gwneud hynny, yn eironig ddigon.
Roeddwn am ddiolch i Jenny Rathbone am ei geiriau caredig am waith y pwyllgor, ac mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Ac mae nifer o bobl hefyd wedi dweud, fel y gwnaeth Jenny, pa mor dda y mae Cymru Greadigol wedi ymateb. Mae'n her enfawr i sefydliad newydd a ffordd newydd o weithio, ac roedd y sylwadau cadarnhaol hynny'n bendant yn cael eu cadarnhau gan yr hyn a glywsom yn ein tystiolaeth.
Cyfeiriodd Siân Gwenllian at nifer o faterion pwysig iawn. Mae'n iawn i dynnu sylw at faint o waith sydd i'w wneud a phwysigrwydd y sector hwn i'r economi. Rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod ei fod yn bwysig am lawer o resymau eraill, ond mae'n bwysig i'n heconomi, a soniodd David Melding am hynny hefyd. A soniodd nifer o gyfranwyr am bwysigrwydd darlledu cyhoeddus, a byddwn yn edrych i weld sut y mae'r Gweinidog yn ymateb i ymgynghoriad Ofcom.
Soniodd Siân am Golwg360, ac mae'r Gweinidog, wrth gwrs, yn cyfeirio at hwnnw fel model posibl ar gyfer cefnogi'r wasg yng Nghymru yn fwy cyffredinol, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddwn ni fel pwyllgor am fynd ar ei drywydd.
Mae'n amlwg—cyfraniad Rhianon Passmore a Siân Gwenllian—fod yna gynulleidfa allan yno. Nid yw pawb yn barod i ddychwelyd at berfformiadau byw, ond mae rhai pobl, yn sicr, ac mae angen inni gael y cynllun hwnnw, a gofynnaf eto i'r Gweinidog amdano.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymrwymiad heddiw i roi ymateb manwl i rai o'r materion a godwyd. Rwy'n falch iawn ei fod yn arian newydd. Rwy'n hoffi'r gair 'ychwanegol'. Rwy'n falch iawn fod hynny wedi'i gadarnhau, a'i sylwadau am bwysigrwydd y diwydiannau creadigol i frand Cymru a sut y cawn ein gweld yn rhyngwladol.
Dof â fy sylwadau i ben nawr, Ddirprwy Lywydd; gallaf weld fy mod yn brin o amser. Mae cymaint mwy y gellid ei ddweud, ond rwyf am orffen drwy gymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Senedd ac ymrwymo i'r sector y byddwn ni fel pwyllgor yn parhau i weithio gyda hwy drwy'r cyfnod anodd hwn i sicrhau, fel y dywedodd David Melding, fod diwydiant sydd mor bwysig i ni yno pan fydd hyn i gyd ar ben. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, nodir adroddiad y pwyllgor.