9. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymraeg 2050 (2019-2020) ac Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg (2019-2020)

– Senedd Cymru am 5:21 pm ar 24 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:21, 24 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Mae eitem 9 ar ein hagenda yn ddadl, a dyma adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 'Cymraeg 2050' ar gyfer 2019-20, ac adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg yn 2019-20. Rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd Meddwl, Lles a'r Gymraeg i wneud y cynnig. A yw'r Gweinidog yno? Iawn, cawn rai munudau o seibiant nes y gall y Gweinidog ymuno â ni yn rhithiol.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:22.

Ailymgynullodd y Senedd am 17:23, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:23, 24 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedais, rydym ni ar y ddadl ar adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 'Cymraeg 2050' ac adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg, ac rwy'n gofyn nawr i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Lles a'r Gymraeg gynnig y cynnig. Eluned Morgan.

Cynnig NDM7485 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymraeg 2050 (2019-20);

b) Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg (2019-20).

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:24, 24 Tachwedd 2020

Diolch yn fawr, ac ymddiheuriadau fy mod i wedi cyrraedd yn hwyr. Dwi yma heddiw i gyflwyno dau adroddiad blynyddol gerbron y Senedd sydd, gyda'i gilydd, yn dangos y camau a gafodd eu cymryd yn 2019-20 i gyrraedd ein nod llesiant cenedlaethol o weld y Gymraeg yn ffynnu. Yr adroddiadau sydd dan sylw yw adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 'Cymraeg 2050' ac adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg, eto ar gyfer 2019-20.

Dwi am ddechrau trwy drafod ein hadroddiad blynyddol ni ar ein strategaeth iaith, sef 'Cymraeg 2050'. Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar flwyddyn ariannol 2019-20, ac mae'n dangos y cynnydd rydym ni wedi ei wneud wrth weithredu 'Cymraeg 2050' yn ystod y flwyddyn.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:25, 24 Tachwedd 2020

Fe gofiwch fod 'Cymraeg 2050' yn cynnwys dau brif nod, sef cynyddu nifer y siaradwyr a chynyddu'r defnydd a wneir o'r iaith hefyd. Mae'r adroddiad hwn, felly, yn dangos y gwaith sydd wedi'i wneud mewn ymateb i'r nodau hyn yng nghalon ein cymunedau, gan ein partneriaid grant, a gennym ni fel Llywodraeth. Fe welwch fod yr adroddiad yn dangos ein gwaith o'r blynyddoedd cynnar, trwy ddarpariaeth addysg statudol, i addysg ôl-orfodol a Chymraeg i oedolion. Mae hefyd yn sôn am brosiectau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn ein cymunedau.

Mae'r adroddiad yn un amrywiol iawn am fod y gwaith yn perthyn i bob un o feysydd gwaith y Llywodraeth, gan adlewyrchu pwysigrwydd prif ffrydio a gwreiddio 'Cymraeg 2050' yn eang. Mae'r adroddiad hwn yn arddangos tystiolaeth dda iawn o hynny.

Does dim amser gyda fi i fynd drwy bopeth heddiw, felly dwi am sôn am rai o uchafbwyntiau'r flwyddyn cyn troi at beth sydd wedi digwydd ers hynny yn sgil COVID-19. Un o uchafbwyntiau'r llynedd oedd cymryd rhan ym Mlwyddyn Ryngwladol UNESCO ar gyfer Ieithoedd Brodorol. Roedd yn gyfle gwych i ni godi proffeil Cymru yn rhyngwladol, fel gwlad ddwyieithog a gwlad sy'n arwain yn y maes adfywio ieithyddol.

Yn ystod yn flwyddyn adrodd, mi wnes i gyhoeddi ein bwriad i sefydlu Prosiect 2050. Uned newydd sbon yw hon sy'n cydlynu ein gwaith o gynllunio ein llwybr tuag at yr 1 filiwn. Bydd hefyd yn creu mentrau newydd i ddyblu defnydd o'r iaith ac yn cefnogi adrannau polisi ar draws y Llywodraeth i weithredu 'Cymraeg 2050'. Bydd yn gweithio gydag amrywiol bartneriaid ledled Cymru a thu hwnt, a dwi'n edrych ymlaen at weld y gwaith arloesol y bydd y prosiect yma yn ei gyflawni.

Mae annog teuluoedd i ddewis defnyddio'r Gymraeg yn un o'r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud ar ein taith tua'r 1 filiwn, felly roeddwn i'n falch dros ben o lansio ymgynghoriad ar y polisi drafft cenedlaethol ar drosglwyddo'r Gymraeg a'i defnydd mewn teuluoedd. Byddwn yn cyhoeddi'r polisi terfynol yma yn y Senedd ar 15 Rhagfyr.

Hefyd, rydym wedi lansio'r gwasanaeth Helo Blod, sef gwasanaeth cymorth a chyfieithu sydd ar gael ar-lein a dros y ffôn i fusnesau bach a'r trydydd sector. Rhaid cofio hefyd am y gwaith bara menyn fel cynyddu nifer y cylchoedd meithrin, cynyddu'r lleoedd sydd ar gael mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a'r niferoedd sy'n eu mynychu, cynnig darpariaeth i hwyrddyfodiaid, cryfhau'r gweithlu addysg, cynnal defnydd iaith yn y sector ôl-16 a datblygu adnoddau addysgol o safon, hefyd, cynyddu nifer yr oedolion sy'n dysgu, a chynnig dewis da o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg, a chreu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith mewn gweithleoedd, cefnogi partneriaid grant, rhaglen Arfor, rôl y cyfryngau, treftadaeth, diwylliant, twristiaeth, seilwaith ieithyddol a manteisio i'r eithaf ar dechnoleg.

Fe welwch chi fod y data yn yr adroddiad yn dangos ein bod ni'n dal i wynebu heriau mewn rhai meysydd, er enghraifft, recriwtio athrawon a sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i ddefnyddio'r Gymraeg ar ôl 16 oed. Ond, rŷn ni'n gweithio'n galed ar draws y Llywodraeth a gyda phartneriaid ac yn parhau i gadw llygad ar y data er mwyn addasu ein cynlluniau os bydd gofyn.

Mae'n bwysig cofio mai ciplun ar y cyfnod penodol a ddaeth i ben ddiwedd mis Mawrth eleni sydd yn yr adroddiad hwn a rhaid ystyried, wrth gwrs, fod y byd wedi newid yn llwyr ers hynny. Mae'r Gymraeg, fel pob un o feysydd polisi eraill y Llywodraeth, wedi wynebu heriau mawr yn sgil COVID-19, ond gyda phob her, daw cyfleoedd cyffrous. Mae arloesedd, agwedd benderfynol a chreadigrwydd ein partneriaid wedi creu argraff fawr arnaf i. Roedd hi'n bleser gwylio Eisteddfod T, Eisteddfod Amgen a chlywed am waith gwirfoddol gwych y ffermwyr ifanc a Merched y Wawr, yn ogystal â gweld pob math o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar-lein gan y mentrau iaith. Mae mwy o ddysgwyr wedi manteisio ar gyrsiau blasu ar-lein y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ers mis Mawrth eleni na chyfanswm dysgwyr y tair blynedd flaenorol gyda'i gilydd. Ac mae'r mwyafrif o'n partneriaid wedi llwyddo i barhau i weithredu amcanion 'Cymraeg 2050' yn ystod cyfnod mor anodd. Dwi am ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion aruthrol.

Fel Llywodraeth, rŷn ni wedi ymateb i'r pandemig trwy gefnogi partneriaid, gan geisio rhagweld sefyllfaoedd ac ymateb iddyn nhw, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Er enghraifft, mae ymgyrch Llond Haf o Gymraeg wedi ei lansio i gefnogi rhieni plant sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Rŷn ni hefyd wedi cynnal awdit o ddefnydd iaith yn ein cymunedau, er mwyn deall effaith COVID ac adnabod cyfleoedd newydd i bobl ddefnyddio eu Cymraeg. Bellach, mae pecyn Cysgliad ar gael am ddim i ysgolion a sefydliadau bach, ac mae hyn yn ei gwneud hi'n haws i fwy o bobl ddefnyddio'r Gymraeg.

Rŷn ni hefyd wedi bod yn ystyried beth fydd effaith COVID-19 a hefyd Brexit ar y canlynol: defnydd o'r Gymraeg yn y gweithleoedd; yr economi wledig, gan gynnwys y sector amaeth; a sefyllfa ail gartrefi a thai fforddiadwy. Bydd ein hadroddiad blwyddyn nesaf yn cynnwys mwy o fanylion am y materion hyn ac unrhyw ganfyddiadau am effaith y pandemig ar y Gymraeg, a bydd hyn oll yn cael ei ystyried hefyd wrth inni baratoi ar gyfer rhaglen waith nesaf 'Cymraeg 2050' ar gyfer y Llywodraeth nesaf.

Dwi am droi nawr at adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2019-20, sef blwyddyn lawn gyntaf Aled Roberts fel comisiynydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch eto am ei waith. Dwi eisiau nodi fy mod i'n gwerthfawrogi parodrwydd y comisiynydd a'i staff i addasu'r ffordd maen nhw wedi gweithio, yn arbennig wrth ystyried goblygiadau COVID-19 ar gyrff sy'n darparu gwasanaethau Cymraeg.

Cychwynnodd y comisiynydd ar ei waith drwy gwrdd â thrawstoriad o bobl mewn cymunedau a sefydliadau ar draws Cymru, a hynny er mwyn iddo gael deall sefyllfa'r Gymraeg ar hyd a lled y wlad yn well. Bu'r daith yn sail i weledigaeth y comisiynydd ar gyfer y ffordd ymlaen. Dwi'n falch bod Aled yn rhannu'n gweledigaeth ni fel Llywodraeth Cymru, sef bod rheoleiddio a chreu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn mynd law yn llaw. Mae angen gwneud y ddau beth er mwyn llwyddo gyda'n gilydd i weithredu 'Cymraeg 2050'.

Mae'r adroddiad blynyddol yn cyfeirio at waith sydd wedi'i wneud yn unol â blaenoriaethau'r comisiynydd, sef parhau i reoleiddio'n effeithiol, tra hefyd yn cydweithio â phartneriaid i hybu'r Gymraeg. Mae'r comisiynydd yn parhau i weithredu safonau'r Gymraeg. Daeth y safonau i'r sector iechyd i rym yn ystod y cyfnod adrodd, ac mae'r comisiynydd hefyd wedi bod yn gweithio gyda chyrff i'w cefnogi i roi safonau ar waith. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r comisiynydd am ei barodrwydd i gydweithio gyda fy swyddogion i i adolygu'r broses o wneud safonau yn dilyn argymhellion Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

Dwi'n awyddus i gydweithio i wthio cyrff yn eu blaenau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Rŷn ni hefyd am greu sefyllfa lle mae hawliau siaradwyr Cymraeg yn glir er mwyn cynyddu'r defnydd o wasanaeth. Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu rôl y comisiynydd wrth sicrhau bod y Gymraeg wrth galon gwaith y Llywodraeth gyfan. Eleni, mwy nag erioed o'r blaen, mae'r her allanol yn hollbwysig wrth i ni ystyried effeithiau hirdymor COVID-19 a'r ansicrwydd i'r Gymraeg yn sgil ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

A dyna ni. Dau adroddiad cynhwysfawr iawn yn cyflwyno llawer o wybodaeth am y gwaith hollbwysig sy'n cael ei wneud o dan faner 'Cymraeg 2050'. Diolch yn fawr.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:34, 24 Tachwedd 2020

Diolch, Weinidog. A gaf i ddechrau trwy fynegi fy siom ein bod ni'n trafod y ddau adroddiad hyn gyda'i gilydd? Pum munud i graffu ar y ddau. Does dim digon o amser i graffu ar eich llwyddiant i gymharu â'ch gweithgaredd. Does dim amser i fynd drwy'r byd gwaith, y gymuned, y maes addysg, ac yn y blaen, a does dim digon o amser i edrych ar swyddogaethau a chyfrifon y comisiynydd, i archwilio a oes ganddo ddigon o adnoddau, i archwilio ymhellach pam ei fod wedi gorfod gwario mwy ar ffioedd cyfreithiol a phroffesiynol na'r disgwyl. Ac mae yn bwysig, achos i mi, mae hyn yn awgrymu bod y broses gwynion yn dal yn rhy gymhleth ar gyfer rhai cwynion. Mae llawer ohonynt heb eu profi, fel y gwelwn. Ac mae'n lleihau'r arian sydd ar gael ar gyfer y gwaith arall y mae'n rhaid i'r comisiynydd ei wneud, sef helpu i greu mwy o siaradwyr Cymraeg a mwy o ddefnydd o'r Gymraeg. 

Gaf i groesawu'r cod ymarfer a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, sy'n helpu sefydliadau i ddeall sut i gydymffurfio â safonau? Dylai, wrth gwrs, fod mwy o safonau i gydymffurfio â nhw erbyn hyn. Dywedasom yr un peth llynedd, ac roedd diffyg brwdfrydedd dros safonau yn amlwg iawn cyn COVID. Ni allwn feio'r feirws am hyn. Ond mae gen i, hefyd, fwy o frwdfrydedd dros weld gwelliant ar y gwaith ar hyrwyddo a pherswadio a llwybrau eraill i gyflawni'r targed o filiwn o siaradwyr. Gan fod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ddod â mwy o gyfrifoldeb am hyn yn ôl yn fewnol, gawn ni weld faint o amser bydd gan y Gweinidog i gyflawni ar hyn, o ystyried ei chyfrifoldebau heriol a phwysig newydd.

Rwy'n awyddus iawn i weld beth sy'n digwydd i ganfyddiadau arolwg y comisiynydd o awdurdodau cynllunio, achos, mae'n debyg i fi, bod gorfodaeth y sylw dyledus ar effaith y Gymraeg yn cael ei ddehongli fel blwch ticio yn hytrach na meddwl am gyfleoedd cytundebau—section 106, er enghraifft—fel ffordd o gynyddu'r galw am addysg Gymraeg. Ac rwy'n falch iawn o weld y comisiynydd yn cyflwyno'r achos dros god ymarfer o dan y cwricwlwm newydd. Ni fydd prif-ffrydio'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn hawdd, ond dyma'r ffordd orau ymlaen, yn fy marn i, i greu cenedlaethau mwy dwyieithog. Mae'n llawer gwell na chynigion lletchwith ar drosi ysgolion dwy ffrwd yn ysgolion cyfrwng Cymraeg, pan nad oes mynediad i ddewis arall am ddegau o filltiroedd. Nid yw rhannu cymunedau a chwarae gwleidyddiaeth hunaniaeth yn dda i'r iaith. Ar ben hynny, rydym yn dal i gael trafferth recriwtio athrawon, fel y dywedoch, yn enwedig ar y lefel uwchradd. Felly, anogaf Llywodraeth Cymru i ystyried cod ymarfer continwwm o ddifri, a chadw ffocws ar ddarpariaeth blynyddoedd cynnar, i'w gwneud hi'n hawdd i ddewis Cymraeg, ac rwy'n golygu dewis er hwylustod a gyda hyder.

Efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni, Weinidog, a yw COVID wedi torri ar draws eich cynlluniau i gael 40 o feithrinfeydd newydd erbyn 2021, a sut y byddwch chi'n dal lan. A allwch hefyd ddweud a yw'r 800 o blant ychwanegol mewn meithrinfeydd cyfrwng Cymraeg wedi eu gwasgaru ledled Cymru, neu ydyn nhw mewn ardaloedd Saesneg eu hiaith neu Gymraeg eu hiaith yn bennaf? Neu dim ond yn adlewyrchiad o'r cynnydd yn niferoedd y boblogaeth ar gyfer y grŵp oedran hwn yw hyn? A gofynnaf yr un peth am y cynnydd yng nghanran y plant sy'n symud i ysgolion cynradd Cymraeg. A allaf i ofyn hefyd: pam niferoedd ar gyfer un, a chanrannau ar gyfer y llall? Dydy hynny ddim yn dryloyw o gwbl. Ac er fy mod yn credu bod rhaglen Camau yn syniad gwych, a allwch ddweud a oes gan bob lleoliad Dechrau'n Deg erbyn hyn un person, o leiaf, â sgiliau trosglwyddo'r iaith Gymraeg ar lefel briodol? 

Jest i ddod i ben, mae yna, fel y dywedais i, ormod o gwestiynau i mi eu cyfro heddiw, ond rwyf eisiau troi at y ffigurau TGAU. Mae'n gynnydd cymedrol, ac rwy'n croesawu unrhyw gynnydd, fel rydych chi'n gwybod, ond efallai y byddai gweld graddau disgyblion wedi ein helpu i ddeall rhywbeth arall—a ddylid eu croesawu ymhellach, neu a oes unrhyw broblem gyda chyrhaeddiad yn y pwnc gorfodol hwn. Ac, ie, dylai fod yn orfodol, achos mae dal angen inni ddangos i nifer o bobl, sy'n crebachu, fod hwn yn gymhwyster gwerthfawr. Mae'n hanfodol, hefyd, i wrthdroi'r cwymp yn y galw am safon uwch os oes unrhyw obaith o gael yr athrawon sydd eu hangen arnom. Diolch.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:39, 24 Tachwedd 2020

'Ymlaen tua'r dyfodol y mae edrych, nid am yn ôl' meddai'r Gweinidog yn ei rhagair i'w hadroddiad blynyddol ar strategaeth 'Cymraeg 2050'. A'n gwaith ni yn y Senedd heddiw ydy adolygu gweithgarwch y 12 mis o 1 Ebrill 2019 i 30 Mawrth eleni, sef yr hyn sy'n cael ei gofnodi a'i grisialu yn y ddau adroddiad sydd o'n blaenau ni heddiw—cyfnod bron yn gyfan gwbl cyn yr argyfwng COVID, wrth gwrs. Mae'r comisiynydd a'i dîm eisoes wedi ymddangos o flaen pwyllgor y Gymraeg i ymateb i'r adroddiad blynyddol ac adroddiad sicrwydd y comisiynydd, felly dwi am ganolbwyntio fy ngyfraniad y prynhawn yma ar gyfrifoldebau'r Gweinidog.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:40, 24 Tachwedd 2020

Mae'n gywir i ddweud bod COVID wedi newid ein cymdeithas dros nos, ond dim ond erbyn pythefnos olaf cyfnod adrodd yr adroddiad, felly fedrith COVID ddim esgusodi na chuddio'r diffyg cynnydd amlwg sydd i'w weld yn record y Llywodraeth. Ac un enghraifft wnaeth neidio allan ataf fi'n syth oedd datganiad ysgubol yn yr adroddiad, wrth gyfeirio at prosiect 2050, fod pennaeth prosiect 2050 bellach wedi'i benodi ac yn ei swydd, yn dilyn oedi yn sgil COVID-19. Ond nid COVID oedd y bai am yr oedi. Cyhoeddi'r un swydd newydd yma yn y gwasanaeth sifil oedd cyhoeddiad mawr y Gweinidog yn ôl yn Eisteddfod Llanrwst yn Awst 2019, a oedd i fod i hoelio sylw ar weithredu'r strategaeth. Roeddwn i'n gweld pethau'n mynd yn araf deg, ac ysgrifennais i at yr Ysgrifennydd Parhaol ym mis Ionawr 2020 yn gofyn am ddiweddariad. Siomedig iawn, iawn oedd yr arafwch hwn—nodweddiadol, efallai—a collwyd llawer gormod o amser efo'r penodiad ac felly efo'r strategaeth.

Mae strategaethau hirdymor yn bwysig, ond mae'r prawf o'u gweithrediad o flwyddyn i flwyddyn yn bwysicach fyth, a'r prawf pennaf bod dim lot o gynnydd yn digwydd ydy pan fo Gweinidog yn bodloni ar wneud cyhoeddiadau yn hytrach na gallu tystio cyflawniad go iawn. Un fenter o'r fath a gyhoeddwyd oedd Helo Blod, gwasanaeth cymorth a chyfieithu i fusnesau bach a'r trydydd sector—cyhoeddiad sy'n swnio'n dda a menter digon clodwiw mor belled ag y mae hi'n mynd, ond cwbl, cwbl annigonol os ydyn ni o ddifri am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Dim ond camau breision yn y gweithlu, y gyfraith a'r gyfundrefn addysg fydd yn sicrhau hynny. Mae gan addysg rôl hollol allweddol wrth greu'r miliwn, ond mae'r adroddiad yn dweud bod llai o athrawon cynradd Cymraeg yn y cyfnod dan sylw nag oedd hyd yn oed yn 2015-16—llai. Mae hynny'n anhygoel. Hyfforddwyd 11 o athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg—11—sydd 367 o athrawon yn brin o'r targed. Mae hi'n argyfyngus, ac wrth edrych ymlaen, mae COVID yn bygwth yr hyn sydd gennym ni yn barod. Ond beth rydym ni'n ei gael? Helo Blod, ta-ta rhaglen cyflwyno safonau. Helo Blod, ond ta-ta i'r Urdd. Helo Blod, ond ta-ta cymunedau hyfyw Cymraeg lle mae ail gartrefi allan o reolaeth. Dwi'n siwr eich bod chi'n clywed y coegni a'r rhwystredigaeth yn fy llais i, a dydw i ddim yn mynd i ymddiheuro am hynny.

Mae yna le i gydnabod ambell lygedyn o obaith. Diolch i bwyllgorau cyfrifon cyhoeddus a diwylliant y Senedd, fe lwyddwyd i ddal traed yr Ysgrifennydd Parhaol i'r tân, ac fe gafwyd ymrwymiad a chynllun gweithredu i wneud y Gymraeg yn iaith weinyddol gweithlu'r Llywodraeth dros amser. Cafwyd dyfarniad y Barnwr Fraser yn y llys gweinyddol yn ddiweddar, sy'n cadarnhau, i bob pwrpas, hawl pawb i barhau ar lwybr addysg Cymraeg. A llygedyn arall o obaith ydy gwaith manwl Comisiynydd y Gymraeg, sy'n dangos lle mae deddfwriaeth ar y cwricwlwm yn rhoi cyfle gwirioneddol i wneud cynnydd go iawn ar y continwwm ieithyddol, os ddown ni â chod statudol i symud y sefyllfa ymlaen. A dwi'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn fodlon manteisio ar y cyfle, wrth ymateb i'r ddadl, i roi ei chefnogaeth i waith ardderchog y comisiynydd o ran Bil y cwricwlwm. Ond beth sy'n bwysig am y llygedyn o obaith yma, y tri pheth yma dwi wedi sôn amdanyn nhw, ydy nid y Llywodraeth sydd wedi bod yn gyfrifol am ddod â nhw ymlaen. Mae'r pethau yma wedi digwydd er gwaethaf y Llywodraeth, nid o'i herwydd o. Mae angen symud ymlaen.

'Ymlaen tua'r dyfodol y mae edrych, nid am yn ôl' meddai'r Gweinidog, a fydd hi ddim yn syndod ichi fy mod i'n hapus iawn i edrych ymlaen at ddyfodol newydd i'r gwaith o adfywio'r Gymraeg, ac mae gen i a Phlaid Cymru syniadau clir iawn am y cyfeiriad newydd, yr arweiniad newydd a'r egni newydd sydd eu hangen ar gyfer yr ymdrechion hynny. Mi fyddai Llywodraeth Plaid Cymru yn dyrchafu statws uned y Gymraeg yn gyfarwyddiaeth drawslywodraethol bwerus. Mi fyddem ni'n cyflwyno Deddf addysg Gymraeg i'w gwneud yn wirioneddol iaith i bawb. Mi fyddem ni'n achub ein sefydliadau cenedlaethol sy'n gwneud cymaint dros yr iaith ac yn creu dyfodol cynaliadwy i holl gymunedau Cymru. Diolch.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 5:45, 24 Tachwedd 2020

Diolch i'r Gweinidog am ddod â'r adroddiad hyn.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP

(Cyfieithwyd)

Pan fydd Llywodraeth yn ceisio gweithredu polisi, mae gwahanol ddulliau y mae modd eu defnyddio yn yr achos hwnnw. Weithiau mae'n bosibl rhannu'r rhain yn ddwy elfen sylfaenol, sef y foronen a'r ffon. Rwy'n credu bod y Gweinidog wedi bod yn eithaf cyson yn argymell y foronen yn hytrach na'r ffon wrth hyrwyddo'r ymgyrch o hybu defnydd y Gymraeg, ac rwyf  wedi fy nghalonogi, ar ôl darllen adroddiad 'Cymraeg 2050', ei bod yn ymddangos mai dyna yw ei dull sylfaenol o hyd.

Rwy'n credu bod annog grwpiau a sefydliadau i dyfu'r defnydd o'r Gymraeg yn fesur llawer gwell na dulliau gorfodi, felly byddwn i'n gyffredinol yn cymeradwyo'r dulliau y mae'r Gweinidog yn eu dilyn, sydd wedi'u hamlinellu yn adroddiad 'Cymraeg 2050' eleni, drwy gefnogi'r gwahanol fentrau a nodwyd. Barn Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yw ein bod ni, yn gyffredinol, yn cefnogi'r mesurau cadarnhaol hyn i annog twf y Gymraeg. Weithiau, nid yw gwneud rhywbeth yn orfodol yn gweithio mewn gwirionedd. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru benderfynu ychydig flynyddoedd yn ôl i wneud addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion yn orfodol hyd at 16 oed. Mae'r penderfyniad hwnnw wedi bod yn ddadleuol. Tybed a yw'n wirioneddol wedi llwyddo i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg i unrhyw lefel ystyrlon? Gan hynny, rwy'n golygu cynyddu nifer y bobl yng Nghymru sy'n defnyddio'r Gymraeg bob dydd.

Fy sylw i fy hun, yn seiliedig ar brofiad amrywiol berthnasau a pherthnasau ffrindiau sydd wedi mynd drwy'r system ysgolion yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw bod gennym ni garfan sylweddol o bobl ifanc o hyd sy'n weddol ddifater am y Gymraeg a hefyd yn weddol anwybodus ohoni, er iddyn nhw ei hastudio mewn theori hyd at 16 oed. Felly, ar un ystyr, ychydig sydd wedi newid ers i mi fod yn yr ysgol 30 mlynedd yn ôl. Ar ôl gweld y ffigurau a nodwyd, nid wyf yn siŵr a yw cyfran y bobl ifanc sy'n defnyddio'r Gymraeg yn sylweddol wedi cynyddu o ganlyniad i orfodi mwy o bobl i astudio'r iaith yn yr ysgol am dair blynedd ychwanegol. A gaf i gyfeirio at y diffyg cynnydd yn nifer y bobl sy'n manteisio ar Gymraeg Safon Uwch yn yr ysgol, a nodwyd yn yr adroddiad? Nid oes cynnydd parhaol sylweddol wedi bod yn nifer y myfyrwyr ysgol sy'n dilyn Cymraeg Safon Uwch, felly mae hyn, ynddo'i hun, yn dangos, i raddau helaeth, fod y polisi o orfodi disgyblion ysgol i gymryd y Gymraeg hyd at 16 oed wedi methu. Rwy'n credu bod hyrwyddo nosweithiau rhieni i annog mwy o bobl i fanteisio ar Gymraeg Safon Uwch yn syniad da. Byddai modd defnyddio'r un dull gyda TGAU Cymraeg yn fy marn i, ond efallai fod hynny'n drafodaeth ar gyfer diwrnod arall. Fy mhrif ddadl yw y gall dysgu Cymraeg fod yn brofiad cadarnhaol iawn, ond rhaid ei wneud gyda chydsyniad a mewnbwn gweithredol y dysgwr. Rhaid i'r dysgwr fod eisiau dysgu, felly'r prif beth yw annog mwy o bobl ifanc i gymryd y pwnc cyn belled ag y bo modd. Mae nosweithiau rhieni'n iawn, ond, hyd yn oed yno, rhaid inni sicrhau bod y myfyrwyr ifanc eu hunain hefyd yn cymryd rhan yn y trafodaethau ar ba Safon Uwch y maen nhw’n eu cymryd.

Mae yna broblemau cysylltiedig â'r nifer sy'n manteisio ar gymryd Safon Uwch, megis y prinder athrawon ysgol gynradd a'r prinder mwy o ran athrawon ysgol uwchradd—materion a godwyd eisoes heddiw gan siaradwyr cynharach. Mae yna gynllun trosi, a ddisgrifir yn yr adroddiad, ond yr anhawster yw nad yw llawer o athrawon ysgol gynradd o bosibl eisiau troi at yr ysgol uwchradd a hefyd mae gennych chi brinder athrawon ysgol gynradd beth bynnag. Felly, mae anawsterau wrth symud ymlaen tuag at y dyhead da iawn o wella'r defnydd o'r Gymraeg. Er hynny, rwy'n cymeradwyo'r Gweinidog am ei dull cyffredinol o weithredu.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 5:49, 24 Tachwedd 2020

Diolch i'r Gweinidog eto am ei hadroddiad.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y Gweinidog, nawr, i ymateb i'r ddadl—Eluned Morgan.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

Diolch yn fawr, a diolch am yr ymatebion hynny. I ddechrau gyda Suzy, wrth gwrs, ers i ni benderfynu peidio â bwrw ymlaen gyda Deddf yr iaith Gymraeg, mi roeddem ni wedi dechrau symud ymlaen gyda rhai safonau newydd, ond, wrth gwrs, roedd COVID, wedyn, wedi torri ar draws. Ond, rŷn ni yn gobeithio cael o leiaf un grŵp newydd o safonau i mewn cyn diwedd y sesiwn yma.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:50, 24 Tachwedd 2020

Dwi'n meddwl bod y ffaith bod gen i swydd newydd, mewn ffordd, yn fy helpu i roi tamaid bach o oleuni ar y maes yna o ran iechyd meddwl a’r Gymraeg, ac eisoes dwi wedi mynd ati i ofyn am waith i gael ei wneud ar y mater yma. Felly, dwi ddim yn gweld eu bod nhw’n cystadlu; dwi’n meddwl bod yna le i ni gydweithio ar y pynciau yna.

O ran prif-ffrydio’r Gymraeg,i fod yn glir, does dim diddordeb gen i i weld tensiwn rhwng yr ieithoedd sydd yn ein cymunedau ni. Mae’n bwysig ein bod ni’n cydweithredu a’n bod ni’n deall bod yna gyfrifoldeb nid jest ar y bobl sy’n mynd i ysgolion Cymraeg ond ar y rheini sydd ddim yn mynd i ysgolion Cymraeg—bod cyfrifoldeb arnyn nhw hefyd i ddysgu digon o iaith y wlad hefyd. Ac, wrth gwrs, mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud mwy o waith ar hynny, ac rŷn ni eisoes wedi bod yn siarad â llefydd fel y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i weld sut maen nhw’n gallu, efallai, helpu, gyda’u profiad newydd nhw o weithio ar-lein.

O ran meithrinfeydd, rŷn ni’n dal ar darged i gyrraedd y 40 o feithrinfeydd roedden ni wedi gobeithio eu rhoi mewn lle, a, jest i fod yn glir, rŷn ni wedi gofyn iddyn nhw roi’r ffocws ar yr ardaloedd lle nad oes yn draddodiadol gyfleusterau yn yr ardal. Mae’r Gymraeg yn gymhwyster a hefyd o werth o ran beth mae’n rhaid inni gael pobl i’w ddeall—ei bod hi’n gymhwyster ar ben yn ffordd o gyfathrebu. Wrth gwrs, rŷn ni wedi ceisio rhoi arian ar y bwrdd—mae £150,000 wedi cael ei roi ar y bwrdd—i geisio annog mwy o bobl i ymgymryd â lefel A ac, fel roedd Gareth Bennett yn nodi, mae angen mwy o waith arnom ni yn yr ardal yna. Rŷn ni’n gwneud ein gorau yn fan hyn. Mae lot o ysgogiadau gyda ni mewn lle, ac, felly, os oes syniadau eraill gan bobl, rŷn ni’n fwy na hapus i wrando arnyn nhw. Ond yn arbennig pan fo’n dod i geisio cael mwy o athrawon i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, mae o leiaf 10 o fesurau mewn lle sydd eisoes yn ceisio cael mwy o bobl i ymgymryd â’r gwaith yma. Dwi’n gwybod bod hwn yn rhywbeth mae Siân Gwenllian â diddordeb mawr ynddo.

Dwi ddim yn derbyn nad ydym wedi symud pethau ymlaen yn ystod y cyfnod yna. Mae pennaeth Prosiect 2050 nawr mewn lle. Roedd y gwaith oedd yn cael ei wneud yn waith sydd yn cario ymlaen nawr, oedd yn dechrau cyn i’r penodiad yna ddigwydd. Felly, doedd e ddim fel petai'r gwaith ddim yn digwydd. Er enghraifft, ar drosglwyddo Cymraeg yn y teulu, roedd lot o waith yn cael ei wneud ar hwnna. Roedd lot o waith yn cael ei wneud ar y Gymraeg a thechnoleg. Felly, roedd y pethau yna sydd mor bwysig, dwi’n meddwl, i sicrhau bod y mesurau mewn lle i sicrhau bod yna gyfle i bobl ddefnyddio’r iaith, eisoes wedi symud ymlaen cyn bod y pennaeth yna wedi cael ei benodi.

O ran Cymraeg Gwaith, dwi’n meddwl bod gwaith aruthrol wedi cael ei wneud yn fan hyn, ond, wrth gwrs, roedd lot o hwnna wedi dod i ben gyda COVID. Ond mae’n bwysig ein bod ni’n ailgydio yn hynny unwaith fod cyfle, fel bod cyfle i bobl fynd mewn i’r gweithle eto i sicrhau bod mwy yn ymgymryd â dysgu’r iaith Gymraeg a defnyddio’r iaith Gymraeg yn y gweithle.

Rŷch chi’n dweud nad ydym wedi rhoi cefnogaeth i’r Urdd. My goodness, rŷn ni wedi sefyll ar bwys yr Urdd mewn ffordd aruthrol, dwi’n meddwl. Wrth gwrs mae angen gwneud mwy i gefnogi’r Urdd, ond rŷn ni’n gwneud ein gorau glas gyda nhw, o bob mudiad, achos rŷn ni’n gwerthfawrogi’r gwaith aruthrol a phwysig maen nhw’n ei wneud o ran cynnal y Gymraeg gyda’n hieuenctid ni. Dwi wedi cadw mewn cysylltiad agos gyda’r comisiynydd a’r Gweinidog Addysg i sicrhau bod y cwricwlwm yn y lle iawn o ran y Gymraeg, ac, wrth gwrs, mae’n drueni nad oedd Siân wedi clywed beth wnes i gyfeirio ati ynglŷn â’r gwaith rŷn ni’n ei wneud gydag ail gartrefi.

Dwi’n falch o glywed bod Gareth Bennett, fel rhan o’r Abolish the Welsh Assembly Party, yn cefnogi’r syniad o gefnogi’r Gymraeg. Beth rŷn ni’n ceisio ei wneud—jest i edrych ar ychydig o bwyntiau a wnaeth e—o ran defnyddio’r iaith ar ôl i bobl gadael ysgol, mae'n rhaid inni roi'r cyfleoedd i wneud hynny, a dyna pam mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cael ei sefydlu. Dyna pam mae mwy o brentisiaethau mewn lle trwy gyfrwng y Gymraeg, a dyna pam mae modiwlau nawr o ran cyrsiau addysg bellach yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg i’r rheini sydd wedi mynychu ysgolion Cymraeg.

Jest i orffen, felly, mae’n debyg y bydd adroddiad y flwyddyn nesaf yn wahanol iawn o ystyried faint mae'r byd o'n cwmpas ni wedi newid. Ac er bod y cyd-destun i'n gwaith ni wedi newid yn ddramatig ers lansio 'Cymraeg 2050', mae'n blaenoriaethau ni wedi aros yn yr un lle. Ein bwriad ni o hyd yw cynyddu nifer y siaradwyr a chynyddu defnydd yr iaith a gwella'r seilwaith, a dyna pam dwi wedi nodi rhai o'r pethau hynny. Mae lot o waith eisoes wedi ei wneud ac mae sylfaen gref yno i sicrhau bod y Llywodraeth nesaf yn parhau â'r weledigaeth yna o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:55, 24 Tachwedd 2020

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does neb yn gwrthwynebu. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.