– Senedd Cymru am 4:51 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
Reit, felly, awn ni at y datganiad gan y Prif Weinidog ar y coronafeirws a'r cyfyngiadau mis Rhagfyr, a dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y datganiad hwnnw—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ddydd Gwener, byddwn yn cryfhau ein rheolau mewn ymateb i’r cynnydd mewn achosion coronafeirws yng Nghymru. Cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig ddoe yn tynnu sylw’r Aelodau at y rheolau newydd. Prynhawn yma, byddaf yn rhoi mwy o wybodaeth i esbonio’r cefndir a phaham fod angen gweithredu nawr.
Yn gryno, mae'r feirws yn dal i ledaenu'n gyflym yng Nghymru, ac mae'n rhaid inni ymateb er mwyn lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd wrth inni baratoi am gyfnod y Nadolig. Buodd y toriad brys mis diwethaf yn llwyddiannus yn dod â nifer yr achosion i lawr ar draws Cymru. Ond does dim osgoi’r ffaith bod y niferoedd yn cynyddu unwaith eto, fel y gwelsom ar draws y Deyrnas Unedig, a ledled Ewrop a'r byd cyfan.
Llywydd, mae'r coronafeirws unwaith eto'n lledaenu ledled Cymru, gan erydu'r buddion a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod atal byr. Oni bai ein bod ni'n ymateb yn awr i'r nifer cynyddol o bobl sydd wedi'u heintio â'r feirws, y cyngor gan ein cynghorwyr gwyddonol a meddygol yw y gallai cyfanswm nifer y bobl â'r feirws yn yr ysbyty yng Nghymru godi i 2,200 erbyn 12 Ionawr.
Mae ein modelu'n awgrymu, heblaw ein bod ni'n gweithredu, y gallai rhwng 1,000 a 1,700 o farwolaethau y gellir eu hatal ddigwydd dros gyfnod y gaeaf. Dydd Gwener, cyfradd digwyddedd saith diwrnod Cymru gyfan oedd 187 o achosion fesul 100,000 o bobl; mae hyn wedi codi i bron i 216 o achosion fesul 100,000 o bobl heddiw.
Ers dechrau'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y cyngor gwyddonol ac wedi cymryd camau i atal y gyfradd drosglwyddo. Mae'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau, SAGE, wedi adolygu'r cyfyngiadau a ddefnyddir ledled y Deyrnas Unedig. Maen nhw wedi tynnu sylw at y mesurau haen 3 yn Lloegr a'r mesurau lefel 3 yn yr Alban fel rhai sy'n darparu tystiolaeth o leihau'r epidemig yn yr ardaloedd hynny.
Nawr, mae eisoes gennym lawer o'r cyfyngiadau cyfatebol ar waith ledled Cymru. Y gwahaniaethau allweddol fu cyfyngiadau ar letygarwch, busnesau adloniant ac ar atyniadau twristiaeth dan do. Mae'r rhain yn fannau lle mae'r risg o drosglwyddo yn uwch, oherwydd gall pobl fod yn agos at ei gilydd am gyfnodau sylweddol o amser. Gyda chyfraddau cynyddol ledled Cymru, dyma'r lleoedd y mae'n rhaid i ni ymyrryd ynddynt.
Mae'r cyfyngiadau, a fydd yn dod i rym ddydd Gwener, yn canolbwyntio ar addasu'r hyn sydd wedi bod yn effeithiol mewn mannau eraill i ychwanegu at y rhestr o fesurau sydd eisoes ar gael yng Nghymru. O ddydd Gwener, bydd yn rhaid i dafarndai, bariau, bwytai a chaffis gau erbyn 6 p.m. ac ni fyddan nhw'n cael gweini alcohol yn y safle; ar ôl 6 p.m., dim ond gwasanaethau cludfwyd y byddan nhw'n gallu eu darparu.
Mater i fusnesau lletygarwch eu hunain fydd penderfynu aros ar agor neu beidio, ond bydd y rhai sy'n gwneud hynny'n darparu lle i bobl gyfarfod. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl ifanc a'r bobl hynny nad ydyn nhw wedi gallu manteisio ar ein trefniant aelwyd estynedig. Dyna, Llywydd, pam ein bod yn cadw'r trefniadau rheol pedwar. Gyda'r cyfyngiadau yr ydym ni'n eu nodi, gan gynnwys ar letygarwch, mae'r peryglon o gyfarfod mewn grwpiau bach o'r fath yn lleihau.
Ac oherwydd difrifoldeb y sefyllfa yr ydym ni'n ei hwynebu, o ddydd Gwener, mae'n rhaid i bob lleoliad adloniant dan do, gan gynnwys sinemâu, neuaddau bingo, alïau bowlio, canolfannau chwarae meddal, casinos, lloriau sglefrio ac arcedau diddanu, gau. Bydd yn rhaid i atyniadau ymwelwyr dan do, er enghraifft amgueddfeydd, orielau a safleoedd treftadaeth, gau hefyd. Bydd atyniadau ymwelwyr awyr agored yn aros ar agor.
Llywydd, wrth gwrs, nid oedd gosod cyfyngiadau pellach ar letygarwch yn benderfyniad hawdd. Rydym ni'n cydnabod yr ymdrech enfawr a wnaed gan y sector i gydymffurfio â'r rheoliadau, ac rwy'n ddiolchgar iawn am bopeth y maen nhw wedi'i wneud. Yn anffodus, bu'n rhaid cyflwyno cyfyngiadau tebyg ym mhob rhan arall o'r Deyrnas Unedig ac, yn wir, ledled y byd. Mae swyddogion iechyd a llunwyr polisi yn rhyngwladol wedi nodi bod yfed alcohol yn cynyddu'r risg o drosglwyddo, gan y gall ymbellhau cymdeithasol chwalu gan fod canfyddiad pobl o risg yn newid. Mae adborth gan dimau rheoli digwyddiadau yng Nghymru yn amlygu dro ar ôl tro faterion sy'n gysylltiedig ag alcohol a rhai lleoliadau lletygarwch. Mae data o'r system profi ac olrhain yn rheolaidd yn amlygu lletygarwch fel lleoliadau lle nodir cysylltiadau unigolion heintus.
Llywydd, bydd y newidiadau hyn yn berthnasol ledled Cymru. Gwyddom o'n profiad uniongyrchol ein hunain fod ansefydlogrwydd y feirws yn golygu y gall yr ardaloedd hynny sydd â nifer gymharol isel o achosion heddiw weld cynnydd cyflym iawn mewn ychydig ddyddiau'n unig. Mae cyngor y pwyllgor SAGE yn glir: mae'r mesurau'n fwyaf effeithiol pan gânt eu gweithredu yn gynnar. Bydd y mesurau yr ydym ni'n eu cymryd yn diogelu pob rhan o Gymru ar adeg pan fo'r feirws yn codi mewn 15 o'n 22 ardal awdurdod lleol ymhlith pobl ifanc, a lle mae'r cynnydd hwnnw eisoes yn troi'n heintiau yn codi ymhlith pobl dros 60 oed. Yn wir, mae 14 o'n 22 awdurdod lleol yn gweld cynnydd yn yr ystod oedran 60 oed a hŷn heddiw. A thra bod y sefyllfa'n parhau fel y mae hi ar hyn o bryd, mesurau cenedlaethol i gefnogi ymdrech genedlaethol yw'r ffordd fwyaf effeithiol o hyd o ddiogelu pob un ohonom ni.
Fel Llywodraeth, rydym ni'n cydnabod y bydd y cyfyngiadau newydd hyn yn arbennig o anodd ar un o adegau prysuraf y flwyddyn i'r sector lletygarwch. I gefnogi'r busnesau hynny yr effeithir arnynt, byddwn yn darparu pecyn cymorth o £340 miliwn. Dyma'r pecyn mwyaf hael yn unman yn y Deyrnas Unedig, ac, wrth gwrs, mae'n ychwanegol at gynlluniau cymorth Llywodraeth y DU. Bydd hyn yn cynnwys cynllun grant gwerth £160 miliwn yn benodol ar gyfer busnesau twristiaeth, hamdden a lletygarwch. Rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i sicrhau, lle y gallwn, y byddwn yn gwneud taliadau i fusnesau yr effeithir arnyn nhw cyn gynted â phosibl cyn y Nadolig.
Llywydd, fel y gwyddom ni, mae mwy nag un math o niwed a ddaw yn sgil y feirws hwn. Mae ein penderfyniadau wedi'u llywio gan asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb a hawliau plant, sydd wedi helpu i nodi lle y gallwn leihau effeithiau andwyol a rhoi cymorth ychwanegol ar waith. Mae hyn yn cynnwys cynnal gweddill y rheoliadau presennol yng Nghymru cyn belled ag y bo modd. Felly, nid yw'r rheolau ar gyfarfod dan do ac yn yr awyr agored wedi newid. Mae dwy aelwyd yn dal i allu ffurfio aelwyd estynedig gyda'i gilydd. Fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, bydd ysgolion, campfeydd, manwerthu nad yw'n hanfodol a gwasanaethau cyswllt agos yn parhau ar agor. Mae caniatáu i bobl wneud ymarfer corff yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles. Rydym yn gwybod bod cadw ysgolion ar agor yn hanfodol i blant ysgol, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed ac o gefndiroedd mwy difreintiedig.
Yn olaf, Llywydd, mae hyn i gyd yn parhau i gael ei adolygu'n rheolaidd. Yn rhan o hynny, yr wythnos hon bydd y Cabinet yn ystyried cyfyngiadau teithio, y rheolau ar hunanynysu, ein cyfundrefn hysbysiadau cosb benodedig, a materion cysylltiedig eraill. Byddwn wedyn yn cyflwyno rheoliadau newydd i ddod i rym ddydd Gwener am 6 p.m. Byddwn ni'n adolygu'r cyfyngiadau hyn yn ffurfiol erbyn 17 Rhagfyr, ac yna bob tair wythnos.
Llywydd, fel yng ngweddill y Deyrnas Unedig, mae angen i ni weithredu'n awr i roi ein hunain yn y sefyllfa orau y gallwn ni cyn y llacio dros dymor y Nadolig. Bydd y cyfyngiadau cryfach hyn yn diogelu iechyd pobl, yn arafu lledaeniad y feirws a, gyda chymorth pob un ohonom ni, byddan nhw'n diogelu Cymru. Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Nawr, yn gynharach yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, mynnodd y Prif Weinidog fy mod i'n ei gwneud yn glir ein bod mewn argyfwng iechyd cyhoeddus. Wel, mae'n iawn, rydym ni, ond rydym ni yng nghanol argyfwng economaidd hefyd, ac argyfwng economaidd a fydd yn parhau i dyfu, yn enwedig pan fydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu cau sectorau o'r economi y mae cynifer o weithwyr yng Nghymru yn dibynnu arnynt. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yn cydnabod ein bod ni mewn argyfwng economaidd yn ogystal ag argyfwng iechyd cyhoeddus.
Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r darlun llawn o ddata ac yn esbonio lle mae COVID-19 mewn lletygarwch yn digwydd. Oherwydd, i ormod o bobl ledled Cymru, mae'r mesur hwn yn ymddangos fel cam rhy bell. Dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach nad oes tystiolaeth ar gael. Wel, os yw hynny'n wir, yna mae angen iddo sicrhau bod hynny ar gael a chyhoeddi'r wybodaeth. Mae hyd yn oed yr Aelod ar gyfer Blaenau Gwent wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth i gefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru, gan gadarnhau felly nad yw'r dystiolaeth wedi'i chyhoeddi eto.
O ddydd Gwener, bydd pobl ledled Cymru yn gallu parhau i brynu alcohol o archfarchnadoedd a siopau, ond nid mewn tafarn neu fwyty, ac felly ni allaf weld sut y byddai dewis diod alcoholig gyda'ch cinio yn hytrach na diod ddi-alcohol yn gofyn am gyflwyno mesur sy'n gymaint o gosb. Felly, efallai wrth ymateb, y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym pa mor benodol y bydd gwahardd gwerthu alcohol mewn tafarndai a bwytai yn ystod y dydd yn cael effaith ar lefelau trosglwyddo. A sut yn union y bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu a yw hyn wedi llwyddo, neu a allem ni fod yn edrych ar y cyfyngiadau hyn yn aros yn eu lle am lawer mwy nag ychydig wythnosau?
Mae ofn gwirioneddol y gallai'r mesur hwn arwain at fwy o bobl yn ymgynnull yng nghartrefi pobl. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pa fodelu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar hyn, o gofio y gallai peidio â gweini alcohol mewn tafarndai, bariau a bwytai arwain at fwy o bobl yn ymgasglu ac yn yfed yn nhai ei gilydd, a allai wedyn arwain at gynnydd yn nhrosglwyddo'r feirws?
Bydd mesurau Llywodraeth Cymru yn effeithio ar fusnesau lletygarwch ledled Cymru, p'un a ydynt wedi'u lleoli mewn ardaloedd lle mae risg isel, canolig neu uchel, ac mae Llywodraeth Cymru wedi methu ag ystyried hyn. Mae busnesau lletygarwch yng Nghonwy, er enghraifft, bellach o dan yr un cyfyngiadau â thafarndai a bwytai ym Mlaenau Gwent a Merthyr, lle mae'r cyfraddau'n sylweddol uwch. Rwy'n deall bod arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, yn mynegi ei siom ynghylch annhegwch y dull hwn a'r diffyg ymgysylltu wrth ymgynghori ar y cynigion hyn. A yw'r Prif Weinidog felly'n derbyn y rhwystredigaeth a'r gofid a deimlir gan fusnesau ac, yn wir, arweinwyr lleol mewn ardaloedd fel Conwy, sy'n teimlo eu bod wedi eu cosbi'n anghymesur o ganlyniad i ddull diweddaraf Llywodraeth Cymru?
Wrth gwrs, yn sail i'r dull newydd, mae'n hanfodol bod busnesau ledled Cymru yn gallu cael gafael ar y cymorth y mae ei angen arnynt. Mae llawer o fusnesau lletygarwch a hamdden yng Nghymru wedi bod o dan ryw fath o gyfyngiad gan y Llywodraeth am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, ac felly mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar eu pryderon ac yn eu helpu i ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw a chael gafael arno yn gyflym. Mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud yn glir y bydd y gwiriwr cymhwysedd ar gyfer y pecyn newydd hwn ar gael erbyn 11 Rhagfyr a dim ond ym mis Ionawr y bydd y broses ymgeisio'n agor, sy'n gwbl annerbyniol. A wnaiff y Prif Weinidog, felly, gadarnhau pa gyllid brys a fydd ar gael i fusnesau lletygarwch ledled Cymru cyn mis Ionawr, o gofio bod disgwyl iddyn nhw gadw at y cyfyngiadau hyn o ddydd Gwener? Ac o ystyried y datganiad heddiw gan Weinidog yr economi, a yw'n derbyn na fydd rhai busnesau lletygarwch a hamdden yn gallu goroesi tan fis Ionawr ac y dylai'r cymorth hwnnw fod ar gael o ddydd Gwener ymlaen, nid ymhen pedair i bum wythnos?
Fel y gwŷr Aelodau, cyflogir un o bob 10 o'r gweithlu gan fusnesau lletygarwch a byddai llawer yn dibynnu ar fasnach cyn y Nadolig. Mae'r cyhoeddiad hwn yn peryglu'r swyddi hynny ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddweud wrthym ni sut y mae'n bwriadu cefnogi'r bobl hynny sy'n colli eu swydd o ganlyniad uniongyrchol i'r mesur hwn. Mae'r swyddi hyn yn nwylo Llywodraeth Cymru, ac wrth ymateb i'r datganiad hwn, rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn dweud wrthym beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r bobl hynny bydd yn colli eu swydd y gaeaf hwn oherwydd y mesur penodol hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym ni ei bod wedi ymgysylltu â'r sector ac wedi ymgynghori â nhw ar eu cynigion. Fodd bynnag, mae llefarydd ar ran Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru, sy'n cynrychioli atyniadau teuluol ledled Cymru, wedi'i gwneud yn gwbl glir na ymgynghorodd Llywodraeth Cymru â'u harweinwyr cyn penderfynu ar y mesurau hyn. Siawns na all fod yn dderbyniol i'r Llywodraeth fwrw ymlaen â mesurau a fydd yn arwain at ganlyniadau difrifol i'r sector heb o leiaf ymgynghori â'r sector yn y lle cyntaf.
Llywydd, mae'r sector lletygarwch, adloniant a thwristiaeth yng Nghymru wedi bod mewn cylch diddiwedd o gyfyngiadau gan Lywodraeth Cymru ers misoedd lawer, a bydd y penderfyniad diweddaraf hwn yn golygu na fydd llawer o fusnesau, yn anffodus, yn goroesi. Mae'r Gweinidog Iechyd yn iawn wrth ddweud nad oes cydbwysedd perffaith rhwng diogelu iechyd y cyhoedd a busnes, ond bydd hyn yn cael effaith enfawr ar ein lletygarwch, ein hadloniant a'n busnesau dan do, ac rwy'n annog y Prif Weinidog, yn lle hynny, i ddod o hyd i ffordd ymlaen sy'n gwrando ar, ac sy'n deall, pryderon busnesau ledled Cymru, oherwydd nid yw'n rhy hwyr i wrthdroi'r penderfyniad trychinebus hwn.
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr argyfwng economaidd gyda gwerth £340 miliwn o gydnabyddiaeth; dyna'r graddau yr ydym ni'n cydnabod yr argyfwng hwn. Bydd ef wedi gweld y cymorth pitw—rwy'n dyfynnu'r gymdeithas fasnach yn Lloegr—sydd wedi'i gynnig yno heddiw ar gyfer yr un sector. A phan fydd yr Aelod yn gofyn i mi pam ein bod yn gwahardd gwerthu alcohol mewn tafarndai a lletygarwch, gobeithio y bydd wedi bod yn gwrando ar arweinydd ei blaid, y Prif Weinidog, yn esbonio yr union beth hynny yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw, yn y rhannau hynny o Loegr lle mae miliynau a miliynau yn fwy o bobl nag sy'n byw yng Nghymru yn destun amodau llymach nag yr ydym ni'n eu cyflwyno yn y fan yma. Roedd y Prif Weinidog yn esbonio i bobl pam nad yw tafarndai yn Lloegr ar agor tan 6 o'r gloch gyda'r nos yn unig, ond eu bod ar gau yn llwyr, pam mae bwytai ar gau yn llwyr. Os na all ei gymryd oddi wrthyf i, yna efallai y bydd yn fodlon gwrando ar yr hyn sydd gan y Prif Weinidog ac arweinydd ei blaid ei hun i'w ddweud ar y mater hwnnw, oherwydd mae'r esboniad yr un fath yno ag y mae yn y fan hon.
Gofynnodd yr Aelod i mi am gasglu yng nghartrefi pobl. Wel, wrth gwrs, buom yn trafod gyda'r awdurdodau gorfodi y mater hwnnw, a sut y gallwn ni ymateb iddo os gwelwn ni dystiolaeth o hynny. Rwy'n annog pobl, ac rwy'n gobeithio y bydd arweinydd yr wrthblaid yn annog pobl, i beidio â thorri'r gyfraith yma yng Nghymru, oherwydd dyna y byddai cyfarfod o'r fath yn ei olygu. Bydd y Cabinet yr wythnos hon yn ystyried papur lle byddwn ni'n cynyddu'r gosb i bobl sy'n torri'r gyfraith yng Nghymru yn y ffordd honno, oherwydd pan fydd pobl yn torri'r gyfraith ac yn ymgynnull yng nghartrefi ei gilydd yn y ffordd nad yw'r gyfraith yn caniatáu yma yng Nghymru, yna mae gan y feirws yr holl amodau y mae angen iddo i ledaenu eto.
Rwy'n anghytuno'n llwyr â'r hyn y mae Paul Davies yn ei ddweud am geisio gwahanu rhai rhannau o Gymru lle mae'r ffigurau yn is nag ydyn nhw mewn rhannau eraill o Gymru dros dro, mae arnaf ofn. Byddwn i wedi meddwl y byddai wedi bod yn fwy parod i fanteisio ar ei brofiad uniongyrchol ei hun. Rwy'n credu mai dim ond pythefnos yn ôl y gofynnwyd i mi pam yr oedd mesurau tebyg yn cael eu rhoi ar waith yng Ngheredigion a Sir Benfro, oherwydd yr oedd y niferoedd yn y rhan honno o Gymru mor wahanol i rannau eraill o Gymru. Heddiw, mae'r ffigurau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ddigwyddedd o dros 200 fesul 100,000 yn Sir Gaerfyrddin, dros 155 fesul 100,000 yng Ngheredigion, a thros 130 fesul 100,000 yn Sir Benfro. O fewn ychydig wythnosau'n unig, mae ardaloedd oedd â chylchrediad isel iawn o'r feirws mewn sefyllfa wahanol iawn, ac mae anwadalrwydd y feirws yn golygu nad yw'n gwneud synnwyr bod â lefelau gwahanol o gyfyngiadau mewn gwahanol rannau o Gymru. Heddiw, yn anffodus, mae'r gyfradd ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyd wedi codi am y tro cyntaf ers y cyfnod atal byr, ac mae hynny'n dweud rhywbeth wrthym ni, y mae'n rhaid i bob un ohonom ni fod yn barod i'w ddeall, nad yw'r feirws hwn yn parchu ffiniau daearyddol yng Nghymru a bod yn rhaid i ni fod yn ddigon difrifol i gymryd cyngor y pwyllgor cynghori gwyddonol a gweithredu'n gynnar. Pan welwch chi broblem yn digwydd, peidiwch ag aros i'r broblem fynd allan o reolaeth, gweithredwch yn gynnar, oherwydd yn y ffordd honno rydych yn atal mwy o bobl rhag dioddef, mwy o farwolaethau rhag digwydd. Rwy'n benderfynol y byddwn ni'n cynnig yr amddiffyniad hwnnw i bobl yn y gogledd, a dyna beth mae ein penderfyniad ni yn ei gyflawni.
Dywedais yn fy natganiad, Llywydd, y byddem ni yn gwneud ein gorau, gan weithio gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol i gael cymorth i fusnesau cyn y Nadolig. Mae dwy elfen i'r cymorth sy'n cael ei ddarparu. Roedd arweinydd yr wrthblaid naill ai'n anwybyddu hynny, neu'n dewis peidio â'i gofio. Mae dwy elfen yn y cymorth sy'n cael ei gynnig. Rydym yn bwriadu cynnig y cymorth y gallwn ni ei ddarparu drwy awdurdodau lleol i'w gynnig cyn gynted ag y gallwn ni, gan gofio bod ein hawdurdodau lleol eisoes yn ein helpu'n aruthrol i ddarparu cymorth i fusnesau yma yng Nghymru.
Yn olaf, i fater tystiolaeth. Rwy'n siŵr y byddwn ni'n clywed llawer am hyn y prynhawn yma. Rwy'n mynd i'w ddweud nawr, Llywydd, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n maddau i mi os nad wyf i'n mynd ati i ailadrodd yr un ateb drwy gydol y prynhawn. Mae'r dystiolaeth yno. Mae'r dystiolaeth yno yn yr argyfwng iechyd cyhoeddus yr ydym ni'n ei wynebu. Mae gan ddau o'n hawdurdodau lleol yng Nghymru gyfraddau o fwy na 400 fesul 100,000 o'r boblogaeth; saith ohonyn nhw â chyfraddau o dros 300; 11 ohonynt â chyfraddau dros 200, ac mae'r cyfraddau hynny'n tyfu—yn tyfu ledled Cymru. Dyma ffigurau pobl sydd wedi marw yng Nghymru dros y pedair wythnos diwethaf: bedair wythnos yn ôl, 150 o bobl; dair wythnos yn ôl, 168 o bobl; bythefnos yn ôl, 177 o bobl; wythnos diwethaf, 159 o bobl. Mae chwe chant a phumdeg pedwar o bobl wedi marw o'r coronafeirws yn y pedair wythnos diwethaf yn unig. Mae tystiolaeth—mae pob un ohonyn nhw yn dangos pam mae'n rhaid i ni weithredu yn awr, oherwydd os na wnawn ni hynny, bydd bywydau nad oes angen eu colli yn cael eu colli. Mae'r dystiolaeth ar gyfer y camau yr ydym ni'n eu cymryd i'w gweld yn yr adolygiadau a gyhoeddwyd gan SAGE ar 11 a 19 Tachwedd, gan adolygu'r mesurau sydd wedi llwyddo ledled y Deyrnas Unedig, ac rydym wedi defnyddio hynny i roi ar waith yng Nghymru y camau hynny a fydd yn lleihau llif y coronafeirws ac yn achub bywydau nad oes angen eu colli. Dyna'r dystiolaeth. Dyma'r un dystiolaeth ag y mae ei Lywodraeth wedi'i defnyddio i gau tafarndai ac atal gwerthu alcohol ar lefelau haen 3 yn Lloegr; yr un dystiolaeth a arweiniodd Llywodraeth yr SNP yn yr Alban i gau tafarndai ac i atal gwerthu alcohol mewn ardaloedd lefel 3 yn yr Alban. Dyna pam mae lletygarwch ar gau yng Ngogledd Iwerddon heddiw. Mae'r dystiolaeth yr un fath ym mhobman. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar y dystiolaeth honno, ac mae'r dystiolaeth yn cefnogi'r hyn yr ydym yn ei gyflwyno i ddiogelu bywydau a bywoliaethau yma yng Nghymru.
Mae'r Prif Weinidog yn gwybod ein bod ni ym Mhlaid Cymru, wrth gwrs, wedi cefnogi'r Llywodraeth, hyd yn oed yn gwneud dewisiadau anodd pan dŷn ni o'r farn bod y Llywodraeth wedi gwneud y peth iawn. Ac yn gyffredinol, rŷn ni yn credu bod y Prif Weinidog wedi gwneud y peth cywir trwy ddilyn trywydd gofalus ers dechrau'r pandemig, i raddau helaeth iawn yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng gwarchod iechyd y cyhoedd a chymryd i ystyriaeth y niwed ehangach yn economaidd a chymdeithasol sy'n deillio o'r math o gyfyngiadau dŷn ni'n eu trafod nawr. Ond mae'n rhaid inni ddweud yn ddiffuant nawr, Brif Weinidog, rŷn ni yn meddwl eich bod chi yn gwneud camsyniad cyn belled â'r rheoliadau ŷch chi wedi eu cyflwyno ddoe.
Mi oedd yna gamgymeriad arall wedi ein dod â ni i'r pwynt yma, wrth gwrs, a chyfeirio ydw i at y ffordd y gwnaethon ni yng Nghymru lacio'n rhy fuan yn dilyn y cyfnod clo. Dwi'n credu eich bod chi wedi derbyn hynny, ac efallai y gallwch chi roi hynny ar y record. Mae'n rhaid dweud, does dim unrhyw lywodraeth yn y byd sydd ddim wedi gwneud camgymeriadau—gadewch inni fod yn gwbl onest. Y peth pwysig yw dysgu o'r camgymeriadau hynny a hefyd gwrando ar leisiau'r bobl, oherwydd mae ymddiriedaeth y bobl a'u cefnogaeth nhw i'r fframwaith cyffredinol o ran y polisi mor bwysig. Dyna'r erfyn pwysicaf un sydd gennym ni yng Nghymru, a dwi yn annog y Prif Weinidog i wrando ar y lleisiau hynny nawr, oherwydd dwi'n credu bod barn y rhelyw, amrediad o bobl, yn dangos bod y rheoliadau ar hyn o bryd yn annealladwy i bobl Cymru. Mae'n herio rhesymeg o ran y cyfyngiadau sydd wedi cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, ac mae hynny'n beryg, oherwydd os ydych chi'n colli ffydd ac ymddiriedaeth y bobl, wedyn beth rydych chi'n gweld yw llai o gydymffurfio wedyn gyda rheoliadau eraill, sydd mor bwysig.
O ran tystiolaeth, dwi'n credu ei bod hi ond yn deg i ni sy'n gorfod penderfynu ar y rheoliadau yma i weld y dystiolaeth wedi'i chrisialu. Rydyn ni wedi gweld, wrth gwrs, ddoe yn San Steffan ddogfen 48 o dudalennau o hyd yn dod â'r dystiolaeth ynghyd. Mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio at rai papurau SAGE, a dwi wedi bod yn edrych ar bapurau SAGE eraill. Mae yna grynodeb ar y dystiolaeth mor belled ag y mae'r sector lletygarwch yn y cwestiwn wedi cael ei gyhoeddi wythnos ddiwethaf—un tudalen, ar 27 Tachwedd—yn cyfeirio at wahanol gyfarfodydd o SAGE ar 12 Tachwedd, er enghraifft, a dau neu dri o bapurau gan NERVTAG, un o is-bwyllgorau SAGE. Beth sydd angen arnon ni ydy beth gawson ni, wrth gwrs, adeg yr argymhelliad ynglŷn â'r cyfnod clo byr, y toriad tân, sef papur gan TAC yn dod â'r holl dystiolaeth yma ynglŷn â'r union reoliadau rydych chi wedi eu cyflwyno, sef cael gwared â'r hawl i werthu alcohol yn llwyr a chau am 6 o'r gloch. Does bosib bod rhaid inni weld hynny eto nawr, oherwydd, wrth gwrs, bod y wybodaeth a'r ddealltwriaeth ynglŷn â'r feirws yma, yn fyd eang, yn esblygu trwy'r amser. Felly, dyw hyd yn oed cyfeirio at bapurau chwe wythnos yn ôl neu fis yn ôl ddim yn ddigonol er mwyn ein galluogi ni i wneud y penderfyniad cywir.
A gaf i ofyn hefyd inni gael pleidlais yn gynt na'r hyn sy'n cael ei awgrymu ar hyn o bryd? Oherwydd does dim pwynt inni bleidleisio ar hyn ymhen pythefnos os ydyn ni'n wirioneddol yn mynd i gwrdd â'n prif amcan ni fel Senedd, sef gwneud y penderfyniad ymlaen llaw. Unwaith eto, mae yna beryg gwirioneddol, Brif Weinidog, fod ymddiriedaeth y cyhoedd yn mynd i gael ei niweidio oherwydd bod yna ddim cefnogaeth, mae arnaf i ofn. Ac mae'r ffaith ein bod ni, fel plaid sydd wedi cymryd—. Rwy'n gobeithio y byddech chi'n derbyn ein bod ni wedi bod yn gyfrifol yn ein hymagwedd ni tuag at y pandemig, ond mae'n rhaid i fi ddweud, yn hyn o beth, o ran yr argymhellion rydych chi wedi eu rhoi gerbron ar hyn o bryd, rydyn ni wir yn eich annog chi i feddwl eto, er budd pobl Cymru.
Diolch i Adam Price. Wrth gwrs, dwi'n cydnabod y ffaith bod Plaid Cymru wedi bod yn gefnogol ar y siwrnai o ddewisiadau anodd sydd wedi ein hwynebu ni yma yng Nghymru.
Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod ein bod yn cyhoeddi cyngor y Gell Cyngor Technegol bob wythnos. Rwy'n credu mai ni yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sy'n cyhoeddi'r holl gyngor a gawn yn y ffordd honno cyn gynted ag y gallwn ni wneud hynny, a byddwn ni'n cyhoeddi cyngor pellach a gawn gan y Gell Cyngor Technegol eto yr wythnos hon. I fod yn gwbl glir gyda'r holl Aelodau, y bobl yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw i gyfosod y cyngor, i edrych ar yr holl wahanol ffynonellau posibl y gallwn ni eu defnyddio, ac yna ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, yw ein prif swyddog meddygol, ein prif gynghorydd gwyddonol a phrif weithredwr y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru. Cyngor y tri i ni fel Cabinet oedd bod yn rhaid i ni weithredu a bod yn rhaid i ni gymryd y camau hyn yn awr, oherwydd yn eu barn nhw, fel pobl sy'n arbenigwyr yn y mater hwn, mae'r sefyllfa yr ydym ni yn ei hwynebu yng Nghymru mor ddifrifol fel na fyddem ni, oni bai ein bod yn cymryd y camau hyn—camau a gymerwyd eisoes ym mhob un o dair gwlad arall y Deyrnas Unedig—yn wynebu sefyllfa lle na fyddai ein GIG yn gallu parhau i wneud yr hyn y mae Aelodau yma yn fy annog i yn rheolaidd iawn i sicrhau y gall ei wneud, sef y gall ymdrin â'r coronafeirws ac y gall barhau i ddarparu'r holl wasanaethau eraill yr ydym ni eisiau i'r GIG ei wneud.
Gadewch i mi fod yn glir gyda'r Aelodau ynglŷn â hynny: dyna na fyddai'r GIG yn gallu ei wneud. Os na fyddwn ni'n cymryd y camau hyn, dyna'r sefyllfa y byddwn ni yn ei wynebu yn y pen draw. Ni allwch chi ddianc rhag y cyfrifoldeb o wynebu'r cyngor hwnnw. Yn sicr, mewn Llywodraeth, ni allwch chi ddianc rhag y cyfrifoldeb hwnnw, ac ni fyddaf i'n dianc rhag y cyfrifoldeb hwnnw fel y Prif Weinidog yma yng Nghymru. Ac fe ddywedaf wrth Mr Price fod y rhain yn benderfyniadau anodd iawn, ac efallai eu bod yn benderfyniadau amhoblogaidd yn wir, ond os bydd yn rhaid i mi wneud penderfyniad amhoblogaidd gan mai dyma'r penderfyniad cywir, yna gwnaf y penderfyniad cywir ac nid dim ond yr un sy'n fy ngwneud yn boblogaidd. Ac er fy mod i'n credu ei bod wedi bod yn gryfder enfawr i ni yng Nghymru ein bod wedi cael cefnogaeth pobl yng Nghymru i'r ffordd yr ydym ni wedi sefyll gyda'n gilydd yn wyneb argyfwng y coronafeirws—ac rwy'n credu y byddwn ni'n parhau i gael y gefnogaeth honno oherwydd y ffordd yr ydym ni yn gwneud y penderfyniadau yn y ffordd a wnawn—y peth allweddol i mi yw ein bod yn gwneud y penderfyniad cywir ac yn gwneud hynny ar sail y cyngor a gawsom, a'n bod yn wynebu ein cyfrifoldebau yma fel gwleidyddion a'n bod yn gwneud y penderfyniadau sy'n atal ein GIG rhag peidio bod ar gael i bobl sydd ei angen yn ddybryd am gyflyrau eraill—ein bod yn deall, pan ddywedir wrthym ni y gall ein gweithredoedd achub bywydau rhwng 1,000 a 1,700 o'n cyd-ddinasyddion, nid yw hynny'n rhywbeth y gallwch chi ei roi o'r neilltu wrth geisio cael tystiolaeth; dyna'r dystiolaeth sydd gennych. Dyna'r dystiolaeth rydym ni'n gweithredu arni a dyna'r penderfyniad cywir yr ydym ni'n ei wneud dros Gymru.
Hoffwn i ddarllen rhai o'r manylion yn y negeseuon e-bost yr wyf wedi'u hanfon at bobl a oedd wedi bod yn gofyn am wybodaeth am y penderfyniadau sydd wedi'u gwneud a'r dystiolaeth y tu ôl i hynny. Y bore yma, rwyf wedi bod yn edrych ar gyngor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE), lle mae'n dweud, a dyfynnaf o bapur SAGE ar 19 Tachwedd,
Yn Lloegr, yn haen 1, roedd gan lawer o Awdurdodau Lleol Haen Is gyfraddau twf cadarnhaol cyn ac ar ôl cyflwyno haenau. Yn haen 2, roedd yr epidemig mewn rhai ond nid pob un o'r Awdurdodau Lleol Haen Is yn lleihau ar ôl cyflwyno haenau, ac roedd bron pob un o'r ardaloedd hyn yn gweld gostyngiad yn y gyfradd twf o ganlyniad i'r ymyrraeth ond roedd llawer yn parhau i fod yn gadarnhaol, serch hynny. Roedd gan bob Awdurdodau Lleol Haen Is haen 3 (lle'r oedd nifer yr achosion ar eu huchaf ar y cyfan) gyfraddau twf negyddol ar ôl cyflwyno haenau, ac ym mhob un o'r ardaloedd hyn roedd y gyfradd twf wedi gostwng o ganlyniad i'r ymyrraeth.
Felly, yr hyn yr ydym ni wedi'i weld yn Lloegr yw mai'r cyfraddau haen 3 a gydnabyddir gan SAGE yw'r rhai sydd fwyaf effeithiol a hefyd sydd fwyaf tebygol o fod yn effeithiol. Gyda haen 2, nid oes gennych chi unrhyw sicrwydd, ac nid yw haen 1, yn ôl SAGE, yn effeithiol o gwbl. Mae hynny yn ôl y cyngor ar 19 Tachwedd, sydd ar gael yn gyffredinol. Ac mae haen 3, wrth gwrs, yn ymwneud wedyn ag yfed alcohol. A'r un rheolau sydd ar waith yn Lloegr o ran cau safleoedd yn haen 3, ac yn yr Alban, lle mae rheolau tebyg iawn i'r rhai yng Nghymru wedi'u cyflwyno. Felly, mae rhesymeg y tu ôl i'r hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud yn seiliedig ar y cyngor hwnnw gan SAGE, gan yr epidemiolegwyr, yr ymddygiadwyr hynny—sy'n rhan o SAGE—a chlinigwyr.
Un o'r pethau y byddwn i'n ei ddweud wrth y Prif Weinidog, serch hynny, ar ôl bod ar Facebook neithiwr, yw, wrth i ni siarad ar hyn o bryd, fod llawer o rwystredigaeth a dicter o ran y penderfyniad hwn, a'm gwaith i yw esbonio i bobl y rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad a'r ffaith ei fod wedi'i gynllunio i achub bywydau. Rwy'n credu bod y nifer a ragwelir o farwolaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u nodi wedi bod yn y miloedd os na weithredwn ni. Felly, rwy'n gweld yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am fod yn boblogaidd, ac rwy'n deall bod yn rhaid i chi wneud y penderfyniadau iawn. Ond un peth y byddwn i'n ei ddweud, ac rwy'n gwneud y pwynt hwn i'r Prif Weinidog, yw bod y nodyn y gell cyngor technegol yn cael ei ddiweddaru bob dydd Iau, ac—rwy'n dweud wrth Adam Price—diweddarwyd nodyn y gell cyngor technegol ddiwethaf ar 20 Tachwedd. Byddem ni'n disgwyl un yr wythnos hon, ond mae ar ddydd Iau. Dylai fod pan gyhoeddir y penderfyniad, ac felly hoffem fod wedi gweld nodyn y gell cyngor technegol i Lywodraeth Cymru ddydd Llun, nid ddydd Iau. Felly, a allai'r Prif Weinidog hwyluso hynny, a chyhoeddi hwnnw cyn dydd Iau fel y gallwn ni gael yr wybodaeth honno sy'n ymwneud â'r cyngor SAGE hwnnw?
Yn olaf, cwestiwn yr wyf i wedi ei gael ar Facebook. Y cyfyngiadau teithio—pryd fydd y cyhoeddiad hwnnw yn cael ei wneud? Oherwydd wrth i'r cyfyngiadau symud yn Lloegr ddod i ben, mae pobl yn meddwl tybed a gawn nhw deithio i Loegr.
Llywydd, a gaf i ddiolch i Hefin David am ei gyfraniad? Rwy'n credu ei fod wedi crynhoi cyngor SAGE yn deg ac yn rymus iawn. Dim ond cyfyngiadau lefel 3 y canfuwyd eu bod yn effeithiol yn Lloegr. Mae'n rheswm arall pam nad wyf i'n barod i fod â llai na chyfyngiadau lefel 3 mewn unrhyw ran o Gymru. Pam y byddwn i'n fodlon gwneud rhywbeth yr ydym ni'n gwybod ei fod yn aneffeithiol pan allaf i wneud rhywbeth sydd yn effeithiol ac a fydd yn diogelu bywydau pobl?
Rwy'n deall y dicter a'r rhwystredigaeth y mae'n adrodd amdano. Nid oes yr un ohonom ni'n ddiogel rhag teimlo hynny, ac nid yw'n syndod, ydyw e'? Mae pawb yn flinedig, mae pawb yn rhwystredig, mae pawb yn dymuno na fyddai'n rhaid i ni wneud y pethau y mae'n rhaid i ni eu gwneud i ymdopi â'r feirws. Dyma'r ffaith drist, oni bai ein bod yn barod i weithredu, y bydd llawer o'r bobl hynny sy'n ddig ac yn rhwystredig gyda ni yn gweld achosion gwaeth fyth o rwystredigaeth a gofid yn eu bywydau wrth i bobl y maen nhw'n eu hadnabod, pobl sy'n agos atyn nhw, y bobl sydd fwyaf pwysig iddyn nhw, yn cael eu cynnwys yn y nifer cynyddol o bobl sy'n mynd yn sâl, ac i rai pobl, na fyddant byth yn gwella ohono.
Ond a gaf i ddiolch iddo am bopeth yr wyf yn gwybod y mae yn ei wneud? Oherwydd rwy'n gwybod ei fod yn darparu gwasanaeth gwych i bobl ei etholaeth wrth ateb eu cwestiynau, wrth gyflwyno dadleuon iddyn nhw, wrth orfod ymdrin weithiau â phobl sydd â barn wahanol. Rwy'n credu ei fod yn darparu gwasanaeth gwych.
O ran cyngor y gell cyngor technegol, byddwn ni'n gwneud ein gorau i'w hwyluso, ond dim ond i wneud y pwynt i'r Aelodau, nid cyngor y Llywodraeth yw hwn, cyngor y gell cyngor technegol yw hwn. Nhw sy'n gyfrifol amdano. Maen nhw'n ei ddarparu pan fyddan nhw'n ffyddiog eu bod nhw wedi ei gael yn barod i'w gyhoeddi, ac mae'n bwysig iawn nad wyf i'n ceisio dylanwadu arnyn nhw yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Maen nhw'n rhoi eu cyngor i Lywodraeth Cymru yn annibynnol ac yna rydym ni'n cyhoeddi'r cyngor hwnnw fel y gall pawb arall weld y cyngor sydd wedi ei roi i ni.
Yna, ar bwynt olaf Hefin David, Llywydd, bydd y Cabinet yn cyfarfod unwaith eto yfory. Un o'r eitemau ar ein hagenda fydd cyngor teithio a threfniadau teithio yn y cyfnod ar ôl y cyfyngiadau symud yn Lloegr.
Prif Weinidog, fe wnaf, yn gyntaf, gydnabod y pecyn digynsail o gymorth ariannol yr ydych chi wedi ei ddadorchuddio ar gyfer y diwydiant lletygarwch. Fodd bynnag, Prif Weinidog, mae'r fasnach lletygarwch eisiau gwneud yr union beth hwnnw—masnachu. Nid ydyn nhw eisiau cael arian am wneud dim, ni waeth pa mor hael, oherwydd nid yw'n talu eu costau nhw'n ddigonol.
Prif Weinidog, mae'r gyfres ddiweddaraf hon o gyfyngiadau symud yn eithaf hurt ac yn enghraifft arall o gosbi llawer o bobl am ffwlbri ychydig o bobl, ac nid yw hyd yn oed yn seiliedig ar wyddoniaeth na'r hyn y mae'r ystadegau yn ei ddweud wrthym ni. Os byddwch chi'n cynyddu nifer y profion, fe fydd, yn sgil hynny, gynnydd yn nifer y canlyniadau cadarnhaol, ac mae hynny ledled y Deyrnas Unedig. Pa mor farwol yw clefyd os oes rhaid i chi gynnal profion i weld a yw gan bobl? Y rheswm am hyn, wrth gwrs, yw na fydd y mwyafrif llethol o'r boblogaeth sy'n ei ddal yn dioddef fawr ddim effeithiau o'r feirws. Mae angen ymyraethau wedi'u targedu, nid rhai cyffredinol.
Mae'r diwydiant lletygarwch wedi dilyn yr holl gyfarwyddiadau a rheoliadau mewn modd rhagorol ac mae eich ystadegau chi eich hun yn dangos nad nhw yw ffynhonnell heintiau cynyddol. Pa wyddoniaeth sydd y tu ôl i'ch penderfyniad i wahardd alcohol mewn tafarndai a bwytai? Rydych chi wedi rhoi ystyr newydd i eiriau'r hen gân honno, 'A pub with no beer'. Ni chewch chi hyd yn oed gael gwydraid o win gyda'ch pryd bwyd, ond fe gewch chi, wrth gwrs, brynu llond bocs o win o'r archfarchnad ac, os ydych chi eisiau gwneud hynny, cewch wahodd hanner dwsin o bobl draw i'w yfed heb unrhyw ragofalon diogelwch ar waith o gwbl. Wrth gwrs, y rheswm nad ydych chi wedi gwahardd archfarchnadoedd rhag gwerthu alcohol yw eich bod yn gwybod mai canlyniadau hynny fyddai anrhefn sifil. Prif Weinidog, rydych chi'n targedu ac yn dinistrio'r diwydiant lletygarwch unwaith eto, ac mae eich ystadegau chi eich hun yn dangos mai ysgolion, cartrefi gofal ac ysbytai yw gwir ffynhonnell heintiau. Os gwelwch yn dda, Prif Weinidog, rwy'n erfyn arnoch chi, ar ran y diwydiant lletygarwch a'r economi'n gyffredinol, i roi terfyn ar y gyfres hynod niweidiol hon o gyfyngiadau symud a chyfyngiadau eraill.
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â David Rowlands y byddai'n well gan y diwydiant, wrth gwrs, fasnachu na dibynnu ar y cymorth y gallan nhw ei gael gan y Llywodraeth—wrth gwrs y byddai—a byddai'n dda gennym ninnau pe bydden nhw hefyd. Ond ble yr wyf yn anghytuno'n llwyr ag ef yw ei awgrym bod coronafeirws yn glefyd y gellir ymdrin ag ef drwy fesurau wedi'u targedu. Dysgwyd y gwersi cynharaf un ar gyfer iechyd y cyhoedd yn yr achosion o golera ym Merthyr Tudful yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Os bydd un person yn cael colera, mae'r colera hwnnw yn ymledu i bawb.
Os bydd dim ond lleiafrif o bobl yn ymddwyn yn anghyfrifol ac yn hunanol, nid yw coronafeirws yn gwahaniaethu rhyngddyn nhw a phobl sy'n dilyn y rheolau. Mae coronafeirws yn lledaenu i bawb, a dyna pam y mae'n rhaid i chi ymdrin ag ef ar draws y boblogaeth gyfan. Dyna benderfyniad pob llywodraeth ar draws y Deyrnas Unedig ac, yn wir, llywodraethau ledled y byd. Ac mae'r syniad bod hwn yn feirws y gellir ymdrin ag ef drwy wahanu rhai pobl oddi wrth bawb arall, yn camddeall natur yr epidemioleg yn llwyr. Ni fyddai'n gweithio o gwbl; nid yw'n amddiffyn y bobl sy'n dilyn y rheolau. Mae'n rhaid i ni ei wneud yn y modd yr ydym ni yn ei wneud, ac mae hynny'n ein rhoi ni, yn anffodus, ym mhrif ffrwd y modd y mae gwledydd ledled y byd yn gorfod ymateb i'r clefyd ofnadwy hwn.
Mae gennyf lawer iawn o Aelodau sy'n dymuno holi'r Prif Weinidog. Os gaf i atgoffa pawb yn awr i gadw eu cwestiynau yn gryno, yna gallaf gynnwys cynifer o enwau â phosibl. Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Llywydd. Dau bwynt cyflym, os caf i, Prif Weinidog. Yn gyntaf oll, hoffwn roi ar y cofnod fy mod i'n anghytuno â'r camau yr ydych chi wedi eu cymryd, ond rwy'n deall bod gennych chi, fel Llywodraeth, yr hawl i wneud hynny. Rwyf yn gofyn am eich cefnogaeth, serch hynny, wrth ofyn am ddadl yn y Siambr hon yfory. Rwyf wedi cyflwyno cynnig yn y Swyddfa Gyflwyno i'w ystyried. Rwy'n gwerthfawrogi, yn unol â'r gweithdrefnau, o dan y Rheolau Sefydlog, y cawn ni wneud hynny, ac fe wnaethoch chi, fel Llywodraeth, ynghyd â Phlaid Cymru, yr union beth hwnnw pan gyhoeddwyd y cyfnod atal byr. Felly, byddwn yn gobeithio y byddwch chi, fel Llywodraeth, yn cynnig eich cefnogaeth i ganiatáu i'r cynnig hwnnw gael ei wneud yfory, oherwydd, fel Senedd Cymru, rwy'n credu ei bod yn hanfodol ein bod ni, fel seneddwyr, yn cael pleidleisio ar hyn. Rydych chi wedi rhoi datganiad heddiw, a'r cyfan yr ydych chi'n ei wneud yw cymryd cwestiynau, a werthfawrogir, ond mae'n bwysig, fel seneddwyr, ein bod ni'n cael pleidleisio.
Ac, yn ail, fe wnaethoch chi sôn yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw am gydgysylltu â'r asiantaethau gorfodi. Fel rhywun sy'n cynrychioli Canol De Cymru, lle y caewyd safleoedd trwyddedig yn hollgynhwysol, y tro diwethaf, yn ôl yn yr haf—ac rwy'n sylweddoli bod y tywydd yn dra gwahanol bryd hynny—yr oedd amryw o achosion ar draws fy rhanbarth o aflonyddwch sifil a achosodd bryder mawr i lawer o bobl ar draws y rhanbarth. Pa mor ffyddiog ydych chi na fydd unrhyw weithgareddau anghyfreithlon mewn mannau cyhoeddus o'r fath yn digwydd eto, a bod yr asiantaethau gorfodi wedi rhoi sicrwydd i chi y byddan nhw'n gallu ymdrin â chamau gweithredu o'r fath? Oherwydd, yn fy marn i, mae'n llawer gwell ymdrin ag alcohol mewn safle trwyddedig, lle caiff ei reoleiddio, yn hytrach na'i symud ymlaen i'r stryd neu i bartïon tŷ, a bydd eich rheoliadau chi yn cael yr effaith o wneud hynny.
Wel, Llywydd, mae'n siŵr bod yr Aelod yn un o'r rhai a fydd yn chwilio am dystiolaeth, a gallai chwilio am dystiolaeth yn y rhannau hynny o Loegr lle mae ei blaid ef eisoes wedi gosod cyfyngiadau o'r math hwn am lawer iawn o wythnosau, ac nid wyf i'n credu bod ganddo dystiolaeth o aflonyddwch cyhoeddus ar raddfa fawr nac o'r broblem yn cael ei symud yn gyfan gwbl i fannau eraill.
Fe wnaethom yn wir siarad â'r asiantaethau gorfodi. Byddan nhw yn ymateb i'r rheolau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith. Y peth allweddol, siawns, yw i bob un ohonom ni sydd ag unrhyw fath o ddylanwad o gwbl ddefnyddio'r dylanwad hwnnw i esbonio i bobl pam y byddai torri'r gyfraith a gweithredu yn y modd y mae'r Aelod wedi ei ddisgrifio yn rhoi eu hunain, a phobl eraill sydd bwysicaf iddynt, mewn perygl. Yr ateb gorau yw peidio â gorfod gorfodi rheol oherwydd ei bod yn cael ei thorri, ond ceisio defnyddio ein lleisiau i esbonio i bobl pam y mae er eu budd hwy, ac er budd pawb arall, i wneud yr hyn y gofynnir iddyn nhw ei wneud.
Mae pobl yng Nghymru wedi gwneud hynny, yn fy marn i, yn wych dros gyfnod yr argyfwng coronafeirws. Mae angen i ni ofyn i bobl barhau i wneud hynny wrth i ni symud i'r flwyddyn nesaf. Gyda phosibiliadau newydd y gwyddom eu bod yn dod i'n cyfeiriad, nid dyma'r adeg i roi'r ffidil yn y to a thybio na fydd pobl yng Nghymru yn barod i weithredu mewn ffordd sy'n ein helpu ni i gyd i atal y feirws hwn rhag parhau i waethygu o'n gafael, gyda'r holl anawsterau a difrod y gwyddom y byddai hynny yn eu hachosi.
Dros y misoedd diwethaf yma, drwy drio bod yn adeiladol wrth sgrwtineiddio'r Llywodraeth, dwi wedi trio gwrando'n ofalus iawn ar beth mae pobl yn ddweud, achos mae pobl, y cyhoedd, yn graff, ar y cyfan. Mae cael nhw i ddeall pam bod y Llywodraeth yn gwneud beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud yn gwbl allweddol, a dwi wirioneddol yn teimlo bod y rheoliadau yma wedi croesi llinell ym meddyliau pobl—o ddeall a chefnogi, ar y cyfan, y mwyafrif llethol, i fethu â deall ac amau beth ydy gwerth y mesurau. Ac mi rydyn ni yn sôn yn fan hyn am fesurau sydd yn llym iawn, iawn, a hynny mewn rhannau o Gymru fydd yn talu pris economaidd trwm iawn yn eu sgil nhw, ac ardaloedd lle mae nifer yr achosion yn isel iawn ar hyn o bryd, er, wrth gwrs, mae hynny'n gallu newid, a does yna neb—yn sicr, dim fi—yn dadlau y dylem ni ddim cael cyfyngiadau.
Rydych chi wedi crybwyll yr Alban a Lloegr. Nid un rheol drwy'r gwledydd cyfan sydd yn y fan honno, ac mae'r diffyg sensitifrwydd i'r gwahanol ddarlun mewn gwahanol rannau o Gymru yn chwarae ar feddyliau pobl yn fan hyn. Felly, plîs ystyriwch yr opsiwn amgen rydyn ni ym Mhlaid Cymru yn ei amlinellu. Os nad allwch chi wneud hynny, cryfhewch y dystiolaeth. Dangoswch mewn du a gwyn, cyhoeddwch o, pam mai drwy gyfyngiadau mor llym â hyn ar letygarwch a gwahardd unrhyw alcohol mae lleihau achosion. Dywedwch wrthym ni beth ydy'r mesur o'r effaith ar lesiant, achos dwi'n poeni am bobl ifanc yn arbennig, a dywedwch wrthym ni beth mae'r arbenigwyr ar ymddygiad, behavioural science, yn ei ddweud am y perygl y bydd pobl yn gwneud dewisiadau mwy peryglus yn sgil hyn—yn yfed a chasglu mewn cartrefi, ac ati. Rydyn ni angen gweld hynny mewn du a gwyn er mwyn i'r cyhoedd gael dod i farn.
[Anghlywadwy.]—mae Rhun ap Iorwerth eisoes wedi'i godi yn ystod y datganiad hwn. Fe ddywedaf wrtho unwaith eto ein bod ni wedi edrych yn fwriadol iawn i weld lle'r oedd y dystiolaeth ar gyfer mesurau llwyddiannus wedi ei chanfod mewn mannau eraill. Yn yr Alban, lle mae ei chwaer blaid wrth y llyw, ac mae ei blaid ef yn hoff iawn o awgrymu wrthyf i y dylai'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban fod yn fodel ar gyfer Cymru, gwelsom fod tafarndai yn cael aros ar agor tan 6 o'r gloch gyda'r nos fel ein lleoliadau lletygarwch eraill. Nid ydyn nhw'n gweini alcohol yn eu hardaloedd lefel 3 nhw, ond maen nhw'n cael aros ar agor. Rhan o'r rheswm pam y gwnaethom ni benderfynu dilyn y camau gweithredu hynny, yn hytrach na'r camau gweithredu y canfuwyd eu bod yn llwyddiannus fel haen 3 yn Lloegr, oedd oherwydd ein pryder am iechyd meddwl pobl, a phobl ifanc yn arbennig. Bydd ein rheolau ni yn fwy hael nag yn yr Alban yn hyn o beth, a byddwn ni yn dal i ganiatáu i bedwar o bobl o bedair aelwyd wahanol ddod at ei gilydd. Mae hynny yn arbennig oherwydd ein dyhead i ddod o hyd i ffordd o fewn y gyfraith i alluogi pobl ifanc i ddod at ei gilydd. Nid yw cymysgu aelwydydd, sef y cyfan a ganiateir yn yr Alban, yn helpu pobl ifanc o gwbl. Maen nhw eisiau cwrdd â'u ffrindiau. Maen nhw eisiau cwrdd â'u cyfoedion. Byddwn ni'n caniatáu i hynny ddigwydd yng Nghymru. Dyna un o'r ffyrdd yr ydym ni wedi addasu'r hyn yr ydym ni wedi ei weld mewn mannau eraill er mwyn bodloni ein pryderon ein hunain a'n hamgylchiadau ein hunain.
Nawr, clywais arweinydd Plaid Cymru yn awgrymu y dylem ni wneud yr hyn sy'n boblogaidd, ac fe wnaf i geisio ateb hynny. Mae angen i sicrhau bod gan bobl ffydd ynom ni, ac rwy'n credu ein bod yn gwneud hynny drwy esbonio i bobl mai dyma'r hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym ni, mai dyma'r hyn y mae'r cyngor arbenigol yn ei ddweud wrthym ni y mae'n rhaid i ni ei wneud, er ei fod yn anodd, ac yn rhwystredig, dyna yr ydym ni yng Nghymru wedi ei wneud drwy gydol y pandemig. Mae'n rhaid i ni barhau i wneud hynny, er ei fod yn galed, er ei fod yn anodd, a phan ei fod yn iawn i'w wneud yn y modd hwnnw, rwy'n credu y bydd pobl yng Nghymru yn cydnabod hynny.
Prif Weinidog, rwy'n llwyr gefnogi camau gweithredu y Llywodraeth, ac mae yn anodd, ac mae llawer o bobl o'r tu allan wedi codi cwestiynau ar y mater hwn, a phan eglurwch chi wrthyn nhw y gwir reswm y tu ôl iddo, mae ganddyn nhw ddealltwriaeth o pam yr ydym ni wedi cymryd y camau hyn. Ond rwyf eisiau canolbwyntio ar y sector gwestai, os caf i, ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae hyn hefyd yn effeithio ar westai. Mae fy ngwestai i, yn fy etholaeth i, llawer ohonyn nhw'n dweud eu bod nhw, mewn gwirionedd, yn gweld ciniawau a phrydau bwyd yn cael eu canslo o ganlyniad i hyn. A allwch chi sicrhau y bydd y pecyn yr ydych chi'n ei lunio hefyd ar gael cyn mis Ionawr, oherwydd mae'r cyfnod hwn bob amser wedi bod y brif adeg i lawer o'r busnesau hynny gronni eu cronfeydd arian wrth gefn ar gyfer y flwyddyn? Mae aros tan fis Ionawr i'r cais gael ei gyflwyno yn golygu eu bod yn mynd i'w chael hi'n eithaf anodd yn ystod y mis nesaf, wrth iddyn nhw geisio goroesi tan fis Ionawr. Felly, a wnewch chi edrych yn ofalus iawn ar sut y gallwch chi helpu'r busnesau hynny, ac a wnewch chi hefyd egluro wrthyn nhw beth yr ydych chi'n ei olygu wrth wasanaeth ystafell, oherwydd gall gwasanaeth ystafell ddarparu bwyd ac efallai diodydd y tu hwnt i 6 o'r gloch? Ac rwyf i eisiau gwybod—. Mae pobl sy'n dod i westai yn aml yn cyrraedd yn hwyr, ac maen nhw'n bobl sy'n gweithio, yn aml iawn, yn ystod yr wythnos. Maen nhw wedi bod allan yn y gwaith, maen nhw'n dod yn ôl, maen nhw eisiau ymlacio, maen nhw eisiau gorffwys, ac maen nhw eisiau gallu cael y cyfle i gael bwyd pan fyddan nhw'n dod yn ôl i mewn.
Diolch i David Rees am hynna. Rwy'n cytuno ag ef fod y gwaith amyneddgar o esbonio i bobl pam y mae'n rhaid gwneud y penderfyniad yn golygu bod pobl yn deall y rhesymeg drosto. Mae'n deulu prin iawn yng Nghymru, nawr, nad yw'n adnabod rhywun sydd wedi colli rhywun yn ystod yr argyfwng hwn, a phan fyddwch chi'n esbonio i bobl mai dyna sydd yn y fantol yn y fan yma, a dyna pam mae'r penderfyniadau anodd hyn yn cael eu gwneud, rwy'n cytuno bod synnwyr greddfol pobl o'r hyn sy'n iawn, yr hyn sy'n deg, a sut y gall eu gweithredoedd gyfrannu at les pobl eraill yn dod o ffynnon ddofn iawn yma yng Nghymru.
Rwyf yn sylweddoli yn llwyr yr effaith ar westai. Byddwn ni'n gwneud ein gorau i gael cymorth i bobl cyn y Nadolig pan allwn ni, a hyd yn oed pan nad yw'n bosibl rhoi'r arian yn uniongyrchol yn nwylo pobl, rwy'n gobeithio y gallwn ni gael syniad o'r cymorth a fydd ar gael, fel y gall pobl ddefnyddio hynny gyda'u credydwyr a gallu sicrhau bod llwybr drwy'r wythnosau nesaf ar eu cyfer. O ran gwasanaeth ystafell, rydych chi'n iawn; bydd pobl sy'n byw mewn gwesty yn gallu cael gwasanaeth ystafell ar ôl 6 p.m. gyda'r nos. Ni fydd bwyty mewn gwesty yn cael gweini ar bobl nad ydyn nhw'n aros yn y gwesty ar ôl 6 o'r gloch, ond byddan nhw'n cael gweini ar bobl sydd yn aros yn y gwesty, oherwydd, fel y dywedodd David Rees, bydd llawer o'r bobl hynny yn gweithio, a bydd angen iddyn nhw fwyta ar ôl 6 o'r gloch gyda'r nos, a byddwn ni'n sicrhau ein bod yn gwneud y cyngor hwnnw yn glir gyda'r sector ei hun.
Mater bach ydyw, ond dim ond i roi syniad i gyd-Aelodau o'r manylion y bu'n rhaid i ni ymgodymu â nhw dros yr wythnos ddiwethaf, byddwn ni hefyd yn sicrhau bod y dyddiau ychwanegol y naill ochr a'r llall i gyfnod ymlacio'r cyfyngiadau dros bum niwrnod y Nadolig sydd ar gael yng Nghymru, sydd ar gael i bobl yng Ngogledd Iwerddon fel eu bod yn cael teithio i'r tir mawr ac oddi yno ar 22 Rhagfyr ac yna ar y diwrnod ar ôl i'r cyfnod ymlacio ddod i ben yng Nghymru, y byddan nhw'n cael defnyddio gwestai yng Nghymru yn rhan o'u taith ar y ddau ddiwrnod estynedig hynny.
Prif Weinidog, rydych chi wedi bod yn sôn am wneud y penderfyniad cywir. Yn syml iawn rydym ni yn anghytuno â chi. Roeddwn i'n siomedig iawn o'ch clywed chi, mewn ateb cynharach, yn cyfeirio at y rhwystredigaeth y mae pobl yn ei theimlo, sydd, yn fy marn i, yn bychanu rhai o'r effeithiau iechyd meddwl difrifol iawn y mae pobl yn eu dioddef o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud hyn. Ac rwy'n siomedig iawn hefyd, pan fyddwn ni'n sôn am dafarndai yn fy ardal i—gallwn i ddewis unrhyw un—nad ydyn nhw mewn unrhyw ffordd yn gysylltiedig â lledaeniad y feirws, eu bod nhw i gyd wedi cael eu cau gan eich penderfyniad chi heddiw. Ac mae'n benderfyniad unochrog, oherwydd ni chawn ni bleidleisio ar hyn am bythefnos, ac rwy'n credu ei bod yn werth nodi, wrth gwrs, fod Llywodraeth y DU a Senedd y DU yn pleidleisio ar reoliadau Lloegr heno.
Rwyf i eisiau cael eich ateb, serch hynny, ar hyn—mae gennyf ddiddordeb mawr yn eich ymateb—sgwrs a glywais yn fy siop gornel leol ddoe, lle'r oedd ciw a oedd yn cadw pellter cymdeithasol oddi wrth ei gilydd, a bod yn deg, i gyd yn cwyno am y cyfyngiadau diweddaraf hyn mor chwyrn fel eu bod i gyd yn dweud eu bod yn mynd i bleidleisio dros Blaid Diddymu Cynulliad Cymru yn yr etholiad nesaf. A ydych chi'n derbyn bod rhai o'r penderfyniadau hyn yr ydych chi'n eu gwneud yn effeithio'n negyddol ar y sefydliad yn ei gyfanrwydd, ym marn rhai o aelodau ein cymdeithas? A phan fyddwch chi'n grwgnach am fwy o bwerau, ydych chi'n credu y dylech chi wir fod yn talu ychydig mwy o sylw i'r lleisiau sy'n credu na ddylai fod gennych chi unrhyw bwerau o gwbl? Diolch.
Wel, i ateb pwynt cyntaf Suzy Davies, rwy'n gobeithio y bydd yn cydnabod i mi ddefnyddio'r gair 'rhwystredigaeth' oherwydd dyna'r gair a ddefnyddiodd David Rowlands yn y cwestiwn a ofynnodd i mi. Felly, roeddwn i'n ymateb yn syml i'r pwynt a gyflwynwyd i mi yn uniongyrchol; yn sicr, nid oedd yn ceisio bychanu unrhyw beth.
Ar ei hail bwynt, fe wnaf i ddod yn ôl at yr hyn yr wyf i wedi'i ddweud wrth bobl eraill. Yn y pandemig hwn, mae pob Llywodraeth yn wynebu penderfyniadau amhosibl o anodd, mae'n amhosibl o anodd ceisio cydbwyso bywydau a bywoliaeth, y pedwar niwed sy'n dod o coronafeirws a sut yr ydym ni yn eu cydbwyso i gyd. Y cyfan y gallaf i ei wneud ac y gall holl aelodau fy Nghabinet ei wneud yw clywed y cyngor yr ydym yn ei gael, ei bwyso a'i fesur yn y ffordd orau y gallwn ni a gwneud penderfyniad sy'n caniatáu i chi edrych arnoch chi eich hun yn y drych y diwrnod wedyn. Nawr, gallai hynny fod yn benderfyniad gwahanol i'r un y byddai'r Aelod wedi ei wneud, wrth gwrs y gallai fod, ond dyna'r unig ffordd y gallaf i fwrw ymlaen—rwy'n gwneud y penderfyniadau sydd fwyaf tebygol, yn fy barn i, o fod er budd pobl yng Nghymru. Pa un a yw pobl, yn union ar ôl hynny, yn teimlo'n ddig ynghylch hynny ac yn dweud y byddan nhw'n pleidleisio mewn gwahanol ffyrdd, wel, mater iddyn nhw yw penderfynu hynny. Ond yr hyn y mae'n rhaid i mi ei wneud yw gweithredu mewn ffyrdd sydd, yn fy marn i, yn amddiffyn y pethau sydd bwysicaf i bobl yng Nghymru, a, phe na byddwn yn gwneud penderfyniadau ar y sail honno, ni fyddwn i'n gallu parhau i wneud y gwaith yr wyf yn ei wneud, hyd yn oed pan fydd Suzy Davies a phobl y mae hi'n eu cyfarfod mewn mannau eraill â safbwynt gwahanol i mi.
Hoffwn ddechrau drwy ddweud nad oes neb yn amau am eiliad ddyfnder pryder y Prif Weinidog a'i ddiffuantrwydd llwyr yn yr hyn y mae'n ei ddweud heddiw, ond byddwn i'n dweud wrth y Prif Weinidog bod angen cymryd camau, wrth gwrs, ond a oedd yn rhaid iddo fod y camau gweithredu hyn? Ac, i lawer o bobl, mae hyn yn teimlo'n rhy galed, yn enwedig i bobl pan mai eu rhwydweithiau cymorth yw eu ffrindiau, nid eu teulu. I lawer ohonom ni nad ydym ni mewn perthynas deuluol draddodiadol, rydym ni'n treulio ein hamser gyda ffrindiau cyn y Nadolig, oherwydd bydd y ffrindiau hynny gyda'u teuluoedd ar adeg y Nadolig ei hun. Prif Weinidog, mae'n teimlo'n rhy anodd. Nawr, rydych chi wedi cael cefnogaeth pobl Cymru oherwydd eu bod wedi deall ac maen nhw wedi bod yn falch, rwy'n credu, o gefnogi'r dull gofalus yr ydych chi wedi ei gymryd, ond mae hyn yn teimlo'n ofnadwy o anodd i'r bobl hynny.
Hoffwn i ofyn i chi pa fodelu gwyddorau cymdeithasol y mae eich cynghorwyr wedi ei ddefnyddio i benderfynu bod gwahardd gwerthu alcohol yn gyfan gwbl mewn lletygarwch—. Nid wyf yn sôn am alluogi pobl i gael—. Wyddoch chi, gallech chi ddweud y caiff pobl gael dau ddiod yr un, fel bod y risgiau sy'n gysylltiedig ag yfed gormod—. Ond mae dweud wrth y bobl hynny na chawn nhw weld eu ffrindiau, na chawn nhw gael un gwydraid o win amser cinio—pa fodelu y mae eich cynghorwyr wedi ei ddefnyddio i benderfynu na fydd gwahardd alcohol mewn lletygarwch yn ysgogi pobl, efallai llawer o'r bobl sydd wedi cefnogi eich dull gweithredu hyd yma, i gymdeithasu gartref, yn erbyn y rheolau, mewn ffyrdd sy'n llawer anoddach?
Prif Weinidog, byddwn i wrth fy modd yn gallu cefnogi'r dull hwn a'i egluro i'm hetholwyr; rwyf wedi gwneud hynny ar hyd yr amser, hyd yn oed pan nad ydym ni wedi cytuno 100 y cant. Ond, Prif Weinidog, i bobl nad oes ganddyn nhw berthynas deuluol draddodiadol, mae hyn yn teimlo'n rhy anodd ac rwyf i wir eisiau i chi feddwl am hynny eto.
Wel, Llywydd, siawns fod Helen Mary Jones yn anghywir yn dweud na all pobl weld eu ffrindiau. Gall pobl weld eu ffrindiau. Gall lleoliadau lletygarwch, caffis, bwytai fod ar agor tan 6 o'r gloch gyda'r nos. Os ydych chi eisiau gweld eich ffrindiau, yna bydd cyfleoedd i wneud hynny, a bydd mwy o gyfleoedd yng Nghymru o dan ein rheolau ni nag a fydd ar gael i bobl yng Ngogledd Iwerddon, Lloegr neu'r Alban. Felly, rydym ni mewn gwirionedd yn ystyriol o'r sylw y mae Helen Mary yn ei wneud ynglŷn â'r angen i bobl ddod at ei gilydd ar hyn o bryd.
Yma yng Nghymru, bydd pedwar o bobl o bedair aelwyd wahanol yn gallu cyfarfod, yn gallu cael pryd o fwyd gyda'i gilydd, yn gallu cymdeithasu. Yr hyn na fyddan nhw yn gallu ei wneud yw yfed alcohol. Nawr, mae'n ddrwg gennyf os yw hynny'n amddifadedd sylweddol i lawer o bobl, ond y dystiolaeth yw, pan fydd pobl yn yfed, bod eu hymddygiad yn newid, a bod eu hymddygiad yn newid mewn ffyrdd sy'n eu gwneud nhw a phobl eraill yn fwy agored i'r feirws. Dyna pam mae tafarndai, bwytai, bariau yn Lloegr mewn ardaloedd haen 3 ar gau yn gyfan gwbl; dyna pam yn yr Alban—y model yr ydym ni wedi'i ddefnyddio—pan fyddan nhw ar agor, nid yw alcohol yn cael ei weini.
Mae ein hymdrech ni'n ymgais i gydbwyso'r buddiannau gwahanol hynny. Drwy gadw lleoedd ar agor fel y gall pobl gyfarfod, yna gall yr angen i bobl weld eu ffrindiau, i gael profiad cymdeithasol, barhau. Rydym yn cydbwyso hynny drwy beidio â chaniatáu gwerthu alcohol oherwydd y risgiau ychwanegol a ddaw yn sgil hynny. Ni allwn fforddio'r risgiau ychwanegol hynny yng Nghymru, pan fydd y ffigurau a welwn ni o'n blaenau yn dweud wrthym ni beth fyddai niwed hynny, a dyna pam rydym ni wedi penderfynu ar y cydbwysedd sydd gennym ni.
Mae'r Prif Weinidog yn sôn am ddilyn y dystiolaeth, ac eto wrth ateb David Rowlands yn gynharach, cymharwyd trosglwyddo COVID â cholera. Mae'r ddau glefyd yn gwbl wahanol, oherwydd bacteriwm yw colera, nid feirws, ac mae'n cael ei ledaenu drwy lyncu dŵr halogedig, nid drwy bellter cymdeithasol.
A gaf i wahodd y Prif Weinidog i edrych ar y dystiolaeth a adroddir heddiw yn y cyfryngau o'r Swistir? Mae'r Swistir wedi haneru'r cyfraddau heintio dyddiol yn ystod y mis diwethaf, er gwaethaf ei thafarndai a'i bwytai, ei champfeydd a'i chyfleusterau chwaraeon yn aros ar agor. Bu cyfyngiadau cenedlaethol yn y Swistir, ond nid ydyn nhw o'r math didostur y bydd yn rhaid inni ei ddioddef yng Nghymru. Ni chaiff mwy na 10 o bobl gyfarfod yn breifat ac mae'n rhaid i dafarndai a bwytai gau am un-ar-ddeg, ac mae defnydd gorfodol o fasgiau wyneb mewn ardaloedd gorlawn.
Ond mae'r Swistir wedi bod yn hyblyg; mae wedi caniatáu i'w cantonau ddewis drostyn nhw eu hunain faint y dylid ymestyn y drefn gyfyngu y tu hwnt i'r mesurau cenedlaethol hynny, ac mae Genefa wedi gweld cyfyngiadau symud llawn, tra bod Zurich a Bern wedi gweld bron dim cyfyngiadau ychwanegol, ac eto, ar 5 Tachwedd eleni, cofnododd y Swistir 10,128 o achosion newydd, 26 y cant ohonynt yn gadarnhaol, ac eto dair wythnos yn ddiweddarach, ar 27 Tachwedd, roedd y ffigur wedi gostwng i 4,312 a chymhareb gadarnhaol o 15.8 y cant. Felly, pam nad yw'r Prif Weinidog yn dilyn ymagwedd hyblyg y Swistir, yn hytrach na'r anhyblygrwydd yr ydym ni yn ei gysylltu'n fwy â pharadwys sosialaidd anhapus Gogledd Korea?
Wel, Llywydd, yn y rhan fwyaf o'i gyfraniadau, mae Mr Hamilton wedi bod yn fy annog i ddilyn Sweden fel model. Gan fod amgylchiadau yn Sweden bellach wedi dirywio, byddai'n well ganddo fy annog i arddel model gwahanol eto. Dyfynnais yn gynharach, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, o'r erthygl a gyhoeddodd Canghellor Dugaeth Caerhirfryn ddydd Sul. Dyma frawddeg arall o'r un erthygl:
Mewn gwleidyddiaeth mae hi'n aml yn haws osgoi pethau yn gyfforddus na datgan gwirioneddau anghyfforddus.
Dyna beth mae Mr Hamilton yn ei gynnig i ni yn ei gyfraniadau niferus: osgoi cyfforddus, y syniad bod ateb hawdd bob amser i broblem hynod anodd, ffordd hawdd o osgoi gwirioneddau anghyfforddus. Wel, ni all Llywodraethau wneud hynny, nid os oes ganddyn nhw fuddiannau eu poblogaeth dan sylw. Y Swistir yw'r osgoi cyfforddus heddiw—mae'n siŵr, y tro nesaf, y bydd rhywle arall y bydd yn ei argymell i ni. Rydym ni yn gwneud y penderfyniadau sy'n briodol inni yma yng Nghymru.
Rwy'n credu mai dyma'r penderfyniadau anoddaf yr ydym ni wedi'u hwynebu dros y naw mis diwethaf, cyfres o benderfyniadau eithriadol o anodd a orfodir ar bob Llywodraeth o ganlyniad i'r feirws hwn. A gobeithio, wrth ymdrin â'r penderfyniadau hyn, y byddwn i gyd yn rhannu'r un penderfyniad i wneud yr hyn sy'n iawn i'r bobl a gynrychiolwn—i beidio â gwneud yr hyn sy'n hawdd, ac nid i wneud yr hyn sy'n boblogaidd, ond i wneud yr hyn sy'n iawn. Ac rwy'n gresynu at yr agwedd yma o fachu ar gyfle yr ydym ni wedi'i weld yma y prynhawn yma gan gynrychiolwyr y Ceidwadwyr, sy'n condemnio Llywodraeth Cymru am wneud yr hyn y byddant yn annog eu Haelodau Seneddol i bleidleisio drosto yn Lloegr yn ddiweddarach heno. Rhaid i ni wneud yr hyn sy'n iawn. A rhaid i ni esbonio hefyd, a rhaid i ni hefyd argyhoeddi pobl ynghylch yr hyn sy'n iawn a'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud.
Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud nifer o honiadau y prynhawn yma. Hoffwn weld y dystiolaeth am y penderfyniadau a wneir. Mae'n addas ac yn briodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniadau hyn, ac mae'n addas ac yn briodol eu bod wedyn yn dod yma i egluro'r penderfyniadau hynny. Mae'n addas ac yn briodol bryd hynny i ni gael cyfle i drafod a dadlau y mesurau hynny. Ond ni allwn ni ond gwneud hynny os cawn ni ein hysbysu ac os oes gennym ni yr holl wybodaeth sydd ar gael i ni a'r bobl a gynrychiolwn, i'n galluogi ni wedyn i graffu'n ddigonol ar Weinidogion, dwyn Gweinidogion i gyfrif, ac yna egluro'r penderfyniadau hynny i'r bobl a gynrychiolwn, ac i roi'r arweiniad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud dros yr wythnosau diwethaf.
O'm rhan fy hun, fe hoffwn i weld mwy o orfodaeth, yn enwedig mewn gweithleoedd. Hoffwn weld mwy o brofion torfol ym Mlaenau Gwent, yn enwedig. Hoffwn weld ffordd fwy cynhwysfawr o ymdrin â pholisi. Ac os yw'r Prif Weinidog eisiau i mi ac eraill ei gefnogi yn y rheoliadau hyn, yna rhaid iddo roi'r dystiolaeth a'r cyngor a gafodd gan ei gynghorwyr i ni er mwyn ein galluogi i wneud hynny.
Wel, Llywydd, rwy'n deall yn iawn pa mor ddifrifol y mae Alun Davies yn ymdrin â hyn, oherwydd mae'n cynrychioli Blaenau Gwent, lle mae'r cyfraddau digwyddedd saith diwrnod yn 431 ac yn cynyddu, yr ardal yng Nghymru lle mae'r angen i weithredu ar ei fwyaf. Felly, rwy'n deall yn iawn pa mor ddifrifol y mae'n cymryd hyn i gyd, a pham y mae'n chwarae'i ran wrth esbonio ac argyhoeddi, fel y mae'n rhaid i bob un ohonom ni ei wneud. A'i ddymuniad i weld camau pellach yn cael eu gorfodi, ac i ni ddysgu'r gwersi yr ydym ni yn eu dysgu o'r profion torfol ym Merthyr Tudful, a gweld beth y gallem ni ei wneud mewn mannau eraill yng Nghymru—mae'r rheini'n uchelgeisiau yr ydym ni i gyd yn eu rhannu.
Credaf fod Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o wybodaeth i'r cyhoedd nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, ein bod yn rhannu'r wybodaeth honno nid ar sail ein barn ni amdano, ond ar sail y cyngor arbenigol a gawn. Eu cyfrifoldeb nhw ydyw, eu dogfennau nhw ydyn nhw; rydym yn eu rhannu gyda chi. Credaf eu bod yn cyflwyno achos cryf dros y ffordd yr ydym ni yn gweithredu a chredaf, pan gaiff yr Aelod gyfle i astudio'r hyn y mae SAGE eisoes wedi'i ddweud, yr hyn y bydd adroddiadau TAC yn ei ddweud wrtho, beth yw'r ffigurau cadarnhaol, y trosglwyddo, niferoedd yn yr ysbyty a marwolaeth yn ei ran ef o Gymru yn dweud wrtho, y bydd yn gweld yn glir iawn pam y mae ein camau gweithredu ni yn angenrheidiol, ac yn angenrheidiol nawr.
Wrth gwrs, yn Lloegr, nid yw'r cynigion ar gyfer tafarndai a lletygarwch yr un fath â gwaharddiad llwyr. Mae'n ddull haenog sy'n seiliedig ar ystyriaethau pragmatig a thystiolaeth go iawn. Yn nodweddiadol ymhlith y dilyw o negeseuon yr wyf wedi'u derbyn ers eich cyhoeddiad mae, a dyfynnaf, 'Rwy'n gwerthfawrogi bod hyn yn risg ddifrifol i bobl sâl neu agored i niwed, ond mae'r mesurau a roddwyd ar waith yn llawer mwy pryderus. Mae Mr Drakeford wedi dinistrio lles cenedl. Mae fy nheulu'n rhedeg dau fusnes lletygarwch, ac ni allwn fforddio rhagor o gyfyngiadau. Rydym wedi buddsoddi cymaint i wneud ein sefydliad yn ddiogel rhag COVID. Felly, mae hwn yn apêl olaf i chi—siaradwch â'n Prif Weinidog.'
Ac efallai mai'r ergyd greulonaf yw honno i briodasau. Sut ydych chi felly'n ymateb i'r briodferch a ysgrifennodd ataf ddydd Gwener diwethaf, 'Roeddwn i fod i briodi ar 30 Hydref a chwtogais y rhestr o westeion i 30. Ond oherwydd y cyfnod atal byr, caeodd ein lleoliad. Rydym ni bellach wedi symud y briodas i 19 Rhagfyr a'i lleihau i 15 o westeion. Rwyf bellach yn chwarae "dyfalu'r dyddiad y gallaf briodi"', neu i'w thad, a ysgrifennodd ataf heddiw, gan ddweud, 'Priodas fy merch wedi ei difetha am yr eildro'?
Llywydd, mae'r Aelod yn hollol annidwyll wrth geisio esgus nad yw'r cyfyngiadau yn Lloegr rywsut mor llym ag y maen nhw yma yng Nghymru. Os ydych yn haen 3 yn Lloegr, byddwch mewn cyfyngiadau llawer llymach nag y byddwch yma yng Nghymru. Ac mae'r sefyllfa yng Nghymru mor ddifrifol â hynny, ac yn mynd yn fwy difrifol bob dydd. Dyna'r hyn y mae angen i'r Aelod ei ddeall, a dyna'r hyn, mae arnaf ofn, fod angen iddo esbonio i bobl y mae'r penderfyniad hwnnw'n effeithio'n uniongyrchol arnyn nhw. Ac rwy'n gwybod pa mor anodd ydyw i bobl y mae'n rhaid iddyn nhw nawr addasu i'r hyn sydd ei angen. Ond y ddadl y mae'n rhaid inni ei chyflwyno iddyn nhw yw ein bod yn byw ar adeg eithriadol, pan fo'r peryglon i ni i gyd yn tyfu bob dydd a bod yn rhaid i ni weithredu fel hyn i ddiogelu ni i gyd. Ac er na fydd pawb yn deall ac ni fydd pawb yn derbyn hynny, dyna sail yr hyn yr ydym yn ei wneud, dyna'r rheswm pam yr ydym yn gofyn am yr aberth eithriadol yma gan bobl. O ganlyniad, bydd y bobl hynny yn gweld y flwyddyn nesaf—yn gallu gweld eu busnesau yn ailddechrau, yn gweld eu priodas. Ni all yr Aelod osgoi'r ffaith, os na fyddwn yn cymryd y mesurau hyn, na fydd cannoedd a channoedd o bobl yng Nghymru, a fyddai wedi bod yn fyw fel arall, yn fyw yn 2021. Dyna, rwy'n credu, y mae'n rhaid i ni ei esbonio i bobl eraill, a phan fyddwn yn gwneud hynny, rwy'n credu y bydd pobl yn deall.
Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am y datganiad pwysig iawn hwn. Mae'r sefyllfa, fel y mae'n disgrifio, yn ddifrifol iawn. Bydd brechlyn yn bodoli ymhen ychydig fisoedd, ond nid eto. Mae'r mwyafrif llethol o bobl wedi glynu'n gaeth wrth y canllawiau ac wedi gwneud penderfyniadau synhwyrol, a rhaid i'r Llywodraeth barhau i sicrhau cefnogaeth y bobl hynny. Rwy'n cydnabod y cyfrifoldeb enfawr sydd gan y Prif Weinidog—ychydig iawn o bobl sy'n gyfrifol am fywyd a marwolaeth. At ei gilydd, mae pobl yn derbyn achosion angenrheidiol o gyfyngu ar ryddid, gan eu bod wedi gweld lluniau pobl mewn gwelyau ysbyty, mewn unedau gwelyau gofal dwys, a marwolaethau o COVID. Ond mae angen canlyniadau profion arnom ni yn ôl mewn diwrnod o hyd; nid yw hynny'n digwydd ym mhobman o hyd.
Nawr, mae'n siŵr y bydd myfyrwyr hanes Cymru yn ymwybodol o'r hanes cryf o ddirwest yng Nghymru. Ond o ran gwahardd tafarndai yn llwyr rhag gwerthu alcohol, Prif Weinidog, mae angen cyfiawnhad arnaf i hysbysu fy etholwyr. Mae pobl eisiau gwybod pam, mewn un frawddeg fer. Diolch.
A gaf i ddiolch i Dai Lloyd am yr hyn a ddywedodd yn y cyfraniad yna? Rwy'n falch ei fod wedi tynnu sylw at y ffaith y gall y flwyddyn nesaf fod yn wahanol, ond ni fydd gennym ni frechlyn am rai misoedd eto, erbyn i bobl gael eu dau ddos, erbyn i ni gael digon o frechlyn i ledaenu i'r boblogaeth gyfan. Ni fydd hyn yn digwydd ymhen wythnosau, ni fydd hyn yn digwydd eleni, ond bydd yn digwydd. A'r hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw perswadio pobl i ddygnu arni, i wneud y pethau anodd nawr, fel y gallwn ni fanteisio ar y posibiliadau newydd a fydd gennym ni yn 2021.
Gwnaethom fuddsoddi llawer o ymdrech yn ystod y cyfnod atal byr i wella'r drefn brofi yng Nghymru. Yr wythnos hon, roedd 90 y cant o'r holl brofion hynny yr oedd angen iddyn nhw fod yn ôl o fewn un diwrnod yn ôl o fewn un diwrnod, ac mae hynny'n bennaf oherwydd gwelliant sylweddol ym mherfformiad labordai goleudy, y mae angen i ni weld cynnal y perfformiad hwnnw nawr, ond, yr wythnos hon, mae'r perfformiad wedi bod yn llawer agosach at yr hyn y mae arnom ni angen iddo fod, a chytunaf ag ef fod angen i'r perfformiad fod ar y graddau hynny.
Fy esboniad un frawddeg i bobl ynghylch pam yr ydym yn gofyn iddyn nhw wneud yr hyn yr ydym yn gofyn iddyn nhw ei wneud: y rheswm yw, os na wnawn ni hynny, ni fydd ein GIG yno ar eu cyfer pan fydd ei angen arnyn nhw, a bydd y perygl, iddyn nhw eu hunain a phobl y maen nhw yn eu caru, y tu hwnt i'r hyn y bydd unrhyw un ohonom yn barod i'w oddef.
Prif Weinidog, daethoch i'r Siambr ar gyfer cwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach. Mae'n ddrwg gen i nad yw'n gyfleus i chi fod yn bresennol nawr. [Torri ar draws.]
Mae'n ddrwg gennyf, dim ond i dorri ar draws, mae angen imi ddweud yr hyn a ddywedais ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn hwn, a phob Cyfarfod Llawn, fod pob Aelod yn gallu cyfrannu'n llawn at y Cyfarfod Llawn yma ac o'u cartrefi neu eu swyddfeydd.
A brawddeg gyntaf fy nghyfraniad yw, byddai'n well gennyf weld y Prif Weinidog yma yn y cnawd. Dyna fy marn i fy hun—[Torri ar draws.] Rwy'n derbyn yn llwyr—[Torri ar draws.] Mae gennyf i fy marn fy hun.
Gadewch i'r Aelod barhau, nawr, os gwelwch yn dda. Diolch.
Iawn. Nawr, Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud, 'Os gallwn ni wneud hyn, fe allwn ni gyrraedd y Nadolig', ond dyna a ddywedoch chi am y cyfnod atal byr, ac ni weithiodd, oni wnaeth? A bu ychydig gormod o hunan-glod am y cyfnod atal byr hwnnw: gwnewch hynny, achub y blaen ar y sefyllfa, gan gymharu Cymru â Lloegr ynghylch gweithredu hynny, ond nid yw'n edrych fel hynny'n awr, onid yw? Rydych chi'n dal i rygnu ymlaen am gyfyngiadau haen 3 yn Lloegr, ond ar hyd ein ffin i gyd, heblaw am dde Swydd Gaerloyw a'r ddwy bont draffordd, ceir cyfyngiadau haen 2, ac mae tafarndai'n ailagor a byddant yn gweini alcohol. Ac, yn anffodus, oherwydd hyn, 'yng Nghymru, felly, ni all tafarndai weini alcohol', mae'n dwyn anfri ar y polisi cyfan, a phan fydd pobl, p'un a ydyn nhw ar feinciau'r Ceidwadwyr neu Blaid Cymru yn dweud wrthych, 'Mewn gwirionedd, mae perygl y bydd pobl yn mynd i gael partïon tŷ, yn hytrach na bod mewn amgylchedd rheoledig', nid ydyn nhw'n annog pobl i dorri'r gyfraith, maen nhw'n gwneud sylw synhwyrol. Mae cau tafarndai ar ôl 6 p.m. ond dweud, 'Gallwch agor cyn hynny, ond ni allwch weini alcohol', fel dweud wrth gigyddion y gallan nhw agor ond na allan nhw werthu cig.
Nawr, beth aeth o'i le? Pan ddaethom allan o'r cyfnod atal byr, bu'n rhaid ichi gael dull gweithredu ledled Cymru. Adeiladu gwladwriaeth yn gyntaf, iechyd y cyhoedd yn ail. Roeddech yn caniatáu i bobl o ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion—o Ferthyr Tudful, yn fy rhanbarth i, fynd i Drefynwy, lle'r oedd nifer yr achosion yn isel, ond roeddech yn mynnu gosod ffin rhwng Cymru a Lloegr. Dyna'r broblem a gawsoch chi, ac rydych yn dal i fod â mesurau y mae'n rhaid iddyn nhw fod ychydig yn wahanol oherwydd mai Cymru yw hon, ac nid yw pobl eisiau dilyn y mesurau mwyach. Fe wnaethoch chi golli cefnogaeth y Ceidwadwyr gyda'r cyfnod atal byr, rydych chi wedi colli cefnogaeth y Blaid nawr, rydych chi hyd yn oed yn clywed rhywfaint o wrthwynebiad gan eich meincwyr cefn.
Llywydd, rwyf yn anghytuno â'r Aelod gymaint yn rhithwir ag y byddwn pe byddwn yn y Siambr gydag ef. Mae'n llwyddo i gamddeall popeth a ddywedir wrtho. Mae wedi gwneud hynny eto y prynhawn yma. Does dim byd y byddaf byth yn ei ddweud a fydd yn ei argyhoeddi ei bod hi'n bosib dod i benderfyniadau yng Nghymru sy'n diwallu anghenion pobl yng Nghymru. Nid yw'n credu yn yr egwyddor sylfaenol. Dyna pam na fydd byth yn bosib ei argyhoeddi o unrhyw sylw synhwyrol, fel y dywedodd, ac ni chlywsom unrhyw un o'r rheini ganddo y prynhawn yma.
Mae gennyf dri Aelod yr hoffwn eu galw o hyd. Rydym ymhell dros amser ar y datganiad hwn, felly, os gallaf ofyn i'r holl Aelodau fod mor gryno ag y gallan nhw ac i beidio â bod yn hwy na munud. Laura Anne Jones.
Wel, fe rown ni gynnig arni, Llywydd. Mewn ymateb i'r—
Fe wnewch chi fwy na rhoi cynnig arni; fe wnewch chi hynny.
Mewn ymateb i ymatebion y Prif Weinidog i'm cyd-Aelodau anrhydeddus yn gynharach, ie, argyfwng iechyd cyhoeddus yw hwn, oes, mae bywydau yn y fantol, ac oes, mae'r rhain yn benderfyniadau anodd. Rydym ni i gyd yn cydnabod hyn ac rydym ni i gyd yn deall hyn. Felly, yn hytrach na gwastraffu amser yn gwneud cyhuddiadau hurt ar draws y Siambr hon yn gynharach, pan roeddech chi yma, Prif Weinidog, gallem fod wedi dod o hyd i amser heddiw i drafod a phleidleisio ar y cyfyngiadau pwysig hyn. Mae'n ffiaidd nad ydym ni wedi pleidleisio ar hyn cyn iddyn nhw ddod i rym ddydd Gwener. Ac rwy'n llwyr gefnogi galwad Andrew R.T. Davies am ddadl yfory.
Bydd y cyfyngiadau hyn yn cael effaith ddinistriol ar ein busnesau bach yn y cyfnod cyn y Nadolig, gyda digwyddiadau Nadolig eisoes yn cael eu canslo—mae hynny'n refeniw yr oedd busnesau'n dibynnu arno. Mae angen inni ddiogelu bywydau—rydym i gyd yn cytuno â hynny—ond eglurwch i'n cenedl y gwahaniaeth rhwng cael cinio allan a swper allan? Rydych chi'n cosbi busnesau bach a busnesau canolig drwy beidio â chaniatáu iddyn nhw werthu alcohol, ond, unwaith eto, rydych chi'n rhoi'r holl arian i'r archfarchnadoedd, a bydd pobl yn cynnal y partïon tŷ hyn. Nid oes ond rhaid i chi edrych ar y cyfryngau cymdeithasol i weld beth sy'n digwydd ymhlith pobl fy oedran i ac iau—bydd hyn yn digwydd, ac rwy'n amau a fydd y cyfyngiadau hyn yn cael unrhyw effaith. Yn wir, mae'n debyg eu bod—
Iawn. Rwyf wedi bod yn hael iawn. Diolch. Prif Weinidog.
Wel, Llywydd, byddai mwy o hygrededd i'r Aelod a'i chyd-Aelodau pe baen nhw wedi cynnig un awgrym cadarnhaol ar gyfer sut y dylem ni fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd cyhoeddus sy'n ein hwynebu yng Nghymru y prynhawn yma. Maen nhw wedi condemnio ac maen nhw wedi beirniadu ac maen nhw wedi cwyno am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gan honni eu bod yn cydnabod bod argyfwng iechyd y cyhoedd. Ond nid unwaith yn ystod yr oriau bellach y bûm i'n ateb cwestiynau gan Aelodau, yr wyf wedi clywed un awgrym am yr hyn y bydden nhw yn ei wneud i ymateb i'r sefyllfa sy'n ein hwynebu a byddai mwy o hygrededd yn eu cyfraniadau pe gallen nhw lwyddo i ddod o hyd i un.
Prif Weinidog, diolch ichi am y datganiad a hefyd y ffordd bwyllog a dygn yr ydych chi a'ch Cabinet yn arwain Cymru drwy'r pandemig hwn. Maen nhw'n dweud ei fod bob amser yn dywyll cyn y wawr ac rydym ni'n wynebu tymor o Adfent erbyn hyn heb ei debyg yn ystod cyfnod o heddwch. Ac fel y dywedwyd, o ddydd Gwener 4 Rhagfyr, bydd tafarndai, bwytai a chaffis Cymru yn cau erbyn 6 yr hwyr, er y gallwch chi barhau i gyfarfod. Ac yn ogystal, bydd ein sinemâu, alïau bowlio, neuaddau bingo ac amgueddfeydd ac orielau yn cau. Ond y gweithredu trwm hyn yw ymgais bellach a phriodol a chywir ac angenrheidiol Cymru i arbed marwolaethau y gellir eu hatal—bywydau go iawn o bandemig COVID-19 a dyna pam y mae angen y rheoliadau llym hyn. Heb y newidiadau hyn, Llywydd, rhagwelir y bydd rhwng 1,000 a 1,700 o farwolaethau y gellir eu hatal dros y gaeaf. Dyna'ch rhiant, eich brawd neu chwaer a dyna'ch ffrind. Ac rydym ni wedi dioddef gormod yn 2020 ac rydym ni wedi aberthu gormod—rhai, i'r eithaf—i golli ein disgyblaeth ar yr awr olaf hon.
Felly, Prif Weinidog, gan ein bod ni bellach ar fin gweld rhaglen frechu yn dechrau, a allwch chi gynnig unrhyw eiriau pellach i bobl fy etholaeth yn Islwyn ynghylch pryd a sut y mae rhaglen frechu yn debygol o gael ei chyflwyno a pham y dylai pobl Islwyn barhau i gynnal y gaer a bob un ohonom ni yn y fan yma hefyd i barhau'n bwyllog.
Llywydd, diolch i Rhianon Passmore am hynna. Mae hi'n iawn yn ei sylw nad bywydau damcaniaethol yw'r rhain yr ydym yn sôn amdanyn nhw—maen nhw yn fywydau go iawn, maen nhw yn bobl yr ydym yn eu hadnabod, maen nhw yn bobl sy'n byw yn ein cymunedau, maen nhw yn bobl yn y teuluoedd yr ydym yn gysylltiedig â nhw. Dyna pam y mae'n rhaid i ni fod o ddifrif ynglŷn â'r penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud ac yn eu trafod yma heddiw.
Fe roddaf i ddau reswm i etholwyr Rhianon Passmore: yn gyntaf oll, ar sail pedair gwlad, rydym ni wedi cytuno ar gyfnod o bum niwrnod o ymlacio dros y Nadolig. Mae'r cyngor gan gynghorwyr gwyddonol y DU ar grŵp modelu pandemig y ffliw yn dweud wrthym fod angen inni fynd i'r cyfnod hwnnw gyda chylchrediad y feirws mor isel ag y gallwn ei wneud. Fel arall, nid yn unig y gwelwn y canlyniadau yr wyf wedi'u disgrifio i Aelodau y prynhawn yma o ran yr effaith ar ein GIG a nifer y marwolaethau y gellir eu hosgoi, ond gwelwn gynnydd mwy fyth oherwydd mae'n anochel, pan fydd cyfyngiadau'n cael eu llacio, fod pobl yn cyfarfod â'i gilydd yn fwy a bydd y feirws yn cylchredeg hyd yn oed yn ehangach. Felly, yr angen i weithredu nawr yw er mwyn diogelu'r cyfnod yr ydym yn ei ddarparu dros y Nadolig, y gobeithiwn y bydd pobl yn ei fwynhau ac yn ei fwynhau'n gyfrifol.
Y rheswm arall yw'r rheswm y cyfeiriodd Rhianon Passmore ei hun ato: fod posibiliadau newydd yn dod i'n rhan yn y flwyddyn newydd. A rhaid i ni beidio â cholli, rhaid i ni beidio â cholli popeth yr ydym ni wedi'i wneud gyda'n gilydd nawr, ar yr adeg pan yr ydym yn dechrau gweld rhyw ffordd newydd allan o anawsterau ofnadwy eleni. Yma yng Nghymru byddwn yn barod i gyflwyno brechlyn cyn gynted ag y bydd y rheolyddion yn rhoi cymeradwyaeth iddo. Cyn gynted ag y bydd y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio yn cytuno ar restr flaenoriaethu ar gyfer darparu'r brechlyn hwnnw, mae gennym ni bethau ar waith yma yng Nghymru i fanteisio arno. Rwy'n credu y mynegodd Rhianon Passmore hynny yn dda iawn, Llywydd: 'Gadewch i ni fod yn bwyllog.' Gadewch i ni wneud y pethau yr ydym ni'n gwybod sy'n iawn i'w gwneud, oherwydd felly, rydym ni'n gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol gwahanol a gwell.
Nawr, Prif Weinidog, o ganlyniad i'ch cyfyngiadau llym ar ein tafarndai, bariau, bwytai a'n diwydiant lletygarwch, mae'n deg dweud, fe wyddoch chi o lythyrau a dderbyniwyd, fod Cynllun Gwarchod Tafarndai Gorllewin Conwy yn arfer eu hawl i beidio â chaniatáu i chi fynd i'w tafarndai. Rydych chi wedi'ch gwahardd. Ac mae dros 100 o dafarndai a 300 o fusnesau lletygarwch yn cefnogi'r ymgyrch. Yn wir, os ceisiwch fynd i mewn, byddan nhw'n nawr yn ceisio cymorth gan yr heddlu ar hyn.
Dywedoch wrth y genedl y caiff y cyfyngiadau eu cryfhau i ganolbwyntio ar fannau lle yr ydym yn cyfarfod a lle mae'r coronafeirws yn ffynnu. Ac eto, rydych chi wedi anwybyddu ystadegau sy'n profi lle mae'r coronafeirws yn ffynnu a lle nad yw'n ffynnu. Yr wythnos diwethaf, roedd gan Gymru 211.3 achos i bob 100,000 tra bo gan Sir Conwy 19.6 o achosion. Ddydd Sadwrn, roedd gan Sir Conwy gyfradd o 9.3, ac ar ddydd Sul, dim ond chwech o bob 100,000. Heddiw, does dim achosion wedi eu cofnodi. Felly, rhowch, wedi'r cyfan, y dystiolaeth i'r Siambr hon sy'n profi bod y dinistr a achosir i'n sector lletygarwch a hamdden yng Nghonwy yn deg, yn gytbwys ac yn gymesur, yr oeddwn i bob amser yn credu bod rheoliadau'n seiliedig arni.
Nawr—
Bydd yn rhaid i chi orffen yn y fan yna. Rwyf wedi bod yn hael.
Mae'r sector lletygarwch wedi gwario miloedd yn gwneud eu hunain—
Rydych chi'n parhau, Janet Finch-Saunders. Mae angen ichi orffen yn y fan yna. Diolch.
A gaf i ofyn fy nghwestiwn, os gwelwch yn dda? [Chwerthin.] Fy nghwestiwn yw—
Dim ond yn gyflym iawn.
Fy nghwestiwn i yw, ac mae'n gadarnhaol iawn: fe wnaethoch chi lwyddo i gyflwyno cyfyngiadau symud rhannol ym Mangor i daro bargen gyda Phlaid Cymru yn ystod cyfyngiadau symud yn y sir. A fyddech cystal ag ystyried edrych ar y ffigurau hynny eto? Ac mewn ardaloedd fel fy etholaeth i a'm cyd-Aelod Darren Millar—Sir Conwy—a wnewch chi edrych ar y rheini eto a gweld a allech chi, efallai, edrych ar y rheolau hynny eto a gweithio yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth yn hytrach na chymryd y ffordd hawdd o gyflwyno cyfyngiadau symud cenedlaethol? Diolch, Llywydd.
Wel, os yw'r Aelod yn credu ei bod hi'n hawdd cyflwyno cyfyngiadau cenedlaethol ledled Cymru, nid yw wedi bod yn gwrando ar y ddadl y bûm yn ymwneud â hi. Does dim byd hawdd ynghylch hyn o gwbl, gallaf ei sicrhau o hynny. Dywedais yn fy natganiad y byddwn yn adolygu'r rheoliadau erbyn 17 Rhagfyr, a phob tair wythnos ar ôl hynny.
Yr hyn y byddaf yn ei wneud yw sicrhau ein bod yn amddiffyn etholwyr yr Aelod. Mae'n gwybod, oherwydd y dystiolaeth o Loegr yw nad yw cyfyngiadau haen 2 yn gweithio. Mae mor syml â hynny. Crisialwyd hynny yn dda iawn gan Hefin David yn ei gyfraniad yn gynharach y prynhawn yma. Dyna'r dystiolaeth, dyna'r wyddoniaeth. Nid yw'r hyn y mae'n gofyn imi ei wneud yn gweithio ac ni fydd yn amddiffyn ei hetholwyr. Pam ar wyneb y ddaear y byddwn i'n fodlon gwneud rhywbeth yr wyf yn gwybod, ac y mae hi'n gwybod, na fyddai'n amddiffyn pobl sy'n byw yn y rhan honno o Gymru? Ni wnaf hynny, Llywydd, ac ni wnaiff y Llywodraeth hon ychwaith.
Diolch i'r Prif Weinidog. Byddwn ni nawr yn cymryd toriad fer ar gyfer paratoi ar gyfer y cyfnod pleidleisio.