5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cefnogaeth i fabanod a rhieni newydd yn ystod COVID-19

– Senedd Cymru am 3:15 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:15, 9 Rhagfyr 2020

Dyma ni'n ailddechrau, felly. Yr eitem nesaf yw'r ddadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar gymorth i fabanod a rhieni newydd yn ystod COVID-19. Dwi'n galw ar Lynne Neagle i gyflwyno'r ddadl—Lynne Neagle.

Cynnig NDM7462 Lynne Neagle, Bethan Sayed, Leanne Wood

Cefnogwyd gan Alun Davies, Dai Lloyd, David Rees, Dawn Bowden, Helen Mary Jones, Huw Irranca-Davies, Jack Sargeant, Jayne Bryant, Jenny Rathbone, Joyce Watson, Neil McEvoy, Vikki Howells

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod y dystiolaeth yn ddiamwys bod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn, o feichiogrwydd i ddwy oed, yn gosod y sylfeini ar gyfer bywyd hapus ac iach a bod cysylltiad cryf rhwng cefnogaeth a llesiant babanod yn ystod y cyfnod hwn a gwell canlyniadau yn ddiweddarach mewn bywyd, gan gynnwys cyflawniad addysgol, cynnydd yn y gwaith a gwell iechyd corfforol a meddyliol.

2. Yn nodi, ers yr achosion o COVID-19 a'r cyfyngiadau symud ac ymbellhau cymdeithasol a ddaeth yn sgil hynny, fod corff cynyddol o ymchwil yn dangos bod rhieni'n wynebu pwysau digynsail, pryderon uwch, a'u bod mewn mwy o berygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl yn y cyfnod amenedigol.

3. Yn nodi bod arolwg Babies in Lockdown 2020 wedi dangos bod 66 y cant o ymatebwyr o Gymru wedi nodi mai iechyd meddwl rhieni oedd y prif bryder yn ystod y cyfyngiadau symud: dim ond 26 y cant oedd yn teimlo'n hyderus y gallent ddod o hyd i gymorth ar gyfer iechyd meddwl pe bai ei angen arnynt a bod 69 y cant o rieni'n teimlo bod y newidiadau a gyflwynwyd gan COVID-19 yn effeithio ar eu baban heb ei eni, babi neu blentyn ifanc. 

4. Yn nodi bod ymchwil New Parents and COVID-19 2020 wedi canfod bod dros hanner y 257 o ymatebwyr sydd wedi rhoi genedigaeth ers y cyfyngiadau symud yn teimlo bod eu profiad geni wedi bod yn anos na'r disgwyl oherwydd cyfyngiadau'r coronafeirws, dros 60 y cant heb dderbyn unrhyw fath o archwiliad ôl-enedigol a bron i chwarter am gael cymorth iechyd meddwl amenedigol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau a chymorth i deuluoedd yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod amenedigol yn cael blaenoriaeth a bod y gweithlu bydwreigiaeth, ymwelwyr iechyd ac iechyd meddwl amenedigol yn cael ei ddiogelu rhag adleoli yn ystod y pandemig. 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n rhagweithiol gyda byrddau iechyd i sicrhau y gall menywod gael cymorth diogel gan eu partneriaid yn ystod ymweliadau ysbyty yn ystod beichiogrwydd. 

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu buddsoddiad ychwanegol wedi'i neilltuo ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a gwasanaethau gwirfoddol i ymdopi â'r cynnydd yn y galw oherwydd COVID-19.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 3:15, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i gyd-gyflwynwyr y ddadl heddiw, Leanne Wood a Bethan Sayed. Rwy'n gwybod bod swyddfa Bethan wedi cyhoeddi ymchwil werthfawr iawn i'r maes hwn, ond mae hi hefyd yn dod â phersbectif personol hanfodol i'r pwnc hwn ar ôl cael babi ei hun yn ystod y cyfyngiadau. Rwyf hefyd am gydnabod y gefnogaeth gan Aelodau ar draws y Siambr a hefyd y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant am eu sesiwn friffio ragorol ar gyfer y ddadl heddiw.

Mae angen llais ar fabanod a'u rhieni yng Nghymru, nawr yn fwy nag erioed. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi clywed llawer iawn am yr anawsterau sy'n wynebu gwahanol ddiwydiannau ac effaith COVID ar ein heconomi, ac eto nid oes digon wedi'i ddweud am y gwaith pwysicaf a mwyaf anodd y bydd unrhyw un ohonom yn ei wneud byth, sef bod yn rhiant da. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi clywed mwy am alcohol nag a glywsom am fabanod. Ydy, mae hyn yn anodd i bawb, ond gadewch inni gael ein blaenoriaethau'n iawn, oherwydd yr hyn y bydd y ddadl heddiw'n ei ddangos yw bod bywyd i'r mwyafrif llethol o rieni newydd a darpar rieni wedi mynd yn llawer anoddach.

Mae'r ymchwil gynyddol i ofal amenedigol yn ystod y pandemig yn llwm ac yn peri pryder mawr. Mae lleisiau mamau newydd yn arbennig yn canu larymau. Rydym yn clywed straeon am orbryder, ynysigrwydd a rhwystrau newydd i ofal a chymorth priodol. Ydy, mae'r pandemig wedi creu heriau newydd a digynsail, ond mae hefyd wedi taflu goleuni ar y craciau a oedd eisoes yn bodoli mewn cymdeithas.

Mae hynny i'w weld gliriaf yn y ffordd rydym yn methu blaenoriaethu babanod wrth wneud penderfyniadau. Nid oes modd esbonio hyn, o ystyried bod ein dyfodol yn dibynnu ar y rhai a ddaw i'r byd heddiw ac yfory; nid oes modd ei esbonio o ystyried faint rydym yn ei wybod am bwysigrwydd y 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn; nid oes modd ei esbonio o ystyried faint rydym yn ei wybod am effaith iechyd meddwl rhieni ar les babanod.

Cyflawnodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad mawr i iechyd meddwl amenedigol yn 2017. Clywsom dro ar ôl tro gan dystion am bwysigrwydd cymorth i deuluoedd yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod amenedigol. Fel y dywedodd Dr Witcombe-Hayes o'r NSPCC a Chynghrair Iechyd Meddwl Mamau wrth y pwyllgor, ac rwy'n dyfynnu:

Credwn fod y dechrau gorau hwn mewn bywyd mor bwysig oherwydd gwyddom fod y 1,000 diwrnod cyntaf yn hanfodol ar gyfer datblygiad plant. Felly, mae ein profiadau cynnar yn effeithio ar ddatblygiad strwythur yr ymennydd, sy'n darparu'r sylfaen ar gyfer ein holl ddysgu, ymddygiad ac iechyd yn y dyfodol. Yn union fel y mae sylfaen wan yn peryglu ansawdd a chryfder tŷ, gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gynnar mewn bywyd a methu diwallu anghenion plentyn nawr amharu ar strwythur yr ymennydd, gydag effeithiau negyddol sy'n para ymhell i mewn i fywyd fel oedolyn.

Ni yw'r genhedlaeth gyntaf o ddeddfwyr sydd â'r wybodaeth hon. Mae potensial enfawr i Lywodraethau wneud gwahaniaeth gwirioneddol yma i fynd i'r afael â rhai o'r problemau mwyaf y mae ein cymdeithas yn eu hwynebu heddiw ac y byddant yn eu hwynebu yfory ac ymhen 20 mlynedd, ac eto gwyddom fod bylchau sylweddol eisoes cyn y pandemig mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol, er gwaethaf buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda byrddau iechyd yn methu cyrraedd safonau amenedigol, diffyg unedau mamau a babanod ar gyfer teuluoedd sydd angen cymorth arbenigol i gleifion mewnol, a bylchau sylweddol mewn timau'n arbenigo ar y berthynas rhwng rhieni a babanod ledled Cymru. Gadewch inni beidio ag anghofio mai hunanladdiad yw'r prif achos marwolaeth o hyd ymhlith mamau yn y flwyddyn gyntaf o fywyd babi.

Felly, dyma'r seilwaith amenedigol a oedd gennym ar ddechrau'r pandemig, ac erbyn hyn mae pethau hyd yn oed yn anoddach i lawer. Mae dwy ran o dair o ymatebwyr Cymru i'r adroddiad 'Babies in Lockdown' yn dweud mai iechyd meddwl rhieni oedd eu prif bryder yn ystod y cyfyngiadau symud, ac eto dim ond chwarter a ddywedodd eu bod yn hyderus y gallent ddod o hyd i gymorth pe bai ei angen arnynt. Yn ôl astudiaeth Born in Wales, adroddodd y rhan fwyaf o fenywod am brofiad negyddol o feichiogrwydd, gan deimlo'n ynysig, yn unig, yn bell a heb gefnogaeth.

Gwrthodir lefel sylfaenol o urddas i rieni. Gofynnwyd i famau e-bostio lluniau i'w meddygfa o bwythau heintiedig. Mae'r rhai sy'n cael trafferth bwydo ar y fron yn cael eu gorfodi i ddibynnu ar alwadau Zoom am gymorth. Mae'n anochel fod canlyniadau i'r pwysau hwn.

Un o'r prif ffynonellau straen a phryder i famau beichiog oedd pryder ynglŷn ag a gâi eu partneriaid fod yn bresennol pan fyddent yn esgor, felly, yn sicr mae cyhoeddiad yr wythnos diwethaf ar lacio cyfyngiadau ar ymweld i'w groesawu. Mae'r hyblygrwydd i fyrddau iechyd wneud penderfyniadau ar sail eu hamgylchiadau yn bendant yn gwneud synnwyr, ond gallai dull o'r fath hefyd arwain at anghydraddoldebau i rieni mewn gwahanol rannau o Gymru, a byddai'n ddefnyddiol gwybod gan y Gweinidog sut y caiff hyn ei fonitro a pha drefniadau sydd ar waith ar gyfer rhannu arferion gorau. Byddai hefyd yn ddefnyddiol rhoi arweiniad clir i rieni babanod cynamserol neu sâl, yn unol â'r ymchwil a'r argymhellion a gyflwynwyd gan Bliss. Mae'r cyfyngiadau presennol wedi cael effaith ddinistriol ar allu gormod o rieni i sefydlu cwlwm agosrwydd gyda'u babanod.

Mae'r dystiolaeth yn glir—mae'r pandemig, y cyfyngiadau symud a'r mesurau cadw pellter cymdeithasol dilynol wedi cael effaith anghymesur ar y rhai sy'n feichiog, yn rhoi genedigaeth, neu gartref gyda baban neu blentyn bach. Ac unwaith eto, mae'r effaith fwyaf wedi bod ar y rhai sydd eisoes yn byw'r bywydau anoddaf—coronafeirws yn dyfnhau anfantais unwaith eto. Mae'r rhai mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn dangos lefelau uwch o unigrwydd yn gyson ac maent yn llai tebygol o fod wedi gweld cynnydd mewn cymorth cymunedol.

Rwyf wedi gweld y llythyr gan y prif swyddog nyrsio at y comisiynydd plant, yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ynghylch rôl ymwelwyr iechyd, ond mae angen gwneud mwy. Mae babanod wedi bod yn anweledig i raddau helaeth o ganlyniad i'r pandemig, a dylai hynny fod yn ofid i bob un ohonom. Heb gysylltiad anffurfiol â ffrindiau a theulu, grwpiau galw heibio, a llai o gysylltiadau ag ymwelwyr iechyd, mae perygl gwirioneddol nad oes neb yn gwybod pa deuluoedd sy'n cael trafferth. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ymwelwyr iechyd yn gallu ymweld wyneb yn wyneb ym mhob achos lle mae'n ddiogel ac yn bosibl iddynt wneud hynny. Mae cymaint yn cael ei golli dros y ffôn neu hyd yn oed mewn apwyntiadau rhithwir. Clywn dro ar ôl tro am yr anallu i nodi pwy sy'n cael trafferth heb y cyswllt dynol hwnnw.

Er mwyn deall yr hyn sydd eisoes wedi'i golli a sut y mae angen inni ymateb, mae'n hanfodol fod y Llywodraeth yn cyflwyno data cadarn am nifer yr ymweliadau sy'n digwydd, faint sy'n cael eu colli a sut y mae'r archwiliadau hynny'n cael eu cynnal. Mewn ateb diweddar yn Nhŷ'r Cyffredin, nid oedd un o Weinidogion iechyd y DU yn gallu rhoi sicrwydd na fyddai ymwelwyr iechyd yn cael eu hadleoli i waith ar ddarparu brechlynnau. Gobeithio y gall y Gweinidog roi sicrwydd i rieni Cymru heddiw na fydd ymwelwyr iechyd yn cael eu hadleoli yng Nghymru. Yn hytrach na symud adnoddau o ofal amenedigol, mae arnom angen mesurau brys i roi cefnogaeth well i ddarpar rieni a rhieni newydd a'u babanod.

Mae angen i ni flaenoriaethu anghenion babanod yn awr wrth wneud penderfyniadau am ymateb i COVID-19 a'r adferiad yn ei sgil, sicrhau bod staff allweddol a gwasanaethau ymwelwyr iechyd yn cael eu diogelu rhag cael eu hadleoli, rhoi arweiniad clir ar sut y gellir cynnal apwyntiadau ymwelwyr iechyd wyneb yn wyneb yn ddiogel ac yn effeithiol, a darparu buddsoddiad ychwanegol wedi'i glustnodi ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a gwasanaethau gwirfoddol i ymdopi â'r cynnydd yn y galw o ganlyniad i COVID-19. Mae'r dewisiadau a wnawn heddiw ynglŷn â sut rydym yn cefnogi rhieni a babanod drwy'r pandemig yn ddewisiadau y byddwn yn byw gyda hwy am ddegawdau i ddod. Bydd methiant i roi cefnogaeth ac adnoddau priodol i iechyd amenedigol yn bwrw cysgod hir dros Gymru. Diolch yn fawr.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:23, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Ar ran y Pwyllgor Deisebau, hoffwn ddiolch i Lynne Neagle am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Rydym wedi derbyn deiseb P-05-1035, 'Dylid caniatáu i bartneriaid genedigaeth fod yn bresennol adeg sganiau, dechrau esgor, yn ystod yr enedigaeth ac ar ôl yr enedigaeth'. Cyflwynwyd hon gan Hannah Albrighton, ar ôl casglu 7,326 o lofnodion. Mae'r ddeiseb yn nodi:

'Oherwydd COVID-19, mae cyfyngiadau mewn llawer o ysbytai ar bresenoldeb partneriaid genedigaeth ar gyfer sganiau, esgor a genedigaeth.'

Ac a gaf fi ddweud, cyn i mi fynd ymhellach, pa mor hyfryd yw gweld ein cyd-Aelod Bethan Jenkins yma? Rwyf wedi bod mewn cysylltiad—a gweld bod eich teulu bach newydd yn gwneud yn dda—ac mae'n wych eich gweld chi yma heddiw.

Mae'r testun yn nodi, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae'n ymddangos yn annheg ac yn sarhad ar deuluoedd newydd eu bod yn cael sefyll 2 fetr oddi wrth ddieithriaid llwyr ar y traeth neu mewn siop hyd yn oed, ond nid ydynt yn cael partner na phartner genedigaeth yn bresennol i rannu profiadau tro cyntaf megis gweld sgan, clywed calon y babi, esgor a genedigaeth.'

Trafododd y pwyllgor y ddeiseb yn ei gyfarfod ar 3 Tachwedd, gan ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd pob Aelod yn llwyr gefnogi'r ddeiseb hon a'r angen i ddatrys y sefyllfa i rieni newydd a phobl yn ystod beichiogrwydd. Fodd bynnag, nodwn y bydd y sefyllfa'n arbennig o anodd lle nad yw profiadau pobl o feichiogrwydd neu enedigaeth yn syml, yn ogystal â lle mae angen cymorth ychwanegol ar ôl genedigaeth. Nododd y rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor fod etholwyr yn cysylltu â hwy i ddweud bod y cyfyngiadau hyn wedi effeithio arnynt, yn anffodus iawn.

Nawr, er ein bod yn deall ac yn mynegi dealltwriaeth o'r dewisiadau anodd sy'n cael eu gwneud gan ein gwasanaethau iechyd lleol, ein byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru, rydym yn mynegi ein gobaith y dylai ac y gall penderfyniadau a wneir fod yn sensitif i amgylchiadau unigol ac y dylid llacio'r rheolau nawr cyn gynted ag y bo modd. Dywedodd y Gweinidog wrthym cyn y cyfarfod hwnnw fod y canllawiau perthnasol yn cael eu hadolygu a'i fod yn aros am gymeradwyaeth bryd hynny. Rwy'n ymwybodol fod y canllawiau diweddaredig wedi'u cyhoeddi ar 30 Tachwedd, ac rwy'n croesawu hyn. Fodd bynnag, o ystyried nifer y llofnodion a gasglwyd gan y ddeiseb, byddem wedi ystyried ymhellach yn ein trafodaethau pwyllgor nesaf a ddylid cyfeirio'r ddeiseb at ddadl. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn fod dadl o'r fath yn cael ei chynnal heddiw. Rydym wedi hysbysu'r bobl a lofnododd y ddeiseb ynglŷn â'r ddadl hon ac yn gobeithio y bydd yn darparu rhai o'r atebion y mae'r rhai sy'n cefnogi'r ddeiseb hon wedi bod yn chwilio amdanynt. Diolch.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 3:27, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae COVID wedi cyflwyno heriau i bawb, ac er y byddai pob un ohonom yma yn cytuno bod rhaid gwneud popeth i gadw rhieni, babanod a staff yn ddiogel, rhaid i ni hefyd wneud beth bynnag a allwn i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bawb. Rhaid inni ddechrau drwy gydnabod mai profiadau plant ifanc, babanod a'u teuluoedd eleni oedd rhai o'r rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y cyfyngiadau. Wrth gwrs, er bod y cyfyngiadau hyn wedi bod yn angenrheidiol, ni allwn anwybyddu'r niwed y maent wedi'i achosi ac yn parhau i'w achosi. Ar ryw adeg efallai y byddwn am ystyried a fyddai'r cyfnodau o gyfyngiadau symud wedi bod yn angenrheidiol pe bai Llywodraethau wedi gweithredu'n gynharach i ddileu trosglwyddiad cymunedol, pe baem wedi sefydlu system brofi ac olrhain a oedd yn gweithio'n iawn, a phe baem wedi gosod y math o fesurau rheoli ar y ffin a'r cyfleusterau cwarantin canolog sydd wedi golygu bod llawer o wledydd ym mhob cwr o'r byd wedi gweld llai o gyfyngiadau symud a chyfyngiadau llai llym. Byddwn yn byw gyda chanlyniadau hyn am ddegawdau, ac oherwydd hynny, rhaid i'n hadferiad ddechrau gyda ffocws ar fabanod a phlant—ffocws sydd wedi bod ar goll hyd yma.

Ddydd Llun diwethaf yn unig y cyhoeddodd y Llywodraeth y byddent yn rhoi cymorth ariannol i rieni plant sy'n gorfod ynysu. Pam na chafodd y mater ei ystyried cyn hynny? Onid yw'n dweud llawer, ar wahân i faterion addysg, mai dyma'r ddadl gyntaf lle mae plant a babanod wedi'u gosod yn y canol? Mae dod yn rhiant yn her pan nad oes pandemig; ni ellir anwybyddu'r hanesion am y pwysau ychwanegol y mae pob un ohonom wedi'u clywed, rwy'n siŵr. Rydym yn gwybod, ac rydym eisoes wedi clywed, pa mor bwysig yw'r 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn. Pan fydd rhieni'n ynysig, yn cael trafferth ar eu pen eu hunain, neu hyd yn oed mewn cyplau, mae'r risg o ddatblygu problemau iechyd meddwl yn cynyddu. Fel y dywedodd un fam newydd wrthyf, 'Rwyf wedi gweld yr ymwelydd iechyd ddwywaith. Mae hi'n gefnogol, ond mae'n rhaid i mi fynd yno ar fy mhen fy hun ac rwy'n anghofio llawer o'r hyn a ddywedwyd.' Dywed un arall, 'Dylem ganiatáu rhywfaint o gymorth swigod ychwanegol ar gyfer babanod o dan flwydd oed, byddai hynny wedi gwneud lles i fy iechyd meddwl. Ni welodd fy mabi neb ond fi a fy ngŵr rhwng mis Mawrth a mis Awst.'

Gall ymdrin â phethau arferol ar eich pen eich hun fod yn straen, ond mae hyd yn oed yn waeth pan fydd pethau'n mynd o chwith. Mae rhai o'r straeon mwyaf dirdynnol a glywais wedi dod gan fenywod sydd wedi gorfod prosesu'r newyddion gwaethaf y gellir ei ddychmygu ar eu pen eu hunain, tra bod eu partner yn aros y tu allan yn y coridor neu'n gorfod eistedd yn y car. Mae'r mater hwn yn haeddu mwy o sylw gwleidyddol; rydym yn cronni problemau hirdymor fel arall.

Mae'r gweithlu mamolaeth yn haeddu cael ei ddiogelu a'i ymestyn. Fel y dywedodd un fenyw, 'Roedd y staff yn dda iawn, ond gan nad oedd partneriaid yn cael ymweld, byddech yn meddwl y byddai ganddynt staff ychwanegol, ond na'. Felly, mae arnom angen adnoddau ychwanegol ar gyfer hyn, mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol, ac i alluogi ymweliadau diogel. Yn gyffredinol, rhaid inni weld mwy o gefnogaeth i rai o'n dinasyddion a fydd yn byw hwyaf gyda chanlyniadau COVID-19, yn ogystal â'r rhieni a fydd yn eu helpu i gyrraedd yno.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:30, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl bwysig hon, ac rwy'n falch iawn o gymryd rhan. Mae COVID-19 wedi cael effaith ofnadwy ar bob un ohonom, ac fel y mae'r cynnig hwn yn ei nodi'n briodol, mae wedi gosod beichiau ofnadwy ar ysgwyddau rhieni newydd i blentyn a anwyd yn ystod y pandemig hwn. Mae'n werth ailadrodd fod y cyfnod o feichiogi i 2 oed yn gyfnod tyngedfennol, pan osodir sylfeini datblygiad plentyn. Os bydd corff ac ymennydd plentyn yn datblygu'n dda, mae eu cyfleoedd mewn bywyd yn gwella. Gall bod yn agored i straen neu adfyd yn ystod y cyfnod hwn olygu y bydd datblygiad plentyn yn llusgo ar ôl. Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod roi plant mewn mwy o berygl o ganlyniadau iechyd gwael, ac maent yn gwneud hynny. Gall tlodi plant, er nad yw'n brofiad niweidiol yn ystod plentyndod ynddo'i hun, roi plant mewn mwy o berygl o brofi un neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Mae'r pandemig hwn wedi cael effaith ofnadwy ar yr economi—un a fydd yn cymryd degawdau i wella ohono. Mae hyn wedi golygu bod llawer gormod o bobl yn colli eu swyddi ac yn wynebu'r posibilrwydd o ddiweithdra hirdymor. Rydym wedi gweld miloedd o bobl yn ymgeisio am bob swydd isafswm cyflog ers dechrau'r pandemig, mae banciau bwyd wedi gweld cynnydd dramatig yn y galw am eu gwasanaethau ers mis Ebrill, ac mae bywoliaeth pobl wedi'i dinistrio heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain, ond oherwydd y feirws. Mae'r rhai sy'n wynebu sefyllfaoedd o'r fath yn sôn am yr effaith y mae'n ei chael ar eu hiechyd meddwl. Mae'r effeithiau hyn yn cael eu chwyddo'n helaeth i rieni newydd a rhai sydd ar fin dod yn rhieni.

Rydym yn ymfalchïo yn y gefnogaeth a roddir yn draddodiadol yng Nghymru i ddarpar rieni, a hynny'n briodol. Fodd bynnag, gydag argyfwng COVID, mae'n ymddangos bod hynny i gyd wedi'i anghofio. Ac er bod y rhan fwyaf o fyrddau iechyd wedi cadw gwasanaethau cynenedigol ac ôl-enedigol, maent wedi bod yn dameidiog ac wedi crebachu'n fawr oherwydd gwahardd partneriaid. Yn ôl yr elusen gwasanaethau mamolaeth AIMS, mae gwasanaethau mamolaeth dan straen enfawr gyda'r pandemig COVID-19. Mae hyn yn peri i fenywod gael negeseuon cymysg am y gwasanaethau sydd ar gael, gyda gwahanol awdurdodau iechyd yn gwneud penderfyniadau gwahanol, ac mae llawer o famau wedi gweld y gefnogaeth i eni yn y cartref yn cael ei thynnu'n ôl.

Mae cynnwys y ddau riant yn hanfodol, yn enwedig i iechyd meddwl y fam. Mae'r pandemig wedi gweld llawer o famau beichiog a mamau newydd yn cael eu gadael heb rwydwaith cymorth. Dywedodd naw o bob 10 mam eu bod yn teimlo'n fwy pryderus o ganlyniad i fesurau COVID a'r cyfyngiadau symud. Mae iselder ôl-enedigol wedi saethu i fyny ers mis Mawrth, ac yn anffodus, mae mynediad at wasanaethau iechyd meddwl amenedigol, fel pob gwasanaeth iechyd meddwl, wedi lleihau ers dechrau'r cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf ym mis Mawrth. Mae mynediad at y gwasanaethau hyn yn bwysicach nag erioed oherwydd lleihau rhwydweithiau cymorth traddodiadol. Mae llawer o famau newydd yn methu galw ar fam neu nain i helpu oherwydd ofn hollbresennol coronafeirws.

Felly, mae'n bwysig—yn hanfodol bwysig—fod Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol ar unwaith. Hoffwn ofyn i Weinidogion warantu na fydd partneriaid yn cael eu gwahardd rhag mynychu gwasanaethau mamolaeth a genedigaeth eu baban am weddill y pandemig. Oni weithredwn yn awr, mae perygl y byddwn yn niweidio cyfleoedd bywyd cenhedlaeth gyfan. Diolch yn fawr. 

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:35, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r rhai a gyflwynodd y ddadl bwysig hon, ac roeddwn yn fwy na pharod i'w chefnogi. Rwyf am ganolbwyntio ar un maes penodol yn fy nghyfraniad. Gwyddom i gyd fod pandemig COVID wedi cael effaith enfawr ar rieni a'u babanod, ond yn arbennig y rhai sydd angen gofal arbenigol mewn unedau newyddenedigol. Ers dechrau'r pandemig, mae mynediad llawer o rieni wedi'i gyfyngu, yn aml gyda dim ond un rhiant yn cael eu gadael i mewn ar y tro—mae ychydig o bobl eisoes wedi sôn am hynny heddiw.

Mewn amgylchiadau arferol, gwyddom fod y ddau riant fel arfer yn cael mynediad 24 awr i'r uned, fel y gellir eu cynnwys yn llawn yng ngenedigaeth eu baban. Fel y nodwyd eisoes, cafwyd arolwg gan Bliss, elusen flaenllaw'r DU ar gyfer babanod a aned yn gynamserol neu'n sâl, ac mae'r canfyddiadau'n syfrdanol mewn gwirionedd. Teimlai dwy ran o dair o rieni fod cyfyngiadau mynediad i'r uned yn effeithio ar eu gallu i fod gyda'u baban gymaint ag y dymunent, ac roedd y ffigur hwnnw'n codi i 74 y cant ar gyfer rhieni roedd eu babanod wedi treulio mwy na phedair wythnos mewn gofal newyddenedigol. Mae'n werth meddwl am hynny. Dyma bedair wythnos gyntaf bywyd babi lle mae'n rhaid i un rhiant ddibynnu ar y rhiant arall i roi unrhyw wybodaeth, unrhyw newyddion, ac efallai ychydig o luniau iddynt. Mae hynny'n gwbl amlwg yn mynd i gael effaith ar lesiant y rhiant nad yw'n gallu bod yn bresennol, a'u lles meddyliol.

Mae'r effaith arall y bydd hynny'n ei gael—a dywedodd 70 y cant y byddai'n effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant—yw'r cwlwm agosrwydd rhyngddynt a'r baban. Nid yn unig bydd tarfu ar y cysylltiad â'r baban ar yr adeg honno, mae hefyd yn galw am fewnbwn sylweddol, ar y pryd ac wrth symud ymlaen, i atal unrhyw anawsterau neu unrhyw effaith hirdymor ar y rhieni neu'r babi yn eu perthynas yn y dyfodol. Felly, byddwn yn awyddus iawn i wybod pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda byrddau iechyd ynglŷn â sut y gallant helpu a hwyluso cymaint o fynediad i rieni ag sy'n bosibl. Mae canllawiau Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain yn nodi, a dyfyniad yw hwn, mae'n hanfodol nad yw'r fam a'i phartner byth yn cael eu hystyried yn ymwelwyr o fewn yr uned newyddenedigol—maent yn bartneriaid yng ngofal eu baban a dylid annog a hwyluso eu presenoldeb gymaint ag sy'n bosibl.

Felly, gofynnaf yn ddiffuant i'r Llywodraeth ddilyn yr argymhelliad hwnnw gan Gymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain a gwneud eu gorau glas i'w sicrhau. Diolch. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:38, 9 Rhagfyr 2020

Y Gweinidog iechyd i gyfrannu i'r ddadl. Vaughan Gething. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Nid ydym—. Rwy'n credu efallai eich bod yn iawn nawr. Parhewch.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, a diolch i'r Aelodau sydd wedi cyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Rwyf am ailddatgan fy ymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn yn cael y gofal a'r cymorth y maent eu hangen i ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn. Mae'r pandemig wedi arwain at heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen ar draws ein holl wasanaethau, ac rwyf eisiau manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i'n staff am eu hymroddiad a'u proffesiynoldeb parhaus yn cefnogi teuluoedd ledled Cymru.

Rydym yn parhau i ymdrechu i ddarparu'r dechrau gorau posibl i blant yng Nghymru. Rydym yn gweithio'n ddiwyd gyda byrddau iechyd, awdurdodau lleol, partneriaid yn y trydydd sector, darparwyr addysg, ac o fewn Llywodraeth Cymru, i geisio ailgynllunio ein system blynyddoedd cynnar fel ei bod yn gydgysylltiedig ac wrth gwrs, fel bod buddiannau plant yn ganolog yn y system honno. Yn gefndir i hyn, mae'r gwaith a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r rhaglen 1000 Diwrnod Cyntaf y mae nifer o'r Aelodau wedi sôn amdani—y sylfaen dystiolaeth honno ar gyfer yr hyn y mae angen inni ei wneud yn gyson i sicrhau gwelliannau i ragolygon bywyd plant a'u teuluoedd.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:40, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Ein ffocws drwy gydol y pandemig fu cefnogi dull hyblyg ac ymarferol o helpu plant a theuluoedd, ac rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaed lle nad yw teuluoedd wedi teimlo bod y cymorth hwnnw wedi'u cyrraedd. Rydym yn ceisio sicrhau bod ein gwasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd ac yn darparu cymaint o gymorth ag sy'n bosibl o fewn y cyfyngiadau presennol rydym yn byw gyda hwy, ac wrth wraidd hyn mae'r ddarpariaeth gyffredinol o wasanaethau mamolaeth ac ymwelwyr iechyd. Rwy'n dal i fod yn hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a gafodd fy nheulu fy hun gan staff mamolaeth ac ymwelwyr iechyd pan grëwyd ein teulu ni. 

Mae angen inni sicrhau bod gennym y gwasanaethau cywir ar gael i gefnogi plant a'u teuluoedd. Yn ystod y pandemig, mae gwasanaethau mamolaeth bob amser wedi'u dynodi'n wasanaethau hanfodol ac ni chafodd unrhyw staff eu hadleoli. Felly, mae bydwragedd ac obstetregwyr wedi parhau i ddarparu'r cymorth emosiynol a chlinigol y bydd ei angen ar bob menyw, gan ddefnyddio cyfarfodydd wyneb yn wyneb a rhithwir. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd rhoi cyfle i rieni greu cwlwm agosrwydd gyda'u baban a sicrhau bod y fam yn cael ei chefnogi drwy ei beichiogrwydd a'r enedigaeth.

Mae'r feirws wedi ein gorfodi i wneud penderfyniadau anodd am bartneriaid yn mynychu ysbytai. Cyhoeddwyd canllawiau diwygiedig, a nodaf fod Lynne Neagle wedi'u croesawu, ar gyfer ymweliadau ag ysbytai ddiwedd mis Tachwedd. Felly, bydd ymweld â gwasanaethau mamolaeth bellach yn seiliedig ar ddull asesu risg. Bydd hwnnw'n ystyried ffactorau lleol ac amgylcheddol megis maint ystafelloedd, y gallu i gadw pellter cymdeithasol ac atal a rheoli heintiau er mwyn galluogi partneriaid i fod gyda menywod beichiog a mamau newydd yn ddiogel. Bydd pob menyw yn cael ei chefnogi gan o leiaf un partner i fod gyda hi yn ystod yr esgor, yr enedigaeth a'r cyfnod yn syth ar ôl geni, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.

Mae'r canllawiau ymweld diweddar yn dal i gyfyngu ymweliadau babanod newydd-anedig i un rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr wrth y gwely ar y tro. Mae hynny'n hanfodol er mwyn cadw pellter corfforol mewn mannau newyddenedigol, a lleihau'r risg o haint ac i gadw'r babanod hyn sy'n agored i niwed yn ddiogel. Gellir ystyried amgylchiadau unigol lle mae'r manteision i lesiant y claf neu'r ymwelydd yn drech na'r risgiau rheoli heintiau, ond mae'r risgiau hynny'n real iawn, fel y gwyddom i gyd. Pan fyddant gartref, mae bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn parhau i ddarparu cymorth parhaus a byddant yn gweithio gyda menywod i asesu eu hanghenion yn unigol. Mae bwydo ar y fron yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth allweddol ac mae cymorth wedi parhau mewn gwahanol ffyrdd yn ystod y pandemig. Roeddwn yn falch o weld bod y data bwydo ar y fron a gyhoeddwyd ddiwedd mis Tachwedd yn dangos bod cyfraddau bwydo ar y fron ar gyfer y chwarter wedi cynyddu ar enedigaeth, 10 diwrnod, chwe wythnos a chwe mis oed.

Mae gwasanaethau ymwelwyr iechyd yn parhau i ddarparu rhaglen gymorth gyffredinol drwy raglen Plant Iach Cymru. Gwnaethom gyhoeddi canllawiau penodol i bob bwrdd iechyd ym mis Mawrth mewn ymateb i'r amgylchiadau digynsail hyn. Roedd y canllawiau ar y ddarpariaeth yn cynghori gostyngiad dros dro yn nifer y cysylltiadau. Ym mis Awst, cawsant eu diweddaru, gyda'r disgwyliad y bydd pob bwrdd iechyd yn cynnig yr ystod lawn o gysylltiadau Plant Iach Cymru yn ddieithriad. Ar anterth y don gyntaf, roedd angen i rai byrddau iechyd adleoli ymwelwyr iechyd â sgiliau arbenigol i ardaloedd acíwt. Rydym wedi cael sicrwydd bod yr ymwelwyr iechyd hyn bellach wedi dychwelyd i'w rolau, a disgwyliwn i fyrddau iechyd gynllunio'r gweithlu i barhau i fodloni gofynion rhaglen Plant Iach Cymru.

Yn ystod y cyfyngiadau lleol mwy diweddar a'r cyfnod atal byr, parhaodd y gwasanaethau ymwelwyr iechyd i gefnogi teuluoedd a chynyddu cysylltiadau â hwy. Maent yn dal i weithio'n agos gyda theuluoedd ac yn darparu cyswllt wyneb yn wyneb lle bo hynny'n bosibl. Ond os nad yw cyswllt wyneb yn wyneb yn ymarferol—ac mae nifer o deuluoedd wedi dymuno peidio â chael cyswllt wyneb yn wyneb—maent yn gallu cynnig cyswllt rhithwir gan ddefnyddio Attend Anywhere i drefnu apwyntiadau sy'n addas i'r rhieni. Drwy gydol y pandemig, dyma un o'r pwyntiau y mae'r Aelodau wedi'i godi droeon. Mae fy swyddogion, dan arweiniad y brif nyrs, wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr gwasanaethau mamolaeth ac ymwelwyr iechyd er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o bethau ac i roi sicrwydd ynglŷn â darparu gwasanaethau. Mae hynny wedi rhoi cyfle i rannu dysg a dull 'unwaith i Gymru' o ddod o hyd i atebion. Felly, rydym yn dal i anelu ar gael arweinyddiaeth broffesiynol uniongyrchol a rhannu dysg a phrofiad ledled y wlad. 

Mae Dechrau'n Deg yn parhau i gael ei ddarparu, ac rwy'n hynod falch, fel cyn Weinidog a oedd yn gyfrifol am Dechrau'n Deg. Cadarnhaodd y canllawiau a gyhoeddwyd gennym ar 21 Hydref y dylid darparu'r ystod lawn o raglen Plant Iach Cymru a chyd-destun estynedig Dechrau'n Deg. Ceir enghreifftiau gwych o blant a theuluoedd yn cael eu cefnogi mewn ffyrdd arloesol, gan gynnwys cymorth ar-lein, cyrsiau rhyngweithiol i rieni a phecynnau adnoddau plant a theuluoedd.

Un o'r datblygiadau arloesol allweddol yn ystod y pandemig hwn fu'r defnydd o dechnoleg rithwir. Gwyddom nad yw rhai byrddau iechyd wedi cael yr offer i ddefnyddio pob rhaglen, ond mae ein swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda byrddau iechyd i nodi eu gofynion fel y gallant gefnogi menywod a'u teuluoedd yn iawn. Rwy'n cydnabod ei bod yn ddigon posibl y bydd rhieni yn teimlo'n ynysig oddi wrth deuluoedd a ffrindiau ar hyn o bryd, a gallai hynny gael effaith negyddol ar iechyd meddwl amenedigol. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol, nid yn unig yn dilyn y buddsoddiad rydym wedi'i wneud yn gyson ers 2015, ond ein hymrwymiad parhaus, gan gynnwys yn ystod y pandemig hwn. Roedd yr arian a ddarparwyd gennym ar gyfer gwella gwasanaethau yn ystod y pandemig, a'r arian ychwanegol rydym wedi'i ddarparu, yn unol â'r blaenoriaethau yn ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn benodol.

Byddwn yn parhau i fonitro'r dystiolaeth sydd ar gael i ddeall effaith gynyddol COVID-19 ar iechyd meddwl. Bydd hyn yn cynnwys arolygon poblogaeth yn ogystal â gwybodaeth a ddarperir gan ein GIG. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'n harweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl amenedigol i ddeall yr effaith ac i gytuno sut y mae angen i ni ymateb iddi. Mae'n hanfodol bwysig, serch hynny, fod teuluoedd yn gwybod bod gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol ar gael o hyd, ac na ddylent osgoi gofyn am ofal iechyd angenrheidiol. Mae ein timau iechyd meddwl amenedigol cymunedol ledled Cymru yn parhau i ddangos arloesedd ac ymroddiad, ac maent wedi symud i amrywiaeth o wahanol ffyrdd o gefnogi teuluoedd lle bo hynny'n bosibl. Rwy'n deall pa mor bwysig y gall cymorth gan gymheiriaid fod i rieni newydd, a bod grwpiau rhieni, babanod a phlant bach yn gallu helpu i leihau ynysigrwydd, a chefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol rhieni. Mae'r rheoliadau coronafeirws presennol yn cadarnhau y gellir cynnal y sesiynau hyn. Maent yn ddarostyngedig i'r un gofynion sy'n berthnasol i weithgareddau sy'n cael eu trefnu ar gyfer datblygiad neu lesiant plant. Mae'r canllawiau wedi'u cyhoeddi ac maent ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Fel y nododd Lynne Neagle, mae COVID-19 wedi, ac yn dal i gael effaith negyddol ar fywydau ein teuluoedd mwyaf difreintiedig ac agored i niwed, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar, lle mae rhai gwasanaethau wedi'u rhewi neu eu lleihau oherwydd y pandemig. Sefydlwyd y gronfa datblygiad plant i ddarparu cymorth ychwanegol i blant a theuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan y cyfyngiadau symud, er mwyn mynd i'r afael â phryderon ynglŷn ag oedi datblygiadol mewn meysydd allweddol megis lleferydd, iaith, cyfathrebu, sgiliau echddygol a datblygiad personol a chymdeithasol. 

Rwy'n cydnabod bod yn rhaid inni barhau i ddatblygu cynnig cynhwysfawr ar gyfer y blynyddoedd cynnar, symleiddio'r dirwedd bresennol, a darparu system blynyddoedd cynnar wirioneddol integredig. Rhaid inni wneud hynny drwy ystyried y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar effaith COVID-19 ar blant, a gweithio gyda phartneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod plant a theuluoedd yn parhau i gael cymorth dros y cyfnod eithriadol rydym yn parhau i fyw drwyddo. Gwyddom nad ydym mewn sefyllfa berffaith yn awr, ac mae llawer mwy inni ei ddysgu o brofiadau bywyd rhieni. Felly, nid wyf yn bychanu unrhyw un o'r profiadau y mae Aelodau wedi tynnu sylw atynt yn y ddadl hon; mae'n rhaid inni barhau i ddysgu, datblygu a gwella gyda'n gilydd. Diolch, Lywydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:48, 9 Rhagfyr 2020

Galwaf nawr ar Bethan Sayed i ymateb i'r ddadl. Ac fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, mae'n hyfryd dy weld di yma; rŷn ni'n edrych ymlaen i'r diwrnod pan byddwn ni'n gallu croesawu Idris bach yma hefyd i'r Senedd. Felly, llongyfarchiadau i chi gyd. Bethan Sayed.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 3:49, 9 Rhagfyr 2020

Diolch, Llywydd, a diolch am y geiriau caredig.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lynne Neagle a Leanne Wood am gyflwyno'r ddadl hon gyda mi. Rwy'n falch eich bod wedi derbyn fy nghais i fod yn rhan ohoni—nid oeddwn eisiau colli'r cyfle hwn—ac am gyfleu straeon bywyd menywod ledled Cymru mewn ffordd mor angerddol heddiw. Diolch i bawb a gyfrannodd, ac yn enwedig i Hannah Albrighton, y deisebydd, sydd ei hun wedi cael babi yn ystod y cyfyngiadau symud. Nid yw'n syndod ei bod wedi cymryd tri gwleidydd benywaidd i'r ddadl hon ddigwydd mewn gwirionedd, i wthio Llywodraeth ffeministaidd honedig i weithredu. Dywed Lynne Neagle yn glir fod babanod wedi bod yn anweledig yn ystod y pandemig hwn i raddau helaeth, ac mae'n pwysleisio'n fawr y ffaith bod hyn wedi effeithio ar gyfraddau marwolaethau mamau a chyfraddau hunanladdiad yma yng Nghymru. Dywedodd Leanne ein bod wedi colli'r ffocws ar fabanod hyd yma, ac ail-bwysleisiodd y mater rwy'n angerddol yn ei gylch, sef creu'r swigen o gefnogaeth i rieni newydd fel nad oes rhaid iddynt ymdopi ar eu pen eu hunain yn y dyfodol, fel y bu'n rhaid i mi, a llawer o rieni eraill, ei wneud.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 3:50, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Cyn i mi barhau, hoffwn ddiolch yn gyflym i Sarah Rees, sy'n llenwi ar fy rhan yn ystod fy nghyfnod mamolaeth a fy rheolwr cymunedol, am ymgyrchu mor ddiwyd ac angerddol ar y mater hwn ar fy rhan. Ni allwn fod wedi gobeithio cael rhywun gwell i wneud gwaith AS yn fy lle. Pan roddais enedigaeth yn ystod y pandemig hwn, rwy'n rhyfeddu sut y llwyddais i, a miloedd yn yr un sefyllfa â mi, i ymdopi. Nid yw'n cael ei ddweud ddigon yn y Siambr hon nac yn unman arall yn y byd, o ran hynny: fenywod, rwy'n canmol eich dewrder, am gyflawni un o brofiadau mwyaf, os nad y mwyaf, gwerth chweil, ond gwirioneddol boenus, eich bywyd, a hynny ar eich pen eich hunain bron ac wedi eich ynysu oddi wrth anwyliaid yn ystod y profiad penodol hwn.

Rwy'n sylweddoli bod heriau i'r Llywodraeth hon yn ystod y cyfnod hwn. Rwyf wedi bod yn gwylio'r cyfan o'r ymylon, ac rwy'n sylweddoli nad yw'n hawdd cydbwyso'r hyn sydd ei angen ar bobl a'r hyn y mae'n rhaid i gymdeithas ei wneud i fynd i'r afael â lledaeniad y feirws hwn. Ond aeth pobl i fwytai i gael bwyd gyda ffrindiau, tra bod menywod yn yr ysbyty yn eistedd am bedwar diwrnod, fel y gwneuthum innau, yn aros iddynt brysuro'r geni, gan frwydro drwy boenau geni aruthrol hyd nes i esgor 'gweithredol' ddechrau a bu'n rhaid i wŷr ruthro o'u cartrefi, gan weddïo na fyddent yn colli genedigaeth eu plentyn. Ond aeth pobl i dafarndai ac eistedd o gwmpas yn sgwrsio, tra dywedwyd wrth bartneriaid geni, ar ôl i wraig gael llawdriniaeth fawr, llawdriniaeth gesaraidd, marw-enedigaeth, fod yn rhaid iddynt ei gadael awr yn unig ar ôl iddi roi genedigaeth. Y fenyw ar ei phen ei hun yn yr ysbyty yn erthylu, profiad yr awdur Caroline Criado-Perez fel y dywedodd wrthym heddiw, a chael ei gadael i alaru ar ei phen ei hun. Eraill wedi'u llethu, fel fi, wrth orfod bwydo a newid a gofalu am fabi newydd, pan ydych yn cael trafferth symud yn rhwydd, a phan fyddwch yn gwneud hynny, mae gwaed yn llifo allan ohonoch fel rhaeadr, rydych yn rhuthro i'r toiled ynghlwm wrth gathetr tra bod eich babi'n sgrechian ac yn sgrechian i chi ddychwelyd. Ond aeth pobl i siopa, tra bod bydwragedd 'shero' wedi'u gorweithio, mamau'n gwasgu'r botwm coch wrth ochr eu gwely, yn daer eisiau cymorth, yn crio'n dawel wrth i'w babanod grio yn y nos, mamau'n helpu ei gilydd mewn ysbryd cymunedol na allwn ond breuddwydio ei weld yn parhau y tu hwnt i'r argyfwng COVID hwn. Ond roedd pobl yn mynychu campfeydd, tra bod partneriaid gartref, yn aros yn flinedig am yr alwad WhatsApp i weld eu plentyn newydd-anedig, yn methu helpu mam, gwraig neu bartner newydd sy'n fregus yn feddyliol—mae'n ddrwg gennyf. Tadau yn methu creu cwlwm agosrwydd yn ystod y camau cyntaf hollbwysig hynny—mae'n ddrwg gennyf—yn methu rhoi eu breichiau o amgylch eu hanwyliaid pan fo baban yn cael ei golli. Dyna realiti geni yn ystod COVID.

Wrth gwrs, mae'r canllawiau wedi nodi drwy gydol cyfnod y pandemig y gall menywod gael partneriaid geni mewn llawer o amgylchiadau penodol, ond gan eu bod yn agored i'w dehongliadau eu hunain, mae byrddau iechyd unigol, ar y cyfan, wedi gwahardd tadau, partneriaid geni a theulu ehangach rhag bod yn bresennol ar adegau allweddol yn ystod y beichiogrwydd a genedigaeth, ac fe wnaeth rhai tadau a gysylltodd â mi golli'r enedigaeth bron yn gyfan gwbl. Mewn cyhoeddiadau diweddar, llaciodd Llywodraeth Cymru eu canllawiau a'i gwneud yn gliriach y gall menywod gael partneriaid geni a chefnogaeth, ond mae gennym dystiolaeth eisoes nad yw hyn yn cael ei weithredu gan fyrddau iechyd o hyd. Ysgrifennodd rhywun at fy swyddfa yr wythnos hon yn amlinellu ei phrofiad diweddar iawn yn Betsi Cadwaladr yn y cyfnod ers i Lywodraeth Cymru ddiweddaru'r canllawiau ar ddiwedd mis Tachwedd. Mae ei phrofiad yn rhywbeth rydym i gyd yn gyfarwydd ag ef. Mae'n byw yn un o'r ardaloedd sydd â'r cyfraddau trosglwyddo isaf yn y DU, ac roedd yn dal i fod yn ddarostyngedig i'r rheol fympwyol fod yn rhaid i geg y groth agor 4 cm cyn y caniateid iddi gael partner geni, ond dim ond am awr ar ôl iddi roi genedigaeth, wedyn roedd ar ei phen ei hun. Mae hyn yn cynnwys menywod sy'n cael llawdriniaethau cesaraidd, ac ni chafwyd unrhyw ymweliadau o gwbl ar ôl yr enedigaeth.

Yn Lloegr, yn haen 3, a deallaf mai honno yw'r haen fwyaf difrifol, caniateir partneriaid geni a thadau drwy gydol y broses o esgor ac am 12 awr wedyn. Heb ymyrraeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ar hyn, mae'n amlwg y bydd menywod yn dal i gael eu gadael ar eu pen eu hunain heb gefnogaeth briodol.

Clywais y Gweinidog yn sôn hefyd am esgor gweithredol yn ei gyhoeddiad diweddaraf, wel, nid yw hynny wedi newid. Caniateir i ddynion neu bartneriaid ddod i mewn yn ystod esgor gweithredol. Mae'n rhaid inni sicrhau bod partneriaid geni yn cael bod yn bresennol am fwy na hynny fel nad yw menywod yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain, ac fel nad ydynt yn gorfod dioddef y boen ar eu pen eu hunain, drwy'r dydd, bob dydd.

Dylem hefyd ystyried beth sy'n digwydd pan fydd menywod yn gadael yr ysbyty. Mewn ymchwil a gyflawnwyd gan fy swyddfa, fel y crybwyllodd Lynne Neagle yn garedig iawn, ni chafodd 60 y cant unrhyw archwiliadau ôl-enedigol, ac roedd chwarter eisiau cymorth iechyd meddwl amenedigol, gyda'r rhan fwyaf yn teimlo nad oeddent wedi cael unrhyw gymorth iechyd meddwl amenedigol o gwbl.

Mewn unrhyw archwiliad a fynychais gyda fy mab, Idris, nid ydynt erioed wedi gofyn sut ydw i. Maent yn gofyn sut mae Idris, sy'n bwysig iawn, ond nid ydynt erioed wedi gofyn i mi sut ydw i. Hefyd, y newyddion diweddaraf ar hyn, mae'r arolwg a wnaethom yn y cyfnod cyn y ddadl yr wythnos hon yn dangos bod 85 y cant o'r rhai a gysylltodd â ni wedi dweud bod eu hiechyd meddwl wedi effeithio'n ddifrifol arnynt oherwydd y diffyg cyswllt â'u hymwelydd iechyd. 

Ac nid yw hwn yn fater sy'n ymwneud â menywod yn unig. Mae'n rhaid i ni ystyried sut y mae hyn oll yn effeithio ar dadau a phartneriaid newydd. Gallai amddifadu tadau o brofiadau bywyd fod yn negyddol iawn i iechyd meddwl rhywun, felly rydym wedi gweithio gydag ymgyrchwyr fel Mark Williams yn fy rhanbarth, sy'n ymgyrchu'n frwd er mwyn tynnu sylw at iechyd meddwl tadau yn ehangach. 

Hoffwn gloi drwy sôn am rywbeth y mae'r Llywodraeth hon wedi'i honni droeon yn y gorffennol, fel y dywedais ar y dechrau: bod yn Llywodraeth ffeministaidd. Mae hwnnw'n nod canmoladwy, ond mae'n amlwg i mi, a bydd yn amlwg i eraill, fod camau gweithredu neu ddiffyg camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn dinistrio'r honiad hwnnw. Mae menywod a rhieni, yn enwedig llawer o rieni am y tro cyntaf, wedi bod yn dweud wrth Lywodraeth Cymru drwy'r flwyddyn am yr effaith negyddol y mae'r rheolau hyn wedi'i chael arnynt, ond yn ofer. Rydym bellach wedi diweddaru canllawiau gan Lywodraeth Cymru, ond eto ni welwn ddigon o symud gan fyrddau iechyd unigol i wneud y newidiadau angenrheidiol hynny. Rydym angen arweiniad ac egni i ddwyn y byrddau iechyd hynny i gyfrif er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud yr asesiadau risg hynny, ie, nid ydym eisiau rhoi unrhyw un mewn perygl, ond eu bod yn gwneud hynny'n ddiwyd a newid y rheolau fel y gallwn sicrhau bod pawb yn ddiogel a sicrhau bod bywydau'r babanod hynny'n dechrau mewn ffordd hapus ac adeiladol.  

Er ein bod yn symud tuag at gyfnod lle gall cynifer o bobl â phosibl gael y brechlyn, gobeithio, efallai na fydd y sefyllfa hon yn yr ysbyty'n newid am gyfnod hir eto, ac mae angen iddi newid nawr. Rwy'n gobeithio'n fawr fod y Gweinidog a'r Llywodraeth wedi clywed llais fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle, sydd wedi gweithio mor galed yn ystod y pandemig ar y mater hwn, fy nghyd-Aelod, Leanne Wood, sydd wedi gwneud yr un peth, ac eraill yn y Siambr hon sydd wedi clywed straeon gan eich etholwyr. Gwrandewch arnynt, Vaughan Gething, fel Gweinidog, a newidiwch y rheolau fel na fydd gennym argyfwng iechyd meddwl ymysg ein rhieni mewn misoedd neu flynyddoedd i ddod oherwydd y ffordd y cawsant eu trin yn ystod y pandemig hwn. Diolch yn fawr iawn. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:57, 9 Rhagfyr 2020

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly fe fydd y bleidlais ar hynna'n cael ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.