6. Dadl ar Ddeiseb P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu

– Senedd Cymru am 3:57 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:57, 9 Rhagfyr 2020

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar ddeiseb P-05-1010, 'Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu'. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Janet Finch-Saunders. 

Cynnig NDM7502 Janet Finch-Saunders

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu’ a gasglodd 6,017 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:58, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae'r ddeiseb rydym yn ei thrafod y prynhawn yma wedi casglu 6,017 o lofnodion ac mae'n galw am ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd ofnadwy a welwyd yn gynharach eleni. Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan y Cynghorydd Heledd Fychan, sy'n cynrychioli ward Tref Pontypridd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Ym mis Chwefror 2020 gwelwyd rhai o'r llifogydd gwaethaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru. Ar 16 a 17 Chwefror, achosodd Storm Dennis lifogydd eang, gan effeithio ar fwy na 1,000 o gartrefi a busnesau yn ôl pob sôn, a hynny yn Rhondda Cynon Taf yn unig. Yn anffodus, nid digwyddiad ynysig ydoedd oherwydd gwelodd yr ardal lifogydd pellach ddiwedd mis Chwefror ac eto ym mis Mehefin.

Nawr, fel Aelod sy'n cynrychioli etholaeth sydd hefyd wedi cael ei tharo'n wael gan lifogydd yn ddiweddar, mae gennyf bob cydymdeimlad â phobl y mae'r digwyddiadau hyn, sydd bellach yn digwydd yn aml iawn, wedi effeithio ar eu cartrefi a'u busnesau, ac rwy'n awyddus i helpu i atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.

Nawr, pan drafodasom y ddeiseb, gwnaeth y straeon personol torcalonnus a gawsom argraff ar aelodau'r Pwyllgor Deisebau, a helpodd hynny i gyfleu'r effaith bersonol enfawr y mae digwyddiadau fel y rhain yn ei chael. Wrth gwrs, mae aelod o'n pwyllgor, fy nghyd-Aelod, Leanne Wood AS, wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith o gefnogi ei hetholwyr y mae'r digwyddiadau trasig hyn wedi effeithio arnynt. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod Mick Antoniw, gyda'r Aelod Seneddol Alex Davies-Jones AS, hefyd wedi cyhoeddi eu hadroddiad eu hunain yn ddiweddar ar effaith y llifogydd, sy'n dangos bod y rhain yn faterion trawsbleidiol y mae angen mynd i'r afael â hwy.

Mae'r ddeiseb yn galw am ymchwiliad llawn, annibynnol, agored a chyhoeddus i'r llifogydd. Mae'n dadlau bod hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd fel y gellir atal difrod tebyg yn y dyfodol. Mewn ymateb, ysgrifennodd y Gweinidog at y Pwyllgor Deisebau i ddweud nad yw'n teimlo bod angen ymchwiliad annibynnol ar hyn o bryd. Dywedodd y Gweinidog wrthym mai cyfrifoldeb yr awdurdod rheoli perygl llifogydd lleol yw cynhyrchu adroddiadau ymchwiliadau llifogydd adran 19 yn dilyn unrhyw achosion o lifogydd. Amlinellodd y gwaith ymchwilio sydd eisoes yn cael ei wneud gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf i asesu achosion y llifogydd ac i wneud argymhellion ynglŷn â sut y gellir lleihau perygl llifogydd. Deallaf mai safbwynt Llywodraeth Cymru felly yw ei bod yn dymuno ystyried yr adroddiadau statudol cyn penderfynu a oes angen unrhyw ymchwiliad neu adolygiad pellach. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog heddiw'n gallu ymhelaethu ar y safbwynt hwn yn nes ymlaen yn y ddadl.

Fel y nodais yn gynharach, mae'r Pwyllgor Deisebau hefyd wedi cael sylwadau pellach gan y deisebwyr, gan gynnwys nifer fawr o dystebau personol a gasglwyd gan drigolion lleol. Mae'r rhain yn manylu ar y costau personol a'r costau economaidd sy'n cael eu talu gan y bobl a'r busnesau'n uniongyrchol. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau eraill eisiau ymdrin ag effaith y llifogydd ar eu hetholwyr. Felly, defnyddiaf weddill y sylwadau hyn i gyfeirio at rai o'r prif bwyntiau a amlinellwyd gan y deisebwyr.

Yn gyntaf, mae'r deisebydd yn dadlau bod cyfyngiadau sylweddol ar broses adrodd adran 19. Mae'r rhain yn cynnwys gofyn i awdurdodau lleol ymchwilio iddynt eu hunain, o ystyried y rôl bwysig y maent yn ei chwarae yn atal llifogydd yn lleol, ac oherwydd bod nifer gyfyngedig o gyfleoedd i bobl leol fod yn rhan o'r prosesau hynny. Yn ail, mae'r deisebwyr yn credu y dylid mabwysiadu persbectif ehangach. Maent o'r farn y byddai ymchwiliad annibynnol yn gallu ystyried materion a gwersi ehangach, gan gynnwys datgan argyfwng hinsawdd, a'r effaith y mae'r digwyddiadau hyn wedi'i chael ar yr economi leol ac iechyd a lles trigolion. Yn gyffredinol, mae'r deisebwyr yn cwestiynu a yw cwmpas yr adroddiadau presennol y cyfeiriwyd atynt gan y Gweinidog yn ddigon mawr i archwilio'r materion hyn yn llawn, ac i lywio gwaith atal llifogydd yn y cymunedau hyn, a ledled Cymru yn wir.

I gloi'r sylwadau agoriadol hyn, mae'r Pwyllgor Deisebau yn edrych ymlaen nawr at glywed cyfraniadau gan Aelodau eraill y mae llifogydd wedi effeithio arnynt yn ystod y ddadl hon, ac fe ddychwelaf i roi ystyriaeth bellach i'r ddeiseb yng ngoleuni'r rhain. Mae'r deisebwyr wedi dweud yn glir iawn mai adolygiad neu ymchwiliad annibynnol yw'r unig ffordd o ddysgu'r gwersi a fydd yn sicr yn helpu i atal y mathau hyn o lifogydd rhag digwydd eto, ac i roi'r sicrwydd y mae cymunedau yn Rhondda Cynon Taf ei angen ac yn ei haeddu. Gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi esboniadau pellach y prynhawn yma mewn ymateb i'r pwynt hwn a phwyntiau eraill a fydd yn codi yn ystod y ddadl. Rwy'n croesawu'r holl gyfraniadau y mae Aelodau eraill am eu gwneud. Diolch, Lywydd.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 4:04, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Codaf i gefnogi'r hyn y mae'r ddeiseb yn ei ddweud, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr ymarfer gwersi a ddysgwyd wedi'i gwblhau a'i fod yn ystyried yr holl agweddau y mae trigolion, busnesau a phawb yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd ofnadwy hyn ym mis Chwefror 2020, a digwyddiadau llifogydd eraill a'i dilynodd, yn cael eu dysgu, oherwydd roedd maint y llifogydd yn wahanol i ddim a welwyd cyn hynny. Gallaf gofio ymweld ag ardaloedd amrywiol a gweld dinistr llwyr, boed yn eiddo domestig, boed yn fusnesau, neu ddim ond y rhandiroedd y gallwch eu gweld oddi ar yr A48 yn etholaeth Pontypridd, wedi'u golchi ymaith yn llwyr, gan ddangos grym y dŵr a maint y difrod. Ac nid dŵr yn unig sy'n taro'r eiddo preswyl hynny ond y carthion amrwd sy'n codi drwy'r draeniau ac sy'n difetha'r eiddo fel na ellir byw ynddo hyd nes eu bod yn cael eu trwsio a'u hatgyweirio'n drylwyr.

Yn amlwg, yr hyn sydd gennym yma yw llawer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus sydd wedi gwneud eu gorau; heb amheuaeth, maent wedi gwneud eu gorau yn y cyfnod a ddilynodd i wneud yr hyn a allent i helpu'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt, boed hynny yn y Rhondda neu unrhyw ran arall o Ganol De Cymru, ond mae gwersi i'w dysgu yma. Methodd y system rybuddio mewn llawer o achosion, fel y gwyddom o rai o'r adroddiadau cynnar gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac os na allwch gael y system rybuddio sylfaenol yn iawn, pa obaith sydd gennych o sicrhau bod y newidiadau mwy strwythurol y mae angen i chi eu gwneud i fesurau atal llifogydd yn cael eu rhoi ar waith, megis glanhau'r ffosydd a sicrhau bod y dyfrffyrdd yn glir? Dyma rai o'r pethau sylfaenol roedd asiantaethau a byrddau afonydd yn arfer eu gwneud pan oeddent yn bodoli tua 20, 30 mlynedd yn ôl, pethau a gâi eu cymryd yn ganiataol ar y pryd, a phethau a oedd yn caniatáu i ddŵr lifo'n gymharol rydd.

Mae'n ffaith y byddwn yn gweld mwy o ddigwyddiadau fel hyn. Mae'n ffaith bod llifogydd wedi bod yn digwydd erioed ond mae'n bosibl nad yw llawer o'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiadau ym mis Chwefror, a digwyddiadau eraill drwy 2020, erioed wedi gweld llifogydd o'r blaen. Felly, ceir rhai materion gweinyddol y mae angen eu harchwilio, gwaith dilynol sydd angen ei wneud, ac ymchwiliad yw'r unig beth a fydd yn mynd at wraidd y materion hynny, a'r Llywodraeth sydd â'r pŵer i greu'r ymchwiliad hwnnw, a holi a dwyn ynghyd y cyrff cyhoeddus hynny o'r awdurdodau lleol, y byrddau iechyd, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r effaith economaidd, yn enwedig yn y cymunedau hynny lle cafodd busnesau eu dinistrio i'r fath raddau, yn ogystal â'r mannau byw domestig a gafodd eu hysgubo ymaith i lawer o unigolion a theuluoedd. Gallwn i gyd gofio llun y tirlithriad a ddigwyddodd, ac mae llawer o waith i'w wneud o hyd yn yr ardal benodol honno, a dyna lle mae angen i'r ddwy Lywodraeth, Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru, gydweithio i fynd i'r afael â'r mater penodol hwnnw.

Felly, dyna pam rwy'n codi i gefnogi'r alwad am ymchwiliad cyhoeddus, oherwydd credaf mai ymchwiliad cyhoeddus, a phwysau adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus hwnnw, yw'r unig ffordd y gallwn wneud y newidiadau y bydd eu hangen, myfyrio ar yr hyn a wnaeth weithio, ond yn ddieithriad, gallwn ystyried ac unioni'r pethau na weithiodd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn fwy cadarnhaol, yn hytrach na dim ond dweud eu bod yn dal i aros am wahanol adroddiadau gweinyddol gan yr holl sefydliadau amrywiol sy'n marcio eu gwaith cartref eu hunain. Ni fydd hynny'n ddigon da i'r trigolion rwy'n eu cynrychioli yng Nghanol De Cymru, a galwaf ar y Llywodraeth i weithredu'n fwy cadarnhaol mewn ymateb i'r cais hwn gan y ddeiseb heddiw.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 4:07, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae ein cynnig yn gofyn am rywbeth syml iawn—rhywbeth rwy'n rhyfeddu ond nid yn synnu bod Gweinidogion yn rhedeg rhagddo: ein bod yn cael ymchwiliad i ddysgu'r gwersi o'r llifogydd,... i ddiogelu mwy o gartrefi a busnesau... edrych ar... yswiriant fforddiadwy... a... thaliadau amserol, ymchwiliad i ba fesurau sydd eu hangen gan y Llywodraeth i ariannu amddiffyniadau llifogydd a mesurau rheoli dalgylchoedd i fyny'r afon a darparu adnoddau ar gyfer ymatebion brys.

Nid fy ngeiriau i yw'r rheini—geiriau'r AS Llafur dros Plymouth ydynt. Roedd yn siarad mewn dadl ym mis Mawrth eleni am lifogydd yn Lloegr. Yn y ddadl honno, nododd yr AS y gallent fod wedi bod yn gwbl wleidyddol, ac ymosod ar y Llywodraeth am eu methiannau, neu, ac rwy'n dyfynnu,

Dewisodd Llafur godi uwchlaw'r ddadl bleidiol honno, a dyna pam y dylai pob Aelod o'r Tŷ deimlo y gall gefnogi ein cynnig. Sut nad yw dysgu'r gwersi o ddigwyddiad—mewn adolygiad o ba gamau a ddigwyddodd, pa gamau na weithiodd cystal ag y gobeithiwyd a ble y gellid gwneud gwelliannau—yn gam synhwyrol a chymesur i'w gymryd ar ôl argyfwng cenedlaethol fel y llifogydd diweddar?

Pleidleisiodd pob AS yn y Cymoedd i gefnogi ymchwiliad i lifogydd yn Lloegr, ac eto, yng Nghymru, lle mae gan Lafur bŵer i ddechrau un, y safbwynt oedd gwrthwynebu ymchwiliad. Gwnaethant bleidleisio yn ei erbyn yn yr awdurdod lleol ac mae Gweinidogion Llafur yn y Llywodraeth hon wedi'i wrthwynebu hefyd. Ym mis Mehefin eleni, yn ystod cyfweliad gydag ITV Wales, disgrifiodd un AS Llafur ymchwiliad annibynnol i lifogydd yn y Rhondda fel y syniad mwyaf hurt a glywais.

Efallai ei fod wedi anghofio ei fod wedi pleidleisio dros ymchwiliad i lifogydd yn Lloegr gwta dri mis ynghynt.

Nid yw'n syndod nad oes gan bobl hyder mewn proses lle mae awdurdodau'n archwilio eu hunain. Maent wedi gweld digon o drosglwyddo cyfrifoldeb, a gwahanol sefydliadau'n gwrthod ysgwyddo cyfrifoldeb. Gall pobl yn y Rhondda gofio cael gwybod dro ar ôl tro yn ystod y 1990au gan y cyngor Llafur fod safle tirlenwi Nant-y-Gwyddon yn ddiogel. Cwynodd trigolion am flynyddoedd fod y domen honno'n achosi afiechydon, a chefnogodd Plaid Cymru y trigolion hynny yn eu hymgyrch. Argymhellodd ymchwiliad wedyn y dylid cau'r domen honno, ac ni fyddem wedi cael y fath ganlyniad heb y cyfuniad hwnnw o bŵer pobl a phwysau gwleidyddol.

Mae'r rhai sy'n gwrthwynebu ymchwiliad annibynnol yn dadlau y byddai'n cymryd gormod o amser ac y byddai'n rhy ddrud. Nid oes angen iddo fod yr un o'r pethau hynny. Ni allwch roi pris ar ddiogelu pobl a'u cartrefi. Ni allwch ychwaith roi pris ar roi tawelwch meddwl i bobl, tawelwch meddwl sydd wedi bod yn absennol i gynifer o bobl ers mis Chwefror eleni. Y fenyw o Dreorci sydd wedi dioddef llifogydd dro ar ôl tro ac na all gysgu bellach pan fydd yn bwrw glaw yn y nos—ceir cynifer o straeon fel hyn, a byddai ymchwiliad yn cyrraedd yr achosion sylfaenol, a dyna fyddai ein gobaith gorau o gael atebion parhaol.

Rwy'n erfyn ar holl Aelodau'r Senedd hon, ond yn enwedig y rheini ohonoch nad oeddech yn bwriadu cefnogi ymchwiliad hyd yma, nad yw'n rhy hwyr i wneud y peth iawn. Nid yw'n rhy hwyr i roi'r bobl y mae'r llifogydd wedi effeithio arnynt yn gyntaf. Bydd pleidlais o blaid y cynnig hwn heddiw yn cryfhau'r achos dros ymchwiliad a fydd yn nodi'r hyn a aeth o'i le a pham. Dyna sut y caiff pleidlais o blaid y cynnig hwn ei dehongli yn y Rhondda. Gall ymchwiliad nodi faint o gyllid sydd ei angen, gall nodi lle mae angen inni fuddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd a mesurau atal llifogydd yn y dyfodol. Gwyddom y rhagwelir y bydd tywydd eithafol yn digwydd yn amlach oherwydd yr argyfwng hinsawdd, ac mae angen inni fod yn barod. Yr unig ffordd o sicrhau ein bod yn barod yw deall yn llawn yr hyn a ddigwyddodd eleni, a beth sydd angen digwydd i unioni pethau.

Rwy'n erfyn ar y Llywodraeth a chynrychiolwyr lleol i weithio gyda ni i gefnogi ymchwiliad i lifogydd heddiw, nid er fy mudd i, nid er budd Plaid Cymru, ond i'r nifer o bobl yn ein cymunedau sydd wedi dioddef llifogydd eleni. Ni ddylai fod rhaid iddynt fynd drwy'r trawma hwnnw eto. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:12, 9 Rhagfyr 2020

Galwaf ar Weinidog—. O, na. Mae'n ddrwg gyda fi. Mick Antoniw.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu cymryd rhan yn y ddadl hon gan y Pwyllgor Deisebau heddiw, oherwydd mae'n gyfle i siarad am y llifogydd a drawodd RhCT ym mis Chwefror, a Phontypridd, fy etholaeth i, oedd yr ardal yr effeithiwyd arni waethaf yn Rhondda Cynon Taf. Felly, mae'n fater rwyf wedi gofyn cwestiynau yn ei gylch yn gyson i'r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill, oherwydd, er bod llawer wedi'i wneud eisoes, mae llawer mwy i'w wneud o hyd, ac nid wyf yn bwriadu caniatáu i'r cymunedau sydd wedi dioddef llifogydd yn fy etholaeth gael eu hanghofio. 

I bob un o'r 321 o gartrefi a dwsinau o fusnesau a ddioddefodd lifogydd difrifol ym Mhontypridd, ac i'r 1,800 o gartrefi yr effeithiwyd arnynt fel arall, gweithredu yw'r gair allweddol. Mae'r gaeaf yma ac mae bron iawn yn flwyddyn ers y llifogydd. Mae'n ddealladwy fod pobl yn bryderus ar gyfer y dyfodol, ac mae ofn llifogydd pellach yn drawmatig ac ni ddylid ei fychanu. Felly, ni chredaf fod fy etholwyr am i ddim rwystro'r cynnydd rydym eisoes yn ei wneud, a'r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Mae lle i ymchwiliadau cyhoeddus, ond mae ymchwiliad o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005, ymchwiliad statudol, yn ddrud, mae'n cymryd llawer o amser ac mae'n broses fiwrocrataidd iawn, a gwn o brofiad ymarferol y bydd ymchwiliad cyhoeddus yn cymryd blwyddyn fan lleiaf—o leiaf 18 mis yn ôl pob tebyg—ac na fyddai'n debygol o ychwanegu llawer at yr hyn a wyddom eisoes am y wybodaeth sydd gennym eisoes o adroddiad yr ymchwiliad a gyhoeddwyd eisoes gan Cyfoeth Naturiol Cymru, neu'r hyn y byddwn yn ei wybod, yn sicr yn fy etholaeth i, o'r wyth o adroddiadau ymchwiliadau adran 19 rydym yn eu disgwyl rywbryd ar ddechrau mis Ionawr. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cael cyfle i ystyried yr adroddiadau hynny, oherwydd byddant yn ein galluogi i gymryd camau ar unwaith ar ben y camau sydd eisoes ar y gweill. 

Rwy'n deall y galwadau a fwriadwyd yn dda am ymchwiliad cyhoeddus, ond ni fydd yn newid yr hyn sydd angen ei wneud. Yn fy marn i, ni fydd ymchwiliad cyhoeddus ond yn oedi'r hyn sydd angen ei wneud nawr, a phe bawn yn meddwl y byddai ymchwiliad cyhoeddus yn sicrhau unrhyw fudd i'r cymunedau rwy'n eu cynrychioli, byddwn yn ei gefnogi. Ar hyn o bryd, nid dyma'r cam cywir. Efallai y bydd yn briodol ystyried hynny pan gawn yr adroddiadau adran 19, ond nid ar hyn o bryd.

Felly, fel y dywedais, rhaid inni ganolbwyntio ar weithredu, ac mae cynnydd wedi bod. Gwnaed gwaith atgyweirio sylweddol gan gyngor RhCT, Dŵr Cymru a CNC. Mae cyngor RhCT, ynghyd â Llywodraeth Cymru, hefyd wedi bod yn archwilio'r potensial ar gyfer cynllun yswiriant busnes lleol, ac rwyf am weld hynny'n datblygu. Ac rwy'n ddiolchgar i Weinidog yr amgylchedd, Lesley Griffiths, sydd wedi ymrwymo miliynau o bunnoedd o adnoddau Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall y gwaith paratoi sy'n cael ei wneud gan gyngor RhCT fynd rhagddo tra byddwn yn aros am benderfyniad Llywodraeth y DU i wireddu ei haddewid o £70 miliwn i £80 miliwn o gyllid i atgyweirio seilwaith allweddol. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i elusen Moondance, a gyfrannodd rodd hael o £100,000 i helpu i gefnogi dros 100 o'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt yn fwyaf uniongyrchol yno. Hefyd, rwy'n ddiolchgar iawn am ymyriadau diweddar gan y Gweinidog iechyd meddwl, Eluned Morgan, am ei gwaith gyda bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg mewn perthynas â sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl a chymorth ar gael i'r gymuned leol.

A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch i'r holl gynghorwyr a gweithwyr cymunedol a thrigolion a wnaeth gymaint yn ystod y llifogydd? Nawr, yn union ar ôl y llifogydd, ymwelais â'r cymunedau gyda'r Prif Weinidog a'r AS lleol ym Mhontypridd, Alex Davies-Jones. Rydym wedi cynnal dros 30 o gyfarfodydd cyhoeddus a phreifat gyda thrigolion a busnesau lleol. Roedd y diweddaraf yr wythnos hon. Nodir barn a phrofiadau'r preswylwyr mewn adroddiad manwl iawn sydd wedi'i ddosbarthu ymhlith pawb yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan y llifogydd. Fy mhryder mwyaf uniongyrchol yw na ddylid atal unrhyw gartref a fyddai'n elwa'n rhesymol o fesurau gwrthsefyll llifogydd, megis llifddorau er enghraifft, rhag eu cael oherwydd y gost, ac rwy'n falch fod y Gweinidog, mewn ymateb i gwestiynau gennyf fi, wedi cadarnhau bod cyllid ar gael. Rwy'n falch hefyd fod cyngor RhCT eisoes wedi cael cadarnhad fod eu cais am gyllid a bod trafodaethau gyda CNC ar gynllun tebyg ar gyfer mesurau tebyg mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd yn cael ei drafod gyda'r Gweinidog, a byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau hynny.

Nawr, mae llawer i'w wneud o hyd. Mae yswiriant yn broblem wirioneddol, gyda busnesau a ddioddefodd ddifrod gwerth degau o filiynau'n ei chael hi'n anodd cael yswiriant, a rhaid inni ddal Llywodraeth y DU at ei haddewid o gymorth ariannol, ac rwy'n gobeithio bod pob Aelod yma mor benderfynol â minnau o'u gweld yn gwneud hynny. Rhaid inni symud ymlaen ar frys i gyflwyno mesurau atal llifogydd, megis llifddorau, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, a datblygu materion pwysig eraill a nodwyd yn ein hadroddiad ar lifogydd ym Mhontypridd. Mae system rhybudd llifogydd well o'r fath yn bwysig, a chyflwyno cenhadon llifogydd cymunedol, yn ogystal â chyflwyno driliau llifogydd rheolaidd. Dyma'r camau y mae'r cymunedau ym Mhontypridd wedi'u codi gyda mi ac rwyf am ganolbwyntio arnynt, a gallaf eu sicrhau mai'r amcanion hyn fydd fy mlaenoriaeth o hyd. Diolch, Lywydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:18, 9 Rhagfyr 2020

Galwaf nawr ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ymateb i'r ddeiseb hon, yn gofyn am ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf. Gwelais drosof fy hun effeithiau dinistriol y llifogydd hyn, a heb weithredu cyflym gan ein hawdurdodau rheoli risg a'n gwasanaethau brys, rwy'n sicr y byddem wedi gweld hyd yn oed mwy o gartrefi'n dioddef llifogydd. Rhaid inni gydnabod hefyd sut y diogelodd ein rhwydwaith o amddiffynfeydd filoedd o eiddo, a phwysigrwydd cadw'r strwythurau hyn mewn cyflwr da. Rwyf fi wrth gwrs yn cydnabod yr effaith ar les preswylwyr, yn ogystal â'r effaith ar eu cartrefi a'u busnesau. Mae gwybod sut y bu'n rhaid i'r cymunedau hynny ymdopi wedyn â COVID-19 yn dorcalonnus, ac mae wedi cryfhau fy mwriad i wneud popeth yn ein gallu i helpu i leihau risg yn y dyfodol.

Gweithredodd y Llywodraeth hon yn gyflym ac yn bendant yn ein hymateb i wneud yr atgyweiriadau a'r gwelliannau angenrheidiol. Yn union ar ôl stormydd mis Chwefror, rhoddais gyfle i bob awdurdod rheoli risg wneud cais am gymorth ariannol i wneud gwaith atgyweirio brys ar asedau. Darparais gyllid 100 y cant ar gyfer hyn, sef cyfanswm o £4.6 miliwn. Yn ogystal, darparwyd pecyn ariannu i gefnogi busnesau ac aelwydydd yn uniongyrchol. Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £9.2 miliwn ledled Cymru. Yn RhCT, dyfarnais £1.6 miliwn o gyllid brys i atgyweirio asedau llifogydd a ddifrodwyd, ac roedd hyn yn ychwanegol at y £2.1 miliwn o gyllid grant tuag at amddiffynfeydd a chynlluniau llai ledled y sir.

Rwyf hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer mesurau cydnerthedd eiddo, megis llifddorau, a hyd yma, rwyf wedi dyfarnu dros £1 filiwn ledled Cymru i fod o fudd i hyd at 594 eiddo. Mae hyn yn cynnwys dyfarniad diweddar o dros £300,000 i RhCT ar gyfer 357 o gartrefi.

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi cymorth refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol eleni, gan ddarparu hyd at £95,000 yn ychwanegol i bob awdurdod i gefnogi eu gweithgareddau perygl llifogydd ac i helpu i sicrhau bod asedau'n parhau i fod yn wydn dros y gaeaf. Mae fy swyddogion wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol gyda rhagor o fanylion.

Ym mis Hydref, cyhoeddais ein strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer llifogydd ac mae hon yn cryfhau rolau a chyfrifoldebau ac yn nodi amcanion newydd mewn perthynas â chyfathrebu, cynllunio ac atal. Mae'n annog rheoli llifogydd yn naturiol ac addasu, yn ogystal â mwy o gydweithredu i greu cynlluniau cynaliadwy sy'n sicrhau manteision lles ehangach. Mae'n strategaeth uchelgeisiol ac yn ailddatgan y pwyslais a roddwn ar reoli perygl llifogydd a bygythiad cynyddol newid hinsawdd. Mae hyn yn dilyn newidiadau i'r cyllid a gyhoeddais i roi mwy o gymorth a hyblygrwydd i'n hawdurdodau rheoli risg, gan gynnwys cymorth 100 y cant ar gyfer prosiectau rheoli llifogydd yn naturiol ac i baratoi achosion busnes ar gyfer cynlluniau llifogydd ac arfordirol newydd.

Rwy'n cytuno'n gryf â chyfraniadau Aelodau o'r Senedd sy'n dweud bod rhaid inni ddysgu'r gwersi o lifogydd mis Chwefror. Rhaid craffu ac ymgysylltu ymhellach â chymunedau yr effeithir arnynt a phawb sy'n wynebu risgiau hinsawdd yng Nghymru. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i lunio adroddiadau sy'n ymchwilio i achosion llifogydd a chyflwyno argymhellion i leihau risg ymhellach, ac mae'r adroddiadau hyn yn ddogfennau cyhoeddus ac yn cael eu paratoi gan dimau o unigolion medrus iawn. Mae'n ymddangos o gyfraniadau gan rai Aelodau nad oes ganddynt hyder yn uniondeb proffesiynol y bobl a fydd yn paratoi'r adroddiad ac nad oes ganddynt hyder yn eu gallu eu hunain a gallu cymunedau i graffu ar eu canfyddiadau. Ond nid wyf yn rhannu'r farn honno, ac mae gennyf hyder llwyr ym mhroffesiynoldeb staff awdurdodau lleol a'u hymrwymiad i ddiogelwch a lles y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Ac os oes gan Aelodau dystiolaeth a fyddai'n bwrw amheuaeth ar y gred honno, mae ganddynt gyfrifoldeb i'w chyflwyno, ond nid wyf wedi clywed unrhyw dystiolaeth o'r fath yn cael ei chynnig hyd yma.

Mae gan yr holl Aelodau o'r Senedd hon rôl i graffu'n fanwl ar yr adroddiadau hynny cyn gynted ag y byddant ar gael a sicrhau bod barn a buddiannau eu hetholwyr yn cael eu cynrychioli. Ac mae gan y Senedd hon rôl i sicrhau ein bod yn dysgu'r gwersi o'r adroddiadau hynny ac yn eu cymhwyso mewn polisi cenedlaethol ac ymarfer gweithredol lleol i gadw Cymru'n ddiogel. Credaf y bydd yr adroddiadau a baratowyd yn broffesiynol ac sy'n ofynnol yn gyfreithiol gan awdurdodau lleol yn caniatáu inni wneud hynny.

Mae Aelodau etholedig lleol yn RhCT wedi mynd y tu hwnt i hyn i gynhyrchu eu hadroddiad eu hunain, fel y clywsom gan Mick Antoniw, a'i cyd-ysgrifennodd gydag Alex Davies-Jones, yr AS. Mae'r adroddiad yn dweud yn glir fod trigolion yn gweld nifer o feysydd penodol i'w gwella ac atebion y gallwn eu hystyried nid yn unig i leihau'r perygl o lifogydd, ond i helpu i gefnogi lles ehangach. Mae cyfraniadau o'r math hwn i'w croesawu ac maent yn dangos yn glir y ffyrdd y gall trigolion lleol graffu ar y materion a chyflwyno atebion creadigol ac adeiladol sy'n gweithio iddynt hwy. A gobeithio y bydd Aelodau eraill yn ystyried sut y gallant hwy gefnogi'r cymunedau yn yr un modd i allu gwrthsefyll bygythiadau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd ac i gymryd mwy o ran yn y materion dan sylw.

Mae CNC, yn ogystal â'i gyfrifoldeb statudol i gynhyrchu ymchwiliadau i lifogydd, wedi cyhoeddi adolygiad llawn ym mis Hydref, gyda chyfres o adroddiadau sy'n rhoi disgrifiad manwl o'r heriau o ran eu hymateb a'u rhagolygon, a byddwn yn annog unrhyw un sy'n credu y bu ymdrech i fychanu'r heriau a'r meysydd i'w gwella i ddarllen yr adolygiad hwnnw. Mae'n dangos nid yn unig yr ystod o heriau sy'n ein hwynebu a'u difrifoldeb, ond yn fy marn i, ymrwymiad llwyr y sefydliad i fanteisio ar y cyfle nawr i graffu'n gyhoeddus ar yr heriau hyn, i weithio gyda chymunedau i ddod o hyd i atebion gwell ar gyfer y dyfodol. Daethant i'r casgliad clir iawn, nid y dylai'r adroddiad fod yn ddiwedd y sgwrs, ond yn hytrach, fod rhaid i'r sgwrs barhau, a dal ati i ddysgu gwersi'r llifogydd dinistriol a gafwyd ym mis Chwefror ac ystyried yn fwy cyffredinol sut, fel cymdeithas, rydym yn paratoi ar gyfer hinsawdd sy'n newid a'i heffaith ar ein cymunedau yng Nghymru, ac mae hwnnw'n gasgliad rwy'n cytuno'n bendant ag ef ac yn gobeithio y byddai'r Senedd hefyd yn ei gymeradwyo.

Felly, edrychaf ymlaen at weld craffu pellach ar adroddiad yr ymchwiliad i'r llifogydd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r holl Aelodau o'r Senedd, ynghyd â phartneriaid awdurdodau lleol a chymunedau i ddysgu gwersi llifogydd ofnadwy mis Chwefror ac i baratoi ein hunain yn well ar gyfer yr heriau cynyddol y mae Cymru'n eu hwynebu yn sgil hinsawdd sy'n newid. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:24, 9 Rhagfyr 2020

Galwaf nawr ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r deisebwyr a'r holl bobl eraill sydd wedi tynnu sylw at eu profiadau personol eu hunain o'r llifogydd dinistriol ac wedi rhannu'r rhain nid yn unig gyda'n Pwyllgor Deisebau, ond gyda'n Haelodau yma heddiw. Diolch am holl gyfraniadau'r Aelodau ar fater mor bwysig.

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb a'i chydnabyddiaeth o'r cyllid sydd ar gael i helpu gydag amddiffynfeydd, cynlluniau bach, llifddorau, a'r gefnogaeth i 357 o gartrefi yn Rhondda Cynon Taf. Ysgrifennwyd at bob awdurdod lleol, a materion yn ymwneud â sôn am amddiffynfeydd llifogydd naturiol yn y strategaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Mae'r ddadl hon wedi ein galluogi i roi sylw i faterion pwysig. Byddwn yn ystyried y ddeiseb hon yn y flwyddyn newydd ac rydym yn sicr yn croesawu unrhyw ymatebion pellach a ddaw gan y deisebydd. Diolch yn fawr, Lywydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:26, 9 Rhagfyr 2020

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r ddeiseb? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:26, 9 Rhagfyr 2020

Cyn inni dorri am yr egwyl nawr, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y cynigion ar gyfer dadl y Llywodraeth ar gyfyngiadau coronafeirws newydd a dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y coronafeirws, cyfyngiadau mis Rhagfyr, yn cael eu grwpio ar gyfer dadl ond gyda phleidleisiau ar wahân. A oes gwrthwynebiad i hynny? Na, dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad na chlywed gwrthwynebiad, felly bydd yr eitemau yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl. Rydym ni'n cymryd egwyl fer nawr i wneud rhai newidiadau yn y Siambr, felly egwyl.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:27.

Ailymgynullodd y Senedd am 16:35, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:35, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Rydym yn ailymgynnull yn awr.