– Senedd Cymru am 4:21 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Eitem 9 ar yr agenda yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg Bellach) (Cymru) 2020. Galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig y cynnig—Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol ar y papur trefn. Fel y nodais yr wythnos diwethaf, yn dilyn cyngor gan y prif swyddog meddygol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, argymhellwyd bod ysgolion uwchradd yn dechrau dysgu o bell o 14 Rhagfyr tan ddiwedd y tymor. Fel y gŵyr pawb yn y Siambr hon yn dda, mae cyfraddau trosglwyddo yn cynyddu ar hyn o bryd, ac yn anffodus rydym ni ar y trywydd iawn i gael 2,500 o bobl yn yr ysbyty erbyn Dydd Nadolig yn dioddef o'r coronafeirws.
Er fy mod i wrth fy modd gyda'r cynnig yr oeddem yn gallu ei wneud ddoe ynglŷn â phrofi'r rhai asymptomatig mewn ysgolion, a'r cyhoeddiad am raglen frechu a ddechreuodd yr wythnos diwethaf, bydd yr ymyriadau hyn a'r prosesau hyn yn cymryd amser i ddod i rym. Mae angen inni barhau i roi'r cyfyngiadau angenrheidiol ar waith i ddiogelu'r GIG ac i achub bywydau.
Rydym ni yn cydnabod, fel y gwnaethom ni yn ystod y cyfnod atal byr, ei bod hi'n llawer anoddach i blant oedran ysgol gynradd a'r rhai sydd mewn ysgolion arbennig, ddysgu ar eu cymhelliant eu hunain. Dyna pam yr ydym ni wedi annog ysgolion cynradd ac arbennig i barhau i aros ar agor, oni bai, wrth gwrs, fod rhesymau cadarn a chlir dros iechyd a diogelwch y cyhoedd iddyn nhw beidio â gallu gwneud hynny. Ar ôl siarad ag arweinwyr addysg lleol, rydym ni yn fwyfwy hyderus bod gan ysgolion a cholegau y dulliau dysgu ar-lein ar waith i barhau i sicrhau bod ein pobl ifanc yn parhau i ddysgu.
Fodd bynnag, Dirprwy Lywydd, mae'n bwysig iawn imi ddatgan hyn: nid gwyliau Nadolig cynnar yw hwn. Yn hollbwysig, dylai ein disgyblion uwchradd ac addysg bellach fod yn dysgu gartref ar hyn o bryd. Mae angen i bob un ohonom ni wneud yr hyn y gallwn ni ei wneud i leihau cyswllt ag eraill, ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i hynt y feirws hwn ac, yn y pen draw, i achub bywydau. Byddwn yn apelio ar bobl ifanc Cymru sydd wedi gweld tarfu ar eu haddysg yn yr ysgol unwaith eto i ddilyn y cyngor hwn.
Rwyf hefyd eisiau bod yn glir bod ysgolion yn lleoliadau sy'n cael eu rheoleiddio a'u rheoli, ac nid oes tystiolaeth newydd i awgrymu nad yw ysgolion yn ddiogel mwyach. Mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o'r trosglwyddo yn parhau i fod drwy gysylltiadau a gweithgareddau cymunedol cysylltiedig â'r ysgol, yn hytrach nag amgylchedd yr ysgol ei hun. Wrth i ni ddechrau brechu, gallwn fod yn gadarnhaol iawn ar gyfer gwell 2021. Ond, ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus, ac mae'n rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd i gadw Cymru'n ddiogel ac i sicrhau fod ein pobl ifanc yn parhau i ddysgu.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfu, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch eto, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau'n gwybod y cafodd y rheoliadau hyn eu cyflwyno yn hwyr gyda'r nos ddydd Gwener diwethaf, a daethant i rym ddydd Llun. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau yn ein cyfarfod fore ddoe, ac rydym ni yn ddiolchgar am waith swyddogion yn paratoi'r rheoliadau a'r papurau angenrheidiol. Unwaith eto, mae ein hadroddiad wedi'i gyflwyno gerbron y Senedd i lywio'r ddadl y prynhawn yma. Mae ein hadroddiad yn cynnwys un pwynt technegol, sy'n nodi ei bod hi'n ymddangos bod anghysondeb rhwng testunau Cymraeg a Saesneg y rheoliadau y defnyddir pwerau galluogi mewn cysylltiad â nhw. Mae ein hadroddiad hefyd yn cynnwys pum pwynt o ran rhinweddau, ac fe wnaf i eu crynhoi'n fyr.
Mae pwyntiau o ran rhinweddau un a dau yn nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosib â hawliau dynol, ac na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau hyn. Mae ein trydydd pwynt o ran rhinweddau yn cydnabod y lluniwyd y rheoliadau hyn mewn ymateb i argyfwng iechyd y cyhoedd. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, roi mwy o fanylion am bwy yr ymgynghorodd â nhw a phryd, cyn gwneud y rheoliadau hyn, ac rydym ni wedi gofyn i'r Llywodraeth ddarparu'r wybodaeth hon. Rydym ni hefyd wedi nodi nad oedd asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y rheoliadau. Yn y pedwerydd pwynt o ran rhinweddau, rydym ni wedi gofyn i'r Llywodraeth egluro pa drefniadau y mae wedi'u gwneud i gyhoeddi adroddiadau ar asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, yn unol â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Yn olaf, yn ein pumed pwynt o ran rhinweddau, rydym ni wedi nodi nad oedd asesiad o'r effaith ar blant ar gyfer y rheoliadau hyn, ac rydym ni wedi gwahodd Llywodraeth Cymru i amlinellu'r hyn a wnaeth i asesu effaith benodol y rheoliadau hyn ar blant. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Yr wythnos diwethaf dywedodd y Prif Weinidog:
'yr wyf i eisiau cymeradwyo yn gryf iawn heddiw y datganiad ar y cyd a wnaed rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n annog ysgolion i aros ar agor tan ddiwrnod olaf y tymor, gan gydnabod y bydd cyfresi unigol o amgylchiadau lle na fydd hynny'n bosibl.... Y broblem wirioneddol yw nad oes gennym ni ffydd, o'r dystiolaeth ymddygiadol, os nad yw plant yn yr ysgol, y bydden nhw'n cael eu cadw gartref a'u cadw i ffwrdd o'r cysylltiadau a fyddai fel arall yn creu mwy o risg. Yr ofn yw y bydd plant nad ydyn nhw yn yr ysgol mewn amgylcheddau mwy peryglus fyth.'
'Pe byddwn i'n meddwl y byddai'r bobl ifanc hynny wir yn aros gartref, wir yn hunanynysu, wir yn creu'r cyfnod hwnnw cyn y Nadolig i'w cadw'n ddiogel, byddwn i'n cael fy nenu at y syniad. Rwy'n ofni mai'r risgiau yw na fyddai hynny yn digwydd, y byddai'r plant hynny yn gwneud pethau mwy peryglus nag y bydden nhw yn yr ysgol. Mae'n well iddyn nhw fod yn yr ysgol.'
Wrth ddweud hyn, mae'r Prif Weinidog a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cefnogi'r hyn a fu yn farn y comisiynydd plant ac, yn wir, y Senedd hon, ers cryn amser—gwell iddyn nhw fod yn yr ysgol. Hyd yn oed yn y cyfnod atal byr, roedd ysgolion ar agor i blant hyd at flwyddyn 8. Nawr, rwy'n cydnabod bod cyfraddau achosion a throsglwyddo mewn rhannau o Gymru yn peri pryder mawr a bod ffigurau sy'n gysylltiedig â rhai ysgolion uwchradd hefyd yn peri pryder. Ond mae 'cysylltiedig â' a 'chyfrifol am' yn bethau gwahanol, ac nid ydym ni eto wedi gweld tystiolaeth gyhoeddedig sy'n dweud eu bod yr un peth. Nid wyf eto wedi gweld y dystiolaeth sy'n dweud bod y risg o fewn—ac rwyf yn golygu o fewn—terfynau ysgolion uwchradd yn cyfiawnhau eu cau i gyd. Yn wir, rydym ni wedi gweld cyflwyno gorchuddion wyneb gorfodol ym mhob rhan o'r ysgol, ac eithrio ystafelloedd dosbarth, i leihau'r risg honno ymhellach. Mae briffiau'r byrddau iechyd yn cyfeirio at ymddygiad y tu allan i giât yr ysgol, ac, fel y clywsom ni yn y Siambr hon, ac, yn wir, yn sylwadau agoriadol y Gweinidog, mai trosglwyddo rhwng aelwydydd sy'n cyflwyno mwy o broblem.
A nawr bydd disgyblion uwchradd yn wynebu mwy o demtasiwn, fel y dywedodd y Prif Weinidog, i wneud y pethau mwy peryglus hynny na fydden nhw wedi eu gwneud yn yr ysgol, yn bennaf oherwydd y bydd llawer ohonyn nhw yn ddigon hen i fod heb oruchwyliaeth gartref. Ond, i'r disgyblion ysgol uwchradd iau hynny na ddylen nhw fod gartref ar eu pennau eu hunain, mae'r posibilrwydd na fydd eu rhieni sy'n gweithio yn gallu cymryd amser o'u gwaith i ddarparu'r gofal hwnnw'n un gwirioneddol, gan na chânt bellach eu hystyried yn weithwyr allweddol, a byddwn yn awyddus i ddeall, gan y Gweinidog, pam y mae hynny'n wir.
Rwyf hefyd yn anhapus ynglŷn â'r rheoliadau hyn oherwydd nad ydyn nhw'n cymell ysgolion cynradd i aros ar agor. Deallaf mai'r sefyllfa ddiofyn gyfreithiol, os mynnwch chi, yw y dylen nhw aros ar agor beth bynnag, ond mae'r rheoliadau'n eithaf clir o ran canlyniadau ysgolion uwchradd yn anufuddhau i'r gyfraith. Felly, pam nad yw'r un peth yn wir ar gyfer rheoliadau ysgolion cynradd? Oherwydd yn lle hynny, mae gennym ni awdurdodau lleol sy'n diystyru, unwaith eto, awdurdod y Gweinidog addysg. Nawr, rwy'n deall yn llwyr yr angen i undebau'r athrawon ystyried diogelwch ac amodau gwaith eu haelodau—wrth gwrs fy mod i—ond gobeithiaf eu bod yn deall eu bod wedi mynd yn rhy bell yn hyn o beth.
Mae angen dal sylw ar yr awdurdodau lleol eu hunain hefyd, oherwydd ble mae eu hasgwrn cefn yn hyn o beth? Yn diystyru'r Gweinidog eto, beth yn eu barn nhw y mae hyn yn ei wneud i'w hawdurdod, yn enwedig pan yr oedden nhw, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wythnos yn ôl, yn annog y gwrthwyneb i'r hyn y maen nhw yn ei wneud nawr? Gweinidog, mae gennym ni safbwyntiau gwahanol ar lawer o bethau, ond dylai'r diffyg parch hwn i'ch swyddogaeth beri pryder i bob un ohonom ni, oherwydd mae hyn bellach wedi digwydd ddwywaith ar fater cau ysgolion, ac mae bron fel petai'r awdurdodau lleol yn ein pryfocio i ddileu eu cyfrifoldeb dros addysg.
Yn y cyfamser, hoffwn ddiolch yn fawr i ddisgyblion, rhieni a staff yr ysgol am eu gwaith caled parhaus yn yr holl ddryswch hwn, a dymuno Nadolig llawen a, gobeithio, heddychlon iddyn nhw. Diolch.
Fe fydd Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid y rheoliadau yma. Dwi'n credu y gellid bod wedi cymryd y penderfyniad i gau'r ysgolion uwchradd yn gynt, oherwydd yr hyn oedd wedi cael ei amlinellu gan y gell cyngor technegol ar 3 Rhagfyr, ond yn hytrach, mi wnaeth y Gweinidog ddisgwyl tan i'r prif swyddog meddygol orchymyn, mwy neu lai, fod angen i hyn ddigwydd, ac mae hynny wedi creu problemau.
Dwi'n credu y dylid bod wedi creu darpariaeth ar safle'r ysgol ar gyfer plant o deuluoedd sydd yn methu, neu'n methu fforddio trefnu gofal plant, hynny yw ar gyfer y plant iau yn yr ysgol uwchradd, yn enwedig efo cyn lleied o rybudd i deuluoedd bod yr ysgolion yn cau. Mae'r penderfyniad hwyr yn y dydd wedi creu llu o broblemau, ac mewn sawl achos, nain a thaid sy'n gorfod helpu, ac felly maen nhw eu hunain yn rhoi eu hunain mewn sefyllfa beryglus o ddal y feirws o bosibl. I lawer o bobl, does yna ddim dewis ond cario ymlaen i weithio a dibynnu ar deulu oedrannus i helpu, neu adael y plant eu hunain ac, yn glir, dydy hynny ddim yn sefyllfa dderbyniol. Felly, mi fyddai darpariaeth ar eu cyfer nhw, ar gyfer y teuluoedd hynny sydd yn methu trefnu gofal plant wythnos yma, wedi bod yn gam i'r cyfeiriad cywir, dwi'n credu.
Dwi'n parhau i fod yn bryderus iawn am y bwlch digidol. Fel mae'r BBC a Chomisiynydd Plant Cymru wedi'i ganfod, mae yna blant yn parhau i fod heb liniaduron; maen nhw yn ceisio cael mynediad at eu haddysg drwy beiriannau gemau, drwy Xboxes neu drwy ffonau symudol. Mae yna blant sy'n disgyn drwy'r rhwyd, ac er bod y Gweinidog yn teimlo bod y sefyllfa dan reolaeth, ddim dyna'r darlun sydd yn dod drwodd i mi drwy'r gwaith sydd yn cael ei gyfeirio ataf fi drwy waith achos ac yn y blaen. Ac felly, dyna pam mae Plaid Cymru yn galw am sefydlu cofrestr genedlaethol ar gyfer cadw trac o bwy sydd â chyfarpar digidol a phwy sydd efo'r cysylltedd band-eang, er mwyn wedyn medru darparu'r adnoddau ychwanegol rheini fel bod angen.
Yn olaf, yn sgil yr holl amharu ar addysg sydd wedi bod yn digwydd rŵan ers mis Mawrth, dwi yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi eu cynlluniau addysgol ôl-COVID yn fuan yn y flwyddyn newydd, a chyhoeddi sut maen nhw'n mynd i'w gweithredu nhw, a pha adnoddau ychwanegol fydd ar gael i ysgolion. Mi fydd angen ymdrech enfawr i gefnogi'n plant a'n pobl ifanc ni efo'u haddysg a'u lles meddyliol; mae angen hynny rŵan, ond mi fydd angen hynny am fisoedd, os nad blynyddoedd, i ddod, a gorau po gynted y cawn ni weld cynlluniau ar gyfer y cyfnod nesaf, a chraffu arnyn nhw yn adeiladol o'r meinciau cefn. Dwi'n awyddus iawn i gefnogi'r broses honno. Diolch.
Diolch. Nid oes yr un Aelod wedi gofyn am gael gwneud rhagor o ymyriadau, felly galwaf ar y Gweinidog Addysg i ymateb i'r ddadl. Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl y prynhawn yma? O ran y sylwadau a wnaed gan Mick Antoniw, mae Llywodraeth Cymru yn cytuno bod anghysondeb rhwng y pwerau galluogi a nodwyd yn y testun Cymraeg a'r testun Saesneg—cyfeirir atynt yn adran 45(3)(c) yn y testun Cymraeg, ac yn 45(3) yn y testun Saesneg. Gwall teipograffyddol yw hwn yn y testun Saesneg, nad yw'n effeithio ar ddilysrwydd y rheoliadau.
O ran ymgynghori, mae'n wir nad oedd unrhyw ymgynghoriad ffurfiol yn bosib, o ystyried y sefyllfa frys y cawsom ein hunain ynddi, er ein bod, o fewn awr i gael y cyngor gan y prif swyddog meddygol, wedi gallu cyfarfod â swyddogion o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac wedyn gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru i drafod y sefyllfa yr oeddem ni ynddi, ac nid oedd gwrthwynebiad gan y naill na'r llall. Rydym ni wedi trafod o'r blaen, o'r hyn yr ydym ni wedi ei ddysgu o'r cyfnod atal byr, rhai o'r materion y mae angen inni fod yn ymwybodol ohonyn nhw, gan roi sylw arbennig i addysg dysgwyr sy'n agored i niwed, ac rydym ni wedi ceisio rhoi hyblygrwydd i sicrhau y gellir darparu ar gyfer y dysgwyr hynny sy'n agored i niwed yn eu hysgol uwchradd neu golegau addysg bellach yn ystod yr wythnos hon.
Gan droi at y sylwadau a wnaeth Suzy Davies. Rydych chi yn llygad eich lle: mae cydbwysedd o agweddau negyddol a chadarnhaol y mae'n rhaid eu harchwilio yn ystod yr adegau hyn, ac mae gweithgarwch dadleoli plant y tu allan i leoliad a reoleiddir yn destun pryder i mi, ond mae'r cydbwysedd risgiau hynny'n newid, ac maen nhw'n newid yn gyflym. Roedd hi'n ofid mawr imi gael y cyngor gan y prif swyddog meddygol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond, ar ôl cael cyngor o'r fath, mae'n ddyletswydd arnaf weithredu arno. Fel y dywedais, gwnaethpwyd y cyhoeddiad o fewn oriau i gael y cyngor hwnnw. Ni allem ni fod wedi gweithredu yn gyflymach. Sylweddolaf y digwyddodd hynny ar fyrder, ond fy mlaenoriaeth drwy gydol hyn fu ceisio sicrhau bod plant yn dysgu wyneb yn wyneb cyhyd ag y gallwn ni wneud hynny. Ac, yn amlwg, oherwydd yr effaith ar hawliau plant, rhaid cael angen dybryd o ran iechyd y cyhoedd i warafun iddyn nhw eu hawl i ddysgu wyneb yn wyneb, ac, yn absenoldeb cyngor gan y Prif Swyddog Meddygol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, nid wyf ar fin gwadu'r hawliau hynny iddyn nhw, oni bai ein bod mewn sefyllfa frys, ac ni fyddwn wedi cael y cyngor hwnnw cyn hynny. Ond mae'n golygu y gwneir penderfyniadau, yn wir, ar fyrder
Cododd Siân Gwenllian a Suzy Davies fater gofal plant. A gaf i fod yn gwbl glir, nid ydym ni wedi gofyn i ysgolion nac addysg ddarparu gofal plant ers hanner tymor y Sulgwyn. Ni wnaethom ni ofyn i ysgolion ddarparu gofal plant yn ystod gwyliau'r haf nac yn ystod y gwyliau hanner tymor. Ond, yn amlwg, un o'r materion y mae addysgwyr yn teimlo fwyaf balch yn ei gylch yw, wrth iddyn nhw barhau i ddysgu wyneb yn wyneb, mae hynny'n caniatáu i'n gweithwyr allweddol, gan gynnwys aelodau o'n staff iechyd a gofal cymdeithasol, fwrw ymlaen â'u swyddi. Ac fe wn i fod llawer o athrawon yn teimlo'n falch iawn o'u swyddogaeth ar flaen y gad i ganiatáu i weithwyr rheng flaen eraill barhau i ofalu am bob un ohonom ni a'n diogelu. Ond gadewch i ni fod yn gwbl glir: nid ydym ni yn gofyn iddyn nhw ddarparu gofal plant; rydym ni'n gofyn iddyn nhw ddarparu addysg briodol. Ond, yn amlwg, mae hyn yn effeithio ar deuluoedd, ac rwy'n gresynu at hynny. Rwyf wirioneddol yn gresynu.
Soniodd Siân Gwenllian hefyd am fater rhaniad digidol. Rydym ni wedi gwneud cynnydd sylweddol. Mae llwyddiant Llywodraeth Cymru yn hyn o beth wedi'i nodi gan felinau trafod addysgol annibynnol y tu allan i Gymru. Ond, yn amlwg, mae angen i ni wneud mwy bob amser. Dyna pam yr ydym ni wedi sefydlu grŵp gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru i ddeall beth sy'n ein rhwystro o hyd rhag cefnogi dull dysgu o bell, digidol a chyfunol.
Rwy'n cwrdd â phenaethiaid bob wythnos. Heddiw, cyfarfûm â phennaeth dros dro ysgol gynradd Illtyd Sant ym Mlaenau Gwent, ac roedd hi'n fodlon cadarnhau wrthyf fod pob un teulu a oedd wedi gofyn am gymorth TG, boed hynny gyda chysylltedd neu gyda dyfais ddigidol, wedi cael y gefnogaeth honno sy'n angenrheidiol. Ac rydym ni'n gweithio'n agos gydag awdurdodau addysg lleol i nodi ysgolion nad ydyn nhw wedi bod yn y sefyllfa ffodus honno.
Gallaf gadarnhau bod offer a dyfeisiau TG newydd yn cael eu hanfon i ysgolion yn rheolaidd ac, erbyn mis Chwefror, rhagwelwn y byddwn wedi darparu 133,000 o ddarnau newydd o offer i ysgolion Cymru i fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Yn anffodus, mae pawb yn ddiwahân yn ceisio cael gafael ar offer TG ar hyn o bryd, ac rwy'n cydnabod y bu rhywfaint o oedi wrth ddarparu archebion rhai ysgolion, ond rydym ni yn gweithio, cyn gynted ag y gallwn ni, i fynd i'r afael â hynny, ac, fel y dywedais, erbyn mis Chwefror, rwy'n ffyddiog y byddwn ni wedi gallu dod o hyd i 133,000 o ddyfeisiau ychwanegol i ysgolion i sicrhau, lle mae'n rhaid i ni, yn anffodus, wneud y penderfyniadau hyn, y gall disgyblion barhau i ddysgu.
A gaf i ofyn i'r Gweinidog ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Wrth gwrs. O ran ysgolion cynradd, mae'n rhaid i ni gydnabod—mae'n rhaid i mi gydnabod—mai cyrff llywodraethu unigol sy'n gyfrifol am ysgolion cynradd, wedi'u cynghori gan eu hawdurdodau lleol. Mae cyngor Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir y dylai addysg gynradd barhau hyd at ddiwedd y tymor, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl athrawon sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed dros y tymor academaidd hwn. Mae wedi bod yn affwysol o heriol ac yn anodd, ac rwy'n ddiolchgar am eu hymdrechion. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn bleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.