– Senedd Cymru am 3:50 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Felly, fe symudwn ni ymlaen ac rwyf i am alw ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gyfres o gynigion sydd gerbron.
Yr wythnos diwethaf, fe welsom ni ddechrau rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru. Mae hynny'n amlwg yn newyddion calonogol a gobeithiol iawn. Er hynny, fe fydd y broses frechu yn cymryd amser, felly mae'n rhaid inni barhau i ganolbwyntio ein hymdrechion ni ledled Cymru ar helpu i reoli ymlediad coronafeirws. Ac yn anffodus, mae'r coronafeirws yn carlamu unwaith eto ledled Cymru. Mae'r enillion gwirioneddol a wnaed ar gost enfawr yn ystod y cyfnod atal byr wedi eu herydu. Mae cyfradd dreigl saith diwrnod coronafeirws ledled Cymru wedi codi i ymhell dros 400 o achosion fesul 100,000 o bobl. Ar hyn o bryd mae ymhell dros 2,000 o bobl yn ysbytai'r GIG yng Nghymru yn cael eu trin am y coronafeirws, ac fe welwn ni gynnydd parhaus yn nifer yr achosion coronafeirws a gadarnhawyd. Erbyn hyn mae yna fwy na 500 o bobl ychwanegol yng ngwelyau'r GIG yng Nghymru yn cael eu trin oherwydd coronafeirws nag yn y penllanw a gafwyd ym mis Ebrill.
Fel y nodais o'r blaen, y cyngor gan ein prif swyddog meddygol yw bod angen inni gymryd camau i'n helpu i ddechrau ar gyfnod y gwyliau gyda chyfradd heintio mor isel â phosibl. Heddiw, mae tri rheoliad diweddar yn cael eu trafod, sydd wedi cyfrannu at ein hymateb ni i'r pandemig.
Yn gyntaf, fe fydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y Prif Weinidog, ar 30 Tachwedd, wedi nodi cyfyngiadau ychwanegol ar gyfer Cymru gyfan o ran y sector lletygarwch. Fe ddarperir ar gyfer y mesurau pellach hyn gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020. Gan ddod i rym ddydd Gwener, 4 Rhagfyr, fe'u targedir at atal trosglwyddiad lle mae pobl yn cyfarfod dan do. Fe gawsom ni ddadl ar y materion hyn yr wythnos diwethaf. Felly, mae'n rhaid i dafarndai, bariau, bwytai a chaffis ledled Cymru gau erbyn 6 p.m. ac ni chaniateir iddyn nhw weini alcohol. Ar ôl 6 p.m., dim ond gwasanaethau cludo allan y byddan nhw'n gallu eu cynnig. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol cau lleoliadau adloniant dan do ac atyniadau ymwelwyr dan do. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r bobl a'r busnesau y mae'r cyfyngiadau hyn yn effeithio arnynt. Rwyf wedi gweld drosof fy hun y gwaith caled a wnaeth y busnesau hyn i geisio sicrhau bod eu busnesau nhw'n ddiogel rhag COVID. I liniaru'r effaith ariannol a chefnogi'r sectorau lletygarwch, hamdden a manwerthu, mae gennym becyn cymorth gwerth £340 miliwn. Mae hwnnw'n cynnwys cronfa arbennig o £180 miliwn ar gyfer busnesau lletygarwch a hamdden. Fe geir tystiolaeth wyddonol ac arsylwi cynyddol sy'n dangos peryglon lletygarwch o ran trosglwyddo clefydau. Yn unol â chyngor clir a pharhaus SAGE ar yr hyn sydd wedi gweithio mewn rhannau eraill o'r DU, mae arnaf i ofn bod angen y cyfyngiadau hyn i helpu i gyfyngu ar y trosglwyddiad.
Yn ail, mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol cau pob atyniad awyr agored, gan gynnwys ffeiriau. Mae'r rhain hefyd yn ei gwneud hi'n glir bod yn rhaid cau parciau trampolîn a pharciau sglefrio dan do. Fe ddaeth y mesurau pellach hyn i rym ddoe, ar 14 Rhagfyr.
Yn olaf, fe osodwyd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio a Chyfyngiadau Rhyngwladol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 ar 8 Rhagfyr. Mae'r rhain yn darparu bod yn rhaid i unigolyn y mae'n ofynnol iddo ynysu o ganlyniad i fod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif am goronafeirws bellach orfod ynysu am 10 diwrnod, yn hytrach na'r cyfnod o 14 diwrnod a oedd mewn grym yn flaenorol. Mae hyn yn dilyn cyngor y prif swyddog meddygol a SAGE, a rhoddwyd cyngor tebyg i weinyddiaethau eraill yn y DU, sydd i gyd yn dilyn y patrwm wrth newid yr amserlen ar gyfer hunanynysu yn eu Seneddau nhw eu hunain. Mae'r cyfyngiadau teithio rhyngwladol sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bobl fod mewn cwarantin wrth ddod i Gymru o wledydd arbennig wedi gostwng i 10 diwrnod yn yr un modd. Mae'r rheoliadau hyn yn caniatáu hefyd i blentyn y mae'n ofynnol iddo ynysu allu symud i aelwyd arall yn ystod y cyfnod ynysu os yw hyn yn unol â'r trefniadau presennol sy'n ymwneud â gofal a chyswllt â rhieni'r plentyn hwnnw.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ddiolchgar iawn i bobl a busnesau ledled Cymru am gadw at y cyfyngiadau hyn sy'n heriol iawn yn aml. Er hynny, maen nhw'n parhau i fod yn hanfodol ar gyfer diogelu ein GIG ac achub bywydau. Ddoe, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun rheoli COVID a ddiweddarwyd, gan gynnwys cyfres newydd o bedair lefel o rybudd. Mae'r cynllun yn disgrifio'r mesurau a fydd yn cael eu rhoi ar waith yn ôl cyfraddau'r feirws a lefel y risg. Rydym wedi trefnu i drafod cynnig sy'n ymwneud â'r cynllun hwn yn nes ymlaen yn ystod busnes heddiw. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig sydd gerbron a'r tair set o reoliadau. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch i chi. Rwy'n galw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Aelodau yn gwybod mai Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 yw'r prif reoliadau o ran coronafeirws yng Nghymru, ac, fel y dywedodd y Gweinidog, mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau a Swyddogaethau Coronafeirws Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020 yn diwygio'r prif reoliadau ac yn gwneud diwygiadau technegol hefyd i reoliadau presennol ar gyfyngiadau coronafeirws a swyddogaethau awdurdodau lleol.
Yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, rydym ni wedi cael cyfle i graffu ar y rheoliadau hyn, ac fe nododd ein hadroddiad yn y rheoliadau hyn bedwar pwynt o ran rhinweddau. Yn ein pwynt cyntaf, rydym ni'n nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Mae ein hail bwynt o ran rhinweddau yn tynnu sylw at yr effaith economaidd uniongyrchol sylweddol y bydd y rheoliadau'n ei chael ar fusnesau, yn enwedig o fewn y sector lletygarwch, neu ar y rhai sy'n darparu nwyddau a gwasanaethau i'r sector hwnnw. O ganlyniad i hyn, mae ein hadroddiad ni'n gofyn am wybodaeth ynglŷn â'r cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau. Mae ein trydydd pwynt o ran rhinweddau yn nodi rhai gwallau teipograffyddol yn y nodyn esboniadol i'r rheoliadau hyn, ac mae ein pedwerydd pwynt yn tynnu sylw at y ffaith nad oes yna asesiad effaith rheoleiddiol wedi cael ei baratoi ar gyfer y rheoliadau. Eto i gyd, rydym ni wedi gofyn am eglurhad ynghylch pryd mae'r Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi ei hasesiad integredig cryno o effaith.
Rwyf i am droi nawr at yr ail gyfres o reoliadau, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio a Chyfyngiadau Rhyngwladol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020, a ddaeth i rym, fel y dywedodd y Gweinidog, ar 10 Rhagfyr. Maen nhw hefyd yn diwygio'r prif reoliadau yn ogystal â'r rheoliadau teithio rhyngwladol. Mae ein tri phwynt adrodd ni'n cwmpasu tir cyfarwydd, gan nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol, na fu yna ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau ac, yn olaf, nad oes asesiad o effaith y rheoliadau hyn ar gydraddoldeb.
Gan droi nawr at Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020, sydd unwaith eto yn diwygio'r prif reoliadau hefyd ac a ddaeth i rym ddoe, mae'r cyntaf o'n dau bwynt adrodd yn nodi sylwadau Llywodraeth Cymru yn y memorandwm esboniadol ynghylch effaith y rheoliadau hyn ar hawliau dynol. Serch hynny, rydym ni wedi nodi bod y sylwadau yn y memorandwm esboniadol yn gyfystyr yn unig â'r datganiad bod cyfiawnhad a chymesuroldeb i'r rheoliadau. Nid oes dadansoddiad o sut y daethpwyd i'r casgliad hwnnw. Fe nododd ein hail bwynt adrodd ni'r diffyg ymgynghori ffurfiol ar y rheoliadau, er ei fod yn cydnabod amgylchiadau cyflwyno'r rheoliadau hyn. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch i'r Gweinidog am gynnig y rheoliadau'r prynhawn yma. I'r rhai sy'n gwylio ein trafodion ni'r prynhawn yma, efallai y byddan nhw'n ei gweld hi'n rhyfedd braidd—ac mae hon yn ddadl a gawsom ni sawl gwaith yn y Siambr hon—ein bod ni'n pleidleisio i roi gorfodaeth, neu roi grym, i'r rheoliadau sydd wedi bodoli ers bron pythefnos erbyn hyn, ac a gaiff eu hadolygu ddydd Gwener, yn ôl yr hyn a ddeallaf, o dan weithdrefnau arferol Llywodraeth Cymru.
Mae ein safbwynt hirsefydlog ni ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig yn golygu y byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn eitem 5, sy'n effeithio ar y sector lletygarwch. Rydym ni'n nodi bod y cyfyngiadau teithio y mae Llywodraeth Cymru wedi eu haddasu yn ystod y cyfnod yn caniatáu teithio i Loegr i ardaloedd haen 2 a haen 1, lle gallai trigolion Cymru fwynhau lletygarwch ac yna deithio'n ôl i Gymru—rhywbeth na fyddwn i'n ei argymell, ond mae'n cael ei ganiatáu yn yr argymhellion. Ac rydym ni'n anghytuno bod y cyfyngiadau hyn yn cwmpasu Cymru gyfan, o ystyried y gwahanol gyfraddau o'r feirws ledled y wlad, yn enwedig yn y gogledd-orllewin, lle byddai rhai o'r lleoliadau lletygarwch hyn yn gallu parhau i fasnachu pe byddai'r rheolau'n caniatáu hynny. Felly, fe fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn hynny. Rydym ni'n nodi hefyd bod llawer o'r lletygarwch y mae pobl yn ei fwynhau mewn safleoedd trwyddedig wedi symud i leoliadau preifat, ac mae tystiolaeth gynharach wedi dangos bod y lleoliadau preifat hynny'n golygu bod pobl yn osgoi'r rheolau ac mae cyfraddau uwch o drosglwyddiad.
Eitem 6: rydym ni o'r farn fod hwn yn fesur synhwyrol a rhagofalus, gan ostwng y cyfnod ynysu o 14 diwrnod i 10 diwrnod, ac rydym ni'n credu bod y dystiolaeth yn cefnogi hyn. Serch hynny, mae problem wirioneddol o ran pobl yn cadw at y rheolau ynysu. Mewn rhai achosion, dim ond 20 y cant o'r boblogaeth mewn gwirionedd sy'n cytuno i hunanynysu, ac fe fyddai'n dda iawn gennyf glywed ymateb y Gweinidog ynghylch pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio eu defnyddio wrth gyfathrebu i sicrhau bod mwy o bobl yn cadw at wrth reolau hunanynysu. Rwy'n nodi'r stori sy'n cylchredeg heddiw am Drafnidiaeth Cymru, sef busnes sy'n eiddo i'r Llywodraeth, yn dweud wrth rai aelodau o'i staff i ddiffodd yr ap profi, olrhain a diogelu fel y gall y busnes barhau i weithredu. Felly, fe fyddwn i'n croesawu clywed y Gweinidog yn dweud rhywbeth am y cyfarwyddyd penodol hwnnw gan un o gwmnïau Llywodraeth Cymru i'w weithwyr ei hun.
Fe fyddwn ni'n atal pleidlais ar eitem 7. Er y gallwn ni ddeall y teimladau y tu ôl i rai o'r cyfarwyddiadau hyn ar eitem 7, credwn, unwaith eto, gan ei fod yn ddull sy'n cwmpasu Cymru gyfan, fod rhywfaint o'r dystiolaeth yn dangos y gallai rhai ardaloedd ganiatáu i rai o'r atyniadau hyn barhau i ddarparu cyfleusterau lletygarwch mewn digwyddiadau awyr agored, parciau sglefrio a thrampolinau lle mae cyfraddau'r feirws yn isel. Yn hytrach na dull ar gyfer Cymru gyfan, credwn y byddai'n llawer gwell cael dull mwy lleol o ymdrin â'r agwedd benodol hon, a dyna pam y byddwn yn ymatal, oherwydd mae'n amlwg bod y digwyddiadau hyn a drefnwyd yn cynnal asesiadau risg. A bydd pobl yn amlwg yn parhau i deithio i rai ardaloedd o Gymru, ac os gellir eu lletya mewn amgylchedd diogel, rydym ni o'r farn y gallai fod yn synhwyrol caniatáu i rai o'r atyniadau hyn barhau. Felly dyna pam, fel Ceidwadwyr Cymreig, y byddwn ni'n ymatal ar eitem 7.
Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog yn sôn am amrywiolyn newydd y feirws, yr N501, nad yw'r cyfyngiadau hyn yn dylanwadu arno, ond fe allai effeithio ar gyfyngiadau a gaiff eu cyflwyno eto. Rwy'n nodi nad ydym wedi rhoi sylw ar lawr y Siambr i'r amrywiolyn newydd hwn o'r feirws, sydd yn y pen draw wedi cael effaith ar ein dealltwriaeth o'r feirws ledled y DU. Nid mater i Gymru yn unig yw hwn, ac felly da o beth fyddai iddo roi rhywfaint o wybodaeth inni, ar ddiwedd ei grynhoad ef o'r cyfyngiadau hyn, am sut y bydd yn rhaid addasu'r cyfyngiadau o bosibl i ddarparu ar gyfer yr amrywiolyn newydd, sydd, yn ôl yr hyn a ddeallwn ni, yn amlwg yn helpu i gyflymu'r broses o ymledu'r feirws mewn cymunedau, nid yng Nghymru yn unig, ond mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Gwnaf ddelio efo'r rheoliadau yn eu tro. Eitem 5 yn gyntaf, yr eitem sydd wedi bod yn destun y mwyaf o drafod, mae'n siŵr. Yn wir, roedd hi'n destun dadl yma yn y Senedd yr wythnos diwethaf, ac oherwydd hynny mi gadwaf fy sylwadau i'n fyr. Mae fy safbwynt i a Phlaid Cymru ar y record yn barod ar hwn, ac mi wnaf siarad yn ehangach am ein safbwynt ni ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran y pandemig yn y ddadl ar gyfyngiadau coronafeirws newydd o dan eitem 17 y prynhawn yma.
Dydy ein safbwynt ni ddim wedi newid ar y rheoliadau cyntaf yma. Mi wnaethom ni ymatal wythnos yn ôl, nid oherwydd ein bod ni'n gwrthwynebu cyfyngiadau—rydyn ni'n gallu gweld difrifoldeb yr achosion mewn rhannau sylweddol o Gymru, ac mi wnes i hi'n glir ein bod ni'n gefnogol i gymryd camau dwys i ymateb i hynny ac i geisio atal lledaeniad pellach—ond diffyg lojic rhai elfennau a oedd yn ein pryderu ni bryd hynny, y gwaharddiad llwyr ar alcohol a'r ffaith bod llefydd fel bwytai yn gorfod cau yn gynnar iawn gyda'r nos, lle mae'r dystiolaeth am rôl llefydd felly yn lledaeniad y feirws yn ddigon prin. Ein consyrn ni, yn syml iawn—ac mae hyn yn berthnasol i bob un rheoliad yr ydym ni yn ei drafod—os ydy pobl yn methu gweld rhesymeg y camau sy'n cael eu cymryd, bydd hynny'n tanseilio ymddiriedaeth yn y Llywodraeth a'r gallu wedyn i ddelio efo'r pandemig. Ac mae'r rhesymeg, wrth gwrs, yn cael ei chwestiynu fwyaf mewn ardaloedd sydd â niferoedd cymharol isel o achosion. Ni all yr un ardal ystyried ei bod hi'n ddiogel, wrth reswm, ond mae'n ychwanegu at y ddadl hefyd am amrywio'r ymateb o ardal i ardal. Mi gawn ni drafod mwy ar hynny yn nes ymlaen heddiw hefyd.
At eitem 6, mi gefnogwn ni honno. Mae'r dystiolaeth i'w gweld yn ddigon cryf i ni ar gyfiawnhad gostwng y cyfnod hunanynysu ar ôl teithio dramor o 14 i 10 diwrnod. Mae yna gyfiawnhad amlwg hefyd dros ganiatáu i blentyn sy'n hunanynysu symud rhwng cartrefi dau riant, er enghraifft.
At eitem 7, mi gefnogwn ni—a dwi'n nodi bod y Ceidwadwyr wedi dweud y byddan nhw'n ymatal—mi gefnogwn ni hyn oherwydd mae angen y rheoliadau yma er mwyn cyflwyno newidiadau sydd yn berffaith resymol i fi: yr angen, er bod neb eisiau bod yn y sefyllfa yma, i gau atyniadau dan do, sinemâu ac ati, galerïau, amgueddfeydd ac yn y blaen.
Mae gen i gonsyrn ynglŷn â rhai atyniadau awyr agored lle dwi'n meddwl bod y dystiolaeth dros awyr iach a'i rôl o yn ymateb i'r pandemig yma yn gryf iawn erbyn hyn. Mae gen i e-bost, yn digwydd bod mae o'm hetholaeth i, ond mae'n gynrychioladol o beth sy'n digwydd mewn etholaethau eraill hefyd, dwi'n gwybod. Busnes sydd yn rhedeg tripiau cwch yn Ynys Môn oedd wedi gwerthu nifer uchel o docynnau, fel mae'n digwydd, ar gyfer tripiau dros y Nadolig. Maen nhw bellach yn gorfod talu'r arian hwnnw yn ôl. Maen nhw'n dweud, 'Ydyn, rydym ni'n chwarae'n rhan', ac maen nhw'n sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa, fel mae pob un ohonom ni, ond unwaith eto yn gwneud y pwynt bod angen cefnogaeth uwch, mwy dwys yn ariannol i fusnesau, bod angen mwy o rybudd, mwy o wybodaeth ynglŷn â'r hyn sydd yn digwydd. Mae'r perchennog busnes yma yn dweud bod yna lawer o fusnesau mae o'n siarad â nhw sydd yn dal ddim yn gwybod bod yna orchymyn arnyn nhw i gau. Felly, mae'r neges yma sydd yn codi dro ar ôl tro drwy gyfnod y pandemig: 'Mae yna ddiffyg eglurder yn yr achos yma. Pam bod angen i ni gau? Siawns ein bod ni wedi gwneud popeth, ond rydym ni'n derbyn bod yn rhaid; plîs wnewch chi wneud yn siŵr bod y cyfathrebu yn well ar bob cyfle?'
Fel dwi'n dweud, mae yna rannau o'r rheoliadau, wrth gwrs, sydd yn bwysig, felly mi fyddwn ni'n cefnogi ond efo'r apêl yna unwaith eto ar Lywodraeth: mae'n rhaid cael y cyfathrebu'n eglur ar hyn.
Diolch. Ni fynegodd unrhyw Aelod ei fod yn dymuno ymyrryd, felly rwyf am alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n diolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei sylwadau a'i bwyntiau adeiladol fel arfer inni ymateb iddynt, nid yn unig heddiw. Ond rwy'n credu mai'r peth gorau fydddai pe bawn i'n ysgrifennu at y pwyllgor i ymdrin â'r holl sylwadau a wnaeth ef er mwyn parchu'r lefel o fanylder sydd ganddo.. Ac rydym ni'n awyddus i sicrhau, gan fod angen inni barhau i weithredu, ac fe fydd yna angen inni barhau i weithredu am rai misoedd eto o leiaf, ein bod ni'n ystyried y pwyntiau defnyddiol a wnaeth wrth graffu ar y modd yr ydym ni'n gweithredu'r rheoliadau priodol o ran eu hystyr gyfreithiol nhw, a hefyd yn ymdrin â'r pwyntiau o ran cyfathrebu y gwnaeth Rhun ap Iorwerth sôn amdanyn nhw ar ddiwedd ei gyfraniad ef.
Wrth gwrs, y gwir amdani yw ein bod ni'n gweithredu'r rheoliadau hyn yn unol â rheolau'r sefydliad hwn. Fe wneir honno'n ddeddfwriaeth gadarnhaol, yn union fel y gwnaethom drwy gydol yr argyfwng hwn, ac rwy'n teimlo nad yw'r pwyntiau a wna Andrew R.T. Davies yn rhoi ystyriaeth i'r ffaith inni weld misoedd ar fisoedd o ddeddfu yn y modd hwn. Nid wyf i o'r farn fod yna unrhyw beth anarferol yn hynny; y gwir amdani yw bod yn rhaid inni gymryd camau eithriadol ar gyfer yr ymateb, a defnyddio'r gweithdrefnau eithriadol sydd gan y Senedd hon ar waith i wneud hynny. Rydym ni ynghanol ton gyflymach o'r coronafeirws. Pe byddem yn dweud nad oes gan y Llywodraeth yr hawl i weithredu, na fyddai'r Llywodraeth yn gallu gweithredu i amddiffyn pobl ledled Cymru wrth i'r sefyllfa newid heb inni wneud penderfyniad cadarnhaol ymlaen llaw, yna fe fyddem ni, yn ddiamau, yn gwneud sefyllfa pobl Cymru yn llai diogel, ac fe fyddai'r Llywodraeth hon yn llai galluog i gadw ein pobl ni'n ddiogel. Nid wyf i'n bychanu difrifoldeb y sefyllfa wirioneddol enbyd o'r Llywodraeth yn deddfu yn gyntaf ac yna'n gofyn am gymeradwyaeth wedi hynny, ond dyna, rwy'n ofni, yw difrifoldeb gwirioneddol y sefyllfa. Mae hyn hefyd, wrth gwrs, o ran y bwlch, yn caniatáu i'r pwyllgor a gadeirir gan Mick Antoniw ddarparu ei adroddiadau craffu i'r Aelodau eu hystyried.
Rwy'n croesawu'r gefnogaeth a nododd llefarydd y Ceidwadwyr o blaid symud i 10 diwrnod o hunanynysu, o ran gwella'r cyfathrebu. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym ni'n ymdrechu'n barhaus i'w wneud bob amser. Rwy'n credu ein bod ni wedi bod yn eglur iawn am y negeseuon sydd gennym ni. Mae gwybodaeth newydd ar gael gan Lywodraeth Cymru heddiw o ran y genadwri ehangach am y coronafeirws a'r Nadolig, a gofyn i bobl wneud y peth iawn. Rwy'n credu y dylai'r Aelodau ar draws y pleidiau roi ystyriaeth i hynny a'i gyfathrebu ac annog etholwyr ledled y wlad ac o unrhyw duedd wleidyddol i ailfeddwl am yr holl ddewisiadau a wnawn ni. Fe fyddwch chi'n clywed Gweinidogion o bob un o'r pedair Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn gofyn i bobl ledled y DU wneud hynny.
Ac o ran yr ap, nid wyf i wedi clywed y stori am Drafnidiaeth Cymru y cyfeiriwyd ati, ond rwyf i'n dweud yn eglur iawn y dylid parhau i ddefnyddio'r ap ac fe fyddaf i'n annog cynifer o bobl â phosibl i'w lawrlwytho. Nid wyf yn credu y dylai unrhyw fusnes fod yn gofyn i unrhyw un ddileu'r ap gan y byddai'n effeithio ar weithrediad eu busnes nhw. Mae'r ap yno i helpu i gadw pobl yn ddiogel, gan gynnwys y bobl y byddech chi'n gweithio yn eu hymyl mewn busnes, pe byddech chi'n cael eich cynghori i hunanynysu oherwydd y risg i chi a'ch cydweithwyr chi o bosibl, ac nid wyf i'n credu y gallwn fod yn gliriach ynglŷn â hynny.
O ran eich cais parhaus chi am ddull cyfyngedig o weithredu wedi'i dargedu, ni fu'n glir erioed beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd. Ond mae wedi bod yn wir bob amser, ers ichi ddechrau galw am y dull penodol hwnnw o weithredu pan wnaethoch ddychwelyd i'r swydd hon ar fainc flaen y Ceidwadwyr, ein bod ni wedi cael cyngor clir iawn gan y grŵp cynghori technegol bod mesurau Cymru gyfan ar hyn o bryd yn gymwys, yn symlach ac yn haws i'r cyhoedd eu deall a'u dilyn—yn symlach ac yn haws i bob un ohonom allu gweithio gyda'n gilydd i helpu i ddiogelu Cymru. Wrth gwrs, rwy'n sylweddoli bod ganddo ef farn wahanol, ond mae cyngor clir iawn gennym ni yn cael ei gyhoeddi—a'i gyhoeddi'n rheolaidd—sy'n tanlinellu safbwynt y Llywodraeth.
O ran yr amrywiolyn newydd, ydw, rwy'n ymwybodol bod gennym ni lond het o achosion yng Nghymru eisoes. Rwy'n disgwyl rhagor o wybodaeth yn y dyddiau nesaf wrth inni wneud mwy o ddilyniannu genomig o ganlyniadau profion yma yng Nghymru, ac fe fydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi mwy o wybodaeth pan fydd hynny ar gael. Nid yw'n eglur a yw'r amrywiolyn newydd yn un sy'n lledaenu'n gyflymach, ond, beth bynnag am hynny, fe wyddom fod y coronafeirws yn ymledu'n gyflym gyda'r amrywiolion y buom ni'n ymwybodol ohonyn nhw eisoes. Y newyddion cadarnhaol yw nad ydym yn credu y byddai'r amrywiolyn penodol hwn yn effeithio ar effeithiolrwydd brechlyn, sef y prif bryder am yr amrywiolyn yn y mincod o Ddenmarc a achosodd i fesurau eithriadol gael eu cymryd yn hwyr iawn yn y nos dros benwythnos, fel y gŵyr swyddogion Llywodraeth Cymru a minnau, cyn inni ddod i'r Senedd hon i ofyn am gymeradwyaeth.
O ran eich pwynt ehangach chi ynglŷn â gwrthwynebu amrywiaeth o gyfyngiadau, rwy'n credu'n wir ei bod hi'n beth rhyfedd iawn eich bod chi'n parhau i wrthwynebu cyfyngiadau, o ystyried y sefyllfa barhaus a'r enbydrwydd sydd yn ein gwlad ni. Ar y gorau, rwy'n credu ei bod yn anystyriol iawn mynnu gwelliannau ac ar yr un pryd wrthwynebu mesurau i gyflawni gwelliannau y mae adolygiad o dystiolaeth nid yn unig gan ein grŵp cynghori technegol ni, ond hefyd SAGE, yn tystiolaethu iddyn nhw dro ar ôl tro. Rwy'n credu y dylai pobl yng Nghymru gael cysur yn y ffaith ein bod ni'n cael ein cyngor o ran iechyd y cyhoedd gan SAGE, gan y Grŵp Cyngor Technegol, gan ein prif swyddog meddygol ni ein hunain, ac, wrth wneud hynny, rydym yn cael ein cefnogi i gymryd y mesurau hynny drwy ddilyn dull eang pob un prif swyddog meddygol ledled y Deyrnas Unedig wrth wneud felly. Ac rwy'n credu mai dyna fydd fy mhrif ffynhonnell i o'r cyngor rwy'n ei gymryd o ran iechyd y cyhoedd, yn hytrach na barn unigol Mr Davies.
O ran pwynt Rhun ap Iorwerth am y rhesymeg, y dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio ledled y DU yw'r rhesymeg wrth wraidd cyflwyno'r cyfyngiadau hyn, ac eto, yr un dystiolaeth oddi wrth SAGE a'r Grŵp Cyngor Technegol—tystiolaeth gadarn o'r hyn sy'n gweithio. Felly, dyna pam rydym ni wedi cyflwyno'r cyfyngiadau hyn. O ran eich pwynt ehangach chi am gyfathrebu, rydym yn edrych yn gyson ar sut yr ydym yn ceisio cyflwyno neges glir a syml, yng nghanol yr holl sŵn sydd o gwmpas, gyda'r holl amgylcheddau mwy cystadleuol eu naws, o fewn yr awyrgylch gwleidyddol, ond o fewn ystod o gyfryngau cymdeithasol a sianelau eraill hefyd. Ac rydym yn ceisio sicrhau, os oes modd, ddull mwy cyson gan y pedair gwlad o ran y genadwri i'r cyhoedd.
Mae'n ymwneud â sut rydym ni'n helpu pobl i wneud dewisiadau, ond yn y pen draw mae gan y Llywodraeth gyfrifoldebau y mae angen inni eu cymryd, ac yna mae gan bob un ohonom ni, pob unigolyn yn ein gwlad ni, gyfrifoldebau i ystyried yr hyn y dylem ni ei wneud i gadw ni ein hunain a'n gilydd yn ddiogel. Rydym ni'n parhau i fod ynghanol pandemig enbydus ac anorffenedig a fydd yn hawlio bywydau llawer mwy o ddinasyddion Cymru cyn iddo ddod i ben. Mae hynny'n helpu i danlinellu pam mae'r mesurau hyn yn parhau i fod yn bwysig a pham maen nhw'n ymateb cymesur i lefel y bygythiad yr ydym ni i gyd yn ei wynebu. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau heddiw.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 5. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn bleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 6. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig yw derbyn y cynnig o dan eitem 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf bleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.