– Senedd Cymru am 5:13 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith y pandemig ar y Gymraeg. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch iawn o godi i gymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Senedd, adroddiad ar effaith argyfwng COVID ar yr iaith Gymraeg. Rwyf am ddechrau, wrth gwrs, drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor, ein tystion a'n staff, sydd wedi parhau i gefnogi ein gwaith drwy'r pandemig. Rwy'n ddiolchgar iawn iddynt i gyd. Wrth gwrs, mae'r argyfwng COVID wedi cael effaith enfawr ar bob agwedd ar fywyd yng Nghymru, ac yn ôl y disgwyl, mae wedi cael effaith enfawr ar y gweithgareddau a'r sefydliadau rydym yn dibynnu arnynt i hyrwyddo'r Gymraeg ac i ddarparu cyfleoedd i bobl ei defnyddio. Cawsom gyfoeth o dystiolaeth ac yn y cyfnod byr o amser sydd ar gael imi heddiw, ni allaf ond tynnu sylw at rai agweddau ar ein hadroddiad.
Gwelsom ganslo digwyddiadau wrth gwrs—yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd, ac yn bwysig iawn, myrdd o ddigwyddiadau bach a lleol a gynhelir gan sefydliadau fel y mentrau iaith, pob un ohonynt yn gyfleoedd hollbwysig i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn eu cymunedau ac ar lwyfan cenedlaethol. Nawr, mae'r canslo wedi creu risgiau economaidd wrth gwrs, a gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol iawn o hynny. Mae 2,000 o swyddi'n ddibynnol ar yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn. Dywedodd yr Urdd wrthym eu bod wedi colli cyfanswm o £14 miliwn ac y byddant mewn dyled o £3.5 miliwn erbyn i'r flwyddyn ariannol ddod i ben. Bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ailflaenoriaethu ei chyllideb wrth gwrs, a chafodd £2 filiwn o gyllideb yr iaith Gymraeg ei hailflaenoriaethu a'i defnyddio mewn mannau eraill, ac nid oes gan y pwyllgor unrhyw feirniadaeth o hynny o gwbl. Ond rydym yn pryderu na ddylai'r sefyllfa honno barhau, ac rydym yn argymell na ddylai ailddyrannu cyllid ar gyfer y Gymraeg yn y tymor byr arwain at newidiadau ariannu mwy hirdymor, a allai amharu ar gyflawni nodau 'Cymraeg 2050'.
Mynegodd tystion bryderon difrifol am y gweithlu yn y sector pwysig hwn mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft, mae gennym unigolion medrus iawn a fydd yn ei chael yn hawdd dod o hyd i waith arall, ac a allai gael eu colli'n barhaol i sector y Gymraeg. Tynnodd yr Urdd sylw at y broblem fod gweithwyr ieuenctid cymwysedig a allai weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn werth eu pwysau mewn aur, ond gallant weithio drwy gyfrwng y Saesneg hefyd wrth gwrs, a gallant hefyd weithio dros y ffin. Maent yn pryderu'n fawr na allant gadw'r gweithlu hwnnw.
Agwedd hanfodol arall y tynnodd tystion sylw ati oedd y ffaith bod y sefydliadau a'r mudiadau hyn yn aml yn darparu swyddi o ansawdd da mewn cymunedau lleol lle gall fod yn anodd dod o hyd i waith da, a'u bod yn chwarae rhan bwysig yn cynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol. Am y rheswm hwn, rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod swyddi sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo'r Gymraeg ledled Cymru yn ganolog i'w chynllun adferiad economaidd.
Clywsom lawer gan dystion am effaith gwaith yn mynd ar-lein, a chafwyd llwyddiannau enfawr. Cynhaliodd yr Urdd, yn lle'r Eisteddfod go iawn, berfformiadau o gartrefi a gerddi cystadleuwyr. Cymerodd saith mil o bobl ran ac roedd 27 awr o ddarlledu. Aeth Tafwyl, ein gŵyl boblogaidd yng Nghaerdydd, ar-lein unwaith eto a chyrraedd cynulleidfa fyd-eang o 8,000 o bobl. Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod AmGen, yn gyflawniad anhygoel—360,000 o wylwyr rhyngwladol ar draws y byd, a chreodd Merched y Wawr bodlediadau a gafodd 10,000 o wrandawyr yn eu chwe wythnos gyntaf.
Nawr, roedd hyn yn gyflawniad enfawr yn wir, ond mae yna broblemau. Nododd tystion nad oes gan rai pobl sgiliau digidol, ac roedd Merched y Wawr yn cynnal rhaglenni i geisio annog hynny. Mae hynny'n anodd iawn gyda chadw pellter cymdeithasol, wrth gwrs. Mae problemau gyda mynediad at offer ac offer priodol, yn ogystal â gwybod sut i'w ddefnyddio ac wrth gwrs, problem barhaol mynediad at fand eang wrth gwrs, y gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol ohoni, sy'n arbennig o amlwg mewn cymunedau gwledig. Wrth gwrs, y cymunedau gwledig hynny yw llawer o'n cymunedau lle mae'r Gymraeg yn iaith naturiol.
Dyna pam rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn diweddaru ei chynllun technoleg iaith Gymraeg, gan ystyried y llwyddiannau ond gan edrych hefyd ar yr hyn sydd angen ei wneud nawr. Ac rydym wedi argymell y dylid sicrhau bod cyllid a hyfforddiant ar gael i sector y Gymraeg er mwyn sicrhau y gellir adeiladu ar y llwyddiannau digidol y maent wedi'u cyflawni, a bod eraill yn gallu cael mynediad at hynny.
Roedd tystion yn glir, serch hynny, er gwaethaf y cyflawniadau ar-lein, nad yw gwaith ar-lein yn gwneud y tro yn lle pethau eraill. Clywsom bethau da iawn am nifer y bobl sy'n dysgu Cymraeg ar-lein, ond daw adeg pan fydd y bobl hyn am ddefnyddio'r Gymraeg honno wyneb yn wyneb gyda phobl go iawn. Roedd y sefydliadau i gyd yn glir eu bod am ddychwelyd i ddarpariaeth wyneb yn wyneb, ac mae'n bwysig iawn eu bod yn cael eu cynnal drwy'r cyfnod anodd hwn fel y byddant yno. Mae'r pwyllgor yn unfrydol ac yn teimlo'n gryf iawn am hynny. Ni allwn ganiatáu i'n sefydliadau hanfodol gael eu gwanhau'n derfynol.
Mae'n ddiddorol ac nid yw'n syndod fod ein canfyddiadau a'n hargymhellion yn cael eu hadlewyrchu yng nghanfyddiadau is-grŵp cyngor partneriaeth y Gymraeg a oedd yn edrych ar effaith COVID ar grwpiau cymunedol Cymraeg eu hiaith. Ac edrychaf ymlaen at ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i'w hargymhellion yn ogystal ag i'n hargymhellion ni.
Lywydd, efallai mai dyma fydd fy nghyfle olaf i siarad yn y Siambr hon fel Cadeirydd dros dro y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Mae wedi bod yn fraint enfawr i wasanaethu ein Senedd yn y rôl hon, ac rwyf am fynegi fy niolch i fy nghyd-Aelodau sydd wedi bod yn gymorth mawr ac yn gefnogol, ac i bawb sydd wedi rhoi tystiolaeth. Ac yn arbennig, hoffwn ddiolch i'n staff hynod sydd wedi gwneud gwaith rhagorol, yn ein galluogi i graffu'n effeithiol ar y Llywodraeth drwy'r cyfnod anodd hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i holl staff y Comisiwn, Lywydd. Mae'n rhyfeddol sut y maent wedi gallu ein cael ar-lein a'n galluogi i weithredu fel Senedd ar adeg pan fyddem wedi meddwl efallai y byddai hynny'n amhosibl. Edrychaf ymlaen at groesawu Bethan Sayed yn ôl i'w rôl fel Cadeirydd yn y flwyddyn newydd, ac at barhau i wasanaethu fel aelod o'r pwyllgor. Edrychaf ymlaen at y ddadl y prynhawn yma, ac at ymateb.
David Melding.
Diolch yn fawr, Lywydd—roeddwn bron â dweud 'Cadeirydd', oherwydd mae ein Cadeirydd dros dro ardderchog yn y pwyllgor ar yr ochr arall i'r Siambr. Ond rwyf am ddechrau drwy dalu teyrnged i Helen, sydd, ers 1999, wedi bod yn wasanaethwr ac yn rym mawr ym maes datganoli yng Nghymru a datblygiad ein sefydliadau gwleidyddol, ac mae wedi camu i mewn mor fedrus. Rydym i gyd yn edrych ymlaen, yn naturiol, at weld Bethan yn dychwelyd, ond yn onest, ni chollodd y pwyllgor ddim o'i ffocws, ac fe wnaethoch ddatblygu'r blaenoriaethau a sefydlwyd o dan arweiniad Bethan, ac mewn gwirionedd, mewn blwyddyn pan gafwyd y tarfu mwyaf anhygoel ar y Senedd gyfan yn ei threfniadau gwaith, gallasom ymdopi â hynny a chynhyrchu cyfres o adroddiadau ag iddynt ffocws pwysig iawn.
Roeddwn yn meddwl bod hwn yn ymchwiliad trawiadol iawn. Roedd yn weddol fyr, ond cawsom dystiolaeth ragorol ac awdurdodol yn fy marn i ynglŷn â sut y teimlwyd effaith COVID, ledled Cymru ond yn enwedig mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith, ac yna hefyd i'r holl seilwaith sydd yno'n ddiwylliannol a hefyd yn y sector addysg i hyrwyddo a gwella ac i ganiatáu i'r Gymraeg ffynnu'n llawn. Rwy'n credu ei bod yn briodol ein bod yn edrych ar 'Cymraeg 2050' a'r uchelgeisiau a nodwyd yno, a chymerodd amser hir i'r ddogfen honno ymddangos gan Lywodraeth Cymru—dim ond dwy neu dair blwydd oed yw hi. Bu bron inni gyrraedd ugeinfed pen-blwydd datganoli heb gynllun effeithiol ar gyfer sut y byddem yn gymdeithas ddwyieithog go iawn. Ac mae'n ddogfen bwysig iawn ac mae'r nodau y mae'n eu gosod ar gyfer y tymor canolig a'r tymor hwy yn wirioneddol bwysig i ni, a rhaid i ni werthuso sut y mae COVID wedi tarfu ar rai o'r patrymau cychwynnol hyn, oherwydd nid ydym am weld unrhyw ddirywiad ym màs ein cyhyrau—y seilwaith.
Nawr, fel y dywedodd Helen, mae'r Urdd a'r Eisteddfod a llawer o sefydliadau eraill wedi cyflawni cryn dipyn o weithgarwch, yn y sector diwylliannol ond hefyd wrth hyrwyddo'r iaith ac wrth sicrhau bod pobl sydd am gael mynediad at y Gymraeg ac at ddysgu Cymraeg yn gallu gwneud hynny ar lwyfannau digidol. Mae pob math o bersonoliaethau yn dweud wrthym nawr eu bod yn ceisio dysgu ychydig o Gymraeg, o ymhell y tu hwnt i ffiniau Cymru, ac mae'n dipyn o gwlt rhyngwladol bellach, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, ac er nad yw hynny'n ddigon da i ni, o leiaf mae wedi ennyn diddordeb llawer o bobl allan yno, sy'n sylweddoli'n sydyn, 'Mawredd, nid Saesneg yw'r iaith hynaf ym Mhrydain ond Cymraeg.' Felly, maent wedi manteisio. Mae'n ail orau da iawn, rwy'n credu, pan allwch gael rhywbeth sy'n cyfateb i Eisteddfod ddigidol, ond ail orau ydyw, ac rwy'n meddwl yn y dyfodol y byddwn am gadw'r pen digidol i bethau, oherwydd yr agwedd cydraddoldeb arno yn anad dim, o ran caniatáu i rai pobl na allant gyrraedd lleoliadau'n gorfforol allu gwneud hynny. Felly, mae manteision mawr yno, ac rydym wedi gweld y sefydliadau angori mawr yn ymateb yn barod iawn, a chredaf fod hyn yn dangos eu hiechyd sylfaenol a faint y dylem fod mewn partneriaeth â hwy i gyflawni ein nodau craidd ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n dal i bryderu braidd ynglŷn â phan ddaw'r ffyrlo i ben yn y diwedd a pheth o'r gefnogaeth yno ar hyn o bryd, oherwydd mae llawer o bobl broffesiynol iawn yn cael eu cyflogi yn y sefydliadau craidd hyn, ac mae'n hanfodol eu bod yn cael eu cadw ac nad ydym yn colli hynny, ac ar gyfer datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig, ond nid ardaloedd gwledig yn unig. Bellach mae gennym rannau o Gaerdydd lle mae'r iaith Gymraeg a'r economi o'i chwmpas yn bwysig iawn, a sector twf sydd â photensial mawr, felly rwyf am weld yr ochr drefol yn cael ei phwysleisio hefyd. Ond gadewch i ni wynebu'r peth, mae'r rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg cymunedol mewn ardaloedd gwledig neu drefi bach yn bennaf ac rydym yn diystyru rhai o'r rhain, fel y dywedodd un tyst, fel ardaloedd y cefnwlad. Wel, nid cefnwlad ydynt; maent yn rhan hanfodol o'n bywyd. Ac roeddwn yn meddwl am yr hyn a ddywedodd Helen am y strategaeth ddigidol a'r angen am gynllun gweithredu technoleg i adlewyrchu'r anghenion o'r newid cyflym i ddysgu Cymraeg ar-lein ac ar gyfer gweithgareddau diwylliannol, y byddwn am eu cadw pan fyddwn yn dychwelyd i'r byd corfforol—. Ond, mewn llawer o ardaloedd, nid oes ganddynt gysylltiadau gwych ac mae angen inni gofio hynny.
Felly, i gloi, Lywydd, credaf y dylem longyfarch yr holl sefydliadau hyn am eu gwaith rhagorol, ac rwyf am nodi'r Urdd a'r Eisteddfod yn benodol, ond mae llawer o rai eraill hefyd. Rhaid i ni sicrhau bod y fenter y maent wedi'i dysgu yn un ychwanegol ac nad yw'n disodli rhai o'r gweithgareddau craidd blaenorol, sydd yr un mor bwysig.
Fel mewn llawer o feysydd eraill, mae'r pandemig wedi dwysáu problemau a oedd yn bodoli ymhell cyn i'r pandemig daro, a dydy'r Gymraeg ddim yn eithriad, fel y mae'r adroddiad yma'n ei ddangos, yn anffodus. Darlun ansicr sydd yna am ba mor gadarn fydd dyfodol y Gymraeg. Mae'r argymhellion gan yr is-grŵp ar gynyddu defnydd y Gymraeg, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog heddiw, yn cadarnhau hynny ac yn codi cwestiwn ar wydnwch cymunedau Cymraeg a gwydnwch a digonolrwydd yr isadeiledd sydd yn ei le yn genedlaethol i gynnal ac adfywio'r Gymraeg yn wyneb yr holl heriau yma.
Nid yn unig effeithiau'r pandemig sydd yn bygwth ffyniant y Gymraeg, ond mae Brexit yn gwneud hynny hefyd. Fe gynahliwyd asesiad ar effaith ddeuol COVID a Brexit ar y Gymraeg, gan edrych ar bethau fel y farchnad dai gan y Cwnsler Cyffredinol. Mae'r asesiad a'r argymhellion y mae Gweinidog y Gymraeg wedi'u cyhoeddi heddiw yn fwy cul eu ffocws ar effaith y pandemig ar grwpiau cymunedol Cymraeg. Mi fyddai'n dda deall beth ydy'r berthynas rhwng y ddau asesiad a rhwng y ddau adroddiad, ac yn bwysicach, mae'n debyg, gwybod beth fydd yn digwydd iddyn nhw; beth fydd yn digwydd i argymhellion a chasgliadau'r asesiadau yma. Ac yn bwysicach na hynny, mae angen cynllun gweithredu i wynebu'r gyflafan sydd, o bosib, yn wynebu'r Gymraeg, ac mae angen bod yn glir pwy, o fewn y Llywodraeth, fydd yn arwain ar hynny.
Roedd y Llywodraeth yn barod iawn i dorri cyllidebau'r Gymraeg ar ddechrau'r pandemig, ond mae'n rhaid iddi hi fod yr un mor barod rŵan i weithredu ar yr holl dystiolaeth yma ac i roi arian yn ôl yng nghyllidebau'r Gymraeg, yn union fel y mae adroddiad y pwyllgor yn galw amdano fo. Roedd cyllidebau'r Gymraeg yn annigonol cyn y pandemig, ac mi hoffwn i roi ar y cofnod pa mor bryderus ydy'r newydd am ymosodiad seiber ar Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Torrwyd cyllideb swyddfa'r comisiynydd yn galed flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac fe rybuddiwyd yn 2016 bod angen buddsoddi yn systemau'r sefydliad er mwyn eu diogelu. Yn ôl dwi'n ei ddeall, oherwydd yr ymosodiad yma, mae gweithgareddau'r corff ar stop, i bob pwrpas, felly mae angen datganiad brys gan y Llywodraeth ar y sefyllfa a phob cefnogaeth i'r comisiynydd, yn ariannol ac fel arall, i adfer y sefyllfa, yn enwedig oherwydd diffyg ariannu dros nifer o flynyddoedd.
I gloi, un neges allweddol yn yr adroddiad i'r Llywodraeth ydy y dylai swyddi sy'n cefnogi hyrwyddo'r Gymraeg ledled Cymru fod yn ganolog i'w chynllun adfer ar gyfer yr economi. Ac, wrth gwrs, mi ddylai holl gynlluniau'r Llywodraeth gefnogi creu miliwn o siaradwyr, ond dwi ddim yn dal fy ngwynt o ystyried bod swydd y cyfarwyddwr addysg, o bob swydd—pennaeth adran addysg Llywodraeth Cymru—swydd a fydd yn greiddiol i yrru'r strategaeth miliwn o siaradwyr, bod hon wedi cael ei hysbysebu heb ofyn am unrhyw sgiliau yn y Gymraeg. Mae angen i'r Gweinidog a'r Prif Weinidog gymryd gafael yn y sefyllfa yma ar frys. Hoffwn i ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad, a dwi hefyd yn ategu sylwadau David Melding yn diolch i Helen Mary Jones am ei harweiniad cadarn. Ond dwi hefyd yn edrych ymlaen at gydweithio efo Bethan pan ddaw hi yn ôl. Diolch yn fawr.
Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg i gyfrannu—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad. Mae'r argymhellion yn ddefnyddiol, a byddaf i'n ymateb yn llawn ac yn ffurfiol iddyn nhw yn y flwyddyn newydd, gan fod y ddadl heddiw yn agos iawn at y dyddiad cyhoeddi. So, gaf i ymddiheuro nad ydw i wedi cael amser i ateb yn llawn ac yn ffurfiol erbyn heddiw? Ond dwi jest eisiau dweud fy mod i'n edrych ymlaen at wneud hynny'n fuan iawn.
Dwi'n deall pam fod y ddadl heddiw mor agos at y dyddiad cyhoeddi, achos mae hwn yn faes sy'n symud yn rili gyflym. Mae COVID-19 wedi effeithio ar ein holl feysydd polisi yma yn y Llywodraeth, a dŷn ni wedi addasu ein gwaith yn gyflym ers dechrau'r argyfwng i wneud yn siŵr bod Cymraeg 2050 yn aros ar y trywydd cywir.
Er enghraifft, dŷn ni wedi gwneud yn siŵr bod Cysgliad, y cywirydd sillafu a gramadeg ar-lein, ar gael am ddim i bob ysgol, pob unigolyn a phob cwmni bach yng Nghymru. Rŷn ni wedi cynnal ymgyrch Llond haf o Gymraeg i gefnogi rhieni, yn arbennig rheini sydd ddim yn medru'r Gymraeg, fel eu bod nhw'n gallu helpu plant mewn ysgolion Cymraeg. Rŷn ni hefyd wedi gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth Helo Blod ar gael ar gyfer cefnogi busnesau bach a'r trydydd sector.
Felly, gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad ein hunain, 'Effaith Covid-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg', yn ddiweddar iawn. Mae'r pandemig wedi trawsnewid ein ffordd ni o fyw. Beth mae angen inni ei wneud yw ailystyried sut rŷn ni'n ymwneud â phobl eraill yn ein cymunedau. Mae wedi gwneud inni feddwl am sut y gallwn ni ddefnyddio peth o'r arfer da rŷn ni wedi'i weld yn ystod y cyfnod hwn i ddylanwadu ar ddefnydd positif o'r Gymraeg yn y dyfodol. Rŷn ni wedi gweld pobl yn bod yn rili greadigol—rŷch chi wedi sôn am Tafwyl; mae'r Urdd wedi gwneud gwaith anhygoel ar-lein; yr Eisteddfod AmGen. Felly, mae yna lot rŷn ni wedi'i ddysgu, ac mae'n rhaid inni sicrhau ein bod ni'n cydio yn hynny ac yn sicrhau ein bod ni'n defnyddio hynny at y dyfodol.
Mae grwpiau cymunedol Cymraeg yn chwarae rhan allweddol yn ein bywydau ni yma yng Nghymru. Maen nhw'n creu sefyllfaoedd inni ddefnyddio'r Gymraeg gyda'n gilydd ym mhob rhan o'r wlad. Yn gynharach eleni, cyn i'r pandemig daro, fe wnes i sefydlu tri is-grŵp i gyngor partneriaeth y Gymraeg. Mae un o'r grwpiau, o dan gadeiryddiaeth Dr Simon Brooks, wedi edrych ar effaith COVID-19 ar ddefnydd iaith yn ein cymunedau ni. Penderfynodd yr is-grŵp gynnal arolwg o grwpiau cymunedol Cymraeg yn ystod y pandemig, a dwi'n ddiolchgar iawn i Simon a'i gyd-aelodau am eu gwaith trylwyr ac am baratoi'r adroddiad gwnes i ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf.
Dwi hefyd yn croesawu'r argymhellion gwnaethon ni eu cyflwyno heddiw. Fe wnes i gyhoeddi'r rheini y bore yma, a byddan nhw, gobeithio, yn ein helpu ni ddelio â rhai o'r heriau o'n blaenau ni. Mae'n rili ddiddorol gweld faint o'r rhain sy'n gyffredin gydag argymhellion y pwyllgor.
Er mwyn deall y sefyllfa yn ein cymunedau, paratowyd arolwg, ac fe wnaeth 1,092 o grwpiau cymunedol ymateb. Mae hwnnw'n nifer ardderchog, a hoffwn ddiolch i'r mentrau iaith am gydweithio â ni ar yr arolwg, ac am gysylltu gyda grwpiau cymunedol a'u hannog nhw i gyd i gymryd rhan. Cawson ni ymatebion gan bob math o grwpiau, gan gynnwys corau, capeli, canghennau Merched y Wawr a Sefydliad y Merched, cylchoedd meithrin, papurau bro, clybiau chwaraeon, a grwpiau dysgu Cymraeg. Diolch yn fawr i bob un am ymateb ac am roi o'u hamser i fod yn rhan o'r arolwg pwysig yma.
Felly, beth rŷn ni wedi'i gael yw darlun clir o beth sydd wedi digwydd ar lawr gwlad ers y cyfnod clo ym mis Mawrth—darlun sy'n gwneud imi boeni am ddyfodol gweithgarwch llawr gwlad Cymraeg. Dywedodd 80 y cant o'r grwpiau eu bod heb weithredu ers y cyfnod clo, a bod 68 y cant o'u gweithgareddau nhw heb ddigwydd. Wrth gwrs, mae'n ddealladwy mai rheoliadau COVID-19 oedd y prif reswm am hyn, ond roedd yna resymau eraill hefyd—aelodau ofn cwrdd, methu â chyrraedd gweithgareddau ar-lein oherwydd bod angen mwy o sgiliau cyfrifiadurol, fel roeddech chi wedi awgrymu. Mae dros hanner y grwpiau'n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr, ac mae gan bron 70 y cant o'r grwpiau gwirfoddol bobl sydd yn eu rhedeg nhw sydd dros 60 oed. Ond dwi'n falch o ddweud nad ydy'r darlun yn ddu i gyd—roedd 20 y cant o'r grwpiau wedi llwyddo i addasu eu gweithgareddau nhw mewn rhyw ffordd er mwyn gallu parhau, a llwyddodd nifer fach o grwpiau i sefydlu eu hunain yn ystod y cyfnod yma. Roedd rhai o'r grwpiau wedi llwyddo i ddenu aelodau newydd ac wedi gweld cynnydd yn nifer y rhai oedd yn mynychu'r digwyddiadau.
So, dwi am ystyried yr argymhellion gwnes i gyhoeddi'r bore yma ochr yn ochr â chanfyddiadau adroddiad y pwyllgor, a bydd rhaglen waith—dwi'n siŵr bydd Siân Gwenllian yn falch o glywed—yn cael ei datblygu i sicrhau ein bod ni'n symud ymlaen fel canlyniad i'r argymhellion hynny. Dwi eisiau symud ymlaen yn gyflym i weld sut allwn ni gefnogi'r grwpiau cymunedol pwysig yma fel eu bod nhw'n parhau i ffynnu yn y dyfodol, a byddaf i'n ymateb yn ffurfiol yn y flwyddyn newydd i'r pwyllgor.
A gaf i ddiolch hefyd a thalu teyrnged i Helen Mary Jones am ei harweiniad ar y pwyllgor yn ystod y misoedd diwethaf hefyd? Mae llwyth wedi'i wneud ers inni lansio Cymraeg 2050 yn ystod haf 2017, ond mae ein blaenoriaethau strategol wedi aros yr un peth. Rŷn ni'n dal i weithio'n galed i gynyddu nifer y siaradwyr, cynyddu defnydd iaith a gwella'r seilwaith sy'n sylfaen i'r cyfan. Nawr yw'r amser inni dynnu ynghyd a gweithio gyda'n gilydd mewn ffordd gadarnhaol i gyrraedd y miliwn ac i dyblu defnydd dyddiol o'r Gymraeg. Diolch.
Galwaf ar Helen Mary Jones, y Cadeirydd, i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd.
Diolch yn fawr iawn, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl? Rhaid imi ddechrau drwy ddiolch i bob un ohonoch am eich geiriau caredig am fy nghadeiryddiaeth o'r pwyllgor. Rhaid i mi ddweud fy mod wedi cael cefnogaeth mor dda gan Aelodau a chan staff fel nad wyf yn credu y gallaf gymryd clod unigol arbennig am y gwaith rydym wedi'i wneud, ond rwy'n falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni drwy'r cyfnod anodd hwn.
Rwy'n credu ein bod wedi clywed yn glir fod Cymraeg 2050—rhaid inni sicrhau bod y camau sy'n ei gefnogi yn cael eu hailwerthuso'n iawn yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd, ac roeddwn yn falch o glywed gan y Gweinidog heddiw. Gwn nad yw'n ymateb yn ffurfiol—ac nid oeddem yn disgwyl hynny, wrth gwrs—ond bydd gwir angen inni adolygu'r camau hynny er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried y niwed sydd wedi'i wneud ond hefyd y gwersi cadarnhaol y gellid eu dysgu, fel y dywedodd y Gweinidog.
O ran presenoldeb digidol, roeddwn yn credu bod yr hyn a ddywedodd David Melding am y gweithgarwch ar-lein yn ail orau da, ond ail orau—mae'n wir, fel y dywedodd y Gweinidog hefyd, na ddylem golli'r pethau da rydym wedi'u dysgu am ymgysylltiad digidol, ond nid yw'n cymryd lle pethau eraill. Roeddwn yn meddwl, serch hynny, fod pwyntiau David Melding am yr effeithiau ar gydraddoldeb ar bobl na allai gyrraedd Eisteddfod yn gorfforol—rydym i gyd yn gwybod pa mor anodd y gall fod i gerdded o amgylch rhai Eisteddfodau os ydych yn ffit ac yn iach weithiau, er gwaethaf yr ymdrechion gorau i'w gwneud yn hygyrch. Ac rwy'n credu, unwaith eto, fod hynny'n rhywbeth na fyddwn am ei golli. A'i bwynt nad yw'n gefnwlad. Nid yw'r cymunedau hyn yn gefnwlad i rywle arall, maent yn gymunedau—. Cymunedau naturiol Cymraeg eu hiaith, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, cymunedau yn eu hawl eu hunain, nid cefnwlad i drefi mwy ydynt. A byddwn yn adleisio diolch David i'n holl sefydliadau, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am bopeth y maent wedi'i wneud ar yr adeg anodd hon.
Mae Siân Gwenllian yn iawn, wrth gwrs, i ddweud bod effaith COVID yn y maes hwn, fel mewn cynifer o rai eraill, wedi amlygu a gwaethygu gwendidau a phroblemau presennol, a mawr obeithiaf y bydd y Gweinidog yn mynd i'r afael â'r gwendidau a'r problemau sylfaenol hynny wrth inni symud ymlaen. Mae'r angen am eglurder y tynnodd Siân sylw ato, o weithio ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod pawb yn mynd i'r cyfeiriad iawn—rydym yn gobeithio'n fawr, pan gawn ymateb ffurfiol y Gweinidog, y bydd yr eglurder hwnnw yno ynglŷn â phwy sy'n arwain a phwy sy'n gyfrifol. Rhaid adfer y cyllidebau. Nid oeddent yn llawer yn y lle cyntaf, fel y dywedodd Siân. Byddem yn dadlau, wrth gwrs, fod angen rhagor, ond o leiaf, fel llinell sylfaen, rhaid eu hadfer.
Mae'n amlwg nad oeddwn yn disgwyl ymateb llawn y Gweinidog heddiw, fel y dywedais. Roedd hi'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod gennym bethau cadarnhaol i'w dysgu, ond rwy'n gwybod ei bod hi'n gwybod na allwn anwybyddu'r risgiau a'r risgiau sydd wedi'u gwaethygu. Mae canlyniadau'r arolwg y mae'n tynnu sylw atynt yn atgyfnerthu ein pryderon, ac rwy'n falch o glywed ei hymrwymiad heddiw i weithredu'n gyflym i symud yr agenda hon yn ei blaen. Ni allwn aros. Bydd y gweithlu'n mynd i rywle arall. Ni allwn aros.
Diolch, unwaith eto, Lywydd, i bawb sydd wedi cefnogi fy ngwaith fel Cadeirydd y pwyllgor, i'r holl dystion, i gyd-Aelodau ac i staff. Ac rwy'n edrych ymlaen at barhau'r gwaith hwn mewn rôl ychydig yn wahanol yn y flwyddyn newydd. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld na chlywed gwrthwynebiad, ac felly dwi'n dweud bod y cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Byddwn ni'n cynnal toriad byr nawr ar gyfer gwneud rhai newidiadau yn y Siambr. Toriad byr, felly.