– Senedd Cymru ar 27 Ionawr 2021.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyflenwad a chyflwyno brechlynnau COVID. Galwaf ar Angela Burns i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7562 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu'r camau cyflym a gymerwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU i sicrhau mynediad at 367 miliwn o ddosau o frechlynnau a sicrhau mai'r DU oedd y wlad gyntaf yn y byd i awdurdodi brechlyn.
2. Yn cydnabod y cyflenwad sylweddol o frechlynnau a ddarparwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU i bob gwlad gartref.
3. Yn gresynu at y ffaith y dechreuodd y broses o gyflwyno'r brechlyn COVID-19 mor araf yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu cynllun pum pwynt i warantu llwyddiant y rhaglen frechu, sy'n cynnwys:
a) penodi gweinidog brechlynnau Llywodraeth Cymru;
b) torri biwrocratiaeth i alluogi fferyllfeydd a gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi ymddeol neu gyn-weithwyr iechyd proffesiynol i roi'r brechlynnau;
c) pennu targedau clir a chyhoeddi gwybodaeth ddyddiol fanwl i sicrhau bod y rhaglen frechu ar y trywydd iawn ym mhob rhan o Gymru;
d) ysgogi 'byddin' o wirfoddolwyr i gefnogi GIG Cymru i gyflawni'r rhaglen frechu; ac
e) cyflwyno brechiadau 24/7 mewn canolfannau ledled y wlad.
Prynhawn da, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar a gofynnaf i'r Senedd groesawu'r camau cyflym a gymerwyd gan Lywodraeth Geidwadol y DU i sicrhau mynediad at 367 miliwn o ddosau o frechlyn ac i sicrhau mai'r DU oedd y wlad gyntaf yn y byd i awdurdodi brechlyn. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth o ystyried y 'dileu popeth' a'r rhyfyg a welwyd ddoe. Ond byddwn yn cefnogi gwelliant Neil McEvoy; yn wir, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod a yw Llywodraeth Cymru wedi gwrthod unrhyw frechlynnau, heb sôn am y niferoedd y mae Mr McEvoy yn eu dyfynnu.
Yn ddi-os, mae'r gwaith cyflym a manwl a wnaed gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn cymeradwyo brechlynnau Pfizer a Rhydychen fis cyn i reoleiddwyr Ewropeaidd wneud hynny wedi galluogi'r DU i arwain ar gyflwyno brechlynnau yn Ewrop. Fodd bynnag, mater i chi, Lywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur, yw defnyddio'r holl frechlynnau sydd ar gael ichi cyn gynted â phosibl yn awr, oherwydd heb frechlyn bydd ein heconomi'n cael ei dinistrio gan gylchoedd diddiwedd o gyfyngiadau symud. Rydym eisoes yn gweld busnesau'n cau a phobl yn colli swyddi.
Heb frechlyn, mae addysg ein plant yn y dyfodol yn y fantol. Nid yw dysgu o bell yn gweithio nac yn bosibl i bawb, ac mae arholiadau i gael eu hasesu gan athrawon. Ni allwn barhau i gamblo â dyfodol plant a phobl ifanc. Heb frechlyn, bydd GIG Cymru yn parhau i gael ei wasgu o dan bwysau cleifion COVID-19 sy'n ddifrifol wael, ac ni allwn ganiatáu i restrau aros ymestyn hyd yn oed ymhellach ac i fathau o niwed nad ydynt yn gysylltiedig â COVID waethygu. Aelodau, rwy'n teimlo bod angen ailadrodd y dadleuon hyn o ystyried sylwadau Prif Weinidog Cymru, a wnaed sawl gwaith, ei fod yn arafu'r broses o roi brechlynnau er mwyn sicrhau nad yw'r rhai sy'n rhoi'r brechlynnau'n cicio'u sodlau heb ddim i'w wneud—sylwadau cwbl hurt a ysgogodd ddicter y cyhoedd ac mewn cyferbyniad llwyr â'r gwledydd eraill. Ar yr un diwrnod ag y gwnaeth y Prif Weinidog ei sylwadau, roedd pobl dros 70 oed yn Lloegr eisoes yn cael eu gwahodd ar gyfer apwyntiadau brechu.
Rwy'n cydnabod y gwaith caled y mae'r rhai sy'n rhoi brechlynnau'n ei wneud ar hyd a lled y wlad; diolch o galon i chi i gyd. Fodd bynnag, Weinidog, rhaid i mi eich dwyn chi i gyfrif. Mae'n sicr mai cynllunio'r broses o gyflwyno brechlynnau'n effeithiol oedd mandad bwrdd rhaglen ddarparu brechlynnau COVID-19 Cymru. Maent wedi bod ar waith ers mis Mehefin y llynedd, gyda'r mandad o gynllunio'r broses o gyflwyno'r brechlyn. Felly, pam nad oedd rhai byrddau iechyd wedi llunio cynlluniau ar gyfer canolfannau brechu torfol neu ar gyfer unedau profi symudol tan yn ddiweddar? Pam y bu'n rhaid i feddygon teulu neidio drwy gylchoedd biwrocrataidd er mwyn cael gafael ar y brechlynnau gan Lywodraeth Cymru a PHE? Pam y mae cynifer o bobl dros 80 oed yn y gymuned yn poeni nad ydynt wedi clywed unrhyw beth? Pam y mae rhai byrddau iechyd yn llamu yn eu blaenau ac eraill yn llusgo ar ei hôl hi?
Ddoe, fe wnaethoch wrthod unrhyw awgrym o loteri cod post, ond dyna'n union sy'n digwydd mewn rhannau o Gymru. Weinidog, a allwch egluro pa fewnbwn y mae'r bwrdd cyflenwi brechlynnau wedi'i gael wrth ddwyn ynghyd ymateb Cymru i gyflwyno'r brechlyn? Sawl gwaith y mae wedi cyfarfod ers ei ffurfio ym mis Mehefin? Beth yw ei ddulliau o fesur canlyniadau a pherfformiad? Weinidog, er ei fod yn newyddion da fod bron i 70 y cant o breswylwyr cartrefi gofal wedi cael eu brechu erbyn diwedd yr wythnos diwethaf, mae eich targed ar gyfer pobl dros 80 oed wedi llithro'n sylweddol. Beth yw'r rhesymau am hyn? Nid wyf yn credu mai eira'n unig yw'r rheswm.
Yr wythnos diwethaf, honnodd Prif Weinidog Cymru fod ganddo fynediad at ddata treigl a ddangosai y byddai'r targed ar gyfer pobl dros 80 oed yn cael ei gyflawni. Sut? Yn anffodus, mae rhai pobl yn neidio'r ciw ac mae staff ystafell gefn yn cael eu brechu o flaen grwpiau blaenoriaeth; mae nifer o fyrddau iechyd yn nodi hyn. Weinidog, pa ymdrechion rydych yn eu gwneud i sicrhau bod yr adroddiadau hyn yn cael eu hymchwilio'n drylwyr a bod canllawiau'n cael eu cynnig? Mae rhai meddygon teulu wedi e-bostio i ddweud bod y rhai sy'n rhoi brechlynnau'n cael eu cynghori i daflu brechlyn dros ben i'r bin. Rwy'n deall bod Cymdeithas Feddygol Prydain yn ymwybodol o hyn, ond beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar frechlynnau dros ben? Yn fy marn i, mae hyd yn oed ychydig o achosion o hyn yn rhywbeth na ellir ei amddiffyn yn foesol nac yn economaidd.
Weinidog, amcangyfrifir bod angen i Gymru ddarparu 22,358 o frechlynnau y dydd er mwyn cyrraedd y targed o roi dos cyntaf i 740,350 o bobl erbyn canol mis Chwefror. Rydych wedi cyrraedd y targed hwnnw deirgwaith hyd yma. Pa mor hyderus ydych chi y bydd pob un o'r grwpiau blaenoriaeth yn cael y dos cyntaf erbyn canol mis Chwefror? Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun clir ar gyfer cyflymu'r broses o gyflwyno'r brechlyn gan gynnwys Gweinidog penodedig, torri drwy'r fiwrocratiaeth sy'n atal gweithwyr iechyd proffesiynol rhag cymryd rhan, gosod targedau clir, galluogi gwirfoddolwyr, a rhoi canolfannau brechu ar waith 24/7. Nid yw eich cynllun i'w weld yn glir, rydych eisoes yn methu targedau, ac rwy'n pryderu am eich gallu i newid y sefyllfa'n gyflym. Felly, rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Senedd.
Rwyf wedi dethol un gwelliant i'r cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23, nid wyf wedi dethol gwelliant 2 a gyflwynwyd i'r cynnig. A gaf fi alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans?
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu gwaith prydlon y rheoleiddiwr annibynnol, yr MHRA, i sicrhau mai’r Deyrnas Unedig oedd y wlad gyntaf yn y byd i awdurdodi brechlyn.
2. Yn nodi’r camau a gymerodd Llywodraeth y DU ar ran y 4 cenedl i sicrhau cyflenwadau brechlyn.
3. Yn nodi bod cyflwyno brechlyn ledled Cymru a gweddill y DU yn dibynnu ar sicrwydd y cyflenwad gan gynhyrchwyr.
4. Yn nodi bod oedi o ran cyflenwi OAZ wedi cael effaith uniongyrchol ar gyflwyno’r brechlyn ym maes gofal sylfaenol.
5. Yn nodi strategaeth Llywodraeth Cymru i gyflawni 3 carreg filltir allweddol:
a) erbyn canol mis Chwefror—cynnig brechiad i holl breswylwyr ac aelodau o staff cartrefi gofal; aelodau o staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; pawb dros 70 a phawb eithriadol o agored i niwed yn glinigol;
b) erbyn y gwanwyn—cynnig brechiad i bob grŵp blaenoriaeth arall yng ngham un, sef pawb dros 50 a phawb sydd â risg uwch oherwydd cyflwr iechyd sylfaenol;
c) erbyn yr hydref—cynnig brechiad i bob oedolyn cymwys arall yng Nghymru, yn unol â chanllawiau’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI).
Rwy'n cynnig yn ffurfiol, Gadeirydd.
Weinidog, rydym mewn ras i achub bywydau a busnesau ac iechyd meddwl. Mae croeso mawr i'r newydd heddiw gan y swyddog meddygol fod y gyfradd R wedi gostwng a bod gwelliant amlwg yng nghyfraddau'r trosglwyddiad cymunedol ledled ein gwlad. Mae hyn yn galonogol iawn. Fodd bynnag, fel y clywsom gan Helen Whyley o'r Coleg Nyrsio Brenhinol ar y BBC heddiw, ni allwn fod yn hunanfodlon. Mae'r GIG yn dal i fod o dan bwysau aruthrol. Felly, bydd angen i ni gael cynllun ar waith, nid yn unig ar gyfer amrywiolyn newydd Caint o'r clefyd sydd wedi lledaenu i bob rhan o Gymru, ond cynllun hefyd rhag ofn y bydd mathau pellach o'r feirws yn dod i'r amlwg.
Rhaid inni ganolbwyntio yn awr ar yr hyn y gallwn ei reoli. Rhaid inni sicrhau bod y brechlyn yn cael ei gyflwyno'n gyflym. Ydy, mae'n wych ein bod ni wedi dal i fyny gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon, ond mae gennym ffordd bell i fynd i ddal i fyny â Lloegr o hyd. Mae angen darparu 44,000 o frechlynnau i gyrraedd y targed hwnnw—dyna faint Merthyr Tudful. Ni allwch fod yn ffuantus a beio'r eira am fethu eich targed yr wythnos hon. Methodd y Llywodraeth eich targed clir eich hun a roesoch o frechu 70 y cant o bobl dros 80 oed. Pa bryd y cyrhaeddwch y targed hwnnw? Nid wyf wedi eich clywed yn dweud pa bryd y cyrhaeddwch y targed hwnnw. Rhaid inni wybod hynny—nid yr honiad niwlog, 'Rydym yn mynd i gyrraedd popeth erbyn canol mis Chwefror.' Mae angen inni gael targedau clir.
Mae gennym sefyllfa lle nad yw cyplau'n cael eu galw i gael eu brechu gyda'i gilydd, lle nad yw gofalwyr yn cael eu brechu ar yr un pryd â'r person y maent yn gofalu amdanynt. Er enghraifft, dim ond ar ddau ddiwrnod yr wythnos y mae un ganolfan frechu torfol yn Sir Fynwy yn darparu brechlyn Rhydychen, ond pe bai'n newid i'r brechlyn Pfizer, gellid ei ddarparu saith diwrnod yr wythnos, fel yng Nghasnewydd a Chwmbrân. Nid yw camau ymarferol syml yn digwydd. Mae ein byrddau iechyd lleol yn gwneud eu gorau, ac rwy'n eu cymeradwyo am y gwaith y maent wedi'i wneud—mae wedi bod yn wych—ond chi, Weinidog, sy'n gyfrifol am y mathau hyn o fethiannau bach, ac maent yn cael effaith enfawr arnom o ran cael y brechlyn allan cyn gynted â phosibl.
Mae angen targedau clir ar y Llywodraeth, mae angen iddi gyhoeddi mwy o ddata ar gyflwyno'r rhaglen, i'w ddadansoddi nid yn unig gennym ni ond gan y cyhoedd, fel y gallant weld yn glir beth sy'n digwydd. Rwy'n cynnal grwpiau cymorth a chefnogaeth coronafeirws, a'r wybodaeth rwy'n ei rhoi yno yw'r unig wybodaeth y mae llawer o bobl yn ei chael am eu bod yn mynd i wefan y Llywodraeth ac nid yw yno. Mae angen cyfathrebu cliriach arnoch, cyfathrebu hawdd ei ddarllen, a chyfathrebu dealladwy i'r cyhoedd ynglŷn â ble rydych chi arni a pha dargedau rydych chi'n ceisio'u cyrraedd.
Ymddengys i mi fod rhaid cael Gweinidog penodedig i sicrhau bod y broses o gyflwyno'n digwydd yn gyflym ac yn effeithlon. Rhaid bod gennych lawer iawn o waith, Weinidog, ac rwy'n eich cymeradwyo am yr hyn rydych yn ei wneud, ond mae angen person penodedig ar y rhaglen gyflwyno i sicrhau ei bod yn cael ei chyflwyno cyn gynted ag y bo modd, nid yn unig i ni, ond i bobl Cymru—
A wnewch chi ddirwyn eich sylwadau i ben, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr.
Mi fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn cynnig y Ceidwadwyr heddiw. Mi ydw i'n cyd-fynd â sawl elfen ohono fo. Dwi'n gresynu at ddechrau araf y cynllun yng Nghymru, er bod pethau yn amlwg yn cyflymu bellach. Ond dwi ddim, fel un pwynt penodol—. Wel, (1) dwi ddim eisiau cymryd gwersi gan y ffordd mae'r Llywodraeth yn Lloegr wedi delio efo'r pandemig, ond (2) dwi'n benodol ddim yn meddwl bod angen Gweinidog yn gyfrifol dim ond am frechu. Fel dwi wedi egluro o'r blaen, dwi'n credu bod hyn yn gymaint o flaenoriaeth i Gymru ar hyn o bryd bod rhaid i hyn fod yn ffocws y Gweinidog iechyd ei hun, a'r Prif Weinidog, hyd yn oed. Gallaf i ddim peidio â meddwl y byddai mynd trwy broses o benodi Gweinidog newydd yn amharu ar y ffocws sydd ei angen ar hyn yn hytrach na rhoi mwy o ffocws i'r gwaith.
Mi fyddwn ni hefyd heddiw yn pleidleisio yn erbyn gwelliant y Llywodraeth—eto, mae yna elfennau ohono fo dwi'n cyd-fynd â nhw—yn gyntaf, achos bod yna dal rhyw fethiant rhywsut i gydnabod a blaenoriaethu brys a chyflymder yn y broses frechu, ond hefyd, oherwydd bod y gwelliant yn cyfeirio cymaint at gyflenwad. Rydyn ni'n dal i aros am y data dwi wedi gofyn amdano fo dro ar ôl tro ynglŷn â chyflenwad, er mwyn gallu mesur hynny. Roeddwn i'n falch iawn bod y Gweinidog, o'r diwedd ddoe, yn ymateb i gwestiynau gen i, wedi cyfaddef y buasai gwneud data felly yn gyhoeddus yn beth da ac y bydd o'n gweld sut mae modd gwneud y ffigurau ar ddyraniadau y gwahanol frechlynnau i bedair gwlad y Deyrnas Unedig i weithio, drwy drafod hynny efo Gweinidogion ar draws y pedair gwlad. Mi edrychaf ymlaen at weld hynny yn digwydd.
O ran sylwadau pellach, dwi'n falch eto bod yna gyfle eto fan hyn i deulu teyrnged i dimau brechu ar draws yr NHS. Mae yna lawer iawn o dir wedi ei ennill, yn sicr, dros yr wythnos ddiwethaf. Mi ddylem ni i gyd ymfalchïo yn hynny. Ond rydym yn dal yn fyr o lle liciem ni fod a lle dywedodd y Llywodraeth y buasem ni erbyn hyn. Nid disgyn ychydig yn fyr o'r targed o frechu 70 y cant o bobl dros 80 oed ydy hitio 52.8 y cant; mae eisiau gonestrwydd yn hynny o beth. Felly, mi barhawn ni i ofyn cwestiynau, i wthio y Llywodraeth, i sicrhau bod y timau brechu yn cael y gefnogaeth a'r cyflenwadau maen nhw eu hangen.
Dau bwynt arall. Yn gyntaf, dwi eisiau gweld y buddsoddi sydd ei angen mewn isadeiledd brechu ar gyfer y cyfnod o'n blaenau ni. Nid dyma y tro olaf fydd angen brechu eang; rydym ni angen gwneud yn siŵr, pan rydym yn gorfod mynd trwy brosesau brechu fel hyn eto, o bosib fel rhan o'r pandemig yma, bod yna ddim arafwch fel rydym ni wedi'i weld yn digwydd dros y misoedd diwethaf yn cael ei ailadrodd. Mae angen buddsoddi mewn isadeiledd brechu ar gyfer hynny. Yn ail, dwi'n clywed bod Llafur yn Lloegr heddiw wedi gofyn am flaenoriaethu gweithwyr allweddol fel heddlu ac athrawon, fel dwi wedi'i wneud. Ymateb Llywodraeth Lafur Cymru ydy dweud, 'Na, mi fyddai hynny'n golygu dadflaenoriaethu pobl eraill'. Dwi'n dweud nad dadflaenoriaethu'r rheini sydd eisiau ond adeiladu mewn i'r system y cynllun ar gyfer sut mae'r grwpiau hynny yn cael eu cynnwys a'u hychwanegu at y cynlluniau sydd gennym ni ar hyn o bryd. Gadewch inni glywed hynny gan y Gweinidog yn ei ymateb o i'r ddadl yma heddiw. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Rwyf am groesawu Angela Burns i'r portffolio iechyd, gan fy mod yn siŵr na fyddai wedi llunio'r cynnig hwn yn union fel hyn. Ar bwynt 2, rydym i fod yn ddiolchgar fod y cyflenwad sylweddol o frechlynnau a ddarperir gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn cael ei roi i bob un o'r gwledydd cartref. Hynny yw, onid gwaith Llywodraeth y DU yw darparu brechlynnau i wahanol wledydd a rhanbarthau'r DU? Dyna yw eu gwaith. Pam y dylem fod yn ddiolchgar? Yn amlwg, mewn adrannau eraill, maent wedi trin Cymru mewn ffordd wahaniaethol, yn y ffordd y maent yn dosbarthu cymorth i Faes Awyr Bryste ond nid i Gaerdydd, neu'r ffordd y maent yn torri addewidion Brexit na fyddai Cymru'n waeth eu byd yn ariannol, nad yw'n wir o gwbl, neu'r biliynau y maent yn eu rhoi i HS2 tra'n gwrthod trydaneiddio prif linell de Cymru y tu hwnt i Abertawe.
Mae'n ymddangos bod cynllun pum pwynt y Torïaid wedi'i gwmpasu er mwyn sicrhau'r anhrefn fwyaf a'r effaith leiaf ar lwyddiant rhaglen frechu Cymru. Rwyf wedi cael llawer o bobl yn awgrymu y dylem gydymffurfio â chynnig y Torïaid y dylid cael Gweinidog brechlynnau, ond os felly, pa bortffolio gweinidogol y byddech am ei ddiddymu? Fel y gŵyr Angela Burns yn dda, mae nifer y Gweinidogion wedi'i gyfyngu i 12; y rhesymeg amgen yw bod gennym Weinidog dysgu ar-lein, Gweinidog teithio llesol, Gweinidog TB mewn gwartheg. Nid dyna sut y mae'r Llywodraeth yn gweithredu. Yr ail bwynt yw eich bod am i bob fferyllydd a gweithiwr iechyd proffesiynol sydd wedi ymddeol neu gyn-weithwyr iechyd proffesiynol allu darparu'r brechiad. Maent eisoes yn gwneud hynny, ond mae'n amlwg fod rhaid eu brechu hwythau cyn iddynt ddechrau cyfarfod â llawer o bobl, neu fel arall byddant yn lledaenu'r clefyd eu hunain. Nid yw hynny'n syniad da iawn.
Y syniad olaf athrylithgar yw cael canolfannau brechu 24/7 ledled y wlad. Faint o bobl yn y pedwar prif grŵp blaenoriaeth uchaf fydd eisiau mynd draw i gael eu pigiad am 03:00? Sut y byddent yn cyrraedd yno hyd yn oed pan nad oes bysiau'n rhedeg? Mae'n ddigon posibl y bydd galw am ganolfan frechu 24/7 pan fyddwn yn brechu oedolion yn eu 20au—gallant alw heibio ar eu beiciau; ond nid nawr. Rwy'n gwbl ymwybodol o'r cysyniad o loterïau cod post, ac yn wir, y ddeddf gofal gwrthgyfartal sy'n berthnasol i'r difreintiedig, ond nid yw'r Torïaid wedi darparu unrhyw dystiolaeth o gwbl mai dyma sy'n digwydd gyda brechiadau yng Nghymru. Newyddion ffug ydyw a luchiwyd allan i geisio drysu'r ffaith bod Llywodraeth Lafur Cymru yn bwrw ymlaen â'r gwaith mewn gwirionedd. A diolch byth mai ychydig iawn o berygl sydd yna y caiff y Torïaid eu dwylo ar awenau'r GIG yng Nghymru.
Hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod holl drigolion y cartrefi gofal yn fy etholaeth eisoes wedi cael eu brechu, a bydd yr uned frechu symudol eisoes wedi ymweld â gweddill y rhai yng Nghaerdydd erbyn y diwrnod ar ôl yfory. Mae'r holl gartrefi gofal hyn eisoes wedi—
A wnaiff yr Aelod ddirwyn ei sylwadau i ben, os gwelwch yn dda?
—wyth wythnos ar ôl y cyntaf, ac mae meddygfeydd meddygon teulu yn brysur yn trefnu'r holl bobl dros 80 oed, a byddant yn symud ymlaen wedyn at bobl dros 75 oed. Yn fyr, mae rhaglen frechu Cymru—[Torri ar draws.]
Mae angen i chi ddod â'ch cyfraniad i ben.
[Anghlywadwy.]—brechu'r holl grwpiau blaenoriaeth hyn cyn canol y mis nesaf.
Cyn i mi ddechrau fy nghyfraniad, rwyf am ddweud fy mod yn siomedig o weld gwelliannau'n cael eu gwrthod pan fo un gwelliant gan Neil McEvoy:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau a wnaeth wrthod 200,000 o frechlynnau Pfizer ar ddechrau mis Ionawr 2021.
Felly, hoffwn i hynny fod yn gwestiwn penodol fel rhan o fy nghyfraniad.
Nawr, er i Lywodraeth Cymru dderbyn dros 327,000 dos o frechlynnau Pfizer a Rhydychen hyd yma, gwyddom fod 312,305 wedi'u defnyddio, gan adael tua 15,000 ar ôl i'w brechu. Felly, dyna 15,000 risg i fywyd. Felly, fel y mae'r meddygon yma wedi'i ddweud yn fy etholaeth i: rydych yn methu cyrraedd y trigolion hyn yn gyflym. Dylem nodi mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd wedi gweld y ganran isaf yng Nghymru yn cael eu brechu, ac mae hyn hyd yn oed yn fwy difrifol wrth ystyried fod y bwrdd yn gyfrifol am ardal awdurdod lleol sir Conwy, gyda'r ganran uchaf o bobl dros 65 oed. A rhaid imi ddweud yn glir fod pawb sydd wedi'u hyfforddi i frechu eisiau brechu—felly, nid wyf yn eu beirniadu hwy o gwbl. A hoffwn ddweud bod Ysbyty Enfys, ddydd Gwener, er gwaethaf y tywydd gwael, wedi llwyddo i ddarparu 1,300 o frechlynnau, gan weithio dyddiau 13 awr o hyd. Felly, mae gennym bobl yno sydd eisiau gwneud hyn.
Nawr, mae llawer o drigolion hŷn pryderus yn dal i gysylltu â fy swyddfa a minnau. Er enghraifft, ymatebais i e-bost ddydd Mawrth a gyfeiriai at etholwr 100 oed sy'n poeni'n fawr am ei brechlyn. Fel y dywedodd dau etholwr arall wrthyf: 'Dylid cyflwyno'r brechlynnau'n gyflym, ac mae'n gystadleuaeth yn erbyn y feirws, a byddai colli'r gystadleuaeth yn arwain at golli miloedd o fywydau'n ddiangen yng Nghymru.' Dychmygwch sut roedd fy etholwyr yn teimlo wrth glywed bod yr addewid i frechu 70 y cant o bobl dros 80 oed erbyn y penwythnos wedi'i dorri. Dychmygwch sut y maent yn teimlo pan addawodd y bwrdd iechyd lleol agor canolfan frechu leol yn Glasdir, Llanrwst, ond ni allant ddarparu dyddiad agor hyd yn oed. Dychmygwch sut y maent yn teimlo pan addawodd yr un bwrdd iechyd anfon llythyr at bob cartref yng ngogledd Cymru, ond mae llawer o fy etholwyr heb ei gael. Dychmygwch sut y maent yn teimlo wrth weld nad yw Venue Cymru yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos o hyd, a dychmygwch sut y maent yn teimlo pan fydd ffrindiau a theulu iau na hwy'n cael brechlyn yn Lloegr, tra'u bod yn dal i aros yma yng Nghymru. Maent yn ofnus am eu bywydau, yn ofidus, ac yn dioddef gorbryder difrifol. A dywedodd meddyg teulu lleol wrthyf ddoe ddiwethaf: 'Mae hyn bellach yn effeithio'n wael o ran problemau iechyd meddwl.' Mae angen i bob un ohonom weld newidiadau ar frys, ac mae cynllun y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig y newid hwnnw. Dychmygwch sut y mae fy etholwyr yn teimlo wrth glywed eich bod yn dewis dileu ein cynnig.
Ac yn olaf, a wnewch chi wrando ar ein comisiynydd pobl hŷn a'r ffaith ei bod hithau hefyd yn siomedig ynghylch y targedau y methwyd eu cyrraedd? Mae hefyd yn galw am sicrwydd, ac rwy'n gofyn am y sicrwydd hwnnw, y bydd y targedau rydych wedi'u gosod nawr i frechu pawb sy'n byw neu'n gweithio mewn cartref gofal erbyn diwedd mis Ionawr, a phawb dros 70 oed erbyn canol mis Chwefror, yn cael eu cyrraedd. Mae pobl Cymru yn haeddu hyn, a chi fel Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am gyflawni hyn. Diolch.
I ddechrau, gellir dweud heb amheuaeth fod y broses o gyflwyno'r brechlyn yng Nghymru yn araf, ond mae'n rhaid inni gydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gwella'i pherfformiad yn gyflym iawn ac mae'r ffigurau'n dangos ein bod bellach yn gwneud yn well na'r Alban a Gogledd Iwerddon, ac yn agos iawn at y ffigurau ar gyfer Lloegr. Rwyf am nodi yma wrth gwrs ein bod ymhell ar y blaen i dde Iwerddon y gadawodd eu presenoldeb yn yr Undeb Ewropeaidd hwy'n agored i'r llanast biwrocrataidd rydym wedi'i weld gyda brechlynnau yno.
Hoffwn gefnogi eitem 1 y cynnig hwn a chydnabod y camau cyflym a roddwyd ar waith gan Lywodraeth y DU i gaffael a derbyn yr awdurdodiad ar gyfer brechlynnau a'u dosbarthiad i'r DU gyfan. Ni fu hyn ond yn bosibl oherwydd Brexit wrth gwrs, a rhyddid y DU i weithio'n unochrog. Mae'n gwbl groes i'r llanast biwrocrataidd yn Ewrop, er fy mod am ychwanegu nad yw anghysur ein cyd-ddinasyddion yn Ewrop yn rhoi unrhyw bleser i mi.
Ni fyddwn yn cefnogi 4a yn y cynnig, ond byddwn yn cefnogi 4b, oherwydd mae llawer iawn o dystiolaeth anecdotaidd yn dangos bod—[Anghlywadwy.]—gweithdrefnau'n rhy gymhleth ac yn cymryd llawer o amser. Byddwn yn cefnogi gwelliannau Llywodraeth Cymru, a byddem yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau â'r cynnydd a wnaed hyd yma, oherwydd mae'n dod yn amlwg mai brechu torfol yw'r unig ffordd allan o'r cyfyngiadau symud parhaus.
Un peth yr hoffwn dynnu sylw'r Llywodraeth ato yw'r ffaith ein bod yn anfon llythyrau personol at y rhai sydd i'w hysbysu yn nes ymlaen ynglŷn â'u hapwyntiad i gael eu brechu. Gan eu bod, a hynny'n gwbl briodol, yn Gymraeg ac yn Saesneg, mae pob llythyr yn bedair tudalen o hyd. Byddem yn cwestiynu'r angen am y llythyr hwn, gan mai hysbysu'r derbynnydd y byddant yn cael eu gwahodd ar ddyddiad diweddarach yn unig y mae'n ei wneud. O gofio bod yn rhaid anfon tua 2 filiwn hysbysiad o'r fath, a gawn ni alw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y strategaeth hon? Diolch. Cwbl hurt.
Rwy'n gobeithio mai un fantais o anfon y llythyrau hynny yw y bydd eu cael yn arwain at lai o bobl yn ffonio i gwyno nad ydynt wedi'i gael ac yn poeni ac yn mynd ag amser y gellid ei ddefnyddio ar gyfer y rhaglen, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb yn cael eu brechiadau pan gânt eu cynnig.
Rydym yn cefnogi'r cynnig sydd ger ein bron heddiw. Bwriadwn ymatal ar welliant y Llywodraeth, ond byddwn yn cefnogi'r cynnig os caiff ei ddiwygio. Dim ond un pwynt ynghylch cynnig y Ceidwadwyr—penodi Gweinidog brechlynnau Llywodraeth Cymru, credwn fod Plaid Cymru yn iawn i ddadlau na ddylai fod yn Weinidog newydd, a chredaf i Jenny Rathbone ddweud y byddai penodi Gweinidog newydd yn ymyrraeth ar hyn o bryd. Rydym yn cytuno â hynny, ac ym Mhlaid Diddymu Cynulliad Cymru, hoffem weld Llywodraeth Cymru yn penodi'r Gweinidog brechlynnau presennol, sy'n gwneud gwaith da iawn, Nadhim Zahawi, un o Weinidogion y DU. Dylid rhoi rôl drosolwg iddo, ac yn enwedig gyda'r rhyngwyneb cyflenwi, i weithio gyda'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud.
Hoffwn longyfarch Llywodraeth Cymru ar yr wythnos a aeth heibio, oherwydd maent wedi bod yn brechu ar oddeutu'r un cyflymder ag yn Lloegr. Mae diffyg mawr i wneud iawn amdano o hyd, ond mae cynnydd yr wythnos ddiwethaf wedi bod yn dda, er gwaethaf yr eira. Byddai'n dda gwybod yn awr, serch hynny, pa bryd rydym yn disgwyl cyrraedd y targed o 70 y cant o bobl dros 80 oed y dywedodd Prif Weinidog Cymru wrthyf ddoe na chafodd ei gyrraedd pan ddylai fod wedi'i gyrraedd.
Wrth edrych ar longyfarch Llywodraeth Geidwadol y DU neu longyfarch yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), credwn y dylid llongyfarch pawb ohonynt mewn gwirionedd, ac mae'r MHRA yn rheoleiddiwr annibynnol, sydd nid yn unig yn annibynnol ar Lywodraeth y DU, ond yn annibynnol ar yr Undeb Ewropeaidd a phroses yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, a Llywodraeth y DU a sicrhaodd y gallai ac y byddai'r MHRA yn bwrw ymlaen heb aros am broses yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd. Mae wedi bod yn wych i ni fod hynny wedi digwydd, ac yn anffodus iawn i'r Undeb Ewropeaidd fod yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd wedi oedi pethau i'r fath raddau gyda Chomisiwn yr UE, ac yn enwedig pan oedd pedair Llywodraeth genedlaethol yn ymyrryd a bod oedi mawr wedi digwydd ar ôl hynny. Mae'n anffodus iawn.
Y person arall y credaf ei bod yn haeddu ei llongyfarch yn fawr yw Kate Bingham a'i thasglu brechlynnau, pawb a fu'n gweithio ar hynny. Y cyfan yr ymddangosai ei fod yn ei gael—cafodd feirniadaeth am gymryd rhan mewn cynhadledd ecwiti preifat i esbonio pa mor llwyddiannus oedd y rhaglen a'r hyn roedd hi wedi'i wneud ar hynny. Ni chafodd ei thalu am yr hyn a wnaeth hyd yn oed. Felly, Kate, diolch yn fawr am y gwaith hwnnw. Roedd yn bwysig tu hwnt.
Felly, yr hyn yr hoffem ei weld yw'r broses frechu'n cyflymu, ond mae gennym gyflenwad da. Nid yw'n berffaith; mae cyfeiriad yng ngwelliannau'r Llywodraeth at oedi o ran cyflenwi, ac mae'n amlwg ein bod yn dibynnu ar y cyflenwad hwnnw, ond mae'r cyflenwad wedi bod yn dda iawn. Nid yw'n syndod fod un swp o frechlyn Rhydychen-AstraZeneca wedi gorfod cael ei ail-wneud a chafwyd cyfnod ar gyfer gwneud hynny. Wrth gwrs, mae'n broses weithgynhyrchu newydd. Ac mewn gwirionedd mae wedi cael ei wneud yn dda iawn.
Clywsom Jenny Rathbone yn dweud na ddylem fod yn ddiolchgar i Lywodraeth y DU gan mai dim ond gwneud ei gwaith y mae hi. Ac wrth gwrs, mae hi'n gywir, mae'n gwneud ei gwaith, ond mae'n gwneud ei gwaith yn dda iawn ar yr ochr frechu, ac am hynny rwy'n credu y dylem fod yn ddiolchgar. Dim ond Israel, rwy'n credu, sydd wedi gwneud gwaith gwell na Llywodraeth y DU, a chredaf y dylem gydnabod hynny—pawb sy'n rhan o'r gwaith, y tasglu brechlynnau, MHRA, y cyflenwad cyffredinol. Rwy'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn dal i fyny â'r hyn y mae i fod i'w wneud ar ei hochr hi, a gadewch inni ddathlu'r hyn sydd wedi'i gyflawni ar yr ochr frechu.
Diolch. Galwaf yn awr ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod cyflwyno'r rhaglen frechu COVID heddiw. Y rhaglen frechu yw ein prif flaenoriaeth, ac rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i frechu cynifer o bobl â phosibl cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl gyda'r lleiafswm o wastraff. Dylem i gyd ystyried pa mor bell rydym wedi dod mewn cyfnod mor fyr. Dim ond ym mis Rhagfyr y cymeradwywyd y brechlynnau rydym yn eu defnyddio, gyda Pfizer ddechrau mis Rhagfyr a'r diweddaraf, Rhydychen-AstraZeneca, lai na mis yn ôl.
Yng Nghymru, rydym bellach yn darparu'r rhaglen frechu sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, gyda'r gyfradd gyflymaf dros yr wythnos ddiwethaf yn unrhyw wlad yn y DU, ac rydym yn gwneud hynny'n unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, ac ni fyddwn yn diystyru cyngor arbenigol annibynnol y Cyngor ar Imiwneiddio a Brechu, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r prif swyddog meddygol. Mae'r cyngor ar grwpiau blaenoriaeth yn seiliedig ar ddiogelu ac achub y nifer fwyaf o fywydau sy'n bosibl, ac nid wyf yn mynd i wyro oddi wrtho. Cwblhawyd llawer iawn o waith yn genedlaethol ac yn lleol cyn y gellid brechu unrhyw gleifion yn ddiogel ac yn gyfreithiol, gan gynnwys creu ac yna defnyddio hyfforddiant ar frechlynnau penodol, cyfarwyddiadau a phrotocolau ar gyfer grwpiau o gleifion, canllawiau proffesiynol ac adnoddau gwybodaeth cleifion. Ni all hyn ddigwydd cyn i frechlynnau gael eu cymeradwyo a chyn bod eu priodoleddau'n hysbys.
Erbyn heddiw, rydym wedi brechu o leiaf 312,305 o bobl yng Nghymru. Dyna gynnydd o fwy na 22,700 ar ffigurau ddoe. Mae hynny bron yn un o bob 10 o'n poblogaeth, a diolch i ymdrech anferthol pawb sy'n gysylltiedig. Dyma'r her fwyaf rydym wedi'i hwynebu fel cenedl mewn adeg o heddwch, ac mae cynllunio, logisteg a pharatoi'r bobl sy'n rhan o'r ymdrech wedi bod yn waith aruthrol. Ac mae gennym gynllun cadarn ar gyfer cyflawni. Mae cyflwyno brechlyn AstraZeneca ac ymwneud gofal sylfaenol yn ei ddarparu wedi golygu ein bod wedi gallu cyflymu'r broses o ddarparu brechlynnau'n sylweddol, yn enwedig dros y pythefnos diwethaf, ac rydym bellach yn brechu rhywun bob pum eiliad, sy'n ffigur syfrdanol ac yn dweud rhywbeth wrthych am gyflymder ein darpariaeth yma yng Nghymru.
Gwnaethom gyrraedd dau nod yn ein strategaeth frechu yr wythnos diwethaf drwy gynnig eu dos cyntaf o'r brechlyn i holl staff rheng flaen gwasanaeth ambiwlans Cymru. Gwnaethom hefyd ragori ar ein nod ar gyfer diwedd mis Ionawr i gael mwy na 250 o bractisau meddygon teulu i ddarparu'r brechlyn. Cyhoeddais ddydd Llun fod gennym o leiaf 329 o leoliadau meddygon teulu a thros 300 o bractisau'n ymwneud â rhedeg clinigau brechu. Mae ein dull o weithredu yn cynnwys pob gweithiwr proffesiynol gofal sylfaenol, gan gynnwys deintyddion, optometryddion a fferyllwyr yn ogystal â meddygon teulu yn rhan o'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen frechu. Mae hyn yn cynnwys cynllun peilot fferylliaeth gymunedol, canolfannau brechu cymunedol, ac ers y penwythnos diwethaf, clystyrau o bractisau meddygon teulu'n rhedeg clinigau mewn cymunedau lleol. Ac fe roddodd y tri chlwstwr o bractisau meddygon teulu a oedd yn gweithredu y penwythnos diwethaf dros 3,000 o frechiadau gyda'r brechlyn Pfizer, er gwaethaf yr eira. Mae llawer o'r rheini, wrth gwrs, yn y grŵp blaenoriaeth i bobl dros 80 oed. Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen o ran cynyddu ein gallu i ddarparu'r brechlyn y tu allan i ganolfannau brechu torfol ac yn nes adref, yn enwedig yn y cymunedau lle mae mynediad at y canolfannau mwy o faint yn anodd. Bydd byrddau iechyd yn parhau i weithio gyda phractisau meddygon teulu ledled Cymru i weld a ellir cyflwyno hyn yn ehangach ac i adeiladu capasiti a chyflymder pellach ar gyfer darparu'r brechlyn Pfizer. Ac rydym hefyd yn gwneud cynnydd cadarn tuag at ein nod nesaf—sef cynnig brechlyn i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal erbyn diwedd y mis hwn. Ar hyn o bryd rydym yn brechu tua 1,000 o breswylwyr cartrefi gofal bob dydd ar gyfartaledd. Eisoes mae dros 11,000 o breswylwyr cartrefi gofal fan lleiaf, neu bron i 70 y cant o'r grŵp blaenoriaeth hwn o leiaf, eisoes wedi cael eu dos cyntaf, ac mae mwy na thri chwarter staff ein cartrefi gofal hefyd wedi cael eu dos cyntaf.
Ac ar y cynnig gwreiddiol, er fy mod yn cydnabod ac yn parchu rôl Llywodraeth y DU yn sicrhau'r brechlynnau hanfodol hyn, ac mae gennyf berthynas waith ymarferol, aeddfed â Gweinidogion Whitehall, mae'r cyflenwad o frechlynnau bob amser yn rhan o'n trafodaethau. Rydym i gyd yn cydnabod na allwn lwyddo hebddo, ac mae darparu brechlynnau, wrth gwrs, yn fater o ffaith. Dechreuasom cyn gwledydd eraill Ewrop oherwydd bod y rheoleiddiwr annibynnol wedi cymeradwyo'r brechlynnau i'w defnyddio. Mae'r gadwyn gyflenwi brechlynnau ei hun yn gymhleth, ac mae ein cynlluniau'n addasu'n gyson i newidiadau i feintiau ac amserlenni cyflenwadau, ac mae gan bob un allu i effeithio ar y gwaith o gyflawni'r cerrig milltir yn ein cynllun. Ar hyn o bryd, mae gan fyrddau iechyd gynllun cydbwysedd sy'n cael ei adolygu'n gyson, yn unol â'r wybodaeth newidiol am yr amserlenni cyflenwi. Byddaf yn ysgrifennu at y Gweinidog brechlynnau i gael cadarnhad ffurfiol y cawn ddigon o frechlyn yn y tymor byr i allu brechu ein carreg filltir canol mis Chwefror o garfanau un i bedwar, er mwyn rhoi'r eglurder a'r sicrwydd sydd eu hangen i lywio ein disgwyliadau yn y broses gynllunio, a byddaf yn cyhoeddi'r llythyr a'r ymateb drwy ohebiaeth â'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, felly bydd yr Aelodau'n gallu ei gweld.
O ran y canfyddiad o fiwrocratiaeth, mae byrddau iechyd eisoes yn gwneud y broses o gynnwys gwirfoddolwyr—[Anghlywadwy.]—mor syml â phosibl. Wrth gwrs, bydd rhai rhannau o'r broses yn angenrheidiol i sicrhau diogelwch cleifion. Mae targedau clir eisoes wedi'u cyhoeddi yn y cynllun brechu, gyda gwybodaeth ddyddiol am nifer y bobl a frechwyd eisoes yn cael ei chyhoeddi a mwy o fanylion yn cael eu cynllunio o wythnos i wythnos. Mae llu o bobl yn rhan o'r rhaglen ddarparu, gan gynnwys y fyddin. Seilwaith cynaliadwy yw ein blaenoriaeth wedi bod ac mae bellach yn talu ar ei ganfed. Eisoes, mae gennym 30 o ganolfannau brechu torfol ac rydym yn defnyddio 70 o safleoedd ysbyty acíwt a chymunedol i gyflwyno mwy o ganolfannau wrth inni symud ymlaen drwy garfanau un i bedwar. Mae byrddau iechyd eisoes yn brechu saith diwrnod yr wythnos ac yn gweithio oriau estynedig. Rydym yn monitro'r nifer sy'n manteisio ar apwyntiadau hwyr a chynnar, a byddwn yn parhau i adolygu wrth inni symud drwy'r carfannau oedran i sicrhau ein bod yn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl.
Ac wrth gwrs, mae gan Gymru Weinidog sy'n gyfrifol am frechlynnau eisoes, sef fi. Mae'n chwerthinllyd awgrymu y byddai Llywodraeth Cymru yn gwrthod cyflenwad o frechlynnau sy'n hanfodol i ddiogelu ein pobl. Nid yw hyn erioed wedi'i wneud ac ni fyddai byth yn cael ei wneud, ac mae'r awgrym yn gwbl ddi-sail. Mae defnyddio'r Senedd genedlaethol hon fel llwyfan ar gyfer ffuglen sy'n codi bwganod yn flinderus ac yn anghyfrifol, ac rwy'n siomedig o glywed y Ceidwadwyr yn helpu i hyrwyddo newyddion ffug ac yn barod i bleidleisio drosto.
Rwyf wedi ymrwymo i dryloywder yn y rhaglen gyflwyno. Yr wythnos diwethaf, dechreuasom ryddhau data bob dydd, i ddangos—
Rhaid imi ofyn i'r Gweinidog ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda.
—cyfanswm cronnol y brechiadau a byddwn yn parhau i wneud hynny'n agored ac yn dryloyw. Mae ein rhaglen yn un fawr a chyflym. Cyn belled â'n bod yn derbyn ein cyfran deg o frechlynnau mewn amser teg, rwy'n hyderus y byddwn yn cyflawni'r cerrig milltir a nodir yn ein strategaeth.
Diolch. Galwaf ar Suzy Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau? Nid oes neb yn awgrymu bod hyn yn hawdd, a dyna pam na ddylai llongyfarch Llywodraeth y DU ar sicrhau cyflenwadau mor gyflym fod wedi bod yn anodd iawn. Ond mae arnaf ofn, Weinidog, eich bod chi a'r Prif Weinidog wedi gwneud hyn yn brofiad llawer mwy dyrys nag oedd angen, oherwydd y cyfathrebu gwael ynghylch eich cynlluniau, fel y nododd Laura Jones. Credaf mai'r peth lleiaf y gallwch ei wneud yw cael hynny'n iawn, oherwydd mae angen i'n hetholwyr ymddiried ynoch. Mae ein hen fyrddau iechyd yn ymdopi â hyn; maent yn gorfod dargyfeirio amser gwerthfawr i ateb cwestiynau etholwyr ar hyn i gyd oherwydd eich negeseuon canolog—er enghraifft, un etholwr sy'n ysgrifennu, 'Mae fy nhad wedi cael llythyr gan y GIG yn ei hysbysu y bydd ei feddygfa'n rhoi gwybod iddo pa bryd y mae i fod i gael y brechlyn. Mae gan y feddygfa nodyn ar ei gwefan yn dweud y byddant yn cael eu hysbysu gan y GIG pan fyddant i fod i gael y brechlyn.' Mae cyngor y GIG ar osgoi sgamiau yn dweud:
Mae'r brechlyn COVID-19 yn rhad ac am ddim
Ni fyddwn byth yn gofyn am ddogfennau personol i brofi pwy ydych chi, er enghraifft eich pasbort, trwydded yrru, biliau neu slipiau cyflog.
Ond mae'r llythyr sy'n eich gwahodd i'r ganolfan frechu torfol yn dweud, 'Pan fyddwch chi'n mynychu, dewch â rhyw fath o brawf gyda chi, er enghraifft eich pasbort, trwydded yrru neu fil cyfleustodau yn eich enw i brofi mai chi ydych chi.'
Brechiadau i staff ysgol sy'n rhoi gofal personol i ddisgyblion sydd ei angen—a oes gwir angen imi fynd drwy'r tair fersiwn o'r cyhoeddiad hwnnw? Neu'r cwestiwn ynglŷn â hawl myfyrwyr ar leoliadau gwaith ym maes iechyd i gael brechiadau—nawr, yn amlwg, nid oedd prifysgolion yn gwybod beth oedd yn digwydd ar y pryd, ac nid ydynt yn gwybod hynny o hyd. Heddiw, clywn hyn mewn llythyr gan brifysgol yng Nghymru at fyfyriwr: 'Rwy'n ymwybodol fod rhai ohonoch wedi cael brechiadau COVID-19 tra ar leoliad, ond ar hyn o bryd nid oes gennym ddata ar y nifer sy'n manteisio ar frechlynnau i fyfyrwyr a hoffem gael rhagor o wybodaeth am hyn'. Ar ben hynny, mae gennym y sefyllfa hurt fod y broses o ddarparu'r brechlyn yn cael ei harafu fel nad yw'r rhai sy'n rhoi brechlynnau'n sefyll o gwmpas yn cicio'u sodlau, a 42,000 o bobl dros 80 oed yn aros am eu pigiadau oherwydd eira. Nid wyf yn credu hynny—rwy'n credu bod Angela Burns wedi'ch dal chi ar hynny.
Felly, nid oes dianc rhag y ffaith bod Cymru wedi llusgo ar ôl gwledydd eraill y DU ar hyn—mawredd, rydych chi wedi bod yn gwthio i ddal i fyny y dyddiau diwethaf hyn, ond rydych chi'n dal ar ei hôl hi, fel y nododd Mark Reckless. Rydym i gyd yn dweud 'diolch' enfawr i'r rhai sydd wedi cael eu dargyfeirio i wneud y gwaith hwn ac sy'n gwirfoddoli mewn rolau cymorth, ond gallech fod wedi arbed llawer o ofid i chi'ch hun a'n hetholwyr drwy benodi Gweinidog dros dro i fod â chyfrifoldeb penodol dros y rhaglen frechu. Rydych wedi clywed heddiw gan Janet Finch-Saunders pa mor anghyson yw'r gwaith o'i chyflwyno wedi bod. Er gwaethaf eich—[Anghlywadwy.]—nid yw'n saith diwrnod yr wythnos ym mhobman. Ond fel y dywed Jenny Rathbone, os nad dyna sut y mae Llywodraeth yn gweithio, mae'n ei gwneud yn glir mai chi, Weinidog, sy'n gyfrifol am y methiannau yma.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Rwy'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe bleidleisiwn ar hyn yn ystod y cyfnod pleidleisio.