– Senedd Cymru am 3:03 pm ar 2 Chwefror 2021.
Y datganiad, felly, ar frechiadau COVID-19. Dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y datganiad hwnnw—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Heddiw fe wnaethom ni gyhoeddi'r ail o'n hadroddiadau ni sy'n crynhoi'r cynnydd yn erbyn ein cynllun brechu COVID-19 cenedlaethol. Fe gyhoeddir yr adroddiadau hyn bob dydd Mawrth, yn ogystal â'r data gwyliadwriaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddir yn ddyddiol ac yn wythnosol hefyd, a'r data gweithredol a gyhoeddir gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru. Yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd ganol dydd heddiw, mae'r rhaglen a arweinir gan GIG Cymru wedi brechu mwy na 439,000 o bobl ledled Cymru. Hynny yw, bron 14 y cant o'r boblogaeth. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf yn dangos hefyd bod dros 60 y cant o'n grwpiau blaenoriaeth cyntaf ni wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn erbyn hyn. Mae pethau'n cyflymu trwy'r amser, ac rydym yn gwneud cynnydd mawr. Mae effeithiolrwydd ein seilwaith ni a'r twf o ran capasiti yn amlwg i bawb eu gweld.
Rydym wedi taro dau nod eisoes yn ein cynllun brechu. Rydym wedi cynnig dos cyntaf o'r brechlyn i holl staff rheng flaen y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru. Fe aethom y tu hwnt i'n nod ni ar gyfer diwedd mis Ionawr hefyd, sef bod mwy na 250 o bractisau meddygon teulu yn gweinyddu'r brechlyn. Roedd adroddiad yr wythnos diwethaf yn cadarnhau bod y nod hwn wedi ei gyrraedd yn gynt na'r disgwyl, gyda dros 300 o bractisau yn cynnal clinigau. Mae'r nifer wedi cynyddu eto hyd at dros 400 o feddygfeydd, gan amlygu'r gyfradd uchel o ymgysylltu ar draws pob rhan o'n gwasanaeth iechyd ni ar gyfer cydweithio i ddarparu rhaglen frechu cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl yn erbyn COVID-19. Mae amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed wedi bod wrth wraidd ein hymateb ni i'r pandemig bob amser ac mae hynny'n parhau i fod yn bwysig iawn yn ein brwydr ni yn erbyn y clefyd brawychus hwn.
Y nod olaf yr ydym ni wedi bod yn gweithio tuag ato yw brechu'r grŵp blaenoriaeth cyntaf a bennwyd gan Gyd-bwyllgor arbenigol annibynnol y DU ar Frechu ac Imiwneiddio—pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn a'r staff sy'n gofalu amdanyn nhw. Ein bwriadu oedd mynd i'r holl gartrefi gofal yr oedd yn bosibl mynd iddyn nhw erbyn diwedd mis Ionawr a sicrhau bod cynlluniau ar waith i'r cartrefi gofal hynny sydd wedi profi achosion o COVID-19 gael y brechiadau cyn gynted â phosibl. Rwy'n falch o gadarnhau unwaith eto ein bod ni wedi cyrraedd y nod hwn, fel y cadarnhaodd fy nghyd-Weinidog i, Eluned Morgan, ddoe. Mae'r byrddau iechyd wedi cadarnhau eu bod wedi ymweld â phob cartref gofal i bobl hŷn yr oedd yn ddiogel i anfon timau brechu yno. O ran y cartrefi hynny lle nad yw hynny wedi bod yn ddiogel, bwriedir ymweld â'r rheini yn ystod mis Chwefror, cyn gynted ag y bydd y cyngor iechyd cyhoeddus yn caniatáu hynny.
Fel sy'n gyffredin gyda'n model cyflenwi ni, mae dull cyfunol ar waith ar gyfer cartrefi gofal i bobl hŷn. Gyda rhai cartrefi gofal, mae'r byrddau iechyd yn anfon timau brechu i frechu preswylwyr a staff. Gyda chartrefi gofal eraill, mae practisau meddygon teulu yn trefnu'r brechiadau i breswylwyr, yn aml drwy anfon nyrs ardal neu dîm bach, a staff yn cael eu gwahodd i fynd i ganolfannau torfol. Mae'r model cymysg hwn yn sicrhau'r dull priodol ar gyfer pob cartref, gan ystyried y cyd-destun a'i leoliad. Gyda'r tri nod ar y daith hyd at garreg filltir 1 wedi eu cyrraedd, rydym yn canolbwyntio bellach ar gynnig brechlyn i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi brechu mwy o bobl yn ôl canran y boblogaeth nag unrhyw wlad arall yn y DU. Rydym yn symud trwy'r carfannau blaenoriaeth ac rydym ar y trywydd cywir i gyflawni yn erbyn ein carreg filltir gyntaf ganol mis Chwefror.
Rydym yn disgwyl gallu cynnal y lefel hon o gynnydd ac, mewn gwirionedd, rydym yn disgwyl gweld cynnydd ychwanegol yng nghyfraddau brechu'r wythnos hon. Rydym wedi llunio rhaglen sy'n gynaliadwy gan gynnwys cyflymder a chapasiti oddi mewn iddi'n barhaus. Yr wythnos hon, fe gytunwyd ar gymorth ychwanegol gan y lluoedd arfog ar gais awdurdodau sifil. Fe fydd hyn yn golygu 90 o bersonél milwrol arall yn cael eu dwyn i mewn i gefnogi'r capasiti yn y rhaglen frechu ledled Cymru. Rwy'n hynod ddiolchgar i'n cydweithwyr ni yn y GIG ledled Cymru sydd, oherwydd eu gwaith caled a'u hymroddiad parhaus, yn gwneud y cynnydd anhygoel hwn yn bosibl, ac, wrth gwrs, i'w partneriaid nhw mewn llywodraeth leol, y lluoedd arfog a thu hwnt, gan gynnwys y sector gwirfoddol. Rwy'n ymfalchïo'n fawr iawn yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn ein gwlad gyda gweinyddu'r brechiadau. Mae gennym ni farathon o'n blaen eto, ond fe allwn wynebu'r cam nesaf gydag ymdeimlad gwirioneddol o hyder yn ein rhaglen ni a arweinir gan y GIG yma yng Nghymru. Diolch, Llywydd.
Prynhawn da, Gweinidog. Diolch i chi am eich datganiad. Mae'n rhaid rhoi clod lle mae'n ddyledus, mae'r sefyllfa wedi symud ymlaen yn aruthrol ers yr wythnos diwethaf, ac fe hoffwn i ddweud da iawn wrth bawb a fu'n rhan o'r ymdrech hon, o'r Llywodraeth hyd at y rhai ar y rheng flaen, am fwrw ymlaen gyda'r brechiadau, yn arbennig felly am inni fod ar ei hôl hi. Braf iawn yw gweld bod y gwaith gyda'r grwpiau blaenoriaeth hyn wedi cyflymu a'i fod yn mynd rhagddo.
Rwy'n awyddus i bwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu, oherwydd mae gennyf i lawer yn fy etholaeth i, ac fe wn i ei bod yn wir yn Hywel Dda, mewn gwirionedd—mae gennym lawer sydd yn eu 80au ac yn hŷn sydd heb gael eu brechu eto, ond sydd wedi cael apwyntiadau yn ystod yr wythnos hon ac wythnos nesaf. Mae hynny'n wahanol i ddweud wrth bawb, 'Fe gewch chi eich brechu erbyn y penwythnos diwethaf', a hwnnw oedd y targed, ac rwy'n credu bod hynny wedi achosi rhywfaint o ddryswch. Felly, wrth symud ymlaen, trwy'r holl grwpiau blaenoriaeth eraill, fe fyddwn i'n pwyso am roi mwy o ystyriaeth i'r neges a gaiff ei chyfathrebu. Ond mae'n wych gweld ein bod ni'n brasgamu tuag at geisio brechu'r genedl gyfan.
Yn anffodus, mae nifer y marwolaethau cofrestredig, er eu bod nhw wedi gostwng o 467 i 447, sydd i'w groesawu'n fawr, yn amlwg—mae'n dal i fod y trydydd uchaf o unrhyw bwynt yn y pandemig, sy'n dangos pa mor frawychus ac ofnadwy ydyw, a'r ffaith bod y clefyd hwn yn lladd. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am ragor y gallech chi ei wneud i gyrraedd y grwpiau hynny sy'n anodd eu brechu, sef y bobl sydd naill ai'n gwrthod y brechlyn neu'r grwpiau, y carfannau hynny o bobl, y gwyddom ei bod yn fwy anodd eu perswadio i gael y brechlyn? Ac i'r bobl hynny sydd wedi cael yr alwad ffôn a'r cynnig o frechlyn ond sydd wedi dweud, 'Na dim diolch', pa gynlluniau sydd ar waith i allu mynd ar drywydd yr unigolion hyn, gan eu meddyg teulu lleol nhw efallai, i geisio cael sgwrs â nhw? Oherwydd hyd nes y bydd mwy ohonom yn cael ein brechu, fe fyddwn ni'n parhau i weld y marwolaethau echrydus hyn yn digwydd mewn ysbytai ac yn ein cymunedau ni. Felly, fe fyddai unrhyw ddiweddariad y gallwch chi ei roi inni am hynny i'w groesawu'n fawr.
Wrth gwrs, y pryder arall sydd gan bobl nawr ac y maen nhw'n dechrau llythyra llawer iawn yn ei gylch yw a yw'r brechlynnau hyn yn effeithlon yn erbyn yr holl amrywiadau newydd hyn ai peidio, yn enwedig y straen newydd o'r DU y soniodd Andrew R.T. Davies amdano yn ystod y datganiad busnes, ac, wrth gwrs, y straen o Dde Affrica. Efallai yr hoffech chi wneud rhyw fath o sylw cyhoeddus ynglŷn â hynny, oherwydd rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn wrth geisio cysuro a rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl i bobl.
Roeddech chi'n sôn am y gwaith, sydd i'w groesawu'n fawr, o ran cyrraedd y cartrefi gofal, ond a wnewch chi ddweud wrthym ni faint o gartrefi gofal sydd heb gael eu brechiadau eto, neu faint o breswylwyr a staff mewn rhai cartrefi gofal? Rwy'n sylweddoli bod rhai cartrefi gofal yn cael eu hystyried dan rybudd coch oherwydd bod rhyw elfen o goronafeirws yn bresennol yno; fe wn i fod gan wahanol fyrddau iechyd bolisïau gwahanol o ran a fyddan nhw'n mynd i mewn i'r cartrefi gofal ai peidio a cheisio brechu'n rhannol, hyd yn oed os oes rhywfaint o feirws COVID yn bresennol yno. Ond fe hoffwn i ehangu hefyd ar gwestiwn Delyth Jewell a ofynnodd ichi yn ystod y datganiad busnes, neu a ofynnodd i'r Trefnydd edrych ar hynny: a oes yna gartrefi gofal yn cael eu hailgategoreiddio? A oes unrhyw gynllun bod rhai cartrefi gofal efallai wedi'u newid i wahanol gategorïau? Fe fyddai'n ddefnyddiol iawn inni gael clywed eto unrhyw beth y gallwch chi ei ddweud wrthym ni am hynny.
Yn olaf, fe hoffwn i godi mater y fferyllwyr. Fe wyddom fod gennym y canolfannau brechu torfol hyn, fe wyddom fod meddygon teulu â rhan yn hynny, ac fe wyddom fod llawer iawn o waith yn mynd rhagddo o fewn amgylchedd ysbytai a gofal cymdeithasol, ond wrth gwrs mae ein fferyllwyr ni'n dal i aros yn yr esgyll yn barod i helpu yn yr hyn sy'n ymdrech genedl gyfan. A allwch chi amlinellu unrhyw gynlluniau i'w cynnwys nhw? Rwyf wedi clywed gan y byrddau iechyd ledled Cymru eu bod nhw'n siarad â fferyllwyr, ond mewn gwirionedd maen nhw wedi bod yn siarad â nhw am y ddwy, neu'r tair neu'r pedair wythnos ddiwethaf. Nid oes dim wedi digwydd eto. Mae'n ymddangos nad oes unrhyw beth o sylwedd wedi digwydd ar lawr gwlad.
Wrth inni weithio i lawr y rhestr o'r grwpiau categorïau hynny a dechrau edrych ar frechu'r rhai yn eu chwedegau a'u pumdegau, mae'r grwpiau hynny'n mynd i gynyddu fwyfwy eto yn eu maint. Fe fydd angen pawb arnom ni. Rydych chi wedi sôn eisoes heddiw am ddefnyddio 90 aelod o'r lluoedd arfog—mae croeso mawr i hynny, ond mae gennym ni tua 710 o fferyllfeydd yn aros yn yr esgyll. Felly, unrhyw ddiweddariad y gallwch ei roi am hynny—oherwydd yn fy marn i mai hwn yn adnodd sy'n cael ei wastraffu ac mae eu hangen arnom ni. Maen nhw eisiau cael eu defnyddio, maen nhw wedi dweud hynny'n eglur iawn, yn hyglyw iawn, maen nhw wedi cyflwyno'r cynigion ac, wrth gwrs, os ydych chi'n rhywun sy'n llai awyddus i deithio, efallai, mae mynd i'ch fferyllfa leol, fel y mae mynd at eich meddyg teulu lleol, yn ddewis llawer haws na theithio i ganolfan frechu torfol. Felly, unrhyw ddiweddariad yn ymwneud â phryd y gellir defnyddio'r fferyllwyr ac ar gyfer pa gategori o bobl. Diolch yn fawr iawn.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Yn benodol, diolch am gydnabod y cynnydd sy'n cael ei wneud a chyflymder yr hyn yr ydym ni'n gallu ei gyflawni yng Nghymru gyda dull cytûn o weithredu fel tîm.
Ar y cwestiynau, o ran cyfradd y marwolaethau a welwn ni o hyd, y gwir amdani yw, gan ein bod ni'n mynd i'r cyfeiriad iawn, ein bod ni'n dal i weld niferoedd cymharol uchel o bobl yn dod yn agored i niwed, ac fe fyddwn ni'n gweld hynny yn ffigurau'r marwolaethau. Pan welsom ni'r penllanw cyntaf, pan oeddem ni'n symud i'r cyfeiriad iawn, fe fu'n rhaid inni adrodd am wythnosau lawer am gyfraddau uchel iawn o farwolaethau, rwy'n ofni. Ac o ystyried nifer y bobl yn ein hysbytai o hyd, rwy'n ofni y byddwn ni'n gweld mwy o bobl yn colli eu bywydau yn ystod yr wythnosau nesaf, er bod y darlun yn gwella. Felly, fe fydd mwy o deuluoedd bob wythnos yn galaru oherwydd colli anwyliaid. A dyna pam mae'n bwysig ein bod ni'n gadarnhaol nid yn unig o ran yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'r rhaglen frechu, ond o ran y sicrwydd i bobl na fyddan nhw'n cael eu hanghofio a'u gadael ar ôl. Felly, os oes yna bobl dros 80 oed heb gael eu pigiadau eto, fe fyddan nhw'n cael eu hapwyntiadau ac fe fyddan nhw'n cael eu cynnwys; fe fyddan nhw'n cael eu hamddiffyn yng Nghymru yn union fel yng ngweddill y Deyrnas Unedig.
O ran cynnydd gyda'r bobl hynny sy'n gwrthod, rhan amlwg o'n her ni yw mai rhywbeth gwirfoddol yw'r brechiad, ac felly mae yna bobl sydd, am wahanol resymau, yn fwy pryderus na'i gilydd ynghylch beth i'w wneud. Mae hynny'n ychwanegu at eich pwynt chi ynglŷn â chyfathrebu, o ran yr ystod o bryderon sy'n bodoli, felly, wrth fynd drwy hyn, rydym yn ceisio deall mwy am y pryderon y mae'n rhaid i bobl allu mynd i'r afael â nhw, ac nid materion sy'n unigryw i Gymru yw'r rhain; maen nhw'n faterion cyffredin ledled y DU ac yn wir ledled Ewrop.
Felly, rydym ni'n gwneud gwaith penodol, er enghraifft, ynglŷn â chymunedau pobl ddu ac o darddiad Asiaidd. Roeddwn i'n credu bod hwn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen wrth weld Aelodau Seneddol o'r Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur nad ydyn nhw'n hoffi ei gilydd mewn gwirionedd; ni fyddech fel arfer yn gweld James Cleverly a Diane Abbott yn rhannu llwyfan, ond roedd y ddau mewn fideo gyda'i gilydd, yn annog pobl i fynd am y brechlyn. Nawr, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Er yr holl amrywiaeth barn sydd rhyngom ni o ran yr hyn sydd wedi digwydd neu'r hyn a fydd yn digwydd, mae'n bwysig iawn annog pobl i fanteisio ar y brechlyn oherwydd mae'n ddiogel ac yn effeithiol.
Ac rwy'n credu y bydd hynny'n dod at eich pwynt chi ynglŷn ag effeithiolrwydd brechlynnau a straenau newydd. Felly, gyda'r ddau, os hoffech chi, amrywiolyn Caint-plws, ac amrywiolyn De Affrica, ceir pryder y bydd ymateb llai effeithiol yn erbyn y brechlynnau. Nid yw hynny'n golygu na fydd brechlynnau yn effeithiol o gwbl; fe fydd cyfran dda o ddiogelwch yn cael ei chynnig ganddynt, ac mewn gwirionedd mae hynny'n atgyfnerthu'r angen i barhau i fod yn gyflym iawn wrth weinyddu ein rhaglen frechu ni. Ac fel y clywsoch chi gyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn dweud yn y gynhadledd i'r wasg ddoe, a gynhaliwyd gyda Matt Hancock, mae'r un cyngor yn union gan bob asiantaeth iechyd cyhoeddus ledled y DU ynglŷn â'r ffaith y ceir pryder y bydd y brechlynnau yn llai effeithiol ond nid yn aneffeithiol; maent yn parhau i fod yn ddiogel, yn parhau i fod yn effeithiol, ac mae'n parhau i fod yn bwysig bod pawb yn manteisio ar y cyfle pan ddaw'r cynnig. Ac fe allwch chi ddisgwyl gweld clinigwyr gofal sylfaenol, yn arbennig felly, yn ceisio mynd ar drywydd y bobl hynny sydd heb gael eu brechlyn nhw eto. Ond yr her wirioneddol yw mynd trwy grwpiau 1 i 9 cyn gynted â phosibl, lle gwyddom fod 99 y cant o'r marwolaethau yn digwydd. Serch hynny, mae yna nifer uchel o bobl y tu allan i gategorïau 1 i 9 yn parhau i fod yn yr ysbyty, felly hyd yn oed wedi hynny, ni fydd yn fater mor syml â mabwysiadu agwedd fel un Ryanair, a dweud 'Fe all bywyd fynd yn ôl i normal unwaith eto.' Fe fyddwn ni yn ei chanol hi am beth amser eto.
Ynglŷn â'ch pwynt chi am gartrefi gofal; ni chafodd y rhain eu hailgategoreiddio. Nid oes unrhyw dric yn cael ei chwarae yma. Nid yw preswylwyr cartrefi gofal yn cael eu hesgeuluso. Roedd y targed yn ymwneud â chartrefi gofal pobl hŷn, oherwydd dyna lle mae'r risg uchaf, ac yn y rhain y gwelwn y canlyniadau mwyaf erchyll o goronafeirws, wrth iddo gael mynediad i'r cartrefi gofal hynny. Fe fydd pobl sydd â materion eraill sy'n eu gwneud nhw'n fwy agored i goronafeirws yn cael eu cynnwys mewn grwpiau blaenoriaeth eraill. Felly os ydych chi'n disgwyl gweld cynnwys pobl ag anableddau dysgu, er enghraifft, yna fe fydd y rhai sy'n hŷn, dros 50 oed, yn cael eu cynnwys yn eu carfan oedran. A'r rhai â chyflyrau gofal iechyd eraill, fe all y bobl hynny, er enghraifft, y rhai sy'n gymwys i gael pigiad ffliw'r GIG, ddisgwyl cael eu cynnwys yng ngrŵp blaenoriaeth 6 hefyd. Felly rydym ni'n symud yn raddol nid yn unig drwy grwpiau 1 i 4, ond fe fyddwn ni rywbryd yn mynd ati o ddifrif i wahodd grwpiau o bobl o grwpiau 5, 6 ac eraill i ddod ymlaen hefyd. Felly, nid yw'r cyflymder yn mynd i arafu o ran yr hyn y gallwn ni ei gyflawni ac yn sicr nid ydym ni yn anghofio pobl chwaith.
O ran y cartrefi gofal, roeddwn i'n edrych ar rai ffigurau yn gynharach, ac fe fyddaf yn darparu nodyn yn cyfeirio nôl at hyn, felly nid wyf i'n ceisio anghofio neu gamddehongli'r hyn sydd wedi digwydd yn fwriadol, ond o ran y cartrefi gofal lle nad yw'r gwaith brechu wedi'i gwblhau, mae yna amrywiaeth ohonyn nhw wedi cael y brechlyn yn rhannol, oherwydd fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau ledled Cymru ac felly roedd cysondeb yn y dull. Pe byddai yna lond llaw o achosion yn hytrach nag un achos ehangach ar safle, ar sail asesu risg, roedd y timau'n gallu mynd i mewn a phrofi'r bobl hynny a oedd wedi cael canlyniad negyddol. Roedden nhw'n mynd i mewn ac yn gallu brechu nifer o bobl, felly mae gennym ni amrywiaeth o gartrefi gofal lle mae'r gwaith wedi'i gwblhau'n rhannol ar gyfer staff a phreswylwyr, ac mae gennym ni rai eraill lle nad oedden nhw'n gallu mynd i mewn o gwbl, ac rwy'n credu bod y niferoedd ar gyfer y rheini yn y 30au isel, a hynny o ganlyniad i achosion cyfredol yno. Ond gan eich bod wedi gofyn y cwestiwn hwn nawr, fe anfonaf nodyn at yr Aelodau wedi hyn i gadarnhau'r safbwynt hwnnw.FootnoteLink
Ac yna, yn olaf, o ran eich pwynt chi am fferyllwyr, rydym ni'n disgwyl defnyddio mwy ar fferyllwyr, wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith, yn ein canolfannau brechu torfol ni a'r rhai sy'n gallu gweinyddu brechiadau yn eu hadeiladau nhw. A'r hyn sy'n cyfyngu arnom ni—ac fe fyddai unrhyw Weinidog Iechyd yn y DU yn rhoi'r un ateb i chi i raddau helaeth iawn—yw'r cyflenwad o frechlynnau, oherwydd rwy'n credu ym mhob gwlad yn y DU, ac yn sicr yma yng Nghymru, fe allem ni weinyddu mwy o frechlynnau pe byddai mwy o gyflenwadau gennym, yn enwedig gan AstraZeneca, oherwydd mae hwnnw'n haws ei ddefnyddio. Nid ydym wedi manteisio i'r eithaf ar allu gofal sylfaenol i gyflawni yn hyn o beth, ac wrth inni gael mwy o frechlynnau, ac rydym ni'n gobeithio y bydd gennym fwy yn y dyfodol, yn sicr, fe ddylem yn gallu gwneud hyd yn oed mwy o ddefnydd wedyn o ffynnon ewyllys da yn ogystal â'r gallu materol i ddarparu mwy o frechlynnau na'r hyn sy'n bodoli ym maes gofal sylfaenol.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am y datganiad. Dwi'n blês iawn i weld y tir sydd wedi cael ei ennill, yn sicr, o ran y broses frechu yng Nghymru. Mae yna dimau o frechwyr brwd iawn ym mhob cwr o'r wlad, ac dwi'n clywed adroddiadau positif iawn o'r profiad mae pobl yn ei gael wrth gael y brechiad yma. Mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu.
Gwnaf i ofyn cwestiwn cyntaf yn deillio o hynny. Efo pethau'n mynd yn dda ar hyn o bryd—ac dwi'n cytuno'n llwyr efo sylwadau'r Gweinidog mai supply ydy'r broblem, nid pobl i wneud y brechu ar hyn o bryd—o ystyried bod y Novavax a Janssen yn dod tuag atom ni'n fuan iawn, ydy o'n fwriad gan y Llywodraeth i symud ymlaen y targed ar gyfer brechu'r boblogaeth gyfan? Erbyn hyn, dwi'n meddwl y gallwn ni drio bod yn fwy uchelgeisiol, mewn difri, ac mae hynny'n nodyn positif, dwi'n meddwl, i'w daro yn fan hyn.
Er bod pethau'n mynd yn lled dda, mae yna bryderon o hyd—pryderon ynglŷn â'r mix o Pfizer ac AstraZeneca rydyn ni'n ei gael yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mi fyddai'n haws pe bai gennym ni fwy o'r brechlyn sy'n haws i'w ddefnyddio. Felly, gaf i ofyn yr un cwestiwn â dwi'n gofyn bob wythnos? Plîs, gawn ni'r data ar faint o ba frechlyn sy'n cael ei rannu i bob gwlad a phob rhan o Gymru, yn ysbryd bod yn dryloyw, er mwyn gallu adnabod unrhyw broblemau yn y system? Dwi'n gwybod bod y Gweinidog wedi awgrymu'r wythnos diwethaf ei fod o rŵan yn cytuno y byddai'n ddefnyddiol cael hynny, a'i fod o am drio cael y data. Gawn ni ddiweddariad, os gwelwch yn dda?
Gaf i hefyd apelio ar y Llywodraeth i beidio gwahodd pobl i amau'r ffigyrau drwy fethu â bod yn gwbl agored yn y datganiadau rydych chi'n eu gwneud? Rydyn ni'n cofio'r Llywodraeth yn dweud eu bod nhw ychydig yn brin o'r targed o 70 y cant o bobl dros 80; wel, 52.8 y cant oedd y ffigwr, ac mae hynny'n dipyn mwy nag ychydig yn brin. Byddwch yn dryloyw yn y ffordd mae'r ffigyrau yn cael eu datgan.
Yn yr un ffordd eto, rydyn ni'n gweld y comisiynydd pobl hŷn, er enghraifft, yn gorfod pwyntio allan ei bod hi'n bryderus iawn bod chwarter y bobl mewn cartrefi gofal yn dal ddim wedi cael y brechiad. Dydy'r ffigyrau ynglŷn â lle rydyn ni arni ddim yn y datganiad, ddim yn yr wybodaeth sydd hawsaf i'w chanfod gan y cyhoedd, yn y diweddariad ar y broses frechu. Byddwch upfront ynglŷn â'r ffigyrau yma fel ein bod ni'n gallu gweld lle rydyn ni arni. Mae yna ddigon o newyddion da i ganolbwyntio arno fo. Gadewch i ni weld lle mae'r problemau hefyd, ac i bawb gael gweld lle mae'r problemau.
Un cwestiwn gen i, os gaf i, yn benodol ynglŷn â staff gwasanaeth ambiwlans ar y rheng flaen. Mae'n bryder bod yna nifer sylweddol, o bosibl, ddim wedi bod yn fodlon derbyn y brechiad. A gaf i eich sylwadau chi ynglŷn â'r pryderon sydd wedi cael eu codi bod hynny yn gallu rhoi'r cleifion mewn perygl? Beth ydy barn y Llywodraeth ar hynny?
A chwestiwn y gwnes i ofyn yr wythnos diwethaf, a ches i ddim ateb iddo fo: mae'r dechnoleg mRNA yn dechnoleg newydd. Mae'r gofynion storio ac ati yn golygu bod angen math newydd o isadeiledd. Mae'n bosib iawn y byddwn ni'n mynd yn fwy a mwy dibynnol ar y dechnoleg frechu newydd yma, o bosibl i ddelio efo variants newydd, ac yn y blaen. Beth ydy'r ystyriaeth sy'n cael ei rhoi rŵan i fuddsoddi mewn isadeiledd y bydd yn ei gwneud hi'n haws i handlo'r math yma o frechlyn? Achos, fel dwi'n dweud, mae'n bosibl iawn y byddwn ni'n dibynnu llawer mwy arno fo mewn blynyddoedd i ddod.
Diolch am y rhestr o gwestiynau. Rwyf i am geisio mynd trwy'r rhain yn gyflym, Llywydd, i ganiatáu amser i gwestiynau eraill. O ran a allwn ni symud yn gyflymach wedi'r cyflawni, cwestiwn cylchol yw hwnnw mewn gwirionedd, oherwydd mae'n mynd â ni'n ôl at y cyflenwad. Os oes gennych chi gyflenwad mwy a rhagor o frechlynnau, cyn belled â'u bod nhw wedi cael eu cymeradwyo yn rhai sy'n ddiogel ac effeithiol, yna fe allwn ni fynd yn gyflymach, ac rwyf i o'r farn ein bod wedi dangos hynny dros yr wythnosau diwethaf. O ran data ar y brechlynnau ar gyfer pob gwlad yn y DU, rydym ni'n parhau i gael y trafodaethau hyn gyda chydweithwyr ledled y DU ac mae angen i bob un ohonom ni fod yn gyfrifol am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Mae'n siŵr eich bod chi wedi gweld y ffrae gyhoeddus astrus a fu rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y DU ac, yn wir, â chynhyrchwyr y brechlynnau. Rwy'n gobeithio bod y storm honno wedi gostegu nawr, ond mae sensitifrwydd sy'n ddealladwy ynghylch stociau a archebwyd a stociau a ddelir. Rwy'n awyddus i gyrraedd sefyllfa lle gallwn ni gyhoeddi maint y stociau sydd gennym ni, a bod yn glir ynglŷn â'r hyn sydd gennym ni a sut mae hwnnw'n cael ei ddefnyddio. Rydym yn cyhoeddi cyfraddau gwastraff ar hyn o bryd, ac rydym yn defnyddio'r brechlynnau yn effeithlon iawn yma yng Nghymru, sy'n nod disglair iawn arall yn ein rhaglen frechu ni yma yng Nghymru.
Pan ddown ni i gytundeb ar allu cyhoeddi'r ffigurau hynny'n agored, yna fe fyddwn ni'n gwneud hynny yn sicr. Rwy'n awyddus i ni allu gwneud felly, ond rwy'n deall y sensitifrwydd, yn enwedig ar hyn o bryd, o ran yr hyn y gallwn ni ei gyhoeddi. Ac fe fyddai'n ddefnyddiol pe gallai holl ffigurau'r Llywodraeth ym mhob un o'r pedair gwlad ymateb yn yr un modd ag yr ydym ni'n ceisio ei wneud gydag aeddfedrwydd ledled y pedair gwlad.
O ran bod yn agored o ran y ffigurau, rwy'n credu ein bod ni'n hynod o agored. Mae gennym ffigurau dyddiol, mae gennym ffigurau wythnosol a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae gennym naratifau wythnosol ychwanegol sy'n darparu rhywfaint o'r wybodaeth yr ydych chi'n chwilio amdani o ran y ganran ym mhob un o'r carfannau. Fe'u cyhoeddir nhw'n ddyddiol nawr drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, felly nid wyf yn derbyn y pwynt ein bod ni'n celu gwybodaeth; rydym ni'n cyhoeddi llawer iawn o wybodaeth fel y gall pobl weld yn agored beth sy'n digwydd.
Ac rwy'n credu bod pryderon y comisiynydd pobl hŷn braidd yn annheg, os caf i ddweud. Mae gan y comisiynydd pobl hŷn aelod o'i staff hi'n cymryd rhan yn y rhaglen frechu ac yn y grwpiau o randdeiliaid ers yr haf. Mae hi'n ymwybodol iawn o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud o fewn y rhaglen. Mae hi'n ymwybodol iawn hefyd o'i gallu hi drwy gyfarfodydd rheolaidd gyda Gweinidogion a swyddogion, ac wrth ymdrin â bwrdd y rhaglen, o ran sut i godi pryderon. Ac mewn gwirionedd, rydym ni'n mynd mor gyflym â phosibl, a'r unig reswm nad ydym wedi cyrraedd canran fwy byth o bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yw oherwydd y rheswm syml a eglurodd Eluned Morgan ddoe, ac rwyf i wedi esbonio hynny eto heddiw, oherwydd achosion cyfredol.
O ran y potensial i staff beidio â chael y brechlyn a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i'r cyhoedd, dyna ran o'r sgwrs y mae cymheiriaid yn ei chael, yn ogystal ag ar lefel arweinwyr, yn arbennig felly o ystyried maint y niwed sy'n digwydd. Fe hoffwn i fod mewn sefyllfa lle bydd ein staff rheng flaen ni'n cymryd yr awenau. Fe fyddaf i'n edrych eto ar ganran hynny, ond mae yna her a dewis ynglŷn â chadw'r aelod staff hwnnw'n ddiogel a'r cyhoedd hefyd, yn wir.
Ac yna o ran mRNA, wrth bwrs bydd angen inni edrych ar ddiwedd hyn i gyd ar gynigion am yr hyn y bydd angen inni ei wneud, nid yn unig gyda'n cyfleusterau storio presennol ni ar gyfer gallu derbyn symiau sylweddol o frechlyn Pfizer—ac ni ddylem anghofio ein bod wedi derbyn symiau sylweddol o'r rhain—ond y seilwaith wedyn i brofi pob un o'r rhain, ac yna ryddhau pob un o'r rhain, yn hytrach, i'r rhaglen frechu. Felly, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n edrych ar y gwersi a ddysgwyd yn ystod y cyfnod yn ogystal â gwersi i'r dyfodol. Nid wyf i o'r farn fy mod i mewn sefyllfa nawr i gadarnhau swm o fuddsoddiad y byddwn ni'n bendant o'i wneud yn y dyfodol, ond mae hynny'n sicr yn rhan o ddysgu gwersi ac fe fydd angen gonestrwydd pur yn ogystal â bod yn agored am hynny nawr ac yn y misoedd i ddod.
Gweinidog, fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i anfon y sylwadau calonogol niferus a ddaeth i law oddi wrth drigolion Cwm Cynon, sydd wedi cysylltu â mi i fynegi eu rhyddhad a'u gorfoledd am eu bod nhw wedi cael y brechlyn, a'u diolch nhw i bawb a wnaeth hynny'n bosibl. Mae cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer brechu yn esbonio bod pob brechiad yng Nghymru yn cael ei gofnodi yn uniongyrchol yn system imiwneiddio Cymru, sef pecyn meddalwedd pwrpasol a ddatblygwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, a gaiff ei integreiddio i gofnod meddygon teulu, sy'n ei gwneud hi'n hawdd galw pobl ymlaen yn gyflym am y brechlyn, yn unol â chanllawiau'r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio. Pa asesiad a wnaethoch chi hyd yma, Gweinidog, o ba mor effeithiol y mae'r system ddigidol hon o gofnodi ac adrodd yn gweithredu? A pha wersi y gallwn ni eu dysgu o'r arloesi hwn o ran sut y gallwn ni ddefnyddio technoleg ddigidol yn gyflym i wella profiad cleifion o fewn y GIG yng Nghymru?
Ie wir, diolch i chi. Rwy'n credu mai dyna un o'r pethau a gafodd ei anwybyddu i raddau helaeth—y ffaith bod Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, a gafodd ei feirniadu ar adegau, wedi darparu darn pwrpasol o feddalwedd i'n helpu ni i ddeall yr hyn a wnawn ni, a sicrhau, nid o ran cofnodi gwybodaeth yn unig, ond y bydd yr wybodaeth honno'n cael ei defnyddio wedyn hefyd i wneud yn siŵr ein bod ni'n cynnig apwyntiadau newydd i'r bobl hynny pan fydd angen eu hail ddos arnyn nhw, ond i wneud yn siŵr, ar ben hynny, eu bod nhw'n cael y brechlyn cywir ar gyfer eu hail ddos. Ac eto, mae hyn yn dangos bod dull o weithredu gan weision cyhoeddus ymroddedig yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr drwy gydol yr argyfwng hwn. Ac fe fydd y ffaith fod hyn wedi ei integreiddio â chofnod meddygon teulu yn ddefnyddiol iawn i'r dyfodol hefyd.
Felly, rwyf i o'r farn y bydd gwasanaeth imiwneiddio Cymru nid yn unig yn ddefnyddiol am y tro, ond yn yr hirdymor i'r dyfodol. Ac rwy'n credu y byddwch chi'n gweld mwy o'r arloesi hwnnw'n ehangach na dim ond yn y rhaglen frechu. Felly, yn y feddalwedd yr ydym ni'n ei defnyddio, er enghraifft, Attend Anywhere, fe gafodd hwnnw ei ysgogi gan ei fod yn angenrheidiol, oherwydd fe fu'n rhaid i bobl gael eu hapwyntiadau nhw o bellter. Fe'i cyflwynwyd yn gyflym iawn. Fe fyddai wedi cymryd blynyddoedd fel arall i gyflwyno meddalwedd fel hwn ledled ein GIG. Ac nid ymateb a arweinir yn unig gan argyfwng i'r pandemig fydd hwnnw—fe fydd yn rhan o'r ffordd y bydd ein gwasanaeth ni'n gweithio yn y dyfodol. Os ydych chi'n meddwl amdanom ni fel grŵp o weithwyr sydd ddim yn hollol nodweddiadol, ond, wyddoch chi, mae gwleidyddion a phobl eraill yn ei chael hi'n anodd iawn bod mewn lle arbennig ar amser arbennig, ac yn cael cyfres wahanol o apwyntiadau lle mae gofyn ichi fynd i safle ysbyty yn bersonol, er enghraifft, ar gyfer apwyntiadau y gallech chi eu cael ar y ffôn neu ar y sgrin. Felly, yn fwyfwy fe fydd angen ymateb i'r unigolyn, i'r claf, ond hefyd o ran sut mae hynny'n gweithio ar gyfer yr aelod o staff. Felly, mae llawer wedi'i wneud o ran arloesi digidol, ac mae llawer mwy i'w wneud eto i'r dyfodol a ddylai fod o fudd i bob un ohonom ni.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a dechrau hefyd drwy ganmol perfformiad ardderchog pawb sy'n ymwneud â'r rhaglen frechu? Mae'n wirioneddol arwrol, epig, ac mae pob ansoddair o'r fath yn gwbl addas. Hefyd, a gaf i ddweud bod y cyfyngiadau symud yn gweithio mewn gwirionedd? Rwy'n credu ei bod yn bwysig pwysleisio'r pwynt hwnnw. Fe all hynny fod yn sioc i un neu ddau o'r rhai sy'n cysylltu â mi'n rheolaidd ar-lein, ond mae'r cyfyngiadau symud yn gweithio, mae'r ffigurau'n dangos hynny. Ac a gaf i roi teyrnged i'r arbenigedd ardderchog o ran genomeg sydd gennym yma yng Nghymru? Mae'r dechnoleg dilyniant sydd gennym ni'n gwbl wych. Ac o ran hynny, a'r arbenigedd hwnnw, a dyna sut yr ydych chi'n darganfod amrywiolion newydd, mae'n amlwg bod gennym yr amrywiolyn newydd o Dde Affrica, a'r amrywiolyn newydd hwn, Caint-plws, fel yr awgrymodd y Gweinidog, a fyddai, yn honedig, yn ei chael hi'n haws osgoi holl effeithiau brechu, ac osgoi effeithiau llawn ein himiwnedd ni.
Y cwestiwn—. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am hynny ac, yn amlwg, mae hynny wedi tawelu fy meddwl i'n fawr iawn. O ran sut y byddwn ni'n profi am yr amrywiolion newydd hynny yng Nghymru, fodd bynnag, pa mor eang yw ein gallu ni i ddarganfod yr amrywiolion newydd hyn yn y drefn brofi sydd gennym ni yng Nghymru ar hyn o bryd? A'm cwestiwn olaf i, o ran profi yn gyffredinol, yw: beth yw'r cynnydd o ran caniatáu i unigolion, h.y. aelodau'r cyhoedd, ofyn am eu prawf nhw eu hunain pan fydd ganddyn nhw symptomau amwys neu rai nad ydynt yn arferol o ran COVID? Sut allwn ni ymdrin â'r sefyllfaoedd hynny nad ydyn nhw'n nodweddiadol, ond yn bwysig serch hynny? Diolch yn fawr.
Os caf i ymdrin â'r cwestiwn olaf yn gyntaf, oherwydd rwy'n credu, mewn gwirionedd, os bydd pobl yn mynd i ganolfan brofi gydag ystod o symptomau nad ydyn nhw'n rhai arferol, ond yn gallu egluro sut maen nhw'n teimlo, yna ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu gwrthod. Nid dyna fydd eu profiad nhw. Ac, mewn gwirionedd, y broblem fwyaf sydd gennym yw'r bobl sydd â symptomau ond nad ydyn nhw'n cael eu profi. Os edrychwch chi ar adroddiadau'r grŵp cynghori technegol yr ydym ni'n parhau i'w cyhoeddi bob wythnos, fe welwch chi fod nodwedd reolaidd yn y rhain, ac un o'r nodweddion rheolaidd yr wyf i'n sicr yn edrych arno bob wythnos, hyd yn oed os nad yw eraill yn gwneud hynny, yw edrych ar nifer y bobl sy'n cydnabod eu bod nhw wedi bod â symptomau ac yna faint ohonyn nhw sy'n mynd ymlaen i gael y prawf, a dim ond tua hanner y bobl sydd â'r symptomau arferol, fel y mynegwyd yn y cwestiwn, sy'n mynd ymlaen i gael eu prawf eu hunain. Felly, mae problem wirioneddol yma, ac mae yna raniad mewn ystod oedran a rhaniad rhwng y rhywiau hefyd. A dweud y gwir, mae dynion yn llawer llai tebygol o fynd am brawf, ac, mewn gwirionedd, fe wyddom ni mai dynion hŷn yw un o'r categorïau risg uwch hefyd. Felly, mae hyn yn achosi rhwystredigaeth fawr. Mae angen inni gyhoeddi'r neges: os oes gennych chi symptomau, ewch am brawf. Ac mae digon o adnoddau profi ar gael ar hyn o bryd, oherwydd—un o'ch pwyntiau cynharach chi oedd bod y cyfyngiadau symud wedi gweithio o ran gostwng cyfraddau trosglwyddo. Mae'r cyfraddau trosglwyddo yn gostwng, mae cyfraddau achosion yn gostwng—rydym yn dymuno gweld hynny'n parhau—ac mae hynny'n golygu y bydd llai o bobl yn cael profion.
Ac o ran yr arbenigedd sydd gennym o ran genomeg, rydym yn cyflawni llawer mwy na'r disgwyl yng Nghymru, ac fe ddylem fod yn falch iawn o'r hyn y mae ein harbenigwyr genomeg yn ei gyflawni o ran yr ymdrech gyffredinol, nid yn unig ar gyfer Cymru, a'r DU, ond yn fyd-eang hefyd. Mae'r labordai sydd gennym ni ar hyn o bryd mewn sefyllfa i allu darganfod amrywiaeth o amrywiolion newydd. Rydym ni wedi cytuno i sicrhau y bydd gennym ni sampl gynrychioliadol o brofion o Gymru i'w hanfon i labordai goleudy fel y gallan nhw ddarganfod amrywiolyn newydd y DU, amrywiolyn Caint. Ac mae gennym amrywiaeth o brofion ar waith hefyd i ddarganfod ymhle y gallem fod ag amrywiolyn De Affrica. Dyna pam—. Niferoedd isel o amrywiolyn De Affrica sydd gennym ni yma—dyrnaid yn llythrennol—yn hytrach na'r niferoedd llawer mwy sydd, yn anffodus, wedi eu profi yn gadarnhaol yn Lloegr. Ac fe fydd hyn yn bwysig iawn i ni—rydym yn awyddus i weld llwyddiant gyda'r rhaglen brofi honno yn Lloegr sy'n chwilio am amrywiolyn De Affrica, oherwydd fe fydd honno mewn gwirionedd yn helpu i gadw pob un ohonom yn ddiogel. Ac mae rhai o'r ardaloedd lle maen nhw'n cynnal profion ar y ffin â Chymru, felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw'n agos at ein gilydd ledled y DU er mwyn deall yr wybodaeth yr ydym yn ei chaffael, a'i rhannu'n agored wedyn. Ac mae honno wedi bod yn nodwedd bwysig iawn drwy gydol y pandemig hwn. Fe fydd yn rhaid i hynny barhau am fisoedd lawer i ddod.
Diolch i chi am eich diweddariad, Gweinidog, a diolch o galon i'r lliaws o bobl sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod dros 13 y cant o boblogaeth Cymru wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn, heb anghofio'r cymorth a gawn ni gan ein lluoedd arfog yn ystod y pandemig hwn. Gweinidog, yn ystod yr wythnosau nesaf, fe fyddwn ni'n dechrau gweinyddu ail ddosau. Pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd i sicrhau y gall y dosau cyntaf barhau i gael eu cyflwyno ar frys heb unrhyw ostyngiad yn y niferoedd? Dros yr wythnos ddiwethaf, rydym ni wedi gweld biwrocratiaid yr Undeb Ewropeaidd yn bygwth ein cyflenwadau o frechlynnau. Felly, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut y gallwn ni sicrhau diogelwch ein cyflenwad ni? Ac er na all yr UE byth atal allforion o'n cyflenwadau ni o frechlynnau, fe allan nhw eu gohirio, ac mae'r ffradach wedi tynnu sylw at y risgiau cynhenid a ddaw o ddibynnu ar fewnforion. Felly, o ystyried hyn, a wnewch chi ddweud wrthyf i pa drafodaethau a gawsoch chi ynghylch cynhyrchu brechlynnau yng Nghymru?
Ac yn olaf, Gweinidog, rydym ni wedi gweld amrywiolion newydd eisoes yn dod i'r amlwg, ac mae'n ymddangos bod ganddyn nhw gyfradd o ymwrthedd i frechlynnau. Fe allai hyn olygu y bydd raid inni barhau i addasu'r brechlynnau yn gyson i gadw i fyny â'r feirws. Pan ddaw bywyd yn ôl at ryw fath o normalrwydd, ni allwn ddibynnu ar y canolfannau brechu torfol presennol, felly pa gamau yr ydych chi wedi eu cymryd i sicrhau y bydd gennym gapasiti hirdymor ar gyfer brechu ym mhob cymuned? Ac fe hoffwn i ddiolch i'r etholwr a'm ffoniodd i, a oedd yn gorfoleddu wrth ddweud ei fod ef, ar ei ben-blwydd yn saith deg a phum mlwydd oed, wedi cael ei frechu. Mae yntau'n dweud 'diolch yn fawr'. Diolch.
Diolch. O ran yr ail ddosau, heb effeithio ar y cyflwyno yn ehangach, rydym ni eisoes yn bwriadu darparu ail ddosau—. Yn ystod yr wythnosau nesaf, yn llythrennol, fe fyddwn ni'n dechrau gweld mwy o bobl yn cael eu hail ddos nhw, ac fe fydd y niferoedd hynny'n cynyddu, oherwydd, fel y gwyddoch, yn ystod y tair i bedair wythnos gyntaf, fe gawsom ni niferoedd llai o bobl yn cael eu brechu o'i gymharu â'r wythnos hon. Fe fydd cyfanswm y cyflenwad yn effeithio ar ein gallu ni i barhau i fynd ar yr un gyfradd a'r dos cyntaf fel rydym ni'n gwneud ar hyn o bryd. Felly, fe fydd angen inni ystyried sicrhau bod y brechlyn cywir ar gael gennym ar gyfer yr ail ddos—felly fe ddylai pobl sydd wedi cael Pfizer gael Pfizer eto ar gyfer yr ail ddos. Mae llai o bryderon a chwestiynau am AstraZeneca, ac fe fydd angen inni wybod wedyn beth sydd ar ôl inni ar gyfer cyflawni o ran dosau cyntaf newydd. Felly, unwaith eto, mater o gyflenwad yw hyn, yn ogystal â dychwelyd at bwynt Angela Burns, ynghylch gwneud defnydd o'r tîm gofal sylfaenol ehangach—felly, ein fferyllwyr ni—a'n gallu ni i ddarparu rhaglen fwy byth wedi hynny. Os bydd y cyflenwad gennym i wneud hynny, fe fydd angen defnyddio'r tîm ehangach hwnnw ym maes gofal sylfaenol.
O ran yr Undeb Ewropeaidd a'r brechlyn, rwy'n credu bod yna gydnabyddiaeth eang, beth bynnag yw eich barn chi o'r Undeb Ewropeaidd, nad yw'r wythnos neu'r pythefnos ddiwethaf wedi bod yn rhagorol o safbwynt yr UE. Roedd y ffordd y cyflwynwyd y mater hwnnw'n eithriadol o ddi-fudd. Rwy'n credu bod synnwyr cyffredin wedi cario'r dydd erbyn hyn. Gan fod ar bawb angen ein gilydd—o ran teithio hefyd, oherwydd, mewn gwirionedd, fe gafodd y coronafeirws ei fewnforio i Gymru i raddau helaeth pan aeth pobl o Brydain i Ewrop am wyliau a dod adref ym mis Ionawr a mis Chwefror y llynedd; roedd hanner tymor mis Chwefror yn ddigwyddiad arwyddocaol o ran mewnforio oherwydd teithio uniongyrchol o Ewrop, ac nid o Tsieina. Felly, mewn gwirionedd, nid yw'r patrymau hynny o deithio am fod yn wahanol iawn yn y dyfodol, gyda bygythiadau yn y dyfodol. Mae hefyd yn wir ein bod ni eisoes yn cael brechlyn o Ewrop, felly mae angen perthynas dda â phartneriaid Ewropeaidd er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu gweld brechlynnau yn croesi ffiniau rhyngwladol, yn union fel mae cyflenwad AstraZeneca, y caiff rhywfaint ohono ei gynhyrchu yma yng Nghymru eisoes.
Ac mae eich cwestiwn chi am gynhyrchu brechlynnau yng Nghymru—wrth gwrs, mae gwaith cyflenwi a llenwi AstraZeneca yn Wrecsam yn barod. Felly, mae gennym ni rywfaint o'r gweithgynhyrchu hwnnw yma eisoes, ac mae gan un o'r darpar frechlynnau newydd sylfaen i gynhyrchu'r brechlyn yn yr Alban. Felly, mae'r DU eisoes yn cynhyrchu brechiadau ar ei thiriogaeth ei hun, ond nid yw hynny ynddo'i hun am roi'r math o sicrwydd y byddem ni'n dymuno ei gael yn fy marn i. Felly, fe fydd angen perthynas ymarferol ac aeddfed iawn arnom ni â chanolfannau cynhyrchu yn Ewrop, yn ogystal â chwmnïau fferyllol sydd â chanolfannau mewn mwy nag un rhan o Ewrop. Ac o ran ymwrthedd i frechlynnau, dyma un o'r pethau sydd wedi codi o'r blaen, rwy'n credu. Felly, mae hynny'n sicr yn rhan o'r hyn y mae ein gwyddonwyr ni'n ei ystyried, yn ogystal ag ymchwilwyr mewn cwmnïau unigol sy'n awyddus i ddatblygu'r brechlynnau nesaf.
A chapasiti—mae'r capasiti i frechu niferoedd mawr wedi cynyddu oherwydd y ffordd yr ydym wedi gallu symud a defnyddio ein tîm gofal sylfaenol ni. Fel rheol, caiff brechiadau eu gweinyddu gan ofal sylfaenol yn bennaf, beth bynnag. O ystyried ein rhaglenni imiwneiddio hynod lwyddiannus ni ar gyfer plant a phobl ifanc yn sgil yr ymgyrch ffliw—wel, gofal sylfaenol sy'n gweinyddu'r rhain, boed hynny mewn practis cyffredinol neu, yn wir, mewn fferyllfa, neu ymwelwyr iechyd ac eraill a fydd yn mynd i ymweld â phobl o oedran cynnar iawn. Felly, ni fydd gennym strwythur parhaol o ganolfannau brechu byth, os mynnwch chi. Os byddai hynny'n wir, fe fyddem yn byw gyda bygythiadau i dragwyddoldeb. Ond, pe byddai angen inni fod yn fwy ystwyth eto, rwy'n credu mai'r hyn a gafodd ei brofi yw bod gofal sylfaenol yn hynod o hyblyg ac yn hynod o barod i amddiffyn y bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw'n gyson, ac rwy'n ddiolchgar iawn am bopeth y maen nhw wedi ei wneud.
Gweinidog, rydym ni'n gwybod bod ein cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn arbennig o agored i salwch y feirws, ac mae Llywodraeth Cymru a'i gweithgor wedi gwneud gwaith da iawn yn esbonio a deall ac ymateb i hynny. Mae rhywfaint o bryder ar hyn o bryd y gallai rhai yn ein cymunedau lleiafrifoedd ethnig fod yn fwy cyndyn o gael y brechlyn na'r boblogaeth yn gyffredinol. Tybed a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw syniad a yw hynny'n wir yng Nghymru, ac, os felly, i ba raddau y mae honno'n broblem.
Ac, o ran cyfathrebu'r negeseuon cywir mewn modd priodol i'n poblogaethau lleiafrifoedd ethnig, gwn i fod gwaith yn cael ei wneud gyda phobl yn y gymuned i gyfleu'r negeseuon hynny, yn wir, ac o gael aelodau o'r gymuned leiafrifol ethnig mewn swyddi cyfrifol priodol, gweithwyr iechyd proffesiynol efallai, yn cyfathrebu'r negeseuon hynny ac, wrth gwrs, yn sicrhau bod yr ieithoedd priodol yn cael eu defnyddio. Tybed a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud rhagor i adeiladu ar y gwaith hwnnw, o ystyried y broblem bosibl sy'n bodoli, a hefyd tybed a roddir ystyriaeth i ddefnyddio mosgiau fel canolfannau brechu, pe gallem ddod o hyd i adeiladau sydd â digon o le ac sy'n addas o ran eu natur saernïol. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi roi darlun mwy manwl inni o'r gwaith sy'n mynd rhagddo i fynd i'r afael â'r materion hyn, Gweinidog, oherwydd maen nhw'n arwyddocaol iawn, yn amlwg, o ystyried yr effaith fwy andwyol ar iechyd a gafodd y feirws ar ein cymunedau du ac Asiaidd ni.
Diolch. O ran hyn, rwy'n cyfeirio nôl at yr hyn a ddywedais i'n gynharach mai da o beth yw bod gennym ni seneddwyr—neb ohonyn nhw'n ASau o Gymru, ond seneddwyr o'r Blaid Geidwadol a Llafur y DU, nad ydyn nhw'n cytuno â'i gilydd o gwbl ar y mwyafrif llethol o faterion—a phob un ohonyn nhw'n cytuno i lunio neges sy'n hyrwyddo ac annog pobl i fanteisio ar y brechlyn. Pobl yn adrodd eu profiadau personol am eu teuluoedd a'u cyfeillion nhw, a chlywed James Cleverly a David Lammy yn siarad am bobl y mae'r ddau ohonyn nhw'n eu hadnabod—o dueddiadau gwleidyddol gwahanol iawn, ond y ddau ohonyn nhw wedi colli pobl, y maen nhw wedi eu hadnabod a'u caru a gofalu amdanyn nhw, oherwydd COVID. Ac rwy'n credu bod clywed pobl fel hyn yn annog pawb i fanteisio ar y brechlyn yn neges rymus iawn.
Ac rydym eisoes yn gwneud gwaith yn benodol gyda grwpiau cymunedol yma yng Nghymru, ac nid yw bod yn amheus o'r brechlyn yn rhywbeth y dylem ni gredu nad yw'n bodoli yma yng Nghymru. Mae'n ymwneud â sut rydym ni'n ceisio mynd i'r afael â hyn a pha mor effeithiol y byddwn ni'n gwneud hynny. Byddaf i'n gwneud rhywfaint o waith yn benodol gyda hynny drwy siarad ag arweinwyr cymunedol i adeiladu ar waith sydd wedi ei wneud yn barod. Ac rydym yn siarad â'r gymuned Fwslimaidd eisoes yma yng Nghymru ynghylch a allwn ni ddefnyddio mosgiau, ond yn ogystal â hynny, rwy'n cael fy nghalonogi'n fawr hefyd gan y neges sydd gan arweinwyr ffydd wrth annog pobl i fanteisio ar y brechlyn. Nid oes unrhyw beth sy'n anghydnaws â'u crefydd nhw i gael y brechlyn ac mae yna hefyd—[Anghlywadwy.] —nid yn unig drwy ddefnyddio mosgiau, ond drwy ddefnyddio eglwysi hefyd, o ran yr ystod o'n cymunedau ni. I lawer ohonyn nhw, mae ffydd yn fwy canolog na meysydd eraill o fywyd yma yng Nghymru. Felly, mae angen inni feddwl am y ffyrdd amrywiol o gyfleu negeseuon yn effeithiol i bobl, sy'n ystyrlon ac yn adeiladu'n wirioneddol ar ymddiriedaeth.
Felly, fe fyddaf i'n hapus i roi diweddariad pellach ar ôl hanner tymor, oherwydd fe fyddaf wedi gweithio mwy ar yr ymgysylltiad uniongyrchol hwnnw i roi ryw syniad i chi am yr hyn y gallwn ni ei wneud i annog pobl i'w hamddiffyn eu hunain, oherwydd mae cymunedau du ac Asiaidd mewn mwy o berygl o gael coronafeirws na gweddill y wlad, oherwydd eu tarddiad ethnig nhw.
Gweinidog, ddydd Sul diwethaf, fe weinyddodd bwrdd iechyd Cwm Taf frechiadau ym mhob un o'r cartrefi gofal ac i bob aelod o staff yn y cartrefi gofal, ac rwy'n credu y dylid llongyfarch pob un a gyfrannodd at hynny, mewn tywydd garw iawn, ar adegau, am yr ymdrech a wnaed yn y fan honno.
A gaf i godi dim ond dau bwynt gyda chi? Un ohonyn nhw yw brechu gartref. Yn amlwg, mae pryder y bydd angen brechu rhai nad ydyn nhw'n gallu mynd o'u tai am ba reswm bynnag, ac ati, yn eu cartrefi nhw eu hunain. Mae'n ymddangos bod peth o'r wybodaeth am hynny'n gymysglyd. Tybed a ellid edrych ar hynny, dim ond er eglurder, oherwydd mae'n amlwg bod pobl yn teimlo'n bryderus. Un pwynt arall, wrth gwrs, yw eich bod chi wedi gweld data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfradd y marwolaethau ymhlith gyrwyr tacsis a bysiau—ymhlith gyrwyr tacsis, 101 o farwolaethau i bob 100,000; a gyrwyr bysiau, 83 i bob 100,000—ac roeddwn i'n meddwl tybed a oes unrhyw sylw'n cael ei roi naill ai i ystyriaethau diogelwch o ran eu gwaith nhw, neu i'r gwaith y maen nhw'n ei wneud yn enwedig wrth gludo meddygon a nyrsys, i ganolfannau brechu, i gymorthfeydd, neu ysbytai ac yn y blaen. Diolch i chi, Gweinidog.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. O ran mater gweithwyr trafnidiaeth yn benodol, fe gadarnhaodd cyhoeddiad diweddar yr ONS yr hyn yr oeddem ni'n ei wybod o'r don gyntaf sef bod gweithwyr trafnidiaeth, y mae natur eu gwaith yn golygu eu bod mewn mwy o berygl o'i gymharu â'r boblogaeth yn fwy eang a bod y gwahaniaeth yn un sylweddol. Felly, mae hynny'n rhan o'r hyn y mae'r JCVI wedi bod yn edrych arno wrth roi ystyriaeth i flaenoriaethu'r tu allan i grwpiau 1 i 9. Dyna pam mae'n bwysig iawn hefyd i bob cyflogwr feddwl am yr hyn y mae'n ei wneud o ran yr angen cynyddol i asesu risg cyfredol. Mae rhai o'r bobl hyn yn hunangyflogedig, wrth gwrs. Hunangyflogedig yw'r rhan fwyaf o yrwyr tacsis. Ac rydym ni'n ystyried a oes angen, o'n safbwynt ni, ganllawiau pellach ynglŷn â hynny i amddiffyn y gweithwyr hynny rhag perygl.
Rwy'n cymryd i ystyriaeth yr hyn a ddywedwch am aelodau o'r cyhoedd sy'n gaeth i'r tŷ. Os ydych chi'n byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn, yna rydym eisoes wedi bod yn mynd allan i'ch amddiffyn chi. Mae amrywiaeth o bobl eraill mewn cymunedau sy'n gaeth i'r tŷ am wahanol resymau, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam mae cyswllt â gofal sylfaenol mor hanfodol. Mae gennym ni dimau brechu symudol ym mhob un ardal bwrdd iechyd, ond fe fydd angen i hyn fod yn destun sgwrs gydag ymarferwyr cyffredinol ynglŷn ag olrhain y bobl hynny sy'n gaeth i'w tai, oherwydd ni fydd llunio tîm symudol canolog gan y GIG yn golygu ynddo'i hun eu bod nhw'n gwybod pwy yw pob un o'r unigolion hyn. Felly, dyna pam mae'n bwysig iawn bod â'r cysylltiad hwn yn ogystal â'r pwyntiau a wnaeth Vikki Howells yn gynharach am y cysylltiad â system imiwneiddio Cymru, i sicrhau ein bod ni'n deall pwy sy'n gwneud beth a phwy sy'n mynd allan i ymweld â'r bobl hynny i wneud yn siwr eu bod wedi eu cynnwys, yn hytrach na'u cyfrif ddwy waith.
Ac yn olaf, fe ddylwn i ddweud fy mod i'n gwerthfawrogi'r gamp arwyddocaol yr ydych chi, Vikki Howells, ac eraill wedi ei chrybwyll, ar draws y pleidiau, a llongyfarch ein staff ni am yr hyn y maen nhw'n ei wneud. Mae'n arwyddocaol iawn. O ran ein cyflymder ni yn yr hyn rydym ni'n ei wneud, i roi syniad i chi, yn y saith diwrnod diwethaf y nifer cyfartalog fesul 100,000 ar gyfer y brechlyn yw 452 yn yr Alban, 469 yng Ngogledd Iwerddon, 609 yn Lloegr, ond 680 yng Nghymru. Mae hynny'n dangos ein cyflymder ni yn ystod yr wythnos ddiwethaf ac rwy'n hynod ddiolchgar i bawb sydd â rhan yn hynny.
Gweinidog, ers rhai wythnosau bellach, rwyf i wedi bod yn siarad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am sefydlu pwynt cyswllt canolog a llinell ffôn i'r rhai sy'n pryderu nad ydyn nhw wedi cael eu brechlyn eto, ac i nifer fechan o bobl 80 oed, mae hynny'n amlwg yn wir. Roeddwn i'n arbennig o falch yr wythnos hon pan gafodd y llinell ffôn honno ei sefydlu, ac fe gafodd ei lansio ddoe. Yn fy marn i, bydd hyn yn rhan o'r ateb wrth sicrhau nad oes neb sy'n dymuno cael y brechlyn yn cael ei amddifadu ohono. Ac wrth inni weithio trwy'r grwpiau blaenoriaeth, Gweinidog, a wnewch chi drafod gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, a byrddau iechyd eraill ledled Cymru, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, i sicrhau parhad y llinell ffôn hon drwy gydol y pandemig?
Gwnaf, rwy'n credu mai dyma ran o'n her ni o ran rheoli disgwyliadau pobl ac wrth sicrhau, ar yr un pryd, nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Nid ydym yn dymuno gweld pobl yn galw'r rhif oherwydd eu pryderon cyffredinol, ac fe fydd yna lawer o bobl yng ngrwpiau 1 i 4 yn bryderus ar hyn o bryd, ond pan fyddwn ni'n ymestyn hynny eto, i grwpiau 1 i 9, nid wyf i'n dymuno i gydweithwyr gofal sylfaenol, yn enwedig practisau cyffredinol a fferyllwyr, gael eu llethu gan alwadau. Serch hynny, mae angen dod o hyd i ffordd o ennyn hyder a sicrhau hefyd bod modd gwirio. Felly, fe fyddaf i'n sicr yn rhoi ystyriaeth i'r hyn sydd wedi digwydd eisoes yn y gogledd, i edrych ar yr arfer da y mae Betsi Cadwaladr wedi gallu ei ddatblygu, a gweld sut yr ydym ni'n cymhwyso hynny mewn ffordd fwy unffurf ledled Cymru fel na fydd unrhyw un yn cael ei adael ar ôl wrth inni gwblhau'r ymgyrch genedlaethol hon i sicrhau ein bod ni'n amddiffyn ein pobl.
Diolch i'r Gweinidog.