– Senedd Cymru am 5:25 pm ar 9 Chwefror 2021.
Eitem 6 ar yr agenda yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Papur Gwyn, 'Ailgydbwyso Gofal a Chymorth'. Ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'n gweledigaeth ni o sicrhau llesiant i bobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth. Mae yna gynnydd sylweddol wedi bod yn ystod bron 10 mlynedd ers ein Papur Gwyn cyntaf ar ofal cymdeithasol, 'Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy: Fframwaith Gweithredu', a oedd yn nodi cychwyn y daith hon. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi rhoi gwedd newydd ar y sector. Yn gyffredin â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae yma ganolbwyntio ar lesiant, ac ymdeimlad o atal ac ymyrryd yn gynnar, a gorchymyn i gydgynhyrchu a gweithio ar draws sectorau.
Er bod fframwaith deddfwriaethol cryf gennym ni, mae amrywiaeth o heriau yn wynebu gofal cymdeithasol, ac wrth gwrs yr her fwyaf sy'n wynebu'r sector gofal cymdeithasol yw'r sefyllfa o ran ariannu, yng nghyd-destun galwadau cynyddol a mwy cymhleth ar wasanaethau, ac mae blynyddoedd o gyni ledled y DU wedi gadael eu hôl ar gyllid cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynnydd o £172 miliwn i gyllidebau llywodraeth leol yn 2021-22, o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol, ond mae ansicrwydd ynghylch penderfyniadau cyllidebol i'r dyfodol ar lefel y DU. Hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, a'r buddsoddiad sylweddol a wnaethom yn y sector i fynd i'r afael â chostau sy'n codi oherwydd y pandemig, mae'r angen a ragwelir o ran cyllid yn y dyfodol yn edrych yn heriol. Fe fydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd yn ystod yr wythnosau nesaf am waith y grŵp rhyng-weinidogol ar dalu am ofal.
Mae'r pandemig wedi rhoi gofal a chymorth dan straen pellach sylweddol, ac mae gwendid y sector yn fwy gweladwy byth. Mae'n anodd, ar hyn o bryd, rwy'n gwybod, edrych ymhell y tu hwnt i'r wythnos bresennol, heb sôn am edrych i'r dyfodol hirdymor, ond mae effaith y pandemig yn dangos bod yn rhaid inni weithio i roi gofal a chymorth ar sail hirdymor llawer cadarnach. Dyna pam mae'n rhaid inni gyflymu ein gwaith trawsnewidiol ni er mwyn gwneud gwasanaethau cymdeithasol yn gynaliadwy. Mae'n rhaid achub ar y cyfle pan fo ymwybyddiaeth y cyhoedd o ofal cymdeithasol wedi cyrraedd uchafbwynt, a cheisio creu consensws ledled Cymru ynglŷn â'r hyn y mae angen inni ei wneud i ailgodi'n gryfach. Mae'n rhaid inni ddysgu o'r ffordd y mae'r sector wedi gweithio gyda'i gilydd yn ystod y pandemig i gydlynu a darparu gwasanaethau, yn unol â'n gweledigaeth ni o Gymru iachach.
Rwyf wedi ymrwymo'n gryf i wneud penderfyniadau am wasanaethau lleol mor agos â phosibl at y bobl leol, ac felly at atebolrwydd democrataidd sy'n lleol. Wrth wneud y datganiad clir hwnnw ar atebolrwydd democrataidd lleol, nid peth anghydnaws yw tynnu sylw at gymhlethdod y tirlun gofal cymdeithasol. Rwy'n credu bod nifer o faterion y mae angen inni fynd i'r afael â nhw drwy ddull esblygol o ymdrin â chyfeiriad polisi a roddir gan Lywodraeth Cymru ar lefel genedlaethol.
Ym mis Ionawr, fe gyhoeddais ymgynghoriad Papur Gwyn ar 'Ailgydbwyso Gofal a Chymorth'. Rwy'n cynnig, er mwyn bod yn addas i'r dyfodol, fod angen mesurau deddfwriaethol arnom sy'n hanfodol, yn ein tŷb ni, i wireddu ein gweledigaeth. Yn ei hanfod, mae'r Papur Gwyn yn ceisio ailgydbwyso gofal a chymorth fel bod hynny'n seiliedig ar fframwaith cenedlaethol eglur, lle mae gwasanaethau yn cael eu trefnu'n rhanbarthol a'u darparu'n lleol. Rydym yn bwriadu datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal cymdeithasol a fydd yn lliniaru cymhlethdod ac yn sicrhau mai ansawdd yw'r prif ffactor sy'n dylanwadu ar lwyddiant yn y farchnad gofal cymdeithasol.
Fe wyddom fod dilyniant o ran y gweithlu gofal cymdeithasol yn cael effaith sylweddol ar gyflawni canlyniadau i bobl, ac felly fe fydd yna gysylltiad cryf rhwng y fframwaith cenedlaethol a'r camau gweithredu i gefnogi'r gweithlu. Fe gaiff swyddfa genedlaethol fach ei sefydlu i ddatblygu'r fframwaith yn gynhyrchiol gyda'n partneriaid, yn arbennig mewn llywodraeth leol a'r GIG. Ar wahân i hynny, fe fyddwn ni'n sefydlu llais proffesiynol ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol, ar lefel genedlaethol o fewn Llywodraeth Cymru.
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i fyrddau partneriaeth rhanbarthol ac rydym yn awyddus i'w cefnogi nhw i adeiladu ar eu llwyddiannau, ac i rymuso'r integreiddio ledled Cymru. Byddwn yn gwella byrddau partneriaeth rhanbarthol drwy roi cyfres fanylach o ddulliau iddynt eu defnyddio, i gyflawni eu nodau craidd nhw, er mwyn cynllunio a chomisiynu gofal a chymorth yn well lle mae gweithredu ar y cyd yn hanfodol i wella llesiant pobl.
Fe fydd y cynigion a nodais yn lliniaru cymhlethdod, yn cryfhau cynaliadwyedd ac yn grymuso integreiddio. Fe fyddan nhw'n cynyddu tryloywder yn hytrach na chymylu atebolrwydd lleol. Mae'r cynigion yn allweddol ar gyfer sicrhau'r weledigaeth ar gyfer gofal cymdeithasol a nodir yn y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, gan gefnogi pobl i gyflawni eu canlyniadau o ran llesiant.
Mae'r Papur Gwyn yn lasbrint ar gyfer sector gofal a chymorth sy'n gryfach ac yn fwy cytbwys. Mater i'r Llywodraeth Cymru newydd fydd bwrw ymlaen â chanlyniadau'r ymgynghoriad ynglŷn â'm cynigion i. Ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau'r Senedd i gyd yn annog pawb sydd â diddordeb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, fel y gallwn gydweithio i gyflawni ein gweledigaeth o sicrhau llesiant i bobl.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Rydych chi'n disgrifio'r cynigion yn y Papur Gwyn fel atebion hirdymor, ac rwy'n credu bod pawb ohonom ni'n chwilio am ateb hirdymor, ac eto i gyd nid yw hyn yn mynd i'r afael â'r broblem fwyaf, fe ellid dadlau, sef cyllid. Ydych, rydych chi wedi sôn am eich grŵp rhyng-weinidogol chi ar dalu am ofal cymdeithasol, ond faint o gynnydd a wnaethoch chi ers cyhoeddi adroddiad annibynnol Gerald Holtham 32 mis yn ôl?
Rydych chi'n ymwybodol fy mod i, yn fy mhortffolio blaenorol, wedi cynnal llawer o fforymau gofal cymdeithasol ac, o'r rheini, fe welwch chi bopeth y mae'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn ei ddwyn gerbron. Rydych chi wedi awgrymu o'r blaen hefyd, neu mae yna siarad wedi bod, am gyflwyno treth gofal cymdeithasol. Beth yw eich safbwynt chi ar hynny nawr? Rwy'n credu fy mod i wedi mynegi fy marn eglur bob amser y byddai'n well gennyf i weld cynnal ymchwiliad i effeithlonrwydd gofal cymdeithasol, oherwydd mae llawer o randdeiliaid bob amser wedi dweud bod llawer o arian mewn rhai meysydd, ond mewn gwirionedd nid yw'n bosibl bob amser ei gael allan yno lle mae'r angen ehangach. Felly, yn anffodus, mae'r Papur Gwyn yn codi mwy o gwestiynau nag atebion.
Roeddech chi'n chwilio am fframwaith cenedlaethol, ond er gwaethaf archwilio integreiddiad, rydych chi'n dweud na fydd unrhyw swyddogaethau presennol yn cael eu trosglwyddo oddi ar awdurdodau lleol neu fyrddau iechyd. Pam hynny? Yn rhwystredig iawn, er bod y pryderon ynghylch byrddau partneriaeth rhanbarthol yn hysbys—ac yn ein hymholiad ni, fe welsom lawer o wendidau—rydych chi'n awyddus i'w cryfhau nhw ymhellach, felly pa waith a wnaethoch chi ynglŷn â hyn i gyfiawnhau hynny mewn gwirionedd, o ystyried o ble y gellir cyflawni'r neges hon? Sut allwch chi gyfiawnhau hynny pan fo eich Papur Gwyn chi eich hun yn datgan, ac rwy'n dyfynnu,
Fe ellid ystyried mai cyfyngedig yw gallu'r cyrff cynllunio rhanbarthol i gyflawni eu cyfrifoldebau a
Mae'r cyrff cynllunio rhanbarthol yn pryderu am reoli amrywiol anghenion ar draws lleoliadau.
Mae hefyd yn egluro y byddai swyddfa genedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol yn darparu'r fframwaith. Felly, fel y byddwch chi'n cytuno, rwy'n gobeithio, fe ddylai hyn fod yn annibynnol ar y Llywodraeth. A wnewch chi'r ymrwymiad hwnnw i ni heddiw?
Er eich bod wedi amlinellu'r problemau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu, mae angen ichi egluro sut y bydd y fframwaith yn gwella eu bywydau. A thros y 10 mlynedd nesaf, amcangyfrifir y bydd angen 20,000 o weithwyr gofal cymdeithasol ychwanegol ar Gymru i ymdopi â'n poblogaeth ni sy'n heneiddio. Felly, a fyddwch chi'n cyhoeddi cynllun gweithlu gofal cymdeithasol penodol sy'n cynnwys syniadau newydd a dull cyfannol o gadw staff, ac un sy'n hyrwyddo datblygiad proffesiynol parhaus i gydweddu â'r Papur Gwyn? Fe nododd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ym mis Rhagfyr yn benodol iawn mai un alwad fyddai bod y pwysau hynny'n parhau i gael eu cydnabod ac yn amlwg helpu cartrefi gofal i barhau'n hyfyw yn ystod hyn. Yn anffodus, rydym wedi gweld llawer iawn o gartrefi gofal yn colli gwelyau neu, yn wir, yn diflannu.
Felly, mae'r dystiolaeth yn dangos bod llawer mwy y gall eich Llywodraeth Cymru chi ei wneud. Yn wir, ddoe diwethaf, fe rybuddiodd Fforwm Gofal Cymru y bydd cartrefi gofal ledled y gogledd yn cael eu gorfodi i gau oni fydd y cynllun ariannu brys, y gronfa caledi, yn cael ei ymestyn. Felly, a wnewch chi ymestyn hwnnw? Ac a gaf i ddod i'r casgliad o fewn rheswm y byddwch chi'n ailystyried ac efallai'n dechrau cyflwyno rhai atebion sy'n mynd i'r afael yn wirioneddol â'r problemau cyfredol yn y sector hwn a'r rhai yr ydym ni i gyd yn gwybod amdanynt ers cryn amser? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Janet, am y pwyntiau i gyd. Yn gyntaf oll, fe hoffwn i bwysleisio mai dim ond un darn o'r jig-so yw hwn, ac fe eglurais i ar ddechrau'r datganiad y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dod i'r Senedd i drafod canlyniadau'r grŵp rhyng-weinidogol. Fe gafodd llawer o waith ei wneud yn y grŵp hwnnw i ddarganfod beth fyddai'r gost o fwrw ymlaen â blaenoriaethau penodol, ac rwy'n credu mai ef sydd yn y sefyllfa orau i fynd drwy'r materion hynny gyda chi. Dim ond cyfran o'r ateb yr ydym ni'n ei gynnig yw'r hyn a gyflwynais i chi heddiw. Y mater a gododd Janet ynglŷn â threth gofal cymdeithasol, mae pob un o'r rhain wedi cael eu hystyried gan y grŵp rhyng-weinidogol ac fe fydd y Senedd yn clywed am hynny maes o law.
Mae'r cyrff cynllunio rhanbarthol yn dal i fod yn gymharol newydd, ond rwy'n credu ein bod ni wedi gweld arwyddion bod iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol yn cydweithio yn well yn y fforymau hynny. Yr hyn a ddywedwyd wrthym yw nad oes ganddyn nhw ddigon o offer i wneud yr hyn y maen nhw'n awyddus i'w wneud. Rydym ni o'r farn ei bod yn hanfodol i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol gydweithio'n agosach, ond gan gynnwys y trydydd sector hefyd. Fel y gŵyr yr Aelod, ar y cyrff cynllunio rhanbarthol, mae yna le i'r trydydd sector. Mae yna le i lais y dinesydd a lle i ofalwyr, ac rydym yn awyddus i gryfhau'r lleisiau hynny ar gyrff cynllunio rhanbarthol. Felly, rydym ni o'r farn fod y cyrff cynllunio rhanbarthol yn gyrff da i adeiladu arnyn nhw.
O ran y swyddfa genedlaethol, fe allai'r swyddfa genedlaethol fod yn rhan o'r Llywodraeth neu fe allai fod yn gorff hyd braich. Mae hwnnw'n rhywbeth sydd yn y papur ymgynghori, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn ymateb i'r papur ymgynghori i fynegi eu barn am hynny. Bydd, fe fydd angen llawer o weithwyr gofal cymdeithasol ychwanegol arnom, oherwydd fe wyddom fod gennym boblogaeth sy'n heneiddio. Ond, un peth yr ydym ni'n awyddus i'w weld yw bod pobl yn aros yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y gallan nhw, oherwydd dyna yw dymuniad pobl. Felly, rydym eisiau rhoi cymaint ag y gallwn ni o gefnogaeth i bobl allu aros yn eu cartrefi. Dyna pam rydym ni'n credu hefyd mai llywodraeth leol yw'r lle gorau ar gyfer darparu gofal cymdeithasol, oherwydd mae llywodraeth leol yn agos at y gymuned.
Fe hoffem ni weld cartrefi preswyl, er enghraifft, yn rhan llawer mwy o gymunedau lleol. Mae llawer ohonyn nhw felly'n barod, ond, yn fy marn i, dyna sut yr hoffem weld pethau'n datblygu. Ond, oherwydd breuder y sector, ac oherwydd yr ystod enfawr o fewn y sector, o ran y ffioedd a godir a natur fregus y gweithlu, rydym ni o'r farn, drwy gael un corff bach canolog i geisio penderfynu sut y gwneir pethau o fewn fframwaith cenedlaethol—yn ein barn ni, dyna fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r materion hynny. Felly, rwy'n diolch i'r Aelod am ei sylwadau hi.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi gwneud cryn dipyn o waith drwy ein comisiwn gofal ni, a oedd yn dadlau'r achos dros wasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol, ac am newid mawr tuag at atal afiechyd a galluogi pobl i barhau i fyw'n annibynnol. Ond, fe wnaeth ein comisiwn ni hynny o safbwynt yr hyn sydd orau i'r bobl sy'n derbyn y gwasanaeth. Felly, rwy'n synnu bod Papur Gwyn y Llywodraeth a'r datganiad, yn anad dim, wedi mynegi hyn yng nghyd-destun cyni a heriau ariannol.
Mae'n wir y bydd pobl iachach, sy'n byw'n annibynnol, yn costio llai o arian i wasanaethau iechyd a gofal na fel arall, ond mae arnaf i ofn y gall defnyddio cyni fel y prif gyfiawnhad dros hynny achosi rhywfaint o wrthdaro. Gwnewch hyn am mai dyna'r peth iawn i'w wneud, nid am fod y cyfrifon yn penderfynu yn eich lle chi.
Mae'r heriau a nodwyd yn y Papur Gwyn yn debyg i'r heriau a nodwyd gennym ni, mewn gwirionedd: diffyg cynnydd, yn gyffredinol, o ran yr agenda integreiddio; cynnydd cyfyngedig o ran rhannu data; problemau gyda chomisiynu. Ond, nid wyf i'n siŵr a yw'r Llywodraeth Lafur hon wedi sylweddoli hynny eto, mewn gwirionedd. Yn 2013, fe gyflwynodd Plaid Cymru welliannau i'r Bil gwasanaethau cymdeithasol i'w gwneud hi'n ofynnol sefydlu partneriaethau. Fe wrthodwyd y rhain a phleidleisiwyd o blaid cytundebau gwirfoddol. Rydych wedi bod yn rhoi un cyfle olaf i bartneriaethau gwirfoddol am y rhan fwyaf o'r degawd diwethaf.
Hefyd, yn fy marn i, mae'n eithaf dadlennol nad yw eich datganiad chi'n sôn am iechyd na'r GIG mewn gwirionedd. Felly, efallai y gwnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni sut mae hi'n gweld integreiddio yn gweithio nawr. Yn sicr, nid oes sôn am dai, na'r amgylchedd ehangach. Ydym, rydym yn gwybod bod angen addasu mwy o dai i helpu pobl i barhau i breswylio ynddynt. Mae angen mwy o gyfleusterau gofal lled-breswyl sy'n osgoi'r problemau gyda gofal preswyl llawn, wrth barhau i gefnogi'r bobl ynddyn nhw. Ond mae angen inni fynd i'r afael â thai fel rhan greiddiol o hyn. Mae'n ymddangos i mi mai gweithio mewn blychau ar wahân sydd gennym ni yma, a hynny'n eglur iawn i'w weld.
Gan droi at rywbeth y mae'r datganiad yn ei grybwyll, sef y gweithlu. Rwyf innau'n croesawu peth o'r gwaith a wnaed ar hyn, ond mae'n werth cofio pa mor aml y pleidleisiodd plaid y Llywodraeth yn erbyn ymdrechion i wahardd contractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol. Fel roedd comisiwn Plaid Cymru yn ei argymell, ein hymrwymiad cadarn ni yw y byddwn ni'n rhoi staff gofal cymdeithasol ar raddfeydd cyflog y GIG, gan wneud cyfiawnder, o'r diwedd, â'r dyhead i wneud gofal cymdeithasol yn yrfa werthfawr y gall pobl ymgyrraedd ati. Tybed a wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu ei safbwynt hi ar hynny.
Ac yn olaf, rwyf am droi at ymarferion comisiynu. Fe sonnir yn helaeth yn y Papur Gwyn am y problemau o ganolbwyntio ar bris yn hytrach nag ansawdd. Nawr, fe wyddom fod y Llywodraeth yn cynnig fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu, ond fe hoffwn i gael mwy o fanylion am sut y bydd fframwaith arfaethedig y Llywodraeth hon yn osgoi'r ras i'r gwaelod a adawodd ein cartrefi gofal ni mor agored i'r pandemig. Rwy'n eich atgoffa chi eto mai fy nghynnig i yw cyfres o fframweithiau cenedlaethol sy'n rhoi asgwrn cefn i ddarpariaeth leol mewn gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol i Gymru sy'n integredig fel y dylai fod.
Diolch yn fawr iawn, Rhun. Nid yw eich datganiad diwethaf chi'n swnio'n annhebyg iawn i'n cynnig ni.
Mae llawer o faterion yna. Os caf i ddechrau gyda'r gweithlu, rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i gydnabod gwerth y gweithlu gofal cymdeithasol. Yn sicr, mae'r pandemig hwn wedi hoelio ein sylw ni'n llwyr ar bwysigrwydd y gweithlu. Rwy'n credu bod y cyhoedd—a rhai am y tro cyntaf, efallai—yn sylweddoli pa mor hanfodol yw'r gwaith y mae'r gweithlu gofal cymdeithasol yn ei wneud. Roeddwn i'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cydnabod eu gwaith nhw drwy roi cydnabyddiaeth o £500 o fonws iddyn nhw, ac fe groesawyd hwnnw'n fawr iawn. Ond rwy'n credu hefyd, ei bod yn gydnabyddiaeth lwyr o'r gwaith y maen nhw'n ei wneud.
Yng ngwaith y grŵp rhyng-weinidogol, roedd cyflog y gweithlu gofal cymdeithasol yn un o'r prif faterion a drafodwyd. Ac, wrth gwrs, fel y dywedais i, fe fydd y Gweinidog yn dod i siarad â'r Senedd am yr amrywiaeth o ddewisiadau, a chostau'r rhain, a ddaeth i'r golwg drwy waith y grŵp rhyng-weinidogol. Fe ddywedodd rhai Aelodau na ddylem adael i gyni benderfynu ar hynny. Nid ydym ni'n gadael i gyni benderfynu ar yr hyn a wnawn ni; yr hyn yr ydym yn ei ddweud, mewn gwirionedd, yw mai un o ganlyniadau cyni yw bod y sefyllfa hon yn fwy difrifol byth.
Rydym eisoes yn meithrin proffesiynoldeb y gweithlu. Fel y gwyddoch, rydym wedi sefydlu cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol, a gafodd groeso eang gan y sector, ac mae'r cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol wedi cael croeso eang iawn hefyd. Yn ystod y pandemig, rydym wedi ceisio cael cymaint o gydraddoldeb ag y gallwn ni rhwng y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy'n credu bod heriau enfawr gyda gofal cymdeithasol, ac rwy'n cytuno â chi'n llwyr, Rhun, ei bod yn hanfodol i iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio'n agos â'i gilydd.
Rwy'n credu'n gryf iawn y dylai pobl sydd angen cymorth gofal cymdeithasol aros yn y gymuned cyn belled â bod hynny'n bosibl, oherwydd dyna lle maen nhw'n dymuno bod. Ond, wrth gwrs, mae angen y gefnogaeth arnom i sicrhau hynny. Rwy'n credu eich bod chi yn llygad eich lle pan rydych chi'n sôn am dai. Mae tai yn un o'r materion allweddol yr ydym wedi edrych arno yn y grŵp rhyng-weinidogol, ac mae pethau fel tai ychwanegol a chymorth ychwanegol yn y gymuned yn un o'r meysydd y dylem ni'n bendant fynd ar eu trywydd, yn fy marn i, ac yn un o'r pethau y byddai'r Llywodraeth yn eu cefnogi.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog, am eich ymrwymiad i benderfyniadau ynghylch gwasanaethau lleol yn cael eu gwneud gyda phobl leol, oherwydd rwy'n credu mai dyna yw ein man cychwyn. Oni bai fod gennym atebolrwydd democrataidd ac ymgysylltiad priodol â'r bobl y mae angen y fframwaith arnyn nhw, y gwasanaethau y mae angen inni eu darparu iddyn nhw, yna nid ydym mewn gwirionedd yn edrych ar y jig-so yr hoffwn gyfeirio ato, sef y ffeithlun nodau llesiant. Mae gwir angen i ni ymdrin â'r holl nodau llesiant pan fyddwn yn meddwl am bobl hŷn, nid pobl iau yn unig. Credaf mewn gwirionedd fod gennym her i roi sylw i'r agenda ataliol i sicrhau bod pobl hŷn yn byw'n hirach o lawer. Felly, rwy'n croesawu'n fawr eich dyhead i sicrhau bod pobl yn gallu byw cyhyd ag y bo modd yn eu cartrefi eu hunain. Tybed, os oes gennym wasanaethau sy'n cael eu rhedeg yn lleol, a yw byrddau partneriaeth rhanbarthol yn wirioneddol yn gallu rheoli'r rheini a chanolbwyntio'n wirioneddol ar gymunedau lleol.
Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn y cynlluniau treialu a wnaethom o ran y timau nyrsio cymdogaeth. Nawr, mae'r adroddiad gennym, ac mae gennym ymrwymiad hefyd i gyflwyno'r timau nyrsio cymdogaeth hynny ledled Cymru. Byddai'n ofid i mi glywed nad ydym yn mynd i gael set o dimau iechyd a gofal cymdeithasol cydgysylltiedig sy'n mynd i gael eu rheoli'n lleol yn hytrach na gorfod cyfeirio'n ôl at ryw sefydliad biwrocrataidd bob tro. Dydw i ddim yn gweld ffordd arall iddyn nhw fod yn sensitif ac yn ymatebol i anghenion cymunedau lleol. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i'w gosod mewn llywodraeth leol, ond rwy'n credu bod hynny'n waith sy'n mynd rhagddo; ni allwn ni gymryd yn ganiataol eu bod yn canolbwyntio'n wirioneddol ar anghenion unigol cymunedau lleol iawn dim ond oherwydd eu bod yn wasanaethau llywodraeth leol. Un o'r pethau pwysicaf ynghylch y timau nyrsio cymdogaeth oedd defnyddio deallusrwydd artiffisial i wneud rhai o'r tasgau sydd fel arall yn cymryd llawer iawn o amser rheoli, h.y. paru anghenion cymunedau lleol sy'n newid yn gyson â sgiliau'r tîm amlddisgyblaethol. Felly, tybed sut y bydd system technoleg gwybodaeth ddigonol a llawer mwy modern yn galluogi'r timau hyn sy'n rheoli eu hunain i gael y gwasanaethau mwyaf ymatebol y mae dinasyddion yn eu dymuno. Does dim amser i fanylu mwy nawr. Edrychaf ymlaen yn fawr at ymateb i'r Papur Gwyn.
Diolch, Jenny, am hynna. Yn amlwg, rwy'n credu bod mater y timau nyrsio cymdogaeth yn rhywbeth y gallem ni gael trafodaeth fanylach amdano y tu allan i'r Siambr. Rwy'n credu bod atebolrwydd lleol yn hollbwysig, a gwn fod ffordd bell i fynd o ran integreiddio ag iechyd a gofal cymdeithasol, ond dyna un o'n nodau absoliwt. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yma gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol, sy'n amrywiol ledled Cymru. Mae maint y cynnydd sydd wedi'i wneud wedi bod yn fwy mewn rhai ardaloedd nag eraill, ond rwy'n benderfynol y byddwn yn eu cryfhau ac y byddwn yn sicrhau bod gan y trydydd sector, er enghraifft, lais cryf yno, yn ogystal â llywodraeth leol a'r gwasanaethau iechyd.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog.
Y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 yw trafod eitemau 7 ac 8 ar ein hagenda gyda'u gilydd, ond cael pleidleisiau ar wahân. Ydw i'n gweld unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig hwnnw? Na, dim.