– Senedd Cymru am 2:31 pm ar 23 Chwefror 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r dataganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad os gwelwch yn dda gan y Gweinidog cynllunio ynglŷn â chanllawiau sydd wedi dod gan Cyfoeth Naturiol Cymru at awdurdodau cynllunio yng Nghymru ynghylch ffosffadau a'r cyfrifiadau y mae angen i awdurdodau cynllunio eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau pan ddaw'n fater o ffosffadau ar dir ac mewn prosiectau adeiladu? Rwy'n cael fy arwain i gredu bod oedi i lawer o geisiadau ar hyn o bryd gan nad oes gan awdurdodau lleol yr arbenigedd i ymdrin â'r canllawiau penodol hyn, ac ni all CNC ddarparu canllawiau manwl gwirioneddol i helpu awdurdodau lleol i benderfynu ar geisiadau. Mae hyn yn cael effaith fawr yn economaidd oherwydd, yn amlwg, mae'r broses gynllunio wrth wraidd llawer o ddatblygiadau economaidd. Ac fe fyddwn i'n awgrymu bod CNC wedi bod yn ddi-hid yn cyhoeddi canllawiau o'r fath heb y cymorth a'r gefnogaeth y byddai eu hangen ar awdurdodau cynllunio, ac yn enwedig swyddogion cynllunio. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog cynllunio ynghylch beth yw ei barn hi am y canllawiau hyn sy'n cael eu cyhoeddi gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ond, yn bwysicach, pa gymorth y byddai hi'n disgwyl ei weld gan CNC i awdurdodau cynllunio i'w helpu i benderfynu ar geisiadau ledled Cymru?
Diolch i Andrew R.T. Davies am godi mater canllawiau cynllunio a ffosffadau ar brosiectau tir ac adeiladu. Fe fyddwn i'n awgrymu, y tro hwn, ei fod yn codi'r mater penodol hwn gyda'r Gweinidog drwy ohebiaeth, o ystyried ei fod yn fater manwl. Rwy'n credu y gallai ymateb manwl drwy ohebiaeth fod yn fwy priodol y tro hwn yn hytrach na gofyn am ddatganiad ar lawr y Senedd, yn enwedig gan mai dim ond pedair wythnos o'r tymor sydd gennym ni ar ôl bellach i ddarparu ar gyfer y ceisiadau y mae cyd-Aelodau'n eu cyflwyno. Ond rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn awyddus i ddarparu ymateb manwl yn ysgrifenedig.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad ynghylch brechu pobl ag anableddau dysgu a gofalwyr di-dâl. Ysgrifennais at y Prif Weinidog a'r Gweinidog iechyd bythefnos yn ôl, yn nodi'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer blaenoriaethu brechu pobl ag anableddau dysgu sy'n byw mewn cartrefi gofal. Nid wyf wedi cael ateb i'r llythyr, er i'r Prif Weinidog newydd gadarnhau yn y Cyfarfod Llawn fod penderfyniad ar fin digwydd, o gofio bod y Gweinidog iechyd wedi cael y cyngor diweddaraf. Nawr, mae'n drueni mawr, Trefnydd, na fyddai wedi gallu gwneud y penderfyniad cyn ei ddatganiad ar frechiadau heddiw, gan y byddai hynny wedi rhoi cyfle i'r Aelodau graffu ar yr amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'r digwyddiadau hyn. Hoffwn i wybod, er enghraifft, pam yr oedd angen i Lywodraeth Cymru aros am y cyngor, sydd fwy na thebyg wedi dod gan y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio, pan oedd modd iddi symud meddygon yr heddlu yn unochrog i fyny i grŵp 2 heb gael cyngor newydd. Hoffwn i wybod hefyd pam y caniatawyd i'r grŵp hwn o bobl ag anableddau dysgu ddisgyn drwy'r bwlch yn y lle cyntaf, sy'n golygu ei bod wedi cymryd ymgyrch bwrpasol i wneud y penderfyniad cywir.
Mae mater tebyg yn bodoli o ran gofalwyr di-dâl. Rwyf wedi siarad â staff ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan a Chwm Taf, ac mae'r ddau fwrdd yn aros i gael arweiniad ar sut i nodi gofalwyr di-dâl fel y gallan nhw weithio gyda meddygon teulu i sicrhau eu bod yn cael y flaenoriaeth. Mae'n sicr bod hyn yn mynd at wraidd y rheswm pam mae angen inni gael cofrestr o ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Mae'n dangos i ba raddau nad yw'r bobl hyn yn cael eu gwerthfawrogi nad oes gan y Llywodraeth ffordd hawdd o ddarganfod pwy ydyn nhw. Mae rhywbeth o'i le ynghylch y ffordd yr ydym ni'n trin y bobl anhunanol a dewr hyn. Felly, gobeithio y gall y Trefnydd bwyso ar y Gweinidog iechyd fod angen i'r materion hyn gael eu craffu yn y Senedd er mwyn sicrhau tryloywder, fel y gallwn ni fod yn sicr y bydd gwersi'n cael eu dysgu.
Diolch i Delyth Jewell am godi hyn, ac, wrth gwrs, ymatebodd y Prif Weinidog i'r ddau fater hyn, o ran pobl ag anableddau dysgu a gofalwyr di-dâl, yn ei gyfraniad yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog y prynhawn yma. Rydym ni wedi rhoi datganiad ar frechiadau gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bob wythnos ar y datganiad busnes ar gyfer yr wythnosau nesaf, er mwyn rhoi'r cyfle hwnnw i gyd-Aelodau—i ddarparu'r craffu cadarn hwnnw ar y gwahanol faterion sy'n effeithio ar eu hetholwyr o ran brechu, a dyna'r eitem nesaf o fusnes y prynhawn yma. Ond bydd cyfleoedd pellach i gael y drafodaeth fanwl honno hefyd.
Trefnydd, tybed a gawn ni ddod o hyd i amser ar gyfer dadl cyn inni dorri ar gyfer yr etholiad ym mis Mai ar hanes rhyfeddol ac etifeddiaeth barhaus Robert Owen, un o feibion y Drenewydd a Chymru, ac, yn wir, y byd? Gwneuthurwr tecstiliau, dyngarwr, diwygiwr cymdeithasol, ac wrth gwrs un o sylfaenwyr y mudiad cydweithredol a sosialaeth iwtopaidd hefyd. Ac i aralleirio Oscar Wilde, beth yw pwynt map heb iwtopia arno? Ar 14 Mai eleni, byddwn ni'n nodi dau gant a hanner can mlwyddiant geni'r unigolyn llawn gweledigaeth hwn, Robert Owen. Roedd yn lladmerydd o blaid pobl sy'n gweithio, ac fe geisiodd wella eu hamodau gweithio a byw, ac fe arweiniodd ei waith at ddatblygu nid yn unig y mudiad cydweithredol, ond y mudiad undebau llafur. Roedd yn cefnogi sefydliadau cyd-addysgol am ddim a deddfwriaeth ar lafur plant. Felly, wrth i genhedloedd a seneddau ledled y byd ddathlu etifeddiaeth fyd-eang un o feibion Cymru, oni ddylem ni hefyd ddod o hyd i'r cyfle i nodi ei etifeddiaeth yma gartref, yma yn y Senedd hon, yn Senedd Cymru ac, wrth inni edrych ar chweched tymor y Senedd, ystyried sut yr ydym ni'n hyrwyddo ei uchelgeisiau ar gyfer cymdeithas ac economi decach a mwy cyfiawn lle mae gan bawb lais cyfartal a chyfran gyfartal?
Ac ar thema gysylltiedig, Trefnydd, mae'n gychwyn ar Bythefnos Masnach Deg yng Nghymru. Mae'n dathlu'r mudiad Masnach Deg ledled y byd, ac yn rhywbeth sy'n mynd at galon y mudiad cydweithredol, ac yn wir mae'n rhywbeth sydd wrth wraidd y Blaid Gydweithredol yng Nghymru. Ac fe fydd yr Aelodau yma—o'r Blaid Gydweithredol a grwpiau eraill—yn cymryd rhan mewn digwyddiadau ar-lein, gan dynnu sylw at y gwaith a gaiff ei wneud ledled y byd i hyrwyddo cynhyrchu masnach deg sy'n eiddo i weithwyr a gweithwyr. Felly, a gawn ni o leiaf ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi'r mudiad Masnach Deg, a allai hefyd dynnu sylw at ddigwyddiadau Pythefnos Masnach Deg yng Nghymru, gan gynnwys sgyrsiau newid hinsawdd gyda Jenipher, ffermwr coffi Masnach Deg o Uganda, a digwyddiadau ryseitiau a choginio Masnach Deg, digwyddiadau addysgol, darlleniadau barddoniaeth, a mwy? Siawns nad yw'n bwysig nawr yn fwy nag erioed, gyda her ychwanegol y pandemig byd-eang, yn ogystal â newid hinsawdd, ein bod ni'n cadarnhau drachefn ein cefnogaeth yng Nghymru i'r mudiad Masnach Deg. Felly, gobeithio, Trefnydd, y gallwn ni gael datganiad ynghylch hyn yn ystod Pythefnos Masnach Deg, os nad dadl lawn yma yn ein Senedd ni.
Diolch i Huw Irranca-Davies am godi'r ddau fater hynny y prynhawn yma. Rwy'n falch iawn o ddweud bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar y posibilrwydd o weithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i ddathlu dau gant a hanner can mlwyddiant geni Robert Owen. Cafodd artist preswyl ei benodi ym mis Awst i ymgysylltu â'r gymuned leol yn y Drenewydd, ac erbyn hyn mae'r artist wedi cynhyrchu adroddiad, gyda nifer o argymhellion, sy'n cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Felly, rwy'n siŵr y byddwn ni'n gallu dweud mwy am y cynlluniau hynny maes o law. Wrth gwrs, mae cydweithredu wrth wraidd popeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ac rwy'n falch iawn y bydd fy nghydweithiwr Lee Waters yn gwneud datganiad ynghylch yr economi sylfaenol y prynhawn yma. Rwy'n credu mai dyna un o'r meysydd hynny lle y gallwch weld ein dulliau cydweithredol yn dod yn fyw ac yn cael eu darparu drwy'r dewisiadau yr ydym ni'n eu gwneud.
Ac, yn sicr, rydym ni'n ailadrodd ein cefnogaeth i'r mudiad Masnach Deg. Rwy'n gwybod, fel rheol, pan nad ydym ni'n cyfarfod ar Zoom, yn y blynyddoedd a fu, rydym i gyd wedi mwynhau cwrdd â ffermwyr o Uganda sydd wedi dod i'r Senedd a siarad â ni am eu profiadau a pha wahaniaeth y mae'n ei wneud iddyn nhw pan fyddwn ni i gyd yn ymrwymo i fasnach deg. Felly, rwy'n credu ei fod yn bendant wrth wraidd ein darpariaeth ni ac yn cyflawni ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, o fod yn Gymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang, er mwyn sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd i gefnogi masnach deg pan gânt eu cyflwyno.
Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw? Y cyntaf yw cais am ddatganiad ar effaith pobl sy'n cymryd meddyginiaeth erthylu gartref. Byddwch chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru, y Gweinidog iechyd, wedi cyhoeddi ar ddechrau pandemig y coronafeirws, ei fod yn newid y rheolau ynglŷn â'r gallu i gymryd meddyginiaeth erthylu gartref. Ond y broblem yw, rhwng 1 Ebrill, pan newidiodd y trefniadau, a 31 Rhagfyr y llynedd, eu bod wedi gweld nifer y galwadau i 999 yn dyblu ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans a dyblu yn nifer yr ambiwlansys y bu'n rhaid eu hanfon at fenywod a oedd wedi cymryd meddyginiaeth erthylu gartref. Rwy'n pryderu'n fawr ynghylch hynny, oherwydd rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru newydd gwblhau cyfnod ymgynghori ynglŷn â'r posibilrwydd y bydd y trefniadau hyn yn dod yn rhai parhaol. Ond mae yna bobl sy'n pryderu'n fawr am y galwadau cynyddol i'r gwasanaeth ambiwlans, y diffyg goruchwyliaeth feddygol a brofir gan y menywod hyn ac, wrth gwrs, y ffaith nad oes unrhyw fesurau diogelu i sicrhau nad yw'r menywod hyn yn cael eu gorfodi gan bartneriaid.
Yr ail ddatganiad yr hoffwn i ei weld yw datganiad ar gathod mawr yng nghefn gwlad Cymru gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Byddwch chi'n ymwybodol, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, bod nifer fawr o gathod mawr wedi'u gweld yng nghefn gwlad Cymru yn ystod y misoedd diwethaf. Mae llawer o aelodau'r gymuned ffermio yn arbennig yn pryderu am yr effaith y gallai'r rhain ei chael ar eu da byw yn y dyfodol, ac eto nid ydym ni wedi cael unrhyw ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd ynghylch pa ymchwiliadau sy'n cael eu cynnal i'r achosion hyn. A gaf i ofyn am ddatganiad brys ynghylch hynny gan Weinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru cyn gynted â phosibl? Diolch.
Diolch. O ran y mater cyntaf a gododd Darren Millar, sef mater meddyginiaeth erthylu i'w chymryd gartref, fel y mae yn ei ddweud, daeth yr ymgynghoriad i ben heddiw, rwy'n credu, o ran a ddylai'r trefniadau hynny gael eu gwneud yn barhaol ai peidio. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn gwrando'n astud iawn ar sylwadau a gafodd eu cyflwyno ganddo y prynhawn yma, ond hefyd y sylwadau hynny a gafodd eu cyflwyno drwy gydol y broses ymgynghori honno, gyda'r bwriad o ddod i benderfyniad gwybodus ar y ffordd ymlaen.
O ran cathod mawr yng nghefn gwlad Cymru a'r pryder y mae hynny'n ei godi ymysg y gymuned ffermio, yn enwedig yn yr ardal y mae'n ei chynrychioli, rwy'n gwybod y bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi bod yn gwrando'n astud iawn ar y cais hwnnw am ragor o wybodaeth a datganiad pellach ynghylch hynny.
Mae yna brinder affwysol o fannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan yn y Rhondda. Mae map Cymru yn dangos nad oes dim byd yn y Rhondda Fach nac yn y Rhondda Fawr, a'r pwyntiau gwefru agosaf, yn dibynnu ar ble yr ydych chi'n byw yn y Rhondda, yw Hirwaun, Aberdâr neu ychydig y tu allan i Lantrisant. Nawr, nid yw'n syndod mai dim ond 0.17 y cant o gerbydau trydan sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae gan ymgynghoriad a strategaeth cerbydau trydan a gafodd eu cyhoeddi yn ddiweddar gan eich Llywodraeth chi, y targed amwys o sicrhau
'erbyn 2025, bod holl ddefnyddwyr ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus y gallan nhw gael mynediad i seilwaith gwefru cerbydau trydan pryd a ble y mae ei angen arnyn nhw.'
Ond mae'r dechnoleg gwefru cerbydau yn bodoli nawr. Ni allwn aros tan 2025. Pam nad oes modd eu gosod mewn meysydd parcio cyhoeddus nawr, er enghraifft? Mae pobl eisiau newid i gerbydau trydan ac rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd. Mae pobl eisiau gallu gwneud eu cyfraniad nhw eu hunain i hynny. O ystyried bod cynlluniau i ddiddymu'n raddol geir petrol a diesel, onid ydych chi'n credu y dylai fod llawer mwy o frys ar hyn? Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth i egluro pryd y gallwn ni weld cynnydd o ran hyn a beth yw eich cynlluniau i weld rhyw fath o ddeddfwriaeth gyflym? Yn amlwg, efallai na fydd yn bosibl o fewn tymor y Senedd hon, ond a yw'n rhywbeth y byddech chi'n gefnogol iddo yn nhymor nesaf y Senedd, pan fydd Plaid Cymru yn rhedeg y Llywodraeth?
Diolch i Leanne Wood am godi'r mater hwn y prynhawn yma. Rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd yn ystyried y ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau am y strategaeth drafnidiaeth, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys adran ar gerbydau a sicrhau ein bod ni'n symud tuag at ddarlun mwy cynaliadwy yng Nghymru o ran cerbydau, gan ymwneud yn benodol â cherbydau trydan, a sicrhau y gall pobl gael gafael ar y pwyntiau gwefru hynny y mae arnyn nhw eu hangen i gyflawni'r newid hwnnw. Felly, rwy'n gwybod ei fod yn ystyried beth yw'r ffordd orau o ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar hynny yn yr amser sydd gennym ni ar ôl. Ond yn y cyfamser, cyn iddo allu gwneud hynny, gofynnaf iddo roi diweddariad ysgrifenedig ar y mater penodol hwn i Leanne Wood i fynd i'r afael â'r pryderon hynny a godwyd ganddi hi y prynhawn yma.FootnoteLink
A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad yn condemnio ymddygiad gwarthus y Comisiwn Ewropeaidd wrth wahardd mewnforio molysgiaid deufalf byw o'r DU? Er eu bod yn dweud eu bod yn gweithredu cyfyngiadau ar bob gwlad nad yw'n rhan o Ewrop, cytunwyd na fydden nhw'n gwneud hyn yn y trafodaethau a gynhaliwyd cyn Brexit. Roedd hyd yn oed cadeirydd Pwyllgor Pysgodfeydd Senedd Ewrop, Pierre Karleskind, yn condemnio'r weithred, gan ddweud ei fod yn ochri â Phrydain yn y mater hwn. Fel y dywed, nid yw'r dyfroedd o amgylch arfordir y DU wedi cael eu llygru'n sydyn oherwydd Brexit. Bydd y cam hwn, wrth gwrs, yn agor y posibilrwydd o fesurau talu'r pwyth yn ôl gan Lywodraeth Prydain, felly a wnaiff Llywodraeth Cymru gefnogi, yn benodol, gymuned bysgota Cymru, sy'n ddibynnol iawn ar y fasnach hon, drwy fynegi ei chondemniad o'r weithred warthus hon?
Rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn rhan o'r trafodaethau ar y mater penodol hwn a byddaf i'n gofyn iddi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau ynghylch ein sefyllfa ni o ran y materion allforio y mae David Rowlands newydd eu disgrifio.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad a dadl gyffredinol, os caf i, os gwelwch chi'n dda? Mae'r datganiad cyntaf yn dilyn y cwestiwn blaenorol, mewn gwirionedd. O ran ein profiad o Brexit hyd yn hyn, ni waeth ble'r oeddech chi'n sefyll ar y cwestiwn ei hun, rwy'n credu ei bod yn deg dweud ei fod wedi bod yn drychineb yn ystod y ddau fis diwethaf. Nid yn unig yr ydym wedi gweld yr effaith ar y diwydiant pysgota, ond rydym wedi gweld effaith y fargen wael iawn, y cytunwyd arni cyn y Nadolig, ar y rhan fwyaf o'n prif weithgynhyrchwyr a diwydiannau. Ac mae canlyniadau bod yn drydedd wlad bellach yn golygu goblygiadau gwirioneddol i'n heconomi ac i bobl a'u swyddi a'u bywoliaeth. A yw'n bosibl i'r Llywodraeth gyflwyno datganiad ynghylch effaith Brexit a'r niwed y mae Brexit yn ei wneud i'n heconomi fel y gallwn ni drafod y materion hyn cyn diddymu'r Senedd?
Mae'r ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano, Gweinidog, yn ymwneud â llywodraethu'r Deyrnas Unedig. Rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol dystiolaeth drawiadol iawn i'r pwyllgor materion allanol ddoe, pan ddisgrifiodd y dirywiad yn y berthynas rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig. Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gael dadl ar y materion hyn fel y gallwn ddeall yn iawn beth yw'r anawsterau, a hefyd, felly, ddeall y mesurau y gallai'r Senedd hon eu cymryd o ran mynd i'r afael â nhw.
Y mater olaf, Gweinidog, yw dadl gyffredinol ar drefniant busnes yn y Senedd hon. Byddwn ni, ddiwedd y mis nesaf, yn colli nifer o Aelodau profiadol ac uchel eu parch, ac rwy'n credu ei bod yn arfer da iawn trafod nid yn unig ein Rheolau Sefydlog, ond sut yr ydym ni'n trefnu ein hunain ar ddiwedd Senedd i ddysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd blaenorol. Yn sicr, byddai gennyf i ddiddordeb mewn clywed yn benodol gan yr Aelodau hynny sydd wedi dweud nad ydyn nhw'n bwriadu dychwelyd yn y Senedd nesaf, er mwyn deall o'u profiad nhw sut y credant y byddai modd gwella'r ffordd yr ydym ni'n rheoli ein hunain ac yn rheoli busnes yn y chweched Senedd. Diolch.
Mae hynny'n syniad diddorol a byddaf i'n sicr yn ei ddilyn, yn y lle cyntaf gyda'r Llywydd, o ran deall sut y gallwn ni fel sefydliad ddysgu o brofiadau'r cydweithwyr hynny a wnaeth y penderfyniad i beidio â dychwelyd y tro nesaf, neu i beidio â cheisio cael eu hail ailethol, yn sicr, i gael eu dychwelyd. Rwy'n credu y bydd hwnnw'n ddarn diddorol o waith. O ran y Pwyllgor Busnes, rydym wedi bod yn edrych ar ein Rheolau Sefydlog, a byddwn yn cyflwyno amrywiaeth o newidiadau posibl i gydweithwyr gael y cyfle i drafod a phleidleisio arnyn nhw yn ystod yr wythnosau nesaf. Yn amlwg, bydd angen cyhoeddi canllawiau cysylltiedig ar gyfer cydweithwyr wedyn hefyd. Ond byddaf i'n codi'r pwynt hwnnw gyda'r Llywydd ar unwaith.
O ran y materion strategol pwysig iawn hynny yr ydych wedi sôn amdanynt—llywodraethu'r DU a hefyd effaith Brexit, yn gyffredinol—byddaf i'n sicrhau fy mod yn cael trafodaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd yn y lle cyntaf i geisio dod o hyd i'r ffordd orau o gael y trafodaethau hynny a darparu'r diweddariadau hynny.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd am frechu oedolion ag anableddau dysgu mewn lleoliadau preswyl? Clywais i'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog mewn ymateb i gwestiwn cynharach am flaenoriaethu pobl ag anableddau dysgu, oherwydd mae pobl ag anableddau dysgu yn fwy tebygol o fod mewn perygl difrifol o gael cymhlethdodau os ydyn nhw'n dal COVID-19. Mae nifer o sefydliadau yn fy etholaeth i wedi cysylltu â mi sy'n poeni'n fawr y bydd yn rhaid cludo trigolion ar wahanol adegau ar gyfer eu brechiadau unigol. Rwy'n sylweddoli bod y Gweinidog iechyd eisoes yn edrych ar y mater blaenoriaethu, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Ond o ystyried y trallod y gallai hyn ei achosi, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru roi rhywfaint o eglurder ynghylch rhoi brechlynnau i bobl ag anableddau dysgu mewn lleoliadau gofal ac amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod preswylwyr mewn cyfleusterau gofal yn gallu cael eu brechlynnau yng nghysur eu lleoliad eu hunain, yn hytrach na bod pob preswylydd yn gorfod teithio ar gyfer ei apwyntiad brechlyn. Rwy'n sylweddoli ichi ddweud, mewn ymateb i Delyth Jewell, y byddai cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod yr eitem nesaf ar yr agenda, ond rwy'n credu bod datganiad clir ar y mater hwn gan y Llywodraeth yn bwysig ac y byddai'n ddefnyddiol iawn.
Yn ail, a gaf i hefyd ofyn am ddatganiad ar gymorth i gartrefi gofal yn gyffredinol yn ystod y pandemig? Mae Fforwm Gofal Cymru wedi egluro bod rhai cartrefi gofal ledled Cymru mewn perygl o gau heb gymorth ariannol hanfodol. Yn ystod y pandemig, mae costau wedi codi wrth i gartrefi gofal orfod cynyddu nifer eu staff a gweithredu mesurau rheoli heintiau ychwanegol. Felly mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i fodel ariannu sy'n rhoi sefydlogrwydd i'r lleoliadau hynny i ddiogelu'r preswylwyr sy'n byw mewn lleoliadau gofal ac i ddiogelu darpariaeth yn y dyfodol a sicrhau bod y sector cyfan yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn pe gallai Llywodraeth Cymru roi'r amser i ddarparu datganiad ar ei chefnogaeth i'r sector a'i chynlluniau i ddiogelu cartrefi gofal yng Nghymru cyn diwedd tymor y Senedd.
O ran y mater cyntaf sy'n ymwneud â brechiadau i bobl ag anabledd dysgu, mae'n amlwg bod hwn yn fater eithriadol o bwysig a bydd pob un ohonom ni'n poeni'n fawr iawn ynghylch sicrhau y dylai'r bobl sydd wedi'u heffeithio yn cael eu brechlyn cyn gynted â phosibl ac mewn ffordd mor gyfleus ac mor ddi-broblem â phosibl. Rwy'n siŵr, pan fydd y Gweinidog yn rhoi ei ddiweddariad i gydweithwyr ar y mater hwn, y bydd yn ceisio mynd i'r afael â'r pwyntiau penodol hynny y mae Paul Davies ac eraill wedi'u disgrifio heddiw yn eu cyfraniadau hyd yma.
Cawsom gyfle yr wythnos ddiwethaf i gael datganiad ar ddyfodol gofal cymdeithasol gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae hynny'n nodi'r dull y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio o ran gweithio gyda'r sector i geisio sicrhau bod ganddo ddyfodol cadarnhaol a chynaliadwy iawn. Hefyd, gwn fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystyried y ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am waith y grŵp rhyng-weinidogol ar dalu am ofal. Felly, bydd cyfle pellach, fe gredaf, cyn diwedd y tymor— os yw amser yn caniatáu—inni gael trafodaethau pellach ar y mater pwysig hwnnw hefyd.
Rwy'n gwerthfawrogi y byddwn ni'n ystyried ymchwiliad i ymateb Llywodraeth Cymru i COVID yn y Senedd nesaf, Trefnydd, ond tybed a fyddai'n bosibl cael datganiad cyn mis Ebrill gan y Gweinidog Addysg, neu efallai hyd yn oed y Gweinidog llywodraeth leol, mewn gwirionedd, ar unrhyw ganlyniadau cynnar o werthusiad o ddarpariaeth ysgolion neu hybiau ar gyfer plant a phlant sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol. Rwy'n siŵr y bydd gan y ddau ohonom ni etholwyr, Trefnydd, sydd wedi cwyno ynghylch y meini prawf cychwynnol a bennwyd gan gyngor Abertawe, er enghraifft, ac yna fe newidion nhw eu meddyliau. Ond mae anghysondeb wedi bod ledled Cymru o ran meini prawf a lefel o ansicrwydd ynghylch beth yn union y mae dysgwyr yn ei wneud pan fyddan nhw'n mynychu'r canolfannau hyn neu eu hysgolion. Rwy'n credu bod gwir angen inni wybod pam mae'r presenoldeb wedi bod mor isel yn y pen draw, ac yn enwedig pam mai dim ond 4 y cant o blant agored i niwed a ddefnyddiodd y ddarpariaeth. Diolch
Diolch am godi'r mater y prynhawn yma. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Addysg yn amlwg wedi bod yn gwrando'n astud iawn ar y cais hwnnw am ddadansoddiad dyfnach, os hoffech chi, o'r ffordd y cafodd y ddarpariaeth hyb ei defnyddio a'r disgyblion sydd wedi elwa ohoni, a gwell dealltwriaeth o'r rhesymau pam na wnaeth rhai ohonynt ymgysylltu â hynny. Rwy'n gwybod y bydd hi'n ystyried y cais penodol hwnnw o ddifrif.
Yn olaf, Nick Ramsay.
Dau fater, os caf i, Trefnydd. Yn gyntaf, a gaf i adleisio teimladau Huw Irranca-Davies yn ei faterion yn gynharach ynghylch Pythefnos Masnach Deg? Fel rheol, fe fyddwn i'n mynd i lansiad lleol Pythefnos Masnach Deg yn fy nhref etholaeth leol yn y Fenni, ond yn ddealladwy, eleni nid yw hynny'n bosibl oherwydd y pandemig, ac mae digwyddiadau ar-lein wedi cymryd ei le. Rwy'n credu y dylem ni barhau i gydnabod elfen leol masnach deg a hyrwyddo hynny, felly tybed a gawn ni ddatganiad, fel y galwodd Huw amdano, ar sut y gallwn ni gefnogi masnach deg yn well a chydnabod y rhan bwysig y gall ei chwarae, nid yn unig ledled y byd, ond yn lleol wrth inni adeiladu'n ôl yn well ac adeiladu'n ôl yn decach.
Yn ail ac yn olaf, fy ngalwad arferol ar yr adeg hon o'r flwyddyn am ddatganiad ar effaith llifogydd ar y rhwydwaith cefnffyrdd. Caeodd y llifogydd trwm arferol yr A4042 yn Llanelen yn ddiweddar, yn ystod y glaw trwm. Rwy'n gwybod bod rhywfaint o waith adfer wedi'i wneud a chyhoeddodd Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth hyn ychydig o amser yn ôl, ond mae pryderon yn parhau ynghylch mynediad i'r Ysbyty Athrofaol y Faenor newydd ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Felly, tybed a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog ynghylch yr hyn sy'n cael ei wneud i sicrhau, ar yr adeg hon o'r flwyddyn, fod y ffordd honno a ffyrdd allweddol eraill yn y rhwydwaith cefnffyrdd yn glir, ac yn sicr yn addas ar gyfer ambiwlansys a cherbydau brys.
Rwy'n cydnabod y gefnogaeth barhaol a roddodd Nick Ramsay i'r mudiad masnach deg ac, unwaith eto, rwy'n falch o ailfynegi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fasnach deg a'n cydnabyddiaeth ni o'r gwahaniaeth y gall hyn ei wneud i fywydau llaweroedd o bobl.
O ran y cais am ddatganiad ynglŷn â llifogydd, mae gan Nick Ramsay ddiddordeb penodol yn y rhwydwaith cefnffyrdd, a sut y gallwn ni barhau i gael symudiad ar hwnnw. Fe fyddwn i'n ei wahodd ef i ysgrifennu at y Gweinidog ynglŷn â'r ffyrdd a'r meysydd arbennig hyn y mae ganddo ef bryderon amdanyn nhw'n lleol, ond fe allaf i ddweud bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflawni ei hymrwymiad i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd ac erbyn diwedd y tymor Seneddol hwn, fe fyddwn ni wedi buddsoddi dros £390 miliwn mewn rheoli peryglon llifogydd ac erydu arfordirol. Mae hynny wedi lleihau'r risg i fwy na 47,000 o dai yma yng Nghymru ac rwyf i o'r farn fod hynny'n tystiolaethu i lefel ein buddsoddiad ni yn hynny o beth, ond i ddifrifoldeb y peryglon sydd yna i eiddo hefyd. Mae hwn yn amlwg yn faes lle bydd angen i ni yng Nghymru barhau i ganolbwyntio ein hymdrechion i'r dyfodol.
Diolch i'r Trefnydd.