– Senedd Cymru ar 24 Chwefror 2021.
Symudwn yn awr at eitem 8, sef dadl Plaid Cymru ar gymhwystra prydau ysgol am ddim. A galwaf ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig. Siân.
Cynnig NDM7598 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adnodd cyllidol sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb ddrafft 2021-22 yn cael ei ddefnyddio yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 i ehangu meini prawf cymhwysedd prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel mater o egwyddor, mi ddylai bob plentyn dderbyn pryd ysgol am ddim. I gyrraedd at hynny, mae'n rhaid cynllunio gam wrth gam. Y cam cyntaf ydy dechrau cynnwys y 70,000 o blant sy'n byw o dan y llinell dlodi yng Nghymru, a dyna ydy'n cynnig ni heddiw. Maen nhw'n colli allan ar hyn o bryd, yn bennaf oherwydd bod eu rhieni nhw mewn swyddi sydd â chyflog isel. Wrth gefnogi'n cynnig, mi fyddwch chi hefyd yn cefnogi'r 6,000 o blant yng Nghymru sydd ddim yn gymwys am ginio am ddim oherwydd nad oes gan eu teuluoedd nhw unrhyw arian cyhoeddus.
Heddiw, felly, rydym ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod peth o'r adnodd cyllidol sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb ddrafft 2021-22 yn cael ei ddefnyddio yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 i ehangu meini prawf cymhwysedd prydau ysgol am ddim i gynnwys bob plentyn mewn teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol, ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddyn nhw.
Yn ôl cyfrifiadau gan Lywodraeth Cymru ei hun, y gost o wneud yr hyn rydym ni'n ei alw amdano fo, y gost o ehangu prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn teuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol, fyddai rhwng £33 miliwn a £101 miliwn—y ffigur isaf petai ond un plentyn ym mhob teulu a'r ffigur uchaf pe bai tri ym mhob teulu. Erbyn hyn, mae'n glir bod Cymru am dderbyn mwy o arian o San Steffan. Yr wythnos diwethaf, cafwyd cyhoeddiad am symiau canlyniadol Barnett pellach o £650 miliwn y gellir ei gario ymlaen i'r flwyddyn nesaf. Mae hyn ar ben y £350 miliwn o gyllideb sbâr eleni y mae modd hefyd i'r Llywodraeth gario drosodd i'r flwyddyn nesaf. Felly, does yna ddim esgus bellach i beidio ag ehangu cymhwysedd. Mae arian ar gael i'w ddyrannu ar gyfer y pwrpas yr ydym ni yn ei nodi yn y cynnig.
Ac o ran proses y gyllideb, heddiw ydy'r cyfle olaf i'r Senedd gael pleidlais ystyrlon ar fater ehangu prydau ysgol am ddim. Mae disgwyl y gyllideb derfynol wythnos nesaf gael ei chyhoeddi ar 2 Mawrth, a'i thrafod eto ar 9 Mawrth. Felly, mae'n hanfodol bod holl Aelodau'r Senedd yn gwneud eu dymuniad yn glir i'r Llywodraeth drwy gefnogi'n cynnig ni heddiw er mwyn i'r addasiadau cyllidol priodol gael eu gwneud.
Mae'n wirioneddol siomedig i weld bod y Llywodraeth wedi gosod gwelliant i'n cynnig ni heddiw sydd yn dileu ein cynnig ni, ac yn hytrach yn nodi ei bod yn annerbyniol mewn cymdeithas fodern fod plant yn dal i fynd heb fwyd. Cytuno. Ond dydy gwelliant sydd yn nodi hynny ond yn gwrthod gwneud dim byd amdano fo yn dda i ddim oll ar gyfer plant tlawd sy'n colli allan ar ginio ysgol am ddim. Ar ben hyn, mae'n siomedig iawn gweld y Llywodraeth yn anwybyddu eu hadolygiad tlodi plant nhw eu hunain. Roedd yr adroddiad yma yn nodi taw ehangu cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim i ystod ehangach o blant a phobl ifanc ydy'r un peth a fyddai'n helpu efo trechu tlodi plant—yr un peth fyddai'n helpu—ac eto mae'r Llywodraeth yn parhau i ymwrthod, er bod arian ar gael. Siomedig a chwbl anhygoel, a dweud y gwir.
Y realiti ydy bod Cymru yn darparu llai o brydau wedi eu coginio am ddim i'w phlant ysgol ar hyn o bryd nag unrhyw genedl arall y Deyrnas Unedig. Yn yr Alban a Lloegr, mae pob plentyn oedran ysgol yn nhair blynedd cyntaf eu haddysg yn derbyn prydau ysgol am ddim, beth bynnag fo incwm y teulu. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r trothwy enillion i'r sawl sy'n derbyn credyd cynhwysol wedi'i osod yn llawer uwch, gan helpu i gefnogi mwy o deuluoedd sy'n gweithio. Mi fyddai darparu pryd cytbwys, maethlon, lleol yn yr ysgol yn gwella iechyd plant ac yn hybu cyrhaeddiad dysgu ac addysgol. Mae pryd ysgol digonol yn helpu cynyddu lefelau canolbwyntio drwy gydol y dydd, ac yn rhoi cyfle i blant brofi bwyd newydd. Byddai ehangu cymhwyster, ac, yn y dyfodol, hefyd symud ymlaen i gyflwyno dull cyffredinol—mi fyddai hynny yn lleihau anghydraddoldeb sy'n ymwneud ag addysg ac iechyd a meysydd eraill. Mi fyddai fo'n fodd o gefnogi'r economi sylfaenol neu gylchol y mae'r Llywodraeth hon mor daer i'w hannog. Creu gwaith yn lleol, cefnogi ffermwyr i fynd â bwyd o'r fferm i'r fforc, cefnogi busnesau lleol, creu cadwyni bwyd lleol, a chyfrannu at leihau newid hinsawdd—hyn oll a darparu bwyd maethlon i blant Cymru. Dwi'n erfyn arnoch chi i gefnogi ein cynnig ni heddiw.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Gweinidog Addysg i symud y gwelliant hwnnw yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn credu ei bod yn annerbyniol mewn cymdeithas fodern bod plant yn dal i fynd heb fwyd ac y byddwn yn parhau i gynyddu ein hymdrechion i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddileu tlodi a newyn.
2. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru:
a) wedi darparu dros £50 miliwn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod y ddarpariaeth o brydau ysgol yn parhau yn ystod y pandemig ac mai dyma'r llywodraeth gyntaf yn y DU i wneud darpariaeth o’r fath yn ystod gwyliau'r ysgol;
b) wedi darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod plant sy'n hunanynysu neu'n gwarchod eu hunain yn parhau i dderbyn darpariaeth prydau ysgol am ddim pan nad oes modd iddyn nhw fynd i’r ysgol;
c) yn darparu cyllid o £19.50 yr wythnos i deuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sef y ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU;
d) wedi sicrhau mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU o hyd i gael brecwast am ddim i bawb mewn cynllun i ysgolion cynradd;
e) wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg (EPI) am lwyddo i sicrhau bod teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig wedi cael mynediad at gymorth priodol ac amserol;
f) wedi ymrwymo i gynnal adolygiad cyflym o'r holl opsiynau sydd ar gael o ran adnoddau a pholisi gan gynnwys y trothwy incwm ar gyfer cael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar ddata'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).
Cynigiwyd yn ffurfiol.
Rwy'n credu bod yn rhaid i mi ddechrau drwy ofyn pam mai dyma'r trydydd tro i ni drafod safbwynt Plaid Cymru ar brydau ysgol am ddim mewn cynifer o fisoedd. Mae'r cynnig hwn yn ailadrodd gwelliant i'r ddadl ar y gyllideb ar 9 Chwefror, bythefnos yn ôl yn unig. Yn ôl ym mis Rhagfyr, fe wnaethom gytuno, os nad oedd cyllid cyhoeddus ar gael i chi, na ddylech orfod poeni hefyd am ddibynnu ar ddisgresiwn rhywun er mwyn i'ch plentyn allu bwyta, ac roeddem hefyd yn cydnabod bod rhai teuluoedd na fyddent efallai wedi cael anhawster i dalu am fwyd eu plant mewn amgylchiadau arferol wedi ei chael hi'n anos yn ystod y pandemig, a'n bod yn cefnogi'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn ymestyn y ddarpariaeth cinio ysgol am ddim i gynnwys cyfnod gwyliau tra'n bod ynghanol hyn i gyd. Ond dywedais hefyd na ddylem lithro'n dawel i gynnig hynny am byth yma, ac nad oeddem yn cytuno â chynigion ar ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb, ac a bod yn deg, roedd Helen Mary yn ddigon graslon i gydnabod mai mater o athroniaeth wahanol oedd hyn, yn ymwneud â'r ffordd orau o fynd i'r afael â thlodi plant, yn hytrach nag amharodrwydd i wynebu'r her a gweithredu arni.
Mae prydau ysgol am ddim i bawb yn cynnwys brecwast, ac rydym yn gwrthod hynny am y rhesymau a nodwyd gennyf ym mis Rhagfyr, sy'n golygu na allwn gefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru, ond ar ôl dweud hynny, rydym yn cytuno â pharagraff 1 o'r gwelliant hwnnw, ac yn cydnabod eto ymateb y Llywodraeth i COVID ar brydau ysgol am ddim, yn ogystal â dymuno'n dda iddi gyda'i hadolygiad. Ond byddwn yn cefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio. Yn gynharach y mis hwn, cytunasom y dylai unrhyw gyllideb sydd heb ei gwario eleni gael ei thargedu mewn ffordd dros dro ar helpu teuluoedd sy'n cael credyd cynhwysol. Ceir teuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol am y tro cyntaf oherwydd bod COVID wedi eu hamddifadu o'u swyddi, teuluoedd a fydd yn parhau ar gredyd cynhwysol am y rhan ragweladwy o'r flwyddyn i ddod am na allant ddod o hyd i waith na gwaith am gyflog gwell. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, Blaid Cymru, roeddem o fewn dim i beidio â chefnogi'r cynnig fel y mae, unwaith eto, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi tynnu ein sylw at adroddiad y Sefydliad Polisi Addysg yn ei gwelliant ei hun, a'r hyn y mae'n ei ddweud am benderfyniadau gwario'r pedair gwlad ar addysg yn ystod y pandemig. Mae £174 yn cael ei wario ar adfer addysg pob disgybl yn Lloegr, ond dim ond £88 y disgybl yng Nghymru, er i Gymru gael y £5.2 biliwn ychwanegol gan Lywodraeth y DU y clywsom amdano. Yma hefyd y cafwyd y nifer isaf o oriau dysgu gartref, yn enwedig mewn teuluoedd mwy difreintiedig, er mai'r teuluoedd hynny sydd wedi dioddef fwyaf ledled y DU wrth gwrs. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn llai hael hyd yma hefyd gyda'i chefnogaeth i gyllid gofal plant ac anghenion dysgu ychwanegol fesul disgybl. A dylai hynny fod yn destun pryder i bob un ohonom sy'n credu bod addysg yn rhan hanfodol o'r llwybr allan o dlodi, wrth weld yr anghysondeb enfawr hwn yn y buddsoddiad dal i fyny, sy'n golygu y bydd gormod o rieni yfory yn dal i ddibynnu ar brydau ysgol am ddim, ni waeth faint o ffidlan y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud â'r meini prawf. Diolch.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ennill bri mawr ar fater prydau ysgol am ddim yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae'r ddarpariaeth wedi bod yn ad hoc, heb arweinyddiaeth ddigon clir. Ers dechrau'r pandemig, mae fy nhîm wedi ymgyrchu i sicrhau bod plant yng Ngorllewin De Cymru yn cael mynediad cyfartal at y lwfans prydau ysgol am ddim, ac mae pob awdurdod lleol ond tri ledled Cymru wedi dewis darparu arian parod neu dalebau gwerth £19.50 i dalu am bum brecwast a chinio. Dyma'r dull cywir o weithredu.
Yng Nghymru, mae nifer fach iawn o awdurdodau wedi parhau i lynu at wasanaeth dosbarthu parseli bwyd, megis Pen-y-bont ar Ogwr, gan gyfiawnhau hyn mewn nifer o ffyrdd nad ydynt wedi cael eu cefnogi gan awdurdodau eraill yma yng Nghymru. Yn Lloegr, fel y gwyddom i gyd, cafwyd protest, a hynny'n briodol, am yr amrywio o ran ansawdd a gwerth am arian parseli bwyd, a arweiniodd at ymateb gan y Llywodraeth i sicrhau mynediad at arian parod neu dalebau. Ni ddigwyddodd hyn yng Nghymru.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi rhannu lluniau o barseli bwyd yn cael eu dosbarthu a'r lefelau amrywiol o ansawdd. Cafodd y parseli sy'n cael eu dosbarthu i deuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan y cyflenwr ym Mryste, The Real Wrap Company, eu beirniadu'n fawr. Mae arian yn cael ei wneud o dlodi a newyn, gan fod y parseli hyn, ar gyfartaledd, yn £10 neu £11 o'u cymharu â phris prynu mewn archfarchnad. Mewn ymateb i fy llythyr yn amlinellu fy mhryderon, cyfeiriodd y Gweinidog Addysg at luniau o fwyd yn cael ei ddosbarthu i deuluoedd yng Nghaerffili a'i gymharu â'r hyn sy'n cael eu darparu yn Lloegr. Wel, dyma lun o barsel bwyd a ddosbarthwyd i'r rhai ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Llun nad yw wedi'i gynnwys yn yr ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg. Tybed pam? Nid yw'n cyd-fynd â'u sbin, oherwydd nid yw'n ddigon da. Does bosibl nad yw rhieni mewn gwell sefyllfa i siopa dros eu teuluoedd a diwallu anghenion maethol eu plentyn o fewn cyllideb arian parod neu dalebau.
Nid yw'r pecynnau hyn yn adlewyrchu'r amrywiaeth o fwyd y gall teuluoedd ddewis coginio ag ef, nac yn adlewyrchu gofynion dietegol amrywiol. Neu beth am roi'r dewis i bobl o leiaf? Y gwir amdani yw y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi mandadu arian parod neu dalebau fel opsiwn i bawb yng Nghymru o'r cychwyn cyntaf. Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori awdurdodau lleol i ddefnyddio nifer o systemau ochr yn ochr, ond mae'r cyngor dan arweiniad Llafur ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i barseli bwyd fel eu hunig ddewis. Yn y cyfamser, gwelais lawer o gynghorwyr, AoSau ac ASau Llafur yn beirniadu Llywodraeth y DU ar y cyfryngau cymdeithasol am y ffordd y maent yn trin plant sy'n byw mewn tlodi yn Lloegr, pan fo Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig yr un peth. Dywedodd teuluoedd wrthym eu bod yn cael eu trin fel plant, yn cael dognau unigol o jam i'w fwydo i'w plant, ac ar adegau, yn cael ffrwythau a llysiau sy'n pydru hyd yn oed, fel y gwelwch o'r llun yma: orennau wedi pydru.
Mae ymatebion gan yr awdurdod lleol wedi effeithio ar iechyd meddwl etholwyr. Rhaid rhoi diwedd ar y ffordd y caiff teuluoedd sy'n byw mewn tlodi eu stereoteipio fel rhai esgeulus. Awgrymodd un cynghorydd wrthyf hyd yn oed nad oeddent am gyflwyno talebau nac arian rhag ofn nad oedd y rhieni'n gwario'r arian ar fwyd mewn gwirionedd. A ydynt mor amharchus â hynny o fwriadau rhieni, na fyddent yn gwario'r arian neu'r talebau ar fwyd i'w plant eu hunain?
Mae bron i chwarter Cymru'n byw mewn tlodi, ac mae ymchwil gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi dangos mai Cymru, o'r pedair gwlad yn y DU, sydd â'r ddarpariaeth leiaf hael o brydau ysgol am ddim. Nid ystryw wleidyddol yw'r ddadl hon. Yr hyn sydd gennym yw gwlad yn y byd datblygedig lle mae plant yn mynd heb fwyd, a Llywodraeth sydd â'r pŵer i sicrhau bod pob plentyn yn cael ei fwydo, ond nad ydynt yn defnyddio'r pŵer hwnnw. Mae angen inni sicrhau y caiff y mater hwn sylw er budd ein holl blant yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.
[Anghlywadwy.]—oherwydd yn ystod y pandemig COVID hwn, yr hyn rydym wedi'i weld yn cael ei ddatgelu yw'r anghydraddoldebau enfawr sy'n dal i fodoli yn ein cymdeithas a'r effaith y maent wedi'i chael ar ansawdd bywyd, iechyd ac addysg rhai o'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas.
A gaf fi ddechrau drwy ganmol y rheini yn ein cymunedau sydd wedi gwneud cymaint yn ystod y pandemig i sicrhau, yn ogystal â'r cymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i deuluoedd sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim, eu bod serch hynny wedi codi arian i ddarparu a dosbarthu blychau bwyd i'r teuluoedd hynny i sicrhau nad oedd y plant yn mynd heb fwyd? Yn Nhonyrefail, paratôdd a dosbarthodd Leanne Parsons a'i thîm o wirfoddolwyr yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail gannoedd o flychau bob dydd yr holl ffordd drwy'r haf; y Cynghorwyr Maureen Webber a Carl Thomas, ymgyrchwyr cymunedol lleol yn Rhydyfelin a'r Ddraenen Wen, a'r holl fanciau bwyd lleol sydd wedi bod mor hanfodol dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae prydau ysgol yn eiconig. O dan drefn flaenorol y cymorth incwm, roedd yr hawl i gael prydau ysgol am ddim yn glir, ond ers cyflwyno credyd cynhwysol, cafwyd maen prawf cymhwysedd ariannol newydd o £7,400 net o dreth ac eithrio unrhyw fudd-daliadau a dderbynnir, ac mae angen inni adolygu hynny yn awr. Yng Nghymru, rydym wedi sicrhau bod bron i 86,000 o ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim neu gyfwerth â £19.50 yr wythnos. Wrth i fwy o ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol ac wrth i fwy o deuluoedd ddod yn ddibynnol ar gredyd cynhwysol, rhaid inni warantu egwyddor y credaf y gallwn i gyd gytuno â hi yn y Senedd hon: na ddylai unrhyw blentyn yng Nghymru fynd heb fwyd.
Nawr, hoffwn ganmol y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi arwain y ffordd yn y DU drwy ddarparu £50 miliwn o gyllid i sicrhau prydau ysgol am ddim yn ystod cyfnodau gwyliau a'r £23 miliwn pellach sydd wedi'i neilltuo ar gyfer ymestyn y ddarpariaeth hon.
Mae'r cynnig a gyflwynwyd yn amserol iawn, er yn rhy amhenodol yn fy marn i, oherwydd nid yw'n rhoi'r sicrwydd clir rydym am ei weld ac am anelu ato, ac y gellir ei gyflawni. Mae'r gwelliant yn sefydlu'r egwyddor ei bod yn annerbyniol i unrhyw blentyn fynd heb fwyd. Adran olaf y gwelliant yw'r bwysicaf, oherwydd dyma'r ymrwymiad cliriaf i weithredu. Mae'n ymrwymo'r Senedd a Llywodraeth Cymru i adolygu'r holl ffynonellau ac opsiynau polisi, gan gynnwys y trothwy incwm, sy'n hanfodol i gyflawni'r egwyddor hon.
Gwyddom i gyd y gallai'r gost fod oddeutu £100 miliwn y flwyddyn, felly yn yr adolygiad hwnnw mae'n hanfodol ein bod yn canolbwyntio ar holl achosion tlodi yn ein cymunedau ac yn sicrhau nad yw unrhyw ailgyfeirio cyllid yn effeithio ar brosiectau hanfodol eraill, megis rhaglen brecwast am ddim mewn ysgolion Llywodraeth Cymru, sydd yr un mor bwysig ar gyfer sicrhau nad yw ein plant yn mynd heb fwyd pan ddeuant i'r ysgol a thra'u bod yn yr ysgol.
Lywydd, rwy'n siŵr ein bod i gyd yn arddel yr egwyddor y bydd prydau ysgol rhyw ddydd yn dod yn fudd cyffredinol i bawb fel rhan o'r system addysg. Tan hynny, er gwaethaf y cyni ariannol Torïaidd rydym yn debygol o'i wynebu unwaith eto, rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i ymestyn yr hawl mewn perthynas â'r egwyddor hon fel na fydd unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd. Mae hwn yn fater o bwys mawr i bob un ohonom ar ochr Lafur y Senedd ac ym mhob plaid arall, rwy'n siŵr. Rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth y gallwn i gyd anelu ato ac uno o'i gwmpas, felly rwy'n croesawu'r ymrwymiad clir hwn gan Lywodraeth Cymru i'n galluogi i gyflawni hyn. Diolch, Lywydd.
Er ein bod yn cytuno â'r teimlad sy'n sail i gynnig Plaid Cymru, ni allwn ei gefnogi. Mae angen inni roi diwedd ar newyn plant, ond ni wnawn hynny drwy ymestyn prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn, sef pen draw rhesymegol y cynnig sydd ger ein bron. Mae ein hadnoddau'n gyfyngedig a rhaid eu targedu at y rhai mwyaf anghenus. Felly, byddwn yn cefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru.
Rwy'n siŵr bod pob un ohonom yn dymuno gwneud popeth yn ein gallu i roi diwedd ar falltod plant llwglyd. Mae'r DU yn gartref i 54 o biliwnyddion, gwlad lle mae'r cyfoethog iawn yn gwneud mwy mewn munud neu awr nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ennill mewn blwyddyn, ac eto mae traean o'r plant yn byw mewn tlodi. Mae llawer gormod o blant yn mynd i'r gwely'n llwglyd a phrydau ysgol am ddim yn aml yw eu hunig ffynhonnell ddibynadwy o faeth. Rwy'n croesawu buddsoddiad ychwanegol Llywodraeth Cymru mewn prydau ysgol am ddim, ac am fod y wlad gyntaf yn y DU i ymestyn yr hawl i brydau am ddim yn ystod y gwyliau. Ac rwyf hefyd yn croesawu eu hymrwymiad i adolygu'r trothwy incwm ar gyfer cael prydau ysgol am ddim. Rhaid inni beidio â chaniatáu i unrhyw blentyn yng Nghymru fynd heb fwyd.
Fodd bynnag, rhaid inni hefyd roi sylw i'r eliffant yn yr ystafell: y cynnydd mewn gordewdra ymhlith plant a diffyg maeth. Yn ôl y Sefydliad Bwyd, mae 94 y cant o blant yn bwyta llai na thair i bum cyfran o lysiau y dydd, ac mae Cymru'n un o wledydd gwaethaf y DU am fwyta ffrwythau a llysiau. Nid yw'n syndod pan ystyriwn fod bwydydd iach deirgwaith yn ddrutach na bwydydd llai iach am y nifer cyfatebol o galorïau. Byddai angen i'r pumed tlotaf o aelwydydd y DU wario tua 40 y cant o'u hincwm gwario ar fwyd i fodloni canllawiau Eatwell. Rhaid inni sicrhau felly fod prydau ysgol yn bodloni ac yn rhagori ar ganllawiau Eatwell. Rwyf hefyd yn annog Llywodraethau ledled y DU i weithio gyda'i gilydd i wneud bwyd iach yn rhatach. Diolch yn fawr.
Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch i fy nghyd-Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl y prynhawn yma. A gaf fi ddweud fy mod yn falch iawn o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi ymateb i heriau digynsail y pandemig COVID-19, gan sicrhau nad yw'r rhai sy'n dibynnu ar brydau ysgol am ddim wedi gorfod mynd hebddynt pan nad ydynt yn yr ysgol?
Rydym bellach wedi darparu hyd at £60.5 miliwn o gyllid ychwanegol y flwyddyn ariannol hon ar gyfer prydau ysgol am ddim, ac i adeiladu ar hyn byddwn yn darparu £23.3 miliwn ychwanegol i ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol ar gyfer 2021-22 ar ei hyd. Mae darparu prydau ysgol am ddim yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol, a'n nod yw sicrhau bod y cymorth hwn yn parhau i fod ar gael i deuluoedd sydd ei angen fwyaf.
Yn 2019, roeddem yn amcangyfrif, pe na bai trothwy cyflog yn cael ei roi ar waith erbyn i gredyd cynhwysol gael ei gyflwyno'n llawn, y byddai tua hanner disgyblion Cymru yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yng Nghymru, o'i gymharu ag 16 y cant yn 2017. Heb fod arian ychwanegol ar gael i Lywodraeth Cymru, byddai hyn wedi golygu bod angen gwneud dewisiadau ariannu anodd iawn mewn mannau eraill o fewn y portffolio addysg a'r Llywodraeth ehangach, ac nid ydym eto wedi clywed beth y mae pobl yn credu y dylid ei dorri i allu fforddio newid o'r fath.
Yn ystod y pandemig, bu cynnydd sylweddol yn nifer y teuluoedd sy'n manteisio ar hawl i brydau ysgol am ddim oherwydd yr argyfwng economaidd y mae COVID wedi'i greu, ac mae nifer y disgyblion sydd bellach yn cael y ddarpariaeth wedi cynyddu mewn ychydig fisoedd yn unig o tua 91,000 i dros 105,000 erbyn hyn. Bydd yr Aelodau'n cofio inni gyfrifo, ym mis Rhagfyr, y byddai darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn y mae eu rhieni'n cael credyd cynhwysol yn costio £67 miliwn ychwanegol y flwyddyn. Mae gwaith pellach wedi'i wneud i ddiweddaru'r ffigurau hyn, gyda'r cyfrifiadau diweddaraf bellach yn dangos y byddai'r gost ychwanegol rhwng £85 miliwn a £100 miliwn, hyd yn oed cyn ystyried effaith y pandemig.
Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig i gyd-Aelodau yn y Siambr beidio ag anghofio bod cynyddu cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim hefyd yn cael effaith ganlyniadol ar feysydd polisi eraill. Er enghraifft, byddai amcangyfrif bras o gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl mewn teuluoedd sy'n hawlio credyd cynhwysol yn arwain at gost ychwanegol i'r grant datblygu disgyblion o rhwng £220 miliwn a £250 miliwn. Wrth gwrs, efallai mai bwriad Plaid Cymru yw dileu'r grant datblygu disgyblion neu dorri gwerth y grant i bob disgybl unigol, ond erys y ffaith mai amcangyfrif bras yw y gallai'r polisi hwn gostio £350 miliwn ychwanegol y flwyddyn.
Mewn dadl debyg ym mis Rhagfyr, dywedodd Plaid Cymru mai hwn fyddai'r cam cyntaf tuag at eu polisi o gynnig prydau ysgol am ddim i bawb, a'r cwestiwn sydd gennyf heddiw yw'r cwestiwn oedd gennyf bryd hynny: ble rydych chi'n disgwyl dod o hyd i'r arian hwn? Oherwydd mae'n rhaid i mi ddweud, nid yw'n dal dŵr fod yr arian hwn yn dod o'r cyllid ychwanegol y mae cyllideb eleni yn ei gynnwys. Beth am y blynyddoedd i ddod? Arian untro yw'r arian y cyfeiriwyd ato. Byddai'n dal i fod angen inni ddod o hyd i gannoedd o filiynau o bunnoedd ar gyfer y blynyddoedd i ddod. I fod yn glir, mae hynny'n golygu toriadau mewn mannau eraill. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd prydau ysgol am ddim i gefnogi plant a theuluoedd wrth gwrs. Pe na bawn i'n cydnabod hynny, ni fyddem wedi cymryd y camau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u cymryd. Roedd y newidiadau a oedd yn angenrheidiol pan gyflwynwyd y trothwy gennym yn eithriadol o gymhleth, ond rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gynnal adolygiad cyflym o'r trothwy pan fydd data newydd ar gael.
Mewn perthynas â rhannau eraill o'r cynnig heddiw, yn galw am i'r meini prawf gynnwys teuluoedd nad oes cyllid cyhoeddus ar gael iddynt, rwy'n cytuno bod hyn yn bwysig iawn. Er fy mod yn cydnabod nad yw pawb nad oes cyllid cyhoeddus ar gael iddynt ar incwm isel, i lawer iawn o'r teuluoedd nad oes arian cyhoeddus ar gael iddynt rwy'n cydnabod yn ddi-os fod angen cymorth ar lawer o'r teuluoedd hynny. Gallaf gadarnhau felly y byddwn yn ystyried gwneud gwelliannau ffurfiol i'r ddeddfwriaeth gymhleth hon pan fydd effaith COVID-19 wedi lleddfu. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i annog pob awdurdod lleol yn gryf i arfer eu disgresiwn i ganiatáu i blant y teuluoedd hyn elwa o ddarpariaeth prydau ysgol am ddim. Rwy'n derbyn bod awdurdodau lleol bob amser yn poeni am eu cyllidebau unigol eu hunain, ond gadewch imi ddweud yn gwbl glir wrth bob awdurdod lleol y prynhawn yma: gallant hawlio costau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru os ydynt yn cymryd y cam hwn ymlaen i gefnogi'r teuluoedd hyn.
Lywydd, i orffen, mae hyn yn ymwneud â dewisiadau, ac mae lle dylem dargedu ein hadnoddau bob amser yn gwestiwn rydym ni fel Llywodraeth yn ei herio'n gyson ac yn ei ofyn i ni'n hunain. Heddiw rwy'n falch o gyhoeddi cyllid ychwanegol i ymestyn cynllun mynediad ein grant datblygu disgyblion i fod yn werth dros £10 miliwn erbyn hyn. Dyma gyllid a fydd yn cefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig ac yn helpu mwy o deuluoedd gyda chostau gwisg ysgol, offer ysgol, a dyfeisiau electronig erbyn hyn. Gallaf sicrhau'r Aelodau y byddwn ni yma yn y Llywodraeth hon, o fewn y gyllideb gyfyngedig a ddarperir inni gan Lywodraeth y DU, yn parhau i sicrhau bod adnoddau'n cael eu gwario yn y ffordd orau bosibl sy'n targedu yn y modd gorau. Diolch.
Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl.
Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Nid yw amser yn caniatáu imi ymateb i holl gyfraniadau pob Aelod, ond mae yna rai pwyntiau y teimlaf fod angen imi eu gwneud, yn enwedig mewn ymateb i Mick Antoniw ac i'r Gweinidog.
Wrth gwrs, byddem i gyd yn cymeradwyo'r gwaith gwirfoddol y mae Mick Antoniw yn ei ddisgrifio, ond a yw'n credu mewn gwirionedd y dylai'r teuluoedd hyn a'u plant fod yn dibynnu ar elusen? Go brin fod hynny'n gyson ag egwyddorion sosialaidd rhywun. Dywed ein bod i gyd yn cytuno â'r egwyddor na ddylai unrhyw blentyn yng Nghymru fod yn mynd heb fwyd. Wel, rhaid imi ddweud bod y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, gyda chefnogaeth Sefydliad Bevan a'r fagwrfa gwleidyddiaeth genedlaetholgar honno, yr Undeb Addysg Cenedlaethol, yn amcangyfrif bod 70,000 o blant yn mynd heb fwyd heddiw. Felly, nid oes unrhyw ddiben i ni siarad am yr egwyddor. Ni allaf ddychmygu bod unrhyw un yn yr ystafell hon nac unrhyw un yng Nghymru i bob pwrpas yn credu, mewn egwyddor, na ddylid bwydo plant, ond nid yw'r plant hynny'n cael eu bwydo heddiw. Fe ailadroddaf yr hyn y mae Aelodau eraill eisoes wedi'i ddweud: mae ymchwil gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn dangos bod gan Lywodraeth Cymru brawf modd tynnach o ran mynediad at brydau ysgol am ddim, a darpariaeth lai hael yn gyffredinol i blant oedran babanod na gwledydd eraill y DU. Nid ni sy'n dweud hynny, ond y cyrff ymchwil a dylanwadu mwyaf uchel eu parch yn y maes.
Roeddwn yn falch iawn, rhaid imi ddweud, o glywed yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud am y rheini nad oes cyllid cyhoeddus ar gael iddynt, a chredaf ei bod yn ddefnyddiol iawn ei bod wedi ailadrodd y bydd awdurdodau lleol sy'n gwneud y penderfyniadau dewisol hynny'n cael eu had-dalu. Roedd hynny'n glir o'r blaen; mae'n braf ei glywed yn cael ei ailadrodd. Ond ar wahân i hynny, rhaid imi ddweud wrthi nad yw'r ddadl hon yn ymwneud â'r hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud, mae'n ymwneud â'r hyn nad yw'r Llywodraeth wedi'i wneud. Mae'n ddiddorol bob tro y cawn y ddadl hon—ac rwy'n derbyn pwynt Suzy Davies, rydym wedi sôn am hyn droeon, ond byddwn yn dal i siarad amdano nes i rywbeth gael ei wneud. Os edrychwch ar gywair gwelliant y Llywodraeth y tro hwn, mae'n fwy cymedrol na gwelliant y Llywodraeth y tro diwethaf. Felly, nid wyf yn ymddiheuro am ddal ati i siarad am fod eisiau bwydo plant llwglyd; bûm yn gwneud hynny ers 40 mlynedd ac rwy'n bwriadu dal ati hyd nes y gallwn.
Mae'r Llywodraeth yn newid y cyfrif ariannol am yr hyn rydym yn ei gynnwys bob tro y byddwn yn trafod hyn, a'r risgiau, ac mae honno'n ffordd ddilys iddynt ymateb i'r ddadl. Wrth gwrs, mae safbwynt Kirsty Williams yn un anrhydeddus a chyson; nid yw Kirsty'n honni bod yn sosialydd. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelodau Llafur yn y Siambr hon a'r ASau Llafur sydd wedi bod yn gwneud datganiadau am hyn heddiw na allwch edrych y ddwy ffordd ar hyn. Ni fydd pobl Cymru'n cael eu twyllo. Ni fyddant yn eich credu pan ddywedwch, 'Rydym am ymestyn y meini prawf, ond ni allwn wneud hynny', oherwydd fe wyddom fod yr arian yno bellach. Ni allwch barhau i edrych y ddwy ffordd ar y mater hwn a disgwyl cael rhwydd hynt i wneud hynny. A thra'ch bod yn edrych y ddwy ffordd ar y mater, ni fydd 70,000—wel, 76,000 os cynhwyswn y rheini nad oes cyllid cyhoeddus ar gael iddynt—yn cael eu hariannu.
Rwy am ailadrodd, Lywydd: y prawf modd tynnaf a'r ddarpariaeth leiaf hael i blant oedran babanod o gymharu ag unrhyw wlad yn y DU. A yw hyn yn rhywbeth y gall yr un ohonom yn y Siambr hon ymfalchïo ynddo, ac a yw'n rhywbeth y mae Aelodau Llafur yn barod i'w oddef? Wrth gwrs, mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â blaenoriaethau, a gallaf sicrhau'r Siambr hon heddiw y bydd bwydo'r plant llwglyd hynny—plant y mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi cydnabod eu bod yn dlawd ac angen cymorth am fod eu teuluoedd yn cael credyd cynhwysol—yn flaenoriaeth i Lywodraeth Plaid Cymru. Ac os na wnewch chi eu bwydo, mae'n bryd symud o'r ffordd a gwneud lle i Lywodraeth a fydd yn gwneud hynny.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly dwi'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond cyn hynny, fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr i sicrhau bod y dechnoleg yn gweithio'n llawn. Toriad, felly.