– Senedd Cymru am 5:01 pm ar 2 Mawrth 2021.
Rŷn ni'n symud nawr at grŵp 2 o welliannau, y grŵp yma yn ymwneud â sgiliau achub bywyd a chymorth cyntaf. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Suzy Davies i gynnig y prif welliant hwnnw ac i siarad i'r gwelliannau yn y grŵp. Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy'n cynnig gwelliant 1. Aelodau, rwy'n dod â'r gwelliannau hyn yn ôl gan mai dyma'r cyfle olaf y bydd gennyf i, neu, yn wir, y bydd gan y Gweinidog, i allu sicrhau bod disgyblion yng Nghymru yn caffael y sgiliau mwyaf gwerthfawr hynny, sef gwybod sut i achub bywyd dynol arall. Mae rhai pobl ifanc, wrth gwrs, wedi bod yn lwcus ac wedi dysgu rhai o'r sgiliau hyn yn yr ysgol yn barod, neu fel aelodau o St John Cymru neu'r Groes Goch neu'r Brownis neu'r Cybiau neu'r Urdd neu ein grwpiau cadetiaid hyd yn oed, yn union fel y gwnaeth Aneurin Metcalfe. Dim ond 22 oed, yr wythnos diwethaf achubodd fywyd Bobby Gamlin ar ôl camu i mewn a chyflawni dadebru cardio-anadlol, yr oedd wedi'i ddysgu gyda chadetiaid môr Torfaen. A bydd pob un ohonom ni'n ddiolchgar i Calon Cymru am ddod o hyd iddo ef, y dyn ifanc diymffrost hwn, i ddiolch iddo, ond, wrth gwrs, ni fydd neb yn fwy diolchgar na Mr Gamlin a'i deulu.
Camodd Aneurin i mewn heb orfod meddwl dwywaith, a'r reddf honno i gamu i mewn sydd y tu ôl i'r gwelliannau hyn. Mae rhai ysgolion eisoes yn cynnig gwers mewn dadebru cardio-anadlol yn enwedig, efallai unwaith neu ddwy ym mywyd ysgol disgybl, ac ni allai'r sgil fod yn haws ei ddysgu, fel byddai'n wir am sgiliau cymorth cyntaf ac achub bywydau sylfaenol eraill ond nid yw'r gwersi ysbeidiol dewisol yn meithrin y reddf honno, ac mae gormod o straeon trist o ran oedolion sy'n gwybod sut i wneud CPR ond nad ydyn nhw'n camu i mewn oherwydd eu bod wedi cael braw, yn rhy ofnus neu'n anghofio yn yr eiliad honno beth i'w wneud, pan fo blynyddoedd o ymarfer gorfodol yn golygu bod camu i mewn mor reddfol ag adrodd eich tabl 10 heb feddwl amdano.
Felly, oes, mae gan Lywodraeth Cymru ei chynllun cardiaidd y tu allan i'r ysbyty, ac rwy'n diolch i'r parafeddygon a'r elusennau sydd wedi helpu i gynllunio hynny, ond mae eich cyfle o oroesi ataliad y galon y tu allan i ysbyty yn dal yn ystyfnig o isel, tua dim ond un o bob 10, ac mae'r un parafeddygon hynny a'r un elusennau hynny'n dal i gefnogi addysgu'r sgiliau hyn yn orfodol mewn ysgolion, fel y mae aelodau o'n Senedd Ieuenctid ein hunain, teuluoedd, disgyblion ac athrawon ledled Cymru, sydd wedi gweld eu cyfoedion yn yr Alban a Lloegr yn cael eu darbwyllo gan y dystiolaeth o wledydd eraill, lle mae'r hyfforddiant dadebru cardio-anadlol hwn ar lefel y boblogaeth yn golygu bod llai o farwolaethau o ataliad y galon. Felly, nid oes ideolegau pleidiau gwleidyddol yma, dim ond awydd am ffordd ymlaen i atal marwolaethau diangen.
Felly, mae dau welliant yma, Gweinidog, i chi eu hystyried, ond mae llawer o ffyrdd o gael Wil i'w wely. Ac rwy'n gwybod eich bod chi eisiau cadw'r Bil hwn yn lân o rwymedigaethau ychwanegol ynghylch cynnwys y cwricwlwm, ond rwy'n cofio hefyd i chi gefnogi'r amcan polisi yn y gorffennol. Mae'r Alban a Lloegr wedi dod i'r un canlyniad drwy wahanol lwybrau ac, i mi, y diwedd sy'n bwysig, yn hytrach na'r modd. Nawr, rydym ni wedi trafod sut y mae modd cyflawni hyn, a byddwn i'n ddiolchgar iawn pe baech chi'n rhannu gydag Aelodau sut yr ydych chi'n credu y gallem ni fod wedi datrys hyn mewn ffordd wahanol i weld pa fath o ymateb a gawn ni. Diolch.
Bydd llawer o Aelodau'n sylweddoli fy mod i wedi ei chael hi'n eithriadol o anodd ystyried y gwelliannau hyn. Roeddwn i'n ddigon ffodus i ddysgu llawer o'r sgiliau hyn yn fy arddegau yn St John Cymru yn Nhredegar, ac, wrth gwrs, y sgiliau hyn a achubodd fy mywyd lai na blwyddyn yn ôl. Rwy'n gwbl glir yn fy meddwl fod y gwasanaeth iechyd gwladol, er gwaethaf yr holl wahanol bethau y gall eu gwneud, nid yw'n gallu, ni fydd yn gallu ac ni fydd byth yn gallu achub bywyd yn y ffordd a welwyd yr wythnos diwethaf yng nghanol Caerdydd. Mae fy nghardiolegydd fy hun ac arbenigwyr eraill yn y maes, rwy'n credu, yn gwbl glir mai'r sawl sy'n cerdded ar y stryd ac yn gweld rhywun yn cael ataliad y galon fydd yn achub bywyd y person hwnnw ac yna'n galluogi'r parafeddygon a'r holl amrywiaeth o wasanaethau'r gwasanaeth iechyd gwladol i gamu i mewn i sicrhau'r adferiad a'r driniaeth y bydd ei hangen er mwyn i'r person hwnnw fyw eto.
Ond yr un sy'n mynd heibio sy'n hollbwysig. Yr unigolyn yn y tŷ, yn y stryd, yn y Senedd, a fydd yn achub y bywyd hwnnw pan fydd ataliad y galon yn digwydd, a gwelais i hefyd, fel Suzy, y cyfweliadau ddoe a gwelais i adroddiadau ynghylch digwyddiad achub bywyd go iawn yng nghanol Caerdydd. Ond, fel yr ydych chi'n gwybod, rwyf i hefyd yn cael fy atgoffa o Justin Edinburgh, a oedd yn gyn-reolwr Clwb Pêl-droed Cymdeithas Sir Casnewydd. Cafodd ataliad y galon yn y gampfa, ac nid oedd neb yno a oedd yn gallu achub ei fywyd. Caf fy atgoffa hefyd o Noel Acreman, a oedd dim ond yn 25 oed pan gafodd ataliad y galon ym Mharc Bute, eto yng nghanol Caerdydd. Nid oedd neb yno'n gallu achub ei fywyd. Erbyn i'r parafeddygon gyrraedd, roedd eisoes yn rhy hwyr. Ac mae'n ddyletswydd arnom er eu mwyn nhw. Mae'n ddyletswydd arnom ni er mwyn y bobl hynny, nid yn unig yr achubwyr bywydau, ond y bobl a gollodd eu bywydau, i weithredu i sicrhau bod y sgiliau hyn sy'n achub bywydau ar gael ledled ein cymuned a ledled ein cymdeithas. Ond mae angen i ni hefyd sicrhau bod diffibrilwyr ar gael i bobl, fel eu bod ar gael yn ein cymunedau ledled ein gwlad. Felly, mae angen strategaeth i sicrhau bod ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn cael ei drin, ac mae angen, rwy'n credu, i'r strategaeth honno fod ar sail statudol. Diffibriliwr a ailgychwynnodd fy nghalon i—diffibriliwr a oedd wedi'i leoli yn y coleg—ac roeddwn i'n ddigon ffodus bod rhywun yn gallu beicio i'r coleg hwnnw a'i ddod ag ef yn ôl wrth i'r bobl a oedd yn rhoi CPR arnaf allu fy nghadw'n fyw er mwyn i hynny ddigwydd. Nid yw hynny'n digwydd ac ni allai ddigwydd ac ni fyddai'n digwydd mewn gormod o rannau o Gymru.
Mae'r Aelodau'n ymwybodol fy mod i eisoes wedi cyflwyno fy neddfwriaeth fy hun ar y materion hyn, ac wrth wneud hynny, ni wnes i geisio rhoi'r materion hyn ar y cwricwlwm yn fwriadol. Y llwybr yr wyf yn ei ddewis yw gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod y sgiliau hyn ar gael ledled ein cymdeithas. Bydd hynny'n cynnwys ysgolion, ond nid wyf i o'r farn y dylai gael ei gyfyngu i ysgolion. Rwy'n gwybod o fy nhrafodaethau gyda'r Gweinidog ei bod yn cydymdeimlo'n fawr â'r dadleuon sy'n cael eu cyflwyno ac rwy'n cydnabod grym y ddadl a wnaeth yn y ddadl flaenorol ar y materion hyn, ac rwyf i hefyd yn cydnabod ei safbwynt nad oes modd ysgrifennu popeth sy'n bwysig ar wyneb y Bil. Rydw i'n cydnabod hynny.
Gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymateb yn gadarnhaol i'r ddadl hon, ac wrth wneud hynny hoffwn i gofnodi fy niolch personol fy hun i Suzy Davies a'i hymgyrchu di-syfl ar y mater hwn. Mae pob un ohonom ni sydd wedi cael ataliad y galon yn gwerthfawrogi, Suzy, y gwaith yr ydych chi wedi'i wneud ar hyn a'r ffordd yr ydych chi wedi sicrhau bod y mater hwn wedi'i drafod nid unwaith neu ddwy ond yn gyson yn y Senedd hon. Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth, y Llywodraeth heddiw a'r Llywodraeth a gaiff ei hethol ym mis Mai, yn sicrhau bod deddfwriaeth yn cael ei rhoi ar y llyfr statud: deddfwriaeth gynhwysfawr sy'n galluogi nid yn unig dysgu'r sgiliau hyn drwy'r gymdeithas a ledled ein cymunedau, ond hefyd yn sicrhau bod diffibrilwyr wrth law pan fydd y pethau hyn yn digwydd, fel y bydd llawer mwy o fywydau'n cael eu hachub yn y dyfodol. Rydym ni hefyd yn gobeithio y bydd llawer mwy o adroddiadau am bobl ifanc, fel y gwnaethom ni ei weld ddoe, yn achub bywydau ac nid dim ond yn sefyll gerllaw wrth i fywyd bylu. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni, wrth bleidleisio y prynhawn yma, nid yn cymryd un cam yn unig, ond yn cydnabod yr hyn y mae'r Gweinidog yn ceisio'i wneud wrth ddiwygio'r cwricwlwm a chyflwyno diwygiad mwy sylfaenol o ymdrin ag ataliad y galon a'i drin y tu allan i'r ysbyty ar gyfer pawb yn y dyfodol. Diolch.
A gaf i nawr alw'r Gweinidog, Kirsty Williams?
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ei gwneud yn gwbl glir i'r holl Aelodau fod sgiliau achub bywyd yn agwedd ar ddysgu sy'n rhan o'n Meysydd Dysgu a Phrofiad iechyd a lles newydd? Mae'r canllawiau statudol fel y maen nhw wedi'u drafftio yn pwysleisio pwysigrwydd dysgwyr yn datblygu'r gallu i ymateb i amrywiaeth o gyflyrau a sefyllfaoedd sy'n effeithio ar eu hiechyd corfforol, ac, yn wir, iechyd corfforol pobl eraill, er enghraifft, y gallu i ymateb mewn argyfwng, drwy wybod sut i gael cymorth ar gyfer argyfwng 999. Felly, mae llawer iawn o sefyllfaoedd lle mae angen i blant fod yn ddigon parod i allu cymryd y camau y mae angen iddyn nhw, fel y dywedais i, i'w hamddiffyn eu hunain ac eraill.
Fodd bynnag, rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae Alun Davies a Suzy wedi'u gwneud y prynhawn yma. Ac nid wyf i'n gwybod o ran cael Wil i'w wely, Suzy, ond rwy'n cytuno â chi mai'r hyn sy'n bwysig yn y pen draw yw sicrhau ein bod ni'n cael y canlyniad yr ydym ni i gyd eisiau ei gyflawni. Ac felly, i gydnabod eich ymgyrchu hynod ddarbwyllol, ac, fel y disgrifiodd Alun Davies, ymgyrchu di-syfl ar y mater hwn, rwyf i wedi cytuno i ddiweddaru geiriad canllawiau'r cwricwlwm statudol i Gymru fel y bydd, yn y dyfodol, yn darllen, ac rwy'n dyfynnu:
'Dylai ysgolion hefyd ystyried pa strategaethau y bydd angen ar eu dysgwyr i allu ymyrryd yn ddiogel i gefnogi eraill a allai fod mewn perygl. Dylai hyn gynnwys sgiliau achub bywyd a chymorth cyntaf.'
Rwy'n gobeithio y bydd y geiriad cryfach hwn a'r dull gweithredu hwn, a fydd, gobeithio, yn ei roi y tu hwnt i amheuaeth bod hon yn elfen statudol yn y cwricwlwm y mae'n rhaid ei darparu i blant a phobl ifanc, a fydd yn cyflawni'r hyn yr ydych chi wedi ymgyrchu drosto ers tro byd, Suzy, sef y bydd plant yn gadael ein hysgolion ni wedi cael y cyfle i feithrin y sgiliau hyn. Ac yn ysbryd, gobeithio, y cydweithrediad yr wyf i wedi ceisio'i greu drwy gydol proses y Bil cwricwlwm hwn, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n gwrthod y gwelliant ar yr addewid, fel y dywedais i, o ganllawiau diwygiedig i adlewyrchu cryfder y farn y mae Suzy, Alun ac eraill, fe wn, yn y Siambr hon yn ei rhannu. Diolch.
Diolch. A gaf i alw ar Suzy Davies i ymateb i'r ddadl? Suzy.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, yr hyn yr ydym ni wedi'i glywed gennych chi, Gweinidog, yw eich cytundeb i ddefnyddio canllawiau statudol—a chanllawiau statudol yw’r rheini—i orfodi ysgolion i addysgu sgiliau achub bywyd oni bai bod ganddyn nhw reswm da dros beidio â gwneud hynny. Dylen nhw eu haddysgu. Ac rwyf i mor ddiolchgar ynghylch hyn, mae'n rhaid i mi ddweud. Mae hyn yn golygu na all ysgolion ddefnyddio esgusodion fel prinder arian neu ddiffyg sgiliau yng ngweithlu'r ysgol; fyddan nhw ddim yn tycio. Mae llawer o sefydliadau a ddaw i ysgolion i hyfforddi athrawon yn ogystal â disgyblion, a gallant ddarparu offer, naill ai am ddim neu am gost isel iawn. Wrth gwrs, er y bydd plant unigol na fyddai hyfforddiant yn briodol iddynt, rwy'n herio unrhyw ysgol nawr i gynnig rheswm credadwy pam na ddylen nhw addysgu ein plant ni i achub bywydau.
Gweinidog, roeddwn i'n gwylio wynebau rhai o'r Aelodau y gallaf i eu gweld ar y sgrin, ac rwy'n credu i mi sylwi ar ryddhad ar gryn dipyn ohonyn nhw; mae llawer iawn o Aelodau yn y Senedd hon sy'n cefnogi'r hyn yr wyf i wedi bod yn ceisio'i gyflawni gyda'r ymgyrch yr wyf i wedi bod yn ei harwain dros y 10 mlynedd diwethaf; gwnaethon nhw ddangos hynny drwy gefnogi fy nghynigion deddfwriaethol ychydig amser, rai blynyddoedd, yn ôl, ond maen nhw hefyd wedi dangos eu hymrwymiad i rymuso'r cyhoedd yn fwy yn y maes hwn drwy gefnogi cynigion mwy diweddar Alun Davies. Beth bynnag yr ydym ni'n ei wneud heddiw, rwy'n gobeithio na fydd Aelodau yn y chweched Senedd yn anghofio'r hyn y mae ef wedi'i wneud yma hefyd a'r hyn y mae'n gofyn amdano.
Felly, ar sail yr hyn yr ydych chi wedi'i addo heddiw, Gweinidog, nid wyf i'n mynd i roi unrhyw Aelodau yn y sefyllfa anodd lle mae angen iddyn nhw bleidleisio yn erbyn rhywbeth y maen nhw wedi'i gefnogi a hynny yw rhoi'r sgiliau hyn i'n plant. Gwnaethoch chi addo rhagdybiaeth statudol o blaid sgiliau achub bywyd, rhagdybiaeth y bydd yn cymryd rhywfaint o waith dychmygus iawn i'w oresgyn. Felly, Gweinidog, rwy'n credu eich bod chi wedi gwneud hynny; ni all ysgolion anwybyddu hyn, felly 'diolch' enfawr gennyf fi. Ar ôl 10 mlynedd o hyn, dyma'r anrheg adael orau y gallwn i fod wedi dymuno ei chael, rwy'n credu. Alun, os ydych chi yn ôl ym mis Mai, rwy'n gobeithio byddwch chi'n parhau i gefnogi'r ddeddfwriaeth arall honno yr ydych chi'n briodol, yn gofyn amdani. Diolch.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylai gwelliant 1 gael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydych chi'n gwrthwynebu; iawn, felly byddwn ni'n mynd i bleidlais. Na—. Mae'n ddrwg gennyf i, Suzy.
Dirprwy Lywydd, mae'n ddrwg gennyf i am hyn, ond a gaf i ofyn a fyddai'r Senedd yn barod i beidio â phleidleisio ar y—?
Ydych chi eisiau tynnu'n ôl?
Ydw os gwelwch chi'n dda. Rwy'n gwybod fy mod i wedi'i gynnig, ond hoffwn i ei dynnu'n ôl. Diolch.
Iawn. Felly, dyna ni. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu tynnu gwelliant 1 yn ôl? Na, felly, mae gwelliant 1 wedi'i dynnu'n ôl.