– Senedd Cymru am 2:46 pm ar 2 Mawrth 2021.
Rydym am symud ymlaen nawr at ddatganiad ar frechu COVID, ac rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Roedd yr wythnos ddiwethaf yn wythnos o gynnydd gwirioneddol ac uchafbwyntiau yn ein rhaglen frechu lwyddiannus ni yma yng Nghymru. Mae'r Aelodau yn ymwybodol o'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais i ddydd Sadwrn ein bod ni wedi cyrraedd nod o weinyddu cyfanswm o 1 miliwn o ddosau, ac mae honno'n gamp anhygoel. Rydym ni wedi cyrraedd y garreg filltir hon mewn dim ond 12 wythnos. Rwy'n falch tu hwnt o'r tîm sydd wedi cyflawni'r gwaith nodedig hwn. Mae data a gyhoeddwyd yn gynharach y prynhawn yma yn dangos bod o leiaf 933,485 o bobl wedi cael eu dos cyntaf nhw o'r brechlyn erbyn hyn a bod 111,716 wedi gorffen eu cwrs nhw drwy gael eu hail ddos. Mae hwnnw'n gyfanswm o 1,045,201 o frechlynnau a weinyddwyd gan ein timau brechu gwych ni ledled y wlad. Fel y gwelwch chi, rydym ni'n nesáu at weinyddu 1 miliwn o ddognau cyntaf o'r brechlyn i bobl yng Nghymru.
Ddydd Gwener, fe gyhoeddwyd diweddariad i'n cynllun cenedlaethol ni. Er mai dim ond dau fis sydd wedi bod ers inni gyhoeddi'r cynllun ei hun, mae yna lawer wedi digwydd gyda'n rhaglen ni. Rwy'n awyddus i fwrw golwg yn ôl ar y cynnydd a rhoi mwy o wybodaeth am ein blaenoriaethau ni ar hyn o bryd ac i'r dyfodol. Yn y diweddariadau, fe wnes i gadarnhau y bydd dau ddyddiad ar gyfer targedau allweddol yn digwydd yn gynt erbyn hyn. Y cyntaf yw'r dyddiad targed ar gyfer cynnig y brechlyn i bawb yn y grwpiau blaenoriaeth presennol—sef grwpiau 5 i 9. Rwyf wedi dweud mai ein nod ni nawr yw gwneud hyn erbyn canol mis Ebrill. Mae hynny'n bosibl nawr oherwydd fe fydd rhywfaint o'r cyflenwad a ddyrannwyd yn ein cyrraedd yn gynt na'r disgwyl. Rwyf wedi cadarnhau hefyd ein bod ni'n bwriadu cynnig y brechlyn i bob oedolyn sy'n gymwys erbyn diwedd mis Gorffennaf yn hytrach na'n dyddiad gwreiddiol yn nhymor yr hydref. Fel y dywedais i o'r dechrau, y cyflenwad yw'r ffactor sy'n ein cyfyngu. Mae gennyf i hyder yng nghyflymder a chapasiti ein model cyflawni ni, ac yn y tîm ardderchog o bobl sy'n gwneud y gwaith. Serch hynny, mae cwblhau'r gwaith erbyn y dyddiadau hyn yn parhau i fod yn amodol ar gyflenwad brechlynnau a phryd y bydd y cyflenwad hwnnw'n cyrraedd.
Yn y diweddariad, rwyf wedi cadarnhau ein dull ni o weithredu ar gyfer cam 2 ein rhaglen hefyd. Fel gyda'r cam presennol, fe fydd yn seiliedig ar gyngor annibynnol ac arbenigol y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Mae ein dull gweithredu ni yng Nghymru yn debyg i bob un o wledydd eraill y DU ac mae cymeradwyaeth iddo gan y pedwar prif swyddog meddygol ym mhob gwlad yn y DU. Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi argymell parhau i gyflwyno'r brechlynnau ar sail oedran. Y rheswm am hynny yw mai oedran sy'n parhau i fod yn ffactor risg mwyaf arwyddocaol ac oherwydd mai model sy'n seiliedig ar oedran sy'n galluogi'r cyflymder mwyaf wrth weinyddu'r brechiadau sy'n weddill. Wrth argymell dull sy'n seiliedig ar oedran, fe nododd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu bwysigrwydd rhai ffactorau eraill, sef, yn benodol, rhyw, ethnigrwydd a statws economaidd-gymdeithasol. Fe fyddwn ni'n rhoi ystyriaeth i'r angen am wybodaeth glir a dibynadwy, sydd wedi'i thargedu, am y ffactorau hyn yn ein trefniadau ni ar gyfer cyfathrebu a gweinyddu yng ngham 2.
Wrth gwrs, mae'r Aelodau yn ymwybodol y bu llawer o ddiddordeb mewn blaenoriaethu ar sail galwedigaeth. Unwaith eto, fe roddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ystyriaeth i hyn. Eto i gyd, nid oedd digon o dystiolaeth gan y pwyllgor annibynnol ac arbenigol i'w argyhoeddi i gynghori pedair Llywodraeth y DU i flaenoriaethu galwedigaethau arbennig yn wahanol i'r boblogaeth yn gyffredinol. Fe gyfeiriodd hefyd at gymhlethdod gweithredu dull o'r fath a fyddai, yn anochel, yn arafu cyflymder y cyflwyniad.
Fe wyddom fod dros hanner y gweithwyr allweddol dros eu 40 oed. Felly, fe fydd dros hanner ein gweithwyr allweddol naill ai'n cael cynnig brechiad yn rhan o gam presennol y rhaglen, neu fe fyddan nhw'n cael eu galw i'w brechu yn rhan o'r grŵp blaenoriaeth cyntaf a argymhellwyd gan y cyd-bwyllgor ar gyfer cam 2—y rhai hynny sydd rhwng 40 a 49 oed. Rwy'n cydnabod y bydd rhywfaint o siom ynglŷn â hyn—y rhai sy'n gweithio ym maes addysg, gofal plant a gwasanaeth yr heddlu, ac yn y sector trafnidiaeth, er enghraifft. Rwyf hefyd wedi clywed rhai yn dadlau achos gweithwyr manwerthu a gweithwyr post, y mae pob un ohonyn nhw wedi bod wrth eu gwaith yn anterth y pandemig. Ond, yn syml, mae'r cyd-bwyllgor yn ein cynghori ni mai dull sy'n seiliedig ar oedran yw'r un symlaf, y cyflymaf i'w roi ar waith a'i gyflawni, a hwn yw'r dull tecaf o ymdrin â'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd.
Roedd y diweddariad i'n strategaeth ni'n esbonio rhywfaint o'r dystiolaeth a ddaeth i'r amlwg ynglŷn ag effeithiolrwydd y brechlynnau hefyd. Mae'r ymchwil yn galonogol iawn ac mae hyn yn rhoi mwy o reswm inni obeithio ac ymlawenhau. Ond mae llawer mwy i'w wneud gyda'n rhaglen ni eto, gyda llawer mwy o ddosau cyntaf ac ail ddosau i'w gweinyddu. Rydym ni ar y trywydd cywir i raddau helaeth iawn, ond mae yna lawer o waith i'w wneud eto. Serch hynny, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau o bob ochr yn cydnabod cyflawniad campus ein rhaglen frechu ni yma yng Nghymru hyd yn hyn. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
[Anghlywadwy.]
Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn i'n gweld eich bod chi'n siarad, Dirprwy Lywydd, ond nid oeddwn i'n clywed pwy oedd wedi ei alw'n gyntaf i ofyn cwestiynau. Oni bai nad oes yna unrhyw gwestiynau, wrth gwrs.
Weithiau, rwy'n ei chael hi'n anodd diffodd fy mudydd fy hunan, hyd yn oed. Rwy'n credu bod problem gyda'r sain gan Ann Jones ar hyn o bryd. Nid wyf wedi gadael yr ystafell, felly rwyf am gadeirio unwaith eto. Angela Burns.
Diolch yn fawr iawn wir, Llywydd. Diolch i chi, Gweinidog, am yr wybodaeth ddiweddaraf. Roedd gennych chi newyddion calonogol tu hwnt. Rwyf i o'r farn mai camp enfawr yw gweinyddu miliwn o ddosau ac rwy'n diolch o galon i chi ac yn cydnabod yn llwyr y byrddau iechyd, y gwirfoddolwyr, a phawb sydd wedi bod â rhan yn y rhaglen hon. Rwy'n canmol Llywodraeth y DU i'r cymylau hefyd am eu strategaeth caffael brechlynnau. Roedd cael Kate Bingham i fod â rhan yn ergyd athrylithgar, ac rwy'n credu inni fod yn chwimwth ledled y pedair gwlad, ac mae pobl y DU yn elwa ar hynny. Fe hoffwn i ddweud, o waelod calon, llongyfarchiadau.
Rwy'n cytuno â chi fod yn rhaid i strategaeth frechu lwyddiannus fod yn seiliedig ar wyddoniaeth ac ar symledd. Rwy'n credu bod yn rhaid bod yn ofalus iawn ynghylch gwneud unrhyw beth a fyddai'n arafu cyflwyniad y rhaglen. Fe fyddai gallu brechu pob oedolyn yng Nghymru erbyn diwedd mis Gorffennaf yn gyflawniad enfawr, ac fe fyddwn i'n eich annog i gadw at yr uchelgais hwnnw.
Wedi dweud hynny, mae gennyf bedwar cwestiwn. 5.9 y cant yw'r gyfradd o ran profion cadarnhaol yng Nghymru erbyn hyn, sef meincnod allweddol ar gyfer cyfyngiadau lefel 3. Yn ogystal â hynny, mae nifer yr achosion fesul 100,000 yn aros ar feincnod cyfyngiadau lefel 2—newyddion rhagorol, ond a yw'r ffigurau hyn fel y maen nhw nawr yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ddechrau codi'r cyfyngiadau lefel 4 cyffredinol? Nawr, nid wyf i'n argymell eich bod chi'n taflu'r enillion a gawsoch chi i'r gwynt ac yn mynd ar ruthr, ond rwyf i o'r farn y gallwn ni ddechrau codi rhai o'r cyfyngiadau hyn a fyddai'n helpu i liniaru'r gost anhygoel i unigolion o ran iechyd meddwl a chorff, i fusnesau ac i'r bobl sy'n perchnogi'r busnesau hynny ac yn rhedeg y busnesau hynny, sydd yn aml iawn yn gwmnïau llai ac yn unigolion preifat yng Nghymru sy'n gweithio'n eithriadol o galed i helpu i gefnogi ein heconomi ni. Felly, fe fyddai'n dda iawn gennyf i gael clywed a ydych chi'n teimlo y bydd y llwyddiant hwn o ran cyflwyniad y brechlyn yn eich galluogi chi i godi'r cyfyngiadau hyn yn gynt na'r disgwyl i helpu i liniaru'r costau personol ac ariannol hyn.
Fy ail gwestiwn i yw: wrth i Lywodraeth Cymru ddechrau ar gam 2 y rhaglen frechu, mae'n amlwg bod angen ichi sicrhau bod yr ail ddos yn cael ei weinyddu mewn da bryd. Felly a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd, os gwelwch chi'n dda, ynglŷn â'r cynnydd a fu o ran datblygu partneriaethau gyda sefydliadau fel Fferylliaeth Gymunedol Cymru, oherwydd fe fyddwn ni'n dibynnu ar y sefydliadau hynny i helpu gyda'r rhaglen enfawr hon?
Yn drydydd, fe wyddom ni fod y nifer sy'n manteisio ar y brechlyn yn isel iawn mewn rhai carfannau. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â datblygiadau yn hyn o beth, a sut gynnydd a fu gyda'r strategaeth gyfathrebu? A ydych yn cael adborth cadarnhaol ei bod yn gweithio wrth berswadio'r rhai sy'n amharod i gael y brechlyn i wneud hynny?
A chwestiwn bach iawn yw'r pedwerydd sydd gennyf. Ond mae yna ychydig iawn o bobl wedi gofyn imi, pobl sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd, a bron pob un ohonyn nhw am eu bod naill ai'n darparu gofal preifat neu'n darparu gofal unigol y telir amdano i bobl oedrannus, ac mewn un achos, i unigolyn ifanc anabl, ond maen nhw'n preswylio yn Lloegr a'u meddygon teulu personol nhw yn ymarfer yn Lloegr. A ydyn nhw'n dal i allu cael eu brechu yma, oherwydd nid yw'n ymddangos yn briodol iawn anfon rhywun sy'n gofalu am unigolyn sy'n agored i niwed i gael eu brechlyn, ar y trên efallai, gyda phosibiliadau lluosog o fod yn fwy agored i COVID, ac yna ddod yn ôl a'i gario yn ôl gyda nhw?
Felly, dim ond ychydig o gymhennu oedd hynny. Ond rwyf i o'r farn mai newyddion da iawn sydd yma. Diolch.
Diolch, a diolch i chi am eich geiriau o ddiolch a gwerthfawrogiad. Rwy'n gwybod y byddai'r tîm ledled Cymru yn gwerthfawrogi cefnogaeth gan bob plaid wleidyddol am y gwaith sy'n cael ei wneud ym mhob rhan o Gymru. Ac, mewn gwirionedd, ar draws y pedair gwlad, fe geir cyflymder da yn y rhaglenni brechu. Yn sicr, wrth gymharu gydag eraill yn rhyngwladol, rydym ni'n gwneud yn dda iawn ym mhob gwlad yn y DU, ac yng Nghymru yn arbennig rydym ni'n sicrhau ein bod ni'n gweinyddu ail ddosau i bobl. Fe fyddwch yn cofio bod rhai rhan ni, yn benodol y brechlyn Pfizer, i sicrhau ein bod ni'n gweinyddu ail ddos. Felly, dyna un o nodweddion allweddol ein hymateb ni.
Ac roeddech hi'n sôn yn benodol am bartneriaethau â fferyllfeydd cymunedol ac am yr her o ran gweinyddu ail ddos. Mewn gwirionedd, fe fydd angen inni gael fferyllfeydd cymunedol yn ymuno â ni nid yn gymaint ar gyfer ymdrin ag ail ddosau ond oherwydd ein bod ni'n disgwyl gweld mwy o gyflenwad yn dod i mewn. Mae hynny'n golygu y bydd angen i'n model presennol ni sydd dan arweiniad practisau cyffredinol, ynghyd â chanolfannau brechu torfol, fod yn gweld fferyllwyr a rhai eraill sy'n gallu chwistrellu nid yn unig yn bresennol mewn canolfannau brechu torfol, ond mae'n debygol y bydd angen mwy o fferyllfeydd arnom hefyd i rannu'r baich. Felly, fe fydd pob bwrdd iechyd dros y mis nesaf yn cynnwys mwy o fferyllfeydd cymunedol yn y gwaith i helpu i gyflawni'r rhaglen wrth i'r niferoedd gynyddu eto fel y byddwn ni'n gweld y cyflymder y byddem ni i gyd yn ei ddymuno.
Nawr, o ran eich cwestiwn chi am bobl sy'n byw yng Nghymru nad ydyn nhw wedi cofrestru yma fel rheol neu nad ydyn nhw wedi cofrestru gyda meddyg teulu yma. Rydym wedi bod yn eglur iawn y byddwn ni'n brechu unrhyw un sydd yng Nghymru, fel y gellir brechu myfyrwyr ymysg eraill. O ran eich enghraifft chi o bobl sy'n darparu gofal, mae'r enghraifft hon wedi dod ger ein bron o'r blaen, a'r man cychwyn yw y dylai pobl geisio cofrestru eu hunain yn breswylwyr dros dro gyda meddyg teulu lleol, oherwydd rhan o'r her i'r gwasanaeth iechyd yw, os nad ydym ni'n gwybod bod rhywun yma, yna ni allwn ni eu brechu nhw. Pan fyddwn ni'n gwybod eu bod nhw yma, yna fe fyddwn ni'n rhoi brechlyn iddyn nhw. Ni fydd yna unrhyw ymgais i geisio gwrthod pobl, ac mae'r enghraifft unigol honno gennych chi wedi cael ei rhoi i minnau hefyd cyn hyn. Nifer gymharol fach o bobl sydd dan sylw, ond mae'n bwysig eu bod nhw'n cael eu hamddiffyn, ac fe fyddai hynny'n gwneud gwahaniaeth i'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw hefyd.
O ran y cyfathrebu ar gyfer grwpiau sy'n llai brwdfrydig, nid ydym mewn sefyllfa i farnu pa mor llwyddiannus y bu hynny eto. Roeddwn i'n bresennol mewn cyfarfod a gynhaliwyd gan Aelodau etholaeth Casnewydd, Jayne Bryant a John Griffiths, gyda'r bwrdd iechyd ac eraill yr wythnos diwethaf. Roedd cynrychiolaeth dda o arweinwyr ffydd lleol ac aelodau o gymunedau lleol yn bresennol hefyd, a'n her ni yw, gyda phob cam ymlaen, ein bod ni'n ennyn diddordeb mwy o bobl. Ac, mewn gwirionedd, yr adborth gan y bobl sy'n cyflwyno'r rhaglen yw bod yna gyfradd uchel iawn o lwyddiant o ran pobl sy'n dewis manteisio ar y brechlyn wedyn bob tro y gwnaethon nhw'n ymgysylltu â phobl sy'n anfoddog. Rwy'n wirioneddol gredu bod y gwaith a wneir gan nifer o'n meddygon a gweithwyr gofal iechyd eraill, drwy fynd yn ôl i'r cymunedau y maent yn perthyn iddynt fel bod yno wyneb proffesiynol sy'n ennyn ymddiriedaeth, yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol—mae Muslim Doctors Cymru yn enghraifft dda iawn. Mae enghreifftiau eraill hefyd. Ac mae'r gwaith hwn yn gwneud gwahaniaeth. Mae'n bwysig cydnabod hefyd fod lle mwy blaenllaw i ffydd yn rhai o'n cymunedau ni nag eraill. Felly, mae gweld clerigwyr lleol, Mwslimaidd neu Gristnogol, sy'n flaenllaw mewn llawer o gymunedau Affricanaidd ac Affro-Caribïaidd, yn dangos awydd a brwdfrydedd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran cael pobl i fynd am y brechlyn, yn union fel y gallai'r clerigwyr hynny sy'n mynegi petruster neu bryder helpu i symud pethau i'r cyfeiriad arall. Felly, nid wyf i o'r farn y gallwn ni farnu'r llwyddiant neu fel arall eto, ond mae hwn yn rhywbeth yr wyf i'n awyddus iawn i gadw llygad barcud arno, oherwydd rydym ni'n sôn yn bennaf am grwpiau sydd â chyfradd uwch o farwolaethau a niwed oherwydd COVID.
O ran eich cwestiynau ehangach am gynllun i reoli COVID, a'n trywydd ni gyda'n hadolygiadau bob tair wythnos, mae'n golygu cydbwyso bob amser, a phan wnaethom ni nodi cynllun i reoli COVID yn wreiddiol, roeddem yn ymdrin â'r sefyllfa cyn amrywiolyn Caint. Felly, rydym yn gwybod nawr fod gennym y ffurf gryfaf o'r amrywiolyn ledled Cymru sy'n llawer mwy heintus, ac mae hynny'n dylanwadu ar y ffigwr R sydd ar gyfradd o rhwng 10 y cant a 50 neu 60 y cant. Felly, mae'n rhaid inni ystyried y cyfraddau sydd gennym ni ar hyn o bryd a pha mor bosibl yw hi y gallen nhw gynyddu eto. Dyna hanfod y dystiolaeth wyddonol a'r cyngor iechyd cyhoeddus a gawsom ni ynglŷn ag agor yr ysgolion fesul cam. Y dystiolaeth a'r cyngor sy'n pennu ein blaenoriaethau ni bob amser. Ond rydym wedi cael rywfaint o gyngor sy'n dweud wrthym fod yna elfen o hyblygrwydd ychwanegol ar gael, ac fe fydd angen inni ystyried sut i ddefnyddio hwnnw mewn ffordd ofalus iawn i ganiatáu meysydd eraill o weithgarwch, gan ein bod ni wedi ymrwymo i ailddechrau dysgu wyneb yn wyneb mewn ysgolion a cholegau fesul cam. Ond rydym ni'n dymuno gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n peryglu ein gallu ni i weld pob dysgwr yn dychwelyd i ysgolion neu golegau yn syth ar ôl gwyliau'r Pasg, fel y clywsoch chi'r Gweinidog Addysg yn mynegi mai dyna fyddai ei dewis hi, a dewis y Llywodraeth. Felly, fe fyddwn ni'n parhau i nodi'r wybodaeth honno mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr, ac fe ddaw hynny gennyf fi, y Prif Weinidog a Gweinidogion eraill, ac fe allwch chi ddisgwyl diweddariad priodol ar ddiwedd yr adolygiad tair wythnos nesaf, i roi mwy o sicrwydd i chi a gweddill y wlad ynglŷn â'r camau nesaf o ran y cyfyngiadau symud.
Diolch. Fe roddwn ni gynnig arall arni nawr, felly. Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn a chroeso nôl, Dirprwy Lywydd. Os caf i ofyn am eglurder ar ddau faes yn benodol, y cyntaf o'r rheini ydy brechu ar gyfer gofalwyr di-dâl. Mi gawsom ni rywfaint o eglurhad gan y Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma—roeddwn i'n falch o gael hynny—ynglŷn â'r broses o bennu pa ofalwyr fydd yn gymwys am frechiad yn y grŵp blaenoriaeth 6. Mae'n amlwg y bydd y gofalwyr hynny yn gorfod gwneud cais eu hunain drwy ffurflen ar-lein rŵan i gael eu hystyried ar gyfer hynny. Dwi'n nodi bod yr onus yn fan hyn ar y gofalwyr eu hunain i wneud cais, lle mae grwpiau blaenoriaeth eraill yn cael y brechiad yn awtomatig, ac mae hynny yn anffodus, dwi'n meddwl. Dwi'n meddwl bod ein profiad ni yn rhyngwladol yn awgrymu y mwyaf mae pobl yn gorfod optio mewn, y lleiaf ydy'r gyfradd sydd yn cael y brechiad. Ond tybed a gawn ni ychydig yn rhagor o fanylion ynglŷn â sut mae'r broses yna'n gweithio, a pha mor gyflym ydych chi'n meddwl byddwch chi'n gallu delio efo apeliadau pan fo pobl yn cael eu gwrthod ar gyfer bod ar y rhestr blaenoriaeth?
Yr ail fater—. Dwi wedi colli'r ddadl yma, mae'n ymddangos. Fy nadl i ydy y dylai pobl mewn swyddi sy'n wynebu'r cyhoedd gael eu blaenoriaethu ochr yn ochr â phobl wrth i'r broses frechu fynd drwy bobl fesul oed. Dwi'n gwybod yr hynaf ydych chi y mwyaf tebyg ydych chi o fynd yn sâl iawn, ond mae yna eglurder yn fan hyn bod y JCVI wedi ystyried sawl ffactor. Oed ydy'r un mwyaf pwysig, medden nhw. Mae'n edrych ar gender, ethnicity, socioeconomic status, meddai'r datganiad. Ond mae cwestiwn arall yma i fi: lle mae'r sylw i exposure? Lle mae'r sylw i ba mor debyg ydy hi bod rhywun yn ei gael o? Dwi'n gwybod bod y rhan fwyaf o bobl sydd yn debyg o fynd yn sâl iawn neu waeth wedi cael eu brechu'n barod, ond ai dweud ydych chi, felly, does dim ots os ydy pobl ifanc yn cael COVID? Dwi'n meddwl bod ots, ac y dylen ni drio atal pobl ifanc hyd yn oed, mewn swyddi sydd yn wynebu'r cyhoedd, rhag cael COVID. Allech chi egluro a ydy long COVID ac effaith hwnnw wedi cael ei ystyried fel rhan o'r hafaliad yn fan hyn? Hefyd, wrth gwrs, mae yna ymchwil, sydd yn galonogol iawn, yn awgrymu bod y brechiad yn ei gwneud hi'n llai tebygol eich bod chi'n pasio'r feirws ymlaen i bobl. Wel, os felly, mae'n gwneud synnwyr eto i bobl sydd mewn swyddi sy'n wynebu pobl i fod wedi cael y brechiad yn gynharach, hyd yn oed os ydyn nhw ychydig bach yn ifengach. Diolch yn fawr.
Ie, diolch am y cwestiynau yna. Rwyf eisiau ymdrin â gofalwyr di-dâl yn gyntaf. Fe gyhoeddwyd canllawiau gennym ni'r wythnos diwethaf ar ofalwyr di-dâl ac rwy'n credu bod hynny wedi rhoi llawer iawn o eglurder, ynghŷd a'r ffurflen ar-lein. Rydym ni wedi gweithio gyda grwpiau'r gofalwyr cenedlaethol i gytuno arnynt, ac fe ddylai hynny ddarparu dealltwriaeth ehangach o bwy sy'n ofalwyr di-dâl nag y gwnaeth rhai o'r canllawiau a roddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar y dechrau, ac fe gafodd y rheini eglurhad ychwanegol wedyn, wrth gwrs. Nid dim ond sôn am bobl sy'n cael budd-daliadau sy'n gysylltiedig â bod yn ofalwyr yr ydym ni yma, oherwydd, wrth gwrs, nid yw gofalwyr di-dâl o reidrwydd yn cael y budd-daliadau hynny. Fe wyddom nad yw llawer o ofalwyr di-dâl yn dymuno bod yn hysbys, er gwaethaf y ffaith ein bod ni, yn y ddeddfwriaeth a basiwyd gennym, wedi rhoi argymhelliad penodol ar hawliau gofalwyr a'u hawl nhw i gael eu hasesiad eu hunain. Felly, mae'r wybodaeth sydd gan lywodraeth leol am y rhai sy'n cael eu hasesu fel gofalwyr yn fan cychwyn da i ni, ond, mewn gwirionedd, ni fyddai'r wybodaeth hon ynddi ei hun wedi bod yn ddigonol. Fe allem ni fod wedi wynebu sefyllfa o ymdrin â'r bobl a oedd eisoes ar y rhestr ac eithrio pawb arall, ac fe wyddom y byddai hynny wedi achosi anghyfiawnder sylweddol i ystod eang o bobl. Felly, rydym wedi datblygu trefn y gall pobl fynd trwyddi ar gyfer cael eu rhoi ar y rhestr. Pan fyddan nhw'n wedi llenwi'r ffurflen ar-lein, a fydd ar gael ledled Cymru erbyn dydd Llun fan bellaf, fe fydd hynny'n golygu y bydd eu henwau nhw'n mynd ymlaen wedyn i system imiwneiddio Cymru ac yna fe fyddant yn cael eu hapwyntiadau.
Mae gennym yr her hon—. Rwy'n deall y pwynt a awgrymwyd nad yw gofyn i bobl optio i mewn yn union yr un fath â chymryd gwybodaeth oddi ar restr. Wel, mewn gwirionedd, rhan o'n her ni yw nad yw'r GIG yn gwybod pwy yw pob un o'r gofalwyr di-dâl. Mae'r GIG yn gwybod pa mor hen ydych chi, ond, ar y cyfan, nid yw'n gwybod yn union beth ydych chi'n ei wneud i ennill eich cyflog neu, yn wir, o ran eich gweithgareddau gofalu di-dâl. Dyna pam mae angen inni fod â phroses optio i mewn. Ac ydym, wrth gwrs, rydym ni'n dibynnu ar bobl yn trin y broses fel dylen nhw, gyda gonestrwydd. Mae'r ffurflen yn gofyn ichi fynd trwy gyfres o gwestiynau am eich gwaith a'ch cyfrifoldebau chi wrth ofalu. Mae'n bosibl y gallai rhai pobl geisio llywio eu ffordd trwy hynny i ennill blaenoriaeth. Byddai hynny'n golygu bod yn rhaid iddynt fod yn gyson anonest. Os yw pobl yn dewis bod yn anonest, rwyf i o'r farn na ddylem gymryd agwedd mwy anghynhwysol a fyddai fel arall yn eithrio llawer o ofalwyr di-dâl rhag cael eu cynnwys ym mlaenoriaeth 6 i gael eu brechlynnau nhw. Fel y dywedais i, rydym wedi gweithio trwy hyn gyda sefydliadau'r gofalwyr.
O ran eich pwynt chi am y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a'r cyngor, rydym ni'n gwneud yr hyn y mae'r cyhoedd yn disgwyl inni ei wneud, yn fras, sef dilyn yr wyddoniaeth a'r dystiolaeth. Rydym ni wedi cael y cyngor arbenigol annibynnol hwn; rydym wedi ei ddilyn o'r blaen ar bob un o'n rhaglenni eraill ni ar gyfer imiwneiddio a brechu, ac fe fyddai'n beth rhyfedd iawn inni ddweud ein bod ni wedi clywed yr wyddoniaeth a'r dystiolaeth, a'n bod ni wedi cael cyngor clir ynglŷn ag iechyd y cyhoedd, ond ein bod ni wedi penderfynu peidio â'u dilyn nhw. Oherwydd y gwir amdani yw, pe byddem ni'n dewis blaenoriaethu gwahanol grwpiau o weithwyr, fe fyddai'n rhaid inni ddiystyru pobl eraill wedyn. Felly, nid oes ots pa grŵp o weithwyr yr ydych chi'n eu rhoi ar frig y rhestr ar gyfer y cam nesaf, fe fydd yn rhaid ichi ddweud wrth bobl eraill, 'Fe ddaw eich tro chi eto.' Ac mae'r cyngor a gawsom ni yn seiliedig yn glir iawn ar sut i gael yr effaith fwyaf posibl ar atal salwch difrifol a marwolaethau posibl oherwydd COVID.
Nid yw hyn yn golygu dweud nad yw pobl ifanc yn bwysig, ond mae'n ymwneud â chydnabod maint y ffactorau risg, sy'n cael eu nodi'nn eglur iawn yn y dystiolaeth wyddonol a'r cyngor a gawsom ni gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Ac rwy'n tybio bod hynny'n dibynnu ar eich dymuniad chi i ddilyn y dystiolaeth a'r cyngor hwnnw neu a ydych chi'n dymuno mynd ar drywydd dull arall. Rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i ddilyn y dystiolaeth a'r cyngor, a'r rheswm yw, fel y dywedais i yn fy natganiad, fod y Cyd-bwyllgor wedi ystyried peryglon galwedigaethau amrywiol. Fe ystyriwyd hynny ac roedden nhw'n parhau i fynegi'r hyn sydd, yn fy marn i, yn gyngor clir iawn y dylem ni, wrth roi'r brechlynnau, gymryd dull sy'n seiliedig ar oedran, a'r ffordd gyflymaf o amddiffyn pobl trwy gwblhau rhaglen frechu'r boblogaeth o oedolion. Y perygl yw, rwy'n ofni, pe byddem yn dewis rhai grwpiau unigol, er gwaethaf y cyngor hwnnw, y byddem ni nid yn unig yn taflu'r wyddoniaeth i ffwrdd, ond fe fyddem ni'n gwneud penderfyniadau ar sail ein gwerthoedd ni o ran pa grwpiau o weithwyr hanfodol sy'n bwysicach nag eraill. Ac a ddylem ni ddweud nad yw swyddogion post, gweithwyr post, mor bwysig, neu nad yw gweithwyr manwerthu mor bwysig, pan nad oes unrhyw dystiolaeth yn bodoli, mewn gwirionedd, sy'n dweud na ddylid blaenoriaethu'r bobl hynny? A ddylem ni gynnwys gweithwyr allweddol eraill ond gwrthod gweithwyr trafnidiaeth sy'n wynebu'r cyhoedd, sydd wedi gweld cyfraddau uchel o farwolaethau oherwydd COVID? Felly, nid yw'n fater mor syml ag y mae rhan o'r ymgyrchu presennol yn ei awgrymu.
Rwy'n deall pam mae pobl yn ymgyrchu i bobl fel nhw gael blaenoriaeth yn y rhaglen frechu. Ond meddyliwch chi am y peth fel hyn: os ydych chi'n athro 25 oed, ac nad ydych chi yn un o'r grwpiau sydd â chyflwr iechyd sylfaenol a fyddai'n eich rhoi chi yn grwpiau 4 neu 6, yna mae eich risgiau chi'n sylweddol is nag athro 45 oed neu athro 55 oed. Mae athro 55 oed, ac mae yna lawer ohonyn nhw, wedi cael ei gynnwys eisoes yn grwpiau 5 i 9. Fe ddaw athro 45 oed yn gyntaf yn y garfan nesaf, pan fyddwn ni wedi cwblhau grwpiau 5 i 9. Nid yw hynny'n golygu nad yw athro 25 oed yn bwysig, ond mae ei risgiau ef yn llai, a dyna'r pwynt. O ran rhaglen i'r holl boblogaeth fel hon, mae angen inni weithredu ar sail sy'n ystyried y risgiau hyn ar draws y boblogaeth gyfan ar gyfer lleihau'r niwed a allai fod, ar gyfer sicrhau'r effaith gadarnhaol fwyaf posibl a gaiff ei darparu gan y brechlynnau. Dyna'r dystiolaeth a roddir inni gan gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a dyna'r penderfyniad yr wyf i wedi ei wneud i helpu i gadw Cymru'n ddiogel.
Rwy'n credu y bydd pobl ar draws Blaenau Gwent ac mewn mannau eraill yn ymuno â chi i ddiolch i'r gwasanaeth iechyd gwladol ac am waith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhaglen frechu yn mynd rhagddi mor gyflym, mor effeithlon ac mor effeithiol â hyn, o ran dosau cyntaf ac ail ddosau; dyna yw ein profiad ni yma ym Mlaenau Gwent, mae hynny'n sicr.
Mae gennyf i ddau gwestiwn ichi, Gweinidog, yn gyntaf oll am ofalwyr di-dâl ac, yn ail, am y bobl hynny sy'n gaeth i'r tŷ. Mewn sawl ffordd, rydych chi wedi ateb y cwestiwn cyntaf yn barod, felly gadewch imi fynd i'r afael â mater cleifion sy'n gaeth i'r tŷ. Mae effaith y rhaglen frechu yn cael ei theimlo ym mhob un o'n cymunedau ni, ac rwy'n gweld ac yn siarad gyda phobl yma ym Mlaenau Gwent sydd wedi cael eu dos cyntaf, sy'n aros am, ac yn cael eu hail ddos, ac mae hynny'n cael effaith wirioneddol. Ond mae yna grŵp o bobl sy'n gaeth i'r tŷ, nad ydyn nhw'n gallu cyrraedd y feddygfa na chanolfan brechu torfol. Rwy'n clywed pryderon cynyddol gan deuluoedd, yn bennaf, am bobl sy'n aros, sydd mewn rhai achosion yn oedrannus iawn ac yn fregus iawn, nad ydyn nhw wedi cael cyfle i gael eu dos nhw eto am nad ydyn nhw'n gallu cyrraedd y feddygfa na'r ganolfan frechu. A wnewch chi sicrhau, Gweinidog, yn eich trafodaethau chi gydag arweinyddion y rhaglen frechu, ein bod ni'n gallu cyrraedd pawb yn ddiwahân, fel nad yw pobl sy'n gaeth i'r tŷ, sydd yn eu hanfod yn rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau ni, yn cael eu gadael ar ôl oherwydd esgeulustod?
Ydw, rwy'n hapus i roi sylw i gwestiwn yr Aelod, nid yn unig heddiw, ond rwy'n addo hefyd y byddaf i'n ymdrin â hyn yn benodol yn ystod fy natganiad yr wythnos nesaf am yr wybodaeth ddiweddaraf am frechu. Oherwydd, er enghraifft, fe es i â'm mam i gael ei brechlyn hi dros y penwythnos. Y gwirionedd yw n fyddai hi wedi gallu mynd i'r ganolfan frechu oni bai amdanaf i, ac roeddwn i'n hapus i wneud hynny; rwy'n fab iddi ac rwy'n credu bod hynny'n cael ei wneud gan lawer o feibion a merched ledled y wlad. Wrth inni adael y ganolfan frechu, fe welais i rywun a oedd, mi dybiaf, yn ferch i rywun a oedd yn cerdded i mewn gyda chymorth ffon â phatrwm croen anifail trawiadol iawn arni, i gael ei brechlyn hithau hefyd. Felly, nid yw'n rhywbeth anarferol yw hyn, ac mae hwnnw'n rheswm cwbl dderbyniol dros deithio a bod yng nghwmni pobl na fydden nhw'n gallu bod yn eu cwmni fel arall.
Er hynny, rwy'n cydnabod, wrth aildrefnu apwyntiad fy mam, fe gymerodd gryn dipyn o amser i fynd trwyddo ac aildrefnu. Ond fel gydag unrhyw un sy'n cael cynnig apwyntiad yn ei feddygfa, neu mewn canolfan frechu torfol neu leol arall ac sy'n methu cyrraedd yno, mae cyfle i aildrefnu'r apwyntiad, ac rwy'n awyddus iawn i bwysleisio hynny. Os na all pobl gadw'r apwyntiadau a gynigiwyd iddyn nhw, ni ddylent ofidio neu feddwl bod eu cyfle wedi diflannu am byth gan nad oedden nhw'n gallu mynd yno. Ein hagwedd ni yw na ddylid gadael neb ar ôl, yn bendant. Felly, os bydd apwyntiad wedi'i fethu, a bod pobl yn awyddus i ffonio i aildrefnu—y nhw neu unrhyw aelod o'r teulu—mae hynny'n bosibl ac fe fyddwn ni'n trefnu cyfle arall iddyn nhw.
Mae gennym dimau o bobl sy'n gweinyddu brechiadau i bobl sy'n gaeth i'w tai. Wythnos nesaf, fe fyddaf i'n sicr o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y timau sy'n gwneud hynny, ond hefyd yn dweud eto wrth bobl sut y gallant fynd ati i drefnu hynny os ydyn nhw'n pryderu am deithio. Mae hwn yn bwynt teg iawn, yn fy marn i, ac rwy'n awyddus i roi sicrwydd i'r bobl sy'n eu cael eu hunain yn y sefyllfa y tynnodd yr Aelod dros Flaenau Gwent ein sylw ni ati.
Gweinidog, un o effeithiau mawr eraill y rhaglen frechu, sydd wedi bod mor llwyddiannus yma yng Nghymru a ledled y DU, fu'r gostyngiad yn nifer y bobl sydd yn ein hysbytai ni oherwydd COVID. Rwyf wedi sylwi, serch hynny, yn ôl y setiau diweddaraf o ddata sydd ar gael, ei bod yn ymddangos bod cyfran y gwelyau mewn ysbytai sy'n cael eu defnyddio gan gleifion COVID-positif yng Nghymru yn parhau i fod yn llawer uwch nag y maen nhw mewn rhannau eraill o'r GIG yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fe fyddai hyn yn awgrymu nifer o bethau, o bosibl. Efallai fod pobl yn aros yn yr ysbyty am gyfnod hwy gan eu bod yn hŷn neu'n fregus, neu ag anghenion mwy cymhleth efallai na'r cleifion mewn mannau eraill yn y DU. Fe allai hyn olygu hefyd, wedi rhoi ystyriaeth i hyn, ac os nad ydych chi'n gwybod yr ateb, a yw'n rhywbeth y gallech chi daflu rhywfaint o oleuni arno yn y dyfodol i'r Aelodau, o ystyried y ffaith nad yw'n ymddangos bod nifer y cleifion yn ein hysbytai ni sydd â COVID yn gostwng ar yr un gyfradd â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
Mae'n anodd imi roi ateb pendant i gwestiwn yr Aelod gan nad wyf i wedi adolygu'r data ar gyfer rhannau eraill y DU. Ac yn wir, fe fyddwch chi'n gweld amrywiad, yn arbennig felly yn Lloegr, oherwydd mae Lloegr yn wlad fawr, ac fe wyddom fod yna amrywiad sylweddol o fewn rhanbarthau Lloegr. De-orllewin Lloegr sydd wedi gweld yr effaith leiaf oherwydd COVID drwy gydol y pandemig; ond fe gafodd rhanbarthau eraill yn Lloegr eu taro'n galetach o lawer. Felly, rwy'n credu bod angen inni edrych, nid yn unig ar ddata cenedlaethol, ond, ar gyfer Lloegr yn benodol, rhanbarthau yn Lloegr, i ddeall sut fyddai'r gymhariaeth. Mae'n debyg y byddai'n well gwneud hynny drwy ofyn i'r ystadegwyr, sydd gan ein Llywodraeth ni yn y gwasanaethau gwybodaeth a dadansoddol, edrych ar bethau, ac rwy'n siŵr y gallan nhw gyhoeddi rhywbeth sy'n cymharu'r darlun mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
Yng Nghymru, mae hyn yn newyddion da ar y cyfan, sef ein bod ni'n gweld gostyngiad yn nifer y rhai sy'n cael eu derbyn mewn ysbytai. Y mwyafrif yw pobl sy'n gwella o COVID, ond sy'n parhau i fod ag angen gofal acíwt, ac rydym ni'n dal i weld 110 y cant o'n capasiti gofal critigol ni'n cael ei ddefnyddio. Mae canran y rhai sy'n cael eu trin ar gyfer COVID wedi bod yn lleihau, sy'n newyddion da iawn, ond mae hyn yn parhau i ddangos bod ein GIG ni dan bwysau sylweddol. Felly, nid ydym wedi cyrraedd y sefyllfa lle gallwn agor llwybr ar gyfer llawer o'r triniaethau arferol unwaith eto, oherwydd nid oes gennym y capasiti i ofalu am yr holl bobl hynny. Mae hwn yn ddarlun sy'n gwella ar y cyfan, sef ychydig dan 1,500 o bobl yn ein hysbytai ni sy'n gleifion COVID. Ond mae hynny, i raddau, yn amlygu arwyddocâd effaith a maint y capasiti sy'n parhau i danseilio'r ffordd y byddai ein GIG ni'n gweithredu fel rheol, hyd yn oed pe byddai'n rhaid inni fynd ymlaen wedyn i ystyried y dulliau ychwanegol o atal a rheoli heintiau. Ond fe roddaf i ystyriaeth ddwys i'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, ac fe welaf i wedi hynny sut y gallwn ni fynegi barn wirioneddol gymharol ynglŷn â'r mater hwn.
Ac yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch. Mae nifer o etholwyr mewn lleoedd fel Llangollen yn gofyn imi, 'Os cafodd y gostyngiad yn y cyflenwad o frechlynnau y cyfeiriodd y Gweinidog ato'r wythnos diwethaf ei deimlo ym mhob bwrdd iechyd, pam mae Lloegr a De Cymru'n gweld niferoedd cyson a chynyddol yn y brechiadau wrth i'n niferoedd ni ostwng yn lleol?'. A sut fyddech chi'n ymateb i'r etholwr a ddywedodd, 'Mae fy ngwraig i'n cael ei chynnwys o fewn grŵp targed 6 a minnau o fewn grŵp targed 7 i gael y brechiad yn erbyn COVID. A fyddech cystal â gofyn i Lywodraeth Cymru pam, hyd yn hyn, mae 49,994 o bobl yn grŵp 8 a 43,648 yn grŵp 9 wedi cael eu brechu o'n blaen ni?'
Mae gofalwyr di-dâl sy'n gymwys i gael lwfans gofalwyr, neu'r rhai sy'n unig ofalwyr neu'n ofalwyr sylfaenol i berson oedrannus neu anabl sydd mewn mwy o berygl o farwolaeth oherwydd COVID-19, ac felly'n glinigol agored i niwed, wedi cael eu hychwanegu at grŵp blaenoriaeth 6, felly sut fyddech chi'n ymateb i'r etholwr sy'n gofyn, 'A wnewch chi sefydlu rhestr ar sail ystyriaethau meddygol ar gyfer y gofalwyr di-dâl a ychwanegir at grŵp 6, oherwydd gan nad yw pob gofalwr yn hawlio'r lwfans, naill ai am eu bod nhw'n gweithio, neu'n astudio neu heb fod yn ymwybodol ohono, fe fydd llawer o bobl yn cael eu gadael ar ôl?'
Iawn. Rwy'n awyddus i fod yn gwbl eglur fod y gostyngiad yn y cyflenwad y tynnwyd sylw ato gyda thryloywder, yr ydym yn disgwyl ei weld yn cael ei ddatrys o ganol yr wythnos hon ymlaen gan gyflenwadau cynyddol, wedi golygu ein bod ni wedi dyrannu'r cyflenwad o frechlynnau sydd ar gael inni ar sail gwbl gymesur i bob rhan o Gymru. Nid yw'n wir o gwbl fod unrhyw ranbarth yng Nghymru wedi cael ei ffafrio'n fwy nag un arall, nid yw'n wir o gwbl fod unrhyw ranbarth yng Nghymru rywsut wedi cael ei drin gyda llai o ffafriaeth. Mae'n fy nigalonni i, braidd, hyd yn oed ar y cam hwn o'r pandemig, fod rhai yn parhau i roi coel i'r syniad fod triniaeth arbennig yn cael ei rhoi i rannau eraill o'r wlad. Nid hynny fu ein dull ni o ymdrin â'r dewisiadau a'r heriau anodd iawn y bu'n rhaid inni eu gwneud a'u hwynebu drwy gydol y pandemig. Ac nid wyf yn credu ei fod o gymorth i unrhyw un ohonom i feio pobl ddrwg mewn gwahanol rannau o'r wlad a ffafrio eu trigolion nhw eu hunain yn hytrach nag anwesu dull cenedlaethol.
O ran her y lwfans i ofalwyr a gofalwyr di-dâl, rwy'n credu fy mod i wedi trafod yn fanwl heddiw sut yr ydym ni'n ymdrin â gofalwyr di-dâl, gyda'r canllawiau a gyhoeddwyd gennym yr wythnos ddiwethaf, gyda'r ffurflen ar-lein a fydd ar gael ledled y wlad erbyn dydd Llun fan bellaf, a'r ffaith bod hwnnw'n ddull haelfrydig, i ddeall pwy yw'r gofalwyr di-dâl. A phan fyddan nhw wedi ymuno â system imiwneiddio Cymru, fe fyddan nhw'n cael eu hapwyntiad wedyn, a fydd yn cynnwys eu hail apwyntiad hefyd.
Rydym ni mewn sefyllfa wahanol o ran y rhai sy'n cael lwfansau gofalwyr yn hyn o beth, a hynny yw, os ydych chi'n cael lwfans gofalwyr, yna mae hynny'n rhoi'r hawl ichi gael y brechlyn. Yr her sydd gennym ni, serch hynny—ac mae hyn yn achosi rhywfaint o anniddigrwydd a rhwystredigaeth i mi; nid wyf i'n credu bod y sefyllfa yn un dderbyniol—yr her sydd gennym yw bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi eu rhestr nhw o'r rhai sy'n cael lwfans gofalwyr i'w cydweithwyr nhw yn GIG Lloegr gyntaf cyn rhoi'r wybodaeth honno i Gymru. Nid wyf i'n credu bod hynny'n dderbyniol, ac fe wnes i hynny'n eglur iddyn nhw. Nid yw'r Adran Gwaith a Phensiynau, yn yr achos hwn, yn adran o Lywodraeth Lloegr; adran o Lywodraeth y DU yw hi, sydd â chyfrifoldebau tebyg am bob rhan o'r undeb y mae hi'n ei gwasanaethu, ac nid wyf i'n credu ei bod yn dderbyniol na fydd pobl yng Nghymru sy'n cael lwfans gofalwyr yn cael eu hapwyntiadau oherwydd bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi dewis peidio â chyflwyno'r wybodaeth honno i Gymru yn ôl yr un amserlen â Lloegr. Yr hyn sy'n gadarnhaol, serch hynny, yw fy mod i'n credu, cyn gynted ag y bydd yr wybodaeth honno ar gael inni, y gallwn gynhyrchu'r apwyntiadau hynny'n gyflym iawn. Rwy'n deall y gallai pobl sy'n cael lwfans gofalwyr deimlo'n rhwystredig iawn oherwydd yr oedi byr o ychydig ddyddiau eto, hyd yn oed. Ond pan fydd yr wybodaeth honno ar gael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, fe fyddwn ni'n cynhyrchu'r apwyntiadau hynny wedyn i'r bobl hyn i sicrhau eu bod yn cael eu brechlynnau nhw'n gyflym ac ar amser. Ac rwy'n credu ein bod ni mewn sefyllfa dda i gwblhau grwpiau blaenoriaeth 1 i 9, gan gynnwys yr holl ofalwyr yr ydym ni wedi eu trafod heddiw, erbyn canol mis Ebrill. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Diolch i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.