5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diabetes Math 2

– Senedd Cymru am 3:18 pm ar 10 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:18, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

[Anghlywadwy.]—sef y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, ac mae ar ddiabetes math 2, a galwaf ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7552 Jenny Rathbone, Dai Lloyd, Jack Sargeant

Cefnogwyd gan Andrew R.T. Davies, Darren Millar, Helen Mary Jones, Jayne Bryant

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) mai Cymru yw'r lle gyda'r cyfraddau uchaf o ddiabetes math 2 o unrhyw le yng ngorllewin Ewrop, lle mae dros 200,000 wedi cael diagnosis, lle yr amgangyfrifir bod 65,000 gyda math 2 heb ddiagnosis, a lle mae 500,000 arall mewn perygl o gael diabetes;

b) bod gofalu am bobl â diabetes eisoes yn defnyddio 10 y cant o gyllideb y GIG;

c) y risgiau cynyddol o ddal COVID-19 ar gyfer dinasyddion sydd â diabetes fel cyflwr sy'n bodoli eisoes; a

d) llwyddiant a chost-effeithiolrwydd y rhaglen Sgiliau Maeth am Oes, sydd wedi ennill sawl gwobr, a dreialwyd yng Nghwm Afan.

2. Yn annog Llywodraeth Cymru i brif ffrydio'r rhaglen Sgiliau Maeth am Oes ledled Cymru fel elfen ganolog o gynllun atal diabetes i Gymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:18, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y mae'r cynnig yn ei nodi, Cymru sydd â'r nifer uchaf o bobl yn dioddef o ddiabetes yng ngorllewin Ewrop. Ar hyn o bryd, mae'n llowcio 10 y cant o gyllideb ein GIG—mae hynny’n £950 miliwn o gyllideb iechyd y flwyddyn nesaf.

Nid yw'r ddadl hon yn ymwneud â diabetes math 1, cyflwr meddygol cymhleth sydd fel arfer yn taro pobl ifanc yn eu glasoed, ac mae’r hyn sy’n ei achosi’n gymhleth a heb fod yn gysylltiedig â deiet. Mae cyfraddau diabetes math 1 yn aros yr un fath i raddau helaeth o flwyddyn i flwyddyn. Mae diabetes math 2 yn fater gwahanol. Mae'r ddadl hon yn ymwneud â'r epidemig go iawn o ddiabetes math 2: mae dros 200,000 o bobl eisoes wedi cael diagnosis ohono, a llawer mwy heb gael diagnosis, a rhagwelir y bydd hyd yn oed nifer y rheini sydd wedi cael diagnosis yn codi i dros 300,000 o bobl erbyn 2030, oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch.

Mae gan Gymru dros 0.5 miliwn o bobl sydd dros bwysau neu'n ordew, ac sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2. A gadewch inni wynebu’r peth, ni all y broblem honno fod ond wedi gwaethygu o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud, gan fod pob un ohonom wedi bod yn bwyta mwy nag y dylem. Ond y ffaith fwyaf sobreiddiol yw bod traean o'r holl bobl sydd wedi marw o COVID hefyd yn dioddef o ddiabetes. Felly, beth y gallwn ei wneud ynglŷn â hyn, a beth y gallwn ei wneud i atal pobl rhag cael diabetes yn y lle cyntaf?

Cymru yw'r unig wlad ym Mhrydain heb raglen atal diabetes genedlaethol. Mae gan Loegr un, mae gan yr Alban un, ond nid Cymru. Ac fel y wlad fwyaf gordew yn Ewrop, ymddengys i mi fod hynny’n ddiofal, yn annoeth, ac mae angen i hynny newid ar frys, yn enwedig gan fod gennym ateb costeffeithiol, sydd wedi ennill sawl gwobr, a wnaed yng Nghymru ar garreg ein drws. Mae ymyrraeth fer a dreialwyd yng nghwm Afan gan glwstwr o naw practis meddyg teulu, mewn cydweithrediad â maethegwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, wedi bod ar waith ers mwy na thair blynedd ac wedi cael ei dadansoddi’n drylwyr gan Ganolfan Economeg Iechyd Abertawe ym Mhrifysgol Abertawe i sicrhau bod y ffigurau’n gwneud synnwyr.

Mae'n gosteffeithiol am fod y practisau meddygon teulu yn nodi pa gleifion sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2, ac nid oes angen iddynt fynd yn agos at ysbyty er mwyn cael yr ymyrraeth hon, ac yng nghyd-destun yr holl broblemau y byddwn yn eu cael gyda rhestrau aros i bobl sydd angen triniaeth mewn ysbyty, mae honno'n ffaith bwysig iawn. Mae hefyd yn effeithiol iawn, gan ei bod yn cael ei darparu gan staff anfeddygol practisau sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig gan ddeietegwyr mewn sgiliau maetheg, ac mae hynny'n ei gwneud yn hawdd i’w chyflwyno ledled y wlad. Mae'n gosteffeithiol am fod yr ymyrraeth fer yn cynnwys ymarfer corff, cyngor deietegol a thaflenni gwybodaeth, ac yn costio £44 y claf yn unig. Os cymharwch hynny ag ymyrraeth yn Lloegr, sy'n cael ei gyflawni gan arbenigwyr, mae honno'n costio rhwng £240 a £290 y claf. Mae hefyd yn gwbl gosteffeithiol am nad aeth bron i ddwy ran o dair o'r bobl a gymerodd ran yn y rhaglen hon ymlaen i gael diabetes yn ddiweddarach. Felly, mae Prifysgol Abertawe wedi cyfrifo y byddai cyflwyno'r rhaglen yn genedlaethol yn arbed dros £6 miliwn y flwyddyn i bob bwrdd iechyd, ac nid yw hynny'n cynnwys y buddion personol i'r claf yn sgil peidio â chael diabetes a pheidio â bod mewn perygl o golli eu golwg, colli eu coesau a marw'n gynamserol

Nid oes fawr o ryfedd, felly, fod rhaglen ymyrraeth fer cwm Afan wedi ennill gwobr Ansawdd mewn Gofal diabetes y DU gyfan y llynedd. Mae hon yn enghraifft wirioneddol o ofal iechyd darbodus ar waith. Beth sy'n ein rhwystro rhag ei ​​chyflwyno'n ehangach? Mae’n defnyddio'r dull amlddisgyblaethol o ymdrin â chlefyd cronig lle rydym ar frig y tablau cynghrair yn Ewrop gyfan yn anffodus. Sut y gallwn fforddio peidio â gwneud hyn? Rwy'n gobeithio clywed felly fod hon yn flaenoriaeth bwysig iawn i'r Gweinidog, o gofio’r niferoedd uchel iawn o bobl sydd mewn perygl o gael diabetes math 2, a'r goblygiadau difrifol sy'n deillio o'r clefyd.

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 3:23, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone am ddod â'r mater hwn i'r Senedd heddiw? Credaf ei fod yn dangos pwysigrwydd y mater yn glir ac yn ailddatgan bod diabetes math 2 yn broblem ddifrifol iawn ledled Cymru. Gwyddom fod diabetes math 2 yn effeithio ar nifer syfrdanol o deuluoedd yma yng Nghymru. Yn ôl data a gyhoeddwyd yn 2019 gan Diabetes UK, mae dros 8 y cant o bobl 17 oed a hŷn yn byw gyda diabetes ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy'n gwasanaethu fy etholaeth. Mae’r rhan helaethaf o’r achosion hyn yn ddiabetes math 2. Mewn termau real, golyga hyn fod bron i 40,000 o deuluoedd yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol, ac mae'r nifer wirioneddol yn debygol o fod hyd yn oed yn uwch.

Mae diabetes yn cael effaith sy'n newid bywydau pobl, ac fel y mae Jenny Rathbone wedi’i nodi'n glir, gwyddom fod trin diabetes math 2 yn rhoi straen aruthrol ar y GIG yng Nghymru, yn enwedig ar hyn o bryd. Nid yn unig fod y rheini sy'n dioddef o ddiabetes math 2 mewn mwy o berygl o salwch difrifol os ydynt yn cael eu heintio â COVID, maent hefyd mewn perygl o ddioddef yn sgil problemau iechyd difrifol eraill, gan gynnwys clefyd y galon, strôc, clefyd yr arennau a cholli eu golwg. Ni ellir gorbwysleisio pa mor anodd yw ymdrin â'r problemau cymhleth hyn i gleifion ac ymarferwyr fel ei gilydd.

Ond gwyddom hefyd fod pethau y gallwn eu gwneud i leddfu'r baich. Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir atal diabetes math 2. Annog pobl i wneud dewisiadau iachach yw'r cam cyntaf amlwg, ond gellir gwneud mwy ac mae'n rhaid gwneud mwy. Rwy'n falch o fod yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes a'r gwaith y mae'r grŵp trawsbleidiol wedi'i gyflawni drwy gydol tymor y Senedd hon. Byddwn yn cynnal ein cyfarfod olaf ar sut y mae diabetes yn effeithio ar iechyd meddwl yr wythnos nesaf. Yn y rôl hon, rwyf wedi bod yn falch o glywed am lwyddiant cynllun peilot cwm Afan, ac rwy’n awyddus i weld sut y gellir ailadrodd y llwyddiannau hyn ledled Cymru. Mae unrhyw beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod llai o bobl yn dioddef o'r salwch hwn am weddill eu hoes yn allweddol. Mae annog pobl i ddeall eu risg bersonol yn un cam y gall pob un ohonom ei gymryd yn awr. Yn 2018, roeddwn yn falch o gynnal digwyddiad yn y Senedd i bobl ddeall eu risg o ddal diabetes math 2. Yn anffodus, ni fu modd cynnal digwyddiad tebyg yn y flwyddyn ddiwethaf, ond byddwn yn annog unrhyw un sy’n dymuno gwybod mwy am eu lefel risg i ymweld â gwefan Diabetes UK, lle mae amryw o adnoddau ar gael.

Hoffwn orffen drwy ddyfynnu un o fy etholwyr, Sarah Gibbs, sy'n byw gyda diabetes math 2. Mae wedi disgrifio'r afiechyd fel un ‘didrugaredd. Gall effeithio ar bob agwedd ar eich bywyd. Hoffwn pe bawn wedi cael cyfle a chymorth i'w atal.’ Ddirprwy Lywydd, mae angen inni wneud mwy i gynnig y cyfle hwn i bobl yng Nghymru. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:26, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, Eluned Morgan?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch i Jenny Rathbone, Dai Lloyd a Jack Sargeant hefyd am ddod â'r ddadl bwysig yma ar atal diabetes gerbron y Senedd heddiw. Diolch hefyd i Jayne Bryant am y gwaith mae hi wedi bod yn ei wneud gyda'r grŵp trawsbleidiol.

Mae hwn yn gynnig pwysig, a dwi'n gwybod bod diabetes yn broblem sylweddol sy'n tyfu drwy'r byd, ac mae'n tyfu yng Nghymru hefyd. Mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r sefyllfa ddifrifol yma, sydd yn effeithio ar gymaint o fywydau ac ar unigolion yn ein gwlad ni. Yn 2019-20, roedd tua 192,000 o bobl yng Nghymru gyda diabetes, fel gwnaeth Jenny gyfeirio ato, sef tua 7 y cant o'n poblogaeth sy'n oedolion. Mae'n bwysig hefyd, fel mae Jenny wedi'i ddweud, i wahaniaethu rhwng y ddau fath gwahanol o diabetes: math 1, sy'n rhywbeth na ellir ei atal, a diabetes math 2, lle mae lot allwn ni ei wneud i atal y cyflwr rhag datblygu.

Nawr, yn y ffigurau diweddaraf sydd gyda ni, mae'r gost o drin diabetes i'r gwasanaeth iechyd yn cyrraedd tua £126 miliwn neu 1.9 y cant o gyllideb yr NHS. Os ydyn ni'n ystyried hefyd y cleifion sy'n cael eu trin ar gyfer clefyd cardiofasgiwlar a chymhlethdodau eraill sy'n deilio o diabetes, wedyn rydym ni yn cyrraedd y ffigur yna o 10 y cant oedd Jenny wedi cyfeirio ati. Felly, rydych chi'n iawn i nodi'r ffigur yna yn eich cynnig chi. Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd atal eilaidd, sef atal cymhlethdodau diabetes rhag datblygu trwy reoli'r clefyd yn dda. Nid dim ond atal diabetes yn y lle cyntaf sy'n bwysig, ond hefyd buddsoddi yn y gwasanaethau sy'n rhwystro'r cymhlethdodau rhag digwydd.

Nawr, mae maint yr her sy'n ein wynebu ni wedi cael ei danlinellu gan y pandemig. Rydym ni wedi gweld sut mae pobl sy'n dioddef o diabetes wedi eu gorgynrychioli ymhlith y marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID. Er nad yw pobl sydd â diabetes o reidrwydd mewn mwy o berygl o ddal COVID, mae'n ymddangos fel bod ffactorau risg diabetes a'i gymhlethdodau yn golygu bod canlyniadau yn debygol o fod yn waeth os ydyn nhw'n dal y feirws. Rŷn ni'n gwybod bod gordewdra neu bwysau gwaed uwch, ethnigrwydd neu fod yn ddifreintiedig yn rhai o'r ffactorau lluosog sy'n cyfrannu at ddatblygiad salwch COVID yn fwy difrifol.

Mae ein dull cenedlaethol o ymdrin â diabetes wedi ei amlinellu yn y cynllun cyflawni ar gyfer diabetes yng Nghymru, ac mae hwn wedi ei ymestyn am flwyddyn arall er mwyn cael cyfle i ddatblygu'r rhaglen olynol. Nawr, beth rŷn ni'n gwybod yw bod yna gysylltiad clir ac arwyddocaol rhwng diabetes 2 a gordewdra. Ac mae astudiaethau'n awgrymu bod tua 90 y cant o oedolion sydd â diabetes math 2 yn pwyso mwy nag y dylen nhw i fod yn iach, neu'n ordew. Dŷn ni'n gwybod hefyd fod gordewdra'n gysylltiedig ag amrywiaeth o gyflyrau iechyd difrifol eraill, fel canser, clefyd y galon a strôc.

Nawr, yn ogystal ag effeithio'n sylweddol ar ansawdd bywyd, mae'n cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl hefyd. A dyna pam mae'n hanfodol i ddal ati i ganolbwyntio ar atal a lleihau cyfraddau gordewdra. Mae dros 60 y cant o oedolion, ac un o bob pedwar o blant ysgol gynradd, dros eu pwysau neu'n ordew yma yng Nghymru. Felly, dyna pam heddiw dwi'n cyhoeddi buddsoddiad o fwy na £6.5 miliwn i helpu i daclo gordewdra a diabetes yng Nghymru. A bydd yr arian yn cael ei dargedu at blant a phobl hŷn, i'w helpu i gyrraedd a chynnal pwysau iach. A bydd hwn yn helpu i ddelifro'r hyn a fydd yn cael ei gyhoeddi ar 18 Mawrth, sef ein cynllun cyflawni, 'Pwysau Iach, Cymru Iach', ar gyfer 2021-22.

Nawr, bydd £5.5 miliwn o'r cyllid yn mynd tuag at raglenni penodol, o dan 'Pwysau Iach, Cymru Iach'. Bydd yr arian yn helpu i hyrwyddo datblygiadau allweddol ar draws gwasanaethau atal gordewdra a rheoli pwysau. Ac mae'n cynnwys bron i £3 miliwn o gyllid pellach ar gyfer gwasanaethau gordewdra ar draws ein byrddau iechyd. Ac mae'r cyllid hwn hefyd—ac mae hwn yn bwysig i'w danlinellu—yn cynnwys £1 miliwn o arian ychwanegol y flwyddyn dros y ddwy flynedd nesaf. A bydd hyn yn ein galluogi ni i gymryd camau cynnar i atal salwch a lleihau effaith iechyd gwael ac anghydraddoldeb, drwy gefnogi'r gwaith o ddatblygu treialon llwybr atal cyn-diabetes, sy'n seiliedig ar y model yna roeddech chi'n siarad amdano yn nyffryn Afan. Mae'n cynnwys llwybr addysg cyn-diabetes, sy'n cael ei ddarparu gan weithwyr cymorth gofal iechyd wedi eu hyfforddi, ar gyfer pobl sydd wedi cael darlleniadau glwcos gwaed uwch yn y gorffennol, neu sydd â risg o ddatblygu cyn-diabetes yn y dyfodol.

So, mae rhaglen dyffryn Afan yn cael ei gwerthuso gan uned ymchwil Diabetes Cymru. Rŷn ni'n gwybod bod rhai o'r canlyniadau'n addawol dros ben—fel roeddech chi wedi cyfeirio atyn nhw. A dwi'n siŵr y bydd gan y rheini sydd wedi cynnig y ddadl ddiddordeb mewn gwybod bod gwerthusiad o effeithlonrwydd a chost economaidd wedi ei gynnal gan Brifysgol Abertawe. A beth rŷn ni'n ei wybod yw ei fod e'n gweithio, a dyna pam rŷn ni'n rhoi'r arian ychwanegol yma, i sicrhau ein bod ni'n gallu gweld y peilot yna yn cael ei ddatblygu ar draws Cymru. Felly, mae'r peilot wedi rhoi tystiolaeth i ni; gallwn ni weld yr ymyrryd ataliol ledled Cymru. Bydd hyn yn ein helpu ni i ymateb i'r her, y cynnydd mewn diabetes math 2, i wella iechyd y rhai sydd wedi eu heffeithio, ac i ddarparu gofal iechyd sydd wedi ei seilio ar werth, fel roeddech chi wedi ei nodi, Jenny.

Y disgwyl yw y bydd o leiaf un clwstwr gofal iechyd—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:33, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Mae angen i'r Gweinidog ddirwyn i ben, os gwêl yn dda.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

—ym mhob bwrdd iechyd lleol. Felly, dwi'n falch ein bod ni yn gallu ymateb yn adeiladol dros ben i'r cynnig sydd wedi dod wrthych chi, Jenny. Diolch am ddod â'r ddadl ger ein bron ni heddiw.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

A gaf fi alw ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl?

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:34, 10 Mawrth 2021

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ac mae'n hyfrydwch i ymateb i'r ddadl, gan fod y Gweinidog newydd wneud y cyhoeddiad yna—bendigedig. Mae pobl weithiau'n amau dilysrwydd cynnal dadleuon o'r math yma—rydyn ni Aelodau cyffredin meinciau cefn weithiau yn cael ein dilorni braidd—ond dyma wireddu breuddwydion, fel y mae Jenny Rathbone wedi ei gael, ac i fod yn deg â Jenny, mae wedi bod wrthi am flynyddoedd ar yr agenda ataliol yma. Dwi'n falch cydnabod cyhoeddiad Eluned Morgan heddiw, achos mae hyn yn ffordd adeiladol ymlaen yn wir ac yn ddefnydd da iawn o'r math yma o ddadl yn y Senedd. Felly dwi'n barod iawn i dalu teyrnged i Jenny Rathbone am ei dycnwch dros y blynyddoedd, yn arwain ar yr agenda yma, a hefyd i Jayne Bryant, fel cadeirydd y grŵp aml-bleidiol ar glefyd siwgr, sydd hefyd yn gwneud gwaith arbennig, ac wrth gwrs yn cyfarch cyhoeddiad y Gweinidog jest nawr. Mae £6 miliwn yn ateb bendigedig i'r ddadl yma, achos dyma'r agenda ataliol hollbwysig. 'Prevention is better than cure,' rydym ni wastad yn ei ddweud e, ond dydyn ni ddim yn ei weithredu fe yn aml iawn, yr agenda ataliol. A dwi hefyd yn mynd i dalu teyrnged i nifer fawr o fudiadau sydd yn gwneud y gwaith ataliol yma yn y maes, pobl fel Diabetes UK Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon, y Gymdeithas Strôc, ac ati, ac ati. Does gen i ddim mo'r amser i'w rhestru nhw i gyd.

A'r pwysigrwydd allweddol yn yr agenda ataliol: atal clefydau rhag digwydd yn y lle cyntaf. Mae yna nifer o ffactorau ymddygiadol, fel roedd Jenny yn ei ddweud, nifer o wahanol ffactorau ymddygiadol a chymdeithasol sy'n gweu efo'i gilydd. Ac yng nghyd-destun clefyd siwgr, sydd, wrth gwrs, yn un o'r clefydau hynny sydd yn cyd-ddigwydd efo COVID, fel rydym ni wedi clywed, ac, o fod efo clefyd siwgr, rydych chi'n fwy tebygol o gael COVID yn ddrwg. Dyna beth yw perthnasedd y ddadl yma. Rydych chi'n mynd i gael COVID yn waeth efo clefyd y siwgr, yn ystadegol felly.

Mae sgiliau, felly, hyrwyddo yr agenda ataliol yma yn hollbwysig, fel sydd i'w darganfod yn y prosiect yma yn nyffryn Afan—sgiliau coginio, sgiliau byw, deiet. Ie, dylen ni gyd fod yn gwybod bod siwgr yn ddrwg i ni erbyn rŵan, er ein bod ni'n dal i fwyta peth, ond mae carbs—'startsh' fydden ni'n arfer galw'r stwff pan oeddwn i yn ysgol Llanbedr ers llawer dydd—mae'r rheini cynddrwg, achos mae carbs yn cael eu trosi i mewn i siwgr yn ein cyrff. Dyna beth mae'r afu yn ei wneud. Un o nifer o bethau mae'r afu yn ei wneud ydy troi carbs yn siwgr. Felly, gall carbs hefyd fod cynddrwg o fwyta gormod ohonyn nhw.

A braster. Ie, mae braster yn ddrwg i ni mewn gormodedd, ond mae angen lefel o fraster arnom ni hefyd. Felly, mae'r cyngor yn subtle iawn, a dyma'r math o gyngor sydd ar gael yn y cynllun yna yn nyffryn Afan—cyngor ar beth i'w fwyta, sut i gadw'n heini. Prosiect llwyddiannus sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r ateb gyda ni felly yn nyffryn Afan, ac mewn sawl lle arall. Angen ei rolio fo allan a gweithredu'n genedlaethol, fel mae'r Gweinidog newydd amlinellu. So, dwi'n disgwyl gweld gwireddu y dyhead yma rŵan o'r cychwyn bendigedig yma yn nyffryn Afan.

Felly, wrth gloi, a allaf i ddiolch i bawb am eu cyfraniadau? Diolch yn arbennig i'r Gweinidog am wneud y cyhoeddiad yna o'r arian, a'i gwneud hi'n orfodol i ni feddwl yn fwy adeiladol ynglŷn â'r dadleuon Aelodau unigol yma; mae nhw'n gallu cyflawni gwyrthiau. Felly, dwi'n llongyfarch y Gweinidog, dwi'n llongyfarch y Llywodraeth, ac yn bennaf oll, dwi'n llongyfarch Jenny Rathbone am redeg efo'r agenda yma cyhyd. Cefnogwch y cynnig felly. Diolch yn fawr iawn i chi.

 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:38, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.