– Senedd Cymru am 4:37 pm ar 23 Mawrth 2021.
Mae eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yn ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ar gymorth iechyd meddwl a llesiant mewn lleoliadau addysgol, a galwaf ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Gydweithwyr, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd i bob un ohonom ni. Newidiodd ein ffordd o fyw y tu hwnt i bob adnabyddiaeth wrth i ni ddysgu byw gyda pherygl presennol coronafeirws. Mae'r effaith gronnol ar ein llesiant wedi bod yn enfawr, a hyd yn oed yn fwy felly i'n plant a'n pobl ifanc. Ofn salwch, effaith ffyrlo neu golli swyddi ar yr oedolion o'u cwmpas, gwahanu oddi wrth eu cylchoedd teulu a chyfeillgarwch ehangach, a'r effaith ar eu trefn arferol, dim ond gallu mynychu'r ysgol—bydd y cyfan wedi bod yn frawychus iawn, iawn.
Fodd bynnag, os oes un peth cadarnhaol y gallwn ni ei ddysgu o'r flwyddyn ddiwethaf, gadewch iddo fod yn fater o lesiant, yn enwedig o ran plant a phobl ifanc, a swyddogaeth addysg wrth eu cefnogi. Mae bellach yn cael ei gydnabod yn llawn. Mae iechyd emosiynol a meddyliol bellach wrth wraidd addysg, ac mae iechyd a hyder plant yn un o bedwar diben canolog addysg yng Nghymru. Mae meithrin cydnerthedd dysgwyr yn allweddol i hynny.
Nid swyddogaeth ysgolion yw cynhyrchu plant sydd â chrap ar algebra neu ar ddyddiadau allweddol mewn hanes yn unig. Maen nhw yno i helpu i feithrin cydnerthedd, gan eu paratoi ar gyfer dyfodol pryd bydd ein holl bobl ifanc yn wynebu heriau, cyflawni llwyddiannau, ond weithiau'n profi siomedigaethau. Rwy'n falch iawn, fel y mae Aelodau eraill, rwy'n siŵr, fod y Senedd hon wedi pleidleisio'n ddiweddar i gefnogi cwricwlwm cenedlaethol newydd sy'n sicrhau bod iechyd a llesiant yr un mor bwysig â phynciau a meysydd dysgu mwy traddodiadol.
Yn gynharach y mis hwn, lansiais ein fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol, a fydd yn cefnogi'r cwricwlwm newydd. Bydd y canllawiau statudol yn galluogi ysgolion, wrth iddyn nhw adolygu eu hanghenion llesiant, i ddatblygu cynlluniau i adeiladu ar eu cryfderau a mynd i'r afael ag unrhyw wendidau a gwerthuso effaith eu gwaith.
Gadewch imi fod yn glir: nid ydym ni'n ceisio gwneud y broses o dyfu i fyny a'r system addysg yn bethau meddygol. Yr hyn yr ydym ni'n gofyn i athrawon a staff ysgolion ei wneud yw'r hyn y mae llawer eisoes yn ei wneud yn naturiol—y pethau bach, sy'n cael yr effaith fwyaf ar fywydau plant. Er enghraifft, cyn y cyfyngiadau symud, cynhaliodd Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath ym Mhen-y-bont ar Ogwr glwb rhedeg ar ddydd Gwener ar gyfer staff a dysgwyr. Roedd hwn yn gyfle, i'w rannu gan staff a dysgwyr o unrhyw allu, i fynd i redeg gyda'i gilydd yn yr ardal leol yn ystod yr egwyl amser cinio. Roedd hynny'n hybu perthynas gadarnhaol a gwerthoedd a rennir ac, wrth gwrs, buddion gwirioneddol i iechyd a llesiant dysgwyr a staff.
Yn ei hanfod mae ein fframwaith newydd yn ymwneud â datblygu perthynas ymddiriedus rhwng dysgwyr â'i gilydd a rhwng dysgwyr ac athrawon, staff ehangach yr ysgol ac, yn wir, ar draws cymuned yr ysgol gyfan. A phan ceir adegau, fel y ceir yn anochel, pan fydd athrawon yn dod ar draws rhywbeth anghyffredin a thu hwnt i'w set sgiliau benodol, yna byddan nhw'n gwybod lle i fynd i gael cymorth priodol yn brydlon.
Mae'r rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc a arweinir gan y GIG yn datblygu fframwaith cymorth cynnar a chymorth gwell. Mae hyn yn disgrifio'r cymorth sydd ar gael i feithrin cydnerthedd a system gymorth. Ynghyd â'n fframwaith ysgol gyfan, bydd hyn yn sicrhau bod y system gyfan bellach yn gweithio'n ddi-dor i ddiwallu anghenion llesiant pob plentyn.
I gefnogi gweithredu ein fframwaith ysgol gyfan, rydym ni wedi cynyddu ein cyllid yn y maes hwn 360 y cant dros dair blynedd, gyda chyllid yn dod o'r adran addysg a'r gyllideb iechyd, gan ddangos yr ymrwymiad trawsadrannol i'r gwaith hwn, sydd wedi bod yn gwbl hanfodol. Byddwn yn defnyddio'r arian ychwanegol y flwyddyn nesaf, fel y gwnaethom ni yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, i gefnogi ysgolion, awdurdodau lleol ac eraill i sicrhau gwelliannau gwirioneddol mewn cymorth llesiant; er enghraifft, drwy wella ac ehangu ein gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion, sydd ar hyn o bryd yn gweld tua 11,500 o blant a phobl ifanc bob blwyddyn.
Rydym wedi bod yn adolygu effaith yr £1.2 miliwn ychwanegol a ddarparwyd gennym ar gyfer y gwasanaeth yn y flwyddyn gyfredol. Hyd yn hyn, mae'r 18 awdurdod lleol sydd wedi ymateb wedi ein hysbysu bod ein cyllid wedi galluogi bron i 13,500 o sesiynau cwnsela ychwanegol hyd at ddiwedd mis Mawrth, gan alluogi dros 5,500 yn fwy o blant i gael cymorth.
Nawr, er bod y fframwaith wedi'i anelu at ysgolion, mae'r egwyddorion sy'n sail iddo yr un mor berthnasol mewn lleoliadau eraill, megis addysg bellach ac addysg uwch. Mae cefnogi iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr a staff yn hanfodol os ydym am fynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad a chynyddu cyfleoedd i gyflawni llwyddiant addysgol. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig rydym ni wedi buddsoddi dros £56 miliwn i gefnogi iechyd meddwl a llesiant mewn colegau a phrifysgolion. Mae ein prifysgolion yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyda Llywodraeth Cymru drwy'r fframwaith colegau a phrifysgolion iach a chynaliadwy i sicrhau bod pob agwedd ar fywyd prifysgol wedi'i chynllunio i ddarparu'r lefel uchaf o gymorth i fyfyrwyr. Mae'r dull prifysgol gyfan hwn o ymdrin ag iechyd meddwl yn golygu y sicrheir bod iechyd meddwl a llesiant da yn rhan greiddiol o holl weithgareddau'r brifysgol fel rhan o'u cynnig i fyfyrwyr ac i'r gyfadran.
Ac rydym wedi comisiynu Estyn i gynnal adolygiad thematig o lesiant dysgwyr addysg bellach yn ystod pandemig COVID. Bydd cyllid yn arwain at adnoddau'n cael eu lledaenu ar draws y sector yn ystod 2021, gan gynnwys pecynnau cymorth a gomisiynwyd i gefnogi dulliau coleg cyfan o ymdrin â chamddefnyddio sylweddau a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Dirprwy Lywydd, i gloi, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod llesiant wrth wraidd ein system addysg gyfan, a chredaf o ddifrif fod Cymru bellach yn arwain y ffordd. Hoffwn gloi drwy gofnodi fy niolch i'r Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu gwaith yn y maes hwn a hefyd aelodau o'n grŵp gorchwyl a gorffen, sydd wedi helpu i lywio ein gweithgarwch. Diolch yn fawr.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n credu y byddem ni i gyd yn cytuno bod y flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu'r angen dynol am lesiant corfforol, meddyliol, emosiynol a hyd yn oed ysbrydol er mwyn gweithredu, heb sôn am fyw ein bywydau gorau hyd yn oed, ac rwy'n credu ei fod wedi bod yn arbennig o wir am ein plant a'n pobl ifanc a'u gallu i ddysgu, a hynny'n draddodiadol neu yn y llu o ffyrdd y maen nhw wedi'u profi yn ystod COVID. Mae hynny'n cynnwys eu gallu i fod gyda'u cyfoedion, nid oedolion yn unig, ac ystod eang o brofiadau, y gallai fod rhai ohonyn nhw fod wedi'u hanghofio. Felly, fy nghwestiwn cyntaf, rwy'n credu, yw: pa gynlluniau ydych chi wedi'u hystyried ar gyfer defnyddio gwyliau'r haf i wella llesiant mewn ffordd y gall pob plentyn a pherson ifanc fanteisio arnyn nhw?
Mae Aelodau, wrth gwrs, wedi bod yn pryderu ers tro byd am y cymorth iechyd meddwl a llesiant i'n plant a'n pobl ifanc—nid eleni'n unig—a dyna pam y mae rhai ohonom wedi bod braidd yn nerfus ynghylch dyfodol y rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc, sydd wedi bod yn sbardun mor bwysig i newid, er y bu ychydig o dorri ar grib honno, os caf ei roi fel yna.
Gweinidog, rwy'n hapus i gydnabod yr ymdrech yr ydych chi a'ch adran wedi'i rhoi o ran y fframwaith hwn ac rwy'n falch o glywed y gellir ei ddarllen ar draws y sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, ac rwyf hefyd yn croesawu'r ymyriadau cynnar yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw yn eich datganiad, sydd, gobeithio, wedi bod yn llwyddiannus. Felly, fy nghwestiynau nesaf, mae'n debyg, yw: sut byddech chi'n mesur ymlyniad wrth y fframwaith wrth inni symud ymlaen, a sut byddwch chi'n mesur llwyddiant canlyniadau glynu wrth y fframwaith?
Rydych yn cyfeirio at sesiynau cwnsela, sydd i'w croesawu'n fawr, ond rydych chi wedi dweud yn y gorffennol fod cwnsela'n anaddas i blant iau. Mae ymyrraeth gynnar mewn lleoliadau addysg yn helpu i wrthweithio effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac yn lleihau'r angen am gymorth yn ddiweddarach mewn bywyd, felly beth sy'n cael ei ystyried ar gyfer ein plant ieuengaf, a sut mae'r fframwaith yn grymuso staff i wthio'n ôl yn erbyn yr ymyriad meddygol ei naws hwnnw y sonioch chi amdano yn eich datganiad ac mae hynny'n peri pryder i bob un ohonom ni?
Ac yna, yn olaf, ie, rhaglen a arweinir gan y GIG yw hon, ond mae'n dal i deimlo'n debyg iawn i raglen a arweinir gan addysg. Cyfeiriodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw at y datganiad ar iechyd meddwl a llesiant, a lofnodwyd ar y cyd gan Eluned Morgan a Vaughan Gething. Felly, pa mor gryf yw gwaith Llaw yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc a'r fframwaith hwn sy'n ymddangos yno yn y datganiad yna? Pa adnoddau fydd yn llifo i mewn i'r fframwaith gan yr adran iechyd? Ac a ydych chi'n cytuno y bydd yn amhosibl mesur effaith y buddsoddiad hwnnw gan yr adran iechyd yn y llwybr hwn i wella iechyd meddwl a llesiant plant, pan fyddwn ni'n parhau i gael yr asesiadau effaith cyfunol hyn ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru, nad ydyn nhw'n gwahanu oedolion a phlant ac sy'n parhau i siomi'r pwyllgor plant, pobl ifanc ac addysg a'r comisiynydd plant? Diolch.
Dirprwy Lywydd, a gaf i yn gyntaf oll, ddiolch i Suzy Davies am ei sylwadau a'i chwestiynau? O ran yr haf, rwy'n credu bod y gwyliau'n gyfle gwych i geisio cefnogi nifer o weithgareddau i sicrhau bod ein plant, sydd wedi colli'r cyswllt cymdeithasol hwnnw y soniodd Suzy amdano, yn cael cyfle i wneud yr union beth hwnnw. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'n gweithgareddau Bwyd a Hwyl llwyddiannus iawn sydd wedi'u gweithredu mewn awdurdodau lleol ledled Cymru ers i mi ddechrau ar fy swydd. Rydym wedi dyblu'r swm o arian sydd ar gael i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod y rhaglen honno'n cyrraedd llawer mwy o blant, ac rwy'n dal i archwilio, gyda'm swyddogion, y ffordd orau o ddefnyddio gwyliau'r haf fel rhan o'n rhaglen dysgu yn 2021, nid cael gwersi academaidd ond ceisio defnyddio amrywiaeth o ddulliau, yn ddiwylliannol, yn greadigol, chwaraeon, mynediad i'r awyr agored, gweithio gyda sefydliadau partner a'r trydydd sector, i wella, hyd yn oed y tu hwnt i'r gweithgareddau Bwyd a Hwyl, oherwydd rydym yn cydnabod, i lawer o blant, bydd rhyngweithio a'r cyfle hwnnw i ddatblygu eu cydnerthedd a dysgu mewn ffordd wahanol yn rhan bwysig o sut y gallwn ni ymateb yn gadarnhaol i'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar eu bywydau.
O ran pwy fydd yn edrych ar y fframwaith, wel, bydd gan y fframwaith gangen werthuso ei hun, ond yn hollbwysig, pan fydd arolygiadau wyneb yn wyneb yn barod i ddechrau eto ac yn cael eu hailgyflwyno ar yr adeg briodol, bydd y fframwaith arolygu newydd gan Estyn ei hun yn edrych ar sut mae ysgolion yn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â llesiant fel bod cymhelliant ychwanegol, os hoffech chi, i'r ysgolion gymryd rhan weithredol yn y fframwaith, oherwydd dyna un ffordd y byddan nhw'n yn gallu dangos i arolygwyr sut y maen nhw'n mynd i'r afael â'r anghenion hyn yn eu hysgol. Felly, mae gennyf bob ffydd y bydd y fframwaith yn cael ei ddefnyddio. Yn wir, yr hyn y mae'r fframwaith yn ei ganiatáu yw rhywfaint o eglurder i ysgolion sydd wedi bod â llwyth o wahanol ddulliau yn y gorffennol, gwahanol fathau o raglenni, a all fod yn ddryslyd weithiau, weithiau'n anghyson. Mae'r fframwaith yn rhoi cynllun clir, a byddwn ni'n defnyddio adnoddau i sicrhau bod pobl ar gael yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi'r ysgolion i ddefnyddio'r fframwaith. Felly, mae'r unigolion hynny'n cael eu nodi ar hyn o bryd fel y bydd cymorth yno i ysgolion yn y ffordd y maen nhw'n defnyddio'r fframwaith a sut y gallan nhw lunio eu gwaith o'r safbwynt hwnnw.
Rydych chi yn llygad eich lle: nid yw cwnsela traddodiadol mewn ysgolion yn briodol i'n plant ieuengaf. Holl ddiben cwnsela yw eich bod yn gallu gwneud rhai newidiadau yn eich bywyd eich hun, ac nid yw gallu plentyn pum mlwydd oed neu chwech oed i wneud hynny, wrth gwrs—yn briodol. Felly, er imi ddefnyddio'r enghraifft o gwnsela traddodiadol yn fy natganiad agoriadol, mae awdurdodau lleol hefyd wedi bod yn defnyddio dulliau gwahanol i gefnogi plant iau, boed hynny'n ddulliau sy'n seiliedig ar chwarae, er enghraifft, neu'n therapi teuluol a dulliau teuluol, yn ogystal ag ysgolion yn sicrhau bod mwy a mwy o'n hymarferwyr yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Ac mae'r fframwaith yn rhoi'r rhyddid hwnnw i ysgolion ddod yn ymarferwyr ar sail trawma. Y defnydd o raglenni anogaeth yn ein sectorau cynradd—y gwyddom ni fod pob un ohonyn nhw'n arbennig o effeithiol ymysg ein plant ieuengaf.
Ac, wrth gwrs, mae rhai ysgolion yn dewis defnyddio rhywfaint o'u grant datblygu disgyblion i geisio cefnogi addysg plant gyda dulliau arloesol. Ddoe ddiwethaf, roeddwn yn Ysgol Gynradd Parc y Rhath, lle maen nhw'n cymryd rhan mewn rhaglen sy'n cyflwyno ci i'r ysgol, ci therapi, a'r plant yn ymgysylltu mewn gwirionedd, yn cerdded y ci yn y parc lleol, ac mae'r cwnselydd yn annog y plentyn i siarad am ei heriau â'r ci ac mae rhyngweithio mewn gwirionedd yn llwyddiannus iawn. Gwn fod yr ysgol wedi'i ddefnyddio i gefnogi plentyn sydd wedi cael profedigaeth yn ystod y pandemig, nid o COVID—yn anffodus, roedd gan fam y plentyn ganser terfynol ac mae hi wedi marw—ac mae'r ci wedi bod yn wirioneddol ddefnyddiol mewn ffordd ddi-her i'r plentyn hwnnw fynegi ei deimladau. A chwrddais â phlentyn ddoe oedd wedi bod allan yn cerdded y ci, y mae ei rieni'n weithwyr rheng flaen y GIG, ac mae effaith y pandemig ar y plentyn hwnnw wedi ei wneud yn bryderus iawn ynghylch diogelwch ei fam a'i dad, oherwydd eu bod ill dau'n feddygon ac mae wedi bod yn poeni llawer am iechyd a diogelwch ei fam a'i dad. Felly, mae dulliau arloesol iawn ac mae ysgolion yn cymryd hyn o ddifrif.
Yn olaf, a gaf i ddweud bod yr adran addysg a'r adran iechyd yn benderfynol o weithio ar y cyd ar y prosiect hwn? Ac mae'r adnoddau yr ydym ni wedi gallu eu rhoi yn y rhaglen wedi dod o'r ddwy gyllideb. Rwy'n derbyn eich pwynt am dryloywder, weithiau, y gallu i ddilyn effaith y mewnbynnau hynny, ond byddwn yn parhau, rwy'n siŵr, yn y Senedd nesaf—nid chi a fi, ond pobl eraill—i drafod sut y gellir sicrhau'r tryloywder hwnnw. Ond rwyf wedi bod yn falch iawn o'r cydweithio adrannol yr ydym ni wedi gallu ei gyflawni a'r gallu i harneisio adnoddau o'r ddwy linell gyllideb er mwyn gallu gwella'r gwasanaethau hyn.
Diolch am y datganiad. Hoffwn i hoelio sylw ar ddau fater penodol. Dwi'n gwybod eich bod chi'n cytuno ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n defnyddio dulliau ataliol wrth ymdrin â materion iechyd meddwl, a thra bod angen, wrth gwrs, ymateb i broblemau, mae'n bwysig hefyd gweithredu i atal problemau cyn iddyn nhw ymddangos.
Ac felly, mae angen mynd i'r afael ag un o achosion sylfaenol y problemau iechyd meddwl, ac mae tlodi yn un ohonyn nhw. Mae'n bwysig i ni gofio bod plant a phobl ifanc difreintiedig yn fwy tebygol o ddioddef o broblemau iechyd meddwl, ac felly bod mynd i'r afael â thlodi, drwy nifer o fesurau, yn ffordd effeithiol o atal problemau iechyd meddwl cyn iddyn nhw ymddangos. Mae ymchwil yn dangos bod plant sy'n mynd yn llwglyd yn llawer mwy tebygol o ddioddef o bryder—anxiety—a straen—stress—difrifol. Ac mae yna gyswllt hefyd wedi cael ei brofi rhwng newyn a thlodi mewn bywyd cynnar ag iselder a hunanladdiad yn nes ymlaen. Ac yn ychwanegol i hyn, er mwyn gweld twf ymennydd iach mewn plentyn, mae'n rhaid darparu gofynion maeth penodol iddyn nhw. Mae'r rhain yn cynnwys bwydydd sydd yn cynnwys sinc, fitamin D, haearn, seleniwm, protein, ïodin a maetholion allweddol eraill. Fel y gwyddoch chi, mae Plaid Cymru o blaid ehangu cymhwysedd ar gyfer cinio ysgol am ddim i blant i 70,000 o blant, ac yn y pen draw i bob plentyn, er mwyn sicrhau bod plant yn cael bwyd iach o leiaf unwaith y dydd. Felly, fy nghwestiwn i ydy hyn: onid ydy prydau ysgol am ddim angen bod yn gwbl ganolog i strategaeth iechyd meddwl a lles lleoliadau addysg unrhyw Lywodraeth oherwydd yr holl fanteision ataliol?
A'r ail faes dwi eisiau edrych arno fo ydy'r maes ôl-16. Mae cymorth iechyd meddwl yn allweddol mewn ysgolion, ond mae o hefyd yn hanfodol bod darpariaeth briodol yn parhau ym mhob lleoliad ôl-16, ac un maes sydd mewn perygl o gael ei ddiystyru ydy dysgu seiliedig ar waith a lles prentisiaid. Mae gan brentisiaid, yn ogystal â'r straen ychwanegol o gyflawni cymhwyster ar ôl cwblhau eu fframwaith, y pryder ychwanegol ynghylch cyflogaeth yn y dyfodol, ac yn ystod COVID mae'r pryder yna'n siŵr o fod wedi cael ei gynyddu, efo 1,690 o brentisiaid wedi cael eu rhoi ar ffyrlo llawn ers dechrau'r flwyddyn, gan ychwanegu at y pwysau. Felly, fy nghwestiwn olaf i, a'r ail gwestiwn: oes yna ddigon o gefnogaeth ar gael i'r grŵp penodol yma o ddysgwyr?
Diolch, Siân, am y pwyntiau yna. Er nad wyf yn anghytuno o bell ffordd â phwysigrwydd maeth i blant a'r swyddogaeth bwysig y mae hynny'n ei chwarae yn eu haddysg, rwy'n credu mai bod ychydig yn naïf yw credu y gall hynny, a hynny ar ei ben ei hun, fynd i'r afael â heriau hybu llesiant ac iechyd meddwl da yn ein hysgolion. A gaf i ddweud, un o'r pethau y gwyddom ni sy'n achosi llawer iawn o straen ac afiechyd meddwl yw diffyg cymwysterau, ac felly mae sicrhau bod plant yn cael hyfforddiant rhagorol ac yn gwneud cynnydd academaidd gwirioneddol mewn ysgolion yn hanfodol bwysig? Ac mae'n bleser gennyf ddweud fy mod bellach newydd gymeradwyo i swyddogion y buddsoddiad mwyaf erioed yn y grant datblygu disgyblion—y llinell gyllideb unigol fwyaf, fel y dywedais i, a gafodd y rhaglen benodol honno erioed. Wrth siarad ag athrawon am hynny, maen nhw'n bryderus iawn bod yr arian hwnnw'n parhau i lifo i'r ysgol ar ôl yr etholiad nesaf oherwydd ei fod wedi bod yn sylfaenol yn eu gallu i gefnogi plant o'n cefndiroedd tlotaf.
O ran prydau ysgol am ddim, mae'r Aelod yn gwbl ymwybodol—gwn ei bod—mai ni oedd rhan gyntaf y Deyrnas Unedig i ymrwymo i ariannu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol, ac y bydd y cymorth hwnnw'n parhau yn y flwyddyn academaidd hon hyd at y Pasg y flwyddyn nesaf. Mae'r adnoddau sydd ar gael i'n partneriaid mewn llywodraeth leol nid yn unig yn ceisio talu costau ciniawau ysgol am ddim, ond gwyddom, i lawer o'r teuluoedd hyn, y bydden nhw wedi bod yn cael brecwast am ddim tra'r oedden nhw yn yr ysgol hefyd, ac felly—. O ran symiau ariannol i deuluoedd, unwaith eto, dyma'r gorau yn y Deyrnas Unedig. Rydym ni wedi addo parhau i adolygu meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim, ond mae ein teuluoedd sydd â'r angen mwyaf yn cael eu cefnogi gan y rhaglen honno. Mae'r teuluoedd hynny hefyd yn cael eu cefnogi, wrth gwrs, gan ein cyfrif mynediad Grant Datblygu Disgyblion, ac rwy'n falch iawn eto eleni ein bod wedi cynyddu nifer y grwpiau blwyddyn sydd ar gael i gael cymorth yn y rhaglen honno, fel y gall teuluoedd mewn ysgolion uwchradd bellach wneud cais am bob blwyddyn y mae eu plant yn yr ysgol uwchradd. Ac, wrth gwrs, er bod yr adnoddau hynny wedi'u defnyddio'n draddodiadol i brynu eitemau o wisg ysgol, mae'r rhaglen honno hefyd yn caniatáu i rieni brynu eitemau o offer a chyfarpar fel y gall eu plant fynd i'r ysgol gan deimlo'n gwbl ffyddiog bod ganddyn nhw, fel y dywedais i, y wisg ysgol a'r offer sydd eu hangen arnyn nhw fel nad ydyn nhw'n wahanol i'w cyfoedion ac nad oes ganddyn nhw ddiffyg adnoddau sy'n eu dal yn ôl.
O ran y sector addysg bellach, mae'r Aelod yn hollol gywir—mae angen inni sicrhau parhad o ran cymorth i blant a phobl ifanc wrth iddyn nhw symud drwy addysg, a dyna pam yr ydym ni wedi sicrhau, fel y dywedais i yn fy natganiad, ein bod wedi buddsoddi'n helaeth yn y sector addysg bellach ac yn y sector addysg uwch fel y caiff myfyrwyr eu cefnogi. Bydd gan lawer o'n darparwyr dysgu seiliedig ar waith, wrth gwrs, gysylltiadau â'u darparwr addysg bellach lleol, fel rhan o'u prentisiaeth, a byddem yn disgwyl i'r colegau hynny sy'n gweithio gyda darparwyr dysgu seiliedig ar waith sicrhau bod y bobl ifanc hynny'n cael y cymorth y mae arnyn nhw ei angen. Rwy'n cydnabod ei bod wedi bod yn flwyddyn arbennig o heriol i rai o'r myfyrwyr hynny. Mae eu gallu i gwblhau cymwysterau wedi bod yn anoddach gan nad ydyn nhw wedi gallu bod yn eu gweithleoedd traddodiadol neu nad ydyn nhw wedi gallu talu am yr oriau sydd eu hangen arnyn nhw i ennill eu cymwysterau, a'n disgwyliad yw y bydd colegau addysg bellach yn gwneud popeth o fewn eu gallu i'w cefnogi. Rydym ni wedi rhoi arian ychwanegol ar waith i'r dysgwyr galwedigaethol hynny gael eu dwyn yn ôl i'r coleg fel grŵp blaenoriaeth, ac, yn wir, i'w cefnogi os bydd eu cyrsiau'n rhedeg drosodd i'r flwyddyn academaidd nesaf i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi drwy gydol hynny.
Fel y dywedais i, rydym ni hefyd wedi cynyddu'n sylweddol y buddsoddiad mewn cymorth iechyd meddwl i'n prifysgolion, ac, unwaith eto, i dynnu sylw at arfer gorau, yn y gogledd, roeddwn i wrth fy modd o glywed y bore yma mewn cyfarfod gyda Phrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam sut y maen nhw yn gweithio'n galed i fod y brifysgol gyntaf sy'n seiliedig ar drawma, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y Deyrnas Unedig, gan gydnabod yr angen i gefnogi eu dysgwyr a'u myfyrwyr. Felly, nid dull ysgol gyfan yn unig yw hwn, mae'n ddull system wirioneddol gyfan.
Gweinidog, gan mai hwn fydd ein cyfle olaf i ffeirio geiriau yn y Senedd hon, roeddwn eisiau manteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch o galon ichi am eich gwaith yn y maes hwn, sydd wedi cyflawni cynnydd mor sylweddol yn y Senedd hon. Mae eich ymgysylltiad â'm pwyllgor wedi'i wreiddio mewn parch at werth pwyllgorau'r Senedd, wedi'i ysgogi gan eich ymrwymiad i iechyd meddwl plant a phobl ifanc, ac mae wedi bod yn adeiladol ac yn gynhyrchiol iawn. Fel y gwyddoch chi, yr hyn sydd wedi ysgogi fy ngwaith yn y maes hwn yw penderfyniad i achub bywydau ifanc. Nid oes gennyf amheuaeth na fydd ymgorffori iechyd meddwl ar wyneb Bil y cwricwlwm, addysg rhyw a pherthnasoedd cynhwysol gorfodol ar gyfer pob disgybl, a'r dull ysgol gyfan ar gyfer iechyd meddwl yn gwneud cyfraniad enfawr at achub bywydau ifanc yng Nghymru, ac ni ellir cael gwaddol mwy sylweddol na phwysicach na hynny, ac rwy'n diolch i chi am hynny.
Os gaf i droi yn nawr at gwestiwn am y dull ysgol gyfan, ac ystyried eich ateb i Suzy Davies, a oedd yn galonogol iawn ynghylch swyddogaeth Estyn o ran sicrhau bod y fframwaith, sy'n fframwaith rhagorol, sydd wedi'i wreiddio mewn perthynas gref, yn cael ei weithredu, a gaf i ofyn yn benodol am ysgolion uwchradd? Fel y gwyddoch chi, yn rhy dda o lawer, mae llawer o ysgolion cynradd eisoes yn dda iawn yn y gwaith hwn, ac mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo, ond mae gennym daith hirach i fynd arni o ran ein hysgolion uwchradd. Pa gamau penodol ydych chi wedi'u cymryd a'u rhoi ar waith i sicrhau y gallwn ni wneud y newid seismig hwnnw, mewn gwirionedd, wrth ddarparu'r dull ysgol gyfan hwn yn ein hysgolion uwchradd? Diolch.
Diolch, Lynne, yn gyntaf oll am eich geiriau caredig. Rwy'n dyfalu bod bwrw prentisiaeth cyn dod yn Weinidog am ryw 16 neu 17 mlynedd ar bwyllgorau efallai'n rhoi persbectif i chi nad yw bob amser yn bresennol, weithiau. Drwy ymgysylltu â chi a'ch pwyllgor, rwy'n credu ein bod wedi cyflawni mwy na phe bai'r Llywodraeth wedi ceisio symud ar hyd y llwybr hwn ar ei phen ei hun yn unig. Ac a gaf i ddweud, i chi y mae llawer o'r diolch am hynny, eich ymrwymiad personol, sy'n mynd y tu hwnt i ymrwymiad gwleidyddol yn unig i'r agenda hon, ac, wrth gwrs, dim ond yr ychydig ofn yr oeddech yn peri i mi weithiau, ofn yr hyn a allai ddigwydd pe na baem ni'n cyflawni pethau. Ond mae'r tensiwn creadigol hwnnw rhwng y Senedd a'r Llywodraeth yn rhywbeth y dylem ni geisio ei wella bob amser, oherwydd mae'n arwain at well canlyniadau polisi i bobl Cymru. Ac wrth gwrs i'r rheini ohonom sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect hwn ers 1999, dyna'r hyn yr oeddem ni'n bwriadu ei gyflawni, a hoffwn feddwl mai dyna'r hyn yr ydym ni wedi'i wneud yn ein perthynas, Lynne, dros y pum mlynedd diwethaf.
Roeddech chi yn llygad eich lle wrth siarad am y sector uwchradd. Byddwch yn ymwybodol o'r gwaith thematig sydd eisoes wedi'i wneud gan Estyn sy'n sôn am y gwahaniaethu, yn aml, rhwng y sector cynradd a'r sector uwchradd, a'r angen i sicrhau bod ein hymarferwyr uwchradd yn gyfarwydd iawn â'r newidiadau biolegol syml y mae ein pobl ifanc yn mynd trwyddyn nhw yn ystod y glasoed a sut y mae angen inni gofio hynny yn ein dulliau gweithredu yn y system ysgolion uwchradd. Ac rwy'n sicr y gwnes i wrth eistedd ar y grŵp gorchwyl a gorffen, ddysgu llawer ac, yn wir, addasu fy arddull rhianta fy hun gartref gyda'r ddealltwriaeth ddyfnach honno.
Wrth gwrs, weithiau nid yr ysgolion uwchradd eu hunain sy'n gyfrifol am y pwysau a roir arnyn nhw ond y Llywodraeth. A dyna pam y mae'n bwysig iawn ein bod nid yn unig yn newid ein cwricwlwm, bod gennym nid yn unig arolygiaeth ddysgu a dull gwahanol o arolygu, ond mae angen i ni fel Llywodraeth newid y ffordd yr ydym ni'n dwyn ysgolion i gyfrif am eu perfformiad. Yn y gorffennol, rydym ni wedi dwyn ysgolion i gyfrif am eu perfformiad—oherwydd mae angen gwneud hynny, nid oes dianc rhag hynny, mae'r gwaith y maen nhw yn ei wneud yn rhy bwysig iddyn nhw beidio â chael eu dwyn i gyfrif—ond maen nhw wedi'u dwyn i gyfrif ar set mor gul, gul o fesurau. Ac, er mor bwysig yw'r mesurau hynny, os nad yw COVID wedi dysgu dim byd arall i ni, mae wedi dangos bod ysgol yn rhan lawer ehangach a llawer mwy o fywydau plant na dim ond y culni yr ydym ni wedi dwyn ysgolion i gyfrif yn ei gylch. Felly, mae hefyd yn ymwneud â newid ein cyfundrefnau atebolrwydd fel Llywodraeth o ran sut ffurf sydd ar lwyddiant mewn ysgol uwchradd a sut ffurf sydd ar arfer da mewn ysgol uwchradd, ac, yn amlwg, bydd sicrhau bod y dull ysgol gyfan yn rhan annatod o ddulliau mewn ysgolion uwchradd yn bwysig iawn, wrth symud ymlaen.
Ac a gaf i dawelu meddwl pobl drwy ddweud bod dadl ffug ac artiffisial, weithiau, yn cael ei chyflwyno sef y gallwch naill ai gael rhagoriaeth llesiant neu y gallwch gael rhagoriaeth academaidd. O mam bach, does dim byd pellach o'r gwir. Yr hyn y mae'r holl astudiaethau'n ei ddangos yw, os oes gennych lesiant da yn yr ysgol, ar gyfer disgyblion a chyfadran, mae hynny mewn gwirionedd yn arwain at fwy o gyrhaeddiad addysgol. Felly, nid yw hwn yn fater o 'naill ai/neu' na 'neis i'w gael'; mae hwn yn floc adeiladu hollol hanfodol ar gyfer hyrwyddo lefelau uwch o gyrhaeddiad addysgol i'n holl blant.
Ac yn olaf, David Rees.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i gofnodi hefyd fy niolch am eich stiwardiaeth o'r portffolio addysg dros y pum mlynedd diwethaf? Mae'r datganiad yr ydych chi newydd ei wneud yn dangos eich ymrwymiad i lesiant ac addysg ein plant ifanc, ein pobl ifanc, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Edrychaf ymlaen ac rwy'n gobeithio bod yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud yn dwyn ffrwyth, oherwydd mae gennyf brofiad, yn anffodus, fel sydd gan fy etholwyr, o enghreifftiau pan nad yw llesiant plant ifanc ac iechyd meddwl plant ifanc wedi cael sylw llawn yn ystod y pandemig hwn, yn enwedig plant yn yr ysgol gynradd. Fel y gwyddom ni, gall materion iechyd meddwl weithiau amlygu eu hunain fel materion ymddygiad hefyd, ac felly gall newidiadau mewn ymddygiad, yn aml gartref, nid o reidrwydd yn yr ysgol, achosi anawsterau i deuluoedd. Rwy'n gwybod am riant a aeth i ysgol i ofyn am help gyda'r newidiadau yn yr ymddygiad hynny o ganlyniad i rai o brofiadau COVID a bod gartref, a dywedwyd wrtho, 'Nid oes gennym ni wasanaethau ar gael i chi.' Ac ni chafodd y rhiant hwnnw'r cymorth hwnnw, ac felly mae angen i ni sicrhau bod y gwasanaethau ar gael i helpu rhieni gyda phlant, mewn ysgolion cynradd yn arbennig, a hefyd pan fyddan nhw'n symud i ysgolion uwchradd—y cyfnod pontio hwnnw hefyd—i sicrhau bod y gwasanaethau hynny yno fel nad yw rhieni'n wynebu'r heriau gartref oherwydd bod y system wedi methu â darparu a chefnogi'r plentyn yn y lleoliadau addysg. Felly, cyn ichi adael eich swydd ar 6 Mai, a allwch roi sicrwydd imi y byddwch yn sicrhau bod gan bob awdurdod lleol ddigon o adnoddau ar waith i sicrhau na fydd plant y mae angen y cymorth hwnnw arnyn nhw a rhieni sy'n gofyn am y cymorth hwnnw yn cael eu gwrthod?
Diolch, David, am eich geiriau caredig. A gaf i ddweud ei bod yn ddrwg iawn gennyf glywed am y profiad y mae eich etholwr wedi'i gael? Pe byddech yn fodlon rhoi mwy o fanylion i mi, yna gallaf eich sicrhau y byddaf yn gofyn i swyddogion fynd ar drywydd hynny gydag awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot a byddwn yn falch iawn o wneud hynny, oherwydd yr hyn yr ydym yn ei wybod yw pan fydd rhieni yn gofyn am gymorth, weithiau mae hynny'n ein rhoi ni mewn sefyllfa agored iawn fel oedolion. Gwyddom y gall cyfaddef weithiau ein bod yn cael trafferth neu angen help, yn enwedig pan fo hynny'n rhywbeth mor bersonol â rhianta, wneud i chi deimlo'n agored iawn, iawn i niwed, ac rydych yn poeni am gael eich barnu ac ar yr un pryd yn poeni'n fawr am yr hyn sy'n digwydd i'ch plentyn. Felly, mae'n rhaid i'r ymateb cychwynnol fod yr ymateb cywir y tro cyntaf, fel nad yw pobl yn gwangalonni rhag ceisio cymorth. Ni allaf wneud sylw, oherwydd nid wyf yn gwybod manylion llawn yr achos, ond yr hyn y mae'n rhaid i ni ei gydnabod hefyd yw, er y gallwn ddisgwyl yn realistig i ysgolion reoli rhywfaint o achosion yn yr ysgol, weithiau efallai y bydd angen cymorth ar deulu neu blentyn sydd y tu hwnt i'r cymwyseddau y gellid eu disgwyl yn yr ysgol, a dyna pryd y mae awdurdodau addysg lleol ac awdurdodau lleol yn gyffredinol, ac weithiau mewn partneriaeth â'r gwasanaethau iechyd, angen sicrhau gwasanaethau cofleidiol y gall yr ysgol gyfeirio atynt, oherwydd weithiau mae angen asiantaeth allanol sydd y tu hwnt i'r ysgol i fod yno i gynorthwyo rhiant neu i gynorthwyo plentyn.
Felly, fel y dywedais, ni allaf wneud sylw, oherwydd nid wyf yn gwybod y manylion llawn, ond gallai hynny fod yn wir, bod angen dod â gwasanaethau eraill i mewn i gefnogi'r teulu. Ond, David, gallaf eich sicrhau ein bod yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau, yn enwedig wrth i ni ddod allan o'r pandemig—a, bobl bach, gobeithio ein bod ni yn dod allan o'r pandemig—y byddan nhw'n barod i ymateb mewn dull systemau cyfan, nid dim ond gadael y cyfan i ysgolion, ond i sicrhau bod gwaith ieuenctid, mewnbwn gan y gwasanaethau cymdeithasol, a phartneriaethau gyda sefydliadau eraill ar gael i roi cymorth i deuluoedd os oes ei angen arnyn nhw. Oherwydd rydych yn llygad eich lle—nid wyf yn credu bod plant yn gynhenid ddrwg; mae ymddygiad yn cael ei sbarduno gan rywbeth ac mae angen i ni gefnogi hynny, ac yn aml mae rhywfaint o darfu gartref neu bethau sydd wedi bod yn digwydd gartref yn arwain at yr ymddygiad yn yr ysgol, ac mae angen i ni sicrhau bod cefnogaeth i'r teulu fynd i'r afael â'r hyn sydd wedi bod yn digwydd fel y gellir mynd i'r afael â'r materion ymddygiad hynny. Mae llawer o ysgolion yn gwneud hynny'n dda iawn, ond nid yw addysg, fel democratiaeth, David, byth yn dod i ben. Felly, bydd bob amser mwy o waith i Weinidog addysg, pwy bynnag fydd yn ddigon ffodus i fod yn y swydd, i'w wneud.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.