2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 24 Mawrth 2021.
Symudwn at gwestiynau'r llefarwyr yn awr, a daw’r cyntaf y prynhawn yma gan lefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ail gam o'r gronfa adferiad diwylliannol gan roi ychydig mwy o sicrwydd i'r sector celfyddydau a diwylliannol. Mae yna un agwedd y mae'r sector wedi ei chodi efo mi yn barod, sef hygyrchedd y cynllun. Oes gennych chi gynlluniau yn eu lle i sicrhau bod y broses ymgeisio yn un deg, yn enwedig i unigolion sydd ddim â'r modd i ennill y ras, fel petai, a dwi'n sôn yn benodol am unigolion efo anableddau neu salwch sydd yn eu gwneud hi'n anodd llenwi ffurflenni yn sydyn, a hefyd unigolion sydd â chyfrifoldebau gofal neu waith ac felly sy'n methu bod ar gael i eistedd o flaen y cyfrifiadur am amser penodol?
Ac yn ail, o ran y gronfa, mae ysgolion perfformio wedi methu â gwneud defnydd llawn o gymorth sydd ar gael gan y Llywodraeth ar draws y sectorau gwahanol. Mae'n debyg nad ydyn nhw'n ticio'r bocsys angenrheidiol i fanteisio ar y cronfeydd sydd wedi cael eu sefydlu. Felly, wnewch chi ystyried ehangu'r sail mynediad at y gronfa adferiad diwylliannol yn yr ail gam yma er mwyn gwneud yn siŵr y gall y sefydliadau unigryw a phwysig yma dderbyn cefnogaeth?
Diolch yn fawr, Siân. Yn gyntaf, dwi jest more blês ein bod ni wedi gallu cyhoeddi'r arian ychwanegol yma. Dyw hwn ddim yn rhywbeth sydd yn digwydd yn Lloegr yn yr un modd, ac, yn sicr, mae'r help rŷn ni wedi gallu ei roi i bobl sydd yn llawrydd—freelancers—yn rhywbeth sydd yn wirioneddol wedi cael ei werthfawrogi achos does dim o hynny yn digwydd yn Lloegr. Yn sicr, roeddwn i'n ymwybodol yn ystod y cyfnod cyntaf fod yna broblemau achos roedd cymaint o bobl ac roedd y broses yn anodd i rai pobl o ran cyrraedd mewn pryd. Erbyn i ni fynd trwy'r camau i gyd, roeddem ni'n hyderus bod pob un a oedd eisiau ac angen ymgeisio wedi cael y cyfle i wneud hynny. Felly, wnaeth neb golli mas. Efallai, yn y rownd gyntaf ac erbyn diwedd y cyfnodau gwahanol, fe fyddwn ni wedi sicrhau bod pob un a oedd angen ymgeisio wedi cael y cyfle i wneud hynny. Felly, dwi'n gobeithio na fyddwn ni'n gweld y broblem welon ni yn ystod y tymor cyntaf, nid o achos unrhyw broblemau a oedd yn bwrpasol, ond jest o achos capasiti'r system i 'cope-io'. Felly, rŷn ni mewn sefyllfa wahanol nawr. Rŷn ni'n gwybod pwy oedd wedi trio y tro cyntaf, so fe fydd e lot yn haws achos bydd y wybodaeth yna i gyd gyda ni. Felly, dwi'n gobeithio bod hygyrchedd y broses lot yn well hefyd.
A diolch yn fawr am ofyn am yr ysgolion perfformio. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o hynny, ac felly mi af yn ôl i ofyn beth yw'r sefyllfa gyda'r rheini.
I droi at faes arall sydd yn rhan o'ch dyletswyddau chi, sef digwyddiadau mawr, dwi ar ddeall fod y Llywodraeth wedi comisiynu adroddiad annibynnol am y strategaeth digwyddiadau mawr. Dwi'n deall bod gwaith wedi cychwyn ymhell cyn i'r pandemig ein taro ni a'i fod o wedi cael ei gwblhau hefyd ond nad ydy'r adroddiad wedi cael ei gyhoeddi. Fedrwch chi egluro pam nad ydy'r adroddiad wedi'i gyhoedd ac a fedrwch chi roi rhyw fath o flas o beth oedd yn yr adroddiad yna? Ac a fyddwch chi yn ei gyhoeddi fo—rydw i'n gwybod nad oes llawer o amser ar ôl rŵan cyn y cyfnod etholiad—neu a fydd yr adroddiad yma yn aros ar y silff i gasglu llwch?
Diolch yn fawr, Siân. Fel ŷch chi'n ymwybodol, mi wnaethon ni gomisiynu hwn cyn i'r pandemig daro, ac, yn amlwg, os oes yna unrhyw beth wedi cael ei effeithio gan y pandemig, digwyddiadau mawr yw hynny. Felly, i raddau, rhan o'r broblem yw y gwnaeth lot o'r adroddiad gael ei ysgrifennu cyn y pandemig, ac felly, yn amlwg, mae angen addasu nawr yn wyneb beth sy'n digwydd gyda'r pandemig, achos mae'r help sydd ei angen ar y sector nawr yn hollol wahanol i beth fyddai wedi bod ei angen cyn y pandemig. Felly, rŷn ni wedi gofyn i'r awdur ystyried hynny ac, felly, mae’r adroddiad yn dal i fod yn nwylo'r awdur, ac rŷn ni'n aros i'r awdur ddod nôl atom ni o hyd cyn ein bod ni'n gallu cyhoeddi'r adroddiad yna. Ond dwi'n gobeithio—. Dwi wedi bod yn pwyso i gael yr adroddiad yna wedi cael ei gyhoeddi ers tipyn nawr.
Felly, gobeithio y caiff o weld golau dydd ac y gwnawn ni weld yn union beth ydy'r argymhellion ar gyfer cyfeiriad y gwaith yma i'r dyfodol.
Jest i droi yn olaf at yr angen, rydw i'n credu, am strategaeth gwbl newydd ar gyfer y celfyddydau a'r sector diwylliannol yng Nghymru, dwi'n meddwl y bydd cynnal diwydiant creadigol bywiog ac arloesol efo cefnogaeth dda yn helpu Cymru i addasu i'r dirwedd ôl-COVID-19 mewn sawl ffordd. Ond y broblem ar hyn o bryd ydy bod adrannau'r Llywodraeth yn gweithio mewn seilos, ac, wrth symud at y Senedd nesaf, mae angen i'r celfyddydau, ein hiaith ni, yr iaith Gymraeg, a'n treftadaeth ni fod yn bwysig ar draws Llywodraeth, ac mae angen gosod y materion yma—y Gymraeg, y celfyddydau, diwylliant, chwaraeon—wrth wraidd polisi cyhoeddus a gweithredu gan Lywodraeth ganol a llywodraeth leol a'u tynnu nhw i mewn i ddatblygu economaidd, maes iechyd, addysg, yr amgylchedd ac yn y blaen. Ydych chi, felly, yn cytuno, o ran y celfyddydau yn benodol, fod angen cyfeiriad strategol, holistaidd, newydd a chynhwysol er mwyn datblygu’r sector yma i fod yn wirioneddol wrth wraidd popeth mae'r Llywodraeth yn ei wneud?
Wel, dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod ni wedi cyhoeddi Cymru Creadigol, ein bod ni wedi symud ymlaen gyda'r project yna, ein bod ni wedi deall bod y diwydiant yma yn rhywbeth sydd yn cyfrannu mewn ffordd aruthrol i'n heconomi ni—. Os ŷch chi'n edrych ar y cynnydd o ran nifer y bobl sydd yn gweithio yn y celfyddydau, mae tua 50 y cant o gynnydd wedi bod yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae e wedi bod yn gynnydd aruthrol, ac, wrth gwrs, mae yna le inni ehangu yn fwy. Un o'r pethau rŷn ni wedi ei wneud yw canolbwyntio ar geisio sicrhau bod hyfforddi yn y lle cywir, a dwi'n meddwl bod yna le inni fynd ymhellach ar hynny. Dwi'n deall beth ŷch chi'n dweud o ran y perygl ein bod ni'n gweithio mewn seilos, ac, yn sicr, dwi'n gobeithio, os byddwn ni i gyd yn dod nôl y tro nesaf, y bydd hwn yn rhywbeth lle byddwn ni'n gweld mwy o waith ar draws y Llywodraeth.
Yn sicr o ran y Gymraeg, dwi wedi cymryd papur i'r Cabinet yn ddiweddar i danlinellu'r ffaith bod yn rhaid inni fynd lot ymhellach nag ŷn ni wedi mynd hyd yn hyn a bod yn rhaid inni sicrhau bod yna gyfrifoldeb ar bob adran y tu fewn i'r Llywodraeth i brif ffrydio'r Gymraeg. Wrth gwrs, rwy'n gobeithio, pan fyddwn ni'n dod nôl, y bydd yna raglen weithredu newydd ac y bydd yna ddisgwyl i bob adran yn y Llywodraeth gyfrannu mewn rhyw ffordd i ddangos beth maen nhw'n ei wneud o ran symud pethau ymlaen ynglŷn â'r Gymraeg.
Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, a gaf fi ddechrau drwy sôn am yr ymgysylltiad rydym wedi'i gael? Rwyf wedi mwynhau cysgodi'r briff hwn. Cawsom sesiynau briffio yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf ar yr heriau diwylliannol sy’n ein hwynebu o ran darparu cyllid. Fodd bynnag, hoffwn siarad am iechyd meddwl a chefais fy nghalonogi gan eich cyfeiriadau yn gynharach at y sector cyrff anllywodraethol. A wnewch chi ymuno â mi i ganmol pobl ifanc sydd o ddifrif ynglŷn â'u hiechyd meddwl, yn ogystal â derbyn y cymorth sydd ar gael gan ysgolion a sefydliadau fel y Sgowtiaid, sydd hefyd yn cymryd rhan yn y gwaith hwn bellach?
Diolch yn fawr iawn, David, a diolch am yr holl waith rydych wedi'i wneud nid yn unig ar y portffolio hwn, ond hefyd am eich gwaith dros gymaint o flynyddoedd. Rydych wedi bod yn gonglfaen go iawn i ddatblygiad y sefydliad hwn, a hoffwn ddiolch yn bersonol i chi am bopeth rydych wedi'i wneud, yn anad dim am sicrhau bod y Blaid Geidwadol wedi aros gyda datganoli, a gobeithio y byddant yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol. Felly, diolch yn fawr iawn, David, am bopeth rydych wedi'i wneud. Rydych wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol ryfeddol i Gymru.
Ond hefyd, hoffwn achub ar y cyfle hwn i sôn am—rwy'n gobeithio nad oes ots gennych, oherwydd rydych yn sôn am y gwaith a wnaed i gadw mewn cysylltiad ar ochr ddiwylliannol pethau—y gwaith rhagorol a wnaed gan fy nghyd-Aelod Dafydd Elis-Thomas yn ystod ei gyfnod rhyfeddol. Mae'n ffordd mor wych iddo orffen gyrfa fel gwleidydd etholedig sydd, wrth gwrs, wedi rhychwantu degawdau lawer, ac mae ei gyfraniad i fywyd Cymru wedi bod yn wirioneddol ryfeddol. Bydd y llyfrau hanes yn cael eu hysgrifennu ryw ddydd, ac rwy'n gobeithio y byddant yn nodi cyflawniad anhygoel ei waith dros gymaint o flynyddoedd, yn gyntaf oll, rwy’n credu, fel yr Aelod ieuengaf yn Nhŷ’r Cyffredin, wedi iddo fynd yno pan oedd oddeutu 27 oed, treuliodd flynyddoedd lawer yn y siambr honno, heb golli unrhyw gyfle i hyrwyddo achos datganoli Cymreig, ac yn sicr, gwnaeth cyfraniad aruthrol yma yn y sefydliad hwn, yn anad dim fel Llywydd, gan roi ei stamp ei hun ar y rôl honno, ond hefyd, wrth gwrs, gan orffen ei yrfa wleidyddol yn y sefydliad hwn yn hyrwyddo'r achosion y gwn ei fod yn eu caru cymaint.
So, diolch yn fawr iawn, Dafydd, am bopeth rwyt ti wedi ei wneud drosom ni yma yn y Senedd ond hefyd dros ein gwlad ni.
David, diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn ar bobl ifanc hefyd. Wrth gwrs, mae'n hanfodol fod pobl ifanc o ddifrif ynglŷn â'u hiechyd meddwl. Rwy'n falch iawn fod cymaint ohonynt o ddifrif am hyn bellach. Ymddengys eu bod yn trafod y mater lawer mwy. Credaf fod hwn yn gyfnod anodd iawn i bobl ifanc. Mae llawer ohonynt heb fod gyda'u ffrindiau ers amser maith, maent wedi bod heb y drefn ddyddiol roeddent wedi arfer â hi, ac wrth gwrs, y peth arall na fu'n rhaid i'r un ohonom ni ymdopi ag ef pan oeddem yn ifanc yw gorthrwm llwyr y cyfryngau cymdeithasol. Credaf fod hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni fod o ddifrif yn ei gylch a rhaid inni helpu'r plant hyn i ddatblygu gwytnwch yn wyneb rhywbeth nad oedd yn rhaid i'r un ohonom ni ei wynebu mor ifanc. Gwn ein bod wedi rhoi cymorth sylweddol i helpu pobl ifanc. Gwn fod angen i ni wneud mwy, ond gallaf eich sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwbl glir fod angen inni wneud mwy o gynnydd eto yn y maes hwn nag a wnaethom hyd yma, gyda'r dull ysgol gyfan a'r dull system gyfan ac wrth gwrs, diwygio ein cwricwlwm, sydd, wrth gwrs, ag iechyd meddwl yn ganolog i'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni.
Diolch am eich ateb caredig, Weinidog, ac yn sicr, hoffwn ategu'r deyrnged a roesoch i Dafydd Elis-Thomas.
Rwyf hefyd am ganmol Mind, sy'n gweithio'n agos gyda Hafal a sefydliadau eraill. Credaf fod y sector iechyd meddwl yn rhagorol yn ei waith cydweithredol—mae'r cyrff ymbarél yn effeithiol iawn am eu bod yn gweithio gyda'i gilydd. Un o'r prif bethau y maent yn gofyn inni ganolbwyntio arnynt—ni waeth pa blaid a ddaw'n Llywodraeth nesaf Cymru—yw'r angen am ymgyrch gwrth-stigma. Nawr, rwy'n siomedig yn yr ystyr fod hyn wedi'i godi yn holl etholiadau'r Cynulliad a'r Senedd yn y gorffennol, mae'n debyg, ac mae'n dal i fod yn broblem go iawn. Felly, a wnewch chi ategu fy ngobaith y bydd pwy bynnag sy'n Llywodraeth ym mis Mai yn rhoi hyn ar frig y rhestr?
Yn sicr, David, ac a gaf fi ddweud wrthych mai un o'r pleserau o fod yn y swydd hon oedd cyfarfod yn rheolaidd â'r sefydliadau trydydd sector sy'n gwneud gwaith mor wych yn ein cymunedau, ac mae Mind a Hafal yn ddau o'r sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol arwyddocaol? Un o'r pethau allweddol i mi yw bod yn rhaid i ni sicrhau nad mesur sut rydym yn taro targedau o ran amserlenni yn unig a wnawn. Rhaid inni gael ymdeimlad o sut beth yw'r canlyniadau yn sgil yr ymyrraeth, ac felly mae gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud yn gwbl allweddol, ac yn sicr rhywbeth roeddwn yn hapus iawn i'w wneud yn gynharach yr wythnos diwethaf oedd siarad a gwrando ar blant sy'n rhan o gyngor iechyd ieuenctid Caerdydd a'r Fro a hefyd, ar y penwythnos, y grŵp rhanddeiliaid ieuenctid cenedlaethol, oherwydd rwy'n credu o ddifrif fod gwrando ar bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn gwbl hanfodol, oherwydd mae angen inni wybod ganddynt hwy beth sy'n gweithio, ac os yw'n gweithio.
Ond yn sicr, o ran y stigma, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod ni fel Llywodraeth wedi penderfynu ein bod am barhau i gefnogi Amser i Newid Cymru. Cefais fy synnu'n fawr fod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi penderfynu torri'r rhaglen honno ynghanol pandemig. Roedd yn benderfyniad syfrdanol gan y Llywodraeth Geidwadol yn fy marn i, ond gallaf eich sicrhau y byddwn yn parhau i ymladd y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth sydd wedi newid yn ystod y pandemig—fod pobl yn fwy parod i siarad am eu pryderon ac i sylweddoli y gallant estyn allan a bydd pobl yn deall bod hyn yn bendant yn rhywbeth nad yw'n anghyffredin mwyach.
Mae'n ymddangos ein bod wedi colli David Melding am ei drydydd cwestiwn. David, a allwch chi fy nghlywed?
Gallaf, rwyf wedi cael fy ailgysylltu. A allwch chi fy nghlywed, Ddirprwy Lywydd?
Gallaf, mae hynny'n iawn. Mae gennych un cwestiwn arall fel llefarydd.
Af ymlaen at fy nghwestiwn olaf. Torrodd y cysylltiad pan oedd y Gweinidog yn mynd i ymosod ar y Blaid Geidwadol rwy'n credu—
Yn erbyn y blaid Dorïaidd, sy'n adeg dda i'ch cysylltiad dorri, David.
Rwy'n credu eich bod yn canolbwyntio ar blaid y DU yn hytrach na Phlaid y Ceidwadwyr Cymreig, ond nid wyf eisiau diwedd cas i fy nghwestiynau. A gaf fi ddweud fy mod wedi cael fy annog gan gyfranogiad Llywodraeth Cymru gyda'r Comisiwn Elusennau yn y rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau, y gwyddoch efallai eu bod yn edrych ar gyfrifon segur, yn y bôn, ac yn ceisio trosglwyddo'r arian hwnnw lle bo'n briodol at ddibenion elusennol gweithredol. A ydych yn cytuno â mi y dylai elusennau iechyd meddwl gael blaenoriaeth uchel iawn wrth hyrwyddo'r rhaglen ragorol hon sy'n cael ei rhedeg gan y Comisiwn Elusennau?
Yn bendant, David. Byddwn yn cytuno â chi fod hynny'n gwneud synnwyr llwyr, y dylid cyfeirio rhywfaint o'r arian hwnnw at yr elusennau iechyd meddwl hynny. Felly, byddwn yn eich cefnogi yn hynny o beth.
Diolch yn fawr iawn unwaith eto, David.
Diolch yn fawr am bopeth rydych chi wedi'i wneud i ni yng Nghymru hefyd.