– Senedd Cymru am 3:37 pm ar 8 Mehefin 2021.
Felly, rŷn ni'n symud ymlaen i eitem 4. Yr eitem yna yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar statws preswylydd sefydlog yr Undeb Ewropeaidd. A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rydym yn agosáu at 30 Mehefin, sef dyddiad cau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer ceisiadau y cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE. Dwi'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt Llywodraeth Cymru a'r gefnogaeth rydym ni'n ei darparu o hyd i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yma yng Nghymru.
Mae Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn ofynnol i holl ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir a oedd yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 wneud cais i gynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE erbyn dydd Mercher 30 Mehefin 2021, er mwyn sicrhau eu statws i barhau i fyw a gweithio yma. Nid yw hon yn sefyllfa yr oeddwn i eisiau gweld dinasyddion yr UE ynddi. Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau ers tro byd ac wedi galw ar Lywodraeth y DU i ymestyn y dyddiad cau ac o leiaf i ystyried effaith barhaus y pandemig, ac rwyf wedi ysgrifennu'n ddiweddar at Kevin Foster AS ar y mater hwn.
Fodd bynnag, rwy'n ddiolchgar bod Llywodraeth y DU, yn dilyn galwadau niferus gan Weinidogion Cymru, ar 1 Ebrill wedi newid ei chanllawiau gweithiwr achos y cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE i wneud darpariaethau ar gyfer ceisiadau mwy cymhleth ac i roi disgresiwn i weithwyr achos dderbyn ceisiadau hwyr am resymau rhesymol. Fodd bynnag, er mod i'n croesawu'r arwydd hwn o hyblygrwydd, nid wyf yn teimlo bod yr ystyriaeth yn mynd yn ddigon pell a byddaf yn parhau i annog Llywodraeth y DU i ddangos yr hyblygrwydd mwyaf posibl ar ôl Mehefin 2021. Ochr yn ochr â hyn, mae'n bwysig ein bod ni gyda'n gilydd yn canolbwyntio ein hegni ar sicrhau bod dinasyddion yr UE yn ymwybodol o'r cynllun, yn ymwybodol o'r dyddiad cau, ac yn cael y gefnogaeth orau bosibl i wneud cais.
Dirprwy Lywydd, rwyf yn falch o adrodd ein bod ni'n gwneud cynnydd. Cyhoeddwyd yr ystadegau chwarterol diweddaraf gan y Swyddfa Gartref ar 27 Mai 2021 yn dangos bod y cynnydd yn parhau yn nifer y ceisiadau o Gymru sy'n cael eu gwneud i'r cynllun a nifer yr unigolion sy'n sicrhau statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog. Hyd yma, gwnaed cyfanswm o 87,960 o geisiadau gan ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru ac, o'r ceisiadau hynny, mae 58 y cant o unigolion wedi sicrhau statws preswylydd sefydlog ac mae 40 y cant wedi sicrhau statws preswylydd cyn-sefydlog. Ond mae pryderon yn parhau o ran y 40 y cant hynny o ymgeiswyr sydd wedi sicrhau statws cyn-sefydlog ac y bydd angen iddyn nhw wneud cais eto am statws preswylydd sefydlog pan fyddan nhw'n gymwys.
Rydym ni'n ymwybodol bod pobl nad ydyn nhw wedi gwneud cais i'r cynllun eto, ac rydym ni'n credu bod nifer o resymau yn cyfrannu at hyn: efallai bod rhai o ddinasyddion yr UE wedi dod i fyw yn y DU flynyddoedd lawer yn ôl ac nad ydyn nhw'n sylweddoli bod angen iddyn nhw wneud cais; efallai bod rhai wedi cael plant tra oedden nhw'n byw yma ac nid ydyn nhw'n ymwybodol bod yn rhaid gwneud ceisiadau ar gyfer pob aelod o'r teulu. Mae eraill yn wynebu rhwystrau a materion digidol wrth gael y dogfennau cywir ac rydym ni'n ymwybodol bod rhai yn cael eu llethu gan y broses. Yn ogystal â hyn, rwyf i hefyd yn dal i bryderu'n fawr ynghylch nifer y dinasyddion sy'n agored i niwed yng Nghymru nad ydyn nhw efallai wedi gwneud cais eto.
Yn anffodus, nid ydym ni'n gwybod maint yr her sy'n parhau, gan nad yw'n bosibl cyfrifo'n gywir nifer dinasyddion yr UE yng Nghymru nad ydyn nhw wedi gwneud cais. Y rheswm dros hyn yw nid yw Llywodraeth y DU yn gwybod faint yn union o ddinasyddion yr UE sy'n gymwys i wneud cais. Rhagwelwyd i ddechrau bod tua 70,000 o ddinasyddion cymwys o'r UE/AEE yn byw yng Nghymru, ond mae amcangyfrifon mwy diweddar gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn awgrymu y gallai fod tua 95,000 o ddinasyddion cymwys yr UE. Er gwaethaf yr ansicrwydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu amrywiaeth helaeth o gymorth yn y gobaith y gall cynifer o ddinasyddion yr UE â phosibl ennill statws sefydlog.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i ddinasyddion yr UE ers 2019, ac rydym ni wedi ymrwymo cyllid i'r flwyddyn ariannol hon i gydnabod maint yr her sy'n parhau. Mae'r gefnogaeth barhaus wedi galluogi ymestyn gwasanaethau cyngor mewnfudo dinasyddion yr UE y tu hwnt i ddyddiad cau cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE, yn ogystal ag ymestyn y gwasanaethau cynghori arbenigol sy'n cael eu darparu gan gwmni cyfraith Newfields, Cyngor ar Bopeth Cymru a sefydliad y trydydd sector Settled. Yn ogystal â'r cymorth uniongyrchol hwn, mae gan Lywodraeth Cymru gynllun cyfathrebu manwl wedi'i dargedu ar gyfer statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE a byddwn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid yn ystod yr wythnosau nesaf i gyfleu negeseuon a chodi ymwybyddiaeth drwy'r cyfryngau cymdeithasol, grŵp cydgysylltu statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE Cymru, radio lleol, erthyglau newyddion a hysbysiadau i'r wasg gan Lywodraeth Cymru. Ac rydym ni'n parhau i ymgysylltu â byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol, swyddfeydd conswliaid, cartrefi gofal preifat, y comisiynydd pobl hŷn, y comisiynydd plant a nifer o sefydliadau trydydd sector arbenigol i dargedu grwpiau agored i niwed a sicrhau, lle nad yw unigolyn o bosibl yn gallu cyflwyno cais, bod gan ei gynrychiolydd neu warcheidwad y gefnogaeth i wneud hynny ar ei ran.
Ond, rydym ni'n canolbwyntio nid yn unig ar ddyddiad cau cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE, ond hefyd ar sut yr ydym ni'n cefnogi ein dinasyddion yn yr UE ar ôl 30 Mehefin. Rydym ni'n rhagweld y bydd angen cefnogaeth barhaus, o ganlyniad i geisiadau hwyr wedi'u gwneud yn unol â chanllawiau gweithwyr achos diweddaraf Llywodraeth y DU, ac rydym ni'n rhagweld y bydd apeliadau, a bydd angen ein cefnogaeth barhaus ar bob un ohonyn nhw. Ond gan edrych y tu hwnt i gymorth y broses, mae gan Lywodraeth Cymru a sector cyhoeddus Cymru rwymedigaeth statudol barhaus yn ogystal â rhwymedigaeth foesol i sicrhau bod hawliau dinasyddion yr UE yn cael eu diogelu ac yn parhau i gael eu cynnal. Rhwymedigaethau y mae'n rhaid i bob un ohonom ni chwarae ein rhan ynddyn nhw, a lle mae rheolau mewnfudo'r DU yn atal rhoi cymorth i'r rhai nad ydyn nhw eto wedi sicrhau statws sefydlog, rydym ni'n gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau ein bod ni i gyd yn gweithredu gyda thosturi a gwybodaeth ynghylch pa gymorth y mae modd ei roi ar waith. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu canllawiau cymorth arian cyhoeddus heb atebolrwydd, ar gyfer awdurdodau lleol, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Rhaid i bob un ohonom ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod dinasyddion yr UE yn cael eu trin yn deg ac yn mwynhau'r un hawliau ag yr oedd ganddyn nhw o'r blaen. Yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i godi ymwybyddiaeth o hawliau dinasyddion yr UE, ac mae eisoes wedi hyfforddi 350 o staff awdurdodau lleol rheng flaen ar hawliau mudwyr a hawliau i wasanaethau. Maes o law, bydd gwybodaeth ychwanegol i ddinasyddion yr UE ynghylch eu hawliau a'u hawliau i wasanaethau yng Nghymru ar gael drwy wefan Noddfa Llywodraeth Cymru.
Rwy'n gobeithio y bydd holl Aelodau'r Senedd yn cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod holl ddinasyddion cymwys yr UE y mae angen iddyn nhw wneud cais am statws preswylydd sefydlog yn cael digon o gyfle i wneud hynny, eu bod yn parhau i gael eu trin yn deg a bod ganddyn nhw'r un cyfle i fanteisio ar yr un hawliau yr oedden nhw'n eu mwynhau pan oeddem ni dal yn yr Undeb Ewropeaidd.
Tair blynedd—. Diolch am eich datganiad chi. Dair blynedd yn ôl, ym mis Mehefin 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chanllawiau cam wrth gam ar wneud cais i gynllun preswylydd sefydlog yr UE, statws preswylydd cyn-sefydlog a sefydlog, i ddinasyddion yr UE, yr AEE a'r Swistir a'u teuluoedd i wneud cais i barhau i fyw yn y DU ar ôl y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, sef 30 Mehefin 2021—drwy gyd-ddigwyddiad, pen-blwydd fy mam. Gwnaethoch chi gyfeirio at gyfanswm y 87,960 o geisiadau sydd wedi'u gwneud gan ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru, y mae 58 y cant ohonyn nhw wedi sicrhau statws preswylydd sefydlog a 40 y cant wedi sicrhau statws preswylydd cyn-sefydlog. Ledled ein DU, mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth y DU yn dangos bod 5,423,300 o geisiadau ac, o'r rhain, bod 5,118,300 wedi'u prosesu hyd yma.
Gwnaethoch chi gyfeirio at bryderon, ynghylch ymgeiswyr sydd wedi sicrhau statws preswylydd cyn-sefydlog ac y bydd dal angen iddyn nhw wneud cais ar gyfer statws preswylydd sefydlog pan fyddan nhw'n gymwys a phobl nad ydyn nhw wedi gwneud cais i'r cynllun eto, ac yr ydych chi'n dweud eich bod chi wedi ysgrifennu at Weinidog y DU, Kevin Foster AS, yn galw am ymestyn y dyddiad cau. Fodd bynnag, sut mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, er enghraifft pan ddywedodd Kevin Foster, dim ond y penwythnos diwethaf,
'Bob dydd, mae miloedd o bobl yn cael statws o dan Gynllun Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE hynod lwyddiannus, a byddwn i'n annog pobl sy'n gymwys i wneud cais cyn gynted â phosibl i sicrhau'r statws y maen nhw'n ei haeddu o dan gyfraith y DU'?
Rydym ni eisoes wedi cadarnhau y bydd hawliau unigolyn sydd wedi gwneud cais i'r cynllun erbyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin ond nad yw wedi cael y penderfyniad erbyn hynny yn cael eu diogelu hyd nes y bydd penderfyniad ar ei gais.
Gwnaethoch chi gyfeirio at gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddinasyddion yr UE ers 2019, y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn falch o'u cefnogi o'r cychwyn cyntaf. Roedd hyn yn cynnwys y gwasanaeth wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo gwladolion yr UE yng Nghymru i gofrestru ar gyfer cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE, wedi'i ddarparu drwy gyngor ar bopeth sir y Fflint, Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro a chyngor ar bopeth Casnewydd. Ac roeddwn i'n falch, er enghraifft, o gynnal gweminar ar y cyd â chyngor ar bopeth sir y Fflint fis Gorffennaf diwethaf i ddinasyddion yr UE, yr AEE neu'r Swistir gael gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael ar gyfer cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE a chyflogaeth a gwahaniaethu.
Mae Gweinidog Llywodraeth y DU, Kevin Foster, wedi dweud bod Llywodraeth y DU hefyd wedi rhoi £22 miliwn i 72 o sefydliadau i helpu grwpiau sy'n agored i niwed ac yn anoddach eu cyrraedd i wneud cais, ac mae gan y Swyddfa Gartref dros 1,500 o bobl yn gweithio ar y cynllun. Sut ydych chi wedi sicrhau bod y cynlluniau sydd wedi'u cefnogi gan Lywodraeth Cymru wedi ategu'r cynlluniau hyn gan Lywodraeth y DU yn hytrach na'u hailadrodd, a pha ffigurau y gallwch chi eu rhannu neu a fyddwch chi'n gallu eu rhannu â ni yn dangos tystiolaeth o ganlyniadau penodol cymorth Llywodraeth Cymru wedi'u dadgyfuno o'r cynlluniau cymorth sydd wedi'u hariannu gan Lywodraeth y DU?
Yn olaf, mae pryder penodol ynghylch nifer y bobl hŷn nad ydyn nhw wedi gwneud cais am statws preswylydd sefydlog ac am rieni nad ydyn nhw'n ymwybodol bod angen iddyn nhw sicrhau bod plant, a hyd yn oed babanod, yn gwneud cais am statws preswylydd sefydlog y mis hwn. Wrth wrando ar un o fy hoff sianelau radio yn teithio i lawr ddoe, Absolute Classic Rock, clywais i hysbysebion Llywodraeth y DU wedi'u targedu at y grwpiau penodol hyn yn unol â hynny. Felly, pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, naill ai gyda Llywodraeth y DU neu'n annibynnol, i gyrraedd y grwpiau hyn o bobl?
Wel, diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, ac rwyf i wir yn eich croesawu'n yn ôl i'r Senedd, ochr yn ochr â mi, ac yn amlwg yn ymdrin â'r materion allweddol hyn sy'n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol. Ac rwy'n diolch i chi nid yn unig am eich cwestiynau a'ch pwyntiau ond hefyd o ran annog pobl i wneud cais, yn amlwg ledled eich rhanbarth a ledled Cymru. A gwn i y bydd holl Aelodau'r Senedd heddiw yn adleisio hynny, rwy'n siŵr.
Yn wir, rydym ni hefyd yn croesawu'r cynnydd sydd wedi'i wneud yng Nghymru, a byddwn i'n dweud bod hynny'n gynnydd sydd wedi'i wneud o ganlyniad i bartneriaeth—nid dim ond partneriaeth â Llywodraeth y DU ond hefyd gyda'n grŵp cydgysylltu cymorth dinasyddion yr UE. Rwy'n credu bod hwnnw'n grŵp pwysig iawn i wneud sylwadau arno, oherwydd mae'n ymwneud â chydgysylltu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyngor a chymorth statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE yng Nghymru. Mae grŵp cydgysylltu statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE yng Nghymru yn dwyn ynghyd y rhai sydd wedi llwyddo i gael grant gan y Swyddfa Gartref, ac yn cyflawni yng Nghymru gyda phartneriaid ac asiantaethau cyflawni allweddol eraill, ac mae'n cydlynu darpariaeth lwyddiannus, sef y cwestiwn yr ydych chi'n ei ofyn i mi, wrth gwrs, o ran y canlyniadau. Mae'n cydgysylltu'r gwaith o ddarparu cyngor a chymorth statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE, gan rannu adroddiadau ar waith cefnogi sefydliadau. Ac rydych chi wedi sôn am Mind, Mind sir y Fflint, ac rydym yn amlwg yn croesawu—. Mae'n ddrwg gennyf, Cyngor ar Bopeth sir y Fflint. Mae Mind hefyd yn sefydliad arall sydd wedi bod yn ymgysylltu'n helaeth hefyd, ac efallai bod sefydliadau Mind yn eich rhanbarth chi'n chwarae rhan, ond yn sicr mae Cyngor ar Bopeth wedi bod yn hollbwysig. Rydym ni wedi ariannu Cyngor ar Bopeth ers 2019; maen nhw'n darparu cyngor cyffredinol ac arbenigol sy'n ymdrin ag amrywiaeth o faterion, ac mae hynny'n cynnwys ceisiadau statws preswylydd sefydlog, lles cymdeithasol, budd-daliadau, a hefyd materion cyflogaeth a gweithle. Nawr, y pwynt hollbwysig i ni yw ein bod ni wedi ymestyn y cyllid hwnnw i'r sefydliadau hyn, nid Cyngor ar Bopeth yn unig, ond hefyd i Mind, TGP Cymru, Settled, Mind Casnewydd—sydd mewn gwirionedd yn cynnwys llawer o sefydliadau Mind, fel y dywedais—Newfields Law, yn ogystal â Chymdeithas Frenhinol Pobl Fyddar, sy'n bwysig o ran cydnabod bod pobl sy'n agored i niwed , fel yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw, pobl hŷn, yn enwedig o ran sicrhau ein bod yn estyn atyn nhw, ond hefyd y comisiynydd pobl hŷn a'r comisiynydd plant yn ymgysylltu'n helaeth yn ogystal â'n strategaeth gyfathrebu. Felly, gweithio i gyflawni, ond mae'r rhain yn ddyddiau tyngedfennol, on'd ydyn nhw, amseroedd tyngedfennol, dyddiau ac wythnosau tyngedfennol wrth i ni symud ymlaen ac mae angen i ni gael y sicrwydd hwnnw gan Lywodraeth y DU y byddan nhw'n hyblyg, byddan nhw'n cydnabod yr anghenion a'r materion sy'n ymwneud â phobl sy'n agored i niwed.
Nawr, rwyf i wedi sôn am fy llythyr at Kevin Foster AS, Gweinidog Ffiniau'r Dyfodol a Mewnfudo, ac rwy'n hapus iawn i rannu'r llythyr hwnnw â'r Aelodau yn dilyn fy natganiad heddiw. Ac rwyf i wedi gofyn am sicrwydd y dylai canllawiau gweithiwr achos y Swyddfa Gartref gynnig y lefel honno o hyblygrwydd a sicrwydd i'r rheini sydd ag achosion cymhleth—am ba reswm bynnag, na allan nhw gyflwyno cais erbyn y dyddiad cau—ac rwyf i wedi annog Llywodraeth y DU i fonitro'r modd y caiff y canllawiau hyn eu cymhwyso a sicrhau ei fod yn parhau'n addas at y diben. A dywedais i hefyd—. Unwaith eto, rwyf i'n ailddatgan fy safbwynt ein bod ni'n teimlo y dylai'r dyddiad cau gael ei ymestyn, dyddiad cau cais statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE ei hun, er mwyn sicrhau, ar 30 Mehefin, nad ydym ni'n cael ein gadael gyda dinasyddion yr UE nad ydyn nhw wedi gallu gwneud y cais hwnnw, ac i gydnabod eu bod nhw mewn cyfnod heriol iawn. Felly, gobeithio, Mark Isherwood, y byddwch chi a'ch cyd-Aelodau hefyd yn trosglwyddo'r neges honno i Lywodraeth y DU.
Siaradwr Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i'r Gweinidog am ei datganiad.
Mae'n bwysig bod pobl sy'n dymuno gwneud cais ar gyfer y cynllun hwn yn cael cynnig cymaint o gymorth â phosibl, ac, fel sydd wedi'i grybwyll eisoes, mae'r dyddiad cau'n prysur agosáu ddiwedd y mis hwn. Yn y Senedd ddiwethaf, ysgrifennodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Lywodraeth Cymru gyda'u hargymhellion. Eu hargymhellion oedd i Lywodraeth Cymru ailadrodd ei chefnogaeth i'r dinasyddion hyn, eu bod yn sicrhau bod y cymorth yn ymestyn y tu hwnt i'r dyddiad cau, eu bod yn darparu cymorth hygyrchedd digidol, a'u bod yn rhoi cymorth i gyflogwyr Cymru i'w helpu i lywio'r system fewnfudo newydd.
Byddai'n ddefnyddiol clywed gan y Gweinidog a yw'r argymhellion hyn wedi'u derbyn a'u gweithredu, ac, os nad ydyn nhw, pam. Roedd problemau eisoes gyda'r cynllun; mae'r pandemig nid yn unig wedi gwneud y materion hyn yn waeth, ond mae wedi cyflwyno heriau newydd i ddinasyddion yr UE sy'n gwneud cais i'r cynllun. Mae'n bosibl gweld hyn yn y nifer sy'n manteisio ar y cais a'r gyfradd ymgeisio. Er gwaethaf y niferoedd uchel o geisiadau cychwynnol i'r cynllun, arafodd y gyfradd ymgeisio yng Nghymru yn ystod y pandemig cyntaf. A wnaiff y Gweinidog ddweud a fu arafu yn y gyfradd ymgeisio yn ystod yr ail don, fel y gwelwyd yn y gyntaf, ac a fydd hyn yn golygu y bydd rhai pobl ar eu colled?
Hefyd, yn ôl llysgennad yr UE i'r DU, mae rhai o ddinasyddion yr UE wedi adrodd bod cyfyngiadau teithio yn golygu na allen nhw gael gafael ar eu dogfennau. Mae angen y ddogfennaeth hon fel prawf eu bod yn preswylio yn y DU. A yw'r Gweinidog yn ymwybodol bod hwn yn fater eang, ac, os felly, a yw'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw wedi cael cynnig neu wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru?
Un maes sy'n peri pryder arbennig i mi yw natur ddigidol yn unig y cais. Mae'r pandemig wedi dwysáu rhaniad digidol y DU, a gan fod y cynllun yn broses ymgeisio ddigidol yn unig, mae'n cynnig heriau penodol i grwpiau agored i niwed y mae'r bwlch digidol eisoes yn effeithio arnyn nhw, fel pobl hŷn a phobl ddigartref. Mae angen i ni gydnabod anghenion y dinasyddion mwyaf agored i niwed, yn enwedig y rheini a allai fod mewn perygl o gael eu hallgáu'n ddigidol. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i geisio goresgyn a phontio'r rhaniad hwn er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl?
Mae adroddiadau pellach wedi amlinellu sut y gallai dinasyddion yr UE yng Nghymru ei chael hi'n anodd bod yn gymwys i gael statws preswylydd sefydlog llawn o ganlyniad i'r pandemig. Rhybuddiodd cyfarwyddwr yr Arsyllfa Ymfudo nad yw pobl sydd â statws cyn-sefydlog yn gwybod bod angen iddyn nhw drosi eu statws drwy ail gais, ac y gallen nhw anghofio'r dyddiad cau heb gael eu hatgoffa. A yw'r Llywodraeth yn ffyddiog ei bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y rhai y mae angen iddyn nhw wneud ail gais yn cael eu hatgoffa i wneud hynny? Yn ogystal, eglurodd llysgennad yr UE i'r DU hefyd fod rhai dinasyddion o'r UE sydd â statws preswylydd cyn-sefydlog wedi gorfod gadael y DU yn ystod y pandemig. Mae'n bosibl bod y dinasyddion hyn wedi cael eu gadael mewn gwahanol wledydd oherwydd cyfyngiadau teithio. Efallai y bydd y dinasyddion hyn yn ei chael hi'n anodd darparu'r dystiolaeth o bum mlynedd o breswylio parhaus sydd ei hangen i gael statws sefydlog. Felly, a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried strategaethau eraill i gefnogi dinasyddion a fethodd y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, neu a fethodd feini prawf ymgeisio, oherwydd yr amgylchiadau a achoswyd gan COVID-19?
Wrth gwrs, mater i'r Swyddfa Gartref a San Steffan yw hwn yn y pen draw, ac rwy'n siŵr y byddwn i'n iawn wrth ddweud efallai nad y system hon a'r system fewnfudo newydd o San Steffan yw'r system yr hoffem ni na Llywodraeth Cymru ei gweld. Fodd bynnag, San Steffan sy'n rheoli'r mater hwn am y tro. O gofio y bydd rhai pobl yn colli'r cynllun hwn oherwydd y rhesymau hyn, pa gymorth arall y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi? Yn olaf, a wnaiff y Gweinidog annog ei chymheiriaid yn San Steffan i sefydlu proses apelio gadarn ar gyfer y bobl nad yw eu ceisiadau wedi'u cwblhau eto oherwydd effaith y pandemig, er mwyn sicrhau, yng ngeiriau'r Prif Weinidog yn ei lythyr agored at ddinasyddion yr UE,
'y bydd croeso ichi bob amser yma yng Nghymru'?
Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Peredur, a diolch yn fawr am y pwyntiau allweddol, pwysig yna. Rwy'n falch iawn eich bod chi hefyd wedi tynnu sylw at adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig. Mae wedi bod yn destun pryder mawr o ganlyniad i'r pandemig. Dyna pam y mae'r dyddiad cau, yr ydym ni eisiau ei gael—. Rydym ni wedi gofyn i Lywodraeth y DU, wedi pwyso ar Lywodraeth y DU, dro ar ôl tro, i ymestyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin 2021, yn enwedig yng ngoleuni'r pandemig, ond yn anffodus roedd hynny'n ofer. Ond rwyf i wedi sôn am hynny, o ganlyniad i lawer o sylwadau—. Yn fy natganiad, gwnes i dynnu sylw at y ffaith bod adolygu a diweddaru canllawiau gweithwyr achos wedi golygu bod gennym ni fwy o hyblygrwydd. Ond mae'n amlwg y bydd yn rhaid i ni fonitro hynny'n ofalus iawn gyda'r sefydliadau hynny yr ydym ni'n eu hariannu, ac ymestyn y cyllid, wrth gwrs, i sicrhau y gallan nhw gefnogi pobl.
Ond er mwyn rhoi rhyw syniad i chi o'r hyn y mae'r hyblygrwydd hwnnw'n ei olygu, mae'n rhoi disgresiwn i weithwyr achos dderbyn ceisiadau hwyr pryd y maen nhw'n credu bod sail resymol, ac rwyf i wedi annog Llywodraeth y DU, ac rwy'n parhau i'w hannog, i fonitro'r canllawiau a sicrhau eu bod yn parhau'n addas i'r diben ar ôl diwedd y mis. Ond wrth gwrs, fel yr ydych chi wedi dweud, nid dyma ddiwedd y broses i lawer. Bydd yn rhaid i'r rhai sy'n cael statws cyn-sefydlog ailymgeisio ar gyfer statws sefydlog pan fydd digon o amser wedi mynd heibio iddyn nhw wneud hynny, ac efallai y bydd angen i'r cymorth y bydd ei angen arnyn nhw barhau. Mae angen i ni sicrhau—er ein bod ni'n amlwg yn gweithio mewn partneriaeth nid yn unig â Llywodraeth y DU, ond gyda'n hawdurdodau lleol a'r holl sefydliadau arbenigol yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw eisoes ein bod ni'n eu hariannu i sicrhau y gallwn ni gyrraedd dinasyddion yr UE mwyaf agored i niwed. Rydym ni'n pryderu ynghylch y nifer na fyddan nhw efallai'n sicrhau'r statws sefydlog, ac efallai bod hynny oherwydd gwahanol resymau. Rhaid i ni, a rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod ac ymdrin â'r sefyllfa honno ar ôl mis Mehefin 2021, oherwydd gallem ni gael miloedd o ddinasyddion yr UE ar ôl heb statws clir yn y DU heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Rwyf i wedi sôn am grŵp cydlynu statws sefydlog yr UE yng Nghymru, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod sut y maen nhw wedi bod yn gweithio ers 2019 i hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd a chyfranogiad yn y cynllun statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr UE yng Nghymru, i wneud y gorau posibl o gyfle dinasyddion i fanteisio arno drwy gyhoeddusrwydd wedi'i ganolbwyntio'n benodol iawn—rwyf i wedi sôn am yr ymgyrch gyfathrebu—ond hefyd nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth bresennol sydd wedi'i chefnogi i gynorthwyo Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gartref i ddod o hyd i atebion i oresgyn unrhyw faterion. I roi rhyw syniad i chi pwy sy'n eistedd ar y grŵp hwnnw: Llywodraeth Cymru, Newfields Law, Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit—sydd, wrth gwrs, yn estyn at bob cymuned ledled Cymru—Cyngor ar Bopeth Cymru, Cymorth Mudwyr, Mind Casnewydd, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, TGP Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Settled, TUC Cymru, a nifer fawr o sefydliadau arbenigol eraill.
Hoffwn i ddiolch i chi hefyd am sôn am y llythyr a ysgrifennodd y Prif Weinidog ar 6 Mawrth eleni. Ysgrifennodd lythyr agored at holl wladolion yr UE sy'n byw yng Nghymru, gan eu hannog i wneud cais ac i wneud hynny cyn y dyddiad cau ym mis Mehefin, wedi'i gyhoeddi mewn 11 iaith. Ac eto, rydych chi wedi rhoi'r cyfle i mi ddweud mai diben y neges gan y Prif Weinidog oedd dweud y bydd croeso i chi, eich teuluoedd, bob amser yng Nghymru. Ac rydym ni eisiau sicrhau bod eich cyfraniad, yr ydych chi'n ei wneud i'n cymunedau, ein gwasanaethau cyhoeddus a'n busnesau, yn cael ei gydnabod fel cyfraniad amhrisiadwy a
'Rwy’n deall pa mor anodd y mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod i chi, gydag ansicrwydd Brexit'.
Dyna'r hyn a ddywedodd yn ei lythyr. Mae'n parhau:
'ac yn awr gyda phandemig parhaus sydd wedi gwneud ymdopi gyda sefyllfa anodd yn anoddach fyth.'
Yn ystod y dyddiau nesaf, byddwch chi'n clywed rhagor o negeseuon o'r fath gan Lywodraeth Cymru.
Jenny Rathbone. Rydych chi wedi'ch dad-dawelu.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddrwg gennyf i, nid oeddwn i'n sylweddoli fy mod i wedi dy nad-dawelu. Diolch yn fawr iawn am y datganiad, Jane Hutt. Rwy'n credu ei bod yn dda iawn gwybod faint o sylw sy'n cael ei roi i'r mater pwysig hwn, yn sicr i lawer o fy etholwyr. Diolch am yr arian yr ydych chi wedi'i fuddsoddi yn Newfields Law, Cyngor ar Bopeth a'r mudiad gwirfoddol, Settled. Roedd gennyf i ddiddordeb mawr yn eich amcangyfrif diweddaraf o'r niferoedd yr effeithir arnyn nhw gan y mesur hwn. Felly, gallwn ni weld, o'r bron i 88,000 o bobl sydd wedi gwneud cais, mai dim ond statws cyn-sefydlog a gafodd 40 y cant o hyd ac mae'n codi'r cwestiwn tybed pam y mae pobl yn cael y statws cyn-sefydlog hwn pan yr ydym ni'n sôn am bobl sydd wedi bod yma ers blynyddoedd maith, ar y cyfan.
Ac, yn ogystal â hynny, mae'n ein galluogi ni i weld bod tua 7,000 o bobl nad ydyn nhw wedi gwneud cais eto, ac efallai nad ydyn nhw hyd yn oed yn ymwybodol ei bod yn ofynnol iddyn nhw wneud hynny. Fel y nododd llefarydd y Blaid yn gynharach, mae llawer o bobl wedi'u hallgáu'n ddigidol ac rwy'n poeni'n benodol am y rheini ar incwm cyfyngedig, naill ai'n byw ar gynilion neu bensiwn bach neu'r rhai ar gyflogau cymedrol, nad ydyn nhw efallai'n sylweddoli nad oes rhaid i chi dalu i wneud cais am statws preswylydd sefydlog, er bod—
A wnewch chi ddod at eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda?
—llawer o daliadau cudd i gasglu'r dystiolaeth ofynnol. Felly, hoffwn i chi ddweud ychydig mwy am sut y mae awdurdodau lleol a'r Llywodraeth yn mynd i ymdrin â phobl nad oes ganddyn nhw efallai hawl i gael arian cyhoeddus. Wyddoch chi, mae llefarydd y Ceidwadwyr yn dweud na fyddan nhw'n cael eu trin fel pobl nad ydyn nhw bellach yn gallu cael gwasanaethau cyhoeddus, ond mae hynny wedi cael ei ddweud o'r blaen o ran pobl eraill. Felly, tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am beth yn union y mae awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i bobl y caiff eu ceisiadau'n eu gwrthod, hyd yn oed os ydyn nhw wedi byw yma ers blynyddoedd.
Diolch yn fawr iawn i Jenny Rathbone am gydnabod pwysigrwydd y datganiad hwn, a hefyd i gydnabod anghenion ac amgylchiadau eich etholwyr, yn enwedig y rheini sydd wedi'u hallgáu fwyaf ac ar incwm is ac nad ydyn nhw wedi cael gweld yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i sicrhau eu bod yn cyflwyno eu ceisiadau.
Hefyd, nid yw llawer o bobl yn ymwybodol, ac efallai am eiliad yn unig y gallaf i egluro'r gwahaniaeth rhwng statws sefydlog a statws cyn-sefydlog. Fel arfer byddwch chi'n cael statws preswylydd sefydlog os ydych chi wedi byw yn y DU am gyfnod parhaus o bum mlynedd, yr enw ar hyn yw 'preswylfa barhaus'. Yn amlwg, er mwyn bodloni'r meini prawf hynny, rhaid sicrhau eich bod chi wedi cael o leiaf chwe mis mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, ac mae eithriadau. Ar ôl cael y statws preswylydd sefydlog hwnnw gallwch chi aros yn y DU cyhyd ag y mynnoch chi, a byddwch chi hefyd yn gallu gwneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig os ydych chi'n gymwys. Ond mae statws cyn-sefydlog yn ymwneud â phan nad ydych chi wedi preswylio am bum mlynedd yn barhaus pan fyddwch chi'n gwneud cais; byddwch chi fel arfer yn cael statws cyn-sefydlog. Mae'n rhaid eich bod chi wedi dechrau byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020, oni bai eich bod chi'n gwneud cais fel aelod agos presennol o deulu dinesydd yr UE a oedd wedi dechrau byw yma erbyn hynny. Felly, mae cymhlethdodau, onid oes, Jenny, ac Aelodau yma, ynglŷn â sut y gallwn ni sicrhau ein bod ni'n dosbarthu'r wybodaeth hon. Rwy'n ddiolchgar am eich cwestiwn, oherwydd mae'n dangos faint yn fwy y mae angen i ni ei wneud yn y dyddiau i ddod i estyn at bobl.
I orffen, hoffwn i ddweud o'r diwedd fod awdurdodau lleol yn ymwneud â hyn yn llawn iawn. Cafwyd rhaglen hyfforddi awdurdodau lleol. Bydd mwy na 400 o unigolion yn cael eu hyfforddi drwy gynllun ar gyfer staff tai a gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau eu bod nhw'n deall hawliau a hawliau mudwyr i wasanaethau ar ôl Brexit. Yn wir, rydym ni wedi rhoi cyllid i barhau â chymorth pontio'r UE i awdurdodau lleol ledled Cymru, felly mae ganddyn nhw gydgysylltydd ym mhob awdurdod a rhaglen gymorth ganolog, wedi'i darparu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Weinidog, dim ond yr wythnos diwethaf dywedodd Kate Smart, prif swyddog gweithredol Settled:
'mae llawer sydd wedi byw yn y DU ers degawdau...dim ond nawr yn sylweddoli bod yn rhaid iddyn nhw wneud cais i'r cynllun.'
Wel, mae fy nheulu Welsh-Italian yn iawn nawr, diolch byth. Maen nhw wedi bod trwy'r broses. Roedd y cyngor a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddefnyddiol, ond roedd aelodau'r teulu yn helpu aelodau eraill o'r teulu hefyd. Ond mae fy nghwestiwn yn syml iawn. Yn yr wythnosau olaf hyn, beth allwn ni ei wneud, fel Aelodau o'r Senedd, i annog pobl i gymryd rhan yn ein hardaloedd lleol?
Diolch yn fawr, Huw Irranca-Davies, a diolch am roi'r enghraifft real a phersonol iawn yna o'ch teulu Cymreig-Eidalaidd a sut y maen nhw wedi cael a chyflawni'r statws preswylydd sefydlog hwnnw, sef yr hyn sydd ei angen i sicrhau bod ein holl ddinasyddion sy'n gymwys, yn gallu gwneud hynny.
Fe wnaethoch chi ofyn cwestiwn penodol am Aelodau'r Senedd. Rwy'n credu, mae'n debyg, fod pob un ohonoch chi eisoes yn meddwl, 'Beth allaf i ei wneud?' Gallan nhw annog etholwyr i wneud cais drwy rannu gwybodaeth. Byddwn i'n dweud bod colofnau yn y papur newydd lleol, a'r cyfryngau cymdeithasol yn hollbwysig. Trowch at eich gwasanaeth Cyngor ar Bopeth lleol. Gofynnwch i gydlynydd UE eich awdurdod lleol beth y mae'n ei wneud. Estynnwch allan yn gyhoeddus, gan eich bod yn Aelod y gellir ymddiried ynddo, yn Aelod o'r Senedd, ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn cysylltu â gorsafoedd radio lleol, papurau newydd lleol, y cyfryngau cymdeithasol, ac yn rhoi'r wybodaeth yr wyf i wedi ei nodi yn fy natganiad.
Diolch, Weinidog. Cyn yr eitem nesaf—.
A gaf i atgoffa'r Aelodau—y rhai nad oedden nhw yma y tro diwethaf—mae gan lefarwyr bum munud yr un ac mae gan Aelodau unigol funud yr un? Byddaf i'n sicrhau eich bod yn cadw i'r amser, gan ei bod yn bwysig ein bod yn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael siarad yn y datganiadau hyn. Gofynnaf hefyd i'r Gweinidogion fod yn gryno yn eu hatebion hefyd, er mwyn i ni allu parhau i ganiatáu'r amser hwnnw.