– Senedd Cymru am 5:29 pm ar 29 Mehefin 2021.
Eitem 8: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig. Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron ni heddiw.
Roedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn gosod y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y pedair lefel rhybudd a ddisgrifir yn y cynllun rheoli coronafeirws. Ers mis Chwefror, a than yn ddiweddar, roeddem ni wedi gweld y darlun yn gwella yng Nghymru. Roedd nifer yr achosion o'r coronafeirws, a nifer yr achosion o bobl a oedd yn gorfod yn mynd i'r ysbyty oherwydd y feirws, wedi bod yn gostwng. Mae hyn wedi ein galluogi i wneud newidiadau sylweddol i'r cyfyngiadau, gan ganiatáu i bobl fwynhau mwy a mwy o ryddid gyda phob adolygiad sydd wedi'i gynnal. Fel mae'r rheoliadau'n nodi, rhaid i'r cyfyngiadau gael eu hadolygu bob tair wythnos. Yn yr adolygiad ar 4 Mehefin, oherwydd y pryderon cychwynnol am ledaeniad yr amrywiolyn delta, penderfynwyd y byddai'r newidiadau i symud i lefel rybudd 1 yn cael eu gwneud cam wrth gam. Dywedom y byddem yn ailedrych ar y sefyllfa o fewn yr un cyfnod adolygu, a chafodd adolygiad ychwanegol ei gynnal bythefnos yn ddiweddarach.
Dwi eisiau ymddiheuro os yw'r araith yma yn swnio'n debyg iawn i'r drafodaeth y cawsom ni yr wythnos diwethaf. Yr wythnos diwethaf, mi roddais i ddiweddariad ar gyhoeddiadau'r Prif Weinidog. Ond, heddiw, mae yna gyfle inni dderbyn yn ffurfiol y newidiadau i'r rheoliadau yna mewn ffordd sy'n ffurfiol, a lle mae'r Senedd yn rhoi ei stamp swyddogol arnyn nhw. Fel y cyhoeddodd y Prif Weinidog ar 18 Mehefin, gan ailadrodd y neges yn ei gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener diwethaf, rŷn ni wedi cytuno i oedi unrhyw lacio mawr tan yr adolygiad ar 15 Gorffennaf. Y rheswm am hyn yw'r cynnydd mewn achosion o'r coronafeirws ledled Cymru, a'r ansicrwydd parhaus am yr amrywiolyn delta. Mae dulliau gweithredu tebyg wedi'u mabwysiadu ledled y Deyrnas Unedig.
Fel y cyhoeddodd y Prif Weinidog ar 18 Mehefin, ac yna ei ailadrodd yn ei gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener diwethaf, rydym ni wedi cytuno i oedi unrhyw lacio mawr tan yr adolygiad ar 15 Gorffennaf. Mae hyn o ganlyniad i'r cynnydd mewn achosion coronafeirws ledled Cymru gyfan, a'r ansicrwydd parhaus ynglŷn â'r amrywiolyn delta. Mae dulliau tebyg wedi'u mabwysiadu ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r oedi hwn yn bwysig am ddau reswm. Yn gyntaf, bydd yn caniatáu i ni frechu mwy o bobl. Byddwn ni'n canolbwyntio ar ail ddosau, yr ydym ni'n gwybod eu bod yn darparu lefel uchel o ddiogelwch yn erbyn yr amrywiolyn delta. Yn ail, bydd yn rhoi mwy o amser i ni ddeall effaith brechu ar y cysylltiad rhwng achosion, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau.
Er ein bod ni wedi penderfynu gohirio'r symudiad llawn i lefel rhybudd 1 tan o leiaf 15 Gorffennaf, rydym ni wedi gwneud rhai mân addasiadau i'r rheoliadau i'w gwneud yn haws eu cymhwyso a'u deall. Mae gwelliant Rhif 13 i'r rheoliadau sydd ger ein bron heddiw yn caniatáu i nifer y bobl sy'n cael ymgynnull mewn gwledd briodas neu bartneriaeth sifil neu wylnos gael ei benderfynu yn ôl maint y lleoliad. Bydd uchafswm nifer y bobl sy'n bresennol yn cael ei bennu gan asesiad risg. Rydym ni'n cydnabod bod y rhain yn adegau arwyddocaol iawn ym mywydau pobl, ac rydym ni wedi ceisio eu blaenoriaethu yn ystod y pandemig lle gallwn ni. Rydym ni hefyd wedi egluro yn y rheoliadau fod lleoliadau adloniant bach ar lawr gwlad—fel cerddoriaeth a chomedi—yn gallu gweithredu ar lefel rhybudd 2 neu'n is. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r sector lletygarwch ehangach.
I wneud hyn, rydym ni wedi cynnwys eithriad i'r cyfyngiadau digwyddiadau, a allai fel arall eu hatal rhag agor gyda mwy na 30 o bobl yn bresennol. Rydym ni wedi egluro ein rheolau ar y mesurau y mae'n rhaid i rywun sy'n gyfrifol am safle a reoleiddir, fel bwyty neu dafarn, eu rhoi ar waith. Yn benodol, rydym ni wedi egluro nad oes angen i unigolyn sy'n gyfrifol am safle sicrhau pellter cymdeithasol o 2m o fewn grŵp o chwech o bobl. Bydd hyn yn berthnasol mewn safleoedd awyr agored neu dan do ac mewn mannau fel ar drên neu mewn digwyddiadau. Rydym ni'n dal i gynghori pobl i ymarfer ymbellhau cymdeithasol lle bo hynny'n bosibl a'u bod yn ymatal rhag ysgwyd llaw a chofleidio. Bydd safleoedd a reoleiddir hefyd yn gyfrifol am gynnal asesiad risg a rhoi ar waith unrhyw fesurau sydd wedi'u nodi i leihau'r posibilrwydd o ddod i gysylltiad â choronafeirws yn y safleoedd hyn. Mae'r un rheoliad ar y mesurau y mae disgwyl i fusnesau eu cymryd wedi'u hailddrafftio i adlewyrchu'r dystiolaeth ddiweddaraf ar reoli risgiau. Mae hyn yn cynnwys ystyried awyru fel mesur lliniaru pwysig. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau statudol diwygiedig i roi esboniad ychwanegol ynghylch y newidiadau hyn.
Ac yn olaf, bydd plant ysgol gynradd yn cael aros dros nos mewn canolfannau addysg awyr agored preswyl—rhan hanfodol o'u profiad addysg. Bydd hyn yn ddull graddol ond, o 21 Mehefin, bydd plant yn eu grwpiau cyswllt ysgol neu swigod dosbarth yn cael aros dros nos yn y canolfannau hyn. Mae'n bwysig ein bod ni'n dileu cyfyngiadau cyn gynted â'u bod yn anghymesur, o ystyried yr effaith gymdeithasol ac economaidd sylweddol y maen nhw'n eu cael ar bobl a busnesau yng Nghymru, ac oherwydd y rheswm hwnnw rwy'n annog Aelodau i gefnogi'r gwelliannau hyn. Diolch, Llywydd
Diolch, Gweinidog, am y rheoliadau heddiw ac am eu cyflwyno. Gallaf i ddweud yn sicr y byddwn ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi'r rheoliadau heddiw sydd wedi'u cyflwyno'n ôl-weithredol, oherwydd mae'n amlwg eu bod yn llacio nifer o gyfyngiadau, gan gynnwys, fel y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, briodasau ac angladdau, sydd, fel yr oeddech chi wedi'i ddweud, yn adegau bywyd pwysig i deuluoedd. Rwy'n cytuno â'ch holl deimladau ynghylch hynny. Rwy'n falch iawn o weld y rheini yn y rheoliadau presennol hyn.
Rwyf i hefyd yn falch iawn—rwy'n gwybod ein bod ni wedi siarad amdano o'r blaen—ynghylch canolfannau addysgol awyr agored ac aros dros nos. Mae hynny i'w groesawu'n fawr. Y pryder sydd gennyf i—a gobeithio y caiff hyn ei gymryd fel gwers i'w dysgu efallai—yw amser paratoi'r cyhoeddiadau hyn, oherwydd mae angen amser ar lawer o fusnesau i newid eu trefniadau, ac mae ysgolion eisoes yn gwneud trefniadau ymlaen llaw oherwydd rhesymau amlwg. Felly, os oes amser paratoi byr, yna ni fydd amser cyn diwedd y tymor ysgol er mwyn defnyddio'r rheoliad penodol hwnnw. Rwy'n pryderu y bydd rhai ysgolion, efallai o Loegr, sydd fel arfer yn dod i Gymru, yn mynd i Loegr eleni, ac yna byddan nhw'n parhau i fynd i Loegr yn hytrach na dod yn ôl i Gymru.
Rwy'n nodi'r diwygiad i reoliad 16 o'r prif reoliadau, ac rwy'n gweld bod eglurhad yno ar asesiadau risg a gaiff eu gwneud gan bobl sy'n gyfrifol am safleoedd a reoleiddir, gan gynnwys y rheol cadw pellter cymdeithasol 2m. Rwy'n croesawu'r gwelliant penodol hwnnw'n fawr. Rwy'n credu bod hynny'n dda ac yn gywir. Rwy'n sylwi hefyd fod yn rhaid i safleoedd, o dan y gofyniad newydd, sicrhau bod ganddyn nhw ardaloedd sydd wedi'u hawyru'n dda. Byddwn i'n ddiolchgar, efallai wrth grynhoi, os oes gennych chi unrhyw fanylion eraill yn hynny o beth. Rwy'n meddwl yn benodol am fusnes lle efallai, oherwydd strwythur yr adeilad, mae'n anodd iawn gwneud newidiadau, ac a oes unrhyw gymorth busnes ar gael i helpu'r busnesau penodol hynny. Rwy'n siŵr ei fod nid yn unig yn berthnasol i fusnesau, ond i ardaloedd cyhoeddus eraill hefyd.
Byddwn i hefyd yn ddiolchgar pe byddai modd i chi egluro polisi eich Llywodraeth ar leihau lledaeniad COVID mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. Ddoe, gwn fod eich cyd-Weinidog y Gweinidog addysg wedi dweud mai, yn fuan, mater i safleoedd unigol fydd penderfynu ar eu rheolau diogelwch COVID eu hunain yn y dyfodol, ac ni fydd swigod dosbarth na gofyn i ysgolion nodi cysylltiadau agos eu hunain. Gwn o adroddiadau ddoe fod rhai o'r undebau wedi amlinellu y byddai'r polisi hwn yn anymarferol o'u safbwynt nhw, ac y dylai'r penderfyniadau ar ddiogelwch COVID fel y rhain gael eu penderfynu gan glinigwyr yn hytrach nag athrawon. Dyna oedd barn yr undebau ddoe. Felly, byddwn i'n croesawu eich barn a'ch syniadau ar hynny, o ran a ydych chi'n cytuno â safbwynt yr undeb ar hynny, neu a ydych chi, wrth gwrs, yn cytuno â'ch cyd-Weinidog y Gweinidog addysg.
A siarad am ddychwelyd at ryw normalrwydd eto, gallaf weld bod Llywodraeth y DU wedi ailymrwymo eto i'w dyddiad sef 19 Gorffennaf. Mae Llywodraeth yr Alban wedi gwneud yr un peth fwy neu lai ar gyfer 19 Gorffennaf hefyd, ac mae'n sôn ynghylch mynd i lefel 0. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi cael trafodaethau hir ar hyn yn y Siambr hon, ynglŷn â chael dyddiad pendant fel hwnnw. Erbyn hyn, rydym ni'n gweld mwy o heintiau yng Nghymru, wrth gwrs, ond rydym ni nawr ar bwynt lle nad ydym ni wedi gweld unrhyw farwolaethau COVID yn cael eu hadrodd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol am yr wythnos gyntaf ers y pandemig. Wrth gwrs mae cael yr ystadegyn hwnnw yn newyddion cadarnhaol iawn i ni. Hefyd, mae gwelyau cyffredinol ac acíwt sy'n cael eu defnyddio gan gleifion COVID nawr ar eu lefel isaf ers dechrau'r pandemig, yr holl fisoedd hynny yn ôl. Felly, rwy'n gofyn y cwestiynau mae'n debyg yn sgil hynny.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu ffigurau ar gyfer yr amrywiolyn delta yn ddiweddar, sy'n dangos 117 o farwolaethau o 92,000 o achosion o'r amrywiolyn delta. Mae gennyf i amrywiaeth eang o ystadegau yma, na fyddaf i'n mynd drwyddyn nhw, ond, yn y bôn, mae'r ystadegau'n amlinellu os ydych chi wedi cael y ddau frechiad hynny, yna mae'n mynd i fod yn annhebygol iawn y byddwch chi'n mynd i'r ysbyty. Felly, rwy'n gwybod fy mod i'n mynd i swnio'n ailadroddus yma, Gweinidog, ond, rydym ni'n dyheu yn fawr am y dyddiad hwnnw. Rydym ni'n gwybod nawr—newyddion da eto—fod 89 y cant o'r rheini dros 18 oed wedi cael eu brechiad cyntaf yng Nghymru. Mae hynny'n newyddion da, cadarnhaol. Felly, yn hynny o beth, gyda'r holl wybodaeth hon yn dod at ei gilydd, rwy'n gobeithio'n fawr y byddwch chi'n gallu rhoi rhyw syniad i ni nawr pryd y byddwn ni'n cael y dyddiad hwnnw o ran codi'r cyfyngiadau hynny a dychwelyd i ryw radd o normalrwydd. Rwy'n gobeithio, un wythnos pan fyddaf i'n gofyn y cwestiwn hwnnw, y byddwch chi'n gallu rhoi'r dyddiad hwnnw i ni.
Gweinidog, nid normalrwydd i fusnesau yn unig, wrth gwrs, ac addysg, sy'n bwysig, ond mae hefyd yn ymwneud â dod â'r GIG yn ôl i'w gapasiti drwy driniaeth reolaidd a'i alluogi i ymdopi â'r ôl-groniad enfawr sy'n ein hwynebu ni yng Nghymru. Nid oes gennyf i unrhyw amheuaeth y byddwn ni'n parhau i ofyn y cwestiynau hyn drwy gydol adferiad y GIG o COVID-19. Ond rwy'n deall bod GIG Lloegr wedi bod yn cynyddu ei gapasiti'n gyson i leihau'r ôl-groniadau yno, ac y bydd yn gweithio tuag at gapasiti o 115 y cant yn y tymor canolig, i reoli eu rhestrau aros. Mae hefyd wedi gallu sefydlu safleoedd rhydd o COVID ledled byrddau iechyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ddechrau gyda chanolfannau canser. Felly, a gaf i eich holi chi am gapasiti yma yng Nghymru? A oes unrhyw dargedau canran capasiti y byddwch chi'n gweithio tuag atyn nhw yn hynny o beth? Beth ydym ni'n debygol o'i weld yn ystod tymor y Senedd hon? Rwy'n sylwi hefyd eich bod chi wedi amlinellu, o'r blaen, eich pryderon am y 30,000 yn llai o ymholiadau canser a gafodd GIG Cymru—[Torri ar draws.]—hyd yn hyn eleni. Rwy'n cytuno, wrth gwrs—
Dewch ymlaen, Russ.
—gyda hynny hefyd. Ydw i wedi mynd ymlaen yn rhy hir, Llywydd? Dof i ben yn y fan yna, oherwydd mae'r Llywydd newydd yn y gornel fanna wedi dweud wrthyf fy mod i'n mynd dros amser. Gorffennaf yn y fan yna, felly, Llywydd wrth gefn yn y gornel, a gofyn ynghylch cynlluniau byrddau iechyd lleol o ran canolfannau sy'n rhydd o COVID a thriniaeth reolaidd yn hynny o beth hefyd.
Diolch yn fawr iawn, Russell George. Rhun ap Iorwerth.
Ydy'r Gweinidog eisiau ymateb?
Dadl yw hon, nid datganiad. Rwyf i wedi cael pryd o dafod am y ffordd rwy'n cadw amser yn barod; ni fyddaf i'n derbyn pryd o dafod oherwydd fy nealltwriaeth o'r Rheolau Sefydlog ar ddadleuon. Rhun ap Iorwerth, os ydych chi'n dymuno cyfrannu, rwy'n awgrymu eich bod chi'n dechrau nawr, .
Roedd yn fwy o fater o ofyn am eglurhad yn hytrach na rhoi pryd o dafod i chi.
Peidiwch â bod yn glyfar nawr, Mr ap Iorwerth.
Diolch, Weinidog, am y datganiad o gwmpas y rheoliadau newydd yma. Mi fyddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau yma, er mai cyd-destun y rheoliadau yma ydy penderfyniad i beidio â llacio ymhellach. Mi oedd yna gyfle yma i edrych ar ambell i elfen ac i wthio'r ffiniau o beth oedd yn bosib o gwmpas priodasau ac yn y blaen, a dwi'n sicr yn croesawu hynny fel egwyddor—y dylid bod yn chwilio am beth sy'n bosib i'w wneud yn ddiogel drwy'r amser. Felly, dwi'n croesawu hynny.
Mae gen i jest rhyw bedwar neu bump o gwestiynau yn sydyn. Rydych chi'n sôn eto am bwysigrwydd awyr iach ac awyru—dwi'n croesawu hynny yn fawr iawn. Beth am godi sbec y masgiau rydyn ni'n disgwyl i weithwyr iechyd a gofal eu gwisgo? Mae yna dal bwysau ar y Llywodraeth i fynnu gwisgo masgiau FFP3—mi fyddem ni'n gwerthfawrogi diweddariad ar hynny. Gaf i ofyn am eglurhad ar rywbeth ddywedoch chi wythnos yn ôl? Mi ddywedoch chi:
'O ran myfyrwyr, mae'n glir ei bod hi'n bosibl i bobl gerdded i mewn a chael eu brechlyn. Mae'n bwysig bod pobl yn deall hynny—dos cyntaf neu'r ail ddos hefyd.'
Mae'n gwaith ymchwil ni'n awgrymu mai dim ond dau fwrdd iechyd, Hywel Dda a Betsi Cadwaladr, sy'n cynnig walk-ins—canolfannau walk-in—mor syml â hynny heb apwyntiad. Posibl allwch chi egluro beth ydy'r sefyllfa, ac os nad ydy hyn ar gael ym mhob ardal bwrdd iechyd, ydy o'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn ei wthio, achos dwi'n meddwl ei fod o angen cael ei ddatblygu fel rhan o'r cynnig i ddod â mwy o bobl i mewn mor fuan â phosibl i gael y brechiad.
Mi wnaf i nodi yn y fan hyn anfodlonrwydd mawr, mawr ar draws y byd addysg yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog addysg ddoe. Fel Gweinidog iechyd, lle mae dealltwriaeth o reolau a chysondeb y ffordd mae'r rheolau'n cael eu gweithredu ar draws Cymru'n bwysig yn y frwydr yn erbyn y feirws, a fyddech chi'n galw ar y Gweinidog addysg i edrych eto ar ambell i elfen o'r hyn ddywedodd o ddoe o ran rhoi pwerau yn nwylo ysgolion unigol a'r dryswch allai ddigwydd yn sgil hynny?
Ac mae gen i gwestiwn hefyd ynglŷn â'r Gweinidog iechyd newydd yn San Steffan. Oes cyfarfod wedi digwydd yn barod, neu a ydych chi wedi ceisio cael cyfarfod efo'r Gweinidog iechyd newydd, yn benodol i ofyn ynglŷn â'i fwriad penderfynol o i wthio ymlaen, mae'n ymddangos, efo'r dyddiad i godi pob cyfyngiad ar 19 Gorffennaf yn Lloegr, ac i ystyried goblygiadau hynny i Gymru, a'r drafodaeth fydd ei hangen rhyngoch chi fel Gweinidogion iechyd ynglŷn â hynny?
Ac yn olaf, y Gymraeg—yr ap newydd sydd i alluogi pobl i ddangos tystysgrif i gadarnhau eu bod nhw wedi cael eu brechu. Mi glywsom ni'r Prif Weinidog yn dweud nad ydy o ar gael yn y Gymraeg. Mi ddylid, bob amser, beth bynnag y cyd-destun, sicrhau bod darpariaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yr un pryd. Mae hwnna'n gwestiwn, ond hefyd gaf i dynnu eich sylw chi at yr anfodlonrwydd mawr a'r ypsét sydd wedi cael ei achosi? Mae nifer o bobl sydd wedi cysylltu efo fi yn gweld eu cerdyn brechu nhw efo'r Gymraeg yn cael ei chroesi allan—yn cael ei lenwi i mewn yn Saesneg, sy'n iawn os nad ydy'r staff yn siarad Cymraeg, ond y Gymraeg yn cael ei chroesi allan. Mae cael brechiad wedi dod yn rhywbeth eithaf emosiynol i lot o bobl, ac mae gweld y Gymraeg yn cael ei thrin yn y ffordd yna wedi achosi ypsét i sawl un sydd wedi cysylltu efo fi.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle i siarad ynghylch yr hyn y mae rhai gweithredwyr yn ei ddisgrifio fel y 'sector anghofiedig', sef canolfannau addysg awyr agored preswyl Cymru. Mae'r diwydiant werth tua £40 miliwn i'r economi, gyda mwy na 1,700 o bobl yn cael eu cyflogi. Cyn COVID, roedd 44 o ganolfannau yng Nghymru, a dangosodd ffigurau ym mis Mawrth fod o leiaf pump wedi cau yn ystod y 12 mis diwethaf.
Yn fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, mae gennyf Antur Bae Morfa, y gwnes i ymweld â hi ddiwedd y mis diwethaf. Gwnaethon nhw ddangos pryderon gwirioneddol ynglŷn â'r ffaith nad oedd ailagor y sector yma yng Nghymru yn adlewyrchu'r ffaith bod gweddill y DU wedi ailagor, gan roi eu busnesau dan anfantais ddilys, fel yr oedd fy nghyd-Aelod Russell wedi sôn yn gynharach. Mewn e-bost yn dilyn fy ymweliad â Bae Morfa, fe wnaethon nhw ysgrifennu:
'Siaradais i ag ysgol yn Swindon ddoe a oedd i fod i ymweld mewn pythefnos. Maen nhw'n gweddïo y gallan nhw ymweld, i'w plant nhw, dyma fydd eu hunig wyliau, mae'n debyg, tan eu bod yn ddigon hen i adael eu cartrefi yn oedolion. Nid yw rhai wedi gweld y môr erioed nac wedi cerdded ar y tywod, ac eto mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wrthod y cyfle hwn i'r plant hyn.'
Mae hyn yn dangos pwysigrwydd y cyfleusterau hyn a'r lleoliadau hyn i addysg plant, oherwydd mae'r hyn yr ydym ni'n ei ddysgu mewn bywyd yn fwy na'r hyn a gaiff ei addysgu i ni mewn ystafell ddosbarth yn unig. Codais i'r mater hwn gyda'r Gweinidog addysg yn dilyn fy ymweliad, a chefais wybod na fyddai'r busnesau hyn yn ailagor nes i Gymru symud yn llwyr i lefel rhybudd 1. Yn yr adolygiad diwethaf o reoleiddiad COVID, symudodd Cymru nid yn llwyr i lefel rhybudd 1, ond yn hytrach symudiad rhannol, gydag ymlacio mewn rhai meysydd. O ganlyniad, nid oedd addysg awyr agored yn rhan o'r adolygiad hwn, ac roedd y ffaith eu bod yn parhau ar gau yr adeg yma yn eu rhoi o dan anfantais o'u cymharu â disgyblion cyfatebol yn Lloegr. Collodd y busnesau hyn yng Nghymru ymweliadau ac efallai na fyddan nhw byth yn eu cael yn ôl, wrth i ysgolion benderfynu mynd â'u disgyblion i ganolfannau addysg awyr agored yn Lloegr. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith bod ysgolion Cymru ar agor, er gwaethaf y ffaith bod y busnesau hyn yn cyflwyno mesurau diogelwch i gynorthwyo ymbellhau cymdeithasol a chaniatáu swigod grwpiau ysgol, ac er gwaethaf yr wyddoniaeth a'r data sy'n dangos bod y risg i'n pobl ifanc yn anhygoel o isel. Roedd yn teimlo, meddai'r busnesau hyn, fod synnwyr cyffredin ar goll pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru y rheoliadau COVID hyn.
Er i Lywodraeth Cymru roi eglurhad bythefnos lawn ar ôl y symudiad cychwynnol i lefel 1 a oedd yn caniatáu i ysgolion cynradd ymweld â'r canolfannau awyr agored preswyl hyn ar yr unfed ar hugain o'r mis hwn, mae'r penderfyniad hwn wedi'i alw'n niwlog gan y diwydiant, ac yn ôl pob golwg nid yw'n cyd-fynd â gweddill y DU. Er y gallai fod yn hawdd meddwl bod y materion hyn ar gyfer y sector hwn bellach wedi'u datrys, gan eu bod wedi gallu ailagor i ysgolion cynradd, nid yw hynny'n wir.
Gweinidog, rwy'n eich annog chi, os gwelwch yn dda, i wneud mwy o waith i egluro'r rheolau ar gyfer y busnesau hyn i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â busnesau eraill ledled y DU fel nad ydyn nhw o dan anfantais mwyach, a hefyd, gan fod y busnesau hyn wedi'u cau am fwy o amser na busnesau cyfatebol yn Lloegr, eich bod chi'n gweithio gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet i sicrhau eu bod nhw'n cael cymorth ariannol priodol. Diolch.
Fel y byddwch yn ymwybodol, Canolfan Iâ Cymru yw’r unig ganolfan iâ sy’n parhau ar gau ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r ganolfan, sydd dim ond nepell o’r Senedd hon, wedi bod ar gau am 15 mis. Y gobaith oedd y byddai hyn wedi newid ar 21 Mehefin, ond penderfynwyd gohirio hyn ymhellach.
Canolfan Iâ Cymru yw’r ganolfan iâ mwyaf modern yn y Deyrnas Unedig. Mae ganddi system rheoli adeiladau fodern i reoli llif awyr iach a gwres i greu pa bynnag amodau sy'n cael eu hystyried yn ddiogel. Nid oes gan lawer o leoliadau dan do systemau o'r fath. Ar ben hynny, mae y ganolfan iâ gyda nenfwd a chyfaint aer llawer uwch na'r lleoliadau dan do sydd eisoes ar agor fel sinemâu, canolfannau bowlio ac ati.
A allaf ofyn bod ystyriaeth frys yn cael ei rhoi i’r mater hwn, gan ei fod yn cael effaith andwyol ar bawb sydd yn gysylltiedig â'r ganolfan? Mae’n ymddangos yn anghyson iawn bod ein sglefrwyr iâ ni yn medru teithio i Loegr i hyfforddi mewn canolfannau llawer llai modern, a methu â defnyddio’r un sydd yma yng Nghymru. Diolch.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl yna.
Diolch yn fawr. Roedd cryn dipyn o faterion yn y fan yna. Fe wnaf i geisio mynd drwyddyn nhw'n gyflym cyn gynted ag y gallaf i. Yn gyntaf oll, ar briodasau, rydym ni bob amser wedi bod yn bryderus iawn am briodasau. Rwy'n gwybod bod llawer o bobl sy'n cynnal busnesau yn y sector hwn wir wedi dioddef yn ystod y cyfnod hwn. Rydym ni hefyd yn ymwybodol iawn mai dyma'r union fath o le y gallai'r feirws ledaenu ynddo, lle nad yw pobl wedi gweld ei gilydd ers amser maith, felly mae'n rhaid i ni gadw hynny mewn cof, a dyna pam yr ydym ni wedi gorfod cymryd agwedd ofalus iawn at ailagor priodasau. Ond rydym ni'n falch iawn ein bod ni wedi gallu symud ychydig yn gyflymach yn y maes hwnnw gyda'r diwygiadau penodol hyn.
O ran yr amser paratoi, mewn byd delfrydol, mae'n broblem, onid yw? Nid oes modd trefnu priodas dros nos. Mae angen amser paratoi hwy ar bobl er mwyn trefnu, a'r broblem sydd gennym ni yw ein bod ni'n cael adolygiad tair wythnos. Yr hyn nad ydym ni wedi'i wneud yng Nghymru yw rhoi ymrwymiad hirdymor i'r hyn sy'n debygol o ddigwydd, a hynny oherwydd ein bod ni wedi gwylio'r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr, lle maen nhw wedi gwneud addewidion ac maen nhw wedi'u torri dro ar ôl tro, gan fod y feirws wedi adweithio ac ymateb mewn ffordd wahanol i'r hyn a gafodd ei fodelu. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol y gall pethau newid yn gyflym, ac rydym ni'n cymryd ymagwedd lawer mwy gofalus, oherwydd nid ydym ni eisiau codi disgwyliadau y mae angen eu chwalu wedyn, sef yr hyn sydd wedi digwydd dro ar ôl tro yn Lloegr.
Awyru—rydym ni'n awyddus iawn i danlinellu pwysigrwydd hynny; rwyf i'n falch bod Rhun wedi tanlinellu hynny. Rwy’n credu, yn arbennig, yn yr haf, ei bod yn amser da i atgoffa pobl bod llif aer, mewn gwirionedd, yn ffactor pwysig.
O ran lledaeniad mewn ysgolion, rwy'n credu mai'r hyn y mae'r Gweinidog addysg wedi'i ddweud yw y bydd fframwaith ar gyfer gwneud y penderfyniadau hyn. Nid yw'n fater i bob ysgol benderfynu ar hap yr hyn sy'n mynd i ddigwydd; bydd fframwaith y byddan nhw’n gweithio ynddo a chaiff hwnnw ei ddatblygu yn ystod yr wythnosau nesaf fel ein bod ni'n barod i ddod yn ôl i ysgolion ym mis Medi gyda dealltwriaeth o beth allai'r amgylchiadau gwahanol hynny fod, oherwydd efallai y bydd gennym ni rai rhannau o'r wlad lle mae'r feirws yn rhedeg yn wyllt, a rhannau eraill lle mae'r feirws ar lefel isel.
Nid oes gennym ni ddyddiad terfyn yng Nghymru. Nid ydym ni'n mynd i roi dyddiad terfyn yng Nghymru. Ac roeddwn i'n meddwl ei bod yn ddiddorol iawn mai'r peth cyntaf a wnaeth yr Ysgrifennydd iechyd newydd yn Lloegr oedd cyhoeddi, 'Iawn, dyna ni, mae diwrnod rhyddhau yn dod.' Ac rwyf i wedi ysgrifennu ato, rwy'n falch o ddweud, dim ond i'w groesawu i'w swydd ond hefyd i ddweud pa mor bwysig yw dilyn y data. A dyna'r dull yr ydym ni wedi'i gymryd yng Nghymru. Fel arfer, cawn gyfarfodydd wythnosol o Weinidogion iechyd y pedair gwlad. Nid wyf i wedi clywed bod hynny'n mynd i gael ei ganslo, felly rwy'n tybio y bydd hwnnw'n mynd yn ei flaen.
Rwy'n falch iawn o weld y ffigurau, sydd i'w croesawu'n fawr, yr ydym ni'n eu gweld yng Nghymru o ran y nifer y bobl yn yr ysbyty sydd â COVID erbyn hyn. Rydym ni i lawr i 88 o bobl yn yr ysbyty gyda COVID. Mae hynny 21 y cant yn is na dydd Mawrth diwethaf. Felly, mae'r arwyddion yn edrych yn dda iawn, ac felly—. Mae'n neges eithaf anodd, onid yw, i'w rhoi i'r cyhoedd, i ddweud, 'Mewn gwirionedd, mae cyfraddau'r achosion yn codi, ond maen nhw'n lefelu o ran derbyniadau i'r ysbyty.' Felly, mae'n rhaid i ni feddwl sut yr ydym ni'n mynd i ymdrin â hynny yn ystod yr wythnosau nesaf, ac wrth gwrs, byddwn ni'n cael cyfle i gael ychydig mwy o ddata fel y gallwn ni fod yn gwbl glir ynghylch y sefyllfa. Ond mae'n edrych yn gadarnhaol iawn, mae'n rhaid i mi ddweud.
Ac o ran cael y GIG yn ôl i'w gapasiti, mae pwyslais gwirioneddol ar hyn nawr. Mae'n anodd iawn, oherwydd mae'r cyfraddau'n cynyddu'n sylweddol, a bydd pobl sy'n gweithio yn ein GIG a fydd yn dal COVID yn y gymuned ac yna bydd yn rhaid iddyn nhw hunanynysu. Felly, mae'n rhaid i ni gofio y bydd gweld y niferoedd hynny'n cynyddu yn y gymuned hefyd yn cael effaith yn ein hysbytai, ar y bobl sy'n gweithio yno.
O ran pobl yn gallu cerdded i mewn, fel myfyrwyr, dwi'n gwybod yn sicr fod hynny'n bosibl yng Nghaerdydd, felly bydd yn ddiddorol i weld—. Dwi'n barod i fynd i ffwrdd a jest sicrhau bod y canllawiau'n glir ar hynny, ond dyna fy nealltwriaeth i, a gwnaf i fynd i ffwrdd a sicrhau bod pob un yn ymwybodol o hynny.
O ran tystysgrif yn Gymraeg, wrth gwrs rŷn ni'n siomedig iawn ein bod ni'n methu cael hwnna ar hyn o bryd. Nid ein system ni yw hi. Rŷn ni wedi ei wneud yn glir ers y dechrau gyda Llywodraeth Prydain ein bod ni angen cael hwn yn y Gymraeg hefyd. Mae'r system yn cymryd amser. Does gan yr Alban na Gogledd Iwerddon ddim hwn fel rhan o'u systemau nhw o gwbl eto. Mae dal wythnosau i fynd tan fod eu systemau nhw'n gallu ymuno. Dwi'n flin iawn i glywed am y Gymraeg yn cael ei chroesi allan, a gwnaf i edrych i mewn i hynny i ffeindio mas beth yn union sy'n digwydd. Ond yn sicr dyw hwnna ddim wedi dod fel canllaw oddi wrth y Llywodraeth.
O ran ailagor canolfannau preswyl awyr agored, roeddem ni'n falch ein bod ni wedi gallu agor ar gyfer plant ysgol gynradd, ond mae'n gwbl glir, os ydych chi'n mynd i gael grŵp mawr o bobl at ei gilydd a'u bod yn mynd i aros dros nos, y bydd y siawns y bydd y feirws yn lledaenu yn eithaf uchel. A dyna'r rheswm pam yr ydym ni'n cymryd y mesurau hyn. Nid ydym ni ond yn caniatáu i dair aelwyd wahanol ddod at ei gilydd ar hyn o bryd; os ewch chi ymhell y tu hwnt i hynny, wrth gwrs—. Ar ryw adeg bydd yn rhaid i ni gyrraedd y pwynt hwnnw, bydd yn rhaid i ni ddeall, ond ar hyn o bryd rwy'n credu ein bod ni wedi bod yn ofalus iawn. Rydym ni wedi ceisio ymateb i'r sector drwy ddweud, 'Gallwch, gallwch chi fynd â phlant ysgol gynradd', oherwydd yr union bwyntiau yr oeddech chi wedi'u gwneud. I rai o'r plant hyn, dyma'r unig wyliau y byddan nhw'n eu cael eleni a dyma'r unig gyfle iddyn nhw fynd allan o'r tŷ. Rydym ni'n sensitif iawn i hynny, a dyna pam yr oeddem ni'n awyddus i gymryd y cam hwnnw ymlaen. Ond wrth gwrs, plant cynradd, rydym ni'n gwybod, os ydyn nhw'n dal y feirws, eu bod yn annhebygol iawn o ddioddef yn y ffordd y bydd y plant hŷn. Ac rydym ni, wrth gwrs, wedi rhoi cymorth ariannol.
O ran y ganolfan iâ, rŷn ni wedi gofyn am gyngor penodol ar hwn ac, wrth gwrs, achos tymheredd isel yr iâ, mae'n glir bod y posibilrwydd o ledu'r feirws yn fwy, a dyna pam rŷn ni wedi cymryd yr approach rŷn ni wedi. Ond, wrth gwrs, rŷn ni'n edrych ar y posibilrwydd o sicrhau bod pobl sy'n gweithio yna'n broffesiynol, sglefrwyr iâ proffesiynol, yn gallu gweithio.
Diolch. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Ac felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.