2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 30 Mehefin 2021.
Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr ail argraffiad o 'Diwygio ein Hundeb', cyn ei gyhoeddi ddoe?
Roedd y papur 'Diwygio ein Hundeb' ar gael ar ei ffurf wreiddiol i Lywodraeth y DU, ac mae diwygio'r DU—mae'r fersiwn ddiweddaraf sydd wedi'i chyhoeddi hefyd ar gael i Lywodraeth y DU.
Felly, o'r ateb hwnnw, Weinidog, deallaf eich bod wedi rhannu'r ddogfen â hwy a dim mwy na hynny, yn hytrach na'ch bod wedi cael unrhyw ymgysylltiad ystyrlon â Llywodraeth y DU cyn ichi gyhoeddi'r ddogfen honno mewn gwirionedd. A ydych yn derbyn, ar y naill law, na allwch rygnu ymlaen am yr angen am barch cydradd rhwng dwy Lywodraeth pan nad ydych yn rhoi gwybod i Lywodraeth y Deyrnas Unedig pan fyddwch yn cyhoeddi cynigion sy'n effeithio ar y Deyrnas Unedig ac yn siarad am eich agenda ar gyfer ei dyfodol? Pam eich bod yn meddwl ei bod yn iawn i chi gyhoeddi dogfennau o'r fath heb unrhyw ymgysylltiad er mai Gweinidogion Llywodraeth Cymru eu hunain fyddai'r bobl gyntaf i achwyn pe bai Llywodraeth y DU wedi cynhyrchu dogfen o'r fath, gan awgrymu ei bod yn weithred amharchus? A ydych yn derbyn eich bod yn anghywir i beidio â chael trafodaeth cyn cyhoeddi'r dogfennau hyn ac i beidio ag ymgysylltu â Gweinidogion Llywodraeth y DU ar y mater hwn?
Credaf fod yr Aelod wedi gwyrdroi'r sefyllfa'n fawr, oherwydd mae pob mater yn 'Diwygio ein Hundeb', y ddogfen sydd wedi'i diweddaru, yn un a godir dro ar ôl tro mewn cyfarfodydd rhynglywodraethol a chyda Gweinidogion Llywodraeth y DU. Nid oes unrhyw beth ynddi o gwbl nad yw wedi'i godi dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU. Un o'r rhesymau pam y'i cyhoeddwyd mewn gwirionedd yw oherwydd yr angen llwyr i'w roi ar glawr, a'i roi at ei gilydd yn adlewyrchiad o'r holl faterion a godwyd, materion a godwyd gan Brif Weinidog Cymru, gan Weinidogion eraill, dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU, ond na ddenodd fawr iawn o ymateb yn anffodus.
Rydych yn dweud ei bod yn gwbl angenrheidiol rhoi'r pethau hyn ar glawr a chyhoeddi'r ddogfen hon—dogfen nad yw'n annhebyg, wrth gwrs, i rifyn cyntaf y ddogfen a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl. Pam ar y ddaear y mae Llywodraeth Cymru yn credu bod nawr yn adeg briodol i drafod dyfodol yr undeb, a ninnau newydd ddod drwy gyfnod anodd iawn gyda'r pandemig, mae gennym bobl yn aros—un o bob tri o bobl ar restr aros yn aros dros flwyddyn am eu triniaeth—pan fo gennym blant ysgol yn gorfod dal i fyny â'u haddysg? Onid ydych chi'n credu mai dyma'r pethau y mae pobl Cymru am i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hwy, yn hytrach na siarad am dincera â'r cyfansoddiad, nad yw'n cael unrhyw effaith sylweddol ar eu bywydau o gwbl ar hyn o bryd? Oni chredwch ei bod yn bryd i chi ddechrau rhoi sylw i'r problemau go iawn?
Wel, dyna'r broblem, welwch chi. Rwy'n anghytuno'n sylfaenol â'ch agwedd. Credaf fod y cyfansoddiad yn gwbl sylfaenol yn yr hyn y gallwn ei wneud, sut rydym yn cyflawni'r hyn sydd yn ein maniffestos, sut y gallwn ddarparu gwasanaethau, a sut y gallwn wneud penderfyniadau sy'n effeithio go iawn ar fywydau pobl. Ac mae'n ymddangos mai'r ffaith amdani yw bod y Ceidwadwyr Cymreig, neu'r Blaid Geidwadol yng Nghymru, yn gwadu realiti ar hyn o bryd. Mae yna broblem. Mae yna broblem sy'n cael ei chydnabod ar draws y pleidiau mewn gwirionedd; cafodd ei chydnabod gan y fforwm rhyngseneddol, gyda llawer o Aelodau Seneddol Ceidwadol amlwg yn aelodau ohono, a chynrychiolwyr Seneddau ledled y DU. Roedd yn cydnabod bod argyfwng yn ein strwythur cyfansoddiadol, ac nad yw'n gweithio. Os nad yw'n gweithio, mae'n golygu ei fod yn effeithio'n andwyol ar y bobl ac ar y ffordd y caiff gwasanaethau a phwerau eu gweithredu. Felly, mae'n effeithio ar fywydau pobl. Mae'n effeithio'n uniongyrchol iawn ar fywydau pobl, ac mae'n siomedig iawn fod y Blaid Geidwadol yng Nghymru yn gwadu realiti i'r fath raddau, oherwydd y ffordd o ddatrys unrhyw broblem benodol, yn gyntaf oll, yw cydnabod bod yna broblem. Ac mae yna broblem, ac mae 'Diwygio ein Hundeb' yn ddogfen sy'n ceisio cynnig ffordd o ddatrys y problemau hynny, yn hytrach na'u diystyru yn y ffordd y mae'r Aelod yn ei wneud.
Llefarydd Plaid Cymru.
Nid wyf—
Rydych chi wedi cael eich tri.
Nac ydw fel mae'n digwydd; rwyf wedi cael dau.
Roeddwn i'n meddwl eich bod wedi cael tri.
Cefais ddau.
Roedd yn teimlo fel tri. [Chwerthin.]
A gawn ni edrych? Oherwydd rwy'n siŵr eich bod wedi cael un cyflym iawn ac fe gafodd hwnnw ei ateb yn gyflym. [Torri ar draws.] Fe gawsoch un cyflym iawn ar y dechrau un, Darren.
Do, wir?
Do, mae'n ddrwg gennyf ddweud.
Bydd yn rhaid i chi aros tan y bennod nesaf i glywed diwedd y stori. [Chwerthin.]
Fe wnaethoch chi ofyn tri chwestiwn, gan i chi eistedd ar dri achlysur.
A ydych chi'n siŵr fy mod wedi cael tri? [Torri ar draws.] Nid wyf yn eich credu, ond fe edrychaf i weld.
Os ydw i'n anghywir, Darren, fe wnaf ymddiheuro wedyn, ond rwy'n eithaf sicr i chi gael tri.
Mae'n iawn; rwy'n barod i dderbyn hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhys ab Owen.
Gobeithio bod hynny'n golygu y caf fi bedwar yn awr. [Chwerthin.] Diolch yn fawr—
Na chewch.
—Ddirprwy Lywydd. Dywedodd Rhun ap Iorwerth ddoe lle'r oedd yn credu bod y cynllun yn ymddatod—y broblem sylfaenol gyda'ch bod chi'n diogelu'r undeb yn gyntaf a rhoi pobl Cymru yn ail. Ond heddiw, rwyf am ganolbwyntio ar weithrediad eich cynllun, ac a yw'n ffinio ar iwtopia, fel y dywedodd Martin Shipton y bore yma yn The Western Mail.
Yn gyntaf, hoffwn ganolbwyntio ar Lywodraeth y DU. Yr Ysgrifennydd Gwladol—.
Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol ddweud yn syth bin ddoe ei fod e'n gwrthod eich cynllun. Rydyn ni wedi cael dadl gref heddiw gan Mr Millar yn erbyn y cynllun. Bydd e'n amhosib cyflawni hyn heb Lywodraeth y DU. Gwnaethon nhw wrthod dod i—. Gwnaeth y Swyddfa Gartref wrthod rhoi tystiolaeth i gomisiwn Silk, comisiwn nhw eu hunain. Sut ydyn ni'n mynd i gael Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddod yn rhan o'r cynllun yma? Ydych chi'n aros, ydych chi'n ddibynnol ar i Lywodraeth Lafur ddod unwaith eto yn San Steffan, oherwydd, os ydych chi'n edrych ar etholiadau, os ydych chi'n edrych ar is-etholiadau, dyw hynny ddim yn bosib unrhyw bryd yn fuan? Diolch.
Wel, rydych chi'n codi cwestiwn dilys iawn. Mae'n un y gofynnir i ni dro ar ôl tro. Beth rydych chi'n ei wneud pan fyddwch mewn sefyllfa amhosibl, lle mae gennych Lywodraeth y DU sy'n ymddangos, i bob pwrpas, fel pe bai'n anymwybodol o'r holl brotestiadau, yr holl ddadleuon, pob ymgais a wneir i ymgysylltu, a chanlyniad hynny wedyn yw dirywiad yn y berthynas?
Wel, edrychwch, rwy'n meddwl mai'r peth cyntaf yw hyn: nid yw llywodraethau'n bodoli am byth. Mae llywodraethau'n newid, mae gwleidyddiaeth yn gyfnewidiol, ac mae momentwm gwleidyddol yn newid. Felly, nid wyf yn diystyru, yn gyntaf, pwysigrwydd y ffaith bod yna feysydd lle gallwn wneud gwelliannau, lle gellir ymgysylltu, lle ceir meysydd cyfiawnder, er enghraifft, y gallwn naill ai ymdrin â hwy mewn perthynas â'n pwerau ein hunain neu drwy ymgysylltu. Ceir meysydd lle'r ydym yn ymgysylltu ar hyn o bryd â Llywodraeth y DU mewn perthynas â newid cyfansoddiadol, a chafwyd rhai meysydd eraill mewn perthynas â sicrhau cyfiawnder, er enghraifft.
Ond dyma fy marn i: pan fyddwch mewn sefyllfa amhosibl o'r fath, pan fyddwch yn cydnabod bod problem fod y DU ar fin chwalu—fe welwn beth sy'n digwydd yn yr Alban, a gwelwn beth sy'n digwydd yng Ngogledd Iwerddon, a gwelwn hyd yn oed y pwysau sy'n cronni rhwng y Llywodraeth ganolog yn Lloegr a rhanbarthau Lloegr—i ble'r ewch chi mewn gwirionedd? Ymddengys i mi mai'r ffordd i fynd yw ymgysylltu â phobl Cymru ar y sail mai gyda phobl Cymru y mae sofraniaeth, i ddatblygu consensws a momentwm ar gyfer cefnogaeth, cefnogaeth wleidyddol, ond hefyd i ddarganfod yn union beth y mae pobl Cymru am ei gael ar gyfer eu dyfodol: beth ddylai ddigwydd yng Nghymru, pe bai rhai pethau'n digwydd—beth ddylai natur y berthynas honno fod? Oherwydd credaf mai consensws, os gellir ei adeiladu o ganlyniad i broses briodol o ymgysylltu â phobl Cymru, yw'r grym cryfaf y gall Llywodraeth Cymru ei gael wrth ddadlau dros newid a sicrhau bod newid yn digwydd.
Credwch fi: mae newid yn dod. Y cwestiwn yw rheoli newid mewn ffordd benodol sydd fwyaf buddiol i bobl Cymru. Ond bydd yn rhywbeth a fydd yn cael ei benderfynu yma yng Nghymru. Efallai y ceir comisiynau. Mae comisiwn ar y gweill gan y Blaid Lafur. Rwy'n siŵr y bydd comisiynau a digwyddiadau eraill, a bydd ein proses, a fydd yn broses Gymreig, yn bwydo i mewn i unrhyw brosesau lle gall fod budd i bobl Cymru, ond bydd hefyd yn ceisio adeiladu cynghreiriau â'r rheini sydd hefyd yn gweld yr angen am newid cyfansoddiadol ledled y DU.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Ond mae ail broblem, onid oes? Nid Llywodraeth y DU yn unig sydd ddim yn gwrando. Nid yw eich Plaid Lafur seneddol eich hun yn gwrando ychwaith. Diflannodd yr ymrwymiad i ddatganoli cyfiawnder o faniffesto 2019; yn 2020, ar ôl cyhoeddi adroddiad y comisiwn ar gyfiawnder, dywedodd Chris Bryant, mewn dadl yn San Steffan, ei fod yn erbyn datganoli cyfiawnder, ac mae wedi dweud o'r blaen nad yw datganoli yn fater datganoledig; mae Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid wedi siarad yn erbyn datganoli cyfiawnder yn y gorffennol; mae arweinydd yr wrthblaid wedi bod yn gwbl dawel ar y mater. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei hochr ei hunain, hyd yn oed, i'ch cefnogi gyda'r cynllun hwn?
Wel, rydym yn gweithio ar sail maniffesto Llafur Cymru sydd wedi cael ei gefnogi gan Blaid Lafur Cymru ac sydd wedi'i gymeradwyo mewn etholiad cyffredinol yng Nghymru. Mae Plaid Lafur y DU wedi sefydlu ei chomisiwn ei hun, ac wedi mabwysiadu mandad ar gyfer hynny, sydd, yn fy marn i, yn un o'r safbwyntiau cyfansoddiadol mwyaf radical, yn sicr ers cenedlaethau, ac mae honno'n broses y credaf ei bod yn gadael yr holl opsiynau ar agor ar gyfer diwygio neu'r camau sydd angen eu cymryd yng nghyswllt y materion cyfansoddiadol sy'n dod i'r amlwg yn y DU. Felly, byddwn yn bwydo i mewn i hynny. Byddwn yn cyflwyno ein safbwynt ein hunain fel Plaid Lafur Cymru ac mewn perthynas â'r mandad sydd gennym, ac o ran y gwersi a ddysgir o'r sgwrs y byddwn yn ei chael gyda phobl Cymru.
Diolch yn fawr. Gaf i godi trydedd broblem sydd gyda chi—nid yn unig Llywodraeth y Deyrnas Unedig, nid yn unig eich grŵp seneddol yn San Steffan, ond hefyd gweddill Llywodraethau Prydain? I ddiwygio'r undeb, bydd yn rhaid ichi gael cefnogaeth nid yn unig Llywodraeth San Steffan, ond hefyd Llywodraeth SNP yr Alban, Llywodraeth Gogledd Iwerddon—pwy bynnag fydd mewn pŵer fanna—a hefyd meiri Lloegr. Pa drafodaeth ŷch chi wedi ei chael gyda Llywodraethau eraill a chyda'r meiri? Ac a ydych chi wir am inni gredu bod Llywodraeth yr SNP yn mynd i fod yn cefnogi'r cynigion yma? Felly, Cwnsler Cyffredinol, pan fydd y problemau yma yn dod yn ormod, pan fydd y cynllun yn methu, beth yw'r ail gynllun? Beth yw plan B? Diolch.
Wel, mae gan yr SNP yn yr Alban, os cymerwn hynny'n gyntaf, wrth gwrs, ei fandad ei hun, ac mae'n fandad go iawn gan bobl yr Alban o ganlyniad i etholiad diweddar Senedd yr Alban. Hefyd, lle bu buddiannau cyffredin gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, fe wyddoch wrth gwrs y bu cydweithio agos iawn ar amrywiaeth eang o faterion cyfansoddiadol. Rwyf wedi cyfarfod droeon â chymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban i siarad am rai o'r materion hyn, a lle ceir tir cyffredin, byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni'r amcanion sydd gennym o ran y budd i bobl Cymru, fel y gwnânt yn yr Alban hefyd.
Ar fater y meiri rhanbarthol ac yn y blaen—credaf ei bod yn bwysig iawn cael trafodaethau gyda'r rheini. Mae'r rheini'n ffurfiau ar lywodraeth ddatganoledig; ffurf wahanol iawn a ffurf ad hoc iawn efallai ar lywodraeth ddatganoledig—gwahanol iawn i'r hyn a ragwelwyd gan Kilbrandon yn yr adroddiad yn 1974, a dyna graidd problem lawer dyfnach o ran pam ein bod yn y sefyllfa rydym ynddi yn awr. Ond fel y dywedais yn fy ateb diwethaf, credaf mai'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud yng Nghymru yw ymgysylltu a bod yn glir ynglŷn â ble mae'r consensws yng Nghymru ar gyfer newid, adeiladu ar y consensws hwnnw ac ymgysylltu â'r holl bobl eraill a fyddai'n rhannu diddordeb cyffredin mewn diwygio cyfansoddiadol o'r fath. Fel y dywedais, rwy'n credu bod diwygio cyfansoddiadol yn anochel. Yn anffodus, mae canlyniadau—mae canlyniadau andwyol, os nad ymdrinnir â hyn mewn ffordd flaengar ac mewn ffordd gydlynol. A'r nodwedd fwyaf siomedig yn awr, wrth gyhoeddi'r diwygio yn Llywodraeth y DU—yw ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi claddu ei phen yn y tywod ar y materion gwirioneddol sy'n ein hwynebu ni i gyd ar hyn o bryd.