– Senedd Cymru am 5:43 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Papur Gwyn ar ail-gydbwyso gofal a chymorth. Galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad, Julie Morgan.
Diolch. Fe wnes i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd o ran ein hymgynghoriad ar Bapur Gwyn 'Ailgydbwyso Gofal a Chymorth' ar 9 Chwefror. Roedd y Papur Gwyn yn nodi cynigion ar gyfer gwella trefniadau gofal cymdeithasol er mwyn galluogi'r sector yn well i gyflawni'r weledigaeth sydd wedi'i nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Daeth yr ymgynghoriad 12 wythnos i ben ar 6 Ebrill. Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru erbyn hyn.
Felly, hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch personol i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad. Mae'r crynodeb hwn o'r adroddiad ymatebion yn rhoi trosolwg o'r amrywiaeth gyfoethog a sylweddol o farn a safbwyntiau a gafodd eu cynnig mewn dros 150 o ymatebion. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cydnabod yr heriau a oedd wedi eu nodi yn yr achos dros newid. Roedden nhw'n cytuno ar y cynigion ar gyfer system symlach sy'n seiliedig ar ganlyniadau, yn canolbwyntio ar ansawdd a gwerth cymdeithasol, wedi ei harwain yn strategol ac nid yn adweithiol, ac wedi ei gwreiddio mewn gwaith partneriaeth ac integredig.
Roedd y mwyafrif llethol yn credu bod cymhlethdod y sector yn rhwystr i wella gwasanaethau. Roedd cyfran sylweddol o'r ymatebion yn cytuno bod arferion comisiynu yn canolbwyntio'n anghymesur ar gaffael. Am y rhesymau hyn, roedd cefnogaeth eang i fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth a mwy o bwyslais ar gomisiynu yn ôl ansawdd, canlyniadau, hawliau a lles. Teimlai ymatebwyr y gallai fframwaith cenedlaethol leihau cymhlethdod a dyblygu. Roedd llawer o'r farn y gallai'r fframwaith hefyd annog a hwyluso integreiddio a chomisiynu ar y cyd rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Yn ogystal, disgrifiodd yr ymatebion gyfle pwysig i gryfhau partneriaethau rhwng comisiynwyr, cymunedau a darparwyr i gyd-gynllunio atebion lleol â dychymyg er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i unigolion wrth sicrhau gwerth am arian.
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr o'r farn y dylai'r swyddfa genedlaethol gyfuno grwpiau cenedlaethol presennol lle mae gwerth ychwanegol, er mwyn lleihau dyblygu, cyfuno adnoddau a galluogi gwell effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd. Roedd y safbwyntiau ar leoliad y swyddfa genedlaethol yn amrywio. Nid oedd y rhan fwyaf o ymatebion llywodraeth leol yn cefnogi newid strwythurol, ond roedd eraill o'r farn bod angen i swyddfa genedlaethol fod yn annibynnol ar y Llywodraeth er mwyn dwyn partneriaid i gyfrif a meithrin perthynas â'r farchnad.
O ran byrddau partneriaeth rhanbarthol, roedd dros hanner yr ymatebwyr yn credu eu bod wedi eu cyfyngu gan eu dyluniad a'u strwythur. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr hyn yn dod o'r trydydd sector, y sector annibynnol a gan ddinasyddion. Roedd galwadau am adolygiad ffurfiol o strwythurau ac aelodaeth byrddau partneriaeth rhanbarthol i fod yn rhan o unrhyw ddiwygiad yn y dyfodol. Roedd y rhan fwyaf o gyrff statudol o'r farn bod pwerau deddfwriaethol yn ddigonol i alluogi byrddau partneriaeth rhanbarthol i ymgymryd â'u cyfrifoldebau presennol. Roedd yr ymatebion hyn yn pwysleisio bod partneriaethau yn ymwneud ag ymddiriedaeth a pherthynas, a bod angen i bartneriaid gydweithio i gyflawni'r newid angenrheidiol. Cafodd llawer o enghreifftiau eu darparu gan bob sector ynglŷn â sut y byddai modd cryfhau byrddau partneriaeth rhanbarthol, naill ai yn eu fformat presennol neu fel endidau cyfreithiol.
Rydym yn gwybod bod angen i bartneriaid weithio gyda'i gilydd ar nifer o lefelau i ddiwallu anghenion pobl. Roedd y trydydd sector yn glir bod systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn anodd eu llywio ar gyfer unigolion. Gan ychwanegu at y gwaith partneriaeth cryf a welwyd yn ystod pandemig COVID, rwyf i'n awyddus i weld partneriaethau effeithiol yn ffynnu ar lefel clwstwr, awdurdod lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
O ran y Gymraeg, nododd nifer o ymatebion anawsterau o ran darparu gwasanaethau Cymraeg ar lefel leol, a'r heriau y mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn eu hwynebu ar hyn o bryd o ran dyletswyddau presennol y Gymraeg. Roedd consensws bod yn rhaid i'r Gymraeg fod wrth wraidd datblygu polisi yn y dyfodol, ac os caiff corff newydd ei sefydlu, y dylai fod yn ofynnol iddo gydymffurfio â safonau'r Gymraeg.
Mynegodd ymatebwyr ymrwymiad clir a llethol i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r cynigion polisi hyn ymhellach. Yn unol â'n rhaglen lywodraethu, rwyf i wedi ymrwymo i gyflwyno fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth ac i gryfhau partneriaethau i gyflawni dros bobl Cymru. Bydd y ffordd yr ydym yn gwneud hynny yn cael ei llywio gan adborth yr ymgynghoriad a thrwy ymgysylltu eto â'r sector.
Mae'n bwysig edrych i'r dyfodol a sut yr ydym yn datblygu system decach yn ôl. Glasbrint yw ein cynigion Papur Gwyn ar gyfer sector gofal a chymorth cryfach, mwy cytbwys. Maen nhw'n ymwneud ag atebion hirdymor i wella ein system a sicrhau gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. Rwy'n gobeithio y bydd holl Aelodau'r Senedd yn parhau i annog pawb sydd â diddordeb i gydweithio i gyflawni ein gweledigaeth o sicrhau lles i bobl y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw a gofalwyr y mae angen cymorth arnyn nhw. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am eich datganiad heno. Mae ailgydbwyso gofal a chymorth yn rhywbeth y gall pob un ohonom ni yn y Siambr hon ei gefnogi. Fe wnaethom ni ddechrau ar y daith gyda Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a'r ymrwymiad i integreiddio iechyd a gofal. Mae'n hen bryd i ni gyflymu'r daith tuag at ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chyd-gynllunio iechyd a gofal.
Er bod llawer ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru i'w gefnogi, mae gen i bryderon ynghylch a fydd eich cynigion ar gyfer deddfwriaeth yn cyflawni'r nodau yr ydym ni i gyd yn eu rhannu. Rwyf i hefyd wedi fy siomi nad oes unrhyw sylwedd i'r datganiad heddiw; nid oes unrhyw gyfeiriad i'r daith. Dirprwy Weinidog, pa neges ydy hyn yn ei hanfon at ddefnyddwyr gwasanaethau mewn gwirionedd? A pha neges ydy e'n ei hanfon at ddarparwyr gwasanaethau? Mae gennym ni ddatganiad arall eto gan y Llywodraeth sy'n datgan bod pethau'n mynd i newid, ond dim manylion ynghylch beth neu pryd y bydd y newidiadau yn digwydd. Pryd bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cyflwyno'r Bil ailgydbwyso gofal a chymorth? Ydym ni'n sôn am ychydig fisoedd neu ychydig flynyddoedd?
Rwy'n sylwi nad oedd dim yn y datganiad ynglŷn â chreu'r prif swyddog gofal cymdeithasol. Cafodd hyn ei gyhoeddi mewn datganiad ysgrifenedig fis diwethaf, ac eto mae hynny'n elfen allweddol o'ch cynigion, ynghyd â chreu swyddfa genedlaethol. Fel llawer o'r ymatebwyr i'ch Papur Gwyn, rwyf i'n credu y dylai'r swyddfa genedlaethol fod yn annibynnol ar y Llywodraeth ac felly hefyd y prif swyddog gofal cymdeithasol. Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno y dylai'r swydd gael ei llenwi drwy broses penodiadau cyhoeddus gadarn a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn penodi rhywun oddi mewn Llywodraeth Cymru i fod yn llais cryf i'r sector ac yn rhywun a all sefyll dros y defnyddwyr gwasanaeth a herio'r Llywodraeth?
Ar wahân i'r mater ynglŷn â diffyg annibyniaeth y swyddfa genedlaethol a'r prif swyddog, mae'r prif fater ynglŷn â'r Papur Gwyn yn ymwneud â gallu byrddau partneriaeth rhanbarthol. Dirprwy Weinidog, rydych chi'n ystyried bod y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn ganolog i'ch cynigion ar gyfer cryfhau gofal, ydych chi o'r farn, ar eu ffurf bresennol, fod ganddyn nhw y gallu i sicrhau gwelliannau i ofal a chwblhau'r broses o integreiddio iechyd a gofal?
Tynnodd adroddiad Archwilio Cymru yn 2019 sylw at y materion o ran y gronfa gofal integredig a chodwyd pryderon hefyd fod y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn methu â rhannu arferion gorau. A ydych chi wedi mynd i'r afael â phryderon Archwilydd Cyffredinol Cymru a sut y gallwch chi atal byrddau rhanbarthol rhag gweithredu yn unigol? A wnewch chi hefyd amlinellu sut y bydd y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn gweithio ochr yn ochr â'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus a sut y byddwch chi'n osgoi dyblygu'r gwaith?
Yn olaf, pa ran ydych chi'n disgwyl y bydd darparwyr yn y sectorau annibynnol a phreifat yn ei chwarae wrth ddatblygu gwasanaethau a sut y byddan nhw'n rhyngweithio â'r byrddau rhanbarthol? Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i ddarparu gofal wedi ei gyd-gynllunio sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn gobeithio y byddan nhw'n cwblhau'r daith a ddechreuodd bron i ddegawd yn ôl yn fuan. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr i chi am y cwestiynau hynny ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y ffaith eich bod chi'n credu y gallwn ni i gyd gefnogi newidiadau i'r system. Mae egwyddorion Deddf 2014 wedi eu hailadrodd ym mhob dim yr ydym yn bwriadu ei wneud, gyda gofal cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gweithio i ddod â gofal cymdeithasol ac iechyd at ei gilydd. Mae'r hyn y mae'r datganiad yn ei wneud heddiw o ganlyniad i gyhoeddi'r ymgynghoriad yr ydym ni newydd ei gyhoeddi ac i dynnu sylw'r Aelodau at y dewisiadau sydd o'n blaenau bellach, gan ystyried yr hyn sydd wedi ei ddweud yn yr ymgynghoriad ac yn y cynigion eraill y byddwn yn gweithio arnyn nhw, gan ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau a gweithio gyda gwahanol rannau o'r sector.
Roedd Deddf 2014 wedi ymrwymo'n llwyr i weithio mewn ffordd gydgynhyrchiol, i weithio'n agos gyda'r gwahanol randdeiliaid, ac rydym yn bwriadu gwneud hynny. Rwyf i eisoes wedi siarad â'r Siambr ynghylch y fforwm gwaith teg yr ydym ni wedi ei greu a gyda phwy y byddwn yn gweithio'n agos iawn yn ystod yr holl ddatblygiadau hyn. Felly, hoffwn i sicrhau'r Aelod y byddwn ni yn gweithio gyda'r sector i gynnig atebion, a diben y datganiad heddiw yw tynnu sylw at y ffaith bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben a'n bod ni wedi cyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw.
Cyfeiriodd at y prif swyddog gofal cymdeithasol newydd. Mae hyn yn rhoi gofal cymdeithasol ar lefel gydradd â'r prif swyddog meddygol, er enghraifft. Ac mae'n bwysig iawn, yn fy marn i, fod gennym ni brif swyddog gofal cymdeithasol er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd y proffesiwn. Rwy'n sylwi ei fod hefyd o'r farn y dylai unrhyw uned genedlaethol fod yn annibynnol. Dyna'r farn a gafodd ei hadlewyrchu yn rhai o'r ymatebion i'r ddogfen ymgynghori, ac mae'n amlwg bod hynny yn rhywbeth y byddwn ni'n ei ystyried.
Rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda'r sector annibynnol. Rwy'n cyfarfod â chadeirydd Fforwm Gofal Cymru yn rheolaidd ac maen nhw wedi gweithio yn agos iawn gyda ni drwy'r pandemig cyfan. Felly, yn sicr bydd y sector annibynnol yn rhan allweddol o'r ffordd yr ydym ni'n bwrw ymlaen â phethau, oherwydd, wrth gwrs, o ran gofal preswyl, mae tua 80 y cant o'r ddarpariaeth yn y sector annibynnol.
Diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad heddiw yma. Dwi ddim yn gwbl argyhoeddedig a oedd angen y datganiad yma heddiw yma. Dydy o ddim yn arwydd da iawn bod Gweinidog yn gorfod egluro, ar ôl delifro’r datganiad, beth oedd pwrpas y datganiad hwnnw. Ydy, mae o’n fath o ddiweddariad, ond beth rydym ni eisiau ei wybod, wrth gwrs, ydy beth ydy’r cig sydd yn mynd i dyfu ar esgyrn y Papur Gwyn a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach eleni, a dydw i ddim yn argyhoeddedig ein bod ni wedi cael rhagor o wybodaeth heddiw, mewn difri, ynglŷn â lle rydyn ni’n mynd. Mae’r geiriau yn cael eu hatseinio eto heddiw, fel clywsom ni yn y Papur Gwyn: yr heriau, yr achos dros newid, partneriaeth, gweithio efo’n gilydd. Rydym ni’n gwybod hynny. Rydym ni’n gwybod beth ydy’r heriau. Rydym ninnau ym Mhlaid Cymru wedi gallu adnabod llawer o’r heriau drwy'r gwaith a wnaethom ni yn y Senedd ddiwethaf, drwy ein comisiwn gofal ni.
Y cwestiwn ydy: beth ydy’r camau sydd yn mynd i fod yn digwydd rŵan er mwyn gallu canfod atebion go iawn i’r heriau yna? Mae’r Papur Gwyn yn rhoi rhyw fath o syniad inni o’r cyfeiriad mae’r Llywodraeth eisiau mynd iddo fo, ond hyd yma, rydym ni’n dal, dwi’n meddwl, yn aros i weld sut y bydd y siwrnai honno yn mynd arni hi. A dwi innau’n cytuno efo’r llefarydd o’m blaen i: wrth gwrs y gallwn ni i gyd uno tu ôl i’r egwyddorion creiddiol—maen nhw’n egwyddorion digon syml, onid ydyn nhw, i godi safon y gofal rydym ni’n ei roi i bobl—ond gadewch inni wybod beth yn union rydym ni yn ei farnu yn fan hyn.
Cwestiwn syml sydd gen i, mewn difri. Rydym ni’n dal, wrth gwrs, yn aros am waith i ddigwydd yn San Steffan, yn Whitehall. Mae'r gwaith rhyng-weinidogol wedi bod yn mynd ymlaen, yn edrych ar sut i dalu am ofal cymdeithasol yn y dyfodol. Dwi’n gobeithio na fydd yn rhaid inni aros yn rhy hir am gasgliadau'r gwaith hwnnw, achos mae o’n faes mor, mor allweddol i fynd i’r afael ag o. Ydych chi yn gallu rhoi math o syniad inni o sut y byddai’r argymhellion sydd gennych chi, sydd braidd yn amwys ar hyn o bryd, yn cael eu heffeithio arnyn nhw o ganlyniad i ba bynnag ddatganiadau neu benderfyniadau fyddai’n cael eu gwneud yn Whitehall ynglŷn â’r darlun ehangach yna o dalu am ofal cymdeithasol yn y dyfodol?
Diolch i Rhun ap Iorwerth am y sylwadau hynny, ac rwy'n ailadrodd, mewn gwirionedd, fod y geiriau cyd-gynhyrchu a phartneriaeth yn eiriau cwbl allweddol yn y rhan fwyaf o'r datganiadau yr ydym ni'n eu gwneud, ac nid yw gweithio'n gydgynhyrchiol a gweithio mewn partneriaeth yn hawdd ei wneud, mae'n cymryd peth amser, ac rydym ni wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â hyn mewn ffordd gydgynhyrchiol. Felly, byddwn yn parhau i ddatblygu ar sail yr ymatebion hyn, byddwn yn parhau i ymgynghori â'r sector, a byddwn yn cyflwyno cynigion o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwnnw.
Soniodd am San Steffan a beth sy'n mynd i ddigwydd o ran San Steffan. Wel, rydym ni wedi cael sicrwydd y bydd datganiad gan Lywodraeth y DU cyn diwedd y flwyddyn galendr hon, gan nodi beth fydd eu cyfeiriad nhw ar gyfer gofal cymdeithasol. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi bod yn aros am hyn ers amser maith, ac os na fyddwn yn cael rhywbeth o fewn yr amserlen sydd wedi ei rhoi i ni, byddai'n rhaid i ni ystyried o ddifrif a ydym yn cyflwyno'r cynigion ehangach ar ôl y cyfnod hwnnw. Rydym ni o'r farn ei bod yn bwysig iawn, os yw'n bosibl o gwbl, cael ateb i Gymru a Lloegr oherwydd y rhyngweithio rhwng trethiant a budd-daliadau, ac ni fyddem ni eisiau bod mewn sefyllfa, fel y cododd yn yr Alban, pan wnaethon nhw gyflwyno'r lwfans gofal personol am ddim a chollodd pobl eu lwfans gweini, a chymhlethdodau hynny. Felly, rydym ni o'r farn y byddai'n ddymunol iawn os byddai modd cael ateb i Gymru a Lloegr, ond ni allwn aros am byth, ac, yn amlwg, bydd yn rhaid i ni ystyried ein ffordd ni ein hunain o godi arian os na fyddwn yn mynd i unman yn fuan gyda San Steffan.
Yn amlwg, os ydym ni eisiau sefydlu ffordd wahanol o dalu am ofal cymdeithasol, bydd yn rhaid i ni ddeddfu. Ond, gobeithio, bydd Llywodraeth y DU yn meddwl am rywbeth. Felly, yn y cyfamser, rwyf i'n cefnogi yn llwyr eich pwyslais ar gomisiynu canlyniadau, hawliau a lles o safon. Hoffwn i dynnu sylw at y ffaith bod y trydydd sector yn glir bod systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn anodd i unigolion eu llywio, a gallwch chi ddychmygu sut beth yw hi i rywun y mae angen cymorth y gymdeithas arnyn nhw yn sydyn i gefnogi eu hanghenion. Felly, yn wirioneddol rwyf i eisiau deall ychydig yn well sut yr ydym ni'n mynd i symleiddio pethau i'r dinesydd y gallai fod angen gofal cymdeithasol arno. Mae'n ymddangos ein bod ni'n treulio llawer iawn o amser ar greu rhagor o strwythurau, a hoffwn i atgoffa'r Aelodau, yn enwedig y rhai sy'n newydd i'r Senedd, fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yn ei adroddiad ar lesiant cenedlaethau'r dyfodol, wedi cynnig argymhelliad clir iawn bod
'Ni chaiff Llywodraeth Cymru greu unrhyw bartneriaethau na strwythurau cydweithredol newydd i gyflawni unrhyw swyddogaethau oni bai ei bod wedi archwilio... a allai strwythurau partneriaeth presennol, yn hytrach, gyflawni’r
swyddogaethau hynny', neu,
'a allai’r strwythur newydd ddisodli’r rhai presennol'.
Mae angen i ni ddifa strwythurau, a dweud y gwir, gan fod y dinesydd yn gwbl ar goll mewn cawl o strwythurau.
Mae gennym ni ymrwymiad clir iawn gan y Gweinidog iechyd eisoes i ddod â gwasanaethau iechyd yn nes at ble mae pobl yn byw, ac mae gennym ni'r cynlluniau nyrsio cymdogaeth sydd wedi eu treialu'n llwyddiannus. Felly, byddwn i yn dwlu ar wybod pa gynnydd sydd wedi ei wneud o ran prif ffrydio'r timau hunanreoledig hyn, a'u mantra yw gweithio mewn partneriaeth â'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw a gyda'r rhanddeiliaid eraill sy'n gysylltiedig â'r unigolyn hwnnw. Ac rwy'n credu bod hynny wedi ei adleisio mewn adroddiad y gwnes i ddigwydd dod ar ei draws o sir y Fflint, sy'n canolbwyntio yn wirioneddol ar yr union faterion hyn, sy'n ymwneud â sicrhau bod gennym ni atebion lleol sydd yn diwallu anghenion unigolion ac amgylchiadau lleol yn wirioneddol. Felly, nid wyf i'n hollol siŵr beth fyddai swyddogaeth y swyddfa genedlaethol hon—mae'n ymddangos bod hynny yn gam i'r cyfeiriad anghywir. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a wnewch chi egluro hynny i gyd.
Diolch i Jenny Rathbone am y pwyntiau pwysig iawn hynny. Mae bwrw ymlaen â swyddfa genedlaethol yn rhywbeth y mae ymateb cymysg iddo yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ond mae'n debyg bod mwy o gefnogaeth na pheidio. A diben swyddfa genedlaethol mewn gwirionedd yw symleiddio'r system gyfan, oherwydd, ar hyn o bryd, mae gennym ni gannoedd o ddarparwyr sy'n cyflogi miloedd o bobl, ac mae'n rhaid cynnal pob trafodaeth sy'n digwydd o ran beth yw'r ffioedd ar gyfer cartrefi gofal, er enghraifft, ar y sail unigol honno gyda'r cartref gofal unigol hwnnw, ac mae 22 o awdurdodau lleol yn comisiynu, felly mae'n anhygoel o anodd. Ac rwy'n meddwl, i unigolion sy'n ceisio defnyddio'r system ofal, ei bod yn gymhleth iawn ac yn anodd iawn. Felly, rydym ni'n credu y byddai corff cenedlaethol yn ffordd o symleiddio pethau, ac yn sicr mae ceisio gweithio yn ystod y pandemig gyda'r llu o ddarparwyr wedi bod yn anodd iawn o ran cyfleu negeseuon allweddol i'r darparwyr unigol hynny. Felly, rwyf i'n sicr yn ystyried bod swyddfa genedlaethol yn rhywbeth a fydd yn symleiddio pethau.
Rwy'n ymwybodol o waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac rwy'n sicr yn credu bod eu cynnig y dylid ystyried strwythurau presennol yn gyntaf yn hollol gywir. Ac un o'r pethau yr ydym ni yn ei ystyried yw cryfhau'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, sydd, wrth gwrs, yn strwythurau presennol a oedd yn bodoli i gryfhau'r gwaith rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, a lle mae'r Llywodraeth wedi rhoi swm sylweddol o arian er mwyn iddyn nhw gydweithio. Mae'r £129 miliwn o gyllid Y Gronfa Gofal Integredig a'r cyllid trawsnewid o £50 miliwn y flwyddyn yno i ysgogi'r cydweithio. Rydym ni yn credu bod angen cryfhau'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ond, wrth gwrs, maen nhw'n gyrff sy'n bodoli eisoes.
Ac yn olaf, rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi cyfeirio at y trydydd sector—wel, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod ni'n cynnwys y trydydd sector gymaint ag y gallwn ni, ac rwy'n credu ei bod yn ddangosol iawn mewn gwirionedd, yn yr ymatebion i'r Papur Gwyn, fod y trydydd sector, ar y cyfan, yn gefnogol yn gyson i gryfhau'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, oherwydd dyna le mae ganddyn nhw lais. Nid ydyn nhw o'r farn bod ganddyn nhw lais digon cryf, ond maen nhw yn cael eu cynrychioli yno ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol, ynghyd â chynrychiolydd dinasyddion, cynrychiolydd gofalwyr, a dyna'r math amlochrog o fwrdd y maen nhw'n ei gefnogi.
Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heno, yn awr. Rwy'n credu bod rhai o fy sylwadau, mae'n debyg, yn dilyn o'r hyn, ac yn debyg i'r hyn yr oedd yr Aelod dros Gaerdydd Canolog yn cyfeirio ato yn y fan yna, o ran y dull cenedlaethol o ymdrin â rhai o hyn. Wrth gwrs, mae eich datganiad yn dilyn o'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, ac yn y crynodeb o'r ymatebion a gafodd ei gyhoeddi, hoffwn i gyfeirio at un neu ddwy o frawddegau a wnaeth fy nharo i. Yn gyntaf, mae hwn sy'n dweud,
'Ar y cyfan, y farn oedd y byddai fframwaith cenedlaethol yn fuddiol'
—ac mae yna rybudd, wedyn—
'petai’n cael ei ddiffinio’n glir, yn lleihau cymhlethdod ac yn galluogi i benderfyniadau gael eu gwneud yn lleol.'
Ac yn ddiweddarach yn y paragraff, mae'n mynd ymlaen i ddweud,
'Tynnwyd sylw at bwysigrwydd amgylchiadau lleol a gallu sefydliadau i ddiffinio a sicrhau darpariaeth mewn ffordd sy’n cwrdd â’u blaenoriaethau eu hunain.'
Felly, mae pwyslais mawr yn yr ymateb i'r ymgynghoriad ar allu cynnal a gwneud penderfyniadau lleol, ac, fel y gwyddom ni, mae gennym ni'r pethau hyn sydd â democratiaeth leol, lefel agos iawn, o'r enw awdurdodau lleol, sydd yn aml yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniadau hynny ar lefel leol iawn. Rydym ni, wrth gwrs, wedi gweld trwy'r pandemig ble mae gan awdurdodau lleol yr wybodaeth leol honno o ran gwybodaeth a chefnogaeth i'w trigolion a'r gwahaniaeth y gallan nhw ei wneud. Felly, mae'n amlwg bod rhai pryderon yn y cynigion hyn ynglŷn â symud pethau i ffwrdd o'r lefel leol i'r rhanbarthol ac yna i'r lefel genedlaethol, a'r gwrthwyneb i'r datganoli yr hoffai llawer ohonom ni ei weld. Felly, rwyf i'n gofyn beth yr ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol sydd â'r wybodaeth a'r arbenigedd hynny—? Beth ydych chi'n mynd i'w wneud i ymgysylltu â nhw a pharhau â'u darpariaeth i gwrdd â'u trigolion ar lefel leol iawn? Diolch.
Diolch, Sam, yn fawr iawn, am y cwestiwn yna—cwestiwn pwysig iawn. Rydym ni yn bwriadu bod awdurdodau lleol yn parhau i ddarparu a chomisiynu gwasanaethau gofal cymdeithasol, oherwydd ei bod yn gwbl hanfodol bod y gwasanaethau hyn mor agos at y cyhoedd ac mor agos at yr ardal leol â phosibl. Felly, yn sicr nid ydym ni'n disgwyl unrhyw leihad yn swyddogaeth awdurdodau lleol yn y maes hwn.
Rydym ni o'r farn bod angen gwasanaeth lleol, rhanbarthol a chenedlaethol arnom, a bod angen darpariaeth ranbarthol fwy effeithiol arnom a bod angen fframwaith cenedlaethol nad yw'n lleihau'r ddarpariaeth ar lefel leol arnom. Rwyf i'n teimlo'n gryf iawn y dylai darpariaeth gofal cymdeithasol fod wedi ei chysylltu'n gryf iawn â gwasanaethau lleol, gan mai nhw yw'r bobl sy'n gwybod orau, ac rwyf i o'r farn ei bod yn bosibl datblygu'r gymuned trwy'r gwasanaethau sydd gennych yn lleol, ac mae gwybodaeth y gymuned leol yn gwbl hanfodol. Felly, rydym ni yn benderfynol na fydd y cynigion hyn yn lleihau'r ddarpariaeth gwasanaethau lleol a'r wybodaeth leol, ond rydym ni yn cynllunio ar gyfer dull cenedlaethol a fydd yn ei gwneud yn symlach ac a fydd yn gallu darparu paramedrau a fydd yn atal rhywfaint o'r dryswch sy'n bodoli ar hyn o bryd. Mae'n sector bregus iawn ac rydym ni'n awyddus i'w gryfhau, ond rydym ni'n awyddus i gryfhau atebolrwydd lleol hefyd.
Hoffwn i gofnodi'r diolch sydd arnom ni i gyd i'r sector gofal cymdeithasol, sydd wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol y pandemig. Maen nhw wedi rhoi o'u gorau o ran ymrwymiad ac, yn aml iawn, aberth i helpu pobl drwy gyfnod yn eu bywyd pan fo angen y gofal a'r cymorth hwnnw arnyn nhw, ac rwy'n siŵr nad oes neb yma a fyddai'n anghytuno â'r datganiad hwnnw.
Gweinidog, mae'r Papur Gwyn 'Ailgydbwyso gofal a chymorth' wedi rhagweld y bydd y galwadau ar y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y sector gofal cymdeithasol yn codi'n sylweddol erbyn 2040, ac rydym ni i gyd yn gwybod y rhesymau, a'r rhesymau yw ein bod ni'n byw yn hirach, ac wrth i ni fyw yn hirach, pan fydd angen gofal arnom, mae'r anghenion hynny, yn wir, yn fwy cymhleth. A cheir cydnabyddiaeth hefyd fod y gweithlu gofal cymdeithasol yn wynebu llawer o heriau. Dyna beth y mae'r papur yn ymwneud ag ef. Ac un o'r meysydd yr wyf i'n dymuno canolbwyntio arno yw staff, a recriwtio staff, oherwydd yn amlwg, ni fydd gennych chi wasanaeth os nad oes gennych chi unrhyw staff i'w ddarparu. Ac mae un ffigur sy'n neidio allan, ac nid yw hynny'n ffigur annisgwyl: bod y rhan fwyaf o'r staff sy'n gweithio yno yn fenywod dros 40 oed. Mae'n amlwg, pan fyddwn ni'n sôn am ofal, ein bod ni'n sôn am bobl. Rydym ni'n sôn am bobl sy'n cael gofal gan bobl nad ydyn nhw'n eu hadnabod yn aml iawn, gan eu gwahodd i'w cartrefi. A bod amrywiaeth yn hollbwysig o ran bwrw ymlaen â hynny. Felly, beth bynnag sy'n digwydd wrth fwrw ymlaen â hyn, mae'n rhaid i ni wella amrywiaeth y gweithlu a'r telerau ac amodau y mae'r gweithlu yn gweithio oddi tanyn nhw. Ac un o'r rhesymau dros y prinder, yn wir, yw'r telerau ac amodau gwael, ac mae sôn eto am hynny yn yr adroddiad hwn.
Rwy'n mynd i ofyn i'r bobl yma heddiw fyfyrio ar rywbeth sydd yn yr adroddiad hwnnw, ac mae hynny'n ymwneud â'r gorbryder y byddai unigolion sy'n cael gofal yn ei deimlo os nad ydyn nhw'n gwybod pwy sy'n mynd i ddod i ofalu amdanyn nhw, neu pryd byddan nhw'n cyrraedd, gan fod y llifiant yn y farchnad yn golygu nad oes modd rhoi sicrwydd iddyn nhw. Ac eto, rydym ni'n gofyn i'r unigolion hynny ymddiried mewn pobl eraill â'r gofal mwyaf personol ar adeg yn eu bywyd pan fyddan nhw'n teimlo'r mwyaf agored i niwed. Felly, rwyf i'n credu, os oes un peth yr hoffwn i ei weld yn deillio o hyn, ystyriaeth o ddarparu'r gweithlu hwnnw mewn ffordd y gall pobl deimlo rhyw fath o bŵer eu hunain yn ei chylch yw hynny, fel nad ydyn nhw bob amser yn destun gweithredu iddyn nhw yn unig.
Diolch yn fawr iawn i Joyce Watson am y pwynt pwysig yna ac am bwysleisio natur hollbwysig y gweithlu yn y maes hwn, oherwydd, fel y dywedodd hi, mae'r gweithlu'n darparu'r gwasanaethau mwyaf personol i bobl sy'n agored iawn i niwed. Ni allai fod yn waith pwysicach, ac rwy'n credu mai ein swyddogaeth ni yn y Llywodraeth yw gwneud popeth o fewn ein gallu i hybu'r gweithlu hwnnw, i roi hyder iddo a dangos ein bod ni'n cydnabod gwerth y gwaith sy'n cael ei wneud.
Un o'r pethau yr ydym ni eisoes wedi ei drafod yn y Siambr hon ein bod ni'n ei wneud yw codi'r cyflogau i'r cyflog byw gwirioneddol, ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol. Rwy'n credu bod y telerau ac amodau yn bwysig iawn hefyd, a dyna lle rydym ni'n cael cyngor gan y fforwm gofal cymdeithasol yr ydym ni'n gweithio gydag ef, sy'n cynnwys yr undebau, y cyflogwyr, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill. Rydym ni wedi cyflwyno system gofrestru, fel y bydd hi'n gwybod, ar gyfer gweithwyr gofal cartref, ac rydym ni wrthi'n ei chyflwyno i weithwyr gofal preswyl, sydd unwaith eto yn cydnabod yr arbenigedd sydd gan y gweithlu hwn—menywod yn bennaf, fel y dywedodd hi—a'r gofal a'r cariad y maen nhw'n ei ddarparu ynghyd â hynny. Mae trosiant uchel, ac mae hynny'n rhywbeth sydd yn creu llawer o ansicrwydd. Felly, rydym ni eisiau i'r swydd fod yn un y bydd pobl eisiau aros ynddi.
Mae ein diffiniad o waith teg yn cynnwys cydraddoldeb a chynhwysiant, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'r fforwm yn ei ystyried mewn gwirionedd. Ac rydym ni wedi bod yn gweithio i godi proffil gofal cymdeithasol trwy ymgyrch Gofalwn.Cymru, sy'n cael ei rheoli gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hyn yn dangos yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael ym maes gofal cymdeithasol, ac mae hefyd yn defnyddio astudiaethau achos yn seiliedig ar weithwyr gwirioneddol, gan sicrhau bod grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu cynrychioli fel esiampl dda. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd yn gweithio'n uniongyrchol gydag ysgolion a chyflogwyr, gan ddefnyddio'r deunyddiau hyn i geisio recriwtio pobl i'r sector. Ond y gweithlu yw cryfder y sector, ac mae hi'n llygad ei lle bod yn rhaid i ni ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud i wella telerau ac amodau, cyflog, a gwneud i bobl fod eisiau aros.
Ac yn olaf, Jane Dodds.
Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cynigion, gan gynnwys gosod fframwaith cenedlaethol clir i gefnogi proses o gynllunio gwasanaethau yn rhanbarthol a'u darparu'n lleol, a chryfhau trefniadau partneriaeth. Hoffwn i ganolbwyntio yn fyr ar wasanaethau i bobl ifanc ac oedolion ifanc o fewn y fframwaith hwn, yn enwedig y rhai hynny ag anableddau dysgu, a'r rhwystrau sydd ar waith i'r gwasanaethau cymdeithasol sicrhau bod y bobl ifanc a'r oedolion ifanc hyn a'u teuluoedd yn gallu cael gafael ar yr amrywiaeth lawn o wasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw. Gwnaeth astudiaeth gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn 2018 ganfod bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd cyflawni eu dyletswyddau digonolrwydd a dod o hyd i leoliadau addas i ddiwallu anghenion pobl ifanc ac oedolion ifanc. O ran dewis a'r hyn sydd ar gael ar gyfer adnoddau preswyl i'r rhai hynny ag anghenion ychwanegol, nid oes gen i broblem os mai prif nod yr adnoddau hynny yw darparu gofal o ansawdd uchel a bodloni'r safonau gofynnol, ond rwy'n pryderu'n fawr ynghylch adnoddau preswyl lle mai gwneud elw yw eu prif nod. Mae'r comisiynydd plant hefyd wedi galw eto i symud i ffwrdd o wneud elw mewn gwasanaethau gofal, a rhoi terfyn ar hynny yn y pen draw. Felly, a gaf i ofyn pa ystyriaeth y byddwch chi'n ei rhoi i'r sylwadau hynny a wnaeth Comisiynydd Plant Cymru a chyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol o ran swyddogaeth darparwyr gofal er elw i oedolion ifanc a'r rhai ag anableddau dysgu yn rhan o'r cynlluniau hyn i ailgydbwyso gofal a chymorth? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Jane Dodds am y cwestiwn pwysig iawn hwnnw. Ydw, rwyf i wedi cael llawer o drafodaethau gyda'r comisiynydd plant ynghylch y mater penodol hwn ac rwy'n gwybod ei bod yn teimlo'n angerddol iawn amdano. Rwyf i wedi siarad â phobl ifanc a phlant ynghylch y mater hwn, ac mae pa mor ddwfn y maen nhw'n teimlo bod amgylchiadau eu bywydau nhw wedi galluogi rhai pobl i wneud elw ohono wedi fy nharo i'n fawr, maen nhw'n teimlo hynny yn ddwfn iawn. Wrth siarad â'r bobl ifanc yr wyf i wedi siarad â nhw, roeddwn i o'r farn ei bod yn gwbl anghywir eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw yn y sefyllfa hon, ac mae llawer ohonyn nhw yn teimlo yn gryf iawn ynghylch hynny. Felly, mae o ganlyniad i drafodaethau gyda phobl ifanc a gyda'r comisiynydd plant yr ydym ni wedi cynnwys ymrwymiad yn ein maniffesto y byddwn ni'n symud tuag at roi terfyn ar wasanaethau er elw i blant a phobl ifanc. Dyna'r ymrwymiad yn ein maniffesto. Byddwn yn ceisio gwneud hyn dros bum mlynedd y tymor hwn. Nid wyf i'n rhagweld y bydd hyn yn hawdd ei wneud, gan fod llawer o'r gwaith yn y sector er elw, ac yn sicr, byddem ni eisiau gwneud hynny mewn ffordd nad oedd yn tarfu ar leoliadau neb os oedden nhw'n hapus ac yn fodlon, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni symud tuag at fwy o ddarpariaeth nad yw er elw, mwy o ddarpariaeth awdurdodau lleol. Dyna'r ymrwymiad yn ein maniffesto, ac rydym ni'n dechrau cwmpasu'r ffordd ymlaen o ran sut y byddwn ni'n cyflawni hynny.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog, a diolch i chi i gyd am eich cyfraniadau y prynhawn yma. Dyna ni ar ddiwedd ein gwaith am y dydd heddiw. Diolch.