– Senedd Cymru am 2:22 pm ar 21 Medi 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Nid oes gennyf i unrhyw newidiadau i'w cyhoeddi i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Roedd y digwyddiadau y gwnaethom ni eu gweld yn datblygu yn Afghanistan dros yr haf wedi gadael pawb wedi'u dychryn a'u harswydo, a dweud y gwir, gyda'r golygfeydd a ddatblygodd. Un o'r grwpiau o bobl yng Nghymru a gafodd eu heffeithio arnyn nhw'n arbennig gan y golygfeydd hynny oedd cyn-filwyr yn y wlad hon, y mae llawer ohonyn nhw wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn Afghanistan. A gaf i alw am ddatganiad ar gymorth i'r cyn-filwyr hynny? Rwy'n sylweddoli y bu rhywfaint o drafod ar hyn yn y Senedd yn ddiweddar, ond rwy'n credu bod angen datganiad arall arnom ni ar hyn, oherwydd un o'r pethau a gafodd ei godi gyda mi gan gyn-filwyr yw'r angen am linell argyfwng 24/7 i'r rhai sy'n cael eu hunain mewn trafferthion pan na fydd gwasanaeth presennol GIG Cymru i Gyn-filwyr, sydd ar gael yn ystod oriau gwaith arferol, ar gael. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae angen ei ystyried. Byddai'n wych os byddai modd ymestyn y gwasanaeth yng Nghymru fel bod gwasanaeth ffôn ar gael i'r cyn-filwyr hynny mewn angen sy'n eu cysylltu'n syth â'n gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr, yr wyf i ac eraill yn falch iawn ohono.
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn; ni ddylai'r gwerthfawrogiad sydd gennym ni am ein cyn-filwyr byth gael ei anghofio. Byddwch chi'n ymwybodol o'r gefnogaeth sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'n cyn-filwyr. Mae'r cwestiwn penodol yr oeddech chi'n ei ofyn ynghylch llinell gymorth 24/7 yn rhywbeth rwy'n gwybod y mae'r Dirprwy Weinidog, sydd yn y Siambr ac wedi clywed eich cwestiwn, yn ei ystyried.
Hoffwn i gael datganiad yn esbonio penderfyniad Llywodraeth Cymru i barhau i fynychu Ffair Arfau Ryngwladol Offer Amddiffyn a Diogelwch. Dywedodd y Prif Weinidog yn 2019 y byddai'n adolygu presenoldeb y Llywodraeth yn y digwyddiad hwn, ar ôl i Leanne Wood alw ei chyfranogiad yn 'wrthun', ond adroddodd y BBC yr wythnos hon y byddai Llywodraeth Cymru yn bresennol yn y digwyddiad eleni. Trefnydd, mae diffyg tryloywder braidd yn bryderus yma. Mae gan bobl yng Nghymru sy'n gwrthwynebu gwario eu harian treth ar hyrwyddo arfau sy'n lladd sifiliaid yr hawl i gael esboniad gan y Llywodraeth ynghylch pam y penderfynodd barhau i noddi'r fasnach arfau. A wnaeth y Prif Weinidog weithredu ar ei addewid i adolygu presenoldeb ei Lywodraeth yn y digwyddiad hwn? Os na, pam ddim? Ond os gwnaeth e' hynny, a wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi canfyddiadau'r adolygiad hwn fel y gall y Senedd a'r cyhoedd ddeall ar ba sail y penderfynon nhw fod noddi ffair arfau yn ddefnydd priodol o arian cyhoeddus? Ac yn olaf, Trefnydd, a wnawn nhw roi esboniad o sut y bydd bod yn bresennol mewn ffair arfau, lle y caiff cytundebau eu gwneud a fydd yn arwain at farwolaethau sifil mewn mannau fel Yemen, yn gyson â'u nod datganedig o sefydlu ein henw da fel cenedl noddfa sydd wedi ymrwymo i hawliau dynol a hybu heddwch?
Mae'r Aelod yn anghywir. Ni wnaeth Llywodraeth Cymru noddi'r ffair fasnach y gwnaethoch chi gyfeirio ati.FootnoteLink
Roeddwn i eisiau codi'r mater difrifol iawn a ddigwyddodd ym mharc Bute tua 10 diwrnod yn ôl, lle bu ymosodiad bwriadol ar dros 50 o goed a seilwaith arall yn y parc. Dyma un o'n parciau mwyaf eiconig ledled Ewrop, ac rwy'n poeni'n fawr y gallai rhywun fod wedi gwneud y fath beth, o gofio ei fod yn amlwg wedi'i drefnu'n dda ymlaen llaw. Mae'n ymddangos ei fod yn ymdrech i geisio denu sylw gan rywun sydd eisiau dinistrio cymdeithas yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a'r angen i blannu miliwn o goed. Felly, tybed pa sgyrsiau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ar y mater difrifol iawn hwn, oherwydd, hyd yma, nid oes neb wedi'i ddal. Rwy'n pryderu'n fawr ynghylch yr hyn a allai ddigwydd nesaf.
Diolch. Yn sicr, roedd yn ymddangos yn weithred ddi-synnwyr iawn o fandaliaeth ac rwy'n credu ei bod wedi dychryn ac wedi achosi tristwch mawr i lawer o'r cymunedau lleol yn yr ardal. Fel y dywedwch chi, mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd, mae angen i ni fod yn plannu mwy o goed. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid Cyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru; maen nhw wedi ychwanegu eu llais i annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth ynghylch hyn i gamu ymlaen neu i gysylltu â Crimestoppers.
Trefnydd, yn dilyn cwestiwn i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog perthnasol—datganiad wedi'i ddiweddaru—ar y cyngor ar gyfer anfon plant a phobl ifanc i'r ysgol neu leoliadau addysgol eraill pan fydd aelod o'u haelwyd wedi profi'n bositif am COVID? Yn amlwg, mae hyn yn achosi cryn ofid i lawer o benaethiaid, rhieni a phobl ifanc, gan fod plant a phobl ifanc yn dal i gael eu cynghori i fynd i'r ysgol ar ôl i aelod o'u haelwyd brofi'n bositif. Mae hyn, wrth gwrs, yn peri pryder ac yn cynyddu oherwydd bod nifer y bobl sy'n profi'n bositif am COVID yn cynyddu.
Yn amlwg, ein blaenoriaeth yw cadw ein plant yn yr ysgol gymaint â phosibl eleni, ond mae awgrym wedi bod, efallai y dylai plant a phobl ifanc aros i ffwrdd o'r ysgol a'r coleg tan fod eu profion PCR yn dod nôl yn negyddol. O fy mhrofiad personol fy hun yn ddiweddar, rwy'n ymwybodol bod y canlyniadau'n dod nôl nawr o fewn 24 awr, yn fras. Y pryder, wrth gwrs, yw y bydd mwy o blant a phobl ifanc yn mynd o'r ysgol yn y pen draw os na fyddwn ni'n rheoli hyn yn gywir. Felly, er mwyn tawelu meddyliau penaethiaid pryderus, rhieni a phobl ifanc fel ei gilydd, a gawn ni'r canllawiau presennol ac a gawn ni ein sicrhau ei fod er lles ein plant a'n pobl ifanc? A gawn ni datganiad ar hynny, os gwelwch yn dda? Diolch.
Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol bod y Gweinidog addysg yn gweithio'n agos iawn gyda'n hysgolion a'n penaethiaid. Mae Llywodraeth Cymru, pan fyddwn ni'n cyflwyno unrhyw bolisi neu ganllawiau, yn dilyn y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf. Os bydd hynny'n newid, bydd y Gweinidog addysg yn amlwg yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.
Trefnydd, gyda'r gaeaf yn prysur agosáu, mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi yn mynegi pryder ynghylch y nifer o fasleoedd mewn afonydd wrth ymyl cymunedau a gafodd eu dinistrio gan lifogydd ym mis Chwefror 2020, gan gynnwys Teras Clydach yn Ynysybwl a Stryd Rhydychen yn Nantgarw. Er bod rhywfaint o waith wedi'i wneud mewn rhai ardaloedd, oherwydd effaith y llifogydd ar lannau'r afon, mae nifer y basleoedd yn parhau i fod yn helaeth. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud wrth drigolion nad oes ganddyn nhw'r arian i wneud mwy o waith yn y meysydd hyn. Ac felly a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn benodol ynghylch carthu a lleihau basleoedd mewn afonydd wrth ymyl cymunedau sydd mewn perygl, ac ar y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu'r strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru ers ei chyhoeddi ym mis Hydref 2020?
Diolch. Wel, yn anffodus, dioddefodd yr ardal yr ydych chi'n cyfeirio ati lifogydd difrifol ym mis Chwefror 2020, ychydig cyn pandemig COVID-19, ac rwy'n ymwybodol o lawer iawn o waith sydd wedi'i wneud gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdod lleol. Fe wnaf i yn sicr ofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch y cwestiwn penodol y gwnaethoch chi ei ofyn.
Trefnydd, ddydd Gwener, byddaf i'n bresennol yn nathliad pen-blwydd Tata Steel yn 125 oed yn fy etholaeth i. Mae fy nghymuned wedi'i hadeiladu ar ddur, fel y gwyddoch chi'n iawn, ac rwy'n hynod falch o hynny. Nawr, mae dyfodol cynhyrchu dur yn garbon isel, dur wedi'i gynhyrchu'n lleol, a dylai Shotton Steel fod ar flaen y gad yn y broses honno. A gawn ni ddatganiad, gan Lywodraeth Cymru, Trefnydd, am bwysigrwydd y diwydiant dur i bob rhan o Gymru, gan gynnwys Shotton Steel, ac efallai dymuno pen-blwydd hapus iawn iddyn nhw a dyfodol llwyddiannus?
Wel, yn sicr, rwy'n hapus iawn i ddymuno pen-blwydd hapus iddyn nhw. Fel y gwyddoch chi, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo'n llwyr i sector dur cadarn a chynaliadwy iawn, ac mae'n debyg y byddwch chi'n ymwybodol bod Gweinidog yr Economi, yn ei gysylltiad cyntaf yn y portffolio, wedi mynychu cyfarfod gyda'r Cyngor Dur, a gwn i ei fod ef wedi ymweld â Shotton yn ddiweddar gyda chi.
Gwnaeth Gweinidog yr Economi ddatganiad ym mis Gorffennaf ar bwysigrwydd diwydiant wedi'i ddatgarboneiddio a'n cefnogaeth ni i ddyfodol dur, y gwnaethoch chi gyfeirio ato, a gwn i y bydd e'n mynd i Tata Port Talbot yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Roedd y terfysgoedd ym Mayhill yn Abertawe ym mis Mai yn frawychus. Gwn i pa mor galed y mae'r heddlu wedi gweithio i nodi ac arestio'r rhai sy'n gyfrifol. A gaf i ofyn am ddatganiad sy'n nodi'r hyn y cafodd ei ddysgu o'r digwyddiadau hynny, ac a allai fod angen unrhyw gymorth cymunedol arall?
Diolch. Rydych chi yn llygad eich lle, yr oedden nhw'n sicr yn olygfeydd brawychus, a gwn i fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi gweithio'n agos iawn gyda'r heddlu i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu, ac wedi gweithio'n benodol ar cydlyniant cymunedol. Os oes gan y Gweinidog unrhyw wybodaeth ddiweddar i'w rhoi i ni yn dilyn yr un blaenorol, yn sicr, fe wnaf ofyn iddi wneud hynny.
Trefnydd, a wnaiff y Gweinidog cyllid ddatganiad yn diweddaru Aelodau ar pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon y busnesau hynny sydd wedi methu â chael gafael ar gymorth ariannol digonol yn ystod y pandemig, ac sydd bellach yn wynebu anawsterau, yn arbennig y rhai sydd wedi cwympo drwy'r craciau? Mae un o'r busnesau hynny yn berchennog siop yng Nghaerfyrddin, a gymerodd y cyfle i wneud rhywfaint bach o waith atgyweirio ac ailaddurno pan symudodd ei thenant mas yn 2019. Yn union fel oedd hi ar fin hysbysebu'r eiddo i'w rentu eto, dechreuodd y cyfnod clo cyntaf, ac ni lwyddodd hi, wrth gwrs, i ffeindio rhywun i rentu'r siop. Mae hi bellach yn wynebu bil trethi busnes am filoedd o bunnoedd. Yn amlwg mae busnesau eraill wedi cael rhyddhad ar drethi dros y cyfnod hwnnw, ond achos roedd ei heiddo'n wag, fe ffaelodd hi gael yr un cymorth.
Felly, a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud asesiad o faint o fusnesau sydd mewn sefyllfa debyg, ac a fydd hi'n ystyried darparu cymorth ariannol yn yr achosion arbennig hynny? Diolch yn fawr.
Diolch. Fel y gwyddoch chi, rhoddodd Llywodraeth Cymru'r pecyn cymorth mwyaf hael i'n busnesau yn ystod pandemig COVID-19. Roedd gennym ni'r gronfa cadernid economaidd unigryw. Yn amlwg, ni allaf i wneud sylw ar achos unigol, a byddwn i'n eich cynghori chi, os ydych chi'n teimlo—. Er, yn amlwg, na allem ni helpu pob busnes, roeddem ni'n awyddus iawn nad oedd busnesau'n disgyn drwy fylchau amrywiol y gwahanol gronfeydd, a byddwn i'n eich annog chi i ysgrifennu at y Gweinidog yn uniongyrchol ynghylch eich achos penodol.
Trefnydd, yn anarferol rwy'n cael fy hun yn rhannu tir cyffredin â'r Ceidwadwyr—[Aelodau'r Senedd: 'O']—pan oeddwn i'n siomedig o glywed y byddai'r Llywodraeth yn parhau i fwrw ymlaen â phasys COVID y GIG yng Nghymru, neu basbortau COVID. Gweinidog, cafodd Senedd yr Alban gyfle i drafod rhinweddau'r penderfyniad hwn cyn iddyn nhw gyflwyno mesurau tebyg. A fydd amser yn cael ei roi i'r Senedd drin a thrafod y mater hwn? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Felly, rydym ni'n cwblhau yr amserlen ar gyfer cyflwyno rheoliadau i wneud y pas COVID yn orfodol i'w ddefnyddio mewn rhai lleoliadau yng Nghymru o 11 Hydref ymlaen. Felly, yn sicr bydd cyfle.
Gweinidog, a gawn ni wneud amser i'r Llywodraeth gyflwyno dadl ar argyfyngau sifil a pharatoi ar gyfer argyfwng? Yn ystod y misoedd diwethaf, mae trychineb Brexit wedi effeithio ar lawer o bobl. Mae'r gymuned ffermio wedi bod yn dweud wrthym ni am y brad y maen nhw'n ei deimlo. Mae'r diwydiant pysgota wedi dweud wrthym ni am y brad y maen nhw'n ei deimlo. Rydym ni wedi gweld miloedd a miloedd o lorïau yn methu croesi'r Sianel. Rydym ni wedi gweld cychod yn osgoi galw ym mhorthladdoedd Prydain. Rydym ni wedi gweld cwmnïau a busnesau yn adleoli lle bynnag y bo modd, ac yn colli busnes o ganlyniad uniongyrchol i Brexit. Ac yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym ni wedi gweld silffoedd bwyd gwag yn ein harchfarchnadoedd.
Mae perygl gwirioneddol, yn enwedig gyda'r materion ar hyn o bryd ynghylch prisiau nwy, yn sgil dileu Prydain o rwydweithiau nwy Ewrop, sy'n golygu ein bod ni'n mynd i weld tlodi tanwydd a thlodi bwyd yn y wlad hon ar raddfa o'r fath, am y tro cyntaf ers degawdau. Ac mae hyn yn ganlyniad i Brexit ac anallu Llywodraeth Geidwadol y DU. A gawn ni dadl yn y lle hwn ynghylch sut y gall ein Llywodraeth sicrhau diogelwch a lles pobl yn y wlad hon, oherwydd mae'n amlwg nad yw'r Llywodraeth yn Llundain yn poeni mewn gwirionedd am yr hyn sy'n digwydd i bobl y wlad hon?
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod ynghylch y saga yr ydym ni'n sicr wedi'i gweld yn datblygu. Rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni wedi'i weld gan Lywodraeth y DU yw ddiffyg cynllunio hirdymor llwyr; maen nhw'n dda iawn am sloganau tymor byr, ond nid ydyn nhw'n dda am gynllunio tymor hir, a dyna y mae angen i ni ei weld. Byddwch chi'n ymwybodol o'r mater carbon deuocsid ar hyn o bryd, gyda'n lladd-dai'n pryderi na allan nhw brosesu—[Torri ar draws.] Wel, maen nhw wedi rhoi gormod o bwyslais ar farchnadoedd, onid ydyn nhw? Ac rydym ni'n ei weld nawr gyda charbon deuocsid, rydym ni'n gweld argyfwng costau byw, rydym ni'n gweld prisiau ynni'n codi, rydym ni'n gweld prisiau bwyd yn codi, rydym ni'n gweld ein cyfraniadau yswiriant gwladol yn codi, ac rydym ni'n gweld toriad—[Torri ar draws.] Efallai nad ydych chi'n gweld hynny'n ddifrifol, Andrew R.T. Davies, ond mae pobl yn cael £20 wedi'i dorri o'u credyd cynhwysol. Mae gennym ni argyfwng costau byw, ac mae'n hen bryd i Lywodraeth y DU ddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn gweld Llywodraeth Cymru yn sefyll drostyn nhw, a byddaf i'n hapus iawn i gyflwyno datganiad.
Trefnydd ychydig wythnosau'n ôl, gwnes i gyfarfod â phennaeth Coleg Gwent, ac fe wnaeth e' rannu stori eithaf dirdynnol gyda mi—wel, nid stori, ffaith—bod un o'i fyfyrwyr marchogaeth wedi cael damwain wael, a bod, o bosibl, anafiadau i'r asgwrn cefn ganddi, ac, o ganlyniad, dywedodd y gwasanaethau brys na ddylai hi gael ei symud tan iddyn nhw gyrraedd yno. Ar ôl ffonio bob 20 munud, am gyfnod sylweddol, roedd hi'n naw awr cyn i'r wraig ifanc honno gael ei chludo a'i symud i'r ysbyty fel argyfwng. Ond mae angen trafod goblygiadau hynny, yn fy marn i, oherwydd, o ganlyniad i hynny, mae'r pennaeth yn teimlo bod yn rhaid iddo nawr dynnu nôl o ddarparu cyrsiau yng Ngholeg Gwent—y cyrsiau hynny a allai fod â risgiau, fel cyngor chwaraeon neu farchogaeth. A gwn i fod penaethiaid mewn ysgolion yn teimlo'r un fath ynghylch pethau fel Gwobr Dug Caeredin. A meddwl oeddwn i tybed a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Gweinidog addysg ar sut y mae'n credu y mae modd disgwyl i benaethiaid colegau, ac yn wir penaethiaid, reoli'r sefyllfa anodd hon wrth symud ymlaen, gan fod llawer yn bryderus iawn na allan nhw barhau â'r cyrsiau hyn, oherwydd y gallu i gydymffurfio â'u hasesiadau risg eu hunain, ac oherwydd yr amser ymateb brys afresymol hwnnw. Mae'n bryder difrifol iawn, a allai effeithio ar filoedd lawer o bobl ifanc, ledled Cymru, o ganlyniad uniongyrchol i rai o'r materion sy'n deillio o'r pwysau o fewn y gwasanaeth iechyd.
Er fy mod i'n flin iawn wrth gwrs o glywed bod yn rhaid i rywun aros naw awr—rwy'n tybio mai am ambiwlans ydoedd; rwy'n tybio mai dyna'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud—ond byddwch chi'n derbyn bod ein gwasanaeth ambiwlans, ac rwy'n credu y dylem ni dalu teyrnged enfawr i'n staff ambiwlans, yn ymdrin â phwysau digynsail. Rhaid i chi gofio, bob tro y byddan nhw'n ymateb i alwad y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud mewn ffordd sy'n ddiogel rhag COVID. Mae hyd yn oed gwisgo cyfarpar diogelu personol yn cymryd amser, ac mae'n rhaid ychwanegu hynny'n amlwg at yr amser ymateb. Cyn pandemig COVID-19, roedden nhw'n cyrraedd eu targedau drwy'r amser.
Nid wyf i'n credu y byddai'n ddefnydd da o amser y Llywodraeth ar gyfer datganiad. Os oes pryder, rwy'n siŵr bod y Gweinidog addysg yn ymwybodol ohono. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod pobl yn cofio ffonio am ambiwlans dim ond pan fo wir angen, ac nid wyf i'n dweud nad oedd hynny'n wir yn yr achos y gwnaethoch chi gyfeirio ato, ond rwy'n credu ei fod yn gyfle i ni gofio'r sefyllfa anodd iawn y mae ein gwasanaeth ambiwlans a'n GIG ynddi ar hyn o bryd.
Diolch i'r Trefnydd.