2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 6 Hydref 2021.
Cwestiynau'r llefarwyr nesaf, felly. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Diolch, Llywydd. Weinidog, cysylltodd mudiad Mercher y Wawr â mi yn ddiweddar, yn mynegi pryder bod siaradwyr Cymraeg yn wynebu heriau o ran cynnal busnes bancio wyneb yn wyneb ac ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg. Pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod busnesau ar draws Cymru yn gweithredu'n ddwyieithog? A pha gymorth ychwanegol sy'n cael ei gynnig i'r busnesau hynny sy'n methu â chydymffurfio â'r gofynion hyn?
Wel, mae gyda ni amryw ffyrdd o gefnogi busnesau ar draws Cymru i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Ac rwy’n talu teyrnged i’r gwaith y mae’r mentrau iaith yn ei wneud ym mhob cymuned yng Nghymru i gefnogi’r economi leol i ddarparu gwasanaethau o'r fath, ynghyd hefyd â gwasanaeth Helo Blod, sy’n darparu gwasanaeth cyfieithu a Helo Blod Lleol, sy’n gweithredu drwy’r mentrau iaith er mwyn gwneud yn union beth y mae'r Aelod yn sôn amdano fe. Ond hefyd, rwy'n ymwybodol iawn fod darpariaeth bancio yn cael ei gyfyngu mewn ardaloedd o Gymru. Rwy'n gwybod am enghreifftiau penodol o hynny ac mae hyn yn fater i fusnesau, ond fel y mae'r cwestiwn yn ei ddweud, hefyd i fudiadau yn ehangach na hynny. Rŷm ni wedi bod yn edrych, fel y mae'r Aelod yn gwybod, ar impact, dros y flwyddyn ddiwethaf, o newidiadau, gan gynnwys COVID, er enghraifft, ar fudiadau Cymraeg yn ein cymunedau ni ac mae cynllun gweithredu gyda ni yn delio â'r anghenion sydd yn codi yn sgil hynny.
Diolch. Rydym i gyd yn cytuno ein bod am weld cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg ym mhob cornel o'r genedl. Yn aml, mae Dinbych-y-Pysgod, sydd yng nghanol fy etholaeth, yn cael ei ystyried yn gymuned draddodiadol Gymraeg ei hiaith, ond mae'r ysgol cyfrwng Cymraeg, Ysgol Hafan y Môr, wedi cael ei disgrifio gan y cynghorydd lleol fel 'bursting at the seams', ac mae Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd hefyd yn orlawn. Gyda'r cynnydd yn y galw gan rieni i'w plant fynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, sut mae'r Gweinidog yn bwriadu cefnogi'r galw cynyddol hwn a sicrhau nad yw cyllid ar gyfer y ddarpariaeth addysg bresennol yn cael ei effeithio?
Wel, mae'r Aelod yn llygad ei le wrth ddweud fod y galw am addysg Gymraeg mewn ysgolion mewn mannau yng Nghymru ddim yn cael ei ddiwallu, felly, yn sicr mae angen mwy o uchelgais yn y ddarpariaeth mewn amryw gymuned ar draws Cymru. Ar hyn o bryd, fel bydd yr Aelod yn gwybod, mae'r awdurdodau lleol yn gweithio ar eu cynlluniau strategol er mwyn darparu addysg Gymraeg yn eu hardaloedd nhw er mwyn i'r rhain ddod i rym erbyn yr amser hyn y flwyddyn nesaf, mwy neu lai. Rwy'n disgwyl gweld y rheini ym mis Ionawr. Maen nhw wedi bod yn gweithio ar y cyd gyda swyddogion yn Llywodraeth Cymru a chyda'i fforymau iaith lleol er mwyn sicrhau yr hyn rwyf i eisiau ei weld yn y cynlluniau hynny—eu bod nhw'n uchelgeisiol, ac nid yn unig eu bod nhw'n diwallu'r galw, ond eu bod nhw hefyd yn cyfrannu at greu'r galw, a'u bod yn esbonio ac yn gwerthu, fel petai, y syniad o addysg Gymraeg. Ond fel y mae'r Aelod yn ei ddweud, mewn amryw gymunedau, mae hynny'n digwydd eisoes—mae'r galw yn ehangach na'r ddarpariaeth. Felly, ynghyd â hynny, rŷm ni wedi, wrth gwrs, eleni darparu cronfa ehangach er mwyn adeiladu ysgolion cynradd Cymraeg ac rwyf yn gobeithio y bydd cynigion diddorol a chreadigol yn dod i wario'r arian hynny.
Diolch. A phan wnaethoch eich datganiad ar 'Cymraeg 2050' cyn toriad yr haf, gofynnais y cwestiwn hwn i chi, ond yn anffodus ni chefais ateb iddo. Dywedoch chi eich bod am annog siaradwyr Cymraeg ifanc i ddychwelyd o brifysgol i helpu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hysgolion. Tynnais sylw at y ffaith bod hyn yn ei wneud yn fwy anodd i recriwtio athrawon o'r tu allan i Gymru, felly yn lleihau'r cymysgedd o ddoniau a chefndiroedd y mae athrawon newydd yn dod â nhw i'n hysgolion. A allwch chi egluro nawr sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod unrhyw un sy'n dymuno dysgu yng Nghymru, ond nad oes ganddo'r sgiliau iaith, yn gallu dod o hyd i swydd fel athro yng Nghymru? Diolch.
Wel, mae'n bosibl i bobl ddysgu yng Nghymru er nad oes gyda nhw sgiliau iaith penodol. Beth dŷn ni eisiau ei weld—. Ac mae gyda ni gynllun peilot yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i annog myfyrwyr yn ein prifysgolion ni i weithio fel athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg neu ddysgu'r Gymraeg yn ein hysgolion ni. Byddwn ni'n cyhoeddi manylion pellach am y peilot hwnnw maes o law, ond mae'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch, Lywydd. Mi oeddwn i'n falch iawn o weld bod niferoedd profion COVID positif mewn ysgolion wedi gostwng yn sylweddol yn ystod yr wythnos diwethaf—dwi'n siŵr eich bod chithau yn falch o weld hynny hefyd—gostyngiad o 44 y cant. Ond mae ysgolion yn parhau i fod mewn sefyllfa fregus iawn, wrth gwrs, efo rhai dosbarthiadau efo hanner y disgyblion wedi profi'n bositif am COVID. Mae prif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth Cymru dros iechyd, Dr Rob Orford, wedi tynnu sylw at fater o bryder arall ar ben hyn, sef y gallai ail ymddangosiad afiechydon anadlol a gafodd eu hatal yn ystod y cyfnod clo diwethaf achosi problemau. Hynny yw, gall plant gael eu cyd-heintio efo COVID a salwch arall sy'n effeithio ar yr ysgyfaint ac yn y blaen—ffliw, annwyd ac ati. Mae hyn yn bryder. Fedrwch chi roi asesiad i ni, neu ydy'r Llywodraeth yn gwneud asesiad, o'r risg penodol yma, sy'n gysylltiedig efo diffyg imiwnedd ymhlith plant? Ac yn sgil hynny, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod ysgolion yn safleoedd diogel dros y gaeaf?
Wel, mae'r cynlluniau sydd gyda ni eisoes ar waith—y fframweithiau sy'n gweithio ym mhob rhan o Gymru—bwriad y polisi hwnnw, wrth gwrs, yw sicrhau bod ein hysgolion ni yn saff ar gyfer ein dysgwyr ni a'n hathrawon ni a'r gweithlu ehangach, a bod y mesurau sy'n cael eu cymryd yn ein hystafelloedd dosbarth ni ac yn ystâd ehangach yr ysgol yn adlewyrchu anghenion yr ysgol ei hun ond hefyd y cyd-destun iechyd lleol o ran iechyd cyhoeddus. O ran y pwynt penodol y gwnaeth yr Aelod ei godi ynglŷn â'r cyngor penodol, mi wnaf i ystyried hynny gyda'r gwyddonydd a gweld beth y gallaf i ei rannu gydag Aelodau yn ehangach am hynny.
Diolch. Mi fyddai hynna'n ddefnyddiol iawn, a dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo fi bod awyru yn yr adeiladau ysgol yn hollbwysig, yn enwedig rŵan, o feddwl efallai bod yna gyd-heintio yn digwydd, sy'n gwneud y broblem yn waeth.
Mi fuaswn i'n licio gofyn i chi am broblem arall ynglŷn â diogelwch ysgolion, sef asbestos, a beth ydy'ch ymateb chi i'r canfyddiad diweddar bod asbestos mewn 60 y cant o ysgolion Cymru. Mae gwybodaeth ddiweddar wedi datgelu bod yna fwy na 900 o ysgolion yn cynnwys asbestos. Felly, hoffwn i wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu cynghorau sir ac ysgolion i fonitro, ac, yn bwysicach, i gael gwared ar asbestos.
Diolch am y cwestiwn pellach hwnnw. Trwy'r arian revenue support grant dŷn ni'n ei ddarparu i awdurdodau lleol, mae'n bosib iddyn nhw ddefnyddio'r ffynhonnell arian honno i sicrhau bod eu hysgolion nhw'n mynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Ond dŷn ni hefyd yn gweithio gyda'r Health and Safety Executive a chydag Ystadau Cymru i gefnogi arfer da i ddelio ag asbestos mewn ysgolion ac mewn adeiladau coleg hefyd. A dŷn ni hefyd yn darparu canllawiau penodol i awdurdodau lleol i'w helpu nhw i fynd i'r afael â'u cyfrifoldebau nhw o ran monitro, a, phan mae angen hynny, cael gwared ar asbestos yn eu hadeiladau nhw.
Mi fyddwch chi'n gwerthfawrogi bod yr undebau yn benodol yn gofyn am weithredu brys ar y mater yma, ac yn gobeithio am newyddion i'r perwyl yna gennych chi yn fuan.
O ganlyniad i'r pandemig, rydym ni'n gwybod bod ysgolion, staff a disgyblion wedi bod o dan bwysau anferth. Mae yna adroddiad diweddar gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru sy'n tynnu sylw at sut mae'r pandemig wedi effeithio ar les addysgwyr, yn enwedig ar yr arweinwyr yn yr ysgolion—eu lles nhw'n cael ei effeithio gan lwyth gwaith, mesurau atebolrwydd, y broses arolygu, materion staffio a phersonél, a hefyd, wrth gwrs, ariannu a rheoli cyllidebau. Mae yna faich gwaith aruthrol ar eu hysgwyddau nhw.
Felly, a fedrwch chi amlinellu pa gamau byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau lles arweinwyr ein hysgolion ni, a sut mae'r Llywodraeth yn mynd i fod yn ymateb i'r pwysau sy'n cael ei achosi ar draws ystod o feysydd o ganlyniad i lwyth gwaith arolygiadau a rheoli cyllidebau?
Wel, mae hyn yn gwestiwn pwysig iawn, a dwi eisiau cydnabod y pwysau mae prifathrawon ac athrawon o dan ar hyn o bryd, ac wedi bod dros y cyfnod o flwyddyn a mwy yn ddiweddar. Rôn i'n trafod bore dydd Mawrth gydag awdurdodau lleol ac undebau dysgu, a'r undebau gweithlu addysg mwy eang na hynny, ac yn gofyn iddyn nhw i basio ymlaen ein diolch ni fel Llywodraeth, ac, rwy'n siŵr, ein diolch ni fel Senedd, i'w gweithleoedd am yr hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud mewn amgylchiadau anodd dros y flwyddyn ddiwethaf.
O ran darpariaeth benodol i gefnogi llesiant ac iechyd meddwl arweinwyr ysgol, rŷn ni wedi bod yn gwneud amryw o bethau. Mae'r fframwaith ysgol gyfan ar gyfer llesiant yn cynnwys ymyraethau sydd yn cefnogi athrawon a phenaethiaid hefyd, gan gynnwys darpariaeth benodol gan Education Support ac eraill, er mwyn iddyn nhw hefyd gael gofod i allu delio â'r pwysau sydd wedi bod yn realiti iddyn nhw dros y flwyddyn ddiwethaf.
O ran adnoddau pellach, rŷn ni wedi, wrth gwrs, trwy renew and reform, darparu symiau sylweddol o arian er mwyn recriwtio mwy o staff er mwyn codi ychydig o'r pwysau ar benaethiaid mewn ysgolion i ddelio yn benodol ag impact COVID. Felly, mae hynny wedi cael yr effaith o gynyddu darpariaeth a chynyddu capasiti yn ein hysgolion ni, a hefyd, o ran cwestiwn atebolrwydd ac asesiadau, bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, am y camau gwnes i ddatgan yn ystod yr haf o ran codi rhai o'r gofynion hynny dros y cyfnod yma, gan ddeall yn iawn bod y pwysau sy'n dod yn sgil hynny, efallai nad oes croeso i hynny ar hyn o bryd wrth i ysgolion ddelio â sialensiau COVID hefyd.
Ac ynghyd â hynny, mae gyda ni weithgor gydag awdurdodau lleol ac undebau sydd yn gweithio ar fesurau y gallwn ni eu cymryd i leihau gofynion biwrocrataidd efallai ar ein hysgolion ni er mwyn sicrhau ein bod ni'n codi'r hyn o bwysau y gallwn ni.
Tynnwyd cwestiwn 3 [OQ56955] yn ôl. Cwestiwn 4, Jack Sargeant.