1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 19 Hydref 2021.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fe'i gwnaed yn eglur gennych chi ddoe eich bod chi'n ceisio sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd ymchwiliad COVID y DU gyfan yn canolbwyntio yn ddigonol ar benderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru. Os ydych chi mor bryderus na fydd ymchwiliad y DU gyfan yn ymchwilio yn ddigonol i Lywodraeth Cymru, pam na wnewch chi ymrwymo i ymchwiliad annibynnol i Gymru?
Wel, am y rhesymau niferus yr wyf i wedi eu hegluro o'r blaen, Llywydd. Cefais i gyfle ddoe i gyfarfod â Phrif Weinidog y DU. Roedd yn gyfarfod eang, ond roedd gen i ddau fater yn arbennig yr oeddwn i eisiau gwneud yn siŵr fy mod i'n eu codi yn uniongyrchol gyda Phrif Weinidog y DU yn y cyfarfod hwnnw. Un oedd mater diogelwch tomenni glo a'i bwysigrwydd yma yng Nghymru, a'r llall oedd mynd ar drywydd y cyfarfod yr oeddwn i wedi ei gynnal gyda theuluoedd mewn profedigaeth yma yng Nghymru a chyfleu rhai o'r pwyntiau y gwnaethon nhw i mi i Brif Weinidog y DU. A'r hyn a ofynnais i Brif Weinidog y DU oedd, i Gymru fod yn rhan o ymchwiliad y DU y mae wedi ei gynnig ac yn y ffordd y mae wedi gofyn i ni gymryd rhan, roedd angen i mi allu rhoi sicrwydd i bobl eraill na fyddai Cymru, yn y term a ddefnyddir weithiau, yn droednodyn mewn ymchwiliad ar gyfer y DU, y byddai'r ymchwiliad yn rhoi pwyslais penodol ar brofiad Cymru, y byddai'n mynd i'r afael â'i ymchwiliadau mewn ffordd a oedd yn rhoi digon o gyfle i bobl yng Nghymru gymryd rhan uniongyrchol ynddo, ac, wrth adrodd, y byddai deunydd yn yr adroddiad yn canolbwyntio yn uniongyrchol ar y ffordd yr oedd penderfyniadau wedi eu gwneud yma yng Nghymru. Rhoddodd Prif Weinidog y DU atebion cadarnhaol i hynny i gyd, gan gydnabod y pwyntiau a wnaed ac ailddatgan ei ddymuniad y byddai dimensiwn Cymru, yn ei eiriau ef, o brofiad y coronafeirws, yn cael ei ymchwilio yn briodol ac yna'n cael ei adrodd o fewn y cyd-destun ehangach, na allwch chi wneud synnwyr priodol o'r hyn a ddigwyddodd yng Nghymru hebddo na rhoi'r atebion y bydd pobl, yn gwbl briodol, yn disgwyl i'r ymchwiliad eu darparu.
Ond, Prif Weinidog, nid oes dim rheswm pam na all Llywodraeth Cymru gymryd rhan mewn ymchwiliad y DU gyfan ac ymchwiliad Cymru. Mae'n rhaid i Lywodraeth agored a thryloyw fod yn atebol i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu, ac mae pobl Cymru yn haeddu atebion. Mae'n ymddangos mai, 'Cyfrifol, ond heb gael ei dwyn i gyfrif' yw mantra'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Nawr, mae sefydliadau fel y grŵp teuluoedd mewn profedigaeth, Medics 4 Mask Up Wales a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint i gyd wedi ymuno â galwadau am ymchwiliad i Gymru. Mae'n bryd i'ch Llywodraeth wneud y peth iawn ac ymrwymo i'r ymchwiliad hwnnw. Mae ymchwiliad i Gymru yn rhan angenrheidiol o helpu'r wlad i ddeall sut y gwnaed penderfyniadau a pha un a ddysgwyd gwersi yn wir. Felly, a ydych chi'n derbyn bod gwrthod ymchwiliad i Gymru nid yn unig yn sarhau'r ymgyrchwyr hynny sy'n brwydro yn ddiflino am atebion, ond hefyd yn tanseilio gallu Cymru i liniaru yn erbyn bygythiadau yn y dyfodol, os na allwn ni ddeall y broses o wneud penderfyniadau drwy gydol y pandemig?
Wel, Llywydd, gwrandewais i'n astud ar yr hyn a ddywedodd yr Aelod yn ei gyfraniad cyntaf ar lawr y Senedd y prynhawn yma. Nid wyf i'n credu bod defnyddio termau fel 'sarhau' yn gyson â'r hyn a ddywedodd yn gynharach am yr angen i gynnal trafodaethau cyhoeddus ar sail parch ac ymddiriedaeth tuag at ein gilydd. Nid wyf i'n dod i fy nghasgliadau ar sail dymuno sarhau neb; rwy'n dod i fy nghasgliadau gan fy mod i o'r farn y bydd yr atebion sydd eu hangen ar bobl yng Nghymru yn cael eu darparu yn well, byddan nhw'n cael gwell atebion, os oes pwyslais ar Gymru o fewn ymchwiliad y DU. Oherwydd nid wyf i'n credu y gallwch chi wneud synnwyr priodol o'r penderfyniadau niferus a wnaed yma yng Nghymru heb ddeall y berthynas rhwng y penderfyniadau hynny a'r cyd-destun ehangach y cawson nhw eu gwneud ynddo.
Mae ein safbwynt yn dal i fod fel y bu ers wythnosau lawer. Cyn belled â'n bod ni'n cael y sicrwydd yr ydym ni'n chwilio amdano gan Lywodraeth y DU y bydd y pwyslais hwnnw ar benderfyniadau yma yng Nghymru, y bydd pobl yng Nghymru yn cael atebion i'w cwestiynau yn ymchwiliad y DU, yna rwy'n credu y bydd hynny yn rhoi gwell atebion iddyn nhw. Os na chawn ni'r sicrwydd hwnnw, os nad ydym yn sicr y byddwn yn cael y pwyslais ar brofiad Cymru sydd ei angen arnom ni, yna bydd hynny yn gwneud i ni feddwl eto.
Os na wnewch chi ymrwymo i ymchwiliad penodol i Gymru, bydd pobl yn meddwl bod eich Llywodraeth yn osgoi craffu ac yn gwrthod gwneud ei hun yn atebol i'w phobl. Er y bydd ymchwiliad y DU gyfan yn ystyried penderfyniadau rhynglywodraethol, a hynny'n briodol, gallai ymchwiliad i Gymru ganolbwyntio yn llwyr ar y ffordd y mae eich Llywodraeth chi wedi ymdrin â'r pandemig. A gadewch i ni beidio ag anghofio mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am beidio â sicrhau profion i bobl cyn cael eu rhyddhau o'r ysbyty, gan ganiatáu i'r feirws fynd i mewn i leoliadau gofal Cymru. Yn wir, ar ôl i Loegr gyflwyno profion torfol mewn cartrefi gofal yn ystod y don gyntaf yn 2020, fe wnaethoch chi ddweud na allech chi weld unrhyw werth mewn cyflwyno profion ar draws cartrefi gofal Cymru. A gadewch i ni beidio ag anghofio mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am fethu â deall y sefyllfa o ran heintiau a ddaliwyd yn yr ysbyty. Yn wir, yn dilyn adroddiadau am gynnydd o 50 y cant mewn wythnos i heintiau a ddaliwyd yn yr ysbyty, dywedodd y Gweinidog iechyd ar y pryd nad oedd yn credu ei fod allan o reolaeth, ond ei fod yn risg wirioneddol. A gadewch i ni beidio ag anghofio mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am fethu ag anfon mwy na 13,000 o lythyrau gwarchod i'r cyfeiriadau cywir ym mis Ebrill a mis Mai y llynedd.
Felly, Prif Weinidog, mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Felly, pam na wnewch chi roi i deuluoedd y rhai hynny a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig yr atebion sydd eu hangen arnyn nhw a'r heddwch y maen nhw'n ei haeddu? A pham na wnewch chi dderbyn ymchwiliad y DU gyfan ac, yn wir, ymchwiliad i Gymru, fel y gellir craffu yn llawn ar y ffordd y mae eich Llywodraeth wedi ymdrin â'r pandemig a dwyn eich Gweinidogion i gyfrif? Mae pobl Cymru yn haeddu hynny.
Llywydd, rwyf i wedi ymrwymo yn llwyr i gael craffu priodol ar benderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru, ymchwiliad iddyn nhw ac atebolrwydd o ganlyniad i hynny. Nid wyf i wedi fy narbwyllo y bydd ymchwiliadau sy'n gorgyffwrdd ac yn cystadlu yn rhoi'r atebion gorau i bobl y mae angen yr atebion hynny arnyn nhw. Tra bod Prif Weinidog y DU—tra bod ei Brif Weinidog ef—yn parhau i gynnig y sicrwydd i mi y bydd profiadau yma yng Nghymru yn cael y sylw sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw'n ei haeddu ac yn gwneud hynny o fewn y cyd-destun ehangach y gall ymchwiliad y DU yn unig ymchwilio iddo, yna rwy'n fodlon parhau â'r cytundeb a wnes i gyda Phrif Weinidog y DU ar y dechrau. Ceir rhai profion pwysig i Lywodraeth y DU o hyd, ac maen nhw'n dod yn y tymor byr. Mae Prif Weinidog y DU wedi dweud wrth deuluoedd mewn profedigaeth y bydd yn penodi cadeirydd yr ymchwiliad hwnnw yr ochr hon i'r Nadolig. Rwy'n disgwyl i Brif Weinidogion gwledydd eraill y DU fod yn rhan o'r penodiad hwnnw. Os byddaf i'n darllen amdano mewn datganiad i'r wasg, neu os wyf i'n cael gwybod amdano hanner awr cyn ei gyhoeddi, yna mae'n anochel y bydd amheuaeth ynghylch y synnwyr o gyfranogiad gwirioneddol a chyfle gwirioneddol i graffu ar ddimensiwn Cymru fel y mae angen ei wneud yn yr ymchwiliad hwnnw.
Ddoe, rhoddodd Prif Weinidog y DU sicrwydd i mi y byddai Llywodraethau datganoledig yn cael eu cynnwys yn briodol ac yn rhan o'r penodiad hwnnw, o'r cylch gorchwyl, o arferion gwaith ymchwiliad y DU, ac edrychaf ymlaen at weld hynny yn cael ei gadarnhau yn ymarferol.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, heddiw, mae eich Llywodraeth wedi cyhoeddi cyd-gadeiryddion y comisiwn annibynnol a fydd yn bwrw ymlaen â'r sgwrs genedlaethol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Gyda'r Athro McAllister a Dr Williams, rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn bod gennym ni ddau unigolyn gwefreiddiol i arwain y gwaith hwn. Ymysg ei amcanion, bydd y comisiwn yn, ac rwy'n dyfynnu,
'Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru'.
A wnewch chi gadarnhau y bydd hynny yn cynnwys, am y tro cyntaf erioed yn achos corff sefydledig swyddogol, waith difrifol a sylweddol ar annibyniaeth i Gymru?
Llywydd, rwy'n diolch i Adam Price am yr hyn a ddywedodd am gyd-gadeiryddion y comisiwn annibynnol. Rwy'n credu ei fod yn iawn. Mae'n anodd meddwl am unrhyw ffigwr o Gymru sy'n ennyn mwy o barch—nid yn unig yng Nghymru, ond ar lwyfan y byd—na Dr Rowan Williams. Gyda'r Athro Laura McAllister, mae gennym ni un o'r arbenigwyr blaenllaw ar y pwnc a fydd yn ganolog i'r comisiwn.
Gallaf yn sicr gadarnhau, fel y dywedodd yr Athro McAllister heddiw, y bydd y comisiwn yn edrych ar y gyfres gyfan o wahanol fathau o ddyfodol cyfansoddiadol posibl i Gymru. Mae cylch gorchwyl y comisiwn yn sicr yn caniatáu i annibyniaeth gael ei hystyried yn un o'r opsiynau hyn. Mae'n caniatáu i unrhyw berson sydd â safbwynt ar y ffordd orau o lunio dyfodol cyfansoddiadol Cymru ddod i'r comisiwn i gyflwyno ei achos dros hynny. Byddai'n hurt—ac rwy'n credu mai dyna'r gair a ddefnyddiodd yr Athro McAllister—i ddiystyru annibyniaeth.
Ond, nid oes dim byd arall yn cael ei ddiystyru chwaith. Os caf i'r cyfle, byddaf i'n sicr yn rhoi fy nhystiolaeth i'r comisiwn mai datganoli sefydledig mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus yw'r cyfansoddiad gorau i Gymru. Ond, bydd Plaid Cymru—ac rwy'n croesawu yn fawr iawn yr hyn a ddywedodd llefarydd Plaid Cymru am ymgysylltu adeiladol a gwneud pob defnydd o'r cyfle y mae'n ei gyflwyno—yn gallu cyflwyno ei dadl dros wahanol ddyfodol cyfansoddiadol.
Rwy'n siŵr na fyddai ots gan y Prif Weinidog i mi ddweud y bydd llawer yn y mudiad annibyniaeth o'r farn bod y cadarnhad ymhlyg gan Lywodraeth Lafur Cymru y gellir ystyried annibyniaeth yn opsiwn blaengar, er nad dyna'r opsiwn yr ydych chi'n ei ffafrio, yn amlwg, yn garreg filltir bwysig. Rydym ni yn wir, ar ein hochr ni, yn edrych ymlaen at ymgysylltu yn adeiladol â'r comisiwn.
Pa bynnag gasgliad y bydd yr adroddiad yn dod iddo yn y pen draw—pa un a yw'n cefnogi y dewis o ddyfodol yr ydych chi'n ei ffafrio, Prif Weinidog, o ffederaliaeth radical, neu ein dyfodol amgen ni o annibyniaeth—onid yw man cychwyn y comisiwn yr un mor bwysig â'i fan terfyn, yn yr ystyr hwn? Oherwydd ei fod yn dynodi penderfyniad newydd cyffredin na ddylem ni aros i'n dyfodol cyfansoddiadol gael ei ddewis drosom ni yn ddiofyn gan benderfyniadau yn San Steffan neu, yn wir, datblygiadau mewn mannau eraill yn yr ynysoedd hyn, ond y dylem ni benderfynu drosom ni ein hunain; na ddylem ni fod ar yr ymylon nac yng nghysgodion trafodaethau rhywun arall, ond y dylem ni roi Cymru mewn safle blaenllaw yn ein dadl ein hunain.
Wel, Llywydd, rwy'n sicr yn cytuno mai dyna'n union yw diben y comisiwn: i gymryd cyfrifoldeb am ein dyfodol ni ein hunain. Rwy'n credu bod hon yn adeg arbennig o bwysig i ni wneud hynny. Yn ystod y tymor Senedd hwn, wrth i ni i gyd eistedd yma, mae'n debygol iawn y bydd refferendwm arall ar annibyniaeth yn yr Alban.
Nid wyf i'n aml yn dyfynnu Iain Duncan Smith yma, Llywydd—[Chwerthin.]—ond fe wnaf i eithriad heddiw. Rwy'n credu iddo ddweud wrth gynhadledd y Blaid Geidwadol fod dyfodol Gogledd Iwerddon yn fwy ansicr heddiw nag ar unrhyw adeg yn y gorffennol, oherwydd effaith penderfyniad Brexit a'r ansicrwydd ynghylch protocol Gogledd Iwerddon. Mae'r Deyrnas Unedig mewn sefyllfa fregus, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni, fel Llywodraeth gyfrifol ac fel Senedd gyfrifol, yn dod o hyd i ffordd o fapio ein dyfodol ein hunain yn yr oes gythryblus yr ydym ni'n byw ynddi.
Llywydd, a gaf i ddweud fy mod i'n ddiolchgar iawn i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies, am wneud nifer o enwebiadau i rywun eistedd ar y comisiwn? Oherwydd fy mod i'n awyddus i'r comisiwn fod yn rhywbeth y dylai unrhyw un sydd â barn ar ddyfodol Cymru a'r ffordd orau o'i sicrhau, o gofio'r oes ansicr yr ydym yn byw ynddi, deimlo'n hyderus y gall fod yn bresennol a chyflwyno ei ddadl.
Mae comisiynau cyfansoddiadol—ac rydym ni wedi cael cryn dipyn, onid ydym ni, yng Nghymru—yn ôl eu natur, oherwydd eu bod yn gymysgedd o'r gwleidyddol a'r technegol, yn golygu eu bod nhw weithiau yn ei chael hi'n anodd ymgysylltu â'r cyhoedd yn ehangach. Felly, sut allwn ni sicrhau bod y comisiwn yn gweithredu fel llwyfan, Prif Weinidog, ar gyfer y sgwrs genedlaethol a dinesig ehangach honno? Sut allwn ni fynd y tu hwnt i'r dulliau traddodiadol o ymgysylltu—wyddoch chi, yr ymgynghoriad, yr arolygon barn, holiaduron, grwpiau ffocws ac ati? A allwn ni roi cynnig ar rywbeth newydd?
Ac a wnewch chi ystyried, Prif Weinidog, gwahodd y comisiwn i gyflwyno ei adroddiad interim i gynulliad dinasyddion Cymru—senedd y bobl, os mynnwch chi—a allai gyfarfod, efallai, Llywydd, hyd yn oed yn y Siambr hon, i drafod dyfodol ein cenedl, fel symbol o'r egwyddor ddemocrataidd fwyaf sylfaenol oll honno, mai'r bobl, yn y pen draw, bob un ohonyn nhw'n gyfartal, sy'n gorfod penderfynu ar ein dyfodol fel cenedl?
Wel, Llywydd, rwyf i'n sicr o blaid ymgysylltu â dinasyddion. Rwy'n credu bod Dr Rowan Williams ei hun, yn y cyfweliadau y mae wedi eu rhoi yn ystod y diwrnod diwethaf, wedi pwysleisio ei ddymuniad i wneud yn siŵr bod y comisiwn yn gweithio mewn ffordd sy'n wirioneddol hygyrch i ddinasyddion Cymru ac yn ymgysylltu â nhw. Ond, mater i'r comisiwn annibynnol fydd penderfynu ar ddull yr ymgysylltu hwnnw, a dim ond un ffordd o wneud hynny yw cynulliad dinasyddion.
Efallai fy mod i'n hen ffasiwn yma, Llywydd, ond roeddwn i'n meddwl erioed, pan fyddwn i'n dod yma fy mod i'n dod i gynulliad y bobl, ac mai dyna'r ydym ni. Pan fyddwn ni'n dod yma, rydym ni wedi ein hethol gan bobl i fod yma. Nid yw hynny'n golygu am funud bod gennym ni hawl unigryw i fynegi barn, ac mae llawer o ffyrdd eraill y gall bobl gymryd rhan. Ond rwyf i yn awyddus i'r comisiwn gael y rhyddid i benderfynu ar y ffordd orau o gyflawni uchelgais cyffredin, oherwydd roeddwn i'n cytuno yn fawr â'r hyn a ddywedodd Adam Price am yr uchelgais o ymgysylltu, ac yn fwy nag ymgysylltu, synnwyr o berchnogaeth dros ein dyfodol ein hunain yng Nghymru.