– Senedd Cymru am 3:06 pm ar 20 Hydref 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y metro, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'r argyfwng hinsawdd yn golygu bod yn rhaid inni newid y ffordd y teithiwn. Mae 17 y cant o allyriadau carbon Cymru yn cael eu cynhyrchu gan drafnidiaeth, ac fel y mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn ei nodi'n glir, ni fydd newid i geir trydan yn unig yn cyflawni targed sero-net 2050. Mae angen inni leihau nifer y teithiau a chael pobl i newid i fathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth hefyd.
Rydym yn llwyr gydnabod nad yw hyn yn mynd i fod yn hawdd. Ers tua 70 mlynedd, mae polisi trafnidiaeth yn y DU wedi ffafrio teithio mewn ceir dros drafnidiaeth gyhoeddus, ac o ganlyniad, mae'n haws bellach i'r rhan fwyaf o bobl ddefnyddio ceir na chynllunio taith gan ddefnyddio mathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth. Mae'n rhaid i hynny newid. Ond er mwyn i hynny ddigwydd, mae'n rhaid inni sicrhau mai'r peth iawn i'w wneud yw'r peth hawsaf i'w wneud.
Mae ein strategaeth drafnidiaeth yng Nghymru yn nodi'r camau y mae'n rhaid i ni eu cymryd i gyflawni ein targed o 45 y cant o deithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus neu drwy deithio llesol erbyn 2040. Rydym yn anelu at gyhoeddi strategaeth fysiau newydd oddeutu diwedd eleni, a Phapur Gwyn i ddilyn, a Bil diwygio bysiau yn ystod tymor y Senedd hon.
Ein buddsoddiad mewn teithio llesol ar gyfer teithiau lleol byr yw'r buddsoddiad uchaf y pen yn y DU, ac rydym yn gweithio gyda chynghorau i nodi rhwydweithiau lleol diogel a fydd yn annog pobl i adael y car gartref a cherdded neu feicio yn lle hynny. Mae 10 y cant o deithiau car o dan 1 filltir o hyd, a gellid gwneud llawer o'r teithiau hynny ar droed neu ar feic.
Ar gyfer teithiau canolig a phell, mae gan reilffyrdd ran bwysig i'w chwarae. Mae angen gwneud iawn am y diffyg o £5 biliwn mewn buddsoddiad rheilffyrdd gan Lywodraeth y DU er mwyn moderneiddio ein rhwydwaith. O'n rhan ni, rydym wedi dod â masnachfraint Cymru a'r gororau o dan reolaeth gyhoeddus ac rydym yn gweithio'n galed i'w sefydlogi ar ôl y cwymp yn nifer y teithwyr yn ystod COVID. Wrth inni gynllunio adferiad y rheilffyrdd, rhaid ei wneud ochr yn ochr â'r dulliau cynaliadwy eraill, fel y gall pobl gwblhau eu taith gyfan, o ddrws i ddrws, drwy drafnidiaeth gynaliadwy.
Mae comisiwn Burns yn ne-ddwyrain Cymru wedi gosod glasbrint ar gyfer sut y gellir gwneud hynny, ac rydym am ymestyn y dull gweithredu hwnnw i gynnwys rhannau eraill o Gymru. Yn fwyaf arbennig, rwyf am efelychu'r model lle mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru wedi ffurfio un uned gyflawni ar y cyd â'r awdurdodau lleol, a bwrdd cyflawni annibynnol a sefydlwyd i hybu perfformiad a sicrhau cynnydd. Rwy'n falch fod Simon Gibson a Dr Lynn Sloman, ill dau'n nodedig am eu ffocws ar gyflawni, yn gwasanaethu fel cadeirydd ac is-gadeirydd y bwrdd cyflawni yn ne-ddwyrain Cymru.
Lywydd, gallaf gyhoeddi fy mod wedi gofyn i fy swyddogion greu dull cydweithredol tebyg yng ngogledd Cymru hefyd. Byddwn yn creu bwrdd cyflawni metro gogledd Cymru, a byddaf yn hysbysebu am gadeirydd ac is-gadeirydd annibynnol i sicrhau ein bod mor uchelgeisiol â phosibl ac i ddwyn partneriaid cyflenwi i gyfrif, gan gynnwys ein hunain. Hoffwn hefyd weld y model partneriaeth, cyd-gynllunio a rhannu arweinyddiaeth yn cael ei fabwysiadu gan y pedwar cyd-bwyllgor corfforedig ledled Cymru wrth iddynt fynd i'r afael â'u cyfrifoldeb dros gynllunio trafnidiaeth ranbarthol dros dymor y Senedd hon.
Mae'r dystiolaeth o bob cwr o'r byd yn awgrymu, os ydych am i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae angen iddi fod yn hawdd ei defnyddio. Mae angen gallu 'cyrraedd a gadael', fel petai, a dyna'r egwyddor gynllunio sydd wrth wraidd ein rhaglen metro: gwasanaethau di-dor, rheolaidd sy'n cysylltu pobl â chyrchfannau allweddol, ac rydym wedi ymrwymo dros £1 biliwn i'n tair rhaglen metro. Mae pob un ar wahanol gamau o'u datblygiad a heddiw rydym yn cyhoeddi mapiau wedi'u diweddaru sy'n dangos yr uchelgais cyfredol.
Yn y de-ddwyrain, mae gwaith adeiladu sylweddol eisoes ar y gweill, ac yn yr ychydig flynyddoedd nesaf, byddwn yn gweld mwy a mwy o dystiolaeth ffisegol o un o'r prosiectau seilwaith mwyaf uchelgeisiol i'w gynnal yng Nghymru yn y cyfnod modern. Bydd gorsaf fysiau newydd wrth ymyl y brif orsaf reilffordd yn cael ei chodi yng Nghaerdydd. Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo dros yr haf ar linell graidd y Cymoedd i'w pharatoi ar gyfer trenau tram newydd. Erbyn 2024, bydd trenau tram newydd yn cynnig gwasanaethau 'cyrraedd a gadael' cyflym mewn oddeutu 50 o orsafoedd ar rwydwaith Llywodraeth Cymru, yn ogystal â gwasanaethau newydd sy'n cael eu cynllunio i ddyblu'r amlder ar reilffordd Glynebwy drwy Fro Morgannwg, ac i Faesteg.
Yng ngogledd Cymru, rydym wedi gosod y sylfeini ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd a bysiau gwell o lawer a theithio llesol drwy ein cyhoeddiad o werth £50 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Yn ddiweddar, gwelais drosof fy hun y cynlluniau yng ngorsaf Wrecsam Cyffredinol i'w gwneud yn haws i newid rhwng trên a bws, gan helpu'r cysylltiadau rhwng rheilffordd arfordir gogledd Cymru a gwasanaethau amlach lein y Gororau o'r flwyddyn nesaf yn Shotton, ynghyd â gorsaf newydd ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Rydym wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru ymgymryd â'r gwaith o ddatblygu metro bae Abertawe a gorllewin Cymru i gynorthwyo'r awdurdodau lleol yn yr ardal honno. Y gwaith hwn sydd ar y cam cynharaf yn natblygiad y tri chynllun metro allweddol, ac rwy'n awyddus i gynyddu cyflymder ac uchelgais ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn y rhan hon o Gymru. Mae oddeutu £8 miliwn wedi'i ddyrannu eleni i ddarparu cynlluniau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus i gefnogi rhaglen metro bae Abertawe. Mae gwaith rhagarweiniol yn mynd rhagddo i ddatblygu cynllun peilot bws hydrogen posibl ym mae Abertawe a sir Benfro, a bydd cyfnewidfeydd newydd, gan gynnwys gorsaf newydd yn Sanclêr a ddarperir gan Trafnidiaeth Cymru, yn weithredol erbyn 2024, gan gynnig gwelliannau gwirioneddol i drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal.
Yn ddiweddar, rwyf hefyd wedi comisiynu gwaith i ddatblygu rhaglen newydd ar gyfer canolbarth Cymru i archwilio sut y gellir cymhwyso ein dull metro yn y rhanbarth hwn a'n hardaloedd mwy gwledig ledled Cymru gyfan. Mae'n rhaid inni ddysgu o'r Almaen a'r Swistir ei bod yn gwbl bosibl cael system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol mewn ardaloedd gwledig. Bydd angen ymagwedd wahanol tuag at y Gymru drefol, ond mae'n gwbl ddichonadwy gydag ymrwymiad. Bydd gan glybiau ceir a beiciau trydan rôl fawr i'w chwarae, ynghyd â thrafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw, ac mewn cynlluniau peilot ledled Cymru, mae ein gwasanaeth Fflecsi'n cynnig mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus lle nad oedd i'w gael o'r blaen, gan ddarparu cyfleoedd newydd i fwy o bobl. Rydym bellach yn treialu Fflecsi mewn 11 ardal, lle rydym yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr, ac mae bellach wedi'i ddefnyddio ar gyfer dros 100,000 o deithiau. Ac rydym wedi ymrwymo i ddysgu ohono a'i ymestyn.
Lywydd, mae darparu ein metros yn un o'r rhaglenni mwyaf uchelgeisiol a chymhleth a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru erioed. Mae'r mapiau a gyhoeddwyd heddiw'n darlunio ein rhaglenni sydd ar y gweill. Mae gennym y gallu, yr arbenigedd, y profiad a'r awydd yng Nghymru i symud ymlaen yn gyflym. Mewn gwirionedd, ni fyddwn yn cyflawni ein huchelgeisiau sero-net os na wnawn hynny. Diolch.
Mae gennyf nifer fawr o bobl sy'n dymuno siarad, ac felly gofynnaf i bawb gadw o fewn eu dyraniad amser fel y gallwn glywed cymaint ohonynt â phosibl, os gwelwch yn dda. Ac rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog hefyd yn gryno wrth ateb y cwestiynau.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw. Hoffwn ddweud ar goedd fod y Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gefnogi'r prosiectau metro ledled Cymru, ond rwyf hefyd am ddweud nad ydym yn credu y bydd yn ateb cyflawn i'r argyfwng amgylcheddol. Rydym yn rhannu eich gobaith y bydd yn ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio llai ar eu ceir ac i ddefnyddio mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, mae gennym bryderon fod eich Llywodraeth yn dibynnu gormod ar y metro fel ateb trafnidiaeth uniongyrchol ar gyfer de Cymru. Gwn ichi grybwyll bod £750 miliwn yn cael ei wario ar dde Cymru, ac fel rhywun o dde Cymru, mae hynny'n wych, ond mewn cymhariaeth, mae £50 miliwn ar gyfer gogledd Cymru yn dro gwael braidd â'r bobl sy'n byw yng ngogledd Cymru.
Ddirprwy Weinidog, hoffwn roi enghraifft i chi. Pe bawn yn cwympo ac yn baglu yn awr ac yn torri fy llaw, bydd plastr yn llythrennol yn fy helpu hyd at bwynt penodol yn unig, ond os oes angen cast arnaf i ddatrys y broblem, dyna sydd ei angen arnom yma yng Nghymru. Mae angen cast arnom, rhywbeth sy'n mynd i ddatrys problem trafnidiaeth. Felly, credaf y bydd y buddion economaidd a ddaw yn sgil y metro yn cael eu gwrthbwyso gan y difrod a wnaed gan eich methiant i fuddsoddi er mwyn gwella ein ffyrdd. Fel y dywedodd arolygydd cynllunio ffordd liniaru arfaethedig yr M4 yn 2019, pe bai metro de Cymru'n cael ei greu dros nos, ni fyddai ond yn lliniaru traffig 5.9 y cant. Felly, hoffwn wybod: a yw eich ffigurau wedi newid ers hynny?
Mae eich penderfyniad i rewi'r holl waith adeiladu ffyrdd newydd wedi'i wfftio'n llwyr gan fusnesau yng Nghymru. Mae’r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd wedi beirniadu’r penderfyniad, gan ddweud bod angen rhwydwaith ffyrdd addas at y diben ar Gymru er mwyn hybu masnach. Fe nodoch chi mewn datganiad blaenorol nad oes gan un o bob pump o bobl fynediad at gar. Nid wyf yn ceisio bod yn anodd, ond carwn wybod o ble y cawsoch y ffigur hwnnw, gan mai fy mhrif bryder yw'r pedwar o bob pump nad ydym wedi'u trafod a'u crybwyll. Felly, Ddirprwy Weinidog, onid ydych yn teimlo efallai na fydd metro de Cymru'n datrys holl broblemau trafnidiaeth de Cymru, a bod angen seilwaith ffyrdd effeithlon a modern arnom hefyd, ochr yn ochr â hynny?
Mae eich sylwadau ar wasanaethau bysiau newydd a gwell yn cael croeso gennyf fi a llawer o fy nghyd-Aelodau, ond maent yn tynnu sylw at yr esgeulustod a’r dirywiad mewn gwasanaethau bysiau o dan Lywodraeth Lafur Cymru. O dan eich Llywodraeth, mae nifer y teithiau bws lleol wedi disgyn o 100 miliwn yn 2016-17 i 89 miliwn yn 2019-20. Felly, sut y byddwch yn cyflawni'r cynnydd rydych yn ei addo mewn gwasanaethau bysiau? Chwe blynedd yn ôl, rhoddwyd grant cynnal gwasanaethau bysiau Cymru ar waith yn lle'r grant gweithredwyr gwasanaethau bysiau, gyda chyllid wedi'i osod ar £25 miliwn. Mae'n warthus, felly, nad yw'r pot sefydlog hwn o £25 miliwn wedi newid ers cychwyn y grant cynnal gwasanaethau bysiau. Felly, sut y byddwch yn cyflawni'r cynnydd rydych wedi'i addo mewn gwasanaethau bysiau pan fo'r cyllid fesul teithiwr yn annigonol, ac yn wael o gymharu â'r hyn a ddarperir ar gyfer teithwyr ar drenau?
Rwy'n croesawu o waelod calon eich sylwadau ar system docynnau integredig newydd ac opsiynau prisiau hyblyg, ond a allwch ddweud wrthyf beth yw'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â fy ngalwad am gerdyn teithio Cymru gyfan, a gafodd ymateb cadarnhaol gan y Prif Weinidog? Ar ôl siarad â'r bobl a oedd yn gyfrifol am gerdyn Oyster yn Llundain, mae gennym y system ar waith eisoes yma yng Nghymru, ac mae gennym y seilwaith i ddarparu'r cerdyn teithio Cymru gyfan hollbwysig hwnnw. Rwyf wrth fy modd â'r syniad o gael system cerdyn debyd yma. Byddai'r system 'tapio-a-mynd' yn wych i gynifer o bobl yn gyffredinol, ond byddai'n costio llawer o arian ac amser. A oes gennym yr amser hwnnw, Ddirprwy Weinidog?
Yn olaf, Weinidog, cytunaf fod angen gorsafoedd trên newydd a gwell ar Gymru, ac rwyf wedi cefnogi galwadau am un ym Magwyr a Gwndy. Hoffwn wybod pa drafodaethau penodol a gawsoch, neu y bwriadwch eu cael, gydag Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Drafnidiaeth, Grant Shapps, i wireddu hyn ac i ddarparu'r cysylltiadau hanfodol hyn yng nghadwyn rhwydwaith Cymru ar hyn o bryd. Diolch yn fawr iawn.
Rydych wedi gofyn nifer o gwestiynau, ac rwy'n ymwybodol o gais y Dirprwy Lywydd i gadw'r atebion yn gryno, felly rwyf am wneud fy ngorau.
Rwy'n dechrau blino ar rannu llwyfannau gyda llefarwyr Ceidwadol sy'n galw arnom i roi camau beiddgar ar waith ar y newid yn yr hinsawdd a'r diwrnod wedyn yn codi yn y Senedd i fynnu ein bod yn gwario biliynau o bunnoedd ar raglenni ffyrdd. Nid yw'r ddau beth yn gydnaws, felly sut rydych yn esbonio'r datgysylltiad hwnnw, nid wyf yn deall, gan ei fod yn rhagrith llwyr. Dyna beth ydyw: rhagrith. Ni allwch wneud y ddau beth ar yr un pryd. Nawr, rydych am inni wario £2 biliwn ar draffordd drwy Gasnewydd, a fyddai, fel y gwyddom, yn cynyddu traffig a'r defnydd o geir, yn hytrach na'i leihau fel y dywed Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU wrthym fod angen inni ei wneud. Mae eich ffigurau ar y metro'n hen ffigurau, gan fod dull comisiwn Burns o weithio wedi dangos y gall dull integredig o deithio ar fysiau, rheilffyrdd a theithio llesol, gyda'r ffocws ar ddinas Casnewydd, newid dulliau teithio. Gall gyflawni'r un effaith â'r ffordd am hanner y pris.
Rydych yn gofyn o ble y cawsom y ffigurau sy'n dweud nad oes car gan 20 y cant o bobl. Mae'r ateb yn eithaf syml: y cyfrifiad. Nid oes unrhyw un yn herio'r ffigurau hyn. Mae'r rhain yn ffigurau dilys. Mewn gwirionedd, mae ffigurau ychwanegol gan Trafnidiaeth Cymru'n dangos nad oes unrhyw ddewis arall gan 80 y cant o ddefnyddwyr bysiau. Felly, mae buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn llawn cymaint o achos cyfiawnder cymdeithasol ag y mae o achos newid hinsawdd.
Mae awgrym y cerdyn teithio Cymru gyfan yn un deniadol, ond ni ellir ei gyflawni gyda'r system dameidiog, wedi'i phreifateiddio rydym wedi'i hetifeddu gan ei phlaid, a dyna pam ein bod yn cyflwyno'r Bil moderneiddio bysiau. Gall felltithio a dweud ei bod yn anghyfleus fy mod yn tynnu sylw at hanes y Ceidwadwyr mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus, ond rydym yn byw gyda'r etifeddiaeth honno 40 mlynedd yn ddiweddarach. Roedd preifateiddio'r gwasanaeth bysiau'n drychineb, ac mae'n ei gwneud fwy neu lai yn amhosibl cyflwyno'r math o newidiadau a welsom yn Llundain, oherwydd yn Llundain, cafodd y gwasanaeth bws ei gadw wedi ei reoleiddio ac mewn perchnogaeth gyhoeddus. Nid oedd hynny—[Torri ar draws.]
A wnaiff y Dirprwy Weinidog aros am funud? Dylai'r Aelodau wrando ar yr ateb. Rydych wedi gofyn cwestiynau; gwrandewch ar yr ateb, os gwelwch yn dda. A'r Aelodau ar feinciau cefn y Llywodraeth, gwrandewch chi ar yr ateb hefyd, os gwelwch yn dda. Ddirprwy Weinidog.
Ar y gwahanol lefelau o fuddsoddiad mewn gwahanol rannau o Gymru, fel y dywedais yn glir, rydym ar wahanol gamau datblygu. Mae metro de Cymru wedi bod ar y gweill ers amser hir iawn. Mae angen inni sicrhau bellach ei fod yn cael ei efelychu ledled gweddill Cymru. Rwy'n gobeithio y byddai wedi croesawu'r cyhoeddiad a wnaethom heddiw ynglŷn â bwrdd cyflawni ar gyfer gogledd Cymru, gyda chadeirydd annibynnol, i'n herio ni oll—awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru—i gynyddu ein huchelgais a chynyddu ein cyflymder. Oherwydd, os wyf fi, yn wahanol iddi hi, o ddifrif ynglŷn â chyflawni ein hymrwymiadau sero-net, mae angen inni symud adnoddau oddi wrth adeiladu ffyrdd i drafnidiaeth gyhoeddus, a dyna pam y gwnaethom gyhoeddi'r adolygiad ffyrdd.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am y datganiad. Roeddwn i eisiau gofyn yn gyntaf ichi am hyder y cyhoedd ynglŷn â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn sgil COVID. Mae gwaith ymchwil Transport Focus yn dangos bod gwahaniaeth amlwg rhwng y rhai sydd wedi bod yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y pandemig neu'n ddiweddar a'r rhaid sydd heb. Mae'r grŵp olaf yn poeni llawer mwy am ddefnyddio trafnidiaeth eto ac maen nhw eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw'n teimlo'n hyderus bod y drafnidiaeth yn lân ac yn ddiogel ac yn barod i'w defnyddio. Mae'n glir o'r hyn dŷch chi wedi bod yn ei ddweud a beth dŷn ni i gyd yn ei wybod bod angen modal shift yn y sector er mwyn cyrraedd net zero, ond eto mae niferoedd mawr o bobl yn dal i bryderu am eu diogelwch. So, pa gamau y byddwch chi a'ch Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau a rhoi hwb i hyder teithwyr er mwyn hybu'r defnydd yma o drafnidiaeth, yn enwedig ar gyfer y metro?
Roeddwn yn awyddus hefyd i ofyn am hygyrchedd, Weinidog, oherwydd yn amlwg, mae angen i ni ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Sylwaf ichi ddweud bod yn rhaid inni sicrhau mai'r peth iawn i'w wneud yw'r peth hawsaf i'w wneud. Rwy'n croesawu hynny, a hoffwn ychwanegu hefyd: y peth diogel i’w wneud. Felly, yn ogystal â sicrhau ein bod yn dysgu o'r hyn a ddywed Sustrans ynglŷn â sicrhau bod y filltir gyntaf a'r filltir olaf wedi'u cysylltu, pa gamau rydych chi a'r Llywodraeth yn edrych arnynt ac yn cynllunio ar eu cyfer i sicrhau bod rhodfeydd wedi'u goleuo'n dda, eu bod yn hygyrch ac yn teimlo'n ddiogel i fenywod sy'n cerdded ar eu pen eu hunain, a phobl hŷn a allai deimlo'n nerfus ynglŷn â chwympo hefyd os nad yw rhodfeydd wedi'u goleuo'n dda—y math hwnnw o beth? Sut rydych yn ystyried y pethau hynny?
Ddirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol iawn o'r amser, felly rwyf am ofyn un cwestiwn olaf. Gan droi at ddatgarboneiddio a chysylltedd, fe ddywedoch chi, Weinidog, yn eich ymateb i’r Ceidwadwyr yn awr, fod gennym system dameidiog sydd wedi'i phreifateiddio, sef y sefyllfa a etifeddwyd gan San Steffan o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Nid oes rhwydwaith rheilffyrdd cynhwysfawr yn cysylltu gwahanol rannau o Gymru, ac mae'n rhaid gwneud teithiau rhwng y gogledd a'r de drwy Loegr. Un o'r prif resymau am hyn yw nad yw'r holl gyfrifoldeb am reilffyrdd wedi'i ddatganoli. Felly, a gaf fi ofyn sut y bwriadwch fynd i’r afael â rhwystrau i gysylltedd mewn perthynas â thrydaneiddio, ie, cyfyngiadau’r grid, capasiti, pethau a godwyd yn ein dadl yr wythnos diwethaf, ond yn ogystal â hynny, y pwerau cyfyngedig sydd gennym ar hyn o bryd dros y seilwaith rheilffyrdd, fel y gall rhwydwaith trafnidiaeth cysylltiedig wedi'i ddatgarboneiddio'n gyfan gwbl ddod yn realiti?
Diolch. Fe ofynnoch chi nifer o gwestiynau. Mae'r galw gan deithwyr yn dechrau dod yn ôl yn y gwasanaeth rheilffyrdd. Mae bellach yn 66 y cant o'r lefelau cyn y pandemig, sy'n is o lawer, yn amlwg, ond mae'n codi drwy'r amser ac rydym yn cynnal gwaith glanhau dwys mewn gorsafoedd ac ar drenau. Rydym wedi gweld y duedd hon ledled y byd, gyda llai o hyder mewn trafnidiaeth dorfol yn sgil y pandemig, ac nid yw hynny'n annisgwyl. Dyma un o'r rhesymau pam ein bod yn cadw cymorth i'r diwydiant rheilffyrdd a bysiau ar yr un lefelau. Ond yn amlwg, rydym yn awyddus i'w leihau wrth i'r galw gynyddu. Felly, a dweud y gwir, mae'n rhaid inni deimlo ein ffordd. Rydym mewn argyfwng iechyd cyhoeddus digynsail ac nid ydym yn gwybod beth fydd gan y dyfodol i'w gynnig.
Ar hyn o bryd, rydym ar lefel rhybudd 0 ac mae hynny'n caniatáu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, ond rydym yn annog mesurau cadw pellter cymdeithasol. Rwy'n cael adroddiadau sy'n peri cryn bryder ynglŷn â gwasanaethau gorlawn a phobl ddim yn gwisgo masgiau ac mae hynny'n amlwg yn amharu ar hyder y cyhoedd. Ond mae'r gyfraith yn glir: rydym am i bobl wisgo masgiau. Mae gennym fesurau gorfodi ar waith ac mae gennym, bob un ohonom, gyfrifoldeb i ddilyn y gyfraith ac i ddilyn cyngor iechyd y cyhoedd. Ond yn amlwg, rydym mewn sefyllfa anhygoel o anodd a digynsail ac rydym yn ei monitro'n wythnosol.
Ar y pwynt ynghylch pwerau rheilffyrdd a rhwystrau i gysylltedd, mae hwn yn amlwg yn bwynt pwysig iawn. Rydym am i bwerau rheilffyrdd gael eu datganoli. Nid yw Llywodraeth y DU yn cymryd rhan yn y sgwrs honno. Mewn gwirionedd, prin eu bod yn cymryd rhan mewn unrhyw sgwrs o gwbl. Gofynnodd Natasha Asghar i mi pa bryd y cyfarfûm â Grant Shapps; rwyf wedi methu cael cyfarfod gyda Mr Shapps, mae'n gwrthod cyfarfod â ni. Felly yn sicr, mae datgysylltiad yma, sy'n peri cryn bryder i ni o ran cyflawni'r uchelgeisiau y dymunwn eu cyflawni. Ac fel y dywedais yn y datganiad, rydym yn dal i fod £5 biliwn yn brin o ran y buddsoddiad sydd ei angen arnom ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd. Felly, mae'n ein rhwystro rhag cyflawni ein huchelgeisiau sero-net, yn sicr, a chodais hyn gyda Syr Peter Hendy, cadeirydd Network Rail, yn ddiweddar. Yn amlwg, penderfyniadau gwleidyddol gan Lywodraeth y DU yn San Steffan yw'r rhain; maent yn sôn am godi'r gwastad, ond nid ydynt yn codi'r gwastad, a hyd nes y gwnânt hynny, byddwn yn wynebu'r rhwystrau a amlinellwyd gan Delyth Jewell. Yn y cyfamser, mae'n rhaid inni geisio mynd i'r afael â hwy gyda phethau eraill sydd gennym o dan ein rheolaeth, sef bysiau, yn benodol. Dyna pam ein bod yn datblygu ein strategaeth bysiau ddiwedd y flwyddyn eleni.
O ran yr aliniad, Weinidog, rhwng y metro a bwrdd cyflawni comisiwn Burns, tybed a allech ddweud mwy ynglŷn â sut y bydd hynny'n cael ei sicrhau a'i gyflawni. Mae nifer o sefydliadau'n ymwneud â hyn, fel y dywedoch chi. Bydd Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, yr awdurdodau lleol, a'r bwrdd cyflawni, yn cyflawni strategaeth comisiwn Burns ar ran y partneriaid a chyda'r partneriaid.
Mae gennych y gwaith ar y metro, ac mae gennych y cyd-bwyllgorau corfforedig. Credaf ei bod yn dipyn o dasg i sicrhau bod cyfathrebu da a chydberchnogaeth a gweledigaeth yn trosi'n fesurau gwirioneddol ar lawr gwlad. Felly, tybed a allwch ddweud mwy am y broses sy'n mynd i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni'n effeithiol mewn senario o'r fath a chyda threfniant o'r fath.
Ar deithio llesol, Weinidog, credaf ei bod yn deg dweud bod awdurdodau lleol, weithiau, wedi'i chael hi'n anodd gyda'u capasiti mewnol eu hunain i sicrhau ein bod yn cael—
A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben?
Yn sicr—ein bod yn cael yr ansawdd a'r effeithiolrwydd cywir. Felly, tybed a allwch ddweud rhywfaint ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru, gyda phartneriaid, yn sicrhau bod hynny'n cael ei gyflawni?
Yn sicr. Credaf fod y ddwy elfen yn agweddau ar yr un ddadl. Mae capasiti a gallu o fewn awdurdodau lleol yn gyfyngiad gwirioneddol ar gyflawniad. Dyna pam ei bod yn hanfodol fod awdurdodau lleol yn gweithio drwy'r cyd-bwyllgorau corfforedig i gronni eu hadnoddau. Yna, byddwn yn gweithio ochr yn ochr â hwy, drwy Trafnidiaeth Cymru. Mae James Price wedi dweud, fel prif weithredwr, ei fod am i Trafnidiaeth Cymru wasanaethu awdurdodau lleol—i fod yn ymennydd technegol iddynt; fod yr atebolrwydd wrth wneud penderfyniadau yn lleol, ond ein bod yn cronni'r gallu i gyflawni. Credaf fod hwnnw'n fodel synhwyrol.
Fel y dywedaf, mae enghraifft Casnewydd yn galonogol iawn. Drwy gynllun cyflawni Burns, credaf ein bod yn braslunio'r hyn y gellir ei roi ar waith ar gyfer gweddill Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru lawer iawn o waith yn digwydd y tu ôl i'r llenni, na fyddwch wedi gweld ei ganlyniad eto. Dyna un o'r problemau sydd gennym gyda holl ddatblygiad y metro. Mae cryn dipyn o oedi rhwng y cynllunio a'r gwaith technegol a chyflawni, ac mae pobl wedi cael llond bol ar glywed yr addewidion gan nad ydynt yn gweld unrhyw beth yn eu sgil.
Ond rydym yn sicr yn mynd i weld newid gyda hynny ar gyfer metro de Cymru yn ystod y flwyddyn neu fwy i ddod, a chredaf y byddwn yn gweld hynny yng Nghasnewydd hefyd. Mae Llywodraeth Cymru a'r cyngor a Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio'n agos iawn fel un uned ar lunio cynlluniau, gwneud cais am gyllid ar eu cyfer a gweithio ar eu cyflawni. Felly, rwy'n hyderus fod y model yn gweithio, ac rydym yn gobeithio ei ymestyn.
Mae pobl Caerdydd yn sicr wrth eu boddau eu bod yn mynd i gael eu gorsaf fysiau yn ôl, gan fod hyn wedi cymryd cryn dipyn o amser. Felly, bydd hynny'n gyffrous iawn. Diolch am gyhoeddi'r mapiau hyn, gan ei bod yn ddefnyddiol iawn gweld beth yw eich blaenoriaethau hyd at 2029.
Mae adroddiad Burns wedi'i fframio o gwmpas defnyddio dau o'r pedwar trac trên rhwng Casnewydd a Chaerdydd a thu hwnt fel asgwrn cefn i fetro de-ddwyrain Cymru, ond ni allaf weld unrhyw beth ynglŷn â hynny ar eich map. Rwy’n arbennig o bryderus am hyn gan fod Bwrdd Diogelwch a Safonau'r Rheilffyrdd wedi datgelu bod trenau deufodd yn llygrol iawn. Mae teithwyr yn anadlu aer sy'n waeth nag aer mewn lleoliad trefol prysur ar ochr y ffordd. Felly, mae hynny'n newyddion drwg iawn i Gaerdydd ac i'r holl deithwyr sy'n teithio tua'r gorllewin.
Felly, a ydych chi bron â gorfod rhoi’r gorau i ddibynnu ar Lywodraeth y DU? Bedair blynedd ar ôl canslo cynlluniau—
A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—i drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe, nid ydynt wedi cynnig eu hasesiad cychwynnol o hyd o sut y byddant yn gwella seilwaith rheilffyrdd Cymru. A oes unrhyw beth y gallwch ei ddweud i'n darbwyllo na fydd hynny'n dwll yn y cynlluniau o adroddiad Burns?
[Anghlywadwy.]—dal popeth sy'n digwydd, mae hynny'n sicr. Mae gennym gynigion i'r Adran Drafnidiaeth am waith i gyflawni argymhellion adroddiad Burns. Rydym wedi clywed pethau calonogol wrth gyfarfod â Gweinidogion, ond nid ydym wedi cael unrhyw gadarnhad eto y byddwn yn cael y cyllid. Heb y cyllid, ni fydd modd cyflawni argymhellion adroddiad Burns a mynd i'r afael â'r tagfeydd. Felly, ar y naill law, dywedant eu bod yn dymuno adeiladu ffordd, ac mae Boris Johnson yn ein ceryddu am nad ydym wedi adeiladu'r ffordd. Rydym wedi cynnig dewis arall, cynnig cyn-Ysgrifennydd Parhaol y Trysorlys, sydd wedi'i gymeradwyo gan gadeirydd Network Rail, ac nid yw Llywodraeth y DU yn ei ariannu. Felly, rydym yn dal yn obeithiol y bydd hynny'n digwydd, ond nid oes gennyf unrhyw beth i'w adrodd eto. Ond mae'r Aelod yn llygad ei lle na fyddwn, heb y cyllid hwnnw, yn gallu dod â thraffig llygrol oddi ar y ffyrdd.
Diolch, Ddirprwy Weinidog, am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. Mae'n ddatganiad amserol iawn wrth gwrs. Ychydig wythnosau'n ôl, gofynnais gwestiwn i chi yn y Siambr ynghylch metro gogledd Cymru, ac roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn cytuno â mi y dylai fod brys ynghylch darparu'r metro yng ngogledd Cymru. Ac yng ngoleuni hyn, rwy'n sicr yn croesawu rhywfaint o ffocws pellach ar fy rhanbarth, gyda chreu bwrdd cyflawni metro gogledd Cymru, fel rydych wedi'i gyhoeddi yma heddiw. Rwy'n siomedig, serch hynny, na chlywais unrhyw beth am gynnig estynedig ar gyfer gogledd Cymru. Mae'r cynnig metro presennol ar gyfer y rhanbarth yn dod i ben yn y Rhyl. Nawr, er bod y Rhyl yn gyrchfan gwych, mae gweddill gogledd Cymru angen strategaeth wedi'i chefnogi'n glir i liniaru'r pwysau presennol ar y rhai sy'n byw yn y rhanbarth, ochr yn ochr â'n 26 miliwn o ymwelwyr blynyddol, tra'n darparu ateb sy'n cyfrannu at yr her newid hinsawdd. Felly, Ddirprwy Weinidog, sut rydych chi am i fwrdd cyflawni metro gogledd Cymru fynd ati i ddarparu metro gogledd Cymru sy'n gwasanaethu'r rhanbarth mewn gwirionedd? Diolch.
Wel, fel cyn-arweinydd awdurdod lleol yng ngogledd Cymru, gwn y bydd Sam Rowlands yn llawn werthfawrogi pwysigrwydd arweinyddiaeth leol, a'r rôl sydd gan awdurdodau lleol yn llunio'r cynigion hyn. A dyna pam fy mod yn credu ei bod yn bwysig creu'r mecanwaith cyflawni cyfunol hwn, ar gyfer dulliau gweithredol a strategol, fel y gallwn gynyddu'r uchelgais gyda'n gilydd. Cyfarfûm ag aelodau cabinet bwrdd uchelgais economaidd gogledd Cymru yn ddiweddar, a rhoddais yr her hon iddynt. Credaf fod ffocws o hyd gan rai ar gynlluniau ffyrdd, ond mae angen lledaenu'r neges fod angen inni symud ein ffocws yma. Unwaith eto, mae diffyg cysylltiad rhwng, ar y naill law, galw arnom i gyrraedd targedau sero-net, ac ar y llaw arall, i fod yn gaeth i ffordd o feddwl nad yw'n cyd-fynd â'r weledigaeth honno. Felly, rwy'n awyddus iawn ein bod yn dechrau edrych o ddifrif ar y rôl y gall trafnidiaeth gyhoeddus ei chwarae fel ceffylau gwaith y system drafnidiaeth, a'n bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol gogledd Cymru i gynllunio'r hyn a fydd yn addas i'w cymunedau, fel y gallwn roi dewisiadau amgen realistig i bobl yn lle'r car.
Weinidog, fe fyddwch yn gwybod beth yw fy mhwynt terfynol ar hyn, ond a gaf fi ddweud yn gyntaf, fy mod yn credu bod y map hwn, y ddogfen, y datganiad heddiw yn dangos bod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch newid y sgwrs gyfan am symud tuag at deithio llesol, trafnidiaeth gyhoeddus—fel rydych newydd ei ddisgrifio: ceffyl gwaith y ffordd y teithiwn yn ein cymunedau, cyrraedd y gwaith, cyrraedd digwyddiadau cymdeithasol, ac yn y blaen? Ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i ni roi ein hewyllys da gwleidyddol y tu ôl i hyn hefyd, a bod yn gyson wrth ddadlau'r achos drosto, fel y gall pobl gael tocynnau cyffredinol sy'n hygyrch, yn fforddiadwy, yn rheolaidd, yn aml, fel y gallant fynd o fws i feic ac ar drên, a chyrraedd y lleoedd y maent angen mynd iddynt, a llunio'r cymunedau o gwmpas hynny.
Ond Weinidog, fe wyddoch beth rwy'n mynd i'w ddweud. Mae'r ddogfen yn cyfeirio at Faesteg, mae Maesteg ar y mapiau hefyd, yn y cynigion sy'n dod i'r amlwg hyd at 2029. Rwyf wedi bod yn ymgyrchu ar hyn bellach ers bron i ddegawd—nid ers imi ddod i'r Senedd yn unig. Weinidog, a wnewch chi gyfarfod â mi, a chynrychiolwyr awdurdodau lleol, i drafod y cynigion ar gyfer Maesteg yn fanylach, fel y gallwn roi amserlenni i'n hetholwyr i nodi pryd y byddwn yn cyflawni hyn? Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Yn naturiol, byddwn yn falch iawn o gyfarfod â'r Aelod, a'i gydweithwyr yn yr awdurdodau lleol, i drafod y pum opsiwn rydym yn edrych arnynt ar hyn o bryd i gynyddu amlder gwasanaethau ar reilffordd Maesteg fel rhan o broses cam 2 yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru a gwblheir yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae'r holl opsiynau sy'n cael eu hasesu yn cynnwys canolfannau trafnidiaeth integredig ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Heol Ewenni, a byddant yn ystyried y math priodol o gerbydau ar gyfer darparu gwasanaethau mwy mynych. Ac edrychaf ymlaen at fynd drwy'r manylion hynny gydag ef.
Weinidog, fel eraill, rwy'n croesawu'r datganiad a maint yr uchelgais gan Lywodraeth Cymru heddiw yn fawr. Aeth y cwestiwn olaf â chi i Faesteg; rwyf am fynd â chi i Lynebwy ac Abertyleri, ac ni fydd hynny'n syndod o gwbl i chi. A allech chi sicrhau bod rheilffordd Glyn Ebwy yn cael ei thrin yn gyfartal o ran y gwasanaethau a'r buddsoddiad? Nid ydym wedi gweld datganoli rheilffordd Glynebwy, ac rydym wedi gweld nad yw Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn rheilffordd Glynebwy, ac rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gamu i'r adwy ac ysgwyddo'r cyfrifoldeb yn lle Llywodraeth y DU yn hynny o beth. Ond rydym angen gwasanaethau cyfartal ac amserlen ar gyfer datblygu gwasanaethau newydd. Rydym angen cysylltiadau ag ysbyty'r Faenor hefyd. Rydym wedi trafod sawl gwaith yn y lle hwn dros y blynyddoedd. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif am yr uchelgais hwn, ni all wneud buddsoddiadau mor fawr ag ysbyty'r Faenor, a pheidio â sicrhau wedyn fod yna gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ag ysbyty'r Faenor o bob rhan o'r ardal a wasanaethir ganddo, gan gynnwys Blaenau Gwent.
Ac mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â'r strategaeth fysiau a'r Bil. Deallais y byddai'r Bil hwn yn cael ei gyflwyno ym mlwyddyn gyntaf y Senedd hon, ac felly, byddai'n ddefnyddiol, rwy'n credu, i'r Aelodau ddeall pam y mae'n ymddangos bod rhywfaint o oedi oherwydd mae angen i wasanaethau bysiau gael eu hail-reoleiddio heddiw. Rydym yn gweld effaith y polisi Thatcheraidd annoeth hwnnw ym Mlaenau Gwent heddiw. Mae pobl Blaenau Gwent eisiau rheolaeth ar eu bysiau unwaith eto. Diolch.
Wel, Ddirprwy Lywydd, nid oes unrhyw Fil yn y rhaglen ddeddfwriaethol nad yw gwahanol ymgyrchwyr eisiau iddo gael ei wneud ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon, ac yn amlwg ni allwn eu gwneud i gyd ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon. Felly, mae'r Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol ar hyn o bryd yn edrych ar y ffordd orau o reoli'r dagfa honno. Byddwn yn dweud bod yr oedi'n caniatáu inni gael cyfle i fod yn fwy uchelgeisiol, ac rydym yn awr yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol a'r gweithredwyr i weld a allwn gynllunio Bil bysiau a fydd yn fwy radical ac yn fwy effeithiol na'r un a luniwyd gennym yn y gorffennol. Felly, rwy'n credu bod hwn yn gyfle cyffrous i ni gyflawni ein huchelgais, ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn bendant wedi ymrwymo i'w wneud.
O ran ysbyty'r Faenor, credaf ei fod yn astudiaeth achos o rywbeth y mae angen i ni ei ddysgu mewn gwirionedd a pheidio â chaniatáu iddo ddigwydd eto, a dyna pam y dywedais yn y datganiad pam ei bod mor bwysig i'r cyd-bwyllgorau corfforedig a'r awdurdodau lleol ddod at ei gilydd a chymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif fel y gallant gynllunio trafnidiaeth ochr yn ochr â gwasanaethau eraill, fel nad ydym yn creu datblygiadau y tu allan i'r dref nad ydynt yn cael eu gwasanaethu gan drafnidiaeth gyhoeddus. Ac wrth gwrs, yn yr achos hwn, Llywodraeth Cymru ei hun—cynlluniau'r GIG sydd ar fai am greu safle mawr sy'n denu teithiau ymwelwyr o'r rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus. Ac rwy'n credu y dylem ddweud na ddylid caniatáu i hyn ddigwydd byth eto.
Ac felly, rwy'n teimlo'n rhwystredig nad ydym wedi gallu gwneud mwy o gynnydd ar sicrhau gwasanaeth bws i ysbyty'r Faenor fel y trafodwyd gennym o'r blaen. Y wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf i'r Aelod yw bod gwasanaeth bws bob awr, rhif 29, yn cael ei weithredu gan Bws Casnewydd, sy'n cysylltu'r ysbyty â Chwmbrân a Chasnewydd drwy Gaerllion bob awr, saith diwrnod yr wythnos. Ar ei bwynt penodol am y cymoedd y mae'n eu cynrychioli, bydd gwasanaeth bws uniongyrchol newydd i'r ysbyty o ganolfannau allweddol ym Mlaenau Gwent, Torfaen, Caerffili a Rhondda Cynon Taf yn y chwe mis nesaf os gellir dod o hyd i gyllid, a byddwn yn edrych i weld sut y gallwn gydblethu hynny â'r gwelliannau metro rydym yn eu cynllunio. Ac rwy'n sylweddoli nad yw hynny cystal ag y dylai fod, ac rwy'n ymddiheuro am hynny, ond mae hwnnw'n rhywbeth rydym yn dal i'w ddatblygu.
Ac ar ei bwynt olaf am y cysylltiadau rheilffordd, fel y gŵyr, o fis Rhagfyr eleni ymlaen, bydd gwasanaeth bob awr rhwng Cross Keys a Chasnewydd, ac rydym wedi rhoi benthyciad o £70 miliwn i Flaenau Gwent ar gyfer uwchraddio'r seilwaith fel y gallwn gael gwasanaeth newydd yn ymestyn yr holl ffordd o Lynebwy i Gasnewydd, rhywbeth y mae wedi bod yn ymgyrchu drosto'n gyson, ac yn awr bydd yn cael ei gyflwyno. Ac ar y cysylltiad ag Abertyleri, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hwnnw ac nid yw'n rhan o'r setliad datganoli. Ond mae ein buddsoddiad o £70 miliwn yn hwb i Abertyleri sy'n caniatáu i'r buddsoddiad hwnnw ddigwydd pan fydd Llywodraeth y DU yn barod i gamu i'r adwy o'r diwedd a chefnogi'r rhwydwaith fel y dylai.
Rwy'n croesawu sylwadau y Dirprwy Weinidog ar yr opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus annigonol i ysbyty'r Faenor. Mae consensws cynyddol ynghylch yr angen am weithredu brys i fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd y mae ein planed yn ei wynebu, er bod y Ceidwadwyr gyferbyn yn parhau i fod yn ddryslyd er bod Boris wedi newid o oren i wyrdd.
Mae strategaeth drafnidiaeth Cymru yn uchelgeisiol, ac mae'r metro'n cynnig potensial gwirioneddol i ni wneud gwahaniaeth ochr yn ochr â'r dulliau cynaliadwy eraill o deithio o ddrws i ddrws. Gwyddom fod pobl yn ymwybodol o'r angen i leihau'r defnydd o'r car ond yn briodol, maent yn gofyn am well dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus, ac rwy'n croesawu'r cynnydd ar bolisi bysiau i Gymru a'r newid dulliau teithio i ddilyn. Ddirprwy Weinidog, nodwch fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo traean yn fwy o wasanaethau rheilffordd er mwyn gwella cysylltedd, er nad yw'r DU wedi gwario unrhyw arian ar seilwaith yma yng Nghymru—dim gwariant ar drydaneiddio na gwariant arall yn y maes hwnnw gan Lywodraeth y DU. Ac yn Islwyn, rydym wedi gweld—
A wnewch chi ofyn eich cwestiwn yn awr, os gwelwch yn dda?
Rwy'n prysur ddod at y cwestiwn—
Nawr, os gwelwch yn dda.
—cymaint o groeso y mae'r rheilffordd o Lynebwy i Gaerdydd wedi'i gael. Ddirprwy Weinidog, pa gamau y gallwch chi a Llywodraeth Cymru eu cymryd felly er mwyn cyfarfod â Llywodraeth Geidwadol y DU i sicrhau bod Cymru'n cael yr arian mawr ei angen hwnnw i drawsnewid seilwaith sector cyhoeddus Cymru?
Wel, rydym o ddifrif eisiau gweithio gyda hwy, ac rydym yn gwneud ein gorau glas i gael deialog adeiladol gyda hwy, ond mae'n un ochrog ar hyn o bryd, mae'n rhaid dweud. Cefais gyfarfod da gyda chadeirydd Network Rail yn ddiweddar, fel y dywedais, ac rwyf wedi cyfarfod â rhai o'r Gweinidogion trafnidiaeth iau, ond nid gyda Grant Shapps ei hun. Eu barn hwy yw y dylem fod yn gwneud ceisiadau tameidiog i Lywodraeth y DU i gystadlu â phob rhan arall o'r DU am gynlluniau rheilffyrdd. Ein gwrth-ddadl yw: mae gennym gyfran o'r rhwydwaith rheilffyrdd, ac mae gennym gyfran gryn dipyn yn llai o'r buddsoddiad sydd ei angen ar y rhan honno o'r rhwydwaith. Ac felly, credwn fod gennym hawl i ddarn mwy o'r gacen yn ôl y gyfran ar sail poblogaeth a'r gyfran o'r rheilffordd hefyd. Nid ydynt yn cytuno ac ni fyddant yn gweithredu. Felly, credaf fod hynny'n golygu bod holl rethreg codi'r gwastad yn wag mewn perthynas â Chymru, ac mewn gwirionedd, maent yn gwneud pethau'n waeth drwy ddatblygu rheilffordd high speed 2 heb roi ein cyfran ar sail poblogaeth i ni; nid ydym yn cael cyfran Barnett am honno. Felly, yn ôl eu cynllun busnes eu hunain, mae rheilffordd high speed 2 yn mynd i sugno arian allan o Gymru, ac mae hefyd—gadewch i ni fod yn glir—yn mynd i niweidio economi Cymru. Felly, gwelwn effaith negyddol ar ein heconomi; ni chawn y gyfran ar sail poblogaeth y byddem fel arfer yn ei chael drwy wariant ar y rheilffyrdd yn Lloegr, felly rydym ar ein colled, ac nid ydynt yn mynd i'r afael â'u tanfuddsoddiad hanesyddol yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru. Felly, credaf ei bod yn stori gywilyddus, a byddwn yn gobeithio y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd hon, yn hytrach na chanu'r hen ganeuon, yn canolbwyntio ar fod yn adeiladol a cheisio cael eu Llywodraeth eu hunain i sefyll dros Gymru.
Fel aelod cabinet blaenorol yn sir y Fflint, hoffwn ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud buddsoddiad enfawr ym metro gogledd Cymru, gan ddarparu £17 miliwn o gyllid i awdurdodau lleol dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig, ac rwyf wedi gweld buddsoddiad mewn lonydd beicio, cyfleusterau parcio a theithio, bysiau trydan, ar draws rhanbarth gogledd Cymru. Rydym hefyd wedi rhoi—. Gwn fod sir y Fflint wedi cyflwyno cais am orsaf barcffordd hefyd—cais cynllunio ar gyfer honno—a chais i Lywodraeth y DU i'w hadeiladu. Rydym angen buddsoddiad yn rheilffordd gogledd Cymru hefyd, sydd, unwaith eto, yn arwain yn ôl at Lywodraeth y DU. Rydym wedi cael buddsoddiad o £17 miliwn gan Lywodraeth Cymru, a dim byd, hyd yma, gan Lywodraeth y DU ar ffurf cyllid codi'r gwastad, ac maent yn dal i aros i glywed am y buddsoddiad hanfodol hwn. Felly, mae gwir angen inni wthio hynny a gwneud iddo ddigwydd.
Yr wythnos diwethaf, bûm yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r holl arian sydd wedi'i fuddsoddi ym menter y metro. Felly, mae hwnnw'n fuddsoddiad mewn trafnidiaeth Fflecsi—
A wnewch chi ofyn eich cwestiwn yn awr, os gwelwch yn dda?
Iawn, dyma ni: felly, rwy'n gofyn a allwn gael arwyddion metro fel y bydd pobl yn deall y buddsoddiad a wneir mewn cyfleusterau parcio a theithio, y cysylltiadau beicio—sut y maent i gyd yn cysylltu â'i gilydd—buddsoddiad mewn gorsafoedd hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. A hefyd, ar ôl COVID—
Rydym angen cwestiwn.
Ar ôl COVID, mae angen i ni annog pobl i ddechrau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus unwaith eto. Felly, a fyddech chi, Ddirprwy Weinidog, yn sicrhau bod cyllid ar gael i awdurdodau lleol allu buddsoddi fel y gellir hysbysebu'r metro yn briodol, hysbysebu amserlenni ar gyfer bysiau a'r hyn sydd ar gael i bobl, fel y gallant gael hyder i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus eto? Diolch.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch rhoi gwybodaeth i bobl. Mae'r ymchwil yn dangos bod dau beth yn rhwystro pobl rhag manteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus: y cyntaf yw diffyg gwasanaethau, ond yr ail yw diffyg gwybodaeth am y gwasanaethau sy'n bodoli. Felly, mae rhoi gwybodaeth wedi'i thargedu i bobl yn hanfodol, a dyna un o'r pethau rydym yn edrych arnynt fel rhan o strategaeth trafnidiaeth Cymru. Yn ogystal â'r seilwaith, sut y gallwn wella'r hyn a elwir yn fesurau mwy meddal, mesurau annog? Mae arwyddion a gwybodaeth yn rhan allweddol o hynny. Felly, mae hynny'n sicr yn rhywbeth rydym yn ei ddatblygu ymhellach.
Mae arian eisoes ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer arwyddion teithio llesol a gwybodaeth am lwybrau os ydynt eisiau gwneud cais amdano. Mae'n rhaid imi ddweud, mae'r darlun ar draws gogledd Cymru, o ran yr awdurdodau lleol sy'n gwneud cais am y cyllid, yn anghyson iawn. Nid yw rhai awdurdodau lleol wedi cyflwyno cais. Felly, yn bendant, mae cyllid ar gael, ac mae cyllid ar gael i bob awdurdod lleol.
Byddaf yn ystyried y pwynt am arwyddion ar gyfer datblygiad y metro yn arbennig. Mae'n bwynt sydd wedi'i wneud am ddatblygiadau metro eraill. Fel y dywedais, mae hon yn rhaglen seilwaith sylweddol—£1 biliwn o fuddsoddiad—ac mae angen inni roi gwybod i bobl ei bod ar y ffordd a'i bod yn gyffrous, a dylai hynny eu helpu i feddwl am newid eu cynlluniau teithio.
Weinidog, fe gyfeirioch chi'n gynharach at yr angen i Gymru gael ei chyfran ar sail poblogaeth. Beth am gyfran ar sail poblogaeth o fuddsoddiad o fewn Cymru? Rydych wedi dweud bod £1 biliwn wedi cael ei fuddsoddi neu ei glustnodi hyd yma ar gyfer y tri phrosiect metro, ac eto, o'r £1,000 miliwn hwnnw, £50 miliwn yn unig sydd wedi'i ddyrannu i ogledd Cymru. Mae hwnnw'n wahaniaeth mawr yn y buddsoddiad gan eich Llywodraeth Lafur yng Nghymru. Beth a wnewch i sicrhau bod cyfran deg o fuddsoddiad yn dod i ogledd Cymru, yn hytrach na'r swm sarhaus a thila yr awgrymoch chi ei fod yn mynd yno heddiw?
Wel, nid yw Darren Millar byth yn colli cyfle i greu rhwyg a cheisio creu ymdeimlad o anghyfiawnder—
Chi sydd wedi creu'r rhwyg hwn.
Dyma'r tro cyntaf i mi ei glywed yn cyflwyno achos dros fuddsoddi mewn rheilffyrdd yng ngogledd Cymru. Fel y dywedais, mae ganddo obsesiwn gyda rhoi arian i gynlluniau adeiladu ffyrdd, er ei fod yn mynd ymlaen wedyn i bledio dros drafferthion y wiwer goch—a gyda llaw, os nad awn i'r afael â newid hinsawdd, bydd bioamrywiaeth dan fygythiad. Felly, mae datgysylltiad yn ei ddadl a'i ffordd o feddwl hefyd.
Fel y dywedais, mae cyflwr y metros mewn gwahanol rannau o Gymru yn wahanol. Mae'n rhaid inni wella'r uchelgais a chyflawniad ledled Cymru. Dyna hanfod ein strategaeth drafnidiaeth i Gymru, ac nid yw'r Aelod wedi'i chefnogi. Dyna hanfod ein buddsoddiad yn y metro, ac nid yw'r Aelod wedi'i gefnogi. A dyna yw hanfod y cyhoeddiad heddiw am fwrdd cyflawni metro gogledd Cymru. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'n cefnogi hwnnw.
Diolch ichi, Weinidog. Rwy'n croesawu cyhoeddiad y bwrdd cyflawni, ond mae'n rhaid iddo gyflawni. Nawr, mae'n amlwg i mi fod Llywodraeth y DU yn gwneud cam â gogledd Cymru drwy beidio â thrydaneiddio'r brif reilffordd, felly byddai'n dda gennyf wybod pa drafodaethau a gawsoch, Weinidog, ynghylch gwella signalau a chroesfannau signal fel ffordd o wella'r rheilffordd honno. Hoffwn ddeall hefyd pa gynlluniau sydd gennych chi a Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno cerbydau deufodd a thri modd yng ngogledd Cymru i helpu gyda'r cynnydd yn y ddarpariaeth o fewn y rhanbarth.
Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallais, Weinidog, roedd y rhan honno o'r metro bob amser yn cynnwys teithiau bws cyflym. Nawr, i mi, heb y llwybr coch, ni fydd gennym lonydd bysiau pwrpasol i ganiatáu i hyn ddigwydd. Nawr, rydych wedi gwneud rhai eithriadau ar gyfer ffyrdd yn eich adolygiad. A ydych wedi ystyried eithrio'r llwybr coch a'i lonydd bysiau?
Ac yn olaf, Weinidog, a ydych yn cefnogi ymdrechion Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy i adeiladu rhwydwaith teithio llesol cynhwysfawr? A chyda'r Llywydd yn syllu arnaf, rwyf am ddirwyn i ben yn y fan honno. [Chwerthin.]
Wel, mae'n rhaid i mi ddweud nad oes unrhyw beth i atal yr awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru rhag datblygu rhwydwaith teithio llesol uchelgeisiol yn awr, nac yn wir rhag creu lonydd bysiau. Mae'r pŵer hwnnw wedi bod yno drwy'r amser, ac mae arian ar gael i'w wneud. Felly, dyna pam fy mod eisiau sefydlu'r uned gyflawni, fel ein bod yn gweithredu'n llawer gwell gyda'n gilydd ac yn gwthio i'r un cyfeiriad.
Mae'r llwybr coch, fel y gŵyr Jack Sargeant yn iawn, yn rhan o'r adolygiad ffyrdd, ac un o ddibenion yr adolygiad ffyrdd yw edrych ar sut y gallwn flaenoriaethu buddsoddiad i gynnal y seilwaith presennol, yn ogystal â chreu'r buddsoddiad sydd ei angen arnom i greu pethau fel llwybrau bysiau teithio cyflym a gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cyffredinol. Felly, nid wyf am ddyfalu beth fydd yr adolygiad ffyrdd yn ei ddweud am y llwybr coch, ond mae yn y pot gyda bron bopeth arall i geisio symud ein cyfeiriad teithio.
O ran seilwaith, o ran rheilffyrdd—trenau, yn hytrach—ar rwydwaith gogledd Cymru, rydym ar hyn o bryd yn datblygu'r trenau dosbarth 230 ar gyfer rheilffordd Wrecsam a Bidston yn ddiweddarach eleni, ac rydym wedi cyflwyno trenau InterCity wedi'u hadnewyddu ar wasanaethau rhwng gogledd a de Cymru, gyda mwy o gapasiti a gwell gwasanaethau i gwsmeriaid. Rydym yn cynnal profion ar drenau newydd o amgylch gogledd Cymru ar hyn o bryd, a byddwn yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda rhagor o fanylion am y cynlluniau sydd gennym.
Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn ichi, Ddirprwy Lywydd, a dwi'n gwerthfawrogi eich bod chi wedi caniatáu’r cwestiwn. Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am hyn. Dim ond rŵan dwi'n gweld y mapiau. Yr hyn sy’n drawiadol ydy’r diffyg buddsoddi ac absenoldeb unrhyw beth yn ein hardaloedd gwledig ni unwaith eto. Rŵan, dwi’n deall bod y mapiau’n edrych ar drenau, ond mae pobl ardaloedd gwledig yn fwy dibynnol ar drafnidiaeth breifat na thrafnidiaeth gyhoeddus oherwydd absenoldeb trafnidiaeth gyhoeddus yn ein cymunedau gwledig. Felly, pa gynlluniau sydd gennych chi er mwyn ehangu'r ddarpariaeth drenau yn ein cymunedau gwledig, yn enwedig yn edrych ar y gorllewin—o Ynys Môn lawr trwy Feirionnydd, trwy Geredigion a sir Gaerfyrddin? Diolch yn fawr iawn.
Wel, credaf y dylem fod yn fwy diagnostig, mewn gwirionedd, wrth ystyried trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig. Gwn fod yna ffocws ar drenau rheilffordd trwm, ond o ran carbon, mae gennym dargedau anodd iawn i'w cyrraedd. Mae'n rhaid inni gynyddu'r toriadau i allyriadau yn y 10 mlynedd nesaf i raddau mwy nag y llwyddasom i'w wneud dros y 30 mlynedd diwethaf, a swm cyfyngedig o arian sydd gennym i wneud hynny. Felly, credaf fod angen inni wneud penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â ble y gall yr arian sydd gennym gael yr effaith orau o ran arbedion carbon. Ac nid gwario dros £1 biliwn ar reilffyrdd trwm mewn ardaloedd gwledig yw'r ffordd orau o wneud hynny yn fy marn i.
Nawr, credaf y gallwn sicrhau newid sylweddol mewn dulliau teithio mewn ardaloedd gwledig gan ddefnyddio dulliau gwahanol. Felly, fel y soniais yn fy natganiad, os edrychwn er enghraifft ar gefn gwlad yr Almaen neu gefn gwlad y Swistir, lle mae ganddynt fysiau fflecsi fel rydym yn eu datblygu yng Nghymru, mae ganddynt feiciau trydan, mae ganddynt glybiau ceir—ceir ystod eang o bethau eraill y gellir eu gwneud yn gyflym, yn llawer cyflymach nag adeiladu llwybr rheilffordd trwm, i roi dewisiadau amgen ymarferol i bobl yn lle'r car na fyddai'n costio cymaint ac a fyddai yn ein galluogi i gyrraedd ein targedau newid hinsawdd mewn ffordd na fyddai dargyfeirio adnoddau tuag at gynlluniau fel y rhain yn ei wneud.
Ac yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch. Tri chwestiwn byr iawn. Rydych yn cyfeirio at Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. O gofio bod cynnig y fargen dwf yn gynnig gan Lywodraeth y DU yn wreiddiol, a bod Llywodraeth Cymru wedi arwyddo penawdau'r telerau gyda Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd 2019, cynnig sy'n canolbwyntio'n bennaf ar seilwaith ac a gaiff ei ariannu ar y cyd gan y ddwy Lywodraeth, mae'n rhaid bod Llywodraeth y DU eisoes yn rhan o fetro gogledd Cymru, yn enwedig mewn perthynas â'r seilwaith a'r cysylltedd trawsffiniol. A allwch chi gadarnhau beth yw'r ymgysylltiad hwnnw? Oherwydd gwn ei fod yn ddiffuant ac yn parhau o gyfeiriad y Llywodraeth arall.
A ydych yn cydnabod bod llawer o'r cynigion mewn perthynas â metro gogledd Cymru mewn gwirionedd yn rhagflaenu metro gogledd Cymru, ac yn deillio, er enghraifft, o gynigion Trac Twf 360 y bwrdd uchelgais economaidd, y cynigion ynghylch gorsaf Crewe, sydd bellach wedi dwyn ffrwyth, diolch byth, a fy nghysylltiad â Llywodraeth Cymru ar ran grwpiau defnyddwyr rheilffyrdd yn galw am y gwelliannau i wasanaethau yn Shotton a'r orsaf newydd ym Mharcffordd Glannau Dyfrdwy, a ddigwyddodd sawl blwyddyn cyn y cyhoeddiadau ar y metro?
Ac yn olaf, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r cyhoeddiad, ar lefel ddatganoledig, gan Fanceinion yn Lloegr, mai'r cyswllt rheilffordd o ogledd Cymru i Faes Awyr Manceinion yw'r opsiwn a ddewiswyd ac mai hwnnw fydd yn cael ei gadw wrth inni symud ymlaen?
Wel, yn amlwg, mae gan Lywodraeth y DU rôl i'w chwarae ym maes trafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd Cymru, ac nid yw'r rheilffyrdd wedi'u datganoli. Ac fel y soniwyd eisoes, nid yw rheilffordd gogledd Cymru wedi cael ei thrydaneiddio eto. Rydym wedi pwyso am gyllid cysylltedd yr undeb er mwyn i'r uned gyflawni fwrw ymlaen â thrydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, a byddwn yn gwerthfawrogi cymorth Mark Isherwood i berswadio ei gyd-bleidwyr yn San Steffan i gefnogi ei etholwyr, oherwydd nid ydynt wedi gwneud hynny eto. Rydym hefyd wedi cefnogi'r cais gan Gyngor Sir y Fflint i gronfa codi'r gwastad, ac rydym yn dal i aros i glywed am y cais hwnnw. Felly, mae yna rôl i'w chwarae yn sicr, ac rydym eisiau gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i wneud i hyn ddigwydd.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer 'Great British Railways', fel y maent yn ei alw, ac os caiff ei wneud yn iawn—ac os nad yw'n fater o chwifio baner yn unig, os yw'n ymwneud â gwella cyflawniad—os caiff ei wneud yn iawn, gallai wella gwaith partneriaeth. Gwnaethom gefnogi argymhelliad Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin ar gyfer bwrdd cyflawni ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr i fwrw ymlaen â'r pethau hyn, a byddem yn hapus iawn i weithio mewn partneriaeth â hwy ar hynny. Ond mae partneriaeth yn gweithio'r ddwy ffordd, ac nid yw'r cyfrifoldeb am seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, ac nid yw Llywodraeth y DU yn cyflawni.
Diolch, Dirprwy Weinidog, a diolch, bawb. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dwy funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.