– Senedd Cymru am 5:45 pm ar 2 Tachwedd 2021.
Eitem 7, datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: diweddariad ar y rhaglen ddatgarboneiddio ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fel y mae'r Aelodau'n ymwybodol, cafodd cynllun Cymru Sero Net Llywodraeth Cymru ei lansio'r wythnos diwethaf, 28 Hydref, a hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ran hanfodol iechyd a gofal cymdeithasol wrth gyfrannu at uchelgais gyfunol sector cyhoeddus Cymru i gyrraedd sero net erbyn 2030. Rydym ni'n gwybod bod angen gweithredu, nid yn unig oherwydd mai GIG Cymru yw'r allyrrydd sector cyhoeddus mwyaf, gan gyfrannu hyd at 40 y cant o allyriadau carbon y sector cyhoeddus, ond hefyd oherwydd bod systemau iechyd a gofal cymdeithasol ar flaen y gad o ran ymateb i effaith yr argyfwng hinsawdd ar ganlyniadau iechyd.
Mewn ymateb i'r her hon, ym mis Mawrth eleni, cafodd 'Cynllun Cyflenwi Strategol ar gyfer Datgarboneiddio GIG Cymru' ei gyhoeddi; mandad clir ac uchelgeisiol ar gyfer gweithredu sy'n nodi ymrwymiadau allweddol ar gyfer cyflawni ledled ein hardaloedd allyriadau uchaf. Mae gan iechyd a gofal cymdeithasol ran arweiniol hanfodol ar y cyd o ran ysgogi a gwreiddio sero net ar draws popeth yr ydym ni'n ei wneud, ac wrth ddod â chymunedau Cymru gyda ni, oherwydd bod gan bob un ohonom ni ein rhan i'w chwarae. Rydym ni'n ymwybodol pa mor ddiflino y mae ein sector iechyd a gofal cymdeithasol wedi gweithio drwy gydol pandemig COVID-19, a bod pwysau ychwanegol y gaeaf o'n blaenau. Fodd bynnag, nid yw'r argyfwng hinsawdd wedi diflannu ac ni fydd yn diflannu ac mae'n rhaid ymateb iddo gyda'r un brys y mae'r pandemig wedi ei ofyn o'n sector.
Mae'r her eisoes wedi ei chroesawu ar draws y sector iechyd, ac mae'r ymroddiad sydd wedi ei ddangos gan grwpiau o feddygon, nyrsys, fferyllwyr a staff anghlinigol ledled Cymru sydd eisoes yn bwrw ymlaen â'r agenda hon ac yn datblygu eu grwpiau gwyrdd eu hunain i helpu eu lleoliadau gofal iechyd i weithredu'n fwy cynaliadwy wedi gwneud argraff arnaf i. Mae'r tîm yn Ysbyty Gwynedd, er enghraifft, wedi cychwyn treialon cyfarpar diogelu personol y mae modd ei ailddefnyddio; maen nhw wedi newid i nwyon anaesthetig sy'n achosi llai o lygredd ac wedi plannu coed a blodau gwyllt, gan gydnabod bod lleihau allyriadau a chynyddu mannau gwyrdd, yn ogystal â helpu i atal clefydau, mae ganddyn nhw fanteision lles sylweddol hefyd. Mae newid y nwy meddygol yn yr ysbyty hwn yn unig, wedi arbed tua'r hyn sy'n cyfateb i yrru 27,500 milltir y mis. Nid yw gwaith o'r fath yn unigryw, mae cynnydd rhagorol yn cael ei gyflawni ar draws ein sector iechyd. Mae data Cymru gyfan yn dangos y bu gostyngiad o 67 y cant yn ôl troed carbon nwyon anaesthetig ledled Cymru ers mis Mehefin 2019, ac mae gan bwyllgor rhwydwaith anaestheteg amgylcheddol Cymru y nod o gyrraedd 80 y cant bellach.
Mae gweithgarwch arall ar y gweill hefyd i gryfhau dull Cymru o ymdrin â gofal iechyd cynaliadwy ac i gefnogi datgarboneiddio mewn gofal sylfaenol ehangach. Bydd ein polisi o ofal iechyd darbodus, gyda'r nod o roi'r gofal cywir yn y lle cywir ar yr adeg gywir i gleifion, yn lleihau teithio a chysylltu'n ddiangen â chleifion lluosog.
Mae ein model gofal cyfunol, sy'n seiliedig ar frysbennu clinigol, yn darparu apwyntiadau dros y ffôn neu drwy fideo yn ogystal ag wyneb yn wyneb lle bo hynny'n briodol yn glinigol. Mae'r model cyfunol hwn yn fwy cyfleus i gleifion; mae'n helpu i atal y perygl o ledu clefydau ac yn lleihau teithiau diangen i gleifion. Mae hyn wedi ei alluogi gan fuddsoddiad mewn seilwaith a meddalwedd digidol, gan roi dewis i gleifion o ffyrdd mwy priodol a gwyrddach o gael gafael ar ofal a chyngor, ac mae eisoes wedi arwain at ostyngiad o dros 7 miliwn o filltiroedd teithio a dros 1.7 miliwn kg o allyriadau carbon. Mae hynny'n cyfateb i 289 o deithiau ledled y byd.
Rhan bwysig arall o'r ymdrech i helpu Cymru i gyrraedd sero net fydd lleihau a chael gwared ar allyriadau o drafnidiaeth sector cyhoeddus a'i fflyd. I'r perwyl hwnnw, mae pwyntiau gwefru cerbydau trydan wedi cael eu cyflwyno ar draws ystâd y gwasanaeth iechyd, ac fe fydd pwyntiau gwefru yn cael eu hystyried ym mhob project yn y dyfodol. Fe fydd adeiladau'r gwasanaeth iechyd yn cael eu diweddaru i fod yn fwy effeithlon o ran ynni, gyda chynlluniau trydan adnewyddadwy mawr ar waith ac ambiwlansys allyriadau isel neu drydan wedi'u caffael.
Mae cyrff y sector cyhoeddus wedi ymrwymo gyda'i gilydd i fod yn fwy effeithlon o ran sut mae adeiladau a lleoliadau sector cyhoeddus yn cael eu defnyddio. Mae'r gwasanaeth iechyd yn arwain y ffordd fan hyn. Mae gwaith arloesol yn digwydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, lle mae'r tir y maen nhw wedi'i sicrhau ac wedi prynu yn mynd i greu fferm solar o 4 MW. Mae gan y fferm solar 10,000 o baneli ar 14 hectar o dir. Mae'n darparu pŵer i Ysbyty Treforys trwy gysylltiad gwifren preifat. Ysbyty Treforys yw'r ysbyty cyntaf yng Nghymru i wneud hyn, ac yn wir credir mai hwn yw'r cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddatblygu ei fferm solar ar raddfa lawn ei hun. Fe fydd yn torri'r galw am drydan o dua £0.5 miliwn y flwyddyn gan leihau'r allyriadau carbon yn sylweddol ac ar ei anterth fe allai hefyd gyflenwi'r galw am drydan ar gyfer yr ysbyty cyfan.
Er bod cynnydd yn cael ei wneud, dim ond y dechrau yw'r 'Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru'. Mae'r sector gofal cymdeithasol hefyd wedi cychwyn ar ei daith datgarboneiddio, gyda gwaith wedi hen ddechrau i ganfod ei ôl troed carbon ac i lunio cynllun datgarboneiddio ar gyfer y sector erbyn mis Mawrth 2022. Mae arferion da eisoes yn cael eu nodi ar draws gofal cymdeithasol. Mae llawer o adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn symud i alwadau cartref ar sail clystyrau i leihau'r allyriadau, ac mae ôl troed carbon yn elfen allweddol o'r broses gaffael.
Yn Wrecsam, mae dull ffabrig yn gyntaf wedi ei fabwysiadu i wella perfformiad amgylcheddol ac effeithlonrwydd ynni adeiladau gofal cymdeithasol. Mae awdurdodau lleol eraill, fel Casnewydd a sir y Fflint, wedi gwella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi trwy osod paneli trydan solar arnyn nhw. Mae’r sector gofal cymdeithasol wedi’i gynrychioli’n dda ac yn gweithio'n galed wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Mae wedi ymrwymo i’w ymdrechion cyfunol o fewn uchelgais y sector cyhoeddus i gyrraedd sero net erbyn 2030.
Mae'r pandemig wedi ein hatgoffa ni fod angen i'n gwasanaethau fod yn hyblyg ac yn barod ar gyfer heriau'r dyfodol. Rŷn ni hefyd wedi ymrwymo i baratoi Cymru ar gyfer tywydd poethach a gwlypach yn y dyfodol. Mae gwaith wedi'i gomisiynu i ddiweddaru cyngor a chanllawiau iechyd y cyhoedd ar risgiau newid hinsawdd, ar sail y dystiolaeth ddiweddaraf o'r effaith ar iechyd y cyhoedd yn sgil gwres, oerfel a llifogydd eithafol, a chlefydau sy'n cael eu cludo gan fectorau. Yn ogystal, bydd prosesau ar gyfer rhoi cyngor iechyd y cyhoedd am amodau tywydd eithafol difrifol yn cael eu diweddaru i gynnwys gwasanaethau rhybudd newydd y Swyddfa Dywydd i roi'r wybodaeth orau posibl i'r cyhoedd. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma? Wrth gwrs, wrth i'r byd ganolbwyntio ar ein hargyfwng hinsawdd—a dyna beth ydyw—rwy'n credu ei bod yn iawn i ni drafod hyn yng nghyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, yn hynny o beth, rwy'n croesawu'r datganiad heddiw.
Ar ddechrau eich datganiad, Gweinidog, fe wnaethoch chi gyfeirio at GIG Cymru fel yr allyrrydd sector cyhoeddus mwyaf, gan gyfrannu hyd at oddeutu 40 y cant o allyriadau carbon y sector cyhoeddus. Roeddwn i'n edrych ar rywfaint o ymchwil ddiweddar gan Ipsos MORI, a'r hyn yr oedd yr ymchwil honno wedi ei ddarganfod oedd, i raddau helaeth—ac mae hyn ledled y DU, nid yn unig o ran GIG Cymru—bod yr uchelgais net-sero ar gyfer y GIG yn cael ei chroesawu ledled y DU, ond bod diffyg ymwybyddiaeth gan y cyhoedd. Felly, ar ôl esbonio iddyn nhw beth yw uchelgeisiau'r GIG, yna mae wedi cael llawer iawn o gefnogaeth gyhoeddus a phrin iawn y bu'r gwrthwynebiad. Yr hyn a oedd yn arbennig o berthnasol i'r ymchwil hon, mae'n debyg, oedd bod ymdrin â newid hinsawdd yn isel ar restr flaenoriaethau'r cyhoedd ar gyfer y GIG. Felly, nid yw hyn yn wir mewn meysydd eraill, ond mae hi yn y maes arbennig hwn. Felly, tybed, Gweinidog, beth allwch chi ei wneud a beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i amlygu a phwysleisio'r agenda gynaliadwyedd yng nghyd-destun GIG Cymru.
Gweinidog, mor aml rwy'n gweld datganiadau a thrafodaethau yn y Siambr hon ynghylch y meysydd hyn sy'n canolbwyntio'n fawr ar adeiladau newydd, ac rwy'n ymwybodol iawn o stoc ac adeiladau presennol y GIG hefyd. Rwy'n gallu gweld y bu ymgynghorydd yn Ysbyty Gwynedd yn sôn yn ddiweddar am dymheredd yn cyrraedd 30 gradd mewn rhai rhannau o'r ysbyty. Cyfeiriodd at hen ffenestri gwydr sengl heb eu hinsiwleiddio a gafodd eu gosod yn y 1980au. Felly, ie, y pwynt y mae'n ei wneud yw'r tymheredd uchel hynny ac mae'n debyg y gost, onid yw, ar gyfer y systemau aerdymheru, ac yna ym misoedd oerach y gaeaf, gost colli'r ynni hwnnw allan o ffenestri anaddas. Rwy'n meddwl am ysbytai yn fy etholaeth fy hun fel y Drenewydd. Cafodd yr adeilad hwnnw ei godi cyn i'r GIG gael ei greu hyd yn oed, felly tybed yn hynny o beth a allech chi efallai ehangu eich syniadau o ran ymateb i'r angen i ddiweddaru adeiladau a stoc bresennol y GIG yng nghyd-destun yr hyn yr wyf i newydd ei ddweud.
Ac yna, y mater olaf y byddaf i'n ei godi hefyd yw teithio ar gyfer apwyntiadau. Fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad am apwyntiadau digidol neu apwyntiadau ffôn. Yn dda i gyd, wrth gwrs; mae hynny'n briodol iawn, yn enwedig ar gyfer ardaloedd gwledig Cymru, ond yna rydych chi hefyd yn mynd ymlaen i ddweud, 'lle y bo'n briodol', oherwydd weithiau mae angen yr apwyntiad wyneb yn wyneb hwnnw ar bobl. Ond, wrth gwrs, yn rhannau gwledig Cymru, efallai y bydd yn rhaid i bobl fynd ar daith gylch dair awr. Mewn gwirionedd, os ydych chi'n teithio o ganol Cymru, efallai y bydd yn rhaid i chi deithio i Telford ar gyfer apwyntiad; ni ellir ei wneud wyneb yn wyneb. Ond byddai modd gwneud yr apwyntiad hwnnw yn lleol os yw ar gyfer triniaeth arbenigol ac, wrth gwrs, ni allwch chi—mae'n rhaid i chi deithio am driniaeth arbenigol—ond mor aml, mae llawer o fy etholwyr i, er enghraifft, yn mynd ar daith gylch dair awr, yn gorfod gwneud hynny mewn car oherwydd nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael ar gyfer apwyntiad y byddai modd ei wneud yn lleol mewn gwirionedd gan nad yw'n fath arbenigol o driniaeth. Mor aml ym meddwl y Llywodraeth, mae prawfesur ar gyfer ardaloedd gwledig yn isel ar yr agenda. Mae'n agwedd 'Cyflwynwch bolisi ac yna gadewch i ni weld nawr sut y gallwn ni ei brawfesur mewn cyd-destun gwledig', ond byddwn i'n awgrymu bod angen prawfesur ar gyfer anghenion mewn ardaloedd gwledig fod wrth wraidd meddwl y Llywodraeth o'r cychwyn cyntaf. Felly, efallai y gwnewch chi roi eich barn i ni ar y syniad hwnnw hefyd, Gweinidog.
Diolch yn fawr iawn, Russell, ac rwy'n falch o weld eich bod chi'n cytuno â'n huchelgais sero-net. Rwy'n credu mai un o fanteision heddiw yw ein bod ni, mewn gwirionedd, yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, rydym yn dweud wrth bobl fod hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid iddo ddigwydd ym mhob sector o'n meysydd polisi. Er, o ran y GIG, efallai nad hwn yw'r peth y mae pobl yn ei ystyried fel y mater pwysicaf oll iddyn nhw, mae'n amlwg yn rhywbeth y mae angen i ni ei gymryd o ddifrif ym mhob agwedd ar ein bywydau, a bydd y GIG yn ganolog i hynny hefyd. A'r ffaith yw bod y GIG yn allyrru tua 1 miliwn tunnell o garbon deuocsid—yn sicr, roedd hynny'n wir yn 2018-19—felly mae gennym ni daith hir i fynd arni. Rydych chi'n sôn am y stoc bresennol, ac rydych chi'n hollol gywir—mae rhai hen adeiladau yn y GIG, ac mae rhai adeiladau newydd, ac, wrth gwrs, bydd yn rhaid caffael unrhyw adeilad newydd a bydd yn rhaid iddo gydymffurfio â'n huchelgeisiau sero-net. Ond, erbyn 2026, rydym ni wedi ei gwneud yn glir yn ein cynllun cyflenwi strategol datgarboneiddio y bydd pob adeilad rhwng 2026 a 2030 wedi ei uwchraddio i fod yn effeithlon o ran ynni, a bydd gwres carbon isel yn cael ei ddefnyddio a bydd ynni adnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu ar y safle. Felly, rydym ni'n gwbl glir ynglŷn â ble yr ydym ni'n mynd yn hyn o beth.
Fel chi, rwyf i'n cynrychioli ardal wledig iawn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r sensitifrwydd sy'n ymwneud â natur wledig a chyfle i fanteisio ar iechyd y cyhoedd. Ond yr hyn yr wyf i wedi ei ganfod, mewn gwirionedd, yw y bu'n eithaf trawsnewidiol, holl brofiad y pandemig, a'n bod ni i gyd wedi dysgu defnyddio technoleg mewn ffordd nad oeddem ni'n ymwybodol y gallem ni ei wneud o'r blaen, ac mae'r GIG wedi ei chroesawu. Mae hi wedi bod yn wych siarad â chleifion a oedd gynt yn gorfod teithio milltiroedd ar filltiroedd i fynd i weld arbenigwr, a bellach mae modd iddyn nhw gael ymgynghoriad o bell. Felly, rwyf i'n credu bod hynny wedi bod o fudd enfawr, nid yn unig o ran newid hinsawdd, ond hefyd i'r cleifion eu hunain, wrth gwrs. Ond wrth gwrs bydd adegau pan fydd yn rhaid i bobl fynd i gwrdd â'r arbenigwr wyneb yn wyneb, yn enwedig os oes angen llawdriniaeth. Felly, mae hyn yn ymwneud â chydbwysedd, ac mae'n rhaid i ni gael y cydbwysedd yn gywir, ond yn sicr o ran prawfesur ar gyfer ardaloedd gwledig, rwyf i'n credu eich bod chi'n llygad eich lle. Mae angen i ni feddwl am hyn ar ddechrau'r broses. Un o'r pethau yr wyf i wedi bod yn sôn amdanyn nhw heddiw yw'r mater o ran y math o gymorth sy'n cael ei roi gan gynifer o bobl sy'n mynd â chleifion i'r ysbyty yn wirfoddol a'r angen i ni eu gwerthfawrogi ychydig yn fwy. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd ar fy agenda hefyd.
Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae'r argyfwng hinsawdd, fel y clywsom ni gan y Gweinidog, yn argyfwng iechyd, wrth gwrs. Mae meddygon yn gweld effaith llygredd awyr. Mae eithafion tywydd yn fygythiad i iechyd, yn fygythiad i fywyd. Mae'r problemau yn mynd i fynd yn waeth oni bai bod gweithredu yn digwydd, ac mae ein llygaid ni i gyd ar COP26 yn y gobaith o weld arwyddion bod hynny ar ddigwydd. Y gwir ydy, wrth gwrs, fod y gwasanaeth iechyd a gofal ei hun yn gyfrannwr trwm iawn tuag at yr allyriadau a'r problemau eraill sydd yn arwain at newid hinsawdd, ac mae angen mynd i'r afael â hynny.
Mae'n drueni na chawsom ni gyfle i drafod yn llawn y rhaglen strategol, y rhaglen gyflawni a gafodd ei chyhoeddi, os dwi'n cofio'n iawn, ryw ddiwrnod cyn diddymu'r Senedd ddiwethaf. Ond mae'n braf ein bod ni'n cael y diweddariad yma rŵan, ac mae hi'n addas iawn, wrth gwrs, fod hynny yn digwydd yn ystod cynhadledd COP26. Mae'n galonogol i glywed nifer o elfennau o'r hyn a ddywedodd y Gweinidog heddiw—bod pethau'n dechrau symud i'r cyfeiriad iawn, bod yr NHS yn dangos arwyddion o allu dod yn fwy cynaliadwy, ond mae yna gymaint o ffordd i fynd, o'r defnydd o nwyon anesthetig, fel y clywsom ni'r Gweinidog yn cyfeirio atyn nhw, i'r gorddefnydd o blastig mewn pharmaceuticals. Mae pympiau asthma wedi bod yn broblem fawr, er enghraifft, a sut mae'r ystâd iechyd ei hun wedi cael ei chynllunio. Dŷn ni'n gwybod, onid ydym, fod yna feirniadu wedi bod o ran y cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i ysbyty'r Grange, ysbyty cyffredinol mwyaf newydd Cymru. Roeddwn i'n darllen adroddiad o ryw flwyddyn yn ôl yn y Caerphilly Observer, yn dweud,
'Er bod pryderon wedi'u codi ynghylch mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus...mae'r bwrdd iechyd yn honni y bydd y rhan fwyaf o gleifion yn cael eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.'
Wel, beth sydd gennym ni yn fanna ydy enghraifft o anwybyddu'n llwyr y broblem amgylcheddol sy'n cael ei chreu wrth fethu meddwl yn ddigon amgylcheddol wrth gynllunio gwasanaethau. Bydd, mi fydd cleifion sydd yn sâl iawn yn cael eu cludo yno mewn ambiwlans, ond beth am y staff? Beth am yr ymwelwyr? Beth am y cyflenwyr a'r holl gleifion dydd sydd angen cael eu hannog i adael y car gartref, nid gweld rhwystrau yn cael eu codi o'u blaenau nhw drwy ddiffyg cynllunio? Gobeithio na fydd hynny'n digwydd efo datblygiadau yn y dyfodol.
Mae yna gymaint o gwestiynau y gallwn ni fynd ar eu hôl. Mi wna i godi jest rhyw dri neu bedwar yn fan hyn. Beth mae'r Gweinidog yn mynd i wneud i adeiladu'r capasiti i gynyddu'r momentwm dros fentrau gwyrdd? Mi glywsom ni sôn yn benodol am Ysbyty Gwynedd—y gwaith da sy'n cael ei wneud yn fanna. Yn wir, mae yna waith da iawn yn mynd ymlaen ar gynlluniau gwyrdd yno. Ond, mae staff yn aml iawn wedi gorfod gweithio ar y rhaglenni gwyrdd yno yn wirfoddol ar ddiwedd sifft yn ystod cyfnod y pandemig. Felly, oes yna gynlluniau i greu'r capasiti yna, i greu swyddi arbenigol i hybu cynaliadwyedd o fewn byrddau iechyd ac ati? A pha drafodaethau, wrth gwrs, sydd wedi bod efo'r Gweinidog cyllid i helpu gwasanaethau iechyd a gofal i drio mynd ymhellach hyd yn oed na'r hyn sy'n cael ei amlinellu yn y cynllun cyflenwi strategol?
Ac yn olaf, dydyn ni ddim yn gorfod gweithredu ar ein pen ein hunain fan hyn. Nid yw Cymru'n gweithredu mewn vacuum; rydyn ni'n rhan o ymdrech ryngwladol i drio mynd i'r afael â'r broblem o arferion amgylcheddol amhriodol, ddywedwn ni, a'r angen i newid arferion o fewn gwasanaethau iechyd. Dwi wedi bod yn edrych heddiw yma ar raglen Race to Zero y Cenhedloedd Unedig, ac yn arbennig o dan y pennawd 'Health Care Without Harm'. Mae yna fyrddau iechyd, sefydliadau iechyd ar draws y byd yno sydd wedi ymrwymo i gefnogi'r rhaglen benodol honno. Mi ydych chi, mewn ffordd, yn cefnogi yr egwyddor sydd yn Race to Zero. A gaf i ofyn a wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaeth iechyd Cymru, yr NHS yng Nghymru, a'n gwasanaethau gofal ni hefyd yn cael eu hychwanegu at y rhestr yna o sefydliadau sydd am fod yn rhan ganolog o'r ras tuag at sero net?
Diolch yn fawr, Rhun. Yn gyntaf, a gaf i gytuno gyda chi? Mae yna lot o bethau mae'n rhaid i ni eu hystyried yn y maes yma. Un ohonyn nhw, wrth gwrs, y gwnaethoch chi sôn amdano, yw effaith llygredd aer ar iechyd. Rŷn ni'n gwybod bod yna gysylltiad rhwng llygredd awyr a cardiac arrest, gyda strôc, gyda heart disease, gyda lung cancer, gydag obesity, gyda cardiovascular disease, asthma, dementia—mae'r rhain i gyd yn gysylltiedig gyda llygredd aer. Felly, yn amlwg, mae'n rhaid i ni gymryd hwn o ddifrif. Dyw e ddim yn rhywbeth sydd yn sefyll ar wahân.
Rydych chi'n eithaf reit, pan fyddwn ni'n datblygu syniadau ar gyfer ysbytai newydd neu ddatblygiadau newydd, fod yn rhaid i ni ystyried trafnidiaeth gyhoeddus. Dwi eisiau canmol Hefin David am y gwaith y mae e wedi bod yn ei wneud gyda chwmnïau bysys i geisio cael gwell cysylltiadau i ysbyty'r Grange. Felly, mae hwnna wedi bod yn help aruthrol.
O ran cynyddu capasiti, mae yna grŵp newydd wedi'i ffurfio, grŵp climate change, ac mae yna fwrdd datgarboneiddio, ac mae'n rhaid i bob bwrdd iechyd nawr ddatblygu cynlluniau, action plans. Beth sy'n bwysig yw eu bod nhw'n deall, pan fydd hi'n dod i gaffael, pan fydd hi'n dod i procurement, fanna yw lle mae lot fawr o'r problemau yn dod ohono o ran carbon.
Felly, mae yna bedwar ardal, rili, y mae'n rhaid i ni ffocysu arnyn nhw: un yw'r adeiladau; yr ail yw egni; y trydydd yw caffael, neu procurement; a'r pedwerydd yw teithio. Ac felly, o'r rheini i gyd, dwi'n meddwl mai ym maes procurement mae sgôp gyda ni i wneud lot fawr o wahaniaeth.
A diolch am ddenu fy sylw i at yr UN Race to Zero. Dwi ddim wedi gweld hwnna eto, ond fe wna i edrych mewn i hynny i weld os yw hwnna'n rhywbeth y gallwn ni ei arwyddo hefyd. Beth dwi yn gwybod yw bod y World Health Organization wedi dweud y bydd climate change yn arwain at 250,000 o farwolaethau ychwanegol erbyn 2030. Felly, mae yna gyfrifoldeb arnon ni i gyd. Mae'n plant ni yn edrych arnon ni, ac mae'n rhaid i ni ymateb.
Ac yn olaf, Gareth Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am y datganiad heno, Gweinidog. Rwyf i eisiau datgan buddiant gan fy mod i'n gynghorydd sir yn sir Ddinbych ac rwy'n mynd i sôn am awdurdodau lleol. Felly, ar hyn o bryd mae gofal cymdeithasol yn cael ei gynnal a'i weithredu gan ein 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Beth yw'r ysgogiad i ddatgarboneiddio'r sector gofal cymdeithasol pan nad yw pob cyngor wedi datgan argyfwng hinsawdd? Roedd fy awdurdod lleol fy hun, Cyngor Sir Ddinbych, ymysg y rhai cyntaf i'w ddatgan, ond beth am sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful neu Gastell-nedd Port Talbot a'u tebyg? Gweinidog, a ydych chi'n siŵr y bydd y cynghorau hyn yn cymryd y camau angenrheidiol i gyfyngu ar allyriadau o'r sector gofal? Ac mae'n sector sy'n dibynnu ar drafnidiaeth, boed hynny i gael gofalwyr i gartrefi pobl, darparu prydau poeth neu symud preswylwyr cartrefi gofal i apwyntiadau iechyd. Mae rhan fwyaf y rhai hynny sy'n ddibynnol ar ofal cymdeithasol yn ddibynnol ar y car modur. Nid yw teithio llesol yn opsiwn i'r rhai y mae eu symudedd wedi ei gyfyngu. Felly, Gweinidog, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi'r sector i symud oddi wrth gerbydau petrol a diesel, a chymell awdurdodau lleol i ddewis y cerbyd trydan neu ddulliau gwyrddach o deithio? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn, Gareth, a byddwch chi'n ymwybodol o'r datganiad yr wyf i newydd ei gyhoeddi ein bod ni yn canolbwyntio ar ofal cymdeithasol. Yn y datganiad hwnnw, tynnais i sylw at lawer o'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn gofal, yn enwedig yn y gogledd, a soniais am Wrecsam a'r ffordd y maen nhw'n defnyddio ffabrig newydd i sicrhau eu bod yn gwella effeithlonrwydd eu hadeiladau, ond hefyd bod lleoedd fel sir y Fflint yn sicrhau eu bod yn gwella effeithlonrwydd eu cartrefi gofal drwy osod paneli solar. Felly, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod llawer o'r cynghorau hyn yn cymryd y camau hyn o ddifrif. Rwy'n falch i chi dynnu sylw at hyn oherwydd ein bod ni'n ymwybodol iawn bod hwn yn faes y mae angen canolbwyntio arno rhywfaint, ond rwy'n cael fy sicrhau bod y sector hwn yn frwdfrydig iawn ynghylch bod yn rhan o'r chwyldro hwn y mae angen i bob un ohonom ni ymgymryd ag ef
Diolch i'r Gweinidog.