9. Dadl Fer: 'Gwrandewch arnom ni. Cefnogwch ni.': Yr angen i sicrhau mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc

– Senedd Cymru am 6:02 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:02, 3 Tachwedd 2021

Felly, yr eitem nesaf fydd y ddadl fer, ac os wnaiff pawb sy'n gadael y Siambr adael y Siambr yn dawel, ac wedyn fe wnaf i ofyn i Rhun ap Iorwerth i gyflwyno'r ddadl yn ei enw ef. Rhun ap Iorwerth.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r ddadl fer yma yn deillio o sgwrs ges i efo etholwr ifanc ychydig wythnosau yn ôl. Mi wnaeth o fy ysgogi i i chwilio am ffyrdd newydd o annog trafodaeth am iechyd meddwl, ac yn benodol am sut a lle mae pobl ifanc yn gallu troi am help, a dwi'n falch bod nifer o Aelodau wedi cael eu hysgogi i fod eisiau cyfrannu heddiw, a dwi'n cytuno i roi amser i glywed cyfraniadau gan Mabon ap Gwynfor, gan Peredur Owen Griffiths a gan Jack Sargeant.

Ond nôl at y sgwrs yna ges i yn ddiweddar; efo Gareth rôn i yn siarad. Mab fferm o Ynys Môn ydy Gareth, myfyriwr sy'n astudio'r gyfraith; dyn ifanc galluog, huawdl, hyderus; dyfodol disglair o'i flaen o, does gen i ddim amheuaeth am hynny. Ond fel cymaint o'i gyfoedion o, mae Gareth wedi profi heriau efo'i iechyd meddwl. Nid profiad gwael personol sydd gan Gareth o fynd i chwilio am help; nid dyna sydd yn ei yrru fo. Mi gafodd o gefnogaeth ragorol, meddai fo, gan ei feddyg teulu, ond mae o'n gwybod am eraill sydd ddim wedi bod mor ffodus i gael yr un lefel o gefnogaeth. Ac fel dwi'n dweud, mae Gareth yn ddyn ifanc hyderus, digon hyderus i e-bostio ei Aelod o'r Senedd i gael sgwrs a'i lobïo fo, a dwi mor falch ei fod o wedi gwneud. Ond prin efallai ydy'r bobl sy'n ddigon hyderus i wneud hynny, ac yn allweddol, o bosib, prin fyddai pobl sy'n dioddef problemau iechyd meddwl fyddai yn barod i wneud hynny pan fyddan nhw'n teimlo'n fregus.

Dwi'n credu ein bod mewn lle gwell y dyddiau yma o ran parodrwydd i gydnabod problemau iechyd meddwl. Doedd iechyd meddwl ddim yn rhywbeth roedden ni'n siarad amdano fo; roedd o'n dabŵ, bron iawn. Dioddef yn dawel oedd cymaint o bobl yn ei wneud, a dwi yn credu bod pobl—yn cynnwys pobl ifanc—yn fwy parod i gyfaddef rŵan bod yna rywbeth o'i le. Mi fydd rhai yn dioddef problemau dwys, wrth gwrs, problemau acíwt; mi fues i yn dyst i hynny ymhlith pobl a oedd yn agos iawn ataf i pan oeddwn i'n ddyn ifanc—fy nghyflwyniad i i realiti iechyd meddwl oedd hynny. I'r rhan fwyaf, mae'r broblem yn dechrau yn fach, efallai. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd, bob un ohonon ni, yn gallu dweud weithiau ein bod ni'n teimlo straen, neu'n teimlo'n isel, neu'n teimlo pryder, a dwi'n siŵr bod llawer ohonon ni yn gallu troi at ein coping mechanisms ein hunain—ffyrdd i ymateb ein hunain pan dydy pethau ddim cweit yn iawn.

Ond mi fydd llawer iawn o bobl angen ychydig bach o help—llawer o bobl ifanc angen rhywun i'w cefnogi nhw, help a all, o'i gynnig yn ddigon buan, yn y lle iawn, atal problem rhag tyfu yn fwy, ac atal problem iechyd meddwl rhag cael effaith dros gyfnod hir ar fywyd a pherson ifanc.

Pwrpas y ddadl yma heddiw ydy gofyn i bobl ifanc ein helpu ni fel Senedd, a thrwy hynny helpu Llywodraeth Cymru i ddeall eu profiadau nhw. Ar fy llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i, dwi'n rhannu holiadur i bobl ifanc, i'w gwahodd nhw i rannu eu profiad o drio cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl. Dwi'n gobeithio y bydd Aelodau eraill yma yn barod i wneud hefyd, ac mi wnawn ni rannu'r linc i'r holiadur efo chi i gyd, wrth gwrs. Mi ydw i wedi bod mewn cysylltiad efo nifer o fudiadau sy'n gweithio yn y maes iechyd meddwl, ac mi fyddwn ni'n rhannu'r holiadur mor eang ag y gallwn ni drwyddyn nhw, ac efo nhw, drwy fudiadau sy'n cynrychioli pobl ifanc yng Nghymru.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:06, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Mae’n rhaid inni fod yn barod fel seneddwyr i wrando, bob amser, ac rydym eisiau gwrando. Dyna pam ein bod ni yma. Ac mae angen inni edrych am ffyrdd o roi llais i bobl, a fy ngobaith gyda'r alwad hon i bobl ifanc rannu eu profiadau personol yw y gallwn estyn allan at rai nad ydynt wedi dweud eu dweud o'r blaen o bosibl. Rwyf eisiau i bobl ifanc rannu eu profiadau yn enwedig ynghylch pa mor hawdd neu anodd oedd dod o hyd i gymorth gyda'u hiechyd meddwl—cymorth cynnar, cefnogaeth amserol. Mae fy mhrofiad i o siarad â phobl ifanc yn awgrymu bod diffyg cyfeirio, efallai, diffyg anogaeth i ofyn am gefnogaeth gynnar ac i helpu pobl ifanc i ddeall bod ymyrraeth gynnar mor bwysig. Pan ganiateir i broblemau dyfu, mae'n fwy tebygol y bydd angen ymyrraeth fwy dwys. Edrychwch ar yr amseroedd aros am gymorth arbenigol y gwasanaeth iechyd meddwl plant—mae'r ffigurau diweddaraf, rwy'n credu, gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod amseroedd aros am wasanaethau CAMHS arbenigol yn uwch nag erioed, gyda dros 70 y cant o atgyfeiriadau yn aros mwy na phedair wythnos am eu hapwyntiad cyntaf.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:08, 3 Tachwedd 2021

Dwi ddim y cyntaf i ofyn cwestiynau fel hyn, wrth gwrs, ond mae hi'n bwysig ein bod ni'n chwilio am ffyrdd newydd o estyn allan at bobl, ac i wneud hynny'n gyson, hefyd. Mi wnaeth Senedd Ieuenctid Cymru waith rhagorol yn y maes yma, rhaid dweud, flwyddyn yn ôl yn eu hadroddiad nhw, 'Gadewch i ni siarad am iechyd meddwl'. Dim ond hanner y rhieni neu'r gwarcheidwaid a wnaeth ymateb ddywedodd eu bod nhw'n hyderus at bwy i gyfeirio plentyn, neu berson ifanc. Mi oedd 37 o bobl ifanc yn dweud eu bod nhw wedi gorfod aros rhwng mis a blwyddyn i gael help. Mi wnaeth elusen Mind hefyd gyhoeddi adroddiad pwysig iawn, hynny ar ôl misoedd cyntaf y pandemig, nôl ym mis Mehefin y llynedd, os dwi'n cofio'n iawn, yn edrych ar sut roedd y pandemig yn effeithio ar iechyd meddwl, a hwnnw'n canfod bod dwy ran o dair o bobl ifanc yn dweud bod eu hiechyd meddwl nhw wedi gwaethygu yn ystod y pandemig—ystadegyn sydd ddim yn dod fel syndod i ni o gwbl. Rydyn ni'n gwybod faint o straen mae'r pandemig wedi rhoi ar bobl.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:09, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Dywed adroddiad Mind Cymru fod 29 y cant o’r bobl ifanc a holwyd wedi ceisio cael gafael ar gymorth iechyd meddwl yn ystod y cyfyngiadau symud, ac aiff ymlaen i ddweud bod mwy nag 1 o bob 3 o bobl ifanc yng Nghymru, 39 y cant, wedi methu cael y cymorth roeddent yn ei geisio, sy’n uwch na'r ffigur cyfatebol ar gyfer Lloegr, a oedd oddeutu 23 y cant. Mae hynny’n ategu'r hyn rwy'n ceisio ei wneud gyda'r ymarfer penodol hwn. Rwyf wedi annog Gweinidogion blaenorol, a’r Gweinidog presennol, i sicrhau bod y gefnogaeth ar gael, ac rwy’n gwneud hynny eto heddiw. Mae'n rhaid i ni fuddsoddi, wrth gwrs, mewn gwasanaethau a ddarperir gan y GIG yn uniongyrchol, gwasanaethau cymorth—rhai gwasanaethau rhagorol a ddarperir gan elusennau a'r trydydd sector—gan sicrhau bod y capasiti yno i ymdopi â'r hyn sydd heb os yn broblem gynyddol, ond mae'n rhaid inni hefyd sicrhau bod y llwybrau at y cymorth sydd ei angen ar bobl ifanc wedi eu dynodi’n briodol. Mae'n rhaid inni sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hannog i geisio'r cymorth hwnnw, eu bod yn cael eu tywys ar daith fer iawn, gobeithio, tuag at ymyrraeth gynnar. Ac wrth gwrs, dyma lle mae mater capasiti’n codi. Mae'n rhaid inni roi hyder iddynt, pan fyddant yn curo ar y drws hwnnw, y bydd yn cael ei ateb ac yn cael ei ateb yn gyflym.

Daw problemau iechyd meddwl ar sawl ffurf. Siaradais â Jo Whitfield o’r elusen anhwylderau bwyta, Beat, y bore yma, a dywedodd ein bod yn gwybod bod gofyn am help gydag anhwylder bwyta yn galw am lawer o ddewrder. Rydym hefyd yn gwybod, po gyntaf y caiff rhywun driniaeth ar gyfer anhwylder bwyta, y gorau yw eu gobaith o wella, a phan fo rhywun yn cymryd y cam dewr o ofyn am help, mae'n hanfodol fod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn deall sut i'w cefnogi, ac maent eisiau gweld buddsoddiad mewn hyfforddiant i staff addysg hefyd yn ogystal â hyfforddiant i staff gofal iechyd. Felly, mae angen annog pobl ifanc sydd angen cymorth i geisio'r cymorth hwnnw yn y lle cyntaf.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:11, 3 Tachwedd 2021

Dwi am gloi efo geiriau'r dyn ifanc yna wnaeth ysgogi'r ddadl heddiw, ac ysgogi'r holiadur yma sy'n cael ei lansio gen i heddiw. Dyma chi eiriau Gareth: 'Mi roedd fy mhrofiad i o dderbyn cymorth gan fy meddyg teulu yn arbennig o dda ond, yn anffodus, dydy hyn ddim yr un fath i bawb drwy Gymru gyfan. Mae yna achosion lle mae pobl wedi cael eu troi i ffwrdd o dderbyn cymorth, a dydy hynny ddim yn dderbyniol pan fo rhywun wedi magu'r hyder a chyfaddef eu bod nhw angen cymorth.'

'Mae'n hanfodol bwysig i mi', meddai Gareth, 'i weld Cymru agored lle mae cymorth ar gael i unrhyw un sydd ei angen, a hynny drwy sicrhau mynediad cynnar at arbenigwyr a chreu safle saff i rywun allu siarad yn agored heb ofn'. Mewn geiriau, mewn fideo, drwy ddarn o gelf, drwy gân, neu’n syml iawn, drwy lenwi holiadur, mi gaiff pobl ymateb i hyn mewn unrhyw ffordd leician nhw, ond dwi yn gobeithio y gallwn ni drwy hyn helpu'r Llywodraeth i allu clywed eu llais nhw.

Mae'r holiadur ar fy mhlatfformau Instagram a Facebook a Twitter i—y llwyfannau arferol. Dwi'n gobeithio bydd nifer o fy nghyd-Aelodau fi yn fan hyn yn barod i'w rannu o hefyd, ynghyd â nifer o sefydliadau sy'n gweithio ym maes iechyd meddwl ac efo pobl ifanc. A dwi'n hyderus y bydd y Gweinidog yn gwrando, a helpu'r Llywodraeth ydy'r nod yn fan hyn. Wedi'r cyfan, mae helpu ein pobl ifanc ni i ffeindio eu llais a'u helpu nhw i wynebu heriau iechyd meddwl yn fenter y dylem ni i gyd allu bod yn gwbl gytûn arni hi. 

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 6:13, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar Mabon ap Gwynfor.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

Diolch, Llywydd dros dro. Diolch yn fawr iawn i Rhun am ddod â'r pwnc hynod o bwysig yma ymlaen heddiw yma. Mae geiriau Gareth yn cael eu hatseinio gan bobl ifanc yn Nwyfor Meirionnydd, dwi'n gallu dweud hynny wrtho fo. Mae wedi bod yn fraint i fi gael ymweld â sefydliadau a chanolfannau, a siarad gyda phobl ar hyd a lled Dwyfor Meirionnydd ers cael fy ethol. Ond, wrth siarad efo elusennau digartrefedd, er enghraifft, sefydliadau canfod swyddi a chyrff cyhoeddus eraill, mae yna ddwy thema benodol wedi codi fyny dro ar ôl tro, a'r ddwy honno yn cydblethu, sef iechyd meddwl pobl ifanc a mynediad i drafnidiaeth a gwasanaethau. 

Yn ôl adborth pobl ifanc i ymgynghoriadau yng Ngwynedd, maen nhw'n dweud yn glir mai diffyg argaeledd gwasanaethau mewn cymunedau gwledig, a diffyg mynediad at y gwasanaethau sydd ar gael oherwydd problem trafnidiaeth, ydy'r heriau mwyaf sydd yn eu hwynebu nhw. Mae'r diffyg yma felly'n golygu fod nifer fawr o bobl ifanc yn gweld eu hiechyd meddwl felly yn gwaethygu. Hoffwn felly yn eich ymateb, Weinidog, glywed sut fyddwch chi yn cydweithio efo Gweinidogion eraill yn eich Llywodraeth er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau ar gael yn lleol ac yn agos i bobl yn eu cymunedau, a bod yna well cysylltedd rhwng cymunedau er mwyn sicrhau bod pobl yn medru teithio at y gwasanaethau sydd gennym ni yn barod. Diolch yn fawr iawn i chi.   

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 6:14, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Galwaf yn awr ar Peredur Owen Griffiths.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 6:15, 3 Tachwedd 2021

Diolch, Llywydd dros dro. Diolch am gael siarad heno, a diolch iti, Rhun, am ddod â'r pwnc yma gerbron. Dwi wedi cael trafodaeth yn ddiweddar gyda Tom Davies o'r Children's Society, ac yn ystod y cyfarfod fe esboniodd o ychydig am y gwaith da maen nhw'n ei wneud a'r gwaith da sy'n cael ei wneud yn y maes yma, a'r gwaith sy'n cael ei wneud i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc. Roedd hefyd yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried rhai argymhellion.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Un o'r rhain yw bod Cymdeithas y Plant yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnwys gwaith mewngymorth gan wasanaethau iechyd i ategu ei chynllun ar gyfer gwell cefnogaeth iechyd meddwl mewn ysgolion, gyda chynnig cryf a chyson yn y gymuned i bobl ifanc, hyd at 25 oed, y gallai fod yn well ganddynt gael cefnogaeth y tu allan i addysg. Gellir darparu cefnogaeth yn y gymuned drwy hybiau mynediad agored, wedi'u cynllunio i gynnig cefnogaeth galw heibio, hawdd ei chyrchu ar sail hunanatgyfeirio i bobl ifanc sydd ag anghenion iechyd emosiynol a llesiant.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 6:16, 3 Tachwedd 2021

Nid wyf am ragdybio beth fydd ymatebion y bobl ifanc yn yr arolwg newydd, cyffrous hwn mae Rhun yn ei gychwyn heno, ond byddwn yn annog pobl ifanc i gymryd rhan. Fodd bynnag, hoffwn wybod a fydd y Llywodraeth yn ystyried argymhelliad Cymdeithas y Plant fel un rhan o'r ffordd y gallwn helpu i wrando ar bobl ifanc a'u cefnogi.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour

(Cyfieithwyd)

Galwaf yn awr ar Jack Sargeant.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i Rhun am roi'r cyfle hwn imi siarad heno, ond yn bwysicach, credaf y dylem ddiolch i Gareth, yr unigolyn ifanc sydd wedi rhannu hyn gyda chi, oherwydd yn sicr mae angen canmol dewrder Gareth am gyflwyno'r pwnc hwn i chi ac i’n Senedd.

Bydd yr Aelodau'n gwybod bod gennyf bryderon nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn gyffredinol yn cyrraedd y safon y dylent ei chyrraedd. Rwy'n credu y dywedir yn aml y dylai gwasanaethau iechyd meddwl fod yn gydradd â'r gwasanaethau iechyd corfforol, ond rwyf eisiau inni ddechrau gweithredu’r meddylfryd hwnnw yn awr. Nawr, os yw gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc yn mynd i wella, ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd eisoes heno, byddwn yn gwneud un sylw: mae'n rhaid inni glywed mwy gan ddarparwyr rheng flaen, gan bobl ifanc eu hunain, y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau a'r rhai nad ydynt wedi'u defnyddio hyd yma o bosibl, ac na fydd angen iddynt wneud hynny byth efallai. Rwy'n credu bod angen inni glywed ganddynt hwy hefyd, ac mae a wnelo hynny â'r Llywodraeth, ni fel Aelodau unigol, a'n cyd-Aelodau yn y pwyllgor iechyd efallai, ac roedd yn wych gweld Jayne Bryant yn dangos diddordeb yn y ddadl heddiw fel Cadeirydd y pwyllgor plant a phobl ifanc. Yn fy marn i, y darparwyr rheng flaen, ac yn bwysig iawn, y bobl ifanc a allai fod angen y gwasanaethau hynny—dyna pwy y mae angen inni wrando arnynt. Edrychaf ymlaen at rannu arolygon Rhun, gyda chymorth Gareth gyda hynny, a hoffwn annog y Gweinidog i fyfyrio ar hynny, a’r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i wrando ar y lleisiau hynny hefyd. Diolch.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 6:18, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Galwaf yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ymateb i'r ddadl, Lynne Neagle.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd dros dro, ac a gaf fi ddiolch i Rhun am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac am rannu safbwyntiau ei etholwr, Gareth, gyda ni? Rwy'n croesawu hynny'n fawr, ac rwy'n siŵr fod Gareth yn falch iawn eich bod wedi gallu rhoi sylw i'w bryderon yn y Senedd. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl Aelodau eraill sydd wedi siarad heddiw.

Nid oes dim yn fwy o flaenoriaeth i mi na diogelu, gwella a chefnogi iechyd emosiynol a meddyliol ein plant a'n pobl ifanc, ac mae fy ffocws mewn tri maes allweddol: atal, ymyrraeth gynnar a chryfhau gwasanaethau arbenigol i bobl ifanc sydd angen y lefel honno o gymorth. Ond i wneud hyn yn effeithiol, yn sicr mae angen dull trawslywodraethol ac amlasiantaethol o weithredu, ac rwy'n benderfynol o chwarae fy rhan yn gyrru'r agenda hon yn ei blaen, ac yn wir rwyf eisoes yn cael trafodaethau cadarnhaol iawn gyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth ynglŷn â sut y gallant gyfrannu at yr agenda hon.

Mae Rhun yn llygad ei le. Mae gwrando ar bobl ifanc sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl yn hollbwysig, ac mae gennym fecanweithiau cadarn ar waith i gefnogi hyn. Maent yn cynnwys ein grŵp rhanddeiliaid ifanc cenedlaethol, sy'n sicrhau bod gwaith ein rhaglen dull system gyfan yn cael ei lywio gan leisiau plant a phobl ifanc. Manteisiaf ar bob cyfle a gaf i wrando ar leisiau plant a phobl ifanc, yn union fel y gwneuthum pan oeddwn yn Gadeirydd y pwyllgor, a byddaf yn parhau i wneud hynny, gan gynnwys pan fydd ein Senedd Ieuenctid newydd wedi ei hethol. Mae gan fyrddau iechyd drefniadau ar waith hefyd i sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfle i lywio a siapio gwasanaethau a chymorth.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 6:20, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â chanolfan Wolfson ym Mhrifysgol Caerdydd. Tîm amlddisgyblaethol yw hwn sy'n ceisio deall achosion problemau iechyd meddwl y glasoed a llywio ffyrdd newydd o gefnogi ein pobl ifanc. Rwy'n falch iawn fod y ganolfan wedi recriwtio pobl ifanc sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl i ymuno â'i grŵp cynghori newydd ac rwy'n gweld hwn yn gyfle enfawr i sicrhau bod cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yn cael ei lywio gan ymchwil o'r radd flaenaf. Rwyf hefyd yn croesawu'r holiadur y mae Rhun wedi'i roi ar ei gyfryngau cymdeithasol, a phan fydd wedi'i gwblhau, byddwn yn ddiolchgar pe gallai rannu'r canfyddiadau â mi. Rwy'n cyfarfod â Beat yfory mewn gwirionedd i siarad am eu gwasanaethau ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r buddsoddiad yn Beat yn sylweddol iawn i gydnabod y cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n dioddef o anhwylderau bwyta, a pha mor ddwys yw'r anhwylderau hynny. 

Yn ogystal â hyn, mae sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth ffurfiol ar gael i blant a phobl ifanc hefyd yn hanfodol, ac mae gan bob bwrdd iechyd ei drefniadau ei hun ar waith i'w cynnig. Yn ogystal, fel y dywedais, mae byrddau iechyd unigol wedi bod yn gweithio mewn amryw o ffyrdd i gefnogi plant a phobl ifanc, gan gynnwys cynnal grwpiau pobl ifanc a chynhyrchu siarter pobl ifanc sy'n gyson â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod angen gwneud mwy o waith i gryfhau gwasanaethau eiriolaeth i blant a phobl ifanc, oherwydd mae'r pandemig wedi effeithio ar y gwaith hwnnw, a hoffwn ailadrodd fy ymrwymiad i yrru'r gwaith hwnnw yn ei flaen.

Cyfeiriodd Peredur at argymhellion Cymdeithas y Plant, felly roeddwn yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol tynnu sylw at y gwaith rydym eisoes yn ei wneud i sicrhau bod cefnogaeth i blant a phobl ifanc ar gael cyn gynted â phosibl. Mae ein dull presennol o weithredu yn Llywodraeth Cymru wedi'i lywio gan nifer o ddarnau allweddol o waith, gan gynnwys yr adroddiad 'Cadernid Meddwl', yr ymchwiliad y bûm yn ei gadeirio ac yn ei yrru ymlaen fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a'r grŵp gorchwyl a gorffen ar y dull system gyfan. Mae hefyd wedi'i lywio gan y grŵp rhanddeiliaid ifanc cenedlaethol. Mae'r gwaith hwn wedi cefnogi dull system gyfan, gan sicrhau bod y cymorth hwn ar gael ar draws sawl math o leoliad i wella mynediad, ac yn hanfodol, mae'r rheini'n lleoliadau lle mae plant a phobl ifanc yn byw eu bywydau—mewn ysgolion, mewn colegau ac mewn gwasanaethau ieuenctid.

Ar hyn o bryd mae byrddau iechyd yn sefydlu mannau cyswllt unigol, a fydd yn helpu i nodi'r bobl ifanc nad oes angen cymorth iechyd meddwl arbenigol arnynt, ond sy'n eu cysylltu â chymorth priodol yn y gymuned. Rydym hefyd yn cwblhau cynlluniau i dreialu dewisiadau amgen yn lle ysbyty i bobl ifanc mewn argyfwng. Mae darparu'r cymorth cywir yn yr amgylchedd cywir yn hanfodol, a dyna pam, ym mis Mawrth eleni, y gwnaethom gyhoeddi fframwaith statudol newydd i ymgorffori dull ysgol gyfan o gefnogi iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc ledled Cymru. I gefnogi'r gwaith o weithredu'r fframwaith, rydym wedi cytuno ar gyllid o £360,000 yn 2021-22 i benodi cydgysylltwyr gweithredu i weithio gydag ysgolion a phartneriaid, gan eu cynorthwyo i asesu a mynd i'r afael â'u hanghenion llesiant.

Fel rhan o'n dull system gyfan, rydym wedi buddsoddi mewn cynlluniau peilot mewngymorth ysgolion ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Dangosodd y gwerthusiad terfynol, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021, ganlyniadau addawol, ac yn arbennig, y cymorth a ddarperir gan ymarferwyr iechyd meddwl penodedig i feithrin capasiti mewn ysgolion i gefnogi iechyd meddwl a llesiant disgyblion. Ac rwy'n falch o ddweud, Peredur, ein bod, ar sail y profiad cadarnhaol hwn, yn cyflwyno'r gwasanaeth ledled Cymru gyfan bellach, ac yn gynharach yn yr haf, dyfarnwyd bron i £4 miliwn yn y flwyddyn gyfredol i gefnogi'r gwaith o'i gyflwyno'n genedlaethol. Rydym yn gweld y gwasanaeth mewngymorth fel agwedd allweddol ar gymorth o dan ein dull ysgol gyfan a'r fframwaith statudol a gyhoeddwyd gennym ar 15 Mawrth. Dros dair blynedd gyllidebol rhwng 2019-20 a 2021-22, rydym wedi sicrhau cynnydd o 360 y cant yn y gyllideb i gefnogi ein gwaith dull system gyfan, gan ddangos ein hymrwymiad yn y maes hwn. Neilltuwyd £9 miliwn i gefnogi'r rhaglen hon yn 2021-22. Mae hyn yn cynnwys cyllid i ymestyn a gwella darpariaeth cwnsela mewn ysgolion, cymorth i ddarparu ymyrraeth gyffredinol ac wedi'i thargedu ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion, ac i gefnogi hyfforddiant athrawon ac aelodau eraill o staff ysgolion mewn perthynas â'u llesiant eu hunain a llesiant plant. 

Yn gynharach eleni, gwnaethom gyhoeddi fframwaith NYTH y GIG—sef rhoi nerth, ymddiried, tyfu'n ddiogel a hybu—ac mae'r fframwaith hwn yn darparu offeryn cynllunio i fyrddau cynllunio rhanbarthol allu gweithredu dull system gyfan o ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl, llesiant a chymorth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Rydym yn cynorthwyo byrddau cynllunio rhanbarthol i weithredu fframwaith NYTH mewn ffordd systematig ac integredig ledled Cymru ac rwy'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda byrddau iechyd a byddaf yn ymweld â byrddau partneriaeth rhanbarthol unigol ledled Cymru i ysgogi cynnydd. Yn hollbwysig, bydd hyn yn helpu i ddarparu cymorth iechyd meddwl emosiynol priodol i'r rhai nad oes angen cymorth neu ymyrraeth glinigol arnynt. Yn hollbwysig hefyd, caiff ei gydgynhyrchu gyda phlant a phobl ifanc a'u teuluoedd. 

Rydym yn gwneud cynnydd da hefyd ar gyflawni camau gweithredu i wella iechyd meddwl mewn gwaith ieuenctid. Rydym wedi cyflwyno hyblygrwydd ychwanegol o fewn y grant cymorth ieuenctid a'r grant cyrff ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol. Mae hyn wedi galluogi awdurdodau lleol yn y sector gwirfoddol i ymateb mewn ffordd fwy ystwyth i anghenion pobl ifanc i helpu i gefnogi eu hanghenion llesiant emosiynol ac iechyd meddwl drwy gydol y pandemig. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau ar-lein, cadw mewn cysylltiad a chyswllt wyneb yn wyneb ar gyfer y bobl ifanc fwyaf agored i niwed.

Wrth gwrs, rwy'n cydnabod yr angen i sicrhau bod gwasanaethau arbenigol ar gael i'r plant sydd angen y lefel honno o gymorth. Gan adeiladu ar ein buddsoddiad blaenorol eleni, rydym wedi ymrwymo £5.4 miliwn ychwanegol i wella cymorth CAMHS yn y gymuned ac yn ein hunedau CAMHS arbenigol yng Nghymru. Rydym hefyd wedi buddsoddi yng ngwasanaethau argyfwng y GIG ac rydym ar y trywydd cywir i gael un man cyswllt 24 awr i bob oedran ar gyfer argyfyngau iechyd meddwl ym mhob ardal bwrdd iechyd erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Bydd y cymorth hwn yn hanfodol er mwyn darparu mynediad cyflym at ymarferydd iechyd meddwl i gynghori a chefnogi unigolion a'u hatgyfeirio at gymorth arall os oes angen.

Felly, i gloi, Lywydd dros dro, rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu dangos heddiw a rhoi rhywfaint o sicrwydd fod y mater hwn yn parhau i fod ar frig fy agenda wleidyddol a fy mod yn gwbl benderfynol o barhau i yrru'r gwaith hwn yn ei flaen. Nid oes unrhyw beth yn bwysicach nag ateb anghenion iechyd meddwl a chymorth emosiynol ein plant a'n pobl ifanc. Diolch yn fawr. 

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 6:27, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i bawb, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:28.