– Senedd Cymru am 3:07 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gen i gyflwyno'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) i'r Senedd ei ystyried. Rwy’n gwneud hynny ar ran y Llywodraeth hon ac ar ran y cyfranwyr niferus sydd wedi helpu i’w ddatblygu drwy ymgynghoriad a thrafodaethau helaeth.
Mae'r Bil yn sefydlu comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil newydd ac yn diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Fel y stiward cenedlaethol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil, bydd y comisiwn yn gyfrifol am ei gyllid, ei oruchwyliaeth a'i ansawdd. Bydd y comisiwn yn edrych ar y system gyfan, gan gefnogi dysgwyr drwy gydol eu bywydau i gael y wybodaeth a'r sgiliau i lwyddo, a sicrhau darparwyr cadarn, annibynnol ac amrywiol sy'n cyfrannu’n sylweddol at les a ffyniant cenedlaethol.
Am y tro cyntaf yn neddfwriaeth Cymru, byddwn yn dwyn y sectorau canlynol ynghyd mewn un man: addysg uwch ac addysg bellach Cymru, chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, prentisiaethau, dysgu oedolion yn y gymuned, yn ogystal â chyfrifoldeb am ymchwil ac arloesi. Yn y Bil, rydyn ni'n nodi naw dyletswydd strategol ar gyfer y comisiwn. Gyda'i gilydd, maen nhw’n darparu fframwaith cynllunio strategol, hirdymor ar gyfer yr hyn y mae angen i'r sector gwerthfawr ac amrywiol hwn ei gyflawni, wrth i ni adfer, adnewyddu a diwygio.
Mae'r Bil yn gosod dyletswyddau ar y comisiwn i: hyrwyddo dysgu gydol oes; hyrwyddo cyfle cyfartal; sicrhau gwelliant parhaus mewn addysg drydyddol ac ymchwil; annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol; cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol; hyrwyddo cydweithredu a chydlyniant mewn addysg drydyddol ac ymchwil; hyrwyddo addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg; hyrwyddo cenhadaeth ddinesig a meddylfryd byd-eang.
Nawr, nid wyf yn honni bod radicaliaeth newydd yn perthyn i ddiben y naw dyletswydd; i'r gwrthwyneb, maent wedi'u dylanwadu gan ein hanes cyfoethog o ehangu mynediad at addysg o safon, rhyngwladoliaeth a chenhadaeth ddinesig Gymreig. Fodd bynnag, mae rhoi diben iddynt yn y gyfraith yn radical, fel nod i'r comisiwn newydd ac i'n sector addysg drydyddol yn gyffredinol. Maent yn darparu eglurder o ran pwrpas, gan sicrhau ffocws di-baid ar lwyddiant a llesiant dysgwyr o bob oed, ar draws pob lleoliad ac ym mhob cymuned.
Bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru baratoi a chyhoeddi datganiad i nodi'r blaenoriaethau strategol cenedlaethol ar gyfer addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi a fydd, ynghyd â'r dyletswyddau strategol, yn llywio cynllun strategol y comisiwn ei hun a sut y mae'n gweithredu ac yn dyrannu cyllid. Yna, bydd y comisiwn, gan weithio gyda'r sector, yn llunio'r system drwy fuddsoddiad, drwy gysylltu darparwyr a rhannu gwybodaeth, gan ei alluogi i fabwysiadu safbwynt strategol a sicrhau bod dysgwyr yn tyfu fel dinasyddion Cymreig brwd, mentrus a dysgedig.
Mae'r Bil yn gosod trefniadau llywodraethu'r comisiwn. Yn allweddol, bydd y bwrdd yn cynnwys cynrychiolaeth o ddysgwyr, ond hefyd y gweithlu addysg drydyddol a staff y comisiwn ei hun fel aelodau cyswllt, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i bartneriaeth gymdeithasol.
Mae llawer o'r ddeddfwriaeth sylfaenol mewn perthynas ag addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru mewn grym ers degawdau; mae'n rhagflaenu datganoli democrataidd, ehangu addysg uwch, newidiadau diweddar sylweddol mewn patrymau economaidd a gyrfaol a'r chwyldro technolegol sy'n parhau i ddylanwadu ar y ffordd rydym yn dysgu, byw a gweithio, ac wrth gwrs, cyn inni allu dychmygu'r math o heriau sydd wedi deillio o COVID-19.
Lywydd, mae'n bryd achub ar y cyfle i newid. Os ydym o ddifrif, fel y mae'r Llywodraeth hon, ynghylch lleihau anghydraddoldebau addysgol, ehangu cyfleoedd a chodi safonau, mae'n rhaid inni chwalu rhwystrau, sicrhau llwybrau haws i ddysgwyr a pharhau i fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesi.
Os ydym yn ystyried prentisiaethau fel enghraifft, caiff ein huchelgais ar gyfer system sy'n ymateb i anghenion dysgwyr, yr economi a chyflogwyr ei llesteirio gan y ddeddfwriaeth gyfredol. A dweud y gwir, rydym yn rhy ddibynnol ar ddeddfwriaeth San Steffan ers dros ddegawd yn ôl, nad yw'n darparu ar gyfer anghenion penodol ein heconomi neu ein cymdeithas. Felly, am y tro cyntaf yng Nghymru, mae'r Bil hwn yn darparu pŵer annibynnol i'r comisiwn ariannu prentisiaethau yn yr un modd ag addysg drydyddol arall. Mae'r Bil yn diwygio'r broses ar gyfer cynllunio a goruchwylio ein fframweithiau prentisiaethau, gan greu cyfle i gael system fwy ymatebol a chydweithredol.
Gan droi at lywodraethu, mae ein sefydliadau wedi dadlau dros fwy o hyblygrwydd a llai o fiwrocratiaeth; mae'n gais rhesymol. Yn ei dro, mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i'r comisiwn greu model cofrestru newydd ar gyfer addysg drydyddol. Bydd y model newydd yn fecanwaith hyblyg ar gyfer goruchwylio'r sector yn atebol ond yn gymesur. Ni fydd dim o'r hyn rydym yn ei werthfawrogi fwyaf yn ein sefydliadau uchel eu parch yn cael ei golli, ond bydd llawer o'r fiwrocratiaeth yn diflannu.
Mae'r Bil yn galluogi'r comisiwn i ariannu darparwyr cofrestredig i ymgymryd â gweithgareddau ymchwil ac arloesi, yn ogystal â sefydliadau eraill sy'n cydweithredu â hwy. Byddwn yn symud i system gynllunio ac ariannu cwbl integredig ar gyfer y sector cyfan, gan dargedu adnoddau'n fwy effeithiol. Caiff hyn ei alluogi gan system glir, gydgysylltiedig a chydlynol.
Mae'r Bil yn galluogi'r comisiwn i sicrhau bod addysg drydyddol yng Nghymru yn parhau i fod o'r safon uchaf, ac i greu dull cyson o weithredu sy'n seiliedig ar ansawdd drwy rannu egwyddorion a chydweithredu.
Mae angen inni sicrhau buddsoddiad parhaus hefyd yn natblygiad proffesiynol y gweithlu. Am y rheswm hwn, rydym yn rhoi pŵer i'r comisiwn roi cyngor a chymorth i ddarparwyr ynghylch gwella ansawdd, gan gynnwys dysgu a datblygu'r gweithlu.
Mae'r cod ymgysylltu â dysgwyr yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr nodi sut y byddant yn cynnwys dysgwyr mewn penderfyniadau ynglŷn â phob agwedd sy'n gysylltiedig â'u dysgu, eu buddiannau a'u pryderon. Yn ychwanegol at hynny, drwy gynnwys cynrychiolwyr ar ran y dysgwyr ar ei fwrdd, bydd y comisiwn yn gwneud yr hyn y mae'n ei ddweud.
Am y tro cyntaf, bydd sefydlu'r comisiwn yn rhoi stiward cenedlaethol i Gymru i oruchwylio'r sector addysg drydyddol cyfan. Bydd y trefniadau rydym yn eu rhoi ar waith drwy'r Bil hwn yn helpu i lunio sector amrywiol a deinamig sy'n cefnogi dysgwyr drwy gydol eu hoes, gan gyflawni ar gyfer cymunedau, cyflogwyr a'r genedl gyfan. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau Aelodau o'r Senedd a'u hymdrechion cyfunol wrth fynd â'r Bil arwyddocaol hwn ar ei daith seneddol.
Weinidog, diolch am eich datganiad ac am gyflwyno'r Bil hwn yn ffurfiol. Mae'r Bil yn rhoi cyfle i ni yng Nghymru lunio addysg drydyddol fel ei bod yn cyd-fynd â'r anghenion penodol yma yng Nghymru, ac i sicrhau bod ein dysgwyr yng Nghymru yn derbyn addysg drydyddol o'r ansawdd y maent yn ei haeddu a'r cymorth sydd ei angen arnynt ar eu teithiau addysgol.
Mae'n wych gweld y byddwn, am y tro cyntaf yn neddfwriaeth Cymru, yn dod ag addysg uwch, addysg bellach, dosbarth chwech ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned at ei gilydd mewn un man yng Nghymru, yn ogystal â chyfrifoldeb am ymchwil ac arloesi, ac rydym yn croesawu hynny ar y meinciau hyn.
Ond mae'r sector addysg drydyddol yn dal i ymadfer—mae'n ddrwg gennyf, mae fy llwnc yn mynd—ar ôl 18 mis o darfu difrifol. Mae darparwyr addysg wedi blino'n lân wrth iddynt geisio cadw ysgolion a cholegau ar agor oherwydd lefelau uchel o absenoldeb staff. Felly, mae'n rhaid imi gwestiynu'r amseru ar gyfer hyn, a gofyn efallai, 'Pam nawr?'—pam, a ninnau ar bwynt tyngedfennol yn y pandemig hwn ac ar gychwyn cwricwlwm newydd? A byddwn yn gwerthfawrogi sicrwydd y Gweinidog ar hynny.
Yn y gorffennol, mae ColegauCymru wedi codi sawl pryder ynghylch cyflwyno'r Bil addysg drydyddol ac ymchwil, gyda phwyslais ar ddiffyg cynlluniau diogelu dysgwyr a chod ymgysylltu â dysgwyr. Felly, rwy'n falch o weld bod y rhain bellach wedi'u cynnwys yn y Bil.
Byddai hefyd yn wych clywed mwy am y penodiadau i'r bwrdd—y profiad a'r niwtraliaeth a phethau felly—y gofynion er mwyn bod yn aelod ohono. Rydym yn croesawu cyflwyno cynrychiolwyr dysgwyr ar y bwrdd wrth gwrs, a chredaf fod hwnnw'n syniad gwych. Tybed sut olwg fydd ar hyn yn ymarferol? A fydd yr aelodau hyn yn cael eu penodi, eu hethol, eu cyflogi? A fydd y rhain yn swyddi am dâl, lle bydd disgwyl iddynt fynychu pob cyfarfod? Bydd lefelau atebolrwydd yr unigolion hyn yn sylweddol wrth gwrs, o ystyried eu swydd a chyfrifoldeb ariannol y bwrdd hwn. Felly, byddai mwy o wybodaeth am hynny'n wych.
Nid yw meddu ar sgil allweddol neu gymwysterau penodol yn sicr o arwain at swydd bellach, ond mewn perthynas â darpariaethau addysg bellach 16-19 oed, mae cyllid a sicrhau ansawdd yn dibynnu ar un dull gweithredu, sy'n seiliedig ar gynnydd y dysgwr a'u canlyniadau, wrth wraidd y Bil hwn. Nid diogelu'r ddarpariaeth bresennol yw'r her, ond yn hytrach, creu llwybrau effeithiol ar gyfer gwneud cynnydd. Un ffordd y credwn y gallwn fynd i'r afael â'r broblem hon fyddai cynllunio'r cwricwlwm yn well ar gyfer y grŵp oedran 14-19 a datblygu llwybrau cyfannol ar gyfer cynnydd dysgwyr. Weinidog, os gwelwch yn dda, a wnewch chi nodi a ydych wedi archwilio'r pryderon hyn a sut y bwriadwch weithio i greu dull mwy cydgysylltiedig ar gyfer pontio rhwng yr ysgol ac addysg bellach? Diolch.
Yn ogystal, er ein bod yn croesawu cynnwys colegau chweched dosbarth yn y Bil, mae'n dal i fod yn aneglur yn y Bil sut y bydd y diwygiadau arfaethedig i addysg ôl-16 yn ategu ac yn gwella'r cwricwlwm newydd ac yn sicrhau parhad ac ymgysylltiad rhwng darparwyr addysg cyn-16 ac ôl-16, yn enwedig o gofio'r rhwystrau y mae darparwyr addysg wedi'u hwynebu yn ystod y pandemig hwn. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Weinidog, pe gallech amlinellu pa fesurau y byddwch yn eu rhoi ar waith i sicrhau'r cysylltiad di-dor hwnnw rhwng y ddau.
Bydd COVID hefyd yn cael effaith barhaol ar fywydau dysgwyr ledled Cymru am flynyddoedd lawer. Tri ffactor y teimlaf fod angen mynd i'r afael â hwy yw'r effaith ar bobl ifanc sydd heb allu cael cyflogaeth uniongyrchol a phrofiad gwaith; gwell dealltwriaeth o sut y mae pobl yng ngharfan 2020-21 wedi pontio o'r ysgol i bob math o addysg ôl-16; a sut y darperir cymorth i bobl â chyrhaeddiad addysgol canolig ac is sydd wedi wynebu mwy o anawsterau wrth gamu ymlaen i addysg bellach. Felly, Weinidog, a allech amlinellu pa gynlluniau y bwriadwch eu rhoi ar waith i gefnogi'r bobl yn y grwpiau hyn?
Amlygodd adroddiad diweddar gan y Ganolfan Gwybodaeth a Chydlynu Tystiolaeth ar gyfer Polisi ac Ymarfer, yr EPPI, bryderon ynghylch chwyddo graddau yn 2020 a 2021, sydd wedi arwain at fwy o gystadleuaeth am leoedd mewn prifysgolion, tra bo lefelau cyfranogiad mewn dysgu galwedigaethol wedi gostwng.
Ac yn olaf, rydym yn croesawu'r newidiadau i brentisiaethau wrth gwrs, a chredaf fod angen mwy o reolaeth yma. Mae angen inni ganolbwyntio mwy o lawer ar brentisiaethau mewn gwirionedd, a'r potensial sydd ganddynt i ddarparu swyddi'r dyfodol, gan gynnwys swyddi gwyrdd a swyddi medrus iawn. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y sector yn amrywiol er mwyn gwella cyfleoedd a chyflwyno targedau mwy trylwyr i ehangu'r rhaglen brentisiaeth i fwy o bobl, gan ei gwneud yn fwy ymatebol i anghenion ein cymunedau lleol, ein busnesau a'n heconomi. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu pa ddarpariaethau a ystyriwyd ar gyfer y grŵp oedran 14-16, gan fod rhai colegau'n gweithio gyda hwy ar fentrau fel y prentisiaethau iau.
Weinidog, ni allwn orbwysleisio pwysigrwydd dysgu gydol oes yn yr oes sydd ohoni. Mae dysgu gydol oes yn rhan bwysig o addysg ôl-16 ac addysg i oedolion, ac mae angen pwysleisio hyn er mwyn tynnu sylw at ei bwysigrwydd yn y dyfodol.
Yn olaf, mae'r heriau y mae pobl wedi'u hwynebu drwy gydol y pandemig wedi ysgogi llawer o bobl i ddysgu sgiliau newydd a chael cymwysterau newydd, sydd wedi arwain at ragolygon cyflogaeth gwell. Felly, mae'n amlwg fod yr awydd yno. Mae hefyd yn ymwneud â chyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol wrth i'r farchnad gyflogaeth addasu a newid o'n cwmpas. Ond mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud cyfleoedd dysgu gydol oes ac ailhyfforddi yn hygyrch, yn ymarferol ac yn gosteffeithiol i bobl allu manteisio arnynt, a'u bod yn darparu cyfle cyfartal. Mae angen iddynt gydweddu â bywydau bob dydd pobl. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r sector addysg bellach a'r sector addysg uwch i ganfod sut y gellid cyflawni hyn ac mewn ffordd hygyrch? Diolch.
Wel, diolch i'r Aelod am ei chwestiynau a'r ffordd adeiladol y mae'n ymgysylltu â'r ystod o faterion, a chredaf fod yr ystod o gwestiynau y mae'n eu gofyn yn dangos ehangder y Bil a maint yr her a'r cyfle rydym yn ceisio sicrhau bod ein sectorau yn y sefyllfa orau i ymgysylltu â hwy.
Ar y cwestiwn pwysig ynghylch amseru, rwy'n deall yn iawn y cyd-destun ar gyfer y cwestiwn y mae'r Aelod yn ei ofyn, ond credaf fod y cydlifiad a'r cyd-destun rydym ynddo'n gwneud yr angen am y Bil yn fwy dybryd, mewn gwirionedd—felly, yn amlwg, soniodd am COVID, sy'n bwysig, ond dyma wythnos y COP, ac rydym yn deall yr effaith drawsnewidiol y mae newid hinsawdd yn ei chael ar ein cymdeithas, ar ein heconomi; ein perthynas newydd â'r Undeb Ewropeaidd; yr angen y cyfeiriodd ato yn ei chwestiwn i wella darpariaeth dysgu gydol oes wrth i bobl aros mewn gwaith am gyfnod hirach, ond efallai y bydd angen iddynt addasu eu sgiliau yn amlach yn ystod eu bywyd gwaith ac ymdopi â chyfnodau pan fyddant allan o waith; a'r her ddigidol hefyd. Mae pob un o'r rheini'n dod ynghyd ar yr un pryd. Mae unrhyw un ohonynt yn her sylweddol. Felly, credaf fod cydlifiad y pethau hynny'n cynnig cyfleoedd yn ogystal â heriau, sydd, yn fy marn i, yn gwneud yr amseru'n gwbl briodol ar gyfer y Bil hwn.
Mae'n codi pwynt pwysig am gyfansoddiad y bwrdd. Bydd y broses o benodi pobl yn aelodau o'r bwrdd yn dilyn y llwybr penodiadau cyhoeddus yn y ffordd arferol, a bydd angen ystod o sgiliau ar y bwrdd o ystod o gefndiroedd, o addysg ond hefyd o ddiwydiant a thu hwnt. Felly, bydd y penodiadau cychwynnol yn cynnwys y cadeirydd, y dirprwy gadeirydd, y prif weithredwr ar gyfer y penodiad cyntaf, a'r bwrdd, gan Lywodraeth Cymru drwy'r broses benodiadau cyhoeddus, a gobeithiaf y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd iddi. O ran yr aelodau cyswllt, sef y rhai y cyfeiriais atynt yn fy araith, mater i'r comisiwn ei hun fydd hynny.
Credaf iddi godi set bwysig o bwyntiau ynglŷn â'r berthynas rhwng ysgolion a'r sector ôl-16, ac wrth gwrs, mae'r chweched dosbarth yng nghanol y diagram Venn hwnnw mewn sawl ffordd. A chredaf mai dyna pam ei bod yn bwysig fod y Bil yn dod â'r chweched dosbarth o fewn cwmpas y comisiwn, er yn anuniongyrchol ar ryw ystyr, gan y credaf y bydd hynny'n arwain at set fwy cydlynol o drefniadau. A chredaf ei bod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â sicrhau bod addysg cyn-16 ac ôl-16 yn fath o daith ddi-dor yn yr ystyr hwnnw, a chredaf mai nod y Bil hwn yw darparu rhywfaint o gydlyniant. Credaf fod y berthynas â'r chweched dosbarth yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau'r parhad a'r continwwm dysgu yn y ffordd y mae'n disgrifio.
Gwnaeth nifer o bwyntiau mewn perthynas ag effaith COVID, fel y credaf—. Rydym yn monitro cynnydd y carfannau yr effeithiwyd arnynt yn fwyaf uniongyrchol mewn ffordd gyfnodol iawn, ac rydym wedi cyhoeddi rhywfaint o wybodaeth eisoes am gyrhaeddiad, am gyrsiau y mae pobl yn mynd i'w dilyn, y perfformiad ac ati, gan ein bod yn cydnabod, fel hithau, rwy'n gwybod, yr effaith benodol ar y garfan honno. A chredaf y bydd y wybodaeth honno'n ased yn y gwaith y gall y comisiwn ei wneud.
Soniodd am bwysigrwydd sicrhau bod gan bawb fynediad at y cyfleoedd y bydd y Bil yn eu gwella, a chan gynnwys y rheini yr effeithiwyd arnynt yn fwyaf uniongyrchol gan COVID, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Un o ddyletswyddau allweddol y comisiwn yw'r ddyletswydd cyfle cyfartal, gyda'r nod o sicrhau bod pob dysgwr, ni waeth beth fo'u cefndir, yn gallu ffynnu hyd eithaf eu gallu ym mhob rhan o'r sector trydyddol, a gwn y bydd yn rhannu'r uchelgais honno.
Mewn perthynas â phrentisiaethau, credaf y bydd y Bil hwn yn trawsnewid gallu ein system brentisiaethau i fod yn ymatebol yn y ffordd y mae ei chwestiwn yn ei hannog i fod. Mae rhaglen fuddsoddi sylweddol iawn gennym fel Llywodraeth mewn perthynas â phrentisiaethau, a chredaf fod bod yn hyblyg, a gallu ymateb i anghenion yr economi mewn ffordd uniongyrchol yn ganolog i hynny, a bydd y Bil yn cefnogi hynny.
Yn olaf, mae'n nodi set o bwyntiau pwysig mewn perthynas â dysgu gydol oes. Unwaith eto, un o ddyletswyddau allweddol y comisiwn yw hyrwyddo hynny. Rydym yn disgwyl derbyn gwaith cyn bo hir gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a fydd yn ein cynorthwyo i ddeall yn well beth yw'r cyfleoedd mewn perthynas â dysgu gydol oes, a bydd wedi gweld yn y Bil fod y mecanwaith cyllido ar gyfer addysg bellach yn cynnwys mecanwaith sy'n galluogi i hynny gael ei ehangu'n gynyddol i wireddu'r ddarpariaeth gydol oes honno.
Diolch, Weinidog, am y datganiad.
Mae llawer am y Bil yma rŷn ni'n ei groesawu, ond fe godwyd nifer o bryderon gan randdeiliaid ynghylch y Bil, sy'n amrywio o ansicrwydd ynghylch y comisiwn newydd a'i berthynas â'r Llywodraeth a darparwyr dysgu, cynllunio a chyllido, lles a llais dysgwyr, sicrhau ansawdd a rhyddid academaidd. O ystyried nifer ac amrywiaeth y pryderon yma a drosglwyddwyd gan randdeiliaid, byddai'n berthnasol efallai gofyn rhai cwestiynau ynghylch y broses ymgynghori. Mae NUS Cymru, er enghraifft, o'r farn bod cyfle gwirioneddol wedi'i golli fan hyn i ymgorffori partneriaeth wirioneddol â dysgwyr ar draws y sector ôl-16, a bod hyn wedi'i adlewyrchu yng ngeiriad fframwaith strategol y Bil, lle mae yna absenoldeb—does yna ddim lot o gyfeirio at lais y dysgwyr—ac, er enghraifft, mae diffyg cydnabyddiaeth o'r ffordd mae yna amrywiaeth o ran mynediad at gynrychiolaeth ac eiriolaeth rhwng y sector addysg uwch a'r sector addysg bellach. Byddai cyfle wedi bod fan hyn, er enghraifft, i roi sail gyfreithiol i hynny, a bod cydnabyddiaeth a chefnogaeth i hynny yn amod o fod yn gorff cofrestredig. Felly, ydy'r Gweinidog yn credu bod y Bil, fel y mae, yn rhoi ystyriaeth ddigonol i lais dysgwyr?
Rwy'n siŵr y gallwn ni gyd gytuno bod rhyddid academaidd yn hollol hanfodol i addysg uwch yn y Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol. Mae rhyddid academaidd yn egwyddor bwysig y dylen ni ei groesawu, ei gefnogi, ei ariannu a'i hyrwyddo yma yng Nghymru. Mae canlyniadau peidio â diogelu rhyddid o'r fath yn eang eu cwmpas. Mae rhyddid academaidd yn effeithio ar y buddsoddiad y gall prifysgolion ei sicrhau i Gymru drwy eu gweithgareddau. Gallai gyfyngu ar eu gallu i ffurfio partneriaethau, yn ddomestig ac yn rhyngwladol, a gall rhoi Cymru, felly, dan anfantais. Mae angen gwell gydnabyddiaeth a diogelwch i ymreolaeth sefydliadol a rhyddid academaidd yn y Bil, ond mae rhanddeiliaid wedi cyfeirio at feysydd lle mae diffyg amddiffyniadau angenrheidiol. Mae'r rhain yn cynnwys bylchau anfwriadol wrth drosglwyddo amddiffyniadau presennol yn y ddeddfwriaeth ariannu, y pwerau sydd gan Weinidogion Cymru, yn hytrach na chomisiwn, a'r nifer o bwerau rheoleiddio a phwerau eraill newydd sydd yn y Bil. Yn hyn o beth, hoffwn i i'r Gweinidog amlinellu sut mae'r Bil sydd ger ein bron ni heddiw, mewn gwirionedd, yn diogelu rhyddid academaidd, gallu sefydliadau academaidd i ffurfio'r partneriaethau allweddol yma, a beth mae hyn yn ei olygu i fyfyrwyr Cymru ar lefel domestig ac yn fyd-eang.
Mae nodau datganedig y ddeddfwriaeth hon yn cynnwys parchu rhyddid i sefydliadau addysgol, tra'n dod â rheoleiddio a chyllid o dan y comisiwn newydd ar addysg drydyddol ac ymchwil. Fodd bynnag, nid yw'r Bil yn dileu pwerau Llywodraeth Cymru i ddiddymu corfforaethau addysg uwch yn erbyn eu hewyllys, ac mae'n ymestyn pwerau i newid eu gofynion statudol. Nid ydym ni o reidrwydd yn erbyn yr agweddau hyn o'r Bil, oherwydd mae'n rhaid i brifysgolion ymddwyn mewn modd sy'n ymateb i anghenion ein heconomi, nid fel busnesau. Ond, gan gofio bod y sefydliadau sy'n cael eu heffeithio gan y Bil yn derbyn arian cyhoeddus, a allaf i ofyn i'r Gweinidog sut mae'r Bil yn mynd ati i sicrhau bod ein prifysgolion yn ymateb yn strategol i anghenion sgiliau, economi ac ymchwil Cymru, yn hytrach nag ymddwyn fel endidau masnachol sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd?
O ran y Gymraeg, eglurwyd yn ystod y broses ymgynghori bod rhanddeiliaid yn cytuno y dylai'r comisiwn newydd gael ei roi o dan ddyletswydd benodol i roi sylw i'r Gymraeg wrth arfer ei swyddogaethau, a dylai fod yn ddarostyngedig i safonau'r Gymraeg. Yn hyn o beth, nodwyd y byddai'r comisiwn yn delio â nifer o feysydd a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar allu'r sector PCET i ddatblygu a gwella gallu'r dysgwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog, a fydd yn mynd gryn ffordd tuag at gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn hanesyddol, mae'r cynnig o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog o fewn PCET wedi bod yn gyfyngedig ac yn dameidiog oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys argaeledd cyfyngedig cymwysterau, argaeledd cyfyngedig yr adnoddau o ran adnoddau ffisegol a staff sy'n gallu addysgu ac asesu yn Gymraeg, a diffyg galw canfyddedig gan gyflogwyr a dysgwyr. A allai'r Gweinidog, felly, amlinellu sut mae'n credu bod y Bil yn ymateb i'r materion hyn, ac, yn benodol, sut y bydd y Bil yn ymateb i'r prinder cymwysterau ac adnoddau cyfyngedig sydd ar gael, o ran yr adnoddau ffisegol a staff sy'n gallu addysgu ac asesu yn Gymraeg? Felly, hoffwn glywed mwy am y manylion ar sut y bydd y Bil yn ein helpu ni ar y ffordd i'r targed yna o filiwn o siaradwyr. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau ac am y croeso y mae hi wedi ei roi i'r Bil, a'r cwestiynau sydd yn delio â meysydd tra phwysig, a llawer ohonyn nhw wedi eu codi, fel y gwnaeth hi sôn, gan randdeiliaid yn y broses—proses estynedig, efallai, o ymgynghori ers cyflwyno'r Bil drafft.
O ran llais y dysgwr, rwy'n credu bod pwyslais newydd yn y Bil ar hynny yn sgil beth ŷn ni wedi'i glywed gan randdeiliaid. Felly, o'm safbwynt i, mae siwrnai'r dysgwr, a sicrhau bod hynny'n un esmwyth drwy’r system, yn gwbl greiddiol i hyn, ac mae'r ffocws ar y dysgwr—dyna brif ffocws y comisiwn yn y ffordd y mae'r Bil wedi ei strwythuro. Mae hynny wir yn bwysig, rwy'n credu. Mae'r engagement code, mae'r learner protection code, mae'r ddwy elfen honno'n bwysig iawn o ran rhoi llais ar un llaw, ond hefyd rhoi diogelwch i'r dysgwr mewn amgylchiadau lle efallai bod cwrs yn dod i ben, neu bod y dysgwr eisiau symud rhwng cyrsiau, ac mae'r manylder sydd yn gallu dod yn y codau hynny yn mynd i roi lot o gefnogaeth a lot o ddiogelwch i ddysgwyr yn y cyd-destun hwnnw. Rŷn ni wedi edrych ar beth sy'n digwydd dros y ffin, ac mae'r cod sydd gyda ni mewn golwg fan hyn yn llawer amgen yn y cyd-destun hwnnw. Ac rwyf hefyd yn credu bod y gynrychiolaeth ar fwrdd y comisiwn yn bwysig o ran llais y dysgwr, wrth galon y system newydd. Ond mae'r Bil wedi cael ei gyflwyno, bydd cyfnod estynedig nawr o graffu a siarad ymhellach â rhanddeiliaid, ac rwy'n hapus iawn i glywed ymhellach os oes gan ddysgwyr a'u cynrychiolwyr syniadau am sut y gallwn ni gryfhau yn y ffordd y mae'r Aelod yn ei godi heddiw.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r cwestiwn o ryddid academaidd. Mae hynny'n awr ar wyneb y Bil, fel bod hynny'n ofyniad. Mae hefyd gyfyngiadau ar beth y gall y Llywodraeth ei wneud o ran gofynion wrth y comisiwn; wrth eu gwraidd nhw mae'r syniad o ryddid academaidd hefyd. Felly, mae mwy nag un enghraifft yn y Bil lle mae hynny ar wyneb y Bil.
Roedd yr Aelod yn gofyn am sut y gwnaiff y Bil ehangu rhyddid sefydliadau i allu gweithio gyda'i gilydd, sydd efallai yn fersiwn gwahanol o ryddid academaidd, hynny yw. Rwy'n credu bod y Bil yn caniatáu hynny wrth ei wraidd. Hynny yw, ar hyn o bryd, mae gennym ni system o ariannu sy'n dibynnu ar ffiniau. Hynny yw, mae addysg uwch yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth—addysg bellach gan y Llywodraeth, addysg uwch gan HEFCW, ac wedyn mae hynny'n creu anghysondebau yn y system, sydd, a dweud y gwir, ddim yn strategol a ddim yn caniatáu’r cysylltiadau a'r cydweithredu rwy'n gwybod bod yr Aelod eisiau eu gweld. Felly, wrth symud oddi wrth hynny, i gael system dryloyw o ariannu, sy'n seiliedig ar strategaeth, rwy'n credu bod hynny'n mynd i ganiatáu i'n sefydliadau ni i gydweithio mewn amryw ffyrdd creadigol iawn.
Fe wnaeth yr Aelod godi pwynt pwysig ynglŷn â chorfforaethau addysg uwch. Fe wnaethom ni feddwl, wrth ein bod ni'n dylunio'r rhan yma yn y Bil, pa ffordd i fynd â'r cwestiwn hwn—a dweud y gwir, roedd trafodaeth ynglŷn â beth oedd y ffordd iawn i fynd. Yn y pen draw, fe wnaethom ni gadw at yr hyn sydd yn y gyfraith eisoes. Mae newidiadau technegol mân ar yr ymylon, sydd yn deillio o'r ffaith bod comisiwn, bod corff newydd, ond dyw sylwedd y peth ddim wedi newid. Y rheswm am hynny yw bod angen rhyw fath o backstop mewn rhai amgylchiadau—mewn rhyw fath o senario argyfyngus y byddai e'n codi, wrth gwrs. Ond mae risg, os nad yw'r pwerau'n bodoli, efallai'r na fyddai'r sefydliad mewn sefyllfa i ofyn i'r Llywodraeth ymyrryd, ond hefyd bod angen Deddf seneddol er mwyn newid y sefyllfa. Felly, jest cwestiwn ymarferol yw e. Ond eto, rwy'n hapus i glywed os ydy pobl yn credu bod angen cryfhau hynny, cryfhau'r ffyrdd o sicrhau hynny. Mae cyfraith gyhoeddus, wrth gwrs, yn berthnasol fan hyn, felly byddai cyfyngiadau sylweddol iawn yn codi yn y cyd-destun hwnnw beth bynnag. Ond fel rwy'n ei ddweud, rwy'n hapus i glywed am awgrymiadau pellach.
O ran y Gymraeg, mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn hollbwysig. Mae'n drafodaeth rwyf wedi ei chael gyda ColegauCymru, colegau addysg uwch a'n prifysgolion ni, ac mae cyfle pwysig gyda ni, rwy'n credu, er mwyn sicrhau cyfraniad y sector tuag at y nod rŷn ni i gyd yn ei rannu. Mae perthynas wahanol gan bobl gyda'r Gymraeg ar ôl gadael ysgol, rwy'n credu. Mae'r dynamics efallai ychydig yn wahanol, felly mae cyfle gyda ni, ac mewn amryw o ffyrdd rwy'n credu bod y Bil yn cyfrannu tuag at hwnnw. Ar wyneb y Bil, mae'n ddyletswydd gan y comisiwn i yrru'r galw am addysg ôl-16 yn Gymraeg, ond hefyd mae amryw o ffyrdd mae hynny'n gallu digwydd. Y memorandwm esboniadol, mae eithaf rhan o hwnna yn esbonio pa fathau o bethau byddai'r comisiwn yn gallu eu gwneud, ond byddwn yn hapus i drafod hwnna mewn manylder gyda'r pwyllgor, er enghraifft, os ydy hynny o ddiddordeb, achos rwy'n credu bod lot gallwn ni ei wneud yn y rhan hon.
O ran cymwysterau, mae Cymwysterau Cymru, wrth gwrs, wrthi yn edrych ar beth gallwn ni ei wneud yn amgen o ran cymwysterau galwedigaethol, er enghraifft, yn y Gymraeg. Mae diffyg mawr yn hynny o beth. Mae rhai eisoes wedi eu creu sydd yn 'made in Wales' fel petai, ond mae gwaith pellach gyda ni i'w wneud yn hynny o beth, rwy'n credu, gyda Cymwysterau Cymru.
Hoffwn eich llongyfarch yn arbennig ar y pwyslais rydych wedi'i roi ar y pwerau annibynnol i ariannu prentisiaethau yn yr un modd ag unrhyw ran arall o addysg drydyddol, oherwydd credaf fod hwn yn gam pwysig ymlaen o ran y parch cydradd sydd angen inni ei gael rhwng sgiliau technegol cymhwysol a sgiliau academaidd a deallusol fel y'u gelwir, er ei bod hi'n amlwg fod llawer o'r rhain yn gymysg mewn gwirionedd. Ond mae angen i ni sicrhau bod cymwysterau BTEC a chymwysterau Safon Uwch yn cael yr un statws yn union, a bod sgiliau galwedigaethol ac academaidd yn cael parch cydradd.
Roeddwn eisiau holi sut rydych yn credu y bydd y Bil hwn yn gwella atebolrwydd a goruchwyliaeth gymesur o addysg drydyddol heb rywfaint o fiwrocratiaeth, oherwydd yn draddodiadol mae'r trefniadau llywodraethu academaidd wedi'u cyflawni gan y Senedd, ac mae tensiwn wedi bod bob amser rhwng rhyddid academaidd a'r ffaith bod angen iddynt fod yn fusnesau cynaliadwy. Ond yn yr un modd, nid yw'r rheolaeth ariannol effeithlon ac effeithiol gan gyngor y brifysgol cystal ag y gallai fod o reidrwydd mewn rhai achosion. Sut y bydd y Bil hwn, a'r pwerau a fydd gan Lywodraeth Cymru i ymyrryd os nad ydynt yn credu bod cyrff llywodraethu'n gwneud y gwaith yn effeithiol, sut y bydd hynny'n cael ei wella gan y trefniadau newydd hyn, oherwydd, yn amlwg, mae'n fater pwysig iawn i sector sy'n hynod o bwysig i'n heconomi a'n llesiant?
Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig. Credaf fod gwahaniaeth yn y dull o ymdrin ag addysg uwch ac addysg bellach am resymau y gwn y bydd yn eu deall. A chredaf fod hynny'n amlygu pwynt mwy, sef, er ein bod eisiau cael un sector, fod amrywiaeth o chwaraewyr o fewn y sector hwnnw, a chredaf mai'r cydbwysedd hwnnw yw'r cydbwysedd cywir i'w daro.
Cyfeiriaf at y pwynt am ryddid academaidd a wnaeth Sioned Williams, ond mae mecanwaith, wrth gwrs, ar gyfer cofrestru yn y Bil, ac mae amrywiaeth o ffyrdd y gall y comisiwn ymgysylltu â sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio â'u hamodau cofrestru. Ac mae'n rhyw fath o gyfres gynyddol o ymyriadau mewn gwirionedd ynglŷn â chyngor ac ymgysylltiad, ac yna mae posibilrwydd o gyfarwyddyd a gweithgaredd gorfodi llymach wedyn ar gyfer y senario fwyaf dybryd a mwyaf annhebygol, fel y byddai rhywun yn ei obeithio ac yn ei ddisgwyl. Felly, mae'r Bil yn nodi rhyw fath o ystod gynyddol o ymyriadau y gallai'r comisiwn eu defnyddio yn y sefyllfaoedd gwaethaf. Ond y gofrestr yw'r mecanwaith ar gyfer darparu'r oruchwyliaeth honno.
Yn olaf, Hefin David.
Diolch, Lywydd. Ac mewn ymateb i'r cwestiwn, 'Pryd y dylid gwneud hyn, pam nawr?', wel, cyhoeddwyd adroddiad yr Athro Ellen Hazelkorn ym mis Mawrth 2016. Felly, os nad nawr, pam nad ddoe, cyn hynny? Ond wrth gwrs, mae pandemig byd-eang wedi bod yn y cyfamser, a chredaf y gellid bod wedi gwneud hyn yn gynharach.
Roeddwn yn gwrando ar eich ymateb i Sioned Williams, ac nid oes gennyf fy offer cyfieithu, felly rwy'n gobeithio bod fy nealltwriaeth o'r Gymraeg yn ddigonol. Ond fe sonioch chi am anghysondeb, rwy'n credu, y ffaith bod Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am addysg bellach a CCAUC yn gyfrifol am addysg uwch. Ond yr hyn a fydd yn digwydd gyda'r corff newydd yw y bydd ystod enfawr o alwadau am gymorth ariannol a chymorth arall gan amrywiaeth o gyrff sy'n gwneud pethau tebyg ar wahanol lefelau, ac a allai fod yn cystadlu â'i gilydd. Sut y gellir datrys hynny o fewn un corff? Sut y darperir tryloywder a sut y gwneir gwaith craffu arno er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg yn y pot newydd?
Diolch i Hefin David am y cwestiwn pwysig hwnnw. Mae'r ddamcaniaeth sylfaenol sy'n sail i'r Bil hwn yn awgrymu y bydd yn arwain at fwy o dryloywder i bob pwrpas yn y ffordd hon. A chredaf ein bod wedi cael ein hysbrydoli rywfaint gan y profiad yn Seland Newydd pan sefydlasant eu comisiwn cyfatebol, ac mae'n gweithredu ar sail debyg yn yr ystyr fod y Llywodraeth yn pennu'r strategaeth gyffredinol a bod gan y comisiwn ei gynllun strategol ei hun sy'n adlewyrchu'r gofynion hynny ac yn y blaen.
Mae CCAUC eisoes yn gweithredu ar sail sy'n dryloyw yn y ffordd y mae'n dyrannu cyllid. Mae ar gael i'r cyhoedd, mae'r meini prawf wedi'u sefydlu ac mae'r symiau wedi'u dosbarthu mewn ffordd sy'n gyhoeddus iawn, a chredaf fod hynny'n rhywbeth sy'n haws ei gyflawni yn y math hwnnw o amgylchedd hyd braich. Felly, credaf mewn gwirionedd y bydd dwyn ynghyd y ffrydiau ariannu addysg bellach, dysgu oedolion a phrentisiaethau yn y ffordd hyd braich honno yn gwella tryloywder yn y ffordd y mae CCAUC, efallai, yn ei wneud ar gyfer addysg uwch ar hyn o bryd. Y fantais allweddol a ddaw yn sgil y cynigion yn y Bil yw bod yr arian yn cael ei ddyrannu ar sail y strategaeth gyhoeddus honno, os mynnwch, felly mae yna strategaeth wedi'i dyfeisio, sy'n destun ymgynghoriad ac yn dryloyw, ac nid y ffiniau rhwng sefydliadau, os mynnwch—neu'r ffiniau hanesyddol ar y pwynt hwnnw rhwng y ffynonellau cyllid—sy'n penderfynu sut y dyrennir yr arian hwnnw. Felly, credaf y bydd y ddau lwybr hwnnw'n gwella'r tryloywder ar draws y sector ôl-16 yn sylweddol.
Diolch i'r Gweinidog.