1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Sam Rowlands.
Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch am eich gohebiaeth yn ddiweddar i ddarparu diweddariad ar yr ymgynghoriad nesaf ar gyd-bwyllgorau corfforedig. Hoffwn ganolbwyntio fy nghwestiynau ar hynny heddiw. Yn gyntaf, Weinidog, a ydych yn cytuno â chyn-ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus mai'r hyn yw cyd-bwyllgorau corfforedig yn y bôn, a dyfynnaf:
'yw ad-drefnu cynghorau drwy'r drws cefn'?
Credaf fod cyd-bwyllgorau corfforedig yn rhywbeth cwbl wahanol i hynny, gan fod hyn yn rhywbeth sy'n cael ei arwain gan awdurdodau lleol. Maent yn cynnig cyfleoedd i symleiddio cytundebau cydweithredu presennol, ac yn darparu'r eglurder a'r cysondeb y mae'r prif gynghorau wedi bod yn chwilio amdanynt mewn sawl maes, yn enwedig yn y meysydd y byddant yn gyfrifol amdanynt—alinio datblygu economaidd, er enghraifft, trafnidiaeth a dulliau cynllunio a defnydd tir, er mwyn datblygu economïau rhanbarthol llwyddiannus a hybu twf lleol. Felly, tybed a ydych yn camddyfynnu Julie James yn hynny o beth, gan ei bod yn bendant o'r farn fod hwn yn gam pwysig ymlaen, sy'n cael ei wneud gydag awdurdodau lleol.
Diolch, Weinidog. Ac er eglurder, nid dyfynnu Julie James roeddwn yn ei wneud; y Gweinidog cyn Julie, a daeth y dyfyniad drwy'r pwyllgor llywodraeth leol. Ond diolch am eich ateb.
Pryder enfawr sydd gennyf ynghylch cyd-bwyllgorau corfforedig, ac un yr ymddengys bod llawer o gynghorwyr ac arweinwyr cynghorau ledled y wlad yn ei rannu, yw eu natur ddemocrataidd, neu ddiffyg natur ddemocrataidd o bosibl, ac effaith bosibl colli pwerau cynghorau a phobl a etholwyd yn ddemocrataidd i wneud penderfyniadau a sylwadau ar ran eu cymunedau. Yn eich llythyr at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar 29 Hydref, fe ddywedoch mai bwriad cyd-bwyllgorau corfforedig yw darparu mwy o gydlyniaeth a chael gwared ar beth o gymhlethdod trefniadau llywodraethu rhanbarthol, gan gryfhau atebolrwydd democrataidd lleol. Ond ymddengys bod hynny'n groes i'r hyn a ddywed prif weithredwr Cyngor Caerdydd, a nododd y gallent, ac rwy'n dyfynnu:
'leihau atebolrwydd democrataidd'.
Ac yn wir, nododd un o gynghorwyr Cyngor Abertawe:
'Os ydych yn dymuno bod yn dwrci, pleidleisiwch dros y pwyllgorau newydd hyn.'
Felly, Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i gynghorau ledled Cymru na fydd y cyd-bwyllgorau corfforedig hyn yn mynd â phwerau a democratiaeth oddi wrth y cynghorau a'r bobl a etholwyd yn lleol i gynrychioli eu cymunedau?
Credaf fod atebolrwydd democrataidd yn gwbl hanfodol, ac mae angen i bobl fod â ffydd yn y strwythurau newydd a roddir ar waith. A dyna pam ei bod yn bwysig mai arweinwyr pob cyngor cyfansoddol fydd aelodau'r cyd-bwyllgorau corfforedig, ac yn amlwg, byddant hwythau wedyn yn atebol i'w cynghorau cyfansoddol am y penderfyniadau a wnânt fel rhan o'u cyd-bwyllgor corfforedig. A bydd yn ofynnol hefyd i'r cyd-bwyllgorau corfforedig roi'r trosolwg priodol a'r trefniadau craffu ar waith, ar ôl ymgynghori a chytuno arnynt â'u cynghorau cyfansoddol, a bydd hynny, wrth gwrs, yn rhan bwysig iawn o atebolrwydd y cyd-bwyllgorau corfforedig. Ac wrth gwrs, bydd gan bob un ei is-bwyllgorau llywodraethu ac archwilio ei hun, gyda'r un swyddogaethau ag un mewn awdurdod lleol, gan gynnwys adolygu a chraffu ar faterion ariannol, rheoli risg a rheolaeth fewnol cyd-bwyllgor corfforedig. Felly, credaf ein bod wedi rhoi mesurau cadarn ar waith i sicrhau atebolrwydd democrataidd.
Diolch, Weinidog. Yn sicr, rhoesoch ateb rhannol ynglŷn â chyfrifoldeb pleidleisio'r arweinwyr ar y cyd-bwyllgorau corfforedig hynny, ond wrth gwrs, fel yn fy rhanbarth i, mae gennych chwe chyngor, felly chwe arweinydd, ac mae'n debyg fod gennych bron i 400 o gynghorwyr ar draws y rhanbarth sydd wedi'u hethol yn lleol. A chredaf fod hwn yn faes nad yw'n cael ei werthfawrogi ar hyn o bryd, efallai, o ran yr atebolrwydd democrataidd lleol hwnnw. Wrth gwrs, holl bwynt dod â datganoli yma i Gymru yw peidio ag aros yma yng Nghaerdydd, ond dod â phwerau i bobl leol, sydd yn y sefyllfa orau i gynrychioli pobl leol ar y cynghorau hynny hefyd. Mae'n amlwg i lawer mai nod Llywodraeth Cymru, yn ôl pob golwg, wrth gyflwyno'r cyd-bwyllgorau hyn yw mynd â phwerau oddi wrth y cynghorau lleol hynny a'r bobl a etholwyd yn lleol. I wrthdroi hynny, Weinidog, mae cyfle yma i bwerau ddod o Gaerdydd i lawr i'r cyd-bwyllgorau corfforedig. Felly, pa bwerau, pa ysgogiadau, rydych yn disgwyl eu rhyddhau o Gaerdydd yma i'r cyd-bwyllgorau corfforedig hynny fel y gall pobl wneud penderfyniadau'n lleol yn eu hardaloedd?
Diolch am godi hynny. Mae'n bwysig fod cynghorwyr yn teimlo y gallant graffu ar yr arweinwyr sy'n cynrychioli ar y cyd-bwyllgorau corfforedig. Ac yn amlwg, bydd y trefniadau hynny ar waith, ac mae atebolrwydd cyhoeddus hefyd yn bwysig iawn. A bydd yn ofynnol i'r cyd-bwyllgor corfforedig annog aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, gan sicrhau bod unigolion yn gallu cyfrannu at y gwaith o lunio'r gwasanaethau y maent hwy a'u teuluoedd yn dibynnu arnynt, ac a fydd yn amlwg yn cael effaith bwysig ar eu bywydau bob dydd. Ond mae'r pwynt ynglŷn â sybsidiaredd yn bwysig iawn, ac mae Llywodraeth Cymru'n agored i ddatganoli pwerau pellach i gyd-bwyllgorau corfforedig. Nawr, nid oes gennym farn sefydlog ynglŷn â pha bwerau y dylid eu datganoli. Rydym yn bendant o'r farn y dylid mynd i'r afael â'r mater hwn o'r cyd-bwyllgorau corfforedig i fyny. Felly, mater i'r cyd-bwyllgorau corfforedig fydd cyflwyno'r achos dros ddatganoli pwerau a chyfrifoldebau pellach iddynt a chael trafodaethau unigol gyda Gweinidog y portffolio perthnasol, ond rydym yn agored iawn i'r trafodaethau hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Yn sgil COP26 yr wythnos diwethaf, dwi eisiau holi am rôl llywodraeth leol wrth helpu Cymru i gwrdd â'i hymrwymiadau o safbwynt torri allyriadau carbon, a'ch rôl chi, wrth gwrs, fel Gweinidog llywodraeth leol yn hynny o beth. Dwi'n deall bod 16 awdurdod lleol erbyn hyn wedi datgan argyfwng hinsawdd. Nawr, man cychwyn yw hynny, wrth gwrs, mewn proses hirach, ac mae yn siomedig bod yna chwe awdurdod mae'n debyg sydd dal hyd yn oed heb wneud hynny. Ond mae datgan yn beth hawdd i'w wneud, wrth gwrs; y gweithredu sy'n bwysig yn sgil hynny. Ac mae yna wahanol awdurdodau lleol ar gyfnodau gwahanol o'r daith honno, mae'n debyg—rhai yn fwy blaengar ac yn delio â'r mater yn fwy ystyrlon ac mewn modd mwy uchelgeisiol na'i gilydd efallai. Ond fy nghwestiwn cyntaf i i chi yw: beth ŷch chi'n ei wneud i annog, i gefnogi a hyd yn oed i orfodi, mewn rhai sefyllfaoedd, awdurdodau lleol Cymru i helpu gyda'r gwaith o gael y maen i'r wal o safbwynt gostwng allyriadau?
Felly, rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i ofyn i bob un ohonynt ddatblygu cynllun ar gyfer lleihau allyriadau a mynd i'r afael â'r anghenion sy'n ymwneud â datgarboneiddio. Ac mae pob un o'r rheini bellach wedi'u cyflwyno, a buom yn edrych ar y cynlluniau hynny, gan archwilio ble mae'r cryfderau, ond hefyd ble mae bylchau neu wendidau posibl, fel y gall awdurdodau lleol ddysgu gan ei gilydd a chael elfen o herio'i gilydd yn y maes penodol hwn. Mae gennym grŵp datgarboneiddio hefyd, sy'n edrych yn benodol ar yr hyn y gall awdurdodau lleol ei wneud, ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn chwarae rhan bwysig ynddo. Ac wrth gwrs, byddwch wedi gweld ein cynllun 'Cymru Sero Net' diweddar, a chredaf fod hwnnw'n wirioneddol uchelgeisiol, o ran y cyfrifoldebau y mae'n eu rhoi ar lywodraeth leol i chwarae ei rhan i sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cyrraedd sero-net erbyn 2030. Felly, mae cryn dipyn o waith yn mynd rhagddo yn y maes hwn, ac mae'n rhaid imi ddweud, mae cryn dipyn o ymrwymiad yn y maes hwn. Daw'r grŵp datgarboneiddio y cyfeiriais ato o dan gyngor partneriaeth Cymru, a gadeirir gennyf, ac mae datgarboneiddio'n eitem sefydlog ym mhob un o'r cyfarfodydd hynny.
Diolch ichi am hynny. Mi gyfeirioch chi at y WLGA, ac maen nhw, wrth gwrs, wedi galw ar y Llywodraeth i ddarparu'r arfau—y twls—a'r adnoddau i lywodraeth leol i allu 'baseline-o' a mesur cynnydd yn lleol yn erbyn targedau newid hinsawdd, fel eu bod nhw'n gallu gwneud hynny mewn modd cywir a chyson ar draws Cymru. Nawr, mi allai hynny, wrth gwrs, fod yn sail i greu targedau net sero lleol—hynny yw, dadgyfuno neu 'disaggregate-o' targedau net sero ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru. Licen i glywed os ydych chi'n cytuno y byddai hynny'n rhoi cymhelliad i bob awdurdod lleol, yn enwedig y rhai efallai sydd ychydig ar ei hôl hi, i ymateb gyda mwy o arddeliad i'r argyfwng hinsawdd a natur, ac a ydy hynny yn rhywbeth ŷch chi a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ei ystyried?
Diolch am eich awgrym. Mae'n rhywbeth y byddaf yn edrych yn agos iawn arno, gan y credaf ei bod yn bwysig ein bod, yn y maes hwn, fel mewn cynifer o feysydd eraill, yn symud cyn gynted â'r cyflymaf, nid yr arafaf, ac nid oes gennym amser i aros cyn mynd i'r afael â newid hinsawdd. Felly, yn sicr, byddaf yn ystyried yr awgrym hwnnw. Credaf ein bod wedi darparu set ddefnyddiol o offer i awdurdodau lleol. Mae gennym ddangosfwrdd datgarboneiddio, er enghraifft, lle gall awdurdodau lleol archwilio effeithiau'r amryw ddewisiadau y gallant eu gwneud er mwyn ceisio cyflawni eu targedau datgarboneiddio, megis beth fyddai'r effaith pe byddent yn newid i ddefnyddio mwy o gerbydau trydan, er enghraifft—gallant ddarganfod beth fyddai effaith hynny o ran carbon. Credaf fod asesiadau effaith carbon yn bwysig iawn, ac mae hyn yn rhywbeth rydym wedi bod yn ceisio'i ddatblygu dros y blynyddoedd diwethaf drwy ein proses gyllidebol, ac mae'n rhywbeth rydym yn parhau i roi ffocws cryf arno. Mae'n sicr yn rhywbeth y bydd gan lywodraeth leol ddiddordeb ynddo hefyd.
Dwi'n falch eich bod chi wedi sôn am y broses gyllidebol, oherwydd dyna lle dwi'n mynd nesaf, ac eisiau holi ynglŷn â chyllideb ehangach y Llywodraeth a'ch rôl chi fel Gweinidog cyllid. Fel rhywun sydd wedi bod yn rhan o graffu cyllidebau'r Llywodraeth yn eithaf agos yn y blynyddoedd diwethaf, un cerydd sydd wedi codi ei ben yn gyson yw ei bod hi'n anodd darllen ar draws o wariant Llywodraeth i ganlyniadau mesuradwy o ran lleihau carbon. Nawr, sut allwch chi edrych ar linell ar daenlen a bod yn hyderus bod y gwariant hwnnw yn cael yr effaith rŷch chi'n awyddus iddo fe ei gael? Mae'n bosib, wrth gwrs, edrych ar brojectau penodol, mae hynny yn rhywbeth hawdd i'w wneud, ond, er mwyn mesur llwyddiant cyllideb Llywodraeth Cymru i yrru'r newid ehangach rŷn ni eisiau ei weld ar draws llywodraeth a'r sector gyhoeddus, mae angen deall sut mae pob ceiniog yn cyfrannu at y nod yna o net sero. Felly, sut byddwch chi—gyda golwg, wrth gwrs, ar y gyllideb rŷch chi'n gweithio arni ar hyn o bryd, a fydd yn cael ei chyhoeddi mewn ychydig dros fis—sut byddwch chi'n sicrhau tryloywder ac yn sgil hwnnw atebolrwydd i chi fel Llywodraeth o gwmpas y mater yna? A hefyd, a ydych chi'n cytuno bod angen i'r gyllideb nesaf fod y gyllideb mwyaf hinsawdd a natur gyfeillgar yn hanes datganoli?
Diolch am ofyn cwestiwn pwysig unwaith eto. Ar ein gwaith asesu effaith carbon, byddwn yn dweud ein bod ar daith gyda hynny; rydym yn ceisio gwella'r ffordd rydym yn cynnal yr asesiadau effaith carbon. Gwnaeth Prifysgol Caerdydd, rwy'n credu, waith i ni, yn y lle cyntaf, lle buom yn edrych ar y prif grŵp gwariant iechyd a sut y gallem fesur carbon drwy hynny, ac roedd hwnnw'n waith diddorol iawn. Fe wnaethant dynnu ein sylw at y ffaith bod oddeutu hanner cyllideb Llywodraeth Cymru yn mynd ar gyflogau—felly, talu cyflogau ac ati yn y bôn—ac felly, mae'r hyn sy'n digwydd y tu hwnt i hynny o ran asesu effaith carbon yn ymwneud i raddau mwy o lawer â'r dewisiadau rydym yn caniatáu i bobl eu gwneud a cheisio'i gwneud yn haws i bobl wneud dewisiadau sy'n cael effaith gadarnhaol ar ddatgarboneiddio ac ati. Felly, byddwn yn parhau â'r dull rydym yn ei ddefnyddio ar gyfer asesiadau effaith carbon, ac mae tryloywder yn bwysig. Nid wyf yn dweud ein bod wedi'i berffeithio eto, ond rydym yn dal i geisio cymryd camau pwysig ar y daith honno. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid i'r gyllideb hon gydnabod difrifoldeb yr argyfwng hinsawdd a natur sy'n ein hwynebu, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, gyda bwriad i'w gyhoeddi ar 20 Rhagfyr.