– Senedd Cymru am 4:44 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar y cynllun tai mewn cymunedau Cymraeg. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Mae sicrhau bod pobl leol yn gallu fforddio byw yn y cymunedau lle'u magwyd, a chynnal hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol ffyniannus, yn nodau strategol allweddol i Lywodraeth Cymru.
Mae'r Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James, newydd amlinellu nifer o ymyraethau allweddol rydyn ni'n bwriadu eu gwneud ynglŷn ag ail gartrefi a fforddiadwyedd. Pwysleisiodd unwaith eto ein penderfyniad i gefnogi'n cymunedau er mwyn iddynt ffynnu. Nawr, rydw i am amlinellu elfen ategol ac allweddol o'r gwaith hwn, sef datblygu cynllun tai cymunedau Cymraeg, sydd hefyd yn un o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu.
Mae niferoedd uchel o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr wedi ysgogi teimladau cryf mewn rhai cymunedau yng Nghymru ers cryn dipyn o flynyddoedd. Yn y cymunedau hyn, yn aml, ceir ymdeimlad o anghyfiawnder bod pobl yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai leol gan y rheini sy'n prynu ail gartrefi neu gartrefi i'w gosod fel llety gwyliau tymor byr. Rŷn ni'n benderfynol o fynd i'r afael â'r mater hwn.
Rŷn ni'n ymwybodol o'r heriau, ac rydyn ni eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael â nhw. Ar 6 Gorffennaf, gosododd y Gweinidog Newid Hinsawdd uchelgais o fynd i'r afael â materion yn ymwneud â pherchnogaeth ail gartrefi, ac mae ei chyhoeddiad heddiw yn nodi sut yr eir i'r afael â materion treth, cynllunio a fforddiadwyedd.
Ochr yn ochr gyda hyn, yn y cymunedau hynny lle mae'r Gymraeg yn iaith naturiol i'r gymuned, bydd ein cynllun tai cymunedau Cymraeg yn chwarae rhan hanfodol yn ein hymateb. Byddwn yn datblygu pecyn o ymyraethau a fydd yn gweithio gyda'n dull gweithredu ar y cyd er mwyn cefnogi a diogelu cymunedau Cymraeg.
Mae 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr' yn cydnabod pwysigrwydd y cymunedau hyn fel mannau sy'n hwyluso defnyddio'r iaith ymhob agwedd ar fywyd. Felly, mae angen inni lunio cynlluniau economaidd, cymunedol ac ieithyddol yn ofalus er mwyn galluogi cymunedau Cymraeg i fod yn hyfyw yn economaidd ac yn ieithyddol. Rhaid sicrhau bod modd i bobl, yn enwedig ein pobl ifanc, allu fforddio byw a gweithio yn y cymunedau Cymraeg hyn, a gwneud cyfraniad gwerthfawr atynt.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ystyried sut y gallai'r pecyn cyfan o ymyraethau, gan gynnwys y rheini y byddwn yn eu treialu yn Nwyfor, gael eu hategu ar lefel gymunedol er mwyn cefnogi a diogelu'r Gymraeg, tra hefyd yn osgoi unrhyw ganlyniadau annisgwyl. Mae'n ceisio barn ar ba fentrau ychwanegol sydd eu hangen i sicrhau y gall pobl, yn enwedig pobl ifanc, fforddio byw a gweithio yn ein cymunedau Cymraeg. Mae cyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd ein hymyraethau arfaethedig. Mae'n bosib y bydd rhai o'r ymyraethau a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn yn elwa ar gael eu cynnwys ym mheilot Dwyfor.
Mae'r ddogfen ymgynghori yn cynnig nifer o fesurau y gwahoddir barn amdanynt. Dyma'r mesurau. Yn gyntaf, rŷn ni'n cynnig darparu cefnogaeth i fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol cymunedol. Yn ail, rŷn ni'n cynnig sefydlu prosiect peilot ar gyfer busnesau cymdeithasol yn y sector twristiaeth a fydd yn eiddo i'r gymuned. Yn drydydd, rŷn ni'n cynnig sefydlu grŵp llywio gwerthwyr tai, er mwyn ystyried prosiectau ac ymchwil posib ynghylch marchnadoedd tai lleol.
Yn bedwerydd, rŷn ni'n cynnig ymchwilio i gynllun cyfle teg gwirfoddol, a fydd yn golygu bod tai sydd ar y farchnad ar gael i bobl leol yn unig am amser cyfyngedig. Yn bumed, rŷn ni'n cynnig sefydlu rhwydwaith o lysgenhadon diwylliannol i ymgysylltu ar lefel gymunedol, i annog cynhwysiant cymdeithasol a gwella dealltwriaeth pawb o'n diwylliant, y Gymraeg a'n treftadaeth.
Yn chweched, rŷn ni'n cynnig sefydlu comisiwn ar gymunedau Cymraeg i gael gwell dealltwriaeth o'r heriau y mae cymunedau Cymraeg yn eu hwynebu yng nghyd-destun y newidiadau ieithyddol, economaidd a chymdeithasol sydd wedi deillio o COVID-19 a Brexit. Bydd y comisiwn hefyd yn gweithio i ddatblygu model a fydd yn helpu i adnabod ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol neilltuol, lle gellir cyflwyno ymyriadau polisi wedi'u teilwra.
Yn seithfed, rydyn ni'n cynnig gweithio gydag arweinwyr awdurdodau lleol i gryfhau'r cysylltiad rhwng yr economi, tai a'r Gymraeg drwy ehangu gwaith bwrdd crwn yr economi a'r iaith i gynnwys tai a rôl i oruchwylio datblygiad y cynllun Tai cymunedau Cymraeg. Ac yn olaf, rŷn ni'n cynnig archwilio ffyrdd newydd o godi ymwybyddiaeth o enwau lleoedd Cymraeg a'u hyrwyddo.
Mae yma gyfleoedd i gymunedau arwain ar rai o'r ymyraethau hyn, ac rŷn ni am sicrhau bod ganddynt yr arfau angenrheidiol i ymbweru, annog a hwyluso cyfranogiad cymunedol. Mae mentrau cymdeithasol a chwmnïau chydweithredol eisoes yn rhan bwysig o dirwedd sosioeconomaidd Cymru. Rydyn ni am archwilio ffyrdd o annog cymunedau i arwain gyda datblygiadau tai ar raddfa fechan, yn ogystal â sefydlu busnesau cymdeithasol, i sicrhau bod cymunedau sydd mewn peryg o golli gwasanaethau pwysig yn gallu diogelu a rheoli eu dyfodol eu hunain.
Does yna ddim atebion hawdd. Rwy’n hyderus y bydd yr ymyraethau a gynigir heddiw yn helpu i sicrhau bod pobl mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith yn gallu fforddio byw yn y cymunedau lle’u magwyd.
Mae hwn yn faes cymhleth, a bydd gan bobl amrywiaeth eang o safbwyntiau ar sut y dylai Llywodraeth Cymru ymateb. Rŷn ni felly yn annog pawb yn y cymunedau yr effeithir arnynt, ledled Cymru, i ymateb i'r ymgynghoriad hwn, p'un a ydynt yn byw, yn rhedeg busnesau, yn berchen ar eiddo, neu'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y cymunedau hyn, i’n cynorthwyo i ffurfio ein cynllun tai cymunedau Cymraeg.
Fel y dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn awr, mae hwn yn faes a gwmpesir gan y cytundeb cydweithio a gyhoeddodd y Prif Weinidog ddoe, ac felly dwi’n edrych ymlaen at gael trafodaethau pellach gyda'r Aelod dynodedig o Blaid Cymru wrth inni gydweithio i ymateb i'r maes pwysig hwn.
Byddwn ni’n parhau i ddatblygu ac ystyried pob opsiwn posib er mwyn sicrhau bod ein cymunedau Cymraeg yn ffynnu.
Diolch, Llywydd, a gwnaf i ddiolch i'r Gweinidog am y cyfle i weld y datganiad o flaen amser, a hoffwn hefyd ddatgan fod gen i ddiddordeb bersonol yn y mater hwn.
Roedd y datganiad heddiw wedi ei drefnu'n flaenorol ar gyfer yr wythnos diwethaf, ond cafodd ei ohirio. Mae'n amlwg bellach o'r datganiad heddiw ein bod ni mewn gwirionedd yn aros am fanylion terfynol y glymblaid Llafur/Plaid Cymru cyn i chi wneud unrhyw gyhoeddiad ffurfiol mewn cysylltiad â'ch polisi cynllun tai mewn cymunedau Cymraeg.
Mae problem unigryw mewn rhai ardaloedd yng Nghymru lle nad yw pobl leol yn gallu prynu cartrefi yn yr ardaloedd lle cawson nhw eu magu. Mae pob ochr i'r Siambr yn deall hyn, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd y Gweinidog newid hinsawdd yn gynharach. Gyda hyn daw pryderon am yr effaith ar yr iaith a'r diwylliant Cymraeg.
Yn gyntaf, rwy'n croesawu'r ymgynghoriad, gan ei fod yn rhoi cyfle i bawb gyflwyno eu barn. Mae gan bawb yn y cymunedau hyn hawl i farn a hawl i'w mynegi, ac rwy'n gobeithio y bydd yr ymgynghoriad yn darparu ystod eang o atebion a senarios i sicrhau bod polisi yn y dyfodol o fudd.
Nid yw adeiladu tai ledled Cymru wedi cadw i fyny â'r galw, ac, er bod y Llywodraeth yn addo adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel, nid yw, o’r hyn a welaf, yn nodi ble yng Nghymru y bydd y cartrefi hyn yn cael eu hadeiladu. Mae angen adeiladu cartrefi lle mae eu hangen, nid lle mae hawsaf.
Hoffwn i dynnu sylw hefyd at y ffaith bod mwy o eiddo gwag yn bodoli ledled Cymru nag ail gartrefi, ac felly byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod beth y mae'r Gweinidog a'i gyd-Aelodau yn y Cabinet yn bwriadu ei wneud wrth fynd i'r afael â'r materion hyn. Beth fydd yn cael ei wneud i sicrhau bod yr eiddo hyn yn cael eu defnyddio eto, gan ganiatáu i fwy o bobl gael cartref? Gall eiddo sy'n wag yn barhaol bob awr o bob dydd ac nad ydyn nhw'n cael eu cynnal a'u cadw'n ddigonol gael effaith ar ardal leol, ond yn yr un modd gallan nhw helpu i gynorthwyo'r ateb i'r union drafodaeth hon yr ydym yn ei chael y prynhawn yma. Mae ofn arnaf i fod yr ateb hwn, efallai, wedi disgyn o dan y radar, ac felly mae'n un y mae angen mwy o ddadlau a phwyslais manylach arno.
Mae tystiolaeth hefyd mewn ardaloedd lle mae premiymau ail gartrefi wedi eu hychwanegu at y dreth gyngor bod perchnogion ail gartrefi yn troi eu heiddo drosodd ac yn eu cofrestru fel unedau hunanarlwyo, gan osgoi'r angen i dalu trethi uwch, ac weithiau mae hyn yn golygu nad ydyn nhw'n talu unrhyw ardrethi o gwbl. Mae'n rhaid i'r flaenoriaeth fod ar gryfhau'r meini prawf cymhwysedd i atal hyn rhag digwydd. Byddai busnesau hunanarlwyo gwirioneddol yn croesawu'r cam hwn i ddileu'r ymddygiad diegwyddor hwn gan rai perchnogion ail gartrefi. Ni ddylid ystyried twristiaeth yn elyn, ond yn hytrach yn ychwanegiad allweddol at ein heconomi. Mae ein diwylliant cyfoethog, tirweddau hardd a chroeso cynnes yn golygu bod pobl yn ymweld â Chymru, gan gefnogi swyddi a bywoliaethau.
Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae patrymau gwaith wedi newid, gyda llawer o bobl yn dychwelyd i’r ardaloedd lle cawsant eu magu, ac, wrth i ni drosglwyddo i ffwrdd o’r pandemig, mae’n annhebygol y bydd dychwelyd i’r ffyrdd traddodiadol o weithio wrth ddesg swyddfa. Mae yna enghreifftiau o weithwyr proffesiynol ifanc yn dychwelyd i’r ardaloedd y cawsant eu magu i barhau â'u swyddi dinas ffurfiol o gysur eu cartrefi eu hunain, ddim yn rhy annhebyg i’r Aelodau hynny o’r Siambr hon sy’n dewis mynychu Cyfarfod Llawn ar Zoom. Yn aml, gall y gweithwyr proffesiynol ifanc hyn ddychwelyd gyda’r iaith Gymraeg a gyda phlant sy’n mynychu’r ysgol leol. Mae angen i ni ganolbwyntio ar wella cyfleodd gwaith i bobl ifanc mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg eu hiaith.
Mater arall yr wyf i wedi ei godi yn y Siambr hon yw prynu tir fferm o Gymru ar gyfer plannu coed gan sefydliadau a busnesau o'r tu allan i Gymru. Felly, byddwn i'n ei groesawu pe gellid ymestyn yr elfen mentrau cydweithredol a mentrau cymdeithasol a arweinir gan y gymuned i gynnwys tir amaethyddol. Mae gan amaethyddiaeth ganran uwch o siaradwyr Cymraeg na diwydiannau eraill, a bydd cefnogi'r diwydiant hwnnw, gan sicrhau bod gan y gymuned leol y cyfle i brynu a diogelu tir i gynhyrchu bwyd, yn naturiol yn helpu i ddiogelu'r iaith yn yr ardaloedd hyn, gan fod amaethyddiaeth yn cefnogi tua thair gwaith cymaint o swyddi â'r diwydiant coedwigaeth, er enghraifft.
Weinidog, wrth gloi, mae sicrhau bod gan Gymru wledig ddigon o gartrefi a swyddi o ansawdd i bobl leol, a bod cefnogaeth i'r iaith a diwylliant, yn her, ac mae angen mynd i'r afael â hi. Rwy'n gobeithio bod ymatebion i'r consultation yn darparu strategaeth hirdymor i sicrhau nad ydym yn siarad am y mater hwn mewn blynyddoedd i ddod. Diolch.
Gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiynau yn ei gyfraniad e? O ran y cwestiynau ar fforddiadwyedd ac o ran defnydd tai, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cael cyfle i wrando ar ei gwestiynau. Gwnaeth hi ymgymryd â rhai o'r atebion yn ei datganiad yn gynharach, ond mae'r cwestiynau wedi bod yn ddefnyddiol, diolch yn fawr iddo fe.
O ran ambell beth mwy penodol yng nghyd-destun fy natganiad i, o ran pwysigrwydd twristiaeth, rwy'n siŵr bydd e'n croesawu'r gwaith rŷn ni'n amlinellu yn y ddogfen ymgynghori ynglŷn â chefnogi busnesau llety gwyliau tymor byr i ailfuddsoddi er mwyn prynu stoc bellach, ar gael i bobl leol i rentu ar sail gymdeithasol, er mwyn cyfrannu at dirwedd twristiaeth a chyfle economaidd lleol sydd yn gydweithredol ac yn caniatáu defnydd pwrpasol cymdeithasol.
Rwy'n cytuno'n llwyr gydag e am yr hyn roedd e'n dweud am gyfleodd gwaith yn yr economi leol. Dyna un o'r amcanion sydd wrth wraidd cefnogi mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol, gan gynnwys yn y meysydd gwnaeth e sôn amdanynt yn ei gyfraniad. Ac mae amryw o enghreifftiau ledled Cymru—Cwmni Bro Ffestiniog, Partneriaeth Ogwen a Galeri yng Nghaernarfon, er enghraifft—sydd yn gwmnïau cydweithredol sydd yn caniatáu cyflogaeth leol ond hefyd defnydd y Gymraeg trwy bopeth maen nhw'n ei wneud, ac mae hwnna'n cyfrannu at yr economi leol.
O ran y pwynt diwethaf gwnaeth e godi yng nghyd-destun defnydd tir, rwy'n ymwybodol bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn edrych ar hynny ar hyn o bryd o safbwynt cynllunio.
Diolch yn fawr i chi, Weinidog, am y datganiad hwn. Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr iawn. Ac fel sydd wedi cael ei ddweud gan Mabon ap Gwynfor, rwy'n hynod o falch o weld bod cynifer o bolisïau cyffrous a chwbl hanfodol i ddyfodol ein cymunedau Cymraeg wedi cael eu cynnwys yn y cytundeb rhyngom ni fel dwy blaid.
Rwy'n croesawu'r nodau uchelgeisiol a amlinellir yn y datganiad hwn heddiw, a dwi'n edrych ymlaen at gydweithio gyda chi ar y materion pwysig hyn er mwyn creu Cymru well, lle gall yr iaith Gymraeg a'n diwylliant ffynnu, a lle mae cymunedau Cymraeg yn cael eu cefnogi a'u diogelu, a lle bydd bywydau pobl yn gyffredinol yn gwella'n sylweddol.
Rwy'n sicr yn croesawu uchelgais y gwahanol bolisïau sy'n cael eu hamlinellu, ac mae ymgyrchwyr iaith, a minnau yn eu plith, ochr yn ochr â Phlaid Cymru, wedi bod yn brwydro'n hir ac yn galed iawn ers degawdau, mewn gwirionedd, i geisio mynd i'r afael â'r broblem tai, ac ail gartrefi'n benodol, yn ein cymunedau Cymraeg, a'r egwyddor sydd wedi caei ei gydnabod gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, a chithau yn y datganiad yma—yr egwyddor pwysig y dylai pobl leol fforddio byw yn y cymunedau lle maen nhw wedi cael eu magu.
Rwy'n falch bod hwn yn ddatganiad clir gennych chi fel Llywodraeth, er rwy'n ofni bod y datganiad a'r gweithredu sydd yn dilyn hyn, gobeithio, ychydig bach yn rhy hwyr yn y dydd i rai cymunedau sydd wedi cael eu colli yn barod o ran y niferoedd uchel iawn o ail gartrefi a'r nifer o unigolion sydd wedi dioddef yn sgil hyn. Ond rŷn ni yma i gyflawni nodau strategaeth 'Cymraeg 2050', a beth sydd yn bwysig, wrth gwrs, yw gweld sut mae polisïau tai, polisïau cynllunio a'r iaith Gymraeg yn cydblethu gyda'i gilydd mewn strategaeth sydd yn un cadarnhaol a buddiol. Ac, wrth gwrs, rhan o'r ateb i'r broblem o geisio cadw pobl ifanc yn eu cymunedau yw tai, ie, ond hefyd cryfhau'r economi leol, fel bod pobl yn gallu dod o hyd i waith yn eu milltir sgwâr, cyfrannu mewn ffordd ystyrlon ac adeiladol i'w cymunedau lleol a chael bywoliaeth dda yn eu hardaloedd o'u dewis. Mae'r hen slogan a oedd gan Gymdeithas yr Iaith flynyddoedd yn ôl yn dod i'r meddwl: 'Tai a gwaith i gadw'r iaith.'
Felly, yn benodol o ran cwestiynau i chi. Rŷch chi wedi rhoi pwyslais mawr ar dai a chryfhau'r economi, felly, yn hynny o beth, allwch chi esbonio beth yn union sydd gyda chi mewn golwg o ran cryfhau'r economi a sicrhau tai i bobl leol? Beth yw'r cynlluniau penodol sydd gyda chi i fynd i'r afael â hynny? Ac o ran datblygiadau tai, mae hyn yn fater sensitif hefyd, achos mae angen i ddatblygiadau tai ddigwydd lle mae eu hangen nhw. Yn aml iawn, mae'r datblygiadau tai yma'n digwydd ar gyrion ein prif drefi, ac mae hynny'n golygu bod y datblygiadau tai yma'n bell o wasanaethau pwysig, yn bell o ysgolion, yn bell o gael gafael ar drafnidiaeth gyhoeddus a hyd yn oed swyddi, ac, yn aml iawn, dyw'r datblygiadau tai yma ddim yn cynnwys digon o dai fforddiadwy. Dwi am adleisio un pwynt sydd wedi cael ei wneud gan y Torïaid yn barod: bod angen, efallai, pwyslais mwy ar ddod â thai gwag nôl i ddefnydd. Felly, a wnewch chi fel Gweinidog amlinellu sut mae eich Llywodraeth chi yn bwriadu sicrhau bod tai newydd, mewn gwirionedd, yn diwallu anghenion lleol, yn arbennig mewn ardaloedd Cymraeg, a sut mae tai newydd a'r broses gynllunio yn gallu arwain at ganlyniadau gwell i'r iaith a siaradwyr Cymraeg ifanc? A hefyd, beth yw cyfrifoldebau cymdeithasau tai o safbwynt eu polisïau gosod o ran gwarchod cymunedau Cymraeg?
Fel y dywedais i, yn gyffredinol, rwy'n croesawu'r amrywiaeth o atebion polisi rŷn ni wedi clywed amdanyn nhw yn barod, ond, er mor uchelgeisiol yw rhai o'r mesurau ŷch chi'n eu cynnig, byddwn i'n licio cael ychydig bach mwy o fanylion, yn gyntaf o ran darparu cefnogaeth i fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol cymunedol—wel, i wneud beth a beth yw eu pwrpas nhw? Y prosiect peilot o ran y sector twristiaeth: beth yw'r model ŷch chi am ei ddefnyddio, beth yw rôl y llysgenhadon diwylliannol ac i bwy maen nhw yn mynd i fod yn atebol? Sefydlu comisiwn: beth mae hyn yn ei olygu, ai corff sefydlog neu grŵp tasg a gorffen? A hefyd bwrdd crwn yr economi a'r iaith: dwi wedi bod yn rhan o'r bwrdd crwn hwnnw ers y dechrau, a dwi'n meddwl bod angen inni symud ymlaen nawr i weld cynllunio gweithredu penodol yn digwydd.
Ac i gloi, Llywydd, os caf i, er mwyn gwireddu'r amcanion yma, mae angen cyllid, wrth gwrs, ac adnoddau. Felly, fyddech chi'n gallu rhoi rhagor o fanylion inni am sut fath o gefnogaeth ariannol a'r arbenigedd y gellir ei roi gan y Llywodraeth er mwyn darparu'r mesurau yma? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i'r Aelod am yr amryw gwestiynau yn ei gyfraniad ef. O ran manylder y cynllun, rydyn ni heddiw'n cyhoeddi dogfen ymgynghori sydd yn ateb sawl un o'r cwestiynau sydd gan yr Aelod—cwestiynau pwysig am fanylion yr hyn rŷn ni'n bwriadu ym mhob un o'r wyth ymyrraeth wnes i eu hamlinellu. Felly, byddwn i'n argymell bod unrhyw un sydd â diddordeb ym manylion y cynnig yn edrych ar y ddogfen honno.
Ond, jest i roi blas iddo fe o'r hyn sydd gyda ni mewn golwg, o ran y gwaith tai lleol a sicrhau bod mynediad at y farchnad dai a chartrefi gan bobl leol, ynghyd â'r hyn mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd eisoes wedi'i ddatgan, un o'r pethau byddwn ni eisiau eu gwneud yw gweithio gyda'r cymdeithasau tai lleol y gwnaeth ef sôn amdanyn nhw yn ei gwestiwn i archwilio modelau tai cydweithredol, neu fodelau tai sydd wedi cael eu harwain gan y gymuned, i edrych ar ffyrdd o ddiwallu anghenion lleol. Mae hyn, wrth gwrs, yn elfen sydd eisoes yn bresennol mewn amryw o'n cymunedau ni, ond mae mwy o gefnogaeth a mwy y gallwn ni ei wneud yn y maes penodol hwnnw.
O ran cyfleoedd yn y farchnad breifat, mae hwn, wrth gwrs, yn fwy anodd o ran ymyraethau economaidd. Mae'r ymyraethau cynllunio ac ati fel mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd eisoes wedi datgan. Rydym ni'n gobeithio, gyda'r grŵp llywio gwerthwyr tai, y gallwn ni sefydlu gwell perthnasau ac adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yno rhwng arwerthwyr a gwerthwyr tai lleol a chymunedau Cymraeg—mae gwaith da wedi bod yn digwydd eisoes gyda nhw mewn amryw o'n cymunedau ni i gynyddu ymwybyddiaeth o ddiwylliant lleol a phwysigrwydd y Gymraeg yn lleol—ac adeiladu ar hynny i gyflwyno cyfle chwarae teg i bobl leol sydd am brynu ac am rentu a chyfle iddyn nhw gael mynediad at y farchnad cyn bod y cyfleoedd yn mynd yn ehangach. Efallai bod hwnna'n un o'r pethau sydd angen eu treialu er mwyn gweld sut gall hynny weithio yn ymarferol.
Ac i fynd nôl at y pwynt ar brynu eiddo gan gwmnïau cydweithredol a chymdeithasau tai lleol ac ati, byddai efallai ychydig wythnosau yn ddigon i'r cwmnïau hynny allu paratoi pecyn ariannol i brynu rhai o'r cartrefi yma ar gyfer pwrpasau cymdeithasol hefyd.
Roedd e'n sôn am waith y bwrdd crwn. Mae un o atodlenni'r ddogfen ymgynghori yn amlinellu'r hyn mae'r bwrdd crwn eisoes wedi ei argymell. Mae llawer iawn o'r rheini naill ai ar waith neu yn cael eu datblygu ar hyn o bryd yn barod, ond mae'n sicr, fel ŷn ni wedi clywed yn barod, fod angen edrych am y cyfleoedd hynny, ac rydym ni wedi gweld rhai o'r rhain yng nghynllun Arfor eisoes—pobl yn cael cefnogaeth ariannol i sefydlu busnesau lleol yn eu cymunedau Cymraeg. Felly, mae hynny'n cael ei werthuso ar hyn o bryd. Dwi'n sicr y bydd cyfleoedd yn dod allan o'r gwerthusiad hwnnw i ehangu hynny mewn rhagor o gymunedau hefyd.
John Griffiths, Cadeirydd y pwyllgor tai.
Diolch, Llywydd. Rydw i'n siarad fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Diolch yn fawr i'r Gweinidog am ei ddatganiad.
Fel yr amlinellais yn gynharach, mae ein pwyllgor yn edrych ar ail gartrefi ar hyn o bryd a bydd yn edrych ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Dr Brooks ynghylch a yw'r camau a gymerwyd yn rhai priodol. Wrth gwrs, edrychodd Dr Brooks ar ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol, a chanfu fod mater ail gartrefi yn effeithio ar yr hyn a ddisgrifiodd, rwy'n credu, fel
"craidd" tiriogaethol y Gymru Gymraeg draddodiadol.
Dywedodd Dr Brooks y bydd angen polisïau newydd mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ail gartrefi, os bydd cymunedau Cymraeg yn cael eu sefydlogi dros y degawdau nesaf. Felly, tybed a allai'r Gweinidog amlinellu sut y mae gwaith Dr Brooks wedi llunio'r cynllun hwn.
Mae'r effaith ar y Gymraeg a chymunedau Cymraeg yn agwedd bwysig iawn i fy mhwyllgor ei hystyried wrth drafod polisïau sy'n ymwneud ag ail gartrefi, ac, fel pwyllgor, rydym yn ymwybodol iawn o hynny a byddwn yn sicrhau ein bod yn archwilio'r elfen hollbwysig hon wrth i ni fwrw ymlaen â'n gwaith. Mae'n rhaid i'r iaith ffynnu ledled Cymru, ac mae'n rhaid i bolisïau a dulliau gweithredu ddiogelu hynny.
Argymhellodd Dr Brooks y dylid sefydlu comisiwn i wneud argymhellion ynghylch dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol, ac rwy'n diolch i'r Gweinidog am yr wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu comisiwn. Bydd y pwyllgor yn casglu barn rhanddeiliaid ar y mater hwnnw drwy'r ymchwiliad.
Hoffwn i gloi drwy ddweud, yn amlwg, fod y mater hwn yn croesi ffiniau llawer o wahanol feysydd, gan gynnwys portffolios gwahanol Weinidogion Llywodraeth Cymru, ac mae angen dull cyfannol arnom, fel bob amser, pan fyddwn yn ymdrin â materion cymhleth ac anodd, a tybed a allai'r Gweinidog egluro sut y mae wedi gweithio gyda Gweinidogion eraill Llywodraeth Cymru ar draws portffolios wrth ddatblygu'r cynllun hwn. Yn olaf, fel pwyllgor, rydym yn edrych ymlaen at archwilio'r materion hyn gyda rhanddeiliaid a'r Gweinidog hefyd, wrth gwrs, a byddwn yn ei wahodd i roi tystiolaeth y flwyddyn nesaf. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny a byddwn i'n hapus iawn, wrth gwrs, i gydweithio ag e a'i bwyllgor i ddatblygu'r cynigion sydd yn y pecyn sy'n cael ei ymgynghori arno heddiw. O ran beth yw dylanwad gwaith Dr Brooks ar y cynllun hwn ac ar y cynllun mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ei ddatgan heddiw, dwi'n credu ei fod e'n gwbl greiddiol i'r holl weledigaeth sydd yma. Mae wedi cael effaith sylweddol iawn ar yr hyn rydyn ni'n cyhoeddi. Enghreifftiau o hynny, yw'r pwysigrwydd efallai y gwnaeth yr Aelod glywed ar sicrhau bod gennym ni sector dwristiaeth sy'n gynaliadwy ac sydd yn caniatáu gweithgaredd a chyfleoedd economaidd yn lleol, pwysigrwydd yr economi leol yn ehangach, ac mae hynny wrth wraidd yr hyn rŷn ni'n ei gynnig o ran mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol.
Ond yn benodol, felly, ar waith y comisiwn—a gydag ymddiheuriadau i Cefin Campbell, gwnes i ddim ateb y rhan hwn o'i gwestiwn e—dydyn ni ddim yn sôn am ryw gomisiwn sydd yn gorff statudol yn cael ei sefydlu yn annibynnol o'r Llywodraeth. Mae gennych chi gyfle yma i'r comisiwn edrych ar dystiolaeth empiric, os hoffech chi, fydd yn sail i'n dealltwriaeth ni o impact newidiadau sosioeconomaidd ar ein cymunedau Cymraeg ni, ond hefyd i greu sail o dystiolaeth ar gyfer y syniad yma o ardaloedd o ddiddordeb a sensitifrwydd sylweddol o ran yr iaith. A bydd hynny, efallai, yn creu cyfle inni deilwra pecyn o ymyraethau pellach yn y dyfodol yn benodol ar gyfer cymunedau sydd yn arbennig o sensitif o ran dyfodol a ffyniant yr iaith yn y cymunedau hynny.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â sut mae elfennau gwahanol y Llywodraeth yn cydweithio. Mae hwn yn flaenoriaeth sydd yn cyffwrdd â bron pob rhan o'r ystod o gyfrifoldebau'r Llywodraeth. Er enghraifft, mae'r bwrdd crwn eisoes yn un sydd yn cyffwrdd ar yr iaith, yr economi a nawr, o hyn allan, y cwestiwn o dai hefyd. Felly, mae gan y Gweinidogion sydd â diddordeb a chyfrifoldeb ymhob un o'r ardaloedd hynny rôl mewn perthynas â gwaith y bwrdd crwn. A hefyd mae grŵp trawsbleidiol wedi bod yn gweithio ar rai o'r pethau yma, ac mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, minnau, y Gweinidog cyllid, a Gweinidog yr Economi o bryd i'w gilydd wedi bod yn rhan o'r fforwm yna fel ein bod ni'n gallu cyfrannu ar y cyd i ateb y nod pwysig hwn.
Ac yn olaf, Sioned Williams.
Pwynt o eglurder sydd gen i a dweud y gwir, Gweinidog. Fe wnaethoch chi sôn yn y datganiad—un o'r mesurau gwnaethoch chi eu rhestru oedd ffyrdd newydd o godi ymwybyddiaeth o enwau lleoedd Cymraeg a'u hyrwyddo. Codi ymwybyddiaeth, nid diogelu. Ond, dwi'n nodi yn y cyfieithiad Saesneg rydyn ni wedi'i dderbyn ar e-bost—yn amlwg, doeddwn i ddim yn gwrando ar y cyfieithiad Saesneg drwy'r cyfieithu ar y pryd, ond yn y cyfieithiad o'r datganiad ar e-bost, mae'n sôn am 'safeguarding'. 'Safeguarding' yw'r term sy'n cael ei ddefnyddio. Wrth gwrs, mae diogelu yn wahanol i godi ymwybyddiaeth, onid yw e? A dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno bod disodli enwau lleoedd Cymraeg yn sarhad i'n hunaniaeth ni fel cenedl ac, wrth gwrs, yn golled i'n diwylliant a'n hanes. Felly, jest eisiau cael eglurder ydw i ar y pwynt yna. Diolch.
Diolch. Does dim gwahaniaeth o'm safbwynt i. Sylwedd y pwynt yw ein bod ni'n moyn gwneud popeth i ddiogelu enwau lleoedd. Gwnaf i gyfeirio'r Aelod at dudalen 14 yn y ddogfen ymgynghori sydd yn gosod allan y camau penodol sydd gennym ni mewn golwg.
Diolch i'r Gweinidog.